TAG Cymraeg Iaith Gyntaf - Uned 2 Ffair Ffurfiau Noder bod modd darllen pob blog yn ‘fyw’ trwy glicio ar y ddolen islaw pob pennawd. Mae’r testun mewn lliw gwyrddlas yn y dogfennau yma yn dangos pob dolen y gellid ei dilyn ar y fersiwn ‘byw’. GEIRIAU AM GERDDORIAETH Welodd ‘na neb 2017 yn dod… ac oes modd rhagweld 2018? https://sonamsin.cymru/2018/01/09/2017/ IONAWR 9, 2018 ‘Da ni’n siarad mewn seiniau. Space Pop. Slacker Rock. ‘Da ni’n siarad am Gaerfyrddin, am Lanrwst, am Gaerdydd. ‘Da ni’n sôn am Libertino. ‘Da ni’n sôn am Neb, ond yn sôn am bawb, yn cynnwys merched. ‘Da ni’n sôn am Aros o Gwmpas, heb aros yn ein hunfan. ‘Da ni’n sôn am ddyfodol Ffarout, yn nwylo Los Blancos, Cadno a Hyll. ‘Da ni’n sôn am sîn sydd yn adnewyddu ei hun, Adwaith ar ôl Adwaith. ‘Da ni’n sôn am Ani Glass. Class. ‘Da ni’n sôn am y Pasta, y Pys a’r Papur, yr Alffa a’r Omaloma. Does neb yn ein rheoli ni, a ni sydd yn gyfrifol am ein ffawd ein hunain. Chwalu bob dim. Smash ‘em. Mae unrhyw beth yn bosib. Mi allwch chi wneud deg sigarét bara’ am byth, hyd yn oed. Mae’r allt,hir, serth, a’r pwysau trwm yn eich dwylo yn Hen Hanes, ac mae egni newydd, gobeithiol 2017 yn barod i’w orfodi ei hun ar gynfas wag 2018. Achw met. Welodd ‘na neb 2017 yn dod. Heblaw am isymwybod Gruff Libertino, efallai. Mae popeth yn teimlo’n ffres, a’r peth gorau am yr holl beth yw’r ffaith nad yw’r gorau y tu ôl i ni. Mae mwy i ddod gan y don newydd o artistiaid sydd yn brwydro’n galed i fod yn gyfoes ac yn gyfredol, ac yn gwrthod setlo ar hen soffa gyfarwydd SRG y blynyddoedd a fu. Lle awn ni rwan, ar ôl cyrraedd y ‘brig’? Newid y ‘brig’, dyna be’. Dydy popeth ddim yn berffaith ac yn bur, ac mae dylanwadau artistiaid fel Tame Impala a Mac DeMarco mor amlwg â theulu o bengwins yn y Sahara, ond ‘da ni’n mynd i rywle. Efallai fy mod i wedi cyffroi’n ormodol am ambell artist, ond dyna sy’n wych. Mae artistiaid yn chwilio am eich emosiynau chi ac yn barod i’ch tywys ar daith, nid yn barod i gyfeilio eich taith flynyddol i gae’r Eisteddfod. Lle awn ni rwan? Dim syniad. Mae angen Ffair Ffurfiau | Cyfres o flogiau 1 TAG Cymraeg Iaith Gyntaf - Uned 2 Ffair Ffurfiau mwy o gigs, mae angen mwy o gyfleoedd i glywed y cyffro a sbardunodd y newid yn 2017 yn fyw o’n blaenau. Mae angen mwy o albyms, mae angen mwy o back catalogue i sbio’n ôl mewn pum mlynedd. Dw i isio barnu pumed albwm Los Blancos am fod yn rhy poppy yn 2025. Dw i isio canmol Adwaith am gofleidio hip hop yn eu pedwerydd albwm. Dw i isio clywed albwm back to basics Yr Eira, dw i isio clywed Fleur De Lys yn troi pennau’r beirniaid mwyaf llym ar ôl rhyddhau eu seithfed albwm gysyniadol. Dw i isio gweld pethau’n Datblygu ac yn adnewyddu cyn chwalu. Dw i isio casau, dw i isio gwironi. ‘Dw i wedi