Y Ddelwedd o’r Aelwyd yn y Nofel Gymraeg o 1960 hyd at 2008 Traethawd a gyflwynir am radd Doethur mewn Athroniaeth Nia Angharad Watkins Prifysgol Aberystwyth 2011 DATGANIAD Nid yw sylwedd y gwaith hwn wedi cael ei dderbyn yn flaenorol ar gyfer unrhyw radd, ac nid yw’n cael ei gyflwyno ar yr un pryd am unrhyw radd. Llofnod ...................................................................... (ymgeisydd) Dyddiad ..................................................................... GOSODIAD 1 Canlyniad fy ymchwiliadau i yw’r traethawd hwn, oni nodir yn wahanol. Cydnabyddir ffynonellau eraill mewn troednodiadau sy’n rhoi cyfeiriadau eglur. Atodir llyfryddiaeth. Llofnod ...................................................................... (ymgeisydd) Dyddiad ..................................................................... GOSODIAD 2 Yr wyf drwy hyn yn rhoi caniatâd i’r traethawd ymchwil hwn, os yw’n cael ei dderbyn, fod ar gael i’w lungopïo ac ar gyfer benthyciadau rhwng llyfrgelloedd â’i gilydd, ac i’r teitl a’r crynodeb fod ar gael i gyrff allanol. Llofnod ...................................................................... (ymgeisydd) Dyddiad ..................................................................... GOSODIAD 3 Yr wyf yn rhoi caniatâd i’m traethawd gan ei adneuo yng Nghadwrfa Ymchwil Sefydliadol y Brifysgol. Llofnod ...................................................................... (ymgeisydd) Dyddiad ..................................................................... Hoffwn ddiolch i’m cyfarwyddwyr, Dr Mihangel Morgan a’r Athro Marged Haycock, am eu cymorth parod wrth imi lunio’r traethawd hwn, ac i staff Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, am eu hanogaeth. Carwn ddiolch hefyd i’m teulu a’m ffrindiau am eu cefnogaeth ar hyd y daith. Crynodeb Eir ati yn y traethawd hwn i ymdrin â delwedd yr aelwyd yn y nofel Gymraeg o 1960 hyd at 2008 trwy gyfrwng ymdriniaeth thematig. Yn y bennod gyntaf, amlinellir nodweddion o gefnlen gymdeithasol yr ugeinfed ganrif a oedd yn gatalyddion i’r aelwyd hanesyddol, ac i ddarlun yr aelwyd ffuglennol. Yn yr ail bennod, edrychir ar ddarlun delfrydol yr ‘aelwyd draddodiadol Gymreig’ mewn llenyddiaeth ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Yn ail ran y bennod, ystyrir i ba raddau yr arddelir y darlun o’r ‘aelwyd draddodiadol Gymreig’ mewn testunau a gyhoeddwyd rhwng 1930 a 1960. Yn y drydedd bennod, dechreuir ar y brif astudiaeth gan roi sylw i’r aelwyd argyfyngus. Ymdrinnir â delwedd yr aelwyd mewn nofelau a gyhoeddwyd yn ystod y chwedegau a’r saithdegau lle gwelir newidiadau cymdeithasol pellgyrhaeddol y blynyddoedd hynny ynghyd â’r chwyldro rhywiol yn gefnlen amlwg i’r nofelau. Yn y bedwaredd bennod, eir ati i ymdrin ag aelwyd plentyndod. Gan ganolbwyntio ar nofelau lle defnyddir llif meddwl y plentyn fel naratif, dehonglir y ddelwedd a roddir o’r aelwyd gan y plentyn ei hun. Sonnir am y plentyn fel traethydd eironig wrth iddo ddatgelu gwybodaeth am yr aelwyd nad yw’n deall ei harwyddocâd. Yn y bumed bennod, ceir ymdriniaeth gymharol ag aelwyd y wlad ac aelwyd y ddinas. Dehonglir yr aelwydydd yng ngolau traddodiad a Chymreictod ar y naill law, a modernrwydd a Seisnigrwydd ar y llall. Amlygir yr aelwyd wledig fel alltud i’r newidiadau cymdeithasol a effeithiodd ar ffyniant proffesiynol y