Teithiau Cerdded yr Haf – Croeso! Gorffennaf 1 -10 2016, Gan gynnwys Gorffennaf 11 – Awst 7 Gorffennaf 1af Antur Byw yn y Gwyllt, Bryn Cadno Taith hyfryd i lawr Dyffryn Nant y Glyn, sy’n hawdd ei gyrraedd o Fae Colwyn. Mae'r daith gerdded gylchol yn dilyn llwybrau coetir a thir fferm gyda golygfeydd gwych o'r ardal gyfagos. Bydd stop hanner ffordd gydag Ysgol Goedwig Bae Colwyn lle bydd cerddwyr yn cael gwneud gweithgareddau crefft gwylltir a phaned haeddiannol wedyn ! Bydd tâl o £3 am y daith gerdded hon. Hyd : 2.5 - 3 awr Pellter: 4.8km / 3 milltir Cyfarfod: Tu allan i Canolfan Gymunedol Bryn Cadno. Bryn Cadno, Colwyn Uchaf, LL29 6DW Dechrau: 9:15am ar gyfer 9:30am Archebu lle: Helen Jackson, 07595 461540 Cymedrol Taith Rhwng Dwy Ystafell De, Coedwig Gwydir O Lyn Geirionydd byddwn yn cerdded i Ty Hyll, gan gymryd mewn golygfeydd tuag at Foel Siabod a'r Wyddfa ar y ffordd. Unwaith yno, gallwch flasu'r llu o atyniadau, edrych yn yr ardd, ddarganfod y toiled compost, ymweld â'r arddangosfa gwenyn ac ati. Wedi adnewyddu byddwn yn dringo'n serth yn ôl ar lwybrau coedwigaeth i Lyn Crafnant lle rydym yn cael y dewis o ymweld a ystafell de rhif dau, ger y llyn. Yna hop gyflym trwy'r coed prydferth yn ôl i'r ceir. Hyd: 7 awr Pellter: 14km / 9 milltir Cyfarfod: prif faes parcio Llyn Geirionydd Dechrau: 9:45am ar gyfer 10:00am Archebu lle: Colin Devine 07770 964716 Caled Gorffennaf 2 Moel Siabod a Afon Llugwy Byddwn yn cymryd y llwybr i fyny ochr ddeheuol Moel Siabod (872m), heibio rhai llynnoedd hyfryd gyda sgrialu hawdd i'r copa. Byddwn yn disgyn ar yr ochr ogleddol Siabod, trwy'r goedwig i ddilyn yr afon Llugwy yn ôl i'r maes parcio. Hyd: 5.5 - 6.5 awr Pellter: 11.5km / 7 milltir Cyfarfod: Moel Siabod Café, Capel Curig Dechrau: 9:30am ar gyfer 9:45am Archebu lle: Aled Owen 01690 760112 [email protected] Caled Gorffennaf 3 Codiad Haul o Fynydd y Dref, Conwy Eisteddwch mewn man prydferth i wylio un o sioeau gwych natur (os yw'r tywydd yn caniatáu!). Byddwn yn cerdded yn araf i fyny Mynydd y Dref ar amser tawel ac adfywiol o'r dydd. Yna ddown o hyd i fan gyfforddus i wylio'r wawr. Dewch â dillad cynnes, diddos, a lluniaeth, poeth neu oer, beth bynnag sy’n siwtio. Mae tortsh/tortsh pen yn hanfodol. Hyd: 3 awr Pellter: 4.8-6.4km/3-4 milltir Cyfarfod: Maes Parcio Bodlondeb, Conwy Dechrau: 3:30am ar gyfer 3:40am Archebu lle: Colin Devine 07770 964716 Cymedrol Betws y Coed i Gapel Curig drwy Rhaeadr Ewynnol Taith gerdded bleserus gan ddechrau gyda thaith bws o Gapel Curig i Fetws y Coed ac yna cerdded yn ôl i'r ceir. Yn dilyn yr afon Llugwy, byddwn yn ymweld â'r creigiau ‘canon’ ym Mhont y Pair a Bont y Mwynwyr sy’n serth ar draws yr afon. Yna byddwn yn dilyn isffyrdd a llwybrau i weld y Rhaeadr Ewynnol (am ddim). Gyda'r afon wrth ymyl ni, rydym yn cyrraedd Tŷ Hyll cyn esgyn yn serth i fyny'r lôn at y goedwig. Yna daw cyfres o draciau coedwig cyn cyrraedd rhostir agored gyda golygfeydd eang o'r