Dogfen Gomisiynu Radio Cymru 2016-17
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Dogfen Gomisiynu Radio Cymru 2016-17 Cynnwys 1. Cyflwyniad 2. Y Tîm Comisiynu 3. Categoriau annibynnol 2016-17 4. Manylion cyswllt 5. Comisiynau 2015-16 6. Cynulleidfa Radio Cymru 7. Neges gan y Rheolwr Darlledu 8. Neges gan Cymru Fyw 9. Ffurflen Gomisiynu + Amserlen 1. Cyflwyniad Diolch i chi am eich diddordeb yn rownd gomisiynu Radio Cymru – diddordeb blynyddol i amryw ohonoch chi, diddordeb o’r newydd i eraill, gobeithio. Bob blwyddyn, mae’n braf cael y cyfle i gydweithio o’r newydd gyda chwmniau sydd wedi cyfrannu rhai o gyfresi cryfaf y gwasanaeth. Mae hi’r un mor braf cael gweithio gydag un neu ddau o gwmniau newydd, a chlywed syniadau ac arddulliau newydd ar yr awyr yn ystod y flwyddyn. Diolch i chi. Mae’na ambell i beth reit allweddol wedi newid yn Radio Cymru ‘leni ac felly, dyma’r lle i ddechrau. Mae’r tîm wedi newid ei siap dros y misoedd dwetha ‘ma. Bellach mae Ynyr Williams yn Ddirprwy Olygydd, ac yn gweithio ym Mangor yn bennaf. Mae Ynyr yn dod â her ac egni i’r ffordd ry’n ni’n gneud pethau ac os mai yn y gogledd ry’ch chi’n gweithio’n bennaf fel cwmni, codwch y ffôn â chroeso i chi i ddod i’w nabod. Pan fydda i’n gwrando ar Radio Cymru erbyn hyn – ac ydw, dwi’n gneud hynny’n ddeddfol – dwi’n gwybod pwy sy’n gyfrifol am beth. Mae hynny am bod gyda ni dîm o dri sydd bellach yng ngofal tair agwedd ar ein darlledu ni. Dafydd Meredydd yw Uwch-gynhyrchydd y rhaglenni dyddiol – asgwrn cefn Radio Cymru. Gareth Iwan Jones yw Uwch-gynhyrchydd cerddoriaeth, a’r rhaglenni cerddorol. John Roberts yw Uwch-gynhyrchydd y rhaglenni llafar, dogfennau, a rhaglenni nodwedd. Gan fod drama ynghlwm â chefndir Ynyr, fe fydd yn gofalu am elfennau drama a sgriptio’r gwasanaeth, gan gynnwys y Llyfr Bob Wythnos, slot boreol Bore Cothi. I fi – ac i chi, gobeithio – mae’r dyletswyddau’n glir. Ewch ati felly i ddarllen y ddogfen. Mae hon, eto, wedi’i hail-wampio rywfaint wrth i ni’ch annog chi i gynnig syniadau all greu sŵn, denu sylw, denu gwrandawyr. Cofiwch am ofynion Cymru Fyw, cofiwch bod mwy a mwy o wrandawyr bellach yn gyson ‘wrando eto’ am fod rhywbeth wedi dal eu llygaid neu’u clust tra’n pori ar Cymru Fyw neu wefan Radio Cymru. Cofiwch hefyd bod adlewyrchu amrywiaeth Cymru nid yn unig yn nod pwysig. Mae’n hanfodol i orsaf sy’n addo i’w chynulleidfa bod lle i lais pawb ar Radio Cymru: Llais Cymru. Heriwch ni eleni – mae’r tîm yn barod amdanoch chi! Betsan Powys Golygydd Rhaglenni Radio Cymru 2. Y Tîm Comisiynu John Roberts – Rhaglenni Llafar Efallai fod rhai ohonoch yn crafu eich pen gan holi beth yn union ydi cyfrifoldeb Uwch- gynhyrchydd rhaglenni llafar. Mae’r ateb yn gymharol syml, rwy’n gofalu am raglenni dogfen, rhaglenni nodwedd, rhaglenni trafod a rhaglenni adloniant ysgafn nad ydynt yn cynnwys elfen fawr o gerddoriaeth. Felly rwy’n gofalu am amrywiaeth eang o raglenni o Byd Amaeth i raglen Caryl, o Cofio i Straeon Bob Lliw a llawer mwy. Canlyniad hynny yw fod