<<

AROLWG O FFINIAU ETHOLAETHAU SENEDDOL YNG NGHASTELL-NEDD PORT TALBOT A PHOWYS

DARPAR ARGYMHELLION

Medi 2007

Mae’r Comisiwn yn croesawu unrhyw ohebiaeth a galwadau ffôn naill ai yn Gymraeg neu Saesneg

COMISIWN FFINIAU I GYMRU

AROLWG O FFINIAU ETHOLAETHAU SENEDDOL YNG NGHASTELL-NEDD PORT TALBOT A PHOWYS

DARPAR ARGYMHELLION

CYNNWYS

1. CYFLWYNIAD

2. CRYNODEB O ARGYMHELLION

3. ETHOLAETHAU SENEDDOL

4. RHANBARTHAU ETHOLIADOL CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU

5. MANYLION CYHOEDDI

6. CYFNOD AR GYFER CYFLWYNO SYLWADAU

7. NODYN CEFNDIR

Atodiad 1 Map o Gwm-twrch Isaf

Atodiad 2 Map o Etholaethau a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad

Atodiad 3 Etholwyr Adrannau Etholiadol

1. CYFLWYNIAD

1.1 Cynhaliodd y Comisiwn ei bumed Arolwg Cyffredinol o Etholaethau Seneddol a’r Arolwg Cyffredinol Cyntaf o Ranbarthau Etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng mis Rhagfyr 2002 a mis Ionawr 2005. Daeth Gorchymyn canlyniadol Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) 2006 i rym ar 25 Ebrill 2006. Fodd bynnag, dim ond at ardaloedd llywodraeth leol fel yr oeddent yn bodoli ar 31 Ionawr 2005 yr oedd y Gorchymyn hwn yn cyfeirio. Daeth Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot a Phowys (Cwm-twrch) 2004 i rym ar 1 Ebrill 2005 a gwnaeth sawl newid i’r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir (a newid ôl-ddilynol i ffiniau siroedd wedi’u cadw Gorllewin Morgannwg a Phowys).

1.2 O ganlyniad, nid yw’r ffin rhwng Neath CC ac and CC yn dilyn y ffin sirol a’r sir wedi’i gadw, ac felly penderfynodd y Comisiwn gynnal arolwg o’r ardal yr effeithir arni o dan adran 3 (3) Deddf 1986.

1.3 Yn awr, mae’r Comisiwn yn cyhoeddi ei ddarpar argymhellion, h.y. cynigion cychwynnol y Comisiwn, er mwyn ymgynghori yn gyhoeddus yn eu cylch. Mae’r argymhellion hynny yn rhoi ystyriaeth ofalus i ddatblygiadau ers yr arolwg cyffredinol diwethaf, gan gynnwys newidiadau a wnaed i siroedd wedi’u cadw, ardaloedd awdurdodau lleol ac adrannau etholiadol. Pwysleisir, fodd bynnag, fod yr argymhellion a’r rhesymeg y maent wedi’u seilio arnynt oll yn rhai dros dro (yn hynny o beth, dylid darllen yr argymhellion, penderfyniadau, casgliadau ac ati yn y ddogfen hon yn unol â hynny) ac y rhoddir cryn bwyslais ar y cyfle a roddir yn awr i bawb perthnasol gynnig sylwadau, p’un ai o blaid y cynigion neu i’w gwrthwynebu.

1.4 Rhoddir manylion ynghylch pryd a sut i gynnig sylwadau, ynghyd â nodyn cefndir byr, yn ddiweddarach yn y ddogfen hon.

2. CRYNODEB O ARGYMHELLION

S Cynigir gwneud newidiadau bach i etholaeth Castell-nedd ac etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed i adlewyrchu’r newid i’r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys.

S Cynigir newidiadau bach i ranbarthau etholiadol y Cynulliad yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru a De Orllewin Cymru i adlewyrchu’r newidiadau arfaethedig i etholaethau seneddol/y Cynulliad.

3. ETHOLAETHAU SENEDDOL

3.1 Ar hyn o bryd, mae gan etholaeth seneddol Castell-nedd 58,398 o etholwyr (ar 1 Mehefin 2007). Mae’r etholaeth yn cynnwys adrannau etholiadol Sir Castell-nedd Port Talbot County Aberdulais, Allt-wen, Blaengwrach, Gogledd Bryn-coch, De 1 Bryn-coch, Tregatwg, Cimla, Crynant, , Dyffryn, Glyn-nedd, Godre'r graig, Gwaun-Cae-Gurwen, Brynaman Isaf, Dwyrain Castell-nedd, Gogledd Castell- nedd, De Castell-nedd, Onllwyn, Pelenna, Pontardawe, Resolfen, Rhos, Seven Sisters, Tonna, Trebanws ac . O ganlyniad i Orchymyn Castell-nedd Port Talbot a Phowys (Cwm-twrch) 2004, mae’r etholaeth yn cynnwys rhan o adran etholiadol Sir Powys Cwm-twrch hefyd.

