Traddodiad a Newydd-Deb Yn Nofelau Wiliam Owen Roberts
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Bangor University DOETHUR MEWN ATHRONIAETH Traddodiad a newydd-deb yn nofelau Wiliam Owen Roberts Hughes, Non Award date: 2011 Awarding institution: Prifysgol Bangor Link to publication General rights Copyright and moral rights for the publications made accessible in the public portal are retained by the authors and/or other copyright owners and it is a condition of accessing publications that users recognise and abide by the legal requirements associated with these rights. • Users may download and print one copy of any publication from the public portal for the purpose of private study or research. • You may not further distribute the material or use it for any profit-making activity or commercial gain • You may freely distribute the URL identifying the publication in the public portal ? Take down policy If you believe that this document breaches copyright please contact us providing details, and we will remove access to the work immediately and investigate your claim. Download date: 27. Sep. 2021 Traddodiad a newydd-deb yn nofelau Wiliam Owen Roberts Non Meleri Hughes Traethawd a gyflwynwyd ar gyfer gradd PhD Prifysgol Bangor 2011 2 DATGANIAD Nid yw sylwedd y gwaith hwn wedi cael ei dderbyn o’r blaen ar gyfer unrhyw radd, ac nid yw’n cael ei gyflwyno ar yr un pryd mewn ymgeisiaeth am unrhyw radd onid yw’r Brifysgol wedi cytuno ynglŷn â hynny ar gyfer cymwysterau deuol cymeradwy. Llofnod ………………………………………(ymgeisydd) Dyddiad ……………………………………… DATGANIAD 1 Canlyniad fy ymchwil fy hun yw’r thesis hwn, ac eithrio lle nodir yn wahanol. Lle defnyddiwyd gwasanaethau cywiro, mae maint a natur y cywiriad wedi’i nodi’n glir mewn troednodyn/troednodiadau. Caiff ffynonellau eraill eu cydnabod gan droednodiadau yn rhoi cyfeiriadau clir. Mae llyfryddiaeth ynghlwm. Llofnod ………………………………………(ymgeisydd) Dyddiad ……………………………………… DATGANIAD 2 Rhoddaf ganiatâd drwy hyn i’m thesis, os caiff ei dderbyn, fod ar gael ar gyfer llungopïo, ar gyfer benthyciad rhynglyfrgellol ac ar gyfer ystorfeydd electronig, ac i’r teitl a’r crynodeb fod ar gael i sefydliadau allanol. Llofnod ………………………………………(ymgeisydd) Dyddiad ……………………………………… 3 Diolchiadau Diolch i bawb a gynigiodd gymorth a chefnogaeth i mi yn ystod y cyfnod ymchwil, ac estynnir diolch arbennig i’r bobl ganlynol: Angharad Price am ei harweiniad cadarn, ei hamynedd diflino a’i chefnogaeth amhrisiadwy. Holl staff Adran Gymraeg Prifysgol Bangor am eu gwybodaeth a’u cyngor. Wiliam Owen Roberts am ei amser a’i barodrwydd i drafod ei waith mor agored. Yr AHRC am eu cefnogaeth ariannol a’m galluogodd i gwblhau’r ymchwil hwn. Holl deulu a ffrindiau am eu ffydd ddigwestiwn ac yn arbennig i Emlyn, Ann ac Ioan Hughes, Nain Abergele ac Awen Elis Owen, am eu cariad a’u cefnogaeth cyson. Cyflwynir y traethawd hwn er cof am Raymond Challenor. 