llawer iawn o’r rhaglenni a gynhyrchir gan gwmnïau annibynnol ar fy mhlât i, ac rwy’n edrych ymlaen at gael trafod a gweithio gyda chi. Mewn byd delfrydol mae’r trafod yn dechrau’n gynnar iawn, hyd yn oed cyn cyflwyno’r syniad. Rwyf wedi bod yn cymryd rhan yn y rowndiau comisiynu rhaglenni ers rhai blynyddoedd erbyn hyn ac ar adegau rydw i wedi teimlo dros ambell gwmni oedd wedi trafferthu i gyflwyno syniadau nad oedd ganddynt obaith cael eu comisiynu. Mae amryw resymau am hynny: rhaglenni tebyg wedi eu comisiynu neu hyd yn oed eu darlledu’n ddiweddar, pynciau nad ydym yn debygol o gynhyrchu dim amdanynt neu syniad tebyg wedi ei wrthod yn ddiweddar. Felly a gaf i eich hannog i godi’r ffôn wrth feddwl rhoi syniad ar bapur er mwyn cael sgwrs fer iawn am y posibiliadau. O ran syniadau mae sawl elfen amlwg yn y rowndiau comisiynu bob blwyddyn, yr elfen amlycaf yw dathliadau o bob math ac nid oes prinder syniadau gwreiddiol a difyr yn eu sgil. Ond tybed nad oes angen annog pobl i feddwl hefyd am feysydd lle mae prinder rhaglenni gennym. Mae meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg yn faes cymharol wan fel arfer, yn yr un modd adloniant ysgafn. Nid yw hynny i ddweud nad ydym eisiau gweld a chlywed syniadau am hanes, portreadau o unigolion neu gymunedau, chwaraeon, crefydd a’r “pethe”, ond mae angen cynfas eang yn gyson. Un gair am natur y syniadau. Mae tuedd i’r syniadau fod yn syniadau rhaglenni nodwedd yn hytrach na dogfen. Byddai yn hyfryd iawn gweld syniadau mwy uchelgeisiol o ran eu dull o adrodd stori neu ddweud hanes. Mae technegau digidol bellach yn cynnig cymaint o ddulliau i ddweud stori neu gyflwyno dadl, ac wrth gwrs y mae thechnoleg yn gwneud golygu crefftus sydd yn hudo’r glust gymaint yn haws, byddai’n braf trafod sain rhaglen yn ogystal a’r naratif ei hun pan ddaw hi’n adeg cyfweliadau. Dyna ddigon o ryw hen eiriau, rwy’n edrych ymlaen at drafodaeth fywiog am syniadau cadarn! Gareth Iwan Jones – Cerddoriaeth a Rhaglenni Cerddoriaeth Er mwyn denu sylw a chreu rhaglenni sy’n codi calon yn ogystal â ffigyrau gwrando, dwi’n awyddus i gael syniadau sy’n defnyddio strwythr neu ddyfais greadigol, wahanol i gyflwyno’r straeon cerddorol – rhaglenni fydd yn creu argraff fel Sesiwn Unnos neu’n gweu haenau sain yn gywrain fel rhaglenni “penblwydd” yr albwm Cam o’r Tywyllwch. Ry’n ni eleni hefyd yn edrych am ddau beth yn benodol gan ein cyfresi cerddoriaeth: Yn gyntaf fod y cyfresi yn creu caneuon / deunydd cerddorol newydd sbon fydd ar gael i’r orsaf yn y dyfodol. Gall y deunydd yma fod yn ganeuon newydd yn cael eu recordio yn arbennig ar gyfer y rhaglen (ee Yma Wyf Finnau I Fod), neu drwy ddod o hyd i ganeuon “coll” o’r gorffennol fydd o ddefnydd i raglenni eraill (ee Hen Bethe Crwn), neu drwy adlewyrchu elfennau o ddiwylliant cerddorol Cymru sydd ddim yn cael sylw ar hyn o bryd (ee Sesiwn Y Sioe Gerdd). Bydd y rhaglenni’n gadael gwaddol cerddorol i weddill yr orsaf, ac felly’n cynnig gwerth am arian mewn sawl ffordd. Yn ail, bydd yn