TAG Cymraeg Iaith Gyntaf - Uned 2  Ffair Ffurfiau

Noder bod modd darllen pob blog yn ‘fyw’ trwy glicio ar y ddolen islaw pob pennawd. Mae’r testun mewn lliw gwyrddlas yn y dogfennau yma yn dangos pob dolen y gellid ei dilyn ar y fersiwn ‘byw’.

GEIRIAU AM GERDDORIAETH

Welodd ‘na neb 2017 yn dod… ac oes modd rhagweld 2018? https://sonamsin.cymru/2018/01/09/2017/

IONAWR 9, 2018

‘Da ni’n siarad mewn seiniau. Space Pop. Slacker Rock. ‘Da ni’n siarad am Gaerfyrddin, am Lanrwst, am Gaerdydd. ‘Da ni’n sôn am Libertino. ‘Da ni’n sôn am Neb, ond yn sôn am bawb, yn cynnwys merched. ‘Da ni’n sôn am Aros o Gwmpas, heb aros yn ein hunfan. ‘Da ni’n sôn am ddyfodol Ffarout, yn nwylo Los Blancos, Cadno a Hyll. ‘Da ni’n sôn am sîn sydd yn adnewyddu ei hun, ar ôl Adwaith. ‘Da ni’n sôn am Ani Glass. Class. ‘Da ni’n sôn am y Pasta, y Pys a’r Papur, yr a’r Omaloma. Does neb yn ein rheoli ni, a ni sydd yn gyfrifol am ein ffawd ein hunain. Chwalu bob dim. Smash ‘em. Mae unrhyw beth yn bosib. Mi allwch chi wneud deg sigarét bara’ am byth, hyd yn oed. Mae’r allt,hir, serth, a’r pwysau trwm yn eich dwylo yn Hen Hanes, ac mae egni newydd, gobeithiol 2017 yn barod i’w orfodi ei hun ar gynfas wag 2018. Achw met. Welodd ‘na neb 2017 yn dod. Heblaw am isymwybod Gruff Libertino, efallai. Mae popeth yn teimlo’n ffres, a’r peth gorau am yr holl beth yw’r ffaith nad yw’r gorau y tu ôl i ni. Mae mwy i ddod gan y don newydd o artistiaid sydd yn brwydro’n galed i fod yn gyfoes ac yn gyfredol, ac yn gwrthod setlo ar hen soffa gyfarwydd SRG y blynyddoedd a fu. Lle awn ni rwan, ar ôl cyrraedd y ‘brig’? Newid y ‘brig’, dyna be’. Dydy popeth ddim yn berffaith ac yn bur, ac mae dylanwadau artistiaid fel Tame Impala a Mac DeMarco mor amlwg â theulu o bengwins yn y Sahara, ond ‘da ni’n mynd i rywle. Efallai fy mod i wedi cyffroi’n ormodol am ambell artist, ond dyna sy’n wych. Mae artistiaid yn chwilio am eich emosiynau chi ac yn barod i’ch tywys ar daith, nid yn barod i gyfeilio eich taith flynyddol i gae’r . Lle awn ni rwan? Dim syniad. Mae angen

Ffair Ffurfiau | Cyfres o flogiau 1 TAG Cymraeg Iaith Gyntaf - Uned 2  Ffair Ffurfiau

