Dyfodol Y Ddarpariaeth O Doiledau Cyhoeddus Ar Ynys Môn
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
SGRIWTINI DYFODOL Y DDARPARIAETH O DOILEDAU CYHOEDDUS AR YNYS MÔN ADRODDIAD DRAFFT Gan Y Pwyllgor Sgriwtini Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol RHAGFYR 2011 CYNNWYS Rhagair gan y Cadeirydd Tud. 2 Crynodeb Gweithredol Tud. 3 Cyflwyniad Tud. 4 Panel Adolygiad Sgriwtini Tud 11 Gwariant Cyfredol Arolwg o’r Toiledau Cyhoeddus Cynllun Grant Toiledau Cyhoeddus Meini Prawf Sgorio Rhestr Fer Opsiynau sydd ar gael Contract Glanhau Ymgynghoriad Methodoleg a Chanfyddiadau Tud. 12 Casgliadau Cryno Tud. 24 Argymhellion Tud. 27 1 Rhagair gan Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini - Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol (Mai 2011 – Mai 2012) Cadeirydd y Panel Adolygiad Sgriwtini (Cyng. Keith Evans) Mae’r ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus yn un o’r swyddogaethau trefol hynaf sy’n dal i fodoli heddiw, fodd bynnag, rhaid i ni gofio nad oes dyletswydd statudol ar yr awdurdod lleol i ddarparu’r gwasanaeth hwn. Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn cynnal stoc fawr o doiledau cyhoeddus ar gost flynyddol sylweddol oddeutu £340,000. Yn anffodus, ar hyn o bryd rydym yn byw mewn cyfnod o gyni gyda rhagolygon ariannol llwm yn y dyfodol agos. Mae cynnal dyletswyddau anstatudol felly yn rhoi pwysau mawr ar yr awdurdod ac oherwydd bod angen gwneud arbedion flwyddyn ar ôl blwyddyn, nid yw’n syndod o gwbl y bu’n rhaid adolygu’r ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod penderfyniadau cadarn yn cael eu gwneud gan gymryd i ystyriaeth yr holl ffactorau h.y. penderfyniadau strategol, rhwymedigaethau ariannol ac ati. Cyn i unrhyw benderfyniadau o bwys gael eu gwneud, yr wyf i, fel Cadeirydd y Pwyllgor, angen bod yn 100% siŵr bod yr holl opsiynau wedi eu harchwilio’n drwyadl. Fel cynrychiolydd y cyhoedd, rwyf yn awyddus i sicrhau bod y defnydd gorau’n cael ei wneud o unrhyw arian cyhoeddus. Nid Cyngor Sir Ynys Môn yw'r awdurdod lleol cyntaf i adolygu ei ddarpariaeth o gyfleusterau cyhoeddus ac rwy'n siŵr na fydd yr olaf; fodd bynnag fel ynys sy'n dibynnu'n drwm ar dwristiaeth mae’n hanfodol bod y penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud am y rhesymau iawn. Yn wir, er mwyn i'r ddarpariaeth gael effaith ar dwristiaeth rhaid i safon y cyfleusterau sydd ar gael fod o lefel ddisgwyliedig benodol. Mae toiledau cyhoeddus sydd wedi'u cynllunio'n wael, eu cynnal yn wael, ac wedi eu lleoli yn wael yn creu ymdeimlad o esgeulustod, yn denu fandaliaeth, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anhrefn cymdeithasol. Mae'r materion hyn, os na ellir mynd i'r afael yn effeithiol â nhw, yn gallu creu cylch o ddirywiad, gan arwain at broblemau cymdeithasol mwy, ac amharu’n ddifrifol ar ansawdd bywyd pobl leol. Mae'r adroddiad hwn wedi'i baratoi gan y Pwyllgor Sgriwtini Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol ond na ellid bod wedi'i ysgrifennu heb gymorth swyddogion o Adain Rheoli Gwastraff yr awdurdod. Hoffwn estyn fy niolch iddynt am eu cymorth a'u hymroddiad wrth werthuso'r holl ddewisiadau posibl er mwyn sicrhau yr amherir cyn lleied â phosib ar bobl sy'n byw, yn gweithio ac yn ymweld ag Ynys Môn. 2 1. Crynodeb Gweithredol 1.1 Yn dilyn eitem ar raglen y Pwyllgor Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol yn ymwneud â dyfodol y ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus ar Ynys Môn yn eu cyfarfod ar 14 Mehefin, 2011, cytunodd y Pwyllgor i gynnull Panel Adolygiad Sgriwtini i gynnal ymchwiliad manwl i'r dewisiadau sydd ar gael i'r Awdurdod i gyflawni'r targed a osodwyd i arbed £30,000 yn flynyddol o’r gyllideb cyfleusterau cyhoeddus heb gael effaith andwyol ar fywydau'r cyhoedd. 1.2 Nod y Panel oedd cynorthwyo gyda'r broses o gynnal gwerthusiad o'r ddarpariaeth bresennol gan sicrhau ei bod yn addas i’r pwrpas ac yn y mannau angenrheidiol. Yn wir, nod yr ymchwiliad oedd canfod a oes gormod o ddarpariaeth mewn rhai lleoliadau. 1.3 Mae'n amlwg bod y ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus yn un sy'n gallu achosi pryder i rai o'r cyhoedd h.y. yr henoed, yr anabl ac ati. Gyda hyn mewn cof yr oedd angen i’r Panel adolygu'r holl dystiolaeth sydd ar gael am y defnydd a wneir o’r toiledau cyhoeddus, a’i chroesgyfeirio yn erbyn y ddarpariaeth arall sydd ar gael yn lleol. Er ei fod yn bwnc sensitif ac yn un sydd yn sicr o achosi pryder ymysg y cyhoedd os gwneir argymhelliad i gau rhai blociau toiled, mae’n dasg a bennwyd dan Raglen Blaenoriaethau Fforddiadwy'r Awdurdod ac mae'n rhaid mynd i'r afael arni yn unol â hynny. 1.4 Mae ymddangos bod gan bob bloc toiled unigol ei nodweddion unigol ei hun. Fel y gellir gwneud argymhellion cadarn, mae angen cael gwybodaeth berthnasol gan gynnwys manylion am leoliad, costau rhedeg blynyddol, lefelau defnydd, data troseddau ac ati. Gan gymryd popeth i ystyriaeth, mae’n bosibl wedyn i lunio rhestr fer o flociau toiledau sy'n agored i nifer o opsiynau eraill. Mae'r adroddiad hwn yn ei dro yn anelu at nodi a thynnu sylw at yr opsiynau hyn fel ffordd o symleiddio'r ddarpariaeth gan wneud yn sicr nad yw’n cael effaith niweidiol ar fywydau pobl. 1.5 Drwy ddefnyddio gwybodaeth gyfunol y Panel a’i gyfranwyr mae wedi bod yn bosibl gwneud cyfres o argymhellion a fydd yn nodi arbediad blynyddol posibl o tua £60,381.03 tra hefyd yn darparu argymhellion ar ddewisiadau eraill sydd ar gael i'r awdurdod. 3 2. Cyflwyniad 2.1 Yr hen fyd 2.1.1 Mae toiledau yn mynd yn ôl yn bell - dywedir i'r toiled hynaf sy’n gweithio gyda rhuthr dwr fod yng nghastell Knossos, Creta a chredir ei fod yn 4,000 o flynyddoedd oed. Mae tystiolaeth o systemau carthffosiaeth a thoiledau yn India yn dyddio o 2500CC, a hefyd yn Tsieina o tua 206CC a 24OC. Yr oedd gan y rhan fwyaf o ddinasoedd mawr yr hen fyd doiledau cyhoeddus, ond er eu bod yn cael eu defnyddio gan deithwyr, roeddynt yn darparu cyfleusterau cymunedol yn bennaf oherwydd nad oedd llawer o rai preifat. 2.1.2 Roedd y Rhufeiniaid yn arbennig o frwd ynghylch cyfleusterau cyhoeddus; adeiladodd yr Ymerawdwr Vespasian droethfeydd ar y stryd (yn 315OC dywedir bod yna 144 gyfleusterau cyhoeddus yn Rhufain yn unig) a chasglwyd yr wrin a’i werthu i bobl oedd yn lliwio brethyn. Fel cymaint o elfennau eraill o fywyd Rhufeinig, daeth oes y toiledau cyhoeddus i ben pan ddirywiodd yr ymerodraeth. 2.1.3 Ar ôl i'r Rhufeiniaid adael, roedd cyfleusterau yn amrywio o ddim o gwbl i domenni tail. Roedd awduron yn cwyno’n aml am gyflwr strydoedd ac adeiladau lle gallai fod wrin a gwastraff ym mhob man. Awgrymodd Leonardo Da Vinci y dylai adeiladau cyhoeddus bob amser gael grisiau troellog i'w gwneud yn fwy anodd ei defnyddio fel toiledau. Yn 1358 dywedir fod yna ddim ond pedwar toiled cyhoeddus yn Llundain gyfan gyda'r un a leolir ar Bont Llundain yn cael ei wagio’n syth i mewn i'r afon Tafwys. 2.2 Y Fictoriaid 2.2.1 Dim ond yn ystod Oes Fictoria yr ymddangosodd toiledau cyhoeddus mewn unrhyw niferoedd mawr. Yn dilyn cyhoeddi adroddiad iechydol Edwin Chadwick 'The Sanitary Conditions of the Labouring Population‟ yn 1842, pasiodd y Senedd Ddeddf Iechyd Cyhoeddus 1848 oedd yn galw am Gyfleusterau Cyhoeddus i wella glanweithdra. 2.2.2 Arweiniodd dyfeisio’r toiled at yr ymdrechion mawr cyntaf i osod toiledau cyhoeddus yn y 15fed a'r 16eg ganrif gyda thoiledau rhuthr dwr yn cael eu dyfeisio o gwmpas 1820 ym Mhrydain gan Albert Giblin. Yr oedd gan yr Arddangosfa Fawr yn y Palas Grisial ym 1851 doiledau ar gyfer ymwelwyr. Cafodd y rhain eu gosod gan George Jennings, plymiwr o Brighton, a oedd yn teimlo'n gryf y dylai fod yno gyfleusterau cyhoeddus gweddus. Er mwyn gwrthbwyso’r gost o’u gosod ,codwyd 1d ar ymwelwyr am ddefnyddio'r toiledau, 4 gyda 827,280 yn cytuno i wneud hynny - rhoddodd hyn elw net o £1,790 dros gyfnod o ddim ond 23 wythnos. 2.2.3 Y cyfleuster cyhoeddus cyntaf ar y stryd oedd un i "ddynion” ar 95 Fleet Street, Llundain, nesaf at y Gymdeithas Celf ac a agorwyd ar 2 Chwefror 1852. Agorwyd un arall i "ferched” 9 diwrnod yn ddiweddarach ar 11 Chwefror 1852 yn 51 Stryd Bedford, Y Strand, Llundain. Y ddau brif berson a oedd yn gyfrifol am y cynllun oedd Syr Samuel Morton Peto, contractwr adeiladu a oedd wedi bod yn gyfrifol am godi Colofn Nelson yn Sgwâr Trafalgar, a Syr Henry Cole, un o brif hyrwyddwyr yr Arddangosfa Fawr. Yn ogystal â bod yn wasanaeth cyhoeddus, roeddent yn credu y byddai'r cyfleusterau newydd yn broffidiol. Roedd gan yr "Ystafelloedd Aros Cyhoeddus” hyn doiledau wedi eu hamgylchu â phren. Y pris mynediad oedd 2d ac ychwaneg ar gyfer golchi neu frwsys dillad. Hysbysebwyd y cyfleusterau yn y Times a dosbarthwyd taflenni. Ond yn anffodus dim ond ychydig oedd yn eu defnyddio ac felly cawsant eu gadael. 2.2.4 Dechreuodd William Haywood (1821-1894), Peiriannydd Corfforaeth Dinas Llundain y toiledau cyhoeddus trefol cyntaf a’r toiledau cyhoeddus tanddaearol cyntaf yn 1855. Roedd y rhain y tu allan i'r Gyfnewidfa Frenhinol. Y contractwyr oedd George Jennings o Brighton. Roedd y toiledau hyn yn codi pris mynediad o 1d, pris a barhaodd yn safonol ar gyfer bron pob cyfleuster cyhoeddus hyd nes y cyflwynwyd arian degol yn 1971. 2.2.5 Yn y lle cyntaf, roedd yn ei chael yn anodd argyhoeddi awdurdodau i'w mabwysiadu. Ystyriwyd ei fod yn bwnc na ddylid ei grybwyll.