Pennod 14 – Amgylchedd 241

Pennod 14 : Amgylchedd

Y Bennod Gyfan Gwrthwynebiad 80/1251 – Y Cyng Robert Llewelyn Jones

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae angen polisi ar barciau a gerddi am nad ymddengys fod planhigion i’w gweld o amgylch trefi ac atyniadau ymwelwyr.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nid oes a wnelo’r mater hwn â defnydd tir y gellir mynd i’r afael ag ef yn y cynllun.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Nid yw darparu gwaith planhigion amwynder yn fater i’r cynllun.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio Pennod 14 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Nodyn: Ystyrir gwrthwynebiadau 35/1312 a 36/321 ar Dudalennau 55 i 57 yr adroddiad hwn.

Y Bennod Gyfan Gwrthwynebiadau 36/327 – Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru 14/730 – Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar 35/1314 ac 1315 – Cyngor Cefn Gwlad Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae 36/327 yn gofyn am bolisi Cadwraeth Ynni a Dðr ym Mhennod 14. Dylai cynigion datblygu, hyd y gellir, ymgorffori mesurau i gadw ynni a dðr trwy:

i. lleoli a chynllunio adeiladau unigol sy’n cynnwys nodweddion arbed dðr a chynlluniau safleoedd; ii. lleihau’r angen am deithiau gan gerbydau modur preifat a; iii. defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

1.2 Yn lle paragraffau 14.1 i 14.5, mae 14/730 yn mynnu y dylid gosod cyflwyniad sy’n darparu fframwaith ar gyfer y Bennod trwy nodi cynefinoedd nodedig, prin neu ddiamddiffyn Ynys Môn, yn ogystal â’r adnoddau a’r systemau naturiol allweddol.

1.3 Mae 35/1314 yn mynnu y dylid gosod polisi newydd yn y Bennod i nodi y caniateir cynigion sy’n cefnogi amcanion Strategaeth Coetir Ynys Môn, ar yr amod y cydymffurfir â Pholisi GP1.

Pennod 14 – Amgylchedd 242

1.4 Mae 35/1315 yn mynnu y dylid ychwanegu polisi newydd o blaid diogelu, rheoli a mwynhau Tir Comin cofrestredig ar yr amod y cydymffurfir â Pholisi GP1, fel y’i diwygiwyd.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mewn ymateb i wrthwynebiad 36/327, mae’r cynllun yn annog pobl i ddefnyddio’r cerbyd modur preifat cyn lleied â phosibl. Mae Polisi PO4 a Pholisi TR4 yn optimeiddio’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus mewn cynigion datblygu. Mae Polisi TR9 yn annog dulliau eraill o deithio ac yn diogelu llwybrau hamdden tra bod Polisi TO10 yn caniatáu ymestyn y llwybrau hynny.

2.2 Mae Polisi GP2 yn cynnwys nodweddion arbed dðr ac mae maen prawf (vi) yn hyrwyddo cynlluniau safleoedd (cyfeiriad, lleoliad ar lethr a gwaith tirlunio) a all leihau gofynion ynni annedd o 20% trwy’r ffynonellau amgylchol ‘am ddim’ a grëir gan fantais oddefol yr haul a gwelliannau o ran y ficrohinsawdd. Nid oes angen ailadrodd pwyslais y polisïau unigol hyn yn y cynllun drwyddo draw.

2.3 Mewn ymateb i wrthwynebiad 14/730 ymdrinnir â’r materion a godir gan y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol [LBAP] y cyfeirir ato yn y cynllun. Mae Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth yn cael eu llunio er mwyn ceisio cadw a gwella cyflwr rhai cynefinoedd a rhywogaethau sydd wedi dioddef colledion mawr, neu sydd dan fygythiad arbennig. Nod y LBAP yw troi rhai o Gynlluniau Cynefinoedd a Gweithredu’r DU yn weithredoedd, tra hefyd yn ceisio cadw a gwella rhai eraill sy’n arbennig o bwysig.

2.4 Mewn ymateb i wrthwynebiad 35/1314, nid rôl y cynllun yw dibynnu ar arweiniad arall. Bydd Strategaeth Coed, Gwrychoedd a Choetir 2003-2008 yn cyflawni ei thargedau ei hun.

2.5 Mewn ymateb i wrthwynebiad 35/1315, diogelir Tir Comin gan fathau eraill o ddeddfwriaeth. Fel arfer ni ddylid defnyddio’r system gynllunio i gyflawni amcanion y gellir eu cyflawni o dan ddeddfwriaeth arall (paragraff 1.2.4 Polisi Cynllunio Cymru). Felly nid oes angen polisi i ddiogelu, rheoli a mwynhau Tir Comin yn y cynllun.

3.0 Mater

3.1 A oes angen diwygio Pennod 14 y cynllun a adneuwyd fel yr awgrymir mewn unrhyw un o’r gwrthwynebiadau hyn.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 O ran gwrthwynebiad 36/327, mae Polisi PO4 yn ceisio lleihau’r ddibyniaeth ar ddefnyddio ceir preifat a hyrwyddo defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Byddai PC30 yn ymestyn maen prawf (vi) Polisi GP2 er mwyn ystyried mesurau arbed dðr.

4.2 Mae’n fwy priodol ymdrin â’r materion manwl a godir yng ngwrthwynebiad 14/730 yn LBAP y Cyngor.

4.3 Yn yr un modd, o ran gwrthwynebiadau 35/1314 a 35/1315, nid oes angen i’r cynllun roi caniatâd penodol i ddatblygiadau a fyddai’n cefnogi amcanion Strategaeth Coetir Ynys Môn, na diogelu Tir Comin a ddiogelir eisoes gan ddeddfwriaeth arall. Pennod 14 – Amgylchedd 243

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Pennod 14 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r un o’r gwrthwynebiadau hyn.

Paragraff 14.1 Gwrthwynebiad 34/1024 – Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylai’r frawddeg gyntaf gynnwys yr ymadrodd ‘ei threftadaeth archeolegol a hanesyddol gyfoethog’ ar ôl y cyfeiriad at fioamrywiaeth.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC86 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn, a dynnir yn ôl yn amodol.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Am y byddai PC86 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn, rwyf o’r farn y dylid ei wneud.

4.0 Argymhelliad

4.1 Dylid diwygio paragraff 14.1 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC86.

Polisi EN1 Cymeriad Tirwedd Gwrthwynebiadau 4/5 – Dr Martyn Petty 10/105 - Mr A F Nixon

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae 4/5 o’r farn bod yn rhaid i ni ymdrechu i gadw’r tir naturiol. Mae’n rhaid gofalu am olwg frodorol bur y safleoedd panoramig hyn a’i chadw. Mae’r gwrthwynebiad yn mynnu y dylid ailddatblygu a gwella’r ardaloedd masnachol a phreswyl a fodolai gynt sydd bellach yn ddirywiedig, yn segur ac yn adfeiliedig. Mae’n rhaid parchu union ffiniau’r ardaloedd lle y ceir y Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a’r lleiniau glas ac ni ddylid newid y diffiniadau na’r meini prawf.

1.2 Mae 10/105 yn nodi bod y polisi yn cynnwys y geiriau ‘niwed annerbyniol’ heb ddiffinio pa niwed sy’n dderbyniol, gan ganiatáu i’r geiriau gael eu dehongli’n wahanol a’u cymhwyso’n anghyson. Dylid hepgor y gair ‘annerbyniol’.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mewn ymateb i Wrthwynebiad 4/5, nid yw’r Cyngor yn bwriadu newid y cynllun.

Pennod 14 – Amgylchedd 244

2.2 Mae Polisi PO8 yn diogelu’r amgylchedd naturiol. Mae Polisïau EN3 ac EN6 yn diogelu lletemau glas a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn y drefn honno, yn unol â Pholisi Cynllunio Cymru lle y mae rhagdybiaeth gyffredinol yn erbyn datblygiadau sy’n amhriodol o ran dibenion y dynodiad (paragraff 2.6.12). Dylai cynlluniau geisio sicrhau bod cymaint o waith datblygu â phosibl yn digwydd o fewn ardaloedd trefol sy’n bodoli eisoes, yn gyson â chynnal a gwella ansawdd yr amgylchedd trefol (Cynllunio ar gyfer Datblygu Cynaliadwy: Tuag at Arfer Gwell, 1998, pennod 2).

2.3 Mewn ymateb i wrthwynebiad 10/105, caiff y term ‘niwed annerbyniol’ ei gydnasyddu a’i dderbyn gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae penderfyniadau cynllunio yn cynnwys elfen o bwyso a mesur ar ran y sawl sy’n gwneud y penderfyniad.

3.0 Mater

3.1 A oes angen diwygio Polisi EN1 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r naill o’r gwrthwynebiadau hyn neu’r llall.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Nid yw gwrthwynebiad 4/5 yn amlwg berthnasol i’r polisi hwn a, sut bynnag, nid yw’n gwneud unrhyw awgrymiadau penodol ar gyfer ei newid. Ymdrinnir â’r materion a godir yn ddigonol gan y polisïau a’r cyfeiriadau yn Ymateb y Cyngor.

4.2 O ran gwrthwynebiad 10/105 deallir y term ‘niwed annerbyniol’ yn eang wrth wneud penderfyniadau cynllunio defnydd tir. Fodd bynnag nid yw’n digwydd bob tro y gwneir y penderfyniad hwnnw ar sail un polisi yn unig. Felly dylai pob polisi ymdrin â phwnc penodol a nodi ei safbwynt o ran cynigion datblygu. Yn achos Polisi EN1 mae’n briodol ei fod yn nodi na chaniateir datblygiadau a fyddai’n amharu’n sylweddol ar Ardal Cymeriad Tirwedd. Mater o farn gynllunio fyddai p’un a fyddai’r niwed yn sylweddol mewn unrhyw achos penodol o ran y polisi hwn.

5.0 Argymhelliad

5.1 Dylid diwygio Polisi EN1 y cynllun a adneuwyd trwy ddileu’r geiriau ‘niwed annerbyniol’ a gosod y geiriau ‘niwed sylweddol’ yn eu lle.

Atodiad 6 ACT - Cymeriad Tirwedd Gwrthwynebiad 34/1051 – Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Rhestrir yr Ardal Cymeriad Tirwedd (LCA), Penmon – fel ardal dirwedd yng Nghofrestr Cadw/ICOMOS o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nid oes angen dyblygu gwybodaeth a geir o fewn Cofrestr Cadw/ICOMOS.

3.0 Casgliadau’r Arolygydd

Pennod 14 – Amgylchedd 245

3.1 Rwy’n cytuno â’r Cyngor.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio Pennod 14 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisïau EN1 – Cymeriad Tirwedd EN2 – Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol EN3 – Lletem Las EN4 – Bioamrywiaeth EN7 – Safleoedd Lleol EN10 – Tirweddau, Parciau a Gerddi EN12 – Safleoedd Archeolegol a’u Hamgylchedd Hanesyddol PO8 – Yr Amgylchedd GP1 – Arweiniad Rheoli Datblygu Paragraffau 14.37, 14.38 a 14.51 Gwrthwynebiadau 26/159 i 164, 167 i 169, a 189 a 190 - Catherine B Griffiths

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae 26/159 o’r farn y dylid dileu ‘fforch’ ddeheuol y dyraniad hwn am ei bod yn agos at Snowdon View Road a Threarddur Mews sydd o fewn 100m ac yn negyddu felly yr egwyddor o ddiogelu ardaloedd preswyl sy’n bodoli eisoes trwy’r Lletem Las.

1.2 Mae 26/160 a 26/161 o’r farn bod y dyraniad yn groes i Bolisïau EN10 ac EN12 am ei fod yn cynnwys Maen Hir Tŷ Mawr a Siambr Gladdu Trefignath. Dylid aildynnu’r dyraniad er mwyn hepgor y safleoedd hyn a’r tir o’u hamgylch.

1.3 Mae 26/162, 26/163 a 26/164 yn nodi y ceir safleoedd cydnabyddedig o ddiddordeb archeolegol yn yr ardal hon, ac yn awgrymu bod rhan o’r safle yn llawn ardaloedd o werth archeolegol nas dogfennwyd eto. Byddai datblygu’r safle yn groes i baragraffau 14.37, 14.38 a 14.51. Dylid aildynnu’r dyraniad er mwyn hepgor pob safle o werth archeolegol hysbys neu bob safle yr amheuir ei fod o werth archeolegol a’r tir o’u hamgylch.

1.4 Mae 26/167, 26/168, 26/169, 26/189 a 26/190 yn nodi y byddai dileu’r coetir a’r arteffactau hanesyddol o fewn ei gwrtil yn groes i Bolisïau TO14, EN1, EN2, EN4, EN7 ac EN12 y cynllun. Y coetir yw cynefin naturiol moch daear a thylluanod gwynion ac felly mae’n haeddu cael ei ddiogelu.

2.0 Ymateb y Cyngor

Dyraniadau Cyflogaeth – Arweiniad Polisi

2.1 Mae paragraff 7.1.7 Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylai awdurdodau cynllunio lleol sicrhau bod digon o dir sy’n addas i’w ddatblygu ar gyfer defnydd menter a chyflogaeth, ac a wasanaethir yn dda gan seilwaith, yn cael ei ddynodi ar gyfer cyflogaeth er mwyn diwallu anghenion a nodwyd ac anghenion nas nodwyd hyd yn hyn. Ar ben hynny mae’n nodi y dylid ei leoli yn unol ag egwyddorion cynaliadwyedd.

Pennod 14 – Amgylchedd 246

2.2 Mae paragraff 7.2.2 Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylid dewis safleoedd cyflogaeth allweddol yn unol ag egwyddorion datblygu cynaliadwy, ac y dylid rhoi’r flaenoriaeth i dir a ddatblygwyd ynghynt, lleoliadau sy’n agos at ddatblygiadau trefol sy’n bodoli eisoes, mynediad da i drafnidiaeth gyhoeddus a’r rhwydwaith priffyrdd, a rhwydwaith telathrebu da.

2.3 Nodir safle Tŷ Mawr o fewn RPGNW fel safle cyflogaeth strategol ar gyfer Gogledd Cymru. Tþ Mawr yw’r unig safle o’i fath a leolir ar Ynys Môn ac mae trafodaethau ynghylch prif gynllun ar gyfer y safle wedi bod yn mynd rhagddynt ers canol y 1990au.

2.4 Yn achos y safle a nodir yn y Cynllun Datblygu Unedol mae ardal ychydig yn fwy o faint (83.25ha o gymharu ag 81ha) wedi’i dyrannu nag a ddyrannwyd yng Nghynllun Lleol Ynys Môn. Bu addasrwydd y safle, a’i rôl strategol yng nghyd-destun economi Ynys Môn, yn destun ymchwiliad i gynllun datblygu blaenorol.

2.5 Y prif newid o ran ystyriaethau perthnasol ers yr adeg honno fu cyhoeddi Polisi Cynllunio Cymru ym mis Mawrth 2002 a gynhwysai’r gofyniad am ddatblygu cynaliadwy. Mae safle Tŷ Mawr yn cydymffurfio ag egwyddorion cynaliadwyedd a nodir mewn arweiniad cenedlaethol am ei fod mewn lleoliad da o ran y brif dref a chanolbwynt poblogaeth ar yr Ynys a ffordd gyflym yr A55. Mae hefyd yn cyffinio â rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru sydd â’i therminws yng Nghaergybi ar gyfer y porthladd. Mae’n safle strategol wedi’i leoli wrth y groesffordd hon. Mae’r safle yn ymddangos yn strategaeth adfywio ‘Caergybi Ymlaen’ fel un o gamau gweithredu allweddol y nod o gefnogi busnes.

Dynodi Lletemau Glas

2.6 Mae paragraff 2.6.10 Polisi Cynllunio Cymru yn caniatáu dynodiadau lleol megis lletemau glas lle y mae angen tir i wasanaethu’r un diben ag y byddent ar gyfer llain las. O ran y lletem las rhwng Tŷ Mawr a Bae ei diben yw diogelu’r cymeriad tirwedd rhwng y safle y bwriedir ei ddyrannu a’r anheddiad presennol.

2.7 O ran Trearddur Mews, datblygiad ydyw a leolir yng nghefn gwlad agored heb unrhyw gysylltiad ag unrhyw anheddiad a nodwyd o fewn y cynllun. Er ei fod yn agos at y ‘fforch’ ddeheuol, bydd unrhyw waith datblygu a wneir ar y safle yn ddarostyngedig i ystyriaethau manwl a bydd gwaith tirlunio yn ffactor pwysig.

Diddordeb Archeolegol

2.8 Mae paragraff 6.4.2 Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylai cynlluniau datblygu unedol gynnwys polisïau ar gyfer diogelu a gwella safleoedd o ddiddordeb archeolegol a’u lleoliadau.

2.9 Mae Polisi EN12 y cynllun yn nodi y cedwir Henebion Cofrestredig a’u lleoliadau yn gyfan ac fe’u diogelir ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

2.10 Bydd yn rhaid i unrhyw waith datblygu a wneir ar y safle yn y dyfodol ystyried yr Henebion Cofrestredig a’u lleoliadau o fewn y safle.

2.11 Cyfeirir yng ngwrthwynebiad 26/160 at Bolisi EN10 sy’n diogelu Tirweddau, Parciau a Gerddi mewn perthynas â’r safleoedd hynny a enwir yng Nghofrestr CADW/ICOMOS o Pennod 14 – Amgylchedd 247

Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. Fodd bynnag, nid yw’r un o’r safleoedd a nodwyd o fewn y cofrestrau hyn yn cynnwys safle Tþ Mawr.

Coed a Choetir

2.12 Mae paragraff 5.2.8 Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylai awdurdodau cynllunio lleol ddiogelu coed, grwpiau o goed ac ardaloedd o goetir lle y mae ganddynt werth treftadol naturiol neu lle y maent yn cyfrannu at gymeriad neu amwynder ardal benodol.

2.13 Mae Polisi GP1 (fel y cynigiwyd i’w ddiwygio trwy PC28) yn nodi y diogelir nodweddion tirwedd. Cytunodd y Cyngor i ddiwygio maen prawf (x) ymhellach yng ngoleuni gwrthwynebiad 35/1283, a fydd yn diogelu coed a choetiroedd.

2.14 Ym Mholisi GP2 - Dylunio (fel y cynigiwyd i’w ddiwygio trwy PC30) un o’r meini prawf y mae angen ei ystyried o ran datblygiadau newydd yw’r ddarpariaeth a wneir ar gyfer manylion ffiniau, ar gyfer gwaith tirlunio ac ar gyfer diogelu coed sydd eisoes ar safle.

2.15 Mae Polisi EN14 -Gorchmynion Cadw Coed a Gwrychoedd (fel y cynigiwyd i’w ddiwygio trwy PC110) yn adfer pwysigrwydd coed fel nodweddion tirwedd ac yn nodi bod mesurau i’w diogelu yn un o ofynion unrhyw gynnig datblygu. Pan gaiff coed eu symud fel rhan o ddatblygiad, bydd angen plannu rhai eraill yn eu lle fel arfer.

2.16 Dengys y polisïau hyn y byddai’n rhaid i unrhyw waith datblygu ar y safle ystyried yr holl goed sydd eisoes ar y safle ac y byddai’n rhaid cyfiawnhau unrhyw benderfyniad i symud coed ac y byddai angen ymgymryd â gwaith ailblannu coed.

Cymeriad Tirwedd

2.17 Nododd Strategaeth Tirwedd Ynys Môn (1999) 15 Ardal Cymeriad Tirwedd (LCA), lleolir y safle penodol hwn o fewn Ardal Cymeriad Tirwedd Ynys Gybi.

2.18 Mae’r nodau allweddol o ran yr ardal yn ceisio gwella ymyl yr anheddiad a choridorau trafnidiaeth, diogelu cynefinoedd morlin a chadwraeth natur a gwerth safleoedd a lleoliadau archeolegol.

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

2.19 Mae paragraff 5.5.6 Polisi Cynllunio Cymru yn nodi bod ystyriaethau arbennig yn berthnasol i gynigion datblygu mawr sy’n fwy cenedlaethol na lleol o ran eu natur. Ni ddylai datblygiadau mawr ddigwydd mewn Parciau Cenedlaethol nac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol. Un enghraifft bosibl o’r fath fyddai pan fydd angen cyhoeddus tra phwysig am y datblygiad yn bodoli ac y byddai gwrthod y cynnig yn amharu’n ddifrifol ar yr economi lleol a phan na fydd unrhyw safle addas arall ar gael neu pan na fydd unrhyw safle addas arall yn ateb y galw.

2.20 Adlewyrchir yr arweiniad hwn ym Mholisi EN2 (fel y cynigiwyd i’w ddiwygio trwy PC88) lle y nodir na ddylai datblygiadau mawr ddigwydd ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol.

2.21 Barn y Cyngor yw bod angen safle Tŷ Mawr oherwydd yr angen cyhoeddus tra phwysig am dir cyflogaeth yn ardal Caergybi, ac mai Tþ Mawr yw’r safle mwyaf addas yng Pennod 14 – Amgylchedd 248

nghyffiniau Caergybi, yn wir y safle mwyaf addas ar Ynys Môn. Dyna pam y cydnabyddir y safle yng nghyd-destun Gogledd Cymru.

Bioamrywiaeth

2.22 Mae paragraff 5.2.7 Polisi Cynllunio Cymru yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau cynllunio lleol fynd i’r afael â materion bioamrywiaeth i’r graddau y maent yn ymwneud â chynllunio defnydd tir mewn cynlluniau datblygu unedol a phenderfyniadau rheoli datblygu.

2.23 Mae polisi EN4 y cynllun yn nodi mai dim ond pan na fyddant yn peri niwed annerbyniol ar fuddiant bioamrywiaeth Ynys Môn y caniateir datblygiadau. Defnyddir Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Ynys Môn i asesu effaith datblygiad penodol ar y fioamrywiaeth o fewn ardal.

2.24 Gyda rhai ceisiadau cynllunio mae angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EIA) lle y mae angen i’r datblygwr gyflwyno Datganiad Amgylcheddol (ES) yn nodi’r materion amgylcheddol pennaf o ran safle penodol.

2.25 O ran safle Tŷ Mawr, sy’n dod o dan gategori adran 10(a) yn Atodlen 2, sef prosiectau datblygu Ystadau Diwydiannol lle y mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 0.5 hectar, byddai angen opsiwn sgrinio a Datganiad Amgylcheddol yn ôl pob tebyg oherwydd lleoliad y safle.

2.26 Byddai’n rhaid i’r Datganiad Amgylcheddol hwn ddangos effaith y datblygiad ar yr amgylchedd ac unrhyw fesurau lliniaru yr ymgymerid â hwy fel rhan o’r cynnig. Mae’r Cyngor o’r farn mai dyma’r ffordd briodol o ymdrin â’r gwaith o ddatblygu safle Tŷ Mawr.

Safleoedd Lleol

2.27 Mae para 5.3.11 Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y gall dynodiadau anstatudol ychwanegu gwerth at y broses gynllunio yn arbennig os caiff dynodiadau o’r fath eu llywio gan gyfranogiad y gymuned ac os byddant yn adlewyrchu gwerthoedd y gymuned. Mae yna gynigion i ddynodi’r Môr Mewndirol fel Gwarchodfa Natur Leol. Ni fyddai’r warchodfa natur leol hon yn cynnwys tir a ddyrannwyd fel tir cyflogaeth o dan S1-Tŷ Mawr.

2.28 Mae Polisi EN7 'Safleoedd Lleol' yn nodi na chaniateid datblygiadau pe baent yn peri niwed annerbyniol i safleoedd lleol megis Gwarchodfa Natur Leol oni ellir dangos bod rhesymau dros y cynnig sy’n amlwg yn bwysicach na’r angen i ddiogelu’r safle.

Man Amwynder

2.29 Mae paragraff 11.1.10 Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylid diogelu mannau agored ffurfiol ac anffurfiol sydd â gwerth hamdden neu werth amwynder sylweddol rhag cael eu datblygu.

2.30 Adlewyrchir hyn ym Mholisi TO14 - Man Amwynder (fel y cynigiwyd i’w ddiwygio trwy PC88). Mae’n rhaid sicrhau y gall y cyhoedd gael mynediad i’r safleoedd a ddyrannwyd fel mannau amwynder o fewn y cynllun.

2.31 Ni all y cyhoedd gael mynediad i safle Tŷ Mawr ac mae’r Cyngor o’r farn nad yw’n cyflawni rôl fel Man Amwynder ar hyn o bryd. Pennod 14 – Amgylchedd 249

Casgliad

2.32 Mae’r Cyngor o’r farn y bydd y polisïau uchod yn sicrhau y caiff safle Tŷ Mawr ei ddatblygu yn gynaliadwy ac y rhoddir sylw priodol i gynefinoedd cadwraeth natur a gwerth safleoedd a lleoliadau archeolegol.

3.0 Materion

3.1 A ddylid lleihau maint safle S1- Tŷ Mawr, Caergybi, neu ei ddileu hyd yn oed, mewn ymateb i unrhyw un o’r gwrthwynebiadau hyn.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Byrdwn y gwrthwynebiadau hyn yw bod safle cyflogaeth S1 yn groes i gymaint o ddarpariaethau eraill y cynllun fel na ddylid ei ddyrannu, neu o leiaf y dylid lleihau ei faint.

4.2 Cydnabyddaf y bydd y dyraniad yn groes i wahanol bolisïau’r cynllun ym Mhennod 14 i ryw raddau a hefyd i rannau o Bolisi GP1. Fodd bynnag, nid yw’r penderfyniad i ddyrannu safle S1 yn golygu bod caniatâd cynllunio wedi’i roi ar gyfer datblygiadau cyflogaeth. Byddai angen i unrhyw gynnig ar gyfer datblygiadau o’r fath fod yn destun cais cynllunio, pan fydd angen i’r Cyngor ystyried holl ddarpariaethau’r cynllun sy’n berthnasol iddo.

4.3 Swyddogaeth pob un o bolisïau’r cynllun yw nodi’r ymagwedd tuag at ddatblygu a fabwysiedir ganddo. Mae’r dasg o benderfynu faint o bwys y dylid ei roi ar bob un wedyn yn dod yn berthnasol wrth ddod i gasgliad cyffredinol ynghylch pa un a ddylid rhoi neu wrthod caniatâd mewn perthynas â chais cynllunio penodol. Byddai’n afresymol felly dod i’r casgliad ar adeg paratoi’r cynllun hwn fod y polisïau ym Mhennod 14 mor gryf fel na ddylai unrhyw ddatblygiadau cyflogaeth ddigwydd ar ran o’r safle hwn neu hyd yn oed ar y safle cyfan.

4.4 Mae’r gwrthwynebiadau hyn yn ceisio defnyddio’r polisïau amgylcheddol i ddadlau yn erbyn safle S1. Fodd bynnag nid ydynt yn awgrymu unrhyw newidiadau yn y polisïau y gwneir y gwrthwynebiadau o danynt. Yn fy marn i, felly, nid oes angen diwygio’r un o’r polisïau hyn, ac nid oes angen lleihau maint safle S1 na’i ddileu mewn ymateb iddynt chwaith.

5.0 Argymhellion

5.1 Na ddylid diwygio’r un o Bolisïau EN1, EN2, EN3, EN4, EN7, EN10, EN12, PO8 na GP1, na’r un o baragraffau 14.37, 14.38 na 14.51 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r un o’r gwrthwynebiadau hyn.

5.2 Na ddylid newid safle S1 – Tŷ Mawr, Caergybi a gynhwysir ym Mholisi EP1 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r un o’r gwrthwynebiadau hyn.

Polisi EN1 a Cymeriad Tirwedd, Mewnosodiad 28 Gwrthwynebiad 116/296 – J H Owen Pennod 14 – Amgylchedd 250

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylai’r ffin rhwng Ardaloedd Cymeriad Tirwedd [LCA] 2 a 15 ddilyn llinell y system ffyrdd bresennol yn Llanfihangel Yn Nhowyn a dylid ymestyn y ffin ddatblygu i gynnwys y tir i’r gogledd-ddwyrain o’r anheddiad.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Lluniwyd ffiniau’r Ardal Cymeriad Tirwedd gan ddilyn methodoleg system wybodaeth Landmap Cyngor Cefn Gwlad Cymru sy’n disgrifio ac yn gwerthuso agweddau ar y dirwedd. Mae’r Cyngor o’r farn felly nad oes angen diwygio ffiniau’r Ardal Cymeriad Tirwedd.

2.2 Mae’r ffin ddatblygu a nodir yn y cynllun yn adlewyrchu rhan ddatblygedig yr anheddiad. Wrth baratoi Strategaeth Aneddiadau’r cynllun mae’r Cyngor yn ceisio cynorthwyo cymunedau cynaliadwy. Mae paragraff 16.38 y cynllun yn nodi yn ogystal â cheisio sicrhau y gellir diwallu’r gofynion o ran anheddau a’r angen am dai, fod y cynllun hefyd yn nodi graddfa ddarparu sy’n briodol i anghenion cymunedau lleol.

2.3 Wedi gwerthuso’r opsiynau o fewn yr anheddiad, mae’r Cyngor yn derbyn mai’r ffordd orau o sicrhau twf naturiol yr anheddiad yw trwy ddatblygiadau mewnlenwi. Yn unol â’r strategaeth hon, ni chynhwysir unrhyw ddyraniad tai penodol o fewn yr anheddiad.

2.4 Mae’r anheddiad yn dod o dan Grðp Tai A5. Mae’r Cyngor yn nodi y bydd diffyg anheddau yn yr isardal hon ond bod digon o ddarpariaeth yn gyffredinol yn y cynllun.

2.5 Mae’r safle a nodir yn y gwrthwynebiad hwn yn 0.22ha o faint. Yn unol â PC149 mae lefel ddwysedd o 30 o anheddau fesul hectar yn briodol yn ddarostyngedig i nodweddion y safle. Felly gallai’r safle ddarparu rhyw 6 uned. Er gwaethaf barn y Cyngor nad yw’r safle yn addas, mae’r nifer hon o unedau yn fwy na’r hyn sydd ei angen ar yr anheddiad.

2.6 Mae’r Cyngor o’r farn nad yw’r safle hwn yn addas i’w gynnwys o fewn y ffin ddatblygu. Mae gan yr ardal hon gysylltiad agosach â chefn gwlad agored a dylai aros ar wahân i’r anheddiad.

3.0 Mater

3.1 A ddylai’r ffin rhwng Ardaloedd Cymeriad Tirwedd 2 a 15 ddilyn ffyrdd sy’n bodoli eisoes yn yr ardal hon.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Nid yw’r gwrthwynebiad hwn yn rhoi unrhyw resymau manwl pam, yn nhermau cynllunio, y dylai’r ffin rhwng y 2 LCA ddilyn ffyrdd lleol. Ni ddeilliai unrhyw fantais o newid y ffin hon.

4.2 Mae’n fwy priodol ymdrin â’r mater pa un a ddylid ymestyn ffin yr anheddiad mewn perthynas â gwrthwynebiad 116/295 ym Mhennod 16.

5.0 Argymhelliad Pennod 14 – Amgylchedd 251

5.1 Na ddylid diwygio Mewnosodiad 28 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i wrthwynebiad 116/296.

Paragraff 14.8 Cymeriad Tirwedd Gwrthwynebiad 87/24 – Mr D Abbot

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid diwygio’r paragraff i gyfeirio’n gywir at Atodiad 6 ac nid Atodiad 5.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC87, sy’n cywiro’r gwall teipio, yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn, a dynnir yn ôl yn amodol.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Cytunaf y dylid cywiro’r gwall teipio hwn.

4.0 Argymhelliad

4.1 Dylid diwygio paragraff 14.8 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC87.

Polisi EN2 Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Gwrthwynebiad 4/6 - Dr Martyn Petty 125/653 – Ymddiriedolwyr Ewyllys Syr G D Meyrick 9/790 – Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru 72/1449 - Menter Môn Newid Arfaethedig 88 Newidiadau yn y Polisi Gwrthwrthwynebiad 287/2116 – Pwyllgor Treftadaeth

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae 4/6 o’r farn bod angen uwchraddio ac ailsefydlu’r nifer fawr o eiddo masnachol a phreswyl gwag ac adfeiliedig sydd eisoes i’w gweld mewn rhannau o Gaergybi. Er mwyn parhau nodweddion addfwyn Ynys Môn, sy’n denu ymwelwyr, mae’n rhaid cymryd camau i’w diogelu ee gorlifdiroedd, gwrychoedd a golygfeydd panoramig o Eryri.

1.2 Mae 125/653 o’r farn y dylai testun Polisi EN2 ddarparu ar gyfer ymgorffori arweiniad y Llywodraeth yn gywir, yn benodol paragraffau 5.3.7 5.3.8 Arweiniad Cynllunio (Cymru) Polisi Cynllunio. Felly, dylid ychwanegu’r geiriau canlynol ar ddiwedd y frawddeg gyntaf ‘a bydd yn rhoi sylw i les economaidd a chymdeithasol yr Ardal’. Ar ben hynny, dylid dileu’r ail frawddeg yn ei chyfanrwydd.

1.3 Dylid dileu maen prawf (iii) ar yr angen am y datblygiad ac argaeledd lleoliadau eraill y tu allan i’r ardal ddynodedig; ar y diwedd dylid dileu meini prawf (i) a (ii) dylid dileu’r gair ‘a’ a gosod y term ‘a/neu’ yn ei le.

Pennod 14 – Amgylchedd 252

1.4 Mae 9/790 o’r farn y gallai’r cyfiawnhad rhesymegol hefyd gyfeirio at ddynodiadau lluosog rhai ardaloedd.

1.5 Mae 72/1449 yn honni y dylid cyfeirio at y Llwybr Arfordirol fel rhan annatod o’r AOHNE. Ystyrir y bydd yr effaith y gall datblygiad ei chael ar lwybr go iawn/arfaethedig y Llwybr Arfordirol yn effeithio’n ddifrifol ar werth amwynder cynhenid yr AOHNE. Dylai Polisi EN2 ymddangos fel pwynt yn yr amodau a restrir.

2.0 Gwrthwrthwynebiad

2.1 Ni ddylid cynnwys y gair ‘mawr’ yn y paragraff hwn a ddylai esbonio hefyd na ddylai datblygiadau ddigwydd ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol.

3.0 Ymateb y Cyngor i’r Gwrthwynebiadau

3.1 Mewn ymateb i wrthwynebiad 4/6, cefnogir unrhyw gynnig i adnewyddu eiddo yn ardal Caergybi. Dynodwyd canol Caergybi fel Ardal Gweithredu Lleol a bydd hyn yn hyrwyddo datblygiadau newydd a gwaith ailddatblygu, adfer a gwella i sicrhau gwelliant economaidd o amgylch y brif dref. Mae polisïau sydd eisoes i’w cael yn y cynllun yn diogelu gorlifdiroedd a gwrychoedd (Polisïau GP1 ac EN14) tra hefyd yn annog ailddefnyddio safleoedd tir llwyd (Polisi EP6).

3.2 Mewn ymateb i wrthwynebiad 125/653, mae’r cyfiawnhad rhesymegol i Bolisi EN2 yn rhagamodi y rhoddir sylw i les economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol. Mae’r Cyngor yn fodlon bod angen i agweddau eraill ar y polisi roi lefel ddigonol o ddiogelwch i’r AOHNE.

3.3 Mewn ymateb i wrthwynebiad 9/790 mae’r Cyngor o’r farn y dylid diwygio’r cyfiawnhad rhesymegol i Bolisi EN2 trwy PC89, er mwyn pwysleisio’r ffaith bod gan rai rhannau o’r AOHNE ddynodiadau lluosog. Byddai’r newid arfaethedig hwn yn gwneud y cynllun yn gliriach.

3.4 Mewn ymateb i wrthwynebiad 72/1449, nid yw’r Cyngor yn bwriadu newid Polisi EN2 ymhellach. Byddai Polisi TR9 a TO10, yr ail fel y cynigiwyd i’w ddiwygio trwy PC84, yn diogelu’r llwybrau cerdded dynodedig megis y Llwybr Arfordirol rhag datblygiadau newydd.

4.0 Ymateb y Cyngor i’r Gwrthwrthwynebiad

4.1 Byddai PC88 yn cysoni’r polisi â pharagraff 5.5.6 Polisi Cynllunio Cymru sy’n nodi na ddylai datblygiadau mawr ddigwydd mewn Parciau Cenedlaethol nac AHNE ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol. Gall hyn godi pan ddangosir, ar ôl archwilio trwyadl, fod angen cyhoeddus tra phwysig am ddatblygiad ac y byddai gwrthod y cynnig yn amharu’n ddifrifol iawn ar yr economi lleol ac nad oes unrhyw botensial ar gyfer lleoli’r datblygiad rywle arall nac ar gyfer diwallu’r angen mewn rhyw ffordd arall.

5.0 Mater

5.1 A oes angen diwygio Polisi EN2 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i unrhyw un o’r gwrthwynebiadau hyn, neu unrhyw newidiadau yn PC88 mewn ymateb i’r gwrthwrthwynebiad hwn. Pennod 14 – Amgylchedd 253

6.0 Casgliadau’r Arolygydd

6.1 Nid yw gwrthwynebiad 4/6 yn amlwg berthnasol i’r gwaith o ddiogelu’r AOHNE. Fodd bynnag ymdrinnir â’r materion a godir yn ddigonol gan y polisïau a’r cyfeiriadau yn Ymateb y Cyngor.

6.2 O ran gwrthwynebiad 125/653, am fod paragraff 14.12 yn ymdrin â mater lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol, nid oes angen cynnwys y mater hwn yn y polisi. Mae paragraff 5.3.5 Polisi Cynllunio Cymru 2002 yn nodi’r polisi cenedlaethol cyfredol ar y mater hwn, ac yn fy marn i mae paragraff 14.12 y cynllun yn adlewyrchiad digonol o’r polisi cenedlaethol hwnnw. Mae angen ail frawddeg y polisi er mwyn gallu asesu’n gywir effaith cynigion datblygu ar yr AOHNE.

6.3 O ran gwrthwynebiad 9/790, byddai PC89 yn esbonio arwyddocâd dynodiadau lluosog o fewn yr AOHNE mewn fersiwn estynedig o baragraff 14.12.

6.4 Rwyf o’r farn nad oes angen cynnwys mater y Llwybr Arfordirol a godir yng ngwrthwynebiad 72/1449 yn y polisi hwn sy’n ymwneud yn bennaf â chadw a gwella tirwedd yr AOHNE.

6.5 O ran y gwrthwrthwynebiad hwn, mae PC88 yn adlewyrchu paragraff 5.5.6 Polisi Cynllunio Cymru trwy nodi mai dim ond datblygiadau mawr a ddylai ddigwydd o dan amgylchiadau eithriadol yn yr AOHNE.

7.0 Argymhelliad

7.1 Dylid diwygio Polisi EN2 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC88 yn unig, ac y dylid diwygio paragraff 14.12 yn unol â PC89 mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn a’r gwrthwrthwynebiad hwn.

Polisi EN2 Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Gwrthwynebiad 10/134 - Mr A F Nixon

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid diwygio’r polisi hwn i sicrhau ei fod yn fwy cyson â pholisi cenedlaethol, i sicrhau bod polisïau perthnasol yn cael eu croesgyfeirio’n gywir, ac i atal datblygiadau adeiladu newydd a datblygiadau mawr yn yr ardal ddynodedig.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC88 yn ymdrin yn benodol â mater datblygiadau mawr yn yr AOHNE.

2.2 Mae angen croesgyfeirio at bob un o bolisïau’r cynllun ac nid yw’n gofyn am newid pellach yn y cynllun ei hun. Mae paragraff 9.3 y cynllun yn ymdrin â’r pwynt hwn.

3.0 Mater

Pennod 14 – Amgylchedd 254

3.1 A yw’r polisi hwn yn y cynllun a adneuwyd yn cydymffurfio â pholisi cynllunio cenedlaethol.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Fel y’i drafftiwyd nid oedd y polisi hwn yn adlewyrchiad digonol o bolisi cenedlaethol. Fodd bynnag rwyf o’r farn y byddai PC88 yn cysoni’r polisi hwn ag adran 5.3 Polisi Cynllunio Cymru. Mae’r newid arfaethedig hwn yn ymdrin yn benodol â datblygiadau mawr. Ymdrinnir â mater croesgyfeirio rhwng polisïau ym mharagraff 9.3 y cynllun a adneuwyd.

5.0 Argymhelliad

5.1 Dylid diwygio Polisi EN2 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC88.

Polisi EN2 Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Gwrthwynebiad 31/1155 – Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid gosod y gair ‘eithriadol’ ar ôl ‘angen’ yn y polisi.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r Cyngor yn fodlon bod y geiriad presennol yn diogelu’r AOHNE.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Mae’r gwrthwynebiad hwn yn awgrymu y dylid cynnwys y gair ‘eithriadol’ ar ôl ‘angen’ ym maen prawf (iii) yr ail frawddeg. Am y byddai PC88 yn nodi na ddylai datblygiadau mawr ddigwydd ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol, rwyf o’r farn y byddai hynny’n ddigon er mwyn adlewyrchu polisi cenedlaethol. Felly nid oes angen newid maen prawf (iii) yn ail frawddeg y polisi.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio Polisi EN2 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi EN2 Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Gwrthwynebiad 31/1156 – Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Ni ddylai cost fod yn ystyriaeth wrth ddiogelu’r AOHNE.

2.0 Ymateb y Cyngor

Pennod 14 – Amgylchedd 255

2.1 Un elfen yn unig yw cost a nis ystyrir yr elfen hon ar ei phen ei hun. Mae’r posibilrwydd o ddatblygu mewn mannau eraill a diwallu’r angen mewn rhyw ffordd arall hefyd yn ystyriaethau, yn ogystal â’r meini prawf eraill a gynhwysir yn y polisi.

3.0 Mater

3.1 A yw cost datblygu prosiect y tu allan i’r AOHNE yn lle y tu mewn iddi yn ffactor y dylid ei gynnwys yn y cynllun.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Rwyf o’r farn bod cost lleoli datblygiad arfaethedig y tu allan i’r AOHNE yn hytrach na’r tu mewn iddi yn ystyriaeth gynllunio berthnasol y mae’n briodol i’r polisi hwn ei chynnwys mewn un o’i feini prawf.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisi EN2 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Newid Arfaethedig 88 Newid Polisi EN2 Gwrthwrthwynebiad 10/2241 - Mr A F Nixon

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Diffinio “amgylchiadau eithriadol” a chyfiawnhau pam y dylid caniatáu “datblygiadau mawr”.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC88 yn cysoni geiriad Polisi EN2 â Pholisi Cynllunio Cymru.

2.2 Ymddengys fod y gwrthwynebiad yn amau dilysrwydd caniatâd cynllunio sy’n bodoli eisoes a gymeradwywyd yn unol â pholisi a gweithdrefnau cynllunio. Ni alwyd y cais i mewn gan y Cynulliad Cenedlaethol a bu’n destun adroddiad, sylw manwl a phenderfyniad priodol.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Nid oes llawer o werth i’r frawddeg “ni ddylai datblygiadau mawr ddigwydd ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol” am nad yw’r amgylchiadau eithriadol wedi’u diffinio. Byddai’n well dileu’r geiriau “rhaid dangos bod datblygiadau mawr er lles y cyhoedd” ac ychwanegu’r geiriau ‘a lles y cyhoedd’ ar ôl “ystyriaethau cenedlaethol” yn is-gymal (i). Mae hyn yn gosod yr amod hwn gydag amodau eraill yn y polisi.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid addasu Newid Arfaethedig PC88 trwy ddileu’r geiriau “ni ddylai datblygiadau mawr ddigwydd ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol”.

Pennod 14 – Amgylchedd 256

4.2 Y dylid dileu’r geiriau “rhaid dangos bod datblygiadau mawr er lles y cyhoedd” ac ychwanegu’r geiriau ‘a lles y cyhoedd’ ar ôl “ystyriaethau cenedlaethol” yn is-gymal (i) sy’n dechrau gyda’r geiriau “yr angen am ddatblygiad …”.

4.3 Y dylid diwygio Polisi EN2 yn unol â Newid Arfaethedig PC88 yr argymhellir ei newid.

Polisi EN2 a Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, Mewnosodiad 41 Porthaethwy Gwrthwynebiadau 32/1064 – Ymddiriedolaeth Treftadaeth Cymuned Porthaethwy 57/688 – Cyngor Tref Porthaethwy

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae’r gwrthwynebiadau hyn am i Ynys Tobig ac Ynys Faelog, Porthaethwy gael eu cynnwys yn yr AOHNE.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae diwygio ffiniau’r AOHNE y tu allan i gylch gwaith y cynllun. Mater i Gyngor Cefn Gwlad Cymru fyddai hynny o dan Adrannau 82 ac 83 Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Am mai Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn hytrach na’r Cyngor sy’n gyfrifol am wneud unrhyw newidiadau yn ffin yr AOHNE, nid yw hyn yn fater y gall y cynllun ymdrin ag ef.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio Mewnosodiad 41 Map Cynigion y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi EN2 a Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, Caergybi a Mewnosodiadau 13 a 48 Threarddur Gwrthwynebiad 82/96 - Mr a Mrs David J Stack

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid cynnwys parsel 6071 yr AO yn yr AOHNE.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae diwygio ffiniau’r AOHNE y tu allan i gylch gwaith yr AOHNE. Mater i Gyngor Cefn Gwlad Cymru fyddai hynny o dan Adrannau 82 ac 83 Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.

3.0 Casgliad yr Arolygydd Pennod 14 – Amgylchedd 257

3.1 Am mai Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn hytrach na’r Cyngor sy’n gyfrifol am wneud unrhyw newidiadau I ffin yr AOHNE, nid yw hyn yn fater y gall y cynllun ymdrin ag ef.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio Mewnosodiadau 13 na 48 Map Cynigion y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi EN2 Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Gwrthwynebiad 119/171 - I Flack

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid diwygio’r polisi hwn i gydymffurfio ag ysbryd a realiti polisi cenedlaethol i ddiogelu cefn gwlad agored a’r AOHNE. Pes gweithredid byddai’r polisi presennol yn caniatáu datblygiadau arferol a mawr rheolaidd yn ôl disgresiwn y Cyngor.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC88 yn arwain at y polisi yn nodi na ddylai datblygiadau mawr ddigwydd ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol.

3.0 Mater

3.1 A yw’r polisi hwn yn y cynllun a adneuwyd yn cydymffurfio â pholisi cynllunio cenedlaethol.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Fel y’i hadneuwyd nid oedd y polisi hwn yn adlewyrchiad digonol o bolisi cenedlaethol. Fodd bynnag rwyf o’r farn y byddai PC88 yn cysoni’r polisi ag adran 5.3 Polisi Cynllunio Cymru. Mae’r newid arfaethedig hwn yn ymdrin yn benodol â datblygiadau mawr.

5.0 Argymhelliad

5.1 Dylid diwygio Polisi EN2 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC88.

Polisi EN2 Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Gwrthwynebiad(au) 35/1303 – Cyngor Cefn Gwlad Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Hepgorwyd pwyntiau allweddol o’r polisi hwn. Mae’r Gwrthwynebiad yn awgrymu y dylid cynnwys cyfeiriad at Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 a dyletswyddau’r Cyngor o ran yr amgylchedd naturiol.

Pennod 14 – Amgylchedd 258

1.2 Ar ben hynny, mae angen maen prawf pellach yn nodi na ddylai datblygiadau mawr ddigwydd yn yr AOHNE ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol. Ar ben hynny, mae’n rhaid esbonio yn yr ail baragraff bod yn rhaid dangos bod datblygiadau mawr er lles y cyhoedd. Yn drydydd mae angen meini prawf hefyd i gyfrif am effeithiau cynyddol datblygiadau.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC88 yn ymgorffori argymhellion y gwrthwynebiad hwn ym Mholisi EN2, a dynnir yn ôl os gwneir y newid arfaethedig hwn.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Rwyf wedi ymdrin â materion sy’n ymwneud â Newid Arfaethedig PC88 mewn perthynas â Gwrthwynebiad 10/2241, ac nid wyf o’r farn bod angen i’m hargymhellion newid mewn ymateb i Wrthwynebiad 35/103. Nodaf fod Newid Arfaethedig PC89 yn ymdrin â’r cyfeiriad at Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.

4.0 Argymhelliad

4.1 Dylid diwygio Polisi EN2 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC88 yr argymhellir ei newid mewn ymateb i Wrthwynebiad 10/2241.

Paragraff 14.12 Gwrthwynebiad 35/1304 – Cyngor Cefn Gwlad Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid cysylltu’r paragraff â Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC89 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn, a dynnir yn ôl yn amodol.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Am y byddai PC89 yn cyfeirio’n benodol at Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, ac y byddai’n goresgyn y gwrthwynebiad hwn, rwyf o’r farn y dylid gwneud y newid arfaethedig hwn.

4.0 Argymhelliad

4.1 Dylid diwygio paragraff 14.12 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC89.

Paragraff 14.13 Gwrthwynebiad 35/1305 – Cyngor Cefn Gwlad Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

Pennod 14 – Amgylchedd 259

1.1 Dylid diwygio’r paragraff i gynnwys cyfeiriad at y dyletswydd statudol sydd ar awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill o ran yr AOHNE.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC89 ym mharagraff 14.12 hefyd yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn, a dynnir yn ôl yn amodol.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Am y byddai PC89 yn cyfeirio’n benodol ym mharagraff 14.12 at y dyletswydd statudol sydd ar awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill o ran yr AOHNE, byddai hyn yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn. Rwyf o’r farn y dylid gwneud y newid arfaethedig hwn ym mharagraff 14.12 ond na ddylid diwygio paragraff 14.13.

4.0 Argymhelliad

4.1 Dylid diwygio paragraff 14.12 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC89 ond na ddylid diwygio paragraff 14.13.

Polisi EN3 Lletem Las Gwrthwynebiad 16/678 - Albert Owen AS

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid cynnwys lletemau glas ym Moelfre, ac yn yr ardal rhwng Llaingoch a Phorthyfelin, Caergybi.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC90 a PC91 yn dynodi Lletem Las rhwng Llaingoch a thref Caergybi.

2.2 Mae paragraff 2.6.10 Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y gall fod cyfiawnhad dros Letemau Glas lle y mae angen tir i ateb yr un diben â Llain Las. Mae’r Cyngor o’r farn felly na ellir cyfiawnhau Lletem Las ym Moelfre.

3.0 Mater

3.1 A ddylid dynodi Lletemau Glas ym Moelfre, a rhwng Llaingoch a Phorthyfelin, Caergybi.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Nid oes unrhyw dystiolaeth ger fy mron bod pwysau datblygu mor drwm ym Moelfre fel bod angen i’r ardal gael ei diogelu’n arbennig gan Letem Las. Mewn perthynas â’r ardal rhwng Llaingoch a Phorthyfelin, Caergybi, rwyf wedi ystyried y ddarpariaeth tir ar gyfer tai a’r materion Lletem Las yn yr ardal, ac wedi dod i’r casgliad na ellir gwarantu Lletem Las fel y cynigir o dan PC 90 a 525. Bydd polisïau eraill y Cynllun yn darparu ar gyfer diogelwch digonol y tir agored cyffiniol.

Pennod 14 – Amgylchedd 260

5.0 Argymhellion

5.1 Na ddylid diwygio Polisi EN3 y cynllun a adneuwyd o ran Lletem Las ym Moelfre, na rhwng Llaingoch a Phorthyfelin, Caergybi.

Polisi EN3 Lletem Las Gwrthwynebiad 31/1125 – Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad hwn yn ymwneud â’r ffaith nad oes unrhyw Lain Las yn y cynllun.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Gwnaeth y Cyngor gynigion ar gyfer Lletemau Glas ac mae ganddo fannau amwynder wedi’u diogelu. Mae’r Cyngor yn cytuno felly â’r pwys a roddir i’r dynodiadau hyn o ran diogelu amgylcheddau lleol.

2.2 Mae’r Cyngor o’r farn y gall y gwrthwynebiad hwn gefnogi dynodi lletem las rhwng Porthaethwy a Llanfairpwll am fod honno’n cael ei bygwth gan safle cyflogaeth o fri.

2.3 Nid yw Lleiniau Glas yn briodol ar Ynys Môn.

3.0 Mater

3.1 A oes angen dynodi Llain Las yn unrhyw le ar yr Ynys.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Nid yw’r gwrthwynebiad hwn yn darparu unrhyw gyfiawnhad manwl dros ddynodi Llain Las yn unman ar yr Ynys. Am y bwriedir i Leiniau Glas fod yn ddynodiadau hirdymor tra gellir adolygu Lletemau Glas wrth baratoi’r olynydd i’r cynllun hwn, rwyf o’r farn ei bod yn fwy priodol defnyddio dynodiadau Lletemau Glas ar yr Ynys.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn perthynas â’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi EN3 Lletem Las Gwrthwynebiad 31/1162 – Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad hwn yn ymwneud â’r ffaith nad oes unrhyw goridorau glas yn y cynllun.

2.0 Ymateb y Cyngor

Pennod 14 – Amgylchedd 261

2.1 Gwnaeth y Cyngor gynigion ar gyfer Lletemau Glas ac mae gan fannau amwynder wedi’u diogelu.

3.0 Mater

3.1 A ddylid dynodi coridorau gwyrdd yn rhywle ar yr Ynys.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Nid yw’r gwrthwynebiad hwn yn darparu unrhyw gyfiawnhad manwl dros ddynodi coridorau glas yn unman ar yr Ynys. Yn absenoldeb y cyfiawnhad angenrheidiol, yn fy marn i, nid oes angen i’r cynllun ddarparu ar eu cyfer.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi EN3 a Lletem Las, Porthaethwy Mewnosodiad 41 Gwrthwynebiadau 32/1065 – Ymddiriedolaeth Treftadaeth Cymuned Porthaethwy 57/689 – Cyngor Tref Porthaethwy 79/562 – Cymdeithas Ddinesig Porthaethwy a’r Cylch 117/303 - J Bracegirdle 118/305 - A J Tavernor 121/286 – S Beggs 122/287 – D Barnes

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae’r gwrthwynebiadau hyn yn ceisio adfer y Lletem Las ar ochr ogledd-ddwyreiniol Porthaethwy a ddangosir ar ddrafft ymgynghorol y cynllun.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Dangoswyd Lletem Las ar ddrafft ymgynghorol y cynllun am fod y Cyngor o’r farn y gallai fod yn ddefnyddiol i atgyfnerthu’r ffin ddatblygu y tu allan i Borthaethwy. Ni nodwyd ffin ddwyreiniol y Lletem Las honno yn gywir ar y Map Cynigion yr adeg honno.

2.2 Wrth baratoi’r fersiwn o’r cynllun a adneuwyd, adolygwyd lleoliad Lletemau Glas posibl. O ganlyniad nid ystyrid bod angen cadw’r Lletem Las benodol hon am yr ystyrir bod y ffin ddatblygu yn diogelu’r tir y tu allan i’r ffin yn ddigon da.

3.0 Mater

3.1 A ddylid dynodi Lletem Las ar ochr ogledd-ddwyreiniol Porthaethwy.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

Pennod 14 – Amgylchedd 262

4.1 Nid yw’r un o’r gwrthwynebiadau hyn yn darparu tystiolaeth fanwl bod pwysau datblygu ar ochr ogledd-ddwyreiniol y dref mor drwm fel bod angen i’r tir gael ei ddiogelu’n arbennig trwy ei ddynodi’n Lletem Las. Rwyf yn fodlon y bydd rhai o bolisïau eraill y cynllun yn darparu lefel ddigonol o ddiogelwch ar gyfer y tir hwn y tu hwnt i ffin yr anheddiad.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r un o’r gwrthwynebiadau hyn.

Polisi EN4 Bioamrywiaeth Gwrthwynebiadau 4/10 - Dr Martyn Petty 8/367 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae 4/10 o’r farn bod yn rhaid rheoli’r dirwedd i ddiogelu cynefinoedd golygfaol naturiol. Dylai’r Cyngor ganolbwyntio ar adnewyddu a moderneiddio’r nifer fawr o anheddau ac eiddo masnachol gwag, esgeulusedig ac adfeiliedig, y ceir nifer fawr ohonynt yng Nghaergybi, ac ar eu gwneud yn fwy dymunol yn gyffredinol.

1.2 Mae 8/367 yn awgrymu ychwanegiad at baragraff 14.19 i gyfeirio at gyfleoedd newydd ar gyfer bioamrywiaeth megis ar gyrsiau golff. Mae’r gwrthwynebiad hefyd yn gofyn am ddatganiad ychwanegol i’r perwyl y bydd rhagdybiaeth yn erbyn defnyddio planhigion conifferaidd ar gyfer gwrychoedd a gwaith plannu ar hyd ffiniau. Dylai pob caniatâd plannu wahardd eu defnyddio.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mewn ymateb i wrthwynebiad 4/10, mae Polisi PO8 yn annog ac yn hyrwyddo cadw a gwella tirwedd naturiol Ynys Môn. Mae polisïau datblygu’r cynllun yn annog cefnogi ailddatblygu safleoedd tir llwyd. Câi unrhyw gynnig i adnewyddu eiddo o fewn ardal Caergybi ei gefnogi. Dynodwyd canol Caergybi fel Ardal Gweithredu Lleol a byddai hynny’n hwyluso datblygiadau newydd, gwaith ailldatblygu a gwaith adfer a gwella i sicrhau gwelliant economaidd o amgylch y brif dref. Mae Polisi EP6 yn caniatáu ailddefnyddio adeiladau. Mae paragraff 2.7.2 Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y gellir ystyried bod llawer o safleoedd a ddatblygwyd ynghynt mewn ardaloedd adeiledig yn addas i’w datblygu am y bydd eu hailddefnyddio yn hyrwyddo amcanion cynaliadwyedd. Mae’r cynllun yn cefnogi ac yn hyrwyddo cynaliadwyedd.

2.2 Mewn ymateb i 8/367 mae defnyddio rhywogaethau coed penodol o ran caniatâd cynllunio yn fater rhy fanwl i ymdrin ag ef o fewn y cynllun. Bydd y Cyngor yn dibynnu ar arbenigedd swyddogion arbenigol yr ymgynghorir â hwy wrth wneud cais cynllunio. Mae rhagdybiaeth tuag at rywogaethau brodorol ar gyfer cynllunio gwrychoedd ac atodir amodau plannu i geisiadau i ddiogelu a hyrwyddo cyfanrwydd y dirwedd. Nid yw’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (LBAP) o blaid gweithredu ar gyfer rhywogaethau a gyflwynwyd. Mae rhai rhywogaethau anfrodorol a gyflwynwyd trwy erddi wedi achosi problemau a’r camau sy’n cael eu cymryd ar hyn o bryd, a nodwyd gan y LBAP, yw plannu llwyni a choed brodorol i wella ansawdd gwrychoedd a gwaith plannu ar hyd ffiniau. Pennod 14 – Amgylchedd 263

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Nid yw’r un o’r gwrthwynebiadau hyn yn ymwneud yn benodol â Lletemau Glas y bwriedir eu dynodi o dan y polisi hwn. Nodaf ymateb y Cyngor ac nid wyf o’r farn bod angen diwygio’r polisi hwn.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio Polisi EN3 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r un o’r gwrthwynebiadau hyn.

Polisi EN4 Bioamrywiaeth Gwrthwynebiad 31/1157 – Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid ychwanegu’r canlynol at y polisi:

Pan na fydd yn effeithio ar unrhyw safle a ddynodwyd gan yr UE ac y bydd yn bodloni gofynion Erthygl 12 ac 16 y Gyfarwyddeb Cynefinoedd.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Polisïau EN5, EN6 ac EN7 yn diogelu safleoedd dynodedig.

3.0 Mater

3.1 A oes angen diwygio’r polisi hwn fel yr awgrymir yn y gwrthwynebiad hwn.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Nid wyf o’r farn y byddai’r ychwanegiad a awgrymir yn cynyddu lefel y diogelwch a roddir i fioamrywiaeth yr Ynys, am y bydd angen ystyried holl ofynion perthnasol Ewrop.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisi EN4 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi EN4 Bioamrywiaeth Gwrthwynebiadau 14/733 i 737 - Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Nid yw’r polisi a’r testun yn adlewyrchu hierarchaeth dynodiadau. Maent i gyd wedi’u gosod yn yr un polisi nad yw’n gwahaniaethu rhyngddynt nac yn nodi’r profion a gymhwysir wrth ystyried ceisiadau a all effeithio arnynt. Nid eir i’r afael â materion cadwraeth natur y tu allan i ardaloedd dynodedig, na mater diogelu rhywogaethau. Dylid Pennod 14 – Amgylchedd 264

galw Ardaloedd Arbennig Cadwraeth [AAC] a gynigir yn ‘ddarpar Ardaloedd Arbennig Cadwraeth’. Dylid dilyn y polisïau wedyn trwy bolisïau cadarnhaol sy’n mynd i’r afael â’r ffyrdd y bydd y Cyngor yn bwrw ymlaen â gwella ac adfer buddiant natur trwy ddulliau rheoli, a pholisïau yn ymwneud â’r arfau cynllunio a ddefnyddir i sicrhau bod hynny’n cael ei gyflawni.

1.2 Dylid cynnwys polisïau ar wahân hefyd ar yr amrywiaeth eang o faterion a restrir yn y gwrthwynebiadau. Awgrymir polisïau enghreifftiol penodol.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Cynigir newidiadau gan y Cyngor yn awr i nodi’n gliriach yr hierarchaeth cadwraeth natur a ddylai fod yn berthnasol yn y cynllun fel y mynnir gan Bolisi Cynllunio Cymru. Defnyddiwyd gwrthwrthwynebiadau 6/2082 a 6/2083 gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i hyrwyddo’r newidiadau ychwanegol hyn. Credir bod y newidiadau hyn hefyd yn mynd i’r afael â’r materion a nodir yn y gwrthwynebiadau uchod gan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Nid oes digon o dystiolaeth ger fy mron i mi allu dod i gasgliad ynghylch a fyddai’r newidiadau a gynigir yn awr gan y Cyngor mewn ymateb i wrthwrthwynebiadau 6/2082 a 6/2083 yn goresgyn gwrthwynebiadau 14/733 i 737. Dylai’r newidiadau diweddaraf hyn fod yn destun ymgynghoriadau pellach â’r cyhoedd cyn cael eu cyflwyno fel diwygiadau arfaethedig.

4.0 Argymhelliad

4.1 Dylai ymateb y Cyngor i wrthwynebiadau 14/733 i 737 fod yn destun rhagor o ymgynghoriadau â’r cyhoedd cyn cael eu cyflwyno fel diwygiadau arfaethedig i’r cynllun a adneuwyd.

Paragraff 14.16 Gwrthwynebiadau 14/732 – Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylai’r paragraff adlewyrchu hierarchaeth dynodiadau.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC92 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn, a dynnir yn ôl yn amodol.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Am fod PC92 yn tynnu sylw at hierarchaeth safleoedd, a byddai’n goresgyn y gwrthwynebiad hwn hefyd, rwyf o’r farn y dylid gwneud y newid arfaethedig hwn.

4.0 Argymhelliad

Pennod 14 – Amgylchedd 265

4.1 Dylid diwygio paragraff 14.16 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC92.

Newid Arfaethedig 94 Newid Paragraff 14.22 Gwrthwrthwynebiad 109/2103 - Meyrick Estate Management

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Ni ddylai’r frawddeg “Pan fo angen bydd y Cyngor hefyd yn dileu hawliau datblygu a ganiateir” fod yn rhan o PC94.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae gan y Cyngor y pðer i wneud Cyfarwyddyd o dan Erthygl 4 i gyfyngu ar hawliau datblygu a ganiateir mewn rhai achosion. Os yw’n fodlon ei bod yn fanteisiol na ddylid cyflawni datblygiad oni roddir caniatâd amdano ar gais, gall roi cyfarwyddyd na fydd y caniatâd yn berthnasol i bob datblygiad nac i unrhyw ddatblygiad mewn ardal benodol.

3.0 Mater

3.1 A ddylai PC94 gynnwys y geiriau dadleuol.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae PC94 ym mharagraff 14.22 yn ceisio esbonio yn fanylach nag yn y paragraff a adneuwyd sut y bwriedir diogelu safleoedd sydd o bwys rhyngwladol o ran cadwraeth natur. Rwyf o’r farn yn achos safleoedd pwysig o’r fath y gall fod yn rhesymol i’r Cyngor geisio gwneud Cyfarwyddyd o dan Erthygl 4 a fyddai’n dileu rhai hawliau datblygu a ganiateir.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid newid PC94 mewn ymateb i’r gwrthwrthwynebiad hwn.

Polisi EN5 Safleoedd Rhyngwladol Gwrthwynebiadau 8/364 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig 6/927 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru 35/1327 – Cyngor Cefn Gwlad Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae 8/364 yn nodi y dylai pob Safle Rhyngwladol fod yn gysegredig ac y dylid hepgor y cymalau rhyddhau yn y polisi.

1.2 Mae 6/927 yn mynnu y dylai’r polisi adlewyrchu gofynion y Rheoliadau Cynefinoedd. Mae angen i’r polisi ystyried a fyddai cynnig yn cael effaith andwyol ar gyfanrwydd y safle. Mae’r polisi yn cyfeirio at ddatblygiadau yn achosi niwed annerbyniol, sef y geiriad a ddefnyddir hefyd ym Mholisi EN6, mewn perthynas â Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (hy dynodiad llai).

Pennod 14 – Amgylchedd 266

1.3 Mae 35/1327 o’r farn y dylid nodi safleoedd bywyd gwyllt statudol ar gynlluniau aneddiadau.

2.0 Newidiadau Arfaethedig

2.1 Mae PC93 yn cynnig y dylid dileu’r ymadrodd ‘achosi newid annerbyniol’ o’r polisi hwn a gosod y geiriau ‘effaith andwyol’ yn ei le. Câi’r Polisi ei ymestyn hefyd trwy gyflwyno paragraff newydd i gydymffurfio â’r Rheoliadau Cynefinoedd.

2.2 Mae PC587 yn cynnig y dylid dangos dynodiadau amgylcheddol ar y Map Cynigion. Tynnir gwrthwynebiad 35/1327 yn ôl os gwneir y newid arfaethedig hwn.

3.0 Ymateb y Cyngor

3.1 Mewn ymateb i wrthwynebiad 8/364 ni fyddai’r polisi, fel y mae wedi’i eirio, ond yn caniatáu datblygiadau o dan amgylchiadau eithriadol, y mae’n rhaid bod ganddynt fuddiant cyhoeddus tra phwysig. Mae’r egwyddor hon yn unol â pharagraff 5.3.2 Polisi Cynllunio Cymru sy’n nodi y dylai awdurdodau cynllunio lleol ystyried pwysigrwydd cymharol dynodiadau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol wrth ystyried y pwys y dylid ei roi ar fuddiannau cadwraeth natur ac y dylent ofalu eu bod yn osgoi gosod cyfyngiadau diangen ar ddatblygiadau.

3.2 Mewn ymateb i wrthwynebiad 6/927, cynigir y dylid diwygio Polisi EN5 trwy PC93 yn unol â’r newidiadau a geisir yn y gwrthwynebiad hwn. Yn arbennig, mae’r ymadrodd 'niwed annerbyniol' wedi’i ddileu ac 'effaith andwyol’ wedi’i osod yn ei le.

3.3 Mewn ymateb i wrthwynebiad 34/1327 cyflwynodd y Cyngor PC587 sy’n dangos dynodiadau bywyd gwyllt statudol ar y Map Cynigion, gan gynnwys y Mewnosodiadau.

4.0 Mater

4.1 A oes angen diwygio’r polisi hwn mewn ymateb i unrhyw un o’r gwrthwynebiadau hyn.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

5.1 Rwyf o’r farn y byddai PC93 yn goresgyn gwrthwynebiad 6/927, ac y byddai PC587 yn ateb gwrthwynebiad 35/1327, a dynnir yn ôl os gwneir y newid arfaethedig hwn. Fodd bynnag, byddai’n orgyfyngol pe na chaniateid unrhyw ddatblygiadau o gwbl ar safleoedd sy’n destun y polisi hwn, fel yr awgrymir mae’n ymddangos yng ngwrthwynebiad 8/364.

6.0 Argymhelliad

6.1 Y dylid diwygio Polisi EN5 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC95, ac y dylid gwneud PC587 ym Map Cynigion y cynllun a adneuwyd ond na ddylid gwneud unrhyw ddiwygiadau eraill mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Polisi EN5 Safleoedd Rhyngwladol Gwrthwynebiad 31/1158 – Plaid Werdd Sir y Fflint

Pennod 14 – Amgylchedd 267

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Awgrymir ychwanegiad at y polisi yn ymdrin â rhywogaethau gwarchodedig o dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd Ewrop.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Polisi EN4 – Bioamrywiaeth yn diogelu rhywogaethau.

3.0 Mater

3.1 A oes angen diwygio’r polisi hwn fel yr awgrymir yn y gwrthwynebiad hwn.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae paragraff 14.22 sy’n rhan o’r Cyfiawnhad Rhesymegol dros Bolisi EN5 yn cyfeirio’n benodol at Gyfarwyddeb Cynefinoedd Ewrop. Beth bynnag fo cwmpas Polisi EN4, rwyf o’r farn felly nad oes angen i Bolisi EN5 gyfeirio’n benodol at ddiogelu rhywogaethau o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisi EN5 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi EN5 Safleoedd Rhyngwladol Gwrthwynebiad 9/789 – Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid ailddrafftio’r polisi hwn i gynnwys geiriad cryfach mewn perthynas â niwed annerbyniol.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC93 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn, a dynnir yn ôl yn amodol.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Am y byddai PC93 yn atgyfnerthu’r polisi hwn, a hefyd goresgyn y gwrthwynebiad hwn, rwyf o’r farn y dylid gwneud y newid arfaethedig hwn.

4.0 Argymhelliad

4.1 Dylid diwygio Polisi EN5 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC93.

Polisi EN5 a Pharagraff Safleoedd Rhyngwladol 14.22 Gwrthwynebiad 14/738 – Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar Pennod 14 – Amgylchedd 268

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid ailddrafftio’r polisi a’r paragraff hwn.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC93 a PC94 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn, a dynnir yn ôl yn amodol.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Am y byddai PC93 a PC94 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn, rwyf o’r farn y dylid eu gwneud.

4.0 Argymhelliad

4.1 Dylid diwygio Polisi EN5 y cynllun a adneuwyd drwy PC93 ac y dylid diwygio paragraff 14.22 y cynllun a adneuwyd drwy PC94.

Polisi EN5 a Pharagraff 14.22 Safleoedd Rhyngwladol Gwrthwynebiad 35/1308 – Cyngor Cefn Gwlad Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid atgyfnerthu’r polisi i adlewyrchu arweiniad cynllunio cenedlaethol a deddfwriaeth Ewropeaidd.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC93 a PC94 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn, a dynnir yn ôl yn amodol.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Am y byddai PC93 a PC94 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn, rwyf o’r farn y dylid eu gwneud.

4.0 Argymhelliad

4.1 Dylid diwygio Polisi EN5 y cynllun a adneuwyd drwy PC93 ac y dylid diwygio paragraff 14.22 y cynllun a adneuwyd drwy PC94.

Newid Arfaethedig 93 Newid Polisi EN5 Gwrthwrthwynebiad 14/2055 – Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Dylid ychwanegu’r frawddeg ganlynol at y polisi ar ôl maen prawf (ii):

Pennod 14 – Amgylchedd 269

Pan fydd y safle dan sylw yn cynnal math o gynefin naturiol â blaenoriaeth a/neu rywogaeth â blaenoriaeth, ni chaniateir datblygiadau na newid y defnydd a wneir o’r tir oni fydd yn angenrheidiol am resymau hollbwysig yn ymwneud ag iechyd dynol neu ddiogelwch y cyhoedd neu er budd pwys pennaf yr amgylchedd.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Cytunir ar y cyd y dylid cynnwys ail baragraff newydd ym Mholisi EN5 yn nodi:

Caiff datblygiadau nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â rheoli safle Ewropeaidd, safle Ewropeaidd arfaethedig neu safle RAMSAR neu nad oes eu hangen i reoli safleoedd o’r fath, sy’n debygol o gael cryn effaith ar y safle (naill ai ar eu pen eu hunain neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill) eu harchwilio’n dra manwl.

3.0 Mater

3.1 A ddylid diwygio’r polisi hwn ymhellach fel yr awgrymir yn awr gan y Cyngor.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Nid oes digon o dystiolaeth ger fy mron i mi allu dod i gasgliad ynghylch a oes angen yr ychwanegiad sylweddol at y polisi hwn a nodir yn y datganiad hwn y cytunwyd arno ar y cyd. Os yw’r Cyngor am ychwanegu’r paragraff hwn at y polisi bydd angen iddo wneud hynny fel diwygiad arfaethedig a fydd yn gorfod bod yn destun ymgynghoriad â’r cyhoedd.

5.0 Argymhelliad

5.1 Os yw’r Cyngor am newid PC93 fel y nodwyd uchod, dylai’r newid arfaethedig hwn fod yn destun ymgynghoriadau â’r cyhoedd fel rhan o ddiwygiadau arfaethedig i’r cynllun a adneuwyd.

Newid Arfaethedig 93 Newid Polisi EN5 Gwrthwrthwynebiad 14/2056 – Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Dylid gosod y gair ‘a’ ar ôl ‘ateb’ ym maen prawf (i) y polisi hwn.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r Cyngor o’r farn y byddai’r gwrthwrthwynebiad hwn yn gwella’r cynllun.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Am nad yw’r newid arfaethedig hwn yn deillio’n uniongyrchol o PC93, nid wyf o’r farn y dylid newid y newid arfaethedig hwn mewn ymateb iddo. Sut bynnag, ni fyddai ychwanegu’r gair ‘a’ yn newid ystyr y polisi hwn ryw lawer.

4.0 Argymhelliad Pennod 14 – Amgylchedd 270

4.1 Na ddylid newid PC93 mewn ymateb i’r gwrthwrthwynebiad hwn.

Newid Arfaethedig 93 Newid Polisi EN5 Gwrthwrthwynebiad 14/2057 – Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Dylid gosod y geiriau ‘neu restredig’ ar ôl ‘darpar’ yn llinell 5 o’r polisi hwn.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r Cyngor yn cytuno mai’r term ar gyfer safleoedd RAMSAR sy’n aros i gael eu dynodi yw ‘rhestredig’.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Er nad yw’r newid arfaethedig hwn yn deillio’n uniongyrchol o PC93, cytunaf y dylid newid y newid arfaethedig hwn.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid newid PC93 trwy ychwanegu’r geiriau ‘neu restredig’ fel y cynigir yn y gwrthwrthwynebiad hwn.

Newid Arfaethedig 93 Newid Polisi EN5 Gwrthwrthwynebiad 14/2058 – Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Dylid gosod y geiriau ‘(naill ai yn unigol neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill)’ ar ôl ‘safle’ yn y newid arfaethedig hwn.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Hoffai’r Cyngor osod ail baragraff newydd ym Mholisi EN5 yn nodi:

Caiff datblygiadau nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â rheoli safle Ewropeaidd, safle Ewropeaidd arfaethedig neu safle RAMSAR neu nad oes eu hangen i reoli safleoedd o’r fath, sy’n debygol o gael cryn effaith ar y safle (naill ai ar eu pen eu hunain neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill) eu harchwilio’n dra manwl.

3.0 Mater

3.1 A ddylid diwygio’r polisi hwn ymhellach fel yr awgrymir yn awr gan y Cyngor.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

Pennod 14 – Amgylchedd 271

4.1 Nid oes digon o dystiolaeth ger fy mron i mi allu dod i gasgliad ynghylch a oes angen yr ychwanegiad sylweddol at y polisi a awgrymir yn awr gan y Cyngor. Os yw’r Cyngor am ychwanegu’r paragraff hwn at y polisi bydd angen iddo wneud hynny fel diwygiad arfaethedig y bydd angen ymgynghori â’r cyhoedd yn ei gylch.

5.0 Argymhelliad

5.1 Os yw’r Cyngor am newid PC93 fel y nodwyd uchod, dylai’r newid arfaethedig hwn fod yn destun ymgynghoriadau â’r cyhoedd fel rhan o ddiwygiadau arfaethedig i’r cynllun a adneuwyd.

Newid Arfaethedig 93 Newid Polisi EN5 Gwrthwrthwynebiad 6/2083 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Dylid diwygio’r polisi i adlewyrchu’r Rheoliadau Cynefinoedd yn iawn.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Hoffai’r Cyngor osod ail baragraff newydd ym Mholisi EN5 yn nodi:

Caiff datblygiadau nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â rheoli safle Ewropeaidd, safle Ewropeaidd arfaethedig neu safle RAMSAR neu nad oes eu hangen i reoli safleoedd o’r fath, sy’n debygol o gael cryn effaith ar y safle (naill ai ar eu pen eu hunain neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill) eu harchwilio’n dra manwl.

3.0 Mater

3.1 A oes angen diwygio’r polisi hwn ymhellach fel yr awgrymir yn awr gan y Cyngor.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Nid oes digon o dystiolaeth ger fy mron i mi allu dod i gasgliad ynghylch a oes angen yr ychwanegiad sylweddol at y polisi hwn a awgrymir yn awr yn y datganiad hwn y cytunwyd arno ar y cyd. Os yw’r Cyngor am ychwanegu’r paragraff hwn at y polisi bydd angen iddo wneud hynny fel diwygiad arfaethedig y bydd angen ymgynghori â’r cyhoedd yn ei gylch.

5.0 Argymhelliad

5.1 Os yw’r Cyngor am newid PC93 fel y nodwyd uchod, dylai’r newid arfaethedig hwn fod yn destun ymgynghoriadau â’r cyhoedd fel rhan o ddiwygiadau arfaethedig i’r cynllun a adneuwyd.

Newid Arfaethedig 94 Newid Paragraff 14.22 Gwrthwrthwynebiad 35/2098 – Cyngor Cefn Gwlad Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad Pennod 14 – Amgylchedd 272

1.1 Yn lle’r term ‘EIA’ dylid gosod y geiriau ‘asesiad priodol’ yn y newid arfaethedig hwn am y byddai hynny’n sicrhau y cydymffurfid â’r rheoliadau perthnasol.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r Cyngor yn cytuno â’r newid a awgrymir am y byddai hynny’n sicrhau y cydymffurfid â’r rheoliadau perthnasol.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Am fod y newid awgrymiedig hwn yn deillio’n uniongyrchol o PC94, a byddai’n goresgyn y gwrthwrthwynebiad hwn, rwyf o’r farn y dylid newid y newid arfaethedig hwn yn unol â hynny.

4.0 Argymhelliad

4.1 Dylid newid PC94 trwy ddileu’r term ‘EIA’ o drydedd frawddeg y newid arfaethedig hwn a gosod y geiriau ‘asesiad priodol’ yn ei le.

Polisïau EN6 ac EN7 Safleoedd Cenedlaethol a Safleoedd Lleol Gwrthwynebiad 6/928 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid diwygio geiriad y ddau bolisi hyn er mwyn adlewyrchu’r gwahanol lefelau o ddiogelwch a roddir iddynt.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC95 a PC96 yn gwneud diwygiadau priodol i eiriad y polisïau hyn, a fyddai’n goresgyn y gwrthwynebiad hwn.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Byddai PC95 yn pwysleisio y caiff unrhyw ddatblygiadau ar safleoedd o bwys cenedlaethol eu rheoli’n llym. Rwyf o’r farn y dylid geirio’r Polisi yn fwy cryno. Byddai PC96 yn cydnabod y gallai datblygiadau ddigwydd ar safleoedd lleol ar yr amod y câi cynefin addas arall ei ddarparu a’i reoli.

4.0 Argymhellion

4.1 Dylid diwygio Polisi EN6 y cynllun a adneuwyd i ddarllen:

‘Polisi EN6 – Rhoddir sylw arbennig i ddatblygiadau sy’n debygol o arwain at niwed i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig neu sy’n debygol o gael effaith niweidiol ar safle o’r fath a nis caniateir oni fydd y rhesymau dros y datblygiad yn amlwg bwysicach na gwerth y safle ei hun.’

Pennod 14 – Amgylchedd 273

4.2 Y dylid diwygio Polisi EN7 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC96. Gwneir y ddau argymhelliad hwn mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi EN6 Safleoedd Cenedlaethol Gwrthwynebiad 31/1159 – Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Awgrymir ychwanegiad at y polisi yn ymdrin â rhywogaethau gwarchodedig o dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd Ewrop.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Polisi EN4 – ‘Bioamrywiaeth’ yn diogelu rhywogaethau.

3.0 Mater

3.1 A oes angen diwygio’r polisi hwn fel yr awgrymir yn y gwrthwynebiad hwn.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Bydd gofynion Cyfarwyddeb Cynefinoedd Ewrop yn berthnasol p’un a gyfeirir yn benodol ati ym Mholisi EN6 ai peidio. Rwyf o’r farn felly nad oes angen i’r polisi hwn gynnwys cyfeiriad at ddiogelu rhywogaethau o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisi EN6 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi EN6 Safleoedd Cenedlaethol Gwrthwynebiadau 104/472 Y Gymdeithas Cynhyrchion Chwareli 103/699 Hanson Aggregates Newid Arfaethedig 95 Newid Polisi EN6 Gwrthwrthwynebiad 104/2039 – Y Gymdeithas Cynhyrchion Chwareli 10/2242 - Mr A F Nixon

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae 104/472 a 103/699 yn nodi mai’r prawf cywir ar gyfer datblygiad a fyddai’n effeithio ar SODdGA yw ‘asesiad tra manwl’.

2.0 Newid Arfaethedig 95

2.1 Byddai’r newid arfaethedig hwn yn atgyfnerthu’r polisi amgylcheddol craidd hwn ac yn darparu rhagdybiaeth yn erbyn datblygiadau ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol pan fyddai’r rhesymau dros ddatblygiad yn amlwg bwysicach na gwerth y safle ei hun.

3.0 Gwrthwrthwynebiadau Pennod 14 – Amgylchedd 274

3.1 Mae 104/2039 o’r farn nad yw PC95 yn ateb gwrthwynebiad 104/472, a gedwir felly.

3.2 Mae 10/2242 yn mynnu na ddylid dileu’r geiriau ‘ni chaniateir’ o’r polisi hwn trwy’r newid arfaethedig hwn a gosod y geiriau ‘bydd rhagdybiaeth yn erbyn’ yn eu lle. Mae’r gwrthwrthwynebiad hwn o’r farn na fyddai’r newid arfaethedig hwn yn atal SODdGA rhag cael eu niweidio.

4.0 Ymateb y Cyngor

4.1 Mewn ymateb i wrthwynebiadau 104/472 a 103/699, ac i wrthsefyll gwrthwynebiad 104/2039, mae’r Cyngor o’r farn y byddai PC95 yn cynyddu’r lefel o ddiogelwch a roddir i SODdGA trwy ddarparu rhagdybiaeth yn erbyn datblygiadau ar safleoedd o’r fath.

4.2 Mewn ymateb i wrthwrthwynebiad 10/2242, mae’r geiriad yn PC95 yn cydymffurfio ag arfer da.

5.0 Mater

5.1 A fyddai Polisi EN6 fel y cynigiwyd i’w newid trwy PC95 yn cydymffurfio â pholisi cynllunio cenedlaethol.

6.0 Casgliadau’r Arolygydd

6.1 O ran gwrthwynebiadau 104/472 a 103/699, a gwrthwrthwynebiadau 10/2242 a 104/2039, mae paragraff 21 NCT 5 yn esbonio bod yn rhaid rhoi sylw arbennig i gynigion datblygu o ran SODdGA neu gynigion datblygu sy’n debygol o effeithio ar SODdGA. Rwyf o’r farn felly y byddai Polisi EN6 fel y cynigiwyd i’w aileirio yn fy argymhelliad ym mharagraff 4.1 ar dudalen 272 yr adroddiad hwn o ran Gwrthwynebiad 6/928 yn cysoni polisi ag arweiniad cenedlaethol.

7.0 Argymhelliad

7.1 Dylid diwygio Polisi EN6 y cynllun a adneuwyd fel y nodir isod:

‘Polisi EN6 – Rhoddir sylw arbennig i ddatblygiadau sy’n debygol o arwain at niwed ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig neu sy’n debygol o gael effaith niweidiol ar safle o’r fath a nis caniateir oni fydd y rhesymau dros y datblygiad yn amlwg bwysicach na gwerth y safle ei hun.’ Gwneir yr argymhelliad hwn mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Newid Arfaethedig 95 Newid Polisi EN6 Gwrthwrthwynebiad 14/2054 – Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwrthwynebiad hwn yn awgrymu y dylid ychwanegu’r canlynol at y polisi hwn;

Pennod 14 – Amgylchedd 275

Pan ganiateir datblygiadau bydd yr awdurdod yn ystyried defnyddio amodau neu rwymedigaethau cynllunio i sicrhau y caiff buddiant cadwraeth natur y safle ei ddiogelu a’i wella.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r Cyngor o’r farn y byddai’r gwrthwrthwynebiad hwn yn gwella’r cynllun, a dynnir yn ôl yn amodol.

3.0 Mater

3.1 A ddylid newid PC95 fel yr awgrymir yn y gwrthwrthwynebiad hwn.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Rwyf o’r farn felly y dylid gwneud y newid hwn. Bydd yn ychwanegol at yr aileiriad o Bolisi EN6 a argymhellwyd uchod.

5.0 Argymhelliad

5.1 Dylid newid Polisi EN6 fel yr argymhellwyd yn yr adroddiad hwn i’w ddiwygio trwy ychwanegu’r frawddeg a nodir yng ngwrthwrthwynebiad 14/2054.

Polisi EN6 Safleoedd Cenedlaethol Gwrthwynebiad 8/365 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylai pob safle o’r fath fod yn gysegredig a dylid hepgor y cymalau rhyddhau yn y polisi.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC95 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn, a dynnir yn ôl yn amodol.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Ystyriais wrthwynebiadau eraill i Bolisi EN6 uchod ac nid wyf o’r farn bod angen diwygio’r Polisi ymhellach.

4.0 Argymhelliad

4.1 Dylid diwygio Polisi EN6 y cynllun a adneuwyd i ddarllen:

‘Polisi EN6 – Rhoddir sylw arbennig i ddatblygiadau sy’n debygol o arwain at niwed i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig neu sy’n debygol o gael effaith niweidiol ar safle o’r fath a nis caniateir oni fydd y rhesymau dros y datblygiad yn amlwg bwysicach na gwerth y safle ei hun.’ Gwneir yr argymhelliad hwn mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Pennod 14 – Amgylchedd 276

Polisi EN6 Paragraff Safleoedd Cenedlaethol Gwrthwynebiad 9/791 – Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylai’r polisi gynnwys cyfeiriad at y ddeddfwriaeth berthnasol a ddefnyddir i ddiffinio’r ‘effaith annerbyniol’ ar safle dynodedig.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC95 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn, a dynnir yn ôl yn amodol.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Ystyriais wrthwynebiadau eraill i Bolisi EN6 uchod ac nid wyf o’r farn bod angen ei ddiwygio ymhellach.

4.0 Argymhelliad

4.1 ‘Polisi EN6 – Rhoddir sylw arbennig i ddatblygiadau sy’n debygol o arwain at niwed i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig neu sy’n debygol o gael effaith niweidiol ar safle o’r fath a nis caniateir oni fydd y rhesymau dros y datblygiad yn amlwg bwysicach na gwerth y safle ei hun.’ Gwneir yr argymhelliad hwn mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi EN6 Safleoedd Cenedlaethol Gwrthwynebiad 35/1309 – Cyngor Cefn Gwlad Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid ymgorffori a nodi Dynodiadau Cadwraeth Natur ar y Map Cynigion a mapiau o aneddiadau unigol o fewn y cynllun.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r Cyngor yn cytuno i ddiwygio Mapiau Cynigion i gydymffurfio â’r awgrym. Os gwneir hyn tynnir y gwrthwynebiad hwn yn ôl.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Am y byddai PC587 yn dangos dynodiadau amgylcheddol ar y Map Cynigion, rwyf o’r farn y byddai hynny’n goresgyn y gwrthwynebiad hwn.

4.0 Argymhelliad

4.1 Dylid diwygio Map Cynigion y cynllun a adneuwyd, ynghyd â’r holl Fewnosodiadau perthnasol, yn unol â PC587.

Pennod 14 – Amgylchedd 277

Polisi EN6 Safleoedd Cenedlaethol Gwrthwynebiad 244/769 – Y Cyng A Williams

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae corsle pwysig yn y dylid ei ddangos ar fap cynnig 2.1

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae corsle Rhoscolyn yn SODdGA dynodedig, ac felly fe’i nodir felly ar fap cynnig 3.4.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Rhestrir Corsle Rhoscolyn yn y Rhestr o Ddynodiadau Cadwraeth Natur ac fe’i dangosir ar Fap 3.4.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio Mapiau Dynodiadau Cadwraeth Natur y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Paragraff 14.24 Gwrthwynebiad 14/740 – Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Caiff datblygiadau nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â rheoli safle Ewropeaidd neu safle RAMSAR neu nad oes eu hangen i reoli safleoedd o’r fath, sy’n debygol o gael cryn effaith ar y safle, eu harchwilio’n dra manwl.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai gwneud PC94 yn y paragraff hwn yn ateb y pryderon a godir yn y gwrthwynebiad hwn.

3.0 Mater

3.1 A oes angen diwygio paragraff 14.24 mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Byddai PC94 yn ateb y pryderon a godwyd.

5.0 Argymhelliad

5.1 Dylid diwygio paragraff 14.24 y cynllun a adneuwyd fel y nodir yn PC94 mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Pennod 14 – Amgylchedd 278

Paragraff 14.27 Gwrthwynebiad 8/363 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylai fod datganiad cryfach ynghylch coridorau afonydd a gwrychoedd.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nid yw’r gwrthwynebiad hwn yn awgrymu unrhyw newid penodol yn y paragraff hwn. Fodd bynnag mae Polisi EN8 yn diogelu coridorau afonydd rhag effeithiau annerbyniol datblygiadau. Mae Polisi GP1 yn diogelu ac yn hyrwyddo cyfanrwydd a/neu barhad coridorau megis cloddiau, gwrychoedd a choed tra bod Polisi EN15 yn annog prosiectau sy’n gwella’r amgylchedd lleol. Nid oes angen ailadrodd pwyslais y polisïau hyn yn y cynllun drwyddo draw.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Rwy’n cytuno ag Ymateb y Cyngor ac rwyf o’r farn nad oes angen manylu ymhellach ar y mater hwn.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio paragraff 14.27 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi EN7 Safleoedd Lleol Gwrthwynebiad 10/130 - Mr A F Nixon 8/366 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig 104/473 – Y Gymdeithas Cynhyrchion Chwareli 103/693 - Hanson Aggregates 9/792 – Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru Newid Arfaethedig 96 Newid Polisi EN7 Gwrthwrthwynebiad 104/2038 – Y Gymdeithas Cynhyrchion Chwareli 109/2102 – Properties Ltd 24/2160 – Ffederasiwn yr Adeiladwyr Tai

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae 10/130 yn mynnu y dylid hepgor ‘niwed annerbyniol’ am nad yw’r polisi yn diffinio faint o niwed sy’n dderbyniol.

1.2 Mae 8/366 o’r farn y dylai pob safle o’r fath fod yn gysegredig ac y dylid hepgor y cymalau rhyddhau yn y polisi.

1.3 Mae 104/473 a 103/693 o’r farn bod gormod o gyfyngu ar y dynodiadau lleol hyn.

1.4 Mae 9/792 yn mynnu y dylid cyfeirio at ddeddfwriaeth berthnasol a ddefnyddir i ddiffinio’r ‘effaith annerbyniol’ ar safle.

Pennod 14 – Amgylchedd 279

2.0 Gwrthwrthwynebiadau

2.1 Mae 104/2038 yn nodi bod lefel y cyfyngu a geir yn parhau i fod yn annerbyniol o uchel ar gyfer y dynodiadau lleol hyn.

2.2 Mae 109/2102 yn mynnu y dylid dileu 'a safleoedd coetir hynafol a ailblannwyd/aildyfwyd' am ei fod o’r farn nad yw’r geiriad yn ddigon clir. Byddai’n well i’r polisi reoli ardaloedd dynodedig penodol, neu bydd lle i ddryswch ac ansicrwydd.

2.3 Mae 24/2160 yn mynnu y dylid dileu unrhyw gyfeiriad at 'ddarparu ar gyfer rheoli yn y dyfodol' neu esbonio pryd y bydd ei angen.

3.0 Ymateb y Cyngor

3.1 Mewn ymateb i wrthwynebiadau 10/130 a 9/792 mae’r Cyngor o’r farn bod ei ymagwedd bresennol tuag at eirio polisïau yn ddilys a bod lefel y niwed yn fater o ffaith a gradd yng ngoleuni pob achos.

3.2 Mewn ymateb i wrthwynebiad 8/366, mae paragraff 5.3.11 Polisi Cynllunio Cymru yn nodi na ddylai dynodiadau anstatudol gyfyngu’n ormodol ar ddatblygiadau derbyniol.

3.3 Mewn ymateb i wrthwynebiadau 104/473 a 103/693, byddai PC96 yn helpu i gywiro’r gwrthwynebiadau hyn.

3.4 Mewn ymateb i wrthwrthwynebiad 104/2038, mae paragraff 5.4.4 Polisi Cynllunio Cymru yn nodi er y rhoddir llai o bwys ar ddynodiadau anstatudol na dynodiadau statudol, y dylid rhoi lefel ddigonol o ddiogelwch iddynt mewn Cynlluniau Datblygu Unedol. Dylai polisïau ar gyfer safleoedd anstatudol esbonio nad yw dynodiadau o’r fath yn gwahardd gweithgareddau economaidd-gymdeithasol priodol.

3.5 Mewn ymateb i wrthwrthwynebiad 109/2102, mae diogelu coetiroedd hynafol yn fater dilys ar gyfer polisi.

3.6 Mewn ymateb i wrthwrthwynebiad 24/2160, mae awydd i sicrhau trefniadau rheoli ar gyfer y dyfodol yn fater dilys ar gyfer polisi.

4.0 Mater

4.1 A oes angen diwygio Polisi EN7 mewn ymateb i unrhyw un o’r gwrthwynebiadau hyn, neu newid PC96 mewn ymateb i unrhyw un o’r gwrthwrthwynebiadau hyn.

5.0 Casgliadau’r Arolygydd

5.1 O ran gwrthwynebiadau 10/130 a 9/792, nid yw’n briodol i’r polisi gymhwyso prawf ‘niwed annerbyniol’ am nad dyma’r prawf cywir wrth wneud penderfyniad ar gynnig datblygu ar ôl ystyried yr holl ystyriaethau perthnasol. Felly y prawf y dylid ei nodi ym Mholisi EN7 yw a fyddai datblygiad yn achosi niwed sylweddol. Mater o farn gynllunio fyddai p’un a fyddai’r niwed yn sylweddol mewn unrhyw achos penodol o ran y polisi hwn.

5.2 O ran gwrthwynebiadau 104/473 a 103/693, a gwrthwrthwynebiad 104/2038, mae Polisi EN7, fel y cynigiwyd i’w newid trwy PC96, yn ymdrin â mathau penodol o safleoedd Pennod 14 – Amgylchedd 280

cadwraeth natur lleol. Nid wyf o’r farn felly ei fod yn gwrthdaro â pharagraff 5.3.11 na 5.4.4 Polisi Cynllunio Cymru, nac â pharagraff 26 Polisi Cynllunio Mwynau Cymru. Felly, nid wyf o’r farn bod lefel y diogelwch a nodir yn y polisi hwn yn rhy uchel.

5.3 Byddai lefel y diogelwch a geisir yng ngwrthwynebiad 8/366 yn rhy uchel.

5.4 O ran gwrthwrthwynebiad 109/2102, rwyf o’r farn na ddylai fod yn rhy anodd penderfynu a yw safle yn gyn-Goetir Hynafol neu a gafodd ei ailblannu neu a aildyfodd. Am y gallai safleoedd o’r fath fod â gwerth cadwraeth natur o hyd, nid wyf o’r farn felly y dylid hepgor y cyfeiriad atynt yn PC96.

5.5 Gan droi at wrthwrthwynebiad 24/2160, mae’n rhesymol bod cynefinoedd a grëir yn lle rhai a gollwyd yn cael eu rheoli’n gywir, er nad oes angen i’r cynllun ymdrin yn fanwl â sut y byddai hyn yn cael ei gyflawni nac â’i amseriad.

6.0 Argymhelliad

6.1 Na ddylid diwygio Polisi EN7 y cynllun a adneuwyd na newid PC96 mewn ymateb i’r un o’r gwrthwynebiadau na’r gwrthwrthwynebiadau hyn.

Polisi EN7 Safleoedd Lleol Gwrthwynebiadau 14/742 a 743 – Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae 14/742 yn ceisio didoli rhan o Bolisi EN7 a chreu polisi newydd a fydd yn ymdrin â chynefinoedd lled-naturiol ar wahân i safleoedd neu nodweddion a ddiogelir mewn hierarchaeth.

1.2 Mae 14/743 yn ceisio diwygio geiriad Polisi EN7.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r Cyngor o’r farn bod y polisi yn ddigon cadarn i ymdrin â Safleoedd Lleol.

2.2 Fodd bynnag mae’r Cyngor yn nodi y gellid diwygio teitl y polisi i ‘Safleoedd Lleol a Chynefinoedd Lled-Naturiol’.

2.3 Fodd bynnag gellir mynd i’r afael â’r prif faterion a godir gan y gwrthwynebiad hwn yn ymwneud â chynefinoedd o’r fath trwy Bolisi EN4 ar fioamrywiaeth.

3.0 Mater

3.1 A oes angen diwygio’r polisi hwn fel yr awgrymir yn y naill neu’r llall o’r gwrthwynebiadau hyn.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Yn seiliedig ar y dystiolaeth ger fy mron ni ellid rhannu’r polisi hwn yn 2 er mwyn ymdrin â chynefinoedd lled-naturiol ar wahân heb newid yn llwyr ymagwedd y cynllun tuag Pennod 14 – Amgylchedd 281 at ddiogelu safleoedd cadwraeth natur yn ôl eu safle yn yr hierarchaeth 3 haen ar gyfer safleoedd rhyngwladol, cenedlaethol a lleol. Nid wyf o’r farn y byddai cyfiawnhad dros ailddrafftio’r cynllun mor drylwyr, yn arbennig am fod Polisi EN4 yn ymdrin â buddiant bioamrywiaeth yr Ynys sy’n cwmpasu cynefinoedd lled- naturiol yn fy marn i.

4.2 Ar yr un pryd, yn fy marn i, ni ddeilliai unrhyw fantais amlwg o ddiwygio teitl Polisi EN7.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisi EN7 y cynllun a adneuwyd, na’i deitl, mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi EN7 Safleoedd Lleol Gwrthwynebiad 50/765 – Cyngor Cymuned

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylai’r cynllun gyfeirio at y Warchodfa Natur Leol arfaethedig yn Llanddona.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae dwy Warchodfa Natur Leol ychwanegol wedi’u dynodi ar yr Ynys ers cyhoeddi’r cynllun a adneuwyd. Bydd y Cyngor yn sicrhau y caiff y safleoedd hyn yn Llanddona a eu cynnwys yn y cynllun.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Cefnogir camau gweithredu’r Cyngor.

4.0 Argymhelliad

4.1 Dylid diwygio’r cynllun a adneuwyd trwy gynnwys Safleoedd y ddwy Warchodfa Natur Leol ddynodedig yn Llanddona a Llangoed.

Newid Arfaethedig 96 Newid Polisi EN7 Gwrthwrthwynebiad 6/2082 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Dylid hepgor y geiriau ‘fel arfer’ ar ôl ‘bydd datblygwyr’ yn y frawddeg newydd yn y newid arfaethedig hwn.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r Cyngor yn cytuno bod y newid a awgrymir yn gwneud y cynllun yn gliriach.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

Pennod 14 – Amgylchedd 282

3.1 Dylai’r Polisi hwn nodi ei ymagwedd tuag at ddarparu cynefinoedd yn lle rhai a gollwyd o dan yr amgylchiadau a nodwyd. Fodd bynnag nid oes angen cynnwys y geiriau ‘fel arfer’ yn y rhan hon o PC96 am y gallai fod cyfiawnhad dros eithriad i’r gofyniad hwn o dan rai amgylchiadau.

4.0 Argymhelliad

4.1 Dylid newid PC96 trwy ddileu’r geiriau ‘fel arfer’ o’r frawddeg newydd arfaethedig ym Mholisi EN7.

Polisi EN7 Safleoedd Lleol Gwrthwynebiad 6/953 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid ailddrafftio’r polisi i gydymffurfio â Pholisi Cynllunio Cymru.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC96 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn, a dynnir yn ôl yn amodol.

3.0 Casgliad ac Argymhelliad yr Arolygydd

3.1 Byddai PC96 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn trwy gysoni’r polisi â Pholisi Cynllunio Cymru.

4.0 Argymhelliad

4.1 Dylid diwygio Polisi EN7 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC96 mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi EN7 Safleoedd Lleol Gwrthwynebiad 35/1310 – Cyngor Cefn Gwlad Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid gosod y geiriau ‘a safleoedd coetiroedd hynafol a ailblannwyd/aildyfwyd’ ar ôl ‘Coetiroedd Hynafol’ ym mrawddeg gyntaf y polisi a dylid ychwanegu’r canlynol ar y diwedd:

Pan fydd angen amgylcheddol, economaidd neu gymdeithasol a brofwyd yn golygu bod angen colli neu niweidio rhan o safle neu’r safle cyfan bydd disgwyl i ddatblygwyr fel arfer greu cynefin addas yn ei le a darparu ar gyfer rheoli’r cynefin hwnnw yn y dyfodol.

2.0 Cyngor

2.1 Byddai PC96 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn, a dynnir yn ôl yn amodol.

Pennod 14 – Amgylchedd 283

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Byddai PC96 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn.

4.0 Argymhelliad

4.1 Dylid diwygio Polisi EN7 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC96 mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi EN7 Safleoedd Lleol Gwrthwynebiad 31/1160 – Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylai’r polisi gynnwys ‘safleoedd bywyd gwyllt neu’r hyn sy’n cyfateb iddynt’.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r Cyngor yn fodlon bod y polisi yn ymdrin â phob Safle Lleol.

3.0 Mater

3.1 A oes angen diwygio’r polisi hwn mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Nid yw’r gwrthwynebiad hwn yn darparu digon o gyfiawnhad dros y newid a awgrymir yn y polisi. Nid wyf o’r farn felly fod angen newid y polisi hwn mewn ymateb iddo.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisi EN7 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi EN8 Datblygu ar yr Arfordir Gwrthwynebiadau 36/323 – Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru 8/362 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig 30/611 – Bwrdd yr Iaith Gymraeg 125/652 – Ymddiriedolwyr Ewyllys Syr G D Meyrick 72/1450 - Menter Môn Newidiadau Arfaethedig Trosglwyddo Polisi EN8 a’i droi’n Bolisi PO8a 24 a 97 Gwrthwrthwynebiad 35/2013 – Cyngor Cefn Gwlad Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae 36/323 o’r farn y dylai maen prawf (v) y polisi fod yn ofyniad cyffredinol sy’n berthnasol i bob datblygiad hy ni ddylai ymwneud yn benodol â datblygiadau ar yr arfordir. Pennod 14 – Amgylchedd 284

1.2 Mae 8/362 yn awgrymu y dylid ystyried ychwanegu at Bolisi EN8 neu ffurfio polisi newydd a fydd yn galluogi’r Cyngor i leihau effaith penderfyniadau cynllunio a wnaed cyn llunio’r polisi. Mae’r gwrthwynebiad o’r farn bod penderfyniadau o’r fath wedi arwain at greithiau hyll ar y dirwedd.

1.3 Mae 30/611 yn nodi o dan bwynt (i) fod yna feini prawf yn ymwneud â phenderfynu ar geisiadau cynllunio. Dylid ychwanegu amod yn seiliedig ar Bolisi PO3 - Iaith a Diwylliant yma.

1.4 Mae 125/652 o’r farn y dylid gosod y geiriau ‘neu annyranedig’ yn y testun ar ôl ‘yn y …… annatblygedig’ ac y dylai’r polisi esbonio bod ‘ardaloedd dyranedig’ yn ardaloedd a ddyrennir ym Mholisi EP1.

1.5 Ar ben hynny, dylid gosod y canlynol yn y Cyfiawnhad Rhesymegol dros Bolisi EN8: Cydnabyddir y gall lleoliad arfordirol fod yn hanfodol i ddatblygu ymhellach gyfleusterau/adeiladau/gweithrediadau sy’n bodoli eisoes na fyddai angen lleoliad arfordirol arnynt yn wreiddiol oherwydd eu natur.

1.6 Mae 72/1450 yn honni y dylai’r polisi nodi’r Llwybr Arfordirol fel adnodd na ddylid ei danseilio gan ddatblygiadau. Ystyrir y gall y Llwybr Arfordirol, lle y mae’n ganiataol, fod yn arbennig o agored i ddatblygiadau ar yr arfordir.

2.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

2.1 Dylid dychwelyd y polisi i’r adran o’r cynllun sy’n ymdrin â’r Amgylchedd. Dylid gosod maen prawf (v) o dan Bolisi EN9. Dylid drafftio polisi newydd o fewn yr adran o’r cynllun yn ymdrin â’r Amgylchedd sy’n mynd i’r afael â’r ‘Arfordir Datblygedig’.

3.0 Ymateb y Cyngor

3.1 Mewn ymateb i wrthwynebiad 36/323, mae Polisi GP1 yn diogelu nodweddion tirwedd a choridorau megis pyllau, corstiroedd a choridorau afonydd.

3.2 Mewn ymateb i wrthwynebiad 8/362, dylai Polisi TO4 yn ymwneud â newid safleoedd carafannau sefydlog sy’n bodoli eisoes a dyraniad FF21 'Ailddatblygu’r Pwynt’ helpu i leihau effaith penderfyniadau a wnaed yn y gorffennol cyn llunio’r polisi.

3.3 Mewn ymateb i wrthwynebiad 30/611, mae Polisi PO3 yn sicrhau yr ystyrir yr Iaith a’r Diwylliant o dan bob un o bolisïau’r cynllun.

3.4 Mewn ymateb i wrthwynebiad 125/652, nid yw ardaloedd a ddyrannwyd heb eu datblygu ac felly nis cynhwysir hwy o fewn y polisi hwn. Bydd unrhyw ardal sydd â dyraniad yn manteisio ar y dyraniad hwnnw a bydd yn ymwneud â pholisïau o fewn y cynllun sy’n cyfeirio ati. Byddai ychwanegu ardaloedd nas dyrannwyd at y polisi hwn yn achosi dryswch am y gallai hynny gyfeirio at bob ardal arall ar yr Ynys sydd heb ei dyrannu.

3.5 Mewn ymateb i wrthwynebydd 72/1450, mae Polisi TR9 yn diogelu llwybrau cerdded rhag datblygiadau newydd. Mae’r Cyngor yn bwriadu newid TR9 i gyfeirio’n benodol at lwybrau cerdded dynodedig yr Ynys, sy’n cynnwys llwybrau caniataol.

Pennod 14 – Amgylchedd 285

3.6 Mae’r Cyngor o’r farn nad oes angen ailadrodd pwyslais polisi mewn penodau eraill. Gall polisïau yn seiliedig ar feini prawf a luniwyd yn gywir helpu i symleiddio cynlluniau, a darparu hyblygrwydd (gweler paragraff 2.9 UDPW). Gall llunio nifer gyfyngedig o bolisïau generig yn ofalus i ymdrin ag amrywiaeth o fathau o ddatblygiadau atal penderfyniadau rheoli datblygu rhag bod yn gymhleth.

3.7 Mewn ymateb i wrthwrthwynebiad 35/2013, mae’r Arfordir yn ddigon pwysig i fod yn destun un o bolisïau Rhan Un.

4.0 Materion

4.1 A oes angen diwygio’r polisi hwn mewn ymateb i unrhyw un o’r gwrthwynebiadau hyn.

4.2 A ddylai’r polisi aros ym Mhennod 14 neu gael ei drosglwyddo i Bennod 7 i ffurfio Polisi PO8a.

5.0 Casgliadau’r Arolygydd

5.1 Parthed y mater cyntaf mae angen ystyried a oes angen diwygio’r polisi hwn p’un a gynhwysir ef ym Mhennod 7 neu Bennod 14. Nid yw gwrthwynebiad 36/323 nac 8/362 yn awgrymu unrhyw newid penodol iddo. O ran gwrthwynebiad 30/611, nid oes angen i Bolisi EN8 ymdrin â’r effaith y mae datblygiadau ar yr arfordir yn ei chael ar y Gymraeg am fod Polisi PO3 a Phennod 10a arfaethedig yn ymdrin yn ddigonol â phwnc cynllunio a’r iaith. Sut bynnag nid yw’r gwrthwynebiad hwn yn awgrymu newid penodol ym Mholisi EN8

5.2 O ran gwrthwynebiad 125/652, os dyrennir darn o dir ar y rhan o’r arfordir sydd heb ei ddatblygu, byddai angen i unrhyw gynnig ar gyfer caniatâd cynllunio bwyso a mesur dibenion y dyraniad hwnnw yn erbyn Polisi EN8, a phob ystyriaeth berthnasol arall, cyn dod i benderfyniad ynghylch a ddylid rhoi caniatâd cynllunio. Mae Polisi EN8 yn nodi dull o ddiogelu’r arfordir sydd heb ei ddatblygu ond nid oes angen iddo nodi y bydd angen ystyried polisïau perthnasol eraill, megis EP1, hefyd.

5.3 O ran gwrthwynebiad 72/1450, am fod Polisi EN8 yn ymdrin â diogelu’r arfordir heb ei ddatblygu yn gyffredinol, nid oes angen iddo ddiogelu’r Llwybr Arfordirol yn benodol.

5.4 Gan droi at yr ail fater, rwyf o’r farn bod diogelu arfordir annatblygedig yr Ynys yn fater cynllunio defnydd tir digon pwysig i gyfiawnhau trosglwyddo Polisi EN8 o Bennod 14 i ffurfio Polisi PO8a ym Mhennod 7. Am ei bod yn debyg y ceir y materion yr ymdrinnir â hwy ym maen prawf (v) ar yr arfordir heb ei ddatblygu neu’n agos ato, nid oes unrhyw fantais amlwg yn deillio o drosglwyddo’r maen prawf hwn i Bolisi EN9.

6.0 Argymhellion

6.1 Na ddylid diwygio Polisi EN8 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r un o’r gwrthwynebiadau hyn.

6.2 Dylid trosglwyddo Polisi EN8 i Bennod 7 i ffurfio Polisi PO8a yn unol â PC24 a PC97.

Pennod 14 – Amgylchedd 286

Polisi EN9 Datblygiadau gerllaw Corstiroedd, Dyfrffosydd a Thraethlinau Gwrthwynebiadau 31/1161 – Plaid Werdd Sir y Fflint 72/1451 - Menter Môn

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae 31/1161 yn mynnu y dylid ychwanegu’r geiriau ‘ecosystem ddðr’ yn y polisi.

1.2 Mae 72/1451 yn honni y dylai’r polisi restru’r Llwybr Arfordirol fel ystyriaeth benodol, yn ogystal ag ystyriaethau cyffredinol yn ymwneud â mynediad cyhoeddus. Mae’r Llwybr Arfordirol yn adnodd eang sy’n effeithio ar ran helaeth o draethlin yr Ynys. Mae’r gwrthwynebiad yn awgrymu y dylid cyfeirio ato wrth sôn am ystyriaethau mynediad cyhoeddus yn y polisi.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mewn ymateb i wrthwynebiad 31/1161, mae cadwraeth natur yn cwmpasu’r term ‘ecosystem ddðr’.

2.2 Mewn ymateb i wrthwynebiad 72/1451, mae Polisi EN9 yn ceisio diogelu ystyriaethau mynediad cyhoeddus rhag datblygiadau. Mae Polisi TR9 yn diogelu llwybrau cerdded rhag datblygiadau newydd. Mae’r Cyngor yn bwriadu newid TR9 i gyfeirio’n benodol at lwybrau cerdded dynodedig yr Ynys, sy’n cynnwys llwybrau caniataol. Mae Polisïau GP1 a GP2 yn darparu ar gyfer cerddwyr. Diogelir yr amgylchedd arfordirol, yn gyffredinol, rhag datblygiadau gan Bolisi PO8 a Newid Arfaethedig PC24.

2.3 Mae’r Cyngor o’r farn nad oes angen ailadrodd pwyslais polisi mewn penodau eraill. Gall polisïau yn seiliedig ar feini prawf a luniwyd yn gywir helpu i symleiddio cynlluniau, a darparu hyblygrwydd (gweler paragraff 2.9 UDPW). Trwy lunio nifer gyfyngedig o bolisïau generig yn ofalus i ymdrin ag amrywiaeth o fathau o ddatblygiadau gellir atal cymhlethu penderfyniadau rheoli datblygu.

3.0 Mater

3.1 A oes angen diwygio’r polisi hwn mewn ymateb i’r naill neu’r llall o’r gwrthwynebiadau hyn.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 O ran gwrthwynebiad 31/1161, rwyf o’r farn bod yr ecosystem ddðr eisoes wedi’i chynnwys o fewn y termau ‘cadwraeth dðr, ansawdd dðr a chadwraeth natur’. O ran gwrthwynebiad 72/1451, am fod Polisi EN9 yn ymdrin â diogelu’r materion a nodir ynddo yn unig, nid oes angen iddo ddiogelu’r Llwybr Arfordirol yn benodol na chyfeirio ato.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisi EN9 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r un o’r gwrthwynebiadau hyn.

Pennod 14 – Amgylchedd 287

Newid Arfaethedig 98 Newid Polisi EN9 Gwrthwrthwynebiad 14/2062 – Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Dylid dileu’r frawddeg newydd arfaethedig yn PC98 am ei bod yn gwrth-ddweud y polisi a adneuwyd.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r Cyngor yn derbyn bod y polisi yn gliriach heb y frawddeg dan sylw.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Rwy’n cytuno â’r Cyngor.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio Polisi EN9 y cynllun a adneuwyd trwy PC98.

Newid Arfaethedig 98 Newid Polisi EN9 Gwrthwrthwynebiadau 6/2081 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru 36/2344 – Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiadau

1.1 Dylid symud y frawddeg newydd arfaethedig i gyfiawnhad rhesymegol y polisi, a’i chroesgyfeirio â Pholisïau PO8a ac SG2.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r Cyngor yn cytuno i ddiwygio’r cynllun fel yr awgrymir.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Rwy’n cytuno â’r Cyngor.

4.0 Argymhelliad

4.1 Dylid diwygio’r testun ategol i Bolisi EN9 trwy ychwanegu’r frawddeg a gynigir yn PC98 mewn ymateb i wrthwrthwynebiadau 6/2081 a 36/2344.

Newid Arfaethedig 99 Newid Paragraff 14.31 Gwrthwrthwynebiad 6/2077 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Dylid ailddrafftio ail frawddeg y newid arfaethedig hwn i ddarllen:

Pennod 14 – Amgylchedd 288

Mae’n fanteisiol i ddyfrffosydd aros mewn cyflwr agored at ddibenion amddiffyn rhag llifogydd ac at ddibenion amgylcheddol ac fel rheol gwrthwynebir sianelu ddyfrffosydd.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r Cyngor yn cytuno y bydd y newid a awgrymir yn gwneud y cynllun yn gliriach.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Rwy’n cytuno â’r Cyngor.

4.0 Argymhelliad

4.1 Dylid newid ail frawddeg PC99 fel y nodir ym mharagraff 1.1 uchod.

Newid Arfaethedig 100 Newid Paragraff 14.32 Gwrthwrthwynebiad 34/2250 – Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Dylid hepgor y geiriau ‘Rhan 1: parciau a gerddi’ o frawddeg gyntaf y newid arfaethedig hwn, sef PC 100, a dylid cynnwys y geiriau ‘ac ardaloedd cymeriad tirwedd hanesyddol pwysig’ ym mrawddeg olaf y newid arfaethedig hwn ar ôl y geiriau ‘parciau a gerddi’.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r Cyngor yn cytuno y bydd y newidiadau a awgrymir yn gwneud y cynllun yn gliriach ac yn sicrhau polisi manwl gywir a chynhwysfawr.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Nid oes digon o dystiolaeth ger fy mron i mi allu dod i’r casgliad bod angen yr un o’r newidiadau awgrymedig yn PC100. Felly, er bod y Cyngor yn cytuno y dylid gwneud y newidiadau awgrymedig, rwyf o’r farn na ddylid newid PC100.

4.0 Argymhellion

4.1 Na ddylid newid PC100 mewn ymateb i’r gwrthwrthwynebiad hwn.

Polisi EN9 Datblygiadau Gerllaw Corstiroedd, Dyfrffosydd a Thraethlinau Gwrthwynebiad 14/714 – Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid gosod y geiriau ‘o fewn neu’ ar ôl ‘datblygiadau’ yn nheitl y polisi ac yn y polisi ei hun. Pennod 14 – Amgylchedd 289

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae PC98 yn cynnig y dylid diwygio teitl y polisi hwn fel yr awgrymir yn y gwrthwynebiad hwn, a dynnir yn ôl yn amodol.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Am y byddai PC98 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn, rwyf o’r farn y dylid ei wneud.

4.0 Argymhelliad

4.1 Dylid diwygio teitl Polisi EN9 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC98.

Polisi EN9 Datblygiadau Gerllaw Corstiroedd, Dyfrffosydd a Thraethlinau Gwrthwynebiad 35/1313 – Cyngor Cefn Gwlad Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylai’r polisi hwn esbonio y bydd rhagdybiaeth yn erbyn datblygiadau a fyddai’n golygu colli gorlifdir naturiol.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC98 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn, a dynnir yn ôl yn amodol.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Rwyf o’r farn bod y gwrthwynebiad hwn yn ymwneud â materion yr ymdrinnir â hwy ym Mholisi SG2.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio Polisi EN9 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Paragraff 14.31 Gwrthwynebiad 36/324 – Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid ychwanegu’r canlynol at y paragraff:

Pennod 14 – Amgylchedd 290

Ni chaniateir datblygiadau a fyddai’n cael effaith andwyol ar y nodweddion dðr hyn, neu eu cynefinoedd cysylltiedig. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd o’r farn ei bod yn fanteisiol i ddyfrffosydd aros mewn cyflwr agored at ddibenion amddiffyn rhag llifogydd ac at ddibenion amgylcheddol ac felly fel rheol mae’n gwrthwynebu sianelu ddyfrffosydd.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC99 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn, a dynnir yn ôl yn amodol.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Argymhellais eisoes y dylid newid ail frawddeg PC99 ym mharagraff 4.1 ar dudalen 288 yr adroddiad hwn. Rwy’n fodlon ar y frawddeg gyntaf.

4.0 Argymhellion

4.1 Dylid diwygio paragraff 14.31 y cynllun a adneuwyd yn unol â brawddeg gyntaf PC99.

4.2 Dylid dileu ail frawddeg PC99 a gosod y canlynol yn ei lle:

Mae’n fanteisiol i ddyfrffosydd aros mewn cyflwr agored at ddibenion amddiffyn rhag llifogydd ac at ddibenion amgylcheddol ac fel rheol gwrthwynebir sianelu ddyfrffosydd.

Paragraff 14.32 Gwrthwynebiad 34/1028 – Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 ICOMOS yw’r acronym y dylid ei ddefnyddio yn y paragraff hwn. Mae cyfrolau’r Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi wedi’u cydysgrifennu gan CADW: Henebion Cymru. Mae’r paragraff hwn yn ddryslyd ac mae angen iddo nodi’r gwahaniaethau rhwng y gyfrol ar Dirweddau a’r gyfrol sy’n ymdrin â Pharciau a Gerddi.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mewn ymateb i wrthwynebiad 34/1028 arweiniodd y diwygiad y cytunwyd arno i baragraff 14.32 o dan wrthwynebiad 6/954, ar ôl hynny at PC100. Ailddrafftiwyd y paragraff i oresgyn yr awgrymiadau a wneir yng ngwrthwynebiad 6/954 ac i sicrhau bod yna gysondeb rhwng y cynllun a’r Gofrestr. Mae’r newid arfaethedig yn ymdrin â gwrthwynebiad 34/1028.