4 Crynodeb Bwriad y thesis hwn yw ymchwilio ymhellach i’r berthynas rhwng amrywiol agweddau ar ‘draddodiad’ a newydd-deb llenyddol. Diriaethir y drafodaeth yn nofelau Wiliam Owen Roberts. Ef oedd un o’r awduron creadigol Cymraeg cyntaf i gwestiynu’r syniad o draddodiad yn ei nofelau, ac fe welir yn eglur yn y traethawd hwn ei fod yn ymestyn ffiniau’r traddodiad llenyddol Cymraeg yn ogystal â chynnig beirniadaeth ar y traddodiad hwnnw. Rhannwyd y traethawd yn chwe phennod sy’n goleuo agweddau canolog ar nofelau Wiliam Owen Roberts. Gan fod y syniad o draddodiad (a newydd-deb) yn llinyn cyswllt trwy’r penodau, mae’r bennod gyntaf un wedi ei neilltuo i drafod y syniad o ‘draddodiad’ yn ehangach. Yn yr ail bennod ceir trafodaeth ar y nofel hanes a syniadau’r hanesydd llenyddol Marcsaidd Georg Lukács. Yn dilyn hyn ceir dwy bennod sy’n canolbwyntio’n bennaf ar Paradwys. Mae’r gyntaf o’r rheiny’n trafod caethwasiaeth a’r ail yn ymdrin â thraddodiad y cofiant. Mae pennod pump yn trafod gwaith yr awdur mewn cyswllt â gwaith awdur gwrth-realaidd arall o’r un genhedlaeth ag ef, Angharad Tomos. Bwriad y bennod olaf yw agor trafodaeth ar drioleg arfaethedig Wiliam Owen Roberts, gan ganolbwyntio ar y nofel gyntaf, Petrograd. Hyderir y bydd yr ymchwil hon – sef y drafodaeth estynedig gyntaf i ganolbwyntio’n llwyr ar waith un o nofelwyr mwyaf arwyddocaol y Gymru gyfoes – yn sail i drafodaethau pellach ar ei nofelau, ac yn fodd i bwysleisio sut y manteisiodd Wiliam Owen Robert ar hyblygrwydd y nofel i drin a thrafod traddodiad yn ei holl agweddau, gan greu yr un pryd lenyddiaeth newydd a chyffrous. 5 Cynnwys Datganiad 2 Diolchiadau 3 Crynodeb 4 Cynnwys 5 Cyflwyniad 8 Pennod 1 Y Traddodiad 17 - T. S. Eliot - Saunders Lewis - Cwestiynu’r canon - Amddiffyn Traddodiad - Wiliam Owen Roberts a’r Traddodiad Pennod 2 Y Nofel Hanes 66 - Hanes a Theori Farcsaidd - Y Nofel Hanes yng Nghymru - Y Pla - Paradwys - Petrograd 6 Pennod 3 Paradwys a Chaethwasiaeth 98 - Caethwasiaeth mewn Llenyddiaeth - Cymru a Chaethwasiaeth - Cefndir Hanesyddol Paradwys - Cymeriadau - Polmont - Safbwynt y Nofel - Grym a Phropaganda - Diddymu Caethwasiaeth Pennod 4 Paradwys a’r Cofiant 133 - Y Cofiant - Y Cofiant Cymraeg - Paradwys Pennod 5 Wiliam Owen Roberts ac Angharad Tomos 186 - Ôl-foderniaeth - Crefydd - Yr Iaith Gymraeg 7 - Chwaeroliaeth a Chymdeithas Batriarchaidd Pennod 6 Y Nofel Chwyldro 220 - Y Bwriad Gwreiddiol - Alltudiaeth - Cymru a Rwsia Diweddglo 253 Llyfryddiaeth 258 Atodiadau 270 - Cyfweliad â Wiliam Owen Roberts, Rhagfyr 2007 - Cyfweliad â Wiliam Owen Roberts, Tachwedd 2010 8 Cyflwyniad Ma pob un gwaith creadigol newydd yn cynnwys rhyw fath o hadau o feirniadaeth yr hyn sydd wedi bod o’i flaen o. Hynny ydi, mae’n anorfod, achos sut arall all o fodoli?1 Hunllef unrhyw lenor yw’r ddalen wag, y diffyg awen. Ond os derbynnir y dyfyniad uchod o eiddo Wiliam Owen Roberts, gwelir na ddylid ofni’r gwagle creadigol, gan y perthyn pob darn o lenyddiaeth i weithiau’r gorffennol. Yn ystod y broses o greu, awgrymir mai adeiladu ar sylfaen a wneir yn hytrach na chreu o'r newydd. Yng nghyd- destun llenyddiaeth, gelwir y sylfaen hwn yn draddodiad llenyddol. Beth, felly, yw ystyr gwreiddioldeb llenyddol yng nghyd-destun traddodiad? Pe disgrifid ‘traddodiad’ yn nhermau llinach lenyddol, pam bod tueddiadau llenyddol fel pe baent yn dod mewn cylchoedd? Ym 1985 cyhoeddwyd Bingo! gan Wiliam Owen Roberts. Hon oedd ei nofel gyntaf, a dyma hefyd yr ymdrech gyntaf i ymwrthod yn wirioneddol â realaeth o fewn y nofel Gymraeg. Yng ngeiriau Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru roedd y nofel hon yn ‘gam pwysig ar y ffordd i falurio realaeth naïf y nofel Gymraeg.’ 