Dysgu Cymraeg I Fewnfudwyr: Llunio Llwybr at Ddinasyddiaeth Gynhwysol Gymreig
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Dysgu Cymraeg i Fewnfudwyr: Llunio Llwybr at Ddinasyddiaeth Gynhwysol Gymreig Traethawd a gyflwynir i fodloni’n rhannol ofynion gradd Philosophiæ Doctor Prifysgol Caerdydd 2016 Gwennan Elin Higham ii Crynodeb Mewnfudo, dinasyddiaeth a dysgu iaith: mae’r ddoethuriaeth yn dod â’r tair thema hon ynghyd—themâu sydd yn esgor ar ddadleuon parhaus yn sgil tueddiadau mewnfudo cynyddol mewn cenedl-wladwriaethau democrataidd. Mae’r prosiect ymchwil amlddisgyblaethol yn gyntaf yn cymhwyso damcaniaethau cyfoes ar integreiddio, megis amlddiwylliannedd a rhyngddiwylliannedd, i achos Cymru ac yn benodol ei sefyllfa ddwyieithog neilltuol. Yn hyn o beth, mae’r ddoethuriaeth yn cymharu ac yn gwrthgyferbynnu modelau o gymhwyso amrywiaeth a dinasyddiaeth er mwyn sefydlu model ffafriol ar gyfer cyd-destun y Gymraeg. Defnyddir Québec fel astudiaeth arbrofol ar gyfer yr ymchwil, drwy ddarparu modelau methodolegol ond hefyd drwy astudio ymarfer da mewn integreiddio mewnfudwyr drwy’r rhaglen francisation. Yn ail, yn sgil gwaith ethnograffig yn Québec ac yna yng Nghymru, mae’r ymchwil yn mynd i’r afael â’r berthynas rhwng dysgu Cymraeg a datblygu cysyniad o ‘ddinasyddiaeth’ a chydlyniant cymunedol ar y lefel leol, sydd yn wahanol i’w ddiffiniad swyddogol gan Lywodraeth y DG. Yn drydydd, ar sail cyfweliadau â swyddogion Llywodraethol, tiwtoriaid iaith a mewnfudwyr grwpiau ffocws ac arsylwadau cyfranogol mewn dosbarthiadau iaith, mae’r ddoethuriaeth yn gwneud casgliadau ynghylch y cyfleoedd a’r rhwystrau i ddatblygu prosiect dinasyddiaeth sydd yn cynnwys ac yn hyrwyddo dysgu Cymraeg i fewnfudwyr, ac o ganlyniad i holl ddinasyddion Cymru. Immigration, citizenship and language learning: this PhD brings together these three topics—topcis which raise enduring debate in light of increasing migration trends in democratic nation states. This multidisciplinary research project firstly applies current theories on integration such as multiculturalism and interculturalism to the case of Wales, namely its specific bilingual context. This thesis compares and contrasts models of citizenship and diversity accommodation in order to establish a favourable model for the Welsh context. Québec is used as an exploratory case of research, not only in supplying methodological models but also in investigating good practice in immigrant integration via francization classes. Secondly, by means of ethnographic fieldwork carried out first in Québec and then in Wales, the research enquires into the relationship between learning Welsh and establishing more localized conceptions of citizenship and community cohesion, distinct from its official definitions by the UK Government. Thirdly, based on interviews, focus groups and participant observation data with government officials, iii language tutors and immigrants students, the thesis sets out conclusions regarding opportunities and challenges to developing a citizenship project which includes and facilitates the learning and teaching of the Welsh language to immigrants, and consequently to all citizens of Wales. Immigration, citoyenneté, et apprentissage d’une langue: cette thèse rassemble les trois questions—des questions largement contestées qui résultant des tendances croissantes d’immigration dans les Etats-nations démocratiques. En premier lieu, ce projet de recherche multidisciplinaire applique des théories actuelles sur l’intégration comme le multiculturalisme et l’interculturalisme pour le cas du Pays de Galles, c’est-à-dire sa position bilingue particulière. Ainsi, cette thèse compare et contraste des modèles de la citoyenneté et l’accommodation de la diversité afin qu’elle établisse un modèle favorable pour le contexte gallois. Le Québec est employé comme étude exploratoire, non seulement en fournissant des cadres méthodologiques, mais aussi de bonne pratique en matière d’intégration des immigrants à travers le programme de francisation. En deuxième lieu, à travers d’un travail de terrain ethnographique au Québec suivi par le Pays de Galles, la recherche analyse la relation entre l’apprentissage du gallois et une conception locale de la citoyenneté et la cohésion sociale, qui est distincte de sa définition officielle par le gouvernement britannique. Finalement, tirées des entretiens, des groupes de discussions et des observations participatives parmi des officières du gouvernement, des enseignants de langues, des étudiants immigrants, la thèse propose des conclusions en ce qui concerne les opportunités et les obstacles d’avancer un projet de citoyenneté qui comprend et qui facilite l’apprentissage du gallois aux immigrants, et par conséquent, à tous les citoyens du Pays de Galles. iv Datganiad Ni chafodd y gwaith hwn ei gyflwyno’n sylweddol ar gyfer unrhyw radd neu ddyfarniad arall yn y brifysgol hon neu unrhyw brifysgol neu fan dysgu arall, ac nid yw’n cael ei gyflwyno ar yr un pryd mewn ymgeisiaeth ar gyfer unrhyw radd neu ddyfarniad arall. Llofnod ………………………… (ymgeisydd) Dyddiad ………………………… GOSODIAD 1 Mae’r traethawd ymchwil hwn yn cael ei gyflwyno i gyflawni’n rhannol ofynion gradd PhD. Llofnod ………………………… (ymgeisydd) Dyddiad ………………………… GOSODIAD 2 Mae’r traethawd hwn yn ganlyniad fy ngwaith/ymchwiliad annibynnol fy hun, oni ddywedir fel arall. Caiff ffynonellau eraill eu cydnabod gan gyfeiriadau eglur. Fy syniadau i yw’r syniadau a fynegir. Llofnod ………………………… (ymgeisydd) Dyddiad ………………………… GOSODIAD 3 Rhoddaf fy nghaniatâd drwy hyn i’m traethawd, os caiff ei dderbyn, fod ar gael ar-lein yn ystorfa Mynediad Agored y Brifysgol ac ar gyfer benthyca rhwng llyfrgelloedd, ac i’r teitl a chrynodeb fod ar gael i sefydliadau allanol. Llofnod ………………………… (ymgeisydd) Dyddiad ………………………… v vi Rhagair Anodd yw olrhain dechreuadau’r ymchwil a’r bobl oll a gyfrannodd at ei ddatblygiad: taith bywyd sydd wedi llywio’r daith ymchwil hwn. Yn sicr, roedd fy mhenodiad cyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd yn Weinyddwr ac yna yn Diwtor a Swyddog Ehangu Cyfranogiad Cymraeg i Oedolion wedi esgor ar fy llwybr ymchwil cyfredol. Diolchaf i Dr Rachel Heath-Davies a holl gydweithwyr Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg am eu hymrwymiad a’u hangerdd dros y Gymraeg (er gwaethaf toriadau a newidiadau i’r ddarpariaeth). Diolchaf hefyd i’r cysylltiadau allweddol a wnaed â Chyfarwyddwyr ESOL Caerdydd, Helen Adams a Catherine Walsh, a nifer fawr o diwtoriaid ESOL dros Gymru sydd wedi rhoi mewnwelediad cwbl hanfodol i’r anghydraddoldebau ieithyddol sydd yng Nghymru a Phrydain heddiw. Yn sgil hyn, gwnaed cysylltiadau dylanwadol a phrosiect ESOL Nexus y Cyngor Prydeinig a diolchaf i Dot Powell am ei chymorth arbennig ac wrth gwrs i’r AHRC a ddyfarnodd ysgoloriaeth imi er mwyn gallu cwblhau’r ddoethuriaeth hon. Diolchaf hefyd i BAAL-CUP a COST am ddyfarnu cyllid i gynnal seminarau ymchwil yng Nghaeredin a Chaerdydd er mwyn datblygu ac ehangu gorwelion fy maes ymchwil. Ni ragwelais mewn gwirionedd y byddai prosiect ar iaith leiafrifol yn agor drysau i gynifer o gyfleoedd academaidd rhyngwladol. Diolchaf yn benodol am yr anrhydedd mawr o gael treulio cyfnod ymchwil cyfoethog ac anturus ym Montreal, Québec drwy ysgoloriaeth y Conseil supérieur de la langue française. Diolchaf i’r holl staff academaidd a chefnogol y Ganolfan CEETUM, Prifysgol Montreal, yn benodol i Dr Patricia Lamarre, yr Athro Michel Pagé, Dr Michèle Vatz-Laaroussi, Robert Vézina, Catherine Levasseur, yr Athro Linda Cardinal ym Mhrifysgol Ottawa ac i'r holl gyfranogwyr ymchwil a’m ffrindiau yno. Yn ogystal â hyn, diolchaf i’r Athro. Bernie O’ Rourke a holl gyfranogwyr rhwydwaith COST vii New Speakers sydd wedi caniatáu imi gyhoeddi, cydweithio a chyflwyno fy ymchwil yn Sbaen, y Ffindir, yr Almaen a’r tu hwnt. Yn agosach at adre, rwyf hefyd yn ddiolchgar i Goleg Sabhal Mòr Ostaig ac ymchwilwyr ar Aeleg yr Alban sydd wedi cefnogi fy nhaith academaidd a’m taith ieithyddol gyda’r Aeleg—Mòran Taing. Yn ôl yng Nghymru, hoffwn estyn diolch mawr o’r galon i’r Athro Sioned Davies a holl staff a myfyrwyr Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, sydd wedi estyn eu cefnogaeth ataf ac am gredu yn fy mhrosiect. Rwy’n ddiolchgar iawn am gymuned o fyfyrwyr ymchwil brwd, galluog a chynnes o’m cwmpas. Rhaid estyn diolchiadau penodol i’m cyfarwyddwyr ymchwil, yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost am reoli a thywys fy nhaith gysyniadol mor effeithlon ac am ei gymorth cyson ac i Dr Jeremy Evas am ei frwdfrydedd, ei barodrwydd i helpu a’i lygaid at fanylder. Hefyd, diolchaf i’r Athro Colin H. Williams sydd wedi bod yn ffigur dylanwadol ar hyd y blynyddoedd. Diolchaf hefyd i Dr Huw Williams am ei gymorth deallusol, Dr Leigh Oakes am ysgogi fy niddordeb yn Québec, ac i’r Athro Stephen May am gadarnhau fy newis i ysgrifennu’r traethawd yn y Gymraeg. Mae fy niolchgarwch hefyd yn ddyledus i Dr Simon Brooks, cyn-oruchwyliwr y PhD sydd yn parhau i fod yn gymorth, cynghorwr ac yn ysbrydolaeth hyd heddiw (ac yn y dyfodol, mae’n siŵr). Down yn ôl felly at y dechreuadau, gan gynnwys dylanwad fy ngradd MA ym Mhrifysgol Queen Mary, Llundain, yn arbennig fy nhraethawd estynedig ar y ffoadures Almaenig- Iddewig a ddaeth yn awdures Gymraeg—Kate Bosse-Griffiths. Yn hyn o beth, gwelais debygrwydd rhwng Kate a’m mam—mewnfudwraig o Ucheldiroedd yr Alban i Gymru a ddysgodd Cymraeg a ddaeth yn athrawes Ffrangeg drwy gyfrwng y Gymraeg. Ei stori hi a’m magwraeth amlieithog fel wyres a merch gweinidogion capeli amlddiwylliannol Caerdydd sydd hefyd wrth y llyw. Diolchaf i’m Tad, Mam, Taid, Gu a’r teulu cyfan am eu cadernid a’u sêl, ac yn olaf ond nid yn lleiaf i’m Duw, y darparwr a’r llywiwr pennaf oll. viii ix Rhestr o Dermau ac Acronymau