GOLYGYDD CYNNWYS ADLONIANT Cyflwyno

Cefndir Sefydlwyd Sianel Pedwar Cymru gan Ddeddfau Darlledu 1980/1981 i ddarparu un gwasanaeth teledu Cymraeg cynhwysfawr. Aeth ar yr awyr gyntaf ym mis Tachwedd 1982. Darlledwr sy’n comisiynu yw S4C, yn hytrach nag un sy’n cynhyrchu rhaglenni, gan greu swyddi a hyrwyddo’r economi leol ar draws Cymru. Ei amcan corfforaethol yw darparu gwasanaeth teledu Cymraeg cynhwysfawr, o safon uchel, sy’n adlewyrchu a chyfoethogi bywyd Cymru. Mae ganddi staff o 185 sydd wedi eu lleoli yng Nghaerdydd yn bennaf.

Mae’r gwasanaeth y mae S4C wedi ei ddarlledu ar analog ers 1982 yn cynnwys cyfartaledd o 37 awr yr wythnos yn Gymraeg. Darperir 10 o’r oriau hyn gan y BBC o’r drwydded deledu, gan gydymffurfio felly â gofynion Deddf Ddarlledu 1990. Mae gweddill cynnyrch Cymraeg S4C yn cael ei gomisiynu gan gynhyrchwyr annibynnol, gan gynnwys HTV. Mae gan S4C ddyletswydd statudol i ddarlledu rhaglenni Cymraeg yn bennaf yn ystod yr oriau brig (18:30 – 21:30). Yn ystod gweddill amserlen gwasanaeth analog S4C darlledir rhaglenni Saesneg ac mae dros 70% o gynnyrch y sianel honno yn cael ei ddarlledu ar S4C, fel arfer ar amserau gwahanol i’r rhai gwreiddiol. Mae’r holl gynnyrch Cymraeg a ddangosir ar analog hefyd yn cael ei ddangos yr un pryd ar S4C Digidol.

Lansiwyd S4C Digidol - sy’n wasanaeth darlledu cyhoeddus - yn 1998 ac mae’n darparu oddeutu 80 awr yr wythnos o raglenni Cymraeg. Mae’r oriau ychwanegol yn cynnwys amrywiaeth o raglenni newydd, sylw estynedig i ddigwyddiadau diwylliannol a rhai ym myd chwaraeon, ailddarllediadau sy’n rhoi ail gyfle i weld rhaglen o fewn ychydig ddyddiau i’r darllediadau gwreiddiol, a deunydd o’r archif.

Mae S4C Dau yn sianel ddigidol ar wahân, a lansiwyd ym mis Medi 1999 ac sy’n cael ei ddarparu ar hyn o bryd fel gwasanaeth sy’n cael ei drwyddedu gan Ofcom. Mae’n darparu darllediadau byw o waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Strwythur Mae S4C yn cael ei ariannu gan gyfuniad o grant gan y Trysorlys a gan gyllid sy’n cael ei greu gan weithgareddau ei his gwmnïau masnachol. Mae’r rhaglenni sy’n cael eu hariannu gan y drwydded deledu ac a ddarperir gan BBC Cymru i bob pwrpas yn cyfateb i drydedd ffrwd ariannol. Er mwyn i S4C fedru cyflawni ei dyletswyddau, mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn darparu cyllid yn unol â fformiwla statudol sy’n cael ei osod allan yn Neddf Ddarlledu 1996.

Ers 1af o Ionawr 1993, mae S4C hefyd wedi bod yn gyfrifol am werthu hysbysebion ar y gwasanaeth gan ail-fuddsoddi’r incwm yn y gwasanaeth.

Mae Awdurdod S4C yn awdurdod darlledu annibynnol ac yn gyfrifol am bolisi strategol y corff. Penodir Cadeirydd yr Awdurdod a’i wyth aelod gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Diffinir swyddogaethau’r Awdurdod gan Ddeddf Ddarlledu 1990, ac ychwanegodd Deddf Ddarlledu 1996 allu i gymryd rhan mewn gweithgareddau masnachol (gan gynnwys darlledu digidol masnachol). Yr Awdurdod yw prif gorff rheoleiddio S4C, yn ogystal â bod â chyfrifoldeb cyfreithiol llawn am yr hyn y mae S4C yn ei ddarlledu ynghyd â chyfrifoldeb am reolaeth briodol y corff. Ers Deddf Gyfathrebu 2003, mae gan Ofcom gyfrifoldeb rheoleiddio am nifer o swyddogaethau gan gynnwys cydymffurfiaeth a chanllawiau mewn perthynas â thegwch, chwaeth a gwedduster, cwotâu ar gyfer cynnyrch rhanbarthol ac annibynnol a thelerau masnach ar gyfer cynhyrchwyr annibynnol.

Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn diffinio S4C fel awdurdod cyhoeddus “mewn perthynas â gwybodaeth sy’n cael ei gadw at bwrpasau amgen i newyddiaduraeth, celfyddyd neu i lenyddiaeth” (fel y mae’r BBC a Channel 4). Nid yw’r Ddeddf felly yn berthnasol i wybodaeth sy’n cael ei gadw at bwrpas creu allbwn S4C, pu’n ai yw hynny mewn perthynas â rhaglenni, cynnyrch aml-gyfryngol neu gynnyrch rhyngweithiol. Er enghraifft, mae pob deunydd sy’n ymwneud â rhaglenni (gan gynnwys cynigion rhaglenni) yn cael ei eithrio o gynllun cyhoeddi S4C.