2 Dywed John Rowlands mai Bingo! oedd y nofel Gymraeg ôl-fodernaidd gyntaf (er mai Robin Llywelyn oedd y nofelydd Cymraeg cyntaf i gael ei alw’n ôl-fodern),3 ac ni ellir gwadu pwysigrwydd Bingo! fel catalydd ar gyfer datblygiad y nofel ôl-fodern Gymraeg yn y 1990au. Gwelwyd nifer o awduron amlwg y degawd wedi cyhoeddi Bingo! yn ymwrthod â realaeth (er mai ‘parhau a wnâi mwyafrif awduron Cymraeg y degawd i ysgrifennu yn 1 Wiliam Owen Roberts, cyfweliad yn Nhŷ Newydd, heb ei gyhoeddi, 2007, gweler Atodiad 1. 2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997), t.633. 3 John Rowlands, ‘Cip ar y Nofel Gymraeg ôl-fodernaidd’, yn Gerwyn Wiliams (gol.), Rhyddid y Nofel (Caerdydd, 1999), t.176. 9 fwy neu lai yn ôl patrymau realaidd’4). Enynnodd nofelau ffantasïol y cyfnod hwn sylw’r beirniaid oherwydd newydd-deb y technegau a ddefnyddid ynddynt. Ond roedd yma bwyslais ar draddodiad yr un pryd. Mynegodd Wiliam Owen Roberts ei hun, er enghraifft, mai ‘ein traddodiad go iawn ni ydi’r Mabinogi lle’r oedd dynion yn gallu troi’n anifeiliaid neu’n bysgod.’5 Gwêl ef mai dychwelyd yn ôl at y traddodiad yn hytrach nag ymwrthod ag ef a wnâi’r awduron ôl-fodernaidd. Mae rôl traddodiad yn natblygiad nofelau gwrth-realaidd y 1980au a’r 1990au, felly, yn amwys, ac maent yn ymdrin â thraddodiad rhyddiaith y Gymraeg, ac â’r syniad o draddodiad, mewn sawl ffordd. Gwelir hyn ar ei fwyaf eglur, efallai, yng ngwaith Wiliam Owen Roberts. Ar y naill law, gwêl Gerwyn Wiliams ddiffyg traddodiad y nofel Gymraeg yn fantais i’r genre ac yn fodd i hybu’r ‘dadeni honedig’6 a welwyd mewn rhyddiaith Gymraeg yn y 1990au: Yn hyn o beth, fe ddaeth ei dydd a thröwyd yr hyn yr arferid cyfeirio ato fel gwendid, sef ei diffyg traddodiad, yn gryfder: llwyddwyd i fanteisio ar y ffaith mai hi yw’r genre llenyddol ieuengaf a’r un lleiaf caeth wrth draddodiad.7 Ar y llaw arall, gellid dadlau bod newydd-deb y nofelau yn atgyfnerthu traddodiad, yn yr ystyr bod yr holl chwarae a’r parodïo a geir ynddynt yn pwysleisio arwyddocâd agweddau ar y traddodiad llenyddol Cymraeg. Ceir ymdeimlad cryf bod y nofelwyr hyn – a Wiliam Owen Roberts yn flaenllaw yn eu plith - yn mwynhau chwarae â ffiniau’r traddodiad, gan gerfio eu llwybr eu hunain yn yr union draddodiad hwnnw. 4 Angharad Price, Rhwng Gwyn a Du: Agweddau ar Ryddiaith Gymraeg y 1990au (Caerdydd, 2002), t.128. 5 Wiliam Owen Roberts, ‘Y Saeson am gael Y Pla: Nofel sy’n siglo’r seiliau’, Golwg, 27 Ebrill 1989, 23. 6 Angharad Price, Rhwng Gwyn a Du: Agweddau ar Ryddiaith Gymraeg y 1990au, op. cit., t.3. 7 Gerwyn Wiliams, Rhyddid y Nofel, op.cit., t.17. 10 Bwriad y thesis hwn yw ymchwilio ymhellach i’r cwestiynau hyn ynghylch y berthynas rhwng amrywiol agweddau ar ‘draddodiad’ a’r syniad o newydd-deb llenyddol. Diriaethir y drafodaeth yn nofelau Wiliam Owen Roberts. Wedi’r cyfan, ef oedd un o’r cyntaf i gwestiynu’r syniad o draddodiad, er bod Mihangel Morgan, dyweder, wedi gwneud cyfraniad tebyg mewn cyfeiriadau eraill.8 Yn sicr, fe welir yn eglur yn y traethawd hwn fod Wiliam Owen Roberts yn ymestyn ffiniau’r traddodiad llenyddol Cymraeg yn ogystal â chynnig beirniadaeth ar y traddodiad hwnnw.