Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Gan Ian Hargreaves

Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Roedd y Strategaeth Diwydiannau Creadigol a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (Llywodraeth y Cynulliad) yn 2004 yn deillio o’r gred bod y sector hwn yn un hollbwysig i Gymru. Ar hyn o bryd, nodir bod sector y diwydiannau creadigol yn un o chwe sector sy’n strategol bwysig i economi Cymru, ochr yn ochr â biowyddoniaeth, iechyd, gwasanaethau ariannol, y sector modurol ac awyrofod. Yn ogystal, mae’r dull sector a fabwysiadwyd gan y Llywodraeth yn enwi telathrebu a TGCh fel un o dri sector craidd neu alluogi. Un o ragdybiaethau’r adolygiad hwn yw na ellir deall na llywio dyfodol diwydiannau creadigol heb gyfeirio at seilwaith cyfathrebu digidol y wlad a’r economi ddigidol ehangach. 1. Crynodeb Yn ôl Prydain Ddigidol, fframwaith polisi Llywodraeth y DU yn y maes hwn, y sector digidol sy’n gyfrifol am un rhan o ddeg o allbwn economaidd y DU. Dim ond trwy bennu ei fframwaith polisi ei hun, a gefnogir gan y trefniadau sefydliadol cywir, i helpu i feithrin busnesau creadigol y bydd Cymru’n llwyddo yn y maes deinamig hwn. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi meddu ar strategaeth diwydiannau creadigol ers 2004. Mae elfennau o’r strategaeth hon, sy’n rhoi pwyslais cryf ar helpu i fanteisio’n llawn ar eiddo deallusol, wedi’u mabwysiadu mewn rhannau eraill o’r DU. Mae hi hefyd yn glir, fodd bynnag, bod strategaeth 2004 wedi methu â sefydlu dull strategol cydlynol digonol mewn perthynas â’r sector creadigol a bod hyn wedi arwain at golli rhywfaint o hyder yng ngweithgareddau Llywodraeth y Cynulliad. Mae’r adolygiad hwn yn nodi bylchau yn y sectorau a gwmpesir gan strategaeth 2004 ac yn cynnig ffyrdd o adnewyddu’r strategaeth a gwella’r dulliau a ddefnyddir i bennu cyfeiriad strategol a darparu cymorth busnes mwy effeithiol. Y nod yw adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn gadarn. Mae’r adolygiad cyfredol yn cadarnhau pwysigrwydd y sector diwydiannau creadigol ar adeg pan fo perfformiad economaidd Cymru’n parhau i ddioddef o orddibyniaeth gymharol ar sectorau sy’n darparu lefelau cymharol isel o werth ychwanegol. Ar draws y DU, tyfodd diwydiannau creadigol ar gyfradd o 4% y fl wyddyn rhwng 1997 a 2006, yn erbyn twf economaidd cyfartalog o 3%. Y prif sbardunau yn ystod y cyfnod hwn oedd cyfryngau digidol fel gemau fi deo. Mae’r adolygiad hefyd yn nodi Rhaglen Adnewyddu’r Economi, a gyfl wynwyd gan Ddirprwy Brif Weinidog Cymru gyda’r nod o dargedu adnoddau lle byddant yn cael yr effaith fwyaf, ynghyd â strategaeth newydd Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer yr economi ddigidol, sef Cymru Ddigidol. Mae’r ddau ddatblygiad hyn yn hollbwysig i lwyddiant diwydiannau creadigol Cymru.

