Cyfnodolyn Academaidd Cymraeg Golygydd: Yr Athro Ioan Williams
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Cyfnodolyn Academaidd Cymraeg Golygydd: Yr Athro Ioan Williams Rhif17 (Rhifyn arbennig: ‘Trwy ddulliau chwyldro...’) • Mawrth 2014 • ISSN 1741-4261 Cyhoeddwyd gyda chymorth: Gwerddon Gwerddon CYFNODOLYN ACADEMAIDD CYMRAEG Golygydd Yr Athro Ioan Williams Gwerddon Rhif 17 MawrthGwerdd 2014on • Rhif • 17ISSN Mawrth 1741-4261 2014 2 Gwerddon Bwrdd Golygyddol Golygydd: Yr Athro Ioan M. Williams Is-Olygydd: Dr Hywel Griffiths, Prifysgol Aberystwyth Cynorthwywyr Golygyddol: Dr Gwenllian Lansdown Davies, Dr Angharad Watkins a Dr Meilyr Emrys Cadeirydd y Bwrdd Golygyddol: Dr Eleri Pryse, Prifysgol Aberystwyth Aelodau’r Bwrdd Golygyddol: Dr John S. Davies Dr Noel A. Davies Dr Myfanwy Davies, Prifysgol Bangor Yr Athro Siwan Davies, Prifysgol Abertawe Dr Arwyn Jones, Prifysgol Caerdydd Dr Carwyn Jones, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd Yr Athro Rhys Jones, Prifysgol Aberystwyth Dr Gwyn Lewis, Prifysgol Bangor Yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost, Prifysgol Caerdydd Dr Angharad Price, Prifysgol Bangor Dr Hefin Jones, Prifysgol Caerdydd Yr Athro Jane Aaron, Prifysgol De Cymru Dr Enlli Thomas, Prifysgol Bangor Mr Wyn Thomas, Prifysgol Bangor Dr Daniel G. Williams, Prifysgol Abertawe e-Gyfnodolyn academaidd cyfrwng Cymraeg yw Gwerddon, sy’n cyhoeddi ymchwil ysgolheigaidd yn y Gwyddorau, y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Cyhoeddir Gwerddon ar y we o leiaf ddwywaith y flwyddyn. Arfernir cyfraniadau gan arbenigwyr yn y meysydd perthnasol yn y modd arferol. Ceir gwybodaeth lawn am amcanion, polisïau golygyddol, canllawiau i Gwerddon awduron a chanllawiau i arfarnwyr ar y wefan: www.gwerddon.org Cyllidir Gwerddon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cysylltwch â Gwerddon drwy e-bostio [email protected] neu drwy’r post: Gwerddon, Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, Llawr B, Adeilad Hugh Owen, Aberystwyth, Ceredigion. ISSN 1741-4261 Hawlfraint Gwerddon www.gwerddon.org Gwerddon • Rhif 17 Mawrth 2014 3 Cynnwys Golygyddol 5 Rhagair 6 Crynodebau 10 Summaries 11 Erthygl 1: Yr Athro Gerwyn Wiliams, ‘Cynan, Y Sefydliad a Chwyldro’r 1960au’ 12 Erthygl 2: Dr Rowan O’Neill, ‘Heddwch Salem? Astudiaeth o bortread Cliff McLucas o Cynog Dafis’ 23 Erthygl 3: Sel Williams, ‘Cloriannu Cymdeithasiaeth: Syniadaeth wleidyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg’ 41 Cyfranwyr 58 Gwerddon Gwerddon • Rhif 17 Mawrth 2014 4 Golygyddol Rhifyn arbennig yw hwn; y mae ei gynnwys yn tarddu o gynhadledd amlddisgyblaethol a gynhaliwyd ym Mangor ym mis Tachwedd 2012. Teitl y gynhadledd oedd ‘‘Trwy Ddulliau Chwyldro’: Hanner can mlynedd o ymgyrch yr iaith’, a rhaid diolch i Dr Huw Lewis am gydlynu’r tair erthygl a geir yma, sy’n ymdrin ag agweddau ar briodoleddau diwylliant a hunaniaeth Gymraeg yn y byd sydd ohoni. Gellid dweud bod yr Athro Gerwyn Wiliams yn trin ei bwnc mewn ffordd fwy traddodiadol na’r ddau awdur arall. Y mae’n trafod y gwrthgyferbyniad rhwng dwy ffordd o feddwl am Gymreictod; y naill wedi ei ymgorffori ym mherson y Sensor a’r Archdderwydd, Cynan, a’r llall yn Dafydd Iwan, cynrychiolydd y genhedlaeth ifanc a wrthryfelodd yn y 1960au yn erbyn ‘Cymreictod cydymffurfiol, cymedrol a chytûn’. Prif hanfod erthygl Sel Williams yw trafodaeth ar ‘gymdeithasiaeth’, sef agwedd mwy diweddar ar yr ymgyrch a symbylwyd gan ddarlith dyngedfennol Saunders Lewis, ‘Tynged yr Iaith’ (1962). Dyma ideoleg amddiffynnol a ddatblygwyd yn nhrafodaethau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn sgil yr ymdrech i gyfuno egwyddorion gwleidyddol ac economaidd sosialaeth â pharch tuag at y strwythurau diwylliannol a ymgorfforwyd yn y cymunedau Cymraeg, ac yn anad dim, tuag at yr iaith. Y mae erthygl Dr Rowan O’Neill hithau’n ymroi i ddiffinio ac amddiffyn yr hunaniaeth neu hunaniaethau Cymreig, er bod ei safbwynt yn dra gwahanol. Edrycha O’Neill ar sefyllfa’r iaith a chyflwr y cymunedau Cymraeg drwy lygaid y mewnfudwr a’r artist, Cliff McLucas, y mae archif ei waith creadigol yn y Llyfrgell Genedlaethol. O ystyried yr erthyglau yn eu crynswth, diddorol yw gweld yr un ymwybod problemus yn ymffurfio, a hynny’n ymwneud – yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol – â’r gwrthdaro rhwng Cymreictod a’r elfennau o Brydeindod a geir oddi mewn i bob un ohonom. Cyd-ddigwyddiad yw cael tair erthygl sy’n hanu o’r un ymwybod problemus, ond beth a gawn yma yw’r un cymhlethdod sylfaenol y mae bodolaeth Gwerddon yn ymateb iddo. Sefydliad Prydeinig yw’r sector addysg uwch yng Nghymru, nad yw erioed wedi caniatáu mwy na safle ymylol i anghenion a buddiannau’r iaith Gymraeg. Ni fu erioed yn hawdd i academydd o Gymro neu Gymraes greu gofod o fewn y sector lle medr ymroi’n gyfan gwbl i weithio fel academydd drwy ei b/phriod iaith. Dyna, wrth gwrs, yw’r cyfnodolyn hwn – gwerddon yng nghanol anialwch go sych o safbwynt y Cymro! Yr Athro Ioan Williams Gwerddon • Rhif 17 Mawrth 2014 5 Rhagair y golygydd gwadd Heb os, roedd yr 1960au cynnar yn gyfnod pwysig iawn yn hanes yr iaith Gymraeg, ac yn fwy penodol, yn hanes yr ymdrechion i’w chynnal ac i ehangu ei pheuoedd. Yn ystod y cyfnod hwn, gwelwyd cychwyn ar gyfnod o ymgyrchu llawer mwy heriol a phenderfynol nag a welwyd cynt, ac yn sgil hynny, bu i ddyfodol yr iaith droi’n bwnc a hawliai le llawer amlycach ar yr agenda gwleidyddol.1 Bellach, caiff dau ddigwyddiad cysylltiedig eu trin fel cerrig milltir hanesyddol sy’n cynrychioli’r ‘newid gêr’ arwyddocaol hwn. Y gyntaf, wrth gwrs, yw darlith radio heriol ac ysbrydoledig Saunders Lewis, ‘Tynged yr Iaith’, a draddodwyd ym mis Chwefror 1962. Yr ail yw’r penderfyniad a wnaed rai misoedd yn ddiweddarach i sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mudiad a fyddai’n arddel dulliau ymgyrchu uniongyrchol a di-drais, fel y gwnaed mewn modd mor gofiadwy ar achlysur ei gwrthdystiad cyntaf yn Aberystwyth ym mis Chwefror 1963. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, trefnwyd amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau ledled Cymru er mwyn nodi hanner canrif ers dechrau’r datblygiadau hyn, a hefyd er mwyn cloriannu cyfraniad yr ymgyrchu sylweddol a ddaeth yn eu sgil. Trefnwyd ralïau, dadorchuddiwyd placiau, llwyfannwyd dramâu, cyhoeddwyd erthyglau a llyfrau, darlledwyd rhaglenni radio a theledu, ac aed ati i drefnu ambell gyngerdd bop gofiadwy. Yn ogystal, yng nghanol y cyfnod hwn o weithgarwch, cynhaliwyd cynhadledd academaidd lwyddiannus ym Mangor ym mis Tachwedd 2013. Bwriad y gynhadledd, ’’Trwy ddulliau chwyldro’: Hanner can mlynedd o ymgyrch yr iaith’, oedd cynnig cyfle i ysgolheigion o sawl maes disgyblaethol ddod ynghyd er mwyn cloriannu dylanwad ymgyrchu’r