Agweddau Athronyddol Ar Waith TH Parry- Williams
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
_________________________________________________________________________Swansea University E-Theses 'Cweryl y Bydysawd': Agweddau Athronyddol ar Waith T. H. Parry- Williams. Lane, Maureen How to cite: _________________________________________________________________________ Lane, Maureen (2005) 'Cweryl y Bydysawd': Agweddau Athronyddol ar Waith T. H. Parry-Williams.. thesis, Swansea University. http://cronfa.swan.ac.uk/Record/cronfa42840 Use policy: _________________________________________________________________________ This item is brought to you by Swansea University. Any person downloading material is agreeing to abide by the terms of the repository licence: copies of full text items may be used or reproduced in any format or medium, without prior permission for personal research or study, educational or non-commercial purposes only. The copyright for any work remains with the original author unless otherwise specified. The full-text must not be sold in any format or medium without the formal permission of the copyright holder. Permission for multiple reproductions should be obtained from the original author. Authors are personally responsible for adhering to copyright and publisher restrictions when uploading content to the repository. Please link to the metadata record in the Swansea University repository, Cronfa (link given in the citation reference above.) http://www.swansea.ac.uk/library/researchsupport/ris-support/ ‘Cweryl y Bydysawd’ Agweddau Athronyddol ar Waith T. H. Parry-Williams Maureen Lane Cyflwynwyd i Brifýsgol Cymru gan ateb gofynion gradd Ph.D. Prifysgol Cymru Abertawe 2005 ProQuest Number: 10821230 All rights reserved INFORMATION TOALLUSERS The quality of this reproduction is dependent upon the quality of the copy submitted. Inthe unlikely eventthat the authordid not send a com plete manuscript and there are missing pages, these will be noted.Also, if material had to be removed, a notewill indicate the deletion. uest ProOuest 10821230 Published by ProQuest LLC(2018). C opyrightof the Dissertation is held by the Author. All rights reserved. This work is protected against unauthorized copying under Title 17, United States C ode Microform Edition © ProQuest LLC. ProQuest LLC. 789 East Eisenhower Parkway P.O. Box 1346 Ann Arbor, Ml 48106- 1346 CYFLWYNIAD Yn y bennod gyntaf, ceisir dangos paham y ceir anhawster wrth geisio deall gwaith y bardd-lenor, T. H. Parry-Williams, ac wrth ymdrechu i adnabod y dyn ei hun yn well. Cynigir sawl ateb i’r broblem hon. Yr un pennafywei gred mai cymuno’n hanner gyfrinachol â’i ddarllenwyry dylai ysgrifẃr ei wneud, gan ei led-guddio ei hun yn ei waith. Ymhellach, synia y gellid dweud pob math o bethau mewn barddoniaeth heb eu derbyn yn hollwir. Gwelir, felly, ei fod yn chwarae mig ag ef ei hun, fel y gwna â’i ddarllenwyr. Yn yr ail bennod, treiddir i anwadalwch meddwl Parry-Williams, gan ddilyn canllawiau ei faniffesto personol ar lenydda. Trafodir y broblem o geisio adnabod y bardd-lenor fel dyn ond darganfyddir ei fod yn amddiffyn ei anwadalwch drwy gyfrwng ei ymlyniad diysgog wrth ‘brofiadau munud awr’ a rheidrwydd diffuantrwydd ar ran llenorion. Darlunnir anwadalwch meddwl Parry-Williams