Cofnodion cyfarfod o Gyngor Cymuned a gynhaliwyd nos Lun, Mehefin 17ain 2019 yng Nghanolfan Deunant

Presennol: Y Cynghorwyr Emlyn Jones, Nesta Roberts, Wenda Williams, Mari Evans, Gwenllian Hughes Jones, Dafydd Williams, Iain Roberts a Geraint Jones. 1)Ymddiheuriadau a datgan diddordeb: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cyng Sioned Gwenllian Roberts. 2)Cyhoeddiadau'r Cadeirydd : Roedd y Cyngor yn falch o glywed fod y Cyng RG Williams yn parhau i wella yn ysbyty Bryn Beryl. 3)Llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar yr 13eg o Fai 2019: Oherwydd ymrwymiadau eraill nid yw y Cyng Sioned Gwenllian Roberts yn teimlo ei bod mewn sefyllfa i dderbyn swydd Cadeirydd y Cyngor. Cynigwyd, eilwyd ac ar bleidlais y mwyafrif etholwyd y Cyng Robert Williams yn Gadeirydd am y flwyddyn 2019-20. 4) Materion yn codi o'r cofnodion i)Cae Chwarae: Adroddwyd bod plant yn dal i ddefnyddio y cae chwarae er bod arwydd amlwg yn datgan ei fod ar gau. Penderfynwyd gofyn i John Gwynfor Jones os fedr o roi clampiau i ddal y paneli ffens yn sownd i’w gilydd fel nad oes neb yn gallu gwthio rhyngddynt. Derbyniwyd adroddiadau bod y safle yn flêr a bod y biniau sbwriel yn orlawn. ii)Cofeb y Rhyfeloedd yn Eglwys Sant Hywyn: Derbyniwyd pris o £646.30 gan Meic Tanner, Llechen Llŷn am ail wneud yr holl ysgrifen ar y gofeb. Mae y pris wedi ei anfon at y Parch Janet Fletcher ac mae’r clerc yn aros am ymateb ganddi. iii)Arolwg o’r fynwent: Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf. 5) Gohebiaethau i)Llythyr gan Gyngor parthed toiledau cyhoeddus: Derbyniwyd cytundeb cynnal y toiledau cyhoeddus ar gyfer y flwyddyn 2019-21 – penderfynwyd derbyn y gytundeb a’i harwyddo. Bydd Cyngor Gwynedd yn anfon anfoneb yn dilyn derbyn copi o’r gytundeb, bydd angen i’r Cyngor Cymuned anfonebu y Grwp Twristiaeth am hanner y gôst o £2,000. 6) Cynllunio Cais C19/0433/30/LL Estyniad unllawr, Conion Ganol, – cefnogi Cais C34/30/LL Modurdy arwahan arfaethedig gyda llety uwchben, Bryn Gorwel, Y Rhiw - cefnogi 7)Ariannol Archwiliad mewnol i gyfrifon y Cyngor: Derbyniwyd adroddiad yr archwiliwr mewnol ac adroddwyd ar y canfyddiadau sef y gellir datgan sicrwydd yn y canfyddiadau gyda’r argymhellion bod y cyngor yn rhoi sylw i’r risgiau canlynol: i)Diffyg tryloywder yn deillio o gofrestr o fuddianau aelodau heb ei gynnwys yn electronig ar y wefan: Nid yw aelodau y Cyngor yn fodlon datgan eu buddianau yn gyhoeddus, ond yn cydnabod bod rheidrwydd iddynt ddatgan diddordeb mewn materion ble mae ganddynt fuddiant ariannol ac yn gwneud hynny bob tro mae angen. ii)Diffyg cofnod o benderfyniad aelodau unigol i dderbyn neu wrthod cydnabyddiaeth ariannol: Derbyniwyd y sylw, er nad oes unrhyw aelod wedi nag yn bwriadu derbyn cydnabyddiaeth ariannol, bydd y clerc yn sicrhau bod hyn yn cael ei nodi. Mae’r hysbysiad archwiliad wedi eu gosod yn yr hysbysfyrddau lleol a bydd y Ffurflen Flynyddol a’r dogfennau angenrheidiol yn cael eu hanfon i’r archwiliwr allanol erbyn y 1af o Orffennaf. Derbyniadau GD Roberts: £210 (gosod cerrig bed y diw Margaret Thomas, Olwen Edmunds Jones a John Elwyn Jones) Taliadau Iwan Hughes: £168.86 (cyflog) PAYE y clerc: £42.20 Iwan Hughes: £14.64 (stampiau) a £29 (inc) Designer Signs North Ltd: £52.62 (arwydd cae chwarae) John Tudor: £120 (paratoi paye) Huw Williams: £681.50 (barbio llwybrau) Terry Williams: £78 (trwsio to yr eglwys). 8) Materion ffyrdd a llwybrau i)Mae ffynnon ddwr wedi ei gosod ger y toiledau cyhoeddus yn Aberdaron ond nid oes arwydd ‘dwr yfed’ wedi ei osod er mwyn i bawb ddeall beth ydi pwrpas y ffynnon. ii)Mae pryder bod beics yn mynd ar gyflymder yn yr ardal ac yn creu perygl. ii)Mae arwydd Porthor ger y bont yn Aberdaron yn pwyntio y ffordd anghywir. iii)Mae tyllau yn y ffordd ger mynedfa Morfa Mawr. iv)Mae plant ysgol Crud y Werin wedi sylwi nad oes arwyddion yn y pentref yn rhybuddio pobl i roi sbwriel mewn bin neu fydna nhw adref gyda nhw ac mae’r ysgol yn awyddus i greu cystadleuaeth er mwyn i’r plant gynllunio poster gyda’r goreuon i gael eu argraffu ar arwydd A5 er mwy eu gosod yn yr ardal. Penderfynodd y Cyngor y byddai’r aelodau yn fodlon beirniadu y posteri, mae’r Cyngor yn fodlon ariannu yr arwyddion. v)Adroddwyd bod mieri yn tyfu o eiddo gerllaw y ger eglwys Bodferin sydd yn rhwystro gwelediad modurwyr. Penderfynwyd hysbysu yr adran priffyrdd. vi)Mae carreg ar y bont ym mhentref Aberdaron, ar y chwith wrth deithio o gyfeiriad Spar wedi ei tharo gan lori ers misoedd a bod perygl iddi syrthio. vii)Nid yw’r twll ger Howdens a DJ Fruits ar stad ddiwydiannol byth wedi ei gau. viii)Tynnwyd sylw at y ddwy garafan ym Mryn Llan, Rhoshirwaun a’r garafan ger Derlwyn, Rhoshirwaun, nid oes ymateb wedi ei dderbyn gan yr adran gynllunio hyd yma ond tybir eu bod yn anawdurdodedig. Hefyd mae shed wedi ei adeiladu yn , Aberdaron heb ganiatad cynllunio yn ȏl pob tebyg. Penderfynwyd holi yr adran gynllunio ynglyn a’r materion yma.

Cynhelir y cyfarfod nesaf o’r Cyngor yn Neuadd Rhoshirwaun, nos Lun yr 8fed o Orffennaf.