mwy o gigs, mae angen mwy o gyfleoedd i glywed y cyffro a sbardunodd y newid yn 2017 yn fyw o’n blaenau. Mae angen mwy o albyms, mae angen mwy o back catalogue i sbio’n ôl mewn pum mlynedd. Dw i isio barnu pumed albwm Los Blancos am fod yn rhy poppy yn 2025. Dw i isio canmol Adwaith am gofleidio hip hop yn eu pedwerydd albwm. Dw i isio clywed albwm back to basics Yr Eira, dw i isio clywed Fleur De Lys yn troi pennau’r beirniaid mwyaf llym ar ôl rhyddhau eu seithfed albwm gysyniadol. Dw i isio gweld pethau’n ac yn adnewyddu cyn chwalu. Dw i isio casau, dw i isio gwironi. ‘Dw i wedi ceisio gorfodi rhyw naratif ar y flwyddyn, fel ymateb, ac fel gwrthwyneb i’r hyn a fu, ac efallai nad ydych yn cytuno. Efallai eich bod yn meddwl bod 2017 wedi bod yn flwyddyn ‘ddiddorol’, ac yn flwyddyn o ambell diwn. Gwych, cawn adael 2017 yn y fan a’r lle. Ond i mi, mi fuaswn i wrth fy modd yn meddwl ein bod ni wedi dechrau rhywbeth pwysig a chyffrous, a mewn gwirionedd, os mae ‘na ddigon o bobl yn barod i wthio’r naratif hwn ac yn barod i brofi hyn yn wir, dyma’n union wnaiff ddigwydd. Dim amheuaeth. ‘Alla i ddim meddwl am 2017 heb feddwl am y dyfodol. Ym mhob ffordd, mi o’n i’n caru, casau a theimlo dim byd am 2017.

Gwobrau SaS 2017! https://sonamsin.cymru/2018/01/04/gwobrau-sas-2017/

IONAWR 4, 2018

Gyda blwyddyn arall wedi mynd heibio, mae’n amser dilyn trywydd traddodiadol a gwobrwyo ein hoff bethau o 2017. Cafwyd nifer o senglau ac EPs gan fandiau newydd a chyffrous, tra’r oedd rhai o’r artistiaid mwyaf profiadol yn rhyddhau albyms gwych. ‘Doedd pob penderfyniad ddim yn hawdd o bell ffordd, a gallwch wylio Chris a Geth yn dadlau trafod y categorïau draw ar ein tudalen Facebook ni.

Ffair Ffurfiau | Cyfres o flogiau 2 TAG Cymraeg Iaith Gyntaf - Uned 2  Ffair Ffurfiau

Dyma ni! Enillwyr Gwobrau SaS 2017:

Albwm y Flwyddyn: Toddi gan Yr Eira

Lyric y Flwyddyn: “Mae gen i ddeg sigaret i bara am byth os da chi’n coelio mewn hud a lletwith” o Efrog Newydd Efrog Newydd gan Hyll Cover y Flwyddyn: Ar Draws y Gofod Pell gan Yucatan (fersiwn o Across The Universe gan The Beatles) Digwyddiad Byw y Flwyddyn: Gig FEMME yn Y Parrot Caerfyrddin gyda Ani Glass, Adwaith a Chroma Band i’w Gwylio yn 2018: Los Blancos Arwr y Flwyddyn: Labeli bychan Cymru! Record Fer y Flwyddyn: Hyll gan Hyll Cân y Flwyddyn: Aros o Gwmpas gan Omaloma Artist y Flwyddyn: Adwaith

Pedwar i’w Gwylio – Nadolig 2017 https://sonamsin.cymru/2017/12/26/pedwar-iw-gwylio-nadolig-2017/

RHAGFYR 26, 2017

Gyda’r diwrnod mawr drosodd am flwyddyn arall, mae hi’n bryd ini ddechrau meddwl am sut i lenwi’r amser yn y bit bach od ‘na rhwng ‘Dolig a’r flwyddyn newydd. Ar hyd a lled Cymru wsos yma ma ‘na lwythi o gigs gwych yn digwydd i’n diddanu. Dyma bedwar o fy mhigion i!

Ffair Ffurfiau | Cyfres o flogiau 3 TAG Cymraeg Iaith Gyntaf - Uned 2  Ffair Ffurfiau

Y Reu, Alffa, Gwilym Clwb Cymdeithasol Llanberis 28.12.17 19:00 Oce, ella mod i ‘chydig bach yn biased efo hon, ond dwi wir yn meddwl y bydd hi’n noson wych. Mae Y Reu yn un o fandiau byw mwyaf trydanol y sîn ar hyn o bryd ac ma’ hon yn gyfle eithaf prin i’w gweld nhw yn chwarae. Alffa enillodd Brwydr y Bandiau Maes B ‘leni ac fel pob band dama’r deuawd blws-roc yn gwella gyda phob gig. Band diweddaraf label Côsh ydi Gwilym ac mae hon yn gyfle da i gael cip ar y band newydd. Hefyd, mi fydda i a Geth yn sbinio tiwns rhwng y bandia – mi fydd o’n wych!

