Teithiau Cerdded yr Haf – Croeso! Gorffennaf 1 -10 2016, Gan gynnwys Gorffennaf 11 – Awst 7 Gorffennaf 1af Antur Byw yn y Gwyllt, Bryn Cadno Taith hyfryd i lawr Dyffryn Nant y Glyn, sy’n hawdd ei gyrraedd o Fae Colwyn. Mae'r daith gerdded gylchol yn dilyn llwybrau coetir a thir fferm gyda golygfeydd gwych o'r ardal gyfagos. Bydd stop hanner ffordd gydag Ysgol Goedwig Bae Colwyn lle bydd cerddwyr yn cael gwneud gweithgareddau crefft gwylltir a phaned haeddiannol wedyn ! Bydd tâl o £3 am y daith gerdded hon. Hyd : 2.5 - 3 awr Pellter: 4.8km / 3 milltir Cyfarfod: Tu allan i Canolfan Gymunedol Bryn Cadno. Bryn Cadno, Colwyn Uchaf, LL29 6DW Dechrau: 9:15am ar gyfer 9:30am Archebu lle: Helen Jackson, 07595 461540 Cymedrol

Taith Rhwng Dwy Ystafell De, Coedwig Gwydir O Lyn Geirionydd byddwn yn cerdded i Ty Hyll, gan gymryd mewn golygfeydd tuag at Foel Siabod a'r Wyddfa ar y ffordd. Unwaith yno, gallwch flasu'r llu o atyniadau, edrych yn yr ardd, ddarganfod y toiled compost, ymweld â'r arddangosfa gwenyn ac ati. Wedi adnewyddu byddwn yn dringo'n serth yn ôl ar lwybrau coedwigaeth i Lyn Crafnant lle rydym yn cael y dewis o ymweld a ystafell de rhif dau, ger y llyn. Yna hop gyflym trwy'r coed prydferth yn ôl i'r ceir. Hyd: 7 awr Pellter: 14km / 9 milltir Cyfarfod: prif faes parcio Dechrau: 9:45am ar gyfer 10:00am Archebu lle: Colin Devine 07770 964716 Caled

Gorffennaf 2 Moel Siabod a Afon Llugwy Byddwn yn cymryd y llwybr i fyny ochr ddeheuol Moel Siabod (872m), heibio rhai llynnoedd hyfryd gyda sgrialu hawdd i'r copa. Byddwn yn disgyn ar yr ochr ogleddol Siabod, trwy'r goedwig i ddilyn yr afon Llugwy yn ôl i'r maes parcio. Hyd: 5.5 - 6.5 awr Pellter: 11.5km / 7 milltir Cyfarfod: Moel Siabod Café, Capel Curig Dechrau: 9:30am ar gyfer 9:45am Archebu lle: Aled Owen 01690 760112 [email protected] Caled

Gorffennaf 3 Codiad Haul o Fynydd y Dref, Eisteddwch mewn man prydferth i wylio un o sioeau gwych natur (os yw'r tywydd yn caniatáu!). Byddwn yn cerdded yn araf i fyny ar amser tawel ac adfywiol o'r dydd. Yna ddown o hyd i fan gyfforddus i wylio'r wawr. Dewch â dillad cynnes, diddos, a lluniaeth, poeth neu oer, beth bynnag sy’n siwtio. Mae tortsh/tortsh pen yn hanfodol. Hyd: 3 awr Pellter: 4.8-6.4km/3-4 milltir Cyfarfod: Maes Parcio Bodlondeb, Conwy Dechrau: 3:30am ar gyfer 3:40am Archebu lle: Colin Devine 07770 964716 Cymedrol

