Pennod 14 – Amgylchedd 241 Pennod 14 : Amgylchedd Y Bennod Gyfan Gwrthwynebiad 80/1251 – Y Cyng Robert Llewelyn Jones 1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad 1.1 Mae angen polisi ar barciau a gerddi am nad ymddengys fod planhigion i’w gweld o amgylch trefi ac atyniadau ymwelwyr. 2.0 Ymateb y Cyngor 2.1 Nid oes a wnelo’r mater hwn â defnydd tir y gellir mynd i’r afael ag ef yn y cynllun. 3.0 Casgliad yr Arolygydd 3.1 Nid yw darparu gwaith planhigion amwynder yn fater i’r cynllun. 4.0 Argymhelliad 4.1 Na ddylid diwygio Pennod 14 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn. Nodyn: Ystyrir gwrthwynebiadau 35/1312 a 36/321 ar Dudalennau 55 i 57 yr adroddiad hwn. Y Bennod Gyfan Gwrthwynebiadau 36/327 – Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru 14/730 – Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar 35/1314 ac 1315 – Cyngor Cefn Gwlad Cymru 1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau 1.1 Mae 36/327 yn gofyn am bolisi Cadwraeth Ynni a Dðr ym Mhennod 14. Dylai cynigion datblygu, hyd y gellir, ymgorffori mesurau i gadw ynni a dðr trwy: i. lleoli a chynllunio adeiladau unigol sy’n cynnwys nodweddion arbed dðr a chynlluniau safleoedd; ii. lleihau’r angen am deithiau gan gerbydau modur preifat a; iii. defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. 1.2 Yn lle paragraffau 14.1 i 14.5, mae 14/730 yn mynnu y dylid gosod cyflwyniad sy’n darparu fframwaith ar gyfer y Bennod trwy nodi cynefinoedd nodedig, prin neu ddiamddiffyn Ynys Môn, yn ogystal â’r adnoddau a’r systemau naturiol allweddol. 1.3 Mae 35/1314 yn mynnu y dylid gosod polisi newydd yn y Bennod i nodi y caniateir cynigion sy’n cefnogi amcanion Strategaeth Coetir Ynys Môn, ar yr amod y cydymffurfir â Pholisi GP1. Pennod 14 – Amgylchedd 242 1.4 Mae 35/1315 yn mynnu y dylid ychwanegu polisi newydd o blaid diogelu, rheoli a mwynhau Tir Comin cofrestredig ar yr amod y cydymffurfir â Pholisi GP1, fel y’i diwygiwyd. 2.0 Ymateb y Cyngor 2.1 Mewn ymateb i wrthwynebiad 36/327, mae’r cynllun yn annog pobl i ddefnyddio’r cerbyd modur preifat cyn lleied â phosibl. Mae Polisi PO4 a Pholisi TR4 yn optimeiddio’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus mewn cynigion datblygu. Mae Polisi TR9 yn annog dulliau eraill o deithio ac yn diogelu llwybrau hamdden tra bod Polisi TO10 yn caniatáu ymestyn y llwybrau hynny. 2.2 Mae Polisi GP2 yn cynnwys nodweddion arbed dðr ac mae maen prawf (vi) yn hyrwyddo cynlluniau safleoedd (cyfeiriad, lleoliad ar lethr a gwaith tirlunio) a all leihau gofynion ynni annedd o 20% trwy’r ffynonellau amgylchol ‘am ddim’ a grëir gan fantais oddefol yr haul a gwelliannau o ran y ficrohinsawdd. Nid oes angen ailadrodd pwyslais y polisïau unigol hyn yn y cynllun drwyddo draw. 2.3 Mewn ymateb i wrthwynebiad 14/730 ymdrinnir â’r materion a godir gan y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol [LBAP] y cyfeirir ato yn y cynllun. Mae Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth yn cael eu llunio er mwyn ceisio cadw a gwella cyflwr rhai cynefinoedd a rhywogaethau sydd wedi dioddef colledion mawr, neu sydd dan fygythiad arbennig. Nod y LBAP yw troi rhai o Gynlluniau Cynefinoedd a Gweithredu’r DU yn weithredoedd, tra hefyd yn ceisio cadw a gwella rhai eraill sy’n arbennig o bwysig. 2.4 Mewn ymateb i wrthwynebiad 35/1314, nid rôl y cynllun yw dibynnu ar arweiniad arall. Bydd Strategaeth Coed, Gwrychoedd a Choetir 2003-2008 yn cyflawni ei thargedau ei hun. 2.5 Mewn ymateb i wrthwynebiad 35/1315, diogelir Tir Comin gan fathau eraill o ddeddfwriaeth. Fel arfer ni ddylid defnyddio’r system gynllunio i gyflawni amcanion y gellir eu cyflawni o dan ddeddfwriaeth arall (paragraff 1.2.4 Polisi Cynllunio Cymru). Felly nid oes angen polisi i ddiogelu, rheoli a mwynhau Tir Comin yn y cynllun. 3.0 Mater 3.1 A oes angen diwygio Pennod 14 y cynllun a adneuwyd fel yr awgrymir mewn unrhyw un o’r gwrthwynebiadau hyn. 4.0 Casgliadau’r Arolygydd 4.1 O ran gwrthwynebiad 36/327, mae Polisi PO4 yn ceisio lleihau’r ddibyniaeth ar ddefnyddio ceir preifat a hyrwyddo defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Byddai PC30 yn ymestyn maen prawf (vi) Polisi GP2 er mwyn ystyried mesurau arbed dðr. 4.2 Mae’n fwy priodol ymdrin â’r materion manwl a godir yng ngwrthwynebiad 14/730 yn LBAP y Cyngor. 4.3 Yn yr un modd, o ran gwrthwynebiadau 35/1314 a 35/1315, nid oes angen i’r cynllun roi caniatâd penodol i ddatblygiadau a fyddai’n cefnogi amcanion Strategaeth Coetir Ynys Môn, na diogelu Tir Comin a ddiogelir eisoes gan ddeddfwriaeth arall. Pennod 14 – Amgylchedd 243 5.0 Argymhelliad 5.1 Na ddylid diwygio Pennod 14 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r un o’r gwrthwynebiadau hyn. Paragraff 14.1 Gwrthwynebiad 34/1024 – Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd 1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad 1.1 Dylai’r frawddeg gyntaf gynnwys yr ymadrodd ‘ei threftadaeth archeolegol a hanesyddol gyfoethog’ ar ôl y cyfeiriad at fioamrywiaeth. 2.0 Ymateb y Cyngor 2.1 Byddai PC86 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn, a dynnir yn ôl yn amodol. 3.0 Casgliad yr Arolygydd 3.1 Am y byddai PC86 yn goresgyn y gwrthwynebiad hwn, rwyf o’r farn y dylid ei wneud. 4.0 Argymhelliad 4.1 Dylid diwygio paragraff 14.1 y cynllun a adneuwyd yn unol â PC86. Polisi EN1 Cymeriad Tirwedd Gwrthwynebiadau 4/5 – Dr Martyn Petty 10/105 - Mr A F Nixon 1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad 1.1 Mae 4/5 o’r farn bod yn rhaid i ni ymdrechu i gadw’r tir naturiol. Mae’n rhaid gofalu am olwg frodorol bur y safleoedd panoramig hyn a’i chadw. Mae’r gwrthwynebiad yn mynnu y dylid ailddatblygu a gwella’r ardaloedd masnachol a phreswyl a fodolai gynt sydd bellach yn ddirywiedig, yn segur ac yn adfeiliedig. Mae’n rhaid parchu union ffiniau’r ardaloedd lle y ceir y Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a’r lleiniau glas ac ni ddylid newid y diffiniadau na’r meini prawf. 1.2 Mae 10/105 yn nodi bod y polisi yn cynnwys y geiriau ‘niwed annerbyniol’ heb ddiffinio pa niwed sy’n dderbyniol, gan ganiatáu i’r geiriau gael eu dehongli’n wahanol a’u cymhwyso’n anghyson. Dylid hepgor y gair ‘annerbyniol’. 2.0 Ymateb y Cyngor 2.1 Mewn ymateb i Wrthwynebiad 4/5, nid yw’r Cyngor yn bwriadu newid y cynllun. Pennod 14 – Amgylchedd 244 2.2 Mae Polisi PO8 yn diogelu’r amgylchedd naturiol. Mae Polisïau EN3 ac EN6 yn diogelu lletemau glas a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn y drefn honno, yn unol â Pholisi Cynllunio Cymru lle y mae rhagdybiaeth gyffredinol yn erbyn datblygiadau sy’n amhriodol o ran dibenion y dynodiad (paragraff 2.6.12). Dylai cynlluniau geisio sicrhau bod cymaint o waith datblygu â phosibl yn digwydd o fewn ardaloedd trefol sy’n bodoli eisoes, yn gyson â chynnal a gwella ansawdd yr amgylchedd trefol (Cynllunio ar gyfer Datblygu Cynaliadwy: Tuag at Arfer Gwell, 1998, pennod 2). 2.3 Mewn ymateb i wrthwynebiad 10/105, caiff y term ‘niwed annerbyniol’ ei gydnasyddu a’i dderbyn gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae penderfyniadau cynllunio yn cynnwys elfen o bwyso a mesur ar ran y sawl sy’n gwneud y penderfyniad. 3.0 Mater 3.1 A oes angen diwygio Polisi EN1 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r naill o’r gwrthwynebiadau hyn neu’r llall. 4.0 Casgliad yr Arolygydd 4.1 Nid yw gwrthwynebiad 4/5 yn amlwg berthnasol i’r polisi hwn a, sut bynnag, nid yw’n gwneud unrhyw awgrymiadau penodol ar gyfer ei newid. Ymdrinnir â’r materion a godir yn ddigonol gan y polisïau a’r cyfeiriadau yn Ymateb y Cyngor. 4.2 O ran gwrthwynebiad 10/105 deallir y term ‘niwed annerbyniol’ yn eang wrth wneud penderfyniadau cynllunio defnydd tir. Fodd bynnag nid yw’n digwydd bob tro y gwneir y penderfyniad hwnnw ar sail un polisi yn unig. Felly dylai pob polisi ymdrin â phwnc penodol a nodi ei safbwynt o ran cynigion datblygu. Yn achos Polisi EN1 mae’n briodol ei fod yn nodi na chaniateir datblygiadau a fyddai’n amharu’n sylweddol ar Ardal Cymeriad Tirwedd. Mater o farn gynllunio fyddai p’un a fyddai’r niwed yn sylweddol mewn unrhyw achos penodol o ran y polisi hwn. 5.0 Argymhelliad 5.1 Dylid diwygio Polisi EN1 y cynllun a adneuwyd trwy ddileu’r geiriau ‘niwed annerbyniol’ a gosod y geiriau ‘niwed sylweddol’ yn eu lle. Atodiad 6 ACT - Penmon Cymeriad Tirwedd Gwrthwynebiad 34/1051 – Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd 1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiad 1.1 Rhestrir yr Ardal Cymeriad Tirwedd (LCA), Penmon – fel ardal dirwedd yng Nghofrestr Cadw/ICOMOS o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. 2.0 Ymateb y Cyngor 2.1 Nid oes angen dyblygu gwybodaeth a geir o fewn Cofrestr Cadw/ICOMOS. 3.0 Casgliadau’r Arolygydd Pennod 14 – Amgylchedd 245 3.1 Rwy’n cytuno â’r Cyngor. 4.0 Argymhelliad 4.1 Na ddylid diwygio Pennod 14 y cynllun a adneuwyd mewn ymateb i’r gwrthwynebiad hwn. Polisïau EN1 – Cymeriad Tirwedd EN2 – Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol EN3 – Lletem Las EN4 – Bioamrywiaeth EN7 – Safleoedd Lleol EN10 – Tirweddau, Parciau a Gerddi EN12 – Safleoedd Archeolegol a’u Hamgylchedd Hanesyddol PO8 – Yr Amgylchedd GP1 – Arweiniad Rheoli Datblygu Paragraffau 14.37, 14.38 a 14.51 Gwrthwynebiadau 26/159 i 164, 167 i 169, a 189 a 190 - Catherine B Griffiths 1.0 Crynodeb o’r Gwrthwynebiadau 1.1 Mae 26/159 o’r farn y dylid dileu ‘fforch’ ddeheuol y dyraniad hwn am ei bod yn agos at Snowdon View Road a Threarddur Mews sydd o fewn 100m ac yn negyddu felly yr egwyddor o ddiogelu ardaloedd preswyl sy’n bodoli eisoes trwy’r Lletem Las.
Details
-
File Typepdf
-
Upload Time-
-
Content LanguagesEnglish
-
Upload UserAnonymous/Not logged-in
-
File Pages335 Page
-
File Size-