ceisio gorfodi rhyw naratif ar y flwyddyn, fel ymateb, ac fel gwrthwyneb i’r hyn a fu, ac efallai nad ydych yn cytuno. Efallai eich bod yn meddwl bod 2017 wedi bod yn flwyddyn ‘ddiddorol’, ac yn flwyddyn o ambell diwn. Gwych, cawn adael 2017 yn y fan a’r lle. Ond i mi, mi fuaswn i wrth fy modd yn meddwl ein bod ni wedi dechrau rhywbeth pwysig a chyffrous, a mewn gwirionedd, os mae ‘na ddigon o bobl yn barod i wthio’r naratif hwn ac yn barod i brofi hyn yn wir, dyma’n union wnaiff ddigwydd. Dim amheuaeth. ‘Alla i ddim meddwl am 2017 heb feddwl am y dyfodol. Ym mhob ffordd, mi o’n i’n caru, casau a theimlo dim byd am 2017. Gwobrau SaS 2017! https://sonamsin.cymru/2018/01/04/gwobrau-sas-2017/ IONAWR 4, 2018 Gyda blwyddyn arall wedi mynd heibio, mae’n amser dilyn trywydd traddodiadol a gwobrwyo ein hoff bethau o 2017. Cafwyd nifer o senglau ac EPs gan fandiau newydd a chyffrous, tra’r oedd rhai o’r artistiaid mwyaf profiadol yn rhyddhau albyms gwych. ‘Doedd pob penderfyniad ddim yn hawdd o bell ffordd, a gallwch wylio Chris a Geth yn dadlau trafod y categorïau draw ar ein tudalen Facebook ni. Ffair Ffurfiau | Cyfres o flogiau 2 TAG Cymraeg Iaith Gyntaf - Uned 2 Ffair Ffurfiau Dyma ni! Enillwyr Gwobrau SaS 2017: Albwm y Flwyddyn: Toddi gan Yr Eira Lyric y Flwyddyn: “Mae gen i ddeg sigaret i bara am byth os da chi’n coelio mewn hud a lletwith” o Efrog Newydd Efrog Newydd gan Hyll Cover y Flwyddyn: Ar Draws y Gofod Pell gan Yucatan (fersiwn o Across The Universe gan The Beatles) Digwyddiad Byw y Flwyddyn: Gig FEMME yn Y Parrot Caerfyrddin gyda Ani Glass, Adwaith a Chroma Band i’w Gwylio yn 2018: Los Blancos Arwr y Flwyddyn: Labeli bychan Cymru! Record Fer y Flwyddyn: Hyll gan Hyll Cân y Flwyddyn: Aros o Gwmpas gan Omaloma Artist y Flwyddyn: Adwaith Pedwar i’w Gwylio – Nadolig 2017 https://sonamsin.cymru/2017/12/26/pedwar-iw-gwylio-nadolig-2017/ RHAGFYR 26, 2017 Gyda’r diwrnod mawr drosodd am flwyddyn arall, mae hi’n bryd i ni ddechrau meddwl am sut i lenwi’r amser yn y bit bach od ‘na rhwng ‘Dolig a’r flwyddyn newydd. Ar hyd a lled Cymru wsos yma ma ‘na lwythi o gigs gwych yn digwydd i’n diddanu. Dyma bedwar o fy mhigion i! Ffair Ffurfiau | Cyfres o flogiau 3 TAG Cymraeg Iaith Gyntaf - Uned 2 Ffair Ffurfiau Y Reu, Alffa, Gwilym Clwb Cymdeithasol Llanberis 28.12.17 19:00 Oce, ella mod i ‘chydig bach yn biased efo hon, ond dwi wir yn meddwl y bydd hi’n noson wych. Mae Y Reu yn un o fandiau byw mwyaf trydanol y sîn ar hyn o bryd ac ma’ hon yn gyfle eithaf prin i’w gweld nhw yn chwarae. Alffa enillodd Brwydr y Bandiau Maes B ‘leni ac fel pob band da ma’r deuawd blws-roc yn gwella gyda phob gig. Band diweddaraf label Côsh ydi Gwilym ac mae hon yn gyfle da i gael cip ar y band newydd. Hefyd, mi fydda i