Jones Owain Rhys
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Archwilio potensial cryfhau’r iaith Gymraeg ac economi’r ardal gydgyfeiriant drwy hybu cydymwneud rhwng cymunedau lleol a’r cyfryngau newyddion proffesiynol: achos Ceredigion a Golwg360 Owain Rhys Jones Traethawd a gyflwynir am radd PhD Prifysgol Aberystwyth Mai 2015 Crynodeb Mae’r traethawd yn trafod newyddion lleol Ceredigion, ac yn arbennig ddeunydd tra lleol er mwyn gweld sut y medrir eu cynnwys ar safleoedd a meicrosafleoedd amlblatfform dan adain cwmni newyddion proffesiynol sef Golwg360, adain ar-lein cwmni Golwg Cyf. Holir sut y gallai hynny gyfoethogi bywyd ac economi cymunedau gwledig yng ngorllewin Cymru, a chynnal y Gymraeg fel cyfrwng byw a chyfoes mewn oes o gyfathrebu digidol. Gosodir hyn yng nghyd-destun ehangach newyddion lleol a newyddiaduraeth yn gyffredinol ynghyd â datblygiad ystod o ddyfeisiau technolegol. Tynnir ar gyfnod o brofiad newyddiadurol gyda Golwg360 yn Llanbedr Pont Steffan ac ar waith ymarferol mewn gweithdai a fu’n braenaru’r tir ar gyfer sefydlu gwefan Clonc360. Bu hyn, ynghyd ag ymchwil yn y gymuned ‒ gyda busnesau, Clybiau Ffermwyr Ifainc, papurau bro, disgyblion ysgol, a grwpiau ac unigolion eraill ‒ yn sail i asesu effaith y chwyldro digidol yn yr ardal, ac i archwilio’r potensial i godi ymwybyddiaeth am werth y cyfryngau newydd, a’r budd masnachol a diwylliannol a allai ddeillio ohonynt. Diolchiadau Carwn gydnabod y cyfle i wneud y gwaith ymchwil hwn a ddaeth fel canlyniad i gais llwyddiannus Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, am arian Rhaglen Gydgyfeiriant Gorllewin Cymru a’r Cymoedd a reolir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, sef cynllun KESS. Fy nyletswydd gyntaf yw diolch yn ddiffuant i’m cyfarwyddwr, yr Athro Marged Haycock am bob cymorth a chyngor defnyddiol yn ystod y cyfnod y bûm yn gwneud y gwaith ymchwil. Diolch hefyd i Dr Bleddyn O. Huws, f’ail gyfarwyddwr, am ei gefnogaeth a’i sylwadau adeiladol. Hoffwn hefyd ddatgan fy niolch cywir i Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth. Dymunaf ddiolch yn ddidwyll i Mr Owain Schiavone (Prif Weithredwr / Cyfarwyddwr Golwg360) a Mr Dylan Iorwerth (Golygydd Gyfarwyddwr, Cylchgrawn Golwg) ynghyd â staff y cwmni am bob caredigwrydd a chefnogaeth yn ystod fy nghyfnod yn y swyddfa yn Llanbedr Pont Steffan. Byddwn yn dymuno cydnabod cydweithrediad parod pob unigolyn, mudiad a chwmni y bûm yn ymwneud â nhw wrth wneud y gwaith ymchwil. Diolchaf hefyd i’m rhieni a’m ffrindiau am bob cefnogaeth ac anogaeth. Cynnwys Rhagymadrodd 1 Pennod 1: Y papur bro a newyddion lleol a thra lleol 8 Pennod 2: Achos Golwg360 59 Pennod 3: Newyddion tra lleol a Geodagio 75 Pennod 4: Y cyfryngau cymdeithasol a’r dyfeisiau digidol symudol 108 Pennod 5: Yr hyn sy’n bosibl 177 Pennod 6: Astudiaeth o dair tref: Llanbed, Aberaeron, Llandeilo 191 Casgliadau 209 Atodiadau 218 Holiaduron 252 Llyfryddiaeth 259 Rhagymadrodd Daeth y prosiect hwn i fod yn dilyn cais llwyddiannus gan Brifysgol Aberystwyth am arian Rhaglen Gydgyfeiriant Gorllewin Cymru a’r Cymoedd a reolir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, yr asiantaeth