Senedd Cymru Bae Caerdydd CF99 1NA

Mehefin 2021 IEUENCTID CYMRU

LANSIO YMGYRCH ETHOLIAD AIL SENEDD IEUENCTID CYMRU 2021

Annwyl aelod o’r Consortia,

Rwy’n ysgrifennu i roi gwybod i chi bod ail ymgyrch etholiadol Senedd Ieuenctid Cymru wedi’i lansio, ac y gellid cofrestru pleidleiswyr erbyn hyn ar gyfer yr etholiad ym mis Tachwedd. Mae’r dyddiadau allweddol i’w gweld isod:

Lansio ymgyrch etholiadol Senedd Ieuenctid Cymru a 3 Mehefin 2021 chofrestru pleidleiswyr ar gyfer ail etholiad Senedd Ieuenctid Cymru

Y broses o gyflwyno cais i ddod yn un o sefydliadau partner 3 Mehefin – 28 Mehefin swyddogol Senedd Ieuenctid Cymru 2021

Enwebu ymgeiswyr 5 Gorffennaf – 20 Medi 2021

Etholiadau cenedlaethol ar-lein 1 – 22 Tachwedd 2021

Cyhoeddi'r aelodau Rhagfyr 2021

Cyfarfod cenedlaethol cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru Chwefror 2022

Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn cynnwys 60 o bobl ifanc 11–18 oed o bob rhan o Gymru. Bydd 40 o’r 60 Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru yn cael eu hethol trwy etholiadau cenedlaethol, ar-lein ym mis Tachwedd, tra caiff 20 o'r 60 o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru eu hethol gan sefydliadau partner er mwyn sicrhau bod grwpiau amrywiol o bobl ifanc yn cael eu cynrychioli.

Gweledigaeth y Senedd yw ysbrydoli pobl ifanc i ddod yn ddinasyddion gweithredol drwy fwy o ddealltwriaeth, ymgysylltiad a chyfranogiad yn ei gwaith a gwaith Senedd Ieuenctid Cymru. Gyda'r etholfraint bleidleisio wedi'i hymestyn i gynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed yng Nghymru, rydym yn credu’n gryfach nag erioed y dylai’r broses o ddysgu am waith y Senedd a’r broses o gymryd rhan yn ei gwaith – yn enwedig Senedd Ieuenctid Cymru – fod yn rhan annatod o gynllunio cwricwlwm unrhyw sefydliad dysgu.

Fe wnaeth y set gyntaf o’r Aelodau a etholwyd i Senedd Ieuenctid Cymru ennill sgiliau amhrisiadwy yn ystod eu tymor o ddwy flynedd, felly byddem yn ddiolchgar pe gallech annog ysgolion i ymgysylltu â'r prosiect cyfranogi cenedlaethol hwn trwy gyfrwng eich rhwydweithiau, cylchlythyrau ac unrhyw hyrwyddiadau ar-lein eraill. Byddai hyn yn enghraifft wych o sut y gall athrawon gynnwys cymuned gyfan yr ysgol i fynd ati i gynorthwyo dysgwyr i ddod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus Cymru.

At hynny, rydym yn chwilio am unigolion i ymuno â'n Panel Cynghori Athrawon i rannu eu barn ar weithgareddau yn ystod ymgyrch Senedd Ieuenctid Cymru. Os hoffech chi wneud cais, neu hyrwyddo'r cyfle hwn i'ch rhwydweithiau, bydd hyn yn helpu i wneud yn siŵr ein bod yn cydweithio â’r proffesiwn i gyflawni rhai o nodau'r cwricwlwm newydd.

Dros y misoedd diweddar, mae staff o Dîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd wedi cynnal sesiynau ymgysylltu ar-lein i ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid at ddibenion hyrwyddo Etholiad y Senedd, a gynhaliwyd yn diweddar, ynghyd â gwaith y Senedd a Senedd Ieuenctid Cymru. Bydd y sesiynau hyn yn parhau i gael eu cynnal ar-lein, ond os ydych chi eisiau trafod y posibilrwydd o gynnal sesiynau wyneb yn wyneb, byddem yn hapus i drafod hynny gyda chi. Ffoniwch 0300 200 6565, neu e-bostiwch [email protected] os oes gennych unrhyw ymholiad ynghylch cadw lle.

I gael cymorth neu ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at [email protected], neu ewch i wefan y Senedd Ieuenctid hiips://seneddieuenctid.senedd.cymru/ . Gallwch ein dilyn ni ar Twitter hefyd: @seneddieuenctidcymru @welshyouthparliament

Yr eiddoch yn gywir,

Senedd Ieuenctid Cymru

Senedd Cymru Bay Cardiff CF99 1NA

June 2021

j WELSH YOUTH PARLIAMENT

LAUNCH OF SECOND WELSH YOUTH PARLIAMENT ELECTION CAMPAIGN 2021

Dear Consortia member,

I am writing to inform you that the second Welsh Youth Parliament election campaign has launched , with voter registration now open for the November elections. The key dates are outlined below:

Launch of the Welsh Youth Parliament election campaign and 3 June 2021 voter registration to the second Welsh Youth Parliament election.

Application process to become an official Welsh Youth 3 June - 28 June 2021 Parliament partner organisation

Candidate nomination 5 July – 20 September 2021

National online elections 1 – 22 November 2021

Member announcement December 2021

First national meeting of the Welsh Youth Parliament February 2022

The Welsh Youth Parliament is a made up of 60 11-18 year olds from across . 40 of the 60 Welsh Youth Parliament Members will be returned through national, online elections in November, while 20 of the 60 Welsh Youth Parliament Members will be returned by partner organisations to ensure the representation of diverse groups of young people.

The Senedd’s vision is to inspire young people to become active citizens through increased understanding, engagement and participation in its work and the work of the Welsh Youth Parliament. With the voting franchise extended to include 16 and 17 year olds in Wales, we believe more strongly than ever that learning about the Senedd and participating in its work, especially the Welsh Youth Parliament, should be an integral part of any learning institution’s curriculum planning.

The first set of Welsh Youth Parliament Members elected gained invaluable skills during their two year term therefore we would be grateful if you could encourage schools to engage with this national participation project through your networks, newsletters and any other online promotions. This would be a great example of how teachers can involve the whole school community to actively support learners to become ethical and informed citizens of Wales.

We are also looking for individuals to join our Teacher Advisory Panel to share their views on activities during the Welsh Youth Parliament campaign. If you would like to apply or promote this opportunity to your networks, then this will help ensure we work together with the profession to achieve some of the aims of the new curriculum.

Over recent months staff from the Senedd’s Education and Youth Engagement Team have delivered online engagement sessions to school, colleges and youth groups to help promote the recent Senedd elections, work of the Senedd and Welsh Youth Parliament (WYP). These sessions will continue online but if you wish to discuss the possibility of face to face sessions we would be happy to discuss these with you. Please contact 0300 200 6565 or e mail [email protected] for all booking enquiries.

For all further information, please email [email protected] or you can visit the youth parliament website www.youthparliament.wales. Please also follow us on Twitter @welshyouthparl @seneddieuenctidcymru.

Yours sincerely,

Welsh Youth Parliament

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg / We welcome correspondence in Welsh or English