Omaloma, Phalcons, Lastigband, Serol Serol, Bitw Clwb Llanrwst 28.12.17 19:00 Space pop oedd y gair ar wefusau pob ffan o gerddoriaeth Gymraeg yn 2017, a dyma gyfle i weld rhai o’r bandiau sydd ar flaen y gad yn y maes hwnnw.Aros ‘ o Gwmpas‘ ydi’r gân sydd wedi dod a Omaloma i sylw’r genedl eleni, ond nid one hit wonder mohonynt o bell ffordd. Byddwch yn barod am set llawn o bop perffaith. Un o fy hoff ganeuon i o 2017 ydi ‘Idle Ways‘ gan Phalcons, ac i ddweud y gwir, dydw i ddim yn gwybod rhyw lawer amdanynt. Maen nhw’n ymddangos i fod yn ychydig o supergroup felly dwi’n siŵr y byddan nhw werth eu gweld. Fel y ddau sydd yn chwarae ar eu hôl nhw, band arall o lwch Sen Segur ydi Lastigband. Mae eu roc arbrofol fel y clywir ar eu EP,Torpido am wneud set ddiddorol. Prin yw’r cyfleoedd wedi bod i weld Serol Serol ers ymddangosiad y band dros yr haf felly pam ddim manteisio ar y siawns i’w gweld nhw’n chwarae ar dir cartref? Yr artist a atgyfododdClwb Senglau Sain, Bitw fydd yn agor y noson. Lein-yp enfawr yn Llanrwst, 5 band am £10! Bargen os fuodd yno un erioed!

Ffug, Hyll, Los Blancos Y Parrot, Caerfyrddin 29.12.17 19:30 Oes mai space pop fydd yn cynhyrfu Llanrwst, pync-roc fydd sŵn Caerfyrddin nos Wener. Ffug ydi prif fand y noson ac mae’u cyfuniad o gerddoriaeth felodig a geiriau craff Iolo James bob amser yn gwneud set gofiadwy. Cyfuniad tebyg ydi apêl Hyll, mae eu EP nhw yn un o uchafbwyntiau cerddorol y flwyddyn ac yn werth ei weld yn fyw. Los Blancos fydd yn agor y noson, dwi heb stopio gwrando ar eu sengl ddwbl ddiweddar Datgysylltu/Chwarter i Dri ers iddo ddod allan, mae’r band yn addo bod mwy i ddod yn 2018 felly bydd hon yn gyfle da i’w gweld nhw cyn y bydd pawb arall yn siarad amdanynt!

Yr Eira, Fleur De Lys, Cpt.Smith Canolfan Hermon, 29.12.17 20:00 Ma’ na rhywbeth bach i bawb ar y lein-yp yma yn Hermon. Yn cloi blwyddyn arbennig iddynt ar ôl rhyddhau eu albym cyntaf bydd Yr Eira yn camu i’r llwyfan gyda’r sŵn indie enfawr maent wedi bod yn ei berffeithio dros y ha’.

Ffair Ffurfiau | Cyfres o flogiau 4 TAG Cymraeg Iaith Gyntaf - Uned 2  Ffair Ffurfiau

Mae Fleur De Lys yn cynnig caneuon pop bachog a digon o showmanship gan eu prif leisydd Rhys Edwards. Bydd pync-roc Cpt Smith yn agor y noson, ac yn siŵr o wneud i galonnau a meddyliau Sir Benfro rasio! Dipyn o ddewis yma i chi felly, a llawer mwy yn digwydd ar hyd y wlad hefyd. Os nad ydych chi yn gallu ffeindio rwbath ‘da chi isio’i weld yna dwi’m yn rhy siŵr pam eich bod chi’n darllen hwn, i fod yn onest!