Y Swydd Byddwch yn rhan o dîm y Cyfarwyddwr Comisiynu sydd yn sicrhau cyflenwad addas o gynnwys ar gyfer gwasanaethau S4C. Disgwylir fod gennych arbenigedd ym maes adloniant ond bydd disgwyl i chi hefyd gyfrannu at wireddu’r Strategaeth Rhaglenni yn ei chyfanrwydd. Byddwch yn gweithio yn unol â Chod Ymarfer a Thelerau Masnach S4C. Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys:- •cynorthwyo i ddatblygu polisi adloniant y sianel ar deledu ac ar lwyfannau eraill; •cynghori’r Cyfarwyddwyr Comisiynu ynglyn â chyfeiriad a blaenoriaethau’r byd adloniant; •sicrhau fod gan gynhyrchwyr ddealltwriaeth o’r polisi a’i oblygiadau ac ysgogi ymateb iddo; •cyfrannu at y broses o ddatblygu syniadau ar gyfer pob platfform; •ymateb a thrafod ymhellach lle rhagwelir bwriad i ddatblygu; •cyfrannu at y gwaith o gwblhau Briff Golygyddol yn unol â Chod Ymarfer S4C a sicrhau ymateb i unrhyw gamau cymeradwyaeth sydd yn y Cod Ymarfer neu’r cytundebau comisiynu; •cyd-weithio gyda’r Rheolwyr Uned i werthuso cyllidebau a gwariant ar gynnwys; •gweithredu yn unol a’r Canllawiau Cydymffurfiaeth; •goruchwylio cynyrchiadau; •cydlynu gyda’r adrannau perthnasol o fewn S4C i sicrhau bod gwybodaeth am gynyrchiadau yn cael ei rannu fel rhan o’r broses hyrwyddo cynnwys cyn ei ddarlledu, a dadansoddi niferoedd ac ymateb y gynulleidfa a’r defnydd o wasanaethau ar lein; •gweithredu fel cysylltydd S4C gydag unrhyw gorff neu bwyllgor perthnasol; •unrhyw waith rhesymol arall.

Manylion eraill LLEOLIAD: I’w drafod. CYFLOG: I’w drafod. CYTUNDEB: 3 blynedd.

ORIAU GWAITH: Oriau arferol swyddfeydd S4C yw 9.00am - 5.15pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener, ond oherwydd natur y swydd bydd yr oriau gwaith yn amrywiol.

CYFNOD PRAWF: Mae gofyn i bob un a benodir gan S4C fod ar brawf am gyfnod o chwe mis er mwyn i’r cyflogwr gael adolygu perfformiad, ymddygiad, a phresenoldeb yn y gwaith. Yn ystod y cyfnod hwn diogelir hawl S4C i derfynu’r gyflogaeth ar unrhyw adeg drwy roi wythnos o rybudd. IECHYD: Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gael archwiliad meddygol gan feddyg S4C ar ddechrau’r cyfnod cyflogaeth. Cedwir cofnod o bob absenoldeb oherwydd afiechyd.

GWYLIAU: 25 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â Gwyliau Banc arferol.

Budd-daliadau Eraill ==>Ar ddiwedd cyfnod prawf llwyddiannus, bydd hawl gennych ymuno â chynllun meddygol preifat ar gost S4C ynghyd â chyfle i roi’r teulu arno am bris gostyngol.

==>Ar ddiwedd tri mis o gyflogaeth, bydd hawl gennych i ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grwp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn ymuno â’r Cynllun Pensiwn Personol Grwp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

==>Byddwch yn cael eich cynnwys yn “Cynllun Yswiriant Grŵp S4C – Marwolaeth Mewn Swydd”. Telir unrhyw gostau gan S4C.

==>Mae S4C yn cynnig cymorth tuag at warchod plant hyd at oed dechrau ysgol os nad ydych eisoes yn derbyn cymorth o’r fath. Ceir lwfans dyddiol o £5 y dydd am bob plentyn.

==>Bydd S4C yn cyfrannu tuag at aelodaeth rhai cymdeithasau megis RTS a BAFTA.

==>Bydd S4C yn talu am ffôn symudol a byddwch yn hawlio cost galwadau ffôn cartref sy’n berthnasol i waith S4C gyda’ch treuliau.

==>Bydd S4C yn llogi teledu, fideo, ac offer lloeren ar eich cyfer.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 23 Ionawr 2007 at:-

Kay Walters Pennaeth Adnoddau Dynol S4C, Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd, CF14 5DU

Mae S4C yn gyflogwr cyfle cyfartal. Nid yw’n caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu gefndir economaidd gymdeithasol, oedran, sefyllfa deuluol, statws priodasol, gweithwyr rhan neu llawn amser, crefydd, gwleidyddiaeth, tueddfryd rhywiol, defnydd o iaith neu unrhyw wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroddedig i ystyried amrywiaethau mewn modd positif. Mae S4C yn croesawu ac yn cymell ceisiadau am swyddi oddi wrth grwpiau allai fod wedi eu tangynrychioli gan gynnwys merched, pobl dduon ac o leiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Gweithredir egwyddorion cystadleuaeth agored a theg a phenderfynir ar benodiadau ar sail teilyngdod.