Betws y Coed i Gapel Curig drwy Rhaeadr Ewynnol Taith gerdded bleserus gan ddechrau gyda thaith bws o Gapel Curig i Fetws y Coed ac yna cerdded yn ôl i'r ceir. Yn dilyn yr afon Llugwy, byddwn yn ymweld â'r creigiau ‘canon’ ym Mhont y Pair a Bont y Mwynwyr sy’n serth ar draws yr afon. Yna byddwn yn dilyn isffyrdd a llwybrau i weld y Rhaeadr Ewynnol (am ddim). Gyda'r afon wrth ymyl ni, rydym yn cyrraedd Tŷ Hyll cyn esgyn yn serth i fyny'r lôn at y goedwig. Yna daw cyfres o draciau coedwig cyn cyrraedd rhostir agored gyda golygfeydd eang o'r a Moel Siabod. Bydd disgyniad graddol yn ôl i Gapel Curig i gael lluniaeth yn Caffi Pinnacle. Hyd: 4-5 awr Pellter: 9.6km / 6 milltir Cyfarfod: Pinnacle Cafe, Capel Curig Dechrau: 10:25am i ddal y bws 10:34am i Fetws y Coed Archebu lle: Aled Owen 01690 760112 [email protected] Cymedrol/Caled

Siwrna Iogic, Coedwig Gwydir Dewch i ymuno â Gwen Ellis Parri am myfyrdod a taith gerdded fer i gysylltu gyda chi eich hun a'r byd o'ch cwmpas. Tu allan, byddwn yn cwblhau myfyrdod ac ymarfer anadl hawdd. Byddwn wedyn yn cymryd taith gerdded fer mewn tawelwch. Ar ôl dychwelyd mae croeso i chi ymuno â ni i gael lluniaeth a rhannu profiadau. Nid oes angen profiad. Hyd: 2 awr Cyfarfod: Maes Parcio Gwydyr Uchaf oddi ar y B5106 ger Castell Gwydir Dechrau: 1:45pm ar gyfer 2:00pm Archebu lle: Gwen Ellis Parri 07545 301646 Cymedrol

Gorffennaf 4 Dreigiau, Copr a Llechi, Nant Gwynant O'r man cyfarfod byddwn yn cymryd taith fer ar y bws Sherpa (taladwy) i fan cychwyn y daith gerdded a fydd yn mynd â ni drwy'r tirweddau hanesyddol a diwydiannol stad Craflwyn a Chwm Llan ar ochr ddeheuol yr Wyddfa. Byddwn yn dychwelyd i'r maes parcio ar hyd Llwybr Watkin. Mae'r rhan fwyaf o'r daith hon ar lwybrau troed a llwybrau sefydledig. Ond mae'n debygol o fod yn wlyb dan draed, felly esgidiau da yn hanfodol. Dim cŵn yn anffodus. Hyd: 5-6 awr Pellter: 11km / 7 milltir , 450m / 1500ft o ddringo Cyfarfod: Maes parcio Bethania, Nantgwynant, CG:SH 628507. Parcio £5 Dechrau: 9:30am ar gyfer 9:45am Archebu lle: Peter Collins, 01492 680353. Os yn gadael neges, os gwelwch yn dda gadewch rif llinell dir y mae modd cysylltu a chi arni. Cymedrol / Caled

Noson o Haf yn Llanfair Talhaiarn Rydym yn codi i fyny o bentref hyfryd Llanfair Talhaiarn i gopa Mynydd Dir (1030feet / 314meters). Rydym yn mynd trwy gefn gwlad hardd a gwobrwyo ein hunain (croesi bysedd!) gyda’r golwg panoramig mwyaf prydferth. Ar ôl ymlacio yn y fan picnic ar y copa, byddwn wedyn yn dychwelyd yn ôl i lawr i Lanfair ar hyd yr Afon Elwy. Byddwn yn gorffen gyda pheint hyfryd o'ch dewis. Os ydych yn dymuno i'ch ci ymuno â ni mae posib trafod wrth archebu. Hyd: 2 awr Pellter: 6.4km / 4 milltir Cyfarfod: Maes parcio cyhoeddus Llanfair Talhaiarn (gyferbyn â'r Llew Du) CG: SH 927 703 Cychwyn: 5:45pm ar gyfer 6:00pm Archebu lle: Ceri Hughes 01492 680254 Cymedrol