3.0 Mater

3.1 A fyddai PC100 ym mharagraff 14.32 yn ddigonol.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

Pennod 14 – Amgylchedd 291

4.1 Mae’n amlwg y byddai PC100 yn cywiro’r acronym y cyfeirir ato yn y gwrthwynebiad hwn. Fodd bynnag nid yw’n glir a fyddai’n ateb y pryderon eraill yn y gwrthwynebiad hwn. Serch hynny, am nad yw’r gwrthwynebiad hwn yn nodi aileiriad o’r paragraff hwn, rwyf o’r farn bod PC100 yn ymateb digonol.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio paragraff 14.32 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC100 mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Paragraff 14.32 Gwrthwynebiad 6/954 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid ailddrafftio’r paragraff gryn dipyn fel yr awgrymir yn y gwrthwynebiad hwn.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC100 yn cynnwys y geiriad a awgrymir yn y gwrthwynebiad hwn, a dynnir yn ôl yn amodol.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Am y byddai PC100 yn cywiro rhai gwallau ffeithiol yn y fersiwn o baragraff 14.32 a adneuwyd, rwyf o’r farn y dylid newid y paragraff hwn yn unol ag ef.

4.0 Argymhelliad

4.1 Dylid diwygio paragraff 14.32 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC100.

Polisi EN10 Tirweddau, Parciau a Gerddi Gwrthwynebiadau 34/1029 a 1053 – Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd Newid Arfaethedig 101 Newid Polisi EN10 Gwrthwrthwynebiad 34/2248 – Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae 34/1029 yn mynnu y dylid ymestyn ac atgyfnerthu’r polisi ac mae 34/1053 o’r farn y dylid dangos yr ardaloedd a ddangosir ar y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol, yn ogystal â Pharciau a Gerddi yng Nghofrestr CADW/ICOMOS ar y Map Cynigion a’r Mewnosodiadau.

2.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

2.1 Mae 34/2248 yn awgrymu y dylid hepgor y geiriau ‘a, lle y bo hynny’n briodol, adfer’. Dylid ychwanegu brawddeg derfynol hefyd i nodi y bydd rhagdybiaeth o blaid diogelu parciau, gerddi ac ardaloedd cymeriad tirwedd hanesyddol pwysig nas cynhwysir ar y gofrestr. Pennod 14 – Amgylchedd 292

3.0 Ymateb y Cyngor

3.1 Mewn ymateb i wrthwynebiad 34/1029 newidiodd y Cyngor y cyfiawnhad rhesymegol i ymgorffori golygfeydd i mewn i’r safleoedd hyn ac allan ohonynt, gan wneud y cynllun yn gliriach.

3.2 Mewn ymateb i wrthwynebiad 34/1053 mae’r Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol, yn ogystal â Pharciau a Gerddi yng Nghofrestr CADW/ICOMOS yn ddynodiadau anstatudol. Dim ond dynodiadau amgylcheddol y mae’r Cyngor yn bwriadu eu dangos ar y map Cynigion (PC587) ac nid yw o’r farn ei bod yn ymarferol cynnwys ardaloedd mor fawr ar y mapiau cynnig. Er nad oes unrhyw reolaethau cynllunio ychwanegol ynghlwm wrth y Gofrestr, cyflwynir proses ymgynghori ynghylch ceisiadau cynllunio sy’n effeithio ar y safleoedd ar y Gofrestr yn unol â pharagraff 6.5.23 Polisi Cynllunio Cymru.

3.3 Mewn ymateb i wrthwrthwynebiad 34/2248, mae’r polisi yn diogelu parciau, gerddi ac ardaloedd cymeriad tirwedd hanesyddol pwysig yn ddigonol. Gellir asesu materion penodol yn ymwneud â gwaith adfer wrth ymdrin â’r cais. Bydd y Cyngor yn ystyried parciau a gerddi hanesyddol nad ydynt ar y Gofrestr ond sy’n werthfawr o ran eu diogelu a’u rheoli, fel y nodir ym mharagraff 14.32 (gweler PC100).

4.0 Mater

4.1 A fyddai newid Polisi EN10 yn unol â PC101 yn ddigonol.

5.0 Casgliad yr Arolygydd

5.1 Nid yw gwrthwynebiad 34/1029 yn nodi sut y dylid newid Polisi EN10 ac ni chyhoeddodd y Cyngor unrhyw Newid Arfaethedig yn nodi sut y dylid diwygio’r Cyfiawnhad Rhesymegol sy’n gysylltiedig ag ef. Felly ni allaf ddod i unrhyw gasgliad ac eithrio na ddylid diwygio’r cynllun mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

5.2 O ran gwrthwynebiad 34/1053 rwy’n cytuno â’r Cyngor efallai na fydd yn ymarferol dangos pob dynodiad ar y Map Cynigion a’r Mewnosodiadau.

5.3 O ran gwrthwrthwynebiad 34/2248 i PC101, rwy’n cytuno y dylid dileu’r geiriau ‘a lle y bo hynny’n briodol’. Rwy’n cymryd y byddai unrhyw waith adfer yr ymgymerid ag ef yn dilyn y cynllun gwreiddiol. Fodd bynnag, byddai cyfeirio at barciau, gerddi ac ardaloedd cymeriad tirwedd hanesyddol pwysig nas cynhwysir ar y gofrestr yn rhy benagored ac anfanwl mewn cynllun datblygu.

6.0 Argymhellion

6.1 Na ddylid diwygio Polisi EN10 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r un o’r gwrthwynebiadau hyn.

6.2 Na ddylid newid PC101 ac eithrio trwy ddileu’r geiriau ‘a lle y bo hynny’n briodol’, mewn ymateb i’r gwrthwrthwynebiad hwn.

Pennod 14 – Amgylchedd 293

Polisi EN10 Tirweddau, Parciau a Gerddi Gwrthwynebiad 6/929 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid ailddrafftio’r polisi i ddarllen:

Bydd rhagdybiaeth o blaid diogelu, cadw a lle y bo hynny’n briodol, adfer parciau a gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig a’u lleoliadau a gynhwysir yng nghyfrol Cofrestr CADW/ICOMOS o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru.

Bydd rhagdybiaeth o blaid diogelu dwy dirwedd hanesyddol ar Ynys Môn a gynhwysir yn ail ran y Gofrestr a rhoddir sylw llawn i Wybodaeth am y tirweddau hanesyddol hyn wrth asesu goblygiadau datblygiadau sy’n cael mwy nag effaith leol ar y tirweddau hyn.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC101 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn, a dynnir yn ôl yn amodol.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Byddai PC101 yn esbonio’n llawer cliriach sut y byddai Polisi EN10 yn y cynllun a adneuwyd yn gweithio. Rwyf o’r farn y dylid diwygio’r polisi trwy PC101 ar yr amod y dilëir y geiriau ‘a lle y bo hynny’n briodol’.

4.0 Argymhelliad

4.1 Dylid diwygio Polisi EN10 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC101 heblaw am ddileu’r geiriau ‘a lle y bo hynny’n briodol’, mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Paragraff 14.33 Gwrthwynebiad 6/955 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid ailddrafftio’r paragraff fel a ganlyn:

Dylid edrych ar barciau a gerddi hanesyddol rhestredig yn eu cyd-destun ehangach fel rhan o dirwedd ddiwylliannol, y mae’r cyfan ohoni o ddiddordeb hanesyddol. Mae Strategaeth Tirwedd Ynys Môn yn cynnwys gwybodaeth am y dirwedd diwylliannol a hanesyddol a all lywio penderfyniadau hefyd.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC102 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn, a dynnir yn ôl yn amodol. Fodd bynnag mae’r Cyngor yn bwriadu newid PC102 yn unol â gwrthwrthwynebiad 34/2249 fel a ganlyn: Pennod 14 – Amgylchedd 294

Sefydlwyd y Cofrestrau fel ystyriaeth berthnasol yn y broses gynllunio, ac mae parciau, gerddi a thirweddau a gynhwysir ynddynt yn haeddu cael eu diogelu’n arbennig. Fodd bynnag, dylid edrych arnynt hefyd yn eu cyd-destun ehangach fel rhan o dirwedd ddiwylliannol gyfoethog ac amrywiol yr Ynys. Mae Strategaeth Tirwedd Ynys Môn, wedi’i llywio gan y broses Landmap, yn cynnwys gwybodaeth am dirwedd ddiwylliannol a hanesyddol yr Ynys, a all lywio penderfyniadau hefyd.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Rwy’n cytuno â’r geiriad diwygiedig a gynigiwyd gan y Cyngor ym mharagraff 2.1 uchod i Baragraff 14.33 y cynllun a adneuwyd.

4.0 Argymhelliad

4.1 Dylid newid PC102 yn ymwneud â pharagraff 14.33 y cynllun a adneuwyd i ddarllen fel a ganlyn:

‘Sefydlwyd y Cofrestrau fel ystyriaeth berthnasol yn y broses gynllunio, ac mae parciau, gerddi a thirweddau a gynhwysir ynddynt yn haeddu cael eu diogelu’n arbennig. Fodd bynnag, dylid edrych arnynt hefyd yn eu cyd-destun ehangach fel rhan o dirwedd ddiwylliannol gyfoethog ac amrywiol yr Ynys. Mae Strategaeth Tirwedd Ynys Môn, wedi’i llywio gan y broses Landmap, yn cynnwys gwybodaeth am dirwedd ddiwylliannol a hanesyddol yr Ynys, a all lywio penderfyniadau hefyd.’

Newid Arfaethedig 102 Newid Paragraff 14.33 Gwrthwrthwynebiadau 34/2249 – Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd 109/2101 – Bodorgan Properties Ltd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Mae gwrthwynebiad 34/2249 yn nodi y dylid ailddrafftio PC102 fel a ganlyn:

‘Sefydlwyd y Cofrestrau fel ystyriaeth berthnasol yn y broses gynllunio, ac mae parciau, gerddi a thirweddau a gynhwysir ynddynt yn haeddu cael eu diogelu’n arbennig. Fodd bynnag, dylid edrych arnynt hefyd yn eu cyd-destun ehangach fel rhan o dirwedd ddiwylliannol gyfoethog ac amrywiol yr Ynys. Mae Strategaeth Tirwedd Ynys Môn, wedi’i llywio gan y broses Landmap, yn cynnwys gwybodaeth am dirwedd ddiwylliannol a hanesyddol yr Ynys, a all lywio penderfyniadau hefyd.’

1.2 Mae gwrthwynebiad 109/2101 o’r farn y dylid hepgor y geiriau ‘y mae’r cyfan ohoni o ddiddordeb hanesyddol’ am nad ydynt yn ychwanegu unrhyw beth at y paragraff. Sut bynnag, gall y cysylltiad hanesyddol fod yn denau mewn rhai achosion.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r Cyngor yn bwriadu newid PC102 yn unol â gwrthwrthwynebiad 34/2249 fel a ganlyn:

Pennod 14 – Amgylchedd 295

Sefydlwyd y Cofrestrau fel ystyriaeth berthnasol yn y broses gynllunio, ac mae parciau, gerddi a thirweddau a gynhwysir ynddynt yn haeddu cael eu diogelu’n arbennig. Fodd bynnag, dylid edrych arnynt hefyd yn eu cyd-destun ehangach fel rhan o dirwedd ddiwylliannol gyfoethog ac amrywiol yr Ynys. Mae Strategaeth Tirwedd Ynys Môn, wedi’i llywio gan y broses Landmap, yn cynnwys gwybodaeth am dirwedd ddiwylliannol a hanesyddol yr Ynys, a all lywio penderfyniadau hefyd.

2.2 O ran gwrthwrthwynebiad 109/210, ystyrir bod y dirwedd hanesyddol ehangach yn berthnasol i ystyriaethau polisi.

3.0 Mater

3.1 A ddylid newid PC102.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae’r dirwedd ddiwylliannol y cyfeirir ati yn PC102 yn cynnwys parciau a gerddi a thirweddau hanesyddol cofrestredig. Fodd bynnag, mae’n amlwg o eiriad y newid arfaethedig hwn y gallai tirwedd ddiwylliannol gynnwys nodweddion eraill, nad oes angen i bob un ohonynt fod o ddiddordeb hanesyddol. Rwy’n cytuno â’r geiriad ym mharagraff 2.1 uchod.

5.0 Argymhelliad

5.1 Dylid newid PC102 yn ymwneud â pharagraff 14.33 y cynllun a adneuwyd i ddarllen fel a ganlyn:

‘Sefydlwyd y Cofrestrau fel ystyriaeth berthnasol yn y broses gynllunio, ac mae parciau, gerddi a thirweddau a gynhwysir ynddynt yn haeddu cael eu diogelu’n arbennig. Fodd bynnag, dylid edrych arnynt hefyd yn eu cyd-destun ehangach fel rhan o dirwedd ddiwylliannol gyfoethog ac amrywiol yr Ynys. Mae Strategaeth Tirwedd Ynys Môn, wedi’i llywio gan y broses Landmap, yn cynnwys gwybodaeth am dirwedd ddiwylliannol a hanesyddol yr Ynys, a all lywio penderfyniadau hefyd.’

Polisi EN11 Safle(oedd) Treftadaeth y Byd Gwrthwynebiad 6/930 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid diwygio’r polisi i nodi mai dim ond datblygiadau sy’n diogelu neu’n gwella nodweddion y safle a ganiateir.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC103 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn, a dynnir yn ôl yn amodol.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Am y dylid caniatáu datblygiadau a fyddai’n gwella golwg Castell Biwmares hefyd o dan y polisi hwn, dylai PC103 esbonio hyn. Pennod 14 – Amgylchedd 296

4.0 Argymhelliad

4.1 Dylid diwygio brawddeg gyntaf Polisi EN11 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC103.

Polisi EN11 Safle(oedd) Treftadaeth y Byd Gwrthwynebiad 32/1087 – Ymddiriedolaeth Treftadaeth Cymuned Porthaethwy

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylai’r cynllun gynnwys datganiad ynghylch rhoi statws Treftadaeth y Byd i’r pontydd ar draws Afon Menai.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae PC103 yn cynnig gosod y geiriau ‘Pont Grog Menai a Phont Britannia’ yn y polisi hwn. Ar y sail hon tynnir y gwrthwynebiad hwn yn ôl.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Oherwydd eu gwerth hanesyddol ac esthetig rwyf o’r farn y dylai datblygiadau a fyddai’n gwella gobeithion y 2 bont hyn o ennill statws Safle Treftadaeth y Byd gael eu caniatáu o dan y polisi hwn.

4.0 Argymhelliad

4.1 Dylid diwygio ail frawddeg Polisi EN11 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC103.

Polisi EN12 Safleoedd Archeolegol a’r Amgylchedd Hanesyddol Gwrthwynebiad 6/931 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid ailddrafftio’r polisi hwn er mwyn adlewyrchu Cylchlythyr 60/96 y Swyddfa Gymreig – Cynllunio a’r Amgylchedd Hanesyddol.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC106 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn, a dynnir yn ôl yn amodol.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Am y byddai PC106 yn cysoni’r fersiwn o’r polisi hwn a adneuwyd â chyngor cenedlaethol, rwyf o’r farn y dylid ei wneud.

4.0 Argymhelliad

Pennod 14 – Amgylchedd 297

4.1 Dylid diwygio Polisi EN12 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC106.

Paragraffau 14.39 – 14.41 Gwrthwynebiad 6/956 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Awgrymir cryn nifer o ddiwygiadau i eiriad paragraffau 14.39 i 14.41.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae PC107 yn newid paragraffau 14.39 i 14.41 yn unol â’r awgrymiadau yn y gwrthwynebiad hwn.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Rwyf o’r farn y byddai PC107 yn gwella cynnwys y Cyfiawnhad Rhesymegol dros Bolisi EN12 yn sylweddol ac yn ei wneud gryn dipyn yn gliriach.

4.0 Argymhelliad

4.1 Dylid diwygio paragraffau 14.39 i 14.41 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC107.

Polisi EN12 Safleoedd Archeolegol a’r Amgylchedd Hanesyddol Gwrthwynebiadau 34/1032 a 1052 – Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd 37/1385 – Cangen Caernarfon ac Ynys Môn, Cymdeithas y Tirfeddianwyr Cefn Gwlad Newid Arfaethedig 106 Newid Polisi EN12 Gwrthwrthwynebiad 34/2246 – Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae 34/1032 yn mynnu y dylid ymestyn ac atgyfnerthu’r polisi er mwyn adlewyrchu arweiniad cynllunio cenedlaethol ac arfer cyfredol. Yn benodol dylid diwygio’r polisi trwy wneud yr ail baragraff yn gliriach, a thrwy gyfeirio yn y trydydd paragraff at yr angen, mewn rhai achosion, am broses werthuso cyn y gwneir unrhyw benderfyniad ac at gyfrifoldeb y datblygwr dros gloddio a chofnodi gweddillion archeolegol anghofrestredig.

1.2 Mae 34/1052 yn nodi y dylid dangos Henebion Cofrestredig, Adeiladau Rhestredig, ardaloedd ar y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol a Pharciau a Gerddi yng Nghofrestr CADW/ ICOMOS ar y Map Cynigion.

1.3 Mae 37/1385 o’r farn nad yw’r polisi yn ddigon clir o ran sut y bwriedir diogelu safleoedd cofrestredig. Mae angen dangos hierarchaeth rhwng henebion cofrestredig ac anghofrestredig, a chyfiawnhad clir dros pam y mae mor bwysig diogelu lleoliad unigol heneb o’r fath. Nid oes unrhyw arweiniad ar yr hyn sy’n dirwedd hanesyddol er bod yn rhaid ystyried ansawdd safleoedd hanesyddol er mwyn sicrhau nad oes unrhyw gamddehongli.

2.0 Newid Arfaethedig 106 Pennod 14 – Amgylchedd 298

2.1 Gwnaed ychwanegiadau at y polisi i sicrhau bod y cynllun yn cydymffurfio ac â Chylchlythyr 60/96 y Swyddfa Gymreig ac yn gyson ag ef. Byddai PC107 yn ymestyn paragraff 14.41 y cynllun i gynnwys cyfeiriad at darfu ar weddillion archeolegol gan ddatblygwr.

3.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

3.1 Mae’r gwrthwrthwynebiad hwn yn mynnu y dylid atgyfnerthu’r polisi a thrwy hepgor paragraff 3 ac ail-lunio paragraff 4. Ystyrir bod paragraff 5 yn aneglur ac yn dda i ddim. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi, o ran gweddillion archeolegol, y dylai fod polisïau sy’n mynd i’r afael â 3 maes cysylltiedig allweddol: i. yr angen i ddiogelu a chadw henebion a’u lleoliadau yr ystyrir eu bod o bwys cenedlaethol (paragraff 6.5.1) ii. yr angen am broses werthuso cyn y gwneir penderfyniad ar gais cynllunio pan gredir bod gweddillion archeolegol i’w cael ar safle (paragraff 6.5.2). iii. pan fydd gweddillion archeolegol yn effeithio ar ddatblygiad ac nad ystyrir eu bod yn werth eu diogelu yn y fan a’r lle, bod y datblygwr wedi gwneud trefniadau llawn ar gyfer eu cofnodi, eu cloddio a’u cyhoeddi (diogelu 'trwy gofnodion' paragraffau 6.5.3 a 6.5.4).

4.0 Ymateb y Cyngor

4.1 Mewn ymateb i wrthwynebiad 34/1032, byddai PC106 yn sicrhau bod y cynllun yn gyson â Chylchlythyr 60/96 y Swyddfa Gymreig.

4.2 Mewn ymateb i wrthwynebiad 34/1052, dim ond dynodiadau amgylcheddol y mae’r Cyngor yn bwriadu eu dangos ar y mapiau cynnig (gweler PC587) ac nid yw o’r farn ei bod yn ymarferol cynnwys ardaloedd mor fawr ar y mapiau cynnig. Er nad oes unrhyw reolaethau cynllunio ychwanegol ynghlwm wrth y Gofrestr, bwriedir cyflwyno proses ymgynghori statudol ynghylch ceisiadau cynllunio sy’n effeithio ar safleoedd ar y Gofrestr.

4.3 Mewn ymateb i wrthwynebiad 37/1385, newidiodd y Cyngor y cynllun i wneud y gwahaniaeth rhwng henebion cofrestredig ac anghofrestredig yn gliriach. Mae paragraff 6.5.23 Polisi Cynllun Cymru yn nodi y dylai awdurdodau cynllunio ystyried gwybodaeth am y tirweddau a gynhwysir o fewn y Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru.

4.4 Ystyrir gwrthwrthwynebiad 34/2246 yn yr ymchwiliad.

5.0 Mater

5.1 A oes angen diwygio’r polisi hwn mewn ymateb i unrhyw un o’r gwrthwynebiadau hyn, ac a oes angen newid PC106 mewn ymateb i’r gwrthwrthwynebiad hwn.

6.0 Casgliad yr Arolygydd

6.1 O ran gwrthwynebiad 34/1032, rwyf o’r farn y byddai PC106 yn diwygio’r polisi hwn er mwyn iddo gydymffurfio â Chylchlythyr 60/96 y Swyddfa Gymreig. Mae gwrthwrthwynebiad 34/2246 o’r farn y dylid ailddrafftio PC106 gryn dipyn er mwyn iddo ailadrodd i raddau helaeth gynnwys paragraffau 6.5.1 - 6.5.4 Polisi Cynllunio Cymru. Fodd Pennod 14 – Amgylchedd 299

bynnag nid wyf o’r farn bod angen i Bolisi EN12 ailadrodd cyngor cenedlaethol a fydd, sut bynnag, yn ystyriaeth berthnasol wrth ymdrin ag unrhyw gynnig datblygu.

6.2 O ran gwrthwynebiad 34/1052, nid wyf o’r farn bod angen i’r Map Cynigion na’i Fewnosodiadau gynnwys cymaint o fanylder ag a awgrymir yn y gwrthwynebiad hwn.

6.3 O ran gwrthwynebiad 37/1385, nid yw’n glir i mi lle y newidiwyd y cynllun er mwyn gwneud y gwahaniaeth rhwng henebion cofrestredig ac anghofrestredig yn gliriach. Fodd bynnag, am nad yw’r gwrthwynebiad hwn yn nodi’n fanwl gywir sut y dylid newid Polisi EN12 y cynllun a adneuwyd, nid wyf o’r farn bod angen ei ddiwygio mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

7.0 Argymhelliad

7.1 Na ddylid diwygio Polisi EN12 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r un o’r gwrthwynebiadau hyn, na newid PC106 mewn ymateb i’r gwrthwrthwynebiad hwn.

Paragraff 14.42 Gwrthwynebiad 34/1033 – Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Naill ai dylid cynnwys polisi ar wahân yn ymdrin ag archeoleg ddiwydiannol neu dylid ymdrin â’r mater hwn ym Mholisi EN12.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae PC106 ym Mholisi EN12 yn cynnwys cyfeiriad at safleoedd archeolegol diwydiannol. Byddai hynny’n gwneud y cynllun yn gliriach ac yn sicrhau bod cysondeb rhwng y cynllun a Chylchlythyr 60/96 y Swyddfa Gymreig.

3.0 Mater

3.1 A oes angen diwygio’r paragraff hwn mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Byddai PC106 yn diwygio Polisi EN12 er mwyn diogelu sampl gynrychioliadol o safleoedd archeolegol diwydiannol rhag cael eu datblygu. Rwyf o’r farn y byddai hynny’n gwneud cryn dipyn i oresgyn y gwrthwynebiad hwn. Fodd bynnag, am a wnelo’r gwrthwynebiad hwn â pharagraff 14.42 y cynllun a adneuwyd ond nid yw’n nodi sut y dylid ei newid, nid wyf o’r farn bod angen ei ddiwygio mewn ymateb iddo.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio paragraff 14.42 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Newid Arfaethedig 107 Newid Paragraffau 14.39 – 14.41 Pennod 14 – Amgylchedd 300

Gwrthwrthwynebiad 6/2078 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwrthwynebiad hwn yn ceisio aileirio brawddeg olaf paragraff 14.41 i nodi y defnyddir amodau a chytundebau cynllunio i sicrhau y darperir yn iawn ar gyfer cloddio a chofnodi safleoedd o’r fath cyn y gall datblygiadau fynd yn eu blaen.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r Cyngor yn cytuno y byddai’r newid a awgrymir yn sicrhau bod y cynllun yn cydymffurfio â pholisi cynllunio cenedlaethol.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Ymddengys i mi na chafodd yr holl newidiadau awgrymedig ym mharagraff 14.41 a nodir yng ngwrthwynebiad 6/956 eu hymgorffori’n llawn gan PC107. Am fod angen y newid yn y newid arfaethedig hwn a awgrymir yn y gwrthwrthwynebiad hwn er mwyn i baragraff 14.41 adlewyrchu’r cyngor yng Nghylchlythyr 60/96 y Swyddfa Gymreig yn gywir, rwyf o’r farn y byddai cyfiawnhad dros wneud y diwygiad hwn.

4.0 Argymhelliad

4.1 Dylid ymestyn PC107 er mwyn dileu ail frawddeg paragraff 14.41 y cynllun a adneuwyd a gosod y canlynol yn ei le:

‘Defnyddir amodau a chytundebau cynllunio i sicrhau y darperir yn iawn ar gyfer cloddio a chofnodi safleoedd o’r fath cyn y gall datblygiadau fynd yn eu blaen.’

Paragraff 14.46 Gwrthwynebiad 6/957 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid diwygio geiriad y paragraff hwn fel yr awgrymir er mwyn ei wneud yn gliriach.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC109 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Am fod paragraff 14.46 yn rhan o’r Cyfiawnhad Rhesymegol dros Bolisi EN13, rwyf o’r farn y dylai gyfeirio hefyd at adeiladau rhestredig ac adeiladau anrhestredig sy’n cyfrannu at gymeriad neu olwg Ardal Gadwraeth. Mae angen i’r paragraff hwn gydnabod bod gan y Cyngor bwerau mewn perthynas â cheisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig.

4.0 Argymhelliad

Pennod 14 – Amgylchedd 301

4.1 Dylid diwygio paragraff 14.46 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC109.

Polisi EN13 Diogelu Adeiladau Gwrthwynebiad 10/129 - Mr A F Nixon Newid Arfaethedig 108 Newid Polisi EN13 Gwrthwrthwynebiad 10/2240 - Mr A F Nixon

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad a’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Mae 10/129 yn nodi na all adeiladau newydd mewn Ardal Gadwraeth wella’r ardal honno, ni allant ond amharu arni ni waeth pa mor uchel yw eu safon, ac mae am weld y geiriau ‘ac yn caniatáu datblygiadau newydd o gynllun addas’ yn cael eu dileu o’r polisi. Ailadroddir yr ail bwynt hwn yng ngwrthwrthwynebiad 10/2240.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nid yw’r Cyngor yn derbyn sail y gwrthwynebiad hwn. Gall adeiladau newydd hyrwyddo a gwella cymeriad ardal gadwraeth, ond rhoddid mwy o bwyslais ar b’un a yw’r cynllun a ddefnyddiwyd yn briodol ar gyfer y lleoliad.

3.0 Mater

3.1 A ddylid dileu’r geiriau ‘ac yn caniatáu datblygiadau newydd o gynllun addas’ o’r polisi.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Nid yw’r penderfyniad i ddynodi ardal gadwraeth yn golygu na ellir byth adeiladu unrhyw adeiladau newydd arni. Serch hynny wrth ystyried unrhyw gynnig ar gyfer adeilad mewn ardal gadwraeth mae’n rhaid i’r Cyngor roi sylw arbennig i b’un a oes angen cadw neu wella cymeriad neu olwg yr ardal honno. Yn fy marn i, mae ail frawddeg Polisi EN13 yn gwrthdaro â’r gofyniad hwn. Felly nid oes angen dileu’r geiriau dadleuol o’r polisi.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisi EN13 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi EN13 Diogelu Adeiladau Gwrthwynebiadau 34/1034 – Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd 37/1386 – Cangen Caernarfon ac Ynys Môn, Cymdeithas y Tirfeddianwyr Cefn Gwlad

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae 34/1034 o’r farn bod yr ymadrodd ‘diddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig’ yn amwys.

Pennod 14 – Amgylchedd 302

1.2 Mae 37/1386 o’r farn na ddylai’r Cyngor ddynodi rhagor o Ardaloedd Cadwraeth nes y bydd wedi diwallu holl anghenion y rhai sydd eisoes wedi’u dynodi. Dim ond adeiladau rhestredig a henebion y dylid eu diogelu, nid pob adeilad o ‘ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig’. Ar ben hynny byddai’n amhriodol diogelu lleoliad adeiladau o’r fath oni ellir dangos bod digon o gyfiawnhad dros wneud hynny am fod y lleolid yn bwysig i’r nodwedd benodol honno ac yn rhan annatod ohoni.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mewn ymateb i wrthwynebiad 34/1034. Byddai PC108 yn cysoni’r polisi â pholisi cynllunio cenedlaethol.

2.2 Mewn ymateb i 37/1386, mae paragraff 6.3.1 Polisi Cynllunio Cymru yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau cynllunio ddynodi ardaloedd cadwraeth addas, tra bod paragraff 6.1.1 yn nodi y dylid diogelu cymeriad adeiladau hanesyddol. Mae’r Cyngor wrthi’n cynnal Arfarniad Cadwraeth ar yr Ynys gyda’r bwriad o ddiwygio’r dynodiadau lle y bo angen gwneud hynny. Fodd bynnag pe bai angen dynodi ardal, bydd hynny’n cydategu’r broses arfarnu. Cynigir polisi ychwanegol yn ymwneud ag archeoleg ddiwydiannol gan PC109 er mwyn gwneud pethau’n gliriach.

3.0 Mater

3.1 A oes angen diwygio’r polisi hwn mewn ymateb i’r naill neu’r llall o’r gwrthwynebiadau hyn.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 O dan y gyfraith gynllunio, mae adeiladau rhestredig yn adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Mae diogelu lleoliad adeiladau o’r fath hefyd yn ystyriaeth gynllunio. Rwyf o’r farn felly nad yw Polisi EN13 yn gwrthdaro â’r darpariaethau cyfreithiol hyn. Diogelir henebion o dan ddeddfwriaeth ar wahân.

4.2 Fodd bynnag nid yw’n briodol i’r polisi nodi y bydd y Cyngor yn dynodi rhagor o ardaloedd cadwraeth am mai datganiad o fwriad yw hynny. Felly dylid gwneud PC108 a fyddai’n dileu trydedd frawddeg Polisi EN13. Rwyf o’r farn bod PC109 a fyddai’n cynnwys y datganiad hwn ym mharagraff 14.46 yn dderbyniol, ond nad oes ganddo statws polisi.

5.0 Argymhelliad

5.1 Dylid diwygio Polisi EN13 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC108 yn unig mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Polisi EN13 a Diogleu Adeiladau, Biwmares Mewnosodiad 5 Gwrthwynebiad 71/1073 – Cyngor Tref Biwmares

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid ymestyn Ardal Gadwraeth Biwmares er mwyn cynnwys y pier.

Pennod 14 – Amgylchedd 303

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae paragraff 14.47 yn nodi y caiff Datganiadau Cymeriad Ardal Gadwraeth eu paratoi. Mae’r Cyngor o’r farn mai trwy’r datganiadau hyn y gellid cynnwys pier Biwmares o fewn yr Ardal Gadwraeth.

3.0 Mater

3.1 A ellid cynnwys Pier Biwmares yn Ardal Gadwraeth Biwmares.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Rheolir y broses o newid ffiniau ardaloedd cadwraeth gan ddarpariaethau cyfreithiol penodol sydd y tu allan i gwmpas y cynllun hwn. Ni fyddai’n bosibl felly i’r cynllun ymestyn i Ardal Gadwraeth Biwmares er mwyn cynnwys y pier, hyd yn oed pe bai hynny fel arall yn ddymunol.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Mewnosodiad 5 Map Cynigion y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi EN13 a Diogelu Adeiladau, Caergybi Mewnosodiad 13 Gwrthwynebiad 80/1254 – Y Cyng Robert Llewelyn Jones

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid hyrwyddo a chynnal morglawdd Caergybi.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nid oes a wnelo hyrwyddo morglawdd Caergybi â defnydd tir, ac felly ni ellir mynd i’r afael ag ef yn y cynllun.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Nid yw’r materion a godir yn y gwrthwynebiad hwn yn dod o fewn cwmpas y cynllun.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio Polisi EN13 na Mewnosodiad 13 Map Cynigion y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi EN13 Diogelu Adeiladau Gwrthwynebiad 6/932 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad Pennod 14 – Amgylchedd 304

1.1 Dylid symud y cyfeiriad at ddynodi Ardal Gadwraeth o’r polisi i’r Cyfiawnhad Rhesymegol.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC108 a PC109 rhyngddynt yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn, a dynnir yn ôl yn amodol.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Am y byddai PC108 yn dileu trydedd frawddeg Polisi EN13 ac y byddai PC109 yn ei gosod ym mharagraff 14.46, ni fyddai ganddi statws polisi bellach. Rwyf o’r farn felly y byddai’r ddau PC hyn yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn.

4.0 Argymhelliad

4.1 Dylid diwygio Polisi EN13 a pharagraff 14.46 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC108 a PC109 yn y drefn honno.

Polisi EN12 a Diogelu Adeiladau, Porthaethwy Mewnosodiad 41 Gwrthwynebiad 79/561 - Cymdeithas Ddinesig Porthaethwy a’r Cylch

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid dynodi Ardal Gadwraeth ym Mhorthaethwy a’i dangos ar Fewnosodiad 41.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nid yw’r gwrthwynebiad hwn yn nodi ffiniau arfaethedig yr ardal gadwraeth arfaethedig. Mae Polisi EN13 yn darparu ar gyfer dynodi ardaloedd cadwraeth. Ar ddyddiad yr ymchwiliad roedd ymgynghorwyr Gillespies ynghlwm wrth astudiaeth o Borthaethwy, a gynhwysai’r posibilrwydd o ddynodi Ardal Gadwraeth. Fodd bynnag nid oes angen dyraniad yn y Cynllun Datblygu Unedol er mwyn symud ymlaen â’r mater hwn.

3.0 Mater

3.1 A ddylid dynodi Ardal Gadwraeth ym Mhorthaethwy.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Rheolir y broses o ddynodi ardaloedd cadwraeth gan ddarpariaethau cyfreithiol penodol sydd y tu allan i gwmpas y cynllun hwn. Felly ni fyddai’n bosibl i’r cynllun ddynodi ardal gadwraeth ym Mhorthaethwy, hyd yn oed pe bai hynny fel arall yn ddymunol a hyd yn oed pe na châi Polisi EN13 ei newid yn unol â PC108.

5.0 Argymhelliad

Pennod 14 – Amgylchedd 305

5.1 Na ddylid diwygio Mewnosodiad 41 Map Cynigion y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Newid Arfaethedig 108 Newid Polisi EN13 Gwrthwrthwynebiad 519/2485 - Y Cyng Annis Milner

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Ni ddylid dileu’r cyfeiriad at ddynodi Ardaloedd Cadwraeth ychwanegol ym Mholisi EN13 trwy’r newid arfaethedig hwn. Dylid croesawu rhagor o Ardaloedd Cadwraeth.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae paragraff 2.8 UDPW yn ymdrin â’r lefel o fanylder o fewn polisïau a chynigion, ac yn nodi na ddylai polisïau gynnwys datganiadau o fwriad na disgrifiadau o drefniadau gweinyddol. Mae’r posibilrwydd y dynodir Ardaloedd Cadwraeth yn y dyfodol yn ddatganiad o fwriad. Mae PC108 yn cynnig felly y dylid dileu’r bwriad hwn o’r polisi ac mae PC109 yn cynnig, yn lle hynny, y dylid ei gynnwys ym mharagraff 14.46.

3.0 Mater

3.1 A ddylid newid PC108 mewn ymateb i’r gwrthwrthwynebiad hwn.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Byddai PC108 a PC109 rhyngddynt yn symud trydedd frawddeg Polisi EN13 y cynllun a adneuwyd i baragraff 14.46, am fod y frawddeg yn ddatganiad o fwriad ac nid yw’n briodol ei chynnwys yn y polisi felly. Serch hynny ni fyddai’r newidiadau hyn yn atal y Cyngor rhag dynodi rhagor o ardaloedd cadwraeth pan fydd cyfiawnhad dros wneud hynny.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid newid PC108 mewn ymateb i’r gwrthwrthwynebiad hwn.

Polisi EN14 Gorchmynion Cadw Coed a Gwrychoedd Gwrthwynebiad 6/933 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid symud y cyfeiriad at wneud Gorchmynion Cadw Coed o’r polisi i’r Cyfiawnhad Rhesymegol.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC110 a PC111 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn, a dynnir yn ôl yn amodol.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

Pennod 14 – Amgylchedd 306

3.1 Rhyngddynt byddai PC110 a PC111 yn symud trydedd frawddeg Polisi EN14 y cynllun a adneuwyd i baragraff 14.49, am fod y frawddeg yn ddatganiad o fwriad ac felly nid yw’n briodol ei chynnwys yn y polisi. Rwyf o’r farn y dylid gwneud y ddau PC hyn.

4.0 Argymhelliad

4.1 Dylid diwygio trydedd frawddeg Polisi EN14, ynghyd â pharagraff 14.49 y cynllun a adneuwyd, yn unol â PC110 a PC111 yn y drefn honno.

Polisi EN14 Gorchmynion Cadw Coed a Gwrychoedd Gwrthwynebiad 8/361 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylai ail frawddeg y polisi nodi y bydd angen adnewyddu planhigion gan ddefnyddio’r rhywogaeth wreiddiol a brodorol.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC110 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn, a dynnir yn ôl yn amodol.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Rwy’n cytuno â’r newid hwn.

4.0 Argymhelliad

4.1 dylid diwygio Polisi EN14 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC110.

Polisi EN15 a Prosiectau, Biwmares Mewnosodiad 5 Gwrthwynebiad 71/1072 - Cyngor Tref Biwmares

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad hwn yn awgrymu y dylid ymestyn y promenâd i Fryars Bay.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r Cyngor yn ymwybodol o’r prosiect amgylcheddol yn ymwneud â’r cynnig ar gyfer y promenâd i’r gorllewin o Fiwmares, fodd bynnag nid yw’r cynllun yn ymestyn i Fryars Bay. Felly, ni all y Cyngor ddangos estyniad o’r fath ar Fewnosodiad 5 y Map Cynigion.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Nid oes digon o wybodaeth ger fy mron i mi allu dod i gasgliad ynghylch a ddylid ymestyn cynnig yn ymwneud â’r promenâd i’r gorllewin o’r dref i Fryars Bay, yr wyf yn cymryd ei fod ar ochr ddwyreiniol y dref. Pennod 14 – Amgylchedd 307

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio Mewnosodiad 5 Map Cynigion y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi EN15 a Mewnosodiad 36 Prosiectau Gwrthwynebiad 169/1453 - Menter Môn

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylai’r cynllun gynnwys cyfeiriad at Ganolfan Ymwelwyr ar ddau safle posibl gerllaw safle archeolegol Llys .

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Ni nodir unrhyw leoliad penodol yn y gwrthwynebiad hwn. Felly ni all y cynllun ddyrannu safle penodol. Gallai Polisi TO1 – Atyniadau Newydd ac Estyniadau i Atyniadau sy’n Bodoli Eisoes, neu bolisi TO11 – Cyfleusterau Chwaraeon a Hamdden gefnogi datblygiad o’r fath gan ddibynnu ar nodweddion y safle.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Nid oes digon o wybodaeth ger fy mron i mi allu dod i gasgliad ynghylch a ddylid dyrannu safle ar gyfer Canolfan Ymwelwyr naill ai o fewn ffin ddatblygu Niwbwrch neu y tu allan iddi.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio Mewnosodiad 36 Map Cynigion y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi EN15 a Prosiectau, Porthaethwy Mewnosodiad 41 Gwrthwynebiadau 32/1069 – Ymddiriedolaeth Treftadaeth Cymuned Porthaethwy 57/692 – Cyngor Tref Porthaethwy 79/559 – Cymdeithas Ddinesig Porthaethwy a’r Cylch

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae pob un o’r 3 gwrthwynebiad yn awgrymu y dylid dyrannu’r datblygiad glan dðr/canolfan treftadaeth ar Fewnosodiad 41.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r Cyngor o blaid y cynnig. Fodd bynnag gellir cefnogi’r prosiect trwy bolisïau’r cynllun ar dwristiaeth, treftadaeth a chyflogaeth ac nid oes angen iddo gael ei ddyrannu yn y cynllun. Ar ben hynny nid yw’r Cyngor o’r farn mai’r defnydd sy’n cael ei hyrwyddo yw’r Pennod 14 – Amgylchedd 308 unig ddefnydd posibl y gellir ei wneud o’r gwahanol adeiladau a thir dan sylw. Mae’r Cyngor hefyd wedi edrych ar ddefnyddio’r ardal at ddibenion cymysg, gan gynnwys defnydd masnachol a phreswyl.

2.2 Ar ben hynny profiad y Cyngor yw bod llinell ar fap yn ymwneud â chynigion penodol yn achosi mwy o broblemau weithiau na datganiad syml o gefnogaeth mewn egwyddor.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Nid oes digon o wybodaeth ger fy mron i mi allu dod i gasgliad ynghylch a ddylid dyrannu safle ar gyfer datblygiad glan dðr/canolfan treftadaeth ym Mhorthaethwy. Ystyrir gwrthwynebiad 79/559 mewn perthynas â Pholisi TO1 yn yr adroddiad hwn hefyd.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio Mewnosodiad 41 Map Cynigion y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Cynnig FF21 a Ailddatblygu’r Pwynt a’r Promenâd Newydd, Biwmares Mewnosodiad 5 Gwrthwynebiad 87/23 – Mr D Abbot

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Nid oes unrhyw gyfeiriad at y marina arfaethedig ym Miwmares ar Fewnosodiad 5. Dylid diwygio Cynnig FF21 i ddangos cynllun y Marina.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Rhoddwyd caniatâd cynllunio i gynllun y Marina. Ymatalodd y Cyngor rhag nodi llinell benodol (llinellau penodol) ar y Map Cynigion ar gyfer rhai prosiectau am yr ofnid y gall cyflwyno llinell ynddo’i hun fod yn ffactor cyfyngol wrth i brosiectau symud o fod yn ddichonadwy i gael eu gweithredu. Mae cefnogaeth y Cyngor i’r prosiectau hyn yn dod trwy bolisïau’r cynllun ac nid y dyraniadau ar Fewnosodiadau’r Map Cynigion. Ni fwriedir adolygu’r ymagwedd hon, er y gellir diweddaru pob cyfiawnhad rhesymegol lle y bo’n briodol.

3.0 Mater

3.1 A oes angen dangos y marina arfaethedig yn y Pwynt ar y Map Cynigion.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Dengys Cynnig FF21 ar Fewnosodiad 5 ffin yr ailddatblygiad arfaethedig o’r Pwynt a’r Promenâd Newydd. Mae’n amlwg nad yw’r marina y rhoddwyd caniatâd cynllunio iddo bellach wedi’i gynnwys o fewn dyraniad FF21. Fodd bynnag, am fod caniatâd cynllunio wedi’i roi, nid oes angen nodi’r safle ar Fewnosodiad 5, er fy mod yn cydnabod pan adneuwyd y cynllun efallai y byddai hynny wedi bod yn ddefnyddiol.

Pennod 14 – Amgylchedd 309

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Mewnosodiad 5 Map Cynigion y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Newid Arfaethedig 525 Dynodi Lletem Las, Caergybi Gwrthwrthwynebiad 291/2201 - R Murphy

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Ni ddylai’r rhannau hynny o erddi cefn 3 annedd yn Ffordd Porth y Felin yn y Lletem Las arfaethedig gael eu cynnwys felly.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r Cyngor yn cytuno i roi’r gorau i’w fwriad i ddynodi lletem las i gywiro gwall cartograffeg. Felly dylid newid PC525 fel yr awgrymir.

3.0 Mater

3.1 A ddylid cynnwys y tir a nodir yn y gwrthwrthwynebiad hwn yn y Lletem Las arfaethedig hon.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae’r Cyngor yn cydnabod i’r tir sy’n destun y gwrthwrthwynebiad hwn gael ei gynnwys yn anghywir yn y Lletem Las arfaethedig hon o ganlyniad i wall mapio. Fodd bynnag, rwyf wedi argymell na ddylid dynodi Lletem Las yn yr ardal hon.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Newid Arfaethedig 107 Newidiadau ym Mharagraffau 14.39 – 14.41 Gwrthwrthwynebiad 34/2247 – Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthgynrychioliadau

1.1 Mae’r gwrthwrthwynebiad hwn yn awgrymu y dylid aileirio Polisi EN12 a’r cyfiawnhad rhesymegol i gyd-fynd â’r arweiniad a nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru. Os derbynnir hyn yna gellid hepgor paragraffau 14.39 - 14.41 o’r cynllun.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mewn ymateb i wrthwynebiad 6/956, mae PC107 yn cynnig diwygio paragraffau 14.39 - 14.41 y cynllun er mwyn cyd-fynd ag arweiniad cynllunio cenedlaethol.

3.0 Mater

Pennod 14 – Amgylchedd 310

3.1 A oes angen newid PC107.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Deuthum i’r casgliad eisoes mewn ymateb i wrthwynebiadau 34/1029 a 34/1053 y dylid diwygio Polisi EN12 yn unol â PC106. Mewn ymateb i wrthwrthwynebiad 6/2078 yn yr adroddiad hwn ar Bolisi EN12, deuthum i’r casgliad y dylid diwygio paragraffau 14.39 – 14.41 felly yn unol â PC107 ond y dylid ymestyn paragraff 14.41 ychydig.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid newid PC107 mewn ymateb i’r gwrthwrthwynebiad hwn.

Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 311

Pennod 15 : Mwynau a Gwastraff

Gwahanol Faterion Gwrthwynebiadau 105/195 – Yr Awdurdod Glo 36/334, 335, 337 a 338 – Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru 9/795 – Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru 6/937 a 940 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru 31/1163 – Plaid Werdd Sir y Fflint 51/1466 – Cyfeillion y Ddaear Môn a Gwynedd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae 105/195 yn nodi bod 15.6 yn anghywir am ei fod yn honni nad oes unrhyw lo brig i’w gael ar Ynys Môn. Mae hyn yn groes i wybodaeth a ddelir gan yr Awdurdod Glo. Mae 36/334 yn awgrymu y dylid diwygio paragraff 15.44 er mwyn diweddaru’r testun. Mae 36/335 yn awgrymu y dylid diwygio paragraff 15.48 i gynnwys cyfeiriad at lunio Cyd- drefniadau Awdurdodau Lleol ar gyfer Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru. Mae 36/337 yn gofyn i baragraff 15.52 gael ei ddiwygio i adlewyrchu’r targedau cyfredol ar gyfer gwaredu gwastraff a osodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae 36/338 yn awgrymu y dylai’r cynllun nodi lleoliadau safleoedd amwynder dinesig yn ôl gofyniad 21.

1.2 Mae 9/795 yn nodi y dylai paragraff 15.16 gynnwys geiriad cryfach i adlewyrchu nid yn unig nodau’r Cyngor ond hefyd ei rwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth y DU a Chyfarwyddebau Ewropeaidd. Mae 6/937 yn awgrymu y dylid diwygio’r term ‘gwaredu gwastraff’ i ‘rheoli gwastraff’ ym mharagraff 15.50 er mwyn adlewyrchu’r ffaith bod ffyrdd mwy cynaliadwy eraill o reoli gwastraff na chael gwared ag ef. Mae 6/940 yn nodi y dylai’r cynllun gynnwys arweiniad polisi i fynnu bod pob datblygiad mawr yn ymgorffori cyfleusterau rheoli gwastraff digonol ac effeithiol yn ystod y cyfnod cynllunio ar y dechrau. Gallai Polisi GP2 gynnwys y mater hwn.

1.3 Mae 31/1163 yn gofyn am bolisi i nodi pan fydd chwarel wedi adfywio i fod yn safle bywyd gwyllt/bioamrywiaeth pwysig, na chaniateir ailagor nac ymestyn y chwarel. Mae 51/1466 yn cyfeirio at y targedau ailgylchu a nodir ym mharagraff 15.52 y bydd angen eu cyrraedd ond mae o’r farn efallai y bydd y mesurau a gynigir yn y cynllun yn annigonol fel modd i gyrraedd y targedau hynny.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mewn ymateb i wrthwynebiad 105/195, byddai PC113 yn goresgyn y gwrthwynebiad. Fodd bynnag, mae angen diwygio geiriad ail frawddeg y newid arfaethedig hwn ychydig er mwyn cyfeirio at ‘brigiadau glo’ yn hytrach na ‘brigiadau cerrig’.

2.2 Mewn ymateb i wrthwynebiadau 36/334 a 36/335, byddai newidiadau arfaethedig 122, 123, 124 a 125 yn diweddaru’r cynllun yng ngoleuni arweiniad mwy diweddar gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae PC125 yn cyfeirio’n benodol at waith Grðp Cynllunio Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru.

2.3 O ran gwrthwynebiad 36/337, byddai PC128 yn goresgyn y gwrthwynebiad trwy gyfeirio’n benodol at y Strategaeth Wastraff Genedlaethol a nodi targedau perthnasol y DU a’r prif dargedau/targedau eilradd perthnasol a osodwyd ar gyfer Cymru. O ran Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 312 gwrthwynebiad 36/338, byddai PC140 yn goresgyn y gwrthwynebiad trwy nodi lleoliad safleoedd amwynder dinesig ym Mhenhesgyn (MD4); Caergybi (MD2) ac (MD3).

2.4 Mewn ymateb i wrthwynebiad 9/795, mae paragraff 15.16 y cynllun a adneuwyd yn nodi y bydd angen i weithgarwch yn gysylltiedig â mwynau ystyried polisïau a nodir yn yr adran o’r cynllun yn ymdrin â’r Amgylchedd a’r lefel o ddiogelwch a roddir i ardaloedd a ddynodwyd yn statudol a safleoedd anstatudol o ddiddordeb.

2.5 Mewn ymateb i wrthwynebiad 6/937, bydd y newid geiriad a awgrymir yn gwneud y cynllun yn gliriach ac yn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â Pholisi Cynllunio Cymru. Bydd y Cyngor yn diwygio’r cynllun yn unol â hynny.

2.6 O ran gwrthwynebiad 6/940, derbynnir y gellir ymgorffori’r geiriad a awgrymir yn rhesymol yn y cyfiawnhad rhesymegol dros Bolisi GP1 er mwyn cyd-fynd â pharagraff 6.3 NCT 21. Gellir diwygio Polisi GP2 i ymgorffori’r arweiniad yn NCT 21 yn llawn trwy gynnwys datganiad y bydd adfer gwastraff hefyd yn ystyriaeth yn ystod y cyfnod cynllunio.

2.7 Mewn ymateb i wrthwynebiad 31/1163, asesir unrhyw gais am ddatblygiad mwynau yn unol â holl ddarpariaethau perthnasol y cynllun datblygu gan gynnwys y rhai sy’n ymdrin â diogelu buddiannau bioamrywiaeth. Felly nid oes angen cynnwys polisi fel yr awgrymir yn y gwrthwynebiad hwn.

2.8 O ran gwrthwynebiad 51/1466, cyflwynwyd targedau diwygiedig yn ymwneud yn benodol â Chymru yn Yn Gall gyda Gwastraff. Mae PC128 yn cynnig y dylid ymgorffori’r targedau hyn yn y cynllun i fynd i’r afael â’r gwrthwynebiad i’r targedau a gynhwyswyd yn y cynllun a adneuwyd. Dylid nodi bod y gofyniad cyfreithiol i gyrraedd targed ailgylchu o 10% erbyn 2003 mewn gwirionedd wedi’i gyflawni yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf pan gofnodwyd ffigur o 10.4%.

3.0 Mater

3.1 A oes angen diwygio Pennod 15 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i unrhyw un o’r gwrthwynebiadau hyn.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 O ran gwrthwynebiad 105/195, rwyf o’r farn y byddai PC113 yn ateb y gwrthwynebiad hwn trwy gywiro’r ffeithiau ynghylch brigiadau glo. Fodd bynnag, o gofio’r cyd-destun sydd i ail frawddeg y newid arfaethedig hwn, nid wyf o’r farn bod angen gosod y term ‘brigiadau glo’ yn lle ‘brigiadau cerrig’ am fod ystyr y frawddeg hon yn y newid arfaethedig hwn yn ddigon clir.

4.2 Mewn ymateb i wrthwynebiadau 36/334-337, rwyf o’r farn y byddai newidiadau arfaethedig 122-125, ynghyd â PC128, yn diweddaru cyd-destun y polisi cenedlaethol a rhanbarthol yn ddigon da. O ran gwrthwynebiad 36/338, dylai PC140 ym Mholisi WP7 (nid WP8) ynghyd â newidiadau cysylltiedig yn y Mapiau Cynigion sy’n nodi safleoedd amwynder dinesig yng Nghaergybi (PC531) ac Amlwch (PC502) ynghyd â’r safle presennol ym Mhenhesgyn (PC584) ateb pryderon y gwrthwynebydd ynghylch cydymffurfio â gofynion NCT21.

Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 313

4.3 O ran gwrthwynebiad 9/795, rwyf o’r farn bod paragraff 15.16 y cynllun a adneuwyd yn nodi’n ddigon clir y ffaith bod angen sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen am fwynau a’r angen i ddiogelu’r amgylchedd.

4.4 O ran gwrthwynebiad 6/937, mae brawddeg gyntaf paragraff 15.50 y cynllun a adneuwyd yn cyfeirio at reoli gwastraff. Am fod cyfleusterau gwaredu gwastraff yn rhan o weithgarwch rheoli gwastraff nid wyf o’r farn bod angen cyfeirio at gyfleusterau o’r fath fel cyfleusterau rheoli gwastraff yn ail frawddeg y paragraff a adneuwyd, yn arbennig am y bwriedir i’r rhestr o feini prawf yn y frawddeg hon fod yn berthnasol i safleoedd ar gyfer cael gwared â gwastraff. Nid oes angen newid y paragraff hwn felly. Fodd bynnag nodaf fod PC127 yn cynnig y dylai ail frawddeg paragraff 15.50 y cynllun a adneuwyd ffurfio Polisi WP1a. Felly bydd angen i’r Cyngor benderfynu a ddylai brawddeg gyntaf y paragraff hwn aros yn y cynllun.

4.5 Mae gwrthwynebiad 6/940 yn nodi y gallai Polisi GP2 y cynllun a adneuwyd ymdrin â mater cyfleusterau rheoli gwastraff adeg cynllunio datblygiad ond nid yw’n awgrymu unrhyw bolisi penodol i’w gynnwys ym Mhennod 15 y cynllun. Mae PC28 yn cynnig y dylid cyfeirio ym maen prawf (iv) Polisi GP1 at yr angen i ddatblygiadau arfaethedig roi sylw i fater rheoli gwastraff yn gynaliadwy. Rwyf o’r farn bod y geiriau ‘rhoi sylw i’ yn rhy wan fel rhan o eiriad polisi. Dylai ddarllen ‘darparu ar gyfer’.

4.6 Byddai’r polisi a geisir yng ngwrthwynebiad 31/1163 yn anodd ei gymhwyso, pan fyddai caniatâd cynllunio eisoes yn bodoli ar gyfer gweithio mwynau. Mewn sefyllfaoedd eraill, cymerid i ystyriaeth polisïau cynllunio yn ymwneud â bywyd gwyllt/bioamrywiaeth wrth ystyried gweithfeydd newydd neu estyniadau i rai sy’n bodoli eisoes.

4.7 O ran gwrthwynebiad 51/1466, byddai diweddaru’r targedau ar gyfer ailgylchu neu gompostio gwastraff trefol a nodir yn PC128 yn ateb y gwrthwynebiad hwn.

5.0 Argymhellion

5.1 Y dylid diwygio paragraff 15.6 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC113.

5.2 Y dylid diwygio paragraffau 15.44 i 15.48 y cynllun a adneuwyd yn unol â Newidiadau Arfaethedig 122 i 125 yn gynwysiedig.

5.3 Y dylid diwygio paragraff 15.52 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC128.

5.4 Y dylid diwygio Polisi Gwastraff WP7 – Safleoedd Amwynder Dinesig yn unol â PC140.

5.5 Y dylid diwygio Polisi Cyffredinol GP1, maen prawf (iv), i ddarllen: ‘yn lleihau llygredd neu broblemau niwsans cymaint â phosibl, ac yn darparu ar gyfer rheoli gwastraff yn gynaliadwy;’

5.6 Na ddylid gwneud unrhyw ddiwygiadau eraill i Bennod 15 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r un o’r gwrthwynebiadau hyn.

Polisi MP3 a Pharagraff Yr Angen am Fwynau 15.10 Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 314

Gwrthwynebiadau 104/468 – Y Gymdeithas Cynhyrchion Chwarel 102/478 - Lafarge Aggregates Ltd 103/695 - Hanson Aggregates Ltd 6/934 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru Newid Arfaethedig 115 Newid Polisi MP3 Gwrthwrthwynebiad 104/2037 – Y Gymdeithas Cynhyrchion Chwarel

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae 104/468 a 103/695 yn awgrymu y dylid newid y polisi hwn i adlewyrchu’r ffaith nad yw angen yn ystyriaeth briodol ar gyfer cynllun datblygu, ac mai’r prawf perthnasol yw arweiniad cenedlaethol a rhanbarthol priodol.

1.2 Mae 102/478 yn awgrymu y dylid diwygio’r polisi i adlewyrchu’r cyfeiriad at gyflenwad y DU o agregiadau fel y cyfeirir ato ym mharagraff 15.23.

1.3 Mae 6/934 yn awgrymu y dylid cyfeirio at Bolisi Cynllunio Mwynau Cymru [MPPW] ym mharagraff 15.10.

2.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

2.1 Nid yw PC115 yn ateb gwrthwynebiad 104/468 ac felly fe’i cedwir.

3.0 Ymateb y Cyngor

3.1 Mae gwrthwynebiadau 104/468 a 103/695 yn cyfeirio at baragraff 9 MPPW wrth fynegi eu dadl nad yw angen yn ystyriaeth briodol. Mae’r Cyngor yn honni mai fel arall y mae hi. Mae hyn yn seiliedig ar y datganiad ym mharagraff 9 MPPW y dylai Awdurdodau Cynllunio Mwynau [MPA] asesu o ran ystyriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, pwysigrwydd pob math o weithgarwch gweithio mwynau yn eu hardal gan ystyried yr angen am bob math o ddeunydd, ei ddosbarthiad a’r dull cynhyrchu.

3.2 Am fod PC115 yn cydnabod bod angen ystyried y gofynion cenedlaethol ar gyfer mwynau hefyd, byddai’r newid arfaethedig hwn yn goresgyn 102/478.

3.3 Byddai PC114 ym mharagraff 15.10 y cynllun a adneuwyd yn goresgyn gwrthwynebiad 6/934, a dynnir yn ôl yn amodol.

3.4 O ran gwrthwrthwynebiad 104/2037, yr un yw ymateb y Cyngor a’r ymateb i wrthwynebiad 104/468.

4.0 Mater

4.1 A fyddai’r polisi hwn, fel y cynigiwyd i’w ddiwygio trwy PC115, yn cydymffurfio â pholisi cynllunio mwynau cenedlaethol.

5.0 Casgliad yr Arolygydd

5.1 Mae paragraff 9 MPPW, sy’n cynnwys y prif ddatganiad o bolisi cenedlaethol yng Nghymru, yn nodi y dylid ystyried yr angen am bob math o fwyn. Ar yr amod felly y Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 315 cynhwysir y cyfeiriad at ofynion cenedlaethol ym maen prawf (i) y polisi fel y cynigiwyd gan PC115, rwyf o’r farn y byddai’n cydymffurfio â pholisi cynllunio mwynau cenedlaethol.

6.0 Argymhellion

6.1 Y dylid diwygio Polisi MP3 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC115.

6.2 Y dylid diwygio paragraff 15.10 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC114.

Polisi MP5 Mwynau Metelog Gwrthwynebiadau 10/106 – Mr A F Nixon 8/359 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae 10/106 yn awgrymu y dylid adfer y maen prawf ar yr effaith ar briffyrdd mewn fersiwn blaenorol o’r polisi hwn, gan honni bod y polisi a adneuwyd yn gostwng safonau o ran diogelwch y ffordd.

1.2 Mae 8/359 yn awgrymu y dylid cynnwys datganiad yn cydnabod bod tua 40 o dunelli metrig o gopr tawdd yn llifo allan o Fynydd Parys bob blwyddyn ac y dylid cefnogi ymdrechion i ddefnyddio’r ffynhonnell hon.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mewn ymateb i wrthwynebiad 10/106, ymdrinnir â’r newid a geisir gan faen prawf (vii) Polisi GP1 sy’n ymdrin â diogelwch y ffordd mewn perthynas â chynigion ar gyfer pob math o ddatblygiad. Byddai ailadrodd y maen prawf hwn ym Mholisi MP5 yn gyfystyr â dyblygu.

2.2 O ran gwrthwynebiad 8/359, mae Polisi MP5 yn cyfeirio at echdynnu mwynau metelog, y ceir dyddodion ohonynt ym Mynydd Parys ac a weithiwyd ar raddfa fawr yn y gorffennol. Er na fu unrhyw waith echdynnu ar raddfa fawr yn ddiweddar, cydnabyddir bod rhai cronfeydd gweithiadwy wrth gefn yno o hyd.

2.3 O ran y newid a geisir, mae modd darparu ar gyfer cynigion ar gyfer adfer copr tawdd o dan Bolisi MP5 fel y mae ar hyn o bryd, er efallai nad echdynnu yw hyn yn ystyr gonfensiynol y term.

3.0 Mater

3.1 A oes angen diwygio’r polisi hwn mewn ymateb i’r naill gwrthwynebiad neu’r llall.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 O ran gwrthwynebiad 10/106, am fod maen prawf (vii) Polisi GP1 yn ymdrin â materion diogelwch y ffordd, nid oes angen ailadrodd y rhain ym Mholisi MP5.

4.2 O ran y posibilrwydd o adfer copr tawdd o all-lifoedd o Fynydd Parys, rwy’n cytuno â’r Cyngor mai o dan Bolisi MP5 y câi cynigion o’r fath eu hystyried. Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 316

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisi MP5 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r naill gwrthwynebiad neu’r llall.

Polisi MP6 Gwaith Chwilio Gwrthwynebiad 102/477 – Lafarge Aggregates Ltd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid diwygio’r polisi hwn er mwyn cydnabod bod Rhan 22 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 yn darparu ar gyfer ymgymryd â rhai mathau o weithgarwch chwilio am fwynau heb yr angen am ganiatâd cynllunio.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae PC116 yn ceisio goresgyn y gwrthwynebiad hwn trwy gydnabod bod rhai mathau o waith chwilio am fwynau yn enghreifftiau o ddatblygu a ganiateir. Er na fyddai’r newid arfaethedig hwn yn cael ei wneud ym Mholisi MP6, fe’i cynhwysid yn y cyfiawnhad rhesymegol dros y polisi ym mharagraff 15.30.

3.0 Mater

3.1 A oes angen i’r polisi hwn gydnabod y gellir cyflawni rhai mathau o waith chwilio am fwynau fel gwaith datblygu a ganiateir.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Nid yw Polisi MP6 yn effeithio ar hawliau datblygu a ganiateir, a dim ond â chynigion y mae angen caniatâd cynllunio arnynt y byddai’n ymwneud. O ran PC116 yn ymwneud â pharagraff 15.30, rwyf o’r farn y dylai brawddeg gyntaf y newid arfaethedig gyfeirio at ‘chwilio am’ ac nid ‘defnyddio’. Mae ail a thrydedd frawddeg y newid i raddau helaeth yn ailadrodd y geiriad ym Mholisi MP6, ac maent hefyd yn cynnwys y geiriau ‘boddhaol’ a ‘digonol’ nad oes iddynt unrhyw werth. Rwy’n argymell dileu’r gair ‘boddhaol’ o MP6. Nodir meini prawf amgylcheddol mewn polisïau perthnasol yn y cynllun.

5.0 Argymhellion

5.1 Na ddylid diwygio Polisi MP6 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

5.2 Y dylid diwygio paragraff 15.30 y cynllun a adneuwyd trwy gynnwys y frawddeg ganlynol, fel brawddeg gyntaf y paragraff, ‘Mae rhai mathau o waith chwilio am fwynau yn enghreifftiau o ddatblygu a ganiateir o dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995’.

5.3 Na ddylid cymeradwyo PC116 i’w gynnwys yn y cynllun.

Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 317

Polisi MP7 Glo Gwrthwynebiad 105/193 – Yr Awdurdod Glo Newid Arfaethedig 117 Newid Polisi MP7 Gwrthwrthwynebiad 14/2051 – Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad a’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Mae gwrthwynebiad 105/193 yn gwrthwynebu Polisi MP7 sy’n gwahardd gweithio glo yn benodol ac a hoffai weld y cynllun yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu hyn.

1.2 Mae gwrthwrthwynebiad 14/2051 yn ymwneud â’r Ardal Ymgynghori Glo ac mae’n awgrymu y dylid ychwanegu’r geiriau ‘dangosir hyn ar y map cynigion’ er mwyn rhoi sicrwydd.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae PC117 yn cynnig y dylid dileu’r polisi a adneuwyd ac mae’n cynnig yn lle hynny y cynhelir ardal ymgynghori glo a fyddai’n golygu na fyddai angen sterileiddio’r adnodd glo.

2.2 Er ei bod yn annhebyg bod digon o gronfeydd glo wrth gefn ar Ynys Môn i wneud y gwaith o’u hechdynnu’n ymarferol yn economaidd, ystyrir ac asesir unrhyw gais am echdynnu glo yng ngoleuni’r meini prawf amgylcheddol a restrir ym mholisïau perthnasol y cynllun a hefyd yng ngoleuni’r arweiniad yn MPPW.

2.3 Mewn ymateb i wrthwrthwynebiad 14/2051 mae’r Cyngor yn cytuno y byddai’r geiriad a awgrymir yn y gwrthwrthwynebiad hwn yn gwella’r cynllun.

3.0 Mater

3.1 A ddylid newid Polisi MP7 yn unol â PC117, gan gynnwys fel yr awgrymwyd i’w ddiwygio.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Byddai dileu’r polisi a adneuwyd fel y cynigir o dan PC117 yn goresgyn gwrthwynebiad 105/193 ond nid yw’n glir pam y dylai’r newid arfaethedig hwn hefyd gynnig ardal ymgynghori glo fel polisi. Mater gweithredol ydyw ac nid oes a wnelo â’r diffiniad o gynigion datblygu nac â ffactorau yn ymwneud â phenderfynu ar gynigion datblygu. Mae paragraff 15.31 y cynllun a adneuwyd eisoes yn cyfeirio at ardal ymgynghori o’r fath ac felly mae’n rhesymol i’r paragraff hwn nodi bod yr ardal hon wedi’i dangos ar y Map Cynigion mewn ffordd debyg i ddynodiadau eraill nad ydynt yn rhai o gynigion y cynllun fel y cyfryw, ee yr AOHNE.

5.0 Argymhellion

5.1 Y dylid dileu Polisi MP7 y cynllun a adneuwyd ac na ddylid cymeradwyo PC117 i’w gynnwys yn y cynllun.

5.2 Y dylid diwygio paragraff 15.31 y cynllun a adneuwyd trwy ychwanegu’r geiriau ‘a ddangosir ar y Map Cynigion’ ar ddiwedd y drydedd frawddeg.

Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 318

5.3 Y dylid diwygio’r Map Cynigion trwy gynnwys ardal ymgynghori glo ar gyfer yr Ynys.

Newidiadau Arfaethedig Newid Paragraff 15.48 a Pholisi Arfaethedig WP1a – 125 a 127 Cyfleusterau Rheoli Gwastraff Gwrthwrthwynebiadau 102/2041 a 2042 – Lafarge Aggregates Ltd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiadau

1.1 Mae 102/2041 yn ceisio eglurhad ar y berthynas sydd rhwng y cynllun a’r Cynllun Gwastraff Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru sydd ar y gweill. Mae 103/2042 yn nodi y dylai Polisi WP1a adlewyrchu egwyddorion yr Opsiwn Amgylcheddol Ymarferol Gorau [BPEO], hunangynhaliaeth ranbarthol ac egwyddor agosrwydd.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r gwaith o ddatblygu fframwaith polisi rhanbarthol, yn ôl gofyniad NCT 21, ac a elwir yn Gynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru [NWRWP], yn mynd rhagddo. Mae NCT 21 yn mynnu y dylai’r NWRWP ddarparu cyfarwyddyd ar y gwaith o lunio polisïau cynllunio gwastraff manwl yn lleol.

2.2 Nes y bydd NWRWP wedi’i fabwysiadu, mae ansicrwydd ynghylch sut y bydd yn effeithio ar y polisïau yn y Cynllun Datblygu Unedol [CDU]. Serch hynny mae’n debyg y bydd angen adolygu polisïau’r CDU yng ngoleuni’r cyfarwyddyd a roddir yn NWRWP. Drafftiwyd y polisïau yn y cynllun a adneuwyd yng ngoleuni arweiniad cynllunio cyfredol ar wastraff, gan gynnwys targedau a osodwyd ar gyfer dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi a chyda’r bwriad o hyrwyddo’r gwaith o ddatblygu dulliau eraill o reoli gwastraff sy’n cyrraedd nodau cynaliadwy.

2.3 Mewn ymateb i wrthwrthwynebiad 102/2042 yn benodol, byddai’r meini prawf a restrir ym Mholisi WP1a arfaethedig yn mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd ynghylch adlewyrchu’r 3 egwyddor a nodwyd. Yn arbennig, mae maen prawf (iv) sy’n mynnu bod cynigion yn dangos y byddent yn cwtogi hyd yr eithaf ar yr angen i gludo deunyddiau, yn ymdrin â mater egwyddor agosrwydd yn ddigonol.

2.4 Mae’r pedwar maen prawf cyntaf, yn ogystal â maen prawf (vi), yn ymdrin â mater yr Opsiwn Amgylcheddol Ymarferol Gorau yn ddigonol trwy sicrhau na ddylai cynigion ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff gael unrhyw effeithiau amgylcheddol andwyol ar amwynder eiddo cyfagos nac amharu arno chwaith.

2.5 O ran hunangynhaliaeth ranbarthol, bydd NWRWP yn penderfynu faint o gyfleusterau fydd eu hangen i sicrhau hunangynhaliaeth o’r fath.

3.0 Mater

3.1 A oes angen newid PC125 neu PC127 mewn ymateb i’r naill gwrthwrthwynebiad neu’r llall.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 319

4.1 Nid yw’r un o’r gwrthwrthwynebiadau hyn yn awgrymu sut y dylid newid PC125 na PC127. Rwyf o’r farn bod Polisi arfaethedig WP1a yn ymdrin â materion yr Opsiwn Amgylcheddol Ymarferol Gorau ac egwyddor agosrwydd. Am fod mater hunangynhaliaeth ranbarthol y tu hwnt i gwmpas y cynllun hwn nid oes angen i’r polisi arfaethedig geisio ymdrin ag ef.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid newid PC125 na PC127 mewn ymateb i’r naill gwrthwrthwynebiad neu’r llall.

Polisi MP8 Sterileiddio Gwrthwynebiad 6/935 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Er mwyn osgoi sterileiddio adnoddau dylai’r polisi ymwneud ag ardaloedd penodol a dylid ei ddangos ar y Map Cynigion.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae gan yr Ynys ddigon o adnoddau mwynau cerrig caled ar gyfer cyfnod y cynllun a’r tu hwnt. Nid yw’n debyg felly y bydd sterileiddio yn broblem tan 2016. Nid oes gan y Cyngor y data sydd ei angen i ddynodi ardaloedd penodol yn y cynllun hwn ac os oes angen y newid mae’n awgrymu y dylai fod yn eitem ar gyfer y cynllun datblygu nesaf a baratoir.

2.2 Dangosir lleoliad chwareli â chaniatâd cynllunio sy’n bodoli yn Atodiad 9 y Datganiad Ysgrifenedig. Oherwydd eu lleoliad nid yw’n debyg y cânt eu sterileiddio gan ddatblygiadau eraill am eu bod wedi’u lleoli y tu allan i’r ffiniau datblygu. Gellir mynd i’r afael ag unrhyw broblemau lleol a all godi trwy’r polisi.

2.3 Fodd bynnag mae’r Cyngor yn fodlon nodi ar y Map Cynigion barthau ymgynghori mwynau yn ymestyn 50m o gwr yr ardal a ganiateir ar gyfer pob chwarel a gynhwysir yn Atodiad 9.

3.0 Mater

3.1 A ddylid dangos parthau ymgynghori mwynau ar y Map Cynigion.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae paragraff 5 MPPW yn eithaf clir mai dim ond lle y’u darganfyddir y gellir gweithio mwynau. Felly mae polisi i sicrhau na chaiff dyddodion mwynau eu sterileiddio gan fathau eraill o ddatblygiadau yn un o ofynion hanfodol y cynllun. Er bod Polisi MP8 yn fodd i sicrhau na fydd hynny’n digwydd, rwy’n cytuno â phryder y gwrthwynebydd y dylai’r polisi hwn hefyd fod wedi’i ddiffinio ar y Map Cynigion. Derbyniaf nad oes gan y Cyngor y data sydd ei angen i bennu ardaloedd ymgynghori penodol ar y Map Cynigion, a bod digon o gronfeydd cerrig caled wrth gefn yn y Sir. Felly mae’r dull gweithredu a awgrymir gan y Cyngor, sef dynodi parthau ymgynghori mwynau yn ymestyn o gwr pob chwarel, yn fesur interim rhesymol. Fodd bynnag, er mwyn bod yn effeithiol, rwyf o’r farn y dylai’r parth Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 320 ymgynghori hwn fod yn 400 o fetrau yn hytrach nag yn 50 metr o gwr allanol yr ardal a ganiateir ar gyfer chwareli sy’n bodoli eisoes.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio Map Cynigion y cynllun a adneuwyd trwy nodi parth ymgynghori yn ymestyn 400 o fetrau o gwr allanol yr ardal sydd â chaniatâd cynllunio ar gyfer chwarela yn y chwareli a restrir yn Atodiad 9 i’r cynllun a adneuwyd.

Polisi MP9 Defnyddio Deunyddiau Gwastraff Gwrthwynebiadau 8/360 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig 104/469 – Y Gymdeithas Cynhyrchion Chwareli 103/696 – Hanson Aggregates Ltd. 6/936 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru Newid Arfaethedig 118 Newid Polisi MP9 Gwrthwrthwynebiadau 104/2036 – Y Gymdeithas Cynhyrchion Chwareli 92/2206 – Mr J F Tripp

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau a’r Gwrthwrthwynebiadau

1.1 Mae 8/360 yn cyfeirio at y ffaith bod gwastraff llechi wedi’i hepgor o’r polisi hwn ac yn awgrymu y dylid ei gynnwys.

1.2 Mae 104/469 a 103/696 yn cyfeirio at angen i ailystyried y sefyllfa o ran mater gwastraff chwareli am y bydd cyflwyno’r dreth agregiadau yn golygu na fydd modd gwerthu gwastraff chwareli fel cynnyrch. Dylid dileu’r polisi felly am na ellir ei gyflawni.

1.3 Mae 6/936 yn nodi bod y testun a’r polisi yn anghyson. Mae’r testun o blaid ailgylchu ond mae’r polisi yn nodi mai dim ond at ddibenion tirlunio neu ddibenion amgylcheddol y defnyddir deunyddiau gwastraff. Dylid diwygio’r polisi felly i’w wneud yn gliriach ac i sicrhau cysondeb.

1.4 Mae 104/2036 am gadw gwrthwynebiad 104/469 am nad yw PC118 yn ateb y gwrthwynebiad hwnnw.

1.5 Mae 92/2206 yn awgrymu y dylid gosod datganiad yn nodi lle bynnag y bo modd y dylid defnyddio deunyddiau sydd ar gael ar Ynys Môn neu yng Ngwynedd gerllaw i ddiogelu a gwella’r dirwedd.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mewn ymateb i wrthwynebiad 8/360 mae’r Cyngor yn derbyn bod adnodd mawr, ar ffurf gwastraff llechi, yn bodoli yn sir Gwynedd gerllaw a bod arweiniad cenedlaethol presennol ar gyflenwi agregiadau yn hyrwyddo defnyddio adnodd o’r fath yn lle deunydd sylfaenol a echdynnwyd. Mae Polisi MP9, wrth gyfeirio at ddefnyddio deunydd gwastraff, yn cynnwys pob math o wastraff mwynau a byddai PC118 yn cynyddu’r defnydd y gellid ei wneud o ddeunyddiau o’r fath trwy ddileu’r gofyniad mai dim ond ar gyfer gwaith tirlunio, adfer ac i ddiogelu’r amgylchedd y dylid ei ddefnyddio.

Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 321

2.2 Mewn ymateb i wrthwynebiadau 104/469 a 103/696, a gwrthwrthwynebiad 104/2036, yng nghyd-destun datblygu cynaliadwy, gall defnyddio gwastraff chwareli, agregiadau eilaidd a deunydd a ailgylchwyd gyfrannu at lefel lai o ddibyniaeth ar agregiadau sylfaenol a dylai roi llai o bwysau ar ddihysbyddu adnoddau naturiol. Mae MPPW, ym mharagraff 56, yn nodi’n glir y dylai cynlluniau datblygu hyrwyddo’r broses o ailgylchu gwastraff o waith adeiladu a dymchwel yn ogystal â gwastraff mwynau a gwastraff diwydiannol. Dadl y Cyngor yw bod gwastraff chwareli yn dod o dan derm ‘gwastraff mwynau’.

2.3 Mewn ymateb i wrthwynebiad 6/936, byddai PC118 yn goresgyn y gwrthwynebiad ac yn gwneud y cynllun yn gliriach. O ran gwrthwrthwynebiad 92/2206, efallai fod y gwrthwrthwynebiad hwn yn gyfyngol o ran yr amrywiaeth o ddefnydd yr ystyrir y gellid ei wneud o ddeunydd gwastraff, ac felly nid yw’n ychwanegu at y cynllun.

3.0 Mater

3.1 A oes angen diwygio’r polisi hwn mewn ymateb i unrhyw un o’r gwrthwynebiadau hyn, neu newid PC118 mewn ymateb i’r gwrthwrthwynebiad hwn.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 O ran gwrthwynebiad 8/360, mae’r polisi hwn yn ymdrin â gwastraff a gafwyd o dynnu a gweithio pob mwyn. Nid oes angen cyfeirio’n benodol at wastraff llechi.

4.2 O ran gwrthwynebiadau 104/469 a 103/696, a gwrthwrthwynebiad 104/2036, hyd yn oed os bydd y dreth agregiadau yn rhwystro gwastraff chwareli rhag cael ei werthu, ni fyddai hynny yn cyfiawnhau dileu’r polisi hwn am ei fod yn ymwneud ag asesu datblygiadau mwynau yn y dyfodol a’r defnydd a wneid o ddeunydd gwastraff, gan gynnwys ar y safle. Byddai dileu ail frawddeg y polisi hwn a gynigir gan PC118 yn ymestyn y dibenion y gellid defnyddio deunydd gwastraff o’r fath atynt trwy beidio â’i gyfyngu i waith tirlunio/adfer a gweithgarwch diogelu’r amgylchedd.

4.3 Rwy’n cytuno y dylid dileu’r cyfyngiad ar ddefnyddio deunydd gwastraff a gynigir gan PC118. Byddai hyn yn goresgyn gwrthwynebiad 6/936. Felly nid wyf yn cytuno y dylid newid y polisi yn unol â gwrthwrthwynebiad 92/2206.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio Polisi MP9 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC118.

Polisi MP12 Adfer Gwrthwynebiadau 104/470 – Y Gymdeithas Cynhyrchion Chwareli 103/697 – Hanson Aggregates 14/718 a 14/1478 – Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar 9/797 – Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae 104/470 a 103/697 o’r farn bod y polisi yn afrealistig ar gyfer chwareli cerrig caled am ei bod yn anodd adfer chwareli o’r fath o ran eu defnydd/ansawdd blaenorol, yn bennaf oherwydd y deunydd mewnlenwi y byddai angen ei fewnforio i’w hadfer i’r fath Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 322

safon. Mae’r ddau wrthwynebiad yn awgrymu y dylid aileirio’r polisi i ddarparu ar gyfer senario mwy realistig ar gyfer adfer chwareli cerrig caled.

1.2 Mae 14/718 yn mynnu y dylid diwygio’r testun i gynnwys cyfeiriad at hybu bioamrywiaeth ac mae 14/1478 am weld polisi newydd, sef polisi MP12a, yn cael ei osod yn y cynllun wedi’i eirio fel a ganlyn: ‘Wrth adolygu hen ganiatâd mwynau, bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn disgwyl y caiff pob safle ei weithredu a’i adfer mewn modd sy’n cydymffurfio â safonau modern. Bydd rhagdybiaeth o blaid bioamrywiaeth fel yr ôl- ddefnydd’. Ni fyddai cynnwys cyfeiriad o’r fath yn y cyfiawnhad rhesymegol, yn unol â pharagraff 3.15 UDPW, yn ei wneud yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Ni fyddai mor bwysig â pholisi mewn Cynllun Datblygu Unedol.

1.3 Mae 9/797 yn mynnu y dylid diwygio’r testun i bwysleisio ymagwedd fwy strategol tuag at adfer gweithfeydd mwynau.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 O ran gwrthwynebiadau 104/470 a 103/697, mae’r Cyngor yn cydnabod ei bod yn anodd adfer chwareli cerrig caled i gyflwr cyfartal neu well na’r cyflwr blaenorol, yn arbennig o gofio’r deunydd y bydd ei angen i lenwi gwagleoedd sydd yn aml yn sylweddol a’r amser y gall cynlluniau o’r fath ei gymryd.

2.2 Mae MPPW yn rhestru’r ôl-ddefnydd y gellir ei wneud o safleoedd mwynau a adferwyd. Gellir eu defnyddio at ddibenion amaethyddiaeth, coedwigaeth/coetir, cadwraeth natur, man agored cyhoeddus, adloniant neu ddatblygiadau eraill. Ystyrir manylion materion o’r fath fesul achos. Byddai’n dderbyniol mewn llawer o achosion adfer safleoedd i’w defnyddio at ddibenion ôl-ddefnydd yn seiliedig ar fioamrywiaeth. Fodd bynnag, efallai na fydd hynny’n berthnasol i bob safle ac efallai y bydd angen ystyried opsiynau eraill.

2.3 Fodd bynnag, cydnabyddir y dylai’r polisi nodi safbwynt mwy penodol o ran ôl- ddefnydd ac y dylid cyfeirio at yr opsiynau sydd ar gael ynddo. Mae’r Cyngor yn awgrymu felly y dylid aileirio Polisi MP12 l fel a ganlyn:

Lle y bo hynny’n briodol, dylai cynigion ar gyfer echdynnu mwynau gynnwys darpariaeth ar gyfer adfer y safle i gyflwr cyfartal neu well o gymharu â’r defnydd presennol o’r tir. Bydd y fath ddarpariaeth yn cynnwys:

(a) adfer y safle yn raddol i’w ddefnyddio at ddibenion amaethyddiaeth, coedwigaeth neu amwynder; a

(b) rhoi ôl-ofal i’r safle a adferwyd am gyfnod heb fod yn llai na 5 mlynedd ar ôl cwblhau unrhyw weithrediadau adfer.

2.4 Mae’r aileiriad hwn o Bolisi MP12 ynghyd â PC119 yn darparu’r ymateb i wrthwynebiad 14/718 a 14/1478. Byddai PC119 hefyd yn goresgyn gwrthwynebiad 9/797.

3.0 Mater

3.1 A ddylid diwygio’r polisi hwn fel yr awgrymir yn awr gan y Cyngor.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 323

4.1 Mae’n amlwg bod Polisi MP12 y cynllun a adneuwyd yn rhy feichus yn arbennig o ran chwareli cerrig caled. Mae cyflwyno’r geiriau ‘lle y bo hynny’n briodol’ fel y cynigir ar ddechrau’r polisi yn darparu ar gyfer gwneud eithriadau i fyrdwn cyffredinol y polisi ond nid yw’r polisi na’r cyfiawnhad rhesymegol yn darparu unrhyw arweiniad ar y cynigion hynny ar gyfer echdynnu mwynau na fyddent yn ddarostyngedig i ofynion adfer y polisi sy’n dal i fod yn feichus. Dylai paragraff 15.40 sy’n ategu Polisi MP12 nodi’r prif fathau o ddulliau gweithio e.e. carreg galed na allai’r polisi hwn yn realistig fod yn berthnasol iddynt.

4.2 Byddai ychwanegu meini prawf yn ymdrin ag adfer ac ôl-ofal at y polisi hwn fel y cynigir yn gwneud y materion hyn yn fwy perthnasol na’r cyfeiriad atynt ym mharagraff 15.40 y cynllun a adneuwyd. Mae PC119 yn esbonio ymhellach yr angen i adfer safleoedd a’u defnyddio wedyn.

4.3 Rwy’n cytuno y dylid diwygio geiriad y polisi fel y cynigiwyd gan y Cyngor ym mharagraff 2.3 uchod ar yr amod yr ychwanegir y maen prawf canlynol mewn ymateb yn benodol i’r pryderon dilys a godir yng ngwrthwynebiadau 14/718 a 14/1478, i ddarllen:

‘ (c) mesurau ar gyfer gwella’r dirwedd, cadwraeth natur, a hybu bioamrywiaeth.’

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid dileu Polisi MP12 y cynllun a adneuwyd ac y dylid gosod geiriad diwygiedig i ddarllen fel a ganlyn:

‘Lle y bo hynny’n briodol, dylai cynigion ar gyfer echdynnu mwynau gynnwys darpariaeth ar gyfer adfer y safle i gyflwr cyfartal neu well o gymharu â’r defnydd presennol o’r tir. Bydd y fath ddarpariaeth yn cynnwys:

(a) adfer y safle yn raddol i’w ddefnyddio at ddibenion amaethyddiaeth, coedwigaeth neu amwynder; a (b) rhoi ôl-ofal i’r safle a adferwyd am gyfnod heb fod yn llai na 5 mlynedd ar ôl cwblhau unrhyw weithrediadau adfer. (c) mesurau ar gyfer gwella’r dirwedd, cadwraeth natur, a hybu bioamrywiaeth.’

Polisi MP13 Meini Prawf Rheoli Gwrthwynebiad 104/471 - Cymdeithas Cynhyrchion Chwareli 103/698 – Hanson Aggregates 9/798 – Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae 104/471 a 103/698 yn awgrymu y dylid dileu’r cyfeiriadau at angen o’r polisi.

1.2 Mae 9/798 yn awgrymu y dylid cyfeirio at yr amgylchedd yn y polisi hwn.

2.0 Ymateb y Cyngor

Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 324

2.1 Mae gwrthwynebiadau 104/471 a 103/698 yn nodi nad yw angen yn ystyriaeth briodol. Mae’r Cyngor yn honni mai fel arall y mae hi. Mae hyn yn seiliedig ar y datganiad ym mharagraff 9 MPPW y dylai Awdurdodau Cynllunio Mwynau asesu o ran ystyriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, pwysigrwydd pob math o weithgarwch gweithio mwynau yn eu hardal gan ystyried yr angen am bob math o ddeunydd, ei ddosbarthiad a’r dull cynhyrchu.

2.2 Mewn ymateb i wrthwynebiad 9/798, mae Polisi GP1 yn cyfeirio at faterion amgylcheddol cyffredinol ac felly byddai ei feini prawf yn berthnasol i bob cynnig ar gyfer datblygiad.

3.0 Mater

3.1 A oes angen diwygio’r polisi hwn mewn ymateb i unrhyw un o’r gwrthwynebiadau hyn.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 O ran gwrthwynebiadau 104/471 a 103/698, mae paragraff 9 MPPW, sy’n cynnwys y prif ddatganiad o bolisi cenedlaethol yng Nghymru, yn nodi bod yr angen am bob math o fwyn yn bwysig wrth ystyried datblygiadau mwynau.

4.2 O ran gwrthwynebiad 9/798, ymdrinnir ag agweddau pwysig ar yr amgylchedd sy’n berthnasol i weithfeydd mwynau ym maen prawf (iii) y polisi hwn. Am yr ymdrinnir â materion eraill yn ymwneud â’r amgylchedd gan rai o bolisïau eraill y cynllun, gan gynnwys Polisi GP1, yn fy marn i, nid oes angen ymestyn maen prawf (iii) Polisi MP13. Dylid cywiro gwallau gramadegol ym meini prawf (i) a (iii) i sicrhau manwl gywirdeb ac eglurdeb. Dylai maen prawf (iii) hepgor materion yr ymdrinnir â hwy ym Mholisi MP12 fel yr argymhellwyd i’w ddiwygio.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio Polisi MP13 er mwyn i: maen prawf (i) nodi ‘y profir yr angen am y mwyn a’r manteision economaidd yn deillio o weithio’r safle; a’; maen prawf (iii) nodi bod ‘ystyriaethau yn ymwneud â’r effaith a gaiff llwch, sðn, dirgrynu, ansawdd aer, y system hydrolegol, a diwrnodau ac oriau o weithio yn dderbyniol.’

Newid Arfaethedig 121 Newid Paragraff 15.43 Gwrthwrthwynebiad 102/2252 – Lafarge Aggregates Ltd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Dylid hepgor y gair ‘traddodiadol’ o’r newid arfaethedig hwn a dylid gosod y gair ‘hanesyddol’ yn ei le.

2.0 Ymateb y Cyngor

Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 325

2.1 Mae’r Cyngor yn cytuno y byddai’r newid a awgrymir yn gwneud terminoleg y cynllun yn fwy manwl gywir.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Rwy’n cytuno y dylid newid y newid arfaethedig hwn.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid newid PC121 trwy ddileu’r gair ‘traddodiadol’ a gosod y gair ‘hanesyddol’ yn ei le.

Newid Arfaethedig 123 Newid Paragraff 15.46 Gwrthwrthwynebiad 6/2091 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwrthwynebiad hwn yn awgrymu y dylid cyfeirio at Bolisi Cynllunio Cymru a NCT 21 ar Wastraff yn y newid arfaethedig.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r Cyngor yn cytuno y byddai’r geiriad a awgrymir yn gwneud y cynllun yn gliriach.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Rwy’n cytuno â’r Cyngor.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio PC123 i gynnwys cyfeiriadau at Bolisi Cynllunio Cymru a NCT21 ar Wastraff, fel yr arweiniad polisi wedi’i ddiweddaru ar gyfer Cymru.

Newid Arfaethedig 124 Newid Paragraff 15.47 Gwrthwrthwynebiad 102/2040 – Lafarge Aggregates Ltd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Ceisir eglurhad ar y wybodaeth y cynigiwyd i’w chynnwys ym mharagraff 15.47 trwy PC124. Yn arbennig, codir cwestiynau ynghylch yr arian ychwanegol y bwriedir ei ddarparu i gyrraedd targedau ar gyfer gwastraff.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Yn Gall gyda Gwastraff: Strategaeth Wastraff Genedlaethol Cymru yn nodi i’r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu cryn dipyn o gyllid i awdurdodau lleol Cymru er mwyn cynorthwyo gyda’r gwaith o reoli gwastraff trefol yn gynaliadwy. Ar ben hynny darparwyd cryn dipyn o arian i gynorthwyo prosiectau ailddefnyddio ac ailgylchu cymunedol. Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 326

2.2 Darparwyd a darperir y cyllid dan sylw i awdurdodau lleol dros y cyfnod 2001/2 hyd 2004/5 ac fe’i hanelir yn benodol at ariannu mentrau ailgylchu. Ni fydd yr arian ar gael fel cymorth grant ar gyfer gweithredwyr rheoli gwastraff preifat, ond bydd ffyrdd eraill i sefydliadau o’r fath gael gafael ar gymorth grant arall.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Nid yw’r gwrthwrthwynebiad hwn yn awgrymu sut y dylid newid PC124, ac nid yw’r Cyngor yn awgrymu unrhyw newid ychwaith. Yn fy marn i nid oes angen newid PC124.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid newid PC124 mewn ymateb i’r gwrthwrthwynebiad hwn.

Newid Arfaethedig 125 Newid Paragraff 15.48 Gwrthwrthwynebiad 6/2090 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Ceisia Gwerthwrthwynebiad 6/2090 aileirio PC125 i ddarllen : ‘Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru yn unol â gofynion Polisi Cynllunio Cymru ac NCT21: Gwastraff.’

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r Cyngor yn cytuno y byddai’r newid a gynigir yn ychwanegu at eglurder y cynllun.

3.0 Mater

3.1 A ddylid diwygio PC125.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Rwy’n cytuno gydag aileirio PC125 fel y cytunir.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio Newid Arfaethedig PC125 fel y’i gwelir yng ngwrthwrthwynebiad 6/2090.

Polisi WP1 Ailgylchu Agregiadau Gwrthwynebiadau 10/107 – Mr A F Nixon 36/339 – Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru 102/474 – Lafarge Aggregates Ltd 9/799 – Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 327

1.1 Mae 10/107 yn awgrymu y dylid cynnwys cyfeiriad at y ffaith na ddylai cynigion o dan y polisi hwn gael effaith niweidiol na chynyddol ar amwynder ac amgylchedd defnydd tir cyfagos.

1.2 Mae 36/339 yn gofyn i leoliad y safleoedd amwynder dinesig sydd eu hangen gael ei nodi er mwyn bod yn gyson â gofynion NCT21 ar Wastraff.

1.3 Mae 102/474 yn awgrymu y dylid diwygio teitl y polisi er mwyn caniatáu ailgylchu pob math o wastraff o waith adeiladu a dymchwel yn hytrach nag agregiadau yn unig.

1.4 Mae 9/799 yn awgrymu y dylid darparu ar gyfer monitro safleoedd tirlenwi a rheoli gwastraff ac y dylid adlewyrchu hynny yn y cyfiawnhad rhesymegol.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mewn ymateb i wrthwynebiad 10/107, câi Polisi GP1, sy’n cyfeirio at faterion o’r fath, ei gymhwyso at bob cynnig ar gyfer datblygiad ac mae’n generig i’r cynllun cyfan. Mae’r Cyngor yn fodlon bod y polisi cyffredinol hwn yn ymdrin yn ddigonol â’r materion yn ymwneud â’r effaith niweidiol a chynyddol ar amwynder ac amgylchedd defnydd tir cyfagos mewn cysylltiad ag unrhyw gais a gyflwynir o dan Bolisi WP1.

2.2 O ran gwrthwynebiad 36/339, mae PC140 ym Mholisi WP7 yn nodi’r safle amwynder dinesig ym Mhenhesgyn (MD4), yn ogystal â’r safleoedd yn (MD1), Caergybi (MD2), ac Amlwch (MD3) a restrir yn y polisi a adneuwyd.

2.3 O ran gwrthwynebiad 102/474, mae’r Cyngor yn cydnabod nad yw geiriad y teitl yn ystyried y potensial ehangach ar gyfer ailgylchu a ddarperir gan ddeunyddiau ar wahân i agregiadau ac y dylai teitl y polisi adlewyrchu hynny. Felly byddai PC130 yn newid teitl y Polisi i ‘Wastraff Anadweithiol’.

2.4 Mewn ymateb i wrthwynebiad 9/799, mae’r gwaith o fonitro safleoedd rheoli gwastraff yn swyddogaeth weithredol a gyflawnir gan y Cyngor wrth gyflawni ei gyfrifoldebau gorfodi cynllunio. O ran safleoedd rheoli gwastraff sy’n bodoli eisoes, sy’n cynnwys safleoedd tirlenwi, cânt eu monitro yn rheolaidd i sicrhau na fydd problemau yn codi mewn cysylltiad â’r broses o’u rhedeg. Mae paragraffau 25 i 27 NCT9 yn mynnu bod safleoedd rheoli gwastraff yn cael eu monitro fel hyn a bod deialog barhaol rhwng y Cyngor a gweithredwyr safleoedd, fel y gellir datrys unrhyw broblemau sy’n codi trwy drafod a chydweithredu.

3.0 Mater

3.1 A oes angen diwygio’r polisi hwn mewn ymateb i unrhyw un o’r gwrthwynebiadau hyn.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 O ran gwrthwynebiad 10/107 rwy’n fodlon yr ymdrinnir â’r materion a godir yn y gwrthwynebiad hwn yn ddigonol gan rai o bolisïau eraill y cynllun, yn arbennig Polisi GP1.

4.2 O ran gwrthwynebiad 36/399, dylai ymwneud â Pholisi WP7 sy’n ymdrin â safleoedd amwynder dinesig. O ran y gwrthwynebiad hwn, bydd PC140 ynghyd â’r newidiadau Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 328 cysylltiedig yn y Map Cynigion sy’n darparu lleoliadau safleoedd, yn ateb pryderon y gwrthwynebydd ynghylch cydymffurfio ag NCT21.

4.3 O ran gwrthwynebiad 102/474, byddai PC130 yn newid teitl y polisi hwn i ‘Wastraff Anadweithiol’. Nid wyf yn gwrthwynebu’r newid arfaethedig hwn.

4.4 O ran gwrthwynebiad 9/799, mae’r gwaith o reoli a monitro safleoedd rheoli gwastraff yn swyddogaeth weithredol ac nid yw’n fater y dylid manylu arno yn y Cynllun Datblygu Unedol.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio teitl Polisi WP1 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC130, ond na ddylid gwneud unrhyw ddiwygiad arall i’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Newid Arfaethedig 127 Polisi Arfaethedig WP1a – Cyfleusterau Rheoli Gwastraff Gwrthwrthwynebiadau 6/2089- Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9/2202 – Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiadau

1.1 Mae 6/2089 yn awgrymu y dylid diwygio maen prawf (ii) yn y newid arfaethedig hwn er mwyn cynnwys cyfeiriad at osgoi defnyddio tir amaethyddol o ansawdd da.

1.2 Mae 9/2202 o’r farn y dylid atgyfnerthu’r polisi arfaethedig er mwyn cynnwys gofyniad i osgoi effaith andwyol sylweddol ar safleoedd cyfagos o werth cadwraeth natur.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mewn ymateb i wrthwrthwynebiad 6/2089 mae’r Cyngor yn cytuno y byddai’r newid a awgrymir yn gwella’r polisi ac yn cydymffurfio â Pholisi Cynllunio Cymru.

2.2 Mewn ymateb i wrthwrthwynebiad 9/2202, mae rhai o bolisïau eraill y cynllun yn ymdrin ag effaith datblygiadau arfaethedig ar safleoedd o werth cadwraeth natur.

3.0 Mater

3.1 A oes angen newid PC127 mewn ymateb i’r naill gwrthwrthwynebiad neu’r llall.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 O ran gwrthwrthwynebiad 6/2089, am nad yw’r polisi arfaethedig yn cyfeirio at yr angen i gyfleusterau rheoli gwastraff newydd osgoi tir amaethyddol o ansawdd da, rwyf o’r farn y dylai maen prawf (ii) wneud hynny. Ar ben hynny, rwyf o’r farn, am fod gan y rhan fwyaf o dir ryw werth daearegol neu archeolegol neu ryw werth o safbwynt cadwraeth natur, y prawf cywir y dylid ei gymhwyso yw a yw tir o’r fath yn dra gwerthfawr o ran yr agweddau hyn. Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 329

4.2 O ran gwrthwrthwynebiad 9/2202, rwyf yn fodlon y byddai rhai o bolisïau eraill y cynllun yn ymdrin yn ddigonol â diogelu safleoedd o werth cadwraeth natur a allai fod gerllaw cyfleuster rheoli gwastraff arfaethedig.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid dileu maen prawf (ii) PC127 a gosod y canlynol yn ei le:

‘(ii) Nid yw’r datblygiad yn arwain at golli tir o werth Gradd 1, 2 neu 3a yn y Dosbarthiad Tir Amaethyddol, nac yn achosi niwed sylweddol i fuddiannau cadwraeth natur, daearegol neu archeolegol y tir’.

Polisi WP2 Tirlenwi â Deunydd Anadweithiol Gwrthwynebiadau 10/108 – Mr A F Nixon 9/800 – Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru 76/1391 a 1393 – Defence Estates

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae 10/108 yn cyfeirio at y ffaith bod meini prawf yn ymwneud â’r amgylchedd/amwynder a’r rhwydwaith priffyrdd wedi’u hepgor o’r polisi hwn, gan nodi y bydd yr hepgoriadau hyn yn arwain at safonau is o ran y ddwy agwedd benodol hyn.

1.2 Mae 9/800 yn awgrymu y dylid darparu ar gyfer monitro safleoedd tirlenwi a rheoli gwastraff ac y dylid adlewyrchu hynny yn y cyfiawnhad rhesymegol. O ran y polisi hwn yn benodol, mae angen gwaith monitro i sicrhau nad achosir unrhyw effaith andwyol gan ei ddarpariaethau.

1.3 Mae 76/1391 a 1393 yn nodi y byddai’n ddefnyddiol pe gellid ymestyn cyfeiriadau at ddatblygiadau telathrebu arfaethedig ym Mholisi EP14 i gynnwys safleoedd tirlenwi a chwareli arfaethedig.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mewn ymateb i wrthwynebiad 10/108, eir i’r afael â’r meini prawf y cyfeirir atynt yn y gwrthwynebiad hwn ym Mholisi GP1 ac asesir pob cynnig ar gyfer datblygiad yn erbyn y polisi hwnnw.

2.2 O ran gwrthwynebiad 9/800, caiff safleoedd rheoli gwastraff eu monitro gan y Cyngor fel rhan o’i gyfrifoldebau gorfodi cynllunio. Mae paragraffau 25 i 27 NCT9 yn mynnu bod safleoedd rheoli gwastraff yn cael eu rheoli fel hyn a bod deialog barhaol rhwng y Cyngor a gweithredwyr safleoedd, fel y gellir datrys unrhyw broblemau sy’n codi trwy drafod a chydweithredu.

2.3 Mewn ymateb i wrthwynebiadau 76/1391 a 76/1393, er mwyn sicrhau eglurder, mae’r Cyngor wedi osgoi polisïau rhy gymhleth yn y cynllun. Felly, drafftiwyd polisïau unigol ar gyfer pob mater ar wahân y mae angen i’r cynllun ymdrin ag ef. Mae Polisi EP14 yn ymdrin â datblygiadau telathrebu yn unig, ac mae Polisïau WP2, WP8, ac MP2 ym Mhennod 15 yn ymdrin â gwaredu gwastraff ac echdynnu mwynau. Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 330

3.0 Mater

3.1 A oes angen diwygio’r polisi hwn mewn ymateb i unrhyw un o’r gwrthwynebiadau hyn.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Nid yw’r un o’r gwrthwynebiadau hyn yn awgrymu sut yn union y dylid newid y polisi hwn. Rwyf yn fodlon ei fod yn ymdrin yn ddigon manwl ag unrhyw gynigion ar gyfer safleoedd tirlenwi ar gyfer deunydd anadweithiol.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisi WP2 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r un o’r gwrthwynebiadau hyn.

Polisi WP3 Cyfleusterau Trin Gwastraff Gwrthwynebiadau 36/340 – Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru 102/479 – Lafarge Aggregates Ltd 9/801 – Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae 36/340 yn awgrymu y dylid diwygio’r polisi er mwyn sicrhau, wrth ganiatáu cyfleusterau trin gwastraff, yr ystyrir yr Opsiwn Amgylcheddol Ymarferol Gorau ac egwyddor agosrwydd.

1.2 Mae 102/479 yn awgrymu y dylid newid y polisi i sicrhau ei fod yn ymdrin â’r gwaith o drin pob categori o wastraff. Ar ben hynny, dylai’r polisi fod yn hyblyg er mwyn caniatáu prosesu gwastraff ac eithrio mewn man caeëdig.

1.3 Mae 9/801 yn awgrymu y dylid darparu ar gyfer monitro cyfleusterau trin gwastraff.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai newidiadau arfaethedig 132 a 134 yn goresgyn gwrthwynebiad 36/340 trwy gynnwys maen prawf (iii) ym Mholisi WP3 a thrwy gyflwyno paragraff newydd, sef paragraff 15.58A fel rhan o’r cyfiawnhad rhesymegol dros y polisi hwn. Byddai PC132 yn goresgyn gwrthwynebiad 102/479 hefyd trwy gyflwyno hyblygrwydd ym maen prawf (ii) o ran prosesu gwastraff o dan do lle y bo hynny’n briodol.

2.2 O ran gwrthwynebiad 9/801, caiff safleoedd rheoli gwastraff eu monitro gan y Cyngor fel rhan o’i gyfrifoldebau gorfodi cynllunio. Mae paragraffau 25 i 27 NCT9 yn mynnu bod safleoedd rheoli gwastraff yn cael eu rheoli fel hyn a bod deialog barhaol rhwng y Cyngor a gweithredwyr safleoedd, fel y gellir datrys unrhyw broblemau sy’n codi trwy drafod a chydweithredu.

3.0 Mater

Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 331

3.1 A oes angen diwygio’r polisi hwn mewn ymateb i unrhyw un o’r gwrthwynebiadau hyn.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 O ran gwrthwynebiad 36/340, byddai maen prawf (iii) y polisi hwn a gynigir gan PC132 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn trwy gyfeirio’n benodol at yr Opsiwn Amgylcheddol Ymarferol Gorau ac egwyddor agosrwydd. Byddai PC134, a fyddai’n cyflwyno paragraff newydd, sef paragraff 15.58A, yn pwysleisio pa mor bwysig yw’r ddau fater hwn.

4.2 Nid yw gosod y geiriau ‘lle y bo hynny’n briodol’ o fawr ddim gwerth mewn polisi cynllun datblygu, oni fydd y testun yn nodi eithriadau i’r polisi y gellir eu hystyried yn ffafriol.

4.3 O ran Gwrthwynebiad 9/801 mae’r gwaith o reoli a monitro safleoedd rheoli gwastraff yn swyddogaeth weithredol ac nid yw’n fater y dylid manylu arno yn y Cynllun Datblygu Unedol.

5.0 Argymhellion

5.1 Y dylid diwygio Polisi WP3 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC132.

5.2 Y dylid cynnwys paragraff newydd, sef paragraff 15.58A, yn y cynllun yn unol â PC134, ac y dylai’r paragraff hwn hefyd nodi cyfleusterau trin gwastraff efallai na fydd yn briodol nac yn ymarferol eu hamgáu yn gyfan gwbl.

Polisi WP4 Llosgi Gwastraff Gwrthwynebiadau 10/110 – Mr A F Nixon 16/680 – Albert Owen AS 9/802 – Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae 10/110 yn awgrymu y dylid adfer fersiwn cynharach o’r polisi a gynhwysai’r gofyniad y gallai’r rhwydwaith priffyrdd ddarparu ar gyfer y traffig a grëid gan unrhyw gynnig a gyflwynwyd o dan y polisi hwn.

1.2 Mae 16/680 yn awgrymu y dylid cynnwys meini prawf i nodi na ddylid lleoli unrhyw gynigion ar gyfer llosgi gwastraff gerllaw ysgolion a lleoedd chwarae.

1.3 Mae 9/802 yn awgrymu y dylid darparu ar gyfer monitro safleoedd tirlenwi a rheoli gwastraff ac y dylid adlewyrchu hynny yn y cyfiawnhad rhesymegol dros y polisi.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mewn ymateb i wrthwynebiad 10/110 ymdrinnir â’r newid a geisir ym Mholisi GP1, sy’n mynnu y bydd gan bob cynnig fynediad digonol i gerbydau ac y gellir darparu ar gyfer y traffig a grëir ganddynt ar y rhwydwaith priffyrdd presennol.

Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 332

2.2 O ran gwrthwynebiad 16/680, mae’r polisi yn nodi’r meini prawf y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i gynnig lwyddo o dan y polisi hwn. Ar ben hynny, cynhwysir mesurau ar gyfer diogelu’r amgylchedd ac amwynder ym Mholisi GP1, ac mewn polisïau perthnasol eraill, y byddai pob un ohonynt yn berthnasol i unrhyw gynnig ar gyfer llosgydd gwastraff.

2.3 Mae paragraff 12.5.1 Polisi Cynllunio Cymru yn rhestru’r profion y dylid eu cymhwyso at unrhyw gynnig ar gyfer cyfleuster rheoli gwastraff. Ymhlith y rhain mae gofynion yn mynnu na ddylid niweidio’r amgylchedd na pheryglu iechyd dynol. Byddai’r rhain yn ystyriaethau o’r pwys mwyaf wrth ystyried unrhyw gais am losgydd gwastraff.

2.4 O ran gwrthwynebiad 9/802, caiff safleoedd rheoli gwastraff eu monitro gan y Cyngor fel rhan o’i gyfrifoldebau gorfodi cynllunio. Mae paragraffau 25 i 27 NCT9 yn mynnu bod safleoedd rheoli gwastraff yn cael eu rheoli fel hyn a bod deialog barhaol rhwng y Cyngor a gweithredwyr safleoedd, fel y gellir datrys unrhyw broblemau sy’n codi trwy drafod a chydweithredu.

3.0 Mater

3.1 A oes angen diwygio’r polisi hwn mewn ymateb i unrhyw un o’r gwrthwynebiadau hyn.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 O ran gwrthwynebiad 10/110, rwy’n fodlon bod Polisi GP1 yn darparu’n ddigonol ar gyfer ystyried materion diogelwch y ffordd wrth asesu unrhyw gynnig ar gyfer llosgydd gwastraff.

4.2 O ran gwrthwynebiad 16/680, rwyf o’r farn y byddai maen prawf (vi) Polisi GP1, fel y cynigiwyd i’w ddiwygio trwy PC28, yn diogelu ysgolion a lleoedd chwarae yn ddigonol am y byddai datblygiadau a fyddai’n cael effaith andwyol sylweddol ar ardaloedd o’r fath yn groes i’r maen prawf hwnnw. Felly nid oes angen ymdrin â materion o’r fath ym Mholisi WP4.

4.3 O ran Gwrthwynebiad 9/802, mae’r gwaith o reoli a monitro safleoedd rheoli gwastraff yn swyddogaeth weithredol ac nid yw’n fater y dylid manylu arno yn y Cynllun Datblygu Unedol.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisi WP4 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r un o’r gwrthwynebiadau hyn.

Polisi WP5 a Pharagraff Ailgylchu a Chompostio 15.60 Gwrthwynebiadau 36/341 a 343 – Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru 8/358 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig 65/656 – Ymddiriedolwyr Setliad Meyrick 1966 9/803 a 1061 – Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru

Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 333

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae 36/341 yn awgrymu y dylid diweddaru’r targed ym mharagraff 15.60 trwy nodi bod yn rhaid i awdurdodau lleol ailgylchu neu gompostio 75% o wastraff cartref erbyn 2010 yn lle 25% erbyn 2005. Mae 36/343 yn awgrymu y dylid diwygio’r paragraff hwn i gynghori bod canllawiau newydd bellach ar gael gan yr Asiantaeth ar gompostio gwastraff cegin.

1.2 Mae 8/358 yn awgrymu y dylid ailysgrifennu’r polisi mewn geiriau cryfach i sicrhau bod y seilwaith rheoli gwastraff cywir ar waith i alluogi cyrraedd targedau statudol ar gyfer lleihau’r gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi ac i gyrraedd targedau ar gyfer ailgylchu a chompostio gwastraff.

1.3 Mae 65/656 yn awgrymu y dylid dileu’r polisi am nad ymgynghorwyd â pherchennog y tir. Sut bynnag, ni roddir unrhyw gyfiawnhad dros y cynnig yn y cynllun nac yn y cyfiawnhad rhesymegol.

1.4 Mae 9/803 a 9/1061 yn awgrymu y dylid darparu ar gyfer monitro safleoedd tirlenwi a rheoli gwastraff ac y dylid adlewyrchu hynny yn y cyfiawnhad rhesymegol. Mae’r gwrthwynebiadau yn nodi bod Cynnig AD2 ar safle a allai effeithio ar safle bywyd gwyllt anstatudol.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mewn ymateb i wrthwynebiad 36/341, mae PC136 ym mharagraff 15.60 yn cynnwys y targedau wedi’u diweddaru a awgrymwyd. O ran gwrthwynebiad 36/343, nid rôl y cynllun yw hyrwyddo llenyddiaeth cyrff cyhoeddus eraill.

2.2 O ran gwrthwynebiad 8/358, mae’r Cyngor yn cymryd ei gyfrifoldebau dros ailgylchu a chompostio gwastraff o ddifrif ac yn hyn o beth mae wedi cychwyn cynlluniau a fydd yn cyfrannu at gyrraedd y targedau llym a osodwyd ar gyfer Cymru yn y Strategaeth Wastraff Genedlaethol. Mae Polisi WP5 fel y cynigiwyd i’w ddiwygio trwy PC135 yn ceisio sefydlu cyfleuster canolog ger Gwalchmai ar gyfer ailgylchu gwastraff a’i ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi fel Cynnig AD1.

2.3 Mewn ymateb i Wrthwynebiad 65/656, mae’r arweiniad cyfredol ar gynllunio gwastraff yn pwysleisio bod angen sefydlu cyfleusterau rheoli gwastraff cynaliadwy. Mae’r safleoedd a ddyrannwyd o dan Bolisi WP5 yn gyfleusterau rheoli gwastraff cyfredol neu’n gyn-gyfleusterau rheoli gwastraff yr ymddangosai eu bod yn cynnig opsiynau synnwyr cyffredin ar gyfer diwallu anghenion y polisi, tra’n ystyried y strategaeth rheoli gwastraff a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Mehefin 2000.

2.4 Fodd bynnag mae adolygiad o’r strategaeth o ran yr elfen gompostio wedi arwain at yr elfen hon o’r strategaeth yn cael ei dileu. Oherwydd hynny, mae PC135 yn cynnig y dylid diwygio Polisi WP5 trwy ddileu Cynnig AD2, sydd hefyd ger Gwalchmai, ar gyfer cyfleuster compostio a slab aeddfedu.

2.5 Mewn ymateb i wrthwynebiadau 9/803 a 9/1061, caiff safleoedd rheoli gwastraff eu monitro gan y Cyngor fel rhan o’i gyfrifoldebau gorfodi cynllunio. Mae paragraffau 25 i 27 NCT9 yn mynnu bod safleoedd rheoli gwastraff yn cael eu rheoli fel hyn a bod deialog barhaol rhwng y Cyngor a gweithredwyr safleoedd, fel y gellir datrys unrhyw broblemau sy’n Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 334 codi trwy drafod a chydweithredu. Mae PC135 yn cynnig y dylid dileu Cynnig AD2 o’r cynllun.

3.0 Mater

3.1 A oes angen diwygio’r polisi hwn neu baragraff 15.60 mewn ymateb i unrhyw un o’r gwrthwynebiadau hyn.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 O ran gwrthwynebiad 36/341, byddai PC136 yn diweddaru’r targed ym mharagraff 15.60 fel yr awgrymir yn y gwrthwynebiad hwn. Fodd bynnag, nid wyf o’r farn bod angen i’r paragraff hwn gyfeirio at arweiniad yr Asiantaeth ar gompostio gwastraff cegin am nad yw hyn ond yn un rhan fach o’r holl agwedd ailgylchu a chompostio ar weithgarwch rheoli gwastraff.

4.2 O ran gwrthwynebiad 65/656, byddai dileu Cynnig AD2 trwy PC135 fel y cynigir yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn. Byddai’r newid arfaethedig hwn hefyd yn goresgyn y gwrthwynebiad i’r cynnig hwn yng ngwrthwynebiadau 9/803 a 9/1061.

4.3 O ran gwrthwynebiadau 8/358 a 9/1061, mae’r gwaith o reoli a monitro safleoedd rheoli gwastraff yn swyddogaeth weithredol ac nid yw’n fater y dylid manylu arno yn y Cynllun Datblygu Unedol.

5.0 Argymhellion

5.1 Y dylid diwygio Polisi WP5 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC135.

5.2 Y dylid diwygio paragraff 16.50 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC136.

Polisi WP6 Compostio Gwrthwynebiadau 10/111 – Mr A F Nixon 36/342 – Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru 8/357 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig 9/804 – Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae 10/111 yn awgrymu y dylid adfer fersiwn cynharach o’r polisi a gynhwysai’r gofyniad y gallai’r rhwydwaith priffyrdd ddarparu ar gyfer y traffig a grëid gan unrhyw gynnig a gyflwynwyd o dan y polisi.

1.2 Mae 36/342 yn awgrymu y dylid gosod testun ychwanegol at y paragraff yn nodi na ddylid caniatáu cyfleusterau o fewn 250m i weithle neu ffin annedd, onid ategir y cais gan asesiad priodol o’r risg i iechyd, sy’n nodi nad oes unrhyw risg annerbyniol i iechyd dynol yn gysylltiedig â’r cynnig.

1.3 Mae 8/357 yn awgrymu y dylid newid y geiriad yn y polisi i osod y geiriau ‘a ddarperir’ yn lle’r geiriau ‘a ganiateir’, a thrwy ddarparu cyfleusterau gwahanu gwastraff ar Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 335 gyfer pob cartref, er mwyn gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at gyrraedd y targedau a osodir yn y Gyfarwyddeb Tirlenwi.

1.4 Mae 9/804 yn awgrymu y dylid darparu ar gyfer monitro safleoedd tirlenwi a rheoli gwastraff ac y dylid adlewyrchu hynny yn y cyfiawnhad rhesymegol.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mewn ymateb i wrthwynebiad 10/111 ymdrinnir â’r newid a awgrymir ym Mholisi GP1, sy’n mynnu y bydd gan bob cynnig fynediad digonol i gerbydau ac y gellir darparu ar gyfer y traffig a grëir ganddynt ar y rhwydwaith priffyrdd presennol.

2.2 O ran gwrthwynebiad 36/342, byddai PC139 ym mharagraff 15.63 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn.

2.3 O ran gwrthwynebiad 8/357, nod y polisi hwn yw sicrhau ei bod yn bosibl bodloni nid yn unig y galw am safleoedd compostio y gellir eu sefydlu gan y Cyngor ond hefyd unrhyw alw a all godi o’r sector preifat. Mae compostio yn weithgarwch a fydd nid yn unig yn cwtogi’n effeithiol ar y gwastraff y ceir gwared ag ef mewn safleoedd tirlenwi ond a all ddwyn manteision economaidd i’r gymuned hefyd. Bydd y polisi hwn yn cynnig cyfle i fusnesau preifat ddatblygu cynlluniau compostio a fydd yn galluogi trin gwastraff fel adnodd. Mae NCT21 yn dadlau o blaid ymagwedd o’r fath ac mae hefyd yn cydnabod bod angen cynyddu lefel gweithgarwch compostio i lefel uwch na’r lefel bresennol.

2.4 Mewn ymateb i wrthwynebiad 9/804, caiff safleoedd rheoli gwastraff eu monitro gan y Cyngor fel rhan o’i gyfrifoldebau gorfodi cynllunio. Mae paragraffau 25 i 27 NCT9 yn mynnu bod safleoedd rheoli gwastraff yn cael eu rheoli fel hyn a bod deialog barhaol rhwng y Cyngor a gweithredwyr safleoedd, fel y gellir datrys unrhyw broblemau sy’n codi trwy drafod a chydweithredu.

3.0 Mater

3.1 A oes angen diwygio’r polisi hwn neu baragraff 15.63 mewn ymateb i unrhyw un o’r gwrthwynebiadau hyn.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 O ran gwrthwynebiad 10/111, rwy’n fodlon bod Polisi GP1 ym ymdrin â mater mynediad a diogelwch y priffyrdd o ran unrhyw gynigion ar gyfer cyfleusterau compostio.

4.2 O ran gwrthwynebiad 36/342, am fod PC139 yn cynnig y dylid cynnwys yr ychwanegiad yn y testun a geisir yn y gwrthwynebiad hwn ym mharagraff 15.63, rwyf o’r farn y byddai’r newid arfaethedig hwn yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn.

4.3 Mewn ymateb i wrthwynebiad 8/357, mae lefel y ddarpariaeth o ran cyfleusterau compostio yn fater gweithredol yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, tra bod Polisi WP6 yn rhoi arweiniad ar y ffactorau sy’n rheoli eu lleoliad.

