Deddf Darlledu 1990 Broadcasting Act 1990

Cyflwynir Adroddiad Blynyddol The Annual Report for S4C i’r yn sgîl Paragraff 13(1) is presented to Parliament pursuant i Atodlen 6 Deddf Darlledu 1990 (c.42). to Paragraph 13(1) to Schedule 6 of the Broadcasting Act 1990 (c.42). Adroddiad Blynyddol S4C 2007 S4C Annual Report for 2007 11 Mehefin 2008 11 June 2008

04 Cyflwyniad y Cadeirydd Introduction by the Chair Cynnwys 10 Aelodau Awdurdod S4C Members of the 16 Strwythur Trefniadol Organisational Structure Contents 18 Rôl Awdurdod S4C The Role of the S4C Authority 20 Adroddiad y Prif Weithredwr Chief Executive’s Report 24 Y Gwasanaeth Rhaglenni The Programme Service 40 Gwasanaethau Ychwanegol Additional Services 42 Cyfathrebu Communications 44 Hyfforddiant a Datblygu Training & Development 48 Cynllun Corfforaethol 2007 Corporate Plan 2007 54 Cydymffurfiaeth Rhaglenni Programme Compliance 60 Ymchwil Research 68 Gwobrau Awards

Tablau Tables

52 Targedau a Chanlyniadau Service Targets Gwasanaeth 2007 & Results 2007 64 Cyfran a Chyrhaeddiad 2007 Share and Reach 2007 65 Gwerthfawrogiad o Raglenni Appreciation of Programmes 66 30 Rhaglen Uchaf Top 30 Programmes (Cymraeg a Saesneg) (Welsh and English)

2007 Adroddiad Blynyddol Annual Report Cyflwyniad y Cadeirydd

 Introduction by the Chair

John Walter Jones

 Ar nos Iau Tachwedd 1af 1982 croesawodd Owen Edwards, Prif Cyflwyniad Weithredwr y sianel ni’r gwylwyr i S4C am y tro cyntaf. Chwarter canrif yn ddiweddarach yr un yw’r croeso, ac y mae bellach yn ymestyn ymhell y Cadeirydd tu hwnt i ffiniau Cymru, ac yn ystod Tachwedd 2007 cafwyd cyfle i nodi datblygiad yr hyn a ddechreuodd fel arbrawf ac sydd bellach yn rhan o ecoleg darlledu cyhoeddus yng Nghymru. Cymerwch gam yn ôl a cheisiwch ddychmygu Cymru a darlledu Cymraeg heb S4C—ydi, mae yn anodd os nad yn amhosibl.

John Walter Jones Aeth llawer o ddŵr dan y bont yn ystod y chwarter canrif, a daeth ton ar ôl ton o newid i natur darlledu. Nid yw’r gwylwyr yn teimlo dyletswydd i wylio S4C fel yr oeddent 25 mlynedd yn ôl. Heddiw mae S4C yn cystadlu gyda channoedd o sianeli eraill am eu teyrngarwch. Ond yr hyn sydd yn dal yn unigryw yw y ffaith mai’r briod iaith o ran cysylltu â’r gynulleidfa yw’r Gymraeg. Heb na gorfodaeth na gofyn deddfwriaethol mae S4C wedi chwarae rhan aruthrol yn natblygiad yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru ac mae yn gwbl briodol fy mod i yn cofnodi ein diolch ni oll fel gwylwyr i bawb sydd wedi cyfrannu at, a galluogi S4C i wneud hyn. Ar bob cyfri mynegwch farn ar gynnwys a natur rhaglenni—mae hynny yn beth iach iawn, ond fe ofynnaf eto: sut byddai pethau heb S4C?

Gwahanol yn sicr yw un ateb. Mae S4C wedi bod yn newid yn gyson. Dyw sefyll yn llonydd ddim yn opsiwn. A newid fydd hanes y sianel i’r dyfodol heb os. Mae dau newid mawr ar y gorwel: datblygiadau o ran darpariaeth i blant a phobl ifanc, a’r newid o’r gwasanaeth analog i’r oes ddigidol. Y naill yw y rheswm am y llall—mae’r oes ddigidol yn rhoi cyfle unigryw i ni rymuso ein darpariaeth i garfan holl bwysig o gynulleidfa heddiw fydd yn gonglfaen cynulleidfa fory gobeithio. Wedi i’r Awdurdod ymgynghori yn helaeth yn ystod 2007 ar y bwriadau o ran gwasanaeth i blant a phobl ifanc, braf oedd derbyn unfrydedd barn ar y syniadau. Mae’n rhaid i’r gwasanaeth yma lwyddo. Mae yn wasanaeth sydd â’r potensial i gael effaith enfawr ar ddyfodol yr iaith Gymraeg. Gallwn ymfalchïo fod S4C unwaith eto yn flaengar ei chyfraniad i ddyfodol y Gymraeg.

Yn wahanol i ddarlledwyr mewn ieithoedd mwyafrifol, mae’n amhosib i ddarlledwr mewn iaith frodorol fynd allan i brynu rhaglenni gwreiddiol. Rhaid eu cynhyrchu yn lleol. Ac i lwyddo, rydym yn ddibynnol ar egni, gweledigaeth ac ymroddiad pawb sydd yn cyflawni ein hanghenion. Mae nifer y gwobrau a ddaeth i ran rhaglenni’r sianel yn tystio i allu’r rhai sy’n cynhyrchu