ymhellach ym mhennod tri, drwy daflu golwg ar y modd y ceisia wadu ei wir deimladau ar ei fordeithiau pell i America yn 1925 ac yn 1935. Ymdrinnir, hefyd, â rhai agweddau a oedd i liwio ei natur bruddglwyfus. Yn y bedwaredd bennod, ymdrinnir â datblygiadau chwyldroadol ym myd ffiseg a danseiliodd yr hen feddylfryd am y bydysawd ac a ychwanegodd at ansicrwydd ac anwadalwch meddwl Parry-Williams. Ceir ymdriniaeth ar ei olygwedd ansicr ar grefydd yn y bumed bennod, lle y gosodir ei waith yn erbyn cefndir diwinyddol, newidiol ei oes. Yn olaf, yn y chweched bennod, ceisir mynd i’r afael â pherthynas y bardd-lenor â’r byd ysbrydol, gan ddefnyddio syniadau hen a chyfoes am y pwnc, gan gynnwys seicoleg, fel cefndir yr astudiaeth. DATGANIAD Ni dderbyniwyd y gwaith hwn eisioes o ran sylwedd am unrhyw radd ac ni chyflwynwyd ef ar hyn o bryd wrth ymgeisio am unrhyw radd. Llofnodwyd (ymgeisydd) Dyddiad ..............O.fb. ................................... GOSODIAD 1 Mae’r traethawd hwn yn ganlyniad fy ymchwiliadau i fý hun, ac eithrio lle y nodir yn wahanol. Cydnabyddir ffynonellau eraill gan droednodiadau sy’n rhoi cyfeiriadau manwl. Atodir llyfryddiaeth. Llofnodwyd (ymgeisydd) Dyddiad .................. ..................................................... GOSODIAD 2 Rhoddaf yma gydsyniad i’m traethawd, os derbynnir ef, fod ar gael i’w lungopio ac ar gyfer benthyciadau rhwng llyfrgelloedd ac i’r teitl a’r crynodeb fod ar gael i gyrff allanol. Llofnodwyd (ymgeisydd) Dydd iad ................................... :.P.$T. ........................... Cynnwys Cyflwyniad ii Datganiad a Gosodiadau iii Cynnwys iv Byrfoddau v Pennod 1 ‘Treiddio i’r Adnabyddiaeth’? 1 Nodiadau 76 Pennod 2 Malu a Chwalu 84 Nodiadau 137 Pennod 3 ‘Gweld y Byd’? 143 Nodiadau 212 Pennod 4 Mawr a Bach 219 Nodiadau 319 Pennod 5 Du a Gwyn 328 Nodiadau 394 Pennod 6 ‘Rhwng Nef a Llawr’ 399 Nodiadau 458 Diweddglo 464 Llyfryddiaeth 467 iv BYRFODDAU arg. argraffiad B. 0. Bob Owen BBC British Broadcasting Corporation C. C. Cyn Crist c. tua Co. Company Corpl. Corporal Cyf. Cyfyngedig neu Cyfrol Dr. Doctor e.e. er enghraifft e.g. er enghraifft ed. editor/editors et al. ac eraill etc. ac yn y blaen gen. ed. general editor gol. golygydd /golygydd ion ibid. o’run tarddiad Inc. Incorporated LIGC Llyfrgell Genedlaethol Cymru LIGC, THPW casgliad T. H. Parry-Williams yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru Ltd. Limited M. C. Methodistiaid Calfinaidd M.A. Master of Arts N. York New York No Number 0. C. Ôl Crist Ph.D. Doctor of Philosophy Preg. Llyfr y Pregethwr pt. part Pte. Private R. A. M. C. Royal Army Medical Corps Rev. Reverend Sect. Section sic ysgrifennwyd fel yn y gwreiddiol St. Saint THPW Thomas Herbert Parry-Williams Vol. Volume Wms Williams v PENNOD 1 ‘TREIDDIO l’R ADNABYDDIAETH’? Wrth drafod gwaith T. H. Parry-Williams, awgrymodd Meredydd Evans fod ‘mwy i’r person hwn nag a fỳnegwyd ganddo amdano’i hun mewn cerdd ac ysgrif.’1 Meddai Dyfnallt Morgan: ‘One is left with the strong impression that T. H. Parry-Williams has chosen not to parade whatever beliefs he cherished and not to be in any way didactic.’2 A datganodd R. Gerallt Jones i’r un perwyl: Although often moved to admiration and even a sense of awe by the skill of many individual poems, one is at first left with