Tu Hwnt I'r Llwybr Tynnu
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Gweithio gyda’n gilydd i gyflawni Tu hwnt i’r mwy Llwybr Tynnu Strategaeth Ddeng Mlynedd Glandwˆr Cymru Glandwˆr Cymru Tu hwnt i’r Llwybr Tynnu 1 Llun y clawr: Safle Treftadaeth y Byd Pontcysyllte a Chamlas Llangollen Cysylltu â ni E: [email protected] Glandwˆr Cymru - Yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru Y Lanfa Gofilon Y Fenni Sir Fynwy NP7 9NY /canalrivertrust @glandwrcymru Ewch i’n hysbysfwrdd i gael y newyddion diweddaraf: Canalrivertrust.org.uk/GlandwrCymru Cymryd rhan: Gweithio gyda’n gilydd i gyflawni mwy Hawlfraint © Glandwˆr r Cymru - Yr Ymddiried- olaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru. 1 Glandwˆr Cymru Tu hwnt i’r Llwybr Tynnu Rhif elusen 1146792. Mai 2014 Cynnwys Croeso 3 Pwy ydym ni? 4 Yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd – Ein Blaenoriaethau Strategol 5 Dyfrffyrdd yng Nghymru 7 Dyfrffyrdd yng Nghymru – Rhan o Rwydwaith Ehangach 9 Dyfrffyrdd yng Nghymru – Ein Camlesi 11 Gweithio gyda’n Gilydd i Gyflawni Mwy – Ein Strategaeth Ddeng Mlynedd 13 Synergedd Polisi Cyhoeddus 14 Glandwˆr Cymru – Ein Blaenoriaethau Strategol 15 Cyflawni Mwy dros Gymru – Rhoi Blaenoriaethau ar Waith 19 Ein syniad – Camlas Mynwy ac Aberhonddu, Aberhonddu i Gasnewydd 21 Ein syniad - Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte 23 Ein syniad – Strategaeth Rheoli Cadwraeth Camlas Maldwyn 25 Gweithio gyda Phobl Cymru 27 Partneriaeth Cymru Gyfan 29 “ Dyfrffyrdd bywiol i harddu ein byd ac i lonni’r enaid” Yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, 2014 Glandwˆr Cymru Tu hwnt i’r Llwybr Tynnu 2 Croeso Yn sgil sefydlu’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yn 2012, sef y drydedd elusen ar ddeg o ran maint yn y DU a’r fenter gymdeithasol fwyaf, mae gan Gymru gyfle i ddatblygu cysylltiad agosach â’i dyfrffyrdd. Mae sefydlu Glandwˆr Cymru - Yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru, a Phartneriaeth Cymru Gyfan sy’n cynnwys aelodau o’r sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector, wedi ein galluogi i ystyried sut y gellir datblygu’r cysylltiadau hyn. Fel cadeirydd Glandwˆr Cymru, rwyf wedi mynd ati gyda’r aelodau i gyfarfod â’r gymdeithas ddinesig yng Nghymru yn ystod y broses o ddatblygu’r Strategaeth hon ar gyfer dyfrffyrdd Cymru. Er nad yw’r dyfrffyrdd hyn yn cludo nwyddau mwyach, credwn y gallant barhau i wneud cyfraniad allweddol at fynd i’r afael â heriau a chyfleoedd y Gymru ôl-ddiwydiannol. Ledled y DU, Ewrop a thu hwnt, mae dadeni’n digwydd i ddyfrffyrdd mewnol. Yng Nghymru, roedd dathliadau pen-blwydd 200 mlynedd Camlas Mynwy ac Aberhonddu yn sbardun i uno cymunedau ac awdurdodau lleol ar hyd y gamlas, ac enillwyd Gwobr Dadeni Dyfrffyrdd y DU yn sgil hynny. Ni fydd potensial gwirioneddol ein dyfrffyrdd na’u parhad hirdymor yn cael eu sicrhau nes bod cymunedau ledled Cymru yn credu eu bod yn berthnasol i’w bywydau heddiw ac yfory. Mae’r strategaeth ddeng mlynedd hon yn rhoi enghreifftiau o sut y gallwn gyrraedd “Tu Hwnt i’r Llwybr Tynnu” i wella lles cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y cymunedau hyn. Rydym yn buddsoddi yn y dyfodol, ac mae mwy a mwy o bobl yn dod yn rhan o weithgareddau’r Ymddiriedolaeth. Bydd