Y label newydd mwyaf cyffrous? Decidedly.

https://sonamsin.cymru/2016/11/19/y-label-newydd-mwyaf-cyffrous-decidedly/

TACHWEDD 19, 2016

Mae ‘na lawer ohonom yn siarad am y diffygion mewn cerddoriaeth Gymraeg. Ond faint ohonom sydd yn fodlon gwneud rhywbeth amdano? Yn yr wythdegau, roedd artistiaid ‘amgen’ fel Datblygu a’r Anhrefn, er eu bod yn denu sylw, yn methu â sicrhau cytundebau â’r label mwyaf yng Nghymru. Felly, creu labeli annibynnol (hynny yw, mwy annibynnol byth!) oedd yr unig ffordd ymlaen iddynt. Roedd twf y byd ‘tanddaearol’, a roddodd lwyfan i grwpiau newydd fel Y Cyrff a Ffa Coffi Pawb fagu eu crefft, yn golygu bod yna rhyw ddeuoliaeth newydd, od, yn perthyn i’r sîn roc Gymraeg. Mewn ffordd, os yw’r sîn yn medru cynnal un yn y selar o dan ei lloriau, mae’n dangos bod yna rhyw strwythur i fod yn falch ohoni. Ond, heddiw, er bod cerddoriaeth ‘amgen’ yn cael ei gymeradwyo’n frwd ar brydiau, mae diffygion yn dal i fodoli. Cama Decidedly i’r adwy. Er i Mark a Gruff drafod sefydlu label ers rhai blynyddoedd, bu i’r freuddwyd ddod yn wir ar ôl iddynt weld dau grŵp yn chwarae yng nghlwb y Parrot yng Nghaerfyrddin. Mae’r ddau ohonynt yn gefnogwyr brwd o gerddoriaeth a cherddorion, a’r mentrau cerddorol hyn sydd yn ganolbwynt i’w gweithredoedd. Mae’r ddau yn defnyddio labeli fel Factory, Peski, Shape ac Invada fel eu dylanwadau, ac yn wir, maent yn rhoi rhyddid creadigol llwyr i’w hartistiaid. I sicrhau hynny, penderfynodd y ddau mai menter di-elw fydd Decidedly. Ein nod yw cynorthwyo, nid rhwystro, a rhoi llwyfan i artistiaid esgyn ohono. Er mwyn rhoi llwyfan i’r grwpiau hyn, mae’r label wedi penderfynu rhyddhau senglau gan eu holl artistiaid yn barod, yn rhad ac am ddim, ar y we. Mae Adwaith, Hotel Salto ac ARGRPH yn restr gwbl amrywiol o artistiaid sydd â’u llygaid ar arbrofi â cherddoriaeth boblogaidd. Nid yw’r label yn ymwrthod â ffurfiau corfforol o gyhoeddi, fodd bynnag, a bydd senglau 7” yn cael eu gwerthu ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf. Yr artist cyntaf o’r rhestr i mi eu clywed oedd Adwaith. Dyma llemae Decidedly, a’r grŵp eu hunain, yn gweithredu ar un o ddiffygion amlwg y Sîn Roc Gymraeg. Gan eu bod yn grŵp o ferched yn unig, a hynny’n lleisiol ac yn offerynnol, maent yn syth yn un o ein grwpiau mwyaf cyffrous, a mwyaf