Tudalen 1 Fodd bynnag, mae hefyd angen i Gymru fod yn realistig. Ni all pob gwlad a rhanbarth yn y DU sefydlu presenoldeb diwydiannau creadigol blaenllaw ac, er gwaethaf ei chryfderau hanesyddol ym maes cerddoriaeth a darlledu, nid yw Cymru ar fl aen y gad. Yn wir, heb ymdrech barhaus, mae yna berygl difrifol y bydd sefyllfa gymharol Cymru yn y maes diwydiannau creadigol yn gwanhau dros y blynyddoedd nesaf. Mae hefyd yn bwysig cofi o mai swyddogaeth gyfyngedig sydd gan y Llywodraeth i feithrin unrhyw sector busnes: yn y pen draw, ymdrechion busnesau unigol gyda chymorth y Llywodraeth sy’n gyfrifol am lwyddiant, ac nid arweiniad y Llywodraeth ei hun. Mae’r adolygiad yn nodi nifer o gamau sydd â’r nod o wella rhagolygon Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys: sicrhau bod anghenion y sector creadigol yn cael eu diwallu’n llawn yn agwedd ehangach Cymru at yr economi ddigidol; sicrhau bod Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio mor effeithiol â phosibl gyda Llywodraeth San Steffan (sy’n goruchwylio’r rhan fwyaf o gyllid cyhoeddus ar gyfer y sector creadigol); a sicrhau bod ymyriadau uniongyrchol Llywodraeth y Cynulliad yn cael eu cyfeirio a’u gweithredu’n dda gan gael effaith fawr ar draws y sector diwydiannau creadigol cyfan. Mae’r adolygiad yn cynnig newidiadau mawr i’r ffordd y caiff polisi diwydiannau creadigol ei drafod a’i ddarparu gan Lywodraeth y Cynulliad ac yn cynnig Cronfa Diwydiannau Creadigol newydd i ddisodli’r Gronfa Eiddo Deallusol Creadigol gyfredol. Mae’n galw am sefydlu Bwrdd Cymru Ddigidol a Bwrdd Diwydiannau Creadigol i gael eu harwain gan unigolyn profi adol o’r tu allan i Lywodraeth. Mae hefyd yn cynnig gweddnewid gwasanaethau cymorth busnes ar gyfer y diwydiannau creadigol. Gan fod polisi diwydiannau creadigol yn ceisio cyfl awni amcanion diwylliannol ac economaidd, mae polisi diwydiannau creadigol cryf hefyd yn gofyn am bartneriaeth hynod effeithiol gyda darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a sefydliadau’r celfyddydau, ynghyd â’r cyrff sy’n eu hariannu. I sicrhau hyn mae angen gweithio’n well ar draws ffi niau adrannol ar bob lefel yn Llywodraeth y Cynulliad, ac mae angen cytundeb newydd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Ganolfan Strategol Diwydiannau Creadigol a gynigir yn yr adolygiad hwn. Nodir argymhellion penodol yr adolygiad mewn print bras yn y testun canlynol. Yna, cânt eu cynnwys mewn crynodeb ar ddiwedd yr adroddiad.

Tudalen 2 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Amlinellwyd y cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad gan Ddirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog dros Dreftadaeth ym mis Gorffennaf 2009. Mae bron i 50 o sefydliadau a thua chant o unigolion wedi cyfrannu’n uniongyrchol at drafodaethau ar yr adolygiad. Gwahoddwyd pob cyfranogwr i gyfrannu naill ai’n agored neu’n gyfrinachol; dewisodd sawl un wneud cymysgedd o sylwadau agored a phreifat. Mae rhestr o’r rhanddeiliaid yr ymgynghorwyd â nhw yn Atodiad 1 ac mae cysylltiadau i nifer o gyfraniadau ysgrifenedig wedi’u darparu mewn troednodiadau i’r ddogfen hon neu fel atodiadau. Cynhaliwyd trafodaethau rhwng mis Medi 2009 a mis Ionawr 2010. Rwy’n ddiolchgar i bawb a gyfrannodd. Ar ôl pwyso a mesur y cylch gorchwyl gyda’r ddau Weinidog ac uwch swyddogion Llywodraeth y Cynulliad, cytunwyd y dylai’r adolygiad geisio cynhyrchu dogfen gymharol gryno erbyn dechrau 2010 sy’n gwneud argymhellion clir ac ymarferol ar gyfer gweithredu. Byddai hyn yn golygu bod yn rhaid canolbwyntio ar yr agweddau pwysicaf sy’n codi o’r cylch gorchwyl ac ni fyddai’n caniatáu comisiynu astudiaethau newydd hir (a chostus) o’r sector. Yr unig ddarn o waith ymchwil a gomisiynwyd gan yr adolygiad oedd asesiad o strategaethau diwydiannau creadigol mewn rhannau eraill o’r DU. Costiodd yr adroddiadi hwn £5,000, a dyma’r unig gost i Lywodraeth y Cynulliad o ganlyniad i’r adolygiad hwn. Dyma’r cylch gorchwyl llawn ar gyfer yr adolygiad: (i) Ystyried sut y gallwn gynyddu manteision economaidd a chymdeithasol y diwydiannau creadigol i Gymru: • Cynnal ymarfer i gael syniad o faint y farchnad ac adolygu’r cyfl eoedd i Gymru mewn perthynas â phob rhan o’r sector diwydiannau creadigol. • Adeiladu ar waith blaenorol yn y maes hwn, gan gynnwys Strategaeth Diwydiannau Creadigol gyfredol Llywodraeth y