Glandwˆr Cymru yn ceisio ymgysylltu a chydweithio’n llawn â Llywodraeth Cymru a phobl Cymru er mwyn gwireddu’n gweledigaeth gyffredin, sef dyfodol iach, llewyrchus a chynaliadwy. Rydym yn buddsoddi yn nyrffrydd Cymru, ac mae mwy a mwy o bobl Cymru’n cymryd rhan yn ymarferol yn yr Ymddiriedolaeth drwy wirfoddoli mewn cymunedau ledled y wlad. Gyda’ch cymorth chi, rydym yn credu y bydd dyfrffyrdd Cymru yn llefydd bywiog a chynaliadwy ymhen deng mlynedd, gan wneud cyfraniad allweddol at sicrhau lles cymunedau ledled Cymru. Dr Mark Lang Cadeirydd, Glandwˆr Cymru 3 Glandwˆr Cymru Tu hwnt i’r Llwybr Tynnu Pwy ydym ni? Glandwˆr Cymru yw’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru. Ni yw perchnogion a’r sawl sy’n gofalu am Gamlesi Llangollen, Maldwyn, Mynwy ac Aberhonddu ac Abertawe. Mae hyn yn cynnwys perchenogaeth lawn o un o’r tri Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru, Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte, a rhan o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon. Dyma’r tro cyntaf mewn trigain mlynedd i bob un o’r camlesi beidio â chael eu rheoli gan Lywodraeth y DU, ac mae hyn yn cynnig cyfleoedd heb eu hail i Gymru nid yn unig i sicrhau bod potensial ein dyfrffyrdd ein hunain yn cael ei wireddu’n llawn, ond hefyd er mwyn gwireddu potensial holl ddyfrffyrdd ac ardaloedd dwˆr Cymru. Mae Glandwˆr Cymru yn cael ei gefnogi gan ein Partneriaeth Cymru Gyfan sy’n cynnwys gwirfoddolwyr o sefydliadau’r sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector gydag amrywiaeth o fuddiannau a sgiliau proffesiynol, cymunedol a rhai sy’n ymwneud â dyfrffyrdd. Ymysg y sgiliau hyn mae cynllunio strategol, ymgysylltu â’r gymuned, gwaith sector gwirfoddol, twristiaeth, busnes, iechyd ac addysg. Rôl y bartneriaeth yw hyrwyddo gwerth cyfredol ein dyfrffyrdd a’u potensial i’r dyfodol i bobl a Llywodraeth Cymru. Mae’r Bartneriaeth yn gweithio ochr yn ochr ag Andrew Stumpf, Pennaeth Cymru a’i dîm. Gyda’n gilydd, rydym yn cyfuno dealltwriaeth, arbenigedd ac adnoddau, gyda brwdfrydedd i weld dyfrffyrdd yn gweddnewid llefydd ac yn cyfoethogi bywydau yng Nghymru fel y maent wedi’i wneud mewn mannau eraill. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr yng Ngogledd Cymru a’r Gororau, De Cymru a’r Hafren a Phartneriaethau Amgueddfeydd ac Atyniadau yn ogystal â Chymdeithasau ac Ymddiriedolaethau Camlesi sydd wedi gwneud cymaint i gadw’n dyfrffyrdd yn fyw, ac sy’n parhau i wneud hynny. Rydym yn chwilio’n barhaus am gysylltiadau newydd a buddiol ac mae ein partneriaethau yn y trydydd sector a’r sectorau cyhoeddus a phreifat yn parhau i dyfu. Darllenwch fwy am Aelodau ein Partneriaeth ar ddiwedd y ddogfen hon a gweld enghreifftiau o’n gwaith yn www.canalrivertrust.org.uk/ noticeboards/all-wales-waterways/whos-who Mae’r cynllun hwn yn deillio o’n hymgynghoriad diweddar gyda rhanddeiliaid yng Nghymru, ac mae’r cynigion sydd ynddo yn adlewyrchu’r trafodaethau hynny. Glandwˆr Cymru Beyond the Towpath 4 Yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd Ein Blaenoriaethau Strategol Mae bron 50% o boblogaeth Cymru Mae’n rhaid i’r Ymddiriedolaeth newydd a Lloegr yn byw o fewn pum milltir ymgysylltu’n llawn a gweithio gydag i’n rhwydwaith o gamlesi, afonydd ymwelwyr, defnyddwyr, cymdogion, a