Ffair Ffurfiau | Cyfres o flogiau 5 TAG Cymraeg Iaith Gyntaf - Uned 2  Ffair Ffurfiau

arloesol. Mae Gwenllian Anthony (Gitâr fas, Mandolin), Hollie Singer (Llais, Gitâr), Eva Chelsea Free (Llais) a Heledd Owen (Drymiau) eisoes wedi’i clywed ar Radio Cymru gyda’u sengl ‘Pwysau’, a bu i mi ei hadolygu ar gyfer rhifyn diwethaf Y Selar. Mae’r sylwadaeth gymdeithasol yn gyfredol ac yn amserol, ac mae eu portread ôl-werin, di-gytgan o’r pwysau sydd ar bobl ifanc yn gyffredinol yn gyrru ias, yn sicr. Nid yw’n syndod eu bod yn enwi grwpiau fel Datblygu, The Velvet Underground a Johnny Cash fel eu dylanwadau, ac yn wir, maent wedi bod yn gweithio â Pat Datblygu er mwyn creu eu demos cyntaf. Mae sain Hotel del Salto yn.. wel.. yn cŵl. Mae ei bop arbrofol, lled-nostalgic, yn cyd-fynd yn berffaith â’i eiriau swreal sydd yn edrych tuag at gyfeiriad David Bowie. Mae ARGRPH yn enw cyfarwydd, ac er bod Emyr Siôn Taylor wedi rhyddhau un sengl gyda Chlwb Senglau’r Selar yn flaenorol, mae bellach yn un o arfau mwyaf talentog Decidedly. Mae ei sengl gyntaf ar y label, ‘Tywod’, yn amlwg wedi ei dylanwadu’n fawr gan gerddoriaeth syrff-roc, vibe- rock, ac nid yw’n syndod mai Llŷr Pari, Geth Davies a George Amor o grwpiau fel Sen Segur a Palenco yw’r band sydd yn cyfeilio iddo. Maent hefyd wedi derbyn sylwadau ffafriol iawn gan gylchgrawn Buzz, sydd i’w gweld yma. Y peth mwyaf trawiadol am Decidedly i mi yw eu delwedd bwriadol, sydd yn dangos ôl meddwl ac ôl gwaith trylwyr. Mae datganiadau unigol i’r wasg am bob artist a sengl yn cyflwyno straeon cefndirol hynod afaelgar, sydd bron fel darnau o gelfyddyd yn eu hunain. Yn sicr, mae’n rhaid i Decidedly barhau i weithio’n galed er mwyn derbyn sylw a hygrededd yma yng Nghymru, ond mae mwy na photensial yma i greu rhywbeth gwerth chweil. Mae’r ffaith eu bod eisiau, ac yn bwriadu, bod yn gwbl wahanol yn chwa o awyr iach i unrhyw un sydd wedi ‘laru ar yr un hen bethau. Mi fydda’ i yn edrych ar ambell label weithiau, a meddwl, ‘Petawn i’n artist ifanc, newydd, ‘efo’r label yna faswn i’n hoffi bod’. Yn bendant, mae Decidedly ar y rhestr hwnnw.

Pop Cymraeg a’r Welsh Pops https://sonamsin.cymru/2016/11/17/pop-cymraeg-ar-welsh-pops/

TACHWEDD 17, 2016.

Ydy’r Sîn Roc Gymraeg yn tyfu fyny? Yn sicr, mae wedi aeddfedu yn ystod 2016. Ac eithrio operâu roc y saithdegau a pherfformiad â Cherddorfa’r BBC, nid yw’r sîn erioed wedi gweld cymaint o gymysgu rhwng genres poblogaidd a rhai clasurol. Efallai eich bod yn buryddion ac yn credu’n gryf na ddylai cerddoriaeth boblogaidd – cerddoriaeth brotest yr ugeinfed ganrif, cyfrwng angst yr ifanc a mwynhad y wêr gyfoes, fynd yn agos at yr un cerddorfa, ond mae’n rhaid i mi anghytuno’n gryf. Fel aelod o ‘Clwb Cariadon’, prosiect achlysurol a sefydlwyd fel rhan o gyfres Sesiynau Unnos BBC Radio Cymru, mi’r oeddwn i’n ddigon ffodus o fod ymysg cerddorion hynod ddawnus a oedd â’r bwriad i ddod â’r cymysg hwn o genres yn