2. Cylch Gorchwyl a Methodoleg 2. Cylch Gorchwyl Cynulliad, i ystyried effeithiolrwydd cysylltiadau mewnol ac allanol Llywodraeth y Cynulliad (gan gynnwys Busnes Creadigol Cymru, yr Asiantaeth Ffi lm, y Gronfa Eiddo Deallusol, a’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig) er mwyn: o sicrhau twf masnachol parhaus yn y sector. o sicrhau bod allbwn y sector yn bodloni buddiannau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol pobl Cymru yn y ffordd orau bosibl. • Cynghori Llywodraeth y Cynulliad ar: o greu cynllun gweithredu ar gyfer y sector allweddol hwn, gan nodi blaenoriaethau strategol ar gyfer y dyfodol.

Tudalen 3

o ymateb i argymhellion a goblygiadau adroddiad Prydain Ddigidol ar gyfer polisi Llywodraeth y Cynulliad ar ddarlledu a’r diwydiannau creadigol, gan gynnwys y goblygiadau i Gymru pe bai rhaglenni’n cael eu gweinyddu ar lefel y DU. o sut i fwrw ymlaen â’r gwaith o ddatblygu sgiliau yn y sector ac ar gyfer y sector, gan ystyried blaenoriaethau cyfredol o ran sgiliau sector. o sut i sicrhau bod y sector yn y sefyllfa orau bosibl i sicrhau twf cynaliadwy tymor hir – gan ystyried y modd y mae teledu, cerddoriaeth, y cyfryngau rhyngweithiol a ffi lm yn cydgyfeirio a manteision economaidd a diwylliannol sicrhau comisiynau rhwydwaith. (ii) Cynnal adolygiad o’r Gronfa Eiddo Deallusol mewn perthynas â’r canlynol: • I ba raddau mae’r Gronfa’n llwyddo i gefnogi twf economaidd cynaliadwy tymor hir yng Nghymru? • I ba raddau mae’r Gronfa’n llwyddo i helpu cwmnïau creadigol yng Nghymru i gadw a manteisio ar Eiddo Deallusol mwy masnachol? • A allai’r arian a roddir yn y Gronfa gael ei ddefnyddio’n well i helpu i gadw a manteisio ar Eiddo Deallusol creadigol yng Nghymru?

Tudalen 4 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mabwysiadwyd y term “diwydiannau creadigol” yn wreiddiol yng nghyd-destun polisi’r DU gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) ym 1998. Yn ôl yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, mae’r sector yn cynnwys y gweithgareddau hynny sy’n deillio o greadigrwydd, sgiliau a doniau unigol ac sydd â’r potensial i greu swyddi a chyfoeth trwy gynhyrchu a manteisio ar eiddo deallusol. Ystyriwyd bod y sector yn cynnwys 13 is-sector: hysbysebu, pensaernïaeth, crefftau, cerddoriaeth, dylunio, dylunio ffasiwn, gemau cyfrifi adurol, y celfyddydau perfformio, teledu a radio, cyhoeddi a meddalwedd. Yn fwy diweddar, mae Bwrdd Strategaeth Technoleg yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau a’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi cynnig ychwanegu is-sector ychwanegol: y cyfryngau cymdeithasol, gan adlewyrchu’r twf mewn rhwydweithiau cymdeithasol fel Facebook a Twitter. Mae’r Bwrdd Strategaeth Technoleg yn cydnabod nad yw pob un o’r is- sectorau hyn yn cael eu sbarduno gan dechnolegau cyfathrebu digidol i’r un graddau, fel y nodir isod. Fodd bynnag, mae’r siart yn nodi’r ffaith bod hyd yn oed y gweithgareddau creadigol hynny sy’n hen iawn, fel opera neu theatr, yn gallu manteisio ar rwydweithiau digidol, tra bod llawer o fusnesau creadigol, fel cwmnïau cerddoriaeth wedi’i recordio

Chefndir yr Adolygiad a darparwyr , yn dioddef oherwydd rhwydweithiau rhannu ffeiliau cyfl ym, byd-eang a digidol, ac anghyfreithlon yn aml, a’u heffaith ar eu modelau busnes.

