Watkins Nia-Angharad

Total Page:16

File Type:pdf, Size:1020Kb

Watkins Nia-Angharad Y Ddelwedd o’r Aelwyd yn y Nofel Gymraeg o 1960 hyd at 2008 Traethawd a gyflwynir am radd Doethur mewn Athroniaeth Nia Angharad Watkins Prifysgol Aberystwyth 2011 DATGANIAD Nid yw sylwedd y gwaith hwn wedi cael ei dderbyn yn flaenorol ar gyfer unrhyw radd, ac nid yw’n cael ei gyflwyno ar yr un pryd am unrhyw radd. Llofnod ...................................................................... (ymgeisydd) Dyddiad ..................................................................... GOSODIAD 1 Canlyniad fy ymchwiliadau i yw’r traethawd hwn, oni nodir yn wahanol. Cydnabyddir ffynonellau eraill mewn troednodiadau sy’n rhoi cyfeiriadau eglur. Atodir llyfryddiaeth. Llofnod ...................................................................... (ymgeisydd) Dyddiad ..................................................................... GOSODIAD 2 Yr wyf drwy hyn yn rhoi caniatâd i’r traethawd ymchwil hwn, os yw’n cael ei dderbyn, fod ar gael i’w lungopïo ac ar gyfer benthyciadau rhwng llyfrgelloedd â’i gilydd, ac i’r teitl a’r crynodeb fod ar gael i gyrff allanol. Llofnod ...................................................................... (ymgeisydd) Dyddiad ..................................................................... GOSODIAD 3 Yr wyf yn rhoi caniatâd i’m traethawd gan ei adneuo yng Nghadwrfa Ymchwil Sefydliadol y Brifysgol. Llofnod ...................................................................... (ymgeisydd) Dyddiad ..................................................................... Hoffwn ddiolch i’m cyfarwyddwyr, Dr Mihangel Morgan a’r Athro Marged Haycock, am eu cymorth parod wrth imi lunio’r traethawd hwn, ac i staff Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, am eu hanogaeth. Carwn ddiolch hefyd i’m teulu a’m ffrindiau am eu cefnogaeth ar hyd y daith. Crynodeb Eir ati yn y traethawd hwn i ymdrin â delwedd yr aelwyd yn y nofel Gymraeg o 1960 hyd at 2008 trwy gyfrwng ymdriniaeth thematig. Yn y bennod gyntaf, amlinellir nodweddion o gefnlen gymdeithasol yr ugeinfed ganrif a oedd yn gatalyddion i’r aelwyd hanesyddol, ac i ddarlun yr aelwyd ffuglennol. Yn yr ail bennod, edrychir ar ddarlun delfrydol yr ‘aelwyd draddodiadol Gymreig’ mewn llenyddiaeth ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Yn ail ran y bennod, ystyrir i ba raddau yr arddelir y darlun o’r ‘aelwyd draddodiadol Gymreig’ mewn testunau a gyhoeddwyd rhwng 1930 a 1960. Yn y drydedd bennod, dechreuir ar y brif astudiaeth gan roi sylw i’r aelwyd argyfyngus. Ymdrinnir â delwedd yr aelwyd mewn nofelau a gyhoeddwyd yn ystod y chwedegau a’r saithdegau lle gwelir newidiadau cymdeithasol pellgyrhaeddol y blynyddoedd hynny ynghyd â’r chwyldro rhywiol yn gefnlen amlwg i’r nofelau. Yn y bedwaredd bennod, eir ati i ymdrin ag aelwyd plentyndod. Gan ganolbwyntio ar nofelau lle defnyddir llif meddwl y plentyn fel naratif, dehonglir y ddelwedd a roddir o’r aelwyd gan y plentyn ei hun. Sonnir am y plentyn fel traethydd eironig wrth iddo ddatgelu gwybodaeth am yr aelwyd nad yw’n deall ei harwyddocâd. Yn y bumed bennod, ceir ymdriniaeth gymharol ag aelwyd y wlad ac aelwyd y ddinas. Dehonglir yr aelwydydd yng ngolau traddodiad a Chymreictod ar y naill law, a modernrwydd a Seisnigrwydd ar y llall. Amlygir