Dysgu Cyfansawdd
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
DYSGU CYFANSAWDD R. M. Jones Cyhoeddwyd gan Cyd ar www.aber.ac.uk/cyd Hawlfraint R. M. Jones 2003 10 Maes Lowri, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2AU ffôn/ffacs 01970 622143 e-bost [email protected] Elusen Gofrestredig 518371 CYFLWYNO’R AWDUR Yr Athro Emeritws R. M. Jones MA, PhD, D Litt, FBA. Cyhoeddodd yr awdur yn bur helaeth ym maes didacteg iaith: (i) Graddio Geirfa; (ii) Cyflwyno’r Gymraeg; (iii) Cymraeg i Oedolion, 4 cyfrol; (iv) Beirniadu gwersi ail iaith; (v) Geiriadur Lluniau; (vi) Cyfeiriadur i’r Athro Iaith (gyda Megan Roberts) 3 cyfrol; (vii) golygydd Cymraeg trwy ddamhegion; (viii) gol. Iaith Ifanc (Cyd); (ix) Gloywi Iaith (gyda Rhiannon Ifans) 3 cyfrol; (x) Language Regained; (xi) golygydd CYD yn Cydio; (xii) erthyglau gan gynnwys rhai yn International Review of Applied Linguistics, Yr Athro (cyhoeddwyd yn y cylchgrawn hwnnw dros 40 o ysgrifau ar grefft dysgu’r ail iaith); Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd; Teacher in Wales; a rhwng Mehefin 1996 a Chwefror 1997 gyfres o bum erthygl yn Barn ar ‘Hanes Adfywio’r Iaith’, ‘Sut i Fesur Gwerth Cwrs’, ‘Graddio Patrymau’, ‘Nodau Cyfathrebu’, a ‘Theipoleg Ymarferion’. Ar sail tair erthygl tua 1980 yn y Cymro, Y Faner a’r Traethodydd sylfaenwyd Cyd yn Aberaeron gan yr awdur a nifer o rai eraill a ymdeimlai â’r angen i Gymry Cymraeg ddod at y dysgwyr yn uniongyrchol i adfer y Gymraeg drwy ymgymryd â chyfrifoldeb cadarnhaol. Bu’r awdur yn Gadeirydd cyntaf pryd y daethpwyd o hyd i nawdd i’r mudiad, ac ar hyn o bryd mae’n Llywydd Anrhydeddus. Bu’n Gadeirydd Pwyllgor diwygio Cymraeg Byw a Golygydd Cymraeg Llafar Ysgrifenedig CBAC, a hefyd yn aelod o bwyllgor o dri a gyflwynodd restr o ffwythiannau cymeradwy ar gyfer cyrsiau Cymraeg i’r CBAC. Dyma rai sylwadau ar y gyfrol sy’n rhagflaenydd i hon, sef System in Child Language. Mewn adolygiad yn Language dywedodd yr Athro John Hewson: ‘It represents a step forward, a moment of progress in the mainstream of general linguistics ... J’s analysis of syntax is a theory of great simplicity and yet potentially of great power ...’ Meddai’r Athro W.F. Mackey: ‘A general theory of child language of great significance. Although it takes into account both the author’s detailed observations and almost everything of importance ever written on the subject, it is completely new and daringly original. It is also the most thoughtful and undoubtedly the most far-ranging study of child language I have yet seen’. Sylw’r Athro W.F. Leopold, prif awdurdod y byd mewn iaith plant, oedd: ‘A remarkable achievement ...This is one of the few large works in the field’. 