
Rhagymadrodd Roedd “Ysbryd y Mwynwyr – Spirit of the Miners” yn fenter adfywio â thema treftadaeth, yn canolbwyntio ar etifeddiaeth hen ddiwydiant mwyngloddio Ceredigion. Rheolwyd y prosiect gan Gyngor Sir Ceredigion a bu'n rhedeg rhwng Ionawr 2005 a Mai 2008. Fe'i hariannwyd gan: • Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF), rhan o raglen Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd • Y Gronfa Adfywio Lleol (LRF) • Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCW) • Cyfraniadau o'r sector breifat Ni fyddai'r prosiect wedi bod yn bosibl heb gymorth nifer o sefydliadau ac unigolion, ac rydym yn ddiolchgar iawn am eu cymorth. Cynhyrchwyd y llyfryn hwn er mwyn dangos pa brosiectau a weithredwyd fel rhan o'r fenter a'u lleoliadau. Am hanes mwy manwl o’r diwydiant mwyngloddio yng ngogledd Ceredigion ewch i wefan y prosiect: www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk Mynegai Cyfeirnod Tudalen Cynnwys map 1 Cyd-destun Hanesyddol --- 2 Ar gof a chadw 1 3 Safle Peiriant Pont Ceunant 2 4 “Teithiau Darganfod Mynyddoedd y Cambria” 3 5 Paneli gwybodaeth RIGS 4 6 Murluniau Ysbyty Ystwyth 5 7 Atgyweirio Ystorfa Powdwr Gwn Llywernog 6 8 Llyfryn “Mwyngloddio metel yn Ucheldir Ceredigion” --- 9 Murlun y Bont 7 10 Amgueddfa Ceredigion 8 11 Llyfryn “Daeareg Mwyngloddiau Canolbarth Cymru” --- 12 Sgript Frongoch 9 13 “Spoilio” 10 14 Afonydd i’r Môr – Harbwr i’r Byd 11 15 “The Waterfalls Experience” 12 16 Beddrodau’r Gorffennol 13 17 Llwybrau treftadeth Ceulanamaesmawr 14 18 Prosiect Mwyngloddiau a mwynau Ystrad 15 Fflur 19 Rhaglen datblygu llwybrau 16 20 Adfer Simnai Cwmsymlog 17 21 Rhod Pont-rhyd-y-groes 18 22 Gweithgareddau eraill y prosiect --- Cyd-destun hanesyddol Gwŷr yr Oes Efydd, y Rhufeiniaid, mynachod Sistersaidd Ystrad Fflur, Brenhinwyr yr ail ganrif ar bymtheg, tirfeddianwyr bonheddig lleol, entrepreneuriaid Cymreig, arianwyr cefnog Llundain, Mentrwyr diwydiannol, Peirianwyr o Gernyw, Swydd Derby a Swydd Efrog, mwynwyr o'r Eidal, Gwlad Belg a'r Almaen – maent oll dros y blynyddoedd wedi dod i chwilio am gyfoeth mwynol Ceredigion. Bu cynnydd sylweddol yn y gweithgarwch mwyngloddio plwm rhwng 1750 a blynyddoedd ei anterth yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a bu i'r diwydiant chwarae rhan allweddol yn natblygiad economaidd Cymru a Phrydain. Yn dilyn cau'r mwyngloddiau o ganlyniad i ostyngiad ym mhrisiau plwm fe symudodd nifer o'r mwynwyr i borfeydd brasach erbyn dechrau'r Ugeinfed Ganrif, ond erys tystiolaeth o'r ffordd o fyw ddiflanedig yma: olion materol y tai mathru a'r tomennydd pridd gwastraff; gefeiliau; hen fythynnod y mwynwyr; capeli a mynwentydd. Mae straeon a adroddwyd o un genhedlaeth i'r llall yn aros ar gof a chadw yn hen gymunedau'r mwynwyr. Mae safleoedd mwyngloddio yn lleoedd peryglus iawn, a rhaid bod yn ofalus:- Er eich diogelwch eich hun: peidiwch byth â mynd i mewn i dwneli na siafftiau. Mae rhywun yn berchen ar bob safle mwyngloddio felly gofalwch ddarganfod pwy yw perchnogion y tir a gofynnwch am ganiatâd cyn ymweld â’r safle. Os ydych yn cerdded ar lwybr cyhoeddus gerllaw mwynglawdd, gofalwch beidio â chrwydro oddi arno. Nid oes neb wedi aflonyddu ar y rhan fwyaf o leoliadau mwyngloddio Ceredigion ers dros gan mlynedd ac maent yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) ac yn Henebion Cofrestredig (HC) dan warchodaeth gyfreithiol. Peidiwch ag aflonyddu ar domennydd, llystyfiant, muriau