Carneddau a Moel Siabod. Bydd disgyniad graddol yn ôl i Gapel Curig i gael lluniaeth yn Caffi Pinnacle. Hyd: 4-5 awr Pellter: 9.6km / 6 milltir Cyfarfod: Pinnacle Cafe, Capel Curig Dechrau: 10:25am i ddal y bws 10:34am i Fetws y Coed Archebu lle: Aled Owen 01690 760112 [email protected] Cymedrol/Caled Siwrna Iogic, Coedwig Gwydir Dewch i ymuno â Gwen Ellis Parri am myfyrdod a taith gerdded fer i gysylltu gyda chi eich hun a'r byd o'ch cwmpas. Tu allan, byddwn yn cwblhau myfyrdod ac ymarfer anadl hawdd. Byddwn wedyn yn cymryd taith gerdded fer mewn tawelwch. Ar ôl dychwelyd mae croeso i chi ymuno â ni i gael lluniaeth a rhannu profiadau. Nid oes angen profiad. Hyd: 2 awr Cyfarfod: Maes Parcio Gwydyr Uchaf oddi ar y B5106 ger Castell Gwydir Dechrau: 1:45pm ar gyfer 2:00pm Archebu lle: Gwen Ellis Parri 07545 301646 Cymedrol Gorffennaf 4 Dreigiau, Copr a Llechi, Nant Gwynant O'r man cyfarfod byddwn yn cymryd taith fer ar y bws Sherpa (taladwy) i fan cychwyn y daith gerdded a fydd yn mynd â ni drwy'r tirweddau hanesyddol a diwydiannol stad Craflwyn a Chwm Llan ar ochr ddeheuol yr Wyddfa. Byddwn yn dychwelyd i'r maes parcio ar hyd Llwybr Watkin. Mae'r rhan fwyaf o'r daith hon ar lwybrau troed a llwybrau sefydledig. Ond mae'n debygol o fod yn wlyb dan draed, felly esgidiau da yn hanfodol. Dim cŵn yn anffodus. Hyd: 5-6 awr Pellter: 11km / 7 milltir , 450m / 1500ft o ddringo Cyfarfod: Maes parcio Bethania, Nantgwynant, CG:SH 628507. Parcio £5 Dechrau: 9:30am ar gyfer 9:45am Archebu lle: Peter Collins, 01492 680353. Os yn gadael neges, os gwelwch yn dda gadewch rif llinell dir y mae modd cysylltu a chi arni. Cymedrol / Caled Noson o Haf yn Llanfair Talhaiarn Rydym yn codi i fyny o bentref hyfryd Llanfair Talhaiarn i gopa Mynydd Dir (1030feet / 314meters). Rydym yn mynd trwy gefn gwlad hardd a gwobrwyo ein hunain (croesi bysedd!) gyda’r golwg panoramig mwyaf prydferth. Ar ôl ymlacio yn y fan picnic ar y copa, byddwn wedyn yn dychwelyd yn ôl i lawr i Lanfair ar hyd yr Afon Elwy. Byddwn yn gorffen gyda pheint hyfryd o'ch dewis. Os ydych yn dymuno i'ch ci ymuno â ni mae posib trafod wrth archebu. Hyd: 2 awr Pellter: 6.4km / 4 milltir Cyfarfod: Maes parcio cyhoeddus Llanfair Talhaiarn (gyferbyn â'r Llew Du) CG: SH 927 703 Cychwyn: 5:45pm ar gyfer 6:00pm Archebu lle: Ceri Hughes 01492 680254 Cymedrol Gorffennaf 5 Siwrna Iogic, Coedwig Gwydir Dewch i ymuno â Gwen Ellis Parri am myfyrdod a taith gerdded fer i gysylltu gyda chi eich hun a'r byd o'ch cwmpas. Tu allan, byddwn yn cwblhau myfyrdod ac ymarfer anadlu hawdd. Byddwn wedyn yn cymryd taith gerdded fer mewn tawelwch. Ar ôl dychwelyd mae croeso i chi ymuno â ni i gael lluniaeth a rhannu profiadau. Nid oes angen profiad. Hyd: 2 awr Cyfarfod: Maes Parcio Gwydyr Uchaf oddi ar y B5106 ger Castell Gwydir Dechrau: 9:45am ar gyfer 10:00am Archebu lle: Gwen Ellis Parri 07545 301646 Cymedrol Uwchben yr Arfordir, Conwy O'r man cyfarfod byddwn yn dal bws (taladwy) i fan cychwyn y daith gerdded ym Mhenmaenmawr. Oddi yma, byddwn yn dringo i fyny lôn serth heibio Graiglwyd i Lwybr y Gogledd, ac yn dilyn hon i Fwlch Pensychnant, ar draws Mynydd y Dref ac yn ôl i Gonwy. Mae golygfeydd da o Ynys Môn, Ynys Seiriol, gogledd Eryri a Bae Lerpwl yma. Gall rhannau o'r daith hon fod yn wlyb dan draed, mae esgidiau da yn hanfodol. Dim cŵn yn anffodus. Hyd: 5-6awr (gan gynnwys amser teithio) Pellter: 11km / 6.5milltir 430m / 1300ft o ddringo Cyfarfod: Safle bws yng ngorsaf reilffordd canol tref Conwy Dechrau: 9:00am ar gyfer 9:15am Archebu lle: Peter Collins 01492 680353. Os yn gadael neges, os gwelwch yn dda gadewch rif llinell dir y mae modd cysylltu a chi arni. Cymedrol / Caled Noson ar Manod Mawr Mae dringfa serth drwy'r chwarel yn mynd â ni i'r chwarel adfeiliedig a phentref Rhiwbach. I fyny llethr serth, heibio chwarel Cwt y Bugail, byddwn wedyn yn cerdded y mynydd i gyrraedd copa Manod Mawr. Hyd: 4-5 awr Pellter: 9.6km / 6 milltir Cyfarfod: biniau ailgylchu, Cwm Penmachno Dechrau: 5:00pm ar gyfer 5:30pm Archebu lle: Aled Owen 01690 760112 [email protected] Caled Gorffennaf 6 Darllen Map a Mordwyo, Rhyd y Foel Mae'r gweithdy wedi'i gynllunio i helpu'r rhai sydd ag ychydig neu ddim gwybodaeth o ddarllen map i wella eu sgiliau. Bydd y gweithdy yn eich cyflwyno i egwyddorion darllen fap Arolwg Ordnans a'i ddefnyddio i gynllunio a dilyn taith gerdded gan ddefnyddio llwybrau. Bydd yna sesiwn dan do o tua 2-2.5awr a bydd hyn yn cael ei ddilyn gan daith gerdded o amgylch pentref Rhyd y Foel, gan gynnwys dringo i'r fryngaer Pen y Corddyn Mawr, i roi ar waith yr hyn rydych wedi ei ddysgu. Os hoffech chi i wella eich sgiliau darllen ac mordwyo map a methu mynychu'r sesiwn hon cysylltwch a Merv ynghlyn a Cerdded Annibynnol. Dim cŵn yn anffodus. Mae esgidiau da yn hanfodol. Hyd: 6-6.5awr (gan gynnwys cyflwyniad) Pellter: 4-5km / 2.5-3milltir 130m / 400 troedfedd o ddringo Cyfarfod: Neuadd y Pentref, Rhyd y Foel, ger Abergele. Toiledau a parcio ar gael. Bws rhif 21. Dechrau: 9:00am ar gyfer 9:15am Archebu lle: Merv Jones 01492 622187 Hawdd / Cymedrol Gorffennaf 6 Taith Botanegol, Coedwig Neuadd Marl Taith gyda'r nos byr ond weithiau‘n serth yng Nghoedwig Neuadd Marl. Byddwn yn dringo Ysgol Jacob i nifer o safbwyntiau, gan gymryd mewn golygfeydd o fynyddoedd, aber a castell trawiadol Conwy. Bydd hefyd yn gyfle i adnabod llawer o'r planhigion glaswelltir calchfaen anarferol, dylai llawer ohonynt fod yn blodeuo. Hyd: < 2 awr Pellter: 1km / 0.6milltir Cyfarfod: Maes parcio Coed Neuadd Marl, SH 800786, LL31 9JA Dechrau: 6:15pm ar gyfer 6:30pm Archebu lle: Kylie Jones Mattock 0343 770 5785 [email protected] Cymedrol Gorffennaf 7 Betws y Coed i Gonwy, Diwrnod 1 Dyma'r diwrnod cyntaf o dair Diwrnod 1: O Fetws y Coed i Trefriw.
Details
-
File Typepdf
-
Upload Time-
-
Content LanguagesEnglish
-
Upload UserAnonymous/Not logged-in
-
File Pages11 Page
-
File Size-