weithredol o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n gweithredu’r prosiect ‘Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth’ (KESS– Knowledge Economy Skills Scholarship). Dilynodd fy ngwaith ymchwil y testun gosodedig, sef: ‘Archwilio potensial cryfhau’r iaith Gymraeg ac economi’r ardal gydgyfeiriant drwy hybu cydymwneud rhwng cymunedau tra lleol a’r cyfryngau newyddion proffesiynol: achos Ceredigion a Golwg360’. Roedd maes fy ngwaith ymchwil, felly, yn ymwneud â gwella economi a bywiogrwydd gorllewin Cymru gan ganolbwyntio ar ardal Llanbedr Pont Steffan a’r cyffiniau. Yr oedd y gwaith ymchwil yn golygu gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth a Golwg360 sydd â’i brif swyddfa yn Llanbedr Pont Steffan. Sefydlwyd Golwg360 yn 2009 fel gwefan a fyddai’n cynnig newyddion o Gymru ac o wledydd tramor drwy gyfrwng y Gymraeg. Adain ar-lein o’r cylchgrawn Golwg yw Golwg360. Gwelwn yn ystod y gwaith fod y gwasanaeth newyddion Cymraeg hwn yn hanfodol ar gyfer datblygiad yr iaith a’i fod hefyd yn ymestyn yr amrywiaeth o ffynonellau newyddion sydd ar gael yng Nghymru. Prif gwestiwn fy maes ymchwil oedd gofyn sut orau y gellid casglu a dethol newyddion a gwybodaeth leol er mwyn eu cynnwys at ddefnydd pawb ar safleoedd a meicrosafleoedd amlblatfform a hynny dan adain cwmni newyddion proffesiynol, sef Golwg360. Pwrpas y cyfan oedd chwilio am ffyrdd o gyfoethogi bywyd ac economi cymunedau gwledig yng ngorllewin Cymru, ac i gynnal y Gymraeg fel cyfrwng byw a chyfoes mewn oes o gyfathrebu digidol. Roedd yn fwriad gennyf felly i roi sylw arbennig i ystod eang o ddefnyddwyr gan gynnwys busnesau, cwmnïau, Clybiau Ffermwyr Ifainc Ceredigion, Merched y Wawr, ac ysgolion. Hefyd byddwn yn rhoi sylw i’r papurau bro gan ddangos y posibiliadau a’r manteision a ddeuai iddynt o ddefnyddio’r we. Ar hyn o bryd mae nifer ohonynt yn profi cyfnod anodd o ran gwerthiant a sicrhau digon o wirfoddolwyr i gynnal y papur. 1 Yn ystod y gwaith ymchwil, bûm yn cynllunio ac yn trefnu gweithdai Cymraeg eu cyfrwng gyda’r gwahanol grwpiau er mwyn egluro’r broses, hybu defnydd o’r cyfleoedd digidol, a hyrwyddo sefydlu gwefan Clonc360. Gwefan yw hon ar y cyd rhwng Golwg360 a Clonc, sef papur bro ardal Llanbed. Yr oedd yn brofiad pleserus gweld y cyfan yn dwyn ffrwyth a gweld y wefan yn cael ei sefydlu yn Ebrill 2015. Bellach mae defnydd cyson yn cael ei wneud ohoni, sy’n dangos bod y dechnoleg newydd yn ymsefydlu yn y rhan hon o orllewin Cymru. Yr oedd hyn yn gyfle gwych i’r papur bro Clonc ac i Golwg360 gydweithio ac fe gafwyd mewnbwn adeiladol o’r ddwy ochr i sicrhau sefydlu Clonc360, a heb os mae cyfle i’r ddau gyfrwng gydweithio’n effeithiol i’r dyfodol. Y gobaith yw y bydd Clonc360 yn arwain y ffordd ac yn darbwyllo busnesau a mudiadau lleol o’r budd a allai ddod trwy gyfrwng y Gymraeg a thrwy fod yn dechnolegol flaengar. Yn ystod fy ngwaith ymchwil bûm yn cynnal nifer o gyfweliadau gyda’r gwahanol grwpiau er mwyn darganfod hyd a lled eu defnydd o’r dechnoleg newydd ar y pryd a cheisio eu hannog i fanteisio ar y cyfryngau newydd er mwyn hyrwyddo’r hyn a oedd ganddynt i’w gynnig. Testun balchder yw fod eraill, fel