a feeling of uncertainty and sometimes of bafflement when looking at his work in its totality ... In direct contrast to his cousin, Robert Williams Parry, one does not feel immediately that here is an undiluted revelation of a poet’s personality; there is a caution, a sense of the deliberate balancing of contrary forces, possibly even an unwillingness to accept the real implications of the poet’s own most penetrating vision, that, in the final analysis, clouds the issue.3 Dywedodd D. Islwyn Edwards yntau i T. Gwynn Jones a Parry-Williams ddefnyddio ‘Cwlt y Masg’ yn bur ddeheuig yn eu gwaith gan ei gwneud yn amhosibl bron i ddarganfod yr wyneb-go-iawn sydd yn llechu y tu ôl i’r personae .4 Ac mewn adolygiad cyfoes o’r gyfrol, Cerddi(1931), 1 syniodd J. Gwyn Jones nad barddoniaeth ysgafn a geid ynddi, gan esbonio ei bod yn rhaid aros yn hir uwchben y meddyliau, a dychwelyd eilwaith atynt, gan gilio’n bryderus yn y diwedd rhag ofn na chafẃyd gafael ar wreiddyn y mater. Beiai ef anwadalwch meddwl Parry-Williams yn hyn o beth ac meddai: ‘O bosibl, mai’r anwadalwch yw’r unig beth sefydlog a berthyn iddo’,5 gan ychwanegu y gallai olygu ymgais onest gywir i ddehongli bywyd yn ôl yr argraffiadau a dderbyniodd y bardd o ffeithiau mawr bywyd, megis marw a byw, casineb a serch. Felly, pwysleisiodd nad oedd gan Parry-Williams weledigaeth glir o ystyr bodolaeth ac ategwyd hynny gan ‘Y Brawd Llwyd’ hefýd, wrth drafod yr un gyfrol yn 1931. Yn ôl hwnnw, nid oedd athroniaeth bywyd Parry- Williams wedi crisialu digon ar y pryd iddo allu rhoi nodyn clir a phendant ynddi.6 Cafẁyd sylw digon perthnasol gan Hywel Teifi Edwards yn ei adolygiad o GyfrolDeyrngedSyr Thomas Parry-Williams pan esboniodd nad oedd hi yn ein tywys gam yn nes at y dyn ei hun, er cymaint yr oedd wedi mwynhau ei darllen. Tybiai ef mai trwy ddarllen y cerddi a’r ysgrifau y deuid i adnabod Parry-Williams yn well.7 Y mae hyn yn wir o bosibl, ond yn anffodus i ddarllenwyr y gweithiau hynny, credai Parry-Williams yn gadarn na ddylai awduron ddinoethi eu henaid mewn rhai mathau o weithiau creadigol. Enghraifft dra chadarnhaol o hyn, a welir yn ei bapurau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yw ei lawysgrif fras iawn ar gyfer darlith i’w thraddodi yn ystod ‘Wythnos Gymraeg Coleg Harlech’ ar y 14eg o Awst, 1953.8 Fe’i gelwir ‘Yr Elfen Bersonol ?mewn Barddoniaeth ?mewn Rhyddiaith’ (eiddo’r awdur yw’r marciau cwestiwn). Y mae’r llawysgrif hon yn bwysig dros ben ac fe’i defnyddir yma i ddadlennu’r modd y cyfiawnha Parry- Williams angen llenor i’w led-guddio ei hun yn ei waith o dan rai amgylchiadau. Ynddi ceisia argyhoeddi ei ddarpar wrandawyr nad cyfrwng i ddatgelu rhywbeth am yr ysgrifẁr ei hun yw ysgrif ond yn hytrach ddarn o ryddiaith sydd yn cyffwrdd â’r cyffredinol mewn llenyddiaeth - hynny yw, yr hen syniad clasurol Groegaidd mai trafod bywyd yn gyffredinol drwy’r oesau y dylai barddoniaeth ei wneud ac ymatal rhag ymdrin â’r neilltuol hanesyddol. Pwysleisiodd Parry-Williams y pwynt hwn yn gryf mewn llythyr yn 1951 atj. W. Jones, Blaenau Ffestiniog, a oedd am weld cyhoeddi barddoniaeth ewythr y bardd-lenor o Ryd-ddu, sef R. R. Morris, a oedd bellach wedi marw: Wel, fy nheimlad i yw hyn - fod rhan fawr o’r cerddi hyn I iI I | wedi gwneud eu gwaith pan ymddangosasant y tro cyntaf.