4.4 O ran gwrthwynebiad 9/804, mae’r gwaith o reoli a monitro safleoedd rheoli gwastraff yn swyddogaeth weithredol ac nid yw’n fater y dylid manylu arno yn y Cynllun Datblygu Unedol. Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 336

5.0 Argymhellion

5.1 Na ddylid diwygio Polisi WP6 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r un o’r gwrthwynebiadau hyn.

5.2 Y dylid diwygio paragraff 15.63 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC139.

Newid Arfaethedig Newid Paragraff 15.63 139 Gwrthwrthwynebiad 6/2088 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Dylid gosod y geiriau ‘annedd nas defnyddir at ddibenion amaethyddol’ yn lle ‘annedd’.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r Cyngor yn cytuno y byddai’r newid a awgrymir yn gwneud y cynllun yn gliriach ac yn ei wella.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Am y byddai’n fanteisiol i rai ffermwyr allu sefydlu cyfleuster compostio yn agosach at eu tai na 250m ond heb aflonyddu ar unrhyw gartref arall, byddai’n rhy feichus ceisio gwahardd cyfleusterau compostio newydd o fewn 250m i annedd nas defnyddir at ddibenion amaethyddol. Rwyf o’r farn felly y dylid gwneud y mân newid hwn i PC139.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid newid PC139 trwy ddileu’r gair ‘annedd’ o’r frawddeg ychwanegol ym mharagraff 15.63 a gynigir yn y newid arfaethedig hwn a gosod y geiriau ‘anheddau nas defnyddir at ddibenion amaethyddol’ yn ei le.

Polisi WP7 Safleoedd Amwynder Dinesig Gwrthwynebiadau 52/180 – Partneriaeth Ynys Gybi 283/291 – Jones Brothers 9/805 – Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru 61/1211 – Cyngor Tref Caergybi

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae 52/180 yn awgrymu y dylid rhoi’r flaenoriaeth i ddyrannu tir ar gyfer datblygu safle amwynder dinesig yng Nghaergybi yn hytrach nag ardaloedd eraill ar Ynys Môn. Tir ar Ystad Ddiwydiannol Penrhos fyddai’r lleoliad ffafriedig.

Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 337

1.2 Mae 283/291 yn awgrymu y dylid newid y penderfyniad i ddyrannu tir yn Llangefni i’w ddefnyddio fel safle amwynder dinesig i gynnwys hefyd defnydd diwydiannol a/neu ddefnydd at ddibenion twristiaeth yn ogystal â defnydd fel Safle Amwynder Dinesig.

1.3 Mae 9/805 yn awgrymu y dylid darparu ar gyfer monitro safleoedd tirlenwi a rheoli gwastraff ac y dylid adlewyrchu hynny yn y cyfiawnhad rhesymegol.

1.4 Mae 61/1211 yn awgrymu y dylid cynnwys safle amwynder dinesig yng Nghaergybi ar gyrion y dref neu ar dir diwydiannol.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mewn ymateb i wrthwynebiadau 52/180 a 61/1211, fel yr ardal drefol fwyaf ar yr Ynys, ystyrir bod Caergybi yn flaenoriaeth ar gyfer datblygu safle amwynder dinesig. Ystyrir bod datblygu cyfleuster o’r fath yn flaenoriaeth ac, yn ogystal â chyfrannu at gyrraedd targedau ar gyfer dargyfeirio gwastraff, byddai’n chwarae rhan allweddol o ran mynd i’r afael â phroblem arllwys sbwriel yn anghyfreithlon a gysylltir yn benodol â’r dref hon. Mae Polisi WP7 yn nodi y caniateir safle yng Nghaergybi, safle a nodir gan PC140 fel Cynnig MD2.

2.2 O ran gwrthwynebiad 283/291, nodwyd bod y safle dan sylw – sef Cynnig MD1 – yn briodol ar gyfer y defnydd hwn am ei fod gerllaw Ystad Ddiwydiannol Llangefni, i ffwrdd o unrhyw eiddo preswyl a chanddo gysylltiadau trafnidiaeth da. Mae NCT 21 yn nodi mai’r lleoliadau mwyaf priodol ar gyfer safleoedd rheoli gwastraff yw lle y byddent yn cael yr effaith andwyol leiaf ar y boblogaeth leol a’r amgylchedd. Ystyrir bod y safle yn gyson ag arweiniad o’r fath. Mae’r gwrthwynebiad yn dadlau bod y safle mewn lleoliad diwydiannol o’r ansawdd gorau. Mae’r Cyngor yn amau’r datganiad hwn am fod y safle mewn lleoliad ymylol yn ne pellaf yr ystad ddiwydiannol. Ar ben hynny byddai datblygu Bryn Cefni fel tir diwydiannol yn cynnig lleoliad mwy nodedig ar gyfer datblygiadau diwydiannol. Mae’r gwrthwynebiad hefyd yn dadlau y dylid dyrannu’r tir dan sylw ar gyfer rhywfaint o ddefnydd at ddibenion twristiaeth yn ogystal â’r defnydd diwydiannol. Mae’r Cyngor o’r farn na fyddai fawr ddim potensial ar gyfer defnydd yn ymwneud â thwristiaeth am fod gwaith cemegau a ffatri trin dðr gwastraff yn ffinio â’r safle.

2.3 Mewn ymateb i wrthwynebiad 9/805, mae’r gwaith o fonitro safleoedd rheoli gwastraff yn swyddogaeth weithredol a gyflawnir gan y Cyngor wrth gyflawni ei gyfrifoldebau gorfodi cynllunio. Mae paragraffau 25 i 27 NCT9 yn mynnu bod safleoedd rheoli gwastraff yn cael eu monitro fel hyn a bod deialog barhaol rhwng y Cyngor a gweithredwyr safleoedd, fel y gellir datrys unrhyw broblemau sy’n codi trwy drafod a chydweithredu.

3.0 Materion

3.1 A yw’r polisi yn darparu’n ddigonol ar gyfer safle amwynder dinesig yng Nghaergybi.

3.2 A ddylid dyrannu Cynnig MD1 yn Llangefni fel safle amwynder dinesig yn unig.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 O ran y mater cyntaf, mae Polisi WP7 y cynllun a adneuwyd yn nodi y caniateir safle amwynder dinesig yng Nghaergybi ac mae PC140 yn cynnig y dylid nodi mai Cynnig MD2 Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 338 yw’r safle hwnnw. Dengys PC531 union leoliad safle amwynder dinesig arfaethedig ar Ystad Ddiwydiannol Penrhos, Caergybi, er ei fod yn cyfeirio at y Cynnig fel MD3. Rwyf o’r farn felly y byddai lleoli safle amwynder dinesig fel y dangosir ar PC531 yn ateb gwrthwynebiadau 52/180 a 61/1211. Fodd bynnag bydd angen i’r Cyngor sicrhau cysondeb yn y cynllun a fabwysiadwyd rhwng PC140 a PC531 mewn perthynas â’r safle hwn.

4.2 Nid yw’r Cyngor yn nodi a roddir y flaenoriaeth i’r safle arfaethedig yng Nghaergybi yn hytrach na’r dau safle arfaethedig arall. Fodd bynnag, am fod Polisi WP7 yn ymwneud yn y bôn â lle y caniateir safleoedd amwynder dinesig, nid wyf o’r farn bod angen i’r cynllun nodi trefn blaenoriaeth ar gyfer eu datblygu.

4.3 O ran yr ail fater, mae Cynnig MD1 ar safle bach ym mhen deheuol ystad ddiwydiannol bresennol Llangefni. Mae Polisi WP7 yn nodi y caniateir datblygu safle amwynder dinesig ar y tir hwn. Nid yw gwrthwynebiad 283/291 yn gwrthwynebu datblygu safle amwynder dinesig ar y tir hwn. Serch hynny nid yw’r gwrthwynebiad yn darparu unrhyw wybodaeth fanwl i nodi na fydd angen y cyfan o’r safle hwn at y diben hwn. Nid wyf o’r farn felly y byddai cyfiawnhad er lles y cyhoedd dros ddyrannu’r safle hwn ar gyfer datblygiadau busnes a thwristiaeth yn ogystal â datblygu safle amwynder dinesig.

4.4 O ran gwrthwynebiad 9/805, mae’r gwaith o reoli a monitro safleoedd rheoli gwastraff yn swyddogaeth weithredol ac nid yw’n fater y dylid manylu arno yn y Cynllun Datblygu Unedol.

5.0 Argymhellion

5.1 Y dylid diwygio Polisi WP1 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC140.

5.2 Y dylid diwygio Map Cynigion y cynllun a adneuwyd trwy gynnwys Cynigion MD2, MD3 ac MD4.

Polisi WP8 Tirlenwi neu Godi Tir Gwrthwynebiadau 10/112 – Mr A F Nixon 6/938 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9/1060 – Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru 76/1392 – Defence Estates 51/1467 – Cyfeillion y Ddaear Môn a Gwynedd Newid Arfaethedig 142 Newid Polisi WP8 Gwrthwrthwynebiad 51/2043 – Cyfeillion y Ddaear Môn a Gwynedd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau a’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Mae 10/112 yn awgrymu y dylid adfer un o fersiynau blaenorol y polisi a gynhwysai’r gofynion na ddylai’r datblygiad arfaethedig gael effaith niweidiol ar bobl a’r amgylchedd, ac y dylai rhwydwaith priffyrdd allu darparu ar gyfer y traffig a grëid gan unrhyw gynnig a gyflwynwyd o dan y polisi.

1.2 Mae 6/938 yn gofyn am eglurhad ar y term ‘ardal sefydlog’ ym maen prawf (iv) y cynllun.

Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 339

1.3 Mae 9/1060 yn awgrymu y dylid darparu ar gyfer monitro safleoedd tirlenwi a rheoli gwastraff ac y dylid adlewyrchu hynny yn y cyfiawnhad rhesymegol.

1.4 Mae 76/1392 yn nodi y byddai’n ddefnyddiol pe gellid ymestyn y cyfeiriad at ddatblygiadau telathrebu arfaethedig ym Mholisi EP14 i gynnwys safleoedd tirlenwi arfaethedig.

1.5 Mae 51/1467 yn awgrymu y dylid cynnwys maen prawf ychwanegol yn y polisi yn ymwneud â materion iechyd/effeithiau ar y gymuned leol. Mae gwrthwrthwynebiad 51/2043 yn nodi y byddai dileu maen prawf (iv) trwy PC142 fel y cynigir yn hyrwyddo datblygu safleoedd tirlenwi newydd, yn groes i Strategaeth Wastraff Cymru. Ni ddylid dileu’r maen prawf hwn felly.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mewn ymateb i wrthwynebiad 10/112 ymdrinnir â’r newidiadau a geisir ym Mholisi GP1, sy’n datgan y caniateir datblygiadau pan fodlonir meini prawf penodedig. Mae’r rhain yn cynnwys y materion a godir yn y gwrthwynebiad hwn.

2.2 O ran gwrthwynebiad 6/938, byddai PC142 yn gwneud y polisi yn gliriach trwy ddileu maen prawf (iv) ac felly byddai’n goresgyn y gwrthwynebiad hwn.

2.3 O ran gwrthwynebiad 9/1060, mae’r gwaith o fonitro safleoedd rheoli gwastraff yn swyddogaeth weithredol a gyflawnir gan y Cyngor wrth gyflawni ei gyfrifoldebau gorfodi cynllunio. Mae paragraffau 25 i 27 NCT9 yn mynnu bod safleoedd rheoli gwastraff yn cael eu monitro fel hyn a bod deialog barhaol rhwng y Cyngor a gweithredwyr safleoedd, fel y gellir datrys unrhyw broblemau sy’n codi trwy drafod a chydweithredu.

2.4 Mewn ymateb i wrthwynebiad 76/1392 ceisiodd y Cyngor osgoi drafftio polisïau rhy gymhleth i’w cynnwys yn y cynllun er mwyn sicrhau eglurder. Felly, drafftiwyd polisïau unigol ar gyfer pob mater ar wahân y mae angen i’r cynllun ymdrin ag ef. Mae Polisïau WP2 a WP8 yn ymdrin â gwaredu gwastraff.

2.5 O ran gwrthwynebiad 51/1467, mae’r Cyngor o’r farn bod y gwrthwynebiad hwn yn ddefnyddiol am ei fod yn tynnu sylw at fwlch yn fframwaith polisïau’r cynllun mewn perthynas ag asesu’r effaith ar iechyd. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn cyfeirio at y ffaith bod materion iechyd yn ymwneud â datblygiadau yn ystyriaeth berthnasol. Fodd bynnag mae’r Cyngor o’r farn ei bod yn well llenwi’r bwlch hwn yn y fframwaith polisi rywle arall yn y cynllun, ac nid mewn perthynas â Pholisi WP8 yn unig. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi ym mharagraff 2.3.2 y dylai’r cynllun gyfrannu at ddiogelu a, lle bynnag y bodd modd, at wella iechyd a lles pobl fel elfen graidd o ddatblygu cynaliadwy, gan ystyried effeithiau posibl datblygiadau – yn gadarnhaol a/neu’n negyddol – ar iechyd pobl.

2.6 Dylid gosod polisi newydd felly ym Mhennod 17 – Seilwaith a Gweithredu – yn ymdrin â’r mater hwn:

Polisi SG 11 – Effeithiau Datblygiadau ar Iechyd

Ni chaniateir datblygiadau sy’n cael effaith annerbyniol ar iechyd cymunedau lleol.

Cyfiawnhad Rhesymegol Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 340

Mae iechyd yn elfen bwysig o les y gymuned a chydnabyddir y gall datblygiadau sy’n dod o dan reolaeth y system gynllunio gael effeithiau cadarnhaol a/neu negyddol ar iechyd y cyhoedd. Ceisir cyngor gan gyrff priodol o ran materion iechyd i lywio’r broses o ystyried ceisiadau cynllunio perthnasol. Bydd hyn yn caniatáu i’r Cynllun Datblygu Unedol gyfrannu at strategaeth iechyd a lles Llywodraeth Cynulliad Cymru”.

2.7 O ran gwrthwrthwynebiad 51/2043, ni fyddai dileu maen prawf (iv) trwy PC142 yn gwanhau’r polisi o ran cyflawni amcanion Strategaeth Wastraff Cymru.

3.0 Materion

3.1 A oes angen diwygio’r polisi hwn mewn ymateb i unrhyw un o’r gwrthwynebiadau hyn.

3.2 A ddylid newid y polisi a adneuwyd yn unol â PC142.

3.3 A oes angen polisi newydd i fynd i’r afael ag effaith datblygiadau ar iechyd.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 O ran gwrthwynebiad 10/112, rwy’n fodlon bod Polisi GP1 yn darparu digon o sail ar gyfer asesu’r effaith a gaiff unrhyw gynigion ar gyfer tirlenwi neu godi tir ar bobl, yr amgylchedd a’r rhwydwaith priffyrdd.

4.2 Fel y’u geiriwyd, mae gofynion Polisi WP8 mor llym fel y byddai’n rhaid i unrhyw gynllun tirlenwi neu godi tir newydd, neu unrhyw estyniad i gynlluniau sy’n bodoli eisoes, fodloni pob un o dri maen prawf Polisi WP8 a byddai’n rhaid iddo fod mewn ardal sefydledig sy’n addas ar gyfer y datblygiad. Rwyf o’r farn y byddai’r gofynion hyn mor feichus fel na ellid caniatáu unrhyw gynllun o dan y polisi hwn. Mewn ymateb i wrthwynebiad 6/938, mae PC142 yn cynnig y dylid dileu maen prawf (iv). Rwy’n cytuno â’r dilead hwn.

4.3 Nid yw gwrthwrthwynebiad 51/2043 yn nodi lle y mae Strategaeth Wastraff Cymru yn nodi na ddylai fod unrhyw gynlluniau tirlenwi na chodi tir newydd. Nid yw Adran 12.6 Polisi Cynllunio Cymru sy’n ymdrin â Chynlluniau Datblygu Unedol a chynllunio gwastraff yn cynnwys unrhyw waharddiad o’r fath, ac nid yw paragraffau 4.11-12 NCT 21 sy’n ymdrin yn benodol â thirlenwi yn cynnwys un ychwaith.

4.4 O ran Polisi SG11 arfaethedig a gynigir gan y Cyngor mewn ymateb i wrthwynebiad 51/1467, mae paragraff 2.3.1 Polisi Cynllunio Cymru yn mynnu bod Cynlluniau Datblygu Unedol yn cynnwys polisïau penodol ar yr amcanion cyffredinol a nodir ym mharagraff b 2.3.2, y mae’r olaf ohonynt yn ymwneud ag iechyd a lles pobl. Nodaf fod Polisi SG1 y cynllun a adneuwyd a’i faen prawf (vi) (ac fel y’i newidiwyd o dan PC28) yn ymdrin yn gyffredinol â’r mater hwn. Rwyf hefyd yn ymwybodol o reolaethau o ran y materion hyn o dan ddeddfwriaeth arall d.s. Iechyd a Diogelwch, a bod angen osgoi dyblygu rheolaethau yn ddiangen. Yn seiliedig ar y dystiolaeth ger fy mron, ni’m darbwyllwyd bod angen Polisi Arfaethedig SG11.

4.5 O ran gwrthwynebiad 9/1060, mae’r gwaith o reoli a monitro safleoedd rheoli gwastraff yn swyddogaeth weithredol ac nid yw’n fater y dylid manylu arno yn y Cynllun Datblygu Unedol. Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 341

5.0 Argymhellion

5.1 Y dylid diwygio polisi WP8 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC142.

5.2 Na ddylid gwneud unrhyw ddiwygiad arall i’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Polisi WP10 Dðr Gwastraff Gwrthwynebiadau 8/356 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig 6/939 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru 35/1324 Cyngor Cefn Gwlad Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae 8/356 am weld cyfeiriadau at gefnogi defnyddio corsleoedd i drin carthion a dðr gwastraff arall.

1.2 Mae 6/939 yn awgrymu y dylid defnyddio ‘neu’ nid ‘a’ i gysylltu meini prawf (ii) â (iv) am y byddai’r olaf yn orgyfyngol.

1.3 Mae 35/1324 yn awgrymu y dylid ychwanegu maen prawf at y polisi i sicrhau na fydd unrhyw gynnig ar gyfer datblygiad yn cael effaith niweidiol ar faterion amgylcheddol.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 O ran gwrthwynebiad 8/356, byddai PC144 ym mharagraff 15.69 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn, a dynnir yn ôl yn amodol.

2.2 Mewn ymateb i wrthwynebiad 6/939, byddai PC143 yn newid y polisi fel yr awgrymir yn y gwrthwynebiad hwn, a dynnir yn ôl yn amodol hefyd.

2.3 Mae Polisi GP1 (ac fel y’i newidiwyd o dan PC28) yn ymdrin â’r materion a godir yn y gwrthwynebiad hwn, sef gwrthwynebiad 35/1324.

3.0 Mater

3.1 A oes angen diwygio’r polisi hwn mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 O ran gwrthwynebiad 8/356, rwyf o’r farn y byddai diwygio paragraff 15.69 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC144 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn.

4.2 O ran gwrthwynebiad 6/939, pe bai’n rhaid bodloni’r holl feini prawf ym Mholisi WP10 er mwyn caniatáu cynigion yn ymwneud â dðr gwastraff, byddai hynny’n brawf beichus iawn. Byddai PC143 yn golygu ym mhob achos y byddai angen bodloni maen prawf (i) ond ar yr amod bod cynnig yn cydymffurfio ag o leiaf un o feini prawf (ii) i (iv), fe’i caniateid o dan y polisi hwn. Rwyf o’r farn felly y byddai PC143 yn gwneud y polisi yn llawer llai beichus. Pennod 15 – Mwynau A Gwastraff 342

4.3 O ran gwrthwynebiad 35/1324, rwy’n fodlon y byddai Polisi GP1 (ac fel y’i newidiwyd o dan PC28) yn darparu ar gyfer rhoi digon o sylw i’r materion amgylcheddol y cyfeirir atynt yn y gwrthwynebiad hwn heb yr angen i bolisi WP10 gynnwys maen prawf yn ymdrin â materion o’r fath.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio Polisi WP10 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC143.

5.2 Y dylid diwygio paragraff 15.69 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC144.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 342

Pennod 16 : Tai a Phoblogaeth

Y Bennod Gyfan Gwrthwynebiad 49/482 – Cyfeillion y Ddaear Môn a Gwynedd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid dileu’r bennod hon o’r cynllun a’i hailysgrifennu yn seiliedig ar ymchwil ystyrlon a thrylwyr i anghenion cymunedau Ynys Môn.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nid yw’r Cyngor o’r farn bod angen gwneud rhagor o ymchwil ar hyn o bryd. Sut bynnag, nid yw’r gwrthwynebiad yn awgrymu unrhyw newid penodol yn y bennod.

2.2 Mae’r bennod yn cydymffurfio ag arweiniad ym Mholisi Cynllunio Cymru. O ran strategaeth aneddiadau cynaliadwy, mae’r arweiniad hwnnw yn nodi y dylid mabwysiadu ymagwedd hierarchaidd tuag at ddatblygiadau tai ac y disgwylir i aneddiadau y mae’n gymharol hawdd eu cyrraedd trwy ddulliau teithio ac eithrio’r car gael y mwyafrif o ddatblygiadau newydd (paragraff 2.5.6). Mae paragraff 2.5.7 yn nodi y gall fod yn dderbyniol mewnlenwi aneddiadau sy’n bodoli eisoes neu eu hymestyn rywfaint. Mae paragraff 9.2.18 yn nodi bod gan lawer o rannau o gefn gwlad grwpiau ar wahân o anheddau ac y gall fod yn dderbyniol llenwi bylchau bach yn sensitif, neu ymestyn grwpiau o’r fath rywfaint.

2.3 Disgwylir i aneddiadau a nodwyd o dan bolisi HP3 (fel y’i diwygiwyd gan PC151) ddarparu tai yn unol â Pholisi Cynllunio Cymru am mai dyma’r aneddiadau y mae’n gymharol hawdd eu cyrraedd trwy ddulliau teithio ac eithrio’r car. Disgwylir i aneddiadau a nodwyd o dan bolisi HP4 (fel y’i diwygiwyd gan PC153) ddarparu tai yn unol â pharagraff 2.5.7 Polisi Cynllunio Cymru. Yn y mwyafrif o aneddiadau nodwyd dyraniad. Oherwydd maint y gwaith datblygu a ddisgwylir yn y pentrefi hyn mae’n ddigon posibl y bydd cais am fwy nag un annedd yn dderbyniol; mae’n rhaid i’r datblygiad hwn ddigwydd o fewn ffin ddatblygu’r anheddiad.

2.4 Mae natur yr aneddiadau a nodwyd o dan bolisi HP5 (fel y’i diwygiwyd gan PC156) yn adlewyrchu paragraff 9.2.18 Polisi Cynllunio Cymru. O fewn yr aneddiadau hyn caniateir anheddau unigol ar safleoedd ‘mewnlenwi’, neu safleoedd derbyniol eraill a leolir gerllaw rhan ddatblygedig y pentrefan neu’r clwstwr gwledig. Mae Polisi HP6 yn addas o gyfyngol ac fe’i hategir gan Bolisi Cynllunio Cymru sy’n nodi “Dylid rheoli’n llym y gwaith o adeiladu tai newydd a datblygiadau newydd eraill yng nghefn gwlad agored, i ffwrdd o aneddiadau sefydledig. Mae angen cyfiawnhad arbennig dros dai newydd ar wahân yng nghefn gwlad agored, er enghraifft lle y maent yn hanfodol i alluogi gweithwyr fferm neu goedwigaeth i fyw yn eu gweithle neu’n agos ato os nad oes unrhyw lety gerllaw.”

3.0 Mater

3.1 A ddylid dileu’r bennod a’i hailysgrifennu yn unol â’r gwrthwynebiad hwn.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 343

4.1 Nid yw’r gwrthwynebiad hwn yn rhoi unrhyw fanylion penodol o ran pam yr ystyrir nad yw’r bennod yn ystyrlon nac yn seiliedig ar ymchwil drylwyr i anghenion cymunedau Ynys Môn. Ar ben hynny, ni ddarperir unrhyw fanylion am ba wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen nac am ba ymchwil ychwanegol y dylid ei gwneud, ar ben y gwaith a wnaed gan y Cyngor eisoes. Mae’r hierarchaeth anheddiad 4-haen a gynigir ym mholisïau HP3 i HP5 y cynllun a adneuwyd at ei gilydd yn unol â pholisi cenedlaethol yn adran 2.5 Polisi Cynllunio Cymru. Nid oes unrhyw reswm clir dros ddileu nac ailysgrifennu’r bennod hon.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Pennod 16 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Y Bennod Gyfan Gwrthwynebiad 31/1165 – Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae angen rhagor o bolisïau i ymdrin â datblygiadau cyntedd, fflatiau, terasau, iardiau, strydoedd pengaead a dwysedd uwch.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Ymdrinnir â materion dwysedd o dan bolisi HP2. Byddai datblygu terasau, iardiau, cynteddau a strydoedd pengaead yn fater o gynllunio ar lefel y cais ond nid yw’n fwriad gan y cynllun nodi’r mathau hyn o ddatblygiadau o fewn y dyraniadau. Ymdrinnir â fflatiau yn yr un modd â datblygiadau tai ac nid oes angen polisi ar wahân.

3.0 Mater

3.1 A oes angen polisïau ychwanegol fel yr awgrymir.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae Polisi HP2 yn ymdrin â dwysedd tai. Mae’r materion eraill a godir gan y gwrthwynebydd i gyd yn faterion penodol y dylid ymdrin â hwy pan gyflwynir y cais. Mae PC149 ym mharagraff 16.32 yn cynnig y dylid ychwanegu geiriau i nodi bod y Cyngor am weld cymysgedd o ddatblygiadau. Nid oes angen unrhyw ddiwygiadau eraill mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio paragraff 16.32 trwy PC149 ac na ddylid gwneud unrhyw ddiwygiad arall i Bennod 16 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Y Bennod Gyfan Gwrthwynebiad 51/1471 – Cyfeillion y Ddaear Môn a Gwynedd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 344

1.1 Er nad yw’n gofyn am unrhyw newid penodol, mae 51/1471 o’r farn bod angen polisi ar ddatblygiadau cyfran-rannu, a chyfyngiadau arnynt mewn ardaloedd lle na chaniateid adeiladu unrhyw ddatblygiadau preswyl fel arfer.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Ymdrinnir â datblygiadau llety gwyliau rhan amser o dan Bolisi TO2. Mae’r polisi hwn yn hyrwyddo llety gwyliau o safon tra bod unrhyw gynnig yn gorfod cydymffurfio â pholisïau eraill yn y cynllun.

3.0 Casgliadau’r Arolygydd

3.1 Ymdrinnir â llety gwyliau o safon trwy ddarpariaethau Polisi TO2. Byddai ceisiadau am ddatblygiadau o’r fath hefyd yn ddarostyngedig i bolisïau eraill y cynllun. Nid yw trefniadau llety gwyliau rhan amser yn fater yn ymwneud â defnydd tir. Nid oes angen unrhyw bolisi ychwanegol.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio Pennod 16 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Y Bennod Gyfan Gwrthwynebiad 37/1388 – Cymdeithas y Tirfeddianwyr Cefn Gwlad Cangen Caernarfon ac Ynys Môn

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae angen dau bolisi ychwanegol o fewn yr adran hon yn ymwneud ag Amodau Deiliadaeth ar Anheddau: i. Amodau Deiliadaeth Ynys Môn – O ganlyniad i’r gwaith sydd wrthi’n cael ei wneud i ailstrwythuro’r diwydiant ni fydd angen nifer o eiddo sy’n ddarostyngedig i’r amodau hyn bellach ar y daliad unigol nac ar yr ardal ychwaith. Dylai’r Cyngor edrych yn ffafriol ar geisiadau dilys am ddileu deiliadaethau yn yr achos hwn Mewn achosion eraill caiff unedau fferm eu cyfuno a all arwain at yr angen am annedd ar y safle. Unwaith eto dylai’r Cyngor edrych yn ffafriol ar geisiadau dilys. Bydd Cymdeithas y Tirfeddianwyr Cefn Gwlad yn gwrthsefyll yn gryf osod cyfyngiadau ar anheddau eraill sy’n eiddo i’r un perchennog am y gall cyfyngiadau o’r fath leihau gwerth eiddo gryn dipyn gan leihau o bosibl yr ecwiti sydd ar gael i’r busnes. ii. Deiliadaeth Busnes Gwledig – Wrth i fusnesau amaethyddol arallgyfeirio a busnesau eraill nad ydynt yn gysylltiedig ag amaethyddiaeth ymsefydlu yn yr ardal wledig, efallai y crëir yr angen am dai ar y safle hefyd i ddarparu ar gyfer rheoli’r busnes a sicrhau ei ddiogelwch. Mae angen ymdrin â’r mater hwn yn y cynllun.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae paragraff 56 NCT6 yn nodi y gall newidiadau i natur meysydd ffermio a choedwigaeth effeithio ar yr angen hirdymor am anheddau a ganiatawyd yn ddarostyngedig i Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 345 amod deiliadaeth. Ni ddylid cadw anheddau o’r fath yn wag; dylid ystyried ceisiadau am ddileu amodau’r ddeiliadaeth yn seiliedig ar asesiadau realistig o’r angen amdanynt mewn ardal yn ei chyfanrwydd ac nid dim ond ar y daliad penodol sy’n berthnasol. Er mwyn dileu amod cyfyngu amaethyddol o annedd, mae’n rhaid i’r ceisydd fodloni’r awdurdod cynllunio lleol bod ymdrech wedi’i gwneud i hysbysebu’r eiddo am gyfnod digon hir i nodi nad oes angen i’r annedd barhau i fod yn annedd ar gyfer gweithwyr amaethyddol / coedwigaeth bellach. Mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn gwerthuso a yw’n werth cadw’r amod ai peidio ac ymdrinnir â’r cais dilynol. Ymdrinnir â phob cais yn ôl ei deilyngdod ei hun ac mae llawer o ffactorau yn dylanwadu ar y penderfyniad ynghylch a ddylid dileu amod o’r fath ai peidio. Ni fyddai’n briodol i’r cynllun gynnwys polisi sy’n hyrwyddo dileu amodau amaethyddol.

2.2 O ran busnesau gwledig, mae paragraff 7.3.3 Polisi Cynllunio Cymru yn caniatáu darparu adeiladau newydd ar fferm weithredol. Mae paragraff 9.2.18 yn nodi bod yn rhaid rheoli cartrefi newydd yng nghefn gwlad yn llym, tra bod paragraff 9.3.7 yn nodi mai dim ond anheddau amaethyddol neu goedwigaeth a gefnogir. Mae’r cynllun yn nodi’r angen am anheddau rheolwyr carafanau ond nid yw’n cynnwys unrhyw angen arall yn gysylltiedig â chyflogaeth.

3.0 Mater

3.1 A oes angen dau bolisi newydd fel yr awgrymir gan y gwrthwynebydd.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae rhagdybiaeth o hyd yn erbyn dileu amodau deiliadaeth ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol iawn. Nid yw’r Cyngor o’r farn y byddai nifer debygol cynigion o’r fath yn cyfiawnhau cynnwys polisi yn y cynllun. Mae’r wybodaeth yn NCT6 yn eithaf clir ac nid oes angen ailadrodd yr arweiniad hwn yn y cynllun.

4.2 Mae Polisi Cynllunio Cymru a’r cynllun mewn polisïau megis EP4 ac EP5, yn darparu digon o arweiniad ar fater busnes gwledig. Caiff pob cais ar gyfer busnesau gwledig ac anheddau cysylltiedig ei bwyso a’i fesur yn ôl ei deilyngdod yn erbyn polisïau yn y cynllun. Nid oes angen polisi newydd ac nid yw’n ddymunol ychwaith.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Pennod 16 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Y Bennod Gyfan Amrywiol Gwrthwynebiadau 33/1081, 1082, 1085 a 1079 – Gwerth Gorau’r DU

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiad 33/1079 yn nodi bod y cynllun yn rhy gymhleth, yn ddiangen ac yn llawn rhethreg. Mae Gwrthwynebiad 33/1081 yn awgrymu y dylid newid y cynllun cyfan ac ymgynghori â phobl. Mae Gwrthwynebiad 33/1082 yn nodi bod y cynllun yn cyfyngu ar gystadleuaeth rhwng perchenogion tir. Mae Gwrthwynebiad 33/1085 yn nodi na fydd y cynllun yn darparu tai fforddiadwy ond yn lle hynny y bydd yn cynyddu prisiau tai.

2.0 Ymateb y Cyngor Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 346

2.1 Mae’n anochel bod y cynllun yn ddogfen broffesiynol a thechnegol sydd ei hangen i ddarparu strategaeth gyffredinol ac arweiniad manwl ar gyfer rheoli datblygu. Mae paragraff 2.25 arweiniad Llywodraeth Cynulliad Cymru (Chwef 2001) yn awgrymu y dylai’r Cyngor lunio fersiwn poblogaidd a rhad i’w ddefnyddio gan y cyhoedd. Byddai’r Cyngor yn tueddu i lunio dogfen o’r fath ar ôl i’r cynllun gael ei fabwysiadu.

2.2 Mewn ymateb i 33/1081 paratowyd y cynllun yn unol ag arweiniad cenedlaethol ac mae’r dogfennau cefndirol yn cynnwys datganiad ar yr ymgynghori a fu cyn i’r cynllun gael ei adneuo. Mae hyn yn fwy na digon at ddibenion y cynllun.

2.3 Mae Gwrthwynebiadau 33/1082 a 33/1085 yn awgrymu y dylai’r polisïau tai fod yn seiliedig ar ymagwedd lawer mwy rhyddfrydig tuag at ddatblygiadau tai am y bydd rhai canlyniadau yn deillio o’r ymagwedd yn y fersiwn ar adranau o’r cynllun. Nid yw hyn yn dderbyniol am fod angen i’r cynllun sicrhau cydbwysedd rhwng diwallu anghenion gwahanol fathau o ddatblygiadau ar yr Ynys a’r rheolaethau priodol ar batrymau datblygu yn y dyfodol. Mae’r cynllun yn mabwysiadu egwyddorion a dderbynnir yn gyffredinol, sef egwyddorion hierarchaeth aneddiadau, ffiniau datblygu a thir a ddyrannwyd at ddibenion ei ddatblygu yn y dyfodol.

3.0 Materion

3.1 A oes angen diwygio’r cynllun mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Er gwaethaf fy argymhellion manylach, deuthum i’r casgliad eisoes fod geiriad y cynllun a adneuwyd at ei gilydd yn ddigon clir i’w ddiben. Ar ben hynny rwy’n cefnogi bwriad y Cyngor i lunio fersiwn poblogaidd a rhad o’r cynllun. Nid oes unrhyw dystiolaeth ger fy mron i ddangos na ddilynodd y Cyngor bob un o gamau statudol y broses ymgynghori â’r cyhoedd.

4.2 Mae llawer o sylwedd y gwrthwynebiadau hyn yn ymwneud â rhyddhau tir ar gyfer tai newydd mewn pentrefi, ac mewn ardaloedd gwledig llai adeiledig. O ran pentrefi, mae Polisi HP4 yn dyrannu tir ynddynt ar gyfer tai pwrpas cyffredinol ond mae Polisi HP7 yn ceisio sicrhau bod rhai tai fforddiadwy ar safleoedd o’r fath ac mae hefyd yn darparu ar gyfer tai fforddiadwy ar safleoedd eraill fel achosion eithriadol. Mae’r ymagwedd hon yn unol â’r cyngor ym mharagraffau 9.2.8-18 Polisi Cynllunio Cymru. Ar ben hynny byddai Polisi HP5 yn caniatáu tai newydd mewn pentrefannau a chlystyrau gwledig. Nid wyf o’r farn felly fod y cynllun yn methu â darparu digon o dir ar gyfer tai mewn ardaloedd gwledig.

4.3 Mae’n debyg y byddai’r ymagwedd arall a argymhellir yn y gwrthwynebiadau hyn yn arwain at ormod o dai sy’n ddibynnol ar y car, ac sydd felly yn anghynaliadwy, yn cael eu hadeiladu mewn ardaloedd gwledig, a fyddai hefyd yn amharu ar olwg cefn gwlad. Nid oes unrhyw dystiolaeth benodol ger fy mron i ddangos bod tir a ddyrannwyd yn annhebygol o gael ei ddatblygu. Ymdriniaf â mater penodol tai fforddiadwy yn yr adroddiad hwn.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Pennod 16 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r un o’r gwrthwynebiadau hyn.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 347

Pennod 16 Y Cynllun Datblygu Unedol Cyfan Gwrthwynebiad 33/1083 – Gwerth Gorau’r DU

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Am nad oes "unrhyw ddarpariaeth fforddiadwy ddigonol" dylid newid y cynllun gan ymgynghori ymhellach â’r cyhoedd.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Paratowyd y cynllun yn unol ag arweiniad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae wedi cynnwys ymgynghori â’r cyhoedd. Mae’r polisïau ar dai fforddiadwy yn unol â Pholisi Cynllunio Cymru.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Mae Polisi HP7 yn darparu ar gyfer tai fforddiadwy mewn ymateb i’r angen am dai. Eir i’r afael â gwrthwynebiadau manwl yn ymwneud â Pholisi HP7 yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio Pennod 16 na Pholisi HP7 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Y Bennod Gyfan Gwrthwynebiad 36/332 Asiantaeth yr Amgylchedd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid diwygio’r bennod i gyfeirio at y Galw am Ddðr.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Ymdrinnir â’r galw am ddðr ac adnoddau dðr ym Mholisi GP1 a Phennod 17 – Seilwaith a Gweithredu. Mae’r Cyngor o’r farn nad oes angen cyfeirio at y mater hwn eto ym Mhennod 16 – Tai a Phoblogaeth.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Mae’r galw am ddðr yn debygol o effeithio ar lawer o fathau o ddatblygiadau. Mae’n briodol yr ymdrinnir â’r mater hwn trwy Bolisi GP1 ynghyd â pholisïau eraill ym Mhennod 17. Dylid darllen y cynllun yn ei gyfanrwydd a dylid osgoi unrhyw ddyblygu diangen.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio Pennod 16 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 348

Y Bennod Gyfan Rhai Polisïau heb eu Cynnwys o fewn y Cynllun Gwrthwynebiadau 46/430, 46/964, 46/965, 46/966, 46/968, a 165/967 – Undeb Amaethwyr Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae 46/430 yn nodi bod y cynllun yn rhy anhyblyg ac nad yw’n ystyried yr angen am dai ar gyfer parau ifanc yn y cymunedau lle y maent yn byw. Fel arfer ni all pobl leol sy’n gweithio mewn swyddi ar Ynys Môn fforddio eiddo o’r stoc tai sydd ar gael. Dylid caniatáu datblygiadau mewn achosion o angen lleol trigolion hirdymor y tu allan i’r ffin ddatblygu a nodir yn y cynllun drafft. Mae 46/965 yn nodi bod yr un sefyllfa yn berthnasol i gartrefi ymddeol ar gyfer pobl leol ac yn enwedig ffermwyr-denantiaid.

1.2 Mae 46/966 yn nodi bod problemau mawr wedi codi wrth ddileu amodau amaethyddol pan nad oes eu hangen yn lleol bellach.

1.3 Mae 46/964 yn nodi, os na chaiff cartrefi eu datblygu ar gyfer pobl ifanc, fod perygl na chaiff plant eu magu yn eu cymuned eu hunain ac na fyddant yn mynd i’r ysgol yno. Oherwydd hynny mae’n anochel y bydd ysgolion yn cau ynghyd â gwasanaethau gwledig eraill – siopau, swyddfeydd post ac ati. Mae angen tai ychwanegol ar rai cymunedau gwledig ar frys ond ni chynhwysir unrhyw ddarpariaeth yn y cynllun. Mae 165/967 yn nodi bod Moelfre yn enghraifft o gymuned wledig y mae angen tai ychwanegol arni ar frys.

1.4 Mae 46/968 yn nodi oherwydd natur gyfyngol maes cynllunio a’r dirywiad pendant yn ein cymunedau nad ydynt o blaid y pwerau dirprwyedig a roddir i swyddogion, ac ar ben hynny maent o’r farn y dylid cyfyngu’r bobl sy’n symud i dai cymdeithasol (Cyngor neu Gymdeithas Dai) i’r rhai dros 50 oed fel sy’n digwydd mewn rhannau o Loegr.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae paragraff 9.2.18 Polisi Cynllunio Cymru, sy’n ymdrin â thai mewn ardaloedd gwledig, yn nodi y dylai tai newydd yng nghefn gwlad i ffwrdd o aneddiadau sy’n bodoli eisoes ac sydd wedi’u diffinio mewn Cynlluniau Datblygu Unedol, neu o ardaloedd eraill a ddyrannwyd at ddibenion eu datblygu, gael eu rheoli yn llym. Yr unig ddatblygiadau tai y gellid eu cefnogi y tu allan i’r ffiniau datblygu ac fel eithriadau i Bolisi HP5 (fel y’i diwygiwyd gan PC156) fyddai ar gyfer codi anheddau amaethyddol neu goedwigaeth (byddai’n rhaid bodloni prawf swyddogaethol ac ariannol) neu fel safle eithriad gwledig o dan Bolisi HP7 fel y’i diwygiwyd trwy PC161 (mae’n rhaid cyfiawnhau ceisiadau o’r fath a’u lleoli yn agos at bentrefi sy’n bodoli eisoes). Mae’r cynllun hefyd yn cynnig polisi ar anheddau rheolwyr safleoedd carafanau (Polisi TO7). Mae’n amlwg o Arweiniad Polisi Cynllunio Cenedlaethol felly y dylid rheoli’n llym anheddau newydd yng nghefn gwlad agored y tu allan i ffiniau datblygu / grwpiau o anheddau ar eu pen eu hunain. Mae’r strategaeth aneddiadau yn y cynllun yn unol â’r arweiniad hwn.

2.2 Mae paragraff 9.3.6 Polisi Cynllunio Cymru yn nodi na all anghenion amaethyddol gyfiawnhau darparu anheddau newydd fel cartrefi ymddeol i ffermwyr. Dyma’r safbwynt a arddelir ym mholisi HP6 sy’n darparu ar gyfer llety i weithwyr amaethyddol/coedwigaeth, ond dim ond pan ellir dangos bod angen gweithiwr llawn amser.

2.3 Mae paragraff 56 NCT6 yn nodi y gall newidiadau ym meysydd ffermio a choedwigaeth effeithio ar yr angen hirdymor am anheddau a ganiatawyd ond sy’n Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 349 ddarostyngedig i amod deiliadaeth. Ni ddylid cadw anheddau o’r fath yn wag a dylid ystyried ceisiadau am ddileu amodau’r ddeiliadaeth yn seiliedig ar asesiadau realistig o’r angen amdanynt mewn ardal yn ei chyfanrwydd ac nid dim ond ar y daliad penodol sy’n berthnasol. Er mwyn dileu amod amaethyddol o annedd, mae’n rhaid i’r ceisydd fodloni’r awdurdod cynllunio lleol bod ymdrech wedi’i gwneud i hysbysebu’r eiddo am gyfnod digon hir i nodi nad oes angen bellach i’r annedd barhau i fod yn annedd ar gyfer gweithwyr amaethyddol / coedwigaeth. Gwneir gwerthusiad o b’un a yw’n werth cadw’r amod ai peidio. Mae llawer o ffactorau yn dylanwadu ar y penderfyniad ynghylch a ddylid dileu amod o’r fath ai peidio. Ni fyddai’n briodol i’r cynllun gynnwys polisi sy’n hyrwyddo dileu amodau amaethyddol.

2.4 Mae paragraff 2.5.7 Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y gall fod yn dderbyniol mewnlenwi aneddiadau sy’n bodoli eisoes neu eu hymestyn rywfaint. Disgwylir i aneddiadau a nodwyd o dan bolisi HP4 (fel y’i diwygiwyd gan PC153) ddarparu tai yn unol â Pholisi Cynllunio Cymru am fod dyraniad wedi’i nodi yn y mwyafrif o aneddiadau. Gall hyn gynnwys estyniad bach neu hap-safle o fewn y ffin. Oherwydd graddfa’r gwaith datblygu a ddisgwylir yn y pentrefi hyn mae’n ddigon posibl y bydd cais am fwy nag un annedd yn dderbyniol, fodd bynnag yn unol â’r polisi mae’n rhaid i’r datblygiad hwn ddigwydd o fewn ffin ddatblygu’r anheddiad. Yn unol â’r uchod o dan Newid Arfaethedig PC559, mae safle wedi’i ddyrannu o fewn anheddiad Moelfre i ddarparu ar gyfer 5 uned o fewn yr anheddiad.

2.5 Nid yw mater pwerau dirprwyedig yn ymwneud â defnydd tir ac felly ni ellir ei dderbyn fel rhan o’r gwrthwynebiadau a wnaed yn briodol i’r cynllun.

3.0 Mater

3.1 A oes angen diwygio’r cynllun yn unol ag unrhyw un o’r gwrthwynebiadau hyn.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Byrdwn y gwrthwynebiadau hyn yw nad yw’r cynllun yn darparu’n ddigonol ar gyfer tai ar gyfer pobl leol mewn ardaloedd gwledig. Mae’r cynllun yn darparu ar gyfer tai newydd mewn cryn nifer o bentrefi, ac mewn pentrefannau a chlystyrau yn unol â Pholisïau HP4 a HP5 yn y drefn honno, ac mae hefyd yn darparu ar gyfer tai fforddiadwy fel eithriadau ym Mholisi HP7, rwyf o’r farn bod hyn yn ddigonol. Nodaf hefyd fod PC559 yn cynnig y dylid dyrannu safle ar gyfer 5 annedd newydd ym Moelfre.

4.2 Gall fod cyfiawnhad dros dai fforddiadwy ar safleoedd eithriad gwledig ar gyfer pobl y mae angen tai lleol arnynt. Yn yr un modd ni ellir cyfyngu deiliadaeth tai’r farchnad gyffredinol i bobl leol, sut bynnag y diffinnir y term hwn.

4.3 Nid oes unrhyw dystiolaeth ger fy mron o ran faint yn rhagor o dai newydd fyddai eu hangen mewn unrhyw anheddiad gwledig penodol yn ychwanegol at y tai y darperir ar eu cyfer yn y cynllun er mwyn diogelu cyfleusterau lleol. Ni fyddai unrhyw gyfiawnhad felly dros fabwysiadu ymagwedd benagored tuag at ryddhau tir ar gyfer tai mewn ardaloedd gwledig yn y gobaith y byddai ysgol neu siop benodol neu ryw gyfleuster arall yn aros ar agor.

4.4 Mae Polisi HP6 ar anheddau newydd yng nghefn gwlad agored yn unol â pharagraff 9.3.6 Polisi Cynllunio Cymru a pharagraffau 40-58 NCT 6. Mae materion yn ymwneud ag amodau deiliadaeth amaethyddol ac anheddau ymddeol i ffermwyr hefyd yn gyson ag arweiniad cenedlaethol. Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 350

4.5 Mae mater pwerau dirprwyedig i swyddogion yn fater gweinyddol. Ni fyddai’n briodol felly i’r cynllun ymdrin ag ef.

4.6 Fe’i nodir yn PC149 fod y Cyngor yn chwilio am gymysgedd o ddatblygiadau. Mae Polisi HP7 yn ymdrin â darparu tai fforddiadwy ar yr Ynys. O ddarllen y cynllun yn ei gyfanrwydd, ond yn benodol y polisïau tai, rwyf o’r farn bod y cynllun yn mynd i’r afael â’r pryderon a godir yn y gwrthwynebiadau yn ddigon da.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Pennod 16 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r un o’r gwrthwynebiadau hyn.

Paragraffau 16.3, 16.18 ac 16.19 Gwrthwynebiadau 20/1262, 1331 a 1332 - Looms Brothers

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae’r ffigur o 1,800 o anheddau yn is na’r ffigur o 2,200 a nodir yn yr arweiniad rhanbarthol. Pe bai ymresymu’r Cyngor yn cael ei ymestyn i’r mwyafrif o gymunedau yng Nghymru yn ddiau byddai’r ddarpariaeth tai yn gyffredinol yn annigonol. Dylai’r cynllun hwn gydymffurfio â’r arweiniad rhanbarthol a fabwysiadwyd yn ddiweddar. Ni phrofwyd bod unrhyw gyfiawnhad dros y gostyngiad sylweddol o 2,400 o anheddau a gynigiwyd yng nghynllun drafft Mai 2000.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nid yw’r Cyngor yn derbyn y gellid cymhwyso’r strategaeth a gymhwysir yn y cynllun hwn at gymunedau eraill ledled Cymru. Mae’r sefyllfa ar Ynys Môn yn gymharol unigryw am fod yn rhaid i’r cynllun nodi strategaeth briodol i ymdopi â gostyngiad yn y boblogaeth tra’n ceisio diogelu amgylchedd a phatrwm diwylliannol/ieithyddol yr Ynys hefyd. Nid yw’n patrwm a ailadroddir ar draws cymunedau eraill yng Nghymru. Cyfiawnheir y strategaeth gan amgylchiadau’r Ynys ac fel y darperir ar ei chyfer gan arweiniad rhanbarthol a chenedlaethol.

2.2 Mae RPGNW yn nodi y dylai’r ddarpariaeth tai mewn Cynlluniau Datblygu Unedol fod yn seiliedig ar y ffigurau a gynhwysir yn yr arweiniad hwnnw; ar gyfer Ynys Môn y ffigur yw 2,200 o anheddau dros y cyfnod 1996 hyd 2011. Mae’r cyfnod hwn yn cwmpasu dau gynllun datblygu ar wahân ar gyfer yr Ynys: Cynllun Lleol Ynys Môn 1991 hyd 2001 (1996 hyd 2001 o ran y ffigur a nodir yn RPGNW); a Chynllun Datblygu Unedol Ynys Môn 2001 hyd 2016 (2001 hyd 2011 o ran y ffigur a nodir yn RPGNW).

2.3 Paratowyd y ffigur a gynhwysir o fewn RPGNW cyn cwblhau’r ymgynghoriadau a’r trafodaethau yn gysylltiedig â’r Cynllun Datblygu Unedol arfaethedig. Ni rwymir awdurdodau gan RPG ac nid yw pob un o’r Awdurdodau ar draws Gogledd Cymru wedi mabwysiadu’r arweiniad eto. Mae paragraff 5.1 RPGNW yn nodi "Mae Awdurdodau Gogledd Cymru wedi cytuno y dylid defnyddio’r ffigurau yn amcanestyniad P2aV1 wrth baratoi Arweiniad Cynllunio Strategol ar gyfer Gogledd Cymru ac fel meincnod a ddefnyddir gan awdurdodau unigol i asesu eu rhagolygon eu hunain yn seiliedig ar bolisi".

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 351

2.4 Mae’r ffigur a geir yn RPGNW yn rhannol yn gyfuniad o ofynion Cynllun Lleol Ynys Môn ar gyfer 1996 hyd 2001 ynghyd â gofynion y Cynllun Datblygu Unedol ar gyfer 2001 hyd 2011 fel y dangosir yn y tabl isod :-

Cynllun Gofyniad Nifer y Blynyddoedd o Cyfanswm yr Blynyddol ran Gofynion Tai Unedau (Unedau) RPGNW Cynllun LleolYnys Môn 215 5 1,075 CDU Ynys Môn 120 10 1,200 CYFANSWM 315 15 2,275

2.5 Fodd bynnag ni chymerodd yr awdurdod cynllunio lleol y ffigur hwn fel y gofyniad tai ar gyfer y Cynllun Datblygu Unedol am nad yw’n adlewyrchu canlyniad y broses ymgynghori ynghylch y cynllun. Mae’r Cyngor hefyd yn awyddus i sicrhau bod rhywfaint o ymyrryd yn y tueddiadau poblogaeth er mwyn sefydlogi’r boblogaeth ar 65,000 erbyn diwedd cyfnod y cynllun.

2.6 Esbonnir y gostyngiad yn y gofyniad anheddau rhwng y fersiwn drafft o’r cynllun a’r fersiwn o’r cynllun a adneuwyd yn Atodiad 8 i’r cynllun. Mae’r Cyngor yn ymdrechu i sicrhau cydbwysedd rhwng yr amcan i ymyrryd yn y gostyngiad yn y boblogaeth trwy adfywio economaidd, tra’n sicrhau nad amlygir cymunedau lleol i ormod o ddatblygu o gofio’r ffaith bod y boblogaeth yn gostwng. O ganlyniad i ymgynghori ynghylch y cynllun drafft roedd y Cyngor o’r farn bod angen lleihau’r gofyniad anheddau cyffredinol i 1800, tra’n sicrhau hefyd gyflenwad digonol o dir ar gyfer cyfnod y cynllun.

3.0 Mater

3.1 A gyfiawnhawyd y ffigur o 1800 o anheddau

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Deuthum i’r casgliad eisoes mewn ymateb i wrthwynebiadau a ystyriwyd yn y Sesiwn Bord Gron, a drafodir yn fanylach ar dudalennau 31 i 34 yr adroddiad hwn, mai 1,800 yw’r ffigur y dylid ei gynnwys ym Mholisi PO2 fel y ffigur ar gyfer anheddau newydd, sef 400 yn llai na’r uchafswm a nodir yn RPGNW. Nid yw’r un o’r gwrthwynebiadau hyn yn newid y casgliad hwnnw.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio paragraffau 16.3, 16.18, nac 16.19 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r un o’r gwrthwynebiadau hyn.

Paragraff 16.9 a Pharagraff 16.3 Gofyniad Anheddau Gwrthwynebiad 16/1421 A. Owen

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Er mwyn gwrthdroi’r allfudo economaidd/addysgol mae angen darparu amrywiaeth o dai. Ni ellir ffurfio barn lawn am y gofyniad anheddau a nodir yn y CDU nes y bydd nifer yr unedau sydd eisoes wedi cael caniatâd cynllunio wedi’i chadarnhau.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 352

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae PC169 yn cynnig y dylid diwygio’r rhestr o gynigion tai i nodi statws cynllunio pob safle.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Rwyf o’r farn bod y cynllun yn darparu digon o dir preswyl ar gyfer y Sir dros gyfnod y cynllun. Fel y nodir ym mharagraff 16.9 mae’r Cyngor wedi hyrwyddo ymchwil gyda Chyngor Gwynedd i fater y cysylltiad rhwng mudo economaidd ac addysgol, a defnydd tir. Mae hyn yn dangos bod y mater wrthi’n cael ei ystyried. O ran data am dir â chaniatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau tai, mae PC169 yn cynnwys y wybodaeth hon am safleoedd sy’n darparu ar gyfer pum annedd neu ragor, ac rwy’n cymeradwyo’r newid hwn.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio’r cynllun yn unol â PC169 ond na ddylid gwneud unrhyw ddiwygiad pellach i baragraff 16.3 na pharagraff 16.9 nac i unrhyw ran arall o Bennod 16 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Paragraff 16.11 i 16.16 Gwrthwynebiadau 50/293, a 50/759 i 763 - Cyngor Cymuned Llanddona

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae’r gwrthwynebiadau yn herio’r gydberthynas rhwng paragraffau 16.11 i 16.16 yn ymwneud ag amcanestyniadau Poblogaeth a Chartrefi a’r Dyraniad Tai T48 ym Mhentraeth.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae PC31 yn cynnig pennod ychwanegol i nodi sefyllfa’r Gymraeg yn gliriach. Mae PC145 yn cynnig y dylid dileu paragraffau 16.5-16.12. Mae PC562 yn cynnig y dylid dileu’r Cynnig T48 ym Mhentraeth.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Argymhellais rywle arall yn yr adroddiad hwn y dylid newid y cynllun yn unol â PC31 ac mae’n dilyn y dylid gwneud PC145 hefyd. Argymhellais y dylid dileu Cynnig T48 mewn ymateb i wrthwynebiadau eraill mewn mannau eraill yn yr adroddiad hyn yn gyson â PC562.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio’r cynllun a adneuwyd yn unol â Newidiadau Arfaethedig PC31, PC145 a PC562, ond na ddylid newid Pennod 16 mewn unrhyw ffordd arall mewn ymateb i’r un o’r gwrthwynebiadau hyn.

Paragraff 16.13 Gwrthwynebiad 132/1366 Cyngor Cymdeithas

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 353

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Herir yr angen i ddyrannu 1800 o anheddau am y bydd hynny yn dinistrio cefn gwlad. Mae gormod o ddatblygiadau wedi’u dyrannu mewn rhai pentrefi. Dylai’r cynllun fabwysiadu’r polisïau cynllunio a ddefnyddir yn Ardal y Llynnoedd.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r amcanestyniadau a ddefnyddir yn Atodiad 8 yn rhai cadarn ac fe’u mabwysiadwyd i greu amcanestyniadau polisi ar gyfer y cynllun. Maent yn ceisio bodloni gofynion cyffredinol aneddiadau ar yr Ynys o ran anheddau a hyrwyddo datblygu i ddiwallu’r angen am dai. Mae’r amcanestyniadau poblogaeth yn dangos gostyngiad ym mhoblogaeth yr Ynys o 67,056 i 60,876 yn 2016. Fodd bynnag, oherwydd lleihad ym maint y cartref cyffredin nid yw nifer yr anheddau sydd eu hangen ond yn gostwng o 10 uned o 31,121 ym 1996 i 31,111 yn 2016. Mae’n wir os mai unig nod y cynllun oedd darparu ar gyfer y newid hwn na fyddai angen 1,800 o anheddau ychwanegol. Mae’n rhan o ‘Weledigaeth’ y cynllun fel y nodir yn PC11 i atal y boblogaeth rhag gostwng; adlewyrchir hyn yn y Targed i sefydlogi’r boblogaeth ar ryw 65,000 o bobl erbyn 2016, gyda strwythur oedran mwy cytbwys na’r un a ragwelwyd gan yr amcanestyniad. Er mwyn galluogi ymyrryd yn y duedd hon o ran y boblogaeth ac atal y gostyngiad hwn mae angen dyraniad o 1,800 o anheddau.

2.2 Mae’r Cyngor wrth baratoi strategaeth aneddiadau’r cynllun yn ceisio cynorthwyo cymunedau cynaliadwy. Mae isadran n) paragraff 16.32 yn nodi yn ogystal â cheisio sicrhau y gellir bodloni’r gofynion anheddau a’r angen am dai, fod y cynllun hefyd yn nodi graddfa o ddarpariaeth y gall cymunedau lleol ymdopi â hi. Mae’r Strategaeth Aneddiadau yn sicrhau datblygiadau priodol yn unol â maint yr aneddiadau. Mae’r strategaeth yn dosbarthu trefi a phentrefi yn ôl maint ac argaeledd gwasanaethau cymunedol. Mae’r Cyngor o’r farn bod canlyniad y strategaeth aneddiadau, sef bod aneddiadau yn cael eu dosbarthu yn ôl Prif Ganolfannau a Chanolfannau Eilaidd (Polisi HP3), Pentrefi (HP4) a Phentrefannau a Chlystyrau (HP5), yn sicrhau datblygiadau priodol yn unol â maint yr anheddiad ac yn diogelu cefn gwlad.

2.3 Mae para 9.2.5 Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylai tir a ddyrannwyd yn y cynllun fel tir ar gyfer tai fod ar gael i bob ceisydd. Mae Polisi HP7 yn nodi’r ffyrdd y gall maes cynllunio helpu i ddiwallu anghenion pobl leol o ran tai. Mae’r ymagwedd hon yn cydymffurfio â Pholisi Cynllunio Cymru; ni fyddai’r awgrym o Ardal y Llynnoedd yn gwneud hynny.

3.0 Materion

3.1 i. a gyfiawnhawyd yr angen i ddyrannu 1800 o anheddau ii. a oes gormod o ddatblygiadau wedi’u dyrannu mewn rhai pentrefi iii. a ddylid defnyddio polisïau cynllunio Ardal y Llynnoedd yn y cynllun

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Deuthum i’r casgliad eisoes mewn ymateb i wrthwynebiadau a ystyriwyd yn y Drafodaeth Ford Gron mai 1,800 yw’r ffigur ar gyfer anheddau newydd y dylid ei gynnwys yn Rhan Un Polisi 2, sef 400 yn llai na’r uchafswm yn amcanestyniad RPGNW. Fodd bynnag nid wyf o’r farn, ar yr amod y lleolir y mwyafrif o’r anheddau yn y prif ganolfannau Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 354

a’r canolfannau eilaidd ar yr Ynys neu’n agos atynt, y bydd lefel annerbyniol o niwed i gefn gwlad.

4.2 Am nad yw’r gwrthwynebiad yn nodi ym mha bentrefi y cynigir gormod o dai, ni ellir ystyried diwygio’r cynllun a adneuwyd. Nid oes unrhyw dystiolaeth ger fy mron i ddangos pa bolisïau sy’n cael eu cymhwyso yn Ardal y Llynnoedd yn Lloegr a fyddai’n fanteisiol i Ynys Môn.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio paragraff 16.13 nac unrhyw ran arall o Bennod 16 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Paragraff 16.13 Amcanestyniadau Poblogaeth a Chartrefi Gwrthwynebiadau 49/483 a 484 - Plaid Cymru 38/1354 Cyngor Cymuned 129/1343 A Williams

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae Pennod 16 yn gwrth-ddweud ei hun trwy nodi ym mharagraff 16.13 nad yw Ynys Môn yn wynebu’r angen i fodloni’r gofynion yn deillio o dwf sylweddol yn y boblogaeth ac felly anheddau. Amheuir bod angen dyrannu 1800 o anheddau fel y nodir yn y cynllun.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Derbyniodd y Cyngor fod yr amcanestyniad yn seiliedig ar dueddiadau mudo yn ystod y cyfnod 1991 hyd 1996 gan Ganolfan Ymchwil Llundain, fel y’i diwygiwyd gan strategaeth y cynllun, yn sail gadarn i’r cynllun. Dengys yr amcanestyniad hwn ostyngiad ym mhoblogaeth yr Ynys o 67,056 ym 1996 i 60,876 yn 2016. Fodd bynnag, oherwydd lleihad ym maint y cartref cyffredin nid yw nifer yr anheddau sydd eu hangen ond yn gostwng o 10 uned o 31,121 ym 1996 i 31,111 yn 2016.

2.2 Mae’n wir os mai unig nod y cynllun oedd darparu ar gyfer y newid hwn na fyddai angen 1,800 o anheddau ychwanegol. Mae’n rhan o ‘Weledigaeth’ y cynllun fel y nodir yn PC11 i atal y boblogaeth rhag gostwng. Adlewyrchir hyn yn y Targed i sefydlogi’r boblogaeth ar ryw 65,000 o bobl erbyn 2016, gyda strwythur oedran mwy cytbwys na’r un a ragwelwyd gan yr amcanestyniad. Er mwyn galluogi ymyrryd yn y duedd hon o ran y boblogaeth ac atal y gostyngiad hwn mae angen dyraniad o 1,800 o anheddau.

3.0 Mater

3.1 A yw Pennod 16 yn gwrth-ddweud ei hun ac a gyfiawnhawyd yr angen i ddyrannu 1800 o anheddau.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Os bydd strategaeth y cynllun yn llwyddo i greu digon o swyddi newydd i atal allfudo bydd hynny ynddo’i hun yn arwain at angen am dai newydd. Ar ôl ystyried y drafodaeth yn y Sesiwn Bord Gron, rwyf eisoes wedi dod i’r casgliad y dylai’r cynllun ddarparu digon o dir Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 355 ar gyfer tai i godi1,800 o anheddau ychwanegol dros gyfnod y cynllun, 400 yn llai na’r uchafswm o 2,200 a nodir yn RPGNW. Mae paragraff 16.13 y cynllun a adneuwyd yn darparu datganiad ffeithiol ynghylch y sefyllfa ddiweddar o ran mudo clir. Nid wyf o’r farn ei fod yn gwrth-ddweud fy nghasgliad ynghylch nifer yr anheddau fydd eu hangen fwy na thebyg dros gyfnod y cynllun.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio paragraff 16.13 nac unrhyw ran arall o Bennod 16 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r un o’r gwrthwynebiadau hyn.

Polisi HP1 a pharagraff 16.21 Gwrthwynebiad 6/942 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’n codi amheuaeth ynghylch y modd y cafwyd y ffigur o 1800 o anheddau. Ni ofynnir am unrhyw newid penodol yn y ffigur.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nodir y cyfiawnhad dros ofyniad anheddau o 1800 yn Atodiad 8 i’r cynllun. Mae’n rhannol adlewyrchu’r amcanestyniadau yn seiliedig ar dueddiadau a luniwyd gan Ganolfan Ymchwil Llundain ond mae hefyd yn ymgorffori addasiad ar gyfer yr ymyrraeth a fynnir gan Amcan Un a gwelliant yn sefyllfa economaidd yr Ynys.

2.2 Er bod y ffigur yn is na’r un a gyhoeddwyd yn RPGNW nodir ym mhara 5.1 Atodiad Un i’r arweiniad y dylid defnyddio’r ffigurau yn yr amcanestyniad P2aV1 fel meincnod gan awdurdodau unigol i asesu eu rhagolygon eu hunain yn seiliedig ar bolisi. Nid ydynt yn ffigurau polisi eu hunain ond amcanestyniadau yn seiliedig ar dueddiadau.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Deuthum i’r casgliad eisoes mewn ymateb i wrthwynebiadau a ystyriwyd yn y Drafodaeth Ford Gron, ac y cyflwynais sylwadau arnynt ar dudalennau 31 i 34 yr Adroddiad hwn, mai 1,800 yw’r ffigur ar gyfer anheddau newydd y dylid ei gynnwys ym Mholisi PO2. Felly ni fydd angen diwygio paragraff 16.21 y cynllun a adneuwyd.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio paragraff 16.21 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Paragraff 16.21 Gwrthwynebiad 8/354 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Gwrthwynebir y gofyniad anheddau o 1800 ac felly pob cyfeiriad cysylltiedig at y ffigur. Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 356

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Ystyriwyd y mater hwn yn y Sesiwn Bord Gron ar anghenion anheddau y cymerodd y gwrthwynebydd hwn ran ynddo. Mae’r Cyngor o’r farn bod y ffigur yn ddigonol ar gyfer cyfnod y cynllun.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Yn y bôn, mae’r gwrthwynebiad hwn yr un fath a Gwrthwynebiadau 8/248 ac 8/392 a ystyriwyd yn Sesiwn Bord Gron yr Ymchwiliad. Deuthum i’r casgliad eisoes mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau a ystyriwyd yn y Sesiwn hwnnw - nodir fy sylwadau yn fanylach ar dudalennau 31 i 34 yr adroddiad hwn – mai 1800 yw’r ffigur y dylid ei nodi ar gyfer anheddau newydd. Nid yw’r gwrthwynebiad hwn yn newid y casgliad hwnnw.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio paragraff 16.21 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Paragraff 16.22 Gwrthwynebiad 8/355 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid dosbarthu dyraniadau tai yn y cynllun fel 2* fel yn yr astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r gwrthwynebiad yn camddeall y broses argaeledd tir. Nid tasg y cynllun yw dosbarthu safleoedd fel yr awgrymir. Er bod PC168 yn ymdrin â chyflwyno safleoedd fesul cam, ac â phrosesau cyflwyno fesul cam o fewn safleoedd, nid oes a wnelo hyn â’r adroddiad ar argaeledd tir.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Mae safleoedd Categori 2* ym mharagraff 18 NCT 1 yn safleoedd y gellir eu datblygu o fewn 5 mlynedd ond sydd mewn ardaloedd lle y mae’r galw am dai yn isel ac sydd felly yn annhebygol o gael eu datblygu o fewn yr amserlen honno. Fodd bynnag nid oes unrhyw dystiolaeth fanwl ger fy mron i ddangos bod unrhyw un o’r dyraniadau newydd yn y cynllun yn dod o fewn y categori hwn. Gellid rhoi caniatâd cynllunio ar unrhyw ddyraniad unwaith y bydd y cynllun wedi’i fabwysiadu. Mae unrhyw brosesau cyflwyno fesul cam sy’n digwydd yn debygol o ddigwydd am y rhesymau penodol yn ymwneud â’r datblygiad.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio paragraff 16.22 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 357

Pennod 1 Cyflwyniad Polisi PO2 Gwrthwynebiadau Sesiwn Bord Gron. 8/248 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig 24/309 - HBF 8/392 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig 23/454, 890 ac 893 - TS Glenfort 22/565, 566 a 567 - Mr Sweeney 19/569 a 570 - Mr K Thompson 25/572, 574 a 575 - Mr Nevin 18/580, 581,582 & 583 - Mr D.M.S Thomas 17/586, 587, 589 a 585 - Mr A Griffiths 31/1128 ac 1164 – Plaid Werdd Sir y Fflint 28/1226 - CDN Planning 53/1243 ac 1244 – Awdurdod Datblygu Cymru 8/2007 a 2072 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig 380/2027 - Mr John Wood 17/2254 - Mr Alan Griffiths

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Ymdriniwyd â’r gwrthwynebiadau hyn yn y Sesiwn Bord Gron ar Dai ar 2il ddiwrnod yr Ymchwiliad.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Gweler Nodiadau’r Sesiwn Bord Gron ar Dai a geir yn Atodiad Dau o’r adroddiad hwn.

3.0 Casgliadau’r Arolygydd

3.1 Ymdriniwyd â phob un o’r gwrthwynebiadau a’r materion hyn a godwyd yn y Sesiwn Bord Gron ar Dai o dan Bennod 7 Polisi PO2 (tudalennau 31 i 34 yr adroddiad hwn). Deuthum i’r casgliad na ddylid newid y ffigur o 1800 o anheddau.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio’r cynllun mewn ymateb i’r un o’r gwrthwynebiadau hyn.

Polisi HP1 Cyflenwad 5 Mlynedd o Dir ar gyfer Tai Gwrthwynebiadau 127/451 - Mr R Willis 126/446 - Watkin Jones

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae’r ddau wrthwynebiad yn nodi bod y Gyd-Astudiaeth Argaeledd Tir (Ebrill 1999) yn dangos bod diffyg o ran y cyflenwad o dir am na fydd y cyflenwad o dir ond yn para 2.7 mlynedd yn ôl y dull gweddilliol a 4.6 blynedd yn ôl cyfradd adeiladu’r gorffennol. Nid yw nifer yr unedau tai y bwriedir eu datblygu ar Ynys Môn yn y dyfodol a nodir yn y cynllun arfaethedig yn ddigon i ateb y galw.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 358

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae paragraff 9.2.5 Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylai awdurdodau cynllunio lleol sicrhau bod digon o dir ar gael neu y darperir digon o dir i ddarparu cyflenwad 5 mlynedd o dir ar gyfer tai. Mae Polisi HP1 yn cydymffurfio â Pholisi Cynllunio Cymru am ei fod yn nodi y bydd y Cyngor yn sicrhau y bydd cyflenwad 5 mlynedd digonol o dir ar gyfer tai ar gael i ddiwallu anghenion rhagweledig yn ystod cyfnod y cynllun. Bydd y broses o lunio’r cynllun, gan gynnwys yr Ymchwiliad, yn helpu i nodi’r nifer briodol o anheddau ar gyfer y cyfnod 2001-2016. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor fonitro’r cynllun wedyn i sicrhau bod cyflenwad pum mlynedd o dai. Ni chynigiwyd unrhyw newid i Bolisi HP1 yn y gwrthwynebiad hwn.

3.0 Mater

3.1 A oes angen cynyddu’r gofyniad anheddau i ateb y galw.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae’r gwrthwynebiad hwn yn ymwneud â Pholisi HP1 ond nid yw’n awgrymu unrhyw newid iddo. Mae’r polisi yn ceisio sicrhau bod digon o dir y gellir ei ddatblygu ar gael yn ystod cyfnod y cynllun i ddarparu cyflenwad 5-mlynedd o dir ar gyfer tai ar unrhyw adeg benodol. Fodd bynnag ni fyddai unrhyw ddiffyg cyfredol o ran y cyflenwad o dir ar gyfer tai yn cyfiawnhau diwygio’r polisi. Ar ben hynny, deuthum i’r casgliad eisoes mewn ymateb i wrthwynebiadau a ystyriwyd yn y Drafodaeth Ford Gron mai 1,800 yw’r ffigur ar gyfer anheddau newydd y dylid ei gynnwys ym Mholisi PO2, sydd 400 yn llai na’r uchafswm a nodir yn RPGNW.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisi HP1 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Polisi HP1 Gwrthwynebiadau 29/1195, 1197 a 1203 - Cyngor Cymuned Llanfair Mathafarn Eithaf

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae Polisi HP1 yn gaeth i’r gofynion a ragwelir gan y cynllun. Mae 29/1203 yn awgrymu oherwydd y ffaith bod poblogaeth Ynys Môn yn gostwng: (i) na ddylid darparu ar gyfer tai newydd ar hyn o bryd tan 2006; (ii) ar ôl 2006 mai dim ond os dangosir bod y strategaeth yn gweithio y dylid dyrannu tir ar gyfer tai; (iii) y dylid dileu’r gair "a ragwelir"; a (iv) y dylid ailddyrannu diffygion o ran tir ar gyfer tai ar draws pob is-grðp.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Un o’r tasgau allweddol ar gyfer y cynllun datblygu yw sicrhau y gall datblygiadau ddigwydd yn unol â’r strategaeth a’r rhagolygon cysylltiedig ar gyfer cyfnod y cynllun (2001-2016). Nid yw’n gall nac yn briodol yng ngoleuni arweiniad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru rewi i bob pwrpas gyfnod o fewn y cynllun. Mae’r strategaeth a ddewiswyd yn ceisio sicrhau cydbwysedd ac integreiddio’r gofyniad ar gyfer cymunedau Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 359

cynaliadwy ac adfywio economaidd. Mae’r gofyniad anheddau yn ddigonol at ddibenion y cynllun. Bydd prosesau cyflwyno fesul cam yn effeithio ar yr adeg pryd y darperir rhai safleoedd e.e. am nad oes unrhyw seilwaith ar ddyddiad sylfaenol y cynllun. Seiliwyd ffigur ar gyfer anheddau ar gyfer cyfnod y cynllun ar y fethodoleg ragamcanu a nodir yn Atodiad 8 i’r cynllun. Mae’r amcanestyniad hwn yn ddigon cadarn i fod yn sylfaen i’r gofyniad a nodir ym Mholisi PO 2. Caiff ei fonitor i sicrhau cyflenwad pum mlynedd o dai.

3.0 Mater

3.1 A ddylid diwygio Polisi HP1 mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae Gwrthwynebiad 29/1203 yn awgrymu y dylid dileu’r geiriau ‘a ragwelir’ o’r polisi hwn o ganlyniad i wrthwynebiad 29/1195. Mae’r olaf yn honni na ddylid dyrannu unrhyw dir ar gyfer tai newydd ar gyfer y cyfnod hyd at 2006 ac ar ôl hynny dim ond os yw’n amlwg bod strategaeth gyflogaeth y cynllun yn gweithio. Deuthum i’r casgliad eisoes mewn ymateb i wrthwynebiadau i Bolisi PO2 mai 1,800 o anheddau y dylid ei nodi fel y gofyniad ar gyfer 2001-2016.

4.2 Mae angen tai newydd, ac maent yn cael eu hadeiladu, ar gyfer y cyfnod hyd at 2006 ar dir â chaniatâd cynllunio. Ymddengys fod y gwrthwynebiad yn honni nad oes angen unrhyw ddyraniadau am fod tir â chaniatâd eisoes i’w gael. Fodd bynnag, at ddibenion y cynllun, ystyrir bod safleoedd â chaniatâd yn ddyraniadau. Ar gyfer y cyfnod ar ôl 2006 ni fyddai unrhyw gyfiawnhad dros wrthod gwneud dyraniadau tir newydd nes y gwyddys a yw’r strategaeth gyflogaeth yn gweithio, am y gallai hynny greu cyfnod o ormod o ansicrwydd a allai ynddo’i hun danseilio’r strategaeth gyflogaeth. Cyflenwir hyn a hyn o dai newydd wrth i ffynonellau cyflogaeth newydd gael eu denu a’u datblygu a gallai hynny gynorthwyo i ddenu a datblygu ffynonellau cyflogaeth newydd. Ni fyddai unrhyw gyfiawnhad felly dros ddiwygio Polisi HP1 fel yr awgrymir yn y gwrthwynebiad hwn.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisi HP1 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r un o’r gwrthwynebiadau hyn.

Paragraff 16.31 Dwysedd Tai Gwrthwynebiad 33/91 Gwerth Gorau’r DU

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r ffigur ar gyfer dwysedd tai, sef 30afh (anheddau fesul hectar), yn rhy uchel.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae paragraff 16.32, fel y’i diwygwyd trwy Newid Arfaethedig PC 149, yn nodi ei bod yn briodol rhagdybio 30afh ar gyfer y cynllun ond y dylai nodweddion safleoedd benderfynu’r dwysedd go iawn mewn achosion unigol. Am fod paragraff 9.2.11 Polisi Cynllunio Cymru yn hyrwyddo dwyseddau tai uwch ar safleoedd y gellir eu cyrraedd yn hawdd, mae’r Cyngor o’r farn bod dwysedd o 30afh yn feincnod priodol a ddylai sicrhau y caiff tir ei ddefnyddio yn effeithlon. Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 360

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Er mwyn cynorthwyo’r broses o sicrhau datblygu cynaliadwy mae angen i ddwysedd tai newydd ar gyfartaledd fod yn uwch na’r un a welwyd mewn degawdau diweddar. Mae’n rhesymol felly i’r cynllun ragdybio cyfartaledd o 30afh. Fodd bynnag, am ei bod yn debyg y bydd y dwysedd yn amrywio o safle i safle fel y nodir yn PC 149, dim ond o ganlyniad i fonitro’r cynllun y daw’r ffigur cyfartalog yn hysbys.

3.2 Mae’r gwrthwynebiad yn awgrymu ffigur o 25afh am fod angen gofod rhesymol o amgylch anheddau. Rwyf o’r farn gyda chynllunio gofalus y gellir sicrhau cyfartaledd o 30afh ar draws yr Ynys heb golli amwynder preswyl.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio paragraff 16.31 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi HP2 Dwysedd Tai Gwrthwynebiad 4/8 Dr M Petty

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Herir y polisi hwn yn arbennig mewn perthynas â datblygiadau yn y Fali lle y dylid osgoi unrhyw gynnydd yn nifer yr anheddau.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae paragraff 16.32 fel y’i diwygwyd trwy PC149, yn nodi bod rhagdybiaeth gyffredinol o 30afh (anheddau fesul hectar) yn briodol ar gyfer y cynllun ond y dylai nodweddion safleoedd benderfynu’r dwysedd go iawn mewn achosion unigol. Mae paragraff 9.2.11 Polisi Cynllunio Cymru yn hyrwyddo dwyseddau tai uwch ar safleoedd y gellir eu cyrraedd yn hawdd. Mae’r Cyngor o’r farn bod dwysedd o 30afh yn feincnod priodol sy’n adlewyrchu’r arweiniad ym Mholisi Cynllunio Cymru.

2.2 Ni chynigir unrhyw ddyraniadau tai yn y Fali.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Er mwyn cynorthwyo’r broses o sicrhau datblygu cynaliadwy mae angen i ddwysedd cyfartalog tai newydd fod yn uwch na’r un a welwyd mewn degawdau diweddar. Rwyf o’r farn bod angen dwysedd cyfartalog o 30afh. Byddai PC149 yn helpu i esbonio sut y bwriedir cyflawni hyn.

3.2 Am na chynigir unrhyw ddyraniadau tai yn y Fali yn y cynllun a adneuwyd, mae’n amlwg bod y sefyllfa hon yn rhagflaenu’r gwrthwynebiad hwn ac nid yw’n ymateb iddo.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio Polisi HP2 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn. Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 361

Paragraff 16.32 Dwysedd Tai Gwrthwynebiad 28/1222 Carlisle, Davies a North

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r ffigur ar gyfer dwysedd tai, sef 30afh, yn rhy uchel, o gofio natur gyffredinol bresennol datblygiadau tai sy’n bodoli eisoes ar yr Ynys.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae paragraff 16.32 y cynllun, fel y’i diwygwyd trwy PC149, yn nodi ei bod yn briodol rhagdybio 30afh ar gyfer y cynllun ond y dylai nodweddion safleoedd benderfynu’r dwysedd go iawn mewn achosion unigol. Am fod paragraff 9.2.11 Polisi Cynllunio Cymru yn hyrwyddo dwyseddau tai uwch ar safleoedd y gellir eu cyrraedd yn hawdd. Mae dwysedd o 30afh yn feincnod priodol sy’n adlewyrchu’r arweiniad ym Mholisi Cynllunio Cymru.

3.0 Mater

3.1 A oes angen diwygio’r cynllun mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Er mwyn cynorthwyo’r broses o sicrhau datblygu cynaliadwy mae angen i ddwysedd tai newydd ar gyfartaledd fod yn uwch na’r un a welwyd mewn degawdau diweddar. Rwy’n fodlon y bydd darpariaethau’r cynllun, fel yr argymhellwyd i’w diwygio, yn rhoi digon o sylw i natur gyffredinol bresennol datblygiadau tai sy’n bodoli eisoes am y bydd nodweddion safleoedd yn penderfynu’r dwysedd go iawn.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio paragraff 16.32 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Newid Arfaethedig - PC149 Paragraff 16.32 Gwrthwrthwynebiad 14/2068 – Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid diwygio geiriad paragraff 16.32 i sicrhau y bodlonir y gofyniad am 30afh (anheddau fesul hectar).

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Polisi HP2 ynghyd â’r cyfiawnhad rhesymegol, fel y cynigiwyd i’w ddiwygio trwy PC149, yn nodi ymagwedd y Cyngor tuag at ddwysedd datblygiadau tai newydd. Nid yw’r geiriad a awgrymir gan y gwrthwynebydd yn ychwanegu at y cynllun.

3.0 Casgliad yr Arolygydd Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 362

3.1 Nid yw polisi cynllunio cenedlaethol yn mynnu bod pob safle tai yn cael ei ddatblygu ar isafswm dwysedd. Yn wir, efallai na fydd yn briodol bob amser i ddatblygiad fod ar ddwysedd o 30afh ar ôl ystyried lleoliad a chymeriad y safle. Felly yr unig ffordd o farnu p’un a sicrheir dwysedd cyfartalog o 30afh yw trwy fonitro’r cynllun.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio paragraff 16.32 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC149 ond na ddylid gwneud unrhyw ddiwygiad arall i’r cynllun mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Newid Arfaethedig - PC150 Dwysedd Tai Gwrthwynebiad 31/2396 – Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid ychwanegu’r geiriau "ond pan fydd y sefyllfa yn caniatáu hynny, ceisid y dwysedd uchaf posibl" at y Newid Arfaethedig hwn.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r Cyngor o’r farn bod hwn yn ddiwygiad derbyniol i eiriad y paragraff ac y bydd yn helpu i weithredu’r cynllun yn llwyddiannus.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Er mwyn cynorthwyo’r broses o sicrhau datblygu cynaliadwy, mae angen i ddwysedd cyfartalog tai newydd fod yn uwch na’r un a welwyd mewn blynyddoedd diweddar. Mae PC150 yn cynnig y dylid ychwanegu rhagor o eiriau at baragraff 16.34. Byddai’r geiriad arall a awgrymir gan y gwrthwynebydd yn atgyfnerthu bwriad Polisi HP3 i sicrhau y caiff tir ei ddefnyddio’n effeithlon gan safleoedd datblygu ar uchafswm dwysedd sy’n briodol i’r ardal.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio paragraff 16.34 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC150 ac y dylid ychwanegu’r geiriau canlynol “ond pan fydd y sefyllfa yn caniatáu hynny, ceisid y dwysedd uchaf posibl.” at frawddeg olaf y Newid Arfaethedig.

Polisi HP1 – Cyflenwad 5 Mlynedd Gwrthwynebiad 33/92 – Gwerth Gorau’r DU

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae Gwrthwynebiad 33/92 yn ymdrin â’r cyflenwad 5 mlynedd ac yn gwneud dadleuon yn gysylltiedig â’r ffigur ar gyfer anheddau a gynhwysir yn y cynllun a’r angen am dai.

2.0 Ymateb y Cyngor Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 363

2.1 Nodir y gofyniad i sicrhau cyflenwad 5 mlynedd ym Mholisi Cynllunio Cymru. Cyflwynodd y Cyngor Atodiad 8 o blaid y cyflenwad anheddau a nodir mewn polisi arall ac nas cynhwysir ym mholisi HP1. Ystyriodd y cynllun: HSOP; Arolwg y Cyngor o’r Angen am Dai; sylwadau gan Wasanaethau eraill a ddarperir gan y Cyngor gan gynnwys Gwasanaethau Cymdeithasol a’u Cynlluniau Gofal. Mae paragraff 16.19 y cynllun yn ymdrin â materion sy’n cael effaith ddilys ar strategaeth y ddogfen.

3.0 Casgliadau’r Arolygydd

3.1 Ystyriais lefel y ddarpariaeth anheddau dros gyfnod y cynllun mewn ymateb i wrthwynebiadau eraill yn ymwneud â’r mater hwn a rhoddais sylw i ddadleuon a gynigiwyd yn y Sesiwn Ford Gron ar Dai. Nid yw’r un o’r rhesymau a gynigiwyd yn y gwrthwynebiad hwn yn fy arwain i newid fy nghasgliad y dylid pennu lefel y ddarpariaeth tai dros gyfnod y cynllun ar 1800 o anheddau fel y nodir ym Mholisi PO2.

3.2 Mae’r gwrthwynebiad o’r farn nad yw’r cynllun yn ystyried y gwir angen am dai fforddiadwy ar gyfer pobl leol. Comisiynodd y Cyngor Arolwg o’r Angen am Dai a bydd yn defnyddio ei ganfyddiadau wrth iddo gymhwyso Polisi HP7 (Tai Fforddiadwy). Mewn argymhellion ynghylch Polisi HP4, cynigiais eiriad sy’n cyfeirio at ‘lefel gofynion tai’r gymuned bentrefol’. Yn ddiau mae problem o ran tai fforddiadwy ar draws llawer o rannau o’r Deyrnas Unedig, lle y mae incymau’r rhai sy’n chwilio am gartref yn rhy isel mewn perthynas â phrisiau tai. Mae’n amlwg bod y sefyllfa yn bodoli ar Ynys Môn, ond ni ddylid cymryd yn ganiataol y gellir datrys y mater hwn a materion eraill yn gysylltiedig â thai gan y broses defnydd tir a system y cynllun datblygu yn unig.

3.3 Prif gyfraniadau system y cynllun datblygu yw y gall geisio cynyddu’r ddarpariaeth o gartrefi fforddiadwy trwy weithredu Polisi HP7, ac chynorthwyo datblygiadau cartrefi cymdeithasol yr ymgymerir â hwy gan Gymdeithasau Tai. Nid oes unrhyw gategori a ddiffiniwyd yn ffurfiol o ‘dai fforddiadwy’ mewn dyraniadau defnydd tir, ac nid yw system y cynllun datblygu yn diffinio systemau sy’n sicrhau bod rhai datblygiadau tai yn parhau i fod yn ‘fforddiadwy’ ac ar gael i bobl ‘leol’ am byth. Rheolir systemau o’r fath yn achos datblygiadau tai cymdeithasol gan ddarparwyr Tai Cymdeithasol a Chymdeithasau Tai fel arfer. Dof i’r casgliad nad oes unrhyw gyfiawnhad dros ddiwygio Polisi HP1 mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio polisi HP1 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi HP1 Gwrthwynebiad 80/1248 – Y Cyng. R Llewelyn Jones

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae angen gwybodaeth gliriach am dai a arferai berthyn i’r RAF yn Llanfihangel ac mae angen nodi a yw’n effeithio ar y cyflenwad 5 mlynedd.

2.0 Ymateb y Cyngor

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 364

2.1 Adeiladwyd tai yn Llanfihangel yn Nhowyn (Map Cynigion 28) yn wreiddiol i’w defnyddio mewn cysylltiad â theuluoedd maes awyr yr Awyrlu yn y Fali gerllaw. Datganodd y Weinidogaeth Amddiffyn nad oedd angen y tai mwyach a phenodwyd asiant at ddibenion eu gwerthu ar y farchnad agored. Mae’n hysbys bod angen cysylltu 220 o anheddau erbyn hyn â’r brif garthffos gyhoeddus yn y Fali trwy Gaergeiliog. Am fod deiliadaeth tai yn y pentref hwn wedi newid, ni wnaed unrhyw ddyraniadau eraill am fod gan y pentref ddigon o dai.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Mae paragraff 9.2.5 Polisi Cynllunio Cymru yn mynnu bod y Cyngor yn sicrhau bod digon o dir ar gael neu y caiff ei ddarparu i sicrhau cyflenwad 5 mlynedd o dai. Nid yw’r ffaith bod tai yn y pentref hwn yr arferid eu rhentu i deuluoedd milwyr ar gael i’w gwerthu yn effeithio ar yr angen i sicrhau bod cyflenwad 5 mlynedd o dir tai ar gael ar draws yr Ynys.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio Polisi HP1 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi HP1 Cyflenwad 5 Mlynedd Gwrthwynebiad 8/353 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig Newid Arfaethedig 148 Newid Polisi HP1 Gwrthwrthwynebiad 8/2069 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad a’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Dylid dileu’r geiriau ‘ar unwaith’ o’r polisi am ei fod yn awgrymu y rhoddir statws Categori 1 NCT 1 i bob datblygiad. Yn lle hynny dylid rhoi statws Categori 2* i bob caniatâd cynllunio a roddir ar gyfer 5 annedd neu ragor.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Y Gyd-Astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai a wneir bob 2 flynedd fydd y system ar gyfer dosbarthu safleoedd. Caiff pob safle ei fonitro’n rheolaidd drwy’r astudiaeth hon a diffinnir ei gategori, a chytunir arno, yn ystod y broses hon. Nid mater i’r cynllun ydyw. Fodd bynnag mae PC148 yn cynnig y dylid dileu’r geiriau ‘ar unwaith’ a gosod y geiriau ‘go iawn’ yn eu lle. Byddai hyn yn goresgyn gwrthwynebiad 8/353.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Mae’r astudiaeth argaeledd tir a gynhelir bob 2 flynedd ar y cyd ag Awdurdod Datblygu Cymru yn ei hanfod yn ymarfer monitro a gall categori safle newid dros amser gan ddibynnu ar b’un a yw ar gael mewn gwirionedd. Ni fyddai’n briodol felly i’r cynllun ragfynegi statws safle neu gyfyngu ar ei statws o flaen llaw. Byddai PC148 yn unol â pharagraff 9.2.5 Polisi Cynllunio Cymru.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid newid PC148 mewn ymateb i’r gwrthwrthwynebiad hwn ond y dylid diwygio Polisi HP1 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC148. Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 365

Paragraff 16.35 Strategaeth Datblygu Gofodol – Is-ardaloedd y Cynllun Datblygu Unedol Gwrthwynebiadau 17/590 - Alan Griffiths 19/963 – Mr a Mrs K Thompson

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae’r gwrthwynebiadau hyn yn gwrthwynebu’r strategaeth o ddosbarthu’r gofyniad anheddau i nifer o ardaloedd daearyddol am y rhesymau canlynol: i. mae diffyg o 406 o unedau yn y tabl yn y paragraff hwn; ii. trwy gynnwys y Fali o fewn grðp A5 caiff y cydbwysedd yng ngrðp Caergybi ei ddifetha, i’r graddau y byddai’r boblogaeth a geir o fewn y Fali a’r ffaith nad oes ganddo unrhyw safleoedd dyranedig, yn creu llawer mwy o alw am safleoedd mewn mannau eraill o fewn grðp Caergybi y mae gan y Fali gysylltiad agosach ag ef yn ymarferol; iii. ni chafodd y penderfyniad polisi i gyfyngu ar ddatblygu yng ngrðp Afon Menai ei esbonio’n ddigon da na’i feintioli ac nid esboniwyd ei ddosbarthiad yn glir; iv. mae’r ddarpariaeth tai a nodir ym mholisi PO2 yn dra diffygiol ac felly bydd angen cryn dipyn yn fwy o ddyraniadau i ateb y galw am dai. Ni roddwyd unrhyw sylw i ddosbarthiad y galw uwch hwn am dai.

1.2 Dylid ailystyried cyfansoddiad y saith grðp hwn a dylid dosbarthu’r ddarpariaeth anheddau yn ôl poblogaeth pob grðp.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r tabl ym mharagraff 16.35 yn nodi bod angen 1260 o unedau yn ystod cyfnod y cynllun. Mae tablau 1 a 2 yn Atodiad 8 (fel y’i diwygiwyd trwy PC179 a PC180) yn cymryd y ffigur hwn ac yn ei rannu fel a ganlyn:

Cyfanswm yr Unedau (Adeiladau Newydd) = 1,260 Cyfraniad gan y 45 o Glystyrau = 90 Safleoedd ar hap = 349 Cyfraniad gan Safleoedd Dyranedig (a llithriad o 10%) = 899 Cyfanswm yr Unedau Newydd-Adeiledig = 1,338 uned i’w Darparu gan y cynllun

2.2 Gellir gweld nad oes diffyg o 406 o unedau fel yr honnir gan y gwrthwynebydd.

2.3 Mae’r Cyngor o’r farn bod anheddiad y Fali yn perthyn i grðp A5 am ei bod yn gymuned sy’n cael ei hosgoi ers agor yr A55. Mae’n Ganolfan Eilaidd sy’n gwasanaethu ardal wledig o’i hamgylch ac sy’n darparu ystod o wasanaethau manwerthu a gwasanaethau eraill. At ddibenion nodi’r effaith a gaiff adleoli’r Fali yn gliriach dengys y tabl isod y ffigurau fel y’u diwygiwyd trwy symud y Fali o grðp A5 i grðp Caergybi :-

Grðp Poblogaeth Mae angen Cyfraniad gan Safleoedd ar Cyfanswm Dyraniadau Cyfrifiad 1991 dosbarthu 1260 glystyrau hap (30%) cywiredig o safleoedd Caergybi (gan 16,427 299 4 88 207 221 Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 366

gynnwys y Fali) A5 (Heb 6,941 127 2 37 88 67 gynnwys y Fali) (Mae’r Tabl yn seiliedig ar y ffigurau a gynhwysir yn y tablau yn PC179 ac mae’n gofyn bod Pentrefan yn symud i grðp Caergybi am ei fod wedi’i leoli o fewn cymuned y Fali)

2.4 Derbynnir bod angen ystyried yr is-ardaloedd, a’r Ynys gyfan, mewn perthynas â’i gilydd. Nid yw’r Cyngor o’r farn bod strategaeth yr is-ardaloedd yn difetha’r cydbwysedd rhwng y Fali a Chaergybi. Dengys y tabl hyd yn oed os cynhwysir y Fali o fewn grðp Caergybi fod digon o dir wedi’i ddyrannu ar gyfer tai yng Nghaergybi i ddiwallu’r gofynion.

2.5 Mae gofyniad tai’r cynllun wedi’i rannu’n fras yn seiliedig ar y boblogaeth bresennol, ac mae wedi’i ddosbarthu rhwng 7 is-ardal yr Ynys. O ran grðp Afon Menai mae polisi i gyfyngu ar dai newydd oherwydd lefel y gwaith datblygu a welwyd yn ystod y degawdau diweddar. Nid yw’r ffigur a ddosrannwyd felly wedi’i ddyrannu’n llawn i’r is-ardal hon. Nid oes gan grðp Afon Menai Brif Ganolfan fodd bynnag mae adolygiad o’r tair Canolfan Eilaidd o fewn y grðp hwn yn nodi’n gliriach y cyfyngu sy’n digwydd o fewn y grðp :-

Biwmares – Tref ganoloesol gryno, y saif y rhan fwyaf ohoni o fewn ardal gadwraeth a leolir mewn AOHNE a chanddi dirwedd hanesyddol tua’r dwyrain.

Porthaethwy - Cyfyngiadau amgylcheddol oherwydd Afon Menai i’r de, llinell esgair i’r gogledd, lletem las i’r gorllewin, i atal Porthaethwy rhag cyfuno â Llanfairpwll a choetir Cadnant i’r dwyrain. Cyrhaeddodd yr anheddiad ei gapasiti ar gyfer ehangu. Mae cyfyngiadau priffyrdd a chyfyngiadau seilwaith eraill ar ddatblygiadau preswyl o fewn y Dref. Nodir un safle ar gyfer 20 o anheddau yn y cynllun, ac mae safle arall â chaniatâd hanesyddol wedi’i ddiffinio ond ni ddisgwylir iddo ddarparu unrhyw unedau preswyl o fewn cyfnod y cynllun.

Llanfairpwll – anheddiad â llwybrau trafnidiaeth o bob tu iddo. I’r de ohono ceir y brif linell reilffordd o Crewe i Gaergybi ac mae ffordd osgoi’r A55 yn rhedeg mewn arch i’r gogledd. Ceir dau safle dyranedig o fewn yr anheddiad ond mae am gadw ‘clustogfa’ rhwng yr anheddiad a’r A55.

2.6 Yng ngoleuni’r materion uchod mae 81 o unedau wedi’u dyrannu ar gyfer yr is-ardal hon (yn dilyn Newidiadau Arfaethedig i’r cynllun) yn lle’r ffigur a ddosrannwyd o 173 o unedau.

2.7 Trafodwyd y materion yn codi o ddarpariaeth tai gyffredinol y cynllun yn ystod y Sesiwn Ford Gron ar Dai. Mae’r ffigur ym Mholisi PO2 yn gadarn ac mae’n cydymffurfio â Gweledigaethau a Thargedau’r cynllun, nodir y cyfiawnhad dros y ffigur yn Atodiad 8 i’r cynllun. Fel y noda para 16.35 y cynllun, mae’r dyraniadau tai wedi’u dosbarthu’n fras yn seiliedig ar y boblogaeth bresennol. Ceir gwyriadau o’r strategaeth hon pan fydd cyfyngiadau o fewn rhai ardaloedd neu aneddiadau.

3.0 Mater

3.1 A yw’r strategaeth o ddosbarthu’r gofyniad anheddau i nifer o ardaloedd daearyddol yn briodol.

4.0 Casgliad yr Arolygydd Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 367

4.1 Deuthum i’r casgliad eisoes o ran Polisi PO2 y dylid darparu ar gyfer 1,800 o anheddau newydd dros gyfnod y cynllun y bydd angen i 1,260 ohonynt fod yn anheddau newydd eu hadeiladu. O’r anheddau hyn bydd angen i 820 ohonynt fod ar safleoedd neilltuedig, a dylid darparu ar gyfer 80 o anheddau eraill fel lwfans hyblygrwydd. Byddai PC146 yn adlewyrchu’r sefyllfa hon yn ddigon agos.

4.2 Rwyf o’r farn ei bod yn werth rhannu’r Ynys yn is-ardaloedd er mwyn nodi’r rhai lle y dylid cyfyngu ar ddatblygu am wahanol resymau, a’r rhai sy’n cynnwys prif ganolfan ac a all dderbyn felly nifer fwy o dai newydd nag y byddai’r is-ardal yn debygol o’u cynhyrchu ar ei phen ei hun. Mae’r ymagwedd hon yn gyson â’r arweiniad yn adran 9.2 Polisi Cynllunio Cymru.

4.3 Am nad oes gan Grðp Afon Menai brif ganolfan ac am nad oes fawr ddim cyfleoedd ar gyfer datblygu cynaliadwy yn ei 3 canolfan eilaidd neu’n agos atynt, rwyf o’r farn y dylai fod yn ardal lle y cyfyngir ar ddatblygu. Mae’n deg felly nad yw’r cynllun yn dyrannu fawr ddim tir yn yr is-ardal hon.

4.4 Ystyriais ym mha Grðp y byddai’n fwyaf priodol gosod y Fali. Ymddengys i mi, am fod y môr yn cyfyngu arni gryn dipyn, fod Ynys Cybi yn uned synhwyrol at ddibenion cynllunio. Ni ddeilliai unrhyw fantais glir felly o ychwanegu y Fali at y Grðp hwn, yn arbennig am mai dim ond a fyddai gan y grðp A5 fel canolfan eilaidd pe câi’r Fali ei symud i grðp arall. Am nad yw’r anheddiad hwn gerllaw’r A5, byddai cyfanrwydd y Grðp hwn mewn perygl felly. Nid yw’r gwrthwynebiad hwn yn awgrymu na ddylai fod grðp A5.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio paragraff 16.35 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC146 ond na ddylid gwneud unrhyw ddiwygiadau eraill mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Paragraff 16.35 Tablau 1 a 2 - Atodiad 8 Gwrthwynebiadau 29/1198 a 29/1204 - Cyngor Cymuned Llanfair Mathafarn Eithaf

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae’r ddau wrthwynebiad yn amau’r modd y mae’r dyraniadau tai newydd wedi’u dosbarthu rhwng yr is-ardaloedd. Mae Is-grðp Llangefni wedi cymryd cyfran rhy fawr o’r gofyniad anheddau.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r Cyngor o’r farn y byddai PC179 a PC180 yn addasu cyfansymiau’r is- ardaloedd yn briodol. Mae dosbarthu’r gofyniad anheddau i is-ardaloedd yn ddull a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau bod y gofyniad anheddau newydd wedi’i ddosbarthu ar draws yr Ynys i helpu i sicrhau cymunedau cynaliadwy yn hytrach na chanolbwyntio ar unrhyw anheddiad neu grðp o aneddiadau penodol. Nid yw’n ddull mathemategol manwl gywir am fod rhywfaint o dir eisioes â chaniatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau preswyl ar ddyddiad sylfaenol y cynllun. Fodd bynnag nid yw’n darparu ar gyfer monitro’n fanwl tueddiadau o ran tai mewn gwahanol rannau o’r ynys. Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 368

2.2 Yn is-grðp Llangefni mae’r gorddyraniad ymddangosiadol yn deillio o sawl caniatâd cynllunio a fodolai ar ddyddiad sylfaenol y cynllun. Oherwydd hyn roedd gan yr is-grðp fanc o dir ar gyfer tai ar ddyddiad sylfaenol y cynllun sy’n fwy na’r hyn sydd ei angen yn fanwl gywir yn seiliedig ar y boblogaeth. Mae PC169 yn manylu ar y caniatâd cynllunio perthnasol yn Llangefni. Ni ddylid newid y gofyniad anheddau cyffredinol na’r cydbwysedd rhwng y dyraniadau i is-ardaloedd.

3.0 Mater

3.1 A yw’r modd y mae dyraniadau tai wedi’u dosbarthu rhwng yr is-ardaloedd yn briodol.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Deuthum i’r casgliad eisoes o ran Polisi PO2 y dylid darparu ar gyfer 1,800 o anheddau newydd dros gyfnod y cynllun y bydd angen i 1,260 ohonynt fod yn anheddau newydd eu hadeiladu. O’r anheddau hyn bydd angen i 820 ohonynt fod ar safleoedd neilltuedig, a dylid darparu ar gyfer 80 o anheddau eraill fel lwfans hyblygrwydd. Byddai PC146 yn adlewyrchu’r sefyllfa hon yn ddigon agos, a byddai Newidiadau Arfaethedig 179 a 180 yn gwneud newidiadau cyfatebol i Dablau 1 a 2 Atodiad 8.

4.2 Am fod Is-grðp Llangefni yn cynnwys yr ail dref fwyaf ar yr Ynys, er mwyn sicrhau datblygu cynaliadwy ac yn unol ag adran 9.2 Polisi Cynllunio Cymru, rwyf o’r farn y dylai’r is-ardal hon gynnwys mwy o dai newydd nag sydd eu hangen i ddiwallu ei hanghenion ei hun yn unig.

5.0 Argymhellion

5.1 Na ddylid diwygio paragraff 16.35 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

5.2 Y dylid diwygio Atodiad 8 Tablau 1 a 2 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC179 a PC180 yn y drefn honno.

Pennod 16 – Poblogaeth a Thai Gwahanol faterion – Porthaethwy Gwrthwynebiadau 128/537, 128/538, 128/541, 128/542, 128/543 128/539, 128/540 - The Butterfield Group

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiad 128/538 yn gwrthwynebu’r ffaith bod yr holl ddata am dai yn seiliedig ar "30 o anheddau fesul hectar" ac mae’n awgrymu y dylid ystyried yr angen am ddatblygiadau preswyl â dwysedd uwch mewn rhai ardaloedd. Mae gwrthwynebiad 128/537 yr un fath â gwrthwynebiad 128/538. Mae 128/541 yn ymwneud â safle Porthaethwy o fewn yr hierarchaeth aneddiadau ac mae’n cynnig y dylai’r anheddiad "gymryd o leiaf ei gyfran gymesurol os nad mwy na’i gyfran gymesurol" o dai. Mae 128/543 yr un fath â 128/541. Mae 128/542 yn cyfeirio at rôl safleoedd penodol ym Mhorthaethwy a allai ddarparu datblygiadau â dwysedd uwch i gwrdd â thueddiadau lleol a chenedlaethol o ran deiliadaeth person sengl. Mae 128/539 am "herio p’un a oes gyfyngiadau priffyrdd a seilwaith ar dref" Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 369

Porthaethwy. Mae 128/540 yn ymdrin â rôl yr anheddiad a’r ddarpariaeth y gellir ei gwneud gan ddatblygiadau â dwysedd uwch.

2.0 Ymateb y Cyngor

Mae pedair prif elfen i’r gwrthwynebiadau yr ymdrinnir â hwy isod:

(i) Porthaethwy - Strategaeth a Hierarchaeth Aneddiadau (128/540, 541, 543)

2.1 Dosberthir Porthaethwy fel canolfan eilaidd (polisi HP3) lle y caniateir datblygiadau tai newydd, gan gynnwys addasiadau, ar y safleoedd a ddyrannwyd, ac ar safleoedd addas eraill o fewn y ffin ddatblygu. Lleolir yr anheddiad o fewn ardal ddaearyddol a ddisgrifir fel "Grðp Afon Menai" ac oherwydd hynny mae’n ddarostyngedig i "bolisi cyffredinol o gyfyngu ar dai newydd oherwydd lefel y gwaith datblygu a welwyd mewn degawdau diweddar" (cyf : tabl ar dudalen 128 y Cynllun Datblygu Unedol). Mae ymlediad datblygiadau preswyl yn codi i’r gogledd-ddwyrain o’r dref yn enghraifft o’r twf a fu yn yr aneddiadau hyn.

(ii) Dwysedd (128/537, 538)

2.2 Mae’r Cyngor yn derbyn y gall rhai safleoedd ar yr Ynys ddarparu dwysedd uwch na 30 o unedau fesul hectar ac mae’n disgwyl i hynny ddigwydd. Mae’r cynllun yn defnyddio 30 o unedau fesul hectar fel ffordd o amcangyfrif yr holl dir ar gyfer tai y mae angen ei ddarparu trwy’r dyraniadau a wneir yn y cynllun cyfan. Wrth gwrs gall safleoedd unigol mewn gwirionedd ddarparu nifer fwy neu lai o unedau na’r ffigur hwn. Bydd hyn yn dibynnu ar y safle, y lleoliad a’r cynigion datblygu penodol a gyflwynir er mwyn cael eu hystyried yn fanwl. Fodd bynnag byddai angen i’r Cyngor sicrhau dwyseddau digon uchel i sicrhau bod tir yn cael ei ddefnyddio’n effeithlon ac i sicrhau bod strategaeth aneddiadau y Cynllun Datblygu Unedol yn cael ei chyflawni ac nas peryglir gan y penderfyniadau datblygu a wneir ar ôl hynny ar gyfer safleoedd unigol. Nid yw’n debyg y bydd y Cyngor yn gwrthwynebu i safleoedd roi dwysedd uwch mewn canolfannau eilaidd megis Porthaethwy yn ddarostyngedig i nodweddion cynllun safle manwl.

(iii) Safleoedd Datblygu

Safle A - Ffordd St George /Mynediad i Ynys Faelog

2.3 Mae hanes cynllunio’r safle yn cynnwys gwahanol geisiadau am 1 neu 2 annedd dros y cyfnod 1972 hyd 2000. At ei gilydd bu’r ceisiadau am un neu ddwy annedd sydd o dan y trothwy ar gyfer dyraniadau yn y Cynllun Datblygu Unedol. Mae’r rhan fwyaf o’r ardal y tu allan i’r ffin ddatblygu ddiffiniedig ar gyfer Porthaethwy ac mae’r Cyngor o’r farn ei bod yn well peidio â dyrannu safle/ardal y gwrthwynebiad. Byddai unrhyw benderfyniad i gymeradwyo datblygiadau preswyl, fel yn achos ceisiadau blaenorol ar y tir, yn cyfrif yn erbyn cyfanswm y safleoedd ar hap a ragwelir yn y cynllun.

Safle B – Gweithdy Maes Parcio Waen

2.4 Mae’r safle yn weithdy morol a leolir gerllaw Maes parcio Waen yng nghanol Porthaethwy. Yn ystod y cyfnod ers rhoi’r cynllun ar adnau cyhoeddus dengys hanes y safle i gais ar gyfer dymchwel gweithdy morol a chodi 4 annedd ar dir gerllaw Maes Parcio Waen gael ei wrthod ym mis Ionawr 2003. Y rheswm dros wrthod oedd "o’r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd, byddai’r datblygiad yn arwain at gynnydd clir yn y llif i’r garthffos gyhoeddus nad oes ganddi ddigon o gapasiti i ddarparu ar gyfer y llifau helaethach hyn". Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 370

Mae lleoliad y safle at ei gilydd yn cydymffurfio ag egwyddorion cynaliadwyedd Polisi Cynllunio Cymru ond mae o dan y trothwy sy’n mynnu dyraniad yn y Cynllun Datblygu Unedol. Am fod y safle wedi’i leoli y tu mewn i ffin ddatblygu Porthaethwy bydd yn dwyn rhagdybiaeth o blaid ei ddatblygu ar yr amod y gellir goresgyn unrhyw gyfyngiadau technegol ar y safle. Ni ddylid ei ddyrannu fodd bynnag.

(iv) Seilwaith a Phriffyrdd (128/539)

2.5 Mae’r Cyngor yn derbyn bod angen nodi’r pwynt hwn yn gliriach.

Priffyrdd

2.6 Nid yw’r Cyngor am awgrymu bod anheddiad Porthaethwy i gyd yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau hyn. Mae pryderon y Cyngor yn ymwneud â’r prif ystadau tai preswyl a leolir i’r dwyrain o’r B5420, a gall fod cyfyngiadau sy’n codi fesul safle mewn mannau eraill yn y dref. Oherwydd datblygiad cynyddol yr ystadau tai hyn yn ystod y degawdau diweddar mae’r mynediadau ffordd o dan ormod o bwysau ac nid yw’r Awdurdod Priffyrdd am waethygu’r sefyllfa.

Carthffosiaeth 2.7 O fewn rhannau o’r un ystadau i’r dwyrain o’r B5420 ceir systemau carthffosiaeth heb eu mabwysiadu na allant ymdopi â rhagor o wastraff yn cael ei lwytho iddynt. Nid yw’r Cyngor am ychwanegu rhagor o ddatblygiadau at y rhan o’r ystadau i’r dwyrain o’r B 5420. Nid yw’r pryderon hyn yn effeithio’n uniongyrchol ar y safleoedd a gynigiwyd gan y gwrthwynebydd.

3.0 Materion

3.1 A ddylid ystyried dwyseddau preswyl uwch, yn arbennig ym Mhorthaethwy ar safleoedd penodol o fewn ffin ddatblygu’r anheddiad. Dylai Porthaethwy ddarparu’r datblygiadau preswyl sydd eu hangen. Dylid nodi cyfyngiadau seilwaith yn gliriach.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Defnyddir y dwysedd o 30 o anheddau fesul hectar gan y Cyngor i gyfrif faint o anheddau a ddarperir ar dir a ddyrannwyd. Cytunaf â Gwrthwynebiadau 128/537 a 128/538 fod lefel uwch o ddeiliadaeth person sengl yn genedlaethol; gallai datblygiadau â dwysedd uwch gynyddu nifer yr anheddau a ddarperir d.s. o ran unedau llai o faint. Nid yw datblygiadau â dwysedd uwch ynddynt eu hunain yn amharu ar waith cynllunio o safon. Dylid gosod cyfeiriad ym mharagraff 16.34 o blaid datblygiadau â dwysedd uwch mewn ardaloedd a wasanaethir yn dda gan drafnidiaeth gyhoeddus.

4.2 Mae Gwrthwynebiad 128/542 yn nodi dau safle sydd wedi’u neilltuo ar gyfer datblygiadau preswyl o fewn ffin ddatblygu Porthaethwy y dylid eu hadeiladu â dwyseddau uwch. Mater i’r Cyngor o dan y broses rheoli datblygiad yw penderfynu ar ddwysedd datblygiadau, a byddai’n amhriodol i’r cynllun a adneuwyd nodi’r dwysedd y mae angen ei sicrhau ar bob safle tai yn y cynllun. Fodd bynnag gallai dwyseddau uwch ym Mhorthaethwy wneud tipyn i ddiwallu’r gofyniad tai penodol a godir yng Ngwrthwynebiadau 128/540, a 128/541. O ran mater cyfyngiadau priffyrdd a seilwaith posibl ar ddatblygu ym Mhorthaethwy a godir yng Ngwrthwynebiad 128/539, mae’r Cyngor yn nodi’r pwynt hwn yn gliriach yn ei ymateb i’r Gwrthwynebiad. Nid wyf o’r farn y dylid cynnwys y manylyn hwn yn y cynllun. Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 371

5.0 Argymhellion

5.1 Y dylid diwygio paragraff 16.34 y cynllun a adneuwyd trwy ychwanegu’r brawddegau canlynol: ‘Bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau datblygiadau preswyl â dwysedd uwch (dros 30 a.f.h.) mewn ardaloedd a wasanaethir yn dda gan drafnidiaeth gyhoeddus. Gall datblygiadau dwysedd uwch ddarparu hefyd ar gyfer datblygiadau sy’n diwallu anghenion cartrefi un person, a’r rhai nad oes ganddynt eu dulliau eu hunain o drafnidiaeth.’

5.2 Na ddylid gwneud unrhyw ddiwygiadau eraill i’r cynllun a adneuwyd o ganlyniad i’r gwrthwynebiadau hyn.

Pennod 16 Ffiniau Datblygu Gwrthwynebiad 31/1166 – Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad yn awgrymu y dylid gwahaniaethu rhwng hen ffiniau a ffiniau newydd i dynnu sylw at newidiadau.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nid oes angen unrhyw wybodaeth o’r fath o dan arweiniad cynllunio ac erbyn hyn mae’r mater wedi darfod.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Nid yw’r mater hwn yn ofyniad o dan arweiniad cynllunio, a byddai’n amherthnasol ar ôl mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Unedol.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Pennod 16 Ffiniau Datblygu Gwrthwynebiad 33/94 – Gwerth Gorau’r DU

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid ymestyn y ffiniau datblygu gryn dipyn neu dylid eu dileu yn llwyr. Byddai hynny yn caniatáu cystadlu rhwng perchenogion tir, yn lleihau prisiau ac yn cynnig dewis i unigolion sydd am fyw yn yr anheddiad hwnnw.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae para 9.2.7 Polisi Cynllunio Cymru yn datgan, wrth nodi safleoedd i’w dyrannu ar gyfer tai mewn Cynlluniau Datblygu Unedol, y dylai awdurdodau cynllunio lleol fabwysiadu dilyniant chwilio, gan ddechrau trwy ailddefnyddio tir a ddatblygwyd ynghynt ac adeiladau o Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 372 fewn aneddiadau, yna estyniadau i aneddiadau ac yna ddatblygiadau newydd o amgylch aneddiadau â chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da. Gall ffiniau datblygu helpu i ddod â sicrwydd a chysonder i’r broses gwneud penderfyniadau.

3.0 Mater

3.1 Dileu ffiniau datblygu.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Rwyf o’r farn bod ffiniau datblygu i aneddiadau yn atgyfnerthu polisïau datblygu gryn dipyn. Maent yn hanfodol i’r ymagwedd chwiliad dilyniannol ar gyfer y cyflenwad o dir ar gyfer tai. Maent hefyd yn cynorthwyo’r broses o gyfeirio adnoddau a darpariaeth gwasanaethau er mwyn iddynt fod o fewn eu ffiniau diffiniedig, ac ochr yn ochr â hynny maent yn hanfodol ar gyfer diogelu cymeriad cefn gwlad a’r dirwedd wledig y tu allan i aneddiadau.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Pennod 16 Tai a Phoblogaeth Gwrthwynebwyr 31/1101 – Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad yn awgrymu na ddylid cynnwys unrhyw dir ffermio heb ei ddatblygu o fewn ffin yr anheddiad.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r cynllun yn diogelu’r tir amaethyddol gorau ond efallai y bydd angen rhywfaint o’r tir (nas nodwyd) i gynorthwyo gwaith datblygu yn y dyfodol.

3.0 Mater

3.1 Dileu tir ffermio heb ei ddatblygu o’r tu mewn i ffiniau aneddiadau.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Efallai y bydd angen dyrannu tir ffermio heb ei ddatblygu at ddibenion datblygu mewn sefyllfaoedd penodol. Dylid rhoi’r flaenoriaeth i ailddefnyddio safleoedd tir llwyd o fewn ffiniau aneddiadau, ond efallai na fydd yn bosibl nac yn ymarferol gwneud hynny bob amser. Byddai’n amhriodol gwahardd datblygu’r holl dir ffermio fel yr awgrymir yn y gwrthwynebiad hwn.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 373

Pennod 16 Tai a Phoblogaeth Gwrthwynebiadau 30/616, 30/617, 30/618 - Bwrdd Yr Iaith Gymraeg

1. 0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae’r gwrthwynebiadau yn awgrymu y dylai Polisïau HP3, HP4 a HP5 gyfeirio at bwyntiau a godir ym mharagraffau 16.2 i 16.5 y cynllun a adneuwyd fel rhan o’r cyfiawnhad rhesymegol.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r Cyngor wedi cyflwyno pennod newydd, sef Pennod 10a – ‘Cynllunio a’r Gymraeg’ fel Newid Arfaethedig 31 i’r cynllun. Mae’r bennod hon yn nodi’r ffyrdd y mae’r Cynllun Datblygu Unedol yn ystyried y Gymraeg wrth ymdrin â cheisiadau. Nid oes angen cyfeirio at y mater hwn yn y cyfiawnhad rhesymegol ar ôl pob un o bolisïau’r strategaeth aneddiadau (HP3 i HP5) am y byddai hynny’n ailadroddus. Wrth ymdrin â cheisiadau cynllunio, rhoddir sylw priodol i bob un o’r polisïau o fewn y cynllun.

3.0 Mater

3.1 Cynnwys croesgyfeiriadau at baragraffau 16.2 i 16.5 ym Mholisïau HP3, HP4 a HP5.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Rwy’n cytuno â’r Cyngor bod PC31 sy’n cyflwyno’r bennod newydd, sef Pennod 10a, yn atgyfnerthu cynnwys y Cynllun o ran y Gymraeg. Fel y nodwyd, bydd angen i’r Cyngor ystyried pob un o bolisïau’r cynllun wrth ystyried cynigion datblygu megis tai. Felly nid oes angen cynnwys croesgyfeiriadau gyda phob un o bolisïau’r cynllun.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisïau HP3, HP4 na HP5 mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Pennod 16 Paragraffau 16.5 – 16.12 Gwrthwynebiad 6/941 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Nodi’r polisi’n gliriach neu ei ddiwygio yn unol â chanllawiau cenedlaethol.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Cyflwynodd y Cyngor Newid Arfaethedig PC145 sy’n dileu paragraffau 16.5 i 16.12 o’r cynllun, a Newid Arfaethedig PC31 sy’n darparu pennod newydd i nodi sefyllfa’r Gymraeg yn gliriach.

3.0 Casgliadau’r Arolygydd

3.1 Mae Newidiadau Arfaethedig PC31 a PC145 yn ateb pryderon y Gwrthwynebydd, ac rwy’n cytuno â’r newidiadau hynny. Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 374

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio’r cynllun a adneuwyd fel y nodir yn Newidiadau Arfaethedig PC31 a PC145.

Pennod 16 Tai a Phoblogaeth Gwrthwynebiad 52/179 - Partneriaeth Ynys Cybi

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae Gwrthwynebiad 52/179 yn nodi nad yw’r cynllun yn caniatáu ar gyfer cynnydd sylweddol yn y stoc tai. Pe sefydlid cyflogwr mawr ar yr Ynys, yn creu 2000 o swyddi ychwanegol, gallai arwain at brinder tai.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Atodiad 8 yn rhoi’r sail ar gyfer 1,800 o ofynion anheddau ac mae’n seiliedig ar yr amcanestyniad o’r boblogaeth, cartrefi ac anheddau ynghyd â newid yn y sefyllfa economaidd erbyn 2006 a fydd yn atal y boblogaeth rhag gostwng ac yn arwain at ofyniad o 1,800 o anheddau dros gyfnod y cynllun.