3.2 Ar hyn o bryd, mae gan etholaeth seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed 55,206 o etholwyr (ar 1 Mehefin 2007). Mae’r etholaeth yn cynnwys adrannau etholiadol Sir Powys Aber-craf, Bugeildy, Brwynllys, Llanfair-ym-Muallt, , Crucywel, Cwm- twrch, Diserth a Thre-coed, Felin-fach, Y Clas ar Wy, , Y Gelli Gandryll, Trefyclo, , Llanbadarn Fawr, Dwyrain Llandrindod/Gorllewin Llandrindod, Gogledd Llandrindod, De Llandrindod, , Llangatwg, , , , , Llanllyr, /, , Pencraig, Llanandras, Rhaeadr Gwy, Llanfaes, Eglwys Ieuan, Llanfair, , Tal- y-bont ar Wysg, Tawe-Uchaf, Ynyscedwyn, ac . O ganlyniad i Orchymyn Castell-nedd Port Talbot a Phowys (Cwm-twrch) 2004, mae rhan o adran etholiadol Cwm-twrch wedi’i heithrio o etholaeth sirol Brycheiniog a Sir Faesyfed.

3.3 Roedd y newid i’r ffin sirol yn cynnwys trosglwyddo 84 o etholwyr o adran etholiadol Ystradgynlais yng Nghastell-nedd Port Talbot i adran etholiadol Cwm-twrch ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Mae hyn wedi arwain at rannu adran etholiadol Cwm- twrch rhwng etholaeth Castell-nedd ac etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed. Dangosir y newid i’r ffin ar y map yn Atodiad 1. Am fod holl adran etholiadol Cwm- twrch, ac eithrio rhan fach iawn, o fewn etholaeth bresennol Brycheiniog a Sir Faesyfed, mae’r Comisiwn wedi penderfynu ail-alinio’r ffin rhwng etholaethau Castell-nedd a Brycheiniog a Sir Faesyfed i gynnwys adran etholiadol Cwm-twrch yn ei chyfanrwydd oddi mewn i etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed.

3.4 Mae’r Comisiwn wedi penderfynu peidio ag argymell newid unrhyw etholaethau eraill sy’n bodoli eisoes am y bydd y nifer fath o etholwyr sy’n gysylltiedig â’r newid arfaethedig yn cael effaith fach iawn ar nifer yr etholwyr ac, o ganlyniad i hynny, trefniant etholaethau oddi mewn i siroedd wedi’u cadw Powys a Gorllewin Morgannwg.

3.5 Yn unol â hyn, mae’r Comisiwn wedi penderfynu dros dro i ddiwygio cyfansoddiad dwy etholaeth fel a ganlyn (dangosir etholaethau 2007 mewn cromfachau):

BRECON AND RADNORSHIRE COUNTY CONSTITUENCY (55,290) adrannau etholiadol Sir Powys: Aber-craf, Bugeildy, , Llanfair-ym-Muallt, Bwlch, Crucywel, Cwm-twrch, Diserth a Threcoed, Felin-fâch, Clas-ar-Wy, Gwernyfed, Y Gelli Trefyclo, Llanafanfawr, Llanbadarn Fawr, Dwyrain Llandrindod/ Gorllewin Llandrindod, Gogledd Llandrindod, De Llandrindod, Llanelwedd, Llangatwg, Llangors, Llangynllo, Llangynidr, Llanwrtyd, Llanllŷr, Maescar/Llywel, Nantmel, Pencraig, Llanandras, Rhaeadr Gwy, St. David Fewnol, St. John, St. Mary, Talgarth, Talybont-ar-Wysg, Tawe-Uchaf, Ynyscedwyn, Yscir, Ystradgynlais.

NEATH COUNTY CONSTITUENCY (58,314) adrannau etholiadol Sir Castell-nedd Port Talbot: Aberdulais, Yr Allt-wen, Blaen-gwrach, Gogledd Bryn-côch, De Bryn- côch, Llangatwg, Cimla, Y Creunant, Cwmllynfell, Dyffryn, Glyn-nedd, Godre'r graig,

2 Gwauncaegurwen, Brynaman Isaf, Dwyrain Castell-nedd, Gogledd Castell-nedd, De Castell-nedd, Onllwyn, Pelenna, Pontardawe, Resolfen, Rhos, Blaendulais, Tonna, Trebannws, Ystalyfera.

