Cofnodion cyfarfod o Gyngor Cymuned gynhaliwyd nos Lun, Mawrth y 9fed 2020 yn Neuadd

1)Ymddiheuriadau a datgan diddordeb : Datganodd y Cyng Geraint Jones ddiddordeb yng nghais cynllunio C20/0090/30DT 2)Cyhoeddiadau'r Cadeirydd : Nid oedd gan y Cadeirydd gyhoeddiadau 3)Llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 10fed o Chwefror 2020 : Nodwyd mai taliad am gladdu llwch yn hytrach na ail osod carreg fel a nodwyd yn y cofnodion a dderbyniwyd gan GD Roberts. Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd. 4) Materion yn codi o'r cofnodion i)Cae Chwarae: Derbyniwyd adroddiad gan y Cyng Gwenllian Hughes-Jones yn nodi fod pethau yn symud ymlaen a bod cwmni Wicksteed yn mynd i greu cynllun ar gyfer y cae ac y bydd hyn yn ddefnyddiol er mwyn cael amlinelliad o gost y cynllun. Bydd cyfarfod o Bwyllgor y Cae Chwarae yn cael ei gynnal yn fuan. Nodwyd bod angen cael golwg ar gyflwr sgert y ceffyl siglo – mae’r clerc am gysylltu gyda Sion Hughes. ii)Ymateb Cyngor i faterion ffyrdd: a)Ffordd Pencaerau: Mae diffyg cyllideb yn golygu mai dim ond rhan o’r ffordd y gellir ei hail wynebu ar hyn o bryd b)Tyllau yn ffyrdd yr ardal: Mae diffyg cyllideb yn golygu bod rhaid gweithredu ar sail blaenoriaeth risg. c) Eglwys Bodferin: Mae cais y Cyngor am arwydd ‘Araf’ wedi ei basio ymlaen i Uned Traffig a Phrosiectau Adran yr Amgylchedd. Ch)Pont y Felin, Rhoshirwaun: Gwnaed cais am wybodaeth am berchennog a rhif cofrestru y lori sydd wedi ei thrawo. Nid yw’r wybodaeth ar gael. iii)Materion yr Eglwys Newydd: Adroddwyd bod ffeil ariannol a dogfennau y Cyfeillion yn awr yn meddiant y clerc. Nid oes trysorydd ar hyn o bryd a cyn-aelodau sydd yn parhau i fod yn lofnodwyr y cyfrif banc. Oherwydd y sefyllfa yma, a’r ffaith nad oes pwyllgor a swyddogion fel y cyfryw ar hyn o bryd, penderfynwyd mai gwell fyddai i’r arian gael ei roi i ofal y Cyngor a’i gadw ar wahan i weddill arian y Cyngor ac y dylid cynnal cyfarfod cyhoeddus cyn diwedd y flwyddyn i geisio denu aelodau newydd i ymuno â’r Cyfeillion. Mae’r clerc am wneud ymholiadau yn y banc, Nodwyd bod £15,266.87 yng nghyfrif y Cyfeillion. Derbyniwyd ymateb gan Unllais Cymru yn nodi mai cyfrifoldeb y Cyngor ydi cynnal a chadw yr eglwys a nododd y cyfreithiwr na allai roi barn ar gyflwr yr eglwys ond y dylid cysylltu a chwmni yswyriant y Cyngor er mwyn trafod cyflwr y to. Mynegwyd barn nad oes llechi wedi syrthio oddi ar y to yn ddiweddar. Nodwyd bod y pridd sydd wedi ei adael yn y fynwent yn dilyn agor beddau yn edrych yn flêr a sicrhawyd y bydd yn cael ei symud o’r fynwent pan fydd y ddaear wedi sychu. Penderfynwyd gofyn i RO Jones gael golwg ar ddrws blaen yr eglwys gan ei bod yn anodd I’w agor. iv)Cofeb y Rhyfeloedd: Nid oes pris wedi ei dderbyn hyd yma ar gyfer adfer y llythrennau plwm hyd yma. v)Rhyngrwyd Aberdaron – Derbyniwyd adroddiad o gyfarfod gynhaliwyd yn Aberdaron ar y 