yr aelwyd wledig fel alltud i’r newidiadau cymdeithasol a effeithiodd ar ffyniant proffesiynol y ferch, a’r aelwyd ddinesig fel un a’u croesawodd. Yn y chweched bennod, eir ati i ymdrin â’r aelwyd amgen (gwahanol/alternative). Ceir yma aelwyd ffuglennol sy’n gwyro oddi wrth yr hyn a ystyrir yn gonfensiwn. Caiff cysyniad traddodiadol yr aelwyd ei herio, a gofynnir: a oes rhaid wrth adeilad er mwyn creu aelwyd? Cynnwys Rhagymadrodd 1 1. Newidiadau Cymdeithasol yr Ugeinfed Ganrif 4 2. Yr Aelwyd Draddodiadol Gymreig 14 3. Yr Aelwyd Argyfyngus 47 4. Aelwyd Plentyndod 76 5. Aelwyd y Wlad ac Aelwyd y Dref 110 6. Yr Aelwyd Amgen 140 Diweddglo 181 Llyfryddiaeth 184 Rhagymadrodd Gorchwyl hawdd yw cyfiawnhau ymchwilio i’r maes hwn. Wrth ystyried yr aelwyd mewn cyd-destun eang, ni ddylid tanbrisio ei phwysigrwydd yng ngolau’r modd y saif yn sylfaen i bob agwedd ar fywyd. Yr aelwyd, yn ddiau, yw’r dylanwad mwyaf ar fywyd unigolyn; arni hi y megir, y ffurfir ac y diffinnir ei bersonoliaeth, y meithrinir ynddo werthoedd ac y plennir ynddo wreiddiau ei berthynas â chymdeithas. Ar y gyfres radio ‘A History of Private Life’ a ddarlledwyd ar BBC Radio 4 rhwng 20 Medi a 2 Hydref 2009, dywedodd yr hanesydd Amanda Vickery: Households are the founding social and spiritual unit of society in the early modern period, and I think you could argue it still is the case in the present day. Being able to establish a household represents your political maturity – it’s the foundation for a successful social life. It’s the platform for all your engagement in the public world.1 O ‘fyd bach’ yr aelwyd, paratoir yr unigolyn gogyfer â’r ‘byd mawr’ ehangach. Saif yr aelwyd yn gatalydd i’w olwg ar y byd, ei gydberthynas ag eraill a’i hyder yn ei gymdeithas ei hun. Yr aelwyd yw canolbwynt bywyd pob un gan mai yno y rhed ei brif ffrwd: o blentyndod a dod i oed, hyd at briodas, magu teulu a heneiddio. Er na welir arni gynnwrf gwleidyddol y byd allanol, ar yr aelwyd mewn gwirionedd y digwydd holl ddramâu personol bywyd,2 trwy wrthdaro, cymodi, gorfoledd a galar. Dilynir arni, at hynny, holl elfennau rhigol cyffredin bywyd – coginio, bwyta, glanhau a chysgu – ac y gwelir yr unigolyn a’r teulu ar eu mwyaf naturiol. Rhydd yr aelwyd rwydd hynt i’r unigolyn ddatgelu agweddau ar ei bersonoliaeth na fynegir mohonynt oddi allan iddi, ac yng ngolau hynny, cedwir yr aelwyd yn gudd rhag golwg cymdeithas. Saif yr aelwyd yn sail barhaol i fywyd; er y ceir rheidrwydd i’w gadael yn sgil gyrfa ac elfennau’r bywyd modern, ati hi y dychwelir bob tro. Prin y gellir gorbwysleisio dylanwad yr aelwyd yng ngolau natur cydberthynas deuluol. Tra rhydd yr aelwyd gadernid a noddfa yn sgil dedwyddwch perthynas, esgorir ar iselder a rhwystredigaeth yn sgil annedwyddwch. Rhoddir ym meddiant yr aelwyd y gallu i bennu cyflwr emosiynol a meddyliol ei thrigolion; gall 1 Amanda Vickery, ‘A History of Private Life’, BBC Radio 4 (28 Medi 2009). 2 Amanda Craig, ‘In defence of the domestic novel – Persephone lecture’, http:www.amandacraig.com/pages/journalism/lectures/domestic-novel.htm (2005), ymwelwyd ar 15/10/2006. Dyfynnwyd yn Nia Angharad Watkins, ‘Y Nofel Ddomestig dros dair cenhedlaeth, gyda sylw neilltuol i waith Moelona, Jane Edwards a Sonia Edwards’, traethawd MPhil, Prifysgol Aberystwyth (2007), t. 4. 