ferch, a’r aelwyd ddinesig fel un a’u croesawodd. Yn y chweched bennod, eir ati i ymdrin â’r aelwyd amgen (gwahanol/alternative). Ceir yma aelwyd ffuglennol sy’n gwyro oddi wrth yr hyn a ystyrir yn gonfensiwn. Caiff cysyniad traddodiadol yr aelwyd ei herio, a gofynnir: a oes rhaid wrth adeilad er mwyn creu aelwyd? Cynnwys Rhagymadrodd 1 1. Newidiadau Cymdeithasol yr Ugeinfed Ganrif 4 2. Yr Aelwyd Draddodiadol Gymreig 14 3. Yr Aelwyd Argyfyngus 47 4. Aelwyd Plentyndod 76 5. Aelwyd y Wlad ac Aelwyd y Dref 110 6. Yr Aelwyd Amgen 140 Diweddglo 181 Llyfryddiaeth 184 Rhagymadrodd Gorchwyl hawdd yw cyfiawnhau ymchwilio i’r maes hwn. Wrth ystyried yr aelwyd mewn cyd-destun eang, ni ddylid tanbrisio ei phwysigrwydd yng ngolau’r modd y saif yn sylfaen i bob agwedd ar fywyd. Yr aelwyd, yn ddiau, yw’r dylanwad mwyaf ar fywyd unigolyn; arni hi y megir, y ffurfir ac y diffinnir ei bersonoliaeth, y meithrinir ynddo werthoedd ac y plennir ynddo wreiddiau ei berthynas â chymdeithas. Ar y gyfres radio ‘A History of Private Life’ a ddarlledwyd ar BBC Radio 4 rhwng 20 Medi a 2 Hydref 2009, dywedodd yr hanesydd Amanda Vickery: Households are the founding social and spiritual unit of society in the early modern period, and I think you could argue it still is the case in the present day. Being able to establish a household represents your political maturity – it’s the foundation for a successful social life. It’s the platform for all your engagement in the public world.1 O ‘fyd bach’ yr aelwyd, paratoir yr unigolyn gogyfer â’r ‘byd mawr’ ehangach. Saif yr aelwyd yn gatalydd i’w olwg ar y byd, ei gydberthynas ag eraill a’i hyder yn ei gymdeithas ei hun. Yr aelwyd yw canolbwynt bywyd pob un gan mai yno y rhed ei brif ffrwd: o blentyndod a dod i oed, hyd at briodas, magu teulu a heneiddio. Er na welir arni gynnwrf gwleidyddol y byd allanol, ar yr aelwyd mewn gwirionedd y digwydd holl ddramâu personol bywyd,2 trwy wrthdaro, cymodi, gorfoledd a galar. Dilynir arni, at hynny, holl elfennau rhigol cyffredin bywyd – coginio, bwyta, glanhau a chysgu – ac y gwelir yr unigolyn a’r teulu ar eu mwyaf naturiol. Rhydd yr aelwyd rwydd hynt i’r unigolyn ddatgelu agweddau ar ei bersonoliaeth na fynegir mohonynt oddi allan iddi, ac yng ngolau hynny, cedwir yr aelwyd yn gudd rhag golwg cymdeithas. Saif yr aelwyd yn sail barhaol i fywyd; er y ceir rheidrwydd i’w gadael yn sgil gyrfa ac elfennau’r bywyd modern, ati hi y dychwelir bob tro. Prin y gellir gorbwysleisio dylanwad yr aelwyd yng ngolau natur cydberthynas deuluol. Tra rhydd yr aelwyd gadernid a noddfa yn sgil dedwyddwch perthynas, esgorir ar iselder a rhwystredigaeth yn sgil annedwyddwch. Rhoddir ym meddiant yr aelwyd y gallu i bennu cyflwr emosiynol a meddyliol ei thrigolion; gall 1 Amanda Vickery, ‘A History of Private Life’, BBC Radio 4 (28 Medi 2009). 2 Amanda Craig, ‘In defence of the domestic novel – Persephone lecture’, http:www.amandacraig.com/pages/journalism/lectures/domestic-novel.htm (2005), ymwelwyd ar 15/10/2006. Dyfynnwyd yn Nia Angharad Watkins, ‘Y Nofel Ddomestig dros dair cenhedlaeth, gyda sylw neilltuol i waith Moelona, Jane Edwards a Sonia Edwards’, traethawd MPhil, Prifysgol Aberystwyth (2007), t. 4. 