Gorffennaf 5

Siwrna Iogic, Coedwig Gwydir Dewch i ymuno â Gwen Ellis Parri am myfyrdod a taith gerdded fer i gysylltu gyda chi eich hun a'r byd o'ch cwmpas. Tu allan, byddwn yn cwblhau myfyrdod ac ymarfer anadlu hawdd. Byddwn wedyn yn cymryd taith gerdded fer mewn tawelwch. Ar ôl dychwelyd mae croeso i chi ymuno â ni i gael lluniaeth a rhannu profiadau. Nid oes angen profiad. Hyd: 2 awr Cyfarfod: Maes Parcio Gwydyr Uchaf oddi ar y B5106 ger Castell Gwydir Dechrau: 9:45am ar gyfer 10:00am Archebu lle: Gwen Ellis Parri 07545 301646 Cymedrol

Uwchben yr Arfordir, Conwy O'r man cyfarfod byddwn yn dal bws (taladwy) i fan cychwyn y daith gerdded ym Mhenmaenmawr. Oddi yma, byddwn yn dringo i fyny lôn serth heibio Graiglwyd i Lwybr y Gogledd, ac yn dilyn hon i Fwlch Pensychnant, ar draws Mynydd y Dref ac yn ôl i Gonwy. Mae golygfeydd da o Ynys Môn, Ynys Seiriol, gogledd Eryri a Bae Lerpwl yma. Gall rhannau o'r daith hon fod yn wlyb dan draed, mae esgidiau da yn hanfodol. Dim cŵn yn anffodus. Hyd: 5-6awr (gan gynnwys amser teithio) Pellter: 11km / 6.5milltir 430m / 1300ft o ddringo Cyfarfod: Safle bws yng ngorsaf reilffordd canol tref Conwy Dechrau: 9:00am ar gyfer 9:15am Archebu lle: Peter Collins 01492 680353. Os yn gadael neges, os gwelwch yn dda gadewch rif llinell dir y mae modd cysylltu a chi arni. Cymedrol / Caled

Noson ar Manod Mawr

Mae dringfa serth drwy'r chwarel yn mynd â ni i'r chwarel adfeiliedig a phentref Rhiwbach. I fyny llethr serth, heibio chwarel Cwt y Bugail, byddwn wedyn yn cerdded y mynydd i gyrraedd copa Manod Mawr. Hyd: 4-5 awr Pellter: 9.6km / 6 milltir Cyfarfod: biniau ailgylchu, Cwm Penmachno Dechrau: 5:00pm ar gyfer 5:30pm Archebu lle: Aled Owen 01690 760112 [email protected] Caled

Gorffennaf 6

Darllen Map a Mordwyo, Rhyd y Foel

Mae'r gweithdy wedi'i gynllunio i helpu'r rhai sydd ag ychydig neu ddim gwybodaeth o ddarllen map i wella eu sgiliau. Bydd y gweithdy yn eich cyflwyno i egwyddorion darllen fap Arolwg Ordnans a'i ddefnyddio i gynllunio a dilyn taith gerdded gan ddefnyddio llwybrau. Bydd yna sesiwn dan do o tua 2-2.5awr a bydd hyn yn cael ei ddilyn gan daith gerdded o amgylch pentref Rhyd y Foel, gan gynnwys dringo i'r fryngaer Pen y Corddyn Mawr, i roi ar waith yr hyn rydych wedi ei ddysgu. Os hoffech chi i wella eich sgiliau darllen ac mordwyo map a methu mynychu'r sesiwn hon cysylltwch a Merv ynghlyn a Cerdded Annibynnol. Dim cŵn yn anffodus. Mae esgidiau da yn hanfodol. Hyd: 6-6.5awr (gan gynnwys cyflwyniad) Pellter: 4-5km / 2.5-3milltir 130m / 400 troedfedd o ddringo Cyfarfod: Neuadd y Pentref, Rhyd y Foel, ger Abergele. Toiledau a parcio ar gael. Bws rhif 21. Dechrau: 9:00am ar gyfer 9:15am Archebu lle: Merv Jones 01492 622187 Hawdd / Cymedrol

Gorffennaf 6

Taith Botanegol, Coedwig Neuadd Marl

Taith gyda'r nos byr ond weithiau‘n serth yng Nghoedwig Neuadd Marl. Byddwn yn dringo Ysgol Jacob i nifer o safbwyntiau, gan gymryd mewn golygfeydd o fynyddoedd, aber a castell trawiadol Conwy. Bydd hefyd yn gyfle i adnabod llawer o'r planhigion glaswelltir calchfaen anarferol, dylai llawer ohonynt fod yn blodeuo.

