<<

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

AROLWG O’R FFINIAU RHWNG CYMUNEDAU LLANBADARN FYNYDD, AC ABATY CWMHIR YN SIR

ADRODDIAD A CHYNIGION

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

AROLWG O’R FFINIAU RHWNG CYMUNEDAU LLANBADARN FYNYDD, LLANBISTER AC ABATY CWMHIR YN SIR POWYS

ADRODDIAD A CHYNIGION

1. CYFLWYNIAD

2. CYNIGION CYNGOR SIR POWYS

3 YSTYRIAETH Y COMISIWN

4. GWEITHDREFN

5. DIFFINIO’R FFIN

6. ASESIAD

7. CYNIGION

8. TREFNIADAU DILYNOL

9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru Tŷ Caradog 1-6 St Andrews Place CAERDYDD CF10 3BE Rhif Ffôn: (029) 20395031 Rhif Ffacs: (029) 20395250 E-bost: lgbc@lgbc-.gov.uk www.lgbc-wales.gov.uk

Edwina Hart AC MBE Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

AROLWG O’R FFINIAU RHWNG CYMUNEDAU LLANBADARN FYNYDD, LLANBISTER AC ABATY CWMHIR YN SIR POWYS

ADRODDIAD A CHYNIGION

1. CYFLWYNIAD

1.1 Cynhaliodd Cyngor Sir Powys arolwg o’r ffiniau rhwng Cymunedau Llanbadarn Fynydd, Llanbister ac Abaty Cwmhir o dan Adran 55(2) Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (y Ddeddf).

1.2 Ystyriom adroddiad Cyngor Sir Powys yn unol ag Adran 55(3) y Ddeddf a chyflwynwn yr adroddiad canlynol ar argymhellion y Cyngor Sir.

2. CYNIGION CYNGOR SIR POWYS

2.1 Cynhaliodd Cyngor Sir Powys arolwg o’r Trefniadau Etholiadol ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned ledled y Sir. Fel rhan o’r arolwg hwn, cynigiodd y Cyngor y dylid trosglwyddo pedwar eiddo o Gymuned Abaty Cwmhir i Gymuned Llanbadarn Fynydd ac y dylid trosglwyddo dau eiddo o Gymuned Llanbister i Gymuned Llanbadarn Fynydd.

2.2 Cyflwynwyd cynigion Cyngor Sir Powys i’r Comisiwn ar 8 Mai 2001.

3. YSTYRIAETH Y COMISIWN

3.1 Yn gyntaf ystyriwyd a oedd y Cyngor Sir wedi cynnal eu harolwg yn unol â’r weithdrefn a nodir yn y Ddeddf. Wedyn ystyriwyd a oedd y cynigion a argymhellwyd yn addas o ran sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

4. GWEITHDREFN

4.1 Rydym yn fodlon i Gyngor Sir Powys gynnal eu harolwg yn unol â’r weithdrefn a nodir yn Adran 60 y Ddeddf.

4.2 Fel rhan o’u harolwg o’r Trefniadau Etholiadol ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned ledled Powys, ymgynghorodd y Cyngor Sir â phartïon oedd â diddordeb gan gynnwys Aelodau lleol a chynghorau cymuned.

4.3 Ystyriodd Cyngor Sir Powys y Cynigion Drafft a fabwysiadwyd gan Bwyllgor Strategaeth ac Adnoddau’r Cyngor ar 12 Hydref 2000. Cyhoeddwyd y cynigion Drafft, gyda’r broses ymgynghori yn cynnwys hysbysiad yn y wasg leol ynghyd â llythyrau at Aelodau lleol a chynghorau cymuned perthnasol. Anfonwyd copïau o’r Cynigion Drafft hefyd at bob un o’r bobl hynny a ysgrifennodd at y Cyngor yn ystod y cyfnod ymchwilio.

1

4.4 Roedd Cynigion Drafft y Cyngor Sir yn awgrymu y dylid trosglwyddo ardal yn cynnwys Upper Green, Lower Green, Sign, Tyn-y-bryniau a’r Fron o gymuned Llanbister i gymuned Llanbadarn Fynydd ac y dylid trosglwyddo ardal yn cynnwys Porth, Byngalo Porth, Brynrhyg a Croft yr Onen o Abaty Cwmhir i Lanbadarn Fynydd. Nododd y Cynigion Drafft y ‘bydd y mân newidiadau hyn er budd llywodraeth leol fwy effeithiol a chyfleus i’r trigolion yr effeithir arnynt, heb effeithio’n ddiangen ar ymarferoldeb neu’r cydbwysedd rhwng y tair cymuned cymharol hyn y mae cyswllt agos rhyngddynt’.