Dull y Bwrdd Strategaeth Technoleg ar gyfer rhannu’r sector Diwydiannau Creadigol (ar gael yn

3. Cyd-destun y Farchnad a 3. Cyd-destun y Farchnad Saesneg yn unig)

Mae Llywodraeth y DU yn amcangyfrif bod yr holl ddiwydiannau creadigol hyn yn werth £60 biliwn y fl wyddyn neu saith y cant o allbwn economaidd y DU, gan gynnal dwy fi liwn o swyddi. Mae’r cyfraddau

Tudalen 5 twf mwyaf yn y sector creadigol dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod ym meysydd meddalwedd, gemau cyfrifi adurol a chyhoeddi electronig. Mae allforion blynyddol y DU yn y sector yn dod i gyfanswm o £16 biliwn (ffi gurau 2006). Yn ôl NESTAii, tyfodd economi greadigol y DU 4 y cant y fl wyddyn ar gyfartaledd rhwng 1997 a 2006, o gymharu â 3 y cant y fl wyddyn ar gyfer economi DU yn ei chyfanrwydd. Mae NESTA yn rhagweld y bydd y gorberfformio cymharol hwn yn parhau, er gwaethaf y braw yn ystod y dirwasgiad o ganlyniad i golli refeniw hysbysebu i is-sectorau fel teledu, radio a chyhoeddi. Mae’r difrod a wnaed i rai modelau busnes o ganlyniad i lai o reolaeth dros hawliau eiddo deallusol a mwy o fynediad i gynnwys “am ddim” yn cael ei wneud yn iawn gan effaith technolegau digidol ar y twf yn y defnydd o gynnwys creadigol. Mae’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn gweld y DU fel canolbwynt byd-eang ar gyfer diwydiannau creadigol sy’n manteisio ar gwmpas yr iaith Saesneg a thraddodiad cryf mewn meysydd fel ffasiwn, pensaernïaeth, cerddoriaeth, dylunio, argraffu, teledu a radio. Yn erbyn y cefndir hwn, aeth Strategaeth Diwydiannau Creadigol Cymru 2004 ati i sbarduno twf busnesau creadigol yng Nghymru trwy sicrhau buddsoddiad cyhoeddus dethol mewn busnesau creadigol ar sail meini prawf masnachol, trwy wella hyfforddiant a thrwy sicrhau cymorth busnes mwy arbenigol ac sydd wedi’i dargedu’n well. Roedd yn rhagweld adeiladu ar gryfderau Cymru mewn is-sectorau creadigol fel cerddoriaeth (o Eisteddfodau, Bryn Terfel a Tom Jones i’r Manic Street Preachers a Duffy); teledu (Dr Who, rhaglenni wedi’u hanimeiddio a sector cynhyrchu sylweddol mewn perthynas ag ) a llwyddiant cwmnïau ffasiwn blaenllaw fel Laura Ashley, Toast a Howies. Mae gan Gymru le amlwg ymhlith diwylliannau Celtaidd, ac mae hi hefyd yn elwa ar fanteision byd-eang yr iaith Saesneg. Yn ddaearyddol, mae’r De ddwy awr ar y trên o ganolfan greadigol fyd-eang Llundain (y ganolfan gryfaf o’i bath yn Ewrop), ac mae’r Gogledd mewn lleoliad cystal o ran ei bod yn agos i’r ganolfan gyfryngau sy’n datblygu ym Manceinion. Mae gan Gymru hefyd asedau addysgol amlwg mewn diwydiannau creadigol, fel Ysgol Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Caerdydd, yr ysgol newyddiaduriaeth hynaf yn y DU, ac Athrofa Darlledu Uwch newydd Casnewydd, sy’n adeiladu ar draddodiad hir ym maes ffi lm. Er gwaethaf yr holl weithgarwch a ysgogwyd gan strategaeth 2004, mae agwedd Cymru at y diwydiannau creadigol yn dal yn ei dyddiau cynnar. Er enghraifft, nid yw union faint a siâp sector diwydiannau creadigol Cymru wedi’u mapio’n llawn. Yn bennaf seiliedig ar ddata o Gynghorau Sgiliau Sector, ein hamcangyfrif gorau yw bod diwydiannau creadigol yn cynrychioli rhwng 22,000 a 30,000 o swyddi (rhwng 1.7 a 2.3 % o gyfanswm cyfl ogaeth Cymru) ac yn cyfrannu rhwng £450 miliwn

