Rhagymadrodd
Roedd “Ysbryd y Mwynwyr – Spirit of the Miners” yn fenter adfywio â thema treftadaeth, yn canolbwyntio ar etifeddiaeth hen ddiwydiant mwyngloddio Ceredigion.
Rheolwyd y prosiect gan Gyngor Sir Ceredigion a bu'n rhedeg rhwng Ionawr 2005 a Mai 2008. Fe'i hariannwyd gan:
• Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF), rhan o raglen Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd • Y Gronfa Adfywio Lleol (LRF) • Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCW) • Cyfraniadau o'r sector breifat
Ni fyddai'r prosiect wedi bod yn bosibl heb gymorth nifer o sefydliadau ac unigolion, ac rydym yn ddiolchgar iawn am eu cymorth.
Cynhyrchwyd y llyfryn hwn er mwyn dangos pa brosiectau a weithredwyd fel rhan o'r fenter a'u lleoliadau. Am hanes mwy manwl o’r diwydiant mwyngloddio yng ngogledd Ceredigion ewch i wefan y prosiect: www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk
Mynegai
Cyfeirnod Tudalen Cynnwys map 1 Cyd-destun Hanesyddol --- 2 Ar gof a chadw 1 3 Safle Peiriant Pont Ceunant 2 4 “Teithiau Darganfod Mynyddoedd y Cambria” 3 5 Paneli gwybodaeth RIGS 4 6 Murluniau Ysbyty Ystwyth 5 7 Atgyweirio Ystorfa Powdwr Gwn Llywernog 6 8 Llyfryn “Mwyngloddio metel yn Ucheldir Ceredigion” --- 9 Murlun y Bont 7 10 Amgueddfa Ceredigion 8 11 Llyfryn “Daeareg Mwyngloddiau Canolbarth Cymru” --- 12 Sgript Frongoch 9 13 “Spoilio” 10 14 Afonydd i’r Môr – Harbwr i’r Byd 11 15 “The Waterfalls Experience” 12 16 Beddrodau’r Gorffennol 13 17 Llwybrau treftadeth Ceulanamaesmawr 14 18 Prosiect Mwyngloddiau a mwynau Ystrad 15 Fflur 19 Rhaglen datblygu llwybrau 16 20 Adfer Simnai Cwmsymlog 17 21 Rhod Pont-rhyd-y-groes 18 22 Gweithgareddau eraill y prosiect ---
Cyd-destun hanesyddol
Gwŷr yr Oes Efydd, y Rhufeiniaid, mynachod Sistersaidd Ystrad Fflur, Brenhinwyr yr ail ganrif ar bymtheg, tirfeddianwyr bonheddig lleol, entrepreneuriaid Cymreig, arianwyr cefnog Llundain, Mentrwyr diwydiannol, Peirianwyr o Gernyw, Swydd Derby a Swydd Efrog, mwynwyr o'r Eidal, Gwlad Belg a'r Almaen – maent oll dros y blynyddoedd wedi dod i chwilio am gyfoeth mwynol Ceredigion.
Bu cynnydd sylweddol yn y gweithgarwch mwyngloddio plwm rhwng 1750 a blynyddoedd ei anterth yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a bu i'r diwydiant chwarae rhan allweddol yn natblygiad economaidd Cymru a Phrydain. Yn dilyn cau'r mwyngloddiau o ganlyniad i ostyngiad ym mhrisiau plwm fe symudodd nifer o'r mwynwyr i borfeydd brasach erbyn dechrau'r Ugeinfed Ganrif, ond erys tystiolaeth o'r ffordd o fyw ddiflanedig yma: olion materol y tai mathru a'r tomennydd pridd gwastraff; gefeiliau; hen fythynnod y mwynwyr; capeli a mynwentydd.
Mae straeon a adroddwyd o un genhedlaeth i'r llall yn aros ar gof a chadw yn hen gymunedau'r mwynwyr.
Mae safleoedd mwyngloddio yn lleoedd peryglus iawn, a rhaid bod yn ofalus:-
Er eich diogelwch eich hun: peidiwch byth â mynd i mewn i dwneli na siafftiau.
Mae rhywun yn berchen ar bob safle mwyngloddio felly gofalwch ddarganfod pwy yw perchnogion y tir a gofynnwch am ganiatâd cyn ymweld â’r safle.
Os ydych yn cerdded ar lwybr cyhoeddus gerllaw mwynglawdd, gofalwch beidio â chrwydro oddi arno.
Nid oes neb wedi aflonyddu ar y rhan fwyaf o leoliadau mwyngloddio Ceredigion ers dros gan mlynedd ac maent yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) ac yn Henebion Cofrestredig (HC) dan warchodaeth gyfreithiol. Peidiwch ag aflonyddu ar domennydd, llystyfiant, muriau ac olion adeiladau, ac yn bennaf peidiwch â defnyddio safleoedd mwyngloddio fel tomennydd sbwriel.
Wrth barchu'r safleoedd yma medrwn oll weithio gyda'n gilydd i ddiogelu treftadaeth mwyngloddio unigryw Ceredigion. “Ar gof a chadw”
Cyngor Cymuned Ysbyty Ymgeisydd: Ystwyth Grant a roddwyd: £1,415
Cyfanswm y prosiect: £2,520 Allbynnau’r prosiect: Casglu a recordio straeon lleol gan greu dvd. Trefnu gweithdai i bobl ifanc i ddysgu sgiliau cynhyrchu a golygu DVD.
Roedd hwn yn brosiect ar y cyd rhwng cymunedau New Row, Pont- rhyd-y-groes ac Ysbyty Ystwyth i gofnodi hanes clywedol a gweledol yr ardal.
Mae'r prosiect wedi annog pobl i rannu gwybodaeth, dealltwriaeth ac atgofion o dreftadaeth ddiwydiannol yr ardal drwy ymchwilio i'w hanes lleol eu hunain ac wrth ddod ynghyd i gynhyrchu DVD o'u gwaith.
www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk Gwella safle peiriant Pont Ceunant
Ymddiriedolaeth Ymgeisydd: Mwynfeydd Cadwraeth Cymru Grant a roddwyd: £2,100
Cyfanswm y prosiect: £3,244 Allbynnau’r prosiect: Clirio’r sbwriel anghyfreithlon. Gosod grille. Cynhyrchu panel dehongli. Cynhyrchu llyfryn am y safle.
Defnyddiwyd gorsaf cynhyrchu ynni Pont Ceunant rhwng 1898 a 1903. Yr orsaf bŵer dŵr hon oedd y gyntaf o’i math yng Nghymru, ac roedd tipio anghyfreithlon wedi amharu ar yr adfail. Roedd y prosiect peilot i glirio'r safle yn bartneriaeth rhwng nifer o unigolion a sefydliadau a ddaeth ynghyd i symud a chael gwared â sbwriel a fu'n casglu am rai blynyddoedd, ac i adfer a gosod paneli gwybodaeth ar y safle. Gosodwyd rhwyll i atal rhagor o dipio anghyfreithlon, a phanel gwybodaeth sy'n adrodd hanes yr adeilad.
Sylwer bod y safle hwn ar dir preifat, ond gellir ei weld o ochr y ffordd rhwng Pont-rhyd-y-groes ac Abermagwr.
www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk “Teithiau darganfod Mynyddoedd y Cambria”
Ymgeisydd: Cambrian Discovery
Grant a roddwyd: £2,150
Cyfanswm y prosiect: £4,776 Allbynnau’r prosiect:
Creu busnes newydd.
Cwmni newydd yw Darganfod Cambrians sy'n darparu teithiau dehongli o amgylch Ucheldiroedd Ceredigion. Mae'r bws mini yn casglu ymwelwyr o'r orsaf drên stêm ym Mhontarfynach neu o'u llety ac yn mynd â nhw ar daith o amgylch safleoedd lleol a lleoliadau diddorol lle rhoddir sgyrsiau a gwybodaeth.
Ceir mwy o wybodaeth ar wefan www.cambriandiscovery.co.uk
www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk Paneli gwybodaeth RIGS
Grŵp RIGS Ymgeisydd: Canolbarth Cymru Grant a roddwyd: £2,682
Cyfanswm y prosiect: £5,161 Allbynnau’r prosiect:
Cynhyrchu tri panel dehongli yng Nghwmystwyth, Cwmsymlog a Chwm Rheidol.
Mae RIGS yn golygu Safleoedd Daearamrywiol Rhanbarthol Bwysig; mae'r prosiect hwn wedi cynhyrchu tri phanel gwybodaeth sy'n gosod tirweddau mwyngloddio'r ardal yn eu cyd-destun daearegol cymhleth.
Mae'r paneli, sydd yng Nghwmystwyth, Cwmsymlog a Chwm Rheidol, yn rhoi gwybodaeth i ddarllenwyr am sut a phryd y ffurfiwyd y mwynau a gloddiwyd gan y mwynwyr a pham yr oeddent mor bwysig. Ceir mwy o wybodaeth ar wefan:
www.geologywales.co.uk/central-wales-rigs/index.htm
www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk Murluniau Ysbyty Ystwyth
Pwyllgor rhieni ag Ymgeisydd: athrawon Ysbyty Ystwyth Grant a roddwyd: £3,005
Cyfanswm y prosiect: £6,010 Allbynnau’r prosiect:
Creu set o furluniau cymunedol.
Roedd y prosiect hwn a sefydlwyd gan Gymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Gynradd Ysbyty Ystwyth yn dod â chymunedau New Row, Pont- rhyd-y-groes ac Ysbyty Ystwyth ynghyd i gofnodi hanes yr ardal ar ffurf cyfres o baneli tecstil gweledol. Gyda chymorth arlunydd lleol Pod Clare, anogwyd grwpiau ac unigolion i greu gludweithiau a oedd yn adlewyrchu'r ffordd o fyw hanesyddol a arweiniodd at ddatblygu eu cymunedau.
Gellir gweld y murluniau yn y Miners Arms ym Mhont-rhyd-y-groes.
www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk Adfer Ystorfa Powdwr Gwn Llywernog
Amgueddfa Ymgeisydd: Arian-blwm Llywernog Grant a roddwyd: £3,451
Cyfanswm y prosiect: £11,120 Allbynnau’r prosiect:
Atgyweirio ystorfa powdwr gwn sydd ar safle amgueddfa mwyngloddio yn Llywernog.
Mae Amgueddfa Mwynglawdd Arian-Plwm Llywernog ar bwys Ponterwyd yn gofnod unigryw o fywyd yn oes y mwyngloddio. Mae’r amgueddfa ar safle un o’r mwyngloddiau gwreiddiol ac mae ynddi gasgliad hynod o greiriau mwyngloddio. Mae hefyd yn rhoi'r cyfle i ymwelwyr fynd dan ddaear i fwynglawdd a fu gynt yn weithredol. Un o'r adeiladau gwreiddiol ac anghyffredin sydd ar y safle yw ystorfa powdwr gwn anarferol ar ffurf cwt cadw gwenyn. Gyda chymorth ar y cyd gan CADW, adferwyd yr adeilad bregus ar gyfer y dyfodol gan y prosiect.
www.silverminetours.co.uk
www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk Llyfryn “Mwyngloddio metel yn Ucheldir Ceredigion”
Ymddiriedolaeth Ymgeisydd: Archeolegol Dyfed Grant a roddwyd: £3,852
Cyfanswm y £6,336 prosiect: Allbynnau’r prosiect:
Creu llyfryn gwybodaeth.
Mae'r llyfryn yn rhoi cefndir cyffredinol treftadaeth mwyngloddio Ceredigion, er mwyn hybu dealltwriaeth ohono a'i warchod ar gyfer y dyfodol. Mae’n seiliedig ar fformat llyfrynnau “Gofalu am...” blaenorol Cadw, mae'n ddarluniadol dros ben ac mae’n cynnwys lluniau a dogfennau cyfoes a hanesyddol. Mae’r llyfryn yn cyflwyno’r diwydiant a'i hanes, ac yn dangos ei effaith gymdeithasol/ddiwylliannol, economaidd, ecolegol a thirweddol. Ei nod yw helpu i ddiogelu'r gweddillion materol sydd wedi goroesi gan ddarparu ffynonellau gwybodaeth a chyngor pellach i dirfeddianwyr. www.acadat.com
Neuadd y Sir 8 Stryd Caerfyrddin Llandeilo, Sir Gaerfyrddin Cymru, SA19 6AF
01558 823121
www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk Murlun y Bont
Pwyllgor Rhieni Ymgeisydd: ag Athrawon y Bont Grant a roddwyd: £3,890
Cyfanswm y prosiect: £10,450 Allbynnau’r prosiect:
Casglu gwybodaeth am hanesion lleol. Creu murlun. Creu dvd.
Ar gyfer y prosiect hwn, gwelwyd plant lleol ym Mhontrhydfendigaid yn casglu straeon am eu hardal. Yn dilyn hynny fe grëwyd murlun yn darlunio'r straeon yma. Gellir gweld y murlun ar wal tŷ yng nghanol y pentref.
Mae'r prosiect wedi bod yn gyfle i hybu ymwybyddiaeth o hanes, traddodiadau a threftadaeth diwydiant mwyngloddio'r ardal, ac mae wedi ei gofnodi ar DVD.
www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk Amgueddfa Ceredigion
Amgueddfa Ymgeisydd: Ceredigion Grant a roddwyd: £4,547
Cyfanswm y prosiect: £7,500 Allbynnau’r prosiect:
Gwella arddangosfa mwyngloddio plwm a mordwyaeth yr amgueddfa.
Mae Amgueddfa Ceredigion yn atyniad poblogaidd a leolir yn hen theatr y Coliseum yn Aberystwyth. Mae'r amgueddfa'n diweddaru ei harddangosfeydd ac mae'r prosiect yma'n cynnwys uwchraddio'r arddangosfa 25 mlwydd oed bresennol i gyd-fynd ag adnewyddu’r arddangosfa forwrol gyfagos.
Am fwy o wybodaeth ewch i: www.ceredigion.gov.uk/index.cfm?articleid=197
COLISEUM, Ffordd y Môr Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2AQ
01970 633088
www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk Llyfryn “Daeareg Mwyngloddiau Canolbarth Cymru”
Grŵp RIGS Ymgeisydd: Canolbarth Cymru Grant a roddwyd: £5,398
Cyfanswm y prosiect: £10,826 Allbynnau’r prosiect:
Creu llyfryn ar ddaeareg canolbarth Cymru.
Hwn oedd yr ail gam ym mhrosiect y byrddau gwybodaeth sydd unwaith eto'n helpu i roi tirweddau mwyngloddio'r ardal yn eu cyd-destun daearegol. Mae'n bwnc cymhleth ond caiff ei gyflwyno mewn arddull hawdd ei deall a'i egluro'n drwyadl drwy ddefnyddio lluniau lliw llawn. Cynhyrchwyd y llyfryn ar y cyd gan John Mason, yr Athro William Fitches (cadeirydd RIGS) a Bob Mason, daearegwr i Gyngor Cefn Gwlad Cymru.
www.geologywales.co.uk/central-wales-rigs/index.htm
www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk Sgript Frongoch
Ymgeisydd: Boomerang Cyf.
Grant a roddwyd: £6,031
Cyfanswm y prosiect: £14,000 Allbynnau’r prosiect: Cynhyrchu: Sgript drama yn seiliedig ar ddigwyddiadau ym mwynglawdd Frongoch. Erthygl ymwchwil.
Rhoddwyd comisiwn gan y cwmni teledu annibynnol Boomerang i Caryl Lewis, awdur a anwyd yng Ngheredigion, i lunio sgript drama deledu yn seiliedig ar un o straeon mwyaf difyr diwydiant mwyngloddio plwm y sir. Mae'r sgript Gymraeg yn canolbwyntio ar y digwyddiadau ym Mwynglawdd Frongoch ym 1901 pan ddywedir fod dyfodiad mwynwyr o'r Eidal wedi arwain at aflonyddwch diwyddiannol a thrais. Mae'r sgript yn seiliedig ar ddigwyddiadau go-iawn yn Frongoch, ond mae’n cynnwys elfennau o ffuglen i gyfleu’r stori.
Gobeithir y bydd y sgript yn denu sylw darlledwyr Cymreig ac yn dod â’r stori yma yn fyw ar y sgrin fach.
www.boomerang.co.uk
www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk “Spoilio”
Ymgeisydd: Blaengar Grant a roddwyd: £6,644
Cyfanswm y prosiect: £9,723 Allbynnau’r prosiect:
Datblygu amryw o elfennau o gelf. Cynnal gweithdai yn ysgolion lleol.
Sefydliad celfyddydol newydd yw Blaengar a ddechreuwyd gan grŵp o artistiaid yn ardal Aberystwyth sy'n cychwyn eu gyrfaoedd, a'i nod yw rhedeg digwyddiadau ac arddangosfeydd i artistiaid cyd-ddisgyblaethol cyfoes yng Nghanolbarth Cymru. Mae Blaengar yn gweithio ym meysydd perfformio, gosodiadau, cerflunio a chyfryngau newydd.
Trefnwyd Spoilio ym Mwyngloddiau Arian-Plwm Llywernog, gyda gweithiau unigol yn cael eu harddangos ar bromenâd Aberystwyth a'u ffilmio yng Nghwmystwyth.
www.blaengar.org
www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk Afonydd i’r Môr – Harbwr i’r Byd
Afonydd i’r Môr – Ymgeisydd: Harbwr i’r Byd Grant a roddwyd: £7,675
Cyfanswm y prosiect: £10,475 Allbynnau’r prosiect:
Creu dwy sedd ddeongliadol.
Prosiect seddau deongliadol yw hwn sy'n cysylltu treftadaeth ddiwydiannol cefnwlad Aberystwyth â'r harbwr a'r byd. Cyn dyfodiad y rheilffordd, yr harbwr oedd ardal fwyaf bywiog Aberystwyth. Yr harbwr oedd y prif gyfrwng i gyfathrebu â'r byd ac ychydig iawn sydd ar ôl erbyn hyn i ddangos ei orffennol.
Mae gan y grŵp cymunedol Afonydd i'r Môr o Aberystwyth ddiddordeb mewn hybu a dehongli'r hanes yma i ymwelwyr a phobl leol drwy weithio gydag artistiaid gweledol, perfformwyr a haneswyr. Lleolir y naill sedd yn harbwr Aberystwyth, a'r llall ger y llwybr beicio newydd ar yr hen reilffordd yn Llanilar.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Shelagh Hourahane [email protected]
www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk “The Waterfalls Experience”
Rhaeadrau Ymgeisydd: Pontarfynach Grant a roddwyd: £11,080
Cyfanswm y prosiect: £26,932 Allbynnau’r prosiect:
Gwella cyfleusterau a dehongliad yr atyniad i gynyddu’r nifer yr ymwelwyr.
Mae Pontarfynach yn sefyll yng nghanol ardal y mwyngloddiau, a Rhaeadr Pontarfynach yw un o'i phrif atyniadau. Mae'r pentref yn enwog am ei olygfeydd ysblennydd a'i gyfoeth hanesyddol, yn cynnwys y rhaeadrau 300 troedfedd anhygoel a’r tair pont. Mae'r atyniad yn cynnwys llwybr natur sy'n arwain drwy Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a gwarchodfa natur genedlaethol.
Roedd y prosiect yn ymwneud â gwella cyfleusterau'r safle yn cynnwys y llwybrau troed, adeiladu gwylfeydd a darparu dehongliad clywedol a gweledol i alluogi ymwelwyr i werthfawrogi agweddau daearegol, hanesyddol a botanegol yr atyniad.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Victoria Chism 01974 890233
www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk “Beddrodau’r Gorffennol”
Eglwys Newydd, Ymgeisydd: Cwmystwyth Grant a roddwyd: £12,468
Cyfanswm y prosiect: £19,451 Allbynnau’r prosiect:
Ymchwilio’r beddau. Cynhyrchu byrddau dehongli a syste cyfrifiadureg i arddangos y canlyniadau.
Mae i Eglwys yr Hafod hanes cyfoethog, ac mae ganddi gysylltiadau cryf â diwydiant mwyngloddio'r ardal. Mae'n adnabyddus oherwydd beddrodau Thomas Johnes, yr Hafod, a'i ferch Mariamne yn ogystal â llawer o fwynwyr a fu'n gweithio ym mwyngloddiau Cwmystwyth – un o'r rhai enwocaf oedd James Raw, a ddaeth i'r ardal fel peiriannydd mwyngloddio. Mae ei deulu'n byw ac yn ffermio yn yr ardal hyd heddiw.
Roedd y prosiect yma yn ymwneud â chynnal gwaith ymchwil yn seiliedig ar gofnodion eglwysig teuluoedd mwynwyr yn ardal Cwmystwyth, cychwyn arolwg o fynwent yr Hafod a chynhyrchu byrddau gwybodaeth a chodi system sgrin gyffwrdd gyfrifiadurol i arddangos y cofnodion a'r wybodaeth i'r gymuned leol ac i ymwelwyr.
www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk Llwybrau treftadeth Ceulanamaesmawr
Ymgeisydd: Ecodyfi Grant a roddwyd: £13,368
Cyfanswm y prosiect: £21,868 Allbynnau’r prosiect: Cynhyrchu paneli gwybodaeth. Creu pamffled. Cynhyrchu ffeiliau MP3 a gellir ei lawr lwytho o wefan YYM.
Fe welir o hyd yn ardaloedd Tal-y-bont, Tre Taliesin, Bont-goch, Tre’r Ddol a Ffwrnais olion o'r hen ddiwydiant mwyngloddio a fu unwaith yn gyffredin yn yr ardal. Mae mwyngloddio a phrosesu mwynau wedi digwydd yn y bryniau o amgylch Tal-y-bont ers yr Oes Efydd a'r Oes Rufeinig tan ddechrau’r ugeinfed ganrif.
Nod y prosiect hwn yw hybu ymwybyddiaeth o dreftadaeth mwyngloddio'r ardal drwy roi gwybodaeth i bobl leol ac ymwelwyr ar lwybrau cerdded a'r ardal leol drwy fyrddau dehongli, taflen a ffeiliau mp3 y gellir eu lawrlwytho a'u clywed cyn i ymwelwyr ddod i'r ardal. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan: www.ysbryd-y-mwynwyr.org.ukceulanproject.php
www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk Prosiect Mwyngloddiau a mwynau Ystrad Fflur
Ymgeisydd: Prifysgol Cymru Llambed
Grant a roddwyd: £18,372
Cyfanswm y prosiect: £89,442 Allbynnau’r prosiect: Cynnal rhaglen o arolygiad a chloddio ym mwynglawdd Bron y Berllan (ar bwys Ystrad Fflur). Cynnal arddangosfa ar weithio ar fetalau hynafol.
Gwnaed dau ddarn o waith yn 2006 dan nawdd Prosiect Mwyngloddiau a Mwynau Ystrad Fflur. Roedd y cyntaf yn cynnwys rhaglen gloddio mewn mwyngloddiau hynafol ar safle mwynglawdd ger Fferm Bronyberllan. Roedd y prosiect yn ymarfer hyfforddi i fyfyrwyr a gwirfoddolwyr. Yr ail elfen oedd arddangosiad o dechnegau waith metel hynafol gan grŵp o gerflunwyr o'r enw Umha Aois. Yna fe ymwelodd ysgolion ac aelodau o’r gymuned leol â'r safle er mwyn dysgu mwy am effaith hanesyddol mwyngloddio ar y dirwedd.
www.llambed.ac.uk
www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk Rhaglen datblygu llwybrau
Cyngor Sir Ymgeisydd: Ceredigion Grant a roddwyd: £37,980
Cyfanswm y prosiect: £76,000 Allbynnau’r prosiect:
Datblygu llwybrau cerdded strategol. Creu cyfeiriadau cerdded a mapiau o’r llwy brau. Mae Gogledd Ceredigion yn adnabyddus am ei olygfeydd ysblennydd ond mae'r dirwedd yn celu hanes dramatig oes ddiwydiannol y gorffennol. Fe welwch hyd heddiw weddillion ffordd o fyw ddiflanedig - mae gweddillion hen adeiladau a thomenni gwastraff yn dyst i hyn. Datblygwyd dau lwybr llinol yn cysylltu Pontarfynach a Phont-rhyd-y- groes ac ymlaen i Bontrhydfendigaid. Mae 4 llwybr cylchol pellach wedi eu datblygu o amgylch Bont-goch, Cwmsymlog, Pontarfynach a Thal-y- bont. Mae gan yr holl aneddiadau gysylltiadau cryf â diwydiant mwyngloddio'r gorffennol. Mae mapiau o'r holl lwybrau ar gael ar wefan tourism.ceredigion.gov.uk/cymraeg/index.htm.
www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk Adfer a dehongli Simnai Cwmsymlog
Cyngor Cymuned Ymgeisydd: Trefeurig Grant a roddwyd: £41,087
Cyfanswm y prosiect: £82,174 Allbynnau’r prosiect:
Atgyweirio’r simnai Darparu paneli gwybodaeth
Disgrifiwyd Cwmsymlog gan Lewis Morris, peirianydd mwyngloddio ym 1744 fel: “Y cyfoethocaf o ran plwm ac arian o bob un yn nhiriogaethau ei Fawrhydi.”
Mae’r unig simnai mwynglawdd hygyrch yn y sir i’w gweld ar y safle, ac wedi blynyddoedd o ymgyrchu fe lwyddodd Cyngor Cymuned Trefeurig i sicrhau cyllid gan Ysbryd y Mwynwyr a Cadw i ariannu ei adferiad. Yn awr adroddir stori'r simnai a'r cwm gan ddefnyddio paneli dehongli gyda gwybodaeth ar wahanol agweddau diddorol yn cynnwys ei fotaneg, ei ddaeareg a’i hanes unigryw.
www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk Rhod Pont-rhyd-y-groes
Ymddiriedolaeth Ymgeisydd: Treftadaeth Plynlimon Grant a roddwyd: £56,213
Cyfanswm y prosiect: £75,713 Allbynnau’r prosiect:
Adfer rhod ddŵr Darparu panel dehongli
Mae Pont-rhyd-y-groes yn bentref ac iddo dreftadaeth weladwy hynod o hyd, ar ffurf tŷ cyfrif, pont mwynwyr a thafarn y Miners Arms.
Adferodd y prosiect yma rod ddŵr 24 troedfedd mewn diamedr sydd yn awr yn sefyll yn yr union fan lle bu rhod 26 troedfedd yn gyrru stamp i falurio'r mwynau yn y 1850au.
Mae'r olwyn yn gofadail i'r rhai a weithiai yn y mwyngloddiau.
www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk
Gweithgareddau eraill y prosiect
Datblygwyd gwefan addysgiadol sy'n cynnwys llinell amser o ddigwyddiadau mwyngloddio yn yr ardal. Mae’r wefan ddwyieithog hon yn cynnwys gwybodaeth helaeth am hanes, daeareg, planhigion a bywyd gwyllt y mwyngloddiau. Gadewch i Iwan y mwynwr eich arwain drwy'r wefan!
Mae penwythnosau treftadaeth yn ddigwyddiadau blynyddol erbyn hyn ac maent wedi rhoi cyfle i bobl leol ac ymwelwyr ddilyn olion traed hen fwynwyr Sir Aberteifi ac ymweld â safleoedd gydag aelodau o Ymddiriedolaeth Cadwraeth Mwynfeydd Cymru. Mae'r Ymddiriedolaeth hefyd wedi cynnal gwaith gwirfoddol i glirio sbwriel a llystyfiant mewn safleoedd megis Cwmsymlog a Bronfloyd.
Roedd digwyddiad a drefnwyd gan y prosiect ym Mehefin 2006 yn cynnwys penwythnos o ddangosiadau archaeoleg arbrofol yn cynnwys technegau mwyngloddio hynafol a mwyndoddi. Cynhaliwyd gweithdai yn dangos sut i wneud morthwylion a meginau’r Oes Efydd.
Am wybodaeth ar ddigwyddiadau presennol ymwelwch â www.mike.munro.cwc.net/mining/wmpt/wmpt_frm.htm