llwybrau tynnu. partneriaid busnes ac awdurdodau lleol, yn cynnwys cynghorau plwyf, tref Mae’r rhwydwaith yn cael ei a chymuned os yw am wireddu gwir werthfawrogi gan filiynau botensial y cam-lesia a’r afonydd a o ymwelwyr, cymdogion a sicrhau eu bod yn goroesi am y tymor hir. chymunedau ond yn y gorffennol mae llawer o bobl wedi ei chael Ein blaenoriaeth yw ehangu apêl yn anodd bod yn rhan o’r gwaith o ein dyfrffyrdd heddiw a’u diogelu ar lywio eu dyfodol. Rydym yn bwriadu gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r newid hynny. Ymddiriedolaeth wedi rhestru chwe blaenoriaeth strategol i geisio datgloi’r potensial hwn. Dyfrffyrdd Adnoddau Llefydd Mae dyfrffyrdd byw yn gweddnewid llefydd a chyfoethogi Adnoddau Sicrhau digon o adnoddau, bywydau. a’u rheoli’n effeithlon, ar gyfer Dylanwad Ffyniant cynaliadwyedd hirdymor y dyfrffyrdd sydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth. Pobl Dylanwad Bod yn bartner uchel ei barch ac yn warcheidwad yr ymddiriedir ynddo gyda dylanwad a chyfrifoldeb cynyddol. Pobl Cyfoethogi bywydau pobl. Llefydd Darparu llefydd arbennig y mae pobl yn eu gwerthfawrogi, Dyfrffyrdd Diogelu a gwella hygyrchedd, amgylcheddau a llwybrau cynaliadwy. defnyddioldeb a gwytnwch ein hasedau a’u treftadaeth, i bobl eu defnyddio a’u Ffyniant Sicrhau manteision mwynhau, nawr ac yn y dyfodol. economaidd i gymunedau lleol a’r genedl. 5 Glandwˆr Cymru Tu hwnt i’r Llwybr Tynnu …felly sut rydym yn gwneud hynny yng Nghymru? Swyddogaeth Glandwˆr Cymru yw arwyddocâd rhyngwladol, ond hefyd cyflawni’r chwe blaenoriaeth strategol i’r gwaith blaengar sy’n digwydd hyn yng Nghymru er budd cymunedau yng Nghymru o ran creu Cymru, economi Cymru a’r dyfrffyrdd dyfodol cynaliadwy. eu hunain. Rydym am ysbrydoli pobl Cymru i gysylltu â’n camlesi a’n hafonydd drwy annog pobl sydd â diddordeb yn ein gwaith i gyfrannu ato, estyn allan i’r rhai nad ydynt wedi darganfod y trysor cenedlaethol hwn hyd yma a sicrhau diogelwch hirdymor ein camlesi drwy sicrhau eu bod yn rhan fwy canolog o fywyd cenedlaethol Cymru. Mae gennym uchelgais ar gyfer Cymru sy’n gweddu, nid yn unig i dreftadaeth adeiledig, gymdeithasol a naturiol ein camlesi sydd o “Tu hwnt i’r Llwybr Tynnu. Gweithio gyda’n gilydd i greu dyfrffyrdd gyda’r gorau yn y byd i Gymru” Gofal dynamig o ddyfrffyrdd o’r radd flaenaf sy’n sicrhau manteision pendant i Gymru ac yn sicrhau lles ei phobl. Partneriaeth Dyfrffyrdd Cymru Gyfan Glandwˆr Cymru Beyond the Towpath 6 Dyfrffyrdd yng Nghymru Mae yna gysylltiad agos rhwng camlesi Cymru a’i threfi ôl-ddiwydiannol. Fodd bynnag, fel sy’n wir am rannau eraill o’r DU, mae gan y dyfrffyrdd sy’n eiddo i Glandwˆr Cymru ac yn cael eu rheoli ganddo, ynghyd â’r rhai sydd ym meddiant ac yn cael eu rheoli gan eraill, y potensial i wneud cyfraniad sylweddol at les Cymru. Mae hyn yn arbennig o wir am yr ardaloedd hynny sydd wedi dioddef waethaf yn economaidd ac yn gymdeithasol yn sgil dad-ddiwydiannu, sy’n rhannu’r un hanes â’r dyfrffyrdd. Mae defnydd helaeth eisoes yn cael ei wneud o seilwaith camlesi Cymru, ac mae 96% o’r gweithgarwch hwn yn digwydd ar y llwybrau tynnu, sy’n hygyrch i bawb. Mae llwybrau tynnu yn wastad, sy’n golygu eu bod ymhlith y gofodau agored mwyaf hygyrch mewn ardaloedd trefol a gwledig.