a Geth yn sbinio tiwns rhwng y bandia – mi fydd o’n wych! Omaloma, Phalcons, Lastigband, Serol Serol, Bitw Clwb Llanrwst 28.12.17 19:00 Space pop oedd y gair ar wefusau pob ffan o gerddoriaeth Gymraeg yn 2017, a dyma gyfle i weld rhai o’r bandiau sydd ar flaen y gad yn y maes hwnnw.Aros ‘ o Gwmpas‘ ydi’r gân sydd wedi dod a Omaloma i sylw’r genedl eleni, ond nid one hit wonder mohonynt o bell ffordd. Byddwch yn barod am set llawn o bop perffaith. Un o fy hoff ganeuon i o 2017 ydi ‘Idle Ways‘ gan Phalcons, ac i ddweud y gwir, dydw i ddim yn gwybod rhyw lawer amdanynt. Maen nhw’n ymddangos i fod yn ychydig o supergroup felly dwi’n siŵr y byddan nhw werth eu gweld. Fel y ddau sydd yn chwarae ar eu hôl nhw, band arall o lwch Sen Segur ydi Lastigband. Mae eu roc arbrofol fel y clywir ar eu EP,Torpido am wneud set ddiddorol. Prin yw’r cyfleoedd wedi bod i weld Serol Serol ers ymddangosiad y band dros yr haf felly pam ddim manteisio ar y siawns i’w gweld nhw’n chwarae ar dir cartref? Yr artist a atgyfododdClwb Senglau Sain, Bitw fydd yn agor y noson. Lein-yp enfawr yn Llanrwst, 5 band am £10! Bargen os fuodd yno un erioed! Ffug, Hyll, Los Blancos Y Parrot, Caerfyrddin 29.12.17 19:30 Oes mai space pop fydd yn cynhyrfu Llanrwst, pync-roc fydd sŵn Caerfyrddin nos Wener. Ffug ydi prif fand y noson ac mae’u cyfuniad o gerddoriaeth felodig a geiriau craff Iolo James bob amser yn gwneud set gofiadwy. Cyfuniad tebyg ydi apêl Hyll, mae eu EP nhw yn un o uchafbwyntiau cerddorol y flwyddyn ac yn werth ei weld yn fyw. Los Blancos fydd yn agor y noson, dwi heb stopio gwrando ar eu sengl ddwbl ddiweddar Datgysylltu/Chwarter i Dri ers iddo ddod allan, mae’r band yn addo bod mwy i ddod yn 2018 felly bydd hon yn gyfle da i’w gweld nhw cyn y bydd pawb arall yn siarad amdanynt! Yr Eira, Fleur De Lys, Cpt.Smith Canolfan Hermon, 29.12.17 20:00 Ma’ na rhywbeth bach i bawb ar y lein-yp yma yn Hermon. Yn cloi blwyddyn arbennig iddynt ar ôl rhyddhau eu albym cyntaf bydd Yr Eira yn camu i’r llwyfan gyda’r sŵn indie enfawr maent wedi bod yn ei berffeithio dros y ha’. Ffair Ffurfiau | Cyfres o flogiau 4 TAG Cymraeg Iaith Gyntaf - Uned 2 Ffair Ffurfiau Mae Fleur De Lys yn cynnig caneuon pop bachog a digon o showmanship gan eu prif leisydd Rhys Edwards. Bydd pync-roc Cpt Smith yn agor y noson, ac yn siŵr o wneud i galonnau a meddyliau Sir Benfro rasio! Dipyn o ddewis yma i chi felly, a llawer mwy yn digwydd ar hyd y wlad hefyd. Os nad ydych chi yn gallu ffeindio rwbath ‘da chi isio’i weld yna dwi’m yn rhy siŵr pam eich bod chi’n darllen hwn, i fod yn onest! Y label newydd mwyaf cyffrous? Decidedly.
Details
-
File Typepdf
-
Upload Time-
-
Content LanguagesEnglish
-
Upload UserAnonymous/Not logged-in
-
File Pages9 Page
-
File Size-