3.0 Mater

3.1 Dyrannu tir ychwanegol ar gyfer tai.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Rwy’n fodlon bod sail gadarn i ddarpariaeth ar gyfer 1,800 o anheddau yn y cynllun. Edrychwyd ar y mater hwn yn y drafodaeth Ford Gron ar yr Angen am Dai a’r Cyflenwad o Dir, ac nid wyf o’r farn y dylid newid fy nghasgliad ar lefel y ddarpariaeth tai oherwydd y gwrthwynebiad hwn. Mae twf economaidd ar yr Ynys yn debygol o fod yn gynyddol, ac os bydd diffyg tir ar gyfer tai, gellir ystyried hynny wrth ddiwygio’r Cynllun Datblygu Unedol yn y dyfodol.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi HP3 Prif Ganolfannau a Chanolfannau Eilaidd Gwrthwynebiad 135/1095 – Cyngor Cymuned Llanddyfnan

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid ychwanegu’r maen prawf “Y nifer a’r math o dai ar werth ar unrhyw adeg benodol” at bolisi HP3.

2.0 Ymateb y Cyngor

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 375

2.1 Disgwylir i aneddiadau a nodwyd o dan bolisi HP3 ddarparu tai yn unol â pharagraff 2.5.6 Polisi Cynllunio Cymru am ei bod yn gymharol hawdd eu cyrraedd trwy ddulliau teithio ac eithrio’r car. Disgwylir i aneddiadau a nodwyd o dan bolisi HP4 ddarparu tai yn unol â pharagraff 2.5.7 Polisi Cynllunio Cymru. Yn y mwyafrif o aneddiadau nodwyd dyraniad fel estyniad bach. Efallai y ceir safleoedd ar hap hefyd o fewn ffin ddatblygu’r anheddiad. O fewn aneddiadau a nodwyd o dan bolisi HP5 yn unol â pharagraff 9.2.18 Polisi Cynllunio Cymru, caniateir anheddau unigol ar safleoedd ‘mewnlenwi’, neu safleoedd derbyniol eraill sydd gerllaw rhan ddatblygedig y pentrefan neu’r clwstwr gwledig.

2.2 Nid yw’n briodol defnyddio’r meini prawf yn HP4 mewn perthynas â pholisi HP3 am fod yr aneddiadau hyn yn cyflawni rôl wahanol yn strategaeth aneddiadau’r cynllun.

3.0 Mater

3.1 Ychwanegu maen prawf newydd at Bolisi HP3 yn ymwneud â thai ar werth.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Wrth fonitro’r Cynllun Datblygu Unedol, bydd angen i’r Cyngor ystyried amrywiaeth o faterion. O ran tai, mae’n ddefnyddiol casglu data am y nifer a’r math o anheddau gwag. Mae’n llai clir faint o werth sydd i ddata ar ‘y nifer a’r math o dai ar werth’, am y gall fod nifer o ffactorau personol y tu ôl i fwriad i roi tþ ar y farchnad i’w werthu. Nid wyf o’r farn bod y wybodaeth hon o reidrwydd yn ganolog i’r broses o lunio polisïau tai mewn cynllun datblygu, ac nid yw’n ystyriaeth ddigon manwl gywir y dylid ei hychwanegu at Bolisi HP3.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisïau HP3, HP4 a HP5 Prif Ganolfannau a Chanolfannau Eilaidd Gwrthwynebiadau 9/806, 9/807 a 9/908 – Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae’r gwrthwynebiadau hyn yn nodi y gall hyd yn oed datblygiadau tai ar raddfa fach amharu ar nodweddion o werth bywyd gwyllt e.e. gwrychoedd, llynnoedd bach ac ati. Dylid rhoi sylw i’r gwaith o gynnal coridorau bywyd gwyllt er enghraifft rhwng coetiroedd neu diroedd gwlyb.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae para 5.4.3 Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylai Cynlluniau Datblygu Unedol hyrwyddo’r broses o reoli nodweddion tirwedd sydd o bwys mawr i blanhigion ac anifeiliaid gwyllt yn briodol. Derbyniwyd gwrthwynebiadau tebyg gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru (35/1283, 1311 a 2014). Yng ngoleuni’r gwrthwynebiadau hyn lluniodd y Cyngor Ddatganiad y Cytunwyd arno ar y Cyd lle y cytunir cynnwys polisi ychwanegol o fewn y Bennod ar yr Amgylchedd yn dwyn y teitl 'Nodweddion tirwedd o bwys mawr i blanhigion ac anifeiliaid'.

3.0 Mater Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 376

3.1 Dylid rhoi sylw i fuddiannau bywyd gwyllt wrth ystyried datblygiadau tai.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae’r Cyngor yn bwriadu cynnwys polisi newydd, sef Polisi Enx, a chyfiawnhad rhesymegol mewn ymateb i wrthwynebiadau eraill ynghylch y mater hwn. Mae’r polisi wedi’i eirio:

“Polisi ENx – Nodweddion tirwedd o bwys mawr i blanhigion ac anifeiliaid.

Caniateir datblygiadau a fyddai’n cael effaith andwyol ar gyfanrwydd neu barhad y nodweddion tirwedd canlynol (sydd o bwys mawr i blanhigion ac anifeiliaid gwyllt) os gellir dangos ei bod yn amlwg bod yr angen am y datblygiadau yn bwysicach na’r angen i gadw’r nodweddion. Bydd angen mesurau lliniaru a fyddai’n adfer cyfanrwydd neu barhad y nodweddion.

Mae’r rhestr ganlynol o nodweddion yn berthnasol: Gwrychoedd; ffosydd a chloddiau; waliau cerrig a chloddiau; lleiniau o goed; coetiroedd; hen goed; parcdiroedd; lonydd gwyrdd; coridorau afon a nant; llynnoedd; llynnoedd bach; lleiniau ymyl ffordd; neu fosaigau o gynefinoedd neu rwydweithiau o gynefinoedd eraill sy’n bwysig yn lleol.”

Cyfiawnhad rhesymegol: “Hyrwyddir rheoli’r nodweddion hyn yn briodol trwy osod amodau ar geisiadau cynllunio a thrwy ddefnyddio cytundebau cynllunio a thrwy wneud cytundebau rheoli gyda pherchenogion tir a datblygwyr pan fydd hynny’n briodol.”

4.2 Rwy’n cytuno â’r Cyngor y byddai’r newid hwn yn ateb y gwrthwynebiad.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio’r cynllun a adneuwyd trwy ychwanegu’r Polisi a’r cyfiawnhad rhesymegol canlynol.

“Polisi ENx – Nodweddion tirwedd o bwys mawr i blanhigion ac anifeiliaid.

Caniateir datblygiadau a fyddai’n cael effaith andwyol ar gyfanrwydd neu barhad y nodweddion tirwedd canlynol (sydd o bwys mawr i blanhigion ac anifeiliaid gwyllt) os gellir dangos ei bod yn amlwg bod yr angen am y datblygiadau yn bwysicach na’r angen i gadw’r nodweddion. Bydd angen mesurau lliniaru a fyddai’n adfer cyfanrwydd neu barhad y nodweddion. Mae’r rhestr ganlynol o nodweddion yn berthnasol: Gwrychoedd; ffosydd a chloddiau; waliau cerrig a chloddiau; lleiniau o goed; coetiroedd; hen goed; parcdiroedd; lonydd gwyrdd; coridorau afon a nant; llynnoedd; llynnoedd bach; lleiniau ymyl ffordd; neu fosaigau o gynefinoedd neu rwydweithiau o gynefinoedd eraill sy’n bwysig yn lleol.”

Cyfiawnhad rhesymegol: “Hyrwyddir rheoli’r nodweddion hyn yn briodol trwy osod amodau ar geisiadau cynllunio a thrwy ddefnyddio cytundebau cynllunio a thrwy wneud cytundebau rheoli gyda pherchenogion tir a datblygwyr pan fydd hynny’n briodol.”

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 377

Hepgor Polisi Cyflwyno Tai Fesul Cam Gwrthwynebiadau 23/455 – T S Glenfort Ltd 28/1227 – Jan Tyrer Newid Arfaethedig 168 Polisi Arfaethedig HP14 – Cyflwyno Fesul Cam Gwrthwrthwynebiadau 8/2350 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig 24/2158 – Ffederasiwn yr Adeiladwyr Tai 36/2343 – Asiantaeth yr Amgylchedd Newid Arfaethedig Pellach FPC2 Polisi Arfaethedig SG1A – Cyflwyno Fesul Cam Gwrthwrthwynebiad 31/3006 – Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau a’r Gwrthwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiadau 23/455 a 28/1227 o’r farn y dylid cynnwys polisi ym Mhennod 16 yn hyrwyddo’r gwaith o gyflwyno datblygiadau preswyl fesul cam ar safleoedd mwy o faint pan fydd angen gwneud hynny. Byddai hynny yn caniatáu hyblygrwydd wrth gyflwyno tir i sicrhau’r cyflenwad pum mlynedd ym Mholisi HP1, ac yn sicrhau cydbwysedd o ran datblygu aneddiadau ac ardaloedd.

1.2 Mae Gwrthwrthwynebiad 8/2350 o’r farn y dylid atgyfnerthu PC168 trwy ddefnyddio statws NCT1, paragraff 18 Categori 2* ar gyfer pob datblygiad tai a gyflwynir fesul cam. Mae Gwrthwrthwynebiad 24/2158 o’r farn y dylid dileu PC168 am ei fod yn rhy amwys, d.s. maen prawf (ii), ac am nad yw’n cyd-fynd ag arweiniad y llywodraeth ym Mholisi Cynllunio Cymru. Mae Gwrthwrthwynebiad 36/2343 yn nodi y gall trefniadau cyflwyno fesul cam fod yn berthnasol i unrhyw fath o ddatblygiad. Mae Gwrthwrthwynebiad 31/3006 yn nodi, wrth gyflwyno tir fesul cam at ddibenion ei ddatblygu, y dylid datblygu’r dyraniad lleiaf sensitif yn gyntaf.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Newid Arfaethedig PC168 yn cynnig polisi newydd, sef HP14, ar gyflwyno datblygiadau preswyl fesul cam, ynghyd â thestun ategol. O dan Newid Arfaethedig Pellach FPC2, rhoddir rhif newydd i’r polisi hwn, sef Polisi SGIA, ac fe’i haralleirir rywfaint. Mewn ymateb i Wrthwynebiad 8/2350 ymdrinnir â’r mater hwn yn y Gyd-Astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai a wneir bob 2 flynedd.

3.0 Mater

3.1 A oes angen polisi newydd ar gyflwyno datblygiadau preswyl fesul cam?

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 O ran PC168 ac FPC2, nid oes angen ysgrifennu i mewn i bolisi cynllun datblygu ynghylch materion y gellir yn hawdd eu rheoli o dan y broses rheoli datblygiad. O ran meini prawf (i) a (iii), bydd y rhain yn hunanreoleiddiol, a byddant yn galluogi datblygiadau i fynd rhagddynt ar ôl i fesurau, gan gynnwys cyllid, gael eu rhoi ar waith i ddatrys diffygion o ran gwasanaethau a chyfleusterau lleol.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 378

4.2 Rwy’n cytuno â Gwrthwrthwynebiad 24/2158 bod maen prawf (ii) yn amwys ac nad yw’n nodi natur yr egwyddor ddilyniannol a sut y bwriedir ei chymhwyso at ddatblygiadau preswyl trwy’r polisi hwn mewn perthynas â dyraniadau penodol. Mae’n rhaid rhagdybio y bydd egwyddor y prawf dilyniannol –mae paragraff 9.2.8 Polisi Cynllunio Cymru yn cyfeirio ati - eisoes wedi’i hystyried wrth benderfynu ar y ddarpariaeth tir ar gyfer tai a dyraniadau yn ymwneud â safleoedd penodol.

4.3 Caiff polisïau ar gyflwyno fesul cam a geir mewn cynlluniau datblygu eu canfod gan amlaf mewn ardaloedd sydd o dan gryn bwysau datblygu a fyddai’n peri i’r galw yn y farchnad ddihysbyddu’r holl ddarpariaeth gynlluniedig yn ystod blynyddoedd cyntaf y cynllun. Nid wyf o’r farn bod Ynys Môn yn un o’r ardaloedd hyn. Ni ellir yn hawdd ddehongli a chymhwyso’r polisi a gyflwynwyd yn PC168 ac a ddiwygiwyd yn FPC2. Nid yw’n ymwneud â safleoedd penodol ychwaith. Dylai’r Cyngor ailystyried y polisi, a dylid ei gymhwyso at gynigion ar gyfer datblygiadau preswyl ac nid at unrhyw ddefnydd arall. Os ystyrir bod polisi newydd yn briodol, gellid cyfeirio at safleoedd a enwyd yn benodol ac at safleoedd ar hap, y dibynnir arnynt gryn dipyn yn y cynllun a adneuwyd. Dylai’r pwyslais fod ar amseru rhyddhau tir os bydd gwaith monitro yn dangos bod nifer yr anheddau a gwblheir yn fwy na’r rhagdybiaethau o ran y gyfradd ddatblygu dros gyfnod y cynllun. Mae’n debyg mai nod y polisi fydd rheoli’r modd y rhyddheir safleoedd er mwyn rheoli nifer yr anheddau a gwblheir mewn perthynas â darpariaeth ddigonol o dai.

5.0 Argymhellion

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd o ran cyflwyno datblygiadau fesul cam. Na ddylid cymeradwyo PC168 ac FPC2 i’w cynnwys yn y cynllun a adneuwyd. Gwneir yr argymhellion hyn mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Polisïau HP 3 - 5 Gwrthwynebiadau 6/943, 958 a 959 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru Newid Arfaethedig 153 Polisi HP3 Gwrthwrthwynebiad 6/2087 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Newid Arfaethedig 156 Polisi HP5 Gwrthwrthwynebiad 6/2094 Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau a’r Gwrthwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiadau 6/943, 6/958 a 6/959 yn nodi y gellid ystyried bod y cyfeiriad at "anghenion y gymuned leol" a "gofynion lleol" ym mholisïau HP 3 - 5 a’u cyfiawnhad rhesymegol yn ymagwedd orgyfyngol. Mae Gwrthwrthwynebiadau i Newidiadau Arfaethedig 153 a 156 yn nodi nad yw’r newidiadau arfaethedig hyn yn ymdrin â’r gwrthwynebiadau gwreiddiol, ac y dylid gwneud y term ‘angen’ yn gliriach ym mharagraffau 16.35 i 16.43.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nid yw’r Cyngor o’r farn bod geiriad y polisïau, fel y’u diwygiwyd, yn orgyfyngol pan y’u hystyrir yn erbyn Polisi Cynllunio Cymru. Nid yw Polisi HP3 yn defnyddio’r term "lleol". Mae Newid Arfaethedig PC 153 yn dileu’r term "lleol" o Bolisi HP4.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 379

2.2 Nid yw Polisi HP5 yn defnyddio’r term "lleol". Mae’r Cyngor o’r farn, wrth symud o’r Cynllun Datblygu Unedol drafft cyntaf, i’r fersiwn a adneuwyd a’r newidiadau cysylltiedig, fod y polisïau wedi’u diwygio i sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar (a) y gofynion o ran anheddau o fewn yr hierarchaeth aneddiadau, a (b) yr angen am dai a nodwyd yn ardal y cynllun ac nid yw’r cynllun yn ceisio ystyried y materion hynny yn ymwneud â’r diffiniad o berson "lleol". Felly mae’r Cynllun Datblygu Unedol yn gyson â Pholisi Cynllunio Cymru.

2.3 Mewn ymateb i’r Gwrthwrthwynebiadau i Newidiadau Arfaethedig 153 a 156, mae’r Cyngor wedi cytuno ar newidiadau i baragraffau 16.35, 16.36, 16.38, ac 16.39 gyda’r gwrthwynebydd. Nodir y newidiadau hyn yn ffeil gwrthwynebiad 6/2094.

3.0 Materion

3.1 A ddylid newid y cyfeiriadau at ‘angen’?

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 O ran Gwrthwynebiad 6/943 sy’n cyfeirio at baragraffau 16.46 yn dilyn Polisi HP3 ac at y geiriau ‘anghenion y gymuned leol’. Mae hyn yn gyfeiriad priodol at lefel o ddarpariaeth ac ni ddylid ei newid. Mae PC153 yn dileu’r term ‘lleol’ o Bolisi HP4. Mae Gwrthwynebiad 6/2087 i PC153 yn ystyried y newid hwn i ddefnyddio dewis arall o eiriau â’r un ystyr. Deallaf nod yr ymagwedd sydd wedi’i mabwysiadu gan y Cyngor ac rwy’n cytuno â hi mewn egwyddor, ac er mwyn sicrhau na ellid dehongli Polisi HP4 i ddarllen ei fod yn cyfyngu datblygiadau tai i drigolion pentrefi yn unig, rwy’n cynnig y dylid gosod y geiriau ‘nifer y tai sydd eu hangen ar y gymuned bentrefol’ ym Mholisi HP4, yn lle’r geiriau ‘gofynion lleol’ (Polisi HP4). Gellid cyfeirio yn y testun ategol at arolygon y gellid eu gwneud i nodi ‘gofynion tai lleol’.

4.2 O ran Gwrthwynebiad 6/959, ystyrir bod Polisi HP5 yn orgyfyngol. Mae Polisi HP5 yn ymwneud â phentrefannau a chlystyrau o anheddau yng nghefn gwlad, nad oes unrhyw ffin ddatblygu ar eu cyfer. Bydd yn anodd nodi ‘anghenion yr anheddiad o ran anheddau newydd’, a gofynion y pentrefan/clwstwr. Gorau oll os gellir dileu cyfeiriadau o’r fath. Dylid ystyried pa mor dderbyniol yw tai newydd a ddarperir trwy gynigion ar gyfer anheddau unigol o ran yr effaith ar gymeriad y grðp a lefel yr ymwthio andwyol i’r dirwedd. Yn yr un modd, dylid dileu’r testun yn dilyn y lleoliadau a restrir.

4.3 Nodaf mewn ymateb i wrthwynebiadau 6/2087 a 6/2094 fod y Cyngor yn bwriadu newid cyfeiriadau yn y tabl â pharagraff 16.35. Ym mhob is-ardal ar wahân i grðp Afon Menai, byddai’r geiriau ‘gofyniad anheddau a’r angen am dai’ yn disodli’r gair ‘angen’. Dilëir paragraff 16.36. Diwygir paragraff 16.38 i gynnwys y geiriau ‘gofyniad anheddau a’r angen am dai’ yn lle ‘angen a dyheadau am gartrefi’. Diwygir paragraff 16.39 i gynnwys y geiriau ‘gofyniad anheddau a’r angen am dai’ yn lle ‘angen am dai’. Mae fy argymhellion yn unol â hynny.

5.0 Argymhellion

5.1 Na ddylid diwygio Polisi HP3 o ganlyniad i’r gwrthwynebiadau hyn.

5.2 Y dylid diwygio Polisi HP4 trwy ddileu’r geiriau ‘gofynion lleol’ a gosod y geiriau ‘nifer y tai sydd eu hangen ar y gymuned bentrefol’ yn eu lle o ganlyniad i’r gwrthwynebiadau hyn. Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 380

5.3 Y dylid diwygio Polisi HP5 trwy ddileu’r geiriau ‘nid eir y tu hwnt i anghenion yr anheddiad o ran anheddau newydd’.

5.4 Na ddylid cymeradwyo Newidiadau Arfaethedig 156 (ac eithrio’r rhan honno o PC 156 yn ymwneud ag aneddiadau a Bwlchgwyn), a 153 (ac eithrio’r rhan honno o PC 153 yn ymwneud ag aneddiadau a Llanrhuddlad) i’w cynnwys yn y cynllun a adneuwyd.

5.5 Y dylid diwygio Paragraffau 16.35, 16.36, 16.38 ac 16.39 fel a ganlyn:

(i) Ym Mharagraff 16.35, ym mhob cyfeiriad at is-ardal, dylid gosod y geiriau ‘gofyniad anheddau ac angen am dai, yn lle’r gair ‘angen’. (ii) Dileu paragraff 16.36. (iii) Ym Mharagraff 16.38, dylid gosod y geiriau ‘gofyniad anheddau ac angen am dai’ yn lle’r geiriau ‘angen a dyheadau am gartrefi’. (iv) Ym Mharagraff 16.39, Dylid gosod y geiriau ‘gofyniad anheddau ac angen am dai’ yn lle’r geiriau ‘angen am dai’.

5.6 Gwneir yr argymhellion hyn mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Map 2 Amlwch Gwrthwynebiad 161/1425 T.H. Jones

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Diwygio’r ffin ddatblygu a dyrannu tir ar gyfer tai i’r gogledd-ddwyrain o Ystad Dai Awelfryn, Amlwch.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae ffin ddatblygu Amlwch fel y’i diwygiwyd trwy Newid Arfaethedig PC 503, yn adlewyrchu rhan ddatblygedig yr anheddiad. Nid yw’n rhesymegol ymestyn y ffin ddatblygu i gynnwys tir i’r gogledd-ddwyrain o Ystad Awelfryn a byddai’n gyfystyr ag ymwthio i gefn gwlad agored. Nid oes angen y tir ychwanegol a geisir gan y gwrthwynebydd i ddiwallu anghenion yr is-ardal o ran tai am fod digon o dir wedi’i ddyrannu.

3.0 Mater

3.1 Diwygio’r ffin ddatblygu i gynnwys ardal o 0.53 hectar gerllaw Awelfryn a Madyn Dusw, a dyrannu tir ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Bernais mewn perthynas â gwrthwynebiad i Gynnig T2 nad oes angen ymestyn y ffin ddatblygu ac ymgorffori safleoedd meysydd glas yng nghefn gwlad er mwyn darparu tir ar gyfer datblygiadau tai newydd yn Amlwch. Ceir nifer o ardaloedd o dir agored o fewn y ffin ddatblygu y dylid eu datblygu cyn safleoedd y tu allan i’r ffin. Yn hyn o beth, nodais fod ffin ddatblygu Amlwch wedi’i thynnu’n ôl o dan Newid Arfaethedig PC503. Os rhyddheir tir ar gyrion yr anheddiad at ddibenion datblygu, bydd llai o gymhelliad i gyflwyno safleoedd a leolir o fewn y ffin ddatblygu. Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 381

4.2 Ymddengys y gallai nifer o safleoedd ar hap ymgynnig yn Amlwch i ddiwallu’r angen am dir ar gyfer tai. Dof i’r casgliad nad yw tir y gwrthwynebiad yn addas i’w gynnwys o fewn y ffin ddatblygu fel safle ar gyfer datblygiadau tai.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 2 Amlwch – Cynnig T2 Gwrthwynebiadau 8/247 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig 31/1103 – Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiad 8/247 yn awgrymu y dylid dileu’r dyraniad T2 yn Amlwch neu’r penderfyniad i ddyrannu’r safle fel tai fforddiadwy am nad oes angen dyrannu’r tir hwn. Mae Gwrthwynebiad 31/1103 yn awgrymu y dylid dileu dyraniad T2 yn Amlwch am fod digon o dir amaethyddol o fewn yr anheddiad i fodloni gofynion yr anheddiad.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Amlwch wedi’i ddosbarthu fel prif ganolfan o fewn is-grðp y gogledd. Mae angen y safle i gyflawni strategaeth tai’r cynllun. Mae’n rhoi ffin resymegol i’r anheddiad ac nid yw’n gyfystyr ag ymwthiad i gefn gwlad agored. Derbyniodd y Cyngor 3 chynrychioliad o blaid y dyraniad hwn. Mae’r cynrychioliadau hyn yn tynnu sylw at y ffaith bod y safle wedi’i leoli gerllaw amwynderau lleol, bod ganddo fynediad da a’i fod yn estyniad rhesymegol o anheddiad Amlwch.

3.0 Mater

3.1 A ddylid dileu Cynnig T2?

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae’n anodd deall pam y dylid dyrannu’r safle maes glas hwn ar gyfer datblygiadau preswyl pan ymddengys fod darnau sylweddol o dir agored o fewn y ffin ddatblygu lle y mae rhagdybiaeth o blaid eu datblygu. Yn yr ystyriaeth hon, nodais Newid Arfaethedig PC503 a dynnodd y ffin ddatblygu yn ôl mewn ymateb i wrthwynebiad gan Blaid Werdd Sir y Fflint. Nodais hefyd y dyraniad a wnaed yn Newid Arfaethedig PC169 a PC504 yn ymwneud â Chynnig T59 yn ymwneud ag 1.6 hectar o dir â chaniatâd cynllunio o fewn y ffin ddatblygu a all ddod i’r amlwg ar gyfer datblygiadau tai yn ystod cyfnod y cynllun.

4.2 Gallai dyrannu safle Cynnig T2 a leolir ar gwr yr anheddiad ei gwneud yn anos hefyd i wrthsefyll datblygiadau ar ddarnau cyffiniol o dir i’r gorllewin yn y dyfodol. Ni ellir cyfiawnhau datblygu’r safle maes glas deniadol hwn am unrhyw reswm.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid dileu Cynnig T2 (Map 2 – Amlwch) o’r cynllun a adneuwyd ac y dylid diwygio y Rhestr Safleoedd Datblygu Tai (Gweler PC169) o ganlyniad. Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 382

Map 2 Amlwch Gwrthwynebiad 31/1104 – Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Gosod y tir amaethyddol i’r de-orllewin o ddyraniad tai T4, Amlwch, y tu allan i’r ffin ddatblygu.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Gwnaeth y Cyngor Newid Arfaethedig PC503 sy’n tynnu’r ffin ddatblygu yn ôl yn Lôn Bach, Amlwch.

3.0 Mater

3.1 Tynnu ffin ddatblygu Amlwch yn ôl.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Tynnir y gwrthwynebiad yn ôl yn amodol yn dilyn Newid Arfaethedig PC503. Rwy’n cytuno â’r newid hwn. Mae’n debyg bod digon o gyfleoedd ar gyfer datblygiadau preswyl ar gael o hyd ar safleoedd nas nodwyd o fewn ffin ddatblygu Amlwch i fodloni gofynion.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio’r cynllun a adneuwyd fel y nodir yn Newid Arfaethedig PC503.

Map 3 - Cynnig T5 Gwrthwynebiadau 8/246 - Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig 14/748 - Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar 48/386 - BT Group plc

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiad 8/246 yn awgrymu y dylid dileu’r dyraniad am nad oes ei angen. Mae Gwrthwynebiad 14/748 yn nodi bod y dyraniad tai (T5) wedi’i leoli o fewn yr ardal o galchfaen yn rhedeg ar draws dwyrain Ynys Môn ac mae am weld brîff datblygu ar gyfer y safle. Mae Gwrthwynebiad 48/386 yn awgrymu y dylid ymestyn y dyraniad i gynnwys y gyfnewidfa ffôn.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Benllech wedi’i ddosbarthu fel canolfan eilaidd o fewn is-ardal Grðp Arfordir y Dwyrain. O ran gwrthwynebiad 8/246 mae angen y dyraniad T5 i gyflawni strategaeth tai’r cynllun a darparu cyflenwad digonol o anheddau i fodloni’r gofynion tai ar gyfer yr is-ardal. O ran gwrthwynebiad 14/748 nid yw’n fwriad gan y Cyngor lunio briffiau datblygu ar gyfer Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 383 pob un o’i safleoedd ar hyn o bryd. Mae polisïau a gynhwysir o fewn y cynllun a fydd yn diogelu’r elfennau o’r dirwedd yn gysylltiedig â phlanhigion ac anifeiliaid, sef EN4.

2.2 O ran gwrthwynebiad 48/386 nid oes angen ymestyn y dyraniad am fod y gyfnewidfa ffôn wedi’i lleoli o fewn y ffin ddatblygu. Nid yw’r tir yn wag ac ar hyn o bryd mae’n cael ei ddefnyddio gan BT ac felly byddai’n amhriodol ei ddyrannu fel rhan o T5. Derbyniodd y Cyngor un cynrychioliad (CDU 465) o blaid y dyraniad. Mae’r cynrychioliad yn tynnu sylw at y ffaith bod angen tai o fewn Benllech, bod y safle o fewn ffin naturiol y pentref, a bod digon o seilwaith o fewn yr ardal i wasanaethu datblygiadau tai newydd.

3.0 Materion

3.1 A ddylid cadw Cynnig T5 o fewn y ffin ddatblygu a pharatoi brîff datblygu ar gyfer y safle? A ddylai’r dyraniad gynnwys safle’r gyfnewidfa ffôn?

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Lleolir y safle maes glas hwn sydd ag arwynebedd o 1.1ha ar gwr gorllewinol y pentref. Dyma’r unig safle sydd wedi’i ddyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl yn Benllech am fod gan safleoedd T6 a T7 ganiatâd cynllunio. Mae rhan helaeth o’r pentref yn cynnwys datblygiadau tai cymharol fodern ar ffurf ystadau, ac o ganlyniad mae’r cyfleoedd ar gyfer safleoedd ar hap ar gyfer datblygiadau tai yn gyfyngedig iawn. Mae’n briodol cynyddu lefel y datblygu rywfaint ar gyfer Benllech, ac rwyf o’r farn mai’r safle yw’r lleoliad gorau posibl ar gwr y pentref. Mater ar gyfer gwaith manylu diweddarach yng nghyd-destun y Cynllun Datblygu Unedol yw brîff datblygu ar gyfer y safle. Lleolir y gyfnewidfa ffôn gerllaw’r safle o fewn y ffin ddatblygu. Mae’n weithredol o hyd ac ni fyddai’n rhan o unrhyw gynllun ar gyfer datblygiad preswyl ar safle T5.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Cynnig T5 (Map 3 – Benllech) mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Map 3 – Cynnig T5 Benllech Gwrthwynebiad 91/499 - Mr John Roberts

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylai fod ymrwymiad hirdymor o ran y Cyngor i ymestyn ffin yr ysgol i hwyluso lle/maes chwarae mwy o faint gerllaw’r datblygiad arfaethedig o dan Gynnig T5 a byddai’n darparu mynedfa / allanfa ar gyfer yr ardal honno i mewn i Lôn Cudyn.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nid oes unrhyw gynigion i ymestyn ffin yr ysgol i hwyluso lle/maes chwarae mwy o faint gerllaw’r safle tai hwn. Mae Polisi TO11 'Cyfleusterau Chwaraeon a Hamdden' yn darparu ar gyfer cynigion ar gyfer cyfleusterau chwaraeon a hamdden ar yr amod nad ydynt yn peri niwed annerbyniol i amwynder preswyl a gweledol.

3.0 Mater

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 384

3.1 Ymestyn ffin ysgol Benllech i hwyluso maes/lle chwarae mwy o faint yn ymwneud ag anghenion yn deillio o dai newydd ar Gynnig T7.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae’r gofyniad hwn yn amhenodol ac ni ellir ei ystyried fel dyraniad defnydd tir penodol yn y cynllun. Nid yw’r cynllun yn dileu’r posibilrwydd y ceir maes/lle chwarae mwy o faint yn ysgol Benllech.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 3 Benllech – Cynnig T6 Gwrthwynebiad 31/1105 – Plaid Werdd Sir y Fflint Newid Arfaethedig PC505 Benllech – Cynnig T6 Gwrthwrthwynebiad 31/2439 – Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad a’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Dileu dyraniad T6. Dileu’r ffin ddatblygu a gadwyd o dan Newid Arfaethedig PC505.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Newid arfaethedig PC169 yn dileu’r dyraniad o’r rhestr o gynigion tai yn y Cynllun Datblygu Unedol. Gwnaed hynny am fod gan y safle ganiatâd sy’n bodoli, ar gyfer 6 annedd yn wreiddiol ac ar gyfer 4 annedd yn ddiweddarach, ac am ei fod o dan y trothwy o 5 annedd bellach.

3.0 Mater

3.1 Dileu dyraniad T6 a’r ffin ddatblygu.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Am fod gan y safle ganiatâd cynllunio, mae wedi’i neilltuo at ddibenion ei ddatblygu. Nodaf fod y safle yn cael ei ddileu o dan PC 169. Rwy’n cytuno y dylid cadw’r ffin ddatblygu a fydd yn ymgorffori’r tir datblygu neilltuedig.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid dileu Cynnig T6 o’r cynllun a adneuwyd fel y nodir yn Newidiadau Arfaethedig PC169 a PC505, ond na ddylid diwygio ffin ddatblygu Benllech. Gwneir yr argymhelliad hwn mewn ymateb i’r gwrthwynebiad a’r gwrthwrthwynebiad uchod.

Map 3 Benllech – Cynnig T7 Gwrthwynebiadau 134/82, 83, 84 - D.A. Lucking 91/313 - John Roberts Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 385

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiadau 134/82, 83 ac 84 yn awgrymu y dylid dileu Cynnig T7. Mae Gwrthwynebiad 91/313 yn nodi y dylid cofnodi’r safle fel tir Tyn-y-Felin yn hytrach nag Ystad Bwlch Gwyn.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Yn Newid Arfaethedig PC169, cofnodir T7 fel 'Lôn Farchog' yn hytrach na 'Bwlch Gwyn', i adlewyrchu enw’r ystad sy’n cael ei datblygu ar y safle. Mae Newid Arfaethedig PC506 yn nodi bod safle T7 yn safle tai a chanddo ganiatâd cynllunio sy’n bodoli eisoes. Datgelodd arolwg diweddaraf y Cyngor o safleoedd tai, a wnaed ym mis Hydref 2002, fod y safle hwn wrthi’n cael ei adeiladu.

3.0 Mater

3.1 Dileu Cynnig T7 ac ailenwi’r safle.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae gan Gynnig T7 ganiatâd cynllunio ar gyfer 21 o unedau anheddau ac mae wrthi’n cael ei adeiladu. Rwy’n fodlon i’r newidiadau a gynigiwyd yn ymwneud ag ailenwi’r safle hwn, ac â statws Bwlch Gwyn o dan Bolisi HP5 fel y’i nodir yn Newidiadau Arfaethedig 156, 179 a 578 gael eu hymgorffori yn y cynllun a adneuwyd.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Cynnig T7 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 3 Benllech Gwrthwynebiad 109/655 – Ystad Meyrick

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Cynnwys Cae 7587 yr Arolwg Ordnans o fewn y ffin ddatblygu a’i ddyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nodir dau safle yn Benllech i ddarparu ar gyfer 51 o unedau preswyl. Ystyrir mai’r safleoedd hyn yw’r mân estyniadau mwyaf addas i’r anheddiad.

3.0 Mater

3.1 Dyrannu darn o dir ag arwynebedd o 2.3 hectar ar gyfer datblygiadau preswyl yn Benllech.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 386

4.1 Mae’r safle yn cynnwys 2.5 hectar o dir maes glas gerllaw anheddiad Benllech ar ei ffin ddeheuol. Gallai ddarparu rhyw 70 o anheddau o leiaf. Fel y nodir yn Newid Arfaethedig PC169 yn ymwneud â Benllech, mae Cynigion T5 a T7 yn darparu ar gyfer 51 o anheddau. Mae Benllech yn bentref preswyl ac yn gyrchfan twristiaid yn bennaf. Mae twristiaeth a gwasanaethau lleol yn darparu’r prif ffynonellau cyflogaeth.

4.2 Pe câi’r pentref ei ymestyn ymhellach tuag at safle’r gwrthwynebiad, byddai darn deniadol o gefn gwlad agored yn cael ei golli. Mae’n debyg y byddai datblygiadau ar gyfer tai yn cynyddu’r lefel o allgymudo i’r gwaith, a’r defnydd a wneir o’r car, yn groes i egwyddorion cynaliadwyedd. Rwyf o’r farn bod y ddarpariaeth tir preswyl sy’n bodoli eisoes ar gyfer Benllech wedi’i lleoli’n foddhaol a’i fod yn ddigonol.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 3 Benllech Gwrthwynebiad 357/271 – Dr F A Pritchard

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad yn awgrymu y dylid dyrannu dau safle o fewn anheddiad Benllech:- i) Safle Un – estyniad i’r dyraniad tir ar gyfer tai T5; ii) Safle Dau – Dyraniad Tir ar gyfer Tai Newydd oddi ar Graig Y Dôn.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Safle Un – Tir yn cyffinio â Dyraniad T5. Nid oes angen yr estyniad hwn i ddyraniad T5 i gyflawni strategaeth aneddiadau’r cynllun a darparu cyflenwad digonol o anheddau ar gyfer yr is-grðp.

2.2 Safle Dau – Tir oddi ar Graig Y Dôn. Lleolir y safle hwn o fewn AOHNE Ynys Môn lle y rhoddir y flaenoriaeth i ddiogelu a gwella’r dirwedd. Nid oes angen y safle i gyflawni strategaeth aneddiadau’r cynllun ar gyfer yr is-grðp.

3.0 Materion

3.1 Diwygio ffin ddatblygu Benllech i gynnwys dau ddarn o dir a’u dyrannu fel a ganlyn: (a) y safle deheuol fel estyniad i Gynnig T5 i ddarparu tai ac i’w ddefnyddio at ddibenion creu cymuned/hamdden. (b) y safle gogleddol ar gyfer datblygiadau tai.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae’r safle deheuol yn darparu ar gyfer ymestyn Cynnig T5 trwy ychwanegu 3.1 hectar o dir maes glas. Argymhellais y dylid cadw Cynnig T5 sy’n darparu ar gyfer rhyw 30 o anheddau fel un o ddyraniadau tir preswyl y cynllun. Mae’n briodol cynyddu lefel y datblygu rywfaint ar gyfer Benllech, ac mae’r cynllun yn darparu ar gyfer hyn ar Gynigion T5 a T7 ar gyfer cyfanswm o ryw 50 o anheddau.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 387

4.2 Ardal breswyl yw Benllech yn bennaf ac mae hefyd yn gyrchfan o bwys ar gyfer ymwelwyr ar yr ynys. Daeth yn ddeniadol fel ardal breswyl i bobl sydd wedi ymddeol ac ar gyfer y rhai sy’n cymudo i’r gwaith mewn mannau eraill yng ngoleuni’r cyfleoedd cyfyngedig ar gyfer cyflogaeth drwy gydol y flwyddyn yn y pentref. Gallai safle deheuol y gwrthwynebiad ddarparu lle ar gyfer isafswm o 150 o anheddau eraill. Nid oes unrhyw arwydd o ragor o ddatblygiadau i greu cyflogaeth yn Benllech, ac mae’n rhaid i mi ddod i’r casgliad nad yw cynnig y gwrthwynebiad ar y tir hwn yn gyfystyr â datblygu cynaliadwy.

4.3 Mae’r safle gogleddol a nodir yn y gwrthwynebiad yn cynnwys darn o dir maes glas ag arwynebedd o 1.3 hectar gerllaw datblygiad ar ffurf ystad breswyl yng Nghraig y Dôn. Lleolir y tir o fewn yr AOHNE. Ar sail ddamcaniaethol o 30 o anheddau fesul hectar, gallai’r tir hwn ddarparu ar gyfer rhyw 35 o anheddau o gofio ei siâp hirfain.

4.4 Mae’r ddau safle yn cynnwys ymestyn datblygiadau i gefn gwlad agored, a byddent yn darparu tua 185 o anheddau yn ychwanegol at y 51 o anheddau a gynigir yn y cynllun. Ni ddylid ystyried bod y dull gweithredu ar gyfer dosbarthu darpariaeth tai newydd i Is- ardaloedd Grðp yn ôl y fethodoleg a nodir ym mharagraff 16.35 y cynllun yn gwota sefydlog. Mae’n gwneud y tro fel dull gweithredu cyntaf. Mae ffactor cynaliadwyedd, sy’n ystyried darpariaeth cyflogaeth leol, gwasanaethau a chyfleusterau lleol a’r angen i gyfyngu hyd yr eithaf ar deithio i’r gwaith yn y car, yn bwysicach o lawer.

4.5 Ardal breswyl yw Benllech yn bennaf ac er fy mod yn cytuno â’r dull gweithredu sy’n caniatáu rhai datblygiadau preswyl yn y pentref, mae’r cynigion a gyflwynir yn y gwrthwynebiadau ar raddfa rhy fawr a byddent yn arwain at golli cefn gwlad agored deniadol a byddent yn amharu ar ansawdd y dirwedd a’r AOHNE.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 5 Biwmares Gwrthwynebiad 522/1353 - Mr a Mrs Williams

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Diwygio’r ffin ddatblygu i gynnwys tir a elwir yn ‘Point Field’ (Cae rhif 6933 yr A.O.) o fewn y ffin a’i ddyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Lleolir y safle ar gwr gorllewinol Biwmares a cheir cefn gwlad agored i’r gogledd ac i’r gorllewin o’r safle. Lleolir y safle ar lethr serth o ran ogleddol y safle tuag at Afon Menai tua’r de. Fe’i lleolir o fewn AOHNE Ynys Môn lle y rhoddir y flaenoriaeth i ddiogelu a gwella’r dirwedd. Mae’r safle mewn lleoliad amlwg yn arbennig pan edrychir arno o’r tir mawr a byddai ei ddatblygu yn arwain at ymwthiad gweledol i gefn gwlad agored.

2.2 O ran grðp Afon Menai mae polisi o gyfyngu ar dai newydd oherwydd lefel y gwaith datblygu a welwyd yn ystod y degawdau diweddar. Nid yw’r ffigur a ddosrannwyd felly wedi’i ddyrannu’n llawn i’r is-ardal hon. Mae diffyg yn yr is-grðp hwn ond mae darpariaeth ddigonol yn gyffredinol yn y cynllun. Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 388

3.0 Mater

3.1 Diwygio ffin ddatblygu Biwmares i gynnwys cae 6933 yr A.O. a’i ddyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn cynnwys darn hirfain o dir maes glas ag arwynebedd o 4 hectar. Mae cyfluniad tir y gwrthwynebiad yn cyfochri Afon Menai gerllaw ac mae’r tir yn graddol ddisgyn i’r de-ddwyrain tuag at Afon Menai. Felly gellir gweld tir y gwrthwynebiad o Afon Menai ei hun ac o wylfannau yr ochr draw i Afon Menai.

4.2 Mae tir y gwrthwynebiad yn rhan o’r dirwedd o safon sy’n cyffinio ag Afon Menai ac a ddynodwyd fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, lle y rhoddir y flaenoriaeth i ddiogelu a gwella’r dirwedd. Ar ben hynny, fel tir agored, mae tir y gwrthwynebiad yn elfen werthfawr o gymeriad y dirwedd arfordirol rhwng trefi Biwmares a Phorthaethwy sydd at ei gilydd yn agored.

4.3 Rwyf o’r farn ei bod yn hanfodol y rhoddir y flaenoriaeth i ddiogelu a gwella’r dirwedd arfordirol yn hytrach nag i gynigion datblygu. Byddai gwaith datblygu fel y cynigir yn y gwrthwynebiad hwn yn ymwthiad gweledol difrifol i’r ardal hon o gymeriad tirwedd arbennig a gwerth amwynder uchel, a byddai’n achosi niwed gweledol difrifol. Mae Biwmares yn dref o ddiddordeb hanesyddol arbennig, ac rwyf o’r farn y byddai ymestyn ei ddatblygiad adeiledig ymhellach tuag allan yn niweidio’r diddordeb a’r cymeriad hynny.

4.4 Rwy’n cytuno â dull gweithredu’r Cyngor yn y cynllun sy’n ceisio cyfyngu ar dwf Biwmares ymhellach tuag allan. Nodaf gyfeiriadau’r Gwrthwynebydd at y marina arfaethedig newydd a’r gwaith i ailddatblygu’r Pwynt, ac at ymestyn y ffin ddatblygu i gynnwys yr ardaloedd hyn yng nghyffiniau tir y gwrthwynebiad. Ni allaf wneud unrhyw sylwadau ar rinweddau na diffygion y datblygiad hwn, ond nid yw’n newid fy nghasgliad, mewn unrhyw ffordd, fod y cynnig a gyflwynir yn y gwrthwynebiad yn amhriodol ac yn annerbyniol ar dir y gwrthwynebiad.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 5 Biwmares Gwrthwynebiad 71/969 – Cyngor Tref Biwmares

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae angen sicrhau tir datblygu ar gyfer tai ym Miwmares. Mae’r hen Glwb Cymdeithasol a’r Lladd-dy yn safleoedd posibl.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Gwerthuswyd safleoedd ‘Tir llwyd’ ym Miwmares ond am eu bod yn fach – roeddynt yn darparu ar gyfer llai na phum uned annedd, nis dangoswyd fel safleoedd dyranedig. Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 389

Efallai y bydd y safleoedd hyn yn dod i’r amlwg yn ystod cyfnod y cynllun fel safleoedd ar hap.

3.0 Mater

3.1 Dyrannu tir ar gyfer tai ym Miwmares.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae Biwmares yn anheddiad lle y mae cyfyngiadau ar ei ddatblygu sy’n adlewyrchu’r angen i ddiogelu ei gymeriad hanesyddol a hefyd ei leoliad o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol sy’n cyffinio ag Afon Menai. Dim ond trwy ailddefnyddio safleoedd ar raddfa fach o fewn y ffin ddatblygu y bydd cyfleoedd ar gyfer datblygiadau tai yn codi, safleoedd sy’n cynnwys o bosibl y rhai a gynigir yn y gwrthwynebiad. Nid oes angen unrhyw ddyraniadau penodol yn y cynllun a adneuwyd.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 13 Caergybi - Cynnig T19 (Tyddyn Bach) Gwrthwynebiadau 8/415 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig 23/453, 23/891, 23/892 -T S Glenfort Ltd 133/156 – Mrs D King-Brewster 144/279 – Y Cyng. Allan Roberts 244/766 – Y Cyng Alun Williams 286/143 – Mrs G L Walker 287/144 – Pwyllgor Treftadaeth Llaingoch 288/145 – Mrs L Williams 289/150 – G W Griffith 290/206 – Mrs G R Hughes 291/259 – Mr Raymond Murphy 292/255 – Mrs C A Parry 293/256 – Pwyllgor Gweithredu Ynys Cybi 295/257 – Mrs E Ceen 298/258 – Mr N Ceen 299/298 – Mr a Mrs C V Griffiths 300/501 – Mr Dafydd Parry 303/525, 303/527 – M Guertjens 305/526 – Pwyllgor Gweithredu Ynys Cybi Paragraff 16.35 Gwrthwynebiad 23/456 – T S Glenfort Ltd Newidiadau Arfaethedig PC90, Caergybi – Dileu Cynnig T19 a Dynodi Lletem PC169, PC525 Las Gwrthwrthwynebiadau 23/2261, 23/2265, 23/2262 – T S Glenfort Ltd 291/2201 – R Murphy 298/2476 – Mr N Ceen

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau a’r Gwrthwrthwynebiadau

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 390

1.1 Mae Gwrthwynebiadau 8/415, 133/156, 144/279, 286/143, 287/2118, 289/150, 293/256, 295/257, 298/258, 299/298, 300/501, 303/525, 303/527, 305/526 yn awgrymu y dylid dileu Cynnig T19. Mae Gwrthwynebiadau 23/453 a 23/456 o’r farn bod angen dyrannu rhagor o dir ar gyfer tai yng Nghaergybi ac y dylai paragraff 16.35 nodi isafswm o 500 o anheddau yn is-grŵp Caergybi. Mae Gwrthwynebiad 23/891 yn awgrymu y dylai’r ffin ddatblygu yn cyffinio â Thyddyn Bach, Road, Caergybi ddilyn y ffin a ddiffiniwyd yn y Cynllun Lleol a fabwysiadwyd. Mae Gwrthwynebiadau 23/892 a 244/766 yn awgrymu y dylid ymestyn safle tai Cynnig T19 i gynnwys tir i’r gorllewin. Mae Gwrthwynebiad 290/206 yn awgrymu y dylid dileu Cynnig T19 a gadael yr ardal fel man agored. Mae Gwrthwynebiadau 287/144, 288/145, 291/259 a 292/255 yn awgrymu y dylid dileu Cynnig T19, a dynodi Lletem Las rhwng pentref Llaingoch a Chaergybi. Mae Gwrthwynebiad 300/501 hefyd yn awgrymu y dylid dynodi’r tir (dyranedig) a ddilëwyd fel rhan o’r AOHNE. Mae Gwrthwynebiad 303/525 o blaid defnyddio Tyddyn Bach at ddibenion addysg.

1.2 Mae gwrthwrthwynebiadau 23/2261 a 23/2262 yn awgrymu y dylid dileu PC90 a PC525 sy’n cynnig y dylid dynodi Lletem Las rhwng Llaingoch a Phorth-y-felin, Caergybi. Mae gwrthwrthwynebiad 23/2265 yn awgrymu y dylid cadw Cynnig T19 yn y Cynllun y cynigir y dylid ei ddileu o dan PC169. Mae gwrthwrthwynebiad 291/2201 yn awgrymu y dylid diwygio ffin y Lletem Las i hepgor gerddi ‘Nirvana’, ‘Heathville’ a ‘Bryn Eithin’, Ffordd Porth-y-felin. Mae gwrthwrthwynebiad 298/2476 yn awgrymu y dylid ymestyn y Lletem Las a gynigir o dan PC525 i gynnwys y cyfan o’r man agored hyd at ffin Ardal Gadwraeth Mynydd Caergybi.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nid yw’r Cyngor yn cytuno bod angen dyrannu rhagor o dir yng Nghaergybi, ac y byddai adfer Cynnig T19 ar gyfer 160-200 o anheddau yn eithafol. Cynigir Cynnig T64 o dan PC169 a PC524, fel dyraniad mwy derbyniol na Chynnig T19.

2.2 Byddai’r Lletem Las arfaethedig a gynigir o dan PC90 a PC525 rhwng Llaingoch a rhan o ardal drefol Caergybi yn sicrhau y byddai Llaingoch yn gymuned ar wahân i Gaergybi.

3.0 Materion

3.1 Cadw ac ymestyn Cynnig T19 ar dir yn Nhyddyn Bach, Caergybi.

3.2 Diffinio’r Ffin Ddatblygu i ddilyn llinell a nodir yng Nghynllun Lleol Ynys Môn a fabwysiadwyd (1996).

3.3 Dileu Cynnig T19 a dynodi Lletem Las rhwng Llaingoch a Phorth-y-felin, Caergybi. Ymestyn y Lletem Las at ffin Ardal Gadwraeth Mynydd Caergybi.

3.4 Dileu’r Lletem Las a gynigir o dan PC90 a PC525.

3.5 Nodi 500 fel isafswm yr anheddau sydd eu hangen yn is-grðp Caergybi.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae’r cynllun a adneuwyd yn nodi mai Caergybi yw’r dref fwyaf ar yr ynys a’i bod yn chwarae rôl bwysig fel porth ewro wrth y Porth Celtaidd rhwng Cymru/y DU ac Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 391

Iwerddon. Mae’r dref yn ganolbwynt pwysig fel canolfan twf cyflogaeth. Mae’n hanfodol er mwyn ehangu’r economi a denu buddsoddiadau bod cyflenwad digonol o dir ar gyfer tai, yn gyson â chyfyngiadau amgylcheddol a chyfyngiadau seilwaith. Nid wyf yn derbyn y pryder y dylid dileu’r penderfyniad i adfer Cynnig T19 ynghyd â dyraniadau tir cyflogaeth eraill yng Nghaergybi am fod gormod o ddarpariaeth. Mae ymrwymiad yn y cynllun i sicrhau ffyniant economaidd yng Nghaergybi fel yr adlewyrchir yn y dyraniadau tir cyflogaeth y mae angen ei ategu trwy ddarparu digon o dir ar gyfer tai. Bydd mwy o ffyniant yng Nghaergybi hefyd yn dwyn manteision i’r economi wledig gerllaw.

4.2 O ran PC90 sy’n cyflwyno cynnig ar gyfer Lletem Las, mae hyn wedi codi yn sgîl rhoi’r cynllun drafft ar adnau cyhoeddus fel y gellid codi gwrthwynebiadau iddo. Ni chafwyd unrhyw dystiolaeth bod yr amgylchiadau wedi newid rhwng y dyddiad hwnnw ac adeg cyhoeddi Diwygiadau Arfaethedig. Bwriedir i’r Lletem Las arfaethedig ddarparu clustogfa amgylcheddol rhwng Llaingoch a Chaergybi, dwy gymuned sydd eisoes wedi’u cysylltu yn ffisegol, yn wahanol er enghraifft, i Borthaethwy a Llanfairpwll (cyfeiria Polisi EN3 at hyn). Yn y cynllun a adneuwyd, mae tir agored Parc Caergybi a’r tir heb ei ddatblygu i’r gogledd o Gynnig T19 (Dyraniad Tai) yn darparu llain o dir yn gwahanu Cynnig T19 a’r ardaloedd o dai sy’n bodoli eisoes i’r dwyrain a’r gorllewin.

4.3 Rwyf o’r farn na ddylid dileu Cynnig T19 ar dir a gyflwynwyd gan y Cyngor at ddibenion ei ddatblygu ers dros ddegawd. Mae mewn lleoliad da mewn perthynas â datblygiadau sy’n bodoli eisoes a gwasanaethau a chyfleusterau yng Nghaergybi a byddai’n lleoliad cynaliadwy ar gyfer datblygiadau tai newydd. Rwy’n gwerthfawrogi’r pryderon a godir yn y gwrthwynebiad gan Bwyllgor Treftadaeth Llaingoch, sef bod gan Laingoch hunaniaeth gymunedol nodedig y dylid ei diogelu. Mae’r opsiynau ar gyfer datblygiadau tai newydd yng Nghaergybi yn gyfyngedig, ac ar ôl i mi ystyried y rhain yn ofalus, rwyf o’r farn bod Cynnig T19 yn lleoliad allweddol ar gyfer datblygiadau tai yng nghyd-destun datblygiad a ffyniant y dref yn ei chyfanrwydd.

4.4 Mae Cynnig T19 yn ddarpariaeth ar gyfer datblygiad o thua 100 o anheddau ar 3.6 ha. Byddai’n gwneud cyfraniad gwerthfawr at y cyflenwad o anheddau yng Nghaergybi, ac yn galluogi cyflawni cynllun cynhwysfawr o ddatblygiadau, mewn cyferbyniad â’r patrwm cynyddol a welir yn aml mewn ardaloedd trefol o ran datblygu safleoedd. Mae’n rhesymol dod i’r casgliad y gellir ariannu gofynion oddi ar y safle yn ymwneud â gwasanaethau a chyfleusterau sydd eu hangen o ganlyniad i’r datblygiad hwn yn rhannol neu’n llwyr gan gyfraniadau gan ddatblygwyr safleoedd. Yn yr un modd, gellir sicrhau cyfraniadau ariannol tuag at gost gwaith a wneir ar ffyrdd oddi ar y safle a gwaith arall yn gysylltiedig â thrafnidiaeth a symud. Nodais pan ymwelais â’r safle, yr anawsterau yn gysylltiedig â cherbydau wedi’u parcio a’r peryglon traffig posibl ar South Stack Road yn yr ardal hon. Mae’n debyg y ceir problemau priffyrdd o’r fath ar y mwyafrif o ffyrdd yn rhedeg o ganol tref Caergybi ac o’r rhwydwaith priffyrdd. Rwyn cytuno gyda’r Cyngor y byddai darpariaeth ar gyfer 160 – 200 o anheddau yn y parth hwn yn ormodol.

4.5 Yn seiliedig ar fy ymweliadau â safleoedd ac ar ddogfennaeth, dof i’r casgliad y byddai’n well datblygu Cynnig T19 na rhan orllewinol y tir a gynigir o dan PC524 a Chynnig T64, lle y byddai gwaith datblygu yn fwy ymwthiol a hefyd lle y gallai brigiadau creigiog beri i ddatblygwyr posibl gadw draw, o gofio’r costau ychwanegol yn gysylltiedig â’r safle. Gallai gwaith datblygu yn Nhyddyn Bach ddarparu ar gyfer tua 100 o anheddau a gallai’r gwaith hwn fynd rhagddo fesul cam i sicrhau bod y datblygiad yn cael ei integreiddio yn foddhaol o ran y seilwaith lleol ac ystyriaethau cymunedol lleol.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 392

4.6 Nid wyf o’r farn y dylai ffin ddatblygu Caergybi yn yr ardal hon ddilyn y llinell fel y’i diffinnir yng Nghynllun Lleol Ynys Môn 1996 a fabwysiadwyd. Gallai hynny wahodd cynigion ar gyfer rhagor o ddatblygiadau o fewn ei ffin. Bydd tir i’r gogledd a’r gorllewin yn dal i fod yn rhan o gefn gwlad, ac fe’i diogelir rhag cael ei ddatblygu gan rai o ddarpariaethau eraill y cynllun a pholisïau cynllunio cenedlaethol yn ymwneud â chefn gwlad. Nid oes angen ei ddynodi’n benodol. Eir i’r afael â mater a oes cyflenwad digonol o dir ar gyfer tai yng Nghaergybi yn fanylach mewn adrannau diweddarach o’r Bennod hon, ar ôl ystyried y gwrthwynebiadau i’r cynllun a adneuwyd ynghylch cynigion penodol. Mae’r dyraniadau tir ar gyfer tai a argymhellir i’w cynnwys yn galluogi tua 210 o unedau anheddau i gael eu hadeiladu yng Nghaergybi, sy’n lefel foddhaol o ddarpariaeth yn fy marn i.

4.7 Dylai’r Cyngor ystyried paratoi brîff datblygu ar gyfer y 3.6 hectar yr argymhellwyd y dylid ei ddatblygu. Dylai’r brîff hwn gynnwys darpariaethau ar gyfer unrhyw dir ychwanegol sydd ei angen at ddibenion addysg, dylai ddarparu man agored cyhoeddus a lleoedd chwarae plant, a dylai ddarparu tai fforddiadwy. Efallai y bydd yn briodol hefyd ystyried cynllun datblygu a gyflwynir fesul cam wedi’i osod o fewn brîff datblygu, a fyddai’n galluogi ymgynghori â phobl leol a’i gwneud yn bosibl i’r cyhoedd gymryd rhan.

5.0 Argymhellion

5.1 Na ddylid diwygio Cynnig T19 – Map 13 (Tyddyn Bach, Caergybi). Na ddylid cymeradwyo Newid Arfaethedig 169 mewn perthynas â Chynnig T19. Na ddylid diwygio Paragraff 16.35 y cynllun a adneuwyd.

5.2 Na ddylid cymeradwyo Newidiadau Arfaethedig 90 a 525 mewn perthynas â Lletem Las rhwng Llaingoch a Phorth-y-felin, Caergybi i’w cynnwys yn y cynllun a adneuwyd. (O ganlyniad, nid yw Newid Arfaethedig 91(iii) yn cael ei gymeradwyo i’w gynnwys yn y cynllun a adneuwyd hefyd).

5.3 Gwneir yr argymhellion hyn mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Map 13 Caergybi – Cynnig T64 –Tir yn cyffinio â Newidiadau Arfaethedig PC169 a PC524 Thyddyn Bach Gwrthwrthwynebiadau 1/2016 – Mr T A Nevin 8/2073 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig 23/2263 – T S Glenfort Ltd 31/2436 – Plaid Werdd Sir y Fflint 286/2233 – Mrs G L Walker 287/2118 – Pwyllgor Treftadaeth Llaingoch 288/2231 – Mrs L Williams 295/2173 – Mrs E M Ceen 298/2244 – Mr N Ceen 419/2229 – D Lunt 422/2232 – B J Williams 426/2235 – Derek Roberts 430/2257 – Wendy Williams 437/2267 – Mr J G Cave

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiadau

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 393

1.1 Mae pob un o’r Gwrthwynebiadau yn awgrymu y dylid dileu Cynnig T64. Mae Gwrthwynebiad 23/2263 am i’r ffin ddatblygu ddilyn yr un a ddiffinnir yng Nghynllun Lleol Ynys Môn a fabwysiadwyd. Mae nifer o wrthwynebiadau o’r farn nad yw datblygu tir maes glas ar gyfer tai yn enghraifft o ddatblygu cynaliadwy. Dylid rhoi’r flaenoriaeth i ailddatblygu a defnyddio eiddo gwag ac adfeiliedig yng Nghaergybi. Byddai datblygu T64 yn difetha ardal o harddwch naturiol ac yn niweidio’r gymuned leol. Mae gan y safle lawer o frigiadau creigiog a fyddai’n ei gwneud yn anodd i ddarparu gwasanaethau. Byddai 100 o dai eraill a rhyw 300 o bobl yn cynyddu’r pwysau ar y rhwydwaith ffyrdd lleol, ac yn gwaethygu problem sy’n bodoli eisoes yn ymwneud â thraffig a diogelwch yn Ysgol Gynradd Llaingoch.

1.2 Mae gwrthwrthwynebiadau 286/2233 a 287/2118 yn gwrthwynebu Cynnig T64 a wneir o dan PC169 a PC525 fel datblygiad gormodol. Dylid diwygio ffin ogleddol T64 yn unol â datblygiadau sy’n bodoli eisoes, a dylid cadw rhan ddwyreiniol y safle ar gyfer estyniad posibl i Ysgol Gynradd Llaingoch. Rhoddir rhagor o bwysau ar gapasiti Ysgol Gynradd Llaingoch, a dylid darparu tir fel y gellir ehangu yn y dyfodol. Dylid cyfyngu darnau o dir ar gyfer datblygiadau tai yn yr ardal i’r rhai â chaniatâd cynllunio. Gwrthodwyd cynigion ar gyfer datblygiadau preswyl ar T64 gan Arolygwyr Cynllunio blaenorol. Byddai rhagor o ddatblygiadau yn ychwanegu at broblemau carthffosiaeth sy’n bodoli eisoes.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Yn dilyn Newidiadau Arfaethedig PC525 a’r penderfyniad i ddynodi Lletem Las rhwng Llaingoch a Phorth-y-felin, ac i ddileu Cynnig T19 ar gyfer 100 o anheddau yn Nhyddyn Bach, Caergybi, cyflwynir Cynnig T64 yn awr o dan Newidiadau Arfaethedig 169 a 524. Mae angen Cynnig T64 fel opsiwn mwy derbyniol arall i Gynnig T19 a ddilëwyd er mwyn cyrraedd cyfran Caergybi a ddosrannwyd o 1,260 o anheddau newydd a gynigiwyd ar gyfer Ynys Môn dros gyfnod y cynllun. Mae’r dyraniad yn cyd-fynd â nod a strategaeth gyffredinol y cynllun o sicrhau poblogaeth sefydlog trwy adfywio economaidd a chynnal cymunedau.

3.0 Mater

3.1 A ddylid cynnwys Newidiadau Arfaethedig 169 a 524 – Cynnig T64 sy’n darparu ar gyfer datblygu 4.15 hectar o dir yn cyffinio â Thyddyn Bach, Caergybi at ddibenion preswyl, yn y cynllun datblygu.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Ystyriais wrthwynebiadau yn ymwneud â datblygiad preswyl yn Nhyddyn Bach, South Stack Road, Caergybi a gynigiwyd o dan Gynnig T19 y cynllun a adneuwyd, ond y cynigir y dylid ei ddileu bellach gan y Cyngor o dan Newidiadau Arfaethedig 90, 169 a 525. Deuthum i’r casgliad y dylid cadw Cynnig T19 yn y cynllun.

4.2 Deuthum i’r casgliad bod y tir hwn yn y lleoliad hwn yn gynnig boddhaol tuag at gyrraedd rhan o’r ddarpariaeth tir ar gyfer tai ar gyfer Caergybi. Rwyf hefyd o’r farn bod tua 3.6 hectar yn darparu tua 100 o anheddau yn gynnydd sylweddol yn yr ardal hon. Byddai sector gorllewinol Cynnig T64 yn ymestyn gwaith datblygu i dirwedd fwy anodd ei datblygu, yn cynnwys llawer o frigiadau creigiog. Mae’n debyg y byddai’n fwy ymwthiol hefyd i gefn gwlad. Fy nghasgliad yw na ddylid cynnwys Cynnig T64 yn y cynllun. Fe’i cyflwynir gan y Cyngor fel datblygiad mwy derbyniol na Chynnig T19 (Tyddyn Bach). Nid wyf yn cytuno.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 394

4.3 Mae materion yn ymwneud â charthffosiaeth, pwysau ar gapasiti Ysgol Gynradd Llaingoch, a chreu traffig a diogelwch y ffordd yn faterion y dylid mynd i’r afael â hwy adeg gwneud y cais cynllunio. Yn fy marn i, nid ydynt yn ddigon pwysig i gyfiawnhau gwrthod rhywfaint o waith datblygu preswyl yn Llaingoch. Nodaf fod cynigion ar gyfer Gwaith Trin Dŵr Gwastraff newydd yn cael eu hystyried.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid cymeradwyo Newidiadau Arfaethedig PC169 (yn berthnasol i Gynnig T64) a PC 524 i’w cynnwys yn y cynllun a adneuwyd. Gwneir yr argymhelliad hwn mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Map 13 Caergybi - Cynnig T19 - Tyddyn Bach Gwrthwynebiad 80/1252 – Y Cynghorydd R. Llewelyn Jones

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae angen ystyried datblygiadau pellach yn ardal Traeth Newry yng Nghaergybi. Gyda marina newydd, bydd pwysau am ddatblygiadau tai.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Lleolir ardal Traeth Newry, sy’n wynebu’r harbwr allanol i’r gorllewin o Ynys Halen yng Nghaergybi o fewn y ffin ddatblygu ar gyfer y dref, ac fe’i dynodwyd fel Ardal Gadwraeth i gydnabod cymeriad hanesyddol yr harbwr a’r morglawdd. Gall fod rhai cyfleoedd ar gyfer datblygiadau ar raddfa fach yng nghyffiniau’r marina. Prif nod polisi yn ardal Traeth Newry fydd diogelu ei gymeriad arbennig.

3.0 Mater

3.1 Darparu ar gyfer datblygiad tai yn gysylltiedig â marina yn ardal Traeth Newry.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae’r gwrthwynebiad yn cysylltu darpariaeth tai newydd yn ardal Traeth Newry yng Nghaergybi ag adeiladu marina newydd. Mae’r cynllun a adneuwyd yn darparu ar gyfer tai newydd yng Nghaergybi ond nid yw’n cysylltu unrhyw ran o’r ddarpariaeth honno yn benodol â’r marina a hwylio hamdden. Mae darpariaeth yn y cynllun, yn dilyn y sylw a roddais i wrthwynebiadau ac yn seiliedig ar fy argymhellion ar gyfer codi 210 o anheddau yng Nghaergybi yn ystod cyfnod y cynllun. Ni wneir unrhyw ddarpariaeth yn ardal Traeth Newry sy’n Ardal Gadwraeth ddynodedig lle y rhoddir y flaenoriaeth i ddiogelu a gwella ei chymeriad arbennig. Nid wyf o’r farn y dylid darparu tai arbennig yn ardal Traeth Newry ar gyfer defnyddwyr y marina.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 13 Caergybi - Soldier’s Point Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 395

Gwrthwynebiad 52/177 Partneriaeth Ynys Cybi 53/1241 – Awdurdod Datblygu Cymru Newid Arfaethedig 522 Caergybi - Soldier’s Point Gwrthwrthwynebiad 31/2387 – Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau a’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Mae Gwrthwynebiadau 52/177 a 53/1241 yn awgrymu y dylid ymestyn y ffin ddatblygu o fewn Caergybi i ymgorffori Soldier's Point i ddarparu ar gyfer cyfle posibl i ddatblygu ym mhen pellaf y morglawdd tua’r tir. Teimlir nad yw llinell bresennol y ffin ddatblygu yn gwneud defnydd llawn o’r tir y gellid ei ddatblygu. Mae gwrthwrthwynebiad 31/2387 o’r farn bod yr estyniad yng nghefn gwlad agored ac nad oes ganddo unrhyw ffiniau amddiffynadwy. Collid nythod adar. Ni fyddai’n enghraifft o ddatblygu cynaliadwy.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Newid Arfaethedig PC522 yn darparu ar gyfer ymestyn y ffin ddatblygu yn Soldiers Point, Caergybi, er mwyn adlewyrchu cynlluniau i ddatblygu’r ochr i’r morglawdd sy’n wynebu tua’r tir.

3.0 Mater

3.1 Cynnwys tir yn Soldier’s Point o fewn y ffin ddatblygu.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Byddai ymestyn y ffin ddatblygu fel y cynigir yn PC522 yn ymgorffori ‘glanfa’ o waith dyn yn arwain at y morglawdd. Mae’r ‘lanfa’ yn strwythur amlwg yn ymestyn i mewn i’r môr, a byddai unrhyw gynnig datblygu yn ei wneud yn fwy amlwg pan edrychid arno o nifer o gyfeiriadau o’r arfordir a’r môr. Yn y rhesymau dros gynnig PC522 cyfeirir at gynlluniau i ddatblygu pen y morglawdd tua’r tir. Ni roddir unrhyw fanylion.

4.2 Pan fydd bwriadau penodol i ddatblygu ac mae’r Cyngor yn cefnogi’r bwriadau hyn, disgwylid y gwneid dyraniad penodol yn y cynllun i ddiogelu’r at y diben hwn. Câi’r cyhoedd gyfle wedyn i ymateb trwy broses y cynllun. Yn yr achos hwn, byddai cynnwys y tir hwn o fewn y ffin ddatblygu yn galluogi amrywiaeth eang o gyfleoedd ar y safle agored a sensitif hwn. Nid wyf yn cefnogi ymagwedd mor benagored. Nid yw’n debyg i ddarnau o dir o fewn craidd masnachol porthladd Caergybi a leolir o fewn y ffin ddatblygu. Ardal yw hon lle y mae defnydd twristiaeth a hamdden yn amlycach. Felly nid wyf yn cefnogi PC522. Os nodir angen penodol i ddatblygu ar y safle hwn, gellir ei ystyried fel gwyriad oddi wrth y cynllun datblygu.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd o ran tir yn Soldier’s Point, Caergybi ac na ddylid cymeradwyo PC522 i’w gynnwys yn y cynllun. Gwneir yr argymhellion hyn mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Map 13 Caergybi Gwrthwynebiadau 293/599 – Mrs Iris Thomas Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 396

315/183 – Grðp Gweithredu Ynys Cybi

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae’r ddau Wrthwynebiad o’r farn y dylai’r dyraniadau ar gyfer Ynys Cybi fod ar barseli bach o dir ar gyfer ystadau bach o 10 i 12 annedd. Nid oes unrhyw westy a man gwerthu bwyd cyflym yn y dref.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Newid Arfaethedig PC169 yn nodi’r rhestr o safleoedd tai ac mewn perthynas â Chaergybi, nodir pum safle. Cwblhawyd un o’r safleoedd hyn yn ystod y 18 mis diwethaf. Mae dau o’r dyraniadau ar safleoedd meysydd glas tra bod y ddau arall ar safleoedd tir llwyd.

2.2 Cydnabyddir bod Caergybi yn ganolfan twf cyflogaeth. Ni nodwyd unrhyw safle yng Nghaergybi ar gyfer gwesty, ond byddai Polisi TO2 ‘Llety Gwyliau’ yn darparu ar gyfer datblygiad o’r fath ar yr amod y bodlonid polisïau eraill y cynllun. Rhoddwyd caniatâd yn ddiweddar o fewn Caergybi ar gyfer codi man gwerthu bwyd cyflym ar gyn-safle cwmni Lairages oddi ar gylchfan Kingsland.

3.0 Materion

3.1 Dylid darparu tir preswyl yng Nghaergybi ar safleoedd bach o ryw 10 i 12 o dai. Dylid darparu ar gyfer datblygiadau twristiaeth.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae lleoliadau safleoedd ar gyfer datblygiadau preswyl yng Nghaergybi a’r modd y maent wedi’u dyrannu yn y cynllun yn seiliedig ar amrywiaeth o ystyriaethau. Mae integreiddio safleoedd i’r ffurf drefol sy’n bodoli eisoes, bod o fewn cyrraedd gwasanaethau a chyfleusterau, trafnidiaeth a phriffyrdd, ystyriaethau yn ymwneud â’r dirwedd a’r amgylchedd yn ffactorau arbennig o bwysig. Gall manteision ddeillio o safleoedd mwy o faint yn arbennig o ran sicrhau diwyg wedi’i gynllunio’n dda, a hefyd gwelliannau i seilwaith oddi ar y safle. Mae safleoedd mwy o faint hefyd yn caniatáu i’r Cyngor negodi ar gyfer darparu cwota o dai fforddiadwy.

4.2 Nid oes unrhyw gynigion na newidiadau penodol yn y cynllun a adneuwyd mewn perthynas â datblygiadau twristiaeth, ac o ganlyniad nid oes modd gwneud argymhelliad pendant ar gyfer newid y cynllun.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 13 Caergybi – Cynnig T18 Gwrthwynebiad 8/395 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig 293/598 – Pwyllgor Gweithredu Ynys Cybi

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 397

1.1 Mae’r Gwrthwynebiadau yn awgrymu y dylid dileu dyraniad tai T18. Mae Gwrthwynebiad 293/598 hefyd yn awgrymu y dylid dyrannu’r tir i’w ddefnyddio at ddibenion twristiaeth.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Cyflwynodd y Cyngor Newid Arfaethedig PC527 sy’n dileu safle tai Cynnig T18 yn Nhŷ Mawr.

3.0 Mater

3.1 Mae Gwrthwynebiad 8/395 yn awgrymu y dylid dileu Cynnig T18. Mae Gwrthwynebiad 293/598 yn awgrymu y dylid dileu Cynnig T18 a dyrannu’r tir i’w ddefnyddio at ddibenion twristiaeth.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mynegeiodd y Cyngor y gwrthwynebiad hwn ar gyfer Cynnig T18. Mae Cynnig T18 yn safle ‘porth’ gwerthfawr sy’n agos at Gefnffordd yr A55 ar gwr tref Caergybi. Rwy’n cytuno â Newid Arfaethedig PC527 y Cyngor sy’n dileu’r safle fel dyraniad tir preswyl. Nodaf fod cynnig bellach i ddyrannu’r safle fel estyniad i Safle Cyflogaeth S1 gerllaw.

4.2 Rwy’n cymryd na châi datblygiadau yn gysylltiedig â thwristiaeth eu diystyru gan y Cyngor yng nghyd-destun datblygu a darpariaeth economaidd. Efallai y byddai’r Cyngor am ychwanegu cyfeiriad at ddatblygiadau yn gysylltiedig â gwestai/twristiaeth at y testun sy’n mynd gyda Safle Cyflogaeth S1.

5.0 Argymhelliad

5.1 Dylid diwygio’r cynllun a adneuwyd yn unol â PC527 a PC169 (yn berthnasol i Gynnig T18).

Map 13 Caergybi Gwrthwynebiad 321/905 – P E Roberts

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad yn awgrymu y dylid ymestyn y ffin ddatblygu a dyrannu’r tir ychwanegol ar gyfer tai ar hyd Mill Road, Caergybi.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r tir yng nghefn gwlad agored ac nid oes ei angen i ddiwallu’r gofyniad anheddau. Mae gan y safle gysylltiad agosach â chefn gwlad agored a dylai aros ar wahân i’r anheddiad.

3.0 Mater

3.1 Diwygio’r ffin ddatblygu i gynnwys tir ar hyd Mill Road, Caergybi a’i ddyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 398

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn cynnwys darn o dir maes glas agored ag arwynebedd o 1.8 hectar. Mae’r tir hwn yn cynnwys estyniad i’r dyraniad tir ar gyfer tai a wnaed o dan Newid Arfaethedig PC523 o ran tir yn Yr Ogof (Cynnig T63). Argymhellais hefyd y dylid cadw Cynnig T19 yn Nhyddyn Bach, ac ynghyd â safleoedd T17, T20, T61, T62 a T63. Byddai cyfanswm y dyraniadau tir ar gyfer tai a gadarnhawyd yng Nghaergybi yn darparu ar gyfer rhyw 210 o anheddau. Nid oes angen unrhyw ddyraniadau tir ychwanegol.

4.2 Gallai tir y gwrthwynebiad ddarparu ar gyfer rhyw 50 o anheddau, a byddai hynny’n ddarpariaeth ormodol. Byddai’r tir yn darparu ar gyfer ymestyn ardal drefol Caergybi i gefn gwlad agored ac ni ellir ystyried ei fod yn achos o dalgrynnu am y byddai tir agored ar dair ochr iddo.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn ac na ddylid newid Cynnig T63 (a wneir dan PC169 a PC527).

Map 13 Caergybi Gwrthwynebiad 278/97 a 901 – Mr G Richards 318/1424 – Elfed R Williams 331/89 - S.V. Owen Ltd. Newid Arfaethedig PC523 (Cynnig T63) Tir i’r gorllewin o’r Ogof, Caergybi Gwrthwrthwynebiadau 1/2017 – Mr T A Nevin 23/2264 – TS Glenfort Ltd 31/2437 – Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau a’r Gwrthwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiadau 278/97, 278/901, 318/1424, a 331/89 yn awgrymu y dylid cynnwys tir i’r gorllewin o Ystad Dai’r Ogof, Caergybi, o fewn y ffin ddatblygu a’i ddyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl.

1.2 Mae Gwrthwrthwynebiad 1/2017 yn awgrymu y dylid dileu Cynnig T63 am fod brigiadau creigiog yn cael effaith andwyol ar y tir a byddai’n anodd ei ddatblygu. Mae Gwrthwrthwynebiad 23/2264 yn awgrymu y dylid dileu Cynnig 63 am nad yw’r angen i ymestyn y ffin ddatblygu wedi’i gadarnhau. Mae gwrthwrthwynebiad 31/2437 yn awgrymu y dylid dileu Cynnig T63 am y byddai’n ddatblygiad yng nghefn gwlad agored ac am na fyddai’n enghraifft o ddatblygu cynaliadwy.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 O dan Newid Arfaethedig PC523, ymestynnir y ffin ddatblygu a dyrennir tir y gwrthwynebiad fel Safle Tai T63.

3.0 Mater

3.1 Dyrannu tir ar gyfer tai i’r gorllewin o’r Ogof, Caergybi ac fel y cynigir yn PC523.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 399

4.1 Fel y nodwyd gan y Cyngor, datblygwyd Cynnig T17 gerllaw ystad dai’r Ogof. Ar ben hynny, dilëwyd Cynnig T18 gerllaw fel dyraniad tai o dan Newid Arfaethedig PC527 ac fe’i dyrannwyd ar gyfer datblygiadau cyflogaeth. Rwyf o’r farn y dylid cytuno ar gynnig T63 a gyflwynir o dan PC523 fel dyraniad tai yn y cynllun. Mae’n safle maes glas ond mae’n darparu ar gyfer ymestyn datblygiad tai sy’n bodoli eisoes. Nid yw’n tresmasu ar yr AOHNE ac mae’n cael llai o effaith weledol ar gefn gwlad na’r cynnig ar gyfer datblygiad tai a ffafrir gan Mr Nevin ar hyd Ffordd o dan Wrthwynebiad 1/1. Mae lleoliad Cynnig T63 yn ei wneud yn gyfleus ar gyfer ardaloedd cyflogaeth lleol sy’n bodoli eisoes a rhai arfaethedig, ac mae’n enghraifft o ddatblygu cynaliadwy.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio’r cynllun a adneuwyd trwy ddyrannu tir ar gyfer datblygiadau preswyl i’r gorllewin o’r Ogof, Caergybi fel y cynigir o dan PC523 a Chynnig T63.

Map 13 Caergybi – Tir gerllaw Cae Rhos a Chynnig T17 Gwrthwynebiadau 338/140 a 338/141 - Mr H. M. Roberts

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiad 338/140 yn awgrymu y dylid dyrannu tir i’r dwyrain o Gae Rhos ar gyfer datblygiadau preswyl. Mae Gwrthwynebiad 338/141 yn awgrymu y dylid dyrannu tir gerllaw Cynnig T17 a Chynnig T63 (cyfeiria PC523 ato) ar gyfer datblygiadau preswyl.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nid oes angen unrhyw ddyraniadau eraill i fodloni’r gofyniad anheddau a nodir gan y Cynllun Datblygu Unedol.

3.0 Mater

3.1 Dyrannu tir i’r dwyrain o Gae Rhos a gerllaw Cynnig T63 ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Byddai’r ddau safle a nodir yn y gwrthwynebiadau yn darparu ar gyfer ymestyn datblygiadau tai yn y rhan hon o Gaergybi tuag allan. Ni fyddai’r un o’r safleoedd yn tresmasu ar yr AOHNE, ac ni fyddai’r gwaith o’u datblygu yn ymwthio’n ormodol i gefn gwlad am y byddent wedi’u cynnwys gan fwyaf o fewn tir a ddyrannwyd eisoes ar gyfer tai – Cynnig T17 (a adeiladwyd erbyn hyn) a Chynnig T63 (a gyflwynwyd o dan PC523).

4.2 Fel y nodwyd o ran gwrthwynebiadau i PC523, mae’r ardal hon yn gyfleus ar gyfer ardaloedd cyflogaeth lleol, ac at ei gilydd mae’n ardal gynaliadwy ar gyfer ei datblygu. Fodd bynnag fel y nodwyd mewn perthynas â Gwrthwynebiad 321/905, mae dyraniadau tir preswyl T17, T19, T20, T61 a T62, yr argymhellais y dylid eu cynnwys yn y cynllun, yn darparu ar gyfer rhyw 210 o anheddau yng Nghaergybi.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 400

4.3 Mae’r ddau wrthwynebiad yn ymwneud â darnau gwahanol o dir. Nid wyf o’r farn bod angen rhyddhau’r un o’r darnau hyn o dir ar gyfer datblygiadau preswyl yn ystod cyfnod y cynllun.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r un o’r gwrthwynebiadau hyn.

Map 13 Caergybi – Cynnig T20 - Cae Rhos Gwrthwynebiadau 1/1, 25/573, 319/903, - Mr T. A. Nevin 8/414 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig Newidiadau Arfaethedig PC169 a PC526 Cynnig T20 Gwrthwrthwynebiadau 188/2238 – Hughes Brothers 285/2186 – Robert Lewis

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau a’r Gwrthwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiad 1/1 sy’n cyfeirio at Gaergybi o’r farn y dylai gwaith datblygu barhau i ymestyn yn naturiol i gyfeiriad y de o Gae Rhos, ac wedyn i’r dwyrain i Mill Road. Byddai datblygu Safle T20 yn creu amlen ar wahân o dir heb ei ddatblygu yn groes i bolisi cynllunio’r Cyngor. Daethpwyd â rhan ddeheuol cae 2211 yr Arolwg Ordnans o fewn ffin yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae gan cae 2211 yr A.O. hanes hir o gael ei ystyried yn addas ar gyfer ei ddatblygu. Dylid caniatáu i Gaergybi ddatblygu’n unffurf. Mae Gwrthwynebiad 8/414 yn awgrymu y dylid dileu Cynnig T20. Nid oes ei angen ac mae’n tresmasu ar yr AOHNE.

1.2 Mae Gwrthwynebiad 25/573 o’r farn y dylid ystyried dyrannu mwy o dir ar gyfer tai yng Nghaergybi. Dylai cyfran ddosbarthedig is-grðp Caergybi, ar 20.3%, ddod i 445 o unedau am mai Caergybi yw’r lleoliad mwyaf addas ar Ynys Môn. Roedd gan safle’r gwrthwynebiad ganiatâd cynllunio amlinellol ar gyfer tai ar un adeg. Dylid adfer y safle yn awr fel dyraniad yn y Cynllun Datblygu Unedol. Mae Gwrthwynebiad 319/903 yn nodi y dylid dyrannu safle’r gwrthwynebiad, cae 2211 yr A.O., ar gyfer datblygiadau preswyl. Mae ganddo ffryntiad hir â ffordd, ac fe’i lleolir ar ffin y dref gerllaw Ystad Cae Rhos. Mae’r tir yn addas ar gyfer datblygiadau preswyl, ac nid oes unrhyw broblemau technegol yn gysylltiedig ag ef. Ni fydd yn ymestyn gwaith datblygu ar ffurf penrhyn i gefn gwlad agored. Ymestynnwyd yr AOHNE i gynnwys rhan o safle’r gwrthwynebiad. Cyflwynir y safle yn hytrach na’r safle gerllaw a ddyrannwyd fel T20, sy’n ymestyn i gefn gwlad agored.

1.3 Mae’r gwrthwrthwynebiadau yn gwrthwynebu Newid Arfaethedig PC526 ac maent yn awgrymu y dylid cadw Cynnig T20 yn y cynllun.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mewn ymateb i wrthwynebiadau 1/1 ac 8/414, cynigiwyd y dylid dileu Safle T20 o dan Newidiadau Arfaethedig PC169 a PC526. Deilliodd y newidiadau hyn o’r penderfyniadau a wnaed gan Bwyllgor Gweithredol y Cyngor ar 29ain Gorffennaf 2002. Ar ôl dileu T20, mae safle’r gwrthwynebiad yng nghae 2211 yr A.O. yn dod yn safle ar wahân yng nghefn gwlad agored, ac felly ni ellir dod ag ef o fewn y ffin ddatblygu a nodwyd. Cymerir ffin yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol o fap dynodi gwreiddiol yr Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 401

Ysgrifennydd Gwladol dyddiedig 1967. Am mai 1 fodfedd i’r filltir (1:63,360) oedd graddfa’r map hwnnw mae’n anodd bod yn fanwl gywir ynghylch union leoliad y ffin. Y cyfan y gellir ei honni yw bod ffin yr AOHNE yn croesi Ffordd Porthdafarch gerllaw cae 2211 yr A.O.. Pan baratoir Cynllun Datblygu Unedol, mae’n rhoi cyfle i gynnal arolwg annibynnol o’r angen i ddyrannu safleoedd penodol, neu i’w cynnwys o fewn ffiniau datblygu. Felly, nid oes rhaid i’r dyraniadau a wneir mewn cynllun ddilyn hanes cynllunio blaenorol safle penodol o reidrwydd.

2.2 Mewn ymateb i Wrthwynebiad 25/573, ystyrir bod gofyniad anheddau cyffredinol o 1,800 yn ddigon ar gyfer y Cynllun Datblygu Unedol, y mae angen i 1,260 ohonynt fod yn anheddau newydd eu hadeiladu. Ystyrir bod cyfran a ddosrannwyd o 256 yn ddigon ar gyfer is-ardal Caergybi, ac ar ôl darparu ar gyfer safleoedd ‘ar hap’, a mân ddatblygiadau, addesir y cyfanswm i 196. Gall y dyraniadau a wneir yn y cynllun, ar ôl newidiadau arfaethedig, ddarparu ar gyfer rhyw 221. Felly mae’r dyraniadau a wneir yn y cynllun yn ddigon. Bydd cyfran a ddosrannwyd o 445 yn ormodol, a byddai’n creu ansicrwydd ynghylch y lleoliadau gorau ar gyfer datblygiadau. Cytunir bod Caergybi yn lleoliad addas.

2.3 Mewn ymateb i Wrthwynebiad 319/903, nid yw cae 2211 yr A.O. yn lleoliad addas ar gyfer datblygiadau wedi dileu Safle T20, am y byddai’n ymestyn i mewn i gefn gwlad agored.

2.4 Mewn ymateb i Wrthwrthwynebiadau 188/2238 a 285/2186, dylid nodi bod tua hanner safle Cynnig T20 wedi’i leoli o fewn yr AOHNE. Cyflwynir tir sy’n rhan o Gynnig T63 yn Yr Ogof, Kingsland ar gyfer datblygiadau preswyl o dan PC523.

3.0 Materion

3.1 (i) Ailasesu a diwygio’r ffin ddatblygu ar gyfer Caergybi. (ii) Gosod safle’r gwrthwynebiad fel dyraniad yn y Cynllun Datblygu Unedol. (iii) Dileu’r dyraniad tai gerllaw (T20) sy’n ymestyn i gefn gwlad agored.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae Gwrthwynebiadau 1/1, 25/573 a 319/903 wedi’u mynegeio i Bolisi HP3. Gwneir y gwrthwynebiadau yng nghyd-destun cynyddu lefel y ddarpariaeth tir ar gyfer tai yn is-grðp Caergybi, a thrwy ddyrannu tir, sef cae 2211 yr A.O. sydd ag arwynebedd o ryw 2ha ac sydd â ffryntiad helaeth â Ffordd Porth Dafarch. Cyflwynir safle’r gwrthwynebiad yn hytrach na safle T20 a ddyrannwyd yn y cynllun a adneuwyd.

4.2 Nodais hanes cynllunio tir y gwrthwynebiad a gyflwynwyd gan wrthwynebiad 319/903. Fel yn achos Cynnig T20, mae ansicrwydd ynghylch union ffin yr AOHNE yn yr ardal hon. Dyma fater y mae angen penderfynu arno, fel y tynnir y ffin yn dilyn nodwedd bendant (e.e. gwrych, nant, ffordd) ar y ddaear. Felly nid wyf o’r farn bod yr AOHNE yn cyfyngu ar ddatblygu’r safle o gofio’r ansicrwydd hwn. Fodd bynnag rwy’n pryderu y byddai tir y gwrthwynebiad, pe câi ei ddatblygu ar gyfer tai, yn estyniad llinellol sylweddol o ardal drefol Caergybi i gefn gwlad agored ar hyd Ffordd Porth Dafarch. Ar ben hynny gallai ei gwneud yn anos i’r Cyngor wrthsefyll cynigion datblygu tebyg i’r gorllewin o’r ffordd hon, os byddant yn codi yn y dyfodol. Cytunir bod Cynnig T20 yn estyniad i mewn i gefn gwlad agored, ond mae ei arwynebedd yn llai na chae 2211 yr A.O. ac nid oes ganddo ffryntiad â Ffordd Porth Dafarch ac felly nid yw’n creu cynsail ar gyfer rhagor o waith datblygu. Nid yw’r Cyngor yn rhoi rhesymau penodol pam y dylid newid y cynllun a adneuwyd. Nid wyf o’r farn y bydd y cynnydd ychwanegol hwn mewn datblygiadau preswyl Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 402

yn niweidiol i gymeriad cyffredinol yr ardal. Rwyf o’r farn y dylid cadw Cynnig T20 yn y cynllun. Nid wyf yn fodlon i gae 22111 yr A.O. gael ei gynnwys fel dyraniad tir preswyl yn y cynllun.

4.3 O ran mater lefel y ddarpariaeth tir ar gyfer tai yng Nghaergybi, ffactor ydyw y dylid ei ystyried yn bennaf mewn perthynas â gwrthwynebiadau i safleoedd tai. O ran cae 2211 yr A.O., mae lleoliad y tir hwn a’r ffaith ei fod yn tresmasu ar gefn gwlad agored yn golygu na all fod yn ddarpar safle posibl i fodloni gofynion yn is-ardal Caergybi. Bydd y ddarpariaeth anheddau ar gyfer tref Caergybi a wnaed o dan fy argymhellion yn galluogi adeiladu rhyw 275 o anheddau, sy’n lefel ddigonol o ddarpariaeth.

5.0 Argymhellion

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

5.2 Na ddylid cymeradwyo Newidiadau Arfaethedig PC169 a PC526 mewn perthynas â Chynnig T20.

Map 13 Caergybi Gwrthwynebiad 61/1209 – Cyngor Tref Caergybi

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae angen darparu rhagor o dir ar gyfer tai yng Nghaergybi er mwyn denu cyfleoedd ychwanegol ar gyfer datblygiadau a chyflogaeth i’r ardal. Ceisir dyraniadau ar gyfer yr ardaloedd canlynol: (i) tir gerllaw Ystad Cae Rhos (Ffordd Porthdafarch) ac Ystad Yr Ogof, Kingsland. (ii) tir ar safle hen ffatri cwmni Wells Kelo. (iii) rhan o’r rhandiroedd gerllaw Ystad Pen Gerddi, Plas Road. Byddai dyrannu’r safleoedd hyn yn caniatáu lleihau’r ddarpariaeth yn ardal Llaingoch, i gyd- fynd â’r farn leol.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Newidiadau Arfaethedig a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2002 – yn darparu ar gyfer dileu Cynnig T19 Tyddyn Bach, South Stack Road, Caergybi o dan PC169, a gosod Cynnig T64 - tir gerllaw Tyddyn Bach yn ei le o dan PC524. Cynigir dyraniad newydd – sef Cynnig T63 – Tir yn Yr Ogof, Kingsland o dan PC523. Dilëir Cynnig T20 – tir yng Nghae Rhos – o dan PC526. Cynhwysir dau safle 'tir llwyd' arall fel dyraniadau newydd, sef Cynnig T61 - Holborn Place, ar gyfer 12 annedd o dan PC519, a Chynnig T62 – hen ffatri cwmni Wells Kelo ar gyfer 12 annedd o dan PC521. Ystyrir bod y dyraniadau hyn yn ddigon i ddarparu tua 200 o anheddau newydd yng Nghaergybi er mwyn cadw statws y dref fel Prif Ganolfan yn unol â strategaeth aneddiadau’r Cynllun Datblygu Unedol a’r Strategaeth Datblygu Gofodol. Nid oes angen unrhyw ddyraniadau eraill.

3.0 Materion

3.1 Dyrannu rhagor o dir ar gyfer tai yng Nghaergybi fel y nodir yn y gwrthwynebiad.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 403

4.1 Rwy’n cytuno bod angen sicrhau cyflenwad digonol o dir ar gyfer tai yng Nghaergybi a fydd yn cyd-fynd â’r angen am fwy o ffyniant economaidd a swyddi. Ystyriais amrywiaeth o safleoedd tai yng Nghaergybi yn yr adroddiad hwn ac mae fy nghasgliadau yn arwain at y ddarpariaeth ganlynol: (i) Cynnig T17 – Tir gerllaw Ty’n Rardd, Kingsland: Arwynebedd y Safle : 1.0 hectar yn darparu 24 o anheddau

(ii)Cynnig T19 – Tir yn Nhyddyn Bach ynghyd ag estyniad o’r safle hwn tua’r gorllewin Arwynebedd y Safle: 5.6 hectar yn darparu 165 o anheddau

(iii)Cynnig T20 – Tir yn Ystad Cae Rhos Arwynebedd y Safle: 0.9 hectar yn darparu 12 annedd

(iv)Cynnig T61 – Holborn Place, Holborn Road Arwynebedd y Safle: 0.2 hectar yn darparu 12 annedd

(v) Cynnig T62 – Hen Safle Wells Kelo Arwynebedd y Safle: 0.9 hectar yn darparu 12 annedd

(vi) Cynnig T63 – Tir yn Yr Ogof, Kingsland Arwynebedd y Safle: 2.4 hectar yn darparu 50 o anheddau

4.2 Mae’r dyraniadau hyn yn darparu ar gyfer 275 o anheddau disgwyliedig. Mae’r lefel hon yn cyferbynnu â’r cyfanswm o 196 o gynigion ar gyfer anheddau a gynigir mewn dyraniadau yn y cynllun a adneuwyd, a’r cyfanswm o 222 o anheddau a gynigir yn y Newidiadau Arfaethedig. Rwyf o’r farn bod lefel y ddarpariaeth a argymhellir gennyf, ynghyd ag anheddau y gallai safleoedd nas nodwyd eu darparu, yn lefel ddigonol ar gyfer tref Caergybi.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylai’r ddarpariaeth o dir ar gyfer tai yng Nghaergybi gynnwys Cynigion T17, T19 (ynghyd â’r estyniad ohono tua’r gorllewin), T20, T61, T62, a T63 y disgwylir iddynt ddarparu 275 o anheddau. Gwneir yr argymhelliad hwn mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 14 Cemais – Cynnig T21 Gwrthwynebiadau 8/413 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig 362/14 - Mr T J Pritchard Newid Arfaethedig 532 Gwrthwrthwynebiad 517/2480 – Mr T J Pritchard

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau a’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Mae Gwrthwynebiad 8/413 yn awgrymu y dylid dileu’r dyraniad am nad oes ei angen. Mae Gwrthwynebiad 362/14 am weld y safle yn cael ei ymestyn i gynnwys rhagor o eiddo ar y naill ochr i’r ffordd fynediad a’r llall. Mae Gwrthwrthwynebiad 517/2480 am weld ffordd fynediad ddiwygiedig i’r cynllun.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 404

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Dosberthir Cemais fel canolfan eilaidd o fewn is-grðp y Gogledd, ac mae angen y dyraniad i gyflawni strategaeth tai’r cynllun a darparu cyflenwad digonol o anheddau. Mae’r safle yn elwa ar ganiatâd cynllunio sy’n bodoli eisoes. Mewn ymateb i Wrthwynebiad 362/14, mae’r PC532 yn ateb y gwrthwynebiad. Mewn ymateb i Wrthwrthwynebiad 517/2480, mae mynediad yn fater y dylid ei ystyried adeg cyflwyno’r cais ac nid yw’n berthnasol fel arfer o fewn cyd-destun Cynllun Datblygu Unedol.

3.0 Materion

3.1 Dileu’r safle. Ehangu’r safle a diwygio’r ffordd fynediad.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae’r safle wedi’i neilltuo at ddibenion ei ddatblygu oherwydd y caniatâd cynllunio sy’n bodoli eisoes. Rwyf o’r farn y byddai’r estyniad cyfyngedig a gynigir o dan PC532 yn dderbyniol. Nid yw materion mynediad yn fater i’r Cynllun Datblygu Unedol ar y safle hwn.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio Cynnig T21 fel y nodir yn PC532, ond na ddylid gwneud unrhyw ddiwygiadau eraill mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Map 14 Cemais Gwrthwynebiad 363/174 – R J Hughes

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad yn awgrymu y dylid cynnwys caeau 6512 a 7113 yr A.O. o fewn y ffin ddatblygu a’u dyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r cynllun hefyd yn pennu graddfa o ddarpariaeth y gall cymunedau lleol ymdopi â hi. Nodwyd Cynnig T21 yng Nghemaes sydd i gynnwys 18 o anheddau fel y mân estyniad mwyaf addas i’r anheddiad. Mae’r safle yn elwa ar ganiatâd cynllunio sy’n bodoli eisoes. Mae diffyg bach o ran y ddarpariaeth tir ar gyfer tai yn is-grðp tai’r Gogledd ond at ei gilydd ceir darpariaeth ddigonol yn y cynllun. Lleolir rhan o dir y gwrthwynebiad o fewn ardal â pherygl llifogydd dangosol.

3.0 Mater

3.1 Diwygio ffin ddatblygu Cemais i gynnwys caeau 6512 a 7113 yr A.O., a dyrannu’r tir ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Cyfanswm arwynebedd y tir yw 0.8 hectar. Mae’n safle maes glas. I’r dwyrain ceir Cynnig T21, sef tir â chaniatâd cynllunio ar gyfer codi 18 o anheddau. Ar ôl cwblhau’r datblygiad hwn, bydd tir y gwrthwynebiad i bob pwrpas wedi’i amgáu ar ddwy ochr i lain ar Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 405 siâp triongl gan ddatblygiadau adeiledig. Mae gan yr eiddo Manora nifer o adeiladau sy’n ychwanegu at deimlad o glostir adeiledig. Diffinnir rhan orllewinol tir y gwrthwynebiad gan nant, a lleolir rhywfaint o dir ar lan y nant o fewn ardal â pherygl llifogydd dangosol.

4.2 Fy nghasgliad i yw bod tir y gwrthwynebiad yn darparu cyfle ar gyfer datblygiad tai ar raddfa gyfyngedig yn cynnwys o bosibl rhyw 10 annedd na fyddai’n niweidio cymeriad y pentref nac ar ei leoliad yn y dirwedd leol. Wrth ddod tuag at y pentref o’r gorllewin ar hyd yr A5025, rwyf o’r farn bod y nant yn cynnig llinell derfyn dda rhwng cefn gwlad agored a datblygiad adeiledig y pentref yn y lleoliad hwn. Bydd ffactorau yn gysylltiedig â pherygl llifogydd yn cyfyngu ar faint y datblygiadau adeiledig.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid aildynnu ffin ddatblygu Cemais o bwynt canolog gerllaw Cynnig T21 tua’r gorllewin i’r A5025 i’r dwyrain o’r nant i ymgorffori caeau 6512 a 7113 yr A.O..

Map 16 Gwrthwynebiad 18/584 - Mr DMS Thomas

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid dyrannu’r holl dir a ddyrannwyd fel S20 (tir cyflogaeth) yn Nrafft Cynllun Datblygu Unedol Ynys Môn (2000) ar gyfer datblygiadau preswyl a’i gynnwys o fewn ffin ddatblygu Gaerwen.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Ystyrir bod pentref Gaerwen yn ganolbwynt pwysig ar gyfer datblygiadau yn gysylltiedig â chyflogaeth yn y blynyddoedd sydd i ddod. Gwnaed cynigion ar gyfer :

i) Safle o Fri gerllaw’r gyffordd â’r A55 (gweler newid arfaethedig PC538).

ii) Safle cyflogaeth gyffredinol S19 (fel y’i diwygiwyd gan newid arfaethedig PC537) gyda’r Brîff Datblygu drafft sy’n mynd gydag ef.

iii) Estyniad o ddyraniad tai T24 i ddarparu ar gyfer 20 uned ychwanegol (gweler newid arfaethedig PC539).

2.2 Nid oes angen y tir a ddyrannwyd yn y cynllun drafft cyntaf bellach at ddibenion y Cynllun Datblygu Unedol a byddai’n gwrthdaro ag argymhellion yr Astudiaeth Ddatblygu fwy diweddar.

2.3 Cynigiodd yr astudiaeth fod Lôn Capel yn Gaerwen yn darparu ffin naturiol ar gyfer yr anheddiad ac na ddylid dyrannu’r tir i’r dwyrain o’r ffordd honno, yn ymestyn y tu ôl i dafarn y Newborough Arms, yn y Cynllun Datblygu Unedol. Trwy osod y ffin ddatblygu yn y lleoliad hwn diogelir cefn gwlad agored a’r golwg agored yn y rhan honno o’r anheddiad. Pe cymerid y lefel ddwysedd o 30 o anheddau fesul hectar, byddai’n arwain at ddyraniad o 503 o unedau anheddau. Lleolir yr anheddiad o fewn is-grðp tai Llangefni sydd â chyflenwad digonol o anheddau i fodloni’r gofynion tai ar gyfer yr is-ardal.

3.0 Mater Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 406

3.1 Dyrannu 16.78ha o dir gerllaw Lôn Capel i’r dwyrain ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Gallai’r safle maes glas hwn yng nghefn gwlad agored deniadol ddarparu ar gyfer isafswm o 500 o anheddau ar ddwysedd o 30 o anheddau fesul hectar. Mae Gaerwen yn bentref mawr a chanddo boblogaeth o 1178 (Cyfrifiad 1991), a byddai’r cynnig hwn pe câi ei weithredu yn debygol o ddyblu’r boblogaeth. Mae cynigion yn y cynllun a adneuwyd i ymestyn yr ardaloedd cyflogaeth, ac ystyriais wrthwynebiadau i Gynigion S19 ac i PC538 yn ymwneud â Phennod 11 – Cyflogaeth, yn y cynllun. Mae fy argymhellion yn dod i’r casgliad y dylid lleihau Cynnig S19 o 20 hectar ac na ddylid cymeradwyo Cynnig PC538 i’w gynnwys fel diwygiad i’r Cynllun.

4.2 Nid oes unrhyw gyfiawnhad dros ddatblygiad preswyl mawr fel y cynigir yn y gwrthwynebiad yn Gaerwen. Byddai’n darparu tai yn bennaf ar gyfer pobl yn teithio allan o’r pentref i ganolfannau cyflogaeth mewn mannau eraill, a byddai’n groes i egwyddorion cynaliadwyedd. Ar ben hynny byddai’n golygu colli bron 17 hectar o dir maes glas yng nghefn gwlad agored deniadol.

4.3 Nodais ddadl y gwrthwynebydd y byddai’r datblygiad arfaethedig yn ariannu gwelliannau ffyrdd o’r A55 i’r ardaloedd cyflogaeth yn Gaerwen, ond nid yw’r ffactor hwn yn bwysicach na gwrthwynebiadau sylfaenol eraill.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 16 Gaerwen Gwrthwynebiad 198/80 - Mr a Mrs S.J. Vance

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad hwn yn ymwneud â Chynnig T14 y Cynllun Datblygu Unedol drafft o fewn anheddiad Gaerwen.

2.0 Casgliad yr Arolygydd

2.1 Nid yw’n wrthwynebiad dilys i’r cynllun a adneuwyd ac nid oes unrhyw argymhelliad ynghlwm wrtho.

Map 16 Gaerwen Gwrthwynebiadau 216/250 a 216/260 - Mr John James

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Cynnwys caeau 6208 a 7400 o fewn y ffin ddatblygu ar gyfer datblygiadau preswyl.

2.0 Ymateb y Cyngor

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 407

2.1 Dosberthir Gaerwen fel canolfan eilaidd o fewn is-grðp tai Llangefni. Mae gan yr is- grðp ddigon o ddyraniadau tai i gyflawni strategaeth tai’r cynllun yn y dyraniadau T24 (fel y’i diwygiwyd trwy PC 539) a T23. Nid oes angen y tir i fodloni gofynion tai’r is-ardal.

3.0 Mater

3.1 Cynnwys caeau 6208 a 7400 yr A.O. o fewn ffin ddatblygu Gaerwen a’u dyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Darperir yn y cynllun a adneuwyd ar gyfer datblygiadau preswyl ar ddau safle a ddyrannwyd – Cynigion T23 (18 o anheddau) a T24 (30 o anheddau). O dan Newid Arfaethedig 539, ymestynnir Cynnig T24 i ddarparu ar gyfer 50 o anheddau gan roi cyfanswm o 68 o anheddau. Rwyf o’r farn bod hyn yn lefel briodol o ddarpariaeth, sy’n ystyried y cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth sydd ar gael yn Gaerwen a’r dyraniadau tir cyflogaeth arfaethedig a wnaed o dan Bolisi EP2, yn deillio o’m hargymhellion ynghylch gwrthwynebiadau yn ymwneud â’r dyraniadau hyn ym Mhennod 11 y cynllun.

4.2 Mae bron pob datblygiad mwy diweddar ym mhentref Gaerwen y tu hwnt i’r datblygiadau hþn y mae ei ffrynt yn ffinio â’r A5, wedi digwydd i’r de o’r A5. Mae bron pob un o’r datblygiadau sy’n bodoli eisoes i’r gogledd o’r A5 yn ddatblygiad ffryntiad a cheir datblygiad ar ffurf ffordd bengaead breswyl fach ym mhen dwyreiniol y pentref fel yr eithriad. Lleolir tir y gwrthwynebiad i’r gogledd o’r A5 ym mhen gorllewinol y pentref. Lleolir y safle ar dir sy’n codi a byddai mewn lleoliad amlwg.

4.3 Mae gan y safle nifer o frigiadau creigiog a byddai’n ddrud ei ddatblygu. Mae’r gwrthwynebwyr yn cynnig y byddai natur y safle yn addas i ddatblygiadau dwysedd isel. Yn fy marn i, dyma ddadl arall yn erbyn colli ardal o gefn gwlad deniadol, o gofio nod gyffredinol polisïau tai i sicrhau datblygiadau dwysedd uwch a materion cynaliadwyedd. Mae’r gwrthwynebiadau o’r farn y byddai’r safle yn diwallu angen am dai ‘marchnad ganol’. Yng nghyd-destun y cynllun datblygu, ni nodwyd unrhyw ddyraniad tai ar gyfer unrhyw angen penodol o du’r farchnad. Dof i’r casgliad na ddylid dyrannu’r ddau ddarn o dir, 6208 a 7400 yr A.O., ar gyfer datblygiadau preswyl.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Map 22 Llannerch-y-medd Gwrthwynebiadau 143/1207 a 143/1208 - Mr E Scholfield Newid Arfaethedig 545 Gwrthwrthwynebiadau 421/2184 - Mr G Andrews 418/2227 - Mr Eifion Rowlands

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau a’r Gwrthwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiadau 143/1207 a 1208 am weld ffin ddatblygu Llannerch-y-medd y cael ei hymestyn i gynnwys tir ychwanegol. Mae Gwrthwrthwynebwyr 418/2227 a 421/ Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 408

2184 am weld y ffin ddatblygu yn cael ei haildynnu i ddilyn y llinell a nodir yn y cynllun a adneuwyd, a PC545 yn cael ei ddileu.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai’r newid i’r ffin ddatblygu fel y dangosir yn Newid Arfaethedig PC545 yn ddiwygiad rhesymol a rhesymegol ar gyfer yr anheddiad. Mae’r darn o dir a gynhwysir yn PC545 yn ymestyn y tu hwnt i’r un a gynhwysid yn y gwrthwynebiad gwreiddiol, sef gwrthwynebiad 143/1207.

3.0 Mater

3.1 Ymestyn y ffin ddatblygu ar hyd ochr ogleddol y B5111 i ymgorffori’r ffryntiad heb ei ddatblygu.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae Llannerch-y-medd yn anheddiad gwledig yn cynnwys rhyw 290 o anheddau. Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar safleoedd Cynigion T29 a T30 ac mae’r Cyngor yn nodi eu bod yn debygol o ddarparu 44 o anheddau yn ystod cyfnod y cynllun. Tynnwyd y ffin ddatblygu ar gyfer y pentref fel bod cyfleoedd eraill ar gyfer datblygiadau preswyl o fewn y pentref ar gael. Mae tir y gwrthwynebiad yn cynnwys cefn gwlad agored deniadol i’r gogledd o’r B511. Yn cyffinio ag ef ceir datblygiad tai o fath hirgul ar ei ffiniau gorllewinol a dwyreiniol ac mae’n agored ei naws i’r gogledd heb unrhyw gae diffiniedig ar y ddaear.

4.2 Mae datblygiadau preswyl ar ochr ddeheuol y B511 o dan Gynigion T29 a T30 yn waith datblygu cynhwysfawr, sy’n atgyfnerthu diwyg y pentref sy’n bodoli eisoes yn yr ardal hon. Rwyf o’r farn y byddai datblygu tir y gwrthwynebiad yn cynyddu effaith weledol y pentref ar gefn gwlad o’i amgylch yn yr ardal hon, ac y byddai’n atgyfnerthu ymhellach yr estyniad adeiledig llinellol ar hyd y B511 i ffwrdd o graidd canolog y pentref. Nid oes angen hollbwysig i ddarparu rhagor o dir preswyl yn y pentref yn ystod cyfnod y Cynllun, ac felly nid oes unrhyw gyfiawnhad dros ymestyn y datblygiad ar hyd y B511 fel y cynigir yn y gwrthwynebiad. Byddai hynny yn arwain at golli cefn gwlad agored deniadol a byddai’n niweidiol i gymeriad y pentref.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd ac na ddylid cymeradwyo Newid Arfaethedig 545. Gwneir yr argymhellion hyn mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Map 26 Llanfairpwll Gwrthwynebiad 15/823 - Mr R Wynn-Jones

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Nid yw’r gwaith o ddatblygu (dyrannu tai) yn Llanfairpwll yn gymesur â’i boblogaeth.

2.0 Ymateb y Cyngor

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 409

2.1 Dosrannwyd gofyniad tai’r cynllun yn seiliedig ar y boblogaeth bresennol, ac fe’i dosbarthwyd rhwng 7 is-ardal yr Ynys. O ran grðp Afon Menai ceir polisi o gyfyngu ar dai newydd oherwydd lefel y gwaith datblygu a welwyd yn ystod y degawdau diweddar. Felly nid yw’r ffigur a ddosrannwyd wedi’i ddyrannu’n llawn i’r is-ardal hon.

2.2 Nid oes gan grðp Afon Menai Brif Ganolfan fodd bynnag mae adolygiad o’r tair Canolfan Eilaidd o fewn y grðp hwn yn nodi’n gliriach y cyfyngu sy’n digwydd o fewn y grðp :-

Biwmares – Tref ganoloesol gryno, y saif y rhan fwyaf ohoni o fewn ardal gadwraeth a leolir mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol. Mae’r nodweddion hyn a’r ffaith bod ganddi dirwedd hanesyddol tua’r dwyrain yn golygu nad oes unrhyw ddyraniadau tai o fewn y Dref.

Porthaethwy - Mae cyfyngiadau amgylcheddol oherwydd Afon Menai i’r de, llinell esgair i’r gogledd, lletem las i’r gorllewin, i atal Porthaethwy rhag cyfuno â Llanfairpwll a choetir Cadnant i’r dwyrain yn golygu yr ystyrir bod yr anheddiad wedi cyrraedd ei gapasiti ar gyfer ehangu. Ar ben hynny mae cyfyngiadau priffyrdd a chyfyngiadau seilwaith eraill ar ddatblygiadau preswyl o fewn y Dref. Nodir un safle ar gyfer 20 o anheddau yn y cynllun, a dangosir hefyd safle arall sydd â chaniatâd hanesyddol wedi’i nodi ond na ddisgwylir iddo ddarparu unrhyw unedau ar gyfer gofynion y cynllun.

Llanfairpwll – Ceir llwybrau trafnidiaeth o bob tu i’r anheddiad. I’r de ohono ceir y brif linell reilffordd o Crewe i Gaergybi ac mae ffordd osgoi’r A55 yn rhedeg mewn arch i’r gogledd o’r pentref. Nododd a dyrannodd y Cyngor ddau safle addas o fewn yr anheddiad ond mae am gadw ‘clustogfa’ rhwng yr anheddiad a’r A55.

2.3 Yng ngoleuni’r materion uchod mae 81 o unedau wedi’u dyrannu ar gyfer yr is-ardal hon (yn dilyn Newidiadau Arfaethedig i’r cynllun) yn lle’r ffigur wedi’i ddosrannu o 173 o unedau.

3.0 Mater

3.1 A ddylid cyfyngu ar y gwaith o ddatblygu Llanfairpwll?

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 O ganlyniad i’r A55 yn cael ei hadeiladu yn mynd heibio i’r pentref mae llain eang o dir agored rhwng ymyl datblygiadau adeiledig yn y pentref a’r Ffordd Osgoi. Nod gyffredinol y Cyngor yw y dylai’r tir agored hwn barhau heb ei ddyrannu at ddibenion ei ddatblygu ac y dylai fod y tu allan i’r ffin ddatblygu. Rwy’n cytuno â’r ymagwedd hon. Wrth bennu darpariaeth tai yn gysylltiedig ag Is-ardaloedd, cymerodd y Cyngor ddosbarthiad cymesur yn gyntaf yn seiliedig ar lefelau poblogaeth mewn aneddiadau, ond amododd hyn mewn perthynas â chyfyngiadau amgylcheddol a chyfyngiadau seilwaith.

4.2 Ar ben hynny nododd y Cyngor fod trefi Caergybi a Llangefni yn brif ganolfannau ar gyfer cynyddu cyflogaeth. Byddai’n dilyn y dylid dyrannu lefel uwch o ddarpariaeth tai ar gyfer y ddwy dref hon, am y byddai hynny’n gyson ag egwyddorion cynaliadwyedd. Mae gan y ddwy dref amrywiaeth da o wasanaethau a chyfleusterau. Mewn cyferbyniad, mae Llanfairpwll at ei gilydd yn anheddiad dibynnol ac mae’r cyfleoedd ar gyfer creu cyflogaeth yn yr anheddiad yn gyfyngedig.

5.0 Argymhelliad Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 410

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 26 Llanfairpwll Gwrthwynebiad 15/825 - Mr R Wynn-Jones

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid cynnwys cae 4887 yr A.O. o fewn y ffin ddatblygu a’i ddyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r safle yn cynnwys un cae ag arwynebedd o 1.5 hectar, a leolir ar gwr gorllewinol yr anheddiad. I’r de-ddwyrain o’r safle ceir datblygiadau preswyl. I’r gogledd- ddwyrain ceir cae agored a ddyrannwyd fel FF22 o fewn y cynllun i’w ddatblygu at ddibenion hamdden er budd y Gymuned. Mae rhan ogleddol y cae wedi’i hamgáu gan ffordd osgoi’r A55 tra ceir caeau agored i’r de-orllewin.

2.2 Dosrannwyd gofyniad tai’r cynllun yn fras yn seiliedig ar y boblogaeth bresennol, ac fe’i dosbarthwyd rhwng 7 is-ardal yr Ynys. O ran grðp Afon Menai ceir polisi o gyfyngu ar dai newydd oherwydd lefel y gwaith datblygu a welwyd yn ystod y degawdau diweddar. Felly nid yw’r ffigur a ddosrannwyd wedi’i rannu yn llawn i’r is-ardal hon.

2.3 Nid oes gan grðp Afon Menai Brif Ganolfan; fodd bynnag mae adolygiad o’r tair Canolfan Eilaidd o fewn y grðp hwn yn nodi’n gliriach y cyfyngu sy’n digwydd o fewn y grðp :-

Biwmares – Tref ganoloesol gryno, y saif y rhan fwyaf ohoni mewn ardal gadwraeth a lleolir y dref mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol. Nid oes unrhyw ddyraniadau tai o fewn y Dref.

Porthaethwy - Mae cyfyngiadau amgylcheddol oherwydd Afon Menai i’r de, llinell esgair i’r gogledd, lletem las i’r gorllewin (i atal Porthaethwy rhag cyfuno â Llanfairpwll) a choetir Cadnant i’r dwyrain yn golygu yr ystyrir bod yr anheddiad wedi cyrraedd ei gapasiti ar gyfer ehangu. Ar ben hynny mae cyfyngiadau priffyrdd a chyfyngiadau seilwaith eraill ar ddatblygiadau preswyl o fewn ystadau mewn rhan o’r Dref. Nodir un safle ar gyfer 20 o anheddau yn y cynllun, ac mae safle arall â chaniatâd hanesyddol wedi’i nodi, ond ni ddisgwylir iddo ddarparu unrhyw unedau preswyl ar gyfer gofynion anheddau’r cynllun.

Llanfairpwll - Ceir llwybrau trafnidiaeth o bob tu i’r anheddiad. I’r de ohono ceir y brif linell reilffordd o Crewe i Gaergybi ac mae ffordd osgoi’r A55 yn rhedeg mewn arch i’r gogledd o’r pentref. Nododd a dyrannodd y Cyngor ddau safle addas o fewn yr anheddiad ond mae am gadw ‘clustogfa’ rhwng yr anheddiad a’r A55.

2.4 Yng ngoleuni’r materion uchod mae 81 o unedau wedi’u dyrannu ar gyfer yr is-ardal hon (yn dilyn Newidiadau Arfaethedig i’r cynllun) yn lle’r ffigur wedi’i ddosrannu o 173 o unedau. Mae diffyg yn yr is-grðp hwn ond mae digon o ddarpariaeth yn gyffredinol yn y cynllun.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 411

2.5 Mae’r safle ynghyd â’r caeau sy’n cyffinio ag ef yn ffurfio 'clustogfa' rhwng amgylchedd adeiledig yr anheddiad a ffordd osgoi’r A55, y byddai’n annerbyniol ei datblygu. Mae’r rhwydwaith ffyrdd yn arwain at y safle yn annigonol i ddarparu ar gyfer rhagor o waith datblygu. Lleolir y rhan fwyaf o’r tir a gynigir yn y gwrthwynebiad hwn o fewn ardal â pherygl llifogydd dangosol, ac yn unol â pholisi SG2 ‘Datblygu a Llifogydd’ (fel y’i diwygiwyd o dan Newid Arfaethedig PC172) nid yw’r Cyngor am weld datblygiadau yn mynd rhagddynt nes y bydd y meini prawf a nodir o fewn y polisi wedi’u bodloni.

3.0 Mater

3.1 Dyrannu cae 4887 yr A.O. ar gyfer datblygiadau preswyl a chynnwys y safle o fewn y ffin ddatblygu.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Rwy’n cytuno â’r Cyngor ei bod yn bwysig er mwyn lles amwynder a’r amgylchedd yn gyffredinol na ddylid dyrannu’r tir agored rhwng y rhan adeiledig o’r pentref a Ffordd Osgoi’r A55 ar gyfer datblygiadau adeiladu. Fel yr ystyriwyd o ran Gwrthwynebiad 15/823 uchod, nid oes unrhyw sail ar gyfer cynyddu lefel y ddarpariaeth tai a nodir yn y cynllun a adneuwyd ar gyfer Llanfairpwll.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 26 Llanfairpwll Gwrthwynebiad 226/1359 - Sally Ann Ieuan

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Ymestyn ffin ddatblygu Llanfairpwll i gynnwys caeau 1426, 1930 a 2431 yr A.O. o fewn y ffin.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Rhwng y safle a’r brif ardal o ddatblygiadau sy’n bodoli eisoes ceir Ffordd sy’n ffurfio ffin glir ac adnabyddadwy i’r datblygiad. Byddai’n annerbyniol llenwi’r tir hwn sydd ar ôl rhwng yr ardal adeiledig a’r ffordd osgoi. Pe ymgorfforid dwysedd o 30 o anheddau fesul hectar byddai’n arwain at ddyraniad o 27 o unedau.