Ffair Ffurfiau | Cyfres o flogiau 6 TAG Cymraeg Iaith Gyntaf - Uned 2  Ffair Ffurfiau

fyw. Roedd Owain Llwyd a Casi Wyn wedi gweithio â’u gilydd eisoes ar brosiectau tebyg, gydag Owain yn trefnu caneuon Casi ar gyfer cerddorfa’r BBC ac ar gyfer pedwarawd llinynnol. Yn naturiol, roedd cynnwys Owain fel rhan o’n tîm yn golygu bod yna flas clasurol/ffilmaidd yn sicr o fod yn rhan o’r canlyniadau – a dyma’n union a gafwyd. Rhaid dweud, fodd bynnag, mai nid dewis cydwybodol o gymysgu genres oedd y bwriad – ond yn hytrach, darganfyddwyd fod nifer helaeth o ein dylanwadau cerddorol Eingl-Americanaidd yn gwneud defnydd o gerddorfa a phedwarawdau llinynnol yn barod. Does dim ond rhaid gwrando ar Florence and the Machine neu First Aid Kit i glywed defnydd o’r fath o linynnau byw. Doedd hyn ddim yn newydd, o bell ffordd, felly – gwrandewch ar unrhyw gân disco, neu unrhyw sampl hip-hop – mae llinynnau’n holl bresennol. Yr hyn oedd yn wahanol y tro hwn, oedd ein bod yn defnyddio’r offerynniaeth ehangach hwn fel rhan greiddiol o’r broses o ysgrifennu cân. Efallai fod diffyg cyllid artistiaid Cymraeg yn golygu nad yw’n bosib iddynt dderbyn cefnogaeth cerddorfa neu offerynniaeth o’r fath, ac felly roedd y sain a grëwyd yn gwbl newydd. A dyma yw’r pwynt. Mae’n digwydd o hyd – mae’r sîn yn ffynnu, ac yna’n distewi, ac yna’n ffynnu eto, o ganlyniad i’r ffaith fod grwpiau ac artistiaid yn tueddu i gyrraedd uchafbwynt yn eu poblogrwydd tua’r un pryd, ac nid oes digon o artistiaid eraill i gymryd eu lle wrth iddynt syrthio o’r brig. Ond nid oes yn rhaid i’r uchafbwynt hwnnw fod yr un fath bob tro. Nid oes rhaid i ‘hedleinio’ Maes B fod yn uchafbwynt. Nid oes rhaid ennill gwobr Selar i gyrraedd uchafbwynt. Rwan, mae na uchafbwynt newydd – chwarae â’r Welsh Pops Orchestra. Unwaith eto, i buryddion clasurol, efallai bod arddull ffilmaidd y Welsh Pops yn gwneud i chi wingo drwy eich harpsichords mewnol, ond digwyddodd rhywbeth arbennig iawn wrth iddynt gynnig cyfeiliant i dri o grwpiau mwyaf ein cyfnod ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol. Ers i Geraint Bowen, taid Gwilym Bowen Rhys a llywydd pwyllgor Pabell Lên a Drama Eisteddfod Genedlaethol 1967 roi’r Blew ar lwyfan y babell y flwyddyn honno, ni fu i’r Eisteddfod fentro i gofleidio ein sîn roc i’r graddau hyn o’r blaen. Mae Maes B yn cynnig ghetto o gerddoriaeth boblogaidd Gymraeg bob blwyddyn ers 1997, a gigs Cymdeithas yr Iaith yn holl bresennol ers tro byd, ond dyma i chi foment – moment pan roddwyd ein hoff grwpiau ar lwyfan y PAFILIWN. Llwyfan y pafiliwn… NEWYDD. Oes, mae arwyddion yn dod i’r amlwg sy’n datgan fod yr Eisteddfod yn barod i symud ymlaen i’r unfed ganrif ar hugain. Nid oedd modd anwybyddu llwyddiant a phoblogrwydd ysgubol grwpiau fel Swnami, Yr Ods a Candelas mwyach – roedd yn rhaid eu cofleidio, a hynny mewn steil. Unwaith eto, bu galw ar Owain Llwyd, cyfansoddwr a darlithydd ym Mhrifysgol Bangor i gamu i’r adwy gerddorol, a throi caneuon y grwpiau hyn yn gampweithiau arallfydol. Mae’n debyg mai caneuon Yr Ods oedd yn rhoi’r sgôp cerddorol ehangaf i Owain a’i drefniannau – roedd y caneuon arafach yn galluogi iddo arbrofi. Roedd perfformiad dynamig arferol Candelas yn cyd-fynd â choreograffi naturiol y gerddorfa yn anhygoel (ac yn bennaf drawiadol am mai Osian ei hun