1 arwain at hapusrwydd a bodlonrwydd ar y naill law, ac arwain at dristwch ac anfodlonrwydd ar y llall. Yng ngolau mawredd dylanwad yr aelwyd, ni chyfyngir yr emosiynau i’r aelwyd ei hun, ond lledant yn hytrach i bob agwedd ar fywyd. Gan gadw pwysigrwydd ac arwyddocâd yr aelwyd mewn golwg, synnir at gyn lleied o gyfeiriadaeth a geir mewn beirniadaeth lenyddol at ddelwedd yr aelwyd mewn ffuglen Gymraeg. Yr aelwyd, yn amlach na pheidio, yw un o leoliadau pennaf y rhan fwyaf o nofelau lle seilir y digwyddiadau arwyddocaol ym mywydau’r cymeriadau. Yno y mynegant eu teimladau a’u hemosiynau ac y darlunnir yn aml drobwynt mewn cydberthynas â theulu. Cyflwynir y gwaith hwn felly gyda’r gobaith o lenwi bwlch. Yn sgil terfynau amser, fodd bynnag, gresynir na fedrir canolbwyntio ar gyfnod ehangach na’r hyn y penderfynwyd arno. Dewiswyd y flwyddyn 1960 fel man cychwyn am fod y flwyddyn honno’n dynodi cyfnod newydd yn hanes cymdeithas, yn hanes menywod, ac o ganlyniad, yn hanes yr aelwyd. Manylir ymhellach ar hynny yn y bennod gyntaf, ac eglurir natur perthynas yr astudiaeth â chefnlen hanesyddol. Dewiswyd y flwyddyn 2008 fel man terfyn am mai yn ystod y flwyddyn honno y dechreuwyd ysgrifennu cynnwys yr astudiaeth hon, a chan nad oedd amser yn caniatáu edrych ymhellach. Er y dewiswyd dechrau a gorffen yr astudiaeth ar flynyddoedd penodol, nid astudiaeth gronolegol rhwng y blynyddoedd hynny mohoni. Ceir, yn hytrach, ymdriniaeth thematig. Priodolir i bob pennod thema benodol. Gwneir hynny am y gellir arddangos yn glir wynebau amrywiol yr aelwyd yn ystod y blynyddoedd dan sylw, gan ymdrin â phob wyneb yn drylwyr yn ei dro yng ngolau’r nofelau a ddewisir. Pe dewisid gwneud ymdriniaeth gronolegol gan drafod degawd penodol fesul pennod, dichon y deuid ar draws trafferthion wrth orfod neidio o un thema i’r llall. At hynny, ceir nifer o achosion lle na welir gwahaniaethau o ran cynnwys ac arddull rhwng nofelau a gyhoeddwyd ddegawdau oddi wrth ei gilydd (gwelir hyn yn arbennig yn y bedwaredd bennod). Gwell felly yw eu trafod o fewn yr un bennod. Cydnabyddir, er hynny, fod y drydedd bennod - pennod gyntaf y brif astudiaeth - yn rhoi sylw i nofelau a gyhoeddwyd o fewn ychydig flynyddoedd i’w gilydd ar ddechrau’r cyfnod dan sylw. Yn achos y bennod honno, y mae’r ymdriniaeth thematig yn cyd-fynd â chronoleg yn sgil y modd y’u trafodir yng ngolau cefnlen gymdeithasol y chwedegau a’r saithdegau. Nid yw’n argoel, fodd bynnag, o ymdriniaeth gronolegol yn y penodau dilynol. 2 Wrth nodi dyfyniadau o nofelau a thestunau beirniadol, penderfynwyd peidio ag arfer ‘[sic]’ i ddynodi camgymeriad o fewn y dyfyniadau hynny. Gwneir pob ymdrech felly i sicrhau bod y dyfyniad yn union fel y mae yn y testun gwreiddiol. Yn yr ail bennod, bathir y gair ‘amgenedd’ i ddynodi ‘natur amgen’ yr aelwyd dan sylw (lle na fo defnyddio ‘natur amgen’ yn gweddu’n gystrawennol), ac eir ati i ddefnyddio’r bathiad yn helaeth yn y chweched bennod. Gwneir hyn yn niffyg gair gwell. 3 Pennod 1: Newidiadau Cymdeithasol yr Ugeinfed Ganrif Cyn camu tuag at ddadansoddi delwedd yr aelwyd ffuglennol, eir ati i olrhain y newidiadau a nodweddion cymdeithasol a fu’n gyfrifol am ei datblygiad a’i gwedd ar hyd yr ugeinfed ganrif. O safbwynt y datblygiad hwnnw, gellir rhannu’r ugeinfed ganrif yn ddwy ran, gyda’r gamfa o’r naill i’r llall i’w gweld yn 1960.
Details
-
File Typepdf
-
Upload Time-
-
Content LanguagesEnglish
-
Upload UserAnonymous/Not logged-in
-
File Pages198 Page
-
File Size-