Hyd: < 2 awr Pellter: 1km / 0.6milltir Cyfarfod: Maes parcio Coed Neuadd Marl, SH 800786, LL31 9JA Dechrau: 6:15pm ar gyfer 6:30pm Archebu lle: Kylie Jones Mattock 0343 770 5785 [email protected] Cymedrol

Gorffennaf 7 Betws y Coed i Gonwy, Diwrnod 1 Dyma'r diwrnod cyntaf o dair Diwrnod 1: O Fetws y Coed i . Byddwn yn dringo'n serth i fyny at Lyn Parc a cherdded ar hyd ei glannau cyn disgyn i lawr i pwll Hafna. Yna i fyny heibio’r pwll a throsodd i Lyn Geirionydd heibio Llyn Glangors ac i lawr i mewn i Drefriw. Gyda tywydd da bydd gennym golygfeydd o fynyddoedd, gan gynnwys Tryfan. Pellter: 9.6-11 km / 6-7 milltir Cyfarfod: Cyfarfod yn Nhrefriw wrth y garreg goffa gyferbyn y felin wlân a nesaf at y toiledau. Mae digon o le parcio am ddim yma ac ychydig o siopau yn y pentref. Dechrau: 10:20am i gymryd y bws 10:38am i Fetws y Coed. Archebu lle: Colin Devine 07770 964716 Cymedrol

8 yn y Parc (bore), Capel Curig Mae'r daith hon wedi'i chynllunio ar gyfer y rhai a fyddai'n hoffi roi cynnig ar rai teithiau cerdded byr ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae'r taith, rhan fwyaf, ar lwybrau troed a llwybrau wedi’i diffinio'n dda. Mae rhywfaint o gerdded i fyny allt, ond nid yw'n rhy serth. Mae cwpl o gamfeydd ar y taith. Mae'r taith cerdded yn rhoi golygfeydd da o Eryri ac efallai y byddwn yn gweld ychydig o'r bywyd gwyllt lleol! Mae'r taith cerdded wedi eu cynllunio er mwyn i chi fynychu un neu'r llall (bore neu prynhawn) neu'r ddau. Hyd: 1.5-2awr Pellter: 4km/2.5milltir, 120m/400ft Cyfarfod: Cyfarfod Caffi Siabod, Capel Curig. Parcio, toiledau a lluniaeth ar gael. Bws Sherpa S2. Dechrau: 10:00am ar gyfer 10:15am Archebu lle: Peter Collins 01492 680353 Hawdd / Cymedrol

Gorffennaf 7 8 yn y Pac (prynhawn), Capel Curig Mae'r daith hon wedi'i chynllunio ar gyfer y rhai a fyddai'n hoffi roi cynnig ar rai teithiau cerdded byr ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae'r taith, rhan fwyaf, ar lwybrau troed a llwybrau wedi’i diffinio'n dda. Mae rhywfaint o gerdded i fyny allt, ond nid yw'n rhy serth. Mae cwpl o gamfeydd ar y taith. Mae'r taith cerdded yn rhoi golygfeydd da o Eryri ac efallai y byddwn yn gweld ychydig o'r bywyd gwyllt lleol! Mae'r taith cerdded wedi eu cynllunio er mwyn i chi fynychu un neu'r llall (bore a prynhawn) neu'r ddau. Hyd: 2-2.5awr Pellter: 5km/3milltir, 120m/400ft Cyfarfod: Cyfarfod Caffi Siabod, Capel Curig. Parcio, toiledau a lluniaeth ar gael. Bws Sherpa S2. Dechrau: 1:30pm ar gyfer 1:45pm Archebu lle: Peter Collins 01492 680353 Hawdd / Cymedrol