ac olion adeiladau, ac yn bennaf peidiwch â defnyddio safleoedd mwyngloddio fel tomennydd sbwriel. Wrth barchu'r safleoedd yma medrwn oll weithio gyda'n gilydd i ddiogelu treftadaeth mwyngloddio unigryw Ceredigion. “Ar gof a chadw” Cyngor Cymuned Ysbyty Ymgeisydd: Ystwyth Grant a roddwyd: £1,415 Cyfanswm y prosiect: £2,520 Allbynnau’r prosiect: Casglu a recordio straeon lleol gan greu dvd. Trefnu gweithdai i bobl ifanc i ddysgu sgiliau cynhyrchu a golygu DVD. Roedd hwn yn brosiect ar y cyd rhwng cymunedau New Row, Pont- rhyd-y-groes ac Ysbyty Ystwyth i gofnodi hanes clywedol a gweledol yr ardal. Mae'r prosiect wedi annog pobl i rannu gwybodaeth, dealltwriaeth ac atgofion o dreftadaeth ddiwydiannol yr ardal drwy ymchwilio i'w hanes lleol eu hunain ac wrth ddod ynghyd i gynhyrchu DVD o'u gwaith. www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk Gwella safle peiriant Pont Ceunant Ymddiriedolaeth Ymgeisydd: Mwynfeydd Cadwraeth Cymru Grant a roddwyd: £2,100 Cyfanswm y prosiect: £3,244 Allbynnau’r prosiect: Clirio’r sbwriel anghyfreithlon. Gosod grille. Cynhyrchu panel dehongli. Cynhyrchu llyfryn am y safle. Defnyddiwyd gorsaf cynhyrchu ynni Pont Ceunant rhwng 1898 a 1903. Yr orsaf bŵer dŵr hon oedd y gyntaf o’i math yng Nghymru, ac roedd tipio anghyfreithlon wedi amharu ar yr adfail. Roedd y prosiect peilot i glirio'r safle yn bartneriaeth rhwng nifer o unigolion a sefydliadau a ddaeth ynghyd i symud a chael gwared â sbwriel a fu'n casglu am rai blynyddoedd, ac i adfer a gosod paneli gwybodaeth ar y safle. Gosodwyd rhwyll i atal rhagor o dipio anghyfreithlon, a phanel gwybodaeth sy'n adrodd hanes yr adeilad. Sylwer bod y safle hwn ar dir preifat, ond gellir ei weld o ochr y ffordd rhwng Pont-rhyd-y-groes ac Abermagwr. www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk “Teithiau darganfod Mynyddoedd y Cambria” Ymgeisydd: Cambrian Discovery Grant a roddwyd: £2,150 Cyfanswm y prosiect: £4,776 Allbynnau’r prosiect: Creu busnes newydd. Cwmni newydd yw Darganfod Cambrians sy'n darparu teithiau dehongli o amgylch Ucheldiroedd Ceredigion. Mae'r bws mini yn casglu ymwelwyr o'r orsaf drên stêm ym Mhontarfynach neu o'u llety ac yn mynd â nhw ar daith o amgylch safleoedd lleol a lleoliadau diddorol lle rhoddir sgyrsiau a gwybodaeth. Ceir mwy o wybodaeth ar wefan www.cambriandiscovery.co.uk www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk Paneli gwybodaeth RIGS Grŵp RIGS Ymgeisydd: Canolbarth Cymru Grant a roddwyd: £2,682 Cyfanswm y prosiect: £5,161 Allbynnau’r prosiect: Cynhyrchu tri panel dehongli yng Nghwmystwyth, Cwmsymlog a Chwm Rheidol. Mae RIGS yn golygu Safleoedd Daearamrywiol Rhanbarthol Bwysig; mae'r prosiect hwn wedi cynhyrchu tri phanel gwybodaeth sy'n gosod tirweddau mwyngloddio'r ardal yn eu cyd-destun daearegol cymhleth. Mae'r paneli, sydd yng Nghwmystwyth, Cwmsymlog a Chwm Rheidol, yn rhoi gwybodaeth i ddarllenwyr am sut a phryd y ffurfiwyd y mwynau a gloddiwyd gan y mwynwyr a pham yr oeddent mor bwysig. Ceir mwy o wybodaeth ar wefan: www.geologywales.co.uk/central-wales-rigs/index.htm www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk Murluniau Ysbyty Ystwyth Pwyllgor rhieni ag Ymgeisydd: athrawon Ysbyty Ystwyth Grant a roddwyd: £3,005 Cyfanswm y prosiect: £6,010 Allbynnau’r prosiect: Creu set o furluniau cymunedol. Roedd y prosiect hwn a sefydlwyd gan Gymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Gynradd Ysbyty Ystwyth yn dod â chymunedau New Row, Pont- rhyd-y-groes ac Ysbyty Ystwyth ynghyd i gofnodi hanes yr ardal ar ffurf cyfres o baneli tecstil gweledol. Gyda chymorth arlunydd lleol Pod Clare, anogwyd grwpiau ac unigolion i greu gludweithiau a oedd yn adlewyrchu'r ffordd o fyw hanesyddol a arweiniodd at ddatblygu eu cymunedau. Gellir gweld y murluniau yn y Miners Arms ym Mhont-rhyd-y-groes. www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk Adfer Ystorfa Powdwr Gwn Llywernog Amgueddfa Ymgeisydd: Arian-blwm Llywernog Grant a roddwyd: £3,451 Cyfanswm y prosiect: £11,120 Allbynnau’r prosiect: Atgyweirio ystorfa powdwr gwn sydd ar safle amgueddfa mwyngloddio yn Llywernog. Mae Amgueddfa Mwynglawdd Arian-Plwm Llywernog ar bwys Ponterwyd yn gofnod unigryw o fywyd yn oes y mwyngloddio. Mae’r amgueddfa ar safle un o’r mwyngloddiau gwreiddiol ac mae ynddi gasgliad hynod o greiriau mwyngloddio. Mae hefyd yn rhoi'r cyfle i ymwelwyr fynd dan ddaear i fwynglawdd a fu gynt yn weithredol. Un o'r adeiladau gwreiddiol ac anghyffredin sydd ar y safle yw ystorfa powdwr gwn anarferol ar ffurf cwt cadw gwenyn. Gyda chymorth ar y cyd gan CADW, adferwyd yr adeilad bregus ar gyfer y dyfodol gan y prosiect. www.silverminetours.co.uk www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk Llyfryn “Mwyngloddio metel yn Ucheldir Ceredigion” Ymddiriedolaeth Ymgeisydd: Archeolegol Dyfed Grant a roddwyd: £3,852 Cyfanswm y £6,336 prosiect: Allbynnau’r prosiect: Creu llyfryn gwybodaeth. Mae'r llyfryn yn rhoi cefndir cyffredinol treftadaeth mwyngloddio Ceredigion, er mwyn hybu dealltwriaeth ohono a'i warchod ar gyfer y dyfodol. Mae’n seiliedig ar fformat llyfrynnau “Gofalu am...” blaenorol Cadw, mae'n ddarluniadol dros ben ac mae’n cynnwys lluniau a dogfennau cyfoes a hanesyddol. Mae’r llyfryn yn cyflwyno’r diwydiant a'i hanes, ac yn dangos ei effaith gymdeithasol/ddiwylliannol, economaidd, ecolegol a thirweddol. Ei nod yw helpu i ddiogelu'r gweddillion materol sydd wedi goroesi gan ddarparu ffynonellau gwybodaeth a chyngor pellach i dirfeddianwyr. www.acadat.com Neuadd y Sir 8 Stryd Caerfyrddin Llandeilo, Sir Gaerfyrddin Cymru, SA19 6AF 01558 823121 www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk Murlun y Bont Pwyllgor Rhieni Ymgeisydd: ag Athrawon y Bont Grant a roddwyd: £3,890 Cyfanswm y prosiect: £10,450 Allbynnau’r prosiect: Casglu gwybodaeth am hanesion lleol. Creu murlun. Creu dvd. Ar gyfer y prosiect hwn, gwelwyd plant lleol ym Mhontrhydfendigaid yn casglu straeon am eu hardal. Yn dilyn hynny fe grëwyd murlun yn darlunio'r straeon yma. Gellir gweld y murlun ar wal tŷ yng nghanol y pentref. Mae'r prosiect wedi bod yn gyfle i hybu ymwybyddiaeth o hanes, traddodiadau a threftadaeth diwydiant mwyngloddio'r ardal, ac mae wedi ei gofnodi ar DVD. www.ysbryd-y-mwynwyr.org.uk Amgueddfa Ceredigion Amgueddfa Ymgeisydd: Ceredigion Grant a roddwyd: £4,547 Cyfanswm y prosiect: £7,500 Allbynnau’r prosiect: Gwella arddangosfa mwyngloddio plwm a mordwyaeth yr amgueddfa. Mae Amgueddfa Ceredigion yn atyniad poblogaidd a leolir yn hen theatr y Coliseum yn Aberystwyth. Mae'r amgueddfa'n diweddaru ei harddangosfeydd ac mae'r prosiect yma'n cynnwys uwchraddio'r arddangosfa 25 mlwydd oed bresennol i gyd-fynd ag adnewyddu’r arddangosfa forwrol gyfagos.
Details
-
File Typepdf
-
Upload Time-
-
Content LanguagesEnglish
-
Upload UserAnonymous/Not logged-in
-
File Pages27 Page
-
File Size-