degawdau diwethaf ar fywyd gwleidyddol a diwylliannol Cymru. Trefnwyd y gynhadledd ar y cyd gan Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth, ac Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, a thros ddeuddydd cyflwynwyd dwsin o bapurau academaidd a thraddodwyd dwy ddarlith wadd, y gyntaf Gwerddon gan yr Athro Jane Aaron a’r ail gan Ned Thomas.2 O ran casgliadau, un o’r prif bethau a sefydlwyd yn glir yn ystod y gynhadledd oedd bod ymdrin yn deg ag arwyddocâd yr ymgyrchu ers y 1960au cynnar yn galw am werthfawrogiad o natur eang ac amlweddog ei sgil effeithiau. Fel y dangosodd nifer o’r papurau a drafodwyd, bu i’r ymgyrchu hyn ddylanwadu ar fywyd Cymru mewn ystod o wahanol ffyrdd, weithiau mewn modd amlwg ac uniongyrchol, ond ar adegau eraill mewn modd mwy anuniongyrchol ac annisgwyl. 1 Dylid pwysleisio nad datblygiad cwbl newydd oedd yr awydd hwn i ymgyrchu er mwyn hybu rhagolygon y Gymraeg. Yn hytrach, roedd yn adeiladu ar weithgaredd a fu ar droed ers degawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, trwy waith cyrff megis Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (h.y. yr un wreiddiol a sefydlwyd ym 1885 gan Dan Isaac Davies), Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymreig ac Undeb Cymru Fydd. Fodd bynnag, teg yw casglu, fel y gwna Phillips (1997: tt. 134-6), bod dwyster ychwanegol yn perthyn i’r don o ymgyrchu a gododd yn ystod y 1960au, ac yn sgil hynny, priodol yw meddwl am y cyfnod fel un lle gwelwyd cychwyn ar ‘bennod newydd’ yn hanes y mudiad iaith. Am drafodaeth ar weithgaredd y mudiad iaith yn ystod cyfnodau cynharach, gweler gwaith Löffler (1995 a 2000). 2 Testun darlith Yr Athro Jane Aaron oedd ‘Yr Ymgyrch Ffuglennol: Cymdeithas yr Iaith a’r Nofel Gymraeg’ a thestun darlith Ned Thomas oedd ‘Problemau Llwyddiant: Democratiaeth Gymreig a’r Gymuned Gymraeg’. Gwerddon • Rhif 17 Mawrth 2014 6 Ymhlith y canlyniadau mwyaf amlwg y mae’r modd y daeth y Gymraeg i hawlio lle mwyfwy pwysig ym mywyd cyhoeddus y wlad. Trawsnewidiwyd ei statws gan gyfres o ddeddfau iaith a arweiniodd at godi arwyddion, cynhyrchu ffurflenni, ac at ddatgan yn glir y dylai Cymru gael ei hystyried fel gwlad ddwyieithog. Ochr yn ochr â hyn, gwelwyd ehangu sylweddol ar ddarpariaeth addysg Gymraeg, a bu i’r niferoedd a fanteisiai ar y ddarpariaeth honno dyfu y tu hwnt i bob disgwyl. Ymhellach, sicrhawyd lle amlycach i’r Gymraeg ym myd y cyfryngau, gyda sefydlu S4C yn garreg filltir tra phwysig.3 Wrth gwrs, er gwaethaf datblygiadau o’r fath, erys pryderon difrifol iawn ynglyˆn â rhagolygon hir dymor yr iaith, a byddai nifer (a minnau yn eu plith) am ddadlau’n gryf y gellid gwneud llawer iawn mwy er mwyn gwella’r rhagolygon hyn. Eto i gyd, ni ellir gwadu pa mor bellgyrhaeddol y bu’r newid yn nhirwedd ieithyddol Cymru ers dechrau’r 1960au. Ymhellach, heblaw am ymgyrchu penderfynol ac aberth cynifer o Gymry, go brin y buasai sefyllfa’r iaith wedi newid i’r fath raddau. Fodd bynnag, nid trwy ystyried enillion penodol a mesuradwy tebyg i’r uchod yn unig y mae cloriannu arwyddocâd ymgyrchu’r degawdau diwethaf. Mae’n angenrheidiol cydnabod i’r ymgyrchu hwn hefyd gyfrannu at hybu newidiadau pwysig mewn agweddau tuag at y Gymraeg. Yn ôl ar ddechrau’r 1960au, y dybiaeth gyffredin oedd bod dirywiad y Gymraeg yn rhan anochel o’r drefn fodern ac na ellid gwneud dim ymarferol i atal a gwrthdroi’r duedd hon.