Cwm Idwal, Dyffryn Ogwen Taith gyda'r nos hawdd yng Nghwm Idwal. Dylai fod yn gymharol dawel a heddychlon - amser i fyfyrio a clywed am chwedlau yr ardal! Ceir golygfeydd da o rai o'r copaon yn y Glyderau a'r Carneddau ac allan i Ynys Môn. Mae'r llwybr hwn yn gyffredinol yn eithaf sych dan draed, ond mae rhannau o'r trac yn eithaf garw, felly esgidiau da yn hanfodol. Hyd: 2-2.5awr Pellter: 4km / 2.5milltir. 90m / 300 troedfedd Cyfarfod: Canolfan ymwelwyr Ogwen, Cwm Idwal, Dyffryn Ogwen. Parcio a thoiledau ar gael, lluniaeth ar gael o bosibl. Dechrau: 5:45pm ar gyfer 6:00pm Archebu : Peter Collins 01492 680353 Hawdd

Gorffennaf 8 Betws y Coed i Gonwy, Diwrnod 2 Trefriw i Tal y Bont: Heddiw byddwn yn cymryd y bws o Tal y Bont i Drefriw lle rydym yn dechrau ein taith drwy ddringo yn serth i Rhibo. Rydym yn cymryd llwybr drwy ran o'r warchodfa Coed ac ymlaen tuag at Coedty gyda golygfeydd gwych i lawr Dyffryn Conwy. Pellter: 9.6-11km / 6-7 milltir Cyfarfod: Safle bws gyferbyn a thafarn y Bedol yn Nhal y Bont. Mae digon o le parcio am ddim a siop gyfagos. Dechrau: 10:10am i fynd ar y bws 10:29am i Drefriw. Archebu lle: Colin Devine 07770 964716 Cymedrol / Caled

Gorffennaf 9 Betws y Coed i Gonwy, Diwrnod 3 Tal y Bont i Gonwy. Byddwn yn cymryd y bws o Gonwy i Dal y Bont lle rydym yn dechrau ein taith trwy ddringo serth i fyny ochr y dyffryn cyn mynd ar hyd hen ffrydiau, wrth i ni fynd i Rowen. Ar ôl Rowen rydym yn cerdded heibio eglwys Llangelynin i Parc Mawr, eiddo i'r Ymddiriedolaeth Coetiroedd. Yn dibynnu ar ein coesau byddwn naill ai'n gorffen y daith gerdded dros neu ar hyd ochr Mynydd y Dref yn ôl i Gonwy. Pellter: 12.8km / 8 milltir Cyfarfod: Sgwar Lancaster, Conwy, tu allan i hen orsaf yr heddlu. Mae llawer o opsiynau parcio a siopa.. Dechrau: 9:55am i fynd ar y bws 10:15am i Dal y Bont. Archebu lle: Colin Devine 07770 964716 Cymedrol