3.0 Mater

3.1 Diwygio ffin yr ardal ddatblygu i gynnwys triongl o dir gerllaw Llanfairpwll.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn cynnwys darn o dir agored yn bennaf ar ffurf triongl ag arwynebedd o ryw 0.9 hectar. O fewn y darn hwn o dir ceir annedd a’i chwrtil. Yn cyffinio â’r tir ceir datblygiadau sy’n bodoli eisoes i’r de-orllewin a Ffordd Osgoi’r A55 i’r gogledd. I’r de-ddwyrain, mae’r ffryntiad i’r lôn yn wynebu cefn gwlad agored ond collir hanner y ffryntiad hwn i ddatblygiadau tai o dan Gynnig T34. Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 412

4.2 I raddau helaeth, mae tir y gwrthwynebiad yn llain amgaeëdig. Oherwydd ei siâp mae’n debyg mai dim ond ychydig o waith datblygu at ddibenion preswyl a fyddai’n bosibl ar y safle, sydd â ffryntiadau â Ffordd Penymynydd a’r lôn, ar gyfer 6-8 annedd. O gofio’r ffactorau hyn, nid wyf o’r farn y byddai datblygu tir y gwrthwynebiad yn arwain at ymwthio annerbyniol i gefn gwlad, niwed ddifrifol i amwynder lleol, nac y yn creu cynsail ar gyfer pwysau datblygu ar dir sy’n cyffinio ag ef y gall fod yn anodd ei wrthsefyll.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio Map Mewnosod 26 – Llanfairpwll i gynnwys tir y Gwrthwynebiad yn cynnwys caeau 1426, 1930 a 2431 yr A.O. o fewn ffin ddatblygu’r pentref, mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 26 Llanfairpwll Gwrthwynebiad 227/624 - Ann Lloyd Jones

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Cynnwys cae 8718 yr A.O. o fewn y ffin ddatblygu a’i ddyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r safle ynghyd â’r caeau sy’n cyffinio ag ef yn ffurfio 'clustogfa' rhwng amgylchedd adeiledig yr anheddiad a ffordd osgoi’r A55. Byddai’n annerbyniol llenwi’r tir hwn sydd ar ôl rhwng yr ardal adeiledig a’r ffordd osgoi. Pe cymerid y lefel ddwysedd o 30 o anheddau fesul hectar, byddai’n arwain at ddyraniad o 24 o unedau.

3.0 Mater

3.1 Cynnwys cae 8718 yr A.O. o fewn y ffin ddatblygu a’i ddyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae safle’r gwrthwynebiad yn cynnwys darn o dir maes glas agored ag arwynebedd o 0.8 hectar a leolir rhwng ffin ddatblygu Llanfairpwll a Chefnffordd yr A55. I’r de-orllewin o’r safle ceir darn o dir maes glas agored a ddyrannwyd i’w ddefnyddio at ddibenion chwaraeon a hamdden o dan Bolisi TO11 y cynllun.

4.2 Ystyriais eisoes wrthwynebiad 15/825 sy’n awgrymu y dylid cynnwys cae 4887 yr A.O. o fewn y ffin ddatblygu a’i ddyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl. Mae tir y gwrthwynebiad hwn a thir gwrthwynebiad 227/624 bellach yn cael eu hystyried, fel rhan o’r llain linellol o dir agored rhwng Llanfairpwll a Ffordd Osgoi’r A55. Rwy’n cytuno â’r Cyngor bod y tir hwn yn glustogfa werthfawr rhwng yr ardal adeiledig a’r A55. Er mwyn diogelu amwynder a’r amgylchedd yn gyffredinol, rwyf o’r farn y dylai’r tir hwn barhau i fod yn agored.

4.3 Gan gymryd isafswm dwysedd o 30 o anheddau fesul hectar, gallai’r safle hwn ddarparu 24 o anheddau. Fel yr ystyriwyd o ran gwrthwynebiad 15/823, ac egwyddor Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 413 cynaliadwyedd, nid oes unrhyw sail dros gynyddu lefel y ddarpariaeth tai yn y cynllun a adneuwyd ar gyfer Llanfairpwll.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 26 Llanfairpwll Gwrthwynebiad 228/601 - Ystad Plas Newydd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Cynnwys cae 2477 yr A.O. o fewn y ffin ddatblygu a’i ddyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Newid Arfaethedig PC553 yn diwygio’r ffin ddatblygu i gynnwys tir yn cyffinio â Hafod o fewn y ffin. Mae gan safle’r gwrthwynebiad gyfanswm arwynebedd o 0.47 hectar, fodd bynnag o dan PC553, mae 0.18 hectar o’r arwynebedd hwn bellach o fewn y ffin ddatblygu tra bod 0.29 hectar y tu allan i’r ffin. Mae’r tir gweddilliol hwn a nodir yn y gwrthwynebiad yn ffurfio 'clustogfa' rhwng amgylchedd adeiledig yr anheddiad a ffordd osgoi’r A55. Byddai’n annerbyniol datblygu’r tir hwn.

2.2 Lleolir y tir hefyd o fewn ardal â pherygl llifogydd dangosol, ac mae’n unol â pholisi SG2 ‘Datblygu a Llifogydd’ (fel y’i diwygiwyd o dan Newid Arfaethedig PC172). Ni ddylai datblygiadau fynd rhagddynt nes y bydd y meini prawf a nodir o fewn y polisi wedi’u bodloni. Nododd Asiantaeth yr Amgylchedd y gellid datblygu’r safle pe bai’r tai wedi’u lleoli ar ochr orllewinol y safle. Er gwaethaf y cyngor hwn, nid yw’r safle hwn yn dal i fod yn un addas i’w ddatblygu.

3.0 Mater

3.1 Cynnwys cae 2477 yr A.O. o fewn y ffin ddatblygu a’i ddyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Yn Newid Arfaethedig PC553, mae’r Cyngor yn bwriadu ymestyn y ffin ddatblygu yn cyffinio â Hafod, Llanfairpwll. Mae’n gwneud hyn er mwyn cywiro gwall cartograffig. Mae’n ymgorffori datblygiadau adeiledig sy’n bodoli eisoes a hefyd tir agored sydd â ffryntiad â’r briffordd. Mae gan y tir agored hwn ganiatâd cynllunio ar gyfer codi tair annedd. Lleolir tir y gwrthwynebiad y tu ôl i dir a ddisgrifir yn PC553.

4.2 Lleolir tir y gwrthwynebiad (Cae Creigiar) o fewn ardal â Pherygl Llifogydd Dangosol o dan Bolisi SG2 y cynllun. Mae tystiolaeth dechnegol a gyflwynwyd gan y Cyngor yn cadarnhau ar wahân i ddarn cul yn cyffinio ag Afon Rhyd Eilian, nad yw gweddill Cae Creigiar yn agored i lifogydd. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn cytuno y gellid datblygu’r safle pe lleolid tai ar ochr orllewinol y safle. Yn yr un modd gallai’r safle ag arwynebedd o ryw 0.3 hectar gynnwys tua 6 i 8 annedd.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 414

4.3 Byddai cyfluniad tir y gwrthwynebiad os caiff ei ddatblygu ar gyfer tai yn arwain at fys anghydnaws o ddatblygiad yn ymestyn i dir agored rhwng y ffin ddatblygu a’r A55 i’r gogledd-ddwyrain o’r safle hwn, a deuthum i’r casgliad y dylai’r safle hwn barhau i fod yn ‘glustogfa’ agored, yn arbennig er mwyn diogelu amwynder a’r amgylchedd yn gyffredinol.

4.4 Yn fy marn i, mae gan dir y gwrthwynebiad fwy o gysylltiad â’r darn agored hwn o dir nag sydd ganddo ag ardaloedd datblygedig Llanfairpwll. Pe rhyddheid y tir at ddibenion ei ddatblygu, byddai’n niweidiol i’r dirwedd leol ac amwynder lleol, a byddai’n ei gwneud yn anos i wrthsefyll pwysau datblygu mewn mannau eraill yn y llain hon o dir agored a leolir rhwng datblygiadau adeiledig yn y pentref a’r A55. O ran mater y diffyg mewn anheddau a’r ddarpariaeth anheddau yng ngrðp tai Afon Menai, nid wyf o’r farn bod y datblygiad hwn yn ddigon mawr i fod o yn wirioneddol bwysig.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 26 Llanfairpwll

Newid Arfaethedig PC553 Gwrthwrthwynebiad 36/2346 – Asiantaeth yr Amgylchedd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Ailddiffinio’r ffin ddatblygu i hepgor y rhan honno o’r tir o fewn gorlifdir Afon Rhyd Eilian, a nodwyd fel ardal perygl llifogydd.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer codi 3 annedd ar y tir a ymgorfforir bellach o fewn y ffin ddatblygu o dan PC553. Yn ddarostyngedig i feini prawf penodol, tynnodd Asiantaeth yr Amgylchedd ei gwrthwynebiad i’r cynnig hwn yn ôl yn ystod ymgynghoriad.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Nid oes sail dros ailddiffinio’r ffin ddatblygu. Nid yw’r ffin yn ei hun yn golygu y ceir caniatâd cynllunio o reidrwydd ar gyfer gwaith datblygu ar y tir a ymgorfforir o fewn y ffin.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio’r ffin ddatblygu a gyflwynwyd o dan Newid Arfaethedig PC553 mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn, ac y dylid diwygio ffin ddatblygu Llanfairpwll yn unol â Newid Arfaethedig PC553.

Map 26 Llanfairpwll T34 Tir yn Lon Refail a T35 Tir yng Nghaeau Penrallt Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 415

Gwrthwynebiadau 8/412 a 8/416 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig 229/568 - Mr Neil Christian d/o Gareth White Partnership)

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiadau 8/412 ac 8/416 yn awgrymu y dylai nifer yr anheddau sydd wedi’u dyrannu ar safle T34 gael ei lleihau i 20 ac y dylid rhoi statws 2* i’r safle. Mae Safle T35 yn agored i lifogydd. Mae Gwrthwynebiad T35 229/568 yn gwrthwynebu dyraniad T35 am fod y safle wedi bod o fewn y ffin ddatblygu cyhyd ag y bu Cynlluniau Lleol mewn grym. Nis adeiladwyd am fod y graig bron ar yr wyneb. Fe’i derbynnir bellach fel man agored amwynder defnyddiol o fewn ardal adeiledig gymharol ddwys.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r ddau safle yn elwa ar ganiatâd cynllunio. Dioddefai Safle T35 gan broblemau dðr wyneb fodd bynnag, aed i’r afael â’r materion hyn wrth ymdrin â’r cais diweddar ar gyfer y safle. Er bod y safle yn darparu man agored yn y rhan hon o’r anheddiad mae’n cynnwys tri chae o dir pori, a ddefnyddir gan geffylau yn bennaf, nid oes unrhyw ddarpariaeth i’r cyhoedd gael mynediad i’r tir ac felly nid yw’n cyfrannu at y gymuned o ran defnydd adloniadol na hamdden. Mae angen y dyraniad i gyflawni strategaeth tai’r cynllun ac i ddarparu cyflenwad digonol o anheddau i fodloni’r gofynion tai ar gyfer yr is-ardal.

3.0 Materion

3.1 Lleihau’r dyraniad ar Gynnig T34 i 20 annedd. Cadw Cynnig T35 fel man agored amwynder.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Nid yw cynnwys yr Astudiaeth o Argaeledd Tir ar gyfer Tai yn rhan o ddarpariaethau’r Cynllun Datblygu Unedol. O ran safle T34 a T35, mae’r Cyngor yn nodi bod caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau preswyl wedi’i roi. Maent wedi’u neilltuo felly at ddibenion eu datblygu.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Cynigion T34 a T35 (Map 26 – Llanfairpwll) mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Map 30 Llangefni – Cynnig T38 Gwrthwynebiad 8/411 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid cyflwyno Cynnig T38 fesul cam dros gyfnod y cynllun 15 mlynedd, dylid rhoi statws Categori 2* iddo a dylai gynnwys o leiaf 50% o unedau fforddiadwy.

2.0 Ymateb y Cyngor

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 416

2.1 Mae Newid Arfaethedig PC168 yn ehangu cwmpas y polisi cyflwyno fesul cam i gynnwys pob datblygiad gan gynnwys datblygiadau preswyl. Bydd y broses o gyflwyno dyraniadau fesul cam yn unol â’r polisi hwn. Ni ddylid newid y statws Categori 2* yn yr Astudiaeth o Argaeledd Tir. Mae’r Cyngor yn disgwyl y bydd 30% o’r anheddau ar y safle yn dai fforddiadwy.

3.0 Materion

3.1 A ddylid cyflwyno’r gwaith o ddatblygu’r safle fesul cam dros 15 mlynedd, ac a ddylid gosod y gofyniad am ddarpariaeth tai ar 50% o’r holl unedau sy’n anheddau?

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae Cynnig T38 yn darparu ar gyfer cwblhau datblygiad ystad breswyl sy’n bodoli eisoes. Adeiladwyd ffyrdd yr ystad ar y safle. Rwyf wedi dod i’r casgliad yn rhywle arall yn yr adroddiad hwn na ddylid cynnwys Newid Arfaethedig PC168 yn ymwneud â chyflwyno datblygiadau fesul cam yn y Cynllun. Mae Cynnig T38 yn safle gweddol fach ag arwynebedd o 1.1ha a byddai’n amhriodol cyfyngu ar ei ddatblygiad i tua 2 annedd y flwyddyn. Dylai’r Cynllun sicrhau bod digon o dir ar gyfer tai ar gael yn Llangefni i gyd-fynd â’r amcan o sicrhau twf cyflogaeth yn y dref.

4.2 Mae nifer y tai fforddiadwy ar y safle yn fater i’w drafod o dan delerau Polisi HP7. Nid yw’r broses o ddosbarthu’r safle yn yr Arolwg o Argaeledd Tir ar gyfer Tai yn fater i’r CDU.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 30 Llangefni Gwrthwynebiad 352/686 - Rhian Williams

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad am weld Cae 4979 yr A.O. yn cael ei gynnwys o fewn y ffin ddatblygu a’i ddyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai datblygu’r tir hwn yn arwain at dresmasu ar gefn gwlad agored. Lleolir y safle o fewn is-grðp tai Llangefni y mae ganddo gyflenwad digonol o anheddau i fodloni’r gofynion tai ar gyfer yr is-ardal.

3.0 Mater

3.1 Diwygio ffin ddatblygu Llangefni i gynnwys cae 4979 yr A.O. a’i ddyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 417

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn cynnwys tir maes glas agored ag arwynebedd o 4.2 hectar sy’n cyffinio â’r A5114 ar ochr ddeheuol Llangefni. Byddai datblygu tir y gwrthwynebiad yn creu estyniad deheuol o ffin ddatblygu Llangefni i’r gorllewin o’r A5114 a byddai’n cyd-fynd â’r dyraniad tir cyflogaeth S11 ar ochr ddwyreiniol y ffordd.

4.2 Ar ben hynny byddai datblygu tir y gwrthwynebiad at ddibenion preswyl yn arwain at ddatblygiad yn tresmasu ar gefn gwlad agored, a fyddai’n niweidio ei gymeriad a’i olwg. Mae darnau o dir preswyl a ddyrannwyd yn Llangefni– T38, T39, T40 a T41 yn darparu ar gyfer codi tua 170 o anheddau.

4.3 Cynhwysir pob un o’r safleoedd hyn o fewn fframwaith cyffredinol yr ardal drefol, ac maent yn rhoi cyflenwad digonol o dir i ddiwallu anghenion y dref. Os bydd angen rhyddhau rhagor o dir ar gyfer tai yn y dyfodol, bydd yn well ystyried yn gyntaf darnau o dir yn agosach at ganol y dref ac sydd wedi’u cynnwys yn well o fewn fframwaith adeiledig y dref na thir y gwrthwynebiad dan sylw.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 30 Llangefni Gwrthwynebiad 353/199 - Coleg Menai

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid cynnwys yr holl dir amaethyddol sy’n eiddo i Goleg Menai, Ffordd Penmynydd, Llangefni o fewn y ffin ddatblygu i ddarparu ar gyfer rhagor o ehangu yn y dyfodol.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Pe cynhwysid y tir hwn o fewn y ffin gellid datblygu’r safle ar gyfer tai neu ddefnydd masnachol arall. Mae’r polisi newydd, Polisi CC1 – Cyfleusterau Cymunedol, a gyflwynwyd o dan PC176 yn darparu ar gyfer cynigion datblygu ar gyfer cyfleusterau cymunedol ar safleoedd addas o fewn ffiniau datblygu neu’n agos atynt. Mae’r cyfiawnhad rhesymegol dros y polisi hwn yn datgan yn bendant bod cyfleusterau addysgol yn cael eu hyrwyddo a’u cefnogi.

3.0 Mater

3.1 Cynnwys tir amaethyddol Coleg Menai ar safle Ffordd Penmynydd o fewn ffin ddatblygu Llangefni.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae’r Coleg yn bwriadu datblygu ac uwchraddio ei lety ac efallai mai dim ond ar dir a leolir y tu allan i ffin ddatblygu Llangefni y bydd modd gwneud hynny. Yn seiliedig ar y wybodaeth a geir yn y gwrthwynebiad mae’n rhesymol dod i’r casgliad ei bod yn dra annhebygol y byddai angen yr arwynebedd cyfan a ddangosir ar y cynllun a gyflwynwyd gyda’r gwrthwynebiad i ddiwallu anghenion y Coleg o ran datblygiadau adeiladu.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 418

4.2 Fel y nodwyd gan y Cyngor, pe cytunid â’r gwrthwynebiad, byddai’n rhoi cyfle ffafriol i’r Cyngor ddefnyddio’r tir at ddefnydd tai neu ddefnydd masnachol o bwys. Byddai hynny’n groes i ddarpariaethau’r cynllun datblygu ar gyfer Llangefni fel y’u nodir yn y cynllun datblygu ac y’u dangosir ar Fap Cynigion 30, ac nis derbynnir.

4.3 Nodaf fod Newid Arfaethedig PC176 wrth ddiffinio Polisi CC1 yn galluogi cynnal neu wella gwasanaethau cymunedol ar safleoedd addas o fewn ffiniau datblygu neu’n agos atynt. Yn y cyfiawnhad rhesymegol dros y polisi hwn, cefnogir ehangu ac arallgyfeirio’r defnydd a wneir o Goleg Menai. Rwyf o’r farn bod PC176 yn rhoi ymateb cadarnhaol gan y Cyngor i bryderon a materion a godwyd gan Goleg Menai.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 30 Llangefni Gwrthwynebiad 282/1355 - Mr Gwilym Griffith Williams

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Ymestyn y ffin ddatblygu i gynnwys caeau 5974 a 5077 yr A.O..

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Lleolir y ddau gae yng nghefn gwlad agored y tu allan i dref Llangefni ar hyd Ffordd y B5110 Llangefni i Ffordd Brynteg ac nid ystyrir eu bod yn rhan o’r anheddiad. Maent tua 450 o fetrau o ffin ddatblygu bresennol Llangefni. I’r de o’r caeau hyn ceir dyraniad, sef FF8, y bwriedir iddo ddarparu maes ymarfer golff ac estyniad i’r cwrs golff drefol â naw twll sy’n bodoli eisoes sydd i’w gael ar hyn o bryd ar hanner gorllewinol y dyraniad hwn. Mae gan is-grðp tai Llangefni gyflenwad digonol o anheddau i ddiwallu’r gofynion tai ar gyfer yr is-ardal. Lleolir tir y gwrthwynebiad o fewn ardal â pherygl llifogydd dangosol.

3.0 Mater

3.1 Diwygio ffin ddatblygu Llangefni i gynnwys caeau 5974 a 5077 yr A.O. y mae ganddynt ffryntiad â’r B5110.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn ddarn o dir maes glas agored ag arwynebedd o 1.5 hectar a leolir tua 450 o fetrau o ffin ddatblygu Llangefni. Byddai cynnwys y tir o fewn y ffin yn nodi rhagdybiaeth o blaid datblygiadau adeiladu. Nid yw’r gwrthwynebydd yn rhoi unrhyw reswm dros gynnwys y tir.

4.2 Byddai datblygiad adeiledig ar y tir yn fath anghydnaws o ddatblygiad ar wahân i ardal drefol Llangefni. Byddai’n ymwthiad niweidiol i gefn gwlad ac i’r dirwedd wledig, ac ni fyddai’n enghraifft o ddatblygu cynaliadwy. Ar ben hynny byddai’n groes i egwyddorion cynllunio sefydledig o ddiogelu cefn gwlad rhag datblygiadau diangen.

5.0 Argymhelliad

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 419

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 30 Llangefni – Cynnig T41 Gwrthwynebiad 8/408 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae Gwrthwynebiad 8/408 yn awgrymu y dylid lleihau nifer yr anheddau disgwyliedig i 20 a rhoi statws Categori 2* i’r dyraniad.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae gan y safle ganiatâd cynllunio ar gyfer 72 o dai.

3.0 Mater

3.1 Gostwng nifer yr anheddau a ddarperir ar y safle i 20 o unedau.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae gan y safle ganiatâd cynllunio sy’n bodoli eisoes ar gyfer 72 o anheddau ac felly mae wedi’i neilltuo at ddibenion ei ddatblygu. Nid yw’r Astudiaeth o Argaeledd Tir ar gyfer Tai yn rhan o’r cynllun a adneuwyd.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 30 Llangefni – Cynnig T39 Gwrthwynebiadau 8/410 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig 38/1352 – Cyngor Cymuned Llanddyfnan 281/175 – Partneriaeth Llangefni

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiad 281/175 o’r farn y dylid cadw hen safle depo Cildwrn (rhan o T39) ar gyfer cyfleusterau cymunedol. Mae Gwrthwynebiad 38/1352 yn awgrymu y dylid dileu’r dyraniad. Mae Gwrthwynebiad 8/410 yn nodi nad oes angen y dyraniad; byddai’n well ei ddefnyddio at ddibenion amwynder.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r safle yn safle tir llwyd sy’n cynnwys hen safle Ysbyty’r Druid yn y cefn a hen ddepo priffyrdd y Cyngor yn y blaen. Mae’n unol felly â phara 2.7.1 Polisi Cynllunio Cymru sy’n ceisio sicrhau y defnyddir tir a ddatblygwyd ynghynt yn hytrach na safleoedd meysydd glas. Mae’r rhan o’r safle tua’r cefn wrthi’n cael ei datblygu ar gyfer tai. Mae digon o gyfleusterau cymunedol o fewn yr anheddiad i olygu nad oes angen ei ddyrannu ar gyfer defnydd cymunedol. Yn cyffinio â’r ysgol mae canolfan chwaraeon lle y cwblhawyd maes chwarae / trac rhedeg awyr agored artiffisial yn ddiweddar ynghyd â pharc sglefrio a adeiladwyd yn ddiweddar. Yn y Ganolfan ceir Neuadd y Dref sydd ag ystafelloedd cyfarfod Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 420 ychwanegol y tu mewn iddi, tra ceir clwb bowlio, maes pêl-droed, clwb tenis, maes criced, clwb snwcer yn ogystal â lleoedd chwarae plant o fewn y Dref. Bydd y dyraniad hwn yn helpu i gyflawni strategaeth tai’r cynllun.

3.0 Mater

3.1 Dileu Cynnig T39 a’i ddyrannu ar gyfer defnydd cymunedol neu ddefnydd amwynder.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae gan hen Ysbyty’r Druid yng nghefn y safle ganiatâd cynllunio ar gyfer hanner cant o anheddau. Nid oes unrhyw ganiatâd cynllunio ar hen ddepo’r Cyngor yn y blaen. Mae’n safle tir llwyd o fewn yr ardal drefol ac mae’n addas i’w ddatblygu. Mae’n cyffinio â thir agored Ysgol Uwchradd Llangefni ar ei ffin ddeheuol. Nid oes unrhyw angen hollbwysig i ddyrannu’r safle ar gyfer defnydd cymunedol neu ddefnydd amwynder. Bydd y safle’n cyfrannu at ddarpariaeth anheddau’r Cynllun Datblygu Unedol.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Map 30 Llangefni – Cynnig T40 Gwrthwynebiadau 8/409 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig 59/261 - Cwmni Tref Llangefni

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiad 8/409 am weld Cynnig T40 yn cael ei ddileu; nid oes ei angen ac mae’n rhy agos at Nant y Pandy a’r man amwynder. Mae Gwrthwynebiad 59/261 am weld y dyraniad yn cael ei ddileu am fod digon o dir ar gyfer tai yn Llangefni.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Dosberthir Llangefni fel prif ganolfan o fewn is-grðp tai Llangefni. Mae’r safle yn elwa ar ganiatâd cynllunio sy’n bodoli eisoes ar gyfer 31 o unedau.

3.0 Mater

3.1 Dileu Cynnig T40.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae gan y safle ganiatâd cynllunio sy’n bodoli eisoes ar gyfer 31 o anheddau ac felly mae wedi’i neilltuo at ddibenion ei ddatblygu.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn. Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 421

Map 30 Llangefni Gwrthwynebiadau 126/447, 448 - Watkin Jones

1. 0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae’r ddau Wrthwynebiad o’r farn y dylid dyrannu cae rhif 6442 yr A.O. ar gyfer datblygiadau preswyl o gofio’r diffyg mewn darpariaethau anheddau yn y Cynllun Datblygu Unedol.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae para 2.5.6 Polisi Cynllunio Cymru (2002) yn nodi y dylid lleoli’r mwyafrif o ddatblygiadau newydd yn yr aneddiadau hynny y mae’n gymharol hawdd eu cyrraedd trwy ddulliau ac eithrio’r car. Ar Ynys Môn cydnabyddir bod Llangefni yn anheddiad o’r fath. Nodwyd pedwar safle yn Llangefni fel y rhai mwyaf addas i gynnwys 172 o unedau preswyl yn ystod cyfnod y cynllun. Pe câi safle’r gwrthwynebiad ei ddyrannu, gallai ddarparu ar gyfer tua 45 o unedau anheddau.

2.2 Mae’r unig fynedfa i’r safle trwy’r ardal breswyl helaeth i’r gogledd. Mae’r gyffordd rhwng ffordd yr ystad a’r B5109 wedi’i rhannu, ac mae’r fforch ddwyreiniol yn rhoi mynediad tuag at i mewn o’r briffordd yn unig. Mae’r fforch orllewinol yn ddwyffordd. Yn union i’r dwyrain o’r gyffordd hon mae’r B5109 yn ymddolennu i gyfeiriad y de-ddwyrain ac yn disgyn rhiw serth tua’r Stryd Fawr. Mae’r crymder yn y briffordd yn cyfyngu’n ddirfawr ar welededd i’r de o’r fforch orllewinol, sef yr unig ffordd allan o ffordd yr ystad i mewn i’r B5109.

3.0 Mater

3.1 Dyrannu darn o dir ag arwynebedd o 1.5 hectar ar gae rhif 6442 yr A.O. ar gyfer datblygiadau preswyl a chynnwys y safle o fewn ffin ddatblygu Llangefni.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae’r safle maes glas hwn yn cyffinio â datblygiad sy’n bodoli eisoes ar ffurf ystad breswyl y byddai cerbydau yn cael mynediad i’r safle trwyddo. Mae’r safle mewn lleoliad da o ran gwasanaethau a chyfleusterau lleol, ac mae’n gymharol gyfleus ar droed i Langefni. Mae wedi’i gynnwys yn rhesymol o fewn fframwaith adeiledig presennol y dref.

4.2 Anhawster penodol yn gysylltiedig â safle’r gwrthwynebiad yw bod cyffordd ffordd yr ystad o’r ardal breswyl bresennol â’r B5109 gryn dipyn yn is na’r safon, ac mae gwelededd i’r dwyrain ar gyfer traffig sy’n ceisio ymuno â’r B5109 yn gyfyngedig. Mae darpariaeth ar safleoedd tai a ddyrannwyd yn y cynllun a adneuwyd ar gyfer codi rhyw 172 o anheddau yn Llangefni. Rwyf o’r farn bod hyn yn lefel resymol o ddarpariaeth. Dylid rhoi’r flaenoriaeth i ddatblygu’r safleoedd hyn yn y lle cyntaf am eu bod wedi’u cynnwys at ei gilydd o fewn yr ardal adeiledig. Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer tri o’r safleoedd. Mae Cynnig T39 yn cynnwys ailddefnyddio safle tir llwyd. Mater i’w ystyried mewn adolygiad o’r Cynllun Datblygu Unedol yn y dyfodol yw p’un a ddylid ystyried safleoedd ar gyrion y dref, os nodir gofyniad na ellir ei fodloni o fewn y ffin ddatblygu.

5.0 Argymhelliad Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 422

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 36 Niwbwrch – Cynnig T47 Gwrthwynebiad 8/407 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylai fod gan y dyraniad statws categori 2* fel y’i diffinnir o fewn yr Astudiaeth o Argaeledd Tir ar gyfer Tai (HLAS) a dylid datblygu’r safle fel tai fforddiadwy yn ei gyfanrwydd.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Dosberthir Niwbwrch fel canolfan eilaidd o fewn is-grðp y De-orllewin. Mae angen y dyraniad i gyflawni strategaeth tai’r cynllun a’r is-ardal. Mae Cynnig T47 yn elwa ar ganiatâd cynllunio hanesyddol sy’n bodoli eisoes yn dyddio o 04/03/70. Er bod y Cyngor yn derbyn nad yw’r safle wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar nid oes angen dyrannu rhagor o safleoedd meysydd glas pan ellid datblygu’r safle hwn yn hytrach na safleoedd eraill o fewn y pentref. Nid oes unrhyw gyfyngiadau ffisegol ar ddatblygu’r safle hwn. Ni nodwyd y safle fel un categori 2* yn yr Astudiaeth o Argaeledd Tir ar gyfer Tai ac mae’r Cyngor yn barod i dderbyn hyn. O ran mater fforddiadwyedd, am fod y safle ar gyfer 17 o anheddau byddai hynny’n golygu y byddai’r Cyngor yn disgwyl i’r datblygwr ddatblygu 30% o’r safle fel tai fforddiadwy yn unol â pholisïau ei gynllun datblygu.

3.0 Mater

3.1 Dylid dosbarthu Cynnig T47 o dan yr Astudiaeth o Argaeledd Tir ar gyfer Tai, a dylid datblygu’r safle ar gyfer tai fforddiadwy.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Nodir yn y Rhestr o Safleoedd Tai (PC169) y gall y safle ddarparu 19 o unedau anheddau. Mae’n debyg y byddai cynnig datblygu ar y safle hwn yn arwain at y Cyngor yn galw telerau Polisi HP7 i rym a fyddai’n fodd i ddarparu o bosibl rai tai fforddiadwy ar y safle. Nid yw cynnwys yr Astudiaeth o Argaeledd Tir ar gyfer Tai yn rhan o ddarpariaethau’r Cynllun Datblygu Unedol.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Cynnig T47 (Map 36 – Niwbwrch) mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 36 Niwbwrch Gwrthwynebiad 168/685 - D. Knock

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 423

1.1 Cynnwys cae 5756 yr A.O. o fewn y ffin ddatblygu a’i ddyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Yn unol â strategaeth aneddiadau’r Cyngor nodwyd safle yn Niwbwrch i ddarparu ar gyfer 19 o unedau preswyl (T47) yn ystod cyfnod y cynllun. Ar ôl gwerthuso’r opsiynau o fewn yr anheddiad ystyriwyd mai hwn oedd y mân estyniad mwyaf addas i’r anheddiad am fod y safle yn elwa ar ganiatâd cynllunio a fodolai eisoes. Pe cymhwysid y dwysedd o 30 o anheddau fesul hectar at y safle hwn, byddai’n arwain at ddyraniad o 27 o unedau.

3.0 Mater

3.1 Cynnwys cae 5756 yr A.O. o fewn y ffin ddatblygu a’i ddyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae’r safle yn cynnwys tir maes glas ag arwynebedd o 0.9 hectar sy’n cyffinio â ffin ddatblygu Niwbwrch, ac sydd â ffryntiad â’r A4080. Mae’r gwrthwynebydd o’r farn y byddai datblygu tai ‘uwchradd’ dwysedd isel yn dod â chyfoeth i’r ardal. Mae’n debyg y byddai deiliaid newydd datblygiad o’r fath yn cymudo allan o’r pentref mewn ceir i weithio mewn canolfannau megis Bangor a Llangefni. Ni fyddai darpariaeth o’r fath yn enghraifft o ddatblygu cynaliadwy. Nid oes unrhyw dystiolaeth i ategu’r angen i ddatblygu’r safle maes glas deniadol hwn ar gyfer tai.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 36 Niwbwrch Gwrthwynebiad 167/281 - Mr Brian Owen Map 36 – Newid Arfaethedig PC561 Niwbwrch Gwrthwrthwynebiad 148/2256 – Cyngor Cymuned Bro Rhosyr

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad a’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Mae Gwrthwynebiad 167/281 yn awgrymu y dylid cynnwys tir yn cyffinio â’r Ysgol Gynradd, Niwbwrch o fewn y ffin ddatblygu. Mae Gwrthwrthwynebiad 148/2256 yn awgrymu y dylid dileu PC561 am fod y ffordd yn gwbl anaddas i ddarparu ar gyfer rhagor o dai.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 O dan Newid Arfaethedig PC561, mae’r Cyngor yn cytuno i ddiwygio’r ffin yn unol â’r cais yng Ngwrthwynebiad 167/281. Mewn ymateb i Wrthwrthwynebiad 148/2256, nid yw’r ffin ddiwygiedig yn awgrymu y gall gwaith datblygu ddigwydd ar y tir. Asesir p’un a yw’r ffordd yn addas pan ystyrir cais cynllunio ar gyfer datblygu ar y tir.

3.0 Mater

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 424

3.1 P’un a ddylid cynnwys tir o fewn y ffin ddatblygu yn cyffinio â’r Ysgol Gynradd, Niwbwrch.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Yr amcan datganedig yng Ngwrthwynebiad 167/281 yw galluogi adeiladu annedd ar y tir. Nodaf i geisiadau am adeiladu annedd ar dir y gwrthwynebiad gael eu gwrthod ym 1977 a 1981. Un o’r rhesymau dros wrthod ym 1977 oedd y byddai’r cynnig yn arwain at ‘estyniad o ddatblygiad hirgul ar hyd y nenlinell a fyddai’n amharu ar amwynderau ymddangosol yr ardal’. Mae’r canlyniad hwnnw yn dal i fod yn wir heddiw. Fodd bynnag nid yw’r Cyngor na’r Gwrthwrthwynebiad yn cynnig hynny fel rheswm dros wrthod y gwrthwynebiad.

4.2 Nodaf gulni’r ffordd sy’n cyffinio â thir y gwrthwynebiad ond mae safbwynt y Cyngor yn awgrymu nad yw’n debyg y bydd yn bosibl datrys y mater hwn o ran y datblygiad posibl am na chyfeiriodd ato yn ei ‘Ymateb y Cyngor’ fel y gwnaeth yn achos rhai safleoedd eraill mewn mannau eraill y gwnaed gwrthwynebiadau iddynt. Rwy’n cytuno â’r Newidiadau Arfaethedig.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio ffin ddatblygu Niwbwrch – Map 36 – fel y nodir ar y cynllun sy’n mynd gyda Newid Arfaethedig PC561.

Map 37 - Cynnig T48 Pentraeth Gwrthwynebiadau 8/406 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig 28/272 – Jan Tyrer 31/1118, 1440 – Plaid Werdd Sir y Fflint 51/1469 – Cyfeillion y Ddaear - Môn a Gwynedd 349/12 - Mr Tudur Wyn Owen 204/197 - Mr Ieuan Wyn Jones AC 385/297 - M. Howarth 382/347 - Dr Lewis de Vay 383/429 - Kyle Morison 160/466 - Vaughan Owen Associates 138/480 a 138/481 - Bronwen A. Pritchard 49/485 - Plaid Cymru 339/486 - H. a J. Hughes 389/487 - Mr G. Lloyd Jones 389/488 - Mrs Gwen Lloyd Jones 384/489 - Mr Stephen Williams 340/490 - Mr George Wignall 381/491 - Mrs Tracey Wignall 333/492 - Alison Booth 334/493 - Elizabeth Ashcroft 336/495 - Ron Ashcroft 386/497 - Mr a Mrs M. Hughes 139/500 - Mrs Megan Lloyd 296/591 a 296/592 - Peter Wynstanley 308/593 - Mr a Mrs Richmonds 389/662 – DEISEB WEDI’I LLOFNODI GAN Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 425

389 O BOBL 390/1437 – T Anwyl Williams 16/681 - Mr Albert Owen AS 50/764 – Cyngor Cymuned Llanddona 341/1086 - Charles a Carys Aron 232/1214 - Gwyn Harrison 38/1350 – Cyngor Cymuned Llanddyfnan 348/1373 - Owen Evans Hughes 16/1420 - Mr Albert Owen AS 335/494 - Alison Fenton 337/496 - Country Cottages 387/498 - Cyngor Cymuned Pentraeth 354/1172 - Dr Carl Iwan Clowes Newidiadau Arfaethedig 563, 562, Cynnig T48 a Chynnig T68 180, 179, 169, 162, 154, 153, 151, Gwrthwrthwynebiadau 380/2018, 2019, 2020, 2021, 2022, 2023, 2024, 2025, 2026 - John Wood

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiad 349/12 yn nodi nad oes angen y datblygiad am fod digon o dai ar werth yn y pentref ac am fod y fynedfa sy’n gwasanaethu’r safle wedi’i lleoli ar ddarn peryglus o ffordd, rhwng Melin Pandy a’r Ystad Ddiwydiannol, lle y mae nifer o ddamweiniau wedi digwydd gan gynnwys dwy farwolaeth. Mae Gwrthwynebiad 204/197 o’r farn bod yr anheddiad yn bentref bach o 400 o dai ac y byddai’r cynnig hwn yn newid y pentref yn llwyr. Mae Gwrthwynebiad 385/297 o’r farn y bydd yn arwain at fewnfudo gan siaradwyr Saesneg i gymuned Gymraeg, y bydd yn effeithio ar gymeriad y pentref, ac nad oes llawer o gyfleusterau. Mae Gwrthwynebiad 382/347 yn nodi bod y cynnig yn amhriodol ar gyfer pentref fel Pentraeth. Byddai’r datblygiad yn cynyddu lefel y traffig gryn dipyn ar y briffordd beryglus ac oddi arni a byddai’n edrych dros AOHNE. Mae Gwrthwynebiad 383/429 yn credu y byddai’r datblygiad yn boddi’r pentref. Mae digon o gartrefi cychwynnol yn y pentref.

1.2 Mae Gwrthwynebiad 160/466 yn nodi nad oes angen dyraniad mawr yn y pentref. Nid yw’n ffurfio ffin naturiol i’r pentref ac nid oes unrhyw seilwaith yn y pentref. Mae Gwrthwynebiad 138/480 yn gwrthwynebu dosbarthu Pentraeth fel canolfan eilaidd yn hytrach na phentref. Mae Gwrthwynebiad 138/481 o’r farn y byddai dyraniad o 100 o dai yn boddi’r pentref. Gorddatblygwyd yr anheddiad yn y 1970au. Er bod ystad ddiwydiannol fach yn y pentref mae’n cynnwys yn bennaf busnesau teuluol bach a busnesau bach sy’n cael eu rhedeg gan un person a phrin y mae’n darparu ar gyfer datblygiadau mawr. Mae Gwrthwynebiad 49/485 o’r farn y byddai’r dyraniad hwn yn arwain at Bentraeth yn cael ei orddatblygu. Mae Gwrthwynebiad 339/486 yn dyfynnu Arolygydd y Swyddfa Gymreig a wrthododd fwriad blaenorol i ddyrannu’r safle oherwydd y fynedfa i’r safle o’r A5025 oherwydd y peryglon amlwg a fyddai’n deillio o symudiadau troi gan gerbydau yn y lleoliad penodol hwn.

1.3 Mae Gwrthwynebiadau 389/487 a 389/488 yn nodi bod datblygu’r safle yn achosi problemau sylweddol ar gyfer eiddo Melin Pandy yn ymwneud â sefydlogrwydd daearegol. Gallai’r datblygiad arwain at erydu’r clawdd ac at dir y clawdd yn llithro, y risg y ceir llifogydd wedi’u hachosi gan ddðr glaw ffo, ni all y brif garthffos sy’n rhedeg wrth ochr y safle ymdopi ar hyn o bryd. Mae Gwrthwynebiad 384/489 yn nodi y byddai’r datblygiad yn difetha cymeriad yr ardal ac y dylai Pentraeth barhau i fod yn bentref. Nid oes angen rhagor Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 426 o dai ar Ynys Môn, mae digon o dai ar werth ar yr Ynys. Mae digon o dir ym Mhentraeth â chaniatâd sy’n bodoli eisoes ar gyfer datblygiadau tai ac ni all seilwaith y pentref gynnal twf o’r fath. Mae Gwrthwynebiad 340/490 yn gwrthwynebu’r datblygiad oherwydd diogelwch y briffordd, y ffaith bod digon o dai yn y pentref ar gyfer prynwyr tro cyntaf, nad oes llawer o amwynderau, na all yr ysgol ymdopi â’r plant ychwanegol. Dylid dileu’r dyraniad.

1.4 Mae Gwrthwynebiad 381/491 yn cyfeirio at bryderon ynghylch y briffordd ac mae am weld y dyraniad yn cael ei ddileu. Mae Gwrthwynebiad 333/492 a 334/493 yn nodi bod pryderon ynghylch y briffordd, y ffaith nad oes llawer o le yn yr ysgol leol, y ffaith y collir cefn gwlad agored, a’r ffaith bod digon o dai yn y pentref ar gyfer prynwyr tro cyntaf yn golygu y dylid dileu’r dyraniad hwn. Mae Gwrthwynebiad 336/495 yn nodi nad yw’r ffordd fynediad yn addas a bod digon o dai ar werth yn y pentref yn golygu y dylid dileu’r dyraniad. Mae Gwrthwynebiad 386/497 yn nodi bod lleoliad y dyraniad yn cyffinio ag ardal lle y mae risg y ceir llifogydd. Bydd yn effeithio ar y system garthffosiaeth, ac yn gosod baich ar yr ysgol gynradd. Gwrthodwyd cais blaenorol. Bydd yn cael effaith economaidd ar y stoc tai presennol. Mae cynnydd o 25% mewn tai yn annerbyniol. Nid oes angen unrhyw dai am fod y boblogaeth yn gostwng, oherwydd y ffaith nad oes unrhyw gyfleusterau, a’r ffaith nad oes unrhyw gyfleoedd ar gyfer cyflogaeth. Byddai’n glastwreiddio cymeriad Cymreig brodorol yr ardal.

1.5 Mae Gwrthwynebiad 139/500 yn gwrthwynebu dosbarthu Pentraeth fel Canolfan Eilaidd am nad oes angen lleol. Byddai Cynnig T48 yn arwain at golli cymeriad; nid oes seilwaith ar hyn o bryd. Gwrthwynebir Cynnig T48 hefyd oherwydd pryderon ynghylch y briffordd, y ffaith ei fod yn safle maes glas sy’n anghymesur â’r angen lleol am dai a’r ffaith nad oes galw am dai. Dylid dosbarthu Pentraeth fel pentref. Mae Gwrthwynebiadau 296/591 a 296/592 yn nodi bod problemau o fewn y pentref oherwydd y lefel uchel o draffig ar y ffordd a chynllun y groesffordd yng nghanol y pentref. Cynigir y dylid ailgyfeirio ffordd y B5109 o Dalwrn ar hyd cefn safle T48 ac adeiladu cylchfan ar yr A5025 i’r de o blanhigfeydd Pentraeth. Dylid ailddyrannu rhan o ddyraniad T48 wedyn ar gyfer adeiladu canol newydd i’r pentref ac ar y darn o dir sydd ar ôl dylid adeiladu 60 o eiddo preswyl y dylai eu hanner fod yn unedau cychwynnol cost isel. Mae Gwrthwynebiad 308/593 yn ategu gwrthwynebiad 591.

1.6 Mae Gwrthwynebiad 662 (Deiseb wedi’i llofnodi gan 389 o bobl) yn nodi y byddai’r datblygiad yn anghydnaws â’r ardal, y byddai’n dinistrio’r pentref gwledig, a’i fod yn uwch na’r gofyniad lleol am dai, a bod llawer o ail gartrefi yn yr ardal. Mae digon o dir â chaniatâd cynllunio yn yr ardal. Bydd yn effeithio ar gyfleusterau lleol. Nid oes unrhyw alw am dai ychwanegol ar Ynys Môn. Mae Gwrthwynebiad 16/681 o’r farn bod y datblygiad yn amhriodol ar gyfer cymuned wledig fach, ei fod yn groes i’r angen lleol a bod digon o dir â chaniatâd eisoes yn y pentref. Mae Gwrthwynebiad 50/764 o’r farn bod 100 o dai yn llawer gormod ar gyfer Pentraeth. Mae Gwrthwynebiad 341/1086 yn teimlo y câi effaith anghymesur ar y pentref. Nid oes unrhyw gyfleusterau. Mae pryder ynghylch effaith weledol y datblygiad, strwythur cymdeithasol y pentref ac amgylchedd Afon Nodwydd. Mae Gwrthwynebiad 232/1214 o’r farn nad yw’r cynnig yn cyflawni amcanion datganedig cynaliadwyedd. Mae Gwrthwynebiad 38/1350 o’r farn nad yw’n briodol ail-leoli gofynion ardal Afon Menai i mewn i Bentraeth.

1.7 Mae Gwrthwynebiad 348/1373 yn o’r farn y byddai datblygu 100 o dai ar y safle yn ormodol. Bydd datblygu’r cae yn dileu’r unig gyfle sydd ar ôl i gael ffordd liniaru. Mae Gwrthwynebiad 16/1420 o’r farn pe caniateid y datblygiad y byddai mwy o risg y ceid llifogydd yn yr eiddo a elwir yn Felin Pandy a leolir gerllaw’r safle. Mae Gwrthwynebiad 335/494 yn teimlo y dylid dileu’r cynnig neu fel arall y dylid adeiladu nifer sylweddol llai o Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 427 dai ar y safle hwn (10 o bosibl). Byddai’n well gan Wrthwynebiad 337/496 weld y tir yn parhau i fod yn ddôl naturiol ac yn gynefin ar gyfer bywyd gwyllt, y felin yn cael ei hadfer a’i dynodi fel adeilad rhestredig a fyddai’n fanteisiol i’r pentref a’r diwydiant twristiaeth sydd dan warchae.

1.8 Mae Gwrthwynebiad 387/498 yn gwrthwynebu oherwydd: (i) Nad oes unrhyw dystiolaeth gadarn bod angen 100 o unedau preswyl newydd ar y safle. Dangosodd astudiaeth ddiweddar fod rhwng 9 a 12 o dai ar gyfartaledd ar werth ar unrhyw adeg benodol ym Mhentaeth. (ii) Ni all y system garthffosiaeth fudr gynnal datblygiad mor fawr. (iii) Gan fod poblogaeth Ynys Môn yn gostwng, ble mae’r farchnad ar gyfer y 100 o unedau. (iv) Mae’n annerbyniol i’r datblygiad gynyddu tai ym Mhentraeth 30%. (v) Mae’r fynedfa arfaethedig i’r safle o’r A5025 yn annerbyniol. Mae cynrychioliadau blaenorol yn erbyn y Cynllun Datblygu Unedol drafft yn nodi bod mynedfa’r safle i’r A5025 yn groes i bolisïau’r adran priffyrdd. (vi) Bydd y datblygiad arfaethedig yn niweidio cymuned Pentraeth.

1.9 Mae Gwrthwynebiadau 8/406, 28/272, 31/1118, 31/1440, 51/1469, 354/1172 a 390/1437 am weld y penderfyniad i ddatblygu tir o dan Gynnig T48 ar gyfer 100 o dai ym Mhentraeth yn cael ei ddileu o’r cynllun. Mae Gwrthwynebiad 354/1172 yn nodi nad oes angen rhagor o dai ym Mhentraeth. Cafwyd gormod o waith datblygu yn y 60au a’r 70au a chafwyd effaith niwediol ar iaith a thraddodiadau’r ardal a chafwyd sgîl-effeithiau cymdeithasegol negyddol.

1.10 Tynnwyd 6 gwrthwynebiad i’r dyraniad (sef, 8/406, 28/272, 31/1118, 31/1440, 51/1469, 390/1437) yn ôl yn amodol yng ngoleuni Newid Arfaethedig PC562

1.11 Cyfeirir at Wrthwrthwynebiadau 380/2018, 2019, 2020, 2021, 2022, 2023, 2024, 2025, 2026 gan y Cyngor fel rhai sy’n ymwneud ag adfer dyraniad tai T48 yn y cynllun.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae gan y Cyngor y pryderon canlynol ynghylch y safle hwn:- i) Graddfa’r datblygiad mewn perthynas â strategaeth y cynllun; ii) Mae digon o dir ar gael ar gyfer "Pentref" Pentraeth, iii) Effaith y cynnig ar y Gymraeg a chymeriad yr anheddiad; iv) Canfyddiad y cyhoedd o’r gwrthwynebiad lleol i’r cynnig.

2.2 Nodwyd digon o dir yn y Cynllun Datblygu Unedol, naill ai â chaniatâd sy’n bodoli eisoes neu fel dyraniad arfaethedig, i fodloni’r gofyniad o ran tir ar gyfer tai trwy gydol cyfnod y cynllun. Mae strategaeth tai’r cynllun yn nodi ym mharagraff 16.38 bod :- “...y cynllun hefyd yn pennu graddfa ddarpariaeth y gall cymunedau lleol ymdopi â hi, heb achosi niwed annerbyniol i’w cymeriad ffisegol, cymdeithasol, ieithyddol nac amgylcheddol.” Byddai dyrannu 100 o dai ym Mhentraeth yn groes i strategaeth y Cynllun Datblygu Unedol. Mae para 9.2.1 Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylai strategaeth aneddiadau’r Cynllun Datblygu Unedol ddarparu patrwm gofodol o ddatblygiadau tai yn cydbwyso anghenion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Ni fyddai dyrannu 100 o dai ym Mhentraeth yn cyflawni’r polisi hwnnw.

2.3 Mae para 3.4 RPGNW yn rhoi rhagor o bwyslais ar hyrwyddo cymunedau cynaliadwy ac y dylai maint dyraniadau tai fod yn briodol i’w hanghenion a’i fod yn gyson Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 428

â’r ddarpariaeth o wasanaethau ac argaeledd tebygol swyddi. Ar ben hynny mae para 3.5 yn nodi y dylai Cynlluniau Datblygu Unedol geisio cynhyrchu patrwm datblygu sy’n fwy cynaliadwy.

2.4 Mae’r Cyngor yn fodlon felly fod gan Ynys Môn gyflenwad digonol o dir i fodloni gofyniad anheddau’r Ynys dros y cyfnod o 5 mlynedd 2001-2006, pan y’i hasesir yn erbyn cyfraddau adeiladu yn y gorffennol. Bydd y Cynllun Datblygu Unedol, pan y’i mabwysiedir, yn sicrhau bod digon o dir ar gael ar ôl 2006 i fodloni Polisi Cynllunio Cymru.

2.5 Mae’r Cyngor o’r farn felly y byddai caniatáu 100 o dai ym Mhentraeth yn cael effaith niweidiol ar sefyllfa’r Gymraeg o fewn y pentref hwn am mai’r tebygolrwydd yw y byddai’n lleihau’r gyfran o siaradwyr Cymraeg yn y pentref.

2.6 Mae’r Cyngor yn cytuno â phryderon y trigolion lleol ynghylch effaith datblygiad ar raddfa T48 ar y pentref. O dan Newid Arfaethedig PC562, mae’r Cyngor yn bwriadu dileu Cynnig T48 a thynnu’r ffin ddatblygu yn ôl ar Dir yn cyffinio â Melin Pandy, Pentraeth.

2.7 Felly er bod y Cyngor yn derbyn y gellid goresgyn y gwrthwynebiadau yn ymwneud â’r Briffordd, dim ond o ran datblygiadau tai o faint penodol y bydd yn ymarferol ariannu gwelliannau priffyrdd.

3.0 Materion

3.1 A ddylid cadw neu ddileu Cynnig T48 ym Mhentraeth fel dyraniad tir ar gyfer tai?

3.2 A ddylid dosbarthu Pentraeth fel pentref o dan Bolisi HP4 neu ei gadw fel Canolfan Eilaidd o dan Bolisi HP3?

3.3 A ddylid dileu Newid Arfaethedig PC563 – Cynnig T68?

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae Pentraeth yn anheddiad o ryw 400 o anheddau a chanddo boblogaeth o 824, y ddau ffigur yn seiliedig ar Gyfrifiad 1991. Mae ganddo amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau lleol, a hefyd ystad ddiwydiannol fach ond nid oes ganddo unrhyw gyflogwyr mawr. Nodweddir y rhan fwyaf o’r pentref gan ddatblygiadau preswyl diweddar ar ffurf ystadau sy’n debygol o ddarparu’n bennaf ar gyfer trigolion sy’n cymudo allan o’r pentref i weithio mewn swyddi mewn mannau eraill, a phobl wedi ymddeol.

4.2 Mae safle’r gwrthwynebiad yn cynnwys safle maes glas ag arwynebedd o 3.0 hectar. Fe’i lleolir gerllaw ffordd yr A5025. Byddai datblygu’r tir hwn ar gyfer tai yn arwain at ddatblygiad adeiledig yn tresmasu ar raddfa fawr ar ddarn o gefn gwlad deniadol agored gerllaw’r AOHNE.

4.3 Byddai datblygu rhyw 100 o anheddau yn debygol o arwain at lefelau uwch o gymudo allan o’r pentref i’r gwaith a fyddai’n groes i egwyddorion datblygu cynaliadwy a’r egwyddor o leihau’r angen i deithio (gweler paragraffau 2.5.2 a 2.5.3 Polisi Cynllunio Cymru). Rwyf hefyd o’r farn y byddai datblygiad o’r maint hwn yn ormodol o gymharu â maint yr anheddiad ac y byddai’n niweidiol i’w ffurf ffisegol a’i wead cymdeithasol.

4.4 Ystyriais mewn adrannau cynharach o’r adroddiad hwn gyfanswm yr anheddau sydd eu hangen yn ystod cyfnod y cynllun a’r rhagdybiaethau a’r fethodoleg a fabwysiadwyd gan Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 429 y Cyngor wrth geisio bodloni’r gofyniad hwn. Nid yw’r Gwrthwrthwynebiadau a gyflwynwyd yn fy arwain i newid fy nghasgliadau. Ystyriais hefyd y fformiwla lle y pennir maint y gwaith datblygu ym mhob anheddiad yn gymesur at ei gilydd â phoblogaeth yr ardal, a chapasiti a chymeriad pob anheddiad unigol.

4.5 Rwy’n cytuno â’r penderfyniad i ddewis Amlwch, Caergybi a Llangefni fel y tri phrif anheddiad ar yr Ynys. Dyma’r canolfannau twf cyflogaeth allweddol a’r lleoliadau mwyaf cynaliadwy ar gyfer datblygiadau tai newydd. Wrth ystyried lefel y ddarpariaeth tir ar gyfer tai yn y Canolfannau Eilaidd (Polisi HP3) a’r pentrefi (Polisi HP4), bydd maint y gwaith datblygu yn amodol ar ystyriaethau amgylcheddol a ffactorau cynaliadwyedd. O fewn Polisi HP4, ceir pentrefi o amrywiol faint o Fethel (poblogaeth o 133) i Walchmai (poblogaeth o 901). Yng ngoleuni fy asesiad o Bentraeth a’r cyfyngiadau yn ymwneud â’r dirwedd a’r amgylchedd lleol, ac â ffactorau cynaliadwyedd, rwy’n cytuno â Newidiadau Arfaethedig PC151, PC153 a PC154 sy’n gosod Pentraeth ym Mholisi HP4. Dylai hynny atgyfnerthu’r sylfaen polisi ar gyfer y Cyngor yn wyneb pwysau datblygu yn y pentref.

4.6 Nodaf fod Gwrthwynebiad 380/2023 i PC162 yn cyfeirio at Dai Fforddiadwy, ac y byddai’r gwrthwynebydd yn barod i ddarparu rhai tai fforddiadwy yn y datblygiad. Nid wyf o’r farn bod hyn yn ffactor digon pwysig i gyfiawnhau penderfyniad ar fy rhan i anwybyddu’r rhesymau cryf dros ddileu Cynnig T48. O ran PC563 yn ymwneud â’r dyraniad tai o dan Gynnig T68, nodaf fod y safle yn elwa ar ganiatâd cynllunio a’i fod wedi’i neilltuo at ddibenion ei ddatblygu felly.

5.0 Argymhellion

5.1 Y dylid diwygio’r cynllun a adneuwyd trwy ddileu Cynnig T48 – Pentraeth (Map 37) fel y nodir yn Newidiadau Arfaethedig 169 a 562.

5.2 Y dylid cymeradwyo Newidiadau Arfaethedig 151, 153, a 154 o ran dosbarthiad Pentraeth o Bolisi HP3 i Bolisi HP4 i’w cynnwys yn y cynllun.

5.3 Na ddylid newid Newidiadau Arfaethedig PC162, PC179, PC180 a PC563 mewn ymateb i wrthwynebiadau 380/2023, 2021, 2020 a 2018.

Map 37 Pentraeth Gwrthwynebiad 296/299 – D B Housing

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Diwygio’r ffin ddatblygu i’r gogledd o Gynnig T48 i gynnwys tir ym mhlanhigfeydd Pentraeth o fewn y ffin ddatblygu ar gyfer adeiladu un annedd.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae safle’r gwrthwynebiad yn blanhigfa ac yn siop fferm sefydledig wrth ochr yr A5025 ac i’r gorllewin ohoni ym Mhentraeth. Lleolir safle’r gwrthwynebiad ar wahân i brif ran ardal adeiledig y pentref.

3.0 Mater

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 430

3.1 Diwygio ffin ddatblygu Pentraeth i gynnwys tir ym mhlanhigfeydd Pentraeth o fewn y ffin ddatblygu ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.0 Casgliad y Cyngor

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn cynnwys Planhigfeydd Pentraeth a thir ydyw a leolir i’r gorllewin o’r A5025 ac i’r gogledd o’r tir preswyl a ddyrannwyd o dan Gynnig T48. Ar ôl ystyried gwrthwynebiadau i Gynnig T48, argymhellais y dylid cytuno â bwriad y Cyngor o dan Newid Arfaethedig PC169 a PC562 i ddileu Cynnig T48. Mae’r mater sy’n codi o dan Wrthwynebiad 296/299 yn ymwneud ag annedd newydd ar safle Planhigfeydd Pentraeth i wella diogelwch ar y safle yn wyneb lladrata a fandaliaeth barhaol.

4.2 A bod yn fanwl gywir, mater i’r broses rheoli datblygiad yw’r mater hwn ac nid proses y cynllun datblygu. Yng ngoleuni’r argymhelliad i ddileu Cynnig T48 a Newid Arfaethedig P153 sy’n ailddosbarthu Pentraeth o fod yn Ganolfan Eilaidd o dan Bolisi HP3 i fod yn bentref o dan Bolisi HP4, nid wyf o’r farn y gellir cyfiawnhau datblygiad preswyl ar safle Planhigfeydd Pentraeth, os ystyrir bod y gwrthwynebiad yn ymwneud â’r safle cyfan, o ran ei faint na’i leoliad. Heb safle Cynnig T48, byddai tir y gwrthwynebiad yn ddatblygiad ychwanegol ar wahân i’r gorllewin o’r A5025.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisïau HP3 a HP4 Pentraeth Gwrthwynebiad 8/352 - Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid symud Pentraeth o Bolisi HP3 a’i osod ym Mholisi HP4.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Cyflwynodd y Cyngor Newid Arfaethedig PC151 sy’n dileu Pentraeth o bolisi HP3, a Newid Arfaethedig PC153 sy’n cynnwys Pentraeth ym Mholisi HP4. Mae Newid Arfaethedig PC154 yn diwygio’r testun i ddosbarthu Pentraeth fel pentref.

3.0 Casgliadau’r Arolygydd

3.1 Mae Newidiadau Arfaethedig PC151, PC153, a PC154 yn ateb pryderon y Gwrthwynebydd, ac rwy’n cytuno â hwy.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio’r cynllun a adneuwyd fel y nodir yn Newidiadau Arfaethedig PC151, PC153 a PC154.

Map 41 Porthaethwy Gwrthwynebiad 160/464 - Vaughan Owen Associates

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 431

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Newid y ffin ddatblygu i gynnwys tir i’r dwyrain o Ystad Dai Tyddyn Mostyn ar Ffordd Penclip, Porthaethwy.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r ffin ddatblygu ogledd-ddwyreiniol sy’n bodoli eisoes fel y’i nodir yn y Cynllun Datblygu Unedol (â PC569) yn adlewyrchu rhan ddatblygedig Porthaethwy. Nid oes angen ymestyn y ffin ddatblygu ar hyd Ffordd Penclip. Byddai’r gwrthwynebiad yn arwain at 0.79 hectar arall o dir amaethyddol yn cael ei gynnwys o fewn y ffin ddatblygu.

2.2 Nid yw’r safle hwn yn addas i’w gynnwys o fewn y ffin ddatblygu. Mae tirwedd yr ardal i bob pwrpas yn gwahanu’r safle a safleoedd cyffiniol sydd o fewn y ffin ddatblygu. Mae gan yr ardal hon gysylltiad agosach â chefn gwlad agored na ffurf adeiledig yr anheddiad. Byddai’n ymwthiad annerbyniol i gefn gwlad agored.

2.3 Mae pryder ynghylch cyfle’r carthffosydd mewn rhannau o’r ystadau i’r dwyrain o’r B5420 ym Mhorthaethwy. Mae datblygiad cynyddol yr ystadau hyn yn golygu nad ydynt i gyd yn gysylltiedig â’r carthffosydd cyhoeddus ac nad ydynt i gyd wedi’u cynnal a’u cadw yn iawn. Mae pryderon arbennig yn ardal Pen Lôn ym Mhorthaethwy lle y ceir system fawr o garthffosydd preifat. Mae pryder hefyd bod mannau mynediad ffordd o dan ormod o bwysau a dim ond gwaethygu’r sefyllfa a wna rhagor o waith datblygu.

3.0 Mater

3.1 Dyrannu darn o dir ag arwynebedd o 0.79 hectar ar hyd Ffordd Penclip, Porthaethwy ar gyfer datblygiadau preswyl a’i gynnwys o fewn y ffin ddatblygu.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Nodaf i’r Cyngor gynnwys darn o dir ag arwynebedd o 1.82 hectar yn Newidiadau Arfaethedig PC169 a PC569, fel dyraniad tir preswyl. Mae’r tir hwn yn cyffinio ag Ystad Dai Tyddyn Mostyn ac mae ganddo ffryntiad â Ffordd Penclip. Mae ganddo ganiatâd cynllunio dilys hanesyddol ar gyfer datblygu 60 o anheddau. Rhestrir y safle hwn fel Cynnig T69 yn PC169, ond oherwydd cyfyngiadau mynediad a charthffosiaeth, nid yw’r Cyngor o’r farn ei fod yn debygol o gael ei ddatblygu yn ystod cyfnod y cynllun (h.y. cyn 2016).

4.2 Os datblygir y safle hwn, sef T69, mae’n debygol o gael cryn effaith ar gymeriad tirwedd y rhan hon o Borthaethwy. Mae’n debyg y byddai angen torri coed. Byddai’r safle a argymhellwyd yng Ngwrthwynebiad 160/464, sydd bellach yn cael ei ystyried, yn estyniad gogleddol o Gynnig T69 ar hyd Ffordd Penclip. Mae’n rhesymol tybio bod cyfyngiadau tebyg yn ymwneud â mynediad a charthffosiaeth sylfaenol yn berthnasol i Gynnig T69 a safle’r gwrthwynebiad.

4.3 Nid wyf o’r farn y gellir gwerthuso rhinweddau cynllunio tir y gwrthwynebiad yn llawn nes y bydd y cyfyngiadau wedi’u datrys. Rwyf hefyd o’r farn y dylai’r gwaith o ddatblygu Cynnig T69 fod yn tynnu at ei derfyn ar y ddaear cyn yr ystyrir gwneud mwy o waith datblygu ymhellach tua’r gogledd ar hyd Ffordd Penclip.

5.0 Argymhelliad

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 432

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 41 Porthaethwy Gwrthwynebiadau 32/1063 – Ymddiriedolaeth Treftadaeth Gymunedol Porthaethwy 57/687 – Cyngor Tref Porthaethwy 79/558 – Cymdeithas Ddinesig Porthaethwy a’r Ardal 90/307 – Mrs J C Moss 117/594 – J Bracegirdle 118/306 - A J Tavernor 271/285 - T.R. Beggs 273/300 - E. Williams 274/301 - G. Hughes

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiad 32/1063 yn nodi bod yr ardal o amgylch Eiddo’r Moorings yn rhan o ardal breswyl Cadnant ac nad yw’n rhan o Borthaethwy. Fe’i lleolir gerllaw’r AOHNE. Dylid symud y ffin ddatblygu ar gyfer Porthaethwy yn ôl i ddilyn llinell llwybr troed Lôn Pen Nebo / Ffordd Cadnant. Mae Gwrthwynebiad 57/687 yn nodi, "rydym yn derbyn y gallai fod rhywfaint o ddatblygu at ddibenion preswyl yn yr ardal hon", ond nid ydynt am weld datblygiadau masnachol. Mae Gwrthwynebiadau 79/558 a 117/594 yn awgrymu y dylid symud y ffin ddatblygu i hepgor ‘The Moorings’. Mae Gwrthwynebiadau 118/306, 271/285, 273/300 a 274/301 yn nodi y dylai’r ffin ddatblygu gael ei haildynnu i ddilyn y llinell a ddangosir ar Fap 17 – Porthaethwy ar Ddrafft Ymgynghorol y Cynllun Datblygu Unedol (Mai 2000).

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r ffin ddatblygu hon yn cynnwys ardal breswyl sy’n ymestyn hyd at yr eiddo a elwid yn "The Moorings", Porthaethwy ac sy’n cynnwys yr eiddo hwnnw. Mae hyn yn briodol.

3.0 Materion

3.1 Dileu ‘The Moorings’ o’r tu mewn i’r ffin ddatblygu, a gosod y ffin ddatblygu yn ôl ar hyd llwybr troed Lôn Pen Nebo / Ffordd Cadnant. Newid ffin ddatblygu Porthaethwy yng nghyffiniau ardal Cadnant i’r un a ddangosir ar Fap 17 Drafft Ymgynghorol y Cynllun Datblygu Unedol (Mai 2000). Newid y ffin ddatblygu i hepgor ‘The Moorings’.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae penderfyniad y Cyngor i ymestyn y ffin ddatblygu yn ardal Cadnant o’r un a ddangosir ar Fap 17 y Drafft Ymgynghorol i’r un a ddangosir ar Fap 41 y Drafft Ymgynghorol yn adlewyrchiad teg o gymeriad adeiledig y rhan hon o’r anheddiad. Nodir bod y ffin hon wedi hepgor nifer o eiddo preswyl mewn gerddi mawr, ac a leolir mewn tirwedd goediog ddeniadol. Mae’r eiddo ‘The Moorings’ yn dŷ mawr wedi’i osod mewn gerddi coediog mawr, ond mae’r rhan fwyaf o’r gerddi wedi’i hepgor o’r ffin ddatblygu. Ystyriais Wrthwynebiad 19/571 sy’n awgrymu y dylid cynnwys y gerddi hyn o fewn y ffin ddatblygu, ond argymhellais y dylid gwrthod y gwrthwynebiad hwn.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 433

4.2 Rwyf o’r farn y byddai’n gyson â’r sail y tynnwyd y ffin ddatblygu arni, pe câi’r eiddo ‘The Moorings’ ei hepgor fel y ceisir gan Wrthwynebiad 57/687.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio ffin ddatblygu Porthaethwy ar Fap 41 i hepgor yr eiddo ‘The Moorings’ ond na ddylid gwneud unrhyw ddiwygiadau eraill mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Map 41 Porthaethwy - Cynnig T51 Gwrthwynebiad 8/405 - Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Nid oes angen dyrannu T51. Dylid ei gyflwyno fesul cam trwy gydol cyfnod y cynllun sy’n para 15 mlynedd.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Dosberthir Porthaethwy fel Canolfan Eilaidd yn is-ardal Afon Menai. Mae angen y dyraniad i gyflawni strategaeth tai’r cynllun. Mae’r dyraniad yn elwa ar ganiatâd cynllunio hanesyddol sy’n bodoli eisoes yn dyddio o 28/09/88. Mae’r safle hwn yn cael ei ddatblygu yn hytrach na safleoedd meysydd glas eraill o fewn y pentref, yn unol ag egwyddorion cynaliadwyedd a nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru (Mawrth 2002). Nid oes unrhyw gyfyngiadau ffisegol ar ddatblygu’r safle. Am fod gan y safle ganiatâd cynllunio nid yw’n bosibl cyflwyno’r datblygiad fesul cam.

3.0 Mater

3.1 A ddylid dileu Cynnig T51, neu os na ddylid ei ddileu, a ddylid ei ddatblygu fesul cam dros gyfnod y Cynllun?

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae’r safle wedi’i gynnwys yn gyfan gwbl o fewn fframwaith adeiledig Porthaethwy, a bydd yn cyfrannu at ddarpariaeth anheddau’r Cynllun Datblygu Unedol. Nodaf fod gan y safle ganiatâd cynllunio sy’n bodoli a’i fod wedi’i neilltuo at ddibenion ei ddatblygu felly.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 41 Porthaethwy -Ffin Ddatblygu Gwrthwynebiad 19/571 - Gareth White Partnership

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid ymestyn y ffin ddatblygu ym Mhorthaethwy i gynnwys arwynebedd cyfan safle “The Moorings”, Ffordd Cadnant, ar gyfer tai.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 434

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r Cyngor o’r farn bod y ffin ddatblygu sy’n bodoli eisoes ar hyd cwr dwyreiniol yr anheddiad fel y’i nodir yn y Cynllun Datblygu Unedol yn adlewyrchu’r rhan ddatblygedig o Borthaethwy. Nid oes angen ymestyn y ffin ddatblygu ymhellach ar hyd Ffordd Cadnant. Byddai tir y gwrthwynebiad yn arwain at 1.62 hectar arall o dir/coetir yn cael ei gynnwys o fewn y ffin ddatblygu. Mae’r tir hwn yng nghefn gwlad agored ac mae ei goed yn ddarostyngedig i Orchymyn Cadw Coed.

2.2 Gallai ymestyn y ffin ddatblygu arwain at golli cryn nifer o goed ar y safle coediog hwn. Amherid ar ansawdd gweledol y lleoliad coediog deniadol yng nghefn gwlad o ganlyniad i goed yn cael eu torri. Mae natur goediog y safle i bob pwrpas yn gwahanu’r safle hwn oddi wrth yr eiddo sydd y tu mewn i’r ffin ddatblygu. Mae gan yr ardal gysylltiad agosach felly â chefn gwlad agored na ffurf adeiledig yr anheddiad i’r gorllewin.

2.3 Lleolir yr anheddiad o fewn is-grðp tai Afon Menai. Mae’r Cyngor yn nodi bod diffyg yn yr is-grðp hwn ond bod digon o ddarpariaeth yn gyffredinol yn y cynllun.

3.0 Mater

3.1 Ymestyn ffin ddatblygu Porthaethwy yn ‘The Moorings’, Ffordd Cadnant, a dyrannu’r tir ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn cynnwys 1.62 hectar o goetir sy’n ddarostyngedig i Orchymyn Cadw Coed. Os derbynnir y gwrthwynebiad, gallai cynigion datblygu arwain at goed yn cael eu colli ar y safle hwn a newid ei gymeriad. Byddai hynny’n niweidio golwg ddeniadol a gwerth amwynder y safle mewn ardal yn cynnwys tirwedd o safon. Byddai estyniad llinellol tua’r gogledd o’r anheddiad hefyd yn annerbyniol. Nid yw unrhyw angen i ddyrannu rhagor o dir preswyl yn is-grðp Afon Menai yn bwysicach na’r dadleuon cryf yn erbyn datblygu tir y gwrthwynebiad.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 41 Porthaethwy Gwrthwynebiad 32/1062 – Ymddiriedolaeth Treftadaeth Gymunedol Porthaethwy

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Ni ddylid gorffen y cynllun datblygu nes y cwblheir canlyniadau’r astudiaeth ddatblygu o’r anheddiad.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae rhan o astudiaeth ddatblygu wedi’i chyflawni gan gwmni ymgynghori Gillespie’s ar ran y Cyngor Sir, Awdurdod Datblygu Cymru a phartneriaid o fewn y gymuned leol. Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 435

Ymdriniodd yr astudiaeth â nifer o’r materion manwl a gynhwysir yn y gwrthwynebiad. Ni chwblhawyd adroddiad yr ymgynghorwyr ac nis cyhoeddwyd ychwaith.

3.0 Mater

3.1 A ddylid aros i astudiaeth yr ymgynghorwyr gael ei chyhoeddi cyn paratoi’r Cynllun Datblygu Unedol?

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Byddai’n annoeth atal cynnydd y Cynllun Datblygu Unedol nes y bydd astudiaeth yr ymgynghorwyr wedi’i chwblhau. Fel astudiaeth o’r ardal leol, mae’n ddigon posibl hefyd y bydd yn cynnwys nifer o argymhellion â lefel o fanylder nad yw’n briodol i’r Cynllun Datblygu Unedol.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 41 Porthaethwy Gwrthwynebiad 272/196 – Williams & Goodwin

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Newid y ffin ddatblygu i gynnwys tir sydd eisoes dan fwriadau cynllunio ar gyfer tai.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Cyflwynir Newid Arfaethedig PC569 i’r cynllun. Mae’r Newid Arfaethedig hwn yn ymestyn y ffin ddatblygu ac yn dynodi’r tir â chaniatâd ar gyfer tai fel Cynnig T69 – Dyraniad Tai.

3.0 Mater

3.1 Diwygio’r ffin ddatblygu i gynnwys tir â chaniatâd cynllunio fel y cynigir yn PC569.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae Newid Arfaethedig PC569 yn dynodi tir gyda chaniatâd hanesyddol ar gyfer tai dros ran o’r holl dir a ddiffinir ar y cynllun gyda’r gwrthwynebiad. Nid oes gan gweddill y tir ganiatâd cynllunio yn bodoli arno ac ni ellir ei ddynodi felly. Rwyn cytuno gyda PC569.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio Map 41 – Porthaethwy yn unol â Newid Arfaethedig PC569.

Map 41 Porthaethwy Gwrthwynebiad 48/387 - BT Group PLC Map 41 – Newid Arfaethedig PC567 Porthaethwy Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 436

Gwrthwrthwynebiadau 394/2028 - Mr G. Cains, 396/2047 - Mr F. Cains 397/2050 - Mrs B. Cains 400/2203 - Mr S. Williams

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad a’r Gwrthwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiad 48/387 yn awgrymu y dylid cynnwys safle’r Gyfnewidfa Ffôn o fewn ffin ddatblygu Porthaethwy. Mae’r Gwrthwrthwynebiadau yn gwrthwynebu PC567 ac yn awgrymu y dylid tynnu’r ffin ddatblygu yn ôl wrth y Gyfnewidfa Ffôn ym Mhorthaethwy i’r ffin a nodir yn y cynllun drafft a adneuwyd.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Fel y cynigir yn PC567, ystyrir bod mân newid i’r ffin ddatblygu i ddod â’r Gyfnewidfa Ffôn o fewn y ffin ddatblygu yn ffurfio estyniad rhesymegol i anheddiad presennol Porthaethwy.

3.0 Mater

3.1 Hepgor safle’r Gyfnewidfa Ffôn y cynigiwyd i’w gynnwys o fewn y ffin ddatblygu o dan Newid Arfaethedig PC567.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn cynnwys adeilad o gryn faintioli – yr elfen amlycaf ar y safle i raddau helaeth. Mae’r tir yn cyffinio â ffin ddatblygu Porthaethwy ac mae ei ffrynt yn ffinio â’r A5. Mae’r safle yn gysylltiedig â’r ardal drefol ac mae’n briodol ei fod wedi’i gynnwys o fewn y ffin ddatblygu. Nodaf leoliad sensitif y safle hwn yn edrych dros Afon Menai, ond byddai’n afrealistig anwybyddu nodweddion adeiledig y safle. .

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio’r cynllun a adneuwyd yn unol â Newid Arfaethedig PC567.

Newid Arfaethedig PC569 - Map 41 Porthaethwy Gwrthwrthwynebiadau 400/2175 - Mr S Williams 434/2259 - Mr F William White 394/2029 - Mr G Cains 396/2048 - Mr F Cains 402/2207 - Mr I Williams 432/2258 - Mr D L Jones 397/2200 - Mrs B Cains 518/2481 - Mrs Grant

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiadau

1.1 Dileu T69. Newid dyraniad dynodedig T69 o ‘breswyl’ i ‘fan agored’.

2.0 Ymateb y Cyngor

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 437

2.1 Mae’r safle yn elwa ar ganiatâd cynllunio sy’n bodoli eisoes ar gyfer 60 o dai ond ni ddisgwylir iddo ymgyflwyno oherwydd cyfyngiadau ffisegol o ran problemau mynediad a charthffosiaeth ac felly mae’r ffigur sero wedi’i gofnodi ar ei gyfer yn PC169 sy’n nodi’r cyfraniadau a ddisgwylir gan bob safle. O ran dynodi’r ardal fel man agored, nid yw hyn yn bosibl ar safle sy’n elwa ar ganiatâd cynllunio sy’n bodoli eisoes am y byddai hynny’n creu ansicrwydd ar gyfer defnyddwyr y cynllun.

3.0 Materion

3.1 Dileu Cynnig T69. Ei ddyrannu i’w ddefnyddio fel man agored.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae safle y gwrthwynebiad yn elwa ar ganiatâd cynllunio ar gyfer adeiladu 60 o anheddau. Mae cyfyngiadau hirdymor ynghlwm wrth ei ddatblygu y bydd angen eu datrys. Mae’r tir wedi’i neilltuo at ddibenion ei ddatblygu gan y caniatâd cynllunio dilys. Dim ond os diddymir y caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau preswyl y mae’r defnydd arall fel man agored a argymhellir yn y gwrthwynebiadau yn debygol o gael ei wireddu. Nid oes unrhyw arwydd bod hyn yn debygol o ddigwydd.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio’r cynllun a adneuwyd trwy gynnwys Cynnig T69 fel y cynigir o dan Newid Arfaethedig PC569 (ac a gyfeirir ato yn Newid Arfaethedig PC169).

Map 41 Porthaethwy - Polisi TO14 Man amwynder Gwrthwynebiad 279/418 - Mr G Jones Newid Arfaethedig - PC 570 Gwrthwrthwynebiadau 394/2030 - Mr G Cains 396/2049 - Mr F Cains 8/2074 - Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig 397/2154 - Mrs B Cains 400/2204 - Mr Selwyn Williams

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad a’r Gwrthwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiad 279/418 yn awgrymu y dylid datblygu tir sydd wedi’i ddynodi ar hyn o bryd ar gyfer man agored amwynder yn Wood Street, Neuadd Bingo’r Regal at ddibenion preswyl.

1.2 Mae Gwrthwrthwynebiadau i PC570 yn awgrymu y dylid adfer dynodiad amwynder y safle hwn a dileu PC570. Mae’r safle yn fan amwynder gwerthfawr gerllaw canol y dref a dylid ei gadw.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nid oes unrhyw dystiolaeth i ddangos bod y mannau amwynder cyhoeddus dynodedig yn union gerllaw’r adeilad erioed wedi’u defnyddio at ddibenion adloniant. Ni all y cyhoedd ei gyrraedd ac mae’n rhan o safle Regal Bingo. Diogelir y tir i’r dwyrain o’r safle hwn gan ei gyfamodau rhwystrol ac ni fyddai’n ymarferol ei ddynodi fel man agored am fod tir preifat rhyngddo a gweddill y man agored cyhoeddus. Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 438

3.0 Mater

3.1 Dyrannu tir yn Wood Street, Neuadd Bingo’r Regal, Porthaethwy i’w ddatblygu at ddibenion preswyl.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn cynnwys y Neuadd a thir agored y tu ôl iddi, oddi ar Wood Street, Porthaethwy. Mae’r tir agored yn rhan o fan agored amwynder mwy o faint a ddiogelir o dan Bolisi TO14. O dan Newid Arfaethedig PC570, mae’r Cyngor yn bwriadu dileu’r dynodiad tir agored y tu ôl i’r Neuadd ac ar barsel bach o dir cyffiniol i’r dwyrain.

4.2 Mae Gwrthwynebiad 279/418 yn awgrymu y dylid dyrannu’r tir y tu ôl i’r Neuadd ar gyfer datblygiadau preswyl. Mae’r gwrthwrthwynebiadau yn awgrymu y dylid cadw dynodiad Polisi TO14 a dileu PC570. Nododd y Cyngor fod rhan o dir y gwrthwynebiad yn ddarostyngedig i gyfamod sy’n diogelu ei gymeriad agored. Mae’r Cyngor yn dadlau y dylid dileu’r dynodiad fel man agored ar dir y gwrthwynebiad am fod y tir hwnnw’n eiddo preifat ac am ei fod yn rhan o safle (Neuadd) Bingo’r Regal. Nid yw Polisi TO14 yn nodi y dylai mannau amwynder o reidrwydd fod yn eiddo cyhoeddus. Ar ben hynny, nid yw ffactor perchenogaeth yn berthnasol iawn i’r materion defnydd tir sy’n cael eu hystyried am y gall perchenogaeth newid yn ystod cyfnod y cynllun.

4.3 Nid wyf o’r farn bod y Cyngor wedi cyflwyno rhesymau digon dilys i ddangos pam y dylid newid y dynodiad ar dir y gwrthwynebiad. Mae rhan o’r tir yn cynnwys ymyl goediog serth sy’n nodwedd barhaol y tu ôl i’r eiddo The Vicarage, Bryn Owen, a Bryn Llwyd. Mae’r nodwedd hon o werth amwynder lleol fel man agored goddefol o fewn yr ardal drefol ac fel nodwedd dirwedd. Nid yw cadw’r dynodiad o dan Bolisi TO14 yn atal y Cyngor rhag ystyried cais cynllunio ar gyfer datblygu ar dir y gwrthwynebiad a ph’un a ddylid rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer ei ddatblygu fel gwyriad o ddarpariaethau’r Cynllun Datblygu Unedol. Gellir ystyried unrhyw faterion sy’n codi yn fanylach bryd hynny, ond yn seiliedig ar y dystiolaeth ger fy mron, ni’m darbwyllwyd y dylid newid y cynllun a adneuwyd.

5.0 Argymhellion

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i Wrthwynebiad 279/418. Na ddylid cymeradwyo Newid Arfaethedig PC570 i’w gynnwys yn y cynllun.

Map 41 Porthaethwy Gwrthwynebiad 275/552 Mr a Mrs Leung

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r ffin ddatblygu ar gyfer Porthaethwy, i’r de-ddwyrain o Ysgol Uwchradd David Hughes, yn amhriodol a dylid ei diwygio i gynnwys tir yn cyffinio â’r eiddo a elwir yn Dy’n y Caeau.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Dylai cwr gorllewinol anheddiad Porthaethwy ffurfio’r nodwedd ffisegol adnabyddadwy dwyreiniol ar gyfer y lletem las. Mae’r penderfyniad i gynnwys y maes Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 439

criced a’r gronfa ddðr o fewn y lletem las yn ei diogelu rhag cael ei datblygu tra’n darparu ar gyfer cyfleoedd ar gyfer chwaraeon awyr agored ac adloniant awyr agored. Mae’r coed aeddfed yng nghyffiniau’r ardal hon yn nodwedd dirwedd bwysig a gallai’r diwygiad a awgrymir i’r ffin ddatblygu yn yr ardal hon arwain at golli rhan o’r nodwedd dirwedd draddodiadol hon.

2.2 Nid yw’r safle hwn yn addas i’w gynnwys o fewn y ffin ddatblygu. Mae’r prysgwydd a leolir ar hyd Lôn Tyn Y Caeau i bob pwrpas yn gwahanu’r safle oddi wrth yr eiddo sydd o fewn y ffin ddatblygu. Felly mae gan yr ardal gysylltiad agosach â chefn gwlad agored i’r gorllewin na ffurf adeiledig yr anheddiad i’r dwyrain.

3.0 Mater

3.1 Diwygio’r ffin ddatblygu i gynnwys tir yn cyffinio â’r eiddo Ty’n-y-Caeau o fewn ffin ddatblygu Porthaethwy.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn barsel mor fach o dir agored sydd â choed o fewn ei ffiniau sy’n cuddio’r tir gryn dipyn o dir cyffiniol. Ceir nifer o ddarnau o dir ar gwr trefol Porthaethwy sy’n llawn coed yn debyg i dir y gwrthwynebiad. Mae darnau o dir fel y rhain o gryn werth amwynder ac maent yn darparu clustogfa dirluniedig rhwng datblygiadau adeiledig a chefn gwlad agored ehangach.

4.2 Byddai cynnwys tir y gwrthwynebiad o fewn y ffin ddatblygu yn arwain at bwysau ar ddatblygiadau tai y byddai’n anodd eu gwrthsefyll. Mae’n debyg y byddai hynny’n newid cymeriad tir y gwrthwynebiad gryn dipyn am ei bod yn debyg y collid coed a byddai annedd newydd a’i chwrtil ar y tir. Nid oes unrhyw wrthwynebiad a gofnodwyd yn erbyn dynodi Lletem Las rhwng Porthaethwy a Llanfairpwll o dan Bolisi EN2 y mae rhan ohono yn ymdrin â thir y gwrthwynebiad. Pe câi’r ffin ddatblygu ei newid fel y ceisir yn y gwrthwynebiad, mae’n debyg y byddai’n arwain at bwysau i newid ffiniau datblygu mewn ardaloedd gerllaw yn y dyfodol y byddai’n anodd eu gwrthsefyll. Pe bai hynny’n digwydd câi’r Lletem Las ei herydu yn yr ardal hon, ac mae hynny’n annerbyniol.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 48 Trearddur – Cynnig T57 Gwrthwynebiad 8/404 – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dileu Cynnig T57.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Dosberthir Bae Trearddur fel canolfan eilaidd yn is-grðp Caergybi. Mae gan y safle ganiatâd cynllunio sy’n bodoli eisoes. Rhoddir y flaenoriaeth i ddatblygu’r safle hwn yn hytrach na safleoedd eraill o fewn y pentref. Nid oes unrhyw gyfyngiadau ffisegol ar ddatblygu’r safle. Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 440

3.0 Mater

3.1 Dileu Cynnig T57.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Lleolir y safle ar dir yn cyffinio â datblygiadau preswyl sy’n bodoli eisoes ac ni fydd yn arwain at ddatblygiad ymwthiol yng nghefn gwlad. Am fod ganddo ganiatâd cynllunio, mae wedi’i neilltuo at ddibenion ei ddatblygu. Bydd yn cyfrannu at ddarpariaeth anheddau’r cynllun.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 48 Trearddur – Ffin Ddatblygu a Lletem Las Gwrthwynebiadau 124/906, 1168, 1169 - Mr A.J. Williams 131/960, 961 – Ystad Llynon

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Dileu tir ym Mae Trearddur gyferbyn â ‘The Rise’ o’r Lletem Las (Polisi EN3). Diwygio’r ffin ddatblygu i gynnwys y tir o fewn ffin ddatblygu Trearddur a’i ddyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl. Dileu Cynnig T58.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Dosberthir Bae Trearddur fel canolfan eilaidd o fewn is-grðp Caergybi. Nid oes angen y tir hwn i fodloni gofyniad tai cyffredinol y Cynllun Datblygu Unedol ac felly byddai’n tanseilio strategaeth tai’r cynllun. Dynododd y Cyngor letem las rhwng safle cyflogaeth strategol Tŷ Mawr (S1) yng Nghaergybi ac anheddiad Bae Trearddur. Diben y Lletem Las hon yw darparu clustogfa a rhywfaint o ddiogelwch ychwanegol rhwng y safle cyflogaeth a’r anheddiad. Mae’r dyraniad yn gwahanu’r ddwy ffin ddatblygu ac yn atal yr ardaloedd trefol rhag mynd yn un. Mae’r Cyngor yn derbyn bod yr AOHNE hefyd yn gwahanu’r ddwy ffin ddatblygu hyn ond mae’r penderfyniad i ddyrannu’r Lletem Las yn darparu haen ychwanegol o ddiogelwch.

3.0 Materion

3.1 Fel y nodir yn y Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau uchod.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn cynnwys dau safle maes glas agored cyffiniol a chanddynt nodweddion tebyg. Lleolir y tir yr ystyrir ei fod yn un darn unedol y tu ôl i ffryntiad yn ffinio â’r B4545 sy’n cysylltu Trearddur â Chaergybi i’r gogledd a’r Fali i’r de- ddwyrain, ffryntiad sydd at ei gilydd yn adeiledig. Mae hanes cynllunio hir yn ymwneud â’r rhan fwyaf o safle’r gwrthwynebiad ac â’r tir cyffiniol y mae ganddo ffryntiad â’r ffordd. Statws cyfredol tir y gwrthwynebiad yw ei fod wedi’i leoli y tu allan i ffin ddatblygu Trearddur fel y’i diffinnir ar Fap Mewnosod 48 y cynllun a adneuwyd. Mae’r cynllun a Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 441 adneuwyd yn ymgorffori ffin yr anheddiad/y ffin ddatblygu a nodir yng Nghynllun Lleol Ynys Môn (a fabwysiadwyd ym mis Rhagfyr 1996).

4.2 Yn y cynllun a adneuwyd, dynodir tir y gwrthwynebiad fel rhan o’r Lletem Las sy’n gwahanu Trearddur a Chaergybi. Mae Lletemau Glas yn ddynodiadau a wneir ym mhroses y cynllun datblygu, a chyfrifoldeb y Cyngor Sir yw hynny. Mae Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol ar y llaw arall yn destun gweithdrefnau dynodi ar wahân, a Chyngor Cefn Gwlad Cymru sy’n gyfrifol amdanynt. Mae’r ddau ddynodiad hyn yn ateb dibenion gwahanol. Sefydlir Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol i ddiogelu a gwella harddwch y dirwedd.

4.3 Mae’r Lletem Las a leolir rhwng ffin ddatblygu Trearddur a’r tir cyflogaeth a ddyrannwyd o dan Bolisi S1 y tu mewn i ffin ddatblygu Caergybi yn fach iawn. Pe câi tir y gwrthwynebiad ei ddyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl, byddai hynny’n cwtogi gryn dipyn ar y tir agored sy’n gwahanu’r ardaloedd datblygedig gan niweidio cymeriad yr ardal ac amwynder lleol.

4.4 O ran unrhyw angen neu ofyniad i ryddhau rhagor o dir ar gyfer tai yn Nhrearddur, rwyf o’r farn mai tref Caergybi yw’r lleoliad mwyaf cynaliadwy ar gyfer darparu tai newydd yn gysylltiedig â thwf economaidd y dref, a darparu gwasanaethau a chyfleusterau. Prif rôl Trearddur yw fel canolfan twristiaeth a gwyliau, a hefyd ardal ddibynnol breswyl i Gaergybi. Rwy’n cytuno â’r dull gweithredu o gyfyngu’n dynn ar ragor o ddatblygiadau preswyl yng Nghaergybi o gofio cynllun llinellol ac afreolaidd y datblygiad sefydledig, a hefyd gwerthoedd amwynder a thirwedd uchel yr ardal. Mae’r gwerthoedd hyn yn bwysig i’r diwydiant twristiaeth a hefyd ynddynt eu hunain.

4.5 Ystyriais y ddarpariaeth tir ar gyfer tai yng Nghaergybi, ac rwyf o’r farn bod dyraniadau a allai ddarparu tua 270 o anheddau yn ystod cyfnod y cynllun yn ddigonol. Nid oes unrhyw gyfiawnhad dros ragor o ddyraniadau tir preswyl yn Nhrearddur y tu hwnt i’r rhai a nodir ar y cynllun a adneuwyd ac nid oes eu hangen ychwaith.

4.6 O ran Cynnig T58, mae gan y safle hwn ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau preswyl, ac felly mae’n safle wedi’i neilltuo.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd o ran Polisi EN3 (Lletem Las) na HP3 – Map 48 (Trearddur), na Chynnig T58. Gwneir yr argymhelliad hwn mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Map 48 Trearddur Gwrthwynebiad 277/514 - J C H Horton

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Diwygio ffin ddatblygu Trearddur i gynnwys darn o dir.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r safle yn cynnwys cefn gwlad agored y tu allan i ffin anheddiad Trearddur. Pe câi ei ddyrannu, byddai’n arwain at ddatblygiad tir cefn, sydd ar dir na fu adeiladu arno a Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 442 leolir y tu ôl i ddatblygiadau sy’n bodoli eisoes a all greu problemau amwynder ar gyfer eiddo arall. Dyrannwyd digon o dir ar gyfer tai yn ardal Caergybi a Threarddur.

3.0 Mater

3.1 Diwygio ffin ddatblygu Trearddur a dyrannu’r tir ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn cynnwys darn o dir maes glas agored y tu ôl i ddatblygiadau preswyl dwysedd isel y mae ganddynt ffryntiad â phriffordd leol. Mae datblygiadau sy’n bodoli eisoes yn Nhrearddur at ei gilydd yn rhai llinellol ac yn rhan ddeheuol yr anheddiad mae ganddynt gyfluniad sy’n dilyn cyfluniad y morlin. Oherwydd hyn mae cryn dipyn o’r morlin wedi colli ei gymeriad agored.

4.2 Wrth ystyried anheddiad Trearddur, yn gyffredinol, rwy’n cytuno â’r ymagwedd a fabwysiadwyd gan y Cyngor wrth ddiffinio’r ffin ddatblygu a cheisio cyfyngu gwaith datblygu newydd i gyfleoedd a all godi ar gyfer rhywfaint o waith mewnlenwi o fewn yr ardaloedd datblygedig sy’n bodoli eisoes. Ni fyddai’n dderbyniol trefoli Trearddur ymhellach trwy ei ymestyn allan i safleoedd meysydd glas, a byddai’n niweidio cymeriad arfordirol yr ardal a’i hatyniad i dwristiaid ac ymwelwyr. Dylai’r prif leoliad ar gyfer darparu tir ar gyfer datblygiadau preswyl yn ardal Caergybi a Threarddur fod yn nhref Caergybi.

4.3 Dof i’r casgliad y byddai’r gwrthwynebiad hwn sy’n argymell y dylid cynnwys tir o fewn y ffin ddatblygu yn gwrthdaro â’r dull gweithredu o ganiatáu gwaith mewnlenwi ar raddfa gyfyngedig a gymhwysir yn gywir yn Nhrearddur. Nid oes unrhyw reswm dros ryddhau tir y gwrthwynebiad ar gyfer datblygiadau tai am fod angen tir ar gyfer tai, angen na ellir ei ddiwallu yng Nghaergybi.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 48 Trearddur Gwrthwynebiad 278/902 - Mr G. Richards

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Diwygio’r ffin ddatblygu i gynnwys llain o dir o fewn y ffin.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Lleolir yr anheddiad o fewn is-grðp tai Caergybi sydd â chyflenwad digonol o anheddau i fodloni’r gofynion tai. Byddai’r safle yn arwain at ddatblygiad tir cefn nad yw’r awdurdod cynllunio lleol am ei hybu. Gall achosi anawsterau o ran mynediad i’r tþ yn y cefn ac aflonyddwch a diffyg preifatrwydd yn achos y tþ yn y blaen.

3.0 Mater

3.1 Diwygio ffin ddatblygu Trearddur i gynnwys tir yn agos at Lôn Sant Ffraid a’i ddyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl. Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 443

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn cynnwys parsel bach o dir maes glas y tu ôl i ddatblygiadau ffryntiad sy’n bodoli eisoes yn ffinio â Lôn Sant Ffraid. Mae llawer o’r gwaith datblygu yn rhan ddeheuol Trearddur yn cynnwys datblygiadau llinellol ar hyd ffryntiadau ffyrdd. Mae’r ffin ddatblygu yn darparu ar gyfer rhywfaint o waith mewnlenwi, fel y bo’n briodol, ar leiniau ffryntiad agored ond mae’n cyfyngu ar waith datblygu ar raddfa fawr. Rwyf o’r farn mai’r polisi hwn o gyfyngu ar waith datblygu yw’r un mwyaf boddhaol ar gyfer Trearddur, o gofio’n benodol yr estyniad helaeth o waith datblygu a’r effaith andwyol y mae’r gwaith datblygu hwn yn ei chael ar y cymeriad agored a’r morlin a chefn gwlad.

4.2 Byddai tir y gwrthwynebiad, pe câi ei ddatblygu, yn arwain at ddatblygiad ar ffurf tandem a allai arwain at aflonyddu ar yr annedd ffryntiad a thresmasu ar ei phreifatrwydd. Rwy’n sylweddoli y byddai aildynnu’r ffin ddatblygu yn arwain at ddim ond rhywfaint o estyniad allanol yn yr ardal hon, ond rwy’n rhannu pryderon y Cyngor ei bod yn debyg y byddai ffurf y datblygiad yn annerbyniol am resymau a nodwyd ac y gallai osod cynsail ar gyfer caniatáu datblygiadau ‘tandem’ tebyg mewn mannau eraill.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 48 Trearddur Gwrthwynebiad 276/904 - Longford Hotels d/o Alan Williams

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Ymestyn y ffin ddatblygu i gynnwys yr holl dir o fewn y ffin ddatblygu, ar hyn o bryd mae’r prif faes parcio y tu allan i’r ffin.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Lleolir y safle hwn gyferbyn â Thraeth Trearddur ac mae’n cyffinio â chyfleusterau hamdden i’r gogledd-ddwyrain o’r safle. Mae’r tir yn ffurfio man agored o fewn yr anheddiad o’r ardal breswyl ar y cyfan ar hyd Lôn Sant Ffraid a’r ardal gwyliau ar hyd Lôn Isallt. Pe câi’r darn hwn o dir ei gynnwys o fewn y ffin ddatblygu byddai’n agor y safle i ddatblygiadau yn y dyfodol.

3.0 Mater

3.1 A ddylid cynnwys y safle o fewn y ffin ddatblygu?

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn rhan o ddarn agored o dir yn gwahanu’r ardal breswyl yn bennaf ar hyd Lôn Sant Ffraid a’r datblygiad ar hyd Lôn Isallt. Pe câi’r tir ei gynnwys o fewn y ffin ddatblygu byddai’n anodd gwrthsefyll datblygiadau adeiledig arno. Byddai hynny’n lleihau maint y darn agored o dir y cyfeiriwyd ato, byddai’n niweidio amwynder yr ardal, a byddai’n niweidio cymeriad agored yr arfordir yn yr ardal hon– Mae Polisi PO8a (gweler Newid Arfaethedig PC24) yn cyfeirio at hyn. Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 444

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisi HP3 a Map 48 (Trearddur) mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 48 Trearddur Gwrthwynebiad 280/900 - Mrs H. Richards

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid cynnwys cae 8173 yr A.O. o fewn y ffin ddatblygu a’i ddyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nodwyd dau safle yn Nhrearddur ar gyfer 23 o unedau preswyl. Ystyrid mai’r safleoedd hyn oedd y mân estyniadau mwyaf addas i’r anheddiad am eu bod yn elwa ar ganiatâd cynllunio a fodolai eisoes. Lleolir yr anheddiad o fewn is-grðp tai Caergybi sydd â chyflenwad digonol o anheddau i fodloni’r gofynion tai ar gyfer yr is-ardal.

3.0 Mater

3.1 Diwygio ffin ddatblygu Trearddur i gynnwys tir yn cyffinio â Lôn Sant Ffraid a’i ddyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn cynnwys darn o dir maes glas agored ag arwynebedd o 1.1 hectar yn cyffinio â Lôn Sant Ffraid, Trearddur. Mae datblygiadau sy’n bodoli eisoes yn Nhrearddur at ei gilydd yn rhai llinellol ac mae ganddynt gyfluniad sy’n dilyn cyfluniad y morlin yn rhan ddeheuol yr anheddiad. Oherwydd hyn mae cryn dipyn o’r morlin wedi colli ei gymeriad agored.

4.2 Wrth ystyried anheddiad Trearddur, yn gyffredinol, rwy’n cytuno â’r ymagwedd a fabwysiadwyd gan y Cyngor wrth ddiffinio’r ffin ddatblygu a cheisio cyfyngu gwaith datblygu newydd i gyfleoedd a all godi ar gyfer rhywfaint o waith mewnlenwi o fewn yr ardaloedd datblygedig sy’n bodoli eisoes. Ni fyddai’n dderbyniol trefoli Trearddur ymhellach trwy ei ymestyn allan i safleoedd meysydd glas, a byddai’n niweidio cymeriad arfordirol yr ardal a’i atyniad i dwristiaid ac ymwelwyr.

4.3 Dof i’r casgliad y byddai’r gwrthwynebiad hwn sy’n argymell y dylid cynnwys tir o fewn y ffin ddatblygu yn gwrthdaro â’r dull gweithredu o ganiatáu gwaith mewnlenwi ar raddfa gyfyngedig a gymhwysir yn gywir yn Nhrearddur. Nid oes unrhyw reswm dros ryddhau tir y gwrthwynebiad ar gyfer datblygiadau tai am fod angen tir ar gyfer tai, angen na ellir ei ddiwallu yng Nghaergybi.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 445

Map 48 Trearddur Gwrthwynebiad 284/467 - Mr P Kenyon

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Cynnwys cae 0468 yr A.O. o fewn y ffin ddatblygu a dyrannu’r tir at ddibenion preswyl.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nid yw’r safle hwn yn un addas i’w ddatblygu o bersbectif gweledol am ei fod yn rhan o ddyffryn agored o fewn Trearddur sy’n rhannu’r brif ardal breswyl ar hyd Lôn Sant Ffraid o’r ardal gwyliau yn bennaf ar y morlin ar hyd Lon Isallt. Lleolir yr anheddiad o fewn is-grðp tai Caergybi sydd â chyflenwad digonol o anheddau i fodloni’r gofynion tai.

3.0 Mater

3.1 Diwygio ffin ddatblygu Trearddur i gynnwys cae 0468 yr A.O. a’i ddyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn cynnwys darn o dir maes glas agored ag arwynebedd o 1.5 hectar, sy’n cyffinio â datblygiadau gwyliau ar hyd Lôn Isallt. Mae datblygiadau sy’n bodoli eisoes yn Nhrearddur at ei gilydd yn rhai llinellol ac maent yn dilyn cyfluniad y morlin. Oherwydd hyn mae cryn dipyn o’r morlin wedi colli ei gymeriad agored.

4.2 Wrth ystyried anheddiad Trearddur, yn gyffredinol, rwy’n cytuno â’r ymagwedd a fabwysiadwyd gan y Cyngor wrth ddiffinio’r ffin ddatblygu a cheisio cyfyngu gwaith datblygu newydd i gyfleoedd a all godi ar gyfer rhywfaint o waith mewnlenwi o fewn yr ardaloedd datblygedig sy’n bodoli eisoes. Ni fyddai’n dderbyniol trefoli Trearddur ymhellach trwy ei ymestyn allan i safleoedd meysydd glas, a byddai’n niweidio cymeriad arfordirol yr ardal a’i hatyniad i dwristiaid ac ymwelwyr.

4.3 Byddai datblygu tir y gwrthwynebiad yn dresmasiad annerbyniol ar gefn gwlad agored. Cyfeirir mewn gohebiaeth ynghylch y gwrthwynebiad at ganiatâd cynllunio ar gyfer cartref nyrsio ar ran o’r safle, ond mae’r caniatâd hwn wedi mynd yn ddi-rym bellach. Am fod y gwrthwynebiad yn ymwneud â darn o dir sy’n fwy o faint ac sy’n wahanol felly i’r darn o dir a nodwyd yn y cynnig ar gyfer y cartref nyrsio, nid wyf o’r farn bod ffactor y cartref nyrsio yn berthnasol i’m hystyriaeth. Nid yw tai fforddiadwy yn ddefnydd tir ar wahân ond mae’n ddarpariaeth y gellir ei gwneud trwy broses y cais cynllunio a thrwy gymhwyso Polisi HP7. Ar ben hynny, dof i’r casgliad nad oes unrhyw resymau ar sail tir ar gyfer tai na ellir eu bodloni yng Nghaergybi.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 50 Y Fali Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 446

Gwrthwynebiad 107/1090 H M Wilson

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid aralleirio’r wybodaeth atodol i Fap 50 – Y Fali. Cyfeirir at adolygiad o ffin yr AOHNE.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r geiriad sy’n ategu’r Map Cynigion yn fanwl gywir ac nid oes angen ei newid. Nid yw’r Cyngor yn rheoli’r adolygiad o ffin yr AOHNE ac ni all ragfarnu’r materion sydd i’w hystyried gan adolygiad o’r fath ychwaith os ymgymerir ag ef gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

3.0 Materion

3.1 Dylid cywiro’r geiriad ar dudalen 49 (Map Cynigion a Mewnosodiad) yn ail baragraff ‘Materion y Cynllun Datblygu Unedol (2001-2016)’ i nodi bod ‘y Fali wedi’i orddatblygu’n ddifrifol ac nad oedd am gael rhagor o ddatblygiadau yn y dyfodol’ ac ni ddylai nodi nad oeddynt am ‘weld eu cymuned yn cael ei gorddatblygu’

3.2 Ni ddylai adolygiad o ffin yr AOHNE yn y dyfodol arwain at ryddhau tir ar gyfer unrhyw ddatblygiadau.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Nid oes gennyf unrhyw dystiolaeth glir bod barn cymuned y Fali wedi’i nodi’n anghywir yn y testun sy’n ategu Map 50 y Map Cynigion. O ran yr ail fater, mater i Gyngor Cefn Gwlad Cymru fydd unrhyw adolygiad o’r AOHNE, ac yn ddiau bydd yn rhoi sylw penodol i brif ddiben dynodi AOHNE, sef diogelu a gwella’r dirwedd.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 50 Y Fali Gwrthwynebiadau 239/18 - Mr Jones

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Cynnwys cae 4361 yr A.O., yn Nyffryn Gorad, o fewn y ffin ddatblygu a’i ddyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r rhwydwaith carthffosiaeth sy’n gwasanaethu’r Fali wedi’i orlwytho ar hyd o bryd. Er y bydd y cynigion yng Nghaergybi yn gwella llawer o’r ardaloedd lle y ceir problemau bydd ardaloedd sylweddol o hyd lle y mae’r system garthffosiaeth wedi’i gorlwytho. Lleolir safle’r gwrthwynebiad o fewn AOHNE Ynys Môn lle y rhoddir y flaenoriaeth i ddiogelu a gwella’r dirwedd. Mae gan y safle arwynebedd o 3.5 hectar ac ar lefel ddwysedd o 30 o anheddau fesul hectar gellid disgwyl iddo ddarparu 105 o unedau. Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 447

Mae hyn gryn dipyn yn uwch na’r hyn sydd ei angen ar yr anheddiad. Mae’r ffaith nad oes unrhyw ddyraniadau tai newydd yn y Fali yn golygu bod y pentref yn anghyson â Strategaeth Aneddiadau’r cynllun. Mae hyn oherwydd materion seilwaith, ardal â pherygl llifogydd dangosol, y ffaith nad oes unrhyw safleoedd addas a chyfyngiadau tirwedd ar yr anheddiad.

3.0 Mater

3.1 Diwygio’r ffin ddatblygu i gynnwys cae 4361 yr A.O., sef tir yn Nyffryn Gorad, y Fali, a’i ddyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mar tir y gwrthwynebiad yn safle maes glas agored ag arwynebedd o 3.5 hectar. Mae’n cyffinio â datblygiad ar ffurf ystad breswyl i’r gogledd-ddwyrain. Mae’r ystad breswyl hon, a elwir yn Newlands Park yn ffurf anghysbell ar ddatblygiad, nad yw’n cydgyffwrdd â’r gwaith datblygu a ddigwyddodd gerllaw’r craidd o wasanaethau a chyfleusterau yn y Fali a’r orsaf reilffordd. Lleolir Newlands Park o fewn yr AOHNE (lle y rhoddir y flaenoriaeth i ddiogelu a gwella’r dirwedd), ac mae’n ddatblygiad sy’n cyffinio â’r arfordir. Mae’n amheus iawn gennyf a fyddai caniatâd cynllunio wedi cael ei roi i ddatblygiad o’r fath o dan bolisi cynllunio cyfredol ac arweiniad cynllunio cenedlaethol.

4.2 Byddai tir y gwrthwynebiad pe câi ei ddatblygu fel y cynigir yn y gwrthwynebiad yn estyniad o’r datblygiad hwn o fath ystad i gefn gwlad agored ymhellach fyth o ganol y Fali, a byddai hefyd yn ymestyn yr ardal adeiledig ar hyd yr arfordir heb ei ddatblygu yn groes i Bolisi EN8 (ac wedi’i ddiwygio i Bolisi Rhan Un 8a o dan PC 24) – yn ymwneud â datblygiadau ar yr arfordir heb ei ddatblygu.

4.3 Ystyriais wrthwynebiadau eraill sy’n ceisio dyraniad ar gyfer datblygiadau preswyl yn y Fali. Mae pob un o’r safleoedd hyn yn agosach at galon y pentref a’r orsaf reilffordd na safle’r gwrthwynebiad dan sylw. Argymhellais na ddylid cynnwys yr un o’r safleoedd hyn fel dyraniadau tir ar gyfer tai.

4.4 Nodais y problemau a’r materion yn gysylltiedig â’r system garthffosiaeth yn y Fali. Nodais hefyd y llythyrau dyddiedig 17/09/02 a 30/05/03 gan Dŵr Cymru yn nodi y dylai fod yn bosibl i’r Fali dderbyn rhagor o ddatblygiadau ar ôl i’r gwaith gwella gael ei gwblhau. Ni all Dŵr Cymru fod yn benodol ar hyn o bryd ynghylch lleoliad na graddfa’r gwaith datblygu y gellir ei gynnwys yn y system well. Er gwaethaf y cyfyngiadau carthffosiaeth, dof i’r casgliad bod safle Gwrthwynebiad 239/18 yn lleoliad cwbl anaddas ar gyfer datblygiadau preswyl yn y Fali.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 50 Y Fali Gwrthwynebiad 20/1266 - Looms Brothers

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 448

1.1 Mae angen ymateb yn gadarnhaol i ffordd newydd yr A55, y potensial a roddir i bolisi RAF Valley, yn ogystal â’r polisi sy’n hyrwyddo cilffyrdd y Fali fel cyfnewidfa drafnidiaeth. Adfer Cynnig T23 o’r Cynllun Drafft Ymgynghori.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Lleolir y safle i’r gogledd o ffordd newydd yr A55 sy’n mynd heibio i anheddiad y Fali i’r de. I’r gogledd o’r safle ceir eiddo preswyl ar hyd Station Road tra bod ffordd newydd yr A55 yn rhedeg ar hyd y ffin ddeheuol a gorllewinol. I’r dwyrain o’r safle ceir maes pêl-droed a chyfleusterau newid. Mae gan y safle arwynebedd o 6.3 hectar, ac fe’i lleolir o fewn yr Ardal ddynodedig o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae’r rhwydwaith carthffosiaeth sy’n gwasanaethu’r Fali wedi’i orlwytho ar hyd o bryd. Dylai fod yn bosibl i’r Fali gynnwys rhagor o waith datblygu ar ôl i gynllun carthffosiaeth ardal Caergybi/Trearddur gael ei gwblhau ond mae’n rhy gynnar i ddweud lle y gallai’r gwaith datblygu hwn fod a faint o lif y gellid ei dderbyn.

2.2 Gellid disgwyl i’r safle 6.3 hectar ddarparu rhwng 93 a 159 o unedau anheddau. Mae’r ffigur hwn gryn dipyn yn uwch na’r hyn sydd ei angen ar yr anheddiad. Lleolir rhan o’r safle o fewn yr ardal y nodwyd ei bod yn ardal â pherygl llifogydd dangosol.

3.0 Mater

3.1 Dyrannu darn o dir ag arwynebedd o 6.3 hectar ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn cynnwys safle maes glas yn cyffinio â ffin aneddiad y Fali ar hyd Station Road. Lleolir rhan o’r tir o fewn y parth â pherygl llifogydd dangosol a nodir ar y Map Cynigion, lle y dylid rheoli datblygiadau adeiledig yn dynn a’u cyfyngu i seilwaith hanfodol ar gyfer trafnidiaeth a chyfleustodau. Lleolir y tir hefyd o fewn yr AOHNE lle y rhoddir y flaenoriaeth i ddiogelu a gwella’r dirwedd.

4.2 Nodais y problemau a’r materion yn gysylltiedig â’r system garthffosiaeth yn y Fali. Nodais hefyd y llythyrau dyddiedig 17/09/02 a 30/05/03 gan Dŵr Cymru yn nodi y dylai fod yn bosibl i’r Fali dderbyn rhagor o ddatblygiadau ar ôl i’r gwaith gwella gael ei gwblhau. Ni all Dŵr Cymru fod yn benodol ar hyn o bryd ynghylch lleoliad na graddfa’r gwaith datblygu y gellir ei gynnwys yn y system well.

4.3 Mae’r Fali yn anheddiad preswyl yn bennaf ac mae’r ffynonellau cyflogaeth yn y pentref yn gyfyngedig i wasanaethau lleol. Gallai datblygu safle’r gwrthwynebiad yn ei gyfanrwydd os bydd modd gwneud hynny ddarparu tua 200 o anheddau. Os na cheir twf tebyg mewn cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth yn lleol, byddai angen i drigolion anheddau newydd deithio allan o’r pentref i weithio. Mae’r Fali yn elwa ar orsaf reilffordd ar brif linell Morlin Gogledd Cymru, ond efallai na fydd yn darparu mynediad cyfleus i bob gweithle a gellir disgwyl y bydd mwy o ddibynnu ar y car ar gyfer teithiau i’r gwaith. Nid oes unrhyw safleoedd dyranedig ar gyfer tai yn y Fali, ond caiff yr anheddiad lle y mae tir y gwrthwynebiad ei gyfyngu gan ffactorau yn ymwneud â’r dirwedd a’r risg y bydd llifogydd, ac ar hyn o bryd gan broblemau carthffosiaeth. Ar ben hynny, byddai safle’r gwrthwynebiad yn darparu gormod o anheddau mewn perthynas â maint yr anheddiad ac argaeledd cyflogaeth leol.

5.0 Argymhelliad Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 449

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 50 Y Fali Gwrthwynebiadau 20/1267 - Looms Brothers 241/269 - R.G. Williams

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae angen ymateb yn gadarnhaol i ffordd newydd yr A55, y potensial a roddir i bolisi RAF Valley, yn ogystal â’r polisi sy’n hyrwyddo cilffyrdd y Fali fel cyfnewidfa drafnidiaeth. Adfer Cynnig T24 o’r Cynllun Drafft Ymgynghori.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Lleolir y safle gerllaw ochr ddwyreiniol Gorad Road sy’n ffordd Dosbarth III sy’n rhedeg o’r Fali i Lanynghenedl. Ar yr ochr arall i Gorad Road mae datblygiadau preswyl ffryntiad a cheir datblygiadau preswyl ar ffin ddeheuol y safle. I’r gogledd ac i’r dwyrain mae caeau agored am fod y safle yn ffinio â chefn gwlad agored. Mae’r safle yn cynnwys dau gae â chyfanswm arwynebedd o 10.15 hectar, ac fe’i lleolir gerllaw Ardal ddynodedig o Harddwch Naturiol Eithriadol.

2.2 Mae’r rhwydwaith carthffosiaeth sy’n gwasanaethu’r Fali wedi’i orlwytho ar hyd o bryd. Dylai fod yn bosibl i’r Fali gynnwys rhagor o waith datblygu ar ôl i gynllun carthffosiaeth ardal Caergybi/Trearddur gael ei gwblhau ond mae’n rhy gynnar i ddweud lle y gallai’r gwaith datblygu hwn fod a faint o lif y gellid ei dderbyn. Gellid disgwyl i’r safle ddarparu rhwng 215 a 275 o unedau (lefel ddwysedd o rhwng 23.5 a 30 o unedau). Mae’r ffigur hwn gryn dipyn yn uwch na’r hyn sydd ei angen ar yr anheddiad.

3.0 Mater

3.1 Dyrannu darn o dir ag arwynebedd o 10.15 hectar ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn cynnwys safle maes glas yn cyffinio â Gorad Road, ffordd Dosbarth III o bentref y Fali i Lanynghenedl. Mae datblygiadau ar ffurf ystadau preswyl eisoes i’w cael i’r de ac i’r gorllewin o dir y gwrthwynebiad, a byddai hyn yn golygu bod y datblygiadau yn ffurfio clostir i ryw raddau. Ni leolir y tir o fewn yr AOHNE.

4.2 Nodais y problemau a’r materion yn gysylltiedig â’r system garthffosiaeth yn y Fali. Nodais hefyd y llythyrau dyddiedig 17/09/02 a 30/05/03 gan Dŵr Cymru yn nodi y dylai fod yn bosibl i’r Fali dderbyn rhagor o ddatblygiadau ar ôl i’r gwaith gwella gael ei gwblhau. Ni all Dŵr Cymru fod yn benodol ar hyn o bryd ynghylch lleoliad na graddfa’r gwaith datblygu y gellir ei gynnwys yn y system well.

4.3 Mae safle’r gwrthwynebiad yn ei gyfanrwydd yn cynnwys 10.15 hectar a gallai ddarparu dros 300 o anheddau. Mae gwaith datblygu ar y raddfa hon yn ormodol mewn perthynas â maint y Fali ac mae’n debygol o arwain at lefelau uchel o deithiau i’r gwaith, er bod gorsaf reilffordd y Fali yn gymharol agos. Nid oes unrhyw safleoedd dyranedig ar gyfer Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 450

tai yn y Fali, ac mae’n rhaid bod ansicrwydd ynghylch a fydd safleoedd tir llwyd a safleoedd ‘ar hap’ o fewn y ffin ddatblygu yn dod ar gael.

4.4 Yng ngoleuni’r ffaith bod y safle hwn yn rhy fawr a hefyd y problemau yn gysylltiedig â charthffosiaeth, argymhellaf y dylid gwrthod y gwrthwynebiad hwn.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Paragraff 16.45 Gwrthwynebiad 28/1230 CDN Planning Ltd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Nid yw paragraff 16.45 yn cydnabod, yn achos caniatâd sy’n bodoli, fod cynnwys a manylion y caniatâd cynllunio hwnnw yn ystyriaeth berthnasol gydnabyddedig.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r Cyngor yn cynnig y dylid diwygio paragraff 16.45 i ddarllen :-

“16.45 Wrth ddyrannu tir at ddibenion ei ddatblygu yn y dyfodol mae’n rhaid i’r Cyngor ystyried tir a gafodd ganiatâd cynllunio eisoes ac sy’n darparu, mewn rhai achosion, fwy na digon o dir ar gyfer yr anheddiad dan sylw. Os derbynnir ceisiadau newydd ar gyfer safleoedd sy’n bodoli, bydd y Cyngor yn ystyried polisïau’r Cynllun Datblygu Unedol o ran gofynion tai fforddiadwy, cyflwyno fesul cam, dylunio ac ati, ynghyd ag unrhyw ystyriaethau perthnasol priodol, gan gynnwys cynnwys y caniatâd cynllunio sy’n bodoli wrth asesu’r cais. Bydd y pwys a roddir ar bob ystyriaeth berthnasol yn dibynnu ar amgylchiadau pob achos.”

3.0 Mater

3.1 Diwygio paragraff 16.45 i gyfeirio at ganiatâd cynllunio sy’n bodoli fel ystyriaeth berthnasol.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Cytunodd y Cyngor a’r gwrthwynebydd ar aralleiriad o baragraff 16.45 yn lle’r geiriad yn y cynllun. Nodir y geiriad hwn yn Newid Arfaethedig PC152 ac ychwanegwyd brawddeg ato yn ddiweddarach gan y Cyngor. Rwy’n cytuno â’r aralleiriad hwn.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid dileu geiriad paragraff 16.45 y cynllun a adneuwyd, a gosod y geiriad canlynol yn ei le:

“16.45 Wrth ddyrannu tir at ddibenion ei ddatblygu yn y dyfodol mae’n rhaid i’r Cyngor ystyried tir a gafodd ganiatâd cynllunio eisoes ac sy’n darparu, mewn rhai achosion, fwy na digon o dir ar gyfer yr anheddiad dan sylw. Os derbynnir ceisiadau newydd ar gyfer safleoedd sy’n bodoli, bydd y Cyngor yn ystyried Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 451 polisïau’r Cynllun Datblygu Unedol o ran gofynion tai fforddiadwy, cyflwyno fesul cam, dylunio ac ati, ynghyd ag unrhyw ystyriaethau perthnasol priodol, gan gynnwys cynnwys y caniatâd cynllunio sy’n bodoli wrth asesu’r cais. Bydd y pwys a roddir ar bob ystyriaeth berthnasol yn dibynnu ar amgylchiadau pob achos.”