3.6 Crëwyd yr adrannau etholiadol a enwir yn y ddogfen hon gan y Gorchmynion canlynol:

S Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 1998 S Gorchymyn Powys (, ac Abaty Cwm-hir) 2003

a

S Gorchymyn Trefniadau Etholiadol Bwrdeistref Sirol Castell-nedd a Phort Talbot 1994, S Gorchymyn Dinas a Sir Abertawe (Trefniadau Etholiadol) 1998

y diwygiwyd y ddau ohonynt gan

S Orchymyn Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe (Trebanws a Chlydach) 2002.

4. RHANBARTHAU ETHOLIADOL CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU

4.1 Etholaethau seneddol yw etholaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd etholaethau Castell-nedd a Brycheiniog a Sir Faesyfed ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael eu diwygio i adlewyrchu unrhyw newidiadau a wneir i’r etholaethau seneddol cyfatebol. Mae etholwyr etholaethau’r Cynulliad ychydig yn wahanol i etholwyr seneddol, o ran y cynhwysir arglwyddi a dinasyddion yr UE ond y caiff etholwyr tramor eu heithrio.

4.2 Cynhwysir etholaeth Castell-nedd o fewn rhanbarth etholiadol Gorllewin De Cymru y Cynulliad a chynhwysir etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed yn rhanbarth etholiadol Canolbarth a Gorllewin Cymru y Cynulliad, fel y dangosir ar y map yn Atodiad 2. O ganlyniad i’r newidiadau arfaethedig i’r etholaethau seneddol, byddai nifer yr etholwyr yn rhanbarth etholiadol Gorllewin De Cymru y Cynulliad yn gostwng o 84 o etholwyr, a byddai adran etholiadol Canolbarth a Gorllewin Cymru y Cynulliad yn gweld cynnydd cyfatebol. Mae’r Comisiwn yn ystyried nad oes angen newid cyfansoddiad rhanbarthau etholiadol y Cynulliad o ganlyniad i’r newid bach hwn sy’n cynnwys nifer fach o etholwyr.

5. MANYLION CYHOEDDI

Cyhoeddi Darpar Argymhellion

5.1 Bydd hysbysiadau am ddarpar argymhellion y Comisiwn ac ymhle y gellir eu gweld yn cael eu cyhoeddi’n ffurfiol mewn hysbysiad a fydd yn ymddangos mewn papurau newydd yng Nghymru ar 1Medi 2007. Anfonir copi o’r argymhellion hyn at awdurdodau lleol, ASau, ACau, Pencadlysoedd Pleidiau Gwleidyddol, ac eraill. 3

5.2 Bydd yr hysbysiad yn cael ei gyhoeddi hefyd ar wefan y Comisiwn ar www.comffin- cymru.gov.uk

Mannau Arolygu

5.3 Bydd yr hysbysiad mewn papurau newydd hefyd yn rhoi cyfeiriadau’r mannau hynny o fewn yr etholaethau seneddol presennol, lle bydd copi o’r argymhellion a map manylach sy’n eu dangos, ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd (sylwch ar y rhybudd hawlfraint isod o ran y map). Dyma’r cyfeiriadau hynny:

Brycheiniog a Sir Faesyfed Swyddfeydd y Cyngor, Cambrian Way, Aberhonddu LD3 7HR Neuadd y Sir, Llandrindod LD1 5LG Swyddfa Ardal Trefyclo, Y Llyfrgell, Trefyclo Castell-nedd Swyddfeydd y Cyngor, Y Ganolfan Ddinesig, Castell- nedd SA11 3QZ

6. CYFNOD AR GYFER CYFLWYNO SYLWADAU: 1 MEDI 2007 TAN 1 HYDREF 2007

6.1 Mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried sylwadau am ei ddarpar argymhellion am bob arolwg ardal a wneir cyn pen mis o’i gyhoeddi ar 1 Medi 2007. Dylid cyfeirio sylwadau at y Comisiwn Ffiniau i Gymru, Tŷ Caradog, 1-6 Plas Sant Andreas, Caerdydd, CF10 3BE, neu ei anfon drwy ffacs at 02920 395250, neu drwy neges e-bost at [email protected]. Caiff yr holl sylwadau a dderbynnir gan y Comisiwn eu cydnabod. Daw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau i ben ar 1 Hydref 2007.

6.2 Sylwch nad yw’n statudol ofynnol i’r Comisiwn ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir ar ôl 1 Hydref 2007, ond bydd yn ymdrechu i ystyried sylwadau a gyflwynwyd yn hwyr. Fodd bynnag, yr hwyrach y cyflwynir y sylw yr anoddaf fydd hyn. Yn hyn o beth, mae’r Comisiwn yn gofyn i’r holl sylwadau gael eu cyflwyno cyn pen y cyfnod o fis. Os cynhelir ymchwiliad lleol i’r darpar argymhellion, gwneir yr holl sylwadau yn gyhoeddus ymlaen llaw fel y bydd modd i bobl a chanddynt ddiddordeb baratoi ar gyfer yr ymchwiliad lleol. Ni fydd modd rhoi’r un pwys ar unrhyw sylwadau a gyflwynir yn rhy hwyr i’w cyhoeddi gyda’r sylwadau eraill, cyn yr ymchwiliad lleol, am na fydd pobl eraill a chanddynt ddiddordeb wedi cael yr un cyfle i’w hystyried.