1 arwain at hapusrwydd a bodlonrwydd ar y naill law, ac arwain at dristwch ac anfodlonrwydd ar y llall. Yng ngolau mawredd dylanwad yr aelwyd, ni chyfyngir yr emosiynau i’r aelwyd ei hun, ond lledant yn hytrach i bob agwedd ar fywyd. Gan gadw pwysigrwydd ac arwyddocâd yr aelwyd mewn golwg, synnir at gyn lleied o gyfeiriadaeth a geir mewn beirniadaeth lenyddol at ddelwedd yr aelwyd mewn ffuglen Gymraeg. Yr aelwyd, yn amlach na pheidio, yw un o leoliadau pennaf y rhan fwyaf o nofelau lle seilir y digwyddiadau arwyddocaol ym mywydau’r cymeriadau. Yno y mynegant eu teimladau a’u hemosiynau ac y darlunnir yn aml drobwynt mewn cydberthynas â theulu. Cyflwynir y gwaith hwn felly gyda’r gobaith o lenwi bwlch. Yn sgil terfynau amser, fodd bynnag, gresynir na fedrir canolbwyntio ar gyfnod ehangach na’r hyn y penderfynwyd arno. Dewiswyd y flwyddyn 1960 fel man cychwyn am fod y flwyddyn honno’n dynodi cyfnod newydd yn hanes cymdeithas, yn hanes menywod, ac o ganlyniad, yn hanes yr aelwyd. Manylir ymhellach ar hynny yn y bennod gyntaf, ac eglurir natur perthynas yr astudiaeth â chefnlen hanesyddol. Dewiswyd y flwyddyn 2008 fel man terfyn am mai yn ystod y flwyddyn honno y dechreuwyd ysgrifennu cynnwys yr astudiaeth hon, a chan nad oedd amser yn caniatáu edrych ymhellach. Er y dewiswyd dechrau a gorffen yr astudiaeth ar flynyddoedd penodol, nid astudiaeth gronolegol rhwng y blynyddoedd hynny mohoni. Ceir, yn hytrach, ymdriniaeth thematig. Priodolir i bob pennod thema benodol. Gwneir hynny am y gellir arddangos yn glir wynebau amrywiol yr aelwyd yn ystod y blynyddoedd dan sylw, gan ymdrin â phob wyneb yn drylwyr yn ei dro yng ngolau’r nofelau a ddewisir. Pe dewisid gwneud ymdriniaeth gronolegol gan drafod degawd penodol fesul pennod, dichon y deuid ar draws trafferthion wrth orfod neidio o un thema i’r llall. At hynny, ceir nifer o achosion lle na welir gwahaniaethau o ran cynnwys ac arddull rhwng nofelau a gyhoeddwyd ddegawdau oddi wrth ei gilydd (gwelir hyn yn arbennig yn y bedwaredd bennod). Gwell felly yw eu trafod o fewn yr un bennod. Cydnabyddir, er hynny, fod y drydedd bennod - pennod gyntaf y brif astudiaeth - yn rhoi sylw i nofelau a gyhoeddwyd o fewn ychydig flynyddoedd i’w gilydd ar ddechrau’r cyfnod dan sylw. Yn achos y bennod honno, y mae’r ymdriniaeth thematig yn cyd-fynd â chronoleg yn sgil y modd y’u trafodir yng ngolau cefnlen gymdeithasol y chwedegau a’r saithdegau. Nid yw’n argoel, fodd bynnag, o ymdriniaeth gronolegol yn y penodau dilynol. 2 Wrth nodi dyfyniadau o nofelau a thestunau beirniadol, penderfynwyd peidio ag arfer ‘[sic]’ i ddynodi camgymeriad o fewn y dyfyniadau hynny. Gwneir pob ymdrech felly i sicrhau bod y dyfyniad yn union fel y mae yn y testun gwreiddiol. Yn yr ail bennod, bathir y gair ‘amgenedd’ i ddynodi ‘natur amgen’ yr aelwyd dan sylw (lle na fo defnyddio ‘natur amgen’ yn gweddu’n gystrawennol), ac eir ati i ddefnyddio’r bathiad yn helaeth yn y chweched bennod. Gwneir hyn yn niffyg gair gwell. 3 Pennod 1: Newidiadau Cymdeithasol yr Ugeinfed Ganrif Cyn camu tuag at ddadansoddi delwedd yr aelwyd ffuglennol, eir ati i olrhain y newidiadau a nodweddion cymdeithasol a fu’n gyfrifol am ei datblygiad a’i gwedd ar hyd yr ugeinfed ganrif. O safbwynt y datblygiad hwnnw, gellir rhannu’r ugeinfed ganrif yn ddwy ran, gyda’r gamfa o’r naill i’r llall i’w gweld yn 1960.
