Cofnodion Cyfarfod O Gyngor Cymuned Aberdaron a Gynhaliwyd
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Cofnodion cyfarfod o Gyngor Cymuned Aberdaron a gynhaliwyd nos Lun, Medi 9fed 2019 yn Neuadd Y Rhiw Presennol: Y Cynghorwyr Wenda Williams, Nesta Roberts, Gwenllian Hughes Jones, Emlyn Jones, Iain Roberts, RG Williams a Dafydd Williams Yn y gadair: YCyng RJ Williams 1)Ymddiheuriadau a datgan diddordeb : Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Mari Evans, Geraint Jones a Gareth Roberts. Eglurwyd fod ebost wedi ei dderbyn gan y Cyng Sioned Gwenllian Roberts yn datgan ei bod yn ymddiswyddo o’r Cyngor oherwydd ymrwymiadau teuluol. Penderfynwyd dilyn y camau priodol i hysbysebu y sedd wag ar ward Rhoshirwaun. 2)Cyhoeddiadau'r Cadeirydd : Croesawyd y Cyng RG Williams i’r cyfarfod yn dilyn cyfnod o absenoldeb oherwydd salwch. 3)Llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar yr 8fed o Orffennaf 2019: Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd. 4) Materion yn codi o'r cofnodion i)Cae Chwarae: Adroddwyd bod difrod wedi ei achosi i’r cae chwarae dros yr haf, ynghyd a llawer o lanast wedi ei adael yno, mae’r arwydd ‘cae chwarae ar gau’ wedi diflanu yn ogystal. Penderfynwyd gofyn i Sion Hughes am bris i dynnu yr offer oddi yno ond gadael y swings ac i gyfarfod cynrhychiolaeth o’r Cyngor drafod y gwaith. ii)Cofeb y Rhyfeloedd yn Eglwys Sant Hywyn: Adroddwyd bod Sue Fogarty, ar ran Eglwys Sant Hywyn, am gyflwyno cais i’r gronfa AHNE am gyllid i adfer y gofeb. iii)Ymateb Cyngor Gwynedd i faterion ffyrdd: a)Mae’r Cyng Gwenllian Hughes Jones wedi cyfarfod yr archwiliwr priffyrdd ar y safle ac mae’r mater wedi ei drosglwyddo i’r Uned Traffig a Phrosiectau, Adran Amgylchedd Cyngor Gwynedd ac mae swyddog gwaith stryd wedi ymweld a’r safle. b)Mae y ffordd sy’n arwain i gyfeiriad Tŷ Croes Mawr wedi ei archwilio ac wedi ei chynnwys ar y rhestr waith ailwynebu dymunol – blaenoriaethir yn ôl y gyllideb. c)Mae’r gwaith barbio o Saithbont i Mynytho wedi ei gwblhau. Ch)Mae Dŵr Cymru yn ymdrin a’r broblem o ddŵr yn codi i’r ffordd ger Eglwys Bodferin. iv)Yr Eglwys Newydd: Mae aelodau Pwyllgor Cyfeillion yr Eglwys Newydd yn awyddus i gyfarfod y Cyngor er mwyn trafod y materion a godwyd mis Gorffennaf. .Penderfynwyd eu gwahodd i gyfarfod mis Hydref v)Posteri plant Ysgol Crud y Werin: Mae y Cyng Gwenlliuan Hughes Jones yn mynd I ebostio copiau o’r posteri I’r clerc er mwyn iddo archebu arwyddion maint A4 gan gwmni Designer Signs. 