2 I BOBL CYD (sef y bobl a welodd mai gwaith i’r Cymry ymrwymedig boed yn Gymry rhugl neu’n ddysgwyr, yw ymuno’n ewyllysgar i adfywio’r iaith yn uniongyrchol, ac mai adennill yw dyfodol yr iaith ac nid cadw yn unig, a hynny gan bawb ohonom) 3 4 CYNNWYS Tudalen SYNOPSIS 7 RHAGAIR 13 (i) Diffinio Dysgu Cyfansawdd; (ii) Y Feirniadaeth ar Ddysgu Unochrog. RHAGYMADRODD: Y Gwaith Deublyg 31 Y Ddadl (i) Yr Hollt a’r Adferiad; (ii) Y Pendilio Hanesyddol; (iii) Hanner Canrif o Dwf a Chwymp mewn Dysgu Iaith; (iv) Sectorau Dysgu. RHAN I: TAFOD: Y Gwreiddiau Strwythurol; Patrymau — Beth? Sut? 63 Y Ddadl (i) Gramadeg Cenhedlol a Graddio’r Strwythurau; (ii) Ai’r Baban yw Athro’r Oedolyn? (iii) Seico-Fecaneg Didacteg; (iv) Olyniaeth yn Natur yr Iaith; (v) Iaith Lafar Ysgrifenedig Safonol. RHAN II MYNEGIANT: Y Ffrwythau Sefyllfaol; Cyfathrebu — Sut? Beth? 111 Y Ddadl (i) Yr Angen am Gyfathrebu Trefnus; (ii) Ymarfer Strwythurol; (iii) Dril Dwyieithog; (iv) Darllen Sefyllfaol Strwythurol; (v) Lluniau ac Ymarfer â Phatrymau; (vi) Chwarae — a’r Gêm Strwythurol; (vii) Dosbarthu Sefyllfaoedd a’u hasio wrth Strwythurau; (viii) Ail Iaith yn Gyfrwng Pwnc; (ix) Egwyddorion i’w Defnyddio wrth Raddio Patrymau; (x) Geirfa (Sefyllfaoedd). EPILOG 185 GEIRFA TERMAU 186 5 6 Synopsis o’r gyfrol DYSGU CYFANSAWDD, R. M. Jones, Cyd, 2003 Mae gan Gymru fwy o athrawon ail-iaith nag a fu erioed. Ac y mae rhai ohonynt yn sêr gwirioneddol. Ond erys gwendidau go ddifrifol yn y cyrsiau, digon i beri i nifer o bobl roi’r gorau iddynt yn gynamserol. Ceir diffygion sylweddol (i) mewn graddio a dethol, (ii) yn y cydlyniad rhwng Strwythurau â’i gilydd, ac yn arbennig rhwng Strwythurau a Ffwythiannau, a (iii) yn y duedd i symud (mewn diymadferthedd efallai) at yr eclectig, sef at restru neu gymysgu gwahanol ddulliau heb weld cyfraniad priodol pob un o fewn cynllun cyson yr iaith ei hun. Darganfyddiad pwysicaf Dysgu Cyfansawdd yw bod Ffwythiannau’n adeiladu Strwythurau, a Strwythurau’n rheoli Ffwythiannau. Trefnu cyrsiau newydd, a fydd yn deall ac yn sylweddoli hynny, yn gyfansawdd, yw her gychwynnol y mudiad dysgu ail iaith bellach. Ni wna rhestru ‘dulliau’ gwahanol nac eclectigiaeth anarchaidd byth mo’r tro mwyach. Ceisio esbonio’r egwyddor honno yw nod Dysgu Cyfansawdd. Ar ôl saithdegau’r ugeinfed ganrif aeth llawer o ddysgu iaith yng Nghymru yn debyg i’r hyn a geir mewn ‘phrase book’ i deithwyr. Cyflwynir rhes o frawddegau cymharol gymhleth ar sail Ffwythiant. A does dim ymgais i adeiladu bricsen ar gefn bricsen. Mae rhestru ugain o frawddegau hwylus Ffrangeg yn burion efallai ar gyfer wythnos o wyliau yn Ffrainc. Ond nid dyna’r ffordd i adeiladu iaith i’r dyfodol. Does dim fframwaith na dim modd ystwytho’n drefnus ar gyfer brawddegau newydd. Er mwyn dysgu iaith yn effeithiol rhaid dysgu’r cystrawennau yn olynol o un i un. Gellid cymharu dysgu rhifyddeg. Ffôl fyddai dysgu lluosi cyn dysgu adio. A ffolach byth dysgu ffracsiynau cyn dysgu cyfrif. Ac eto, yn y Gymraeg, mewn gwersi ail-iaith diweddar cafwyd rhywbeth cyffelyb wrth gyflwyno treigladau yn y wers gyntaf. Ceir cymysgedd hollol wyllt o batrymau blith draphlith o’r dechrau cyntaf. Disgwylir eu dysgu ar y cof heb fod perthynas rhyngddynt. A’r sefyllfa sy’n rheoli beth bynnag yw ffurf y brawddegau. Dyw’r iaith ddim yn cael ei hadeiladu o gystrawen i gystrawen yn y meddwl yn olynol. Mae’r cwrs yn gwibio’n ddifeddwl o un patrwm i batrwm arall er mwyn