Tudalen 6 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

a £500 miliwn i allbwn economaidd blynyddol Cymru: 1-1.1% y cant o’r cyfanswm. Fodd bynnag, ni ellir dibynnu ar y data hwn.iii Mae rhai o’r bylchau’n deillio o’r ffaith nad oes un uned unigol yn Llywodraeth y Cynulliad yn gyfrifol am sefydlu a chynnal cronfa ddata ar gyfer y diwydiannau creadigol. Yn unol â’r cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad hwn, gofynnais am i’r data angenrheidiol gael ei grynhoi a’i godio mewn ffordd a fyddai’n sicrhau ei fod yn gytûn â dosbarthiadau swydd a sector Llywodraeth y DU. Mae’r dasg honno wrthi’n cael ei chyfl awni. Argymhelliad: Dylai Llywodraeth y Cynulliad wneud trefniadau i fapio diwydiannau creadigol Cymru, gan gynnwys y 14 is-sector sy’n cael eu holrhain gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a’r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau (BIS) ar lefel y DU. Heb y data hwn, ni fydd yn bosibl i Gymru ddyfeisio ymagwedd strategol gredadwy at y cyfl eoedd economaidd dan sylw na gwerthuso effaith polisïau mewn perthynas â rhannau eraill o’r DU. Ar lefel y DU, mae polisïau mewn perthynas â’r sector diwydiannau creadigol yn datblygu’n gyfl ym. Mae’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a’r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau, sy’n gweithio gyda’i gilydd i oruchwylio polisïau’n ymwneud â’r cyfryngau, materion diwylliannol, chwaraeon, busnes, datblygiad economaidd, arloesedd, hyfforddiant a phrifysgolion, wedi gwneud cryn ymdrech i gyfl wyno fframwaith polisi trawsbynciol. Arweiniodd hyn at Prydain Ddigidol, yr adolygiad dan arweiniad yr Arglwydd Stephen Carter, cyn Brif Weithredwr Ofcom, sef corff rheoleiddio’r cyfryngau a thelathrebu, a aeth ati trwy ei rôl yn Nhy’r^ Arglwyddi i arwain tîm a oedd yn cynwnys aelodau o BIS a’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, gyda chymorth amrywiaeth o arbenigwyr o’r diwydiant, i ddatblygu fframwaith polisi a gyhoeddwyd ym mis Mehefi n 2009.iv Mae agweddau ar y rhaglen hon wedi’u cynnwys yn y Mesur Economi Ddigidol sy’n mynd trwy Senedd y DU ar hyn o bryd. Ni ellir dweud yn sicr pa mor gadarn fydd y gwaith hwn ar draws adrannau yn y dyfodol, yn enwedig o ystyried bod Etholiad Cyffredinol ar y gorwel, ond mae Prydain Ddigidol yn amlinellu agenda strategol o bwys mawr i Gymru. Mae’n cynnwys: • Creu rhwydwaith band eang cyfl ymder uchel, gwifredig a di- wifr, gan gynnwys ar gyfer “traean olaf” y boblogaeth sydd heb wasanaeth digonol ar hyn o bryd (cyfanswm anghymesur o gymharu â gwledydd eraill y DU); • Gwell mynediad i adnoddau digidol i aelwydydd tlotach; • Gwell darpariaeth a mynediad o ran sgiliau digidol;