Ffair Ffurfiau | Cyfres o flogiau 7 TAG Cymraeg Iaith Gyntaf - Uned 2  Ffair Ffurfiau

oedd wedi gwneud y trefniannau). Ond, i mi, yr uchafbwynt oedd set Swnami. Eu perfformiad nhw oedd yn agor y noson, a’u perfformiad nhw a gododdy gynulleidfa ar eu traed a gwneud i ni fod eisiau mynd i lawr i’r tu blaen. Mae’n rhaid i mi gyfaddef – fi oedd y cyntaf ar fy nhraed, a hynny dim ond ar ôl rhagarweiniad y gerddorfa… Cymysgedd o edmygedd ac ambell beint. A i ddim i fanylder cerddorol, ond mi ‘nath yr adran bres yn rhagarweiniad Gwenwyn chwalu fy mhen i. Mi nes i, a channoedd o bobl eraill, brofi rhywbeth nad ydw i erioed wedi ei brofi o’r blaen – ein hoff ganeuon Cymraeg wedi eu troi yn drac sain byw o gymhlethdod cerddorol o’r safon uchaf. Mae’n saff dweud fy mod yn un o’r pobl mwyaf cenfigennus yn y byd am ychydig funudau – ond mi’r o’n i hefyd mor falch fod y grwpiau hyn, sydd wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd diwethaf i gyrraedd safon uchel iawn, yn cael cydnabyddiaeth i’r fath raddau. Ac mi’r oeddan nhw’n sicr yn mwynhau eu hunain. Moment hanesyddol – heb os. Ac yna, ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod, mi gawsom ni berfformiad clywedol a gweledol drawiadol gan Fand Pres mwya’r foment – Band Pres Llareggub. Roedd y grŵp a oedd yn hedleinio Maes B y tro hwn… yn FAND PRES! Os nad yw hyn yn brawf mai 2016 yw blwyddyn y crossover, ‘dwn i ddim be’ sydd. Mae cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg yn tyfu i fyny y flwyddyn yma, ac yn cyrraedd uchelfannau na welwyd o’r blaen. Efallai nad yw’n cyflawni ein obsesiwn o dderbyn cydnabyddiaeth y tu hwnt i’r ffin, ac rwy’n gwybod, mae pawb wrth eu boddau yn clodfori’r SRG (a hynny oherwydd eu bod ofn ei cholli’n gyfan gwbl), ond ga’ i plis awgrymu ein bod ni wedi gweld rhywbeth anhygoel y flwyddyn yma? Mae na safon newydd rwan. Safon gwbl newydd. Ac efallai mai electronig fydd y dyfodol, efallai mai grwpiau Ôl-ôl-bync hollol syml yw’r dyfodol – ond yn sicr, mae’r bar wedi codi, ac mae’n rhaid neidio’n uchel iawn i guro’r wefr a deimlwyd ym Mhafiliwn y Fenni nos Iau diwethaf. Fandiau ifanc, gyfansoddwyr ifanc, gerddorion ifanc, ydych chi’n barod am yr her?

Ffair Ffurfiau | Cyfres o flogiau 8 TAG Cymraeg Iaith Gyntaf - Uned 2  Ffair Ffurfiau

Cydnabyddiaeth:

Diolch i Gethin Wyn Griffith am ei ganiatad parod i ni gynnwys blogiau Sôno am Sîn yn y gwaith yma.

https://sonamsin.cymru

Ffair Ffurfiau | Cyfres o flogiau 9