Emma Meese o Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol, Prifysgol Caerdydd, bellach wedi cymryd yr awenau yn ddiweddar i hyrwyddo mentrau tebyg ar draws Cymru, ac i arwain rhai papurau bro eraill i’r oes ddigidol. Y mae’r traethawd ymchwil hwn yn olrhain hanes y datblygiadau hyn ac yn eu rhoi yn eu cyd-destun diwylliannol a masnachol gan ddadansoddi’r cyfan â llygad beirniadol. Ond yn wahanol i lawer iawn o draethodau ymchwil, y mae’r awdur yn yr achos hwn hefyd wedi bod yn ysgogydd ac yn chwaraewr yn y mentrau a ddisgrifir. Mae hynny, gobeithio, wedi caniatáu gwell dealltwriaeth o’r problemau ‘o’r tu mewn’, megis, ac o’r cyfleoedd a’r cyfyngiadau a geir ar lawr gwlad; gobeithio hefyd fod mwy o fin ar y dadansoddiad o’r herwydd. Ar yr un pryd, mae’n rhaid cydnabod y gallai sefyllfa o’r fath ystumio peth ar y canfyddiadau a’r dadansoddi; am y rheswm hwnnw, roeddwn yn benderfynol o sicrhau fod y traethawd yn tynnu ar dystiolaeth ystod eang o leisiau o’r gwahanol gymunedau lleol, ac yn cynnwys hefyd farn gwleidyddion a llunwyr polisi eraill. Thema a archwilir drwy gydol y gwaith hwn yw’r cysylltiad rhwng y lleol, a’r tra lleol a’r cyfryngau newyddion. Cyfeiriwyd yn barod at y ffaith fod nifer o 2 gylchgronau print yn ei chael yn anodd goroesi yn yr hinsawdd economaidd presennol a sut y gallai defnydd o’r dechnoleg newydd fod o gymorth iddynt. Gwelwyd bod ambell un o’r papurau bro yn fwy blaengar na’i gilydd yn sefydlu gwefan, er enghraifft Glo Mân sef papur bro Dyffryn Aman, a Papur y Cwm sef papur bro Cwm Gwendraeth. Dyma ymgais i geisio denu darllenwyr ifainc, y rhai sy’n dysgu’r Gymraeg ynghyd â’r rhai na fyddant yn darllen Cymraeg fel rheol. Byddaf yn dangos sut y mae’r ugeinfed ganrif a’r un bresennol wedi bod yn gyfnodau o newidiadau aruthrol ym myd technoleg a bod angen elwa’n llawn ar y cyfryngau newydd er mwyn hyrwyddo digwyddiadau a datblygiadau o bob math trwy gyfrwng y Gymraeg ac er mwyn sicrhau parhad y cymunedau Cymraeg lleol. Mae’r duedd dra lleol yn un sy’n dod yn gynyddol bwysig bellach mewn amryw o feysydd: ym maes bwyd a diod, rhoddir pwyslais ar y gallu i olrhain y cynnyrch a’i gysylltu â lle penodol, ac yn yr un ffordd, mae twristiaeth gynaliadwy’n dibynnu ar y profiadau a’r blasau unigryw sydd i’w canfod mewn gwahanol froydd. Ceisiwyd holi ym mha ffyrdd y gallai’r cyfryngau digidol wneud hynny’n weladwy, mewn dull cyfoes ac mewn ffordd a fyddai’n dod ag elw a boddhad i’r darparwyr a’r defnyddwyr fel ei gilydd. Buwyd yn estyn allan at y darpar ddefnyddwyr trwy Golwg360 a cheisio eu darbwyllo mai’r dechnoleg newydd yw’r ffordd orau ymlaen ar gyfer newyddion, hysbysebu ac ati. Wedi ymweld â’r gwahanol fusnesau a mudiadau yng ngorllewin Cymru, aseswyd i ba raddau y’u hargyhoeddwyd o fanteision y dechnoleg newydd, a dadansoddwyd y datblygiadau cyflym yn y maes hwn. Fel rhan o’r cefndir ehangach, olrheinir y symudiad o brint i’r sgrin a ddaeth o ganlyniad i’r datblygiadau ym myd y dechnoleg. Erbyn hyn, gallwn dderbyn y newyddion o Gymru, Prydain ac o bedwr ban byd o fewn eiliadau. Hefyd gallwn gyrchu’r wybodaeth unrhyw adeg o’r dydd a’r nos heb orfod gadael cartref neu swyddfa.