Recommended publications
  • ''Does Dim Gwadu Ar Etifeddiaeth': Astudiaeth O'r Modd Yr Ymdrinnir Ag
    ‘'Does dim gwadu ar Etifeddiaeth’: Astudiaeth o’r modd yr ymdrinnir ag ANGOR UNIVERSITY etifeddiaeth yn Ac Eto Nid Myfi a detholiad o straeon byrion John Gwilym Jones Evans Jones, Gareth Gwerrdon PRIFYSGOL BANGOR / B Cyhoeddwyd: 01/03/2019 PDF y cyhoeddwr, a elwir hefyd yn Fersiwn o’r cofnod Cyswllt i'r cyhoeddiad / Link to publication Dyfyniad o'r fersiwn a gyhoeddwyd / Citation for published version (APA): Evans Jones, G. (2019). ‘'Does dim gwadu ar Etifeddiaeth’: Astudiaeth o’r modd yr ymdrinnir ag etifeddiaeth yn Ac Eto Nid Myfi a detholiad o straeon byrion John Gwilym Jones. Gwerrdon, (28), 21-42. [2]. http://www.gwerddon.cymru/cy/rhifynnau/rhifyn28/erthygl2/ Hawliau Cyffredinol / General rights Copyright and moral rights for the publications made accessible in the public portal are retained by the authors and/or other copyright owners and it is a condition of accessing publications that users recognise and abide by the legal requirements associated with these rights. • Users may download and print one copy of any publication from the public portal for the purpose of private study or research. • You may not further distribute the material or use it for any profit-making activity or commercial gain • You may freely distribute the URL identifying the publication in the public portal ? Take down policy If you believe that this document breaches copyright please contact us providing details, and we will remove access to the work immediately and investigate your claim. 28. Sep. 2021 Rhif 28 | Mawrth 2019 21 ‘’Does dim gwadu ar Etifeddiaeth’: Astudiaeth o’r modd yr ymdrinnir ag etifeddiaeth yn Ac Eto Nid Myfi a detholiad o straeon byrion John Gwilym Jones Gareth Evans-Jones Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor Cyflwynwyd: 26 Chwefror 2016; Derbyniwyd: 27 Gorffennaf 2018 Crynodeb: Un o brif themâu John Gwilym Jones yw’r modd y mae dyn ‘yn gaeth i’w gromosomau’ ar drugaredd ei etifeddeg a’i amgylchedd, ac yn yr erthygl hon, ystyrir y thema honno yn ei ddrama fawr Ac Eto Nid Myfi.
    [Show full text]
  • Facebook: Facebook.Com/Serenbooks Twitter: @Serenbooks
    C o Distribution Wales Distribution & representation v e r england, scotland, ireland, europe Welsh books Council i m Central books ltd, 99 Wallis road uned 16, stad Glanyrafon, llanbadarn, a g e : london, e9 5ln aberystwyth sY23 3aQ s t i l phone 0845 458 9911 Fax 0845 458 9912 phone 01970 624455 Fax 01970 625506 l f r [email protected] [email protected] o m sales and Marketing Manager: tom Ferris T h representation e [email protected] G inpress ltd o s p Churchill house, 12 Mosley street, e l o newcastle upon tyne, ne1 1De north aMeriCa Distribution & f U s www.inpressbooks.co.uk representation d i r . phone 0191 230 8104 independent publishers Group D a Managing Director: rachael ogden 814 north Franklin street v e [email protected] Chicago il60610 M c K sales and Marketing : James hogg phone (312) 337 0747 Fax (312) 337 5985 e a [email protected] [email protected] n seren, 57 nolton street, bridgend, CF31 3ae 01656 663018 [email protected] www.serenbooks.com Facebook: facebook.com/serenbooks twitter: @serenbooks publisher: Mick Felton sales and Marketing: simon hicks Marketing: Victoria humphreys Fiction editor: penny thomas poetry editor: amy Wack poetry Wales: robin Grossmann, rebecca parfitt Directors: Cary archard (Founder and patron), John barnie, Duncan Campbell, robert edge, richard houdmont (Chair), patrick McGuinness, linda osborn (secretary), sioned puw rowlands, Christopher Ward no. 2262728. Vat no. Gb484323148. seren is the imprint of poetry Wales press ltd, which works with the financial assistance of the Welsh books Council www.serenbooks.com Preface 3 2011 was an exciting year in which we celebrated our 30th birthday and threw a street Cynan Jones Bird, Blood, Snow 4 party outside the seren offices on the sunniest october saturday since records began.