6.3 Lle cyflwynir sylwadau sy’n gwrthwynebu’r darpar argymhellion gan gyngor sir sydd â diddordeb neu gorff o fwy na 100 o etholwyr, ni fydd modd i’r Comisiwn barhau â’r argymhellion terfynol i’r Ysgrifennydd Gwladol tan i ymchwiliad lleol gael ei gynnal. Os bydd y Comisiwn yn penderfynu addasu’r argymhellion o ganlyniad i’r ymchwiliad, rhaid cyhoeddi’r argymhellion diwygiedig a gwahodd sylwadau ar eu cyfer hefyd, ond ni fydd rhwymedigaeth i gynnal ymchwiliad lleol arall.

6.4 Gofynnir i bobl sy’n cyflwyno sylwadau i ddweud a ydynt yn cymeradwyo neu’n gwrthwynebu cynigion y Comisiwn, ac i roi eu rhesymau am gymeradwyo neu wrthwynebu. Yn benodol, cynghorir i bobl sy’n gwrthwynebu rhoi gwybod am yr hyn y maen nhw’n ei gynnig yn lle argymhellion y Comisiwn, a dylid nodi y bydd gwrthwynebiad ar y cyd â gwrthgynnig yn debygol o gyfnerthu eich dadl yn fwy na datganiad syml o wrthwynebiad. 4

6.5 Mae’r Comisiwn yn dymuno pwysleisio bod eu darpar argymhellion yn ymwneud ag etholaethau seneddol yn unig, ac nad ydynt yn effeithio ar ffiniau awdurdodau unedol na chymunedol, trethi na gwasanaethau. Yn hynny o beth, ni fydd y Comisiwn yn ystyried unrhyw sylwadau a wneir ynglŷn â’r ystyriaethau lleol hynny.

7. NODYN CEFNDIR

7.1 Gellir dod o hyd i fanylion am y fframwaith statudol perthnasol ac ymagwedd gyffredinol y Comisiwn at yr arolygon yng nghyhoeddiad y Comisiwn, “Arolwg o Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghymru” (2003), sydd ar gael gan y Comisiwn yn Gymraeg a Saesneg neu ar wefan y Comisiwn ar www.comffin-cymru.gov.uk. Er eich cyfleustra, ceir crynodeb o’r wybodaeth hon yn y paragraffau canlynol.

7.2 Cyfansoddir y Comisiwn o dan Adran 2 ac Atodlen 1 Deddf Etholaethau Seneddol 1986. Y Cadeirydd ex officio yw Llefarydd Tŷ’r Cyffredin. Mae’r Dirprwy Gadeirydd, sy’n llywyddu ar gyfarfodydd y Comisiwn, yn Farnwr yn yr Uchel Lys a benodwyd gan yr Arglwydd Ganghellor. Penodir un Comisiynydd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’r llall gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder. Dau Aseswr y Comisiwn yw Cofrestrydd Cyffredinol Cymru a Lloegr a Chofrestrydd Cyffredinol yr Arolwg Ordnans. Cyfreithwyr a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder i gynnal ymchwiliadau lleol yw’r Comisiynwyr Cynorthwyol.

7.3 Yn unol â Deddf Etholaethau Seneddol 1986, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Comisiynau Ffiniau 1992, mae’n ofynnol i’r Comisiwn gynnal arolwg cyffredinol o’r holl etholaethau yng Nghymru bob wyth i ddeuddeg mlynedd. Cwblhaodd y Comisiwn ei bumed arolwg cyffredinol ar 31 Ionawr 2005. Mae gan y Comisiwn rym o dan adran 3 (3) Deddf 1986 i “o bryd i’w gilydd, cyflwyno adroddiadau i’r Ysgrifennydd Gwladol o ran yr ardal a gynhwysir mewn unrhyw etholaeth neu etholaethau yng [Nghymru], gan ddangos yr etholaethau y maen nhw’n argymell y dylid rhannu’r ardal honno iddi er mwyn gweithredu’r” Rheolau.

7.4 Cynhelir yr arolwg hwn yn unol ag adran 3 (3) Deddf 1986, a chychwynnodd yn ffurfiol trwy gyhoeddi hysbysiad yn y Gazette ar 1 Mehefin 2007. Mae’n ofyniad cyfreithiol fod yn rhaid seilio argymhellion y Comisiwn trwy gydol yr arolwg ar nifer yr etholwyr yn y cofrestri etholiadol ar y dyddiad hwnnw.

Rheolau

7.5 Wrth argymell etholaethau newydd, mae’n ofynnol i’r Comisiwn weithredu’r Rheolau ar gyfer Ailddosbarthu Seddau a gynhwysir yn Atodlen 2 Deddf 1986.

7.6 Mae Rheol 1 yn cyfyngu ar gyfanswm nifer yr etholaethau. Mae Rheol 2 yn mynnu etholaethau un aelod. Mae Rheol 3 yn ymwneud â Dinas Llundain. Mae Rheol 4 yn datgan bod yn rhaid dilyn ffiniau sirol (siroedd wedi’u cadw yng Nghymru) cyn belled ag y bo’n ymarferol. Mae Rheol 5 yn datgan bod yn rhaid i nifer etholwyr etholaethau fod mor gyfartal â’r cwota etholiadol ag y bo’n ymarferol. Mae Rheol 6 yn caniatáu i’r Comisiwn wyro o reolau 4 a 5 os bydd ystyriaethau daearyddol arbennig yn gwneud hynny’n ddymunol. Mae Rheol 7 yn caniatáu i’r Comisiwn wyro o’r rheolau eraill, ac 5 yn ei wneud yn ofynnol iddo ystyried anghyfleustra a achosir gan newid etholaethau (ac eithrio newidiadau a wneir at ddibenion rheol 4) neu gysylltiadau lleol a dorrir gan y fath newidiadau. Mae Rheol 8 yn diffinio’r cwota etholiadol fel nifer yr etholwyr seneddol yng Nghymru wedi’u rhannu gan nifer presennol y seddau, ac mae’n ei wneud yn ofynnol i’r Comisiwn ddefnyddio’r etholwyr yn yr un modd ag ar gychwyn arolwg.

Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad

7.7 Etholaethau seneddol yng Nghymru yw etholaethau’r Cynulliad. Mae pum rhanbarth etholiadol ar gyfer y Cynulliad (Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Canol De Cymru, Dwyrain De Cymru, Gorllewin De Cymru). Wrth ddarpar argymell newid etholaethau seneddol, mae’n ofynnol i’r Comisiwn ystyried a oes angen unrhyw newid yn rhanbarthau etholiadol y Cynulliad neu o ran dyrannu seddau i ranbarthau etholiadol y Cynulliad i weithredu’r rheolau a gynhwysir yn Atodlen 1 Deddf Llywodraeth Cymru 1998.

7.8 Mae Rheol 1 yn ei wneud yn ofynnol i bob etholaeth y Cynulliad gael eu cynnwys o fewn un rhanbarth etholiadol y Cynulliad. Mae Rheol 2 ei wneud yn ofynnol i etholwyr rhanbarthau etholiadol y Cynulliad fod mor gyfartal ag y bo’n ymarferol, gan roi ystyriaeth i ffactorau daearyddol arbennig (lle bo’n briodol). Mae Rheol 3 yn nodi y bydd nifer seddau’r Cynulliad ar gyfer rhanbarthau etholiadol y Cynulliad naill ai yn hanner cyfanswm nifer etholaethau’r Cynulliad neu, os na ellir rhannu’r cyfanswm â dau, hanner y cyfanswm ac un. Mae Rheol 4 yn nodi y bydd nifer seddau’r Cynulliad ar gyfer un o ranbarthau’r Cynulliad naill ai’n un rhan o bump o’r nifer a gyfrifir o dan Reol 3 neu, os na ellir rhannu cyfanswm Rheol 3 â phump, naill ai un rhan o bump o’r nifer uchaf sy’n llai na’r cyfanswm hwnnw ac y gellir ei rannu’n union â phump, neu’r nifer a gynhyrchir drwy ychwanegu un at un rhan o bump o’r rhif uchaf hwnnw (nodir y gweithdrefnau ar gyfer cyfrifo nifer a dyraniad y seddau sy’n weddill yn is-baragraffau (2) i (4) Atodlen 1).

Gweithdrefnau

7.9 Wrth gynnal arolwg cyffredinol o etholaethau, mae’n ofynnol i'r Comisiwn, yn unol â’r ddeddfwriaeth, ddilyn gweithdrefnau penodol, yn bennaf i ddarparu ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

7.10 Rhaid rhoi rhybudd i’r Ysgrifennydd Gwladol am gynnal arolwg, a rhaid cyhoeddi’r rhybudd hwnnw yn y London Gazette. Rhaid cyhoeddi darpar argymhellion mewn papurau newydd yn yr etholaethau yr effeithir arnynt ac, oni bai bod y cynigion yn nodi na ddylid gwneud unrhyw newidiadau, rhaid iddynt hefyd gael eu cyflwyno ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus mewn o leiaf un lle ymhob etholaeth yr effeithir arni. Gellir cyflwyno sylwadau cyn pen mis o gyhoeddi’r darpar argymhellion, a rhaid i’r Comisiwn ystyried unrhyw sylwadau. Lle derbynnir gwrthwynebiadau gan gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol neu gorff o 100 o etholwyr neu fwy, rhaid cynnal ymchwiliad lleol. Os bydd y Comisiwn yn adolygu ei argymhellion o ganlyniad i ymchwiliad, rhaid cyhoeddi’r sylwadau diwygiedig hefyd a gwahodd ac ystyried rhagor o sylwadau. Ni all y sylwadau pellach hyn orfodi cynnal ail ymchwiliad lleol, ond mae grym yn ôl disgresiwn i gynnal ail ymchwiliad. Rhaid cyhoeddi unrhyw ddiwygiadau pellach, o ganlyniad i unrhyw sylwadau pellach neu ail ymchwiliad, a gwahodd sylwadau. Pan fydd y Comisiwn wedi penderfynu ar ei argymhellion terfynol ar gyfer y wlad gyfan, rhaid iddo gyflwyno adroddiad i’r Ysgrifennydd Gwladol. 6

Gweithredu’r argymhellion

7.11 Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol ddyletswydd statudol i gyflwyno adroddiad y Comisiwn gerbron y Senedd ynghyd â Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor drafft sy’n gweithredu argymhellion y Comisiwn gydag addasiadau neu heb addasiadau. Os cynigir addasiadau, rhaid hefyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gyflwyno datganiad o resymau ar gyfer yr addasiadau. Cyflwynir y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor drafft i’r Senedd i’w gymeradwyo ac, wedi iddo gael ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi mewn Cyngor, ni ellir ei gwestiynu mewn unrhyw achos cyfreithiol. Bydd yr etholaethau newydd yn weithredol yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

7.12 Bwriedir i’r wybodaeth uchod fod yn ganllaw cyffredinol yn unig. I gael datganiad diffiniedig o’r gyfraith, cyfeiriwch at Ddeddf Etholaethau Seneddol 1986 – fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Comisiynau Ffiniau 1992, Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, Deddf Llywodraeth Cymru 1998, a Deddf Yr Alban 1998 – ynghyd â phenderfyniad y Llys Apêl yn R v Boundary Commission for England Ex parte Foot [1983] QB 600.

Hawlfraint y Goron

7.13 Cynhyrchwyd y mapiau a roddwyd yn y cyfeiriadau a restrir uchod ar gyfer y Comisiwn Ffiniau gan yr Arolwg Ordnans, Romsey Road, Southampton SO16 4GU (ffoniwch 08456 05 05 05 neu 08456 05 05 04 ar gyfer y llinell gymorth Cymraeg). Mae’r mapiau hyn a’r mapiau sy’n rhan o’r ddogfen hon yn amodol ar ‰ Hawlfraint y Goron. Bydd ailgynhyrchu heb awdurdod yn torri Hawlfraint y Goron a gall arwain at erlyniad neu achos sifil. Dylai unrhyw olygydd papur newydd sy’n dymuno defnyddio’r mapiau fel rhan o erthygl am y darpar argymhellion gysylltu â Swyddfa Hawlfraint yr Arolwg Ordnans yn gyntaf.

Ymholiadau

7.14 Os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch am y darpar argymhellion hyn neu am unrhyw agwedd arall ar waith y Comisiwn, cysylltwch â:

Comisiwn Ffiniau i Gymru Tŷ Caradog 1-6 Plas Sant Andreas Caerdydd CF10 3BE

Ffôn: 02920 395031 Ffacs: 02920 395250

E-bost: [email protected]

Erbyn hyn, mae fersiwn Rhyngrwyd o’r darpar argymhellion hyn ar gael ar:

www.comffin-cymru.gov.uk

7 NEATH - BRECON AND RADNORSHIRE Atodiad 1

y

E

L

L

A

Area P

L

O

E

H

19 135.3m 11 0 0.1 0.2 0.3 Sw

n-y 1 0

BM 106.05m 2 -nant

4 1

3

0

2 1

1 1

D ra

in 2 Cilomedrau

20

10 2 D 8 ra in

1 e Spring r 4

TCB Collects

LB Graddfa: 1:4,900 1

A

C 2 PI a

ES 5 A M 9 OL HE Maes-y-Bryn

5 90.79m 0

B Ffin Etholaeth Cwm-twrch Isaf 121.0m PO

PW 9

1 1 in ra

D

7

1 1

4

8

3

2

3

1 1 Pond

88.7m 7 0

1 Ffin y Sirol

4

4

3 3 0

4

3 in 0 1 a Dr Slant (disused) 3 CH 0

4 2

101 Collects in d ra n D U 3 6 F W 7 F 2 W ef U

D n

1 U 9 d n W d C F W

PW 9

m 9

9 5

8

8

5

9 1

7 F F n 93.0m ai 1 r 2

D 2 POWYS6

H C 3 E 8 O 1 L W 8 T BM 111.93m W R Tip C H

2

2 9

6 (disus S P

d L n l 2 ys 0 U T 86.3m w D r is

ch m

5

91.4m 1 5 Cwm-twrch Isaf an

2 tl ed C R F a ilw 106.7m

ay U 3 nd

Def

3 4 4

2 FW 9 Level Issues 3 C H 86.3m (disused) PH Pen-twyn 64

1 Dyffren a

Ysgol Gymraeg 9 Villa 5 Sinks

EET

86.9m TR 5 S 3 GE 1 BRID 1 C 4 5 W PH 1

2

2

1

3

7 2

B 9

M 5 8

8

9 .0 T G 2 0 e o m r a ld 1 s e 0 y n

L L l i e o S 8

w n h Bethania 9 e

A T 1 lt u e er 100.9m River Side Lodge r rr a Chapel

c 3

e 2 BRECON AND

1 6

1 3

4 1 18

1 6

0 2

7 0

Dan-y-Graig 1 9

Tip C

H 5 B R Y (disused) N

E 7 IT H Y 83.5m 1 N 16 5

8 CW MP HI

L R O 1 U AD n RADNORSHIRE72 68 d C FW W CW Wr T C 91.1m

New Inn W 74 BM 95.14m (PH) 2 1 Is BM 5 su 8 86 U es 8.57 nd m

TCB 6

6 B C 7

E

T 7 H S Shelter 3

E

Tip L

7

R 7

0 ROAD 1 O MPHIL (disused) A 102 CW

D 7 LB 95.4m

7 0 BM 1 5

1 6

1 91

7

.2 8

3 0

0m 1

4

1 86.3m

5

4 9 7

6 1 A

40

68

9 0

1 1

3 8

1

1

2 1 3 1

2 A 7 Level 4 1

0 1 6

6 7

9 1

C 8 1

9 (disused)

2 1

S 1

4 1 2 m

2

0

. 4 8

6

6 3 2 5 8

M

B

3 7 C S

4 7 1 Pond A 5 fo

n

2 T 3 w Playing Field r

c

3 6

3 4

5 h 0 B E l TH e E p L RO 4 a 5 h AD

C

0 4 C C

S 47

4

4

3

0

1 4

NEATH 59

8 5 er

Shelt

1

1 a D Caravan Site ef

71

2

6

8 6 2

4 U

nd 2

C 7 C S C P Hall

Weir

3 2 1 E 6 K 82.3m

P

a

t h GP

(

u

m

) 1 4

1

2 T ra ck

C

W

M

5 1 P T H I r L

a R 3

ck 1 O A

D ks or W

D 1

r w 1 79.2m FB a ie in V n ly

G 7 m) h (u Pat Glantwrch Bungalow

D e

f 2 1 1

E l S u ge b a T S tt an t o -y a C -c se yn o o w ed 76 R G Ty Pa th (u Dan-y- LB m) coed

2 1 W

5

a G G

y G H

s C u V u u o r i i 4 o r d n l r u n l t n a e o t s o

o 2 s s e s

s

Tip 1 Gurnos (dis) tate l Es stria Indu

3

2

7

k Depot c Tip

a Burial Ground r

T (dis) ) m D u ra ( in th a P

1 0

A C

A

4

o CASTELL-NEDD PORT TALBOT 0

6

f

8 o C

Clun-gwyn n o n T s

t

,

w

A

T

s L r

L c l

A y -

R h

C Y -

N o

E

P n

s

t

,

A

s

l

y

E

R

,

U

A

&

C

B

d

y E Pits T Burial Ground L (disused) E K

Mine B 4 5 9 (disused) 9 P ath ( um) Level Pond Wern Fawr (disused) Tip The All Black's Arms nd (disused) (PH) Pond 81.0m

Pond

Levels (disused)

83.7m Superstore

Glanyron 2 0 Cottag

1

1 Y 6 GI LFA CH El Sub Sta BM 152.02m Tip Weir (disused) f e n Pandy D ne Tip (dis) ro Moel-Lly ny la G El Ps

3

65 93 91 ETL El Ps Atgynhyrchir y map hwn o Ddeunydd yr Arolwg Ornans gyda chaniatâd Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi © Hawlfraint y Goron. Mae atgynhyrchu heb ganiatâd yn torri hawlfraint y Goron a gall hyn arwain at erlyniad neu achos sifil. Comisiwn Ffiniau i Gymru, 100017916, 2007 NEATH - BRECON AND RADNORSHIRE Atodiad 2 ETHOLAETHAU A RHANBARTHAU ETHOLIADOL CYNULLIAD

CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU

BRECONBRECON ANDAND RADNORSHIRERADNORSHIRE CCCC

Ardal yr Arolwg

DWYRAIN DE NEATHNEATH CCCC CYMRU

GORLLEWIN DE CYMRU

CANOL DE CYMRU

Atgynhyrchir y map hwn o Ddeunydd yr Arolwg Ornans gyda chaniatâd Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi © Hawlfraint y Goron. Mae atgynhyrchu heb ganiatâd yn torri hawlfraint y Goron a gall hyn arwain at erlyniad neu achos sifil. Comisiwn Ffiniau i Gymru, 100017916, 2007

Atodiad 3 ETHOLWYR RHANBARTHAU ETHOLIADOL YN ÔL SIR

Powys 103,484 1. Aber-craf 1,183 38. Llangors 861 2. 765 39. Llangunllo 1,035 3. 1,129 40. Llangynidr 859 4. 1,058 41. 2,271 5. Blaen Hafren 1,824 42. Llanrhaeadr-ym-Mochnant 1,232 Llanrhaeadr-ym- 6. Bronllys 963 43. 1,412 Mochnant/ 7. Builth 1,939 44. Llansantffraid 1,488 8. Bwlch 786 45. 1,457 9. 1,838 46. 949 10. Churchstoke 1,298 47. 1,708 11. 2,361 48. Maescar/Llywel 1,423 12. Cwm-twrch 1,761 49. 1,054 13. 1,027 50. Montgomery 995 14. Dolforwyn 1,486 51. Nantmel 1,220 15. Felin-fâch 1,070 52. 2,230 16. 1,098 53. Newtown East 1,503 17. 1,606 54. Newtown North 1,720 18. 1,806 55. Newtown Llanllwchaiarn West 1,376 19. 1,823 56. Newtown South 1,240 20. Gwernyfed 1,237 57. 1,325 21. Hay 1,301 58. 2,176 22. Kerry 1,623 59. 1,672 23. Knighton 2,387 60. Rhiwcynon 1,651 24. Llanafanfawr 1,125 61. St.David Within 1,259 25. Llanbadarn Fawr 878 62. St.John 2,559 26. 764 63. St.Mary 2,076 27. 1,129 64. Talgarth 1,356 28. Llandrindod East/Llandrindod West 952 65. Talybont-on-Usk 1,612 29. Llandrindod North 1,490 66. Tawe-Uchaf 1,761 30. Llandrindod South 1,725 67. 1,021 31. 1,654 68. Castle 1,076 32. 1,361 69. Welshpool Gungrog 1,920 33. Llanelwedd 986 70. Welshpool Llanerchyddol 1,709 34. 1,266 71. Ynyscedwyn 1,796 35. Llanfihangel 863 72. Yscir 838 36. 1,132 73. Ystradgynlais 2,098 37. Llangattock 852

1

Castell-nedd Port Talbot 110,163 1. Aberafan 4,270 39. Tai-bach 3,778 2. Aberdulais 1,768 40. Tonna 1,967 3. Yr Allt-wen 1,820 41. Trebannws 1,101 4. Baglan 5,697 42. Ystalyfera 2,343 5. Blaen-gwrach 1,608 6. Dwyrain Llansawel 2,425 7. Gorllewin Llansawel 2,261 8. Bryn a Chwmafan 5,217 9. Gogledd Bryn-côch 1,879 10. De Bryn-côch 4,497 11. Llangatwg 1,400 12. Cimla 3,344 13. Coed-ffranc Canol 3,087 14. Gogledd Coed-ffranc 1,880 15. Gorllewin Coed-ffranc 1,878 16. Y Creunant 1,575 17. Cwmllynfell 928 18. Y Cymer 2,254 19. Dyffryn 2,589 20. Glyncorrwg 903 21. Glyn-nedd 2,823 22. Godre'r graig 1,224 23. Gwauncaegurwen 2,323 24. Gwynfi 1,104 25. Brynamman Isaf 1,078 26. Margam 2,315 27. Dwyrain Castell-nedd 4,920 28. Gogledd Castell-nedd 3,189 29. De Castell-nedd 3,678 30. Onllwyn 984 31. Pelenna 942 32. Pontardawe 4,086 33. Port Talbot 4,454 34. Resolfen 2,519 35. Rhos 2,064 36. Dwyrain Sandfields 5,173 37. Gorllewin Sandfields 5,153 38. Blaendulais 1,665

2