Tudalen 7 • Nodi’r sectorau hynny lle na ellir cyfi awnhau ymyrraeth gyhoeddus gan fod y farchnad eisoes yn gweithio’n foddhaol; • Ehangu pwerau’r rheoleiddiwr, Ofcom, i gynnwys annog buddsoddiad fel modd o fodloni buddiannau defnyddwyr ymhellach ochr yn ochr â’i ddyletswydd statudol gyfredol i hyrwyddo cystadleuaeth lle bo’n briodol; • Cwblhau’r seilwaith radio digidol DAB erbyn 2015; • Polisïau cryf i ddiogelu eiddo deallusol rhag cael ei ddwyn; • Mentrau newydd (gwerth £40 miliwn) i sbarduno ymchwil ac arloesedd cydweithredol a chyn cystadlu; yn ogystal, bydd cynghorau ymchwil y DU yn buddsoddi £130 miliwn dros dair blynedd mewn Rhaglen Economi Ddigidol gydgysylltiedig; • Ystyried y gyfundrefn dreth ar gyfer y diwydiant gemau cyfrifi adurol; • Polisïau i bennu maint, siâp a threfn lywodraethu’r BBC a Channel 4 yn y dyfodol; • Cefnogi’r tri threial (gan gynnwys un yng Nghymru) i brofi hyfywedd cenhedlaeth newydd o Gonsortia Newyddion i lenwi’r bwlch a adewir gan ITV ar ôl iddo roi’r gorau i gynhyrchu newyddion rhanbarthol ac i fanteisio ar gyfl eoedd newydd mewn gwasanaethau newyddion ar-lein; • Polisïau i gynnwys TGCh a sgiliau creadigol yn y cwricwlwm ysgol (Saesneg); • Mesurau newydd ar ddiogelwch y rhyngrwyd a diogelu data; • Mentrau i hyrwyddo’r gwaith o ddarparu mwy o wasanaethau cyhoeddus ar y we, trwy gaffael a chomisiynu, a chyda Llywodraeth y DU fel canolfan strategol ar gyfer datblygu nerth digidol Prydain yn y dyfodol; • Pennu cynllun pontio er mwyn annog y Llywodraeth i ddechrau defnyddio “cyfrifi adura cwmwl”; • Datgloi hawliau sydd wedi’u rhoi i’r neilltu ers amser maith neu “amddifad”; • Asiantaeth Darparu Digidol newydd i ddatblygu gwaith newid i’r digidol, band eang y genhedlaeth nesaf a materion eraill. Daw crynodeb gweithredol adroddiad Prydain Ddigidol i ben trwy gydnabod bod agenda Prydain Ddigidol yn cwmpasu amrywiaeth eang o bolisïau, a bod y gweinyddiaethau datganoledig yn gyfrifol am rai ohonynt. Felly, nid yw’r holl fentrau y cyfeirir atynt yn yr adroddiad yn

Tudalen 8 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

cwmpasu’r DU gyfan. Mae Llywodraeth y DU yn gobeithio gweithio mewn partneriaeth â’r gweinyddiaethau datganoledig i ddarparu economi ddigidol lwyddiannus ar draws y DU, ond mae’n cydnabod hwyrach y bydd angen gweithredu’n wahanol mewn gwahanol rannau o’r DU ar gyfer rhai meysydd polisi, fel addysg a rhai gwasanaethau cyhoeddus. O safbwynt Cymru, mae’n hanfodol sicrhau bod y bartneriaeth hon yn gweithio i ddarparu cyfran deg o adnoddau sy’n gysylltiedig â rhaglenni’r DU gyfan, gyda 5 y cant o unrhyw un o raglenni’r DU (yn seiliedig ar gyfran Cymru o boblogaeth y DU) yn fesur teg. Mae’n ddiddorol nodi’r siart isod, sy’n deillio o adroddiad diweddar gan Fwrdd Strategaeth Technoleg Llywodraeth y DU, sy’n dangos yr ystod o asiantaethau a ariennir gan arian cyhoeddus sy’n ategu diwydiannau creadigol y DU. Mae’n nodi ehangder yr arbenigedd a’r dylanwad sydd eu hangen ar Lywodraeth y Cynulliad i gyrraedd ei nod o hyrwyddo sector o bwys strategol i Gymru. Cynllun darpariaeth cymorth arloesedd a ariennir gan sector cyhoeddus y DU ar gyfer sector Diwydiannau Creadigol y DU (ar gael yn Saesneg yn unig)

Cafodd Prydain Ddigidol ei seilio’n helaeth ar ddarn o waith cynharach: Creative Britain – New Talents for the New Economy, a ymddangosodd yn 2008 ac a oedd yn cynnwys llofnod chwe o Weinidogion Llywodraeth y DU, yn ogystal â llofnod y Prif Weinidog. Mae’n amlinellu 26 ymrwymiad penodol sydd â’r nod o sicrhau bod y diwydiannau creadigol yn symud o’r cyrion i’r prif ffrwd o ran meddylfryd economaidd a pholisi wrth i ni edrych tua’r dyfodol. Mae’r ymrwymiadau hyn yn ymestyn trwy addysg ar bob lefel, ymchwil, trosglwyddo gwybodaeth, mynediad i gyllid, cymorth busnes,