    [Show full text]
  • Download the Programme for the Xvith International Congress of Celtic Studies
    Logo a chynllun y clawr Cynlluniwyd logo’r XVIeg Gyngres gan Tom Pollock, ac mae’n seiliedig ar Frigwrn Capel Garmon (tua 50CC-OC50) a ddarganfuwyd ym 1852 ger fferm Carreg Goedog, Capel Garmon, ger Llanrwst, Conwy. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru: https://amgueddfa.cymru/oes_haearn_athrawon/gwrthrychau/brigwrn_capel_garmon/?_ga=2.228244894.201309 1070.1562827471-35887991.1562827471 Cynlluniwyd y clawr gan Meilyr Lynch ar sail delweddau o Lawysgrif Bangor 1 (Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor) a luniwyd yn y cyfnod 1425−75. Mae’r testun yn nelwedd y clawr blaen yn cynnwys rhan agoriadol Pwyll y Pader o Ddull Hu Sant, cyfieithiad Cymraeg o De Quinque Septenis seu Septenariis Opusculum, gan Hu Sant (Hugo o St. Victor). Rhan o ramadeg barddol a geir ar y clawr ôl. Logo and cover design The XVIth Congress logo was designed by Tom Pollock and is based on the Capel Garmon Firedog (c. 50BC-AD50) which was discovered in 1852 near Carreg Goedog farm, Capel Garmon, near Llanrwst, Conwy. Further information will be found on the St Fagans National Museum of History wesite: https://museum.wales/iron_age_teachers/artefacts/capel_garmon_firedog/?_ga=2.228244894.2013091070.156282 7471-35887991.1562827471 The cover design, by Meilyr Lynch, is based on images from Bangor 1 Manuscript (Bangor University Archives and Special Collections) which was copied 1425−75. The text on the front cover is the opening part of Pwyll y Pader o Ddull Hu Sant, a Welsh translation of De Quinque Septenis seu Septenariis Opusculum (Hugo of St. Victor). The back-cover text comes from the Bangor 1 bardic grammar.
    [Show full text]
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru = the National Library of Wales Cymorth Chwilio | Finding
    Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Cymorth chwilio | Finding Aid - Emyr Humphreys Papers, (GB 0210 EMYREYS) Cynhyrchir gan Access to Memory (AtoM) 2.3.0 Generated by Access to Memory (AtoM) 2.3.0 Argraffwyd: Mai 04, 2017 Printed: May 04, 2017 Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau ANW a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH Description follows ANW guidelines based on ISAD(G) 2nd ed.;AACR2; and LCSH https://archifau.llyfrgell.cymru/index.php/emyr-humphreys-papers-2 archives.library .wales/index.php/emyr-humphreys-papers-2 Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Allt Penglais Aberystwyth Ceredigion United Kingdom SY23 3BU 01970 632 800 01970 615 709 [email protected] www.llgc.org.uk Emyr Humphreys Papers, Tabl cynnwys | Table of contents Gwybodaeth grynodeb | Summary information .............................................................................................. 3 Hanes gweinyddol / Braslun bywgraffyddol | Administrative history | Biographical sketch ......................... 3 Natur a chynnwys | Scope and content .......................................................................................................... 4 Trefniant | Arrangement .................................................................................................................................. 4 Nodiadau | Notes ............................................................................................................................................. 4 Pwyntiau mynediad
    [Show full text]
  • Adroddiad Blynyddol / Annual Report 1984-85
    ADRODDIAD BLYNYDDOL / ANNUAL REPORT 1984-85 MARIAN MYFANWY MORGAN 1985001 Ffynhonnell / Source The late Mrs Marian Myfanwy Morgan, Llangadog Blwyddyn / Year Adroddiad Blynyddol / Annual Report 1984-85 Disgrifiad / Description Farming diaries, 1960-74, of the testator's family who farmed at Pencrug, Llanddeusant, and Llangadog, co Carmarthen (NLW Ex 747-61) KATE ROBERTS 1985002 Ffynhonnell / Source The late Dr Kate Roberts, Denbigh Blwyddyn / Year Adroddiad Blynyddol / Annual Report 1984-85 Disgrifiad / Description The manuscripts and papers of Kate Roberts (1891-1985), novelist and short story writer. In addition to the present group, the testator's previous deposits (see Annual Report 1972-73, p 73; 1977-78, p 75; and 1978-79, p 83) are included in the bequest A list is in preparation. Nodiadau Schedule Available. DR N W ALCOCK 1985003 Ffynhonnell / Source Dr N W Alcock, Leamington Spa Blwyddyn / Year Adroddiad Blynyddol / Annual Report 1984-85 Disgrifiad / Description Dr Alcock allowed the Library to photocopy a typescript transcript by John Price (d 1804), Dolfelin, Llanafan Fawr, of A circumstantial account of the evidence produced on the trial of Lewis Lewis, the younger, for the murder of Thomas Price . before . the Court of Great Sessions . in Brecon . 26th . August, 1789 . (Brecon, n d), with explanatory notes by his great grandson Rev John Price (1835-1916), rector of Llanfigan, co Brecon (NLW Facsimiles 600). M SCOTT ARCHER 1985004 Ffynhonnell / Source Mr M Scott Archer, Upper Llangynidr, Crickhowell Blwyddyn / Year Adroddiad Blynyddol / Annual Report 1984-85 Disgrifiad / Description Sermons, 1731-9, of Rev William Stephens, vicar of Clyro, co Radnor, 1749-64, together with miscellaneous papers, 1734-50, of Rev John Williams, vicar of Glasbury, co Radnor, 1720-50, and the will, 1746, of Walter Watkins of the parish of Crucadarn, co Brecon (NLW MS 22078E).