Nant Gwynant a Chwm Edno Mae'r daith gerdded hon yn dilyn llwybr ger Yr Wyddfa. Mae disgyniad tuag at Llyn Gwynant yn cael ei ddilyn gan ddringo i mewn i Cwm Edno hardd a diffaith. Mae dringo pellach yn mynd â ni i Carnedd y Cribau gyda'i olygfeydd bendigedig o'r Wyddfa a'r mynyddoedd eraill. Mae dychwelyd i'r man cychwyn dros rostir garw. Mae rhai o'r llwybrau yn debygol o fod yn wlyb dan draed, felly mae esgidiau da yn hanfodol a argymhellir socasau. Dim cŵn yn anffodus. Hyd: 5-6 awr Pellter: 12km / 7.5milltir, 500m / 1700ft o ddringo Cyfarfod: Cilfan ar yr A4086 tua 0.5km i'r dwyrain o gwesty Pen-y -Gwryd, CG SH665 559, Dim cyfleusterau. Dechrau: 9:30am ar gyfer 9:45am Archebu lle: Peter Collins 01492 680353 Caled Gorffennaf 10 Myffins, Myfyrio a Moel Fadair Diwrnod bendigedig gyda chyflwyniad gan arbenigwr (Dr John Fflyd) i'r ymwybyddiaeth ofalgar. Taith gerdded hyfryd yn Nyffryn Clwyd, gan archwilio bryniau isel a dyffrynnoedd golygfaol. Mae'r llwybr yn dringo drwy goetiroedd a phorfeydd agored cyn cyrraedd copa Moel Fodair (1279feet / 390 medr). Rydym yn cael ein gwobrwyo gyda golygfeydd o Eryri, Bryniau Clwyd yn ogystal â'r arfordir. Mae'n ddrwg gennym dim cŵn. Hyd: 5 awr Pellter: 11.5km / 7 milltir Cyfarfod: Maes parcio Pen Parc Llwyd, Henllan, LL16 5DE. Gallwn anfon e-bost cyfarwyddiadau i chi wrth archebu. CG: SJ 004677 Dechrau: 9:45am ar gyfer 10:00am Archebu lle: Ceri Hughes 01492 680254 Cymedrol

Gorffennaf 10 Eglwys, a Ffordd y Pererinion Taith gerdded egnïol mewn tirwedd hanesyddol. Ar lwybrau troed a dros rostir i gopa Tal y Fan, un o fynyddoedd lleiaf Gogledd Eryri yn 2000tr. Byddwn yn ymweld a Eglwys , un o eglwysi hynaf a mwyaf anghysbell yng Nghymru. Yn dilyn rhan o'r ffordd Pererin, byddwn yn cael golygfeydd gwych dros y mynyddoedd, yr arfordir a Dyffryn Conwy (tywydd yn caniatáu). Mae'n ddrwg gennym dim cŵn ar y daith. Hyd: 5 awr Pellter: 11.2km / 7 milltir Cyfarfod: Yn Rowen yn ymyl arwydd ar gyfer toiledau; parcio; canolfan ailgylchu a Neuadd Goffa, CG SH760719 Dechrau: 9:30am ar gyfer 9:45am Archebu lle: Clive Noble, [email protected] Caled

Gorffennaf 11 Taith gyda’r nos—Adloniant Bae Colwyn yn yr hen ddyddiau—rhan 1 Y taith 1af o bâr o deithiau cerdded sy’n dechrau mewn mannau gwahanol i gwmpasu gwahanol rannau o Fae Colwyn. Roedd Bae Colwyn unwaith yn fwrlwm o adloniant. Mae’r dyddiau hyn wedi hen fynd - darganfyddwch y lleoedd a'u hanes ar daith gerdded gyda'r nos o amgylch Bae Colwyn. Hyd: 2 awr Pellter: 3.2km / 2 milltir Cyfarfod: Canolfan Ddysgu’r Bae, Conway Road, Bae Colwyn, LL29 7AW (gyferbyn RBS y Banc) Dechrau: 6:15pm ar gyfer 6:30pm Archebu lle: Rosemary Brotherton 01492 540152 Hawdd

Gorffennaf 13 Taith gyda’r nos—Adloniant Bae Colwyn yn yr hen ddyddiau—rhan 2 Yr 2ail daith o bâr o deithiau cerdded sy’n dechrau mewn mannau gwahanol i gwmpasu gwahanol rannau o Fae Colwyn. Roedd Bae Colwyn unwaith yn fwrlwm o adloniant. Mae’r dyddiau hyn wedi hen fynd - darganfyddwch y lleoedd a'u hanes ar y daith gerdded gyda'r nos o amgylch Bae Colwyn. Hyd: 2 awr Pellter: 3.2km / 2 milltir Cyfarfod: Theatr Colwyn, parcio ar ochr y ffordd, safle bws rhif 12 gerllaw Dechrau: 6:15pm ar gyfer 6:30pm Archebu lle: Rosemary Brotherton 01492 540152 Hawdd