Tudalen 9 prentisiaethau, hawliau eiddo deallusol, clystyrau, amrywiaeth; rôl Cyngor Celfyddydau Lloegr, band eang, lleoliadau cerddoriaeth fyw, marchnata, gwyliau a digwyddiadau. Sefydlodd hefyd fecanweithiau ar draws adrannau i gadw’r strategaeth yn ffres a chynaliadwy. Argymhelliad: Dylai Llywodraeth y Cynulliad (trwy’r peirianwaith newydd a nodir isod) sicrhau ei bod mewn sefyllfa dda i gael y gwerth mwyaf posibl o raglenni Prydain Ddigidol a Creative Britain Llywodraeth y DU, ynghyd â mentrau eraill ar lefel y DU yn y dyfodol a gynlluniwyd i gefnogi diwydiannau creadigol a’r economi ddigidol. Gan weithio ar y cyd â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, dylid gofyn i Bwyllgor Materion Cymreig Ty’r^ Cyffredin gynnal archwiliadau rheolaidd o effaith gwariant y DU ar ddiwydiannau creadigol a’r economi ddigidol yng Nghymru er mwyn diogelu buddiant Cymru.

Tudalen 10 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Ers nodi diwydiannau creadigol fel sector o bwys strategol yn 2004, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cymryd sawl cam pwysig. Mae’r rhain yn cynnwys: • Lansio “Llwyddiant Creadigol: strategaeth ar gyfer y diwydiannau creadigol yng Nghymru” yn 2004v • “Galluogi Cymru Ddigidol: Strategaeth TGCh Llywodraeth Cynulliad Cymru.” Roedd y darn hwn o waith yn tynnu at ei derfyn adeg yr adolygiad hwn. Adeiladodd Strategaeth Diwydiannau Creadigol 2004 ar y dull sector a oedd eisoes ar waith ar gyfer y diwydiannau modurol ac awyrofod. Canolbwyntiodd yn gyntaf ar ffi lm, teledu, y cyfryngau newydd a cherddoriaeth gyda’r nod (nas cyfl awnwyd) o ymestyn ei chwmpas i rannau eraill o’r clwstwr diwydiannau creadigol maes o law. Cyfl wynodd y strategaeth dri llwybr gweithgarwch: Cronfa Eiddo Deallusol Creadigol gwerth £7 miliwn a gynlluniwyd i sicrhau gwaith i Gymru a’i busnesau creadigol; dull mwy strategol o ddarparu cymorth busnes digon medrus i ddiwydiannau creadigol, a hyfforddiant ac addysg sy’n cael eu targedu’n well. Rhoddwyd pwyslais cryf ar werth denu arbenigedd y diwydiant i lywio’r gwaith o lunio polisïau a darparu gwasanaethau. Galwodd y strategaeth ar Lywodraeth y Cynulliad i ddefnyddio dull “model olwyn”, gyda chanolfan sy’n cael ei chynghori gan banel o arbenigwyr yn pennu cyfeiriad, wedi’i chysylltu ag adenydd ar gyfer is-sectorau penodol y sector diwydiannau creadigol. Dylai’r adenydd gael eu harwain gan gyfl ogwyr lle bo’n bosibl. Sefydlwyd y Gronfa Eiddo Deallusol yn gyfl ym, ac fe’i goruchwyliwyd gan bwyllgor buddsoddi profi adol. Mae cryn ymdrech wedi’i wneud i wella hyfforddiant ar gyfer rhai sectorau creadigol, ond roedd yr elfennau allweddol eraill yn y cynllun dipyn yn anoddach i’w rhoi ar waith. Ni ddaeth y panel arfaethedig o arbenigwyr i ffrwyth oherwydd gwahaniaeth barn am fanteision lleoli’r ganolfan diwydiannau creadigol newydd o fewn neu’r tu allan i Lywodraeth y Cynulliad. Yn 4. Ymateb Llywodraeth y Cynulliad gryno, methodd â sicrhau’r awdurdod angenrheidiol i ddiffi nio llwybr strategol y gallai fod wedi gwerthuso cynnydd yn ei erbyn. Cafodd rhanddeiliaid busnes creadigol, a oedd yn disgwyl dull integredig mewn perthynas â buddsoddi a chymorth busnes, eu siomi’n arw. Heddiw, mae rhanddeiliaid yn feirniadol iawn o berfformiad Llywodraeth y Cynulliad Hyd Yma i Her y Diwydiannau Creadigol Hyd Yma i Her y Diwydiannau Creadigol o ran darparu gwasanaethau cymorth busnes i’r sector creadigol. Dros y fl wyddyn ddiwethaf, mae yna rywfaint o dystiolaeth bod swyddogion Llywodraeth y Cynulliad wedi llwyddo i gael y system i weithio’n well – er enghraifft trwy sicrhau ei bod hi’n haws i fusnesau creadigol gael gafael ar gyllid i gefnogi gweithgareddau ymchwil