25ain o Chwefror yn cyflwyno cynllun newydd ar gyfer anheddleoedd sydd yn derbyn wi-fi araf yn y gymuned. Mae cynnig i breswylwyr yr anheddau yma ymuno â’r cynllun sydd yn cael ei arwain gan Menter Môn. Penderfynwyd bod angen hyrwyddo y cynllun yn yr ardal leol trwy bosteri ac erthygl yn y papur lleol – mae’r clerc am drefnu. vi)Ceisiadau cynllunio – ymateb Dafydd Elis-Thomas: Nid oes ymateb wedi ei dderbyn hyd yma. vii)Torri gwrychoedd – ymateb Cyngor Gwynedd: Nid oes ateb wedi ei dderbyn hyd yma. viii)Gwifrau yn ardal Y Rhiw: Nid oes ateb wedi ei dderbyn hyd yma. ix)Meddygfa Rhydbach – derbyniwyd ymateb gan reolwr y feddygfa yn egluro na allai ef na meddyg fynychu cyfarfod o’r Cyngor ond gwahoddwyd aelodau y Cyngor Cymuned I gyfarfod yn y feddygfa yn ystod amser cinio. Penderfynwyd anfon y gwyn ymlaen at Vaughan Gething AC, Gweinidog Iechyd y Cynulliad. 5) Gohebiaethau i)Adnewyddu polisi yswyriant y Cyngor: Penderfynwyd adnewyddu y polisi, £1345.86 ydi’r ffi eleni. 6) Cynllunio Cais C20/0147/30/LL: Dymchwel bloc toiledau, Glan yr Afon, Anelog - cefnogi Cais C20/0090/30/DT: Estyniad ochr deulawr ac estyniad unllawr cefn yn cynnwys balconi, Bryn Deufor, Aberdaron - cefnogi Cais C20/0062/30/LL: Dymchwel adeilad allannol cerrig ac estyniad ochr presennol i ganiatau adeiladu estyniad deulawr ynghyd ag adeiladu storfa amaethyddol yn yr iard gefn, 1 Lon Las, Y Rhiw - cefnogi ond dymunir tynnu sylw nad oes defnydd amaethyddol i'r eiddo yma felly gwrthwynebir adeiladu er storfa er mwyn defnydd amaethyddol Cais C20/0100/30/DT Gosod to llechi yn lle to fflat i'r cefn a ffenestri gromen to, Gernant, Aberdaron - cefnogi 7)Cytundeb torri gwellt y fynwent: Derbyniwyd pris o £1,920 gan Glyn Jones, Gerddi Gwell, derbyniwyd y pris. 8)Apeliadau am gymorth ariannol: Neuaddau a chanolfanau yr ardal. Penderfynwyd rhoi cyfraniad o £200 yr un i Ganolfan Deunant, Neuadd Y Rhiw a Neuadd Rhoshirwaun Eisteddfod y Pasg: Penderfynwyd cyfranu £100 Grwp Mynediad Dwyfor: Penderfynwyd cyfranu £50 9)Ariannol Derbyniwyd adroddiad ar gyfrifon y Cyngor a chadarnhwayd bod y taliadau a’r derbyniadau o fewn terfynau y gyllideb a benodwyd. ii)Derbyniadau RO Jones : £220 (claddedigaeth y diw Donald Roberts a defnydd o’r eglwys) iii)Taliadau Awdurdodwyd y taliadau canlynol: Iwan Hughes:£168.86 Paye:£42.20 Paye:£42.20 (siec mis Hydref heb glirio) Unllais Cymru: £184 (aelodaeth) Iwan Hughes:£30.64 (inc a stampiau) OV Jones: £50 (glanhau yr eglwys) Neuadd Y Rhiw; £15 (cyfarfod) 10) Materion ffyrdd a llwybrau i)Mae cynlluniau ar droed i agor Sarn y Plas, Y Rhiw i'r cyhoedd (cartref RS Thomas). Penderfynwyd gofyn i Gyngor Gwynedd os oes posib rho arwydd 'Treheli yn unig' ar y gyffordd adeg hynny. Ar hyn o bryd mae arwydd yno yn cyfeirio at 'Treheli a Sarn y Plas' ii)Mae cais wedi ei wneud i lanhau y gwterydd yn gyffredinol yn yr ardal yn dilyn y tywydd gwlyb