Gorffennaf 17 a Awst 7 O Un Pen i’r Carneddau i’r Llall Byddwn yn mynd ar daith bws mini 20 munud o Abergwyn-gregyn i Lan Dena, Ogwen i ddechrau ar y daith gerdded linellol yn ôl i'r ceir. Mae'r daith hon yn dechrau drwy ddringo Pen yr Ole Wen o Lan Dena ar hyd Ffynnon Lloer cyn parhau ar Garnedd Dafydd, Carnedd Llywelyn, Foel Grach, Carnedd Gwen-llian, Foel Fras, Drum ac Yr Orsedd, cyn dod yn ôl i lawr i Abergwyngregyn at y ceir. Hyd: 6-7 awr Pellter: 16 km / 10 milltir Cyfarfod: Maes parcio Abergwyngregyn SH 65625 72828 Dechrau: 8:45am ar gyfer 9:00am Archebu Lle: Rhaid archebu lle ar gyfer y daith gerdded hon er mwyn trefnu'r bws mini. SYLWER -Bydd disgwyl i'r cerddwyr sy’n dod ar y daith hon dalu’n rhannol am gost y bws Mini, a gellir canslo’r daith gerdded hon os na fydd digon o bobl i wneud y gost yn economaidd. Mae'r rhodd o £2 a awgrymir yn dal i fod yn berthnasol i bob un ar y daith hon. Sue Hibbert 01352 711648 gan adael neges ar y peiriant ateb neu ebost [email protected] Caled

****Y Gwybodaeth Pwysig****

Pa mor hawdd neu caled ydi’r teithiau Rhoddwyd y rhaglen hon at ei gilydd cerdded? gyda chefnogaeth Cyngor Bwrdeisdref Sirol Conwy. Fodd bynnag, Hawdd: Fflat gan mwyaf, o dan GWIRFODDOLWYR sy’n arwain holl

4.8km/3 milltir. deithiau Cerdded Conwy Walks a chan mai cyfyngedig yw’r cyllid sydd gan y Cymedrol: Rhai llethrau serth a thir grŵp, rydym yn gofyn am gyfraniad gan anwastad 4.8-11km/ 3-8milltir. gerddwyr (awgrymir £2). Mae pob

Caled: Gallai fod yn serth iawn, dros cyfraniad yn mynd at gefnogi gwaith Cerdded Conwy Walks, sy’n eu galluogi 11km/7milltir. i barhau i gynnal teithiau cerdded dan arweiniad er eich mwynhad.

Ar gyfer eich diogelwch..... mae angen darllen copi o’r amodau archebu cyn mynd ar unrhyw daith gerdded.

Gwybodaeth ac Amodau Archebu

Archebu Gofynnir i bob cerddwr archebu lle ar daith gerdded o flaen llaw oni nodir yn wahanol yn y rhaglen. Mae hyn am y rhesymau canlynol: Er mwyn i’r cyfranogwr fwynhau’r daith gerdded. Iechyd a Diogelwch: er mwyn sicrhau cymhareb gywir o ran arweinwyr a cherddwyr. Gall hyn amrywio

o’r naill daith i’r llall gan ddibynnu ar y dirwedd, y math o daith gerdded a’r arweinydd. Er mwyn i arweinwyr fod â’r manylion gofynnol am bob cerddwr. Os bydd taith gerdded yn llawn, gellir cadw eich enw wrth gefn. Os bydd cyfranogwr yn cyrraedd ar ddechrau'r daith gerdded ond nad yw wedi archebu lle, mae hawl gan yr arweinydd i beidio â derbyn yr unigolyn ar y daith gerdded.

Iechyd Cyfrifoldeb y cerddwyr yw gwneud yn siŵr eu bod yn ddigon corfforol heini i gymryd rhan yn y daith y maent wedi’i dewis. Bydd Arweinwyr yn gofyn i gerddwyr ddatgelu unrhyw wybodaeth feddygol a allai effeithio arnynt ar unrhyw adeg yn ystod y daith. Mae’r wybodaeth yma er mwyn diogelwch a lles y cerddwr.

Dillad, Esgidiau, Bwyd a Diod Cyfrifoldeb y cerddwyr yw gwneud yn siŵr eu bod yn gwisgo dillad ac esgidiau addas ar gyfer yr amodau h.y. esgidiau cadarn a dillad gwrth ddŵr. Argymhellir y dylai cerddwyr ddod â bwyd a diod sy’n addas ar gyfer eu hanghenion a hyd y daith. Dewch ag eli haul efo chi os oes angen. Mae gan yr arweinydd hawl i wrthod cerddwr sydd heb yr offer priodol.

Oed Mae croeso i blant dan 18 ond mae’n rhaid i riant neu oedolyn dros 18 ddod gyda nhw. Efallai y bydd rhai o’r teithiau cerdded yn anaddas i blant, os hoffech ddod â phlant ar daith gerdded a wnewch chi gysylltu ag arweinydd y daith i wneud yn siŵr y byddai hynny’n addas?

Amser Dechrau Fel y nodwyd yn y rhaglen, dylech gyrraedd o leiaf 15 munud cyn dechrau bob taith er mwyn cofrestru. Bydd y teithiau yn dechrau ar yr amser dechrau, dim ots a yw pawb wedi cyrraedd neu beidio.

Tywydd Bydd arweinwyr y teithiau yn y man cychwyn dim ots beth yw’r tywydd. Ond, mewn amodau tywydd eithriadol, efallai y bydd y daith yn cael ei haddasu neu’n cael ei chanslo i sicrhau diogelwch.

Newidiadau Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i addasu’r rhaglen heb rybudd. Credir bod y manylion yn y rhaglen yn gywir ar adeg argraffu. Mae arweinydd y daith yn cadw’r hawl i addasu’r daith yn ystod y daith os oes angen oherwydd rhesymau diogelwch.

Lluniau Yn ystod y teithiau cerdded, bydd staff Conwy yn tynnu lluniau o gerddwyr y gellir eu defnyddio ar gyfer deunydd hyrwyddo yn y dyfodol. Dylai unrhyw un sy’n dymuno i ni beidio eu cynnwys nhw neu eu plentyn mewn lluniau ar gyfer deunyddiau hyrwyddo roi gwybod i’r arweinwyr a’r staff ar ddechrau’r daith.

Cŵn Mae croeso i gŵn ar bob taith oni nodir yn wahanol yn y rhaglen. Mae’n rhaid cadw cŵn ar dennyn bob amser.

Trogod Pan fyddwch yng nghefn gwlad rydych mewn perygl o gael eich brathu gan drogen. Gall trogod gludo amrywiaeth o glefydau felly mae’n bwysig eich bod yn gwybod beth i’w wneud os byddwch yn cael eich brathu, neu sut i osgoi cael eich brathu yn y lle cyntaf. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.bada-uk.org.

Ysmygu Ni chaniateir ysmygu ar y teithiau cerdded

Atebolrwydd Mae’r trefnwyr wedi gwneud pob ymdrech ymarferol i sicrhau diogelwch yr holl unigolion sy’n cymryd rhan yn Cerdded. Ond, ni fydd y trefnwyr yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw anaf, golled neu ddifrod i unigolion nac eiddo, sut bynnag y bydd yn cael ei achosi, os nad yw’n deillio o esgeulustod uniongyrchol gan y trefnwyr, ac os oes gan y trefnwyr ddyletswydd gofal. Rydym yn eich cynghori i drefnu yswiriant ar gyfer damweiniau ac anaf personol. Cyfrifoldeb yr unigolion sy’n cymryd rhan yn y teithiau yw sicrhau eu bod yn ddigon heini ar gyfer y daith a bod ganddynt y cyfarpar addas. Mae arweinwyr y teithiau yn cadw’r hawl i wrthod i unrhyw gerddwr heb gyfarpar addas gymryd rhan.