Tudalen 11 a datblygu. Enghraifft arall yw’r ffordd y darparodd Llywodraeth y Cynulliad becyn cymorth ariannol i annog Hartswood Films, un o brif gynhyrchwyr dramâu teledu yn y DU, i sefydlu swyddfa gynhyrchu yng Nghaerdydd er mwyn adeiladu ar lwyddiant ei gyfres ddrama tair rhan, Sherlock, ar gyfer y BBC. Ond mae’r dull cyffredinol yn dal i ddioddef o ddiffyg diben strategol clir ac atebolrwydd clir o ran darparu cymorth busnes yn effeithiol. Wrth ysgrifennu hwn, mae’r strategaeth TGCh yn tynnu at ei therfyn. Ei nod yw rhoi safbwynt Cymru ar lawer o’r materion sy’n codi yn Prydain Ddigidol, gan greu gweledigaeth ar gyfer Cymru Ddigidol, pwysleisio cryfhau busnes, seilwaith rhwydwaith, sicrhau bod pawb yn gallu elwa ar fanteision TGCh; trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yn ddigidol a rôl TGCh o ran cefnogi creadigrwydd a diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg. Argymhelliad: dylai Gweinidogion sicrhau bod strategaeth newydd Cymru Ddigidol yn ystyried anghenion y sector diwydiannau creadigol yn llawn. Mae diwydiannau creadigol yn rhan annatod o Gymru Ddigidol ac mae polisïau effeithiol ar gyfer yr economi ddigidol yn hollbwysig i lwyddiant y rhan fwyaf o fusnesau creadigol yng Nghymru. Yn ogystal â’r mentrau mawr hyn, mae yna sawl math arall o ymyrraeth yn y sector diwydiannau creadigol yng Nghymru. Mae rhai o’r rhain yn cael eu hariannu a’u llywodraethu ar lefel y DU, ac eraill yng Nghymru. Maent yn amrywio o’r arian cyhoeddus, dros £250 miliwn y fl wyddyn, ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru i raglenni sylweddol i annog trosglwyddo gwybodaeth rhwng prifysgolion a’r sector creadigol a chymorth ar gyfer y diwydiant cyhoeddi llyfrau yng Nghymru. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd yn gwneud cyfraniad mawr at ddosbarthu cyllid i sefydliadau creadigol yng Nghymru. Amlinellir rhestr o ddyraniadau Llywodraeth y Cynulliad yn Atodiad 2. Rydym yn amcangyfrif bod Cymru yn gwario tua £300 miliwn y fl wyddyn ar ddiwydiannau creadigol. Mae hwn yn swm sylweddol iawn, ac mae’n dangos y potensial ar gyfer sicrhau canlyniadau economaidd gwerth uwch o’r buddsoddiad hwn. Mae’r rhan fwyaf o’r arian, fodd bynnag, yn cael ei ddosbarthu ar lefel y DU yn hytrach na thrwy Lywodraeth y Cynulliad, a defnyddir y rhan fwyaf ohono i gefnogi amcanion diwylliannol yn hytrach nag amcanion economaidd. Y cwestiwn yw: a oes yna ffyrdd y gall Cymru sicrhau gwell gwerth economaidd o’r £300 miliwn y fl wyddyn o wariant, yn gyson ag amcanion diwylliannol y buddsoddiad? Er enghraifft: a allai Llywodraeth y Cynulliad gael trafodaeth fwy cynhyrchiol gydag enwau mawr yn y sector diwydiannau creadigol fel y BBC ac S4C ynglyn^ â’u heffaith economaidd? A allai Llywodraeth y Cynulliad ddefnyddio’i phwerau

Tudalen 12 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

caffael i helpu i wella gallu’r rhai hynny sy’n creu cynnwys digidol Cymru? A ellir gwneