INSBECTOR Atgofion Plismon yn y Gorllewin KEN Gwyllt

KEN LEWIS Hoffai’r awdur ddiolch i deulu Nathaniel Jones a theulu Gruff Jenkins y gof am roi iddo luniau o’r ddau. Diolch hefyd i Mrs Brenda Jones am ei help i gasglu hen luniau o ardal Cwrtnewydd.

Argraffi ad cyntaf: 2015

© Hawlfraint Ken Lewis a’r Lolfa Cyf., 2015

Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon llungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw

Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru

Llun y clawr: Tim Jones Cynllun y clawr: Y Lolfa

Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978 1 78461 124 8

Cyhoeddwyd ac argraff wyd yng Nghymru gan Y Lolfa Cyf., Talybont, SY24 5HE gwefan www.ylolfa.com e-bost [email protected] ffôn 01970 832 304 ff acs 832 782 Atgofion Cynnar yn yr Ardal

AR 7 EBRILL 1941 y gwelais olau dydd am y tro cyntaf, a hynny o dan law y meddyg Owain Lloyd yn ysbyty . Roedd hyn cyn adeg y ‘National Health’, ac felly costiodd fy nyfodiad i’r byd 12 gini i’m rhieni, Tom a Getta Lewis – swm a fyddai’n cyfateb i tua £700 heddiw. Ar y pryd roedd fy nhad yn aelod o’r fyddin Brydeinig ac felly roedd oddi cartref am y rhan fwyaf o’m magwraeth gynnar. Tan iddo ddychwelyd o’r fyddin, bu Mam a minnau’n byw gyda’m tad-cu a’m mam- gu yn Bryn View, Cwrtnewydd. Does gen i fawr o gof am fy mam nac ychwaith am fy mam-gu yn ystod cyfnod cynnar fy magwraeth. Mae’n amlwg mai bachgen fy nhad-cu oeddwn i. Roedd ef, Tom Davies, yn fardd gwlad, ac i gofio am fy mhen- blwydd cyntaf fe gyfansoddodd y penillion canlynol:

Lythyrgludydd dos yn ebrwydd Ar fyr rybudd dos yn rhwydd A rho hwn i Thomas Kenneth O Bryn View ar ben ei flwydd.

Aberystwyth man dy eni Lle prydferthaf yn y byd Ond yn sãn yr afon Feithgen Siglir dy foreol grud.

Rwyf yn rhoi fy nymuniadau Gorau fedraf iti’n rhwydd Carwn hefyd dy atgofio Dy fod heddiw’n blentyn blwydd. 5 I NSBECTOR KEN

Caret ofyn un dymuniad Dyma fe debygaf i Ai ’run rhai fydd eto’n dathlu Flwyddyn nawr fy mhen-blwydd i?

Tñ wedi’i adeiladu gan fy nhad-cu oedd Bryn View, rhyw hanner ffordd rhwng pentrefi gwledig Cwrtnewydd a , yn ymyl yr enwog ‘Cware Allt Goch’. Fel y sylweddolir, roedd hi’n adeg yr Ail Ryfel Byd ac felly roedd prinder o bopeth – yn cynnwys bwyd – ym mhobman. Roedd hyn hefyd cyn dyfodiad y sewerage scheme a’r Awdurdod Dãr a chyn dyfodiad trydan i’r ardal. Er mwyn hwyluso pethau, roedd gan fy nhad-cu grochan mawr caeedig o dan y graig i ddal y dãr a darddai yno, a phiben yn ymestyn o waelod y crochan yma i dap y tu fewn i’r tñ. Tybiaf fod cynnwys y crochan hwn yn fwy na digon ar gyfer anghenion y teulu. I gael golau yn ystod oriau’r nos defnyddid lampau paraffîn a chanhwyllau. Nid oedd y goleuni yma i fod yn weladwy y tu allan i’r tñ ac felly defnyddid llieiniau du ar bob ffenestr – roedd hon yn rheol a fodolai trwy’r wlad, sef y blackout. Roedd y tñ bach wedi’i leoli ym mhen pella’r ardd yn ymyl y cwt ieir, rhyw chwarter canllath o’r tñ ei hun. Cofiaf yn iawn am y papur a ddefnyddid yno – papur dyddiol wedi’i dorri’n sgwariau, gyda thwll yn nhop pob un a chortyn wedi’i glymu drwy’r tyllau hynny. Byddai’r papur yn hongian ar hoelen yn ymyl y sedd. Yr ochr arall i’r tñ roedd y twlc lle cedwid y mochyn i’w dewhau a’i ladd i fwydo’r teulu. Cofiaf yn iawn am Josh Tanralltgoch yn lladd mochyn drwy ei waedu i farwolaeth yn y sied yn ymyl y tñ. Cofiaf am y creadur wedyn yn cael ei dorri a’i halltu ac yna’i hongian o dan y nenfwd ar reilen nes y byddai ei angen. Rhentai fy nhad-cu dri chae gan y stad leol, yn ogystal â hen dñ a ddefnyddiai i aeafu dwy fuwch. Wrth reswm, byddai’r gwartheg yn pori y tu allan yn ystod tymhorau’r gwanwyn a’r haf, a hefyd am ran o’r hydref, ac yn gaeafu o dan do Cwmfeithgen. Bryd hynny roedd yn ofynnol cael porthiant

6 Atgofi on Cynnar yn yr Ardal iddynt, a gwair i orwedd arno. I sicrhau hyn, câi gwair ei dyfu yn y tri chae a’i dorri ar ddechrau’r haf. Nid oedd sôn bryd hynny am silage, a thybiaf, pe bai unrhyw un wedi awgrymu y fath beth wrtho, y byddai fy nhad-cu wedi dweud eu bod yn wallgof. Cofiaf yn iawn am ddwy fuwch fy nhad-cu, er mai dim ond rhyw dair oed oeddwn ar y pryd. Eu henwau oedd Penwen a Cochen. Rhoddai’r ddwy yma laeth i’r teulu ac fe wnâi fy mam-gu fenyn a chaws ohono. Gwerthai fy nhad-cu y llaeth a oedd dros ben i’r gwasanaeth llaeth lleol. Roedd gennym hefyd ardd gynhwysfawr bob ochr i’r tñ, lle tyfid pob math o lysiau. Gellir gweld felly fod Bryn View, fel pob tyddyn arall yn yr ardal, fwy neu lai yn hunangynhaliol. Roedd fy nhad-cu hefyd yn cael ei gyflogi gan y cyngor sir lleol i edrych ar ôl yr heolydd. Roedd felly yn un o fois y ‘cadach coch’. Gelwid y dynion wrth yr enw hwn am fod y cadach coch a wisgent rownd eu gyddfau yn cael ei ddefnyddio fel fflag bob ochr i’r ardal lle byddent yn gweithio. Roedd ganddynt eu hardaloedd penodedig eu hunain ac fe gymerent falchder mawr mewn edrych ar eu hôl. Er fy mod yn ifanc iawn ar y pryd, cofiaf yn iawn am symudiadau fy nhad-cu ar ddiwrnod lladd gwair. Fe godai gyda’r wawr gan fyned efo’i bladur i dorri’r gwair yn ymyl mynedfa’r caeau gwair. Roedd hyn i sicrhau na fyddai’r un blewyn yn cael ei golli drwy gael ei sathru dan draed y gaseg neu o dan olwynion peiriant lladd gwair Dafydd Evans o fferm Allt Goch. Cofiaf hefyd adeg y cynaeafu, pan fyddai fy mam-gu yn dod â the, brechdanau a theisennau allan i’r gweithwyr. Deuai dros ddwsin o ddynion a gwragedd lleol i’r cae i gynnig help llaw, a byddwn i’n cael rhannu rhai o’r danteithion yn eu cysgod. Wrth feddwl am hyn, medraf hyd heddiw flasu’r bara menyn a’r caws roedd fy mam-gu wedi’i wneud. Heblaw am ei gwaith yn ystod cyfnod y cynhaeaf gwair, nid oes gen i gof arall am fy mam-gu o’m plentyndod cynnar, ond cofiaf yn iawn am bron bopeth roedd fy nhad-cu yn ei wneud. Bu dau faciwî yn aros yn Bryn View, ac er bod dros saith 7 I NSBECTOR KEN deg o flynyddoedd ers hynny, mae’r cysylltiad rhyngom yn parhau hyd heddiw. Hwy oedd yn gyfrifol am ddysgu rhai geiriau Saesneg i mi, yn enwedig y gair ‘down’, y byddwn yn ei ddefnyddio yn weddol aml wrth chwarae ar y siglen roedd fy nhad-cu wedi’i gwneud yn ymyl y tñ. Hyd yma nid wyf wedi sôn am rieni fy nhad, sef fy nhad- cu a’m mam-gu arall, Evan a Gretta Lewis, Pantmorynion, Gorrig, . Does gen i fawr o gof o’r naill na’r llall. Tybiaf nad oeddent yn medru dod i’n gweld oherwydd mor anodd oedd hi i deithio yn y cyfnod. Gwn fod Evan Lewis, fel Tom Davies, yn fardd gwlad. Dyma benillion serch a gyfansoddodd i’w ddarpar wraig:

O lwybrau’r byd yn gyfan Rwy’n credu nawr nad oes Un lle fel glannau’r Cerdin O’r Gorrig i Dregroes.

Er hardded yw’r dyffrynnoedd Ar lannau Teifi lân Gwell ydyw glannau’r Ithan Lle tyfa’r meillion mân.

O Gerdin fach anwylaf Wrth fyned ar dy daith Cei gwmni llawer cornant Cyn gweld y moroedd maith.

Wrth odre Castell Gwion Yr Ithan ddaw i’th gôl Gan adael ar ei hymdaith Brydferthwch byd ar ôl.

Beth wnes erioed yn groes i ti Na elli eto’m caru Fe fuom gynt yn gynnes iawn Pob dydd yn llawn o dlysni.

8 Atgofi on Cynnar yn yr Ardal

Gofynnaf nawr it dderbyn hon Rwyf bron â marw o hiraeth. A gaf i eto roi ryw ddydd Fy llaw yn llaw fy ngeneth?

A chlymu cwlwm glân o serch Fy annwyl ferch gariadus. Ac eiddo ti fy ngeneth lon Fydd calon Evan Lewis.

Roedd yn arferiad yn yr ardal ar y pryd i gynnal cyngherddau lleol i roi cymorth ariannol i dylwyth y milwyr a oedd yn y rhyfel, yn ogystal ag i groesawu’r milwyr hynny yn ôl o’r fyddin. Cantorion, adroddwyr a beirdd gwlad lleol fyddai’r diddanwyr. Cynhaliwyd y ddau fath o gyngerdd i’m tad – y cyntaf ar 14 Tachwedd 1940, pan oedd yn aelod o’r fyddin, a’r llall i’w groesawu yn ôl ar ddiwedd y rhyfel. Cafodd y ddau eu cynnal yn yr un lleoliad, sef festri capel Carmel, Pren-gwyn, lle roedd ef a’i dylwyth yn aelodau selog. Roedd fy nhad, cyn iddo briodi fy mam, yn gorfod teithio i’w gweld ar ei feic, fwy nag wyth milltir un ffordd, a rhaid cofio hefyd bod y ffordd yn un serth ofnadwy. Mae gwaith y ddiweddar Kate Davies, Ardwyn, Pren-gwyn, a adroddwyd gan y ddiweddar Mary Jones, Lodge, Berthlwyd, yn y cyngerdd cyntaf yn cyfeirio at hynny:

Fe briododd Tom ac nid yw’n syn Trafeiliodd lot dros Pyllau’r Bryn. Bob amser roedd yn mynd mewn brys Yn dwmpath coch gan sychu chwys. Diolchwn fod yr hewl yn llydan Waeth mynd roedd fel pe yn hedfan.

A glywsoch am y tro anniben Un nos ddigwyddodd yn nhro y dderwen? Car a’i lond oedd wedi moelyd Ond ni chollwyd yno yr un bywyd. Tom gyrhaeddodd ’nôl o garu Neu siãr fe fyddai rhai’n galaru. 9 I NSBECTOR KEN

Erioed bu Tom yn gwneud ei ore I wneud pob lles pan ddele’r cyfle. Ac mi wn yn siãr peth bynnag ddaw Fe geidw Tom y gelyn draw. A chadw Hitler draw i’r Aig Rhag iddo ddod a chipio’i wraig.

Ni wyddys pwy oedd awdur y penillion canlynol, a gafodd eu canu ar y dôn ‘My Bonnie’:

Tom Lewis ddaeth adre o’r diwedd Tom Lewis ddaeth ’nôl i Bren-gwyn Ond dyna sydd waetha amdano Yn briod mae Tom erbyn hyn.

Cytgan: Beth wnawn ni, beth wnawn ni? Beth wnawn ni nawr ym Mhren-gwyn, Pren-gwyn? Beth wnawn ni, beth wnawn ni, A’r bechgyn yn caru yn dynn?

Roedd merched bach glân o Landysul A merched a Phren-gwyn Yn meddwl cael Tom Pantmorwynion I’w garu a’i wasgu yn dynn.

Cytgan

Hawdd nabod wrth weled y merched Bod nhw wedi cael y fath siom Pan glywsom mai merch o Gwrtnewydd Oedd oreu o ddigon gan Tom.

Cytgan

Arhoswn ein dwy yn gysurus Mae gobaith bod rhywun i ddod Yn garwyr bach selog rhyw getyn I Sychdu a hefyd Tanco’d.

Cytgan

10 Atgofi on Cynnar yn yr Ardal

Ar ôl i Nhad ddychwelyd adref ar ddiwedd y rhyfel aeth ef, Mam a minnau i fyw i Bantyronnen Fach, Blaencwrt. Tñ bychan oedd hwn – dwy ystafell i fyny a dwy i lawr – a Nhad yn ei rentu gan John Tomos, Tynffordd, am wyth bunt y flwyddyn (yn yr hen arian). Cafodd fy nhad waith fel saer maen gan adeiladwr tai o Lanybydder, Tomos John, ac fe âi i’w waith bob dydd ar gefn hen feic modur. Roedd Pantyronnen Fach wedi’i adeiladu mewn stryd fechan o dai ac yn ogystal â mi yn y stryd hon roedd yna bedwar o blant eraill. Yn y tñ drws nesaf roedd Lyn, a ddaeth yn ganwr gwlad enwog, yn byw, a rhyw ddau gan llath i ffwrdd roedd Pantycelyn, fferm fechan lle trigai’r diweddar Terry Evans, a oedd bryd hynny yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg . Rhyw ganllath a hanner o’n tñ ni roedd fferm fechan arall sef Taigwynion, lle roedd y diweddar Wyn Rees yn byw. Heblaw am Wyn, roedd y plant eraill i gyd yn hñn na mi. Cofiaf yn iawn amdanom yn ysmygu ar ben tas wair Taigwynion – Lyn oedd un o’r bechgyn fu’n gyfrifol am ddod â’r sigarennau i ni. Tybed beth fyddai ein tynged wedi bod pe byddai’r das wair wedi mynd ar dân? Cofiaf am sêl y Cnap, fferm fechan arall gerllaw. Yn rhan o’r sêl roedd cadair olwyn oedd yn cael ei gweithio gan freichiau’r gyrrwr. Roedd hon ar gyfer y ddiweddar Judith, a drigai yn y Cnap ac a oedd yn ffaeledig. Prynodd Dafydd Siop Inn, saer lleol, y gadair olwyn yn ogystal â llawer o bethau eraill, ond ni ddaeth i’w nôl am rai dyddiau. Gwelodd Terry ei gyfle un prynhawn a dyma fe’n cael tro yn y gadair olwyn. Fe aeth fel cath o dân heibio ein tñ ni. Roeddwn i’n sefyll y tu allan i’r tñ yn ymyl fy mam ar y pryd a chofiaf yn iawn amdani’n gweiddi arno, ‘Cymer bwyll, Terry. Ti’n siãr o gael dy ladd.’ Wyddai hi ddim bryd hynny, wrth gwrs, fy mod i wedi bod yn ei gôl yn y gadair olwyn ychydig ynghynt a’m bod yn bwriadu mynd arni eto. O fewn rhyw hanner awr dyma Terry’n pasio ein tñ ni eto, gyda fi yn ei gôl. Methodd droi’r tro yn ymyl Tynffordd a dyma ni’n dau a’r gadair olwyn i fyny i ben y clawdd ac i ganol y drysni. Roedd fy nghoesau a’m breichiau mewn tipyn 11 I NSBECTOR KEN o gyflwr. Cafodd y gadair olwyn ei gadael yn y fan a’r lle ac nid wyf yn gwybod pwy aeth â hi oddi yno – fy nhad efallai. Cofiaf hefyd am eira mawr 1947. Roeddwn i a rhai o blant eraill y stryd yn ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Cwrtnewydd lle roedd David Lloyd Lewis yn brifathro. Roedd ofn Mr Lewis ar rieni’r plant hyd yn oed ac oherwydd hyn, er bod yr eira’n gorchuddio’r hewl i fyny i dop y cloddiau mewn mannau, fe geisiwyd mynd i’r ysgol. Yn amlwg, oherwydd y tywydd garw, ofer fu pob ymdrech. Cof arall sydd gen i tra oeddwn yn byw ym Mhantyronnen Fach yw mynd gyda’m tad-cu ar gefn fy meic Elswick newydd, a gefais yn anrheg un Nadolig, o Bryn View i ysgol Sul capel Brynhafod, Gorsgoch, lle roedd fy nhad-cu yn athro ar y dosbarth hñn. Ar ôl i’r ysgol Sul orffen awn gartref i Bantyronnen Fach am ginio. Yn ystod y cyfnod yma roedd fy nhad-cu yn graddol golli ei olwg a’r flwyddyn ganlynol fe aeth yn hollol ddall. Mae un achlysur arall o’r cyfnod hwn sydd yn fyw iawn yn fy nghof. Tra oeddwn yn byw ym Mhantyronnen Fach ceisiodd tarw Ffosffald Uchaf ddod allan i’r hewl yn ymyl Tynffordd. Roeddwn yn sefyll y tu fewn i gât Tynffordd gyda llawer o blant eraill tra oedd John Tynffordd yn pwyso’i wn ar ben y gât ac yn gweiddi ‘Os daw e dros y clawdd yna fe gaiff y “bomb shell”.’ Roedd y tarw â bwmbwrth dros ei lygaid. Daeth Willi, gwas Taigwynion, o rywle yng nghwmni ei ast fach. Heb feddwl ddwywaith, aeth i mewn i’r cae at y tarw ac anfon yr ast ato. Ar unwaith, ac er rhyddhad i bawb, anfonodd yr ast y tarw i ffwrdd oddi wrth y clawdd ac yn ôl i gyfeiriad fferm Ffosffald. Rwy’n siãr, pe byddai’r tarw wedi dod dros y clawdd, y byddai John Tynffordd wedi’i saethu.

12