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 451

Polisi HP4 Pentrefi Gwrthwynebiad 135/1096 - Cyngor Cymuned Llanddyfnan

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid ychwanegu’r cymal “Caniateir anheddau unigol ar safleoedd ‘mewnlenwi’, neu safleoedd derbyniol eraill” at Bolisi HP4 fel y cyfeirir ato ym Mholisi HP5.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’n ddigon posibl bod gwaith datblygu ar gyfer mwy nag un annedd yn dderbyniol mewn pentrefi a enwir ym Mholisi HP4, ond mae’n rhaid i’r gwaith datblygu hwn ddigwydd o fewn ffin ddatblygu’r anheddiad. O fewn aneddiadau a enwir ym Mholisi HP5, caniateir anheddau unigol ar safleoedd ‘mewnlenwi’, neu safleoedd derbyniol eraill yn union gerllaw rhan ddatblygedig y pentrefan neu’r clwstwr gwledig. Nid yw’n briodol defnyddio’r meini prawf yn HP5 mewn perthynas â Pholisi HP4 am fod yr aneddiadau hyn yn cyflawni rôl wahanol yn strategaeth aneddiadau’r cynllun.

3.0 Mater

3.1 Diwygio Polisi HP4 yn unol â Pholisi HP5.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Rwy’n cytuno â’r Cyngor y dylai fod gan bentrefi a enwir ym Mholisi HP4 ffiniau datblygu pendant. Mae’r ffiniau datblygu hyn yn galluogi datblygiadau gwasgaredig y gellir eu cynnig ar gyrion y pentrefi hyn i gael eu rheoli’n gadarn, ond maent yn darparu ar gyfer rhywfaint o gynnydd mewn unedau preswyl o fewn y pentref fel y bo’n briodol. Mae Polisi HP5 yn galluogi datblygiadau ar ffurf anheddau unigol mewn pentrefannau a chlystyrau gwledig neu’n agos atynt, yn ddarostyngedig i fesurau diogelu llym, ond nad oes unrhyw ffiniau datblygu pendant ar eu cyfer. Byddai’n anos rheoli datblygiadau ar gyrion pentrefi a enwir ym Mholisi HP4 yn foddhaol pe câi geiriad Polisi HP5 ei gymhwyso atynt.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisi HP4 mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi HP4 Pentrefi Gwrthwynebiad 153/1342 - Thomas Richard Evans

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Nid yw tir o fewn y ffin ddatblygu yn addas ar gyfer prynwyr ifanc am ei fod ar werth ar gyfer adeiladu ystadau tai ac nid fel unedau. Nid yw hyn yn rhoi unrhyw gyfleoedd i barau ifanc sydd am adeiladu eu tai eu hunain.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Disgwylir i aneddiadau a nodir o dan Bolisi HP4 (fel y’i diwygiwyd trwy PC153) ddarparu tai yn unol â phara 2.5.7 Polisi Cynllunio Cymru, am fod dyraniad wedi’i nodi yn y

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 452 mwyafrif o’r aneddiadau. Mae’r dyraniad yn adlewyrchu gwaith ymestyn ar raddfa fach, a byddai safleoedd ar hap o fewn y ffin yn adlewyrchu’r gwaith mewnlenwi. Oherwydd graddfa’r gwaith datblygu a ddisgwylir yn y pentrefi hyn mae’n ddigon posibl y bydd cais am fwy nag un annedd yn dderbyniol, fodd bynnag yn unol â’r polisi mae’n rhaid i’r gwaith datblygu hwn ddigwydd o fewn ffin ddatblygu’r anheddiad.

2.2 Mae natur yr aneddiadau a nodir o dan Bolisi HP5 (fel y’i diwygiwyd trwy PC156) yn adlewyrchu para 9.2.18 Polisi Cynllunio Cymru. O fewn yr aneddiadau hyn caniateir anheddau unigol ar safleoedd ‘mewnlenwi’, neu safleoedd derbyniol eraill a leolir yn union gerllaw rhan ddatblygedig y pentrefan a’r clwstwr gwledig.

2.3 Mae gan aneddiadau o dan Bolisi HP4 ffin ddatblygu felly ac mae gan y mwyafrif ddyraniad tai. Yn unol â’r polisi (fel y’i diwygiwyd trwy PC153) caniateir safleoedd addas eraill o fewn y ffin ddatblygu ar yr amod na fydd nifer yr anheddau ychwanegol yn uwch na gofynion y pentref. Mae’r Cyngor yn fodlon felly y bydd yr hyblygrwydd hwn o fewn y polisi yn darparu ar gyfer rhai safleoedd ar hap (h.y. nas nodwyd) o fewn y pentrefi.

3.0 Mater

3.1 Dileu ffiniau datblygu o bentrefi a restrir o dan Bolisi HP4.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae’r gwrthwynebiad yn codi pryderon na all pobl ifanc sydd am adeiladu eu hannedd eu hunain gael gafael ar leiniau unigol o fewn ffiniau pentrefi diffiniedig. Byddai dileu ffiniau datblygu yn rhoi hyblygrwydd ond byddai’n groes hefyd i Bolisi’r Llywodraeth sy’n ceisio sicrhau bod fframwaith polisi pendant clir y gellir ystyried cynigion datblygu y tu mewn iddo. Pe câi ffiniau datblygu eu dileu ni fyddai unrhyw bolisi ar ddatblygu pentrefi a gallai hynny danseilio strategaethau aneddiadau a datblygiad cydlynol pentrefi, a gallai danseilio polisïau ar gyfer diogelu cefn gwlad a’i dirwedd.

4.2 Ystyriais ffiniau’r pentrefi a restrir ym Mholisi HP4 yng ngoleuni gwrthwynebiadau a wnaed iddynt. Nid yw’r gwrthwynebiad yn nodi unrhyw bentref penodol sy’n destun pryder. Rwy’n llwyr gefnogi’r Cyngor ynghylch yr egwyddor o ddiffinio ffiniau datblygu ar gyfer pentrefi. Mae mater fforddiadwyedd tai yn arbennig ar gyfer pobl ifanc yn destun pryder, ac mae’r cynllun yn ceisio cynorthwyo o ran y ddarpariaeth hon trwy Bolisi HP7. Mae darparu tai cost isel eraill yn un o swyddogaethau’r Cymdeithasau Tai, a all ymateb trwy ddarparu datblygiadau ar raddfa fach mewn pentrefi pan brofwyd bod angen amdanynt.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi HP4 Pentrefi Gwrthwynebiad 78/623 - Owen Devenport Ltd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 453

1.1 Mae’r gwrthwynebiad yn awgrymu y dylid dileu ffiniau datblygu o Bolisi HP4 ‘Pentrefi’ a diwygio’r polisi i adlewyrchu’r polisi yn y cynllun drafft a ganiatâi waith datblygu “o fewn y pentref neu yn union gerllaw cyrion y pentref”.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Cynhwysai’r strategaeth aneddiadau yn y cynllun drafft Bolisi HP4. Roedd 5 categori o fewn y polisi hwn fel y dangosir isod :- HP4 (1) - Prif Ganolfannau (Â ffin ddatblygu) HP4 (2) - Canolfannau Lleol (Â ffin ddatblygu) HP4 (3) - Pentrefi Mawr (Â ffin ddatblygu) HP4 (4) - Pentrefi Bach (Heb ffin ddatblygu) HP4 (5) - Cefn Gwlad (Heb ffin ddatblygu)

Mae’r gwrthwynebiad hwn yn cyfeirio at ganiatáu datblygiadau o fewn y pentref neu yn union gerllaw cyrion y pentref cyfeirio at HP4 (4) ‘Pentrefi Bach’ a grybwyllwyd uchod.

2.2 Yn dilyn gwrthwynebiadau i Gynllun Datblygu Unedol drafft Ynys Môn, ac yn arbennig sylwadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, adolygwyd y strategaeth aneddiadau ac arweiniodd yr adolygiad hwnnw at y dosbarthiad a gynhwysir yn y cynllun a adneuwyd, sef :-

HP3 - Prif Ganolfannau a Chanolfannau (Â ffin ddatblygu) Eilaidd HP4 - Pentrefi (Â ffin ddatblygu) HP5 - Pentrefannau a Chlystyrau yng (Heb ffin ddatblygu) Nghefn Gwlad

2.3 Diffinnir pentrefi gan ffiniau datblygu er mwyn rhoi sicrwydd i’r broses ddatblygu. Lleolir y mwyafrif o ddatblygiadau tai newydd yn y prif ganolfannau/canolfannau eilaidd a’r pentrefi; fodd bynnag, disgwylir datblygiadau ar raddfa fach ar ffurf lleiniau unigol mewn pentrefannau a chlystyrau yng nghefn gwlad. Oherwydd natur y pentrefannau a’r clystyrau a’r datblygiadau ar raddfa fach a ddisgwylir mewn aneddiadau o’r fath, ni ddangosir unrhyw ffin ddatblygu. Diffinnir y termau gerllaw’r anheddiad / datblygiad hirgul ym mhara 16.53 y Cynllun Datblygu Unedol fel a ganlyn: "Diffinnir gerllaw fel gwaith datblygu sydd yn ymyl adeiladau sy’n bodoli eisoes o fewn y pentrefan neu’r clwstwr, sy’n cyffinio neu sy’n cyffwrdd ag adeiladau sy’n bodoli eisoes o fewn y pentrefan neu’r clwstwr. Fodd bynnag bydd y Cyngor yn atal datblygiadau sy’n ymwthiol yn weledol rhag cael eu datblygu e.e. dechrau datblygiad hirgul o glwstwr neu bentrefan sy’n bodoli eisoes trwy ganiatáu safleoedd ‘mewnlenwi’ yn unig."

2.4 Rhoddir ffin ddatblygu i Brif ganolfannau/Canolfannau eilaidd. Mewn Pentrefannau a Chlystyrau yng Nghefn Gwlad, oherwydd graddfa a chyflymder y gwaith datblygu a ddisgwylir, ni ddangosir unrhyw ffin ddatblygu. Ystyrir unrhyw waith datblygu ar safleoedd sy’n cyffinio â’i gilydd yn ofalus i sicrhau na cheir unrhyw ddatblygiadau sy’n ymwthiol yn weledol.

3.0 Mater

3.1 Y dylid geirio Polisi HP4 yn unol â geiriad Polisi HP4 - Pentrefi Bach yn y Cynllun Datblygu Unedol drafft.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 454

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae’r gwrthwynebiad am weld ffiniau datblygu yn cael eu dileu o amgylch pentrefi a nodir o dan Bolisi HP4 am y byddai hynny’n rhoi mwy o ryddid i ddatblygu o fewn pentrefi neu yn union gerllaw cyrion pentrefi. Cyfeirir yn y gwrthwynebiad at y ffaith bod apeliadau wedi’u hennill gan ddefnyddio’r meini prawf hyn.

4.2 Mae ymateb y Cyngor yn nodi bod ffiniau datblygu yn rhoi mwy o sicrwydd i’r broses ddatblygu. Rwy’n cytuno â’r ymagwedd hon. Un o ddibenion system y cynllun datblygu yw rhoi mwy o sicrwydd a symud i ffwrdd o ymagwedd ‘ad hoc’ tuag at benderfynu ar geisiadau datblygu. Po fwyaf hyblyg yw’r cynllun datblygu, po wannaf fydd ei bolisïau, ac nid yw’n ymagwedd a gymeradwyir gennyf. Mae pennu ffiniau datblygu yn galluogi lefel briodol o ddatblygiadau tai i ddigwydd, yn gyson â ffactorau cynaliadwyedd, ystyriaethau amgylcheddol ac ystyriaethau eraill a nodir yn y cynllun.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi HP4 Pentrefi Gwrthwynebiad 37/1387 - Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad yn awgrymu y dylid dileu HP4 (5) a chynnwys pob un o’r pentrefi a nodir o dan y polisi hwnnw yng nghategori (4) am fod y polisi ar bentrefi bach yn orgyfyngol. Byddai’n amhriodol cyfeirio at aneddiadau bach megis y rhain fel rhai sydd yng nghefn gwlad agored yn hytrach na fel pentrefi bach. Mae’n bwysig eu bod yn cael eu dosbarthu’n gywir a bod ganddynt yr un hyblygrwydd o ran darpariaeth tai â phentrefi eraill. Ar ben hynny mae angen nodi cysylltiad rhwng darpariaeth tai a chyflogaeth.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Ymddengys fod y gwrthwynebiad hwn yn cyfeirio at bolisi HP4 yng Nghynllun Datblygu Unedol drafft Ynys Môn. Fodd bynnag, fe’i cymerwyd fel gwrthwynebiad i Bolisi HP5 y cynllun drafft a adneuwyd yn ceisio hyblygrwydd i ganiatáu datblygiadau ar raddfa addas ar safleoedd addas o fewn aneddiadau o’r fath.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Mae’r Cyngor yn ystyried bod y gwrthwynebiad hwn yn ymwneud â Pholisi HP5. Mae’n anodd cyfatebu geiriad y gwrthwynebiad i Bolisi HP5. Fodd bynnag, rwyf o’r farn y gallai’r cais am fwy o hyblygrwydd o ran darparu tai nag a nodir ym Mholisi HP5 arwain at gynnydd sydyn mewn datblygiadau tai gwasgaredig na fyddai’n cynorthwyo datblygu cynaliadwy ac a fyddai’n debygol o fod yn niweidiol i’r dirwedd a gwerthoedd eraill cefn gwlad agored.

4.0 Argymhelliad

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 455

4.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi HP4 Pentrefi Gwrthwynebiad 130/444 – Mrs M Davidson / Ymddiriedolaeth Mill Bank

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dileu’r geiriad o “cyhyd â bod yr anheddau ychwanegol…” hyd at ddiwedd Polisi HP4. Mae’r tri maen prawf a nodir yn aneglur ac yn anfanwl.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae angen y meini prawf i gyflawni’r amcan o hyrwyddo patrymau anheddu adnoddau-effeithlon, ac i roi rhywfaint o reolaeth dros safleoedd ar hap yn y pentrefi i’r Cyngor. Bydd y meini prawf yn galluogi’r aneddiadau hyn i ddatblygu’n briodol ac i barhau i fod yn gynaliadwy, ac maent yn adlewyrchu’r meini prawf a geir ym Mholisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn.

3.0 Mater

3.1 Dileu’r meini prawf o Bolisi HP4.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Ystyriais wrthwynebiadau o ran Polisïau HP3, HP4, a HP5 a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (6/943, 6/958 a 6/959 yn y drefn honno). Nodais hefyd Newid Arfaethedig PC153 yn ymwneud â Pholisi HP4. Argymhellais o ran Polisi HP4 a Gwrthwynebiad 6/958 y dylid dileu’r geiriau ‘gofynion lleol’ a gosod y geiriau ‘lefel gofynion tai’r gymuned bentrefol’ yn eu lle.

4.2 Rwyf o’r farn y dylid galluogi cymunedau gwledig sensitif i gymryd rhan yn y broses o reoli eu cymunedau a’r modd y mae eu pentrefi yn datblygu. Fel y nodwyd mewn ymateb i Wrthwynebiad 6/958, gellid gwneud arolygon yn lleol i nodi lefel a natur gofynion tai lleol. Bydd yr ymagwedd hon yn cyferbynnu â’r ymagwedd ar hap y mae’n debyg ei bod wedi llywio datblygiad pentrefi yn ystod y degawdau diweddar.

4.3 O ran maen prawf (ii), rwy’n cytuno â Gwrthwynebiad 130/444 ei fod yn aneglur ac yn anfanwl. Byddai nifer yr anheddau gwag yn fwy perthnasol, am fod nifer y tai sydd ar werth ar unrhyw adeg benodol yn amodol ar amrywiaeth o amgylchiadau. O ran maen prawf (iii), rwyf o’r farn y dylid aralleirio’r ‘ardal’ i gyfeirio at y ‘pentref’ sydd o fewn y ffin ddatblygu. Mae’r geiriad ‘yn ystod cyfnod y cynllun’ yn derm sy’n amrywio. Dylai fod yn fwy cyson, a nodi ‘o fewn y deng mlynedd diwethaf’. Nid oes angen y gair ‘newydd’ ym maen prawf (i). Nid yw’r cynllun yn ymwneud â datblygiadau preswyl sydd wedi’u cwblhau.

5.0 Argymhellion

5.1 Y dylid diwygio Polisi HP4 trwy ddileu’r adran olaf sy’n dechrau â’r geiriau: ‘Caniateir datblygiadau ar safleoedd addas eraill….. yn ystod cyfnod y cynllun’.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 456

5.2 Y dylid cynnwys y geiriad canlynol yn ei lle:

‘Caniateir datblygiadau preswyl o fewn ffin ddatblygu’r pentref, gan gynnwys addasu adeiladau, ar yr amod na fydd nifer yr anheddau yn uwch na lefel gofynion tai’r gymuned bentrefol. Wrth bennu nifer yr anheddau sydd eu hangen ystyrir: i) y cyflenwad o anheddau â chaniatâd cynllunio dilys; ii) y nifer a’r math o anheddau gwag; iii) y nifer a’r math o anheddau a adeiladwyd yn y pentref yn ystod y deng mlynedd diwethaf’.

5.3 Gwneir yr argymhellion hyn mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi HP4 Pentrefi Gwrthwynebiadau 33/95 - Gwerth Gorau’r DU 48/390 – BT

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiad 33/95 yn datgan nad oes angen nodi ffin ddatblygu. Nid yw dyrannu safle o fewn y ffin yn golygu bod y tir ar gael i’w ddatblygu. Mae Gwrthwynebiad 48/390 yn awgrymu y dylid dileu meini prawf (ii) a (iii) am eu bod yn debygol o gyfyngu ar ddatblygu tir a ddefnyddiwyd gynt.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r pentrefi yn ffurfio un haen o’r hierarchaeth aneddiadau a nodir yn y cynllun. Mae ymagwedd y Cyngor tuag at gynllunio pentrefi o’r fath yn y dyfodol yn cynnwys eu diffinio o fewn ffin ddatblygu. Mae hyn yn darparu sicrwydd ar gyfer y broses o wneud penderfyniadau yn yr anheddiad. Ymhlith y materion y mae angen eu hystyried cyn rhyddhau rhagor o safleoedd addas ar gyfer tai mae’r patrwm datblygu diweddar yn yr ardal, a chyflwr y farchnad dai yn y pentref. Ystyrir bod y rhain yn ystyriaethau cynllunio dilys.

3.0 Materion

3.1 Nid oes angen ffiniau datblygu. Dileu meini prawf (ii) a (iii) Polisi HP4. Mae angen nodi Polisi HP4 yn gliriach.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Ystyriais ffiniau datblygu mewn ymateb i Wrthwynebiad 33/94 a wnaed gan yr un gwrthwynebydd, rywle arall yn yr adroddiad hwn. Ymdriniais hefyd â materion eglurder yn ymwneud â Pholisi HP4, ac rwyf o’r farn nad yw gwrthwynebiad 33/95 yn codi unrhyw faterion newydd i gyfiawnhau newid fy argymhelliad a wnaed mewn ymateb i Wrthwynebiad 130/444 o ran y polisi hwn.

4.2 Ni ddylai’r pryderon a godwyd yng Ngwrthwynebiad 48/390 o ran y rhwystrau i ddatblygu safleoedd a ddatblygwyd ynghynt godi, o gofio’r arweiniad clir ar y flaenoriaeth a roddir i safleoedd o’r fath at ddibenion datblygu a nodir ym mharagraffau 9.2.6 i 9.2.8 Polisi Cynllunio Cymru. Rwy’n ailadrodd isod fy argymhellion o ran meini prawf (i), (ii) a (iii) a

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 457 wnaed mewn ymateb i Wrthwynebiad 130/444. Nid yw Gwrthwynebiad 33/95 na Gwrthwynebiad 48/390 yn cyfiawnhau newid hyn.

5.0 Argymhellion

5.1 Na ddylid gwneud unrhyw ddiwygiad o ran nodi ffiniau datblygu.

5.2 Y dylid diwygio Polisi HP4 trwy ddileu’r frawddeg olaf sy’n dechrau â’r geiriau: ‘Caniateir datblygiadau ar safleoedd addas eraill….. yn ystod cyfnod y cynllun’.

5.3 Y dylid cynnwys y geiriad canlynol yn ei lle:

‘Caniateir datblygiadau preswyl o fewn ffin ddatblygu’r pentref, gan gynnwys addasu adeiladau, ar yr amod na fydd nifer yr anheddau yn uwch na lefel gofynion tai’r gymuned bentrefol. Wrth bennu nifer y tai sydd eu hangen ystyrir: i) y cyflenwad o anheddau â chaniatâd cynllunio dilys; ii) y nifer a’r math o anheddau gwag; iii) y nifer a’r math o anheddau a adeiladwyd yn y pentref yn ystod y deng mlynedd diwethaf’.

5.4 Gwneir yr argymhellion hyn mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi HP4 Pentrefi Gwrthwynebiadau 80/1247 – Y Cyng R. Llewelyn Jones 144/280 – Y Cyng Allan Roberts

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiad 80/1247 yn mynnu bod Llaingoch a Mynydd Tŵr, Caergybi yn cael eu nodi fel dau bentref ar wahân yn y cynllun. Mae Gwrthwynebiad 144/280 yn awgrymu y dylid dosbarthu Llaingoch fel pentref ar wahân i Gaergybi.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Llaingoch yn rhan annatod o Gaergybi, ac felly ni ddylid ei wahanu yn y cynllun. Nododd y cynllun ‘Bentre Canol’ ar Fynydd Tðr fel Pentrefan/Clwstwr yng Nghefn Gwlad o dan Bolisi HP5. Dangosir cynllun yn adran 2.5 (30) y Map Cynigion sy’n nodi lleoliad y pentrefan/clwstwr. Mae’r ardal hon ar Fynydd Tðr yn briodol ar gyfer lleiniau mewnlenwi unigol ac estyniadau o dan HP5.

3.0 Materion

3.1 Diffinio Llaingoch a Mynydd Tŵr, Caergybi fel dau bentref ar wahân. Diffinio Llaingoch fel pentref ar wahân i Gaergybi.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Ni nodir ffin Mynydd Tŵr yn benodol yn y gwrthwynebiad hwn, ond yn ymateb y Cyngor, cyfeirir at Bentre Canol ar Fynydd Tðr fel ardal fach o ddatblygiad a nodir yn Adran 2.5, Map Mewnosod 30, ac a restrir o dan Bolisi HP5 – Pentrefannau a Chlystyrau yng

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 458

Nghefn Gwlad. Rwyf o’r farn mai dyma’r dynodiad mwyaf priodol ar gyfer Pentre Canol yng ngoleuni ei leoliad uchel ac agored, ac o gofio cymeriad arbennig yr ardal hon y dylid ei diogelu yng ngoleuni ei diddordeb hanesyddol a’i diddordeb o ran y dirwedd a thwristiaeth.

4.2 O ran Llaingoch, rwy’n cytuno â’r Cyngor bod Llaingoch yn rhan annatod o Gaergybi, ac na fyddai’n briodol dynodi’r rhan hon o’r dref fel pentref o dan Bolisi HP4.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Paragraff 16.47 Pentrefi Gwrthwynebiad 80/276 Y Cyng R. Llewelyn Jones

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae Gwrthwynebiad 80/276 yn cyfeirio at baragraff 16.47.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Ni nodir unrhyw reswm dros y gwrthwynebiad.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Am na nodir sut y dylid newid y cynllun, ni allaf wneud argymhelliad.

Map 4 Bethel Gwrthwynebiad 361/152 Iolo Owen

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid newid y ffin ddatblygu i gynnwys parsel mawr o dir i’r de-orllewin o’r anheddiad.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae paragraff 16.38 y cynllun yn nodi yn ogystal â cheisio sicrhau y gellir bodloni’r gofynion anheddau a diwallu’r angen am dai, fod y cynllun hefyd yn nodi graddfa ddarparu y gall cymunedau lleol ymdopi â hi. Yn unol â strategaeth aneddiadau’r cyngor, nodwyd Dyraniad Tai T8 ym Methel i ddarparu ar gyfer 5 uned breswyl yn ystod cyfnod y cynllun. Ar ôl gwerthuso’r opsiynau o fewn yr anheddiad ystyriwyd mai hwn oedd y dyraniad mwyaf addas. Ni fyddai caniatáu dyraniadau eraill ym Methel yn cydymffurfio â strategaeth y cynllun.

2.2 Mae gan y parsel o dir sy’n eiddo i’r gwrthwynebydd arwynebedd o 32.8 hectar ac mae’n cynnwys tir amaethyddol yng nghefn gwlad agored. Byddai PC149 yn nodi bod lefel ddwysedd o 30 afh yn briodol a gallai’r safle hwn ddarparu uchafswm o 984 o anheddau. Mae’r ffin ddatblygu fel y’i nodir ar Fap 4 yn adlewyrchu rhan ddatblygedig Bethel ac nid

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 459 oes unrhyw gyfiawnhad dros ymestyn y ffin ddatblygu i gynnwys tir amaethyddol y gwrthwynebydd.

3.0 Mater

3.1 Diwygio’r ffin ddatblygu i gynnwys darn o dir ag arwynebedd o 32.8 hectar i’r de- orllewin o’r anheddiad.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae gan Fethel boblogaeth o 133 (cyfrifiad 1991) ac mae’n un o’n pentrefi lleiaf â ffin ddatblygu. Gallai safle maes glas pwysig o’r maint hwn, tua 32.8 hectar, ddarparu tua 980 o anheddau ar ddwysedd o 30 o anheddau fesul hectar. Byddai gwaith datblygu ar y raddfa honno ym Methel yn ormodol o ran y cynnydd yn y boblogaeth ac yn amhriodol o ran cyfleoedd cyfyngedig ar gyfer cyflogaeth a’r nifer fach o gyfleusterau eraill sydd ar gael. Ni fyddai’n enghraifft o ddatblygu cynaliadwy. Ar ben hynny, byddai’n arwain at golli darn sylweddol o gefn gwlad agored ac yn arwain at ffurf adeiledig yn gwbl anghymesur â’r pentref presennol.

4.2 Gallai Dyraniad Tir ar gyfer Tai T8 ddarparu ar gyfer 5 uned breswyl yn ystod cyfnod y cynllun. Mae’r cynnig hwn yn ddigon i fodloni gofynion yr anheddiad. Byddai’n annerbyniol diwygio’r ffin ddatblygu i gynnwys safle’r gwrthwynebiad.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 6 - Cynnig T9 Gwrthwynebiad 8/245 - Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dileu Cynnig T9 o’r cynllun am nad oes ei angen ac am nad yw wedi’i ddosbarthu fel categori 2* o dan yr Astudiaeth o Argaeledd Tir.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Bodedern wedi’i ddosbarthu fel pentref o fewn grðp A5, ac mae angen Cynnig T9 i gyflawni strategaeth tai’r cynllun a darparu cyflenwad digonol o anheddau i fodloni gofynion tai’r is-ardal.

3.0 Mater

3.1 A ddylid dileu Cynnig T9.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae Cynnig T9 yn safle ar raddfa gymharol fach a chanddo arwynebedd o 0.8 hectar. Mae ganddo gysylltiad agos â datblygiadau sy’n bodoli eisoes ym Modedern, ac mae’n

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 460 gwneud cyfraniad at ofynion tai yn yr is-ardal. Nid yw Dosbarthiadau’r Astudiaeth o Argaeledd Tir ar gyfer Tai yn rhan o’r cynllun.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 7 Bodffordd Gwrthwynebiad 361/275 - Iolo Owen

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Cynigir tir ym Modffordd ar gyfer lleiniau adeiladu a "phentref ymddeol â chyfleusterau ar gyfer yr anabl" fel y darperir mewn gwledydd eraill.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae anheddiad Bodffordd wedi’i ddosbarthu fel "pentref" ac mae’n elwa ar barsel o dir sydd â chaniatâd sy’n bodoli ar gyfer tai (Cynnig T11). Mae’r tir hwn yn ddigon i fodloni’r gofynion yn yr anheddiad a chyfrannu at y dyraniadau yn is-ardal y Cynllun Datblygu Unedol. Ni fyddai maint y datblygiad posibl a gynigir yn briodol yn y lleoliad hwn.

2.2 Pe bai’r gwrthwynebydd yn dechrau trafod gyda’r cyngor, byddai’n rhaid rhoi cyfrif am y canlynol: ai Bodffordd yw’r lle priodol ar gyfer cyfadail ymddeol o’r fath; a phresenoldeb y parth gwahardd sðn sydd o amgylch Maes Awyr Mona.

3.0 Mater

3.1 Nodi’r safle ym Modffordd ar gyfer lleiniau adeiladu a “phentref ymddeol â chyfleusterau ar gyfer yr anabl”.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Gallai datblygu safle ag arwynebedd o ryw 3.6 hectar ddarparu isafswm o 100 o anheddau. Gyda phoblogaeth o 471 (cyfrifiad 1991) byddai datblygiad o’r fath yn rhy fawr mewn perthynas â maint a ffurf adeiledig Bodffordd. Nodwyd Cynnig T11 sydd â chaniatâd sy’n bodoli eisoes ar gyfer 5 uned. Nid oes unrhyw angen hollbwysig i ddarparu rhagor o dir preswyl yn y pentref yn ystod cyfnod y Cynllun, ac felly nid oes unrhyw gyfiawnhad dros nodi’r safle penodol hwn ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.2 Ni fyddai’n briodol i’r cynllun nodi’r defnydd tir y gellid ei wneud o’r safle fel pentref ymddeol. Byddai’r Cyngor yn ymdrin ag unrhyw gais am ddefnydd o’r fath yn ôl ei deilyngdod ei hun.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 7 Bodffordd

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 461

Gwrthwynebiad 84/1433 - J.E. Lewis Newid Arfaethedig PC508 Bodffordd Gwrthwrthwynebiad 84/2032 - J.E. Lewis

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad a’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Ymestyn ffin ddatblygu Bodffordd i gynnwys tir i’r de-orllewin o Gae Bach Aur, ar gyfer tai.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r ffin ddatblygu fel y’i nodir yn y Cynllun Datblygu Unedol yn adlewyrchu rhan ddatblygedig y pentref. Nid oes angen ymestyn y ffin ddatblygu ymhellach yn y lleoliad hwn. Ar ôl gwerthuso’r opsiynau o fewn yr anheddiad, ystyrid mai Cynnig T11 oedd y dyraniad mwyaf addas am fod y safle yn elwa ar ganiatâd cynllunio sy’n bodoli eisoes. Nid oes angen dyrannu rhagor o dir ar gyfer tai nac ymestyn y ffin ddatblygu a fydd yn amharu ar gefn gwlad agored.

3.0 Mater

3.1 Cynnwys y tir ar gae 3956 yr A.O. o fewn ffin ddatblygu Bodffordd.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn barsel trionglog o dir maes glas ag arwynebedd o 0.36 hectar. Yn ffinio ag ef ar yr ochr ogleddol mae datblygiadau preswyl sy’n bodoli eisoes ac, i’r de-ddwyrain ceir yr annedd Cae Aur Bach a’i chwrtil a Chynnig T11 yn cyffinio â hi. Byddai llinell y ffin ddatblygu a geisir yn y gwrthwynebiad yn darparu ar gyfer talgrynnu gwaith datblygu yn rhesymegol yn y rhan hon o Fodffordd, a dim ond tua 5 neu 6 annedd ychwanegol y mae’n debygol o’u cyfrannu at y cyflenwad o dir ar gyfer tai yn y pentref. Mae’r cynnydd bach hwn yn y ddarpariaeth yn dderbyniol.

4.2 Mae gan dir y gwrthwynebiad ffin goediog â chefn gwlad i’r gorllewin, ac ni fyddai ei ddatblygu ar gyfer tai yn arwain at dresmasu annerbyniol ar gefn gwlad yn y lleoliad hwn ac ni fyddai’n niweidio golwg y pentref ychwaith. Rwy’n cytuno â’r gwrthwynebiad y dylid diwygio’r ffin ddatblygu.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio ffin ddatblygu Bodffordd – Map 7 y cynllun a adneuwyd i ddilyn y llinell a nodir mewn coch ar y cynllun a gyflwynwyd gyda Gwrthwynebiad 84/1433, cae 3956 yr A.O..

Map 7 a Pholisi HP7 Tai Fforddiadwy - Bodffordd Gwrthwynebiad 33/793 - Gwerth Gorau’r DU

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid nodi diffiniadau o "fforddiadwy, lleol ac angen’ yn glir yn y polisi. Dyrannu tir ym Modffordd ar gyfer tai fforddiadwy.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 462

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 O ran y diffiniad o ‘Fforddiadwy’, defnyddiodd y Cyngor y fethodoleg a argymhellwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn asesu’r angen am anheddau fforddiadwy. Mae para 16.66 y cynllun yn nodi y "diffinnir tai fforddiadwy fel tai i ddiwallu anghenion y rhai sy’n byw mewn llety anaddas ac y mae eu hincwm yn eu hatal rhag prynu neu rentu tai addas ". Ceir rhagor o fanylion ar hyn yn Arolwg y Cyngor o’r Angen am Dai.

2.2 O ran y diffiniad o ‘Leol’, mae Polisi HP7 yn canolbwyntio ar angen a fforddiadwyedd. Nid yw’n ymdrin â mater "lleol".

2.3 O ran y diffiniad o ‘angen’, fe’i diffinnir ym mharagraff 16.66 y cynllun.

2.4 Mae rhan o’r tir a nodwyd yn y gwrthwynebiad ar gyfer 22 o anheddau ym mhentref Bodffordd yn destun cais cynllunio ar hyn o bryd. Ar yr amod y llofnodir cytundeb o dan adran 106 mae caniatâd wedi’i roi ar gyfer 5 annedd ar ran o’r safle hwn.

3.0 Materion

3.1 Diffinio ystyr ‘fforddiadwy’, ‘lleol’, ac ‘angen’. Dyrannu tir ym Modffordd ar gyfer tai fforddiadwy.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Yn atodol i’r cynllun datblygu, mae’n well nodi unrhyw ddiffiniad pellach o ‘fforddiadwy’ mewn Arweiniad Cynllunio Atodol, o gofio’r amrywio sy’n debygol o ddigwydd yn y ddau ddangosydd allweddol, sef prisiau tai ac incymau, dros gyfnod y cynllun sy’n para 15 mlynedd. Nodir ‘angen’ yn bennaf trwy ddata a gesglir o dan y dangosyddion hyn. Nid yw Polisi HP7 yn cyfeirio at angen ‘lleol’. Mae hefyd yn amhriodol i gynllun datblygu nodi dyraniad ar gyfer tai fforddiadwy.

4.2 O fewn y system gynllunio, un o ganlyniadau tai’r farchnad yw tai fforddiadwy y dylid eu negodi fel y nodir ym Mholisi HP7 y cynllun. Nodaf y safbwynt cynllunio o ran tir ar gyfer tai ym Modffordd fel y nodwyd gan y Cyngor; mater i’w ystyried gan y Cyngor o dan Bolisi HP7 (fel y’i newidiwyd trwy PC161) yw darparu tai fforddiadwy ac nid yw’n fater ar gyfer dyraniad o dan y cynllun datblygu.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 8 Gwrthwynebiad 175/172 - Mr Owen William Edwards

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad yn cynnig ymestyn ffin ddatblygu’r pentref i gynnwys cae ychwanegol ag arwynebedd o tua 2.0 hectar (5 erw) ar Fferm Cae Crin. Mae’r tir y tu allan i’r

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 463 ardal cyfyngu ar sðn ac mae’n rhydd rhag perygl llifogydd dangosol. Gallai gynnwys hyd at 40 o gartrefi cost isel.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Ni wnaed unrhyw ddyraniad tir penodol ym Mryn Du, a thynnwyd y ffin ddatblygu yn eithaf tyn. Serch hynny, bydd rhywfaint o gyfle ar gyfer gwaith datblygu ar raddfa fach o fewn y pentref ar dir llwyd, neu leiniau mewnlenwi, neu trwy addasu adeiladau. Byddai tir y gwrthwynebiad yn ddigon ar gyfer tua 40 o anheddau. Mae’n amlwg y byddai hynny yn ormodol ar gyfer pentref o faint Bryn Du. Dim ond mewn un o’r Prif Ganolfannau neu’r Canolfannau Eilaidd y gellid disgwyl gwaith datblygu ar y raddfa honno, a byddai caniatáu datblygiad o’r fath mewn pentref yn tanseilio’n ddifrifol y Strategaeth Aneddiadau a gyflwynir yn Rhan Un - Polisi Dau’r Cynllun Datblygu Unedol drafft, a’r strategaeth ddatblygu a nodir yn y tablau o dan baragraffau 16.35 ac 16.50.

2.2 Os gellir dangos bod angen darparu tai fforddiadwy ar gyfer y gymuned leol mewn lleoedd gwledig fel Bryn Du, yna gellir defnyddio’r elfen o Bolisi HP7 – Tai Fforddiadwy - Anghenion Tai yn ymwneud ag 'eithriadau gwledig'.

3.0 Mater

3.1 Diwygio ffin ddatblygu Bryn Du i gynnwys tir yn cyffinio â’r pentref ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn safle maes glas ag arwynebedd o ryw 2 hectar. Mae Bryn Du yn bentref bach o 256 o drigolion ac 88 o anheddau (Amcangyfrifiad Cyfrifiad 1991) ac mae ganddo rai cyfleusterau. Gallai tir y gwrthwynebiad ddarparu ar gyfer datblygu tua 60 o anheddau, a byddai’n arwain at dresmasu ar raddfa fawr gan waith datblygu ar gefn gwlad agored a fyddai’n niweidiol i’w gymeriad a’i amwynder cyffredinol. Mae’n debyg y byddai angen i ddeiliaid yr anheddau hyn deithio allan o’r pentref i’r gwaith yn y car. Ni fyddai hynny’n gyson ag egwyddorion datblygu cynaliadwy.

4.2 Mae mater fforddiadwyedd tai, yn arbennig ar gyfer pobl ifanc yn destun pryder, ac mae’r cynllun yn ceisio cynorthwyo o ran y ddarpariaeth hon trwy Bolisi HP7. Mae’r gwaith o ddarparu tai cost isel eraill yn un o swyddogaethau Cymdeithasau Tai, a all ymateb trwy ddarparu datblygiadau ar raddfa fach mewn pentrefi pan brofwyd bod angen amdanynt. Mae dyraniadau tir ar gyfer datblygiadau preswyl, pan gytunir arnynt, ar gyfer tai’r farchnad gyffredinol. Nid oes unrhyw gategori penodol o ddyraniad ar gyfer tai fforddiadwy. Ar ben hynny, nid oes unrhyw systemau yn y cynllun sy’n cyfyngu’r hawl i brynu tai’r farchnad gyffredinol neu ddeiliadaeth tai’r farchnad gyffredinol i unrhyw gategori penodol o bobl sut bynnag y’i diffiniwyd. Nid oes unrhyw sail y gellir cytuno i ddyrannu’r tir hwn ar gyfer tai.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 8 Bryn Du Gwrthwynebiad 176/657 - Bodorgan Properties (CI) Ltd.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 464

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad yn ceisio uned ddatblygu ychwanegol, â ffin ddatblygu, ar gyfer anheddiad Bryn Du i gynnwys safle sy’n wag ar hyn o bryd y gellid ei ailddatblygu.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Lleolir tir y gwrthwynebiad i’r de-ddwyrain o Fryn Du ac o bob tu iddo ceir cefn gwlad agored. Mae’n cynnwys Tafarn y Queen's Head, 3 eiddo preswyl (Arosfa, Cartref a Glanrafon – y mae un ohonynt yn fferm â thai allan) melin restredig Gradd 2 nas defnyddir a fferm adfeiliedig o’r enw Melin y Bont. Lleolir rhan o dir y gwrthwynebiad o fewn ardal â pherygl llifogydd dangosol. Mae tir y gwrthwynebiad yn endid ffisegol ar wahân i’r prif bentref. Mae’r grðp sy’n bodoli eisoes yn yr ardal hon yn wasgaredig o ran ei natur ac nid yw’n haeddu cael ei amgáu gan ffin ddatblygu. Gellid defnyddio polisïau megis HP8 'Addasiadau Gwledig', EP6 'Ailddefnyddio Adeiladau' (fel y’i diwygiwyd trwy PC39), a TO2 'Atyniadau Gwyliau' i ailddatblygu’r safle.

3.0 Mater

3.1 A ddylid rhoi ffin ddatblygu i waith datblygu i’r de-ddwyrain o Fryn Du.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Byddai’r ffin ddatblygu a geisir yn y gwrthwynebiad yn ymgorffori grðp bach o eiddo yn cynnwys tafarn, tair annedd, fferm adfeiliedig a melin restredig Gradd 2. Lleolir rhan o’r safle o fewn yr ardal cyfyngu ar sðn, a lleolir rhan o’r safle o fewn ardal â pherygl llifogydd dangosol. Dehonglir o’r gwrthwynebiad, y byddai ffin ddatblygu yn hwyluso potensial yr ardal o ran ei hailddatblygu.

4.2 Rwyf o’r farn mai unig effaith nodi ffin ddatblygu o amgylch grwpiau bach o eiddo wedi’u hynysu yng nghefn gwlad, hyd yn oed os byddant yn agos at anheddiad sefydlog, fyddai hybu cynnydd mewn datblygiadau adeiledig. Mae’r gwrthwynebiad yn nodi bod pentrefi yn y cynllun sydd â ffiniau datblygu lluosog. Nid yw hyn yn golygu bod y cysyniad o reidrwydd yn dderbyniol, ond oni fydd gwrthwynebiad wedi’i gyflwyno, ni allaf argymell o blaid y ffin nac yn ei herbyn.

4.3 Fodd bynnag ystyriais wrthwynebiad 31/1119 sy’n awgrymu y dylid dileu’r ffin ddatblygu sydd o amgylch grðp bach o eiddo yn rhan ogledd-ddwyreiniol Talwrn, ac argymhellais y dylid ei dileu. Yn fy marn i, bydd polisïau ar gefn gwlad yn rheoli unrhyw gynigion datblygu newydd yn ddigon da, heb yr angen am y ffin ddatblygu. O ran y gwrthwynebiad hwn, sef 176/657, unig effaith ffin ddatblygu fyddai cynyddu’r nifer o ddatblygiadau adeiledig yn y lleoliad hwn yng nghefn gwlad. Byddai hynny’n gwrthdaro â’r angen i reoli datblygiadau adeiledig yng nghefn gwlad yn llym. Fodd bynnag mae polisïau yn y cynllun e.e. Polisi HP8 a EP6 sy’n galluogi ailddefnyddio adeiladau sy’n bodoli eisoes yng nghefn gwlad, ac y gellid eu cymhwyso at adeiladau ar safle’r gwrthwynebiad.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 465

Map 9 Gwrthwynebiad 178/511 - Mrs W. Palethorpe

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Ymestyn dyraniad Cynnig T13 hyd at ymyl y gorlifdir dangosol a ddangosir ar y Map Cynigion. Cynyddu nifer yr unedau arfaethedig i uchafswm o 16, wedi’u cyflwyno fesul cam dros bum mlynedd.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Bwriedir i Bolisi HP4 alluogi datblygiadau ar raddfa fach i fynd yn eu blaen i ddiwallu anghenion lleol pentrefi gwledig, gyda gwaith monitro gofalus i sicrhau nad yw’r cyflenwad o anheddau newydd yn tyfu’n fwy nag anghenion y gymuned ar unrhyw adeg benodol. Ystyrir bod ymagwedd o’r fath yn gyson â’r arweiniad a ddarperir gan Bolisi Cynllunio Cymru ar gyfer cynnal cymunedau gwledig cynaliadwy, tra’n sicrhau cydbwysedd sy’n cydnabod y gyd-ddibyniaeth rhwng canolfannau trefol a’r ardaloedd gwledig o’u hamgylch. Er bod Bryngwran yn bentref mawr, un o’r rhai mwyaf yn y categori hwnnw yn ôl pob tebyg, serch hynny ystyrir y gallai dyraniad ar gyfer mwy na phum annedd fod yn fwy nag sydd ei angen ar y pentref. Mae’n amlwg y byddai ymestyn y dyraniad i’r 16 o unedau a nodwyd yn gwyro oddi wrth y strategaeth o gyfyngu gwaith datblygu i ddatblygiadau ar raddfa fach yn y pentrefi.

3.0 Mater

3.1 Cynyddu nifer yr anheddau a ddarperir ar y safle o bum annedd i un annedd ar bymtheg ar Gynnig T13.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae Cynnig T13 yn ddyraniad tir ar gyfer tai yn y cynllun a gefnogir gennyf. Mae ganddo arwynebedd o 0.22 hectar. Dehonglaf y niferau a nodir yn y cynllun o ran yr anheddau a ddarperir fel ffigurau dangosol; nid ydynt wedi’u diffinio mewn polisi. Rwyf o blaid cynyddu nifer yr anheddau a ddarperir hyd yr eithaf ble bynnag y bo modd am y bydd hynny yn lleihau’r pwysau i ryddhau mwy o dir maes glas nag sy’n gwbl angenrheidiol. Bydd angen ystyried pob safle datblygu o ran ei nodweddion penodol, a ffactorau yn ymwneud ag amwynder preswyl. Gellid ystyried bod cysyniad y gwrthwynebydd o adeiladu anheddau bach yn ymateb cadarnhaol i’r pryderon a fynegwyd mewn llawer o wrthwynebiadau nad yw’r cynllun yn gwneud fawr ddim darpariaeth ar gyfer anghenion pobl ifanc sydd am gael eu cartref cost isel eu hunain.

4.2 O ran Cynnig T13 ym Mryngwran, efallai y gellir cyflawni cynllun ar gyfer yr anheddau. Nid wyf yn barod i benderfynu ar y mater penodol hwn y bydd angen ei ystyried trwy gais cynllunio. Gallai gwybodaeth a ddarperir â chais gynnwys astudiaethau hydrolegol a mesurau amddiffyn rhag llifogydd neu liniaru llifogydd cysylltiedig sy’n gydnaws â’r amgylchedd. Manylion yw’r rhain. Mae fy nghylch gorchwyl yn ymwneud â pha mor dderbyniol yw dyrannu Cynnig T13, yr wyf o’r farn ei fod yn briodol ac y dylid ei gadw ar y cynllun. Nodir bod Polisi HP2 – Dwysedd Tai yn ceisio sicrhau’r dwysedd uchaf posibl ar bob datblygiad preswyl newydd, yn amodol ar waith cynllunio boddhaol.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 466

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 9 Bryngwran Gwrthwynebiad 31/1107 – Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad yn awgrymu y dylid dileu dyraniad T13.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae angen y dyraniad i ddarparu ar gyfer strategaeth aneddiadau’r Cynllun Datblygu Unedol ac is-ardal y Cynllun Datblygu Unedol. Mae’r ffin yn darparu rheolaeth gadarn dros ddatblygiadau pellach.

3.0 Mater

3.1 Dileu Cynnig T13.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae’r gwrthwynebiad o’r farn bod digon o dir ar gael ar gyfer datblygiadau tai fel safleoedd ‘ar hap’ posibl o fewn y ffin ddatblygu. Mae Cynnig T13 yn safle datblygu a chanddo ffryntiad â’r A5. Gall fod cyfleoedd ar gyfer rhywfaint o waith mewnlenwi o fewn fframwaith y pentref fel safleoedd ‘ar hap’ ond bydd y rhain yn gyfyngedig iawn, ac ynghyd â Chynnig T13 ni ddylent arwain at ormod o dai newydd ym Mryngwran.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 10 Brynsiencyn Gwrthwynebiad 22/564 - Mr. E Sweeney Newidiadau Arfaethedig PC509, Brynsiencyn PC510, PC511 Gwrthwrthwynebiadau 22/2178, 22/2179, 22/2180 - Mr. E . Sweeney 423/2187, 423/2188, 423/2189 – R H Jones 31/2438 (i PC511) – Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad a’r Gwrthwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiad 22/564 yn awgrymu y dylid cynnwys tir ym Merddyn Gwyn (a elwir hefyd yn Blas Siencyn), Brynsiencyn o fewn y ffin ddatblygu.

1.2 Mae Gwrthwrthwynebiad 22/2178 yn awgrymu y dylid dileu PC511, sef dileu’r rhan o Ddyraniad Tai T14 sydd ar ôl, heb ddiwygio’r ffin ddatblygu ym Mhlas Siencyn, Brynsiencyn. Mae Gwrthwrthwynebiad 22/2179 yn awgrymu y dylid dileu PC509, ac

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 467 ymestyn y ffin ddatblygu a dynodi Plas Siencyn, Brynsiencyn fel safle tai (T14) â chaniatâd hanesyddol ar gyfer tai. Mae Gwrthwrthwynebiad 22/2180 yn ceisio dileu PC510, sef dynodi Plas Siencyn, Brynsiencyn fel safle tai (T14) â chaniatâd hanesyddol ar gyfer tai. Mae Gwrthwynebiadau 423/2187, 2188 a 2189 yn awgrymu y dylid cyfyngu ar nifer yr anheddau o fewn y ffin ddatblygu ddiwygiedig i ddim mwy na chwech, er mwyn cyd-fynd â datblygiadau cyffiniol ac oherwydd rhesymau yn ymwneud â chreu traffig o’r datblygiad newydd. Mae Gwrthwrthwynebiad 31/2438 yn ceisio dileu’r ffin ddatblygu.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Cynnig T14 yn elwa ar ganiatâd cynllunio ar gyfer tai. Byddai dyrannu’r holl dir a geisir gan y gwrthwynebydd yn arwain at orddatblygu’r pentref hwn. Mae Newidiadau Arfaethedig PC510 a PC511 yn rhesymoli’r sefyllfa heb wneud dyraniad rhy fawr.

3.0 Materion

3.1 Diwygio ffin ddatblygu Brynsiencyn i gynnwys y tir a nodir gan linell goch ar y cynllun a gyflwynwyd gyda Gwrthwynebiad 22/564.

3.2 Dileu Newidiadau Arfaethedig PC509, PC510 a PC511 a dyrannu’r tir y cyfeirir ato yn y Newidiadau Arfaethedig ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae’r Cyngor yn nodi bod gan Gynnig T14 ganiatâd cynllunio dilys ar gyfer datblygiadau preswyl. Felly mae wedi’i neilltuo at ddibenion ei ddatblygu. Am mai ymagwedd y Cyngor yn y cynllun a adneuwyd yw nodi safleoedd â chaniatâd cynllunio sy’n bodoli (ar gyfer 5 annedd neu ragor) fel dyraniadau tir ar gyfer tai, ymddengys nad oes fawr ddim diben i PC511 sy’n dileu rhan o’r darn o dir â chaniatâd cynllunio. Dof i’r casgliad y dylid dangos pob un o’r tri darn o dir y cyfeirir atynt yn Newidiadau Arfaethedig 509, 510 a 511 fel safleoedd â chaniatâd cynllunio sy’n bodoli ar gyfer datblygiadau preswyl fel un dyraniad. Byddai hynny yn rhoi bras ddyraniad dros ryw 0.7 hectar a bydd yn galluogi un datblygiad cyson. Mae’r tir wedi’i neilltuo at ddibenion ei ddatblygu ac fe’i dangosir yn gywir o fewn y ffin ddatblygu. Dylid penderfynu ar nifer benodol yr anheddau a ddarperir gan y dyraniad hwn ar y lefel rheoli datblygu.

4.2 Nid wyf o’r farn bod angen datblygiadau tai yn y dyfodol ym Mrynsiencyn, yn ychwanegol at y darnau o dir a ddyrannwyd. Mae’n debyg y byddai rhagor o ddatblygiadau tai yn cynyddu lefel yr allgymudo i’r gwaith o’r pentref, ac arwain at fwy o ddefnydd o’r car, yn groes i egwyddorion cynaliadwyedd. Byddai tir y gwrthwynebiad y cyfeirir ato yng Ngwrthwynebiad 22/564 yn arwain at ymestyn datblygiadau preswyl i gefn gwlad agored, ac ni chytunir ag ef.

5.0 Argymhellion

5.1 Na ddylid diwygio Cynnig T14 y cynllun a adneuwyd ac eithrio i’w ymestyn i gynnwys y darn o dir a nodir ar y Cynllun sy’n ffurfio Newid Arfaethedig PC509.

5.2 Na ddylid cymeradwyo Newidiadau Arfaethedig PC510 a 511 i’w cynnwys yn y cynllun a adneuwyd.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 468

Map 10 Brynsiencyn Gwrthwynebiad 48/391 - BT Group

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad yn awgrymu y dylid diwygio ffin ddatblygu Brynsiencyn i gynnwys yr ATE ar Ffordd Barras.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Lleolir y safle o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn (AOHNE) lle’r prif amcan yw diogelu a gwella harddwch y dirwedd. Mae’r ffordd o Ffordd Barras i lawr tuag at Sð’r Môr/y Fôr-forwyn, yn ffurfio ffin resymegol i’r anheddiad ac yn diogelu’r AOHNE. Atgyfnerthwyd y ffin hon trwy Newid Arfaethedig PC513 a dynnodd y ffin ddatblygu yn ôl ar dir gyferbyn â Rhen Gapel am fod yr ardal hon hefyd o fewn AOHNE Ynys Môn.

3.0 Mater

3.1 Diwygio ffin ddatblygu Brynsiencyn i gynnwys yr ATE.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae’r ffordd o Ffordd Barras i lawr tuag at Sð’r Môr/y Fôr-forwyn yn rhoi ffin ddwyreiniol resymegol a phendant i Frynsiencyn. Mae hefyd yn ffin bendant ar gyfer yr AOHNE. Nid wyf o’r farn bod safle’r gwrthwynebiad yn ‘rhan annatod o’r anheddiad’; yn hytrach, darn o dir ydyw sydd y tu allan i brif fframwaith y pentref.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 11 Brynteg Gwrthwynebiad 184/176 - Mrs Hayes

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid diwygio ffin ddatblygu Brynteg i gynnwys gardd Y Werydd.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Lleolir y tir dan sylw ar gwr yr anheddiad ac mae’n cefnu ar gefn gwlad agored. Mae’r Cyngor o’r farn pe câi’r tir hwn ei gynnwys o fewn y ffin ddatblygu y gallai arwain at waith datblygu ymwthiol yn tresmasu ar gefn gwlad agored. Gallai’r potensial sydd ar gyfer datblygu’r tir hwn arwain at broblemau mynediad ac amwynder am ei fod mewn lleoliad tir cefn.

2.2 Mae digon o dir o fewn y dyraniad T15 i ddiwallu anghenion y pentref ar gyfer cyfnod y cynllun.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 469

3.0 Mater

3.1 A ddylid ymestyn ffin ddatblygu Brynteg er mwyn cynnwys gardd Y Werydd.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae cynnwys tir o fewn ffin ddatblygu yn rhoi rhagdybiaeth o blaid datblygiadau adeiladu ar y tir hwnnw. Pe câi tir y gwrthwynebiad ei gynnwys o fewn y ffin ddatblygu, gallai ddarparu ar gyfer datblygiad tai arall yn cynnwys dwy annedd o bosibl. Byddai rhagor o ddatblygiadau adeiladu yn debygol o arwain at dresmasu gweledol niweidiol ar gefn gwlad deniadol yn y rhan hon o Frynteg. Ni fydd y ffin ddatblygu fel y’i nodir ar Fap 11 y cynllun a adneuwyd yn effeithio ar hawliau datblygu a ganiateir sy’n berthnasol i waith datblygu o fewn cwrtil eiddo preswyl.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Map 11 – Brynteg na’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 11 Brynteg Gwrthwynebiad 78/622 - Mr a Mrs Aled Owen

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Cynnwys tir o fewn y ffin ddatblygu. Roedd gan y tir hwn ganiatâd cynllunio yn y gorffennol sydd wedi mynd yn ddi-rym erbyn hyn.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Dyrannwyd Cynnig T15 ym Mrynteg ar gyfer 10 annedd. Ystyrir bod y tir hwn wedi’i integreiddio’n dda i ffurf bresennol y pentref ac mae’n cwblhau’r gwaith datblygu a wnaed ar safle sy’n bodoli eisoes, y darparwyd y seilwaith hanfodol ar ei gyfer. Nid oes angen dyrannu rhagor o safleoedd yn y pentref nac ymestyn ei ffin ddatblygu.

3.0 Mater

3.1 Diwygio ffin ddatblygu Brynteg i ddarparu ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn cynnwys darn o dir ag arwynebedd o 0.3 hectar yn cyffinio â ffin ddatblygu Brynteg. Mae gan Frynteg un dyraniad tir preswyl yn y cynllun a adneuwyd, sef Cynnig T15 a ddatblygwyd erbyn hyn. Mae tir y gwrthwynebiad yn debyg i T15 am ei fod ar raddfa fach ac am fod datblygiadau sy’n bodoli eisoes ar dair ochr iddo. Ni fyddai ei ddatblygu yn gyfystyr â thresmasu annerbyniol gan waith datblygu i gefn gwlad agored, ac ni fyddai’n niweidio cymeriad y pentref ychwaith.

4.2 Dof i’r casgliad y dylid cynnwys tir y gwrthwynebiad o fewn ffin ddatblygu Brynteg ond na ddylid ei ddyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl. Gellir ystyried ceisiadau cynllunio

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 470 am ddatblygiadau preswyl ar y tir o fewn cyd-destun Polisi HP4 fel yr argymhellwyd i’w ddiwygio. Nid yw darparu tai fforddiadwy yn fater priodol ar gyfer dyraniad ar wahân yn y cynllun, ond dylid ei ystyried o dan Bolisi HP7.

5.0 Argymhellion

5.1 Y dylid diwygio ffin ddatblygu Brynteg fel y’i nodir ar Fap 11 y cynllun a adneuwyd i ddilyn y llinell a nodir ar y cynllun a gyflwynwyd gyda Gwrthwynebiad 78/622.

5.2 Na ddylid gwneud unrhyw ddiwygiadau eraill i’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 11 Brynteg Gwrthwynebiadau 31/1106 a 31/1120 - Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae gwrthwynebiad 31/1106 yn gofyn am newid ffin ddatblygu Brynteg i hepgor darn mawr o dir ffermio ar ochr ogleddol yr anheddiad. Mae gwrthwynebiad 31/1120 yn gofyn am ddileu’r ffin ddatblygu o amgylch y grðp bach o dai i’r de-orllewin o’r prif anheddiad Brynteg..

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nid oes y fath "ddarn mawr o dir" o fewn y ffin. Gosodwyd y ffin o amgylch y grðp o eiddo i’r de-orllewin i ddarparu sicrwydd ym mhentref Brynteg. Mae’r grðp yn ddigon i’w gydnabod fel rhan o’r pentref, ac mae’r ffin yn darparu rheolaeth gadarn ar ddatblygiadau pellach.

3.0 Materion

3.1 Fel y nodir yn y Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau uchod.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Gan ystyried gwrthwynebiad 31/1120 yn gyntaf yn ymwneud â’r clwstwr bach o anheddau i’r de-orllewin o’r prif anheddiad, nid oes rheswm digonol yn y gwrtwynebiad pam y dylid dileu y ffin ddatblygu. Mae gwrthwynebiad 31/1106 wedi’i fynegeio gan y Cyngor yn ymwneud â Brynteg; ar y llaw arall mae’r gwrthwynebydd wedi cyfeirio at Mewnosodiad 8 –Bryn Du. O edrych ar Fewnosodiad 8, mae’n rhesymol i ddod i’r casgliad bod 31/1106 yn ymwneud â Bryn Du

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd (Mewnosodiad 11 – Brynteg) mewn ymateb i wrthwynebiad 31/1120.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 471

5.2 Y dylai’r Cyngor baratoi ymateb ysgrifenedig i wrthwynebiad 31/1106, a’i anfon at y gwrthwynebydd am ei ymateb. Rhoddaf ystyriaeth i’r gwrthwynebiad hwn mewn atodiad i’r adroddiad hwn pan y derbyniaf yr adroddiadau hyn maes o law.

Map 11 Brynteg Gwrthwynebiadau 181/289 – J Humphreys 183/290 – R O Humphreys

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae’r ddau wrthwynebiad yn awgrymu y dylid ymestyn ffin ddatblygu Brynteg i gynnwys tir gerllaw Tyddyn Tlodion.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Cynigir Newid Arfaethedig PC514 sy’n ymestyn y ffin ddatblygu i gynnwys tir gerllaw Tyddyn Tlodion, Brynteg.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Gwaith talgrynnu ar raddfa fach a geir yma o ran ffin ddatblygu Brynteg. Ni fydd yn arwain at dresmasu gan waith datblygu ar gefn gwlad agored ac ni fyddai’n niweidio golwg y pentref ychwaith.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio ffin ddatblygu Brynteg fel y’i nodir ar Fap 11 y cynllun a adneuwyd trwy Newid Arfaethedig PC514. Gwneir yr argymhelliad hwn mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 11 Brynteg - Cynnig T15 Gwrthwynebiad 8/244 - Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dileu Cynnig T15 am nad oes ei angen.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Dosberthir Brynteg fel pentref o fewn is-grðp Arfordir y Dwyrain. Mae angen Cynnig T15 i gyflawni strategaeth tai’r cynllun a darparu cyflenwad digonol o anheddau i fodloni gofynion tai’r is-ardal.

3.0 Mater

3.1 A ddylid dileu Cynnig T15.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 472

4.1 Mae Cynnig T15 yn safle ag arwynebedd o 0.5 hectar, y mae gan ran ohono ganiatâd cynllunio ar gyfer tai. Mae ganddo gysylltiad agos â datblygiadau sy’n bodoli eisoes ym Mrynteg ac mae’n cyfrannu at y gofynion tai yn yr is-ardal.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 12 Gwrthwynebiad 377/264 – H R Michael

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid cynnwys “The Stables” o fewn ffin ddatblygu Caergeiliog.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Lleolir “The Stables” 152 metr o gwr de-orllewinol y ffin ddatblygu. Mae’r eiddo yng nghefn gwlad agored a cheir caeau amaethyddol rhwng yr eiddo a’r anheddiad, felly mae ganddo gysylltiad agosach â chefn gwlad agored.

3.0 Mater

3.1 Diwygio’r ffin ddatblygu i gynnwys “The Stables”.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae’r ffin ddatblygu yn rhan dde-orllewinol Caergeiliog yn nodi’r bwlch clir rhwng yr ardal adeiledig a chefn gwlad agored. Mae “The Stables” yn eiddo anghysbell yng nghefn gwlad agored ac nid yw’n rhan o ardal adeiledig Caergeiliog. Byddai’n anghyson cynnwys yr eiddo o fewn ffin ddatblygu’r pentref a gallai arwain at bwysau i ddatblygu ar dir rhwng safle’r gwrthwynebiad a’r pentref y gallai fod yn anos eu gwrthsefyll.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 12 Caergeiliog Gwrthwynebiad 154/76 - Cyngor Cymuned Llanfair yn Neubwll

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad yn awgrymu y dylid diwygio’r ffin ddatblygu i adlewyrchu maint y gwaith datblygu yn Rhianfa a Fron Deg.

2.0 Ymateb y Cyngor

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 473

2.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn rhan o iard adeiladwyr, a ddefnyddir i storio deunyddiau adeiladu. Mae Newid Arfaethedig PC515 yn ymestyn y ffin ddatblygu i gynnwys y tir hwn o fewn y ffin ddatblygu.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Mar tir y gwrthwynebiad yn safle tir llwyd bach o fewn cyffiniau Caergeiliog. Rwy’n cytuno â PC515.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio ffin ddatblygu Caergeiliog yn unol â’r ffin a nodir yn Newid Arfaethedig PC515.

Map 12 Caergeiliog - Cynnig T16 Gwrthwynebiadau 8/243 - Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig 31/1108 - Plaid Werdd Sir y Fflint 154/75 - Cyngor Cymuned Llanfair yn Neubwll

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiad 8/243 am weld y safle yn cael ei ddosbarthu fel categori 2* o dan yr Astudiaeth o Argaeledd Tir ac mae’n awgrymu y dylai tai forddiadwy fod yn elfen o’r cynllun. Mae Gwrthwynebiad 31/1108 am weld y safle yn cael ei ddyrannu ar gyfer 10 tþ am fod hyn yn faint mwy priodol ar gyfer y pentref. Mae Gwrthwynebiad 154/75 am weld y dyraniad yn cael ei gynyddu i adlewyrchu’n fwy manwl gywir y darn o dir sy’n elwa ar ganiatâd cynllunio sy’n bodoli eisoes.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nodwyd Caergeiliog fel pentref o fewn is-grðp A5. Mae Cynnig T16 yn elwa ar ganiatâd cynllunio sy’n bodoli eisoes ar gyfer 40 o anheddau. Mae angen y safle hwn i gyflawni strategaeth tai’r cynllun a bodloni ei ofynion tai. Mae Newidiadau Arfaethedig PC516 a PC517 yn nodi maint y darn diwygiedig o dir a nodir yng Nghynnig T16.

3.0 Mater

3.1 A ddylid cynyddu neu ostwng nifer yr anheddau ar y dyraniad hwn?

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Rwy’n cytuno â’r diwygiad i’r ffin a nodir yng Nghynnig T16 a wneir o dan Newidiadau Arfaethedig 516 a 517. Mae gan y safle ganiatâd cynllunio ar gyfer adeiladu 40 o anheddau ac felly mae wedi’i neilltuo at ddibenion ei ddatblygu; felly dylid newid y nifer o unedau anheddol o 20 i 40 o dan Newid Arfaethedig PC169. Efallai na fydd yn bosibl cymhwyso Polisi HP7 y cynllun yn ymwneud â thai fforddiadwy at dir sydd â chaniatâd cynllunio sy’n bodoli.

5.0 Argymhelliad

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 474

5.1 Y dylid diwygio Map 12 – Caergeiliog yn unol â Newidiadau Arfaethedig PC516 a PC517 ac y dylid diwygio Newid Arfaethedig PC169 yn berthnasol i Gynnig T16 i gyfeirio at 40 o unedau anheddol, i’w gynnwys yn y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Map 13 Caergybi – Cynigion T39, T41, T62 a T63 Newid Arfaethedig 169 Dwysedd dyraniadau Gwrthwrthwynebiad 31/2392 - Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Diwygio’r dwyseddau a gymhwyswyd at y safleoedd tai canlynol: T62 (hen safle cwmni Wells Kello, Caergybi) i 28 o unedau; T63 (Tir yn yr Ogof, Caergybi) i 70 o unedau; T39 (Hen Ysbyty’r Druids, Llangefni) i 71 o unedau; a T41 (Tir oddi ar Ffordd Talwrn, Llangefni) i 120 o unedau.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Penderfynir ar yr union ddwysedd a ddarperir ar bob safle tai ar ôl derbyn cais cynllunio. Mae’r ffigur a roddir yn yr y rhestr dai yn nodi "Nifer yr Unedau a Ddisgwylir", a sut y byddant yn cyfrannu at strategaeth gyffredinol y cynllun. Mae’n well trafod y materion a godir gan y gwrthwynebydd cyn derbyn cais cynllunio/wrth ymdrin â chais cynllunio.

2.2 Y sefyllfa ddiweddaraf o ran y safleoedd hyn yw : T62 - cyflwynwyd cais amlinellol am dai ac mae trafodaethau yn mynd rhagddynt ynghylch materion tai fforddiadwy, priffyrdd a draeniau. T63 - testun gwrthwynebiadau a wnaed i’r Cynllun Datblygu Unedol. T39 - mae gwaith wedi dechrau ar safle tai yn y lleoliad cyffredinol hwn, er nad y darn penodol o dir a ddangosir yn y Cynllun Datblygu Unedol. Ni ellir newid y dwysedd. T41 - caniatâd sy’n bodoli eisoes ar gyfer y safle cyfan ac felly ni ellir newid y dwysedd.

3.0 Mater

3.1 Diwygio’r dwyseddau a gymhwyswyd at Gynigion T62, T63, T39 a T41.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Er fy mod yn gwerthfawrogi pryderon y gwrthwynebydd, mae’n rhaid cydnabod pan fydd caniatâd wedi’i roi, na ellir newid nifer yr unedau a dwyseddau – dyma fyddai’r sefyllfa yn achos Cynigion T41 a T39. Bydd y Cyngor yn ymwybodol o’r angen i sicrhau dwysedd cyfartalog o 30 o anheddau fesul hectar ar draws ardal y cynllun. Ni fwriadaf argymell y dylid newid nifer yr anheddau y rhagwelir y cânt eu darparu ar y safleoedd penodol yn Newid Arfaethedig PC169. Gall fod anawsterau yn gysylltiedig â chyflwr y tir ar rai safleoedd neu gall fod cyfyngiadau eraill arnynt, ond mae’n rhesymol cymryd yn ganiataol mai nifer ddangosol yr anheddau a ddarperir a nodir yn PC169 fyddai’r isafswm a ddarperid.

5.0 Argymhellion

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 475

5.1 Na ddylid diwygio Newid Arfaethedig PC169 mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 15 Gwrthwynebiadau 219/1423 - Mr a Mrs Owen 220/1441 - R.W. Jones

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Ymestyn ffin ddatblygu Dwyran i ddarparu tir ar gyfer tai yn cyffinio ag Ystad Llain Bwthan.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Newid Arfaethedig PC533 yn dynodi rhan o safle’r gwrthwynebiad fel Dyraniad Tai T65. Nid oes angen y tir ychwanegol a geisir yn y gwrthwynebiadau i fodloni gofynion tai’r is-ardal am fod digon o dir wedi’i ddyrannu. Nid oes angen ymestyn y ffin ddatblygu ymhellach.

3.0 Mater

3.1 Diwygio’r ffin ddatblygu yn cyffinio ag Ystad Llain Bwthan, Dwyran a dyrannu tir ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn cynnwys safle maes glas ag arwynebedd o 1.03 hectar yn cyffinio â ffin ddatblygu Dwyran. Mae’r ddau wrthwynebiad yn ymwneud â’r un darn o dir fwy neu lai. Mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn, mae’r Cyngor yn bwriadu diwygio ffin ddatblygu’r pentref i gynnwys darn o dir y gwrthwynebiad ag arwynebedd o 0.26 hectar fel Cynnig T65 o dan Newid Arfaethedig PC533. Ni chofnodwyd unrhyw wrthwynebiadau i PC533.

4.2 Rwy’n cytuno â’r Cyngor y byddai tir y gwrthwynebiad yn darparu ar gyfer gormod o waith datblygu yn Nwyran. Byddai hefyd yn arwain at dresmasu niweidiol gan ddatblygiadu adeiledig ar gefn gwlad agored. Mae PC533 yn darparu ar gyfer cynnydd llai mewn gwaith datblygu sy’n fwy cydnaws â maint y pentref.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio ffin ddatblygu Dwyran fel y’i nodir ar Fap 15 y cynllun a gyflwynwyd gyda Newid Arfaethedig PC533 a dyrannu’r tir amgaeëdig ar gyfer datblygiadau preswyl fel Cynnig T65.

Map 15 Dwyran – Cynnig T22 Gwrthwynebiad 191/1362 - Cyngor Cymuned Bro Rhosyr Newid Arfaethedig 535 Dwyran – Cynnig T22 Gwrthwrthwynebiad 417/2223 – Mr a Mrs D Jones

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 476

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad a’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Mae Gwrthwynebiad 191/1362 yn awgrymu y dylid dileu Cynnig T22. Mae Gwrthwrthwynebiad 417/2223 yn awgrymu y dylid adfer Cynnig T22.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Newid Arfaethedig PC535 yn dileu Cynnig T22 am na all y safle gynnwys 5 uned ac am ei fod o dan y trothwy ar gyfer dyrannu safleoedd felly.

3.0 Mater

3.1 A ddylid dileu Cynnig T22 fel dyraniad tir preswyl.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae’r Cyngor yn bwriadu dileu Cynnig T22 am yr ystyrir ei fod o dan y trothwy o 5 uned annedd. Mae’r gwrthwrthwynebiad yn awgrymu y dylid ei gadw am fod ganddo’r potensial i ddarparu mwy na 5 uned, ac mae’n bendant y bydd y gwaith datblygu yn mynd rhagddo. Nid oes unrhyw ffeithiau i gyfiawnhau dileu tir y gwrthwynebiad.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i Wrthwynebiad 191/1362. Na ddylid cymeradwyo Newid Arfaethedig PC535 i’w gynnwys yn y cynllun.

Map 15 Dwyran - Newid Arfaethedig PC536 Gwrthwrthwynebiad 148/2000 - Cyngor Bro Rhosyr

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Mae Gwrthwrthwynebiad 148/2000 yn awgrymu y dylid tynnu’r ffin ddatblygu yn ôl i ddarparu dim ond digon o le ar gyfer un llain gerllaw’r Feddygfa, Dwyran.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Ceir datblygiadau sy’n bodoli eisoes ar dair ochr i’r safle, ac mae’r ffin ddatblygu fel y’i diwygiwyd gan Newid Arfaethedig PC536 yn darparu estyniad rhesymegol sy’n ategu rhan ddatblygedig dde-ddwyreiniol Dwyran. Bydd y darn hwn o dir yn sicrhau potensial Dwyran trwy ddarparu lleiniau tai mewnlenwi sensitif.

3.0 Mater

3.1 Ailddiffinio’r ffin ddatblygu i ddarparu ar gyfer datblygiad un llain.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae’r ffin ddatblygu ddiwygiedig yn cynnwys darn llinellol o dir maes glas ag arwynebedd o 0.4 hectar. Wrth nesu at y pentref o’r A4080 ar hyd y ffordd leol, mae’r tir yn codi a gwelir bod tir y gwrthwynebiad yn gorwedd o fewn fframwaith y pentref. Mater i’w

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 477

ystyried gan y Cyngor o dan ddarpariaethau polisi HP4 fydd rhyddhau tir ar gyfer datblygiadau preswyl o fewn y ffin ddiwygiedig.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio Map 15 - Dwyran yn unol â Newid Arfaethedig PC536.

Map 15 Dwyran Gwrthwynebiad 218/1428 – J S Jones

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Ymestyn ffin ddatblygu Dwyran i gynnwys tir gerllaw Monarfon, Dwyran.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Newid Arfaethedig PC534 yn ymestyn y ffin ddatblygu i gynnwys tir gerllaw Monarfon, Dwyran o fewn y ffin.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Nid oes unrhyw wrthwynebiadau wedi’u cofrestru i Newid Arfaethedig PC534, ac felly rwy’n cymeradwyo ei gynnwys yn y cynllun.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio’r cynllun a adneuwyd trwy ymestyn ffin ddatblygu Dwyran fel y’i nodir o dan Newid Arfaethedig PC534.

Map 16 Gaerwen Newidiadau Arfaethedig PC169 a PC539 Cynnig T24 Gwrthwrthwynebiadau 8/2073 - Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig 18/2177 - Mr DMS Thomas 403/2237 - Mr a Mrs G Jones 406/2174 - Mr Thomas Williams 409/2228 - Doris Owen 411/2224 - Dŵr Cymru 413/2225 - H Roberts 414/2226 - Mr D Roberts 424/2234 - Mrs B Mercer 438/2110 - Mrs E M Jones

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiadau

1.1 Mae 8/2073 yn awgrymu y dylid lleihau Cynnig T24 Gaerwen (PC539) er mwyn lleihau’r targed o 1800 a nodir yn y cynllun. Mae 406/2174 a 409/2228 am weld dyraniad T24 yn cael ei leihau i 10 uned.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 478

1.2 Mae 403/2177 yn awgrymu y dylid dileu Cynnig T24 ac adfer dyraniad S20 ac S19 fel y’u dangosir yn y cynllun drafft dyddiedig Mai 2000. Mae 411/2224 am weld Cynnig T24 yng Ngaerwen yn cael ei ddileu am nad oes digon o gapasiti yn y system garthffosiaeth a’r gwaith trin carthion. Mae 413/2225, 414/2226, 424/2234, 403/2237 a 438/2110 am weld Cynnig T24 yn cael ei ddileu am fod mynediad i’r safle yn beryglus ac am nad oes angen rhagor o dai yng Ngaerwen am fod llawer o eiddo ar werth.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Gaerwen wedi’i ddosbarthu fel canolfan eilaidd o fewn is-grðp tai Llangefni. Mae angen y dyraniad i gyflawni strategaeth tai’r cynllun a darparu cyflenwad digonol o anheddau i fodloni’r gofynion tai ar gyfer yr is-ardal. Cynhwyswyd y dyraniad am ei fod yn rhan o argymhellion Astudiaeth Ddatblygu Gaerwen 2002 a wnaed gan Cass Associates. Dylai’r polisi cyflwyno fesul cam a gyflwynwyd o dan newidiadau arfaethedig pellach FPC 2 oresgyn gwrthwynebiad 2224.

3.0 Mater

3.1 Dileu neu leihau’r ddarpariaeth yng Nghynnig T24 yng Ngaerwen.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Darperir yn y cynllun a adneuwyd ar gyfer datblygiadau preswyl ar ddau safle dyranedig yng Ngaerwen – sef Cynigion T23 (18 o anheddau) a T24 (30 o anheddau). O dan PC539, ymestynnir Cynnig T24 i ddarparu ar gyfer 50 o anheddau. Rwyf wedi rhoi rhoi ystyriaeth i ddyraniadau tir cyflogaeth yng Ngaerwen ym mhennod 11 o’r adroddiad hwn. Yn arbennig, rwyf wedi cytuno i ddileu 20 hectar o dir cyflogaeth a gynigir dan Newid Arfaethedig PC437 ar safle S19, ac rwyf wedi argymell yn erbyn y dyraniad o 20.5 hectar a gynigir fel safle cyflogaeth o fri – safle S21 dan Newid Arfaethedig PC538 hefyd (gweler tudalennau 89 – 93 o’r adroddiad hwn).

4.2 Mae Newid Arfaethedig PC539, sy’n estyniad i Gynnig T24 sef tir ar gyfer codi tai yng Ngaerwen, yn gorwedd yn yr un llain o dir agored rhwng priffordd yr A55 a’r A5 yn y pentref â PC538 (tir cyflogaeth). Ystyriaf yn wyneb yr argymhelliad i ddileu PC538, pe bai PC539 (tir ar gyfer tai) yn cael ei dderbyn, y byddai datblygu yn gwthio’n sylweddol ac yn niweidiol i mewn i’r tir agored deniadol hwn. Rwyf wedi anghytuno ag argymhellion Cass Associates parthed PC538, argymhellion sy’n cynnwys y dyraniad anheddol hwn. Pentref yw Gaerwen yn y bôn, ac mae wedi’i gategoreiddio’n ganolfan eilaidd yn y cynllun. Mae darpariaeth digonol o dir i adeiladu tai yng Ngaerwen yn y cynllun, ac rwyn argymell yn erbyn PC439. Rhoddais ystyriaeth i faterion eraill a godwyd yn y gwrthwynebiadau, ond ar sail yr wybodaeth ger fy mron, nid ydynt yn ddigon difrifol ynddynt eu hunain i gyfiawnhau dilead y dyraniad.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio y cynllun a adneuwyd gan Newidiadau Arfaethedig PC169 a PC539 yn ymwneud â Chynnig T24. Gwneir yr argymhelliad hwn mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Map 17 Gwalchmai Gwrthwynebiad 17/588 - Alan Griffiths

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 479

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Diwygio ffin ddatblygu tir yn cyffinio â Llain Delyn, Gwalchmai, a’i ddyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r safle yn cyffinio ag Ystad Llain Delyn, ac ar ddwy ochr iddo ceir datblygiadau preswyl. Mae fferm a chae agored i’r de tra bod cefn gwlad agored i’r gorllewin. Mae llawer o goed ar ran o’r safle. Yn unol â strategaeth aneddiadau’r Cyngor nodwyd safle yng Ngwalchmai i ddarparu ar gyfer 7 uned breswyl yn ystod cyfnod y cynllun. Ar ôl gwerthuso’r opsiynau o fewn yr anheddiad ystyrid mai dyma’r mân estyniad mwyaf addas i’r anheddiad am fod y safle yn elwaar ganiatâd cynllunio sy’n bodoli eisoes. Nid oes angen ymestyn y safle i gyflawni strategaeth aneddiadau’r cynllun, ac mae llain welededd is na’r safon wrth gyffordd yr ystad.

3.0 Mater

3.1 Dyrannu tir yn cyffinio â Llain Delyn, Gwalchmai, ar gyfer datblygiadau preswyl a’i gynnwys o fewn ffin yr anheddiad.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae gan safle’r gwrthwynebiad arwynebedd o 0.4 hectar. Safle maes glas ydyw a cheir coed ar ran ohono. Mae’r safle wedi’i amgáu bron ar dair ochr gan ddatblygiadau tai yn y pentref a’r fferm i’r de-orllewin. Felly ni fyddai ei ddatblygu yn arwain at dresmasu ar gefn gwlad agored. Nodaf fod y safle yn agos at ddyraniadau tir cyflogaeth Cynigion S8 ac S9 ar Faes Sioe Ynys Môn/Ystad Gyflogaeth Mona.

4.2 Mae Gwalchmai yn bentref eithaf mawr â phoblogaeth o ryw 900. Dim ond un dyraniad tir ar gyfer tai sydd yn y cynllun, sef Cynnig T25 yn darparu ar gyfer 7 annedd. Ni fydd safle’r gwrthwynebiad ond yn darparu ar gyfer rhyw 4-6 annedd os bwriedir diogelu’r coed. Mae’r cynnydd bach hwn yn y ddarpariaeth yn dderbyniol a derbynnir y gwrthwynebiad. Mae’r casgliad yn gyson â ffactorau’r dirwedd leol, yr amgylchedd a chynaliadwyedd a gymhwyswyd wrth ystyried safleoedd tai eraill a gynigiwyd mewn pentrefi ar Ynys Môn. Dylai fod yn bosibl datrys mater y briffordd a godwyd gan y Cyngor o fewn darpariaethau’r datblygiad.

5.0 Argymhellion

5.1 Y dylid diwygio’r cynllun a adneuwyd trwy newid y ffin ddatblygu fel y dangosir ar y cynllun a gyflwynwyd gyda gwrthwynebiad 17/588.

5.2 Yng ngoleuni’r ansicrwydd sydd ynghylch faint o anheddau a ddarperir ar y safle, rwyf yn argymell na ddylai fod unrhyw ddyraniad tir ffurfiol ar gyfer tai.

Map 17 Gwalchmai Gwrthwynebiadau 153/1341 - Thomas Richard Evans 366/517 – Mr a Mrs G Jones

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 480

376/346 – Mr Osian Williams

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiad 153/1341 yn awgrymu y dylid cynnwys tri safle o fewn ffin ddatblygu Gwalchmai: Safle 1 - Tir yn cyffinio â’r Felin; Safle 2 - Tir yn cyffinio â Phant y Felin; Safle 3 - Tir yn cyffinio â Bryn Eithin ar gyfer datblygiadau preswyl. Mae Gwrthwynebiad 366/517 yn awgrymu y dylid cynnwys Safle 1 – Tir yn cyffinio â’r Felin o fewn ffin ddatblygu Gwalchmai ar gyfer datblygiadau preswyl. Mae Gwrthwynebiad 376/346 yn awgrymu y dylid cynnwys Safle 2 – Tir yn cyffinio â Phant y Felin o fewn y ffin ddatblygu ar gyfer datblygiadau preswyl.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Safle 1 yn cynnwys rhan o gae 5293 yr A.O.. I’r gogledd o’r safle ceir datblygiadau preswyl. I’r de ceir yr hen Felin; i’r gorllewin ac i’r dwyrian ceir cefn gwlad agored. Mae gan y cae arwynebedd o 0.4 hectar a gallai ddarparu ar gyfer 12 annedd.

2.2 Mae Safle 2 yn cynnwys cae 7400 yr A.O.. I’r gorllewin o’r safle ceir datblygiadau preswyl. I’r gogledd o’r safle ceir cefn gwlad agored a nant. I’r dwyrain ac i’r de ceir cefn gwlad agored. Mae gan y cae arwynebedd o 0.8 hectar a gallai ddarparu ar gyfer 24 o anheddau.

2.3 Mae Safle 3 yn cynnwys cae rhif 8984 yr A.O.. I’r de-ddwyrain ceir eiddo preswyl. I’r gogledd ac i’r gorllewin ceir cefn gwlad agored. Mae gan y safle arwynebedd o 0.2 hectar a gallai ddarparu ar gyfer 6 annedd.

2.4 Yn unol â strategaeth aneddiadau’r Cyngor nodwyd safle yng Ngwalchmai i ddarparu ar gyfer 7 uned breswyl yn ystod cyfnod y cynllun. Ar ôl gwerthuso’r opsiynau o fewn yr anheddiad, ystyrid mai dyma oedd y mân estyniad mwyaf addas i’r anheddiad am fod y safle yn elwa ar ganiatâd cynllunio sy’n bodoli eisoes. Nid oes angen y safleoedd hyn i gyflawni strategaeth aneddiadau’r cynllun. Byddai datblygu’r safleoedd hyn yn arwain at ddatblygiad gwasgaredig anghysbell mewn ardal wledig agored.

3.0 Mater

3.1 Diwygio ffin ddatblygu Gwalchmai i gynnwys tri darn o dir ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae’r tri safle a nodir yn y gwrthwynebiadau yn safleoedd ar wahân, ac mae pob un ohonynt yn darparu ar gyfer ymestyn Gwalchmai tuag allan. Mae Gwalchmai fel y’i diffinnir gan ffiniau datblygu yn cynnwys tair ardal o ddatblygiadau adeiledig, y mae llawer ohonynt wedi dilyn y rhwydwaith ffyrdd lleol. Byddai Safle Gwrthwynebiad 1 – tir yn cyffinio â’r Felin, a Safle Gwrthwynebiad 2 – tir yn cyffinio â Phant-y-Felin, pe caent eu datblygu, yn arwain at ymestyn un o dair ardal ddatblygu adeiledig Gwalchmai i gefn gwlad agored. Byddai hynny’n arwain at fath anfoddhaol o waith datblygu; os oes angen ardaloedd datblygu yn y pentref, dylid ystyried atgyfnerthu ffurf bresennol y pentref yn gyntaf.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 481

4.2 Mae Safle Gwrthwynebiad 3 – tir yn cyffinio â Bryn Eithin yn darparu ar gyfer ymestyn datblygiadau hirgul sy’n bodoli eisoes i’r gogledd-orllewin, yn cyffinio ag ardal ddatblygu’r de-ddwyrain. Unwaith eto, byddai hyn yn arwain at ymestyn datblygiad adeiledig i gefn gwlad agored, ac unwaith eto, ni fyddai’n cyfrannu at atgyfnerthu ffurf bresennol y pentref. Gyda’i gilydd, mae gan y tri safle gwrthwynebiad arwynebedd o 1.4 hectar a allai ddarparu tua 40 o anheddau.

4.3 Ni fyddai gwaith datblygu ar y raddfa hon yn gynaliadwy am y byddai’n debygol o arwain at allgymudo i’r gwaith, er gwaethaf y posibilrwydd y darperir rhai swyddi ar Faes Sioe Ynys Môn/Ystad Gyflogaeth Mona gerllaw. Rwy’n cytuno â strategaeth y cynllun i ganolbwyntio datblygiadau ar dair prif ganolfan, sef Amlwch, Caergybi a Llangefni. Dylid pennu lefel y twf sy’n briodol i bentrefi gwledig megis Gwalchmai ar lefel sy’n adlewyrchu anghenion y gymuned leol. Ar hyn o bryd, mae Cynnig T25 yn darparu ar gyfer datblygu 7 annedd ac efallai y bydd cyfleoedd yn codi ar gyfer rhywfaint o waith mewnlenwi o fewn y ffin ddatblygu.

4.4 Hyd yn oed pe dangosid bod angen rhagor o dir ar gyfer tai yng Ngwalchmai, a’m casgliad i yw na ddangoswyd bod angen gwneud hynny, ni ddylid ystyried bod yr un o’r safleoedd hyn yn addas am resymau y cyfeiriwyd atynt uchod yn ymwneud ag ymestyn safleoedd datblygu adeiledig i gefn gwlad agored na fyddai’n ymwneud yn foddhaol â ffurf y pentref, ac y byddent yn niweidiol i olwg cefn gwlad pe caent eu datblygu.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio ffin ddatblygu Gwalchmai o ran y tri darn o dir y cyfeirir atynt yn y gwrthwynebiadau hyn.

Map 17 Gwalchmai Gwrthwynebiad 369/516 - Mr a Mrs A. Eccles

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebwyr yn bâr ifanc sy’n gobeithio prynu llain adeiladu fforddiadwy i adeiladu eu cartref cyntaf. Cytunodd perchenogion 2 safle eu gwerthu am bris rhesymol iawn yn amodol ar ganiatâd cynllunio. Ni cheisir unrhyw newid penodol.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Yn unol â strategaeth aneddiadau’r Cyngor nodwyd safle yng Ngwalchmai i ddarparu ar gyfer 7 uned breswyl yn ystod cyfnod y cynllun. Ar ôl gwerthuso’r opsiynau o fewn yr anheddiad ystyrid mai dyma’r mân estyniad mwyaf addas i’r anheddiad am fod y safle yn elwa ar ganiatâd cynllunio sy’n bodoli eisoes.

2.2 Safle 1 - Tir yn cyffinio â’r Felin I’r gogledd o’r safle ceir datblygiadau preswyl. I’r de ceir yr hen Felin i’r Gorllewin ac i’r dwyrain ceir cefn gwlad agored. Mae gan y cae arwynebedd o 0.4 hectar. Mae’r ffordd sy’n gwasanaethu’r safle yn is na’r safon o ran ei lled ac ystyrir ei bod yn anaddas i ddarparu ar gyfer rhagor o ddatblygiadau. Ar lefel ddwysedd o 30 afh gallai’r safle gynnwys 12 uned.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 482

2.3 Safle 2 - Tir gyferbyn â’r 'Dyffryn' Lleolir y safle hwn sydd ag arwynebedd o 0.03ha mewn datblygiadau gwasgaredig yng nghefn gwlad agored i’r gogledd o’r anheddiad. Ar lefel ddwysedd o 30 afh gallai’r safle hwn ddarparu lle ar gyfer 1 uned.

3.0 Mater

3.1 Dylid nodi’r ddau safle fel tir ar gyfer tai.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae Safle 1 – tir yn cyffinio â’r Felin, yn safle maes glas a fyddai’n arwain, pe câi ei ddatblygu, at ymestyn un o dair ardal ddatblygu adeiledig Gwalchmai tuag allan i gefn gwlad agored. Byddai hynny’n arwain at fath anfoddhaol o waith datblygu; os oes angen ardaloedd datblygu yn y pentref, dylid ystyried atgyfnerthu ffurf bresennol y pentref yn gyntaf.

4.2 Mae Safle 2, sydd ag arwynebedd o 0.03ha, yn llawer llai ac mae’n debyg y byddai’n darparu lle ar gyfer un uned annedd yn unig. Mae’r safle ar wahân i anheddiad Gwalchmai, a byddai’n amhriodol ymestyn y ffin ddatblygu i gynnwys y safle hwn.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 17 Gwalchmai Gwrthwynebiad 371/148 - Mr a Mrs D Roberts

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Diwygio’r ffin i gynnwys annedd a llain yn cyffinio â hi yr ystyrir eu bod yn rhan o anheddiad Gwalchmai.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Yn unol â strategaeth aneddiadau’r Cyngor nodwyd safle yng Ngwalchmai i ddarparu ar gyfer 7 uned breswyl yn ystod cyfnod y cynllun. Ar ôl gwerthuso’r opsiynau o fewn yr anheddiad ystyrid mai dyma’r mân estyniad mwyaf addas i’r anheddiad am fod y safle yn elwa ar ganiatâd cynllunio sy’n bodoli eisoes.

2.2 Lleolir y safle sydd ag arwynebedd o 0.2ha ar gwr gorllewinol yr anheddiad oddi ar yr A5. I’r gorllewin saif yr eiddo a elwir yn Rose Cottage. I’r de ac i’r dwyrain ceir cefn gwlad agored. Gyferbyn â’r safle tua’r gogledd ceir eiddo preswyl. Mae paragraff 16.32 fel y’i diwygiwyd trwy Newid Arfaethedig PC149, yn nodi ei bod yn briodol rhagdybio 30 afh ar gyfer y Cynllun Datblygu Unedol ond y dylai nodweddion y safle benderfynu’r dwysedd mewn achosion uniogol. Yn achos y safle hwn, bydd lefelau dwysedd o 30 afh yn arwain at ddyrannu 6 uned. Dim ond mynediad unigol sydd gan y safle i’r A5 ac nid oes ganddo unrhyw fynediad i’r lôn annosbarthedig gerllaw Rose Cottage oni wneir gwelliannau i’r gyffordd â’r A5.

3.0 Mater

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 483

3.1 Diwygio’r ffin ddatblygu i gynnwys y safle a nodir ar y map a gyflwynwyd gyda gwrthwynebiad 371/148.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn rhannol gynnwys annedd â chwrtil cysylltiedig a darn o dir maes glas. Yn cyffinio ag ef i’r gogledd mae’r A5 ac yn cyffinio ag ef i’r gorllewin mae ffordd eilradd. I’r de ac i’r dwyrain ceir cefn gwlad agored. I’r gogledd o’r A5 yn yr ardal hon, cynhwyswyd datblygiadau hirgul sy’n bodoli eisoes o fewn y ffin ddatblygu. Mae darn sylweddol o dir agored i’r de o’r A5 i’r dwyrain o dir y gwrthwynebiad. Byddai datblygu tir y gwrthwynebiad yn ei gwneud yn anodd i wrthsefyll pwysau posibl i ddatblygu’r tir hwn yn y dyfodol, a fyddai’n arwain at gryn gynnydd yn y gyfradd twf yng Ngwalchmai. Byddai hefyd yn pwysleisio’r gwaith datblygu sydd wedi ymestyn yn wasgarog yn y lleoliad hwn, ac yn arwain at golli cefn gwlad agored deniadol. Rwyf o’r farn bod digon o ddarpariaeth ar gyfer datblygiadau tai o fewn ffin ddatblygu ddiffiniedig y pentref ynghyd â’r diwygiadau a argymhellais o ran safleoedd gwrthwynebiad penodol.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 17 Gwalchmai Gwrthwynebiad 373/273 - Mr Dewi Griffith Parry

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid ymestyn y ffin ddatblygu i gynnwys cae 3936 yr A.O. at ddibenion adeiladu annedd ar y safle.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Yn unol â strategaeth aneddiadau’r Cyngor nodwyd safle yng Ngwalchmai i ddarparu ar gyfer 7 uned breswyl yn ystod cyfnod y cynllun. Ar ôl gwerthuso’r opsiynau o fewn yr anheddiad ystyrid mai dyma’r mân estyniad mwyaf addas i’r anheddiad am fod y safle yn elwa ar ganiatâd cynllunio sy’n bodoli eisoes.

2.2 Lleolir y safle sydd ag arwynebed o 0.7ha ar gwr gorllewinol yr anheddiad oddi ar yr A5. O bob tu iddo ceir cefn gwlad agored ac wedi’i lleoli yng nghanol y cae mae’r annedd a elwir yn Dan Y Bonc. Gellid darparu mynediad, fodd bynnag byddai hynny yn effeithio ar dir yn Nhan y Bonc. Mae paragraff 16.32 fel y’i diwygiwyd trwy Newid Arfaethedig PC149, yn nodi ei bod yn briodol rhagdybio 30 afh ar gyfer y Cynllun Datblygu Unedol ond y dylai nodweddion y safle benderfynu’r dwysedd mewn achosion unigol. O ran y safle hwn pe ymgorfforid lefel ddwysedd o 30 byddai’n arwain at ddyraniad o 21 o unedau.

3.0 Mater

3.1 Diwygio’r ffin ddatblygu i gynnwys cae 3969 yr A.O.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 484

4.1 Mae gan Walchmai Gynnig T25 ar gyfer 7 uned wedi’i nodi ar gyfer cyfnod y cynllun ac argymhellais hefyd y dylid gwneud dau newid yn y ffin ddatblygu mewn ymateb i Wrthwynebiad 17/588 ar dir yn cyffinio â Llain Delyn, ac mewn ymateb i Wrthwynebiad 375/417 ar dir a chanddo ffryntiad â ffordd yr A5 ym mhen dwyreiniol y pentref. Nid yw’r dystiolaeth yn dangos bod angen tir ychwanegol ar gyfer tai yn yr anheddiad. Mae gan y safle hwn fwy o gysylltiad â chefn gwlad agored nag â’r anheddiad a byddai ymestyn y ffin ddatblygu yn dresmasiad sylweddol, a diangen, ar gefn gwlad.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map Cynigion 17 Gwalchmai Gwrthwynebiad 374/188 H. Charles-Williams

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid cynnwys tir ychwanegol o fewn ffin ddatblygu Gwalchmai.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nid yw’r gwrthwynebiad yn benodol o ran diffinio estyniad i’r ffin ddatblygu.

3.0 Mater

3.1 Cynnwys tir ychwanegol o fewn ffin ddatblygu Gwalchmai.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae Cynnig T25 yn darparu ar gyfer tua 7 uned yn ystod cyfnod y cynllun. Argymhellais hefyd y dylid diwygio’r ffin ddatblygu mewn ymateb i Wrthwynebiad 17/588 ar dir yn cyffinio â Llain Delyn, ac mewn ymateb i Wrthwynebiad 375/417 ar dir a chanddo ffryntiad â ffordd yr A5 ym mhen dwyreiniol y pentref. Nid oes unrhyw angen hollbwysig i ddarparu rhagor o dir preswyl yn y pentref yn ystod cyfnod y Cynllun, ac felly nid oes unrhyw gyfiawnhad dros nodi safleoedd eraill ar gyfer datblygiadau preswyl.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 17 Gwalchmai Gwrthwynebiad 375/417 - Mrs G Grylls

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae angen dyrannu rhagor o dir oherwydd y cyflenwad presennol o dir, y nifer a’r math o dai sydd ar werth, a’r math o dai sy’n cael eu hadeiladu ar yr unig safle a ddyrannwyd ym mhentref Gwalchmai (T25). Lleolir safle’r gwrthwynebiad gyferbyn â Chynnig T25, sydd eisoes wedi’i ddefnyddio bron yn gyfan gwbl. Ni all fod unrhyw wrthwynebiadau

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 485 ffisegol gan y Cyngor i ddatblygu’r safle ar gyfer tai. Byddai datblygu tir ychwanegol yn diwallu anghenion pobl leol o ran tai fforddiadwy, a byddai’n cynnal y gymuned leol hefyd (trwy gefnogi’r iaith Gymraeg ac ati).

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Dyrannwyd T25 yng Ngwalchmai ar gyfer hyd at saith annedd. Ystyrir bod y tir wedi’i integreiddio’n dda i ffurf bresennol y pentref. Pan ddyrannwyd safleoedd yn benodol o fewn y categori Pentrefi, maent wedi’u cyfyngu i nifer yr ystyrir ei bod yn ddigon i ddarparu ar gyfer anghenion lleol y pentref yn ystod cyfnod y cynllun, sef 2001-2016. Ystyrir bod T25 yn talgrynnu ffin y pentref yn daclus.

2.2 Gall cyfleoedd eraill godi o fewn y ffin ddatblygu, ar ffurf safleoedd 'mewnlenwi', gwaith addasu adeiladau, neu gyfleoedd i ailddatblygu darnau bach o dir llwyd. Er bod Gwalchmai yn bentref eithaf mawr, serch hynny ystyrir y byddai’n amhriodol dyrannu gormod o dir o fewn ei ffin, naill ai fel dyraniadau penodol neu fel 'tir amaethyddol', o gofio ei fod wedi’i ddosbarthu fel Pentref yn hierarchaeth aneddiadau’r cynllun.

2.3 Os gellir dangos bod angen darparu tai fforddiadwy ar gyfer y gymuned leol mewn pentref fel Gwalchmai, yna gellir defnyddio’r elfen o Bolisi HP7 yn ymwneud ag 'eithriadau gwledig'. Ni fyddai cynnwys mwy o dir o fewn y ffin ddatblygu yng Ngwalchmai o reidrwydd yn sicrhau tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol, tra byddai caniatáu 'safle eithrio', ar raddfa briodol, yn fwy sensitif i’r ardal ac yn cynnal y gymuned.

3.0 Mater

3.1 Dyrannu tir gyferbyn â Chynnig T25 fel tir ar gyfer tai.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae’r cynllun yn ceisio lefel o ddarpariaeth y gall cymunedau lleol ymdopi â hi. I’r perwyl hwnnw dyrannwyd Cynnig T25 ac ystyriais hefyd newid bach yn y ffin ddatblygu mewn ymateb i Wrthwynebiad 17/588 ar dir yn cyffinio â Llain Delyn. Nid yw safle Gwrthwynebiad 375/417 yn annhebyg i safle Gwrthwynebiad 17/588 am ei fod wedi’i amgáu bron yn gyfan gwbl ar dair ochr gan ffin ddatblygu’r pentref. Byddai tir y gwrthwynebiad yn cyfateb i Gynnig T25 ym mhen dwyreiniol y pentref. Mae Gwalchmai yn bentref mawr, ac nid wyf o’r farn y byddai dyrannu’r safle hwn ynghyd â Chynnig T25 a darn bach o dir yn cyffinio â Llain Delyn yn ormodol mewn perthynas â maint y pentref. Mae’n debyg y byddai’r tri safle hyn yn darparu rhyw 20 uned.

4.2 Mae Polisi HP7 yn galluogi datblygu safleoedd eithrio gwledig ar gyfer tai fforddiadwy, a gall safleoedd tai a ddyrannwyd gyflwyno rhai tai fforddiadwy, gan ddibynnu ar amgylchiadau’r safle a’r angen amdanynt a brofwyd.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio’r cynllun a adneuwyd trwy ddiwygio ffin ddatblygu Gwalchmai fel y’i nodir yn y cynllun a gyflwynwyd gyda Gwrthwynebiad 375/417 a dyrannu’r tir amgaeëdig ar gyfer datblygiadau preswyl. Y dylid cynnwys y dyraniad hwn yn y Rhestr Tir ar gyfer Tai a welir yn Newid Arfaethedig PC169.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 486

Map 18 Llanddaniel Gwrthwynebiadau 150/185 a 150/186 - L W Humphreys

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiad 150/185 yn awgrymu y dylid ymestyn ffin ddatblygu’r anheddiad i gynnwys darn o dir ar y Ffordd B tua’r Star Crossroads. Mae Gwrthwynebiad 150/186 yn awgrymu y dylid dyrannu tir wrth ochr y ffordd o Landdaniel Fab i Star Crossroads ar gyfer “uchafswm o 4 tþ uwchradd”.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai cynnwys y tir hwn o fewn y ffin ddatblygu yn arwain at ddatblygiadau hirgul annerbyniol a fyddai’n niweidio cymeriad y lleoliad hwn, a natur agored cefn gwlad yn yr ardal dan sylw. Nid y safle yw’r lleoliad mwyaf priodol hyd yn oed pe bai angen tai ychwanegol ym mhentref Llanddaniel. Nid oedd digon o reswm mewn unrhyw benderfyniad arall a wnaed ynghylch datblygiadau ar hyd y ffordd i’r de-ddwyrain o’r pentref tua’r A4080 i oresgyn y pryder hwn.

3.0 Materion

3.1 Ymestyn ffin ddatblygu Llanddaniel i gynnwys tir y gwrthwynebiad a thir i’r de- orllewin tua ffin y pentref, ynghyd â’r eiddo Noddfa a Benlas dros y ffordd o dir y gwrthwynebiad.

3.2 Dyrannu tir sydd â ffryntiad â’r ffordd o Landdaniel i Star Crossroads ar gyfer datblygiadau preswyl, a nodi’r grðp o dai gyda’r dyraniad hwn o dan Bolisi HP5 fel Pentrefan/Clwstwr yng Nghefn Gwlad.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn safle maes glas yng nghefn gwlad agored, ac mae ar wahân i bentref Llanddaniel fel y’i diffinnir gan ei ffin ddatblygu. Yn cyffinio â’r tir i’r de- orllewin mae tair annedd sy’n ffurfio datblygiad hirgul byr ar ochr y ffordd, ac yn wynebu tir y gwrthwynebaid ar yr ochr arall i’r ffordd mae datblygiad hirgul o wyth annedd. Adeiladwyd nifer o’r anheddau hyn yn ddiweddar a nodir i ganiatâd cynllunio gael ei roi iddynt o fewn y 15-20 mlynedd diwethaf.

4.2 Mae’r system cynllunio Gwlad a Thref yng Nghymru a Lloegr ers y 1930au wedi ceisio rheoli’r gwaith o ddatblygu anheddau ar ffryntiadau ochr y ffordd yng nghefn gwlad, ac fel estyniadau i aneddiadau sy’n bodoli eisoes. Nid oes gennyf unrhyw wybodaeth am yr amgylchiadau arbennig a all fod wedi’u hystyried o ran ceisiadau a chaniatâd cynllunio yn ymwneud â’r anheddau a adeiladwyd yn ddiweddar y cyfeiriwyd atynt uchod. Un o’r tri rheswm a gynigiwyd yn y gwrthwynebiadau yw y dylai derbynioldeb y gwaith datblygu diweddar hwn fod yr un mor berthnasol i dir y gwrthwynebiad. Câi dilyn yr ymagwedd hon effaith drychinebus ar y dirwedd wledig a fyddai’n groes i egwyddorion cynaliadwyedd.

4.3 Mae rhesymau eraill a gynigiwyd yn ymwneud â’r cyfleusterau gwell ym mhentref Llanddaniel, a’r galw uwch am eiddo teuluol mwy o faint ar ôl adeiladu Ffordd Gyflym

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 487 newydd yr A55 i Gaergybi. Nid yw’r un o’r rhesymau a gyniwyd yn cyfiawnhau datblygu tai newydd yng nghefn gwlad ac ymestyn darn hirgul anghysbell o ddatblygiadau tai.

4.4 Mae’r ddau wrthwynebiad yn groes i’r egwyddorion sefydledig o ddyrannu tir ar gyfer datblygiadau tai o fewn ffiniau aneddiadau, ac ar ben hynny byddai’n arwain at niwed difrifol i olwg ac ansawdd y dirwedd wledig ac at golli cefn gwlad agored. Byddai ailddiffinio ffin ddatblygu Llanddaniel fel y ceisir yng Ngwrthwynebiad 150/185 yn arwain at ymestyn datblygiad hirgul gryn dipyn a fyddai’n debygol o waethygu’r niwed difrifol a fyddai’n deillio o ddatblygu tir y gwrthwynebiad. Rwyf hefyd o’r farn y byddai’r diffiniad o’r darn hirgul presennol o ddatblygiadau tai yn cynnwys tir y gwrthwynebiad fel Pentrefan/Clwstwr yng Nghefn Gwlad yn amhriodol. Dim ond gwanhau’r rheolaeth dros bwysau datblygu tai yn y lleoliad hwn a wnâi, rheolaeth y dylid ei gweithredu’n llym er mwyn atal cefn gwlad rhag cael ei anrheithio ymhellach gan ddatblygiadau hirgul.

5.0 Argymhellion

5.1 Na ddylid diwygio ffin ddatblygu Llanddaniel.

5.2 Na ddylid dyrannu tir y gwrthwynebiad ar gyfer datblygiadau preswyl.

5.3 Na ddylid nodi tir y gwrthwynebiad a datblygiadau tai gerllaw ym Mholisi HP5 fel Pentrefan/Clwstwr yng Nghefn Gwlad.

5.4 Gwneir yr argymhellion hyn mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Map 18 Llanddaniel Gwrthwynebiad 211/1435 - Cyngor Cymuned Llanddaniel-Fab 231/11 – Ms. Carolyn Watcyn

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae’r gwrthwynebiadau yn awgrymu y dylid dyrannu mwy o dir ar gyfer tai yn Llanddaniel.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Newid Arfaethedig PC540 yn ymestyn y ffin ddatblygu ac yn dynodi tir ychwanegol o fewn Cynnig T26 yn Llanddaniel. Byddai’r newid hwn yn bodloni gofynion Gwrthwynebiad 231/11.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Nid oes unrhyw wrthwynebiadau cofnodedig i Newid Arfaethedig PC540, ac felly rwy’n cymeradwyo ei gynnwys yn y cynllun.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio’r cynllun a adneuwyd trwy ymestyn Cynnig T26 fel dyraniad tir preswyl fel y nodir o dan Newid Arfaethedig PC540, a chynnwys y tir hwn o fewn ffin ddatblygu Llanddaniel.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 488

Map 18 Llanddaniel Gwrthwynebiad 31/1110 - Plaid Werdd Sir y Fflint Newid Arfaethedig 541 Llanddaniel Gwrthwrthwynebiad 525/2488 – Mr William Davies

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad a’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Mae Gwrthwynebiad 31/1110 yn awgrymu y dylid diwygio ffin ddatblygu Llanddaniel er mwyn hepgor y dyraniad T26. Mae Gwrthwrthwynebiad 525/2488 yn awgrymu y dylid ymestyn y ffin ddatblygu ddiwygiedig o dan Newid Arfaethedig PC541 i’r de-orllewin tua Pharc Busnes Daniel.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 O ran Gwrthwynebiad 31/1110, mae angen dyraniad T26 i gyflawni strategaeth aneddiadau’r cynllun sy’n seiliedig ar nodi dyraniad tai bach ym mhob pentref yn yr hierarchaeth aneddiadau. Mewn ymateb i Wrthwrthwynebiad 525/2488, ni fyddai gan yr estyniad i ffin ddatblygu’r pentref a geisir gan y gwrthwynebydd gysylltiad da â ffurf bresennol y pentref ac fe’i gwelid fel estyniad annerbyniol a fyddai’n amharu ar ei gymeriad a’i leoliad yng nghefn gwlad.

3.0 Materion

3.1 Dileu Cynnig T26.

3.2 Ymestyn ffin ddatblygu Llanddaniel i’r de-orllewin ar hyd y ffryntiad ffordd i ddarparu ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae’r gwrthwynebiad yn nodi bod digon o dir amaethyddol o fewn y pentref i ddarparu ar gyfer T26 i fodloni meini prawf datblygu cynaliadwy. Nodaf fod y Cyngor, o dan Bolisi PC540, wedi ymestyn Cynnig T26 i gynnwys y cae cyfan sydd ag arwynebedd o 0.5 hectar. Nodir bod hyn yn dal i ddarparu ar gyfer 5 annedd yn PC169. Mae’n debyg bod hyn yn amcangyfrif rhy isel. Nid oes unrhyw wrthwynebiadau cofrestredig i PC540, ond mae’n amlwg na allai fynd yn ei flaen pe câi Cynnig T26 ei ddileu.

4.2 Yn seiliedig ar fy asesiad o’r potensial ar gyfer darparu tai yn y pentref trwy waith mewnlenwi, dof i’r casgliad bod y potensial hwn yn gyfyngedig iawn. Yn hynny o beth, nid wyf o’r farn y dylid dileu Cynnig T26. Rwyf hefyd yn cytuno â PC540 a allai ddarparu ar gyfer datblygu tua 10 i 12 annedd o leiaf. Mae’r safle maes glas yn agos at ganol y pentref, ac mae wedi’i amgáu i gryn raddau ar dair ochr gan ddatblygiadau preswyl sy’n bodoli eisoes.

4.3 O ran PC541 sy’n cwblhau datblygiad ffryntiad ffordd i’r gorllewin o Blas Hen, nodaf nad oes unrhyw wrthwynebiadau i’r Newid Arfaethedig hwn ynddo’i hun. O ran PC541, cytunaf â’r Cyngor y byddai’n ‘talgrynnu’ datblygiadau yn y gornel hon o’r pentref. Gallai gwaith datblygu, er enghraifft i adeiladu tai teras, ddarparu ar gyfer tua 6 annedd. Byddai’r math hwn o ddatblygiad yn gydnaws â datblygiadau tai yng nghanol y pentref. Gyda’i

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 489 gilydd, gallai’r safle hwn a chynnig T26 ddarparu a’r gyfer tua 16 i 18 o anheddau. Rwyf o’r farn bod hyn yn gynnydd rhesymol mewn tai newydd yn y pentref bach hwn.

4.4 Byddai ymestyn y ffin ddatblygu i gwmpasu tir ffryntiad ffordd i’r de-orllewin at y datblygiad masnachol fel y ceisir yng Ngwrthwynebiad 525/2488 yn arwain at dresmasu gan ddatblygiadau tai ar dir agored y mae ganddo gysylltiad agosach â chefn gwlad nag â datblygiadau adeiledig yn y pentref. Byddai’r datblygiad hwn, pe cytunid arno yn wahanol iawn i ffurf gryno’r datblygiad pentrefol presennol a byddai’n amharu ar leoliad a chymeriad y pentref. Mae gwrthwynebiad 525/2488 yn nodi bod galw ymhlith pobl leol ar gyfer tai yn Llanddaniel y dylid ei ateb. Mae pryder hefyd ynghylch fforddiadwyedd yn arbennig yng ngoleuni’r cynnydd mewn prisiau tai a welwyd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

4.5 Mae Polisi HP7 yn galluogi datblygu tai fforddiadwy naill ai fel rhan o ddatblygiadau’r farchnad agored neu trwy ryddhau tir, yn eithriadol, mewn lleoliadau priodol. Rheolir datblygiadau o’r fath fel arfer gan Gymdeithasau Tai, ac efallai y caiff deiliaid datblygiadau o’r fath eu dethol. O fewn telerau polisïau cynlluniau datblygu, ni ellir cymhwyso’r fath reolaethau at dir a ddyrannwyd ar gyfer tai na thir arall a leolir y tu mewn i ffiniau datblygu. Nid oes unrhyw ffordd o sicrhau mai pobl leol y mae angen tai arnynt fydd yn byw mewn anheddau a adeiledir ar y tir y cyfeirir ato yng Ngwrthwynebiad. Fel y nodwyd, rwyf o’r farn bod y tir ar gyfer tai a gynigir yng Nghynnig T26 (fel y’i hymestynnir yn PC540) ac ar dir a nodir yn PC541 mewn lleoliad da mewn perthynas â fframwaith y pentref, a’i fod yn lefel ddigonol o ddarpariaeth ar gyfer y pentref.

5.0 Argymhellion

5.1 Y dylid diwygio’r cynllun a adneuwyd yn unol â Newidiadau Arfaethedig PC540 a PC541, ac y dylid cadw Cynnig T26 y cynllun a adneuwyd. Na ddylid gwneud unrhyw ddiwygiadau eraill i’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i Wrthwynebiadau 31/1110 a 525/2488.

Map 20 Llanddona Gwrthwynebiad 31/1111 - Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad yn awgrymu y dylid diwygio’r ffin ddatblygu er mwyn ei thynnu’n ôl i gyd-fynd â ffin yr AOHNE.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Roedd yn rhaid i’r Cyngor ystyried ffin yr AOHNE wrth benderfynu ar ffin ddatblygu briodol ar gyfer pentref Llanddona. Datblygodd yr anheddiad yn wasgarog a cheir darnau o dir comin o fewn y ffin na fyddant ar gael i’w datblygu. Y ffin a nodir ar y Map Cynigion ar gyfer yr anheddiad yw’r un mwyaf priodol ar gyfer rheoli datblygu, er ei bod yn dresmasu ychydig bach ar yr AOHNE.

3.0 Mater

3.1 Ailddiffinio ffin ddatblygu Llanddona fel ei bod yn dilyn ffin yr AOHNE.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 490

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae ffin ddatblygu Llanddona ar yr ochr orllewinol yn eithaf clir ar y ddaear. Nid yw’r ffaith bod ardal wedi’i dynodi fel AOHNE yn gwahardd datblygiadau adeiledig ond byddai angen rhoi sylw i safle blaenllaw’r dirwedd. Mae’r gwrthwynebiad yn awgrymu y dylid hepgor holl ddatblygiadau’r pentref a leolir yn yr AOHNE o’r ffin ddatblygu. Byddai hynny’n amhriodol, yn arbennig mewn ardaloedd megis rhan dde-orllewinol y pentref lle y mae datblygiad ar ffurf ystad gryno nad oes ganddo unrhyw werth ynddo’i hun o ran y dirwedd. Gallai’r ymagwedd gyferbyniol lle yr adolygir ffin yr AOHNE ar gyfer y dyfodol ystyried hepgor yr ardal hon o’r dynodiad. Nid mater ar gyfer fy ystyriaeth i ydyw. Fodd bynnag, ni chytunaf â’r gwrthwynebiad fel y’i cyflwynwyd.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 20 Llanddona Gwrthwynebiad 182/1446 - J.A. Roberts

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid cynnwys tir yn cyffinio â Rhif 1, Tai Bach, Llanddona yn y cynllun ar gyfer datblygiadau preswyl.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Ni wnaed unrhyw ddyraniad penodol yn Llanddona oherwydd natur wasgaredig iawn yr anheddiad. Caiff anghenion y gymuned o ran tai eu diwallu trwy ddarparu lleiniau mewnlenwi ar safleoedd ar hap a dylid gofalu na chollir cymeriad gwasgaredig yr anheddiad.

3.0 Mater

3.1 Cynnwys tir yn Rhif 1, Tai Bach, Llanddona ar gyfer datblygiadau tai.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Lleolir y safle bach hwn sydd ag arwynebedd o ryw 0.1 hectar o fewn ffin ddatblygu Llanddona. Mae rhagdybiaeth o blaid datblygiadau o fewn y ffin hon. Mater i’r broses rheoli datblygu fydd nodi p’un a yw’r safle yn addas ar gyfer datblygiadau tai. Nid yw’n ddigon mawr i gyfiawnhau dyraniad yn y cynllun.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 21 – Cynnig T28 Gwrthwynebiadau 130/440, 441, 445 - Mrs M Davidson / Ymddiriedolaeth Mill Bank 232/1213 – G Harrison

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 491

233/627 – P Laszek 238/1426 – C Newton

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiad 130/440 yn awgrymu y dylid diwygio ffin ddatblygu Cynnig T28 fel y’i nodir ar y cynllun a gyflwynwyd i’r Cyngor ac a gydnabuwyd trwy lythyr dyddiedig Ionawr 2002. Mae Gwrthwynebiadau 130/441 a 130/445 yn awgrymu y dylid cynyddu’r ffigur wedi’i ddosrannu ar gyfer ardal Afon Menai a diddymu’r strategaeth atal datblygu yn achos yr is-ardal. Mae Gwrthwynebiadau 232/1213, 233/627, a 238/1426 yn awgrymu y dylid dileu Dyraniad Tai – Cynnig T28.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mewn ymateb i Wrthwynebiad 130/440, nid oes angen y tir ychwanegol a geisir gan y gwrthwynebwyr i fodloni gofynion tai’r is-ardal am fod digon o dir wedi’i ddyrannu. Mae’r penderfyniad i roi caniatâd cynllunio ar gyfer 21 o dai ar apêl ar 4/7/02 yn ddigon ar gyfer y pentref ac i fodloni gofynion tai’r is-ardal. Mae Newidiadau Arfaethedig PC542 a PC543 yn ymwneud â’r tir hwn sy’n elwa ar ganiatâd cynllunio sy’n bodoli ar gyfer 21 o anheddau. Byddai ymestyn y ffin ddatblygu ymhellach i gefn gwlad agored yn gyfystyr â gorddatblygu’r anheddiad. Yn ffinio â’r safle ar ddwy ochr ceir cefn gwlad a byddai ei ddatblygu yn dresmasiad ar gefn gwlad agored.

2.2 Mae’r Cyngor, wrth baratoi Strategaeth Aneddiadau’r Cynllun Datblygu Unedol, yn ceisio cynnal cymunedau cynaliadwy. Mewn ymateb i Wrthwynebiadau 130/441 a 130/445, dynodwyd ardal Afon Menai fel ardal atal datblygu am nifer o resymau. Barn y gymuned o fewn yr is-grðp hwn yw bod llawer o’r trefi wedi tyfu’n gyflym yn ystod y 30 mlynedd diwethaf a bod angen cyfnod pryd y caiff gwaith datblygu ei ffrwyno er mwyn iddynt barhau i fod yn gynaliadwy. Mae Llandegfan yn gweithredu i raddau helaeth fel ardal noswylio ar gyfer Bangor, a cheir ystadau tai modern yng nghanol yr adeiladau hþn.

3.0 Materion

3.1 Dyrannu’r tir yn cyffinio â Newid Arfaethedig PC542, ar gyfer datblygiadau preswyl. Cynyddu’r ddarpariaeth anheddau ddosranedig ar gyfer grðp Afon Menai i adlewyrchu’r dyraniad llawn – y cyfeirir ato ym mharagraffau 16.35 ac 16.36.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Cynigir Newidiadau Arfaethedig PC542 a PC543 yn ymwneud â Chynnig T28 gan y Cyngor i adlewyrchu’r ddau ganiatâd cynllunio a roddwyd ar apêl ym mis Gorffennaf 2002 ar gyfer adeiladu 21 o anheddau ar dir a nodir fel Cynnig T28 ar Fap 21 – Llandegfan y cynllun a adneuwyd, ac fel y’i hymestynnir o dan PC542.

4.2 Mae Llandegfan yn bentref o ryw 1300 o drigolion. Ardal breswyl ydyw yn bennaf ac nid oes fawr ddim swyddi lleol. Fe’i lleolir yn agos at Afon Menai ac at Barth Arfordirol Afon Menai sydd wedi’i ddynodi fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AOHNE). Mae Gwrthwynebiad 130/440 yn awgrymu y dylid ymestyn ymhellach yr ardal a ddyrannwyd o dan PC542 ar gyfer datblygiadau preswyl. Dyma ardal y gwrthwynebiad y mae’r Cyngor yn tybio ei bod wedi’i nodi ar y cynllun a gyflwynwyd gyda’r gwrthwynebiad a wnaed yn briodol dyddiedig Rhagfyr 2001.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 492

4.3 Fel y nodwyd gan y Cyngor yn ei destun sy’n mynd gyda Map 21, mae Llandegfan wedi tyfu gryn dipyn ers dechrau’r 1960au, ac adlewyrchir hyn yng nghynlluniau’r ystadau tai traddodiadol sy’n ffurfio’r rhan fwyaf o’r pentref. Bydd y Cynigion PC542 a PC543 yn caniatáu ymestyn y gwaith datblygu hwn dipyn bach gyda 21 o anheddau eraill. Mae gan dir y gwrthwynebiad - Dyraniad Tai T28 - fel y’i nodir yn y cynllun drafft wedi’i adneuo ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau preswyl ac felly mae wedi’i neilltuo at ddibenion ei ddatblygu. Mewn ymateb i wrthwynebiad 130/440, ni allaf weld unrhyw reswm penodol pam y dylai’r pentref barhau i ymestyn i dir maes glas y tu hwnt i’r darnau hynny o dir sydd â chaniatâd cynllunio. Ardal breswyl yw Llandegfan yn bennaf ac nid oes fawr ddim swyddi lleol. Pobl wedi ymddeol neu bobl â swyddi y tu allan i’r pentref fydd am brynu tai newydd yma mwy na thebyg, a bydd hynny yn arwain at fwy o allgymudo i’r gwaith mewn ceir. Nid yw ymestyn y pentref ymhellach a fydd yn arwain at golli safleoedd meysydd glas deniadol yn enghraifft o ddatblygu cynaliadwy. Ac nid oes unrhyw gyfiawnhad drosto ar sail anghenion lleol ychwaith.

4.4 Yng nghyd-destun tir y gwrthwynebiad a’r ddarpariaeth tir ar gyfer tai ar gyfer Is- ardaloedd Grðp, nid wyf o’r farn y dylid ystyried bod yr ymagwedd tuag at ddosrannu’r ddarpariaeth anheddau newydd yn seiliedig ar y fethodoleg a nodir ym mharagraff 16.35 y cynllun yn gwota sefydlog. Mae’n gwneud y tro fel ymagwedd gyntaf. Mae ffactor cynaliadwyedd sy’n ystyried y ddarpariaeth leol o swyddi, gwasanaethau a chyfleusterau lleol a’r angen i gwtogi hyd yr eithaf ar deithio i’r gwaith mewn ceir yn bwysicach o lawer.

4.5 Rwy’n cytuno â’r penderfyniad i ddewis Amlwch, Caergybi a Llangefni fel y tri phrif anheddiad ar yr Ynys. Dyma’r canolfannau cyflogaeth allwedol a’r lleoliadau mwyaf cynaliadwy ar gyfer datblygiadau tai newydd. Wrth ystyried faint o dir y dylid ei ddarparu ar gyfer tai yn y Canolfannau Eilaidd (Polisi HP3) a’r pentrefi (Polisi HP4), bydd maint datblygiadau yn amodol yn benodol ar ystyriaethau amgylcheddol a ffactorau cynaliadwyedd.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio’r cynllun a adneuwyd fel y nodir yn Newidiadau Arfaethedig 169, 542 a 543, ond na ddylid gwneud unrhyw ddiwygiadau eraill mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Map 21 Llandegfan Gwrthwynebiadau 234/204, 1358 - Y Cynghorydd E Griffith Davies 235/758 - Cyngor Cymuned Cwn Cadnant 236/85 - Mr Hugh A Roberts 237/139 - Mr Hywel A Roberts

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae’r gwrthwynebiadau yn awgrymu y dylai ffin ddatblygu Llandegfan ddychwelyd i’r hyn a nodir ar Gynllun Datblygu Unedol Drafft Ynys Môn i gynnwys cae rhif 5372 yr A.O..

2.0 Ymateb y Cyngor

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 493

2.1 Mae Llandegfan wedi’i ddosbarthu fel pentref o fewn is-ardal tai Afon Menai. Mae’r pentref yn elwa ar safle, a elwir yn Mill Lodge, sydd â chaniatâd cynllunio sy’n bodoli eisoes ar gyfer 21 o anheddau y rhoddwyd caniatâd iddynt ar apêl ar 04/07/02. Dangosir y safle hwn fel dyraniad T28 (Newid Arfaethedig PC542). Nid oes angen y tir ychwanegol a geisir o fewn y pentref gan y gwrthwynebwyr i fodloni gofyniad tai’r is-ardal. Lleolir y safle ar lethr sy’n wynebu’r de ym mhen de-orllewinol y pentref. Oherwydd topograffi’r safle byddai unrhyw waith datblygu ar y safle hwn yn ymwthiol yn weledol i’r dirwedd am fod y safle yn codi o 75 o fetrau ar y gwaelod i 90 o fetrau lle y mae ar ei uchaf.

2.2 Mae’r ffin ddatblygu yn y lleoliad hwn yn adlewyrchu’r ffin a nodwyd yng Nghynllun Lleol Ynys Môn ac mae’n cynnwys rhan fach o gae 5372 yr A.O. o fewn ffin yr anheddiad. Ni fyddai’r Cyngor am weld y safle maes glas hwn yn ei gyfanrwydd yn cael ei ddatblygu yn ogystal â’r safle sydd â chaniatâd cynllunio sy’n bodoli eisoes.

3.0 Mater

3.1 Diwygio ffin ddatbygu Llandegfan i gynnwys cae 5372 yr A.O. ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.0 Casgliadaur’r Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn cynnwys safle maes glas ag arwynebedd o 1.45 hectar. Mae’n cyffinio â datblygiadau preswyl sy’n bodoli eisoes ar ochr orllewinol y pentref. Darperir o dan Newidiadau Arfaethedig PC542 a PC543 ar gyfer datblygu 0.99 hectar gan ddarparu 21 o anheddau yn Mill Lodge ar ochr ogleddol y pentref. Mae’r tir hwn yn elwa ar ganiatâd cynllunio sy’n bodoli.

4.2 Byddai tir y gwrthwynebiad a gynigiwyd at ddibenion ei ddatblygu yn arwain at estyniad ymwthiol ac annerbyniol o ardal adeiledig Llandegfan i gefn gwlad agored a fyddai’n niweidio ei gymeriad ac ar y dirwedd wledig. Yn ffinio ag ef ar dair ochr ceir cefn gwlad, a phes datblygid, gallai ei gwneud yn anos i’r Cyngor wrthsefyll pwysau posibl i ryddhau tir maes glas cyffiniol i’r gogledd ar gyfer datblygiadau tai wrth adolygu’r cynllun datblygu yn y dyfodol.

4.3 Ardal breswyl yw Llandegfan yn bennaf ac nid oes fawr ddim swyddi lleol. Gallai tir y gwrthwynebiad ddarparu ar gyfer 44 o anheddau ychwanegol ar ddwysedd o 30 o anheddau fesul hectar. Pobl wedi ymddeol neu bobl â swyddi y tu allan i’r pentref fydd am brynu tai newydd yma mwy na thebyg, a bydd hynny yn arwain at fwy o allgymudo i’r gwaith mewn ceir. Nid yw ymestyn y pentref ymhellach a fydd yn arwain at golli safleoedd meysydd glas deniadol yn enghraifft o ddatblygu cynaliadwy, ac nid oes unrhyw gyfiawnhad drosto ar sail anghenion lleol ychwaith. Rwyf o’r farn bod y ddarpariaeth a wnaed ar gyfer 21 o anheddau eraill ar Gynnig T28 (ac fel y’i newidiwyd) yn ddigonol ar gyfer Llandegfan.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Map 21 Llandegfan Gwrthwynebiad 265/1477 - Charles Owen Properties

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 494

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad yn awgrymu y dylid dyrannu cae 5315 yr A.O. ar gyfer dyraniad preswyl. Mae’r gwrthwynebydd yn nodi ei fod yn berchen ar lain o dir ym mhen y man troi y byddai ei angen i wasanaethu dyraniad tai arfaethedig T28 yn yr anheddiad ac mae’n nodi nad yw’n fodlon ildio’r llain hon o dir.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Yn unol â strategaeth aneddiadau’r Cyngor nodwyd safle yn Llandegfan i ddarparu ar gyfer 21 o unedau preswyl yn ystod cyfnod y cynllun (fel y nodir yn PC542 a PC543). Ar ôl gwerthuso’r opsiynau o fewn yr anheddiad ystyrid mai dyma’r mân estyniad mwyaf addas i’r anheddiad. Mae’r safle yn elwa ar ganiatâd cynllunio sy’n bodoli eisoes ar gyfer 21 o anheddau y rhoddwyd caniatâd iddynt ar apêl ar 4/7/02. Nid oes angen safle’r gwrthwynebiad i fodloni gofyniad tai’r cynllun.

2.2 Hysbyswyd y Cyngor bod y llain o dir pridwerth y mae’r gwrthwynebwyr yn cyfeirio ati o ran safle Mill Lodge bellach wedi’i gwerthu i’r datblygwr ac nad yw’n rhwystro’r datblygiad rhag mynd yn ei flaen bellach.

3.0 Mater

3.1 Diwygio ffin ddatblygu Llandegfan i gynnwys cae 5315 yr A.O. fel darn arall o dir ar gyfer datblygiadau tai yn lle Cynnig T28.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn safle maes glas ag arwynebedd o 0.63 hectar. Mae’n cyffinio â’r ffin ddablygu ar ochr ogleddol y pentref. O dan Newidiadau Arfaethedig PC542 a PC543, mae’r cynllun yn darparu ar gyfer 21 o anheddau yn Mill Lodge, Llandegfan. Mae gan y ddau ddarn o dir a nodir fel Cynnig T28 ganiatâd cynllunio ar gyfer eu datblygu, ac nid yw’r Cyngor o’r farn bod mater llain o dir pridwerth yn rhwystro’r datblygiad rhag mynd yn ei flaen.

4.2 Byddai tir y gwrthwynebiad a gynigiwyd at ddibenion ei ddatblygu yn arwain at estyniad annerbyniol ac ymwthiol o ardal adeiledig Llandegfan i gefn gwlad agored deniadol. Mae ffin ddatblygu’r pentref yn glir yn y lleoliad hwn, ond gallai tir y gwrthwynebiad, pes datblygid, ei gwneud yn anos i’r Cyngor wrthsefyll pwysau posibl i ryddhau tir maes glas cyffiniol i’r gogledd-ddwyrain ar gyfer datblygiadau tai pan adolygir y cynllun datblygu yn y dyfodol. Nid yw ymestyn y pentref a fydd yn arwain at golli safleoedd meysydd glas deniadol i gefn gwlad agored yn enghraifft o ddatblygu cynaliadwy, ac nid oes unrhyw gyfiawnhad drosto ar sail anghenion lleol ychwaith. Rwyf o’r farn bod y ddarpariaeth ar gyfer 21 o anheddau eraill ar Gynnig T28 (ac fel y’i newidiwyd) yn ddigonol ar gyfer Llandegfan.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 495

Map 22 Llannerch-y-medd Newid Arfaethedig PC544 Gwrthwrthwynebiadau 421/2185 - Mr G Andrews 439/2112 - Mr Arfon Jones

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiadau

1.1 Ni ddylid tynnu’r ffin ddatblygu yn ôl ar dir yn cyffinio â Bwthyn yr Onnen, Llannerch-y-medd. Dylid adfer y ffin ddatblygu i’r hyn a ddangosir yn y fersiwn wedi’i adneuo o’r cynllun.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Cyflwynwyd Newid Arfaethedig PC544 i ddiogelu’r coed aeddfed ar y safle rhag gwaith datblygu. Gellir gweld y coed o’r Stryd Fawr o fewn y pentref; gellir eu gweld hefyd o’r ddwy ffordd gyffiniol ac o ystad dai’r Awdurdod Lleol gerllaw. Ymhellach i ffwrdd gellir eu gweld hefyd o’r fynwent a’r llwybr cyhoeddus i’r de o’r pentref. Maent yn darparu cefnlen i’r adeiladau a leolir ar y Stryd Fawr ac maent yn gweithredu fel clustogfa i gwr y pentref yn cyffinio â chefn gwlad agored. Fe’i lleolir o fewn ardal lle nad oes llawer iawn o goed.

3.0 Mater

3.1 Adfer ffin ddatblygu Llannerch-y-medd i’r hyn a ddangosir ar Fap 22 y cynllun a adneuwyd.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae gan Lannerch-y-medd ddau ddyraniad tir ar gyfer tai eisoes – sef Cynigion T29 a T30 y disgwylir y byddant yn darparu 44 o anheddau yn ystod cyfnod y cynllun. Nid oes angen rhagor o gyfleoedd datblygu o fewn yr anheddiad. Ar y map, ymddengys fod y ffin ddatblygu wedi’i thynnu’n rhesymegol i ddilyn y llinell o ddatblygiadau rhwng yr anheddiad a chefn gwlad agored. Ar y ddaear, fodd bynnag, mae’n amlwg bod gan yr ardal hon gymeriad mwy agored fel tir cefn i eiddo y mae ganddo ffryntiad â’r Stryd Fawr. Mae’r coed aeddfed ar y safle o gryn werth amwynder, ac maent yn gweithredu fel clustog werthfawr rhwng datblygiadau adeiledig yn y pentref a chefn gwlad agored gerllaw.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid newid Newid Arfaethedig PC544 mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn ac y dylid diwygio y cynllun a adneuwyd yn unol â Newid Arfaethedig PC544

Map 23 – Cynnig T31 Gwrthwynebiadau 221/294 - M Jones 222/315 - Mr R J Wright 223/603 – O C Parry

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Dileu Cynnig T31 yn Llanfachraeth a gwneud dyraniad rywle arall yn y pentref.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 496

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Er mwyn cydymffurfio â strategaeth tai’r cynllun mae angen dyrannu nifer briodol o anheddau o fewn Llanfachraeth. Ymchwiliwyd i safleoedd eraill yn yr ardal ond fe’u diystyriwyd oherwydd amrywiaeth o gyfyngiadau a hwn yw dewis safle’r Cyngor o hyd.

3.0 Mater

3.1 A ddylid dileu Cynnig T31.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Dyraniad cymharol fach yw hwn a chanddo arwynebedd o 0.19 hectar ar gyfer datblygiadau preswyl sy’n darparu tua phum annedd yn Llanfachraeth. Mae’r tir wedi’i amgáu i gryn raddau gan ddatblygiadau cyfagos, a maes chwarae. Nid yw pryderon ynghylch colli golygfeydd o eiddo gerllaw yn rheswm dilys dros wrthod y dyraniad, na’r gostyngiad yng ngwerth eiddo ychwaith.

4.2 Nodaf bryderon yn ymwneud â materion traffig wrth yr Ysgol Gynradd gerllaw ac ar hyd yr A5025. Yn ddiau bydd y materion hyn yn ystyriaeth pan gyflwynir cais cynllunio ar gyfer gwaith datblygu i’r Cyngor Sir ac y rhoddir mesurau priodol yn ymwneud â’r datblygiad ar waith. Nid wyf o’r farn bod y materion hyn yn ddigon pwysig i gyfiawnhau dileu Cynnig T31. Lleolir y tir a ddyrannwyd o fewn fframwaith y pentref, ac mae’n darparu ar gyfer datblygiad ar raddfa fach.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Map 23 Llanfachraeth Gwrthwynebiad 224/547 Penseiri Russell-Hughes

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Diwygio’r ffin ddatblygu i gynnwys tir i’r de o ystad dai Roebuck, Llanfachraeth.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nid oes angen ymestyn y ffin ddatblygu i gynnwys safle’r gwrthwynebiad. Mae dyraniad tai T31 yn darparu’r nifer briodol o anheddau sydd eu hangen ar gyfer Llanfachraeth ac ystyrir mai dyma’r safle mwyaf addas o fewn yr anheddiad. Nid oes angen dyraniadau ychwanegol ar y cynllun a byddent yn groes i bolisi cenedlaethol. Nid oes angen safle’r gwrthwynebiad ac oherwydd cyfyngiadau priffyrdd nid yw’n addas i’w gynnwys o fewn y ffin ddatblygu. Dylai’r safle aros ar wahân i’r anheddiad a dylai aros yng nghefn gwlad agored.

3.0 Mater

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 497

3.1 Diwygio ffin ddatblygu Llanfachreth i gynnwys tir a leolir rhwng ystadau tai Roebuck a Pharc Llynnon, a’i ddyrannu ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn cynnwys tir maes glas ag arwynebedd o 1.1 hectar, ac mae wedi’i amgáu bron yn gyfan gwbl gan ddatblygiadau preswyl. Nodaf wrthwynebiad y Cyngor yn ymwneud â chyfyngiadau priffyrdd a mynediad, ond nid yw’r wybodaeth ger fy mron yn fy argyhoeddi na ellir goresgyn y rhain.

4.2 Gallai tir y gwrthwynebiad ddarparu tua 30 o anheddau, a fyddai’n lefel sylweddol o dwf mewn perthynas â maint y pentref (sydd â 167 o anheddau, fel yr amcangyfrifwyd ym 1991). Rwyf o’r farn y byddai twf ar y raddfa hon yn ormodol mewn perthynas â maint ac anghenion y pentref. Mae gan y tir, o ran y ffaith ei fod wedi’i amgáu, gryn werth amwynder i drigolion eiddo cyfagos, ac mae hefyd yn rhoi cymeriad agored i ffurf y pentref.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 23 Llanfachraeth Gwrthwynebiad 225/579 Mr R Cowep

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid ymestyn ffin y pentref i gynnwys Cae 4007 yr A.O..

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Yn unol â strategaeth aneddiadau’r Cyngor, nodwyd Cynnig T31 yn Llanfachraeth i ddarparu ar gyfer 5 uned breswyl yn ystod cyfnod y cynllun ar dir yn cyffinio â’r ysgol gynradd. Ar ôl gwerthuso’r opsiynau o fewn yr anheddiad ystyrid mai dyma oedd y mân estyniad mwyaf addas i’r anheddiad. Mae safle’r gwrthwynebiad yn ddatblygiad gwasgaredig nad yw’n gysylltiedig ag anheddiad Llanfachraeth a byddai ei gynnwys o fewn yr anheddiad yn arwain at dresmasu ar gefn gwlad agored.

2.2 Er mwyn sicrhau bod llain welededd o 2.4m x 120m i mewn i’r safle, byddai angen torri nifer o goed a llwyni i lawr. Lleolir rhai o’r rhain (tua 8 i 10 coeden) ar yr ‘ynys draffig’ i’r gogledd o’r safle sy’n rhan o’r Briffordd Gyhoeddus. Mae’r coed hyn yn nodwedd dra amlwg ar hyd ffryntiad ffordd. Mae ganddynt werth amwynder a dylid eu cadw. Mae’n darparu nodwedd dirnod a phorth i’r pentref. Câi’r rhywogaethau coed canlynol eu cymynu: Onnen, Sycamorwydden, Palalwyfen, Ywen a Derwen Fytholwyrdd. Mae’r Dderwen Fytholwyrdd yn goeden fawr a hi yw’r amlycaf o fewn y grðp. Mae’n goeden eithaf prin yn y rhan hon o’r Ynys. Y cymysgedd hwn o goed sy’n ychwanegu at ei werth amwynder.

3.0 Mater

3.1 Diwygio ffin ddatblygu Llanfachreth i gynnwys cae 4007 yr A.O. i ddarparu ar gyfer datbygiadau preswyl.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 498

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae Llanfachraeth yn bentref a ddatblygodd at ei gilydd fel datblygiadau ffryntiad yn ffinio â’r A5025. Gerllaw’r pentref, mae ystadau preswyl bach wedi ymestyn o’r prif asgwrn cefn hwn. Mae tir y gwrthwynebiad yn cynnwys safle maes glas ag arwynebedd o 0.77 hectar, ac fe’i lleolir i’r dwyrain o’r A5025 a byddai’n darparu ar gyfer ymestyn y pentref i’r gogledd. Pe câi ei ddatblygu, byddai tir y gwrthwynebiad yn arwain at dresmasu annerbyniol ar gefn gwlad agored trwy ymestyn ffurf linellol y pentref ymhellach. Byddai’r gwaith datblygu hefyd yn niweidiol i leoliad deniadol Eglwys Sant Machraeth, ac mae’n debyg y byddai’n arwain at gymynu a cholli nifer o goed o werth amwynder.

4.2 Pe câi ei ddatblygu, gallai tir y gwrthwynebiad ddarparu ar gyfer tua 23 o anheddau ar lefel ddwysedd o 30 o anheddau fesul hectar. Byddai hefyd yn cyflwyno cymeriad trefol i’r rhan hon o’r pentref a’i gymeriad sydd at ei gilydd yn agored. Ar ben hynny, nid wyf o’r farn bod angen datblygiad ar y raddfa hon yn Llanfachraeth, ond pe bai angen o’r fath yn codi, yna dylid gwrthod tir y gwrthwynebiad er hynny fel lleoliad hollol anaddas.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 23 Llanfachraeth Gwrthwynebiad 31/1112 - Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad yn awgrymu y dylid dileu tir amaethyddol i’r de-orllewin o’r pentref o fewn yr AOHNE o ffin y pentref.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae ffin yr anheddiad yn Llanfachraeth yn darparu terfyn naturiol a rhesymol ar gyfer y pentref ac mae’n darparu sicrwydd o ran datblygu tir.

3.0 Mater

3.1 Diwygio ffin ddatblygu’r pentref.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Ni nodir tir y gwrthwynebiad ar y cynllun, ond ystyrir ei fod yn cyfeirio at y Man Amwynder a nodir o dan Bolisi TO14. Nid ymddengys fod angen cynnwys y tir hwn o fewn y ffin ddatbygu ac nid ymddengys ei bod yn ddoeth gwneud hynny ychwaith, am y byddai’n fwy agored i ddatblygiadau adeiledig na phe bai wedi’i hepgor o’r ffin ddatblygu. Byddai unrhyw ddatblygiad adeiledig yn arwain at dresmasu annerbyniol ac amlwg gan y pentref ar gefn gwlad agored. Nid oes unrhyw reswm pam na ddylai’r darn dynodedig o dir fod y tu allan i’r ffin ddatblygu.

5.0 Argymhelliad

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 499

5.1 Y dylid diwygio Map 23 – ffin ddatblygu Llanfachraeth trwy adleoli’r darn o dir a ddyrannwyd fel Man Amwynder (Polisi TO14) o’r tu mewn i’r ffin ac i’r tu allan i’r ffin.

Map 24 Gwrthwynebiad 31/1113 - Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid tynnu’r ffin ddatblygu yn Llanfaelog yn ôl.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC549 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Rwy’n cytuno â PC549 a fyddai’n tynnu’r ffin ddatblygu yn ôl ar dir gerllaw’r A4080. Mae’r newid hwn yn un rhesymegol a chall.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio’r ffin ddatblygu yn unol â Newid Arfaethedig PC549 trwy dynnu’r ffin ddatblygu yn ôl ar dir gerllaw’r A4080, Llanfaelog.

Map 25 Gwrthwynebiad 192/239 Parry, Davies Clwyd-Jones + Lloyd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Newid y ffin ddatblygu i gynnwys tir gerllaw Ystad Bryn, Llanfaethlu.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Newid Arfaethedig PC550 yn diwygio’r ffin ddatblygu ac yn dyrannu tir yn cyffinio ag Ystad Bryn, Llanfaethlu fel Dyraniad Tai T66.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Nid oes unrhyw wrthwynebiadau a gofnodwyd i Newid Arfaethedig PC550, ac felly rwy’n cymeradwyo ei gynnwys yn y cynllun.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio’r cynllun a adneuwyd trwy gynnwys y dyraniad tir preswyl Cynnig T66 fel y’i nodir o dan Newid Arfaethedig PC550, a chynnwys y tir hwn o fewn ffin ddatblygu Llanfaethlu ac yn y Rhestr Safleoedd Datblygu ar gyfer Tai yn Newid Arfaethedig PC169.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 500

Map 25 Llanfaethlu Gwrthwynebiad 31/1114 - Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad yn awgrymu y dylid diwygio’r ffin ddatblygu er mwyn hepgor grŵp bach o eiddo yn y "pen gogleddol".

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Y ffin ddatblygu a nodir ar y Map Cynigion yw’r un mwyaf priodol ar gyfer rheoli datblygu ac mae’n dileu unrhyw ansicrwydd ynghylch y grðp penodol o eiddo y cyfeirir ato yn y gwrthwynebiad.

3.0 Mater

3.1 Dileu’r ffin ddatblygu o amgylch y datblygiad hirgul bach i’r gogledd o’r prif bentref.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae’r gwrthwynebiad yn nodi nad oes angen y ffin ddatblygu hon ac y gall polisïau ar gefn gwlad agored atal rhagor o ddatblygiadau tai yma. Rwyf o’r farn y bydd y ffin ddatblygu yn fesur defnyddiol o ran atal y datblygiad ffryntiad ffordd hwn rhag ymestyn allan i’r datblygiad hirgul bach o dai.

5.0 Arymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 27 – Cynnig T36 Gwrthwynebiad 188/510 - Hughes Bros Ltd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid dyrannu’r cae cyfan, a nodi y dylai fod o leiaf 12 uned arno.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Er bod Llanfechell yn bentref mawr, gyda’r mwyaf yn y categori hwnnw, serch hynny ystyrir y gallai dyraniad ar gyfer mwy na phum annedd fod yn fwy nag sydd ei angen ar y pentref. Mae’n amlwg y byddai ymestyn y dyraniad i’r 12 o anheddau a nodwyd yn gwyro oddi wrth y strategaeth o gyfyngu gwaith datblygu i ddatblygiadau ar raddfa fach yn y pentrefi. Dim ond mewn un o’r Prif Ganolfannau neu’r Canolfannau Eilaidd y gellid disgwyl datblygiadau ar raddfa o fwy na phump, a byddai caniatáu datblygiad o’r fath mewn pentref yn tanseilio’n ddifrifol y Strategaeth Aneddiadau a gyflwynir yn Rhan Un y cynllun. Byddai dyrannu’r cae cyfan yn darparu digon o dir ar gyfer tua 25 o anheddau newydd. Mae’n amlwg y byddai cymaint o anheddau â hynny yn ormod ar gyfer y pentref a’i safle o fewn hierarchaeth aneddiadau’r cynllun.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 501

3.0 Materion

3.1 Cynyddu nifer yr anheddau a ddarperir ar Gynnig T36 o bum annedd i 12 annedd o leiaf. Ymestyn dyraniad Cynnig T36 i gynnwys tir amgaeëdig cyffiniol.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 O ran mater dwysedd tai ar safleoedd, rwyf o blaid cynyddu cymaint â phosibl ar nifer yr anheddau a ddarperir ble bynnag y bo modd am y bydd hyn yn lleihau’r pwysau i ryddhau mwy o dir maes glas nag sy’n gwbl angenrheidiol. Mae’r ymagwedd hon yn gyson â Pholisi HP2 – Dwysedd Tai sy’n ceisio sicrhau uchafswm dwysedd ar bob datblygiad preswyl newydd, yn ddarostyngedig i waith cynllunio boddhaol. Ystyriaf fod y niferau a nodir yn cynllun ar gyfer yr anheddau a ddarperir yn ffigurau dangosol; nid ydynt wedi’u diffinio mewn polisi. Mater i’w ystyried trwy’r broses rheoli datblygu yw mater dwysedd ar Gynnig T36.

4.2 Mae’r gwrthwynebiad hefyd yn ceisio cynyddu dyraniad Cynnig T36 o 0.23 hectar i 0.90 hectar. Mae’r darn helaethach o dir yn weddol amgaeëdig, am ei fod yn rhannu ffin gyffredin ag Ysgol Llanfechell. Er bod tir y gwrthwynebiad yn safle maes glas, nid wyf o’r farn y byddai ei ddatblygu yn arwain at dresmasu ar gefn gwlad agored a fyddai’n niweidiol yn weledol nac at niwed i olwg y pentref yn y lleoliad hwn. Mae’r rhan fwyaf o ran fwy newydd y pentref yn cynnwys datblygiadau preswyl ar ffurf ystadau. Ac nid yw’n debyg y bydd llawer o gyfleoedd ar gyfer gwaith mewnlenwi ar safleoedd ‘ar hap’.

4.3 Mae’n amlwg bod yn well gan y Cyngor leoliad Cynnig T36 fel y lle mwyaf addas ar gyfer ymestyn ffin y pentref. Fodd bynnag nid yw Cynnig T36 ynddo’i hun yn ymwneud ag unrhyw ffin a nodwyd yn benodol nac unrhyw nodwedd amgáu ar y ddaear. Nodais fod gan bentrefi Brynsiencyn a Llandegfan a nodir o dan Bolisi HP4 ddyraniad tir ar gyfer tai ag arwynebedd o ryw 1.0 hectar er bod ffactorau cefndirol penodol yn ymwneud â’r dyraniadau hyn yn y ddau bentref. Mae’r Cyngor yn cytuno bod Llanfechell yn bentref mawr â 216 o anheddau (Amcangyfrifiad Cyfrifiad 1991). Mae ganddo Ysgol Gynradd a nifer o wasanaethau lleol. Mewn perthynas â maint y pentref, nid wyf o’r farn y byddai datblygu safle’r gwrthywnebiad yn anghymesur â chymeriad y pentref ac y byddai’n niweidio ei gymeriad. Ar ôl pwyso a mesur yr holl ffactorau, gan gynnwys mater datblygu cynaliadwy, rwyf o’r farn y dylid dyrannu tir y gwrthwynebiad fel tir ar gyfer tai yn ychwanegol at Gynnig T36. Ar ben hynny dylai hynny alluogi sicrhau ffurf fwy boddhaol ar ddatblygiad na dim ond ar y darn o dir â ffryntiad ffordd a ddyrannwyd o dan Gynnig T36. Gan gymryd dwysedd tai y Cyngor fel arweiniad yng Ngyhynnig T36 y cynllun a adneuwyd, dylid cael 20 o anheddau ar y safle a ehangwyd.

5.0 Argymhellion

5.1 Y dylid diwygio’r cynllun a adneuwyd, gan gynnwys Map 27 – Llanfechell trwy ymestyn Cynnig T36 i gynnwys cae a nodir ar y cynllun a gyflwynwyd gyda Phroflen Dystiolaeth y gwrthwynebydd, dyddiedig Mai 2003. Felly bydd Cynnig T36 yn ymwneud â darn o dir ag arwynebedd o ryw 0.9 hectar ac y dylid cael oddeutu 20 annedd arno. Y dylid diwygio’r Rhestr Safleoedd ar gyfer Tai a geir yn Newid Araethedig PC169.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 502

5.2 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd o ran Polisi HP2 a dwyseddau preswyl y dylid eu cymhwyso at safleoedd a ddyrannwyd ar gyfer datblygiadau preswyl yn y cynllun mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 28 Llanfihangel-yn-Nhowyn Gwrthwynebiad 343/544 - Russell Hughes

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid newid y ffin ddatblygu i gynnwys tir i’r dwyrain o Ystad Dai Bryn Trewan, Llanfihangel-yn-Nhowyn.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Ar ôl gwerthuso’r opsiynau o fewn yr anheddiad, bydd y potensial sydd gan Lanfihangel o ran darparu lleiniau mewnlenwi addas yn darparu ar gyfer sicrhau twf naturiol. Mae cyfran sylweddol o’r anheddau yn y pentref yn gartrefi a arferai berthyn i’r RAF sydd wrthi’n cael eu gwerthu ar y farchnad agored. Am fod yr eiddo hwn ar werth mae digon o anheddau ar gael heb ryddhau rhagor o dir.

2.2 Mae’r ffin ddatblygu fel y’i nodir yn y Cynllun Datblygu Unedol yn adlewyrchu rhan ddatblygedig y pentref. Nid oes angen ymestyn y ffin ddatblygu ymhellach yn y lleoliad hwn. Lleolir y safle sydd ag arwynebedd o 1.17 hectar gerllaw ffin ddatblygu ddeheuol y pentref. Ceir datblygiadau preswyl i’r gogledd ac i’r gorllewin o’r safle. Lleolir Gwaith Dðr a chronfa ddðr y Weinyddiaeth Amddiffyn i’r dwyrain ac fe’u defnyddir gan y maes awyr. Mae gan y darn hwn o dir gysylltiad agosach â chefn gwlad agored. Yn unol â PC149, mae lefel ddwysedd o 30 afh yn briodol – yn ddarostyngedig i nodweddion safle megis y lefel ddwysedd o fewn Ystad Dai Bryn Trewan gerllaw – gellid disgwyl i’r safle ddarparu rhwng 21 a 35 o unedau (lefelau dwysedd fesul hectar rhwng 18 a 30 o unedau). Byddai’r ffigur hwn yn uwch na’r hyn sydd ei angen ar yr anheddiad.

3.0 Mater

3.1 Diwygio’r ffin ddatblygu i gynnwys tir i’r dwyrain o Ystad Dai Bryn Trewan, Llanfihangel-yn-Nhowyn.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Nid yw’r ffaith bod tai yn pentref hwn yr arferid eu gosod ar rent i deuluoedd milwyr ar gael i’w gwerthu yn effeithio ar y gofyniad bod cyflenwad 5-mlynedd o dir ar gyfer tai ar gael ar draws yr Ynys. Lleolir y safle maes glas hwn sydd ag arwynebedd o 1.17 hectar i’r de o’r anheddiad a gallai gynnwys rhwng 21 a 35 o unedau. Byddai datblygiad o’r fath yn ymestyn y ffurf adeiledig i gefn gwlad. Nid oes angen nodi tir ar gyfer tai yn yr anheddiad hwn ac felly nid oes unrhyw gyfiawnhad dros ddiwygio’r ffin ym mhen deheuol yr anheddiad.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 503

Map 28 Llanfihangel-yn-Nhowyn Gwrthwynebiad 116/295 J.H. Owen

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid ymestyn ffin ddatblygu Llanfihangel-yn-Nhowyn i gynnwys tir i’r gogledd- ddwyrain o’r anheddiad.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r ffin ddatblygu yn adlewyrchu rhan ddatblygedig yr anheddiad. Mae’n well lleoli datblygiadau preswyl ar leiniau mewnlenwi addas. Yn unol â’r strategaeth hon, nid oes unrhyw ddyraniad tai penodol wedi’i gynnwys o fewn yr anheddiad. Nid oes angen y tir a geisir yn y gwrthwynebiad hwn i fodloni’r gofynion tai. Nid yw’n addas i’w gynnwys o fewn y ffin ddatblygu am fod ganddo gysylltiad agosach â chefn gwlad agored a dylai aros ar wahân i’r anheddiad.

3.0 Mater

3.1 Diwygio ffin ddatblygu Llanfihangel-yn-Nhowyn i gynnwys tir i’r gogledd-ddwyrain o’r pentref.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn barsel hirfain o dir llwyd ag arwynebedd o 0.2 hectar. Tir agored nas defnyddir ydyw. Cynhwyswyd tir i’r de sydd hefyd yn dir agored yn bennaf ac sydd wedi’i ddefnyddio o’r blaen hefyd, o fewn y ffin ddatblygu. Lleolir y ddau ddarn o dir i’r dwyrain o’r briffordd o Gaergeiliog a Chefnffordd yr A55. Mae gan y darn deheuol hwn o dir, nid tir y gwrthwynebiad gysylltiad eithaf agos â’r prif gorff o ddatblygiadau yn y pentref a leolir i’r gorllewin ac i’r de o’r ffordd o Gaergeiliog.

4.2 Mewn cyferbyniad, mae tir y gwrthwynebiad yn ymwthio allan i’r gogledd o ffin y pentref, i gefn gwlad agored, a geir o bob tu iddo bron â bod. Byddai tir y gwrthwynebiad, er ei fod yn dir llwyd, pe câi ei ddatblygu, yn arwain at dresmasu annerbyniol gan waith datblygu i gefn gwlad agored. Nid yw’r ffaith bod tir y gwrthwynebiad yn dir llwyd yn bwysicach na’r angen i ddiogelu cefn gwlad agord rhag tresmasu niweidiol.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 29 Llangaffo – Dyraniad Cynnig T37 Gwrthwynebiadau 190/15 - Mr J Hughes 191/1363 – Cyngor Cymuned Rhosyr

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 504

1.1 Mae Gwrthwynebiad 190/15 yn awgrymu y dylid ymestyn dyraniad tai T37 i gynnwys y cyfan o gae 3744 yr A.O. a chynyddu nifer yr unedau o 5 i 12. Mae Gwrthwynebiad 191/1363 yn awgrymu y dylid dileu dyraniad tai T37.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Ni fyddai ymestyn y dyraniad hwn a darparu 12 o unedau ar y safle yn cydymffurfio â strategaeth aneddiadau’r cynllun. Mae 5 uned yn anheddiad Llangaffo dros gyfnod y Cynllun Datblygu Unedol sy’n para 15 mlynedd yn ddarpariaeth resymol ar gyfer y gymuned leol.

3.0 Materion

3.1 Ymestyn y dyraniad tai o dan Gynnig T37 i gynnwys y cyfan o gae 3744 yr A.O.. Dileu’r dyraniad tai o dan Gynnig T37.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae Llangaffo yn bentref bach a chanddo 85 o anheddau (Amcangyfrifiad Cyfrifiad 1991). Mae ganddo ffurf linellol yn bennaf ar hyd y B4421, a hefyd datblygiadau ffryntiad ffordd a dwy ffordd bengaead yn cynnwys datblygiadau preswyl ar y ffordd leol i’r gogledd- orllewin. Yng nghyd-destun maint a ffurf y pentref, byddai dyrannu’r cyfan o gae 3744 yr A.O., sydd ag arwynebedd o 0.75 hectar ac sy’n safle maes glas, yn cael effaith sylweddol ar Lanfechell o ran ei drefoli a byddai’n niweidio ei gymeriad sydd at ei gilydd yn agored.

4.2 Dewisodd y Cyngor ddyrannu rhan o’r cae hwn, ag arwynebedd o 0.22 hectar, ar gyfer datblygiadau preswyl. Gwneir y dyraniad hwn mewn ymateb i ymagwedd lle y rhoddir cynnydd bach mewn tai newydd i nifer o bentrefi a nodir o dan Bolisi HP4. Fy nghasgliad i o ran Cynnig T37 yw ei bod yn anochel bron y bydd y dyraniad yn neilltuo gweddill cae 3744 yr A.O. ar gyfer datblygiadau preswyl. Wrth ystyried y mater hwn, dylid rhoi sylw i’r mynediad ffordd tebygol i’r tir, a’r darn gweddilliol o dir amgaeëdig gan fwyaf a ddeilliai o hynny y caiff ei werth fel tir ffermio posibl ei leihau gryn dipyn. Wrth gwrs y cynllun datblygu yw’r brif ystyriaeth o ran rheoli datblygu, ond rwyf o’r farn ei bod yn debyg y câi’r tir gweddilliol y cyfeiriwyd ato ei ddatblygu ar gyfer tai cyn diwedd cyfnod y cynllun pe câi Cynnig T37 ei gadarnhau.

4.3 O gofio’r ystyriaethau uchod, ac yn arbennig nodweddion a maint Llangaffo, rwy’n cytuno â Gwrthwynebiad 191/1363 y dylid dileu Cynnig T37 fel un o ddyraniadau tir preswyl y cynllun.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio’r cynllun a adneuwyd trwy ddileu Cynnig T37 (Map 29 – Llangaffo), ond na ddylid gwneud unrhyw ddiwygiadau eraill mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn. Y dylid dileu y dyraniad hwn o’r Rhestr Safleoedd Datblygu ar gyfer Tai a geir yn Newid Arfaethedig PC169.

Map 32 Gwrthwynebiad 196/13 – M Aris

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 505

1.1 Ni ddylid caniatáu rhagor o ddatblygiadau hirgul yn Llangristiolus ar hyd y B4422.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r ffin ddatblygu ar hyd y B4422 yn adlewyrchu cwr gorllewinol datblygedig Llangristiolus a dylai sicrhau na chrëir unrhyw ddatblygiadau hirgul.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Nid yw’r ffin ddatblygu ar gyfer Llangristiolus ar Fap 32 yn darparu ar gyfer ymestyn nac atgyfnerthu datblygiadau hirgul ar hyd y B4422. Mae’r ffin fel y’i nodir yn darparu rheolaeth effeithiol.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 32 Llangristiolus – Cynnig T43 Gwrthwynebiad 187/463 - M. Williams

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid ymestyn ffin ddatblygu Llangristiolus i gynnwys tir heb ganiatâd cynllunio amlinellol.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Newid Arfaethedig PC556 yn y cynllun yn ymestyn y ffin ddatblygu ac yn dynodi tir yn ychwanegol at Gynnig T43.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Am fod gan y tir y cyfeirir ato yn Newid Arfaethedig PC556 ganiatâd cynllunio sy’n bodoli, mae wedi’i neilltuo at ddibenion ei ddatblygu. Rwy’n cytuno â PC556.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygo’r cynllun a adneuwyd yn unol â Newidiadau Arfaethedig PC556 a PC169 yn berthnasol i’r tir y cyfeirir ato yn y gwrthwynebiad.

Map 33 – Polisi HP4 a Chynnig T44 Gwrthwynebiadau 31/1115, 31/1116, 31/1117 - Plaid Werdd Sir y Fflint Map 33 – Newid Arfaethedig Llanrhyddlad PC579 Gwrthwrthwynebiad 435/2239 – Syrfewyr Siartredig ERW

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau a’r Gwrthwrthwynebiad

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 506

1.1 Dileu Cynnig T44 yn Llanrhyddlad. Dylid dosbarthu’r pentref fel pentrefan/clwstwr o dan Bolisi HP5 ac nid fel pentref o dan Bolisi HP4. Dileu’r darn o dir amaethyddol yn rhan ogleddol yr anheddiad diffiniedig (Map 33). Mae Gwrthwrthwynebiad 435/2239 yn awgrymu y dylid adfer Cynnig T44.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 O dan Newidiadau Arfaethedig PC153, PC156 a PC579, ailddosberthir Llanrhyddlad o Bolisi HP4 (Pentrefi) i Bolisi HP5 (Pentrefannau a Chlystyrau yng Nghefn Gwlad). O dan PC169 o ganlyniad i’r Newidiadau Arfaethedig uchod, dilëir Cynnig T44.

3.0 Materion

3.1 A ddylai Llanrhyddlad barhau i fod yn bentref o dan Bolisi HP4, ac a ddylid cadw Cynnig T44 fel dyraniad tir preswyl.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Rwy’n cytuno â’r Cyngor ei bod yn fwy priodol rhestru Llanrhyddlad fel pentrefan/clwstwr o dan Bolisi HP5 o ganlyniad i’w raddfa a’i ffurf fach. Dilëir Cynnig T44 yn sgîl hynny. Bydd Polisi HP5 yn caniatáu ar gyfer codi anheddau unigol yn Llanrhyddlad yn unol ag amodau’r polisi.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio’r cynllun a adneuwyd yn unol â Newidiadau Arfaethedig PC153, PC156, PC169 a PC579 mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Map 34 Gwrthwynebiad 31/1121 - Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad yn awgrymu y dylid dosbarthu Malltraeth fel pentrefan a chlwstwr ac nid fel pentref.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Malltraeth wedi’i ddosbarthu fel pentref yn yr hierarchaeth aneddiadau. Dangosir ffin ddatblygu ar y Map Cynigion sy’n darparu mwy o sicrwydd ac yn rheoli gwaith datblygu yn gadarn.

3.0 Mater

3.1 Symud dosbarthiad Malltraeth o Bolisi HP4 (Pentrefi) i Bolisi HP5 (Pentrefannau a Chlystyrau yng Nghefn Gwlad).

4.0 Casgliad yr Arolygydd

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 507

4.1 Nid wyf o’r farn y bydd dosbarthiad Malltraeth o dan Bolisi HP4 yn arwain at unrhyw ddatblygiadau sylweddol ac eithrio’r pum annedd a ddisgwylir ar ddyraniad Cynnig T45. Mae ardaloedd eraill o fewn y ffin ddatblygu yn adeiledig neu maent mewn ardal â Pherygl Llifogydd Dangosol.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 35 Moelfre - Cynnig T46 Gwrthwynebiad 163/88 - W a J Roberts

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad yn awgrymu y dylid dileu dyraniad tai T46 a thynnu’r ffin ddatblygu yn ôl.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Newid Arfaethedig PC558 yn cynnig y dylid dileu dyraniad tai Cynnig T46 a thynnu’r ffin ddatblygu yn ôl ar dir gyferbyn â’r Llyfrgell, Moelfre.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Am nad oes unrhyw Wrthwrthwynebiadau, rwy’n cytuno â Newid Arfaethedig PC558.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid dileu Cynnig T46 ac ailddiffinio’r ffin ddatblygu fel y dangosir yn Newid Arfaethedig PC558.

Map 35 Moelfre Gwrthwynebiad 164/419 - Cyngor Cymuned Moelfre

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad yn awgrymu y dylid ymestyn y ffin ddatblygu dipyn bach gerllaw Ty’n Ffrwd, Moelfre.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Newid Arfaethedig PC559 yn diwygio’r ffin ddatblygu ac yn dynodi’r safle fel dyraniad tai Cynnig T67.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 508

3.1 Am nad oes unrhyw wrthwrthwynebiadau, rwy’n cytuno â Newid Arfaethedig PC559. Mae’r safle yn darparu ar gyfer tai’r farchnad gyffredinol ac ni chaiff ei gyfyngu i bobl leol yn unig.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio ffin ddatblygu Moelfre yn unol â’r ffin a nodir yn Newid Arfaethedig PC559, a dyrannu’r tir amgaeëdig ar gyfer datblygiadau preswyl fel Cynnig T67.

Map 35 Moelfre Gwrthwynebiad 164/420 Cyngor Cymuned Moelfre

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad yn awgrymu y dylid dyrannu tir ychwanegol ar gyfer tai i ddarparu ar gyfer dwy uned gerllaw’r Old Chemist, Moelfre.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae gan y safle arwynebedd o 0.12 hectar ac mae rhan o’r safle o fewn ardal â pherygl llifogydd dangosol. Nid yw’n addas i’w nodi fel cynnig i ddyrannu tai.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Am fod y safle wedi’i leoli o fewn ffin ddatblygu Moelfre, mae rhagdybiaeth o blaid ei ddatblygu yn ddarostyngedig i gyfyngiadau safle ac ystyriaethau eraill. Mae’r safle yn rhy fach i gael dyraniad penodol yn y cynllun ac ar y Map Cynigion ar gyfer Moelfre.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio Map Cynnig 35 – Moelfre mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 38 Gwrthwynebiad 170/90 - Gwyneth Mary Parry

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad yn awgrymu y dylid ymestyn ffin ddatblygu Pentre Berw i gynnwys cae 8047 yr A.O. ar gyfer datblygiadau preswyl.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Lleolir y safle yng nghefn gwlad agored i’r de o’r pentref. Mae ganddo arwynebedd o 0.68 hectar a cheir tþ allan adfeiliedig ac eiddo preswyl i’r gogledd o’r safle. Ceir caeau agored i’r gorllewin, i’r dwyrain ac i’r de. Lleolir y tir a gynigir yn y gwrthwynebiad hwn o fewn ardal â pherygl llifogydd dangosol. Mae gan Bentre Berw gyflenwad digonol o anheddau i fodloni’r gofynion tai ar gyfer yr is-ardal. Nid oes gan y safle unrhyw gysylltiad â

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 509 ffurf adeiledig yr anheddiad a byddai’n arwain at ymwthiad gweledol niweidiol i gefn gwlad agored. Cynnig T49 ar dir yn cyffinio â’r rheilffordd yw’r safle mwyaf priodol i ddarparu ar gyfer mân estyniad i’r anheddiad yn ystod cyfnod y cynllun.

3.0 Mater

3.1 Diwygio ffin ddatblygu Pentre Berw i gynnwys cae 8047 yr A.O. a dyrannu’r tir ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae’r safle maes glas hwn sydd ag arwynebedd o 0.68 hectar yn cyffinio â ffin ddatblygu Pentre Berw. Mae’r cynllun yn nodi safle tai Cynnig T49 yn y pentref y nodir ei fod yn darparu ar gyfer pum annedd. Mae hen linell reilffordd Amlwch-Gaerwen a datblygiadau sy’n bodoli eisoes yn amgáu Cynnig T49 i gryn raddau. Mewn cyferbyniad, byddai safle’r gwrthwynebiad pe câi ei ddatblygu yn arwain at dresmasu sylweddol gan waith datblygu ar gefn gwlad agored a fyddai’n niweidio ei gymeriad, a chymeriad y pentref.

4.2 Mae Pentre Berw yn bentref bach o ryw 185 o drigolion ac mae ganddo rywfaint o gyfleusterau. Gallai tir y gwrthwynebiad ddarparu ar gyfer rhyw 20 annedd, y byddai angen i’r mwyafrif o’u trigolion, oni bai eu bod wedi ymddeol, deithio allan o’r pentref i’r gwaith. Ni fyddai hyn yn gyson ag egwyddorion datblygu cynaliadwy. Mae’n debyg y byddai’r ffaith bod y safle hwn yn tresmasu ar gefn gwlad yn cynyddu’r pwysau i ryddhau darnau cyffiniol o dir ar gyfer datblygiadau ac yn ei gwneud yn anos i wrthsefyll y pwysau hyn. Nodaf hefyd fod y tir o fewn ardal â pherygl llifogydd dangosol.

4.3 Pe cytunid i ddatblygu’r tir hwn câi ei ddatblygu ar gyfer tai’r farchnad gyffredinol. Darperir ar gyfer tai fforddiadwy o dan Bolisi HP7 y cynllun. Nid oes unrhyw systemau yn y cynllun sy’n cyfyngu’r hawl i brynu tai’r farchnad gyffredinol neu ddeiliadaeth tai’r farchnad gyffredinol i unrhyw gategori penodol o bobl sut bynnag y’i diffinniwyd. Nid oes unrhyw sail yn bodoli sy’n golygu y gellir cytuno i ddyrannu’r tir hwn ar gyfer tai.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 38 Pentre Berw Gwrthwynebiad 145/509 - Mr Selwyn Hughes

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Ymestyn ffin ddatblygu Pentre Berw.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai Newid Arfaethedig PC564 yn goresgyn y gwrthwynebiad, a ymestynnodd y ffin ddatblygu.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 510

3.1 Mae Newid Arfaethedig PC564 yn ymgorffori unig lain safle’r gwrthwynebiad a datblygiadau sy’n bodoli eisoes gerllaw. Rwy’n cytuno â PC564 am nad yw’n arwain at y pentref yn ymestyn allan, ond mae’n fodd i atgyfnerthu ffurf y pentref.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio’r cynllun a adneuwyd yn unol â Newid Arfaethedig PC564.

Map 39 Pen-y-sarn Gwrthwynebiad 166/270 - Mr a Mrs H. Hughes

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Diwygio ffin ddatblygu Pen-y-sarn i gynnwys tir sy’n dod o dan ganiatâd cynllunio sy’n bodoli.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Newid Arfaethedig PC565 yn ymestyn y ffin ddatblygu ac mae PC566 yn dynodi tir ychwanegol fel Cynnig ar gyfer datblygiadau tai.

3.0 Casgliadau’r Arolygydd

3.1 Am fod y newid hwn wedi’i gynnig i adlewyrchu caniatâd hanesyddol ar dir yn ystad Cae Rhos, Pen-y-sarn, rwy’n cytuno â’r newid arfaethedig.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio’r cynllun a adneuwyd yn unol â Newidiadau Arfaethedig PC565 a PC566 trwy ymestyn y ffin ddatblygu a dynodi tir ychwanegol fel Cynnig Tir ar gyfer Tai T50.

Map 40 Pontrhydybont Gwrthwynebiadau 152/512, 152/513 - Mr a Mrs Pursglove

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae’r ddau wrthwynebiad yn awgrymu y dylid cynnwys tir yn cyffinio â Gwelfor yn y cynllun.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Bu’r safle yn destun cais cynllunio a wrthodwyd am fod y safle yn ddigon llydan i roi "golygfa glir o’r môr mewndirol, sy’n nodwedd o gryn ddiddordeb yn olygfaol ac yn ddaearyddol ac sy’nn cyfrannu gryn dipyn at hunaniaeth Pontrhydybont". Mae’r penderfyniad hefyd yn nodi y byddai datblygu’r safle yn "tanseilio gwerth yr ardal agored yn ddifrifol".

3.0 Mater

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 511

3.1 Diwygio ffin ddatblygu Pontrhydybont trwy gynnwys tir sydd â ffryntiad â phriffordd y B4545 rhwng eiddo preswyl Gwelfor a Llwyn-y-môr.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn safle maes glas agored ag arwynebedd o tua 0.1 hectar. Pe cynhwysid y tir o fewn y ffin ddatblygu, byddai modd ei ddatblygu i ddarparu tua phedair annedd yn ôl patrwm dwysedd tai cyfagos. Lleolir prif graidd datblygu Pontrhydybont ar ochr ddwyreiniol tir y gwrthwynebiad, ac mae’n gnewyllyn cryno o ddatblygiadau yn cyffinio â Sianel y Môr Mewndirol. Gan symud i’r gorllewin o’r craidd datblygu hwn, mae’r datblygiadau at ei gilydd yn rhai llinellol o ran eu cymeriad. Mar tir y gwrthwynebiad a thir i’r gorllewin o Welfor yn cynnwys ffryntiad nas datblygwyd ar ochr ogleddol y B4545.

4.2 Lleolir Pontrhydybont o fewn yr AOHNE lle y rhoddir y flaenoriaeth i ddiogelu harddwch y dirwedd. Yn fy marn i mae tirwedd arfordirol y Môr Mewndirol a darnau cyffiniol o dir yn yr ardal hon o ansawdd da, a byddai angen i gynigion datblygu ddangos bod angen arbennig yn bodoli sy’n bwysicach na’r flaenoriaeth a roddir i ddiogelu’r dirwedd. Ni ddangoswyd bod unrhyw angen arbennig o’r fath, ac ni ellir ystyried bod safle’r gwrthwynebiad yn gyfuniad ar raddfa fach o ddatblgyiadau adeiledig sy’n bodoli eisoes ychwaith.

4.3 Pes derbynnid, mae’n debyg y byddai tir y gwrthwynebiad hwn yn arwain at ddatblygiad hirgyl bach ar hyd y B4545 a fyddai’n lleihau cymeriad mwy agored y rhan hon o’r pentref, ac a fyddai’n niweidio cymeriad tirwedd y rhan hon o’r AOHNE. Rwy’n cytuno â’r ymagwedd a fabwysiadwyd gan y Cyngor yn ei ddiffiniad o ffin ddatblygu Pontrhydybont, sy’n cynnwys yr ardal lle y ceir y datblygiadau sy’n bodoli eisoes ac nad yw’n darparu ar gyfer twf tuag allan.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 42 Porth Llechog Gwrthwynebiad 172/1445 - P.A. Murphy

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Cynnwys y safle â chaniatâd hanesyddol ar dir ym Mharc Glan-y-Don, Porth Llechog o fewn ffin ddatblygu’r pentref.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae PC571 yn bwriadu ymestyn y ffin ddatblygu a dynodi safle tai T70 â chaniatâd hanesyddol.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Rwy’n cytuno â Newid Arfaethedig PC571..

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 512

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio’r cynllun a adneuwyd yn unol â Newid Arfaethedig PC571.

Map 44 Rhostrehwfa Gwrthwynebiad 174/1442 - Cyngor Cymuned Llangristiolus

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad yn awgrymu y dylid newid y ffin ddatblygu i gynnwys tir gyferbyn â Chapel Cana.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae cwr dwyreiniol presennol yr anheddiad a nodir yn y Map Cynigion yn adlewyrchu rhan ddatblygedig Rhostrehwfa. Mae gan dir y gwrthwynebiad gysylltiad agosach â chefn gwlad agored a dylai aros ar wahân i’r ffin ddatblygu. Lleolir yr anheddiad o fewn is-grðp tai Llangefni sydd â chyflenwad digonol o anheddau i fodloni’r gofynion tai ar gyfer yr is-ardal.

3.0 Mater

3.1 Diwygio’r ffin ddatblygu i gynnwys tir gyferbyn â Chapel Cana ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad yn cynnwys darn agored o dir maes glas ag arwynebedd o 1.1 hectar. Mae’r tir yn cyffinio ag Ystad Dai Tyddyn Cefn ac mae ganddo ffryntiad â’r B4422 i Langefni i’r gogledd. Mae gan bentref Rhostrehwfa rai cyfleusterau a datblygodd fel rhan breswyl fach anghysbell o Langefni.

4.2 Gallai datblygu tir y gwrthwynebiad ddarparu ar gyfer tua 30 o anheddau ac nid oes unrhyw gyfiawnhad drosto. Byddai’n groes i egwyddorion datblygu cynaliadwy. Llangefni yw’r ganolfan briodol ar gyfer gwaith datblygu. Byddai tir y gwrthwynebiad pe câi ei ddatblygu yn arwain at gryn dresmasu gan waith datblygu ar gefn gwlad agored a fyddai’n niweidiol i’w gymeriad ac amwynder cyffredinol.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 44 Rhostrehwfa Gwrthwynebiad 173/1340 - Mr M. Jones

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Nodir enw’r dyraniad tai yn gywir, sef “Sðn Y Gwynt.”

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 513

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC573 yn nodi enw cywir T52, sef Sðn Y Gwynt.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Rwy’n cytuno y byddai PC573 yn cywiro gwall ffeithiol.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio’r cynllun a adneuwyd yn unol â Newid Arfaethedig PC573.

Map 45 – Cynnig T53 Gwrthwynebiadau 180/25 - E.N. Storm 185/201 - Y Cyng Gwyn Roberts 179/16 - D.W. Piers 268/1360, 268/1361 - Cyngor Cymuned Rhosybol 269/1372 – E Jones 270/548 – Mr R Hughes

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiad 180/25 yn nodi bod mynediad i’r safle hwn yn gyfyngedig iawn. Mae gan y safle system ddraenio wael ar gyfer dðr wyneb ar hyn o bryd. O’r braidd y mae’r cyfleusterau carthffosiaeth presennol yn ymdopi â’r gofynion presennol. Mae’r gwrthwynebwyr o’r farn bod digon o dai ar werth yn y pentref ac nad oes angen yr anheddau i ddarparu cartrefi ar gyfer gweithwyr yng ngorsaf bðer nwy am nad yw’n debyg y caiff ei hadeiladu. Mae Gwrthwynebiad 185/201 yn nodi nad oes unrhyw un am fyw yn y lle hwn a bod y safle yn cael ei wasanaethu gan fynedfa wael. Byddai tir ar gae 5806 yr A.O. gyferbyn â’r safle hwn yn fwy priodol ar gyfer tair llain adeiladu.

1.2 Mae Gwrthwynebiad 179/16 yn cyfeirio at broblemau draenio yn yr ardal a byddai’r dyraniad hwn yn ychwanegu at y problemau hyn. Mae’r fynedfa yn anaddas; byddai’r dyraniad yn gostwng gwerth eiddo. Mae Gwrthwynebiad 268/1360 yn nodi nad yw’r ffordd fynediad yn addas ar gyfer y dyraniad. Mae Gwrthwynebiad 268/1361 o’r farn y byddai’r ffin ddatblygu ar gyfer Rhosybol yn cyfyngu ar y tir sydd ar gael o fewn y pentref i’w ddatblygu. Mae Gwrthwynebiadau 269/1372 a 270/548 yn awgrymu y dylid newid ffin ddatblygu Rhosybol i gynnwys rhan o gae 5806 yr A.O..

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Yn unol â strategaeth aneddiadau’r Cyngor nodwyd safle yn Rhosybol i ddarparu ar gyfer 5 uned breswyl yn ystod cyfnod y cynllun. Ystyrid mai dyma’r mân estyniad mwyaf addas i’r anheddiad.

2.2 Ceir arweiniad ar y safonau gwelededd ar gyfer ffyrdd yn atodiad B i NCT 18 ‘Trafnidiaeth’. O ran mynedfa nas defnyddir gan lawer o draffig, sy’n gwasanaethu annedd unigol neu ffordd bengaead fach yn cynnwys hyd at 6 annedd, yr isafswm pellter derbyniol ar gyfer isffordd yw 2.4m. Mae pellter o 2.4m yn bosibl o’r isffordd hon i mewn i’r B5111, fodd bynnag pe mynnid 4.5m, sef y pellter sydd ei angen i wasanaethu cyffyrdd syml a bach

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 514 iawn, ni fyddai’r pellter hwn ar gael i gyfeiriad y de oherwydd coed ar dir y Briffordd wrth y gyffordd. Mae’r fynedfa sy’n gwasanaethu’r dyraniad eisoes yn gwasanaethu 4 eiddo, ar ystad Bryn Rhosyn. Gyda dyraniad T53 ar gyfer 5 uned mae hyn yn dod â’r cyfanswm a wasanaethir gan y fynedfa hon i 9 uned. Er bod hyn yn cynyddu’r uchafswm a wananaethir o’r fynedfa i nifer sy’n uwch na’r trothwy yn NCT 18, mae’r Awdurdod Priffyrdd yn fodlon bod y cynnydd bach hwn yn dal i fod yn dderbyniol. Mae’r Cyngor yn fodlon y gellir ymdrin â materion dðr wyneb wrth ymdrin â cheisiadau cynllunio.

2.3 Mae Newid Arfaethedig PC574 yn ymestyn y ffin ddatblygu ar ran o gae 5806 yr A.O. (sef tir gyferbyn â dyraniad T53). Gwneir y diwygiad hwn i adlewyrchu caniatâd cynllunio a roddwyd yn ddiweddar ar gyfer un annedd ar y safle hwn. Byddai cynnwys ffryntiad cyfan cae 5806 yr A.O. sydd gyferbyn â’r safle hwn, yn ymestyn datblygiadau hirgul ar ochr ddwyreiniol y B5111 ac ni fyddai’n safle derbyniol o ran cynllunio.

3.0 Materion

3.1 A ddylid cadw’r dyraniad tir ar gyfer tai a wnaed o dan Gynnig T53, ac a ddylid diwygio ffin yr anheddiad.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Nodaf fod cyfyngiadau yn ymwneud â gwelededd i gyfeiriad y de wrth gyffordd mynedfa ystad Bryn Rhosyn a’r B511 ar gyfer cerbydau sy’n ymadael â’r ystad. Mae’r Cyngor yn nodi bod hwn yn gyfyngiad derbyniol ar gyfer datblygiad bach yn cynnwys pum annedd. Mae hefyd o’r farn y gellir datrys matetion dðr wyneb.

4.2 Mae Cynnig T53 yn safle maes glas ag arwynebedd o 0.22 hectar, ac mae’n cyffinio â datblygiadau preswyl sy’n bodoli eisoes ar ddwy ochr. Gallai ddarparu ar gyfer mân estyniad i Rosybol, ar yr amod nad oes unrhyw gyfyngiadau annerbyniol ar ddatblygu’r safle. O ystyried cyfyngiadau posibl ar y safle, dof i’r casgliad y dylid dileu’r dyraniad tir ar gyfer tai – Cynnig T53, ond y dylid cadw’r ffin ddatblygu. Bydd y broses o reoli datblygiad wrth ymdrin â chais cynllunio posibl ar y tir yn galluogi astudiaeth well o’r manylion ar unrhyw gynnig datblygu ymhellach, ac yn galluogi ymgynghori â’r cyhoedd ynghylch y manylion penodol hynny. Nodaf fod Newid Arfaethedig PC574 mewn ymateb i Wrthwynebiadau 185/201, 269/1371 a 270/548 yn diwygio’r ffin ddatblygu i gynnwys tir â chaniatâd cynllunio ar gyfer un annedd. Rwy’n cytuno â’r newid hwn. Nid yw Gwrthwynebiad 185/201 yn diffinio unrhyw ffin ddatblygu ddiwygiedig ar y cynllun, felly ni allaf ystyried diwygio’r ffin ymhellach. O ran maint Rhosybol, rwyf o’r farn bod y cynllun fel y’u diwygiwyd yn darparu’n ddigonol ar gyfer gwaith datblygu.

5.0 Argymhellion

5.1 Y dylid dileu’r dyraniad tir ar gyfer tai – Cynnig T53 yn Rhosybol, ond na ddylid newid ffin ddatblygu Rhosybol fel y’i diffinnir ar Fap 45.

5.2 Y dylid cymeradwyo diwygio ffin ddatblygu Rhosybol fel y’i diffinnir yn Newid Arfaethedig PC574 i’w chynnwys yn y cynllun.

5.3 Gwneir yr argymhellion hyn mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 515

Map 47 Talwrn Gwrthwynebiad 31/1119 - Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad yn awgrymu y dylid diwygio’r ffin ddatblygu "o amgylch grðp bach o dai i’r gogledd-orllewin o’r map."

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Tynnwyd y ffin ddatblygu er mwyn darparu sicrwydd ar gyfer datblygiad y pentref. Cydnabyddir bod y grðp o dai dan sylw yn rhan o’r anheddiad ac mae’r ffin yn darparu sicrwydd a rheolaeth gadarn ar ddatblgyiadau pellach.

3.0 Mater

3.1 Dileu’r ffin ddatblygu o amgylch grðp bach o dai yn rhan ogledd-orllewinol Talwrn.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae’r gwrthwynebiad yn mynegi pryder dilys y gall tir a leolir rhwng ffiniau datblygu fod o dan fwy o bwysau i’w ddatblygu na phe bai’r grðp bach hwn wedi’i ddynodi fel tai sydd yng nghefn gwlad. Ni fydd unrhyw fantais yn deillio o nodi ffin ddatblygu o amgylch y grðp anghysbell hwn o anheddau; nid oes unrhyw botensial ar gyfer rhagor o waith datblygu. Bydd polisïau ar gefn gwlad yn rheoli unrhyw gynigion ar gyfer adeiladu tai newydd gerllaw’r grðp hwn yn ddigonol.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid dileu’r ffin ddatblygu a nodir o amgylch y grðp bach o anheddau i’r gogledd-orllewin o bentref Talwrn fel y disgrifir yn y gwrthwynebiad.

Map 47 Talwrn – Cynnig T55 Gwrthwynebiadau 38/1349 - Cyngor Cymuned Llanddyfnan 135/1093 - Cyngor Cymuned Llanddyfnan

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiad 38/1349 yn amau maint Cynnig T55 a’r angen amdano. Mae Gwrthwynebiad 135/1093 yn nodi bod y dyraniad tai yn groes i’r cynllun datblygu arfaethedig.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Strategaeth Aneddiadau’r cynllun yn nodi yn ogystal â cheisio sicrhau y gellir bodloni’r gofynion anheddau a’r angen am dai, fod y cynllun hefyd yn nodi graddfa darpariaeth y gall cymunedau lleol ymdopi â hi. Oherwydd nodweddion safle Cynnig T55, pennwyd 5 uned fel y dyraniad priodol ar gyfer y safle.

3.0 Materion

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 516

3.1 Dileu Cynnig T55. Darparu ar gyfer adeiladu anheddau unigol o fewn ffiniau.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae Cynnig T55 yn darparu ar gyfer datblygu tua phum annedd ar dir yn cyffinio â’r pentref. Cynnydd bach mewn gwaith datblygu ydyw sy’n gydnaws â maint y pentref ac ni fydd yn arwain at dresmasu gan waith datblygu a fyddai’n niweidio’r dirwedd neu olwg cefn gwlad. O fewn ffiniau datblygu mae rhagdybiaeth o blaid datblygiadau adeiladu gan gynnwys tai. Nid yw’r gwrthwynebiad yn cyflwyno unrhyw gynigion penodol ar gyfer newid ffin ddatblygu Talwrn. Er bod y Cynllun Datblygu Unedol yn darparu ar gyfer gwaith datblygu dros gyfnod o 15 mlynedd, mae’n debyg y caiff ei adolygu bob 3-5 mlynedd, pan fydd cyfle yn codi i ailasesu anghenion y pentref o ran tir ar gyfer tai.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Cynnig T55 na ffiniau datblygu Talwrn mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Map 47 Talwrn Gwrthwynebiadau 135/1099 - Cyngor Cymuned Llanddyfnan 266/198 – Mr J W Jones 267/421 – Y Cyng W J Williams Newid Arfaethedig PC577 Tir yn cyffinio â Maes-y-Coed, Talwrn. Gwrthwrthwynebiadau 425/2190 - Clive McGregor 427/2191 - J. Roberts 433/2195 - Ann F. Jones

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau a’r Gwrthwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiad 135/1099 yn nodi yr ymddangosai fod ffin ddatblygu Talwrn yn annaturiol a’i bod yn atal unrhyw dwf o fewn y pentref. Mae’r gwrthwynebydd yn awgrymu parseli o dir y gellid eu datblygu. Mae Gwrthwynebiad 266/198 yn awgrymu y dylid cynnwys tir yn cyffinio â Maes-y-Coed o fewn ffin ddatblygu Talwrn. Mae Gwrthwynebiad 267/421 yn awgrymu y dylid darparu lleiniau datblygu o fewn y pentref ac nid ystadau tai. Efallai na fydd Cynnig T55 yn ymgynnig at ddibenion ei ddatblygu. Mae’r Gwrthwrthwynebiadau yn gwrthwynebu PC577 am nifer o resymau:- mynediad ffordd annigonol; byddai datblygu’r safle yn arwain at dresmasu ar y dirwedd bresennol; mae system garthffosiaeth ystad Maes-y-Coed yn annigonol; lleolir y tir y tu allan i gnewyllyn y pentref; mae’r safle yn rhan o hen chwarel ac mae nifer o dirlithriadau wedi digwydd yno; mae’r safle ar lethr ac yn anaddas i’w ddatblygu; byddai datblygu’r safle yn creu datblygiadau mewnlenwi ansensitif.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Newid Arfaethedig PC577 yn cynnwys mân estyniad i’r ffin ddatblygu, sy’n arwain at 0.18 hectar arall o dir yn cael ei gynnwys o fewn y ffin ddatblygu. Ar dair ochr i’r darn hwn o dir, gerllaw Ystad Dai Maes-y-Coed, ceir datblygiadau preswyl. Bydd y mân estyniad hwn yn darparu ar gyfer twf naturiol o fewn pentref Talwrn. Mae’r parsel o dir wedi’i integreiddio yn dda i batrwm presennol yr anheddiad ac mae ganddo gysylltiad da ag

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 517 ef a byddai ei ddatblygu yn darparu ar gyfer gwaith mewnlenwi sensitif rhwng datblygiadau tai sy’n bodoli eisoes.

3.0 Mater

3.1 Diwygio ffin ddatblygu Talwrn i gynnwys tir yn cyffinio â Maes-y-Coed.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae tir y gwrthwynebiad a ddiffinnir yn PC577 yn cynnwys darn o dir maes glas ag arwynebedd o 0.18 hectar y ceir datblygiadau preswyl ar bob un o’r tair ochr iddo. Ni fyddai cynnwys y tir hwn o fewn y ffin ddatblygu a’i ddatblygu ar gyfer tai yn arwain at dresmasu annerbyniol gan waith datblygu ar gefn gwlad agored ac ni fyddai’n niweidio olwg y pentref ychwaith. Mae’n debyg mai dim ond rhyw 5 annedd a ddarperir gan y cynnydd posibl hwn mewn gwaith datblygu, ac ynghyd â Chynnig T55 mae’n lefel dderbyniol o ddarpariaeth tir ar gyfer tai yn Nhalwrn.

4.2 Nid yw Gwrthwynebiad 135/1099 yn nodi’r glir y newidiadau a geisir yng ngeiriad y cynllun nac ym Map 47- Talwrn ar wahân i’r ffaith yr ymddengys ei fod yn cefnogi Gwrthwynebiad 266/198. Gwneir Newid Arfaethedig PC577 mewn ymateb i’r ddau wrthwynebiad, ac i Wrthwynebiad 267/421 nad yw’n nodi unrhyw dir ar gyfer gwaith datblygu. Caiff materion a godwyd mewn Gwrthwrthwynebiadau i PC577 yn ymwneud â gwahanol gyfygniadau ar ddatblygu’r tir y cynigiwyd ei gynnwys o fewn y ffin ddatblygu eu hystyried gan y Cyngor os cyflwynir cais cynllunio ar gyfer datblygu ar y tir.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio ffin ddatblygu Talwrn fel y’i nodir ar Fap 47 y cynllun a adneuwyd fel y nodir ar y cynllun a gyflwynwyd gyda Newid Arfaethedig PC577. Gwneir yr argymhelliad hwn mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Paragraff 16.52 Gwrthwynebiad 31/1100 - Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’n gofyn pam y mae llawer o aneddiadau sydd â ffiniau yn llai neu pam y mae ganddynt batrwm mwy gwasgaredig nag aneddiadau eraill a adawyd heb ffiniau.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Byddai PC155 yn gwneud y polisi yn gliriach trwy nodi “Diffiniwyd y pentrefannau a’r clystyrau trwy gyfeirio at gynllun ffisegol yr anheddiad dan sylw a ph’un a ellir nodi grðp pendant o ddeg annedd neu ragor ar fap yr arolwg ordnans. Dylai’r annedd hefyd roi’r argraff ei bod mewn grŵp ac ni ddylai’r tai edrych fel pe baent wedi’u gwasgaru dros ardal ehangach. Yn yr achosion hynny pan ystyrir bod pentrefan/clwstwr yn bodoli dangosir ffrâm ddangosol ar y mapiau yn Rhan Dau’r cynllun er mwyn nodi lleoliad yr anheddiad. Nid yw’r ffrâm hon yn ffin ddatblygu ond fe’i darperir er gwybodaeth er mwyn lleoli’r pentrefan/clwstwr. Mae’n rhaid i ddatblygiadau preswyl a gynigir o fewn y

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 518

pentrefan/clwstwr fodloni meini prawf eraill yn y polisi a pholisïau eraill yn y cynllun hefyd.”

3.0 Mater

3.1 Diffinio’r aneddiadau hynny gyda ffiniau datblygu a hebddynt.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Tynnwyd y gwrthwynebiad hwn yn ôl yn amodol oherwydd y geiriau ychwanegol a gynigiwyd trwy Newid Arfaethedig PC155. Rwyf o’r farn bod y testun ychwanegol hwn at baragraff 16.52 yn ddefnyddiol ac felly rwy’n cymeradwyo’r Newid Arfaethedig.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid dywgio’r cynllun a adneuwyd yn unol â Newid Arfaethedig PC155.

Polisi HP5 Pentrefannau a Chlystyrau yng Nghefn Gwlad Gwrthwynebiad 13/427 - Cyngor Cymuned Mechell

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid pwysleisio pa mor bwysig yw caniatáu i’r Cyngor Cymuned fod yn rhan o’r weithdrefn o’r dechrau pan fydd y mater hwn dan sylw.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 O ran unrhyw gais cynllunio o fewn ei Gymuned, ymgynghorir â’r Cyngor Cymuned lleol (neu Gyngor y Dref) a rhoddir sylw i’w farn yn y broses gwneud penderfyniadau. Dyma fydd y weithdrefn o hyd mewn perthynas â’r cynllun ac ar gyfer unrhyw geisiadau yr ymdrinnir â hwy o dan bolisi HP5.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Mater gweithdrefnol yw hwn ac nid yw’n ymwneud â defnydd tir. Nid yw’n fater y dylwn i ei ystyried.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio Polisi HP5 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi HP5 Pentrefannau a Chlystyrau yng Nghefn Gwlad Gwrthwynebiad 35/1325 - Cyngor Cefn Gwlad Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Efallai y bydd Polisi HP5 yn hyrwyddo datblygiadau y tu allan i glystyrau anheddu ac ar ben hynny efallai y bydd yn hyrwyddo datblygiadau hirgul. Mae angen diffinio’r clystyrau

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 519 anheddu a nodwyd yn glir a’u cyfiawnhau a nodi’n glir (ar fapiau’r Cynllun Datblygu Unedol) nad yw’r ffin ddu sgwâr o amgylch y 'clwstwr' yn gyfystyr ag unrhyw fath o 'ffin anheddiad' a/neu 'derfyn datblygu'.

1.2 O gofio bod rhai 'clystyrau' a nodwyd yn cynnwys aneddiadau gwasgaredig, dylid rhoi meini prawf ychwanegol o ran 'mewnlenwi' i atal gwaith mewnlenwi cronnol ac effeithiau cronnol. Dylid gwneud HP5 yn gliriach i sicrhau y tu allan i derfynau datblygu Pentrefannau a Chlystyrau, na chaniateir anheddau newydd oni fyddant yn ymwneud ag: i) Addasu neu isrannu adeiladau sy’n bodoli eisoes ac adeiladau addas. ii) Cynigion yn cynnwys gwaith mewnlenwi go iawn a chysondeb â GP1 (fel y’i diwygiwyd). iii) Angen hanfodol (gweler TO7) i roi llety i weithiwr twristiaeth/amaethyddol/coedwigaeth llawn amser (yn ddarostyngedig i brofion economaidd a swyddogaethol).

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae PC155 yn cynnig testun ychwanegol at baragraff 16.52 sy’n nodi’r diffiniad o Bentrefannau a Chlystyrau yn gliriach.

3.0 Mater

3.1 Nodi’n glir nad yw’r ffin ddu sgwâr o amgylch y 'clwstwr' yn gyfystyr ag unrhyw fath o 'ffin anheddiad' a/neu 'derfyn datblygu' a chynnwys meini prawf ychwanegol o ran 'mewnlenwi' i atal gwaith mewnlenwi cronnol ac effeithiau cronnol.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Byddai PC155 yn nodi’n glir nad yw’r ffrâm ddangosol yn Rhan Dau Mewnosodiadau’r Mapiau Cynigion yn ffin ddatblygu ond ei bod wedi’i darparu er gwybodaeth yn unig. Mae PC156 yn cynnig meini prawf ychwanegol at Bolisi HP5. Oherwydd y newidiadau arfaethedig hyn tynnwyd y gwrthwynebiad yn ôl yn amodol.

4.2 Er fy mod yn ategu bod angen gwneud y testun yn gliriach a newid geiriad y polisi, gwneuthum argymhellion mewn ymateb i Wrthwynebiad 130/444 o ran geiriad tebyg i HP4. O ran maen prawf ii), mae gwerth data am ‘y nifer a’r math o dai ar werth’ yn llai clir; byddai nifer yr anheddau gwag yn fwy perthnasol. O ran maen prawf iii), mae’r geiriad ‘yn ystod cyfnod y cynllun’ yn derm amrywiol. Dylai fod yn fwy cyson, a nodi ‘o fewn y deng mlynedd diwethaf’. Nid oes angen y gair ‘newydd’ ym maen prawf i). Nid yw’r cynllun yn ymwneud â datblygiadau preswyl a gwblhawyd.

4.3 O ran Polisi HP4 a Gwrthwynebiad 6/958 argymhellais hefyd y dylid dileu’r geiriau ‘gofynion lleol’ a gosod y geiriau ‘lefel gofynion tai’r gymuned bentrefol’ yn eu lle. Mae hyn yr un mor berthnasol yma, ac rwy’n argymell yn unol â hynny. Byddwn yn nodi nad oes angen y gair ‘derbyniol’ ym Mholisi HP5.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio paragraff 16.52 yn unol â PC155 ond na ddylid diwygio Polisi HP5 yn unol â PC156 ond y dylid ychwanegu testun ychwanegol yn ei le fel a ganlyn:

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 520

‘Caniateir datblygiadau ar yr amod na fydd yr annedd ychwanegol yn fwy na nifer y tai sydd eu hangen ar y gymuned bentrefol. Wrth bennu nifer yr anheddau sydd eu hangen ystyrir: i) y cyflenwad o anheddau â chaniatâd cynllunio dilys; ii) y nifer a’r math o anheddau gwag; iii) y nifer a’r math o anheddau a adeiladwyd yn y pentref yn ystod y deng mlynedd diwethaf’.

Polisi HP5 Pentrefannau a Chlystyrau yng Nghefn Gwlad Gwrthwynebiad 135/1098 - Cyngor Cymuned Llanddyfnan

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid cymeradwyo datblygiadau unigol ac nid nifer benodol o leiniau penodol, gan roi sylw i bob cais unigol yn ôl y galw.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae para 16.23, fel y’i diwygiwyd gan newid arfaethedig PC146, yn y cynllun a adneuwyd yn rhoi dadansoddiad o’r gofyniad anheddau. Ar gyfer y Pentrefannau a Chlystyrau yng Nghefn Gwlad nodir cyfartaledd o 2 uned fesul anheddiad (mae hyn yn darparu cyfanswm o 90 o unedau). Mae’r ffigur cyfartalog hwn yn gyson â lefel y gwaith datblygu a ddigwyddodd yn ystod cyfnod Cynllun Lleol Ynys Môn o fewn aneddiadau o’r maint hwn. Er y nodir 2 uned ar gyfartaledd ar gyfer aneddiadau o’r fath, ymdrinnir â cheisiadau yn ôl eu teilyngdod eu hunain ac asesir gwerthusiad o’r trydydd maen prawf mewn perthynas â nifer yr anheddau a adeiladwyd eisoes yn yr ardal fel y gwneir ar hyn o bryd gyda’r polisi ar ‘Aneddiadau Rhestredig’ o fewn Cynllun Lleol Ynys Môn. O ganlyniad efallai yr adeiledir mwy na 2 uned mewn rhai aneddiadau tra cwblheir llai na 2 mewn aneddiadau yn ystod cyfnod y cynllun.

3.0 Mater

3.1 Dylid ystyried ceisiadau unigol yn hytrach na nifer benodol o leiniau penodol.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Ymdriniais â mater paragraff 16.23 a’r gofyniad anheddau yn gynharach yn yr adroddiad hwn o dan Bennod 7. Mae PC146 yn rhagdybio y bydd pentrefannau a chlystyrau yng nghefn gwlad yn darparu 90 o anheddau newydd eu hadeiladu yn hytrach na’r 104 o anheddau a ragdybir ym mharagraff 16.23 y cynllun a adneuwyd. Er fy mod yn pryderu ynghylch a fyddai rhai o’r anheddau hyn yn gyfystyr â datblygu cynaliadwy, serch hynny, am fod paragraff 9.2.18 Polisi Cynllunio Cymru yn darparu ar gyfer mewnlenwi bylchau bach mewn grwpiau anghysbell o anheddau gwledig neu ar gyfer eu hymestyn ar raddfa fach, rwyf o’r farn bod y rhagdybiaeth hon yn dderbyniol. Mae’n amlwg bod profiad o’r ymagwedd gyfatebol yn y cynllun lleol yn nodi ar gyfartaledd y câi 2 annedd eu hadeiladu ym mhob un o’r lleoliadau gwledig hyn dros gyfnod o 15 mlynedd.

4.2 Nid yw’r ffigur hwn, sef 2 annedd, yn lefel ddiffiniol ar gyfer pob anheddiad, ond yn hytrach dyma’r ffigur amcangyfrifedig, yn seiliedig ar brofiad, sy’n llywio’r broses o gyfrifo’r gofyniad anheddau i ddarparu gofyniad mwy realistig ac osgoi gorddarpariaeth

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 521

ddiangen. Ymdrinnir â phob cais yn ôl ei deilyngdod ei hun fel cynnig defnydd tir yng nghyd-destun y cynllun datblygu.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisi HP5 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi HP5 a pharagraff 16.53 Pentrefannau a Chlystyrau yng Nghefn Gwlad Gwrthwynebiad 78/621 Owen Devenport Ltd.

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid diwygio polisi a’r cyfiawnhad rhesymegol drosto i sicrhau na ellir gwrthod ceisiadau am anheddau unigol ar y sail bod yr annedd honno wedi’i dosbarthu fel datblygiad hirgul os yw’n amlwg bod y safle o fewn y pentrefan.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae para 9.2.18 Polisi Cynllunio Cymru yn nodi bod gan lawer o rannau o gefn gwlad grwpiau anghysbell o anheddau ac y gall fod yn dderbyniol mewnlenwi bylchau bach yn sensitif, neu ymestyn grwpiau o’r fath dipyn bach. Mae Polisi HP5, fel y cynigiwyd i’w ddiwygio trwy PC156, yn cynnwys arweiniad cenedlaethol trwy nodi, o fewn pentrefannau a chlystyrau yng nghefn gwlad, y caniateir anheddau unigol ar safleoedd ‘mewnlenwi’, neu safleoedd derbyniol eraill sydd yn union gerllaw rhan ddatblygedig y pentrefan a’r clwstwr gwledig. Mae darparu ar gyfer unrhyw anheddau o fewn yr aneddiadau hyn a all arwain at greu datblygiadau hirgul yn groes i ganllawiau cenedlaethol.

3.0 Mater

3.1 Diwygio polisi i sicrhau na ellir gwrthod ceisiadau am anheddau unigol ar y sail bod yr annedd honno wedi’i dosbarthu fel datblygiad hirgul os yw’n amlwg bod y safle o fewn y pentrefan.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Oherwydd cynllun ffisegol a natur organig llawer o’r aneddiadau a nodir o dan HP5, bydd p’un a ddosberthir cynnig fel datblygiad hirgul yn fater o radd yn hytrach nag o ffaith, a benderfynir yn achos pob cais. Mae datblygiadau hirgul yn fath anfoddhaol o waith datblygu ac adlewyrchir hyn yn gywir ym mharagraff 16.53.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisi HP5 a pharagraff 16.53 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi HP5 Pentrefannau a Chlystyrau yng Nghefn Gwlad Gwrthwynebiad 10/128 - Mr A F Nixon

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 522

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae angen diffiniad mwy pendant o bentrefannau a chlystyrau sy’n rhan o’r hierarchaeth aneddiadau.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Derbyniwyd ymholiadau gan y Cyngor ynghylch y diffiniad a ddefnyddiwyd i ddethol y pentrefannau a’r clystyrau a restrir ym Mholisi HP5 ac a ddangosir ar y mapaiu cynigion. O ganlyniad, gwnaed rhagor o waith i nodi’n gliriach y diffiniad a ddefnyddiwyd ar gyfer nodi’r lleoedd hyn, ac adolygwyd y rhestr. Gwnaed y gwaith gan ddefnyddio data codau post ar system gwybodaeth ddaearyddol y Cyngor i helpu i nodi clystyrau addas o eiddo; gwiriwyd hyn gan wiriadau gweledol a gwiriadau eraill. Mae PC155 yn rhoi diffiniad i fod yn sylfaen i’r rhestr sy’n ymddangos fel rhan o Bolisi HP5. Mae Polisi HP5 hefyd yn cynnwys meini prawf ar gyfer rheoli datblygiad o fewn yr ardaloedd hynny a nodwyd yn ffurfiol fel pentrefannau a chlystyrau.

3.0 Mater

3.1 Mae angen diffiniad mwy pendant o bentrefannau a chlystyrau.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae Newid Arfaethedig PC155 bellach yn nodi’n glir fod pentrefannau a chlystyrau wedi’u nodi trwy gyfeirio at gynllun ffisegol yr anheddiad dan sylw a ph’un a ellir nodi grðp pendant o 10 annedd neu ragor ar fap yr A.O.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisi HP5 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Newid Arfaethedig PC156 Pentrefannau a Chlystyrau yng Nghefn Gwlad Gwrthwrthwynebiad 31/2395 - Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Diwygio geiriad HP5 i nodi “mai dim ond un datblygiad mewnlenwi rhwng dwy annedd sy’n agos at ei gilydd a ganiateir, ond nid mewn aneddiadau gwasgaredig. Ni ddylai’r Cynllun fynnu bod tai yn cael eu darparu yn yr aneddiadau hyn”.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r polisi, fel y’i diwygiwyd trwy Newid Arfaethedig PC156 yn darparu fframwaith ar gyfer ystyried datblygiadau yn y lefel isaf o’r hierarchaeth aneddiadau. Mae’r Newid Arfaethedig yn nodi meini prawf ychwanegol ar gyfer asesu unrhyw geisiadau ar gyfer tai sy’n codi yn y lleoliadau hyn. Mae geiriad gwreiddiol Polisi HP5 yn ddigon da i ymdrin â safle/lleoliad tai newydd mewn perthynas â’r anheddiad sy’n bodoli eisoes.

3.0 Mater

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 523

3.1 Diwygio geiriad HP5.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae Newidiadau Arfaethedig PC155 a PC156 (ac fel yr argymhellais y dylid eu newid mewn ymateb i Wrthwynebiad 35/1325) yn nodi darpariaethau’r polisi yn gliriach.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Newid Arfaethedig PC156 mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi HP5 Pentrefannau a Chlystyrau yng Nghefn Gwlad Gwrthwynebiad 135/1173 - Cyngor Cymuned Llanddyfnan

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylai fod hawl i gymeradwyo anheddau unigol o fewn pentrefannau yng nghefn gwlad er mwyn i bobl leol aros yn eu cymunedau.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Yn unol â strategaeth aneddiadau’r Cyngor, nodir pentrefannau o dan Bolisi HP5. Mae’r polisi hwn yn caniatáu anheddau unigol ar safleoedd mewnlenwi neu safleoedd eraill sydd yn union gerllaw rhan ddatblygedig pentrefannau a chlystyrau gwledig.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Mae Polisi HP5 yn darparu ar gyfer datblygiadau ar ffurf anheddau unigol. Nid yw’n briodol rhoi’r flaenoriaeth i bobl leol mewn cynllun datblygu defnydd tir.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio Newid Arfaethedig PC156, mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi HP5 Pentrefannau a Chlystyrau yng Nghefn Gwlad Gwrthwynebiad 91/312 – John Roberts Newid Arfaethedig PC156 Policy HP5 - Pentrefannau a Chlystyrau yng Nghefn Gwlad Gwrthwrthwynebiad 10/2243 - Mr A F Nixon

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad a’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Mae Gwrthwynebiad 91/312 yn awgrymu y dylid cynnwys Bwlch Gwyn gyda’r aneddiadau a restrir o dan Bolisi HP5. Mae Gwrthwrthwynebiad 10/2243 yn awgrymu y dylid dileu Bwlch Gwyn a Llanrhyddlad, fel y cynigiwyd o dan Newid Arfaethedig PC156, o Bolisi HP5 a’u cynnwys o fewn Polisi HP4.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 524

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Diffiniwyd Llanrhyddlad fel pentref ym Mholisi HP4 ac yn unol â’r strategaeth aneddiadau nodwyd safle bach ar gyfer tai. Daethpwyd i’r casgliad bod gan Lanrhyddlad nodweddion a oedd yn debyg i’r pentrefannau a’r clystyrau (diffiniedig) yn hytrach na nodweddion pentref yn yr hierarchaeth aneddiadau. Nid yw cynllun ffisegol yr anheddiad yn darparu cnewyllyn o waith datblygu ond nifer o unedau anghysylltiedig ac ni ellir yn hawdd dynnu ffin ddatblygu o’i amgylch. Fe’i cynhwyswyd felly ym Mholisi HP5 o dan Newid Arfaethedig PC 156 a PC579. Felly rheolid datblygu o dan y Cynllun Datblygu Unedol yn yr un modd ag y’i rheolir yng Nghynllun Lleol Ynys Môn sydd mewn grym ar hyn o bryd h.y. dim ond ar gyfer anheddau unigol y rhoddir caniatâd fel arfer.

2.2 Ni restrwyd Bwlch Gwyn ym Mholisi HP4 na Pholisi HP5. Mae ffurf yr anheddiad yn seiliedig o amgylch clwstwr ffisegol o anheddau y mae’n addas eu dosbarthu fel pentrefan/clwstwr. Felly, mae PC156 a PC578 bellach yn cynnwys Bwlch Gwyn o dan Bolisi HP5.

3.0 Mater

3.1 A ddylid gosod Bwlch Gwyn a Llanrhyddlad o dan Bolisi HP4 nid Polisi HP5.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Ar ôl ystyried gwrthwynebiadau 31/1115, 31/1116, 31/1117, deuthum i’r casgliad y dylid dileu’r cynnig tai (T44) yn Llanrhyddlad. Ar ben hynny, o gofio cymeriad a golwg ffurf a chynllun ffisegol yr anheddiad, roeddwn hefyd o blaid ailddosbarthu Llanrhyddlad fel pentrefan neu glwstwr o dan Bolisi HP5 yn hytrach nag fel pentref ym Mholisi HP4. Bydd hyn yn galluogi rheoli datblygiadau tai newydd yn fwy llym a bydd yn diogelu cymeriad agored y pentref a’i leoliad yn y dirwedd yn well.

4.2 Mae Bwlch Gwyn braidd yn wahanol, ar ôl ystyried y meini prawf yn ymwneud â phentrefannau a chlystyrau, dof i’r casgliad ei bod yn briodol y dylid cynnwys yr anheddiad hwn o dan Bolisi HP5 fel y cynigir yn PC156 a PC578.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio’r cynllun a adneuwyd yn unol â Newidiadau Arfaethedig PC156 a PC579 o ran Llanrhyddlad, ac yn unol â Newidiadau Arfaethedig PC156 a PC578 o ran Bwlch Gwyn mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn a’r gwrthwrthwynebiad hwn.

Map 2.5 (3) Polisi HP5 - Gwrthwynebiad 135/1094 - Cyngor Cymuned Llanddyfnan

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Ar hyn o bryd mae llai nag 20 o blant yn yr ysgol leol yng Nghapel Coch. Mae’r mwyafrif o’r teuluoedd a fanteisiodd ar y hen bolisi o adeiladu mewn ardaloedd megis Capel Coch wedi cyfrannu at y gymuned trwy anfon eu plant i’r ysgol hon. Bydd cymeradwyo dau ddatblygiad yn ystod y pymtheng mlynedd nesaf yn cael effaith niweidiol ar ddyfodol ysgol y

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 525 pentref. Dylai’r polisi newydd fod yn fwy hyblyg a dylai ystyried pob cais uniogl yn ôl y galw.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae para 16.23, fel y’i diwygiwyd gan newid arfaethedig PC146, yn y cynllun a adneuwyd yn rhoi dadansoddiad o’r gofyniad anheddau. Ar gyfer y Pentrefannau a’r Clystyrau yng Nghefn Gwlad nodir cyfartaledd o 2 uned fesul anheddiad (mae hyn yn darparu cyfanswm o 90 o unedau). Mae’r ffigur cyfartalog hwn yn gyson â lefel y gwaith datblygu a ddigwyddodd yn ystod cyfnod Cynllun Lleol Ynys Môn o fewn aneddiadau o’r maint hwn.

2.2 Er y nodir 2 uned ar gyfartaledd ar gyfer aneddiadau o’r fath, ymdrinnir â cheisiadau yn ôl eu teilyngdod eu hunain ac asesir gwerthusiad o’r trydydd maen prawf mewn perthynas â nifer yr anheddau a adeiladwyd eisoes yn yr ardal fel y gwneir ar hyn o bryd gyda’r polisi ar ‘Aneddiadau Rhestredig’ o fewn Cynllun Lleol Ynys Môn. O ganlyniad efallai yr adeiledir mwy na 2 uned mewn rhai aneddiadau tra cwblheir llai na 2 mewn aneddiadau eraill yn ystod cyfnod y cynllun.

3.0 Mater

3.1 Dylai Polisi HP5 fod yn fwy hyblyg a dylai ystyried ceisiadau unigol yn ôl y galw.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Nid yw Polisi HP5 yn cyfyngu datblygiadau tai newydd i ddwy annedd yn unig dros gyfnod y cynllun. Ymdrinnir â phob cais yn ôl ei deilyngdod ei hun fel cynnig defnydd tir yng nghyd-destun y cynllun datblygu.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisi HP5 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 2.5 (3) Polisi HP5 - Capel Coch Gwrthwynebiad 155/576 - Acebarn Ltd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Ceisir eglurhad ar b’un a yw’r tir yn cyffinio â’r hen felin yng Nghapel Coch yn rhan o’r anheddiad. Mae’r safle yn elwa ar ganiatâd cynllunio sy’n bodoli ar gyfer adeiladu llety gwyliau ac mae’r gwrthwynebiad yn ceisio eglurhad ynghylch a yw’n dderbyniol diwygio’r cynllun hwn i ddarparu dau eiddo preswyl ar y safle.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nid diben y Cynllun Datblygu Unedol yw nodi p’un a yw’r safle hwn yn addas ar gyfer y cynllun arfaethedig a awgrymir fel rhan o’r gwrthwynebiad hwn ai peidio. Ymdrinnid â materion mor fanwl â hyn pan gyflwynir cais/os cyflwynir cais.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 526

3.0 Mater

3.1 A yw tir yn cyffinio â’r hen felin, Capel Coch, yn rhan o’r anheddiad.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Nid mater i’r adroddiad hwn yw ystyried cais am ddiwygio cynllun a ganiateir ar y safle.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisi HP5 a Map Cynigion y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Map 2.5 (15) Gwrthwynebiad 71/1070 - Cyngor Tref Biwmares

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid dyrannu tir rhwng Llanfaes a Garth Wen ar gyfer datblygiadau preswyl.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 O fewn pentrefi a nodir o dan Bolisi HP5, caniateir anheddau unigol ar safleoedd ‘mewnlenwi’, neu safleoedd eraill sydd yn union gerllaw rhan ddatblygedig y pentrefan a’r clwstwr gwledig. Nid yw aneddiadau sydd wedi’u dosbarthu o fewn polisi HP5 yn addas ar gyfer dyraniadau preswyl, ond yn hytrach ar gyfer ceisiadau am leiniau unigol. Lleolir Llanfaes o fewn polisi HP5 ac felly ni all y Cyngor gefnogi dyraniad rhwng y pentref ac ystad dai Garth Wen.

3.0 Mater

3.1 Dyrannu tir rhwng y pentref ac ystad dai Garth Wen, Llanfaes, ar gyfer datblygiadau preswyl.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae’r strategaeth aneddiadau yn ceisio cyfeirio datblygiadau at leoliadau mwy cynaliadwy; felly canolbwyntir dyraniadau ar aneddiadau a nodir o fewn Polisïau HP3 a HP4. Mae Llanfaes yn dod o dan ddarpariaethau Polisi HP5 sy’n darparu ar gyfer datblygiadau ar ffurf anheddau unigol y gellir eu hintegreiddio’n foddhaol â datblygiadau sy’n bodoli eisoes. Dylid cyflwyno’r cynnig a gyflwynwyd yn y gwrthwynebiad hwn i gael ei ystyried fel cais cynllunio yng ngoleuni polisïau’r cynllun datblygu.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisi HP5 na’r map cynigion mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 527

Map 2.5 (17) Llangadwaladr Gwrthwynebiad 147/205 - Mr a Mrs T. Hughes

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Cynnwys cae 1328 yr A.O. yn Llangadwaladr o fewn y cynllun.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 O fewn Polisi HP5, caniateir anheddau unigol ar safleoedd ‘mewnlenwi’, neu safleoedd derbyniol eraill sydd yn union gerllaw rhan ddatblygedig y pentrefan a’r clwstwr gwledig. Nid diben Ymchwiliad Cyhoeddus y Cynllun Datblygu Unedol yw nodi p’un a yw’r safle hwn yn addas ar gyfer y cynllun arfaethedig a awgrymir fel rhan o’r gwrthwynebiad hwn ai peidio. Ymdrinnid â materion mor fanwl â hyn pan gyflwynir cais/os cyflwynir cais.

3.0 Mater

3.1 Cynnwys cae 1328 yr A.O. o fewn y cynllun.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Dylid cyflwyno’r cynnig a gyflwynwyd yn y gwrthwynebiad hwn i gael ei ystyried fel cais cynllunio yng ngoleuni polisïau’r cynllun datblygu.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisi HP5 na map cynigion y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi HP5 a Map 2.5 (37) Gwrthwynebiad 142/191 - Mr Dewi Jones

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid dosbarthu Rhosmeirch fel pentref o dan Bolisi HP4. Dylai’r ffin ddatblygu gynnwys rhan o gae 6834 yr A.O..

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Cynigiwyd darn o dir ag arwynebedd o 1.2 hectar i’w gynnwys o fewn y ffin ddatblygu ar gyfer Rhosmeirch y dylid ei ddosbarthu fel Pentref. Mae Rhosmeirch yn anheddiad llinellol yn cynnwys datblygiadau gwasgaredig yn ymestyn ar hyd y B5111. Lleolir y prif grðp o anheddau mewn rhan o’r anheddiad sy’n cyffinio â’r safle dan sylw. O fewn y rhan hon o’r anheddiad mae cyfanswm o tua 75 o eiddo preswyl. O ran ei gynllun ffisegol, mae ardal ar wahân yn cynnwys rhwng 40 a 50 o anheddau fwy neu lai yn rhan ddeheuol y clwstwr a datblygiadau mwy gwasgaredig tua’r gogledd a’r gogledd-ddwyrain o’r anheddiad. Er bod ei faint cyffredinol yn adlewyrchu rhai o’r aneddiadau a ddosbarthwyd fel Pentrefi o dan bolisi HP04 mae’n wasgaredig o ran ei gymeriad ac nid oes ganddo unrhyw gyfleusterau.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 528

2.2 Mae paragraffau 4.2 a 4.3 proflen y gwrthwynebydd yn beirniadu’r diffiniad o “ar hap” o fewn y cynllun. Mae safleoedd ar hap yn cynnwys tir nas dyrannwyd o fewn ffiniau datblygu neu leiniau nas nodwyd sy’n cydymffurfio â’r meini prawf fel y’u cynhwysir o fewn Polisi HP05.

3.0 Mater

3.1 Ailddosbarthu Rhosmeirch fel pentref o dan bolisi HP4 a chynnwys cae 6834 yr A.O. o fewn y ffin ddatblygu.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae Rhosmeirch yn cynnwys datblygiadau ffryntiad ffordd yn bennaf ar hyd y B511, yn agos at dref Llangefni. Mae’n debyg y byddai penderfyniad i gynnwys Rhosmeirch o fewn pentrefi a nodir o dan Bolisi HP4 a nodi ffin ddatblygu yn arwain at gyfuno’r math ‘hirgul’ hwn o waith datblygu sy’n fath anfoddhaol o waith datblygu am ei fod yn niweidiol iawn i’r dirwedd wledig a’r amgylchedd gwledig. Rwy’n cytuno y dylid cadw Rhosmeirch fel anheddiad ym Mholisi HP5. Bydd hynny yn galluogi datblygiadau tai newydd i gael eu rheoli’n llym. Darparwyd digon o dir ar gyfer tai yn Llangefni, sydd o fewn un cilomedr i Rosmeirch. Mae tir y gwrthwynebiad a gynigiwyd yn Rhosmeirch yn groes i Bolisi HP5 am ei fod yn cynnwys tresmasu annerbyniol gan waith datblygu ar gefn gwlad agored.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisi HP4 na map cynigion y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi HP5 Pentrefannau a Chlystyrau yng Nghefn Gwlad Gwrthwynebiadau 154/202 - Cyngor Cymuned Llanfair-yn-Neubwll 89/64 - Y Cyng Gwilym O. Jones

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae’r ddau wrthwynebiad yn awgrymu y dylid cynnwys Llanfair-yn-Neubwll o fewn y Pentrefannau a’r Clystyrau a restrir ym Mholisi HP5.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Diwygiodd PC155 baragraff 16.52 i ddiffinio’r meini prawf ar gyfer dethol aneddiadau i’w cynnwys o fewn polisi HP5; mae’r meini prawf hyn yn ymwneud â chynllun ffisegol yr anheddiad a ph’un a ellir nodi grðp pendant o 10 annedd neu ragor. Ar ben hynny dylai roi’r argraff ei bod mewn grðp ac ni ddylai’r tai edrych fel pe baent wedi’u gwasgaru dros ardal ehangach. Ar ôl ymweld â’r safle a’i werthuso, mae’r Cyngor o’r farn na chydymffurfiai Llanfair-yn-Neubwll â’r meini prawf angenrheidiol am na ellir nodi clwstwr pendant o 10 annedd neu ragor.

3.0 Mater

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 529

3.1 Cynnwys Llanfair-yn-Neubwll fel Pentrefan a Chlwstwr yng Nghefn Gwlad o dan Bolisi HP5.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae gan Lanfair-yn-Neubwll nifer fach iawn o anheddau, ac mae’r mwyafrif ohonynt wedi’u gwasgaru. Felly nid yw’n debyg y bydd modd gweithredu darpariaethau polisi HP5.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisi HP5 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi HP5 Pentrefannau a Chlystyrau yng Nghefn Gwlad Gwrthwynebiad 127/449 - Mr R. Willis d/o Partneriaeth Cynllunio Datblygiad/Development Planning Partnership

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Cynnwys Pen-y-garnedd o fewn y Pentrefannau a’r Clystyrau a restrir ym Mholisi HP5.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Diwygiodd PC155 baragraff 16.52 i ddiffinio’r meini prawf ar gyfer dethol aneddiadau i’w cynnwys o fewn polisi HP5. Mae’r meini prawf hyn yn ymwneud â chynllun ffisegol yr anheddiad a ph’un a ellir nodi grðp pendant o 10 annedd neu ragor. Ar ben hynny dylai roi’r argraff ei fod yn ffurfio grðp ac ni ddylai’r tai edrych fel pe baent wedi’u gwasgaru dros ardal ehangach. Ar ôl ymweld â’r safle a’i werthuso, mae’r Cyngor o’r farn na chydymffurfiai Pen-y-garnedd â’r meini prawf angenrheidiol am na ellir nodi clwstwr pendant o 10 annedd neu ragor.

3.0 Mater

3.1 Cynnwys Pen-y-garnedd fel Pentrefan a Chlwstwr yng Nghefn Gwlad ym Mholisi HP5.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae gan Ben-y-garnedd nifer fach iawn o anheddau, ac mae’r mwyafrif ohonynt wedi’u gwasgaru. Felly nid yw’n debyg y bydd modd gweithredu darpariaethau HP5.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisi HP5 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi HP5 Pentrefannau a Chlystyrau yng Nghefn Gwlad Gwrthwynebiadau 156/252 - Trefor Owen

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 530

148/1364 - Cyngor Cymuned Rhosyr

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiad 156/252 yn awgrymu y dylid cynnwys Penlon fel Pentrefan a Chlwstwr yng Nghefn Gwlad o dan Bolisi HP5, ac mae Gwrthwynebiad 148/1364 yn awgrymu y dylid cynnwys Penlon ar gyfer lleiniau mewnlenwi.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae PC155 yn bwriadu diwygio paragraff 16.52 i ddiffinio’r meini prawf ar gyfer dethol aneddiadau i’w cynnwys o fewn polisi HP5. Mae’r meini prawf yn ymwneud â chynllun ffisegol yr anheddiad a ph’un a ellir nodi grðp pendant o 10 annedd neu ragor. Ar ben hynny dylai roi’r argraff ei fod yn ffurfio grðp ac ni ddylai’r tai edrych fel pe baent wedi’u gwasgaru dros ardal ehangach. O ran Penlon, ymwelodd y Cyngor â’r anheddiad i’w werthuso yn erbyn y meini prawf hyn. Ni chydymffurfiai Penlon â’r meini prawf angenrheidiol am ei fod yn grðp o dai sydd wedi’u gwasgaru dros ardal eang.

3.0 Mater

3.1 Cynnwys Penlon fel Pentrefan a Chlwstwr yng Nghefn Gwlad o dan Bolisi HP5.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Byddai natur datblygiadau tai sy’n bodoli eisoes ym Mhenlon yn darparu ar gyfer hyn a hyn o ddatblygiadau mewnlenwi yn cynnwys anheddau unigol. Mae’n well yn hyn o beth na Chapel Mawr (Mewnosodiad 4) er enghraifft. Gellir nodi dau grðp o 10 annedd ym Mhenlon. Rwy’n cytuno y dylid cynnwys Penlon o fewn Polisi HP5.

4.2 Ar ôl derbyn y geiriad y cynigiwyd ei ychwanegu at baragraff 16.52, sy’n nodi’n gliriach y meini prawf ar gyfer nodi pentrefannau a chlystyrau, mae’n amlwg nad yw’r anheddiad gwasgaredig hwn yn bodloni’r meini prawf hynny ddigon.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio Polisi HP5 trwy gynnwys Penlon o fewn y rhestr o aneddiadau a enwir yn y polisi.

Polisi HP6 Anheddau yng Nghefn Gwlad Agored Gwrthwynebiad 8/351 - Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid newid brawddeg agoriadol HP6 i’r hyn a ddatganwyd yng Nghynllun Lleol Ynys Môn (1996). Datganiad ychwanegol yn nodi’n gliriach fod angen bodloni pob un o’r meini prawf o fewn y polisi.

2.0 Ymateb y Cyngor

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 531

2.1 Ni dderbynnir bod geiriad Polisi HP6 y cynllun a adneuwyd yn llai effeithiol mewn unrhyw ffordd na’r geiriad yng Nghynllun Lleol Ynys Môn. Mae HP6 yn nodi’n glir y caniateir anheddau yng nghefn gwlad agored ar yr amod bod pob un o’r meini prawf i) i v) wedi’u bodloni. Ni chaniateid cynigion a wnaed o dan Bolisi HP6 pe na ellid bodloni ond rhai o’r meini prawf. Mae’r polisi yn glir ac ystyrir nad oes angen datganiad ychwanegol i’r perwyl hwn.

3.0 Mater

3.1 Diwygio brawddeg agoriadol Polisi HP6 a chynnwys brawddeg ychwanegol.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Nid oes unrhyw fantais yn deillio o ddychwelyd at y geiriad yn y cynllun a Fabwysiadwyd am fod y geiriad yn y cynllun a adneuwyd yn glir. Mae hefyd yn glir bod yn rhaid cydymffurfio â phob un o’r meini prawf. Mae cyfres o faterion manylach yng ngeiriad y meini prawf y mae’n rhaid mynd i’r afael â hwy. Dylid dileu’r gair “afreidiol” o faen prawf ii) am ei bod yn anodd ei ddiffinio. Mae maen prawf iii) yn anghyson â maen prawf i) a dylid ei ddileu. Dylid gosod y gair “annedd” yn lle “cynnig” ym maen prawf iv). Dylid dileu’r gair “gofalus” ym maen prawf v) am ei fod yn anodd ei ddiffinio. Er mwyn eglurder rwyf wedi ysgrifennu’r geiriad a argymhellir yn llawn isod.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio Polisi HP6 trwy ddileu meini prawf ii) i v) a gosod y canlynol yn eu lle: ii) nid oes unrhyw adeilad sy’n bodoli eisoes sy’n addas i’w newid fel y gellir byw ynddo ar gael ar y safle; a iii) mae’r annedd wedi’i lleoli mor agos â phosibl at unrhyw grðp o adeiladau sy’n bodoli eisoes, ac ni fyddai’n nodwedd amlwg ac anghysbell yn y dirwedd; iv) mae cynllun yr annedd yn gydnaws â chymeriad gwledig yr ardal o ran graddfa, meintioli, dyluniad, deunydd a lliw, ac mae’n ymgorffori gwaith tirlunio a’r dulliau o drin ffiniau.

Polisi HP6 Anheddau yng Nghefn Gwlad Agored Gwrthwynebiad 9/809 - Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Rhoi pwyslais cryfach ar yr angen i osgoi unrhyw effeithiau niweidiol ar y dirwedd a bioamrywiaeth. Datganiad ychwanegol yn y cyfiawnhad rhesymegol yn nodi cyfleoedd ar gyfer gwella bioamrywiaeth a’r dirwedd.

2.0 Ymateb y Cyngor

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 532

2.1 Nid oes angen datganiad ychwanegol. Ymdrinnir â gwella bioamrywiaeth a’r dirwedd yn ddigon da mewn rhannau eraill o’r cynllun (Polisi EN1 ac EN4). Nid oes angen cyfeirio at rannau eraill o’r cynllun o fewn Polisi HP6.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Mae’n rhaid darllen y cynllun yn ei gyfanrwydd ac osgoi dyblygu diangen. Mae polisïau eraill yn y cynllun yn ymdrin â materion bioamrywiaeth a’r dirwedd.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio Polisi HP6 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi HP6 Anheddau yng Nghefn Gwlad Agored Gwrthwynebiad 10/113 - Mr A. Nixon

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Diwygio brawddeg agoriadol Polisi HP6 i gynnwys y geiriau ‘dim ond’ cyn ‘os’.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nid yw’r Cyngor yn derbyn bod y geiriau a awgrymwyd yn gwneud y polisi yn gliriach. Mae Polisi HP6 yn nodi’n glir y caniateir anheddau yng nghefn gwlad agored os bydd y meini prawf wedi’u bodloni.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Er mwyn atgyfnerthu polisi sydd o reidrwydd yn llym, rwy’n cytuno â’r gwrthwynebiad.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio Polisi HP6 trwy gynnwys y geiriau ‘dim ond’ cyn y gair ‘os’.

Polisi HP6 Anheddau yng Nghefn Gwlad Agored Gwrthwynebiad 42/546 - Russell Hughes

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Diwygio Polisi HP6 i gynnwys nid yn unig anghenion arbennig ym meysydd amaethyddiaeth a choedwigaeth ond hefyd gweithgareddau hamdden yng nghefn gwlad agored.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi’n glir y rhesymau priodol dros anheddau newydd yng nghefn gwlad agored er mwyn diwallu anghenion amaethyddol ac anghenion

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 533

ffermio. Ni fyddai cynnwys anghenion megis gweithgareddau hamdden yn gyson â’r arweiniad hwnnw.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Nid oes unrhyw gyfiawnhad dros gynnwys gweithgareddau hamdden o fewn categorïau o angen arbennig a nodwyd yn y polisi cyfredol.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio Polisi HP6 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi HP6 Anheddau yng Nghefn Gwlad Agored Gwrthwynebiad 135/1097 - Cyngor Cymuned Llanddyfnan

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Oherwydd y sefyllfa economaidd ac amaethyddol bresennol, dylid diwygio HP6 fel ei fod yn ymwneud â gweithiwr amaethyddol neu goedwigaeth sy’n gweithio 550 o oriau y flwyddyn ac nid yn llawn amser.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae cyngor a geir yn NCT 6 (paragraff 41.b) yn nodi bod yr angen i adeiladu annedd yn ymwneud â gweithiwr llawn amser ac nad yw’n ymwneud ag angen rhan amser. Mae Polisi Cynllunio Cymru hefyd yn nodi bod yr angen yn ymwneud â gweithwyr y mae angen iddynt fod ar gael y rhan fwyaf o’r amser (paragraff 9.3.7).

3.0 Mater

3.1 Diwygio Polisi HP6 fel ei fod yn ymwneud â gweithiwr amaethyddol neu goedwigaeth sy’n gweithio 550 o oriau y flwyddyn.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Mae arweiniad ym Mholisi Cynllunio Cymru a NCT 6 yn eithaf clir ar y mater hwn. Nid oes unrhyw gyfiawnhad dros newid Polisi HP6 i fod yn wahanol i’r arweiniad hwn.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisi HP6 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi HP6 Anheddau yng Nghefn Gwlad Agored Gwrthwynebiad 137/316 - Y Cyng W.I. Hughes

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 534

1.1 Dylid ystyried ffermwyr sy’n ymddeol yng nghefn gwlad agored. Datganiad ychwanegol yn y polisi i roi mwy o hyblygrwydd i Bolisïau ar Adeiladau Adfeiliedig mewn ardaloedd gwledig.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi’n glir y rhesymau priodol dros anheddau yng nghefn gwlad er mwyn diwallu anghenion amaethyddol ac anghenion ffermio.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Mae paragraff 9.3.7 Polisi Cynllunio Cymru yn nodi’n glir “na all anghenion amaethyddol gyfiawnhau darparu anheddau newydd fel cartrefi ymddeol ar gyfer ffermwyr”. Mae Polisi HP8 – Addasiadau Gwledig a Pholisi HP9 – Anheddau Amnewid (Gwledig) yn darparu ar gyfer cyfleoedd eraill i ddarparu tai yng nghefn gwlad.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio Polisi HP6 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi HP6 Anheddau yng Nghefn Gwlad Agored Gwrthwynebiad 149/345 - Hughie Lewis

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Datganiad ychwanegol yn y polisi sy’n caniatáu i bobl ifanc a aned ac a fagwyd yn yr ardal adeiladu annedd yng nghefn gwlad agored. Dylai HP6 ganiatáu i ffermwyr adeiladu cartrefi ymddeol yng nghefn gwlad.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn datgan yn glir y dylid rheoli anheddau newydd yng nghefn gwlad agored yn llym a’u cyfyngu i weithwyr amaethyddol a choedwigaeth llawn amser hanfodol. Mae Polisi Cynllunio Cymru (paragraff 9.3.6) hefyd yn nodi na all anghenion amaethyddol gyfiawnhau darparu anheddau newydd fel cartrefi ymddeol ar gyfer ffermwyr. Mae Polisi HP6 yn darparu ar gyfer anheddau ar gyfer gweithwyr hanfodol ym meysydd amaethyddiaeth neu goedwigaeth.

3.0 Mater

3.1 Dylid darparu ar gyfer ffermwyr yn adeiladu cartrefi ymddeol yng nghefn gwlad a datganiad ychwanegol yn ymwneud â phobl ifanc leol.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae paragraff 9.3.7 Polisi Cynllunio Cymru yn nodi’n glir “na all anghenion amaethyddol gyfiawnhau darparu anheddau newydd fel cartrefi ymddeol ar gyfer ffermwyr”. Nid oes unrhyw gyfiawnhad dros ddarpariaeth o’r fath ym Mholisi HP6.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 535

4.2 Er bod pryderon y gwrthwynebydd o ran pobl ifanc yn yr ardal yn ddealladwy, nid yw’n briodol ymdrin â’r mater trwy bolisi cyffredinol yn ymwneud â datblygiadau mewn aneddiadau a nodir o dan Bolisi HP6. Mae arweiniad cenedlaethol yn nodi y dylid rheoli gwaith datblygu yng nghefn gwlad yn llym ac mae’n ganolog i strategaeth aneddiadau’r Cynllun y dylid canolbwyntio’r mwyafrif o ddatblygiadau ar aneddiadau a nodir o fewn Polisïau HP3 a HP4. Mae’r Cynllun Datblygu Unedol yn ceisio tai fforddiadwy trwy Bolisi HP7 sydd hefyd yn cynnwys elfen yn ymwneud ag eithriadau gwledig.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisi HP6 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi HP7 Tai Fforddiadwy Gwrthwynebiad 33/328 - Gwerth Gorau’r DU

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid nodi diffiniadau o ‘fforddiadwy, lleol ac angen’ yn glir yn y polisi.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 O ran y diffiniad o ‘Fforddiadwy’, defnyddiwyd y fethodoleg a argymhellir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn asesu’r angen am anheddau fforddiadwy. Mae para 16.66 y cynllun yn nodi y “diffinnir tai fforddiadwy fel tai i ddiwallu anghenion y rhai sy’n byw mewn llety anaddas ac y mae eu hincymau yn eu hatal rhag prynu neu rentu tai addas ". Ceir rhagor o fanylion yn Arolwg y Cyngor o’r Angen am Dai.

2.2 O ran y diffiniad o ‘Leol’, mae Polisi HP7 yn canolbwyntio ar angen a fforddiadwyedd. Nid yw’n ymdrin â mater "lleol".

2.3 O ran y diffiniad o ‘angen’, fe’i diffinnir ym mharagraff 16.66 y cynllun.

2.4 Mae rhan o’r tir a nodwyd yn y gwrthwynebiad ar gyfer 22 o anheddau ym mhentref Bodffordd yn destun cais cynllunio ar hyn o bryd. Ar yr amod y llofnodir cytundeb o dan adran 106 mae caniatâd wedi’i roi ar gyfer 5 annedd ar ran o’r safle.

3.0 Materion

3.1 Diffinio ystyr ‘fforddiadwy’, ‘lleol’, ac ‘angen’.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Yn atodol i’r cynllun datblygu, mae’n well nodi unrhyw ddiffiniad pellach o ‘fforddiadwy’ mewn Arweiniad Cynllunio Atodol, o gofio’r amrywio sy’n debygol o ddigwydd yn y ddau ddangosydd allweddol, sef prisiau tai ac incymau, dros gyfnod y cynllun sy’n para 15 mlynedd. Nodir ‘angen’ yn bennaf trwy ddata a gesglir o dan y dangosyddion hyn. Nid yw Polisi HP7 yn cyfeirio at angen ‘lleol’.

5.0 Argymhelliad

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 536

5.1 Na ddylid diwygio Polisi HP7 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi HP7 a pharagraffau 16.57- Tai Fforddiadwy a’r Angen am Dai 16.70 Gwrthwynebiadau 33/1084 a 33/320 - Gwerth Gorau’r DU 6/944 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru 130/443 - Mrs M Davidson 23/458 – T S Glenfort Ltd 24/311 - Ffederasiwn yr Adeiladwyr Tai 8/350 - Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig 50/293 - Cyngor Cymuned Llanddona 28/1231 - CDN Newid Arfaethedig PC 159 Paragraff 16.63 Gwrthwrthwynebiad 24/2156 – Ffederasiwn yr Adeiladwyr Tai Newid Arfaethedig PC161 Polisi HP7 Gwrthwrthwynebiadau 24/2159 - Ffederasiwn yr Adeiladwyr Tai 130/2182 - Mrs M Davidson 524/2498 – Elfed R Williams Newid Arfaethedig PC 162 Paragraff 16.65 Gwrthwrthwynebiadau 24/2157 - Ffederasiwn yr Adeiladwyr Tai 23/2266 – T S Glenfort Ltd 6/2095 - Cynulliad Cenedlaethol Cymru 130/2181 - Mrs M Davidson 524/2499 – Elfed R Williams

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau a’r Gwrthwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiad 33/1084 yn cyfeirio at y ffaith nad oes unrhyw ddiffiniadau ac mae’n ceisio newidiadau yn y cynllun cyfan. Mae Gwrthwynebiad 8/350 yn awgrymu bod geiriad y polisi yn rhy wan o ran y defnydd y mae’n ei wneud o ymadroddion megis “negodi elfen”, “ystyried rhyddhau tir”. Mae Gwrthwynebiad 6/944 yn nodi nad yw Polisi HP7 yn glir iawn wrth gyfeirio at “leoliadau priodol”.

1.2 Mae Gwrthwynebiad 33/320 yn awgrymu nad oes unrhyw dystiolaeth i ddangos bod negodi elfen o dai fforddiadwy ar gynlluniau yn cynnwys deg annedd neu ragor yn mynd i’r afael ag anghenion pobl leol o ran tai fforddiadwy. Dylai cynlluniau fforddiadwy fod ar wahân i’r galw cyffredinol am dai. Mae angen diffiniad o “bobl leol” y cyfeirir atynt ym mharagraff 16.70. Mae’r gwrthwynebydd yn amau cynnwys paragraff 16.68 o ran lefelau rhenti’r awdurdod lleol a chymdeithasau tai. Yn olaf, awgrymir y dylid aralleirio’r polisi gan gynnwys darparu ar gyfer amodau neu rwymedigaethau cynllunio i gyfyngu deiliadaeth tai a ddarperir i bobl leol ar gyfer uchafswm o 5 mlynedd o’r dyddiad y bydd y bobl gyntaf yn dechrau byw ynddynt.

1.3 Mae Gwrthwynebiad 24/311 yn honni bod y polisi yn seiliedig ar Arolwg o Anghenion Tai nas cyhoeddwyd ac nad yw’n dilyn yr arweiniad ym Mholisi Cynllunio Cymru. Mae Gwrthwynebiad 8/350 am weld y polisi yn cael ei ailysgrifennu ar ôl cynnal arfarniad llawn o’r Arolwg o Anghenion Tai. Mae Gwrthwynebiad 28/1231 yn nodi nad yw’r wybodaeth o fewn y cynllun am nifer y tai sydd eu hangen yn "darparu unrhyw

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 537

ddadansoddiad o ran ble y mae’r angen hwn am dai yn codi". Unwaith y byddai’r angen wedi’i nodi byddai hynny yn caniatáu rhoi sylw manylach i’r angen ledled ardal y cynllun, yr aneddiadau unigol a’r is-ardaloedd mewn perthynas â’r tir a ddyrannwyd a’r galw a allai fod am safleoedd eithrio. Mae Gwrthwynebiad 50/293 am weld tai cost isel yn cael eu dyrannu yn Llanddona. Mae Gwrthwynebiad 23/458 o’r farn y dylid gostwng nifer y teuluoedd y mae angen tai arnynt 120 y flwyddyn i hepgor darpariaeth ar gyfer mewnfudwyr. Nid yw’r Arolwg o Anghenion Tai, sy’n nodi angen am dai o 589 uned y flwyddyn, yn gyson â’r ddarpariaeth tai newydd a gynigir yn y CDU.

1.4 Mae Gwrthwynebiad 130/443 a Gwrthwrthwynebiad 130/2181 yn cynnig trothwy o 15 annedd ar ddyraniadau. Dylid gostwng y ffigur 30% (mae PC162 y cyfeirio ato) i 25%, ac ychwanegu’r geiriau ‘os bydd hynny’n briodol’.

1.6 Mae Gwrthwrthwynebiad 24/2156 yn gwrthwynebu’r trothwy o 5 uned mewn pentrefi - os bydd safle yn rhy fach i’w ddatblygu er elw ac os bydd rhywfaint o dai fforddiadwy yn gynwysedig yna nis datblygir. Mae Gwrthwrthwynebiad 24/2159 yn nodi y dylid dileu PC161 ac mae’n gwrthwynebu cynnwys trothwy is ar gyfer tai fforddiadwy. Mae Gwrthwrthwynebiad 130/2182 yn awgrymu y dylid dileu PC161 (b).

1.7 Mae Gwrthwrthwynebiadau 524/2498 a 524/2499 yn amau’r diffiniad o dai fforddiadwy; mae angen iddo ymwneud yn briodol â marchnad eiddo sy’n symud tuag at i fyny ac mae angen i’r Cynllun Datblygu Unedol nodi sut y caiff hyn ei adolygu. Mae Gwrthwynebiadau 524/2498 a 524/2499 yn amau’r rheswm a gynigiwyd gan y Cyngor dros gymhwyso’r ffigur 30% at safleoedd; honnir y byddai hynny yn ei gwneud yn llai ymarferol i ddatblygu safle. Mae 130/2181 yn awgrymu ffigur llai, sef 25%.

1.8 Mae Gwrthwrthwynebiad 24/2157 yn awgrymu y dylid dileu PC162 ac y dylid cynnwys cyfeiriad at yr angen am hyblygrwydd wrth gymhwyso polisïau ar dai fforddiadwy i adlewyrchu anghenion lleol, addasrwydd safleoedd ac amgylchiadau lleol. Mae Gwrthwrthwynebiad 6/2095 yn ceisio cyfiawnhad dros bennu 30% o unedau fel y ffigur ar gyfer tai fforddiadwy. Mae Gwrthwrthwynebiad 23/2266 yn awgrymu y dylid dileu PC162, a chynnwys y geiriad canlynol ar gyfer paragraff 16.65: “Ceir tystiolaeth o anghenion lleol am dai fforddiadwy. Bydd y Cyngor yn ceisio cynnwys elfen o dai fforddiadwy yn y datblygiadau preswyl arfaethedig yn seiliedig ar ganlyniadau’r arolwg o anghenion tai. Fel arfer, ystyrir bod safleoedd ar gyfer mwy na 10 annedd (naill ai’n unigol neu’n gronnol gyda safleoedd datblygu newydd cyffiniol) yn addas ar gyfer cyfran o dai fforddiadwy.”

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn mynnu bod yr awdurdod cynllunio yn dangos yr angen sydd am dai trwy arolwg neu ryw ffynhonnell ddibynadwy arall. Gwnaed Asesiad o Anghenion Tai gan Fordham Research a’i gyhoeddi fel adroddiad terfynol ym mis Rhagfyr 2001. Y prif ganfyddiadau oedd :- ! Tenantiaid llety a rentir yn breifat sydd fwyaf tebygol o fod mewn tai anaddas. ! O’r teuluoedd yr oedd angen iddynt symud i ddod o hyd i dai addas a fforddiadwy, ni allai tua hanner fforddio prynu na rhentu yn y sector preifat (ac felly maent yn dod o dan y diffiniad o angen). ! Aseswyd bod angen tai o hyd ar 555 o deuluoedd, neu 111 o deuluoedd y flwyddyn am 5 mlynedd. ! Aseswyd y byddai angen tai ar 478 o deuluoedd newydd bob blwyddyn, gan gynnwys 120 o deuluoedd mewnfudol.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 538

! Aseswyd bod cyflenwad o 278 o anheddau ar gael bob blwyddyn i’w gosod gan y Cyngor neu Gymdeithasau Tai. ! Felly aseswyd mai’r Gofyniad Tai Fforddiadwy Clir oedd 111 + 478 - 278 = 311 o unedau bob blwyddyn.

2.2 Mae’r Arolwg o Anghenion Tai yn nodi bod angen tai ledled yr Ynys (mae Pennod 9 yn rhoi Dadansoddiad o’r Is-ardaloedd). Y prif gasgliadau yw : ! mae angen mawr am ragor o dai fforddiadwy yn ardal y Cyngor; ! mae’r arolwg yn rhoi cryn dipyn o dystiolaeth i’r Cyngor i’w alluogi i negodi gyda datblygwyr am gyfran o dai fforddiadwy ar bob safle cymwys; ! nid oes angen i’r Cyngor drin unrhyw is-ardaloedd yn wahanol am fod prinder tai fforddiadwy yn y mwyafrif llethol ohonynt.

2.3 Mae’n bwysig nodi mai teuluoedd ag incymau isel y mae angen cartrefi addas i’w rhentu arnynt sy’n rhoi cyfrif am y mwyafrif o’r 311 o unedau sydd eu hangen bob blwyddyn. Anwybyddir budd-daliadau fel arfer at ddibenion benthyca arian ar gyfer morgais, ac mewn llawer o achosion gan ddarpar landlordiaid preifat hefyd. Felly, tai fforddiadwy yn y categori 'Cymdeithasol-Wedi’i Rentu' sydd eu hangen gan fwyaf. Mae angen i Gymdeithas Dai neu Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (RSL) tebyg fod ynghlwm wrth ddarparu tai o’r fath.

2.4 Mae’r arolwg yn nodi’r hyn y mae’n ei olygu wrth safleoedd cymwys, sef eu bod yn safleoedd yn cynnwys 10 annedd neu ragor neu’n safleoedd yn cynnwys 5 annedd neu ragor mewn ardaloedd â phoblogaeth o dan 3,000 (gellir gwneud y ddarpariaeth ar y safle, oddi ar y safle neu drwy wneud taliad yn lle hynny). Mae Polisi Cynllunio Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol negodi rhywfaint o dai fforddiadwy ar safleoedd priodol a pheidio â phennu cwota unffurf. Felly mae’r polisi (fel y’i diwygiwyd gan y Newidiadau Arfaethedig) yn ceisio negodi elfen 30% o dai fforddiadwy ar safleoedd yn cynnwys 10 annedd neu ragor yn y prif ganolfannau a’r canolfannau eilaidd ac ar safleoedd yn cynnwys 5 annedd neu ragor yn y pentrefi.

2.5 Argymhellwyd y targedau hyn gan yr Arolwg o Anghenion Tai ond mae’r Cyngor yn derbyn y gall fod rhywfaint o amrywio yn lleol. Ystyrir mai’r man cychwyn yw’r ffigur 30% a bydd y Cyngor yn cymryd ystyriaethau eraill megis amgylchiadau lleol i ystyriaeth wrth negodi’r elfen o dai fforddiadwy. Mae geiriad y polisi yn darparu ar gyfer ymagwedd hyblyg ac ystyrir bod y ffigur 30% yn fan cychwyn ar gyfer negodi tra’n ystyried hefyd addasrwydd y safle ac amgylchiadau lleol. Nodwyd yr argymhelliad y dylid pennu trothwy is ar gyfer y pentrefi yn yr Arolwg o Anghenion Tai. Mae fforddiadwyedd yn berthnasol iawn o fewn y pentrefi ar yr ynys ac felly mae angen y trothwy hwn o fewn polisi Cynllun Datblygu Unedol. O ran y geiriau “os bydd hynny’n briodol” a gynigiwyd yng Ngwrthwrthwynebiad 130/2181 mae’r polisi a’r cyfiawnhad rhesymegol yn cyfeirio at y ffaith y “bydd” y Cyngor yn “negodi”, a thrwy oblygiad byddai hynny yn cynnwys addasrwydd y safle. Mewn ymateb i Wrthwynebiad 6/944, mae’r Cyngor yn bwriadu dileu’r geiriau “mewn lleoliadau priodol” o Bolisi HP7, a rhoi’r geiriau “o fewn aneddiadau sy’n bodoli eisoes neu yn union gerllaw aneddiadau sy’n bodoli eisoes”.

2.6 Mae Gwrthwrthwynebiadau 524/2498 a 524/2499 yn gofyn â pha lefelau chwyddiant y cymherir tai fforddiadwy. Mae’r Arolwg o Anghenion Tai yn nodi’r modd y penderfynir ar brisiau tai fforddiadwy. Yng Nghyfrol 1, mae tudalen 36 yn esbonio’r modd y pennodd yr arolwg brisiau priodol ar gyfer tai fforddiadwy. Cymerwyd cyfartaledd o brisiau eiddo gan hepgor y rhannau drutaf o’r Sir. Wedyn cyfrifwyd ffigur a oedd tua 25% yn is na gwerth y

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 539

farchnad. Mae’r Cyngor yn cydnabod bod y ffigurau ddwy flynedd ar ei hôl hi a bod angen cynnal arolwg newydd. Mae’r Strategaeth Tai ddrafft arfaethedig yn cynnwys ymrwymiad i gynnal “asesiad cynhwysfawr o anghenion tai a dadansoddiad cynhwysfawr o’r farchnad dai yn 2006”.

2.7 Mae NCT 2 yn cynghori ar y gwahanol ddulliau sydd ar gael i’r cynllun datblygu ar gyfer darparu tai fforddiadwy. Mae paragraff 11 NCT 2 yn darparu arweiniad ar y sefyllfa lle "y gall yr angen am dai fforddiadwy a nodwyd fod yn fwy na chyfanswm y tai fforddiadwy sy’n debygol o gael eu darparu....". Mae’r arweiniad hwn yn mynnu y cynhwysir meini prawf ar gyfer safleoedd eraill (safleoedd ar hap fel y’u gelwir). Mae Polisi HP7 yn mynd i’r afael â’r pwynt hwn. Fodd bynnag mae’r modd y rhoddir y polisi hwn ar waith yn ymarferol yn dal i gael ei drafod o fewn y Cyngor am fod y Cynllun Datblygu Unedol a’r strategaethau tai wedi’u synergeiddio. Mae’r materion sy’n cael eu hystyried yn cynnwys: darpariaeth ar y safle; darpariaeth oddi ar y safle a thaliadau yn lle darparu tai fforddiadwy. Byddai’n ddefnyddiol cyfeirio at faterion o’r fath yn y Cynllun Datblygu Unedol er mwyn nodi’n gliriach sut y gellid gweithredu’r polisïau perthnasol.

2.8 Mae’r Cyngor yn paratoi i fabwysiadu Strategaeth Tai Leol a fydd yn ymwneud â thai o bob math a deiliadaeth, ac a fydd yn nodi fframwaith ar gyfer Cynllun Gweithredol Tai Lleol. Bydd y strategaethau lleol hyn yn mynd i’r afael â’r angen am dai fforddiadwy, a byddant yn sefydlu polisi ar gyfer adnewyddu tai sector preifat. Bydd cysylltiadau clir â’r Cynllun Datblygu Unedol yn elfen hanfodol o’r Strategaeth Tai Leol a’r Cynllun Gweithredol unwaith y byddant wedi’u cwblhau.

2.9 Mae Adran 3 (drafft) y "Strategaeth Tai ar gyfer Ynys Môn" a luniwyd gan y Cyngor yn destun ymgynghori ar hyn o bryd. Mae Adran 3 y strategaeth honno yn ystyried "Anghenion Tai a Marchnadoedd Tai " sy’n cyfaddef bod "anawsterau yn codi, fodd bynnag, wrth benderfynu ar faint o dai sydd eu hangen ar lefel ardal fach". "Y dull allweddol a ddefnyddir i barhau i fynd i’r afael ag anghenion tai yw trwy ddarparu tai cymdeithasol a rentir gan y Cyngor a’i gymdeithasau tai parnter". Mae’r Strategaeth yn nodi ar wahân i anheddau newydd fod rôl ar gyfer adeiladau gwag a llety uwchben siopau.

3.0 Materion

3.1 i) diffiniadau a geiriad polisïau ii) statws yr Arolwg o Anghenion Tai a pha mor berthnasol ydyw i’r polisi iii) trothwyau, cyfraniad canrannol a hyblygrwydd iv) y diffyg o ran y ddarpariaeth tai fforddiadwy v) polisi eithriadau gwledig vi) rheolaethau ar ddeiliadaeth vii) dyrannu tai cost isel

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

Diffiniadau a geiriad polisïau 4.1 Mae paragraff 16.66 y cynllun a adneuwyd yn nodi cyfres o ddiffiniadau sy’n dilyn o’r Arolwg o Anghenion Tai (HNS). Yn atodol i’r cynllun datblygu, mae’n well nodi unrhyw ddiffiniad pellach o ‘fforddiadwy’ mewn Arweiniad Cynllunio Atodol, o gofio’r amrywio sy’n debygol o ddigwydd yn y ddau ddangosydd allweddol, sef prisiau tai ac incymau, dros gyfnod y cynllun sy’n para 15 mlynedd.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 540

4.2 Mewn ymateb i wrthwynebiadau 33/92 (o ran Polisi HP1), 33/320 a 33/1084, cynigiodd y Cyngor ddarn ychwanegol o destun o ran tai fforddiadwy a thai cost isel y farchnad, a hefyd o ran yr angen am dai a’r angen am dai fforddiadwy. O ran tai cost isel y farchnad, cynigir dau baragraff newydd, sef 16.64a ac 16.64b, ac y dylid ychwanegu at y diffiniad o dai fforddiadwy ym mharagraff 16.66. Nodir y rhain yn ymateb y Cyngor i Wrthwynebiad 33/92. Rwy’n cytuno â’r newidiadau hyn. Fodd bynnag, dylai’r paragraff newydd a awgrymwyd gan y Cyngor o ran safleoedd eithrio gyfeirio at dai fforddiadwy fel disgrifiad ar y cyd o dai cost isel i’w rhentu ac i’w prynu, yn gyson â phennawd Polisi HP7. Rwy’n cytuno â’r geiriad diwygiedig a gyflwynwyd gan y Cyngor mewn ymateb i Wrthwynebiad 6/944.

4.3 Rwy’n cefnogi’r diwygiadau bach a wnaed gan y Cyngor i deitl, y penderfyniad i osod is-bennawd ac i gynnwys geiriau ym mrawddeg agoriadol paragraff 16.57. Rwyf hefyd yn cefnogi’r paragraff newydd arfaethedig 16.64b, ond rwy’n awgrymu, yn ysbryd arweiniad cenedlaethol, y dylid ei ddiwygio trwy osod y gair “a gymorthdelir” yn lle “fforddiadwy” yn y frawddeg agoriadol.

4.4 O ran “angen lleol”, mae’r Cyngor yn nodi nad oes angen newid y cynllun o ran y diffiniad o “leol” ond awgrymodd y dylid ychwanegu darn o destun at ddiwedd paragraff 16.57. Yn fy marn i, nid yw’r testun hwn a awgrymwyd yn ddefnyddiol, ac nid wyf o’r farn ei fod yn rhoi ateb digonol i’r cwestiwn sut y dylid diffinio “person lleol” o ran paragraff 16.70 a rheolaethau ar ddeiliadaeth. Mae NCT2 (troednodyn i bara 18) yn nodi “byddai angen i’r awdurdod cynllunio lleol ddiffinio termau megis trigolion lleol, … yn glir.” Rwy’n argymell yn unol â hynny ond gadawaf i’r Cyngor ddatblygu diffiniad addas.

4.5 Mae arweiniad ym Mholisi Cynllunio Cymru a NCT2 yn glir bod yn “rhaid i bolisïau nodi y bydd Awdurdod yn ceisio negodi gyda datblygwyr …” (fy mhwyslais i). Mae geiriad Polisi HP7 yn gwbl gyson â’r arweiniad hwn; byddai’n amhriodol newid geiriad y polisi i’w wneud yn ‘gryfach’.

Arolwg o Anghenion Tai 4.6 Cyhoeddwyd yr Arolwg o Anghenion Tai (HNS) ym mis Rhagfyr 2001 ar ôl drafft ar adnau’r cynllun ac felly mae’n gwneud tipyn i fynd i’r afael â gwrthwynebiadau 24/311 ac 8/350. Am fod casgliadau’r Arolwg cyhoeddedig hwnnw yn disodli rhywfaint o gynnwys Polisi HP7 a’r cyfiawnhad rhesymegol drosto, cynigiodd y Cyngor gyfres o newidiadau i adlewyrchu’r canfyddiadau diweddaraf : Newidiadau Arfaethedig PC157 i PC162.

4.7 Gwnaed yr HNS gan ddilyn methodoleg y cytunwyd arni yn genedlaethol. Er bod rhai gwrthwynebwyr o’r farn bod yr Arolwg yn dra diffygiol, ni chyflwynwyd unrhyw feirniadaethau na sylwadau manwl a fyddai’n peri i mi amau nad yw’n ddigon da. Nodaf a chefnogaf fwriad y Cyngor i ddiweddaru cyfeiriadau at yr HNS. Mae’r cynnydd parhaus mewn prisiau tai yn debygol o ymestyn y bwlch fforddiadwyedd ymhellach a chynyddu nifer y teuluoedd nad oes ganddynt ddigon o incwm i brynu eiddo sy’n addas i’w hanghenion.

4.8 Mae’n amlwg bod canfyddiadau’r Arolwg hwn yn dangos bod angen tai fforddiadwy ar Ynys Môn. Mae’r pryder hwn wedi’i ailddatgan gan lawer o wrthwynebiadau. Mae pob cyfiawnhad dros fodolaeth polisi sy’n ceisio rhywfaint o dai fforddiadwy ar ddatblygiadau arfaethedig. Nododd y Cyngor y ceir manylion am yr angen am dai yn yr is-ardaloedd yn Atodiad 9 i’r HNS a bod Gwasanaethau Tai bellach yn darparu proffil o’r anghenion tai penodol (y math o anheddau a’u maint ac ati) a geisir ganddynt er mwyn mynd i’r afael â’r

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 541 angen am dai mewn cymunedau ledled yr Ynys. Am fod y wybodaeth ar gael, dyblygu diangen fyddai ei ailadrodd yn y cynllun.

4.9 Cynigiodd y Cyngor frawddeg ychwanegol at baragraff 16.57 sy’n nodi y bydd yn derbyn gwybodaeth atodol a ddarperir gan ddatblygwyr o ran fforddiadwyedd tai o fewn cymunedau ar yr ynys. Rwy’n cytuno y dylid cynnwys brawddeg ychwanegol yn ymwneud â mater data am anghenion tai a fforddiadwyedd tai, ond ni ddylid cyfyngu hyn i ddatblygwyr. Yn yr un modd gallai cynghorau cymuned, er enghraifft, hyrwyddo neu wneud arolygon o’r fath yn eu hardaloedd.

Trothwyau, cyfraniad canrannol a hyblygrwydd 4.10 Mae canfyddiadau’r HNS yn nodi y dylai safleoedd yn cynnwys 10 uned neu ragor gyfrannu hyd at 30% o dai fforddiadwy ac y dylai safleoedd yn cynnwys 5 uned neu ragor mewn ardaloedd â phoblogaeth o dan 3,000 gyfrannu 30% hefyd. Mae’r Cyngor wedi dehongli hyn yn y cynllun trwy eiriad PC161 a PC162. Yn ddiau byddai tystiolaeth o’r HNS yn ategu y dylid parhau â throthwy o 10 uned yn y prif ganolfannau a’r canolfannau eilaidd. Er i wrthwynebwyr awgrymu trothwy uwch o 15 uned, nid ategwyd hyn ddigon gan y dystiolaeth. Er mwyn cydnabod yr anghenion tai sylweddol mewn ardaloedd mwy gwledig, mae PC161 yn cyflwyno cymal b) i HP7 yn nodi trothwy is ar gyfer pentrefi. Unwaith eto, byddai’r ffigurau yn yr HNS yn ategu’r trothwy hwn. Mae’r trothwyau hyn i bob pwrpas yn nodi pryd y bydd y Cyngor yn ceisio negodi ar gyfer rhywfaint o dai fforddiadwy ar safle addas, nid ydynt yn nodi bod yn rhaid i dai fforddiadwy gael eu darparu gan ddatblygwr. Wrth negodi gyda datblygwyr ac wrth asesu safleoedd, dylai’r Cyngor ystyried y ffactorau a nodir yn NCT2 paragraff 8b yn ymwneud â maint safleoedd, pa mor addas ydynt ac economeg darparu ac ati. Bydd angen asesu pob sefyllfa ar wahân yng ngoleuni’r holl ffactorau ac amodau sy’n dod i’r amlwg ar unrhyw adeg benodol.

4.11 I’r un perwyl felly, mae’r ffigur 30% yn nodi’r hyn a geisir gan y Cyngor wrth negodi gyda datblygwyr a’r man cychwyn ar gyfer y trafodaethau hynny – ar gyfer darpariaeth sy’n uwch neu’n is na’r ffigur 30% gan ddibynnu ar amgylchiadau penodol y safle. Nid yw’n ffigur diffiniol. Mae lefelau o angen a nodwyd yn yr HNS yn awgrymu bod y ffigur hwn, sef 30%, yn briodol. Ni ddylid dileu PC162 fel yr awgrymir gan wrthwynebwyr ond, er mwyn eglurder, dylid cynnwys geiriau ychwanegol yn ymwneud â hyblygrwydd a’r ystyriaethau y dylid rhoi sylw iddynt wrth asesu safleoedd (NCT 2, paragraff 8b).

Y diffyg o ran y ddarpariaeth tai fforddiadwy 4.12 Codir mater tai fforddiadwy ar gyfer pobl leol. Yn y Drafodaeth Ford Gron awgrymwyd, os nad oedd yn debyg y câi mwy na 30% o’r 1,800 o anheddau newydd eu darparu fel tai fforddiadwy, mai dim ond 540 o unedau fforddiadwy y byddai hynny yn eu darparu ac y byddai’n arwain at ddiffyg o tua 1000 o anheddau fforddiadwy i ddiwallu’r angen am dai a nodwyd hyd at 2006. Hefyd yn y sesiwn hwnnw, nododd y Cyngor y byddai’n croesawu unrhyw argymhelliad o ran sut y gellid diwallu anghenion tai lleol a nodwyd pe bai angen rhagor o dir er mwyn gwneud hynny.

4.13 Rôl y Cyngor a’r cynllun datblygu yw hyrwyddo darparu tai fforddiadwy, nid hwy yw’r unig ddarparwr ac nid ydynt yn gyfrifol yn uniongyrchol am ddarparu unedau fforddiadwy. Mae gofyniad anheddau a strategaeth ddosbarthu’r Cynllun yn gyson ag egwyddorion ehangach cynaliadwyedd. Ni ddylai’r cynllun geisio gorddarparu tir ar gyfer tai am y gellid sicrhau rhyw gyfraniad amrywiol at yr angen am dai fforddiadwy a nodwyd.

Polisi eithriadau gwledig

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 542

4.14 Mae Cymal c) Polisi HP7 (mae PC161 yn cyfeirio ato) yn ddarpariaeth polisi dilys. Mae arweiniad a geir yn NCT2 paragraff 12 yn nodi y dylai cynlluniau datblygu esbonio y rhyddheir safleoedd eithrio gwledig fel eithriad i bolisïau arferol y cynllun. Nid wyf o’r farn bod y pwyslais hwn yn cael ei adlewyrchu’n foddhaol yng ngeiriad y cynllun a adneuwyd ac felly rwy’n argymell y dylid ychwanegu’r geiriau canlynol ar ddechrau cymal c) “ystyried, fel eithriad i’r cynllun, y …”. Cydnabu’r Cyngor fod y geiriad “mewn lleoliadau priodol” yn amwys ac rwy’n cefnogi’r aralleiriad a awgrymwyd ganddo, sef “o fewn aneddiadau sy’n bodoli eisoes neu yn union gerllaw aneddiadau sy’n bodoli eisoes”.

Rheolaethau ar ddeiliadaeth 4.15 Cynigir yng Ngwrthwynebiad 33/92 y dylai rhwymedigaeth neu amod cynllunio gyfyngu deiliadaeth cartrefi a ddarperir ar gyfer person lleol/pobl leol am hyd at 5 mlynedd o’r dyddiad y bydd y bobl gyntaf yn dechrau byw ynddynt. Ar ben hynny awgrymir y dylai hyn fod yr un mor berthnasol i eiddo a reolir gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Byddai’r ddau bwynt hyn yn groes i ysbryd NCT2 trwy geisio sicrhau tai fforddiadwy am byth ac fel arfer ni ddylai awdurdodau cynllunio lleol osod rheolaethau ychwanegol ar ddeiliadaeth pan fwriedir i landlord cymdeithasol cofrestredig fod yn gyfrifol am reoli’r tai fforddiadwy.

Dyrannu tai cost isel 4.16 Awgrymodd Gwrthwynebiad 50/293 y dylid dyrannu tai cost isel yn Llanddona. Awgrymodd gwrthwynebwyr eraill y dylid dyrannu safleoedd ychwanegol yn benodol ar gyfer tai fforddiadwy. Nid yw tai fforddiadwy, gan gynnwys tai cost isel, yn ddefnydd tir ar wahân ond mae’n ddarpariaeth y gellir ei gwneud trwy broses y cais cynllunio a thrwy gymhwyso Polisi HP7. Byddai’n amhriodol nodi tir yn Llanddona, neu unrhyw anheddiad, ar gyfer defnydd o’r fath.

5.0 Argymhellion

5.1 Y dylid diwygio paragraff 16.57 yn unol â Newid Arfaethedig PC157 ac y dylid ychwanegu’r geiriau canlynol at ddiwedd brawddeg gyntaf y cynllun a adneuwyd “a’r angen i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy.” Ac y dylid ychwanegu’r frawddeg ganlynol “Bydd y Cyngor yn ystyried gwybodaeth atodol a ddarperir o ran gofynion tai a fforddiadwyedd o fewn cymunedau ar yr Ynys. Yn unol ag arweiniad Llywodraeth Cynulliad Cymru, bydd angen i’r Cyngor fod yn sicr bod gwybodaeth o’r fath yn dod o ffynonellau data â sail gadarn iddynt a dylai gynnwys gwybodaeth am: Prisiau a rhenti tai lleol Incymau lleol Argaeledd tai a’r cyflenwad o dai.

5.2 Y dylid dileu paragraff 16.58 yn unol â PC158.

5.3 Y dylid diwygio paragraff 16.63 yn unol â PC159, ac y dylid rhoi’r dyddiad mis Rhagfyr 2001 i’r Arolwg o Anghenion Tai.

5.4 Y dylid dileu paragraff 16.64 yn unol â PC160.

5.5 Y dylid diwygio Polisi HP7 yn unol â PC161 ac eithrio cymal c) y dylid ei ddileu gan osod y canlynol yn ei le: “c) ystyried, fel eithriad i’r cynllun, ryddhau tir yn ychwanegol at y tir sydd ar gael i ddarparu tai yn gyffredinol, ar gyfer tai fforddiadwy o fewn aneddiadau sy’n bodoli

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 543 eisoes neu yn union gerllaw aneddiadau sy’n bodoli eisoes.” Y dylid cyfuno cymal newydd (b) â chymal (a) am fod y ddau yn ymwneud â’r un bwriad i negodi. Y dylai cymal (c) droi’n gymal (b) wedyn.

5.6 Y dylid diwygio’r diffiniad o dai fforddiadwy ym mharagraff 16.66 fel a ganlyn: “Diffinnir Tai Fforddiadwy fel tai cost isel y farchnad a thai a gymorthdelir sydd i’w prynu neu i’w rhentu i ddiwallu anghenion y rhai sy’n byw mewn tai anaddas a hefyd y rhai nad yw eu hincymau isel yn eu galluogi i brynu na rhentu tai addas. Mae tai cost isel y farchnad yn dai y gellir eu darparu am bris is na’r farchnad gyfredol.

5.7 Y dylid ychwanegu paragraffau ychwanegol fel a ganlyn:

“16.64a Yn ogystal â’r bobl hynny a nodwyd yn yr arolwg o anghenion tai mae pobl eraill na allant gael mynediad i’r farchnad dai mewn cymunedau lleol, oherwydd y prisiau tai presennol mewn perthynas â’u hincymau. Mae’r Cyngor yn cydnabod nad yw’r holl bobl sydd am gael tai cost isel y farchnad yn byw mewn llety anaddas, ond bod angen llety fforddiadwy arnynt am na allant gael mynediad i’r farchnad dai i fodloni eu gofynion.”

“16.64b Er mwyn cyflawni gweledigaeth y Cynllun Datblygu Unedol i sicrhau cymunedau cynaliadwy bydd angen darparu cymysgedd o anheddau ar draws y sbectrwm o dai a gymorthdelir mewn ymateb i’r angen am dai, tai cost isel y farchnad a thai’r farchnad gyffredinol. Trwy ymagwedd o’r fath, a’r amrywiaeth o fathau o gynlluniau sy’n gysylltiedig, bydd y Cynllun Datblygu Unedol yn helpu i ddarparu’r cymysgedd o fathau o anheddau a deiliadaethau sydd eu hangen i alluogi cymunedau lleol cynaliadwy ar Ynys Môn.”

5.8 Y dylid diwygio paragraff 16.65 yn unol â PC162 ac y dylid ychwanegu’r testun ychwanegol o ran hyblygrwydd a’r ystyriaethau y dylid rhoi sylw iddynt wrth asesu safleoedd (NCT2, paragraff 8b). Y dylid ychwanegu’r testun canlynol at baragraff 16.65: “O ran tai fforddiadwy a ddatblygir fel ‘eithriad’ i bolisïau’r cynllun, mae’n rhaid i’r safle fod ar gwr anheddiad cydnabyddedig neu’n cyffinio ag ef. Rheolir deiliadaeth anheddau trwy gytundebau cyfreithiol a reolir fel arfer gan Landlord Cymdeithasol Cofrestredig neu gorff â statws tebyg. Ni chaniateir datblygu ‘safleoedd eithrio ar gyfer tai fforddiadwy’ yng nghefn gwlad agored i ffwrdd o aneddiadau.”

5.9 Y dylid dileu paragraff 16.68 a gosod y testun canlynol yn ei le: “16.68 Wrth asesu materion fforddiadwyedd mae cyfeiriad at lefelau rhent cyfredol yn un o’r ystyriaethau a gydnabyddir gan arweiniad y Cynulliad (NCT2, paragraff 8). Ar ben hynny cyhoeddir data incymau a phrisiau tai yn yr Arolwg o Anghenion Tai ac fe’i diwedderir yn rheolaidd gan y Cyngor.”

5.10 Y dylai’r Cyngor ddarparu diffiniad o “berson lleol” fel y cyfeirir ato ym mharagraff 16.70 y cynllun a adneuwyd.

5.11 Y dylid diweddaru cyfeiriadau at Arolwg o Anghenion Tai 2000 i fis Rhagfyr 2001, y dylid ychwanegu’r geiriau “a Thai Fforddiadwy” at deitl adran r) Anghenion Tai ac y dylid ychwanegu’r is-bennawd “Yr Angen am Dai” ar ôl paragraff 16.57.

Newid Arfaethedig PC163 Polisi HP7a – Estyniad Gwrthwrthwynebiad 31/2394 – Plaid Werdd Sir y Fflint

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 544

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Dylid ychwanegu cymal ychwanegol at bolisi HP7a sy’n ystyried ôl troed cronnol yr annedd wreiddiol.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nid yw’r meini prawf a awgrymwyd yn ychwanegu at y polisi a gellir mynd i’r afael â phryder y gwrthwynebydd trwy’r meini prawf presennol.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Mae Newid Arfaethedig PC163 yn cyflwyno polisi newydd, sef HP7a, â thri maen prawf a chyfiawnhad rhesymegol. Gyda’i gilydd, byddai’r meini prawf yn mynd i’r afael â phryder y gwrthwynebydd. Mae Maen Prawf (ii) yn cyfeirio at ‘adeilad presennol’ ac mae maen prawf (i) yn cyfeirio at ‘annedd wreiddiol’. Dylid dileu’r geiriad ‘a’r adeilad presennol’ am ei fod yn ailadroddus ac yn anghyson.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio’r cynllun yn unol â Newid Arfaethedig PC163, ar yr amod y dilëir y geiriau ‘a’r adeilad presennol’ o faen prawf (ii).

Newid Arfaethedig PC164 Polisi Tai HP 7b – Fflatiau Gwrthwrthwynebiad 31/2393 – Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Dylid ychwanegu geiriau ychwanegol at frawddeg gyntaf para 16.70a yn nodi "fflatiau/ cyntedd”.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r paragraff yn ddigonol fel y mae ac nid yw’r geiriau a awgrymir yn ei wneud yn gliriach.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Mae fflatiau a rhandai fel arfer yn gyfystyr. Ystyrir cynteddau yn ôl eu teilyngdod. Nid oes unrhyw reswm clir pam y dylid newid y polisi. Byddwn yn nodi nad oes gan y gair ‘mawr’ fawr ddim gwerth am nad yw wedi’i ddiffinio.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio’r cynllun yn unol â PC164, ond na ddylid diwygio Newid Arfaethedig PC164 mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Polisi HP8 Addasiadau Gwledig

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 545

Gwrthwynebiad 9/810 - Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru Newid Arfaethedig PC166 Paragraff 16.76 Gwrthwynebiadau 9/2379 – Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru 35/2099 – Cyngor Cefn Gwlad Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad a’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Mae 9/810 yn gofyn am ddatganiad ychwanegol ym Mholisi HP8 yn nodi y dylid ystyried hefyd y defnydd y gellid ei wneud o adeiladau anghyfannedd a lled adfeiliedig gan rywogaethau a warchodir megis ystlumod a’r angen i ymgynghori’n briodol â Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Mae Gwrthwrthwynebiad 9/2397 yn awgrymu y dylid cyfeirio at Grðp Ystlumod Gwynedd ym mharagraff 16.76. Mae Gwrthwrthwynebiad 35/2099 yn awgrymu y dylid diwygio PC166 i ddarllen “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” i gywiro gwall teipio.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Newid Arfaethedig PC166 yn diwygio paragraff 16.76 yn unol â’r cais yng Ngwrthwynebiad 9/810. Bydd y paragraff hefyd yn cynnwys cyfeiriad at Grðp Ystlumod Gwynedd a chaiff y gwall teipio ei gywiro.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Rwy’n cymeradwyo PC166 a’r newidiadau cysylltiedig a gynigir gan y Cyngor.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio paragraff 16.76 y cynllun a adneuwyd yn unol â Newid Arfaethedig PC166 ac y dylai gynnwys hefyd cyfeiriad at Grðp Ystlumod Gwynedd a sillafiad cywiriedig “Cyngor Cefn Gwlad Cymru”.

Polisi HP8 Addasiadau Gwledig Gwrthwynebiad 33/319 - Gwerth Gorau’r DU Cyf

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r polisi yn orgyfyngol ac yn gamarweiniol o ran ei ragdybiaethau. Dylid caniatáu addasiadau ar gyfer person lleol mewn ardaloedd gwledig a threfol. Ceisir eglurhad ynghylch nifer yr addasiadau a ganiateir yn ystod cyfnod y cynllun ac a yw’r rhain yn cynnwys addasiadau gwyliau.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nid yw’r polisi yn cyfyngu ar nifer y cyfryw addasiadau ond mae’n rhagdybio ynghylch y cyfraniad y maent yn debygol o’i wneud at y ffigur tai yn ystod cyfnod y cynllun. Ni chynhwyswyd addasiadau gwyliau yn y rhagdybiaeth a wnaed ynghylch cyfraniad ‘addasiadau’ at y gofyniad tai cyffredinol.

3.0 Mater

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 546

3.1 Mae Polisi HP8 yn orgyfyngol.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Fel y mae’r Cyngor yn egluro yn ei ymateb uchod, ac fel yr awgrymir ym mrawddeg gyntaf paragraff 16.72 y cynllun a adneuwyd, nid yw addasiadau gwyliau wedi’u cynnwys mewn rhagdybiaethau ynghylch cyfraniad addasiadau at y gofyniad anheddau cyffredinol.

4.2 Mae Polisi HP8 yn ymwneud ag addasiadau mewn ardaloedd gwledig. Mae Polisi HP3 a HP4 yn ymwneud â datblygiadau, gan gynnwys addasiadau, mewn ardaloedd trefol o fewn ffiniau aneddiadau. Felly ymdrinnir ag addasiadau gwledig a threfol gan bolisïau yn y cynllun a adneuwyd.

4.3 O gofio bod Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylid rheoli’n llym adeiladu tai newydd a datblygiadau newydd eraill yng nghefn gwlad agored, i ffwrdd o aneddiadau sefydlog, nid yw HP8 yn orgyfyngol. Mae hefyd yn dilyn ysbryd arweiniad yn NCT 6 Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig.

5.0 Argymhelliad

5.1 Na ddylid diwygio Polisi HP8 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Paragraff 16.71 Gwrthwynebiad 34/1043 - Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid ychwanegu’r canlynol at ddiwedd y cyfiawnhad rhesymegol: “Mae’n hanfodol y cyflawnir addasiadau o’r fath yn sensitif a’u bod yn briodol i gymeriad a golwg tai yn yr ardal leol.”

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Newid Arfaethedig PC165 yn diwygio paragraff 16.71 fel yr awgrymwyd.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Rwy’n cymeradwyo Newid Arfaethedig PC165.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio paragraff 16.71 y cynllun a adneuwyd yn unol â Newid Arfaethedig PC165.

Polisi HP9 Anheddau Newydd Gwrthwynebiad 8/249 - Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 547

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’n gofyn am ddatganiad ychwanegol yn y polisi yn egluro y bydd y Cyngor yn cefnogi naill ai gwaith adnewyddu sylweddol neu waith ailadeiladu ar gyfer anheddau sy’n dadfeilio mewn trefi a phentrefi.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nid yw’r Cyngor yn bwriadu newid y cynllun am fod polisi yn ymdrin ag anheddau newydd y tu allan i aneddiadau. O ran atgyweirio neu ailadeiladu anheddau mewn trefi a phentrefi, mynegir rhagdybiaeth o blaid gwaith datblygu a gwaith ailddatblygu o fewn ffiniau datblygu o dan strategaeth aneddiadau a chymunedau cynaliadwy’r cynllun.

3.0 Mater

3.1 Dylai Polisi nodi’n gliriach y bydd y Cyngor yn cefnogi gwaith adnewyddu sylweddol neu waith ailadeiladu ar gyfer anheddau sy’n dadfeilio mewn trefi a phentref.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Er fy mod yn derbyn ymateb y Cyngor bod Polisïau HP3 a HP4 yn cynnwys rhagdybiaeth o blaid gwaith datblygu ac ailddatblygu o fewn ffiniau aneddiadau, nid yw’n glir o eiriad y polisi na’r cyfiawnhad rhesymegol mai dim ond ag anheddau newydd y tu allan i aneddiadau y mae HP9 yn ymdrin. Er mwyn sicrhau eglurder, rwy’n argymell y dylid newid geiriad teitl y Polisi i ‘Anheddau Newydd Gwledig’ ac y dylid newid y frawddeg agoriadol i ddarllen:- “Caniateir anheddau newydd a leolir mewn clwstwr, pentrefan, neu yng nghefn gwlad agored…..” er mwyn ei gysoni â Pholisi HP8. Nid oes angen unrhyw ddiwygiad arall i Bolisi HP9 mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio Polisi HP9 y cynllun a adneuwyd fel a ganlyn: - Dylai Pennawd y Polisi ddarllen: ‘Polisi Tai HP9 – Anheddau Newydd Gwledig.’ Dylai brawddeg gyntaf Polisi HP9 ddechrau: ‘HP9. Caniateir anheddau newydd a leolir mewn clwstwr, pentrefan, neu yng nghefn gwlad agored …’

Polisi HP9 Anheddau Newydd Gwrthwynebiad 28/266 - Jan Tyrer

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylid diwygio HP9 i nodi y dylai’r anheddau newydd fod o fewn cwrtil yr annedd sy’n bodoli eisoes yn hytrach nag ymgorffori’r ôl troed gwreiddiol.

2.0 Ymateb y Cyngor

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 548

2.1 Y lle gorau i annedd newydd yw ar yr ôl troed gwreiddiol am y byddai caniatáu annedd newydd o fewn cwrtil yn gyfystyr ag annedd newydd yng nghefn gwlad agored.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Rwy’n cytuno ag ymresymu’r Cyngor. Gellid nodi hefyd nad yw geiriad y polisi, fel y mae wedi’i ysgrifennu ar hyn o bryd yn y cynllun a adneuwyd, yn nodi bod yn rhaid i’r anheddau newydd ddilyn yr ôl troed sy’n bodoli eisoes yn union. Ymddengys ei fod yn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd o ran lleoliad a maint annedd newydd, cyhyd â’i bod yn ymgorffori ôl troed yr annedd sy’n bodoli eisoes.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio polisi HP9 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Paragraff 16.78 Gwrthwynebiad 6/945 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru (CCC) Newid Arfaethedig PC167 Paragraff 16.78 Gwrthwrthwynebiad 6/2086 – CCC

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad a’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Mae Polisi HP10 yn orgyfyngol am ei fod yn gwahardd carafannau preswyl yn llwyr. Dylid ei ddileu neu ei ddiwygio. Nid yw PC167 yn cwrdd â’r gwrthwynebiad gwreiddiol; dylid bod wedi nodi Polisi HP10 yn gliriach yn hytrach na darparu cyfeiriad at Bolisi Cynllunio Cymru yn unig.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Er bod PC167 yn bwriadu seilio’r cynllun ar ddarpariaethau Polisi Cynllunio Cymru, mae CCC yn hysbysu’r Cyngor nad yw’r ymateb hwn yn ddigon da. Felly, cynigir yr ymgynghorir â’r diwydiant cartrefi parc fel y cynghorir gan Bolisi Cynllunio Cymru.

2.2 Ni chynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad o’r fath cyn yr Ymchwiliad i’r Cynllun Datblygu Unedol ac felly bydd angen mynd i’r afael â’r materion yn ystod y cyfnod ar ôl mabwysiadu’r cynllun. Defnyddir Arweiniad Cynllunio Atodol i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon a nodwyd yn yr ymgynghoriad na all y Cynllun Datblygu Unedol ymdrin â hwy.

2.3 Felly mae’r Cyngor yn awgrymu y dylid dileu’r adran bresennol t) Carafannau Preswyl ym Mhennod 16 Cynllun Datblygu Unedol Ynys Môn a gosod testun newydd fel a ganlyn : t) Carafannau Preswyl

16.77 Mae Polisi Cynllunio Cymru (Mawrth 2002) yn cynghori y dylai’r awdurdod cynllunio ymgynghori â’r diwydiant cartrefi parc ynghylch y cyfraniad y gall cartrefi symudol preswyl ei wneud at y ddarpariaeth tai gyffredinol ar yr Ynys.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 549

16.78 Ni chynhaliodd y Cyngor unrhyw ymgynghoriad o’r fath wrth baratoi’r Cynllun Datblygu Unedol ond bydd yn fater o flaenoriaeth ar gyfer gweithredu yn y cyfnod ar ôl mabwysiadu’r cynllun. Bydd y Cyngor wedyn yn defnyddio Arweiniad Cynllunio Atodol i hyrwyddo unrhyw fentrau polisi angenrheidiol a/neu ymatebion ynghylch y pwnc hwn.

3.0 Mater

3.1 A ddylid dileu neu ddiwygio Polisi HP10. A yw cyfeiriad at Bolisi Cynllunio Cymru yn ddigon.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Rwy’n cytuno â bwriad y Cyngor i ddileu Polisi HP10 fel y cynigir yn PC167. Mae gwaharddiadau llwyr yn amhriodol mewn polisi cynllun datblygu. Rwyf hefyd yn cytuno y dylid cynnwys y geiriad diwygiedig yn y cynllun, fel y’i nodir ym mharagraff 2.3 uchod.. Fodd bynnag, dylid bod yn ofalus wrth ddefnyddio Arweiniad Cynllunio Atodol. Byddai’n well nodi ‘Bydd y Cyngor yn cyhoeddi arweiniad polisi ar Gartrefi Symudol Preswyl ar ôl iddo ymgynghori a rhoi cyhoeddusrwydd i’w gynigion, maes o law.’

5.0 Argymhellion

5.1 Y dylid dileu Polisi HP10 a pharagraffau 16.77 ac 16.78 y cynllun a adneuwyd.

5.2 Y dylid cynnwys testun newydd yn y cynllun fel y nodir ym mharagraff 2.3 yr adroddiad uchod, ond y dylid diwygio brawddeg olaf paragraff 16.78 i ddarllen: ‘Bydd y Cyngor yn cyhoeddi arweiniad polisi ar Gartrefi Symudol Preswyl ar ôl iddo ymgynghori a rhoi cyhoeddusrwydd i’w gynigion, maes o law.’

Polisi HP11 a Pharagraff 16.79 Cartrefi Preswyl a Nyrsio - Meini Prawf 1 Gwrthwynebiad 6/946 - Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dileu lefel y ddarpariaeth (maen prawf 1) o’r polisi.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Wrth asesu unrhyw gais am eiddo o’r fath mae’n gywir ac yn briodol ystyried lefel y ddarpariaeth sy’n bodoli eisoes i helpu i lywio’r penderfyniad. Mae’n debyg y byddai’r Cyngor yn ceisio barn y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Bwrdd Iechyd Lleol i’w gynorthwyo gyda materion o’r fath. Mae ceisio sicrhau nad oes gormod o’r fath ddarpariaeth mewn unrhyw ardal benodol ar yr Ynys yn ystyriaeth gynllunio ddilys.

3.0 Materion

3.1 Dileu maen prawf 1 o Bolisi HP11.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 550

4.1 Er y gall fod yn briodol ystyried effaith gronnol datblygiadau o’r fath, mae’n amlwg nad yw’n briodol cymhwyso prawf ‘anghenion’ at gartrefi preswyl a nyrsio. Ni chyfeiriwyd at unrhyw arolwg nac asesiad o sefydliadau preifat, sefydliadau awdurdod lleol a sefydliadau iechyd sy’n bodoli eisoes a fyddai’n rhoi amcan o ‘anghenion yr ardal’, ac ni nodwyd pa lefelau o ddarpariaeth sy’n bodoli eisoes a fyddai’n arwain at ganiatâd cynllunio yn cael ei wrthod.

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio Polisi HP11 trwy ddileu maen prawf 1 – Lefelau o Ddarpariaeth.

Polisi HP12 a Pharagraffau 16.81 ac 16.82 Adnewyddu Caniatâd Cynllunio Gwrthwynebiad 28/265 CDN Planning Ltd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Nid oes angen HP12 am y dylid asesu unrhyw gais am adnewyddu caniatâd cynllunio bob amser yn erbyn y polisïau sydd ar waith ar y pryd. Mae testun paragraff 16.81 yn gamarweiniol am fod paragraff 16.45 yn ymdrin â chaniatâd cynllunio sy’n bodoli ac mae’n destun gwrthwynebiad, sef 28/1230.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Polisi HP12 yn darparu eglurder o fewn y cynllun ar gyfer y safbwynt o ran ceisiadau adnewyddu ar gyfer datblygiadau preswyl. Cydnabyddir bod cynnwys paragraff 16.81 yn gamarweiniol wrth ddefnyddio’r derminoleg “a roddwyd mewn degawdau blaenorol” am yr ymdrinnir â’r cyfryw ganiatâd sy’n bodoli o dan baragraff 16.45 y cynllun. Awgrymir y dylid diwygio paragraff 16.81 fel a ganlyn :- “Yn debyg i rannau eraill o Gymru mae gan Ynys Môn nifer o safleoedd â chaniatâd cynllunio sy’n bodoli eisoes sy’n darparu llwyth o dir wrth gefn sydd â chaniatâd ar gyfer ei ddatblygu. Nid yw pob un o’r safleoedd hyn mewn lleoliadau sy’n cyd-fynd â’r cynllun datblygu.”

2.2 Cydnabyddir o dan rai amgylchiadau y gall ystyriaethau perthnasol fod yn bwysicach nag ystyriaethau polisi, fodd bynnag, nid yw’r polisi hwn yn diystyru’r amgylchiadau hyn, y cyfan y mae’n ei wneud yw darparu man cychwyn ar gyfer gwerthuso’r cais adnewyddu.

2.3 Mae’r Cyngor yn awgrymu y dylid newid y gair ‘planing’ o fewn y polisi i ‘planning’.

3.0 Mater

3.1 Nid oes angen Polisi HP12 ac mae testun paragraff 16.81 yn gamarweiniol.

4.0 Casgliad yr Arolygydd

4.1 Er bod hyn yn ddiddorol, rwy’n cytuno â’r gwrthwynebiad nad oes angen Polisi HP12. Mae’r aralleiriad a gynigir ar gyfer paragraff 16.45 (mae Newid Arfaethedig PC152 yn cyfeirio ato, â brawddeg ychwanegol) mewn ymateb i Wrthwynebiad 28/1230 yn ddigon i ymdrin â’r mater.

Pennod 16 – Tai a Phoblogaeth 551

5.0 Argymhelliad

5.1 Y dylid diwygio’r cynllun trwy ddileu polisi HP12 a pharagraffau 16.81 ac 16.82 y cynllun a adneuwyd.

Pennod 17 – Materion Seilwaith a Gweithredu 551

Pennod 17 : Materion Seilwaith a Gweithredu

Polisi Seilwaith SG1 Tir Halogedig Gwrthwynebiad 6/947 – Cynulliad Cenedlaethol Cymru (CCC)

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Gwneud y term ‘Tir Halogedig’ yn gliriach o fewn y cyfiawnhad rhesymegol.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Newid Arfaethedig PC171 yn cynnwys y frawddeg ganlynol "Diffinnir tir halogedig yn Neddf yr Amgylchedd 1995.” ym mharagraff 17.7.

3.0 Casgliadau’r Arolygydd

3.1 Rwy’n cytuno â PC171.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio’r cynllun yn unol â Newid Arfaethedig PC171.

Polisi Seilwaith SG2 Datblygu a Llifogydd Gwrthwynebiadau 85/87 - Mr Roger Siswich 10/127 - Mr A F Nixon 79/560 - Cymdeithas Ddinesig Porthaethwy a’r Cylch 260/528 – Brenda Roberts 228/602 – Ystad Plas Newydd 6/948 - CCC 32/1066 - Ymddiriedolaeth Treftadaeth Gymunedol Porthaethwy 28/1232 - Jan Tyrer 20/1265 - Looms Brothers 35/1326 - Cyngor Cefn Gwlad Cymru Newid Arfaethedig 172 Polisi SG2 a Pharagraff 17.10 Gwrthwrthwynebiadau 20/2155 - Looms Brothers 31/2391 - Plaid Werdd Sir y Fflint 6/2093 - CCC 35/2100 - Cyngor Cefn Gwlad Cymru 36/2345 - Asiantaeth yr Amgylchedd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau a’r Gwrthwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiad 85/87 yn ceisio esboniad rhesymegol o’r newidiadau a wnaed ym Mholisi SG2 yn y fersiwn o’r cynllun a adneuwyd. Mae Gwrthwynebiad 10/127 yn argymell y dylid hepgor y term 'annerbyniol' am nad yw wedi’i ddiffinio’n glir. Mae’r polisi hefyd yn cynnwys “achosi risg annerbyniol i fywyd dynol...” y gellid ei ddarllen i olygu bod risgiau derbyniol i fywyd dynol a ganiateir.

Pennod 17 – Materion Seilwaith a Gweithredu 552

1.2 Mae Gwrthwynebiad 79/560 yn ceisio asesiad mwy trylwyr o’r "Ardal â pherygl llifogydd" ar lan Porthaethwy ar Fap Cynigion 41. Mae Gwrthwynebiad 228/602 yn awgrymu y dylid hepgor y rhan fwyaf o’r tir a elwir yn Gae Creigar, Llanfairpwll o’r dynodiad ‘dynodi llifogydd’ ar Fap Cynigion 26. Mae Gwrthwynebiad 260/528 o’r farn y dylid cynnwys tir oddi ar Station Road, y Fali (Cynnig T23, Cynllun Datblygu Unedol Drafft Ynys Môn gynt) o fewn yr Ardaloedd â Pherygl Llifogydd Dangosol.

1.3 Mae Gwrthwynebiad 6/948 yn awgrymu y dylid diwygio paragraff 17.10 lle y nodir ‘na chaniateir datblygiadau o fewn tir sy’n agored i lifogydd.’ Mae Gwrthwynebiad 32/1066 yn mynnu bod Polisi SG2 yn darparu ar gyfer gwaith datblygu pan na fydd Asiantaeth yr Amgylchedd (EA) yn gwrthwynebu. Mae Gwrthwynebiad 28/1232 yn ceisio eglurhad ynghylch a yw’r ardaloedd â pherygl llifogydd dynodedig yn agored i fath o berygl llifogydd na ellir ei liniaru yn y dyfodol neu a allai rhai o’r ardaloedd yn amodol ar waith seilwaith addas neu ddarpariaethau dylunio arbennig ddod ar gael ar gyfer rhai mathau o ddatblygiadau yn y dyfodol.

1.4 Mae Gwrthwynebiad 20/1265 yn nodi bod asesiadau manwl o berygl llifogydd yn aml yn dangos bod ardaloedd a nodwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd fel ardaloedd â pherygl llifogydd dangosol, wedi’u dangos yn anghywir pan gânt eu harfarnu’n fanwl. Er ei bod yn briodol dangos ardaloedd o’r fath ar y map cynigion, dylai polisïau Cynllun Datblygu Unedol ddarparu ar gyfer asesiadau manwl, yn hytrach na chyflwyno cyfyngiad cyffredinol ar ddatblygiadau newydd. Yn is-gymal (a) Polisi SG2, dylid dileu’r gair “y”. Dylai’r polisi nodi’n glir y dylid cyflwyno asesiad manwl o berygl llifogydd gyda datblygiadau a gynigir mewn ardaloedd o’r fath. Mae Gwrthwynebiad 35/1326 yn awgrymu y dylid ychwanegu maen prawf newydd yn nodi “c) a fyddai’n golygu colli’r gorlifdir naturiol.”

1.5 Mae Gwrthwrthwynebiad 20/2155 yn pryderu y gall asesiadau o berygl llifogydd a wneir gan Asiantaeth yr Amgylchedd fod yn anghywir ar gyrion y gorlifdiroedd a nodwyd. Dylid esbonio yn y polisi y dylid cynnal gwerthusiad technegol manwl o berygl llifogydd gan ddatblygwyr pan na fydd gwybodaeth fanwl am berygl llifogydd ar gael. Dileu is-gymal (c) Polisi SG2 yn PC 172. Mae Gwrthwrthwynebiad 31/2391 yn awgrymu y dylid ychwanegu cyfeiriad at "Asiantaeth Diogelu’r Amgylchedd".

1.6 Mae Gwrthwrthwynebiadau 6/2093 a 35/2100 yn awgrymu y dylid aralleirio Polisi SG2 i sicrhau ei fod yn adlewyrchu Polisi Cynllunio Cymru. Mae Gwrthwrthwynebiad 36/2345 yn awgrymu y dylid aralleirio maen prawf ‘c’ Polisi SG2 (mae PC172 yn cyfeirio ato) i ddarllen: “Mewn ardaloedd o orlifdir sy’n agored ar hyn o bryd, lle y bydd dðr yn llifo pan geir llifogydd, bydd datblygiadau adeiledig yn gwbl eithriadol ac wedi’u cyfyngu i seilwaith hanfodol ar gyfer trafnidiaeth a chyfleustodau.”, ynghyd ag aralleirio’r drydedd frawddeg ym mharagraff 17.10 i ddarllen: “Am y rhesymau hyn, ni chaniateir gwaith datblygu o fewn tir sy’n agored i lifogydd oni ellir ei gyfiawnhau yn y lleoliad hwnnw er ei bod yn debyg y bydd risg y caiff y tir ei orlifo.”

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mewn ymateb i Wrthwynebiad 85/87, mae pob fersiwn o’r cynllun yn un annibynnol. Mewn ymateb i Wrthwynebiad 10/127, cydnabyddir a derbynnir y term “niwed annerbyniol” gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Ni ddiffinnir y term yn fanwl gywir am fod yr hyn yr ystyrir ei fod yn effaith "annerbyniol" yn fater o ffaith a gradd ar gyfer y sefyllfa benodol dan sylw.

Pennod 17 – Materion Seilwaith a Gweithredu 553

2.2 Mewn ymateb i Wrthwynebiadau 79/560, 228/602 a 260/528, mae ardaloedd â pherygl llifogydd dangosol a ddiffinnir ar Fap Cynigion y Cynllun Datblygu Unedol yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. Mae’r Cyngor yn gorfod ystyried gwybodaeth o’r fath wrth baratoi’r Cynllun Datblygu Unedol. Fel arfer mae’r Asiantaeth yn ystyried yr holl wybodaeth am ardaloedd â pherygl llifogydd a ddarparwyd ar ei chyfer a bydd yn adolygu’r ardaloedd hyn fel y bo’n briodol. Wrth gwrs gall gwybodaeth newydd gynnwys gwerthusiadau technegol o berygl llifogydd a gyflawnwyd gan ddatblygwyr neu ar eu rhan fel y ceisir yng Ngwrthwrthwynebiad 20/2155.

2.3 Mewn ymateb i Wrthwynebiadau 6/948, 35/1326 a 32/1066, cyflwynodd y Cyngor newid arfaethedig PC172. Mae’r newid arfaethedig yn ychwanegu maen prawf newydd at y polisi yn nodi “c) mewn ardaloedd o orlifdir sy’n agored ar hyn o bryd ni chaniateir datblygiadau adeiledig oni ellir eu cyfiawnhau am eu bod yn hanfodol ar gyfer y lleoliad hwnnw.” Mae trydedd frawddeg y cyfiawnhad rhesymegol ym mharagraff 17.10 yn cynnwys geiriau ychwanegol fel a ganlyn: “..oni fydd y meini prawf a nodir o fewn y polisi wedi’u bodloni.”

2.4 Ers hynny mae’r Cyngor wedi diwygio maen prawf (c) a thrydedd frawddeg paragraff 17.10 mewn ymateb i Wrthwrthwynebiadau 6/2093, 35/2100 a 36/2345 fel y ceisiwyd gan 36/2345. Mae PC172 wedi’i ddisodli felly. Mewn ymateb i Wrthwynebiad 20/2155, mae’r polisi fel y’i diwygiwyd yn gyson â Pholisi Cynllunio Cymru, 2002.

2.5 Mewn ymateb i Wrthwynebiad 28/1232, ymdrinnir â phob safle yn ôl ei deilyngdod ei hun ac yn ddarostyngedig i dystiolaeth ategol ynghylch gwaith datblygu addas. Mewn ymateb i Wrthwynebiad 20/1265, mae’r cyfiawnhad rhesymegol ym mharagraff 17.10 yn nodi bod angen ymchwiliad technegol manwl. Mewn ymateb i Wrthwrthwynebiad 2391, cydnabyddir bod rôl "Asiantaeth yr Amgylchedd" yn ganolog i’r broses gwneud penderfyniadau ynghylch unrhyw elfen o gais cynllunio yn ymwneud â pherygl llifogydd.

3.0 Mater

3.1 Diwygio Polisi SG2, paragraff 17.10 a Mapiau Cynigion penodol.

4.0 Casgliadau’r Arolygydd

4.1 Mae’r Cyngor yn cael ei wybodaeth am ‘Ardaloedd â Pherygl Llifogydd Dangosol’ (AIFR) gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, a thrawsosodir y wybodaeth hon ar y Mapiau Cynigion. Fel y nodir ym mrawddeg olaf paragraff 17.10, mae’r wybodaeth hon yn rhoi syniad. Felly mae modd mireinio ffiniau’r ardaloedd hyn, ac mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn barod i dderbyn asesiadau technegol ac asesiadau risg, a gwybodaeth ffeithiol gadarn arall, sy’n ei chynorthwyo i wneud y gwaith hwn. Nid argymhellir diwygio’r Ardaloedd â Pherygl Llifogydd Dangosol mewn ymateb i wrthwynebiadau a wnaed ynghylch y mater hwn.

4.2 Mewn perthynas â geiriad Polisi SG2, rwy’n cytuno â’r maen prawf ychwanegol, sef (c), a gyflwynwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn ei Gwrthwrthwynebiad 36/2345. Nid wyf o’r farn ei fod yn faen prawf fel y cyfryw ond ei fod yn ddatganiad polisi penodol. Cynigiaf aralleirio Polisi SG2 isod yn fy argymhellion. Am na ellir diffinio’r gair ‘annerbyniol’, rwyf o’r farn ei bod yn well ei ddileu mewn perthynas â bywyd dynol yn arbennig, ac i sicrhau cysondeb yn y polisi yn ei gyfanrwydd.

Pennod 17 – Materion Seilwaith a Gweithredu 554

4.3 Mewn perthynas â pharagraff 17.10, rwy’n cytuno â geiriad diwygiedig y drydedd frawddeg a gyflwynwyd yng Ngwrthwrthwynebiad 36/2345. Mewn ymateb i Wrthwynebiad 28/1232, rwyf o’r farn y dylai paragraff 17.10 nodi hefyd, mewn sefyllfaoedd penodol, y gall mesurau lliniaru a lleddfu llifogydd, gan gynnwys darpariaethau dylunio, fod yn dderbyniol fel ffordd o ddatrys pryderon penodol ynghylch llifogydd. Byddai angen i fesurau o’r fath fod yn dderbyniol hefyd o ran yr amgylchedd ac amwynder lleol.

5.0 Argymhellion

5.1 Y dylid diwygio Polisi SG2 i ddarllen fel a ganlyn:

‘Polisi Seilwaith SG2 – Datblygu a llifogydd SG2. Caniateir gwaith datblygu (gan gynnwys codi tir) dim ond pan: (a) na fyddai’n arwain at risg i fywyd dynol a difrod i eiddo o fewn yr Ardaloedd â Pherygl Llifogydd Dangosol a ddiffinnir ar y Mapiau Cynigion; a/neu (b) na fyddai’n arwain at lifogydd, gan gynnwys gorlif llanw, naill ar y safle neu oddi arno, neu pan na fyddai’n cael effaith andwyol ar gynlluniau rheoli neu gynnal llifogydd. Mewn ardaloedd o orlifdir sy’n agored ar hyn o bryd, lle y bydd dðr yn llifo pan geir llifogydd, dim ond yn hollol eithriadol y caniateir datblygiadau adeiledig a byddant yn gyfyngedig i seilwaith hanfodol ar gyfer trafnidiaeth a chyfleustodau.”

5.2 Y dylid diwygio paragraff 17.10 trwy ddileu’r drydedd frawddeg sy’n dechrau ‘Am y rhesymau hyn…….’ a gosod y frawddeg ganlynol yn ei lle: ‘Am y rhesymau hyn, ni chaniateir gwaith datblygu o fewn tir sy’n agored i lifogydd oni ellir cyfiawnhau’r lleoliad hwnnw, er ei bod yn debyg y bydd risg yn gysylltiedig â llifogydd.’ a thrwy ychwanegu’r ddwy frawddeg ganlynol fel brawddegau cynderfynol paragraff 17.10: ‘Mewn sefyllfaoedd penodol, gall mesurau lliniaru a lleddfu llifogydd, gan gynnwys darpariaethau dylunio, fod yn dderbyniol fel ffordd o ddatrys pryderon penodol ynghylch llifogydd. Byddai angen i fesurau o’r fath fod yn dderbyniol hefyd o ran yr amgylchedd ac amwynder lleol.’

5.3 Na ddylid diwygio’r Mapiau Cynigion.

Polisi Seilwaith SG5 Cyfleusterau Trin Carthion Preifat. Gwrthwynebiadau 36/325 - Asiantaeth yr Amgylchedd 23/457 - T S Glenfort Ltd Newid Arfaethedig PC173 Polisi SG5 Gwrthwrthwynebiad 31/2390 - Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau a’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Mae Gwrthwynebiad 36/325 yn gofyn i’r Cyngor ddileu “annigonol” o frawddeg agoriadol y polisi. Mae Gwrthwynebiad 23/457 yn awgrymu y dylid diwygio’r cyfiawnhad rhesymegol dros Bolisi SG5 i nodi bod cyfleusterau trin carthion preifat dros dro yn Pennod 17 – Materion Seilwaith a Gweithredu 555

dderbyniol mewn egwyddor pan fydd oedi wrth ddarparu cyfleusterau cyhoeddus. Mae Gwrthwrthwynebiad 31/2390 yn awgrymu y dylid ychwanegu maen prawf safonol ychwanegol at bolisi SG5 yn mynnu cytundebau cyfreithiol (Adran 106) mewn perthynas â "phwy fydd yn cynnal y system am byth".

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mewn ymateb i wrthwynebiad 23/457, mae Polisi SG5 yn ddigon da i ymdrin â’r broses o gyflwyno gweithfeydd trin carthion preifat fesul cam ac â’r modd y’u defnyddir. Mewn ymateb i wrthwynebiad 36/325, mae Newid Arfaethedig PC173 yn dileu’r geiriau ‘annigonol neu’ o linell gyntaf Polisi SG5. Nid oes angen y maen prawf a gynigir yng ngwrthwrthwynebiad 31/2390.

3.0 Casgliadau’r Arolygydd

3.1 Nid oes angen cynnwys cyfeiriad at gyfleusterau trin carthion preifat dros dro yn y cyfiawnhad rhesymegol dros Bolisi SG5 am y gall y polisi ei hun gynnwys cynigion o’r fath, ac mae hefyd yn pennu’r meini prawf a fyddai’n berthnasol. Nodaf Newid Arfaethedig PC173 yr wyf yn cytuno ag ef. Nid yw’r Gwrthwrthwynebiad yn ymwneud â PC173, ond nid oes ei angen serch hynny am fod pwerau ar gael i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ar y cyd ag Asiantaeth yr Amgylchedd i sicrhau gwaith rheoli effeithiol.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio Polisi SG5 yn unol â Newid Arfaethedig PC173, ond na ddylid diwygio Polisi SG5 na’r cyfiawnhad rhesymegol drosto mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Polisi Seilwaith SG7 Sðn Gwrthwynebiadau 33/93 - Gwerth Gorau y DU Cyf 8/403 - YDCW 65/650 - Ymddiriedolwyr Setliad Meyrick 1966 177/651 - R M Seaman MRICS 84/1434 - Mr J E Lewis

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiad 33/93 yn awgrymu y dylai Polisi SG7 ddarllen fel a ganlyn:- "Pan fydd sðn yn ystyriaeth, dylai ceisiadau rheoliadau adeiladu gynnwys cynigion lliniaru wedi’u nodi’n glir (sy’n dderbyniol i’r deiliad arfaethedig) a phan y’u darperir câi caniatâd cynllunio ei roi fel arfer." Mae Gwrthwynebiad 65/650 yn awgrymu y dylid diwygio Polisi SG7 fel a ganlyn:- "Ni chaniateir cynigion ar gyfer unrhyw ddefnydd sy’n creu gormod o sðn a fyddai’n amharu ar amwynderau defnyddwyr cyfagos."

1.2 Mae Gwrthwynebiad 8/403 yn nodi bod yn union o dan y llwybr hedfan ar gyfer glanio ac esgyn ym Mona ac mae am i’r Ffin Amlygiad i Sðn gael ei hymestyn i gynnwys Llangwyllog. Mae Gwrthwynebiad 177/651 yn awgrymu y dylid ei thynnu yn ôl i’r ffin cyfyngu ar sðn ym Mryn Du.

Pennod 17 – Materion Seilwaith a Gweithredu 556

1.3 Mae Gwrthwynebiad 84/1434, o’r farn na ddylai’r Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) fod yn rhy galed ar safle sydd ymhell o fewn ffin y pentref presennol. Dim ond ar gyrion y llwybrau glanio y dylid gosod cyfyngiadau.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mewn ymateb i Wrthwynebiad 33/93, mae Atodlen A NCT 11 'Sðn' yn nodi’r categorïau o amlygiad i sðn ar gyfer anheddau. O ran traffig awyr pan fydd y sðn yn uwch na 72dB rhwng 0700-2300 a 66dB rhwng 2300-0700 yr arweiniad ar gyfer datblygiadau preswyl yw y dylid gwrthod caniatâd cynllunio fel arfer. Mewn ymateb i wrthwynebiadau 8/403 a 177/651, mae’r Ardal Cyfyngu ar Sðn a ddangosir ar y Mapiau Cynigion yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn a nis diffiniwyd/newidiwyd gan y Cyngor. Mae’r ffiniau hyn yn rhoi syniad a gall y Weinyddiaeth Amddiffyn eu newid. Pe bai angen mireinio’r ffin cyfyngu ar sðn, dim ond o dan gyfarwyddyd yr ymgymerwr perthnasol y gellir dechrau gwneud hynny. Mewn ymateb i Wrthwynebiad 65/650, bydd y polisi yn berthnasol i bob datblygiad y mae angen caniatâd cynllunio gan yr awdurdod arno.

3.0 Casgliadau’r Arolygydd

3.1 Nodir bod NCT11 ar Sðn yn rhoi arweiniad penodol ar y mater hwn, ac er nad oes angen i’r Cynllun Datblygu Unedol ailadrodd ei gynnwys, rwyf o’r farn bod Polisi SG7 yn ddigon manwl. Fel y nodwyd ym mharagraff 17.28 y cynllun, mae rheolaethau eraill i’w cael yn ymwneud â sðn. Nid wyf o’r farn y dylai’r cynllun nodi cynnwys y rheolaethau eraill hyn e.e. rheoliadau adeiladu. Fodd bynnag mewn perthynas â Pholisi SG7, rwyf o’r farn y dylai maen prawf (i) ddefnyddio disgrifiad o ardaloedd perthnasol sy’n gyson â’r Mapiau Cynigion ac y dylai fod yn fwy penodol yn hyn o beth. Nodir y geiriad hwn yn fy argymhellion isod. Nid wyf o’r farn bod modd gwneud newidiadau eraill a gynigir mewn gwrthwynebiadau, d.s. mewn perthynas â’r diffiniad o Ardaloedd Cyfyngu ar Sðn neu mewn perthynas â’r modd y cymhwysir y polisi mewn lleoliadau penodol.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio Polisi SG7 i ddarllen fel a ganlyn:

‘SG7. Ni chaniateir gwaith datblygu; i) o fewn yr Ardaloedd Cyfyngu ar Sðn a ddiffinnir ar y Mapiau Cynigion lle y câi’r datblygiad ei amlygu yn annerbyniol i sðn; a/neu ii) pan na fydd lefel y sðn a grëir gan y datblygiad yn bodloni’r safonau cyfredol perthnasol, ac y byddai’n amharu ar amwynder defnyddwyr cyfagos.’

4.2 Na ddylid gwneud unrhyw ddiwygiadau eraill i Bolisi SG7 nac i’r Mapiau Cynigion mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Polisi Seilwaith SG9 Gosodiadau Peryglus Gwrthwynebiad 86/238 - Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

Pennod 17 – Materion Seilwaith a Gweithredu 557

1.1 Mae’r gwrthwynebiad yn awgrymu y dylid cynnwys polisi yn ymwneud â lleoliad sefydliadau lle y defnyddir neu y storir sylweddau peryglus, ac y dylai hefyd ymwneud â datblygu tir gerllaw sefydliadau lle y ceir sylweddau peryglus.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae para 7.5.2 Polisi Cynllunio Cymru sy’n cyfeirio at gynnwys Rhan 2 Cynlluniau Datblygu Unedol yn nodi yn y degfed pwynt bwled, y dylai’r cynllun gynnwys polisi yn ymwneud â lleoliad sefydliadau lle y defnyddir neu y storir sylweddau peryglus. Yn unol â’r arweiniad hwn mae Polisi SG9 - 'Gosodiadau Peryglus' y cynllun yn bodloni’r gofynion hyn.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Yn fy marn i nid yw Polisi SG9 yn darllen fel polisi cynllun datblygu, ac ymddengys ei fod yn rhoi ei bwyslais ar leoliadau gosodiadau peryglus fel mater sy’n ddarostyngedig i reolaeth gynllunio, yn hytrach nag ar gynigion datblygu yn yr ardal o’u hamgylch. Dylai’r polisi nodi y bydd cyfyngiadau yn berthnasol i gynigion datblygu yng nghyffiniau Gosodiadau Peryglus, ac y sicrheir bod pellter addas rhwng Gosodiadau Peryglus ac ardaloedd preswyl, ardaloedd a ddefnyddir gan y cyhoedd ac ardaloedd o sensitifrwydd neu ddiddordeb penodol. Bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cynghori’r Awdurdod Cynllunio Lleol ar bellteroedd ymgynghori sy’n berthnasol i bob Gosodiad Peryglus. Nodaf aralleiriad posibl o’r polisi yn fy argymhellion isod. Lle y bo hynny’n briodol, dylid diffinio parthau ymgynghori ar y Mapiau Cynigion.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio Polisi SG9 – Gosodiadau Peryglus i ddarllen fel a ganlyn:

‘SG9 – Rheolir cynigion datblygu o fewn y Parthau Ymgynghori diffiniedig y mae a wnelont â Gosodiadau Peryglus yn llym i ddiogelu datblygiadau preswyl, ardaloedd a ddefnyddir gan y cyhoedd ac ardaloedd o sensitifrwydd neu ddiddordeb penodol. Wrth benderfynu p’un a ddylid rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad arfaethedig o fewn y Parthau hyn ai peidio, ymgynghorir â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ynghylch unrhyw risgiau a niwed a all ddeillio o Gosodiadau Peryglus.’

Polisi Seilwaith SG10 Hysbysebion Gwrthwynebiadau 30/610 - Bwrdd Yr Iaith Gymraeg 6/949 - CCC

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiad 30/610 yn awgrymu y dylid gosod y testun ychwanegol canlynol yn y polisi: "Bydd y Cyngor yn paratoi Arweiniad Cynllunio Atodol i hybu arwyddion dwyieithog, a fydd yn nodi arfer da ar gyfer dylunio arwyddion o’r fath." Mae Gwrthwynebiad 6/949 yn gofyn i’r Cyngor ddileu maen prawf (iv) am nad yw’n ystyriaeth berthnasol yn ymwneud â defnydd tir.

2.0 Ymateb y Cyngor

Pennod 17 – Materion Seilwaith a Gweithredu 558

2.1 Mewn ymateb i Wrthwynebiad 30/610, bydd y Cyngor yn mynd i’r afael â’r mater hwn trwy Arweiniad Cynllunio Atodol. Mewn ymateb i Wrthwynebiad 6/949, cyflwynodd y Cyngor Newid Arfaethedig PC175 sy’n dileu maen prawf (iv).

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Rwy’n cytuno ag ymatebion y Cyngor i’r gwrthwynebiadau hyn.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio Polisi SG10 yn unol â Newid Arfaethedig PC175, ond na ddylid gwneud unrhyw ddiwygiadau eraill i’r polisi mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Newid Arfaethedig PC176 Polisi Cyfleusterau Cymunedol CC1 Gwrthwrthwynebiad 485/2374 - Tystion Jehofa - Gogledd Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad yn awgrymu y dylid cynnwys cyfeiriad at "addoldai" yn PC176.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae’r Cyngor yn cytuno y bydd y newid a awgrymwyd yn gwella’r cynllun.

3.0 Casgliadau’r Arolygydd

3.1 Rwy’n cytuno â’r Cyngor.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio Newid Arfaethedig PC176 trwy gynnwys cyfeiriad at ‘addoldai’.

Newid Arfaethedig PC176 Polisi Cyfleusterau Cymunedol CC1 Gwrthwrthwynebiad 14/2067 - Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad yn awgrymu y dylid gosod y testun canlynol yn y polisi: "... ar yr amod nad ydynt yn cael effaith andwyol sylweddol ar safleoedd na rhywogaethau o ddiddordeb cadwraeth natur gydnabyddedig."

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Ymdrinnir â’r buddiannau a nodwyd gan bolisïau eraill, sef Polisïau PO8, GP1(x), GP2(iv), EN1, EN2, EN3, EN4, EN5, EN6, EN7, EN8, EN9, EN10 ac EN14.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

Pennod 17 – Materion Seilwaith a Gweithredu 559

3.1 Pan gyflwynir cynnig datblygu, bydd angen i’r Cyngor ystyried pob polisi perthnasol. Ymdrinnir â’r materion a godir yn y gwrthwynebiad o fewn rhai o bolisïau eraill y cynllun.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio Newid Arfaethedig PC176 mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Newid Arfaethedig PC 176 Polisi Cyfleusterau Cymunedol CC1 Gwrthwynebiad 31/2389 - Plaid Werdd Sir y Fflint

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae’r gwrthwynebiad yn awgrymu y dylid ychwanegu geiriau at Bolisi CC1 a fydd yn diogelu "man agored amwynder anffurfiol / ffurfiol".

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mae Polisi CC1 yn ceisio sicrhau y gall cyfleusterau y mae ar gymunedau lleol eu hangen gael eu datblygu ar ddarnau priodol o dir. Mae’r Cyngor yn nodi’r pryder penodol a godwyd gan y gwrthwynebydd ond mae o’r farn bod polisi presennol TO14 yn diogelu mannau amwynder yn ddigon da.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Rwy’n cytuno ag ymateb y Cyngor.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio Newid Arfaethedig PC176 mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Newid Arfaethedig PC176 Polisi Cyfleusterau Cymunedol CC1 Gwrthwynebiad 6/2075 – CCC

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Nodi ystyr "safleoedd addas" yn gliriach yn PC176.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Dylid dileu’r geiriau ‘safleoedd addas’.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Rwy’n cytuno â’r dilead a gynigiwyd.

4.0 Argymhelliad

Pennod 17 – Materion Seilwaith a Gweithredu 560

4.1 Y dylid diwygio Newid Arfaethedig PC176 trwy ddileu’r geiriau ‘safleoedd addas’ Pennod 18 – Canllawiau Cynllunio Atodol 561

Pennod 18 : Canllawiau Cynllunio Atodol

Paragraff 18.03 Arweiniad Cynllunio Atodol Gwrthwynebiad 34/1047 - Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Mae Gwrthwynebiad 34/1047 yn argymell y dylai’r Cyngor ystyried comisiynu Arweiniad Cynllunio Atodol (SPG) yn ymwneud â’r Amgylchedd Hanesyddol. Mae’r gwrthwynebydd o’r farn bod hyn wrth wraidd llawer o’r hyn sy’n bwysig am dirwedd ac amgylchedd yr ynys, a bod ganddo rôl benodol i’w chwarae o ran lles economaidd (twristiaeth yn arbennig) yr ardal, rôl a danddefnyddir ar hyn o bryd.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nid yw’r rhestr o Arweiniad Cynllunio Atodol yn y cynllun yn un cynhwysfawr ar unrhyw gyfrif. Bydd y Cyngor yn diwygio ac yn diweddaru Arweiniad Cynllunio Atodol sy’n bodoli eisoes ac yn paratoi Arweiniad Cynllunio Atodol newydd yn ôl yr angen. Mae hyn yn unol â Chynlluniau Datblygu Unedol Cymru, 2001 sy’n nodi “y dylid adolygu Arweiniad Cynllunio Atodol yn rheolaidd ar y cyd ag adolygiadau o’r polisïau neu’r cynigion hynny yn y cynllun datblygu y mae’n ymwneud â hwy.”

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Rwy’n cytuno ag ymagwedd y Cyngor tuag at y mater hwn.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Pennod Atodiadau 562

Atodiadau

Atodiad 1 Paragraff 4 Gwrthwynebiad 34/1048 - Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Dylai paragraff 4 (Yr Amgylchedd a Chadwraeth) gyfeirio at Henebion Cofrestredig, safleoedd o ddiddordeb archeolegol nas cofrestrwyd, neu Dirweddau, Parciau a Gerddi a gynhwysir yng Nghofrestrau CADW / ICOMOS.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Cyflwynodd y Cyngor Newid Arfaethedig PC177, fel Adran 9 (Yr Amgylchedd Hanesyddol0 yn Atodiad 1.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Rwy’n cytuno â Newid Arfaethedig PC177.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid diwygio Atodiad 1 i’r cynllun a adneuwyd yn unol â Newid Arfaethedig PC177.

Newid Arfaethedig PC177 Atodiad 1 Gwrthwynebydd 35/2251 - Cyngor Cefn Gwlad Cymru

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Cywiro sillafiad y gair "Intrest" i "Interest" yn PC177.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Diwygio’r gwall teipio.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Rwy’n cytuno â’r cywiriad hwn.

4.0 Argymhelliad

4.1 Y dylid sillafu’r gair ‘interest’ yn gywir yn Newid Arfaethedig PC177.

Atodiad 6 Paragraff 1.7 Gwrthwynebiad 34/1049 - Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd

Pennod Atodiadau 563

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad

1.1 Gwrthwynebir y cyfeiriad at y Cofrestrau o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol ac Arbennig fel dynodiadau.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Nid yw’r Cyngor yn bwriadu newid y cynllun.

3.0 Casgliad yr Arolygydd

3.1 Ni chynigiwyd unrhyw eiriad arall.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio paragraff 1.7 Atodlen 6 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn.

Atodiad 8 Gwrthwynebiadau 128/538 - The Butterfield Group 354/1171 - Dr Carl Iwan Clowes 29/1196, 1199, 1200 - Cyngor Cymuned Llanfair Mathafarn Eithaf 232/1212 Mr Gwyn Harrison 20/1263 - Looms Brothers

1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau

1.1 Mae Gwrthwynebiad 128/538 yn gwrthwynebu seilio’r holl ddata tai ar "30 o anheddau fesul hectar" ac yn awgrymu y dylid ystyried yr angen am ddatblygiadau preswyl ar ddwysedd uwch mewn rhai ardaloedd. Mae Gwrthwynebiad 354/1171 yn tynnu sylw at y gwahaniaeth rhwng Tabl 2 yn y fersiynau Cymraeg a Saesneg – dyraniadau 65, diffyg 106.

1.2 Mae Gwrthwynebiad 29/1196 yn gofyn, o ran y gofyniad anheddau o 1800 o unedau, a yw’r datganiad bod "angen bod yn ofalus i ddechrau o ran dyraniadau tai newydd" wedi’i roi ar waith yn ymarferol. Mae Gwrthwynebiadau 29/1199 a 29/1200 yn amau dosbarthiad y dyraniadau tai newydd rhwng yr isardaloedd, ac yn awgrymu, wrth eu hailddosbarthu, y dylid gwneud mwy o ddefnydd o addasiadau, safleoedd ar hap a phentrefannau/clystyrau.

1.3 Mae Gwrthwynebiad 232/1212 yn credu y gallai’r cyfrifiadau ar gyfer gofynion anheddau fod yn ddiffygiol. Oherwydd hynny gwrthwynebir dau ddyraniad tai (a) tir gerllaw Mill Lodge a (b) safle T48. Mae Gwrthwynebiad 20/1263 yn nodi y dylid ailasesu’r modd y mae tai wedi’u dosbarthu yn seiliedig ar ffigur diwygiedig ar gyfer tai, sef 2200, ac y dylid rhoi mwy o flaenoriaeth i grw^ p A5 i adlewyrchu’r angen i ymateb i amgylchiadau newydd ar ôl adeiladu’r A55.

2.0 Ymateb y Cyngor

2.1 Mewn ymateb i Wrthwynebiad 128/538, mae’r Cyngor yn derbyn efallai y bydd rhai safleoedd ar yr Ynys yn darparu dwysedd uwch na 30 o unedau fesul hectar ac mae’n disgwyl

Pennod Atodiadau 564 i hynny ddigwydd. Mae’r cynllun yn defnyddio 30 o unedau fesul hectar fel ffordd o amcangyfrif yr holl dir ar gyfer tai y mae angen ei ddarparu trwy’r dyraniadau a wneir yn y cynllun cyfan. Wrth gwrs gall safleoedd unigol mewn gwirionedd ddarparu nifer fwy neu lai o unedau na’r ffigur hwn. Bydd hyn yn dibynnu ar y safle, y lleoliad a’r cynigion datblygu penodol a gyflwynir er mwyn cael eu hystyried yn fanwl. Fodd bynnag byddai angen i’r Cyngor sicrhau dwyseddau digon uchel i sicrhau bod tir yn cael ei ddefnyddio’n effeithlon ac i sicrhau bod strategaeth aneddiadau’r Cynllun Datblygu Unedol yn cael ei chyflawni. Nid yw’n debyg y bydd y Cyngor yn gwrthwynebu i safleoedd roi dwysedd uwch mewn canolfannau eilaidd megis Porthaethwy yn ddarostyngedig i nodweddion dylunio safle manwl.

2.2 Mewn ymateb i Wrthwynebiad 354/1171 mae’r Cyngor yn bwriadu diwygio’r cynllun i oresgyn y gwrthwynebiad ac i wneud y cynllun yn gliriach. Mewn ymateb i Wrthwynebiad 29/1196, mae’r Cyngor wedi gweithredu’n "ofalus" trwy leihau’r gofyniad anheddau cyffredinol o’r ffigur a nodwyd yn y fersiwn drafft i’r ffigur yn y fersiwn wedi’i adneuo. Ar ben hynny caiff rhai o’r safleoedd yn y cynllun eu cyflwyno fesul cam fel y darperir y gwelliannau priodol mewn seilwaith cyn iddynt gael eu datblygu. Mewn ymateb i Wrthwynebiad 1199 a 1200, diweddarwyd y modd y mae anheddau wedi’u dosbarthu rhwng yr is-ardaloedd trwy Newidiadau Arfaethedig PC179 a PC180.

2.3 Mae dosrannu’r gofyniad anheddau i is-ardaloedd yn ddull a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau bod y gofyniad anheddau newydd wedi’i ddosbarthu ar draws yr Ynys i helpu i sicrhau cymunedau cynaliadwy ac na chanolbwyntir ar unrhyw anheddiad neu grw^ p o aneddiadau penodol. Nid yw’n ddull mathemategol manwl gywir am fod caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau preswyl eisoes gan rywfaint o dir ar ddyddiad sylfaenol y cynllun. Fodd bynnag nid yw’n darparu ar gyfer monitro’n fanwl y tueddiadau o ran tai mewn gwahanol rannau o’r ynys.

2.4 Mae’r Cyngor yn derbyn bod strategaeth bresennol y cynllun wedi rhoi digon o sylw i’r cyfraniad a wneir gan addasiadau a safleoedd ar hap. Mae’r cyfraniad a wneir mewn pentrefannau/clystyrau yn amcangyfrifiad yn seiliedig ar gyfartaledd o 2 fesul anheddiad dynodedig. Gall y ffigur fod yn uwch a bydd gweithgarwch monitro yn rhoi gwybod am y lefel hon yn yr hierarchaeth aneddiadau.

2.5 Mewn ymateb i Wrthwynebiad 232/1212, mae’r Cyngor o’r farn bod y boblogaeth a’r gofynion anheddau yn gadarn at ddibenion y Cynllun Datblygu Unedol. Mae’r strategaeth aneddiadau yn ceisio darparu tir i ddiwallu’r angen cyffredinol am dai ac anghenion pobl leol o ran tai. Dilëwyd Cynnig T48 (ym Mhentraeth) o’r cynllun gan Newid Arfaethedig PC562. Ymdriniai Newid Arfaethedig PC149 hefyd â’r angen am gymysgedd o waith cynllunio i ddiwallu anghenion gwahanol grwpiau yn y gymuned ac i sicrhau rhywfaint o amrywiaeth yn y mathau o anheddau a’u cynllun.

2.6 Mewn ymateb i Wrthwynebiad 20/1263 mae’r angen amcan estynedig am dai wedi deillio o waith a wnaed gan Ganolfan Ymchwil Llundain ar gyfer 7 Awdurdod Cynllunio Lleol Gogledd Cymru. Fodd bynnag mae polisïau’r cynllun yn seiliedig ar amcanestyniad hybrid o gyfuniad o dueddiadau hyd at 2006 a lleihad mewn allfudo ar ôl hynny yn deillio o welliant yn economi’r ynys. Mae hyn yn arwain at y gofyniad tai amcan estynedig o 1,800.

2.7 Mae’r strategaeth aneddiadau yn seiliedig ar hierarchaeth o brif aneddiadau, pentrefi, pentrefannau a chlystyrau. O ran grw^ p A5, mae’r ymagwedd a fabwysiadwyd yn ceisio

Pennod Atodiadau 565 cynnal cymunedau trefol a gwledig. Fodd bynnag mae mwy o bwyslais ar ddatblygu yn yr aneddiadau sydd â’r seilwaith i gynnal tai.

3.0 Casgliadau’r Arolygydd

3.1 Ystyriais Wrthwynebiad 128/538 ynghyd â gwrthwynebiadau eraill gan y Butterfield Group ym Mhennod 16 – Tai yn yr adroddiad hwn. Nodaf fod y Cyngor yn bwriadu cywiro ystadegau fel y cyfeiriwyd atynt yng Ngwrthwynebiad 354/1171. Mae Gwrthwynebiadau 29/1196, 29/1199 a 29/1200 yn codi materion yr ymdrinnir â hwy ym Mhennod 16 – Tai yn yr adroddiad hwn, ac ni allaf weld unrhyw reswm dros newid fy argymhellion yn hyn o beth mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

3.2 Yn dilyn gwrthwynebiadau a wnaed i Gynnig T48, nodir i mi argymell y dylid dileu’r cynnig hwn yn ymwneud â thir ar gyfer tai o’r cynllun ym Mhennod 16 – Tai yn yr adroddiad hwn. O ran y materion a godwyd yng Ngwrthwynebiad 20/1263, deuthum i’r casgliad mewn ymateb i wrthwynebiadau i Bolisi PO2 yr adroddiad hwn, y dylid darparu ar gyfer 1800 o anheddau eraill dros gyfnod y cynllun. O ran y strategaeth aneddiadau, mae dyraniadau tir ar gyfer tai wedi ceisio sicrhau datblygu cynaliadwy, ac mae’r rhan fwyaf o’r twf wedi’i gyfeirio at drefi Caergybi a Llangefni fel canolfannau cyflogaeth pwysig.

4.0 Argymhelliad

4.1 Na ddylid diwygio’r cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau hyn.

Atodiad Un 566

Byrfoddau

AAC Ardal Arbennig Cadwraeth ACLl Awdurdod Cynllunio Lleol AOHNE Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol BPEO Yr Opsiwn Amgylcheddol Ymarferol Gorau CCC Cynulliad Cenedlaethol Cymru Dph Anheddau fesul hectar EIA Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ECHR Comisiwn Ewrop ar Hawliau Dynol ES Datganiad Amgylcheddol FPC Newid Arfaethedig Pellach HLAS Astudiaeth o Argaeledd Tir ar gyfer Tai HNS Arolwg Anghenion Tai ICNIRP Comisiwn Rhyngwladol ar Ddiogelwch Ymbelydredd nad yw’n Ïoneiddio LAA Ardal Gweithredu Lleol LBAP Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol LCA Ardal Cymeriad Tirwedd LEAP Cynllun Lleol Asiantaeth yr Amgylchedd LTP Cynllun Trafnidiaeth Lleol MOD Y Weinyddiaeth Amddiffyn MPA Awdurdod Cynllunio Mwynau MPPW Polisi Cynllunio Mwynau Cymru (2000) NAW Cynulliad Cenedlaethol Cymru NCT Nodyn Cyngor Technegol NRPB Bwrdd Diogelwch Radiolegol Cenedlaethol NWRWP Cynllun Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru PGW Arweiniad Cynllunio Cymru (1999) PPW Polisi Cynllunio Cymru (2002) RPGNW Arweiniad Cynllunio Rhanbarthol Gogledd Cymru RSL Landlord Cymdeithasol Cofrestredig RSPB Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar SoDdGA Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig SPG Canllawiau Cynllunio Atodol UDP Cynllun Datblygu Unedol UDPW Cynlluniau Datblygu Unedol Cymru (2001) WDA Awdurdod Datblygu Cymru YMLP Cynllun Lleol Ynys Môn (1996) Ynys Môn Draft Unitary Development Plan : Report of Inquiry into Objections, June-September 2003

ATODIAD DAU : NODIADAU AR DRAFODAETH YNG NGHYSWLLT ANGHENION TAI A'R CYFLENWAD TIR

1.0 Yn Bresennol

Y Cyngor Sir Mr. Martin Eaglestone a Mr. Meirion Davies

Anthony Goss Planning (AGP) Mr. David Simmonds

Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig Mr. Gwynne Morris Jones (Ymgyrch)

CDN Planning Ltd (CDN) Ms. Jan Tyrer

Parti Gwyrddion Sir y Fflint Mr Klaus Armstrong-Braun (Parti Gwyrddion)

Gareth White Partnership (GWP) Mr. Gareth White

Haliwell Landau Solicitors (HLS) Mr. Andrew Piatt a Mr. John Francis

Ffederasiwn Adeiladwyr Tai (HBF) Ms Lynda Healy

Awdurdod Datblygu Cymru (ADC) Mr. Terry Stevens

2.0 Datganiad Agoriadol y Cyngor

2.1 Mae'r Datganiad ar y Sefyllfa yn un a baratowyd ar gyfer yr Ymchwiliad ac yn fersiwn diweddaredig o Atodiad 8 y cynllun yr ymgynghorwyd arno. Yn y gwaith diweddaru rhoddwyd sylw i Gyfrifiad 2001 a hefyd i'r Astudiaeth ar y Cyd - Tir ar Gael.

2.2 Y cwestiwn allweddol yw hwn, a fydd y gofynion am 1,800 o anheddau ychwanegol ym Mholisi PO3 yn cyflawni strategaeth y cynllun yn llwyr, gan gynnwys cynnal cymunedau cynaliadwy ar draws yr Ynys?

2.3 Mae'n arwyddocaol fod y cynllun drafft yn gorfod rhoddi sylw i sefyllfa ble mae’r boblogaeth yn gostwng, a hynny i'w briodoli i golled naturiol a hefyd i allfudo net. Y strategaeth yn y cynllun yw ceisio stopio'r allfudo a hefyd adfer patrwm oedran normal i boblogaeth yr Ynys. Yn ogystal mae'r strategaeth yn ceisio cynnal yr iaith a'r diwylliant Cymraeg a diogelu'r amgylchedd.

2.4 Mae rhagamcan i'r gofynion am anheddau yn seiliedig ar waith y London Research Centre (LRC) i 7 Awdurdod Cynllunio Lleol Gogledd Cymru (yr Awdurdodau Cynllunio). Fodd bynnag, mae polisïau'r cynllun yn seiliedig ar ragamcan cyfun o gasgliad o batrymau hyd at 2006 ac ar ostyngiad yn yr allfudo wedyn mewn ymateb i welliant yn yr economi leol.

2.5 Er bod Cyfrifiad 2001 yn dangos poblogaeth sirol uwch na rhagamcan LRC nid yw hynny'n tanseilio strategaeth y cynllun, ond fod angen cynnydd cyfatebol yn nifer y tai newydd.

A - 1 Ynys Môn Draft Unitary Development Plan : Report of Inquiry into Objections, June-September 2003

3.0 Newid Poblogaethol 1991-2001

3.1 Mae'r Cyngor wedi defnyddio Amcangyfrifon Canol Blwyddyn y Cofrestrydd Cyffredinol (Amcangyfrifon Canol Blwyddyn).

Poblogaeth 1991 69,100 2001 66,700

Newid -2,400 (Newid Naturiol) (-400) (Allfudo) (-2,000)

3.2 Cred y Cyngor fod y ffigwr allfudo net yn gyfuniad o ddau beth - nifer sylweddol o bobl wedi ymddeol yn symud i mewn a nifer fwy byth o bobl ifanc yn symud allan.

3.3 Dengys Cyfrifiad 2001 am y flwyddyn 2000-2001 bod rhyw 2,000 o bobl wedi symud i mewn a 2,300 wedi symud allan ond nid oes gennym wybodaeth am oedrannau y rhai a symudodd.

3.4 Dywed y Ffederasiwn Adeiladu Tai bod y cyfrifiad yn dangos colled o 2,300 yn y boblogaeth rhwng 1991-2001. O'r herwydd, mae'r Amcangyfrifon Canol Blwyddyn yn chwyddo'r nifer ryw ychydig.

3.5 Mae’r ffigwr diwygiedig i'r Amcangyfrifon Canol Blwyddyn 1996 yn 68,100. O'r herwydd dywed AGP fod y boblogaeth yn 1996 rhyw 1,000 yn uwch na'r dybiaeth yn rhagamcanion yr LRC.

4.0 Newid yn Nifer yr Aelwydydd 1991-2001

4.1 Dyma'r ffigyrau Cyfrifiad i'r aelwydydd :

1991 27,020 Maint pob Aelwyd ar Gyfartaledd (Maint Cyfartaleddol) 2.54 2001 28,356 2.33

Newid +1,336 -0.21

4.2 Mae'r ffigyrau hyn yn dangos nifer yr aelwydydd ar noson y Cyfrifiad ac felly yn cynnwys rhai mewn cartrefi gwyliau neu mewn ail gartrefi.

5.0 Nifer yr Anheddau 1991 a 2001

5.1 Y rhain yw'r niferoedd yn seiliedig ar y Cyfrifiad :

Pobl ynddynt Gweigion/Ailgartrefi/ Cartrefi Gwyliau (Gweigion Cyfanswm etc %) 1991 26,733 3,766 [12.3] 30,499 2001 28,356 2,687 [ 8.7] 31,043

Newid +1,623 -1,079 +544

A - 2 Ynys Môn Draft Unitary Development Plan : Report of Inquiry into Objections, June-September 2003

5.2 Mae'r Cyngor yn cymryd yn ganiataol na fydd y Gyfradd i'r tai gweigion yn newid cyn 2016.

5.3 Fodd bynnag, yn ôl cofnodion cwblhau tai y Cyngor roedd 1,630 o anheddau wedi eu creu rhwng 1991-2001, 348 (21.3%) trwy addasu a 1,282 (78.7%) trwy godi o'r newydd.

5.4 Dywed Ffederasiwn yr Adeiladwyr Tai nad yw ffigyrau'r Cyngor yn gwneud lwfans am golli anheddau, unai oherwydd dymchwel neu oherwydd newid y defnydd o fod yn ddefnydd preswylio. Mae'r Cyngor yn derbyn bod rhai colledion yma ond yn pwysleisio nad yw clirio tai ar raddfa fawr yn digwydd ar yr Ynys.

6.0 Rhagamcanion Poblogaeth, Aelwydydd ac Anheddau 1996-2016

6.1 Yn ôl rhagamcanion poblogaethol diwethaf y Swyddfa Gymreig, a’r rheini'n seiliedig ar Amcangyfrifon Canol Blwyddyn 1994, bydd poblogaeth y Sir yn 60,000 yn 2016. Fodd bynnag, dywedodd y Swyddfa Gymreig bod yr Awdurdodau Cynllunio Lleol yn rhydd i baratoi eu rhagamcanion eu hunain i ddibenion Cynlluniau Datblygu Unedol, petaent yn dymuno gwneud hynny. Gan yr LRC cafwyd pum rhagamcan yn seiliedig ar 1996 a chânt eu cyflwyno yn Natganiad Sefyllfa y Cyngor.

6.2 Cytunodd 7 Awdurdod Cynllunio Gogledd Cymru mai rhagamcan P2a oedd yr un mwyaf addas i'r rhanbarth yn gyffredinol. Fodd bynnag, penderfynodd y Cyngor hwn ar heibrid yn seiliedig ar newid naturiol hyd at 2006 a rhywfaint o gryfhau wedi hynny. O ganlyniad cafwyd y ffigwr o 1,800 ar gyfer anghenion anheddau fel a welir yn y fersiwn ddrafft o'r cynllun.

6.3 Teimlo y mae'r YDCW bod y cryfhau y gobeithir amdano yn rhy optimistaidd am ei fod yn rhagdybio gormod o lwyddiant i'r rhaglen Amcan 1. Ni chredan nhw fod angen dim mwy na 1,200 o anheddau newydd hyd at 2016. Cred Parti Gwyrddion Sir y Fflint y dylid defnyddio rhagamcan yn seiliedig ar newid naturiol yn unig a hynny yn arwain at angen am ryw 540 o anheddau newydd yn unig.

6.4 Ar y llaw arall cred Awdurdod Datblygu Cymru nad yw 1,800 o anheddau newydd yn ddigon ac yn dymuno cael ffigwr sy'n o leiaf 2,200. Y ffigwr olaf hwn oedd y ffigwr yn y drafft cyntaf o'r cynllun. At hyn dywedir nad yw ffigwr o 1,800 yn codi yn glir o'r canllawiau rhanbarthol. Hefyd mae'n arwyddocaol, hyd yn oed yn y cyfnod o ostyngiad yn y boblogaeth hyd at 2001, bod 160 o anheddau ar gyfartaledd yn cael eu codi bob blwyddyn o'u cymharu gyda'r ddarpariaeth yn y cynllun drafft o 120 y flwyddyn ar gyfartaledd. Cred Ffederasiwn yr Adeiladwyr Tai y dylai cyfanswm yr anheddau newydd fod yn 2,200 plws lwfans ystwythder 10% (=2,420); a chred yr AGP a'r GWP y dylai cyfanswm yr anheddau fod yn 2,600 gan gynnwys lwfans ystwythder.

6.5 Eglurodd y Cyngor bod y ffigwr cynharach o 2,200 o anheddau yn seiliedig ar gyfraddau adeiladu y gorffennol yn hytrach nag ar ragamcanion poblogaethol yn y fersiwn ymgynghorol o'r cynllun. Fodd bynnag, roedd y Cyngor yn derbyn bod y galw am dai ymhlith pobl sy'n dymuno symud i'r Sir y tu draw, i bob pwrpas, i reolaeth gynllunio.

6.6 Credai HLS bod y ffigwr uwch na'r disgwyl i'r boblogaeth yng Nghyfrifiad 2001 yn ffigwr y dylid ei adlewyrchu yn llawn yng nghynigion tai y cynllun. Hefyd roeddent yn credu y dylai'r orddarpariaeth cynlluniedig, neu y llithriad, fod yn ganran o gyfanswm yr anghenion tai clandredig heb fod yn gyfyngedig i anheddau ar y safleoedd dynodedig.

6.7 Roedd AGP yn pwysleisio fod mewnfudo i'r ardaloedd gwledig yn aml yn hwb i'r economi yno. Hefyd nid oedd dim byd o'i le nac yn niweidiol, yn y bôn,,os oedd yr Ynys yn darparu cartrefi i bobl yn

A - 3 Ynys Môn Draft Unitary Development Plan : Report of Inquiry into Objections, June-September 2003 gweithio yn ardal Bangor. At hyn roedd galw wedi ei lesteirio am dai newydd yn ardal Caergybi oherwydd cyfyngiadau carthffosiaeth.

6.8 Roedd Awdurdod Datblygu Cymru yn cytuno gyda 10% o orddarpariaeth ond dim ond yng nghyswllt safleoedd dynodedig. Roedd Parti Gwyrddion Sir y Fflint yn ystyried na ddylid gorddarparu. Credai'r Cyngor bod angen gwneud rhywfaint o lwfans.

7.0 Cyflenwad Tir Tai 2001 - 2016

7.1 Cred y Ffederasiwn bod y rhagdybiaeth ynghylch addasu adeiladau yn rhy uchel. Yn 1991 nid oedd ond 20% ac mae'n rhesymegol tybio y bydd y ffigwr yn gostwng wrth i'r cyfleon i addasu fynd yn brinach. Buasai ffigwr o 10% yn fwy rhesymegol er eu bod yn fodlon derbyn rhagdybiaeth 20%.

7.2 Hefyd cred HLS fod y rhagdybiaeth 30% o'r holl anheddau newydd o waith addasu yn rhy uchel. Buasai 15-20% yn fwy rhesymol yn enwedig o gofio'r polisi cenedlaethol o blaid ystyried defnyddiau eraill i hen adeiladau gwledig cyn ystyried gwneud defnydd preswylio. Pwysleisio wnaeth GWP bod y cyfle i addasu yn mynd yn llai ac yn llai. Dylid mabwysiadu rhagdybiaeth 10%.

7.3 Onid yw'r rhagdybiaeth ynghylch gwaith addasu yn cynnwys anheddau a grewyd trwy isrannu anheddau presennol, yna cred Plaid Gwyrddion y dylai'r ffigwr fod yn 35-38%.

7.4 Dywed y Cyngor bod y rhagdybiaeth 30% o waith addasu yn seiliedig ar gyfuniad o'r ffigyrau a ganlyn:

1991 - 2001 21% o'r anheddau newydd a gwblhawyd 1996 - 2001 25% o'r anheddau newydd a gwblhawyd 1991 - 2001 28% o'r holl hawliau cynllunio i anheddau newydd

Mae'r lwfans 30% yn cynnwys creu anheddau newydd trwy isrannu hen anheddau.

7.5 Yng nghyswllt treflannau a chlystyrau, dywedodd y Cyngor bod 45 ohonynt bellach wedi eu nodi yn y cynllun drafft. Cred y Ffederasiwn bod caniatáu 2 annedd yr un i bob treflan a nodir yn gam yn ôl oherwydd bod hynny'n cynnig anogaeth i bobl ymgeisio am ganiatâd cynllunio ond ar ôl ei gael peidio â gweithredu arno. Roedd YDCW yn cefnogi'r lwfans ond o'r farn y dylid nodi'r safleoedd angenrheidiol ar y Map Cynigion.

7.6 Credai GWP bod gormod o waith codi tai eisoes yn digwydd mewn mannau gwledig a bod y cynllun drafft yn gorddarparu ar gyfer tai o'r fath.

7.7 Credai HLS na ddylai'r treflannau gael eu cynnwys yn yr hierarchiaeth pentrefi ac o'r herwydd na ddylid felly tybio eu bod yn creu unrhyw dai newydd fel categori arbennig. Os ydynt yn creu tai newydd yna dylai'r rheini fod yn rhan o'r rhagdybiaeth tai annisgwyl. Pryderu oedd Plaid y Gwyrddion y gallai absenoldeb ffiniau i dreflannau arwain at godi gormod o dai ynddynt.

7.8 Yn ei ymateb dywedodd y Cyngor bod y lwfans treflannau yn barhad i bolisi y Cynllun Lleol ac nid oedd hwnnw wedi arwain at ormod o ddatblygu yn y cefn gwlad ond yn hytrach wedi caniatáu i gymunedau gwledig oroesi. Roedd y lwfans arfaethedig yn rhan o'r strategaeth i gael cymunedau cynaliadwy ac felly yn rhan briodol o'r hierarchiaeth pentrefi.

A - 4 Ynys Môn Draft Unitary Development Plan : Report of Inquiry into Objections, June-September 2003

7.9 Credai HLS nad oedd y Cyngor wedi dilyn dull dilyniadol yn unol â gofynion paragraff 9.2.21 Polisi Cynllunio Cymru yng nghyswllt nodi safleoedd i dai newydd.

7.10 Yn y fersiwn ddrafft o'r cynllun rhagdybir y bydd 30% o'r anheddau newydd yn cael eu codi ar safleoedd annisgwyl, ond nid yw hwnnw yn gwahaniaethu rhwng safleoedd llwyd a rhai gwyrddion. Ni ddylid gwneud lwfans ar gyfer anheddau ar safleoedd gwyrdd anniswyl yn ôl CDN. Roedd angen dangos safleoedd o'r fath ar y Map Cynigion. Roedd YDCW yn cefnogi hyn a hefyd roedd yn derbyn cefnogaeth Plaid y Gwyrddion.

7.11 Yn ymarferol credai'r GWP mai safleoedd llwydion fydd y rhai annisgwyl ynghyd â safleoedd bychain eraill ond na ddylid rhagdybio y bydd rhagor na 10% o'r holl ofynion yn cael ei briodoli i'r ffynonellau hyn. Fodd bynnag, nid oedd rhyw lawer o'r safleoedd llwydion ar yr ynys yn addas i dai newydd. Yma mae'n bwysig cofio bod y rhan o'r fwyaf o'r tai newydd yn y Sir yn cael eu codi ar safleoedd bychain.

7.12 Yng nghyswllt safleoedd dynodedig credai'r YDCW yn gyffredinol na ddylid darparu ar gyfer rhagor na 130 o anheddau - yn hytrach na darparu ar gyfer tua 800 ohonynt. Ar y llaw arall credai HLS fod angen neilltuo tir ar gyfer mwy o lawer na 800 o anheddau.

7.13 Ar fater dwysedd y tai, roedd y Cyngor wedi defnyddio cyfartaledd 30 annedd yr hectar ar safleoedd clustnodedig. Yn ôl profiad fodd bynnag, mae dwysedd is yn draddodiadol ar yr ynys. Credai Plaid y Gwyrddion bod dwysedd 30 yn rhy isel, ac yn hyn o beth yr oedd yr YDCW yn cytuno. Yn ôl y Ffederasiwn dylid anelu at ddwyseddau amrywiol ond yng Nghaergybi yn arbennig dylai'r ffigwr fod yn uwch na 30.

8.0 Dosbarthiad y Tai

8.1 Ni chredai'r HLS bod angen rhannu'r ynys yn is-ardaloedd. Roedd angen neilltuo tir i dai newydd yn y canolfannau hynny lle mae cyfleusterau i'w derbyn. Credai'r Ffederasiwn bod angen clystyru tai newydd yn yr ardaloedd trefol, yn agos i ganolfannau gweithio a hefyd lle mae cludiant cyhoeddus ar gael. Ni chredai'r AGP chwaith bod angen rhannu'r ynys yn is-ardaloedd. Roedd angen defnyddio'r A55 fel llinell ganolog neu asgwrn cefn i dai newydd a datblygiadau eraill.

8.2 Yn ôl Plaid y Gwyrddion nid yw'r dull a fabwysiadwyd yn y cynllun i bwrpas darparu tai yn gynaliadwy. Roedd angen graddio pob pentref a pharatoi astudiaeth ar allu pob un i dderbyn twf. Yn wir roedd y dull mor ddiffygiol fel na ddylid mabwysiadu'r cynllun ac y dylai'r Cyngor dechrau o'r dechrau.

8.3 Nid oedd y dull o rannu tai newydd, yn ôl CDN, yn adlewyrchiad cywir ar ddosbarthiad presennol y boblogaeth. Yn arbennig roedd gan Langefni ddwbl yr anheddau y gellid ei gyfiawnhau tra bo grwp yr A5 gyda hanner y nifer y dylai gael.

8.4 Yn ei ymateb dywedodd y Cyngor bod cyfiawnhad i'r dull hwn oherwydd bod angen cynnal cymunedau gwledig a rhai trefol. Oni châi tai newydd eu codi yn y pentrefi gwledig gallai hynny arwain at golli gwasanaethau sylfaenol a gwasanaethau eraill. O'r herwydd nid oedd modd cyfiawnhau canolbwyntio ar y pentrefi mwyaf. Fodd bynnag, gallai dderbyn nad oedd raid rhannu'r ynys yn is- ardaloedd ond o wneud hynny gellid monitro'r newid dros gyfnod y cynllun. Roedd nifer yr anheddau newydd yn Llangefni i'w briodoli i'r nifer sydd eisoes yno gyda chaniatâd cynllunio. Yn ardal Afon Menai bwriedir cyfyngu ar y datblygu oherwydd y datblygu mawr a ddigwyddodd yno yn y cyfnod diweddar.

A - 5 Ynys Môn Draft Unitary Development Plan : Report of Inquiry into Objections, June-September 2003

9.0 Arolwg Anghenion Tai a Thai Fforddiadwy

9.1 Comisiynodd y Cyngor Arolwg Anghenion Tai am y cyfnod hyd at 2006. Yn ôl yr arolwg amcangyfrifir y bydd angen tua 1,550 o anheddau i'r rheini sydd yn y categori angen ty yn ôl diffiniad nifer o feini prawf. Yn y fersiwn ddrafft o'r cynllun nid oes darpariaeth benodol ar gyfer anghenion o'r fath.

9.2 Cred AGP bod angen adlewyrchu'r anghenion tai hyn yn nyraniadau tai y cynllun. Ar safleoedd datblygu o'r fath bydd angen cynnwys tai fforddiadwy. Efallai y bydd elfen o gyfrif ddwy waith rhwng amcangyfrifon y cynllun drafft i'r gofynion hyd at 2006 ar y naill law, ac ar y llaw arall yr anghenion yn codi o'r arolwg tai. Fodd bynnag, os ydyw'r 1,800 yn gyfanswm y ddarpariaeth yn y cynllun, ac os na fydd rhagor na 30% o'r anheddau newydd yn debygol o gael eu darparu ar safleoedd dynodedig fel tai fforddiadwy, yna dim ond tua 540 o anheddau fforddiadwy fydd yn cael eu creu. O'r herwydd bydd hyn yn dal i fod rhyw 1,000 yn brin o dai fforddiadwy yn ôl yr anghenion tai a nodwyd hyd at 2006.

9.3 Cred HLS hefyd y dylai'r anghenion tai a nodwyd gael eu hadlewyrchu yng nghynigion y cynllun i ryw raddau. Roedd angen diwygio polisi HP7 i ddatgan y bydd tai fforddiadwy yn cael eu darparu yn ychwanegol at y 1,800 o anheddau sydd eisoes yn cael eu crybwyll yn y fersiwn ddrafft o'r cynllun.

9.4 Cred Plaid y Gwyrddion fod yma gyfrif dwy waith - ar y naill law yn amcangyfrifon y cynllun ar gyfer anheddau newydd sy'n angenrheidiol ac ar y llaw arall y ffigyrau yn yr Arolwg Anghenion Tai. Dylai'r ffigwr o 1,800 o anheddau newydd yn y cynllun drafft gynnwys yr holl anheddau fforddiadwy sy'n angenrheidiol, os oes raid mynd i fyny at 70% o'r anheddau newydd ar bob safle i'r pwrpas hwn.

9.5 Cred y CDN bod angen clustnodi safleoedd ychwanegol yn benodol ar gyfer tai fforddiadwy. Fodd bynnag, nododd y Cyngor y buasai cam o'r fath yn groes i'r polisi cenedlaethol.

9.6 Yn ei ymateb dywedodd y Cyngor nad oedd canlyniadau yr Arolwg Anghenion Tai yn priodi'n dda gyda'r cynigion yn y cynllun drafft. Fodd bynnag, mae yn y cynllun ddarpariaeth ar gyfer tai fforddiadwy yn ychwanegol at y 1,800 petai hynny'n angenrheidiol. Bydd y Cyngor yn ceisio trafod cymaint o dai fforddiadwy ag y bo'n bosib ar safleoedd unigol yn unol â'r polisi cenedlaethol. Fodd bynnag, buasent yn croesawu unrhyw argymhelliad gan yr Arolygydd ynghylch sut i gwrdd ag anghenion tai lleol a nodwyd os oes angen tir ychwanegol i'r pwrpas hwnnw.

10.0 Effaith ar yr Iaith Gymraeg

10.1 Os ydyw nifer y siaradwyr Cymraeg yn llai na 70% cred yr YDCW ei bod o'r herwydd mewn perygl enbyd. O'r herwydd, roedd angen rhoddi sylw arbennig i Newid Arfaethedig 31 lle ceisir ychwanegu at y diogelwch i'r iaith Gymraeg a'i hyrwyddo.

A - 6