ffitio i mewn i’r pwnc y mae’r athro wedi’i ddewis yn chwiwus ar y pryd. Wrth baratoi cwrs mae angen ystyried yn ofalus beth sy’n dod yn gyntaf. Cyflwyno hynny. Cadarnhau hynny drwy ymarferion trefnus. Yna, ymlaen at y strwythur nesaf. Er enghraifft, yn fras, awn o gwmpas y dosbarth: Mae Gwilym yma. Mae John yma. Mae Bethan yma. (ac yn y blaen) Estyn Mae John yn y dosbarth. Mae John yn y pentref. Mae John yn y tŷ. Mae John yn y gwely. (ac yn y blaen) Estyn Ydy John yn y gwely? Ydy. Ydy Gwilym yn y cae? (ac yn y blaen) Strwythur newydd Oes afal ar y bwrdd? Oes. Oes ci yn y dosbarth? Nac oes. (ac yn y blaen) 7 Cân: Oes gafr eto? Strwythur newydd Ble mae Gwilym? (ac yn y blaen) (atebion yn adolygu’r gwersi cynt) Cân: Ble mae Daniel? ayyb Cyn bo hir, bydd digon wedi’i ddysgu i ymaflyd mewn sefyllfa benodol. Hynny yw, wedi sefydlu’r patrwm bydd modd ffitio ynddo’r eirfa ffwythiannol ac ymarferol. Ar ôl meistroli’r tri strwythur hyn gyda’r cwestiynau Ydy? Oes? Ble? gellir dechrau dysgu pynciol syml. Hynny yw, defnyddio’r ail iaith wrth astudio, er enghraifft fap o Gymru. Ydy Caerdydd yn y gogledd? Ble mae Caerdydd? Oes afon yn Aberystwyth? (ac yn y blaen) Ddylai’r cawl a gafwyd mewn rhai cyrsiau Cymraeg ail-iaith diweddar erioed fod wedi digwydd. Roedd hi’n gwbl amlwg o’r saithdegau ymlaen, nid yn unig fod yna ddwy wedd ar gael ar gyflwr iaith, ond hefyd beth oedd natur y ddwy. Roedd yr astudiaeth o iaith wedi dangos nad brawddegau gorffenedig a oedd gan y dysgwr ymlaen llaw. Potensial o strwythurau yn ei ben oedd ei angen ar gyfer adeiladu amrywiaeth o frawddegau newydd. Roedd synnwyr cyffredin yn dweud bod yr eirfa mewn sgwrs ar y naill law, a’r patrymau i’w clymu wrth ei gilydd ar y llall, yn ddwy wedd ar un broses. Roedd yr astudiaeth o iaith plant yn dangos sut yr oedd yna lwybr gorfodol o ddatblygu’r dysgu. Roedd hi’n amlwg bod rhai strwythurau yn rhagflaenu rhai eraill. Roedd yn rhaid cael un fricsen er mwyn arwain at fricsen arall. Roedd profiad y canrifoedd mewn dysgu iaith a myfyrdod am natur iaith hefyd wedi dangos bod eisiau graddio defnyddiau yn drefnus. Felly y lluniwyd offeryn yn y meddwl a allai drafod pob sefyllfa. Nid crwydro’n anarchaidd o ffwythiant i ffwythiant heb hidio dim am berthynas cystrawennau â’i gilydd oedd y ffordd i adeiladu cyfrwng siarad. Nid rhes ddiberthynas o frawddegau yw calon yr iaith. Yn fyr, ceir dwy wedd ar iaith ac y mae’r naill yn gwbl ddi-werth heb y llall. Strwythur a Geirfa. Patrymau a Sefyllfaoedd. Gramadeg a Ffwythiannau. Sut bynnag y disgrifir y ddeuoliaeth, mae’r ddwy ochr yn orfodol ac yn anochel. Sicrhau’r naill yn y llall mewn trefn yn y pen draw yw her y sawl sy’n paratoi cwrs. Sut y cyrhaeddir hynny? Y peth cyntaf y mae’r paratöwr yn gorfod ei wneud yw llunio cynllun graddedig o strwythurau. Adeiladu’r frawddeg graidd fydd y dasg gychwynnol. Ac yna, o amrywiad neu estyniad ymlaen i amrywiad neu estyniad, cynyddir yr iaith yn ystyrlon. Gorau po fwyaf trefnus ac eglur a chyson y bo. Dyna’r adnodd sylfaenol wrth law. Graddfa weddol gyflawn o batrymau.