flaenoraieth gan Radio Cymru i roi sylw i artistiaid o bob math sydd i’w gweld yn perfformio ar hyd a lled Cymru, ac sy’n cyfoethogi ein diwylliant cerddorol byw. Hoffem roi pwyslais ar gerddorion sy’n medru cynnig profiadau gwrando eang i’n cynulleidfa – ar y radio a thu hwnt. Mae tystiolaeth fod rhoi sylw i gerddorion sy’n cyfrannu at ddiwylliant byw Cymru yn denu cynulleidfa gref i’r orsaf – boed hynny’n ganu gwlad John ac Alun, yn gerddoriaeth amgen criw Peski, yn grwpiau poblogaidd fel Candelas neu Swnami, neu’n gorau neu cerddorfaoedd sy’n diddanu led-led Cymru. Bydd ein comisiynau yn cynnig llwyfan i’r artistiaid yma – felly, dewch i drafod. Dafydd Meredydd – Rhaglenni Dyddiol Wrth i mi gamu, am y tro cyntaf, i mewn i grochan creadigol rownd gomisiynu Radio Cymru, dwi’n llawn sylweddoli fod natur fy ngofalaeth i, er yn fawr o ran oriau darlledu, yn weddol sefydlog o wythnos i wythnos o ran strwythur a phatrwm. Wedi dweud hynny, dwi’n grediniol fod lle o fewn y strwythur yma i feddwl yn agored ac yn greadigol. Oes yna syniadau allan yna fyddai, yn hytrach na gweithio fel rhaglen hanner awr draddodiadol, yn gweddu’n well fel cyfres o raglenni byrion o fewn strand dyddiol, er enghraifft Shorts Huw ar Bore Cothi? Neu, oes yna brosiect uchelgeisiol yn y gwynt? Dwi’n meddwl am y ddeuawd rhwng Cymru a Phatagonia a osododd record byd, nad oedd yn raglen fel y cyfryw, ond yn ddarllediad o fewn Rhaglen Tudur Owen ac yn un o uchafbwyntiau darlledu Radio Cymru eleni. Yn ogystal â bod yn ffordd o wireddu syniadau llai confensiynol, gall y perlau yma gyfoethogi ein gwasanaeth yn aruthrol. Mae’r posibiliadau yn ddi-ddiwedd, a dwi’n edrych ymlaen gyda chyffro i drafod eich syniadau. Gawn ni annog cwmniau i sgwrsio â’r Uwch-gynhyrchydd perthnasol cyn cynnig syniadau. Os cewch chi argraff buan o’u hymateb, a pheth arweiniad, gobeithio y caiff pawb fwy o fudd o’r broses. 3. Crynodeb o gategoriau annibynnol 2015-16 Mae Radio Cymru yn unigryw. Mae Radio Cymru yn hollol ymroddedig i raglenni yn yr iaith Gymraeg. Llais Cymru glywch chi ar Radio Cymru. Mewn amserlen sy'n ceisio bod mor amrywiolâphosib, gan roi croes-doriad o apêl ac o synnau gwahanol ar hyd y dydd, mae angen cofio bod yn rhaid i'ch rhaglen neu'ch cyfres fod yn aruchel. Mae'n rhaid i'ch rhaglen neu'ch cyfres wneud 'sŵn' yn yr amserlen ac felly cofiwch ar bob achlysur - 'Mwya'r sŵn, mwya'r sylw!' EIN BWRIAD • Rydym yn disgwyl straeon cryf gyda chymeriadau cryf, a chyda strwythr cryf yn eu gyrru. • Dros y flwyddyn nesaf ar Radio Cymru mi fydd lle i berlau fydd yn ein swyno, ein synnu, a’n cyfareddu. Plis peidiwch a dal yn ôl rhag eu cynnig oherwydd nad ydynt yn ffitio i unrhyw gategori neu gyfres. Dyma’r fflachiadau all wneud sŵn ar lefel ryngwaldol. Gallant fod yn ddogfen unigol, yn wythnos thematig neu yn ddigwyddiadau arloesol. • Os yw'ch rhaglen/cyfres yn cael eu gyrru gan gymeriad neu nifer o gymeriadau, mae angen I chi ddod a'r enwau inni, neu o leiaf drafod yr enwau gyda ni, cyn cyflwyno'r syniadau.