4.5 Mewn ymateb i’r Cynigion Drafft derbyniwyd llythyr gan ddeiliaid Upper Green, Lower Green a Tyn-y-bryniau yn mynegi eu cysylltiadau agos â Chymuned Llanbister a’u dymuniad i aros o fewn y gymuned honno. Nododd deiliaid Sign, cyn y Cynigion Drafft eu bod am drosglwyddo i Lanbadarn Fynydd. Yn wir, mae deiliaid Sign drwy gamgymeriad wedieu cynnwys ar y gofrestr etholiadol ar gyfer Llanbadarn Fynydd ac yn cymryd rhan weithgar iawn ym materion y gymuned honno. Ni chyflwynodd deiliad Fron unrhyw sylwadau ar y Cynigion Drafft (ac ni wnaed unrhyw sylwadau yn ystod y cam cychwynnol).

4.6 Nododd deiliaid Porth, Byngalo Porth yn ystod y cyfnod yn arwain at gyhoeddi’r Cynigion Drafft eu bod o blaid trosglwyddo eu heiddo i Lanbadarn Fynydd.

4.7 Ystyriodd Cyngor Sir Powys y sylwadau a dderbyniwyd yn dilyn cyhoeddi eu Cynigion Drafft yng nghyfarfod eu Pwyllgor Strategaeth ac Adnoddau ar 13 Chwefror 2001. Yng ngoleuni’r sylwadau hyn:

PENDERFYNWYD y dylid addasu’r cynigion drafft gan lynu at y bwriad gwreiddiol i drosglwyddo eiddo rhwng Abaty Cwmhir a Llanbadarn Fynydd ond gan leihau’r nifer o eiddo i’w trosglwyddo o Lanbister i Lanbadarn Fynydd i Sign. Dylid cynnwys Fron wrth drosglwyddo o Lanbister.

5. DIFFINIO’R FFIN

5.1 Nodwyd gennym er bod cynigion Cyngor Sir Powys yn nodi’r eiddo i’w trosglwyddo, na ddiffiniwyd llinellau’r ffiniau newydd. Cadarnhaodd y Cyngor ei fod yn fodlon i’r Comisiwn ddiffinio’r ffiniau.

5.2 Cytunwyd er mwyn nodi diwygiadau i’r ffiniau y byddai angen cynnal ymweliad safle â’r ardal. Fodd bynnag, nodwyd y cyfyngiadau a oedd yn weithredol o ganlyniad i glwy’r traed a’r genau a phenderfynwyd y dylid gohirio’r ymweliad safle hyd nes y byddai’r cyfyngiadau wedi’u codi.

5.3 Yn unol â hyn, cynhaliodd swyddogion y Comisiwn, mewn cydweithrediad â’r Arolwg Ordnans, ymweliad â’r ardal ym mis Hydref 2001. O ganlyniad i’r ymweliad hwn, gwnaed cynigion gennym ar gyfer newidiadau i’r ffiniau rhwng y cymunedau (Atodiadau 1 a 2). Anfonwyd y cynigion hyn at Gyngor Sir Powys, Cyngor Cymuned Llanbadarn Fynydd, Cyngor Cymuned Llanbister, Cyngor Cymuned Abaty Cwmhir a’r trigolion perthnasol er mwyn derbyn eu sylwadau arnynt.

5.4 Mewn ymateb i’r cynigion, hysbyswyd y Comisiwn gan Gyngor Sir Powys, Cyngor Cymuned Llanbister ac un o’r trigolion eu bod yn fodlon â’r ffiniau a awgrymwyd. Yn gyffredinol roedd Cyngor Cymuned Llanbadarn Fynydd yn fodlon â’r cynnig ond roeddent yn ystyried o hyd y dylid trosglwyddo eiddo The Greens (Upper a Lower) a Tyn-y-bryniau hefyd, gyda’r Fron a Sign, o gymuned Llanbister i gymuned Llanbadarn Fynydd.

2

6. ASESIAD

6.1 Nodwyd y gefnogaeth gyffredinol tuag at y cynigion gan y Cynghorau Cymuned a’r trigolion perthnasol.

6.2 Nodwyd mai barn Cyngor Cymuned Llanbadarn Fynydd oedd y dylid trosglwyddo’r eiddo ychwanegol hefyd o Lanbister i Lanbadarn Fynydd gan fod yn rhaid i drigolion yr eiddo hyn deithio drwy Lanbadarn Fynydd i bleidleisio. Fodd bynnag, nodwyd y llythyr gan drigolion yr eiddo hyn mewn ymateb i Gynigion Drafft Cyngor Sir Powys yn mynegi eu cysylltiadau agos â Chymuned Llanbister a’u dymuniad i aros o fewn y gymuned honno.