diweddar. iii)Mae dwr yn sefyll ar ochr y ffordd ger Blawdty. iv)Gwnaed cais i farbio ochr y ffordd ar ochr dde y ffordd wrth ddod o gyfeiriad neuadd Rhoshirwaun ac ar y tro i'r dde i gyfeiriad Aerdaron er mwyn hwyluso gwelediad. viii)Mae cwyn bod coeden yn gwyro i'r ffordd ger Bryn Du, Anelog v)Gwnaed cais i farbio y ddwy ochr i'r ffordd o Ty'n Anelog at Ty Tan Fron. vi)Tynnwyd sylw at y gwaith da mae ymatebwyr cyntaf yn ei wneud yn yr ardal a byddai yn ddymunol gwneud cyfraniad ariannol tuag at eu gwaith. Penderfynwyd holi ynghylch a’r modd mae’r gwasanaeth yn cael ei ariannu. Nodwyd hefyd bod angen trefnu hyfforddiant diffribilliwr yn yr ardal. vii)Adroddwyd bod y gwaith ar y ffordd i Borth Meudwy yn dechrau a rhagwelir y bydd wedi ei gwblhau mewn ychydig wythnosau. viii)Derbyniwyd ymateb gan Gyfoeth Naturiol Cymru ynghylch yr afon yn Aberdaron fel a ganlyn: Yn dilyn archwiliad, darganfuwyd fod y graean yn cronni ochr i fyny a lawr o’r bont, mae peth wedi setlo o dan y bont ond heb cael effaith ar y llif ar hyn y bryd, ni fyddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud unrhyw waith o dan y bont – byddai hyn yn cael ei wneud o dan dyletswyddau Adran Priffyrdd. Fodd bynnag, yn ystod archwiliad asedau, bydd CNC yn parhau i fonitro’r sefyllfa Wal gynnal – mae’r ased yma yn cael ei archwilio ar rhaglen pob 6 mis – yn dilyn stormydd diweddar mae arwyddion bod gwely’r sianel wedi bod yn erydu / golchi i ffwrdd mewn llifogydd ac mae’n ymddangos ei fod yn achosi i’r wal gynnal breifat gael ei thanseilio rhywfaint oherwydd symud yn y carreg. Yn hanesyddol, gwnaeth rhagflaenwyr CNC waith atgyweirio ar y wal i leihau erydiad, mae unrhyw waith a gyflawnwyd yn y gorffennol ar y wal yn cael ei amsugno i deitl perchennog y tir sy’n bennaf gyfrifol am gynnal a chadw. Felly, gan mai wal breifat yw hon, nid oes gan CNC unryw gynlluniau ar gyfer gwneud unrhyw waith adfer, ond bydd yn parhau i fonitro wrth gwneud archwiliad asedau. ix)Gwnaed ymholiad ynglyn a pa lwybr ydi yr un swyddogol i ben Mynydd Ystum – bydd y clerc yn holi adran llwybrau Cyngor Gwynedd. x)Adroddwyd bod y gôst o gynnal band byd eang y pentref yn Aberdaron tua £1,600 y flwyddyn a gofyna y Grwp Twristiaeth os y gwnaiff y Cyngor Cymuned roi cyfraniad. Cytunwyd mewn egwyddor y bddai y Cyngor yn talu oddeutu hanner y gôst ond bydd angen cais ysgrifenedig gan y Grwp Twristiaeth cyn ymrwymo. xi)Mae angen gofyn i’r Adran Forwrol lanhau y Prom yn Aberdaron. xii)Tynnwyd sylw bod angen barbio y ffordd ger Aberuchaf yn – penderfynwyd anfod y gwyn ymlaen at Gyngor Cymuned xiii)Tynnwyd sylw bod tyllau yn y ffordd ger tafarn Glyn y Weddw yn a bod fan las wedi ei pharcio mewn safle anaddas rhwng yr ysgol a thro’r efail yn llanbedrog – penderfynwyd anfon y gwyn at Gyngor Cymuned Llanbedrog.

Cynhelir y cyfarfod nesaf o’r Cyngor yng Nghanolfan Deunant, nos Lun, Ebrill y 6ed