5) Gohebiaethau: Ni ddaeth gohebiaeth i law. 6) Cynllunio Derbyniwyd y ceisiadau canlynol yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst ac fe’u harchwilwyd gan yr aelodau ar wefan Dilyn a Darganfod Cyngor Gwynedd.Nodwyd nad oes gwrthwynebiad iddynt: C19/0726/30/LL Adeiladu modurdy domestig unllawr - Waen, Y Rhiw C19/0727/30/LL Estyniad ac addasiadau - Bay View, Y Rhiw C19/0752/30/LL Gosod 4 caban glampio ynghyd a bloc toiled a chawod i'w defnyddio gan breswylwyr Canolfan Felin Uchaf - Canolfan y Felin Uchaf, Rhoshirwaun C19/0534/30/LL Modurdy arwahan arfaethedig gyda llety uwchben (cynllun diwygiedig) - Bryn Gorwel, Aberdaron Cais C19.0419/30/LL Cais ol weithredol i osod pympiau gwresogi i ffynhonell daear masnachol, Dwyryd, Rhoshirwaun Cais C19/0705/30/LL Codi modurdy dwbl ar wahan, Bryn Hyfryd, Rhiw 7)Ariannol Derbyniadau £7,500 - praesept Taliadau Iwan Hughes: £337.72 (cyflog Awst a Medi) PAYE y clerc: £84.40 Iwan Hughes: £47.13 (stampiau) Neuadd Y Rhiw: £15 Trafodwyd cyfranu tuag at gynnal a chadw y mynwentydd lleol a phenderfywyd cyfranu fel a ganlyn: Mynwent capel Bethesda, Rhoshirwaun: £185 Mywent Capel Nebo, Y Rhiw: £185 Mynwentydd Sant Hywyn, Sant Aelrhiw a Sant Maelrhys: £185 yr un. Derbyniwyd cais am gyfraniad ariannol gan Gymdeithas Parêd Dewi Sant Pwllheli a phenderfynwyd rhoi cyfraniad o £100 8) Materion ffyrdd a llwybrau a)Llwybr Ty’n Muriau I’r Waen, Y Rhiw: Mae drain wedi gordyfu, nodwyd nad oes gan y Cyngor gyllideb ar ôl ar gyfer barbio y llwybr ond penderfynwyd anfon y gwyn ymlaen I’r Cygor Sir. b)Derbyniwyd cwyn am arwyddion sydd wedi eu gosod o flaen Y Gegin Fawr a’r Ship a’u bod yn cyfyngu ar y lle ar gyfer i geir basio eu gilydd. Penderfynwyd anfod y gwyn ymlaen i Gyngor Gwynedd. c)Nodwyd bod gwir angen symud yr organ o’r Eglwys Newydd gan ei bod yn cymeryd lle ac yno ers tua blwyddyn bellach. Ch)Tynnwyd sylw nad ydi y pridd wedi ei symud o’r fynwent na’r wal wedi ei thrwsio. Hydreir y caiff y gwaith yma ei wneud yn fuan. d)Derbyniwyd cwyn bod angen barbio ochr y ffordd rhwng Tan Fron a Thy’n Anelog – caiff y gwyn ei hanfon ymlaen at Gyngor Gwynedd. dd)Mae twll yn y ffordd ger BrynTawel,Rhoshirwaun, ger cyffordd Eglwys Bodferin. e)Nid yw perchennog ‘The Wilds’wedi cau y bwlch yn y wal er bod amod cynllunio yn datgan bod angen ei gau, adroddwyd bod giatiau yno rwan. f)Adroddwyd bod ceir yn bachu yn y garreg filltir ar y bont ym mhentref Aberdaron a bod peryg y bydd wedi ei difrodi. Penderfynwyd hysbysu yr adran AHNE. Ff)Mae Japanese Knotweed yn tyfu ar hyd ochrau yr afon yn Aberdaron, penderfynwyd hysbysu swyddogion Cyngor Gwynedd a Chyfoeth Naturiol Cymru. G)Mae tyllau yn ochr y ffordd rhwng pont Bodernabwy a chyffordd Deunant. H)Derbyniwyd cwyn bod rhai o balmentydd Pwllheli yn anaddas ar gyfer cadeiriau olwyn gan eu bod yn anwastad ac yn creu perygl o ganlyniad. Nododd y Cyng Emlyn Jones ei fod y aelod o Fforwm Mynediad Dwyfor a bod hon y gwyn sydd wedi ei derbyn a’i thrafod gan y fforwm. Fe wnaiff wneud ymholiadau er mwyn i’r gwyn gaelei phasio ymlaen i’r person cywir ar ran y Cyngor. Cynhelir y cyfarfodnesaf o’r Cyngor,Nos Lun, Hydref y 14eg am 7yh yng Nghanolfan Deunant .