6.3 Rydym wedi ystyried anghyfleustra’r pellter i’w deithio i’r orsaf bleidleisio gan drigolion yr eiddo ychwanegol hyn o gymharu â’r manteision o ran llywodraeth leol effeithiol yn deillio o’u hymdeimlad cryf o hunaniaeth â Chymuned Llanbister. O dan yr holl amgylchiadau, daethom i’r casgliad bod dymuniadau’r trigolion hyn i aros o fewn Cymuned Llanbister yn gorbwyso unrhyw fân anghyfleusterau a allai ddeillio o’r pellter y mae’n rhaid iddynt ei deithio i ganol y gymuned honno.

7. CYNIGION

7.1 Ystyriwyd cynigion Cyngor Sir Powys a phenderfynwyd gennym eu bod yn addas o ran sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus yn yr ardal. Rydym wedi addasu’r cynigion i ddiffinio diwygiad i’r ffin rhwng Cymuned Llanbadarn Fynydd a Chymuned Llanbister ac i ddiffinio diwygiad i’r ffin rhwng Cymuned Llanbadarn Fynydd a Chymuned Abaty Cwmhir. Yn unol â hyn, cyflwynwn y cynigion fel y’u haddaswyd, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Ceir mapiau sy’n dangos yr ardaloedd y cynhelir arolwg ohonynt yn Atodiadau 1 a 2.

8. TREFNIADAU DILYNOL

8.1 O dan Adran 54(1) (e) y Ddeddf, gall y Comisiwn wneud cynigion ar gyfer newid trefniadau etholiadol unrhyw ardal llywodraeth leol, sy’n deillio o unrhyw newid arfaethedig o ran ardaloedd llywodraeth leol.

8.2 Cynhwysir Cymuned Llanbadarn Fynydd a Chymuned Llanbister gyda’i gilydd o fewn rhanbarth etholiadol . Felly ni fydd unrhyw effaith ddilynol ar y trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Powys yn sgîl y bwriad i drosglwyddo dau eiddo o Gymuned Llanbister i Gymuned Llanbadarn Fynydd.

8.3 Cynhwysir Cymuned Abaty Cwmhir, gyda Chymunedau a Sant Harmon o fewn rhanbarth etholiadol Nantmel. Fodd bynnag, ni fydd llawer o effaith ddilynol ar ranbarthau etholiadol Nantmel a Beguildy yn sgîl y bwriad i drosglwyddo pedwar eiddo (dau ohonynt yn wag) o Gymuned Abaty Cwmhir i Gymuned Llanbadarn Fynydd, oherwydd nifer fach yr etholwyr cysylltiedig. Felly, ni chynigiwn unrhyw newid i drefniadau etholiadol Sir Powys.

8.4 Wrth ystyried yr effeithiau dilynol ar y trefniadau etholiadol ar gyfer Cymunedau Abaty Cwmhir, Llanbadarn Fynydd a Llanbister nodwyd eto nifer fach yr etholwyr cysylltiedig ac felly ni chynigiwn unrhyw newid i drefniadau etholiadol y Cynghorau Cymuned.

3

9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

9.1 Ar ôl cwblhau ein hystyriaeth o’r arolwg o’r ffiniau rhwng Cymunedau Llanbadarn Fynydd, Llanbister ac Abaty Cwmhir yn Sir Powys a chyflwyno ein hargymhellion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rydym wedi cyflawni ein rhwymedigaeth statudol o dan y Ddeddf.

9.2 Bellach cyfrifoldeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru, os cred fod hynny’n briodol, yw eu derbyn neu roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn gynnal arolwg pellach.

9.3 Dylid cyfeirio unrhyw gynrychioliadau pellach yn ymwneud â’r materion yn yr adroddiad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid eu cyflwyno cyn gynted â phosibl, ac yn sicr heb fod yn hwyrach na chwe wythnos o’r dyddiad y cyflwynir argymhellion y Comisiwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dylid cyfeirio cynrychioliadau at:

Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol 2 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ

MRS S G SMITH LLB (Cadeirydd)

J E DAVIES (Dirprwy Gadeirydd)

D H ROBERTS BSc DMS MBCS MIMgt (Aelod)

E H LEWIS BSc. DPM FRSA FCIPD (Ysgrifennydd)

Ebrill 2002

4