    [Show full text]
  • 2 Minutes of This Meeting
    THE COUNCIL 15/12/11 Present: Councillor John Gwilym Jones (Chairman) Councillor R. Leonard Jones (Vice-chairman) Councillors: Stephen Churchman, Anwen Davies, Dyfed Edwards, Dylan Edwards, Elwyn Edwards, Huw Edwards, T. G. Ellis, Alan Jones Evans, Simon Glyn, Keith Greenly-Jones, Gwen Griffith, Selwyn Griffiths, Alwyn Gruffydd, Siân Gwenllïan, Christopher Hughes, Huw Price Hughes, Louise Hughes, Sylvia Humphreys, O. P. Huws, Anne Lloyd Jones, Brian Jones, Charles Wyn Jones, Dyfrig Wynn Jones, Elin Walker Jones, Eric Merfyn Jones, John Wynn Jones, Linda Wyn Jones, Penri Jones, Eryl Jones-Williams, P.G.Larsen, Dewi Llewelyn, June Marshall, Keith Marshall, J. Wynn Meredith, Llinos Merks, Dafydd Meurig, Dewi Owen, W. Roy Owen, W. Tudor Owen, Arwel Pierce, Peter Read, Dafydd Roberts, E. Caerwyn Roberts, Glyn Roberts, Ieuan Roberts, John Pughe Roberts, Liz Saville Roberts, Siôn S. Roberts, Trevor Roberts, W. Gareth Roberts, Dyfrig Siencyn, Gareth Thomas, Ioan Thomas, Paul Thomas, Guto Rhys Tomos, Ann Williams, Gethin Glyn Williams, Gwilym Williams, J.W.Williams, Owain Williams, R. H. Wyn Williams, Mandy Williams-Davies and Robert J. Wright. Also present: Harry Thomas (Chief Executive), Dilwyn O. Williams, Dafydd Lewis and Iwan Trefor Jones (Corporate Directors), Dilys Phillips (Monitoring Officer / Head of Democracy and Legal Department), Dafydd Edwards (Head of Finance Department), Iwan Evans (Legal Services Manager), Arwel Ellis Jones (Senior Manager – Strategic Direction), Gwen Carrington (Head of Housing and Social Services Department), Meilys Smith (Senior Business Manager – Housing and Social Services Department), Morwenna Edwards (Head of Provider and Leisure Department), Dewi R. Jones (Head of Education Department), Guto Rhys Huws (Schools Reorganisation Programme Co-ordinator), Tony Bate (Primary Schools Reorganisation Lead Manager), Dafydd Gibbard (Corporate Property Manager), Catherine Roberts (Senior Community Safety Manager), Geraint Brython Edwards (Solicitor) and Eleri Parry (Committees Team Leader).
    [Show full text]
  • Building New Business Strategies for the Music Industry in Wales
    Knowledge Exploitation Capacity Development Academic Expertise for Business Building New Business Strategies for the Music Industry in Wales Final report School of Music BANGOR UNIVERSITY This study is funded by an Academia for Business (A4B) grant, which is managed by the Welsh Assembly Government’s Department for Economy and Transport, and is financed by the Welsh Assembly Government and the European Union. 1 Table of Contents Executive Summary.......................................................................................................5 The following conclusions are drawn from this study......................................................5 The following recommendations are made in this study ................................................6 Preface ..............................................................................................................................8 Introduction ....................................................................................................................9 Part 1: Background and Context: The Infrastructure of the Welsh­Language Popular Music Industry from 1965–c.2000......................................................... 12 1.1 Overview...................................................................................................................................... 12 1.2 Record companies and sales .............................................................................................. 13 1.3 TV, radio and Welsh­language music journalism ....................................................
