FFEDERASIWN CARNO, GLANTWYMYN A LLANBRYNMAIR

ADRODDIAD LLYWODRAETHOL I RIENI / GOVERNOR ANNUAL REPORT TO PARENTS YSGOL LLANBRYNMAIR 2019 - 2020

Gair gan y Cadeirydd

Mae'n bleser gennyf gyflwyno'r Adroddiad Blynyddol i Rieni Ffederasiwn Carno, Glantwymyn a Llanbrynmair ar ran y llywodraethwyr a staff yr ysgol. Cafodd pob un o'r tair ysgol ddechrau prysur a llwyddiannus i'r flwyddyn academaidd gyda chyfleoedd i ddisgyblion ryngweithio ar draws y Ffederasiwn a oedd yn cynnwys digwyddiadau chwaraeon, taith preswyl yng ngwersyll yr Urdd ym Mae Caerdydd a chyngerdd Nadolig yn y Tabernacl gyda chynrychiolwyr o'r tair ysgol yn y côr. Parhaodd y staff i gynnig cymorth a chydweithio ysgol i ysgol i sicrhau cysondeb mewn profiadau addysgu a dysgu a pharhaodd yr ysgolion i dderbyn athrawon a phenaethiaid o bob cwr o Gymru i arsylwi ar yr arfer da sydd gennym ar draws y Ffederasiwn. Fe welwch o'r adroddiad fod hon wedi bod yn flwyddyn anarferol oherwydd pandemig Covid 19 a olygodd fod yn rhaid i ysgolion gau o fis Mawrth i fis Gorffennaf. Oherwydd hyn, daeth tymor yr Haf â gofynion a heriau newydd nad ydym erioed wedi gorfod eu hwynebu o'r blaen. Yn dilyn cyhoeddiad bod rhaid cael cyfnod clo o Fawrth yr 20fed, cafodd cymuned yr ysgol gyfan ei gwthio'n sydyn i fyd dieithr iawn. Roedd yn rhaid i staff a disgyblion addasu'n gyflym i ffordd newydd o ddysgu, a dyma ddechrau ar sefydlu dysgu cyfunol gan staff. Roedd hyn yn glod i bob aelod o staff gan eu bod yn sicrhau bod gofal a chymorth ar gael i bob dysgwr. Wrth gwrs, ochr yn ochr â hyn, roedd yn rhaid i deuluoedd addasu i ddysgu gartref gyda'u plant ac mi wn o brofiad bod hyn yn cyflwyno heriau ynddo‘i hun! Croesawodd y staff y plant yn ôl ar gyfer y sesiynau 'Dal i fyny' yn ystod pedair wythnos olaf tymor yr Haf. Profodd rhain yn amhrisiadwy i les pob plentyn. Fel Ffederasiwn byddwn yn parhau i symud ymlaen, gan adeiladu ar ein llwyddiannau. Ar ran y Llywodraethwyr hoffwn ddiolch i'r staff am yr ymroddiad, yr hyblygrwydd, y creadigrwydd a'r gofal a ddangoswyd yn ystod y flwyddyn ac i pob rhiant am eich cefnogaeth parhaus i sicrhau bod pob ysgol yn mynd o nerth i nerth.

A word from the chair

It is my pleasure to present the Annual Report to Parents of the Federation of Carno, Glantwymyn and Llanbrynmair on behalf of the governors and school staff for this year. All three schools had a busy and successful start to the academic year with opportunities for pupils to interact across the Federation, which included various sporting events, a residential stay at the Urdd camp in Cardiff Bay and the Christmas concert at the Tabernacl with the Federation school choir. The staff continued to offer school to school support and continued to receive teachers and headteachers from around to observe the good practice that we have within the Federation. You will see from the report that this has been an unusual year due to the Covid 19 pandemic which meant that schools had to close from March to July. Due to this, the Summer term brought new demands and challenges that we have never had to face before. Following the lockdown announcement on 20th March, the whole school community was suddenly thrust into the unknown. Both staff and pupils had to adapt quickly to the new way of learning and blended learning was established by staff. This really was remarkable and a credit to all members of staff as they ensured that the care and support of all learners was sustained. Of course, alongside this, families had to adjust to learning at home with their children which in itself presented challenges as we know! Staff welcomed the children back for the ‘Check in ‘sessions in the last four weeks of term. These proved to be invaluable for each child’s well-being. As a Federation we will continue to move forward, building on our successes. On behalf of the Governors I would like to thank the staff for the dedication, flexibility, creativity and care shown throughout the year and to all parents for your continued support to ensure that all three schools continue to thrive.

Nia Meddins Cadeirydd / Chairman

ENWAU AELODAU LLYWODRAETHWYR FFEDERASIWN CARNO, GLANTWYMYN A LLANBRYNMAIR

Rôl y Llywodraethwyr Enw / Name Tymor / Term of Office Governor Role Prifathrawes / Head teacher Mrs Bethan Gwawr Jones Medi 2018 – Medi 2022 September 2018 – September 2022 Staff Cynorthwyol Mrs Elinor Ashworth Medi 2018 – Medi 2022 Support Staff September 2018 – September 2022 Rhiant Lywodraethwr Mrs Sian Griffiths Medi 2018 – Medi 2022 Parent Governor September 2018 – September 2022 Rhiant Lywodraethwr Mrs Alwena Watkins Medi 2018 – Medi 2022 Parent Governor September 2018 – September 2022 Staff Cynorthwyol Miss Ceri Vaughan Medi 2018 – Medi 2022 Support Staff September 2018 – September 2022 Rhiant Lywodraethwr Mrs Angharad Butler Medi 2018 – Medi 2022 Parent Governor September 2018 – September 2022 Rhiant Lywodraethwr Mrs Nia Meddins - Cadeirydd Medi 2018 – Medi 2022 Parent Governor September 2018 – September 2022 Rhiant Lywodraethwr Mr Iestyn Pritchard Medi 2016 – Medi 2020 Parent Governor September 2016 – September 2020 Rhiant Lywodraethwr Ms Non Parri-Roberts Medi 2016 – Medi 2020 Parent Governor September 2016 – September 2020 Cyngor Sir Cyng Diane Jones Poston Medi 2017 – Medi 2021 County Council September 2017 – September 2021 Cyngor Sir Cyng Elwyn Vaughan Medi 2017 – Medi 2021 County Council September 2017 – September 2021 Cyngor Sir Cyng Leslie George Medi 2017 – Medi 2021 County Council September 2017 – September 2021 Cymunedol / Community Mrs Heulwen Jones Medi 2018 – Medi 2022 September 2018 – September 2022 Cymunedol / Community Mr Aled Griffiths Medi 2018 – Medi 2022 September 2018 – September 2022 Cymunedol / Community Mrs Heather Lloyd Medi 2018 – Medi 2022 September 2018 – September 2022 Cymunedol / Community Mr Pennant Jones Medi 2018 – Medi 2022 September 2018 – September 2022 Cymunedol Ychwanegol Mr Dafydd Evans Hydref 2018 – Hydref 2022 Additional Community October 2018 – October 2022 Llywodraeth Leol Mrs Mary Thomas Medi 2018 – Medi 2022 Local Authority September 2018 – September 2022 Athro Lywodraethwr Mrs Sarah Nicholls Medi 2019 – Medi 2023 Teacher Governor September 2019 – September 2023 Athro Lywodraethwr Mrs Bethan Williams Medi 2018 – Medi 2022 Teacher Governor September 2018 – September 2022 Arsyllwr Staff Cynorthwyol / Mrs Sandra Pughe Medi 2018 – Medi 2022 Support Staff Observer September 2018 – September 2022 Athrawes Arsyllwr / Teacher Miss Llinos Roberts Medi 2018 – Medi 2022 Observer September 2018 – September 2022 Clerc / Clerk Mrs Eleanor Jones

Cadeirydd y Llywodraethwyr / Chair of Governors: Mrs Nia Meddins, Rhiwdyfeity, Penfforddlas, Powys Clerc y Llywodraethwyr / Clerk to the Governors: Mrs Eleanor Jones, Y Garth, Llanbrynmair, Powys.

Bydd rhieni yn cael gwybod am unrhyw etholiadau ar gyfer rhiant lywodraethwyr gan glerc y Corff Llywodraethol.

Parents will be informed of any elections for parent governors by the clerk of the Governing Body.

Cyfarfodydd y Corff Llywodraethol

Mae'r Corff Llywodraethol llawn yn cyfarfod bob tymor i drafod materion ysgol. Hefyd, mae llawer o faterion gan gynnwys monitro safonau a’r ddarpariaeth yn cael eu trafod yn gyson yng nghyfarfodydd yr is-bwyllgorau. Mae gan lywodraethwyr penodol gyfrifoldebau dros wahanol agweddau o fywyd yr ysgol ac maent yn dilyn Rhaglen Monitro Dymhorol.

Mynychodd aelodau o'r Corff Llywodraethol sesiynau hyfforddi statudol ac anastatudol.

Lwfansau Teithio ar gyfer Llywodraethwyr Nid oes unrhyw hawliau costau teithio oddi wrth Lywodraethwyr yn ystod 2019-2020.

Governing Body meetings

The Governing Body meets every term to discuss school matters. Also there are many matters including the monitoring of standards and provision which are discussed regularly at meetings of the sub-committees. Governors have specific responsibilities for various aspects of school life and follow the Termly Monitoring Programme

Members of the Governing Body also attended statutory and non-statutory training sessions.

Travelling Allowances for Governors No travelling cost claims were received from Governors during 2019 - 2020.

Adolygu Polisïau / Review of Policies

Mae’r ysgol yn adolygu ac yn asesu llwyddiant ei holl weithdrefnau yn rheolaidd. Rydym yn adolygu polisïau yn rheolaidd ac mae rhai ar gael ar wefan yr ysgol neu gellir cael copïau caled gan y Clerc. Mae’r Corff Llywodraethol wedi adolygu polisïau a dogfennau statudol ac anstatudol. Polisïau statudol a’u hadolygwyd:

The school regularly reviews and assesses the success of all its processes regularly. We regularly review policies and some are available on the school’s website or hard copies can be requested from the Clerk. The Governing Body has reviewed the statutory and non-statutory policies and documents. The statutory policies reviewed are:

Hunanasesiad Atal a Diogelu Polisi Amddiffyn Plant Prevent & Safeguarding Self-Assessment Child Protection Policy Cynllun Hygyrchedd / Accessibility Plan Polisi Diogelu Data Data protection Policy Polisi’r Cwricwlwm Polisi Disgyblaeth disgyblion gan gynnwys gwrth fwlio Curriculum Policy Complaints Procedure Policy Polisi Diogelu Rheoli Perfformiad / Performance Management Safeguarding Policy Polisi Iechyd a Diogelwch Polisi Mynediad / Admissions Policy Health and Safety Policy Polisi atal Eithafiaeth a Radicaleiddio Polisi Dull Gweithredu Cwynion ar gyfer Ysgolion Preventing Extremism & Radicalisation Policy Complaints Policy

Llawlyfr yr Ysgol School Prospectus Mae'r llawlyfr wedi cael ei adolygu ym Medi The prospectus has been reviewed during 2020 a chafodd diwygiadau bychain eu the summer term and small amendments gwneud i adlewyrchu dyddiadau ac were made to reflect current dates and ystadegau cyfredol yn ôl canllawiau a statistics according to guidelines received dderbyniwyd oddi wrth y Cynulliad. Yn unol from the Welsh Assembly. In accordance â rheolau statudol, cafodd y llawlyfr ei with statutory rules, the prospectus is given ddosbarthu i rieni disgyblion oedd wedi to the parents of pupils who start full time dechrau addysg llawn amser yn yr ysgol. education at the school. A copy of the Mae copi o'r llawlyfr ar gael o swyddfa'r prospectus is available from the school office ysgol neu ar wefan yr ysgol. or on the school website.

Polisi Iaith yr Ysgol School Language Policy Mae Ysgol Llanbrynmair yn ysgol mewn ardal Ysgol Llanbrynmair is in a traditional Welsh draddodiadol Gymreig, ac yn unol â pholisi area, and in accordance with Powys Awdurdod Addysg Powys, Cymraeg yw prif Education Authority’s policy, Welsh is the iaith addysgu’r ysgol. Mae plant yn cael eu main teaching language of the school. hannog i siarad Cymraeg ar yr iard ac yn Children are encouraged to speak Welsh ystod gwersi ag eithrio’r gwersi Saesneg both on the yard and during lessons with the (Blynyddoedd 3-6). exception of the English lessons (Years 3 – 6). Cwynion Trafodwch unrhyw bryderon sydd gennych Complaints gyda'r Pennaeth Cynorthwyol i ddechrau os Please discuss any concerns you may have gwelwch yn dda. Mae croeso hefyd i chi with the Assistant Headteacher initially. You wneud apwyntiad i drafod unrhyw faterion are also welcome to make an appointment gyda'r Pennaeth. Os nad yw’r materion yn to discuss any issues with the Headteacher. cael eu datrys, yna dylai rhieni ddilyn y If issues are not resolved then parents canllawiau a amlinellir ym Mholisi Cwynion should follow the guidelines outlined in the yr Ysgol. Mae’r polisi ar gael ar wefan yr School’s Complaints Policy. This is ysgol. available on the school website.

Datganiad Cwricwlwm Nod yr ysgol yw darparu cwricwlwm cytbwys yn unol â gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol er mwyn ysgogi datblygiad addysgol, emosiynol a chymdeithasol pob plentyn yn unigol. Mae ymarfer a gweithdrefnau’r Cyfnod Sylfaen yn eu lle. Defnyddir strategaethau gwahaniaethol i ddatblygu potensial pob plentyn i’w lawn dwf. Rydym yn amcanu i gyrraedd y nod mewn amgylchedd bywiog, cartrefol, diddorol a chreadigol. Gellir cael golwg yn yr ysgol ar ddogfennau polisi’r ysgol ym mhob maes a phwnc; mae cynlluniau gwaith ym mhob maes pynciol ar waith hefyd - yn unol â chanllawiau’r Cwricwlwm Cenedlaethol.

Mae’r disgyblion yn cymryd rhan mewn chwaraeon fel rhan o’r cwricwlwm ac mewn gweithgareddau allgyrsiol. Maent hefyd yn cael gwersi nofio. Mae rhagor o wybodaeth am y cwricwlwm ar gael yn Llawlyfr yr Ysgol. Mae’r polisïau a’r cynlluniau gwaith hyn yn cael eu monitro a’u hadolygu’n barhaus yn unol ag unrhyw newidiadau diweddaraf. Mae staff yr ysgol yn cynllunio ar y cyd ar draws y Ffederasiwn ac yn dilyn yr un cynlluniau gwaith yn unol â’r datblygiadau cenedlaethol diweddar. Maent yn cael eu gwirio yn flynyddol gan y Corff Llywodraethol ym mis Mehefin.

Curriculum Statement

The school aims to provide a balanced curriculum in accordance with the requirements of the National Curriculum in order to stimulate the educational, emotional and social development of each individual child. The practice and procedures of the Foundation Phase are in place.

Differentiated strategies are used to develop the potential of every child to his/her full development. We aim to achieve the goals in a lively, intimate, interesting and creative way. The school policy documents can be viewed at the school in all subject areas; work plans in each subject area are also in place - in accordance with the guidelines of the National Curriculum. Pupils participate in sports as part of the curriculum and in extra-curricular activities. They also have swimming lessons. Additional information is available about the curriculum in the School Prospectus.

The policies and schemes of work are being continuously monitored and reviewed in accordance with any update changes. The staff of the schools plan together across the Federation and are following the same work plans as required by recent national developments.

Cynlluniau Gweithredu

Lluniwyd Cynllun Datblygu Ysgol briodol yn unol â chanllawiau'r awdurdod. Mae cyswllt agos rhyngddo â dogfennau Hunanarfarnu’r Ysgol sy'n cael eu hadolygu'n flynyddol. Mae’r ysgol yn monitro effaith ar y safonau a’r ddarpariaeth yn gyson fel rhan o raglen monitro’r Ffederasiwn. Mae’r adroddiadau effaith yn cael eu rhannu gyda’r Corff Llywodraethol a Swyddog Her yr Awdurdod.

Action Plans

The School has a Development Plan and it is fully operational. There is a close link between the school's self-evaluation documents that are reviewed annually. The school is monitoring the impact of the standards and the provision regularly as part of a Federation’s monitoring programme. The impact reports are shared with the Governing Body and the Authority’s Challenge Officer.

Hunanarfarnu a Chynllun Datblygu Ysgol - Prif flaenoriaethau’r ysgol 2020-21 Self-appraisal and School Development Plan - Main School Priorities 2020– 2021

Bl 1. Parhau i wreiddio’r pedwar diben o fewn y cwricwlwm newydd gan gynnwys cymhwyso dysgu cyfunol. Continue to embed the four purposes within the new curriculum including the application of blended learning. Bl 2. Parhau i wella’r ddarpariaeth ar gyfer Iechyd a Lles yn unol â gofynion y Cwricwlwm newydd. Continue to improve provision for Health and Wellbeing in line with the requirements of the new Curriculum Bl 3. Gwella safonau llythrennedd (ll/d/y) y garfan Sgiliau Sylfaenol yn y ddwy iaith yng nghyfnod allweddol 2. Ffocws benodol ar wella safonau ieithyddol Cymraeg yn y Cyfnod Sylfaen. Improve literacy standards (R / W /A ) of the basic Skills cohorts in both languages at key stage 2. Specific focus on improving standards in Welsh within the Foundation Phase. Bl 4 Gwella medrau rhifedd disgyblion er mwyn iddynt gyrraedd eu llawn botensial ar draws y cwricwlwm. Improve pupils' numeracy skills so that they reach their full potential across the curriculum.

Mae’r ysgol wedi gwneud cynnydd da i ddatblygu agweddau y Cynllun Datblygu Ysgol yn ystod y flwyddyn flaenorol – gellir cael copi llawn o’r CDY gan y Pennaeth The school has made strong progress to develop aspects within the school development Plan. A copy can be had from the Headteacher.

Datblygu Staff / Rheoli Perfformiad

Rheoli Perfformiad yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio'r broses o gytuno ar amcanion perfformiad blynyddol sy'n cynnwys trafodaethau rhwng athrawon a'u harweinwyr tîm, y Penaethiaid a'r Corff Llywodraethol.

Mae rheoli perfformiad yn cefnogi gwaith athrawon fel unigolion ac mewn timau. Mae'n sefydlu fframwaith ar gyfer athrawon a'u harweinwyr tîm i gytuno ac adolygu blaenoriaethau ac amcanion yng nghyd-destun cynllun datblygu'r ysgol. Mae'n cymell staff i fod yn fwy effeithiol yn eu haddysgu a’u harweinyddiaeth pwnc. Mae hyn yn ei dro yn arwain at godi safonau ar gyfer yr ysgol gyfan.

Mae’r staff addysgu yn gosod amcanion gyda'r Pennaeth ac mae cyfarfodydd adolygu yn cael eu cynnal gyda’r amcanion newydd yn cael eu nodi a'u trafod ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Mae'r holl gynorthwywyr addysgu hefyd yn mynd drwy'r un broses ag uchod.

Mae’r ysgol yn derbyn nawdd Grant Gwella Ysgolion (GGY) er mwyn sicrhau bod staff yn derbyn hyfforddiant yn ystod y flwyddyn fel rhan o’u Datblygiad Proffesiynol. Dyma flas o’r Hyfforddiant Mewn Swydd a fynychwyd yn ystod y flwyddyn addysgol.

Staff Development / Performance Management

Performance Management is the term used to describe the process of agreeing annual performance objectives involving discussions between teachers and their team leaders, Headteachers and the Governing Body.

Performance management supports the work of teachers as individuals and in teams. It establishes a framework for teachers and their team leaders to agree and review priorities and objectives in the context of the school’s development plan. It motivates staff to be more effective in their teaching and subject leadership. This in turn leads to the raising of standards for the whole school.

Teaching staff set objectives with the Headteacher and review meetings take place and new objectives are identified and discussed for the forthcoming year. All teaching assistants also go through the same process as above.

The school receives an Education Improvement Grant (EIG) yearly to ensure that staff are able to access Professional Development. Below is an example of the training received by staff during the last academic year.

Staff Hyfforddiant / Training SN Creative Learning Science and Technology Digi Meet (Rhannu arfer dda / Sharing good practice) Cwrs Anghenion Arbennig Cwrs Iechyd a Lles Cwrs dim dreigiau, dim defaid. HH Cwrs Expressive arts HH / CH Cwrs Darllen difyr & Cwrs Tric a Chlic SN/HH Minecraft MA SN BGJ/ Flipgrid \ ffrydio Gwersi Holl aelodau o Amddiffyn Plant / Child Protection staff/ Every staff member

Awdurdod Addysg Leol ac ERW Local Education Authority and ERW

Yn ystod y flwyddyn mae'r ysgol wedi bod yn During the year the school has been part of a rhan o gynllun Adolygiad Cymheiriaid ERW Consortia Peer review project which entailed ble mae’r Pennaeth wedi cydweithio gyda the Headteacher and 2 other Headteachers dau bennaeth arall o fewn yr Awdurdod. Prif within the Local Authority. The main purpose bwrpas yr ymweliad cyntaf yn ystod Tymor yr of the first visit during the Autumn Term was Hydref oedd trafod data perfformiad ysgolion, to discuss school performance data, self- hunanwerthuso a rheoli perfformiad. Cafodd evaluation and performance management. Ysgol Llanbrynmair ei gosod yng nghategori Ysgol Llanbrynmair was placed in the “Green “gwyrdd” unwaith eto eleni o fewn y category” within the national categorisation of categoreiddio cenedlaethol ysgolion ledled schools across Wales once again this year, Cymru. Mae'r ysgol wedi sicrhau lefelau da o as they are able to identify and implement ganlyniadau yn y pynciau craidd ac yn mynd priorities and have shown that they have the i'r afael â meysydd sydd angen eu gwella. capacity to lead and support other schools Maent hefyd yn rhannu arfer dda gydag and staff. ysgolion y tu fewn a thu allan i’r Awdurdod.

ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL (A.D.Y.) Y Llywodraethwr ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol yw Mrs Mary Thomas.

Mae’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael ei monitro'n effeithiol gan y Llywodraethwyr, y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Staff Cynorthwyol o fewn yr ysgol. Amcanion y ddarpariaeth ADY yw bod yr holl dasgau, adnoddau a deunyddiau yn cael eu gwahaniaethu er mwyn cydweddu gwaith i anghenion disgyblion. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y cynlluniau gwaith ac unrhyw waith cynllunio sy'n cael ei ddatblygu ar y pryd. Rydym yn cydnabod plant abl a thalentog ac yn annog yr holl ddisgyblion i weithio i'w potensial gorau drwy weithgareddau ffurfiol ac anffurfiol. Mae'r holl ddisgyblion ar gofrestr ADY yn cael Cynllun Dysgu Unigol sy'n cael ei adolygu gyda'r plentyn ddwywaith y flwyddyn.

Rhaglenni Ymyrraeth Mae'r disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol i ddatblygu sgiliau rhifedd a llythrennedd yn cael eu cefnogi gan ddefnyddio rhaglenni wythnosol er enghraifft Ddyfal Donc Llythrennedd. Mae’r disgyblion hefyd yn derbyn cefnogaeth o fewn y dosbarth er mwyn atgyfnerthu sgiliau llythrennedd a rhifedd o fewn y gwersi ffocws. Yn gyffredinol mae disgyblion sydd wedi derbyn cefnogaeth ymyrraeth wedi datblygu mwy o hyder ac wedi gwneud cynnydd da.

Hawliau Cyfartal, Anabledd a Chynllun Cydraddoldeb a Hygyrchedd Mae’r ysgol yn ymwybodol iawn o’i hymrwymiadau, yn gyfreithiol ac yn foesol, er mwyn osgoi camwahaniaethu. Ethos yr ysgol erioed fu ystyried pob plentyn yn unigol; ta waeth eu hoed, rhyw, hil, anabledd neu unrhyw wahaniaethau eraill. Nod yr ysgol yw helpu pob disgybl i gyrraedd ei botensial llawn trwy ei gynorthwyo’n briodol.

Fel ysgol rydym yn deall pa mor bwysig yw addysgu a dysgu effeithiol ac yn sicrhau bod y profiadau gorau posibl i bob disgybl yn yr ysgol. Rydym yn sicrhau bod pob plentyn ag anabledd yn cael yr un profiadau â phawb arall yn yr ysgol. Mae'n bosibl i pob plentyn ag anabledd corfforol gael mynediad i bob rhan o'r adeilad. Mae yna hefyd doiled i'r anabl yn yr adeilad. Mae’r Corff Llywodraethol yn diweddaru polisi Cynllun Cydraddoldeb a Hygyrchedd a Pholisi Hawliau Cyfartal yn flynyddol.

ADDITIONAL LEARNING NEEDS (ALN) The Governor for ALN is Mrs Mary Thomas. The provision for pupils with ALN is effectively monitored by the governors, ALN Co-ordinator and Support Staff within the school. ALN provision aims to ensure that all tasks, resources and materials are differentiated in order to match work to pupils' needs. This is reflected in the work plans and any planning that is being developed at the time. We recognise able and talented children and encourage all pupils to work to their best potential through formal and informal activities. All pupils on the ALN register will be provided with an Independent Learning Plan to be reviewed with the child twice a year.

Cofrestr Anghenion Addysgol Arbennig 2019 – 2020 Special Learning Needs Register Mae’r ysgol yn dilyn canllawiau yr awdurdod ynglŷn â sut i osod dysgwyr ar gofrestr ADY. The school follows the authority guidelines on how to place learners on the ALN register.

Cyfanswm / Total Gweithred Ysgol / School Action 7 Gweithred Ysgol a mwy 4 School Action + Datganiad / Statement 0

Intervention Programmes The pupils who need additional support in order to develop numeracy and literacy skills are supported using the weekly programmes, for example, Catch Up Literacy and pupils who need additional support to reinforce Literacy and Numeracy have in-class support within the focused tasks. Generally, pupils who have received intervention develop more confidence and make good progress. Equal Rights, Disability and Equality and Access Plan The school is well aware of its obligations, legally and morally, to avoid discrimination. It has always been considered the ethos of the school that each child is treated as an individual; no matter their age, gender, race, disability or any other difference. The school aims to help all pupils to reach their full potential by supporting them appropriately. As a school we understand the importance of effective teaching and learning and ensure the best possible experiences for all pupils in the school. We ensure that all children with disabilities have the same experiences as everyone else at school. It is possible for children with physical disabilities to have access to all parts of the building. There is also a disabled toilet in the building.

The Governing Body updates its Equality and Accessibility Policy and its Equal Rights Policy annually.

Cyngor yr Ysgol School Council

Mae'r Cyngor yn cyfarfod unwaith pob hanner tymor The Council meets at least once every half term ac yn gwahodd Mrs Heulwen Jones, aelod o Gorff and invites Mrs Heulwen Jones, a member of the Llywodraethol y Ffederasiwn, i gyfarfodydd i Federation’s Governing Body to their meetings, to hyrwyddo'r cyswllt rhwng yr ysgol â'r Corff promote the link between the school and the Llywodraethol. Mae’r Cyngor Ysgol yn penderfynu Governing Body. The School Council decides and ac yn arwain gweithgareddau sy’n helpu eraill, er leads the activities that help others, for example enghraifft, Plant Mewn Angen, Unicef a chasgliad Children in Need, Unicef and which charity to Gwasanaeth Diolchgarwch. Maent hefyd yn gyfrifol support with Thanksgiving Service donations. They am drefnu diwrnodau di-wisg ysgol er mwyn codi also help in organising the Christmas Fair, arian i wahanol elusennau, helpu i drefnu’r Christmas Party and choosing the summer school ffair/marchnad Nadolig, parti Nadolig ynghŷd â trip. Every year the school council decide what their helpu i ddewis ble i fynd ar eu tripiau addysgol. Pob focus will be for the 12 months and then gather blwyddyn mae’r cyngor yn ffocysu ar un agwedd o’r information, create a questionnaire and try and cwricwlwm, casglu gwybodaeth, creu holiadur a improve provision and aspects of childrens learning cheisio gwella neu godi ymwybyddiaeth o’r agwedd within the school. This year the children focussed benodol yma. Eleni ffocws y cyngor oedd Iechyd a on pupils’ health and wellbeing. The committee lles disgyblion yr ysgol. Roedd y cyngor wedi were planning a health and wellbeing day within the dechrau trefnu diwrnod i godi ymwybyddiaeth a rhoi school in the Spring term to celebrate and raise ffocws i iechyd a lles yr holl ysgol, ond yn anffodus awareness of this aspect. However this was not ni fu hyn yn bosib eleni. held. Maent wedi cyfarfod ag aelodau Cyngor Ysgolion Members of the council meet members of Carno Carno a Glantwymyn i drafod blaenoriaethau’r ysgol and Glantwymyn schools’ councils every term and ynghyd â chraffu ar waith – marcio ac Asesu ar have been discussing matters such as school gyfer Dysgu a dysgu am y Cwricwlwm newydd. Ar priorities, looking at school books – marking and ddiwedd y flwyddyn maent yn gwerthuso pa mor Assessment for learning and learning about the effeithiol y bu eu gwaith. new curriculum. At the end of the year they evaluate how effective their work has been.

Ysgolion Iach Mae'r ysgol yn rhan o raglen Ysgolion Iach Powys. Anogir disgyblion i fwyta ffrwythau amser byrbryd bore. Mae disgyblion y Cyfnod Sylfaen yn cael llaeth am ddim yn ystod egwyl y bore. Mae'r gogyddes ysgol yn dilyn bwydlen iach a osodwyd gan Gyngor Sir Powys. Mae peiriant dŵr yn yr ysgol ac mae disgyblion yn cael eu hannog i yfed dŵr yn ystod y diwrnod. Mae disgyblion yr ysgol yn tyfu llysiau yn yr ardd i’w gwerthu yn ystod Tymor yr Haf ac yn coginio amrywiaeth o ddanteithion iach gan ddefnyddio cynnyrch o’r ardd i werthu yn y Farchnad Nadolig. Mae’r ysgol yn rhan o gynllun “Gwên Deg” ble mae disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen yn glanhau eu dannedd yn ddyddiol yn y dosbarth. Mae’r ysgol wedi ennill y 5 ddeilen ysgolion Iach.

Healthy Schools The school is part of the Powys Healthy Schools programme. Pupils are encouraged to eat fruit at morning snack times. The Foundation Phase pupils have milk free of charge during the morning break. The school cook follows the healthy menu set by Powys County Council. There is a water machine located outside the staffroom and pupils are encouraged to drink water throughout the day. The pupils grow vegetables in the garden to sell during the Summer Term and cook a variety of healthy goods by using produce from the garden to sell at the Christmas Fa yre. The school is part of the Design to Smile programme where the pupils in the Foundaion Phase class clean their teeth daily after lunch. The school has been awarded the 5th plaque in the Healthy Schools programme during the Summer term.

Siarter iaith Gymraeg Prif nod y siarter yw creu a chynyddu defnydd cymdeithasol y plant o’r Gymraeg. Rydym eisiau ysbrydoli ein plant a'n pobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar eu bywydau. Mae'r Siarter Iaith Gymraeg yn gofyn am gyfraniad gan bob aelod o gymuned yr ysgol - y disgyblion, cyngor yr ysgol, y staff, y rhieni, y llywodraethwyr a'r gymuned. Gweithiodd y ‘Criw Cymraeg’ yn effeithiol i hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg drwy’r ysgol ac o fewn y gymuned ac o ganlyniad dyfarnwyd y Wobr Arian i’r ysgol yn nhymor yr Haf 2019. Rhoddodd aelodau o’r cyngor gyflwyniad i’r llywodraethwyr yn trafod yr hyn maent wedi’i gyflawni eleni. Yn ystod 2019/2020 mae’r ysgol wedi gosod targedau newydd ac yn gobeithio ennill y wobr Aur yn y dyfodol agos.

Welsh Charter The main aim of the charter is to create and increase the children’s social use of Welsh. We want to inspire our children and young people to use Welsh in every aspect of their lives. The Charter asks for a contribution from every member of the school community – the pupils, the school council, the staff, the parents, the governors and the community. The ‘Criw Cymraeg’ worked effectively to promote the use of the Welsh language throughout the school and within the community and as a result the school was awarded the Silver Award during the Summer term 2019. Since then they have been working towards achieving the Gold Award and have given a present ation in front of the Governors about what activities they have planned during the year and hope to be ready for their accreditation in the near future.

Ysgolion Eco Eco Schools

Bu’r holl ddisgyblion yn rhan o ddiwrnodau garddio er There are two representatives from years 2 to 6 on mwyn gwella amgylchedd yr ysgol. Bwriedir the school Eco Council which meets at least once defnyddio’r tŷ tyfu (tŷ gwydr eco allan o boteli plastig) every half term. In addition to the committee there are er mwyn parhau i hybu agweddau hunan recycling, composting and energy saving officers. gynaliadwyedd oddi fewn yr ysgol. All pupils were involved in gardening days in order to improve the school environment. We have been Yn dilyn arolwg amgylcheddol penderfynwyd ceisio growing flowers and vegetables in the new Eco meddwl am ffyrdd o arbed ynni, papur a dŵr yn yr greenhouse (a greenhouse out of plastic bottles) in ysgol. Lluniodd y disgyblion Eco gôd i ddilyn fel ysgol, order to continue to promote self-sustainability ac maent wedi gosod ystod o systemau yn eu lle i aspects within the school. geisio lleihau papur tywel a dŵr o fewn toiledau’r plant a’r staff. Mae dau gynrychiolydd o flynyddoedd 2 i 6 ar Following an environmental survey undertaken by the Gyngor eco yr ysgol sydd yn cyfarfod unwaith pob pupils it was decided to try to think of ways to save hanne r tymor ac yn ychwanegol mae swyddogion energy, paper and water in school. The pupils ailgylchu, compostio ac arbed ynni. produced their own Eco code and have put certain

systems in place to reduce water and paper use Ar ddiwedd tymor y Gwanwyn roedd y disgyblion wedi within the school. gweithio’n galed ac yn barod i gael eu gwobrwyo gyda’r wobr ‘Platinum’. Yn anffodus mae hyn wedi At the end of the Spring Term the pupils had worked gorfod cael ei ohirio am y tro ond gobeithio byddwn yn hard and were ready for their accreditation for the gallu parhau gyda’r gwaith a bod yn barod unwaith eto Platinum Award. This is now on hold and we hope pan bydd hi’n ddiogel i dderbyn ymwelwyr i’r ysgol a that we will be awarded when it is safe to receive gallu croesawu’r SwyddogYsgolion Eco. visitors to the school once again and we can welcome the Eco School Officer.

Crynodeb o weithgareddau a digwyddiadau 2019-20

Summary of activities and events 2019-20

Hydref 2019 Autumn Term 2019

Dechreuodd y tymor newydd gyda 61 o The new term started with 61 pupils at the school ddisgyblion yn yr ysgol a cryn dipyn o newidiadau and some staffing changes. After the sudden staffio. Wedi marwolaeth sydyn Miss Elain Heledd death of Miss Elain Heledd in August, Miss Haf penodwyd Miss Haf Howells i ddysgu’r dosbarth Howells was appointed to teach the Foundation Cyfnod Sylfaen am y flwyddyn. Priododd Miss Phase class for the year. Miss Rowlands married Rowlands yn ystod yr haf a bu’r disgyblion a’r staff during the summer and the pupils and staff yn dod i arfer ei galw’n Mrs Nicholls. became used to calling her Mrs Nicholls.

Roedd yn dymor prysur gyda disgyblion yn It was a busy term with pupils enjoying a variety of mwynhau amrywiaeth o weithgareddau gan activities including cycling lessons for year 6, gynnwys beicio, gwersi Ffangeg i ddisgyblion French lessons for Years 5 & 6 pupils and safety Blwyddyn 5 & 6 a gwersi diogelwch wrth groesi’r lessons when crossing the road to the Foundation ffordd i ddosbarth y Cyfnod Sylfaen. Daeth yr Phase class. The author Manon Steffan Ros came awdures Manon Steffan Ros i siarad am ei llyfr ‘Fi to talk about her book ‘Joe Allen and I' with year 3 a Joe Allen’ gyda disgyblion blwyddyn 3 &4 ac fe & 4 pupils and 4 teams competed in the Book quiz wnaeth 4 tim o’r ysgol gystadlu yn y cwis Llyfrau again this year with three of the teams winning a unwaith eto eleni. Yna ym mis Tachwedd cafodd place in the second round. Then in November disgyblion Blwyddyn 5 a 6 fynd ar wyliau preswyl i Year 5 and 6 pupils went on a residential holiday Wersyll yr Urdd Caerdydd ble cawsant gyfle i fynd to the Urdd Camp at Cardiff Bay where they had i ymweld â stadiwm y Principality, reid mewn cwch the opportunity to visit the Principality stadium, a cyflym ar hyd y Bae, bowlio 10 a bore cyffrous yn ride in a speedboat along the Bay, 10 pin bowling Techniquest. Daeth Ronnie y deinasor i ymweld â and an exciting morning in Techniquest. Ronnie phlant y Cyfnod Sylfaen a chafwyd noson hwyliog the dinosaur came to visit the Foundation Phase iawn yn y Noson Americanaidd a drefnwyd gan children and there was fun to be had learning how Cyfeillion yr ysgol. Cafodd staff yr ysgol fynd i to line dance during the American themed evening seremoni Rhagoriaeth Estyn yng Nghaerdydd yn organised by the Friends of the school. The school dilyn Arolwg Estyn lwyddiannus llynedd. staff were invited to the Estyn Excellence Award evening in Cardiff following our inspection last Daeth y tymor i ben gyda chyngerdd Nadolig year. llwyddiannus iawn sef ‘Pantolig’. The term ended with a very successful Christmas concert 'Pantolig.' Tymor y Gwanwyn 2020 Spring Term 2020

Dechreuodd y tymor gyda 61 o ddisgyblion a The term began with 61 pupils and a trip to the thaith i Blists Hill er mwyn dysgu am ffordd o fyw Victorian Village of Blists Hill, Ironbridge to learn yn Oes Fictoria fel rhan o waith themâu’r ysgol. about life in the Victorian era. It was once again Roedd yn dymor eithriadol o brysur unwaith eto an extremely busy term with preparations towards gyda pharatoadau tuag at yr Urdd. the Urdd Eisteddfod. A number of pupils had Roedd nifer o ddisgyblion yn barod i ganu a llefaru been busy practicing singing, reciting and acting ond yn anffodus oherwydd Covid-19 bu rhaid ready to compete, however at the last minute due canslo’r Eisteddfod yr Urdd am eleni. Daeth to Covid-19 the Urdd Eisteddfod had to be cynrhychiolwyr o gôr yr ysgol i ganu mewn cancelled for this year. The school choir sang at a cyngerdd i godi arian at blant yn Uganda a braf concert to raise money for children in Uganda and oedd croesawu Seren a Sbarc i glwb yr Urdd. Bu we welcomed Seren and Sbarc, 2 of the Welsh nifer o blant yn cystadlu yng nghystadleuaeth Charter’s characters to the Urdd club. A number 'CogUrdd' i blant blynyddoedd 4 i 6. Bu nifer o'r of children competed in the 'CogUrdd’ competition disgyblion yn cystadlu yn y Cyfarfod Bach ym mis for children in years 4 to 6. Many of the pupils Ionawr lle cawsant wobrau am ganu, dawnsio, competed at the Cyfarfod Bach in January where llefaru a chwarae offerynnau cerddorol, yn wir they received prizes for singing, dancing, reciting roedd y safon yn uchel iawn. Parhaodd y tymor a and playing various musical instruments. The dathlodd yr ysgol 'dydd miwsig Cymru', Dydd Gŵyl Standard was very high. The term continued and Dewi a diwrnod y llyfr drwy weithgareddau the school celebrated 'Welsh music day’, St amrywiol. Bu 3 tim y cwis llyfrau yn llwyddiannus David's Day and World Book Day. yn y rownd gyntaf ac roeddynt yn brysur yn paratoi ar gyfer yr ail rownd. Daeth tymor y Gwanwyn i The Spring term ended slightly earlier than ben ychydig yn gynt na’r disgwyl wrth i holl expected as all schools in Wales had to close ysgolion Cymru orfod cau ar frys gan bod y wlad urgently as the country had gone into lockdown wedi mynd i gyfnod clo oherwydd pandemig y because of the Covid pandemic. Covid. Tymor yr Haf 2020 Summer Term 2020 Dechreuodd tymor yr haf ychydig yn wahanol eleni The summer term began slightly different this year wrth i bawb orfod aros adref a mabwysiadu’r dull o as everyone had to stay home and adopt the ddysgu o bell. Bu’r athrawon yn brysur yn gosod approach to distance learning. The teachers were gwaith a bu llawer o’r disgyblion yn brysur yn busy setting work and many of the pupils were cwblhau’r tasgau adref. Yna cawsom ail agor yr busy completing the tasks from home. At the end ysgol ar gyfer canran fechan o blant ar y tro am of June schools re-opened for a small percentage bedair wythnos cyn diwedd y tymor. Roedd yn of children at a time. Both staff and pupils were braf iawn gweld llawer o’r disgyblion unwaith eto a happy to be back in school and it gave everyone chyfle iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â threfn an opportunity to become accustomed to the new newydd o fewn yr ysgol. way of learning and keeping safe at school.

Chwaraeon a Gweithgareddau Allgyrsiol Mae’r ysgol yn darparu amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon ym mhob agwedd o Addysg Gorfforol. Mae’r disgyblion yn meithrin sgiliau a phrofiadau o’r Derbyn i fyny at Flwyddyn 6. Yn ystod y flwyddyn mae disgyblion ca2 wedi cymryd rhan mewn athletau dan do a thrawsgwlad dan arweiniad Swyddog 5x60 Bro Hyddgen. Yn ychwanegol i hyn mae’r ysgol wedi cystadlu mewn cystadlaethau pêl droed a phêl rhwyd, ac mewn gala nofio’r Urdd. Cafodd disgyblion yr ysgol gyfle i gystadlu mewn nifer o gystadlaethau dawnsio’r Urdd gan gynnwys disgo a Dawnsio Gwerin.

Yn ystod ymweliad disgyblion Blwyddyn 5 a 6 â Gwersyll yr Urdd Caerdydd, yn nhymor yr Hydref cafodd y disgyblion brofiadau eang gan gynnwys ymweld a chynnal helfa o gwmpas yr amgueddfa, taith o gwmpas y a’r stadiwm Principality a chyfle i gystadlu yn erbyn ei gilydd wrth fowlio deg.

Mae cysylltiad cryf yn bodoli rhwng yr ysgol â mudiad yr Urdd ac mae disgyblion yn cael profiadau cyfoethog wrth ddilyn rhaglen o weithgareddau’r flwyddyn. Pob blwyddyn mae staff a rhieni'r ysgol yn paratoi disgyblion ar gyfer yr eisteddfodau.

Mae rhieni yn derbyn cylchlythyr tymhorol sy’n rhoi crynodeb o holl weithgareddau’r ysgol ac mae copïau o’r cylchlythyron ar gael ar wefan yr ysgol. Mae’r ysgol hefyd yn defnyddio cyfrif ‘Twitter’ yr ysgol.

Sport and Extracurricular Activities The school provides a variety of sports activities in all aspects of Physical Education. Pupils gain skills and experiences from Reception to Year 6. Throughout the year pupils in the Junior class have had opportunities to participate in indoor athletics and Cross Country running under the supervision of the 5x60 sports officer for Bro Hyddgen. In addition to the 5x60 sporting activities the pupils have also competed in numerous Urdd sporting events which include, football, netball, and the swimming gala.

During year’s 5 & 6 visit to the Urdd camp in Cardiff during the Autumn term pupils enjoyed numerous activities which included a visit to the Principality Stadium, a ride in a speed boat across Cardiff Bay and a visit to Techniquest.

There is a strong link between the school and the Urdd and pupils have enriching experiences through following the programme of activities for the year. Every year, school staff and parents prepare pupils for the local, regional and national Eisteddfod and they achieve success in various competitions.

Parents receive a newsletter every term summarising all school activities and copies are available on the school website. The school Twitter account is also used to celebrate pupil successes.

Llwyddiant ESTYN Success Yn dilyn ein llwyddiant Estyn fe gwahoddwyd yr ysgol i seremoni Rhagoriaeth yng Nghaerdydd. Cyflwynwyd thystysgrif Rhagoriaeth i’r ysgol gan Kirsty Williams AS a Meilyr Rowlands Prif Weithredwr ESTYN. Following the successful Estyn Inspection the school were invited to an awards ceremony in Cardiff where we were presented with a certificarte of excellence from Kirsty Williams AM and Meilyr Rowlands ESTYN Chief Executive.

Cysylltiadau gyda’r Gymuned / Links with the Community Mae’r Corff Llywodraethol yn datblygu ac yn cryfhau cysylltiadau’r ysgol gyda’r gymuned. Dyma drosolwg o'r cysylltiadau gawsom drwy gydol y flwyddyn. The Governing Body develops and strengthens the school’s links with the community by encouraging a number of activities. Here is an overview of the contacts we had throughout the year.

Stondin lyfrau yn y Ffair Gymunedol flynyddol Book stall in the Community Centre Annual Fair

Marchnad Ffermwyr/ Ffair Nadolig yn cael ei Christmas Fair/Market organised by the school rhedeg gan y disgyblion i’r cyhoedd council Cyngerdd Nadolig yr Ysgol School Christmas Concert Mae llawer o ddisgyblion yr ysgol yn cymryd rhan Pupils perform in the annual Merched y Wawr yng ngwasanaeth blynyddol Nadolig Merched y Christmas Service Wawr Bro Cyfeiliog Cyfarfod Bach – Eleni gwnaeth dros 30 o Cyfarfod Bach – This year more than 30 pupils ddisgyblion gystadlu’n unigol neu trwy ganu yn y took part in this annual event côr Côr yr ysgol yn canu mewn Cyngerdd codi arian at School choir sung in a concert to raise money for adeiladu ysgol yn Uganda a school in Uganda. Diwrnod NSPCC NSPCC Pancake Day Bags2School – (poster yn gwahodd y gymuned i Bags 2 School which encourages clothing ddod â hen ddillad i’r ysgol) donations from the community Cyfarfodydd Cyfeillion yr Ysgol Friends of the school meetings Cysylltiadau gyda’r Nyrs ysgol School nurse visits Daeth PC Viv i ymweld â'r ysgol yn ystod y tymor i PC Viv comes to speak to the pupils about various drafod materion diogelwch. topics Gwersi Ffrangeg i flwyddyn 6 gan Madame French lessons for year 6 from Madame Bascou Bascou Ysgol Bro Hyddgen ysgol Bro Hyddgen Cinio Cymunedol i hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y Community lunch to promote the Welsh language gymuned within the community Noson Americanaidd – Cyfeillion yr Ysgol American Evening arranged by the Friends of the school.

Clwb Cyn Ysgol Before School Club Mae’r ysgol yn cynnal sesiynau cyn ysgol ar All pupils have access if needed to the Before gyfer disgyblion yr ysgol o 8.15 – 8.50 bob bore School Club which runs 5 mornings a week at yn ystod tymor yr ysgol. Mae pob sesiwn yn £1.50 per session per pupil. The club is open from £1.50 y plentyn ac mae croeso i blant ar draws yr 8.15 – 8.50. The club is open to all puipils within ysgol eu defnyddio. the school.

Cyrchfan ymadawyr ysgol School leaver destination

Mae mwyafrif o ddisgyblion Ysgol Llanbrynmair Usually the majority of pupils at Ysgol yn trosglwyddo i Ysgol Bro Hyddgen ac yn Llanbrynmair transfer to Ysgol Bro Hyddgen. achlysurol mae rhai yn trosglwyddo i Ysgol During the Autumn term Year 6 pupils went to Uwchradd Llanidloes. Yn ystod Tymor yr Hydref Ysgol Bro Hyddgen for transition visits and to get 2020 aeth disgyblion Blwyddyn 6 i Ysgol Bro a taste of life at high school. In September 2020 Hyddgen ar gyfer ymweliadau pontio a chael 87.5% of the pupils transferred to Ysgol Bro blas ar fywyd yn yr ysgol. Ym Medi 2020 Hyddgen and 12.5% transferred to Ysgol trosglwyddodd 87.5% o ddisgyblion Ysgol Uwchradd Llanidloes. Llanbrynmair i Ysgol Bro Hyddgen a 12.5% i Ysgol Uwchradd Llanidloes

Cyfleusterau glanhau a thoiled Cleaning and toilet facilities Yr ysgol sydd yn gyfrifol am gyflogi 1 The school is responsible for the cleaning of the glanhawraig i lanhau’r ysgol. Mae toiledau ar school and employs 1 cleaner. There are toilets gyfer disgyblion y Cyfnod Sylfaen a’r dosbarth for pupils in the Foundation Phase and the Junior iau. Mae toiled anabl yn nhoiledau’r Cyfnod class. There is a disabled toilet in the Foundation Sylfaen ac un i blant hŷn ac oedolion yn y Phase class and one for older children and adults Ganolfan. Mae gan y dosbarth Cyfnod Sylfaen in the Community Centre. The Foundation Phase eu toiledau eu hunain wrth ymyl y dosbarth, ac class have their own toilet facilities next to the mae toiledau ar wahân ar gyfer merched a class, and there are separate toilets for girls and bechgyn y dosbarth iau ar hyd y coridor. boys in the junior class along the corridor.

Nifer o ddisgyblion ar y gofrestr ar ddiwedd Tymor yr Haf 2020 / Number of pupils on Roll at the end of the Summer Term 2020 Cyfnod Sylfaen / Foundation Phase - 24 Cyfnod Allweddol 2 / Key Stage 2 - 36

Nifer o ddisgyblion ar y gofrestr ar ddechrau Tymor yr Hydref 2020 / Number of pupils on Roll at the beginning of the Autumn Term 2020 Cyfnod Sylfaen / Foundation Phase - 20 Cyfnod Allweddol 2 / Key Stage 2 - 40

Presenoldeb Mae’r ysgol yn dilyn camau pendant i leihau absenoldebau heb ganiatâd. Mae plant sy’n cyrraedd yn hwyr yn medru effeithio ar absenoldebau anawdurdodedig. Mae’r ysgol yn danfon llythyr i rieni i bwysleisio prydlondeb ac i dynnu sylw at y sefyllfa lle mae rhai yn cymryd gwyliau yn ystod tymor yr ysgol. Mae’r ysgol yn cysylltu gyda rhieni / gwarcheidwaid lle mae lefel presenoldeb yn isel neu’n anghyson.

Attendance The school follows clear steps for reducing the number of unauthorised absences. Pupils who arrive late can affect unauthorised absences. The school sends a letter to parents emphasising punctuality and drawing attention to the situation where some take holidays during term time. The school contacts parents/guardians where the attendance level is low or inconsistent.

Materion Ariannol / Financial Matters

Cyllid am y flwyddyn 2019 – 2020 Budget for the year

Ardal y gwariant Gwariant

Cyflogau / Wages 267,565 Cynnal a chadw gan gynnwys profion statudol 6448 Repairs and Maintenance including Statutory Testing Cadwraeth Tir / Grounds Maintenance 655 Gofal Safle / Property Care 9251 Trydan / Electricity 6300 Nwy / Gas 2000 Treth / Rates 5,243 Dŵr / Water 1750 Deunyddiau disgyblion gan gynnwys dodrefn 12032 School Resources including furniture

Peiriannau/adnoddau 2100 swyddfa/postio/adnoddau mewnol Office Machinery/supplies/postage/internal purchases Ffôn / Phone 200 Gwasanaethau Pecyn Craidd / Core Services 3233 Package Cyfleusterau Chwaraeon/Cymunedol / Sports 4,342 Facilities / Community

Helpu Eraill / helping others Cyfraniadau i’r Ysgol / Contributions to the Operation Christmas Child school Achub y Plant £172.60 Er cof am / In Memory of Miss Elain Heledd Action Aid £88.10 £4950 Cronfa Melinau Gwynt / Llanbrynmair Wind Farm £1700 DP Probert £250 Menter Maldwyn £225 Merched y Wawr £125 Bag2school - £293.20

Trefn y Diwrnod Ysgol / School Timetable

Sesiwn y bore / Morning session: 9.00 a.m. - 12.00 p.m.

Sesiwn y prynhawn / Afternoon session: 1.00 p.m. - 3.25 p.m.

Mae gwybodaeth am yr ysgol gan gynnwys cylchlythyrau tymhorol, calendr digwyddiadau, lluniau a pholisïau ar gael ar wefan ein hysgol yn ogystal â’n cyfrif Twitter.

Gwefan yr ysgol - www.llanbrynmair.powys.sch.uk neu gallwch ein dilyn ar Twitter @Ysgllanbrynmair

Information about the school including termly newsletters, events calendar, photos and policies can be found on our school website and on the Twitter account. School website - www.llanbrynmair.powys.sch.uk or follow us on Twitter @ysgllanbrynmair