    [Show full text]
  • Welsh Horizons Across 50 Years Edited by John Osmond and Peter Finch Photography: John Briggs
    25 25 Vision Welsh horizons across 50 years Edited by John Osmond and Peter Finch Photography: John Briggs 25 25 Vision Welsh horizons across 50 years Edited by John Osmond and Peter Finch Photography: John Briggs The Institute of Welsh Affairs exists to promote quality research and informed debate affecting the cultural, social, political and economic well being of Wales. The IWA is an independent organisation owing no allegiance to any political or economic interest group. Our only interest is in seeing Wales flourish as a country in which to work and live. We are funded by a range of organisations and individuals, including the Joseph Rowntree Charitable Trust, the Esmée Fairbairn Foundation, and the Waterloo Foundation. For more information about the Institute, its publications, and how to join, either as an individual or corporate supporter, contact: IWA - Institute of Welsh Affairs, 4 Cathedral Road, Cardiff CF11 9LJ T: 029 2066 0820 F: 029 2023 3741 E: [email protected] www.iwa.org.uk www.clickonwales.org Inspired by the bardd teulu (household poet) tradition of medieval and Renaissance Wales, the H’mm Foundation is seeking to bridge the gap between poets and people by bringing modern poetry more into the public domain and particularly to the workplace. The H’mm Foundation is named after H’m, a volume of poetry by R.S. Thomas, and because the musing sound ‘H’mm’ is an internationally familiar ‘expression’, crossing all linguistic frontiers. This literary venture has already secured the support of well-known poets and writers, including Gillian Clarke, National Poet for Wales, Jon Gower, Menna Elfyn, Nigel Jenkins, Peter Finch and Gwyneth Lewis.
    [Show full text]
  • Rhif 128 MEDI1987 Pris 20C
    YR ECO'N HWYR Dyna bennawd unigryw O'r diwedd, ymddangosodd yr Eco, wythnos union yn hwyr-y tro cyntaf i hynny ddigwydd yn hanes eich papur bro. Gwell hwyr na hwyrach meddai'r hen air, a gwell hwyrach na pheidio ymddangs 0 gWbl medde ninnau! Torrodd un 0 beiriannau'r Wasg ar amser tyngefennol ac nid oedd gobaith cael yr Eco o'i wely mewn pryd. Gwnaed pob ymdrech i egluro'r setyllfa j'rdosbarthwyr. Nid oes cyfle wedi bod chwaith i olvqu'r rhannau hynny o'r newyddion sydd bellach, oherwydd yr wythnos ychwanegol yn amherthnasol. Ymddiheurwn am hyn ac am unrhyw anhawsterau a achoswyd i chwi ein cefnogwyr. Rhif 128 MEDI1987 Pris 20c I IIMISTYR WYN YDY O!" SELWYN YN BEN .. t • Uongyfarchladau iSelwyn Griffith, ymddeol 0 fod yn bennaeth ysgoJ, ei Y Prlfardd teuen Wyn Jones yn vmtecio yn ei gadair. Ar y mur mae Tlws Coffa W.O. Williams a enillodd Englyn gorau'r flwyddyn ym mern dsrllenwyr Crud yr Awen, Penisarwaun fod yn brysurach nawr nag y bu erioed. Mae'n awdur cyfroJ 0 'Bsrddss. I gipiodd goron arian Eisteddfod Pantyfedweo yo farddoniaeth a saw I eyfrol 0 Brynbawn Iau yr Eisteddfod: atbroyn Ysgol Gynradd Uanrugyw Llanbedrpontsteffan ddiwed Awst. adroddiadau i blant. Mae'n feirniad Miloedd yn y pafiliwn a ehannoedd . Mistyr Ieuan Wyn, tua tri munud Ei ddilyniant ef 0 dair cerdd ar y lien ae a d r o d d , wedi budo ibebyll y eyfryngau ar y cyn bod yr Archdderwydd yn cael testun 'Y Ffin' a ddyfarnwyd yo darlledwr,ymchwilydd, aelod 0 dim maes i wylio'r seremoni ar y setiau datgan hynny iddynt yn swyddogol.
    [Show full text]
  • Gweinidogion Wedi Ymddeol O Ofalaeth Eglwys Ordeiniwyd 1952 H
    GWEINIDOGION A PHREGETHWYR YR HENADURIAETH Gweinidogion wedi ymddeol o ofalaeth Eglwys Ordeiniwyd 1952 H. Gwynfa Roberts, Cil y Gors, Ffordd yr Orsaf, Llanrug, Caernarfon LL55 4BA (01286 674419). 1953 Trefor Jones, Craig Menai, Ffordd Bangor, Caernarfon LL55 1LR (01286 673264). 1957 Iorwerth Jones Owen, Llys yr Awel, Lôn Ysgubor Wen, Caernarfon LL55 1HS (01286 671047). 1960 John Owen, Wernos, Cilfoden, Bethesda LL57 3SL (01248 600557). e-bost: [email protected] 1960 Harri Parri, Y Gadlas, 14 Llys Gwyn, Caernarfon LL55 1EN Ffôn/Ffacs (01286 672830) e-bost: [email protected] 1964 Ronald Wyn Roberts, 31 Nant y Glyn, Llanrug, Caernarfon LL55 4AH. 1966 Reuben Roberts, Rhosnant, 44 Glanrafon, Bontnewydd, Caernarfon LL55 2UW (01286 669038). 1973 Eric Jones, Gwernyfed, Tanycoed, Penrhosgarnedd, Bangor LL57 7DZ (01248 362127) [email protected] 1987 Deian Elfed Evans, Gwynfa, Ffordd Porthmadog, Cricieth LL52 0HP (01766 522537). e-bost: [email protected] 1991 Dafydd A. Lloyd Hughes, Llain Gwyn, 14 Brynrhos, Rhosbodrual, Caernarfon LL55 2BT (01286 676356 / 07554 140295) e-bost: [email protected] 1999 Cath Williams, Tegfryn, Ffordd Fictoria, Caernarfon LL55 2RH (01286 675148). e-bost: [email protected] Gweinidogion mewn Gofalaeth Ordein Blwyddyn -iwyd Galwad 1978 2007 Marcus Wyn Robinson, Cartrefle, Bethel, Caernarfon LL55 1UN (01248 671255/07879 218503) e-bost: [email protected] 1979 1988 David John Pritchard, Cilfynydd, Llanberis, Caernarfon LL55 4BH (01286 872390). e-bost: [email protected] 1987 2001 Gwenda Richards, Plas Bach, 70 Cae Gwyn, Caernarfon LL55 1LL (01286 676435) e-bost: [email protected] Swyddfa Capel Seilo (01286 674073). Cyfarwyddwr Hyfforddiant y Cyfundeb 1990 Elwyn Richards, Swyddfa Hyfforddiant EBC, Y Coleg Gwyn, Ffordd Ffriddoedd, Bangor LL57 2EH (01248 370463).
    [Show full text]
  • John Ellis Caerwyn Williams 1912–1999
    CAERWYN WILLIAMS Copyright © The British Academy 2001 – all rights reserved John Ellis Caerwyn Williams 1912–1999 THE BRITISH ACADEMY has been fortunate to have had a succession of distinguished Celtic scholars as Fellows right from the outset. Sir John Rhys, the first Jesus Professor of Celtic in the University of Oxford (indeed one of the earliest scholars to be appointed to a university professorship to teach Celtic), was one of the Academy’s Foundation scholars. Professor Caerwyn Williams was, beyond doubt, one of the most erudite, productive, and highly respected Celtic scholars of the twentieth century, renowned internationally for the breadth and high calibre of his scholarly research, the amazing abundance of his greatly varied and inspiring publications and his constant devotion to helping others. The University of Wales, founded in 1893, has produced a fair abun- dance of students and teachers who have distinguished themselves in Welsh and Celtic Studies and has, especially through the establishment and funding of its Press Board and Board of Celtic Studies, encouraged the conduct of detailed and penetrating research work by both junior and senior researchers from within and from without its ranks and facilitated the publication of the results of so many of these researches. This has been greatly enhanced in the last fifteen years by the establishment of the University’s Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies, to the particu- lar importance of which, and the vital part played by Caerwyn Williams in its foundation and remarkable success, more detailed attention will be given in another part of this obituary.
    [Show full text]
  • Adam Pearce Bangor University
    English Translations of Daniel Owen 1888–2010: Nation, Canon and Welsh-English Cultural Relations Adam Pearce Bangor University A thesis submitted to Bangor University for the degree of Doctor of Philosophy 1 Summary In this thesis, I analyse four English translations of the novels of Victorian Welsh- language novelist Daniel Owen from a variety of postcolonial and Translation Studies perspectives. Drawing on recent theories in Translations Studies and Welsh cultural studies, I suggest that translations of Owen’s work have been undertaken as part of a variety of political and cultural agendas. These often interrelated agendas have included attempts to reinvent the idea of the Welsh nation, attempts to reinforce and/or rehabilitate the reputation of Daniel Owen as a canonical author in the Welsh-language literary canon, and attempts to either inspire the tradition of Welsh Writing in English, or to distance that practice from Welsh-English translation. In presenting these arguments, I suggest that the role of Welsh-English translation in Welsh cultural history over the late nineteenth to twenty-first centuries has been underappreciated, and that it has in fact been central to processes of cultural and national re-imagination in Wales over this period. 2 Contents Note to the reader 5 Acknowledgements 6 Declaration and Consent 8 Chapter 1: Introduction 1.1 Opening statements, research questions 12 1.2 Critical debates in Welsh-English translation 18 1.3 Translation and (post)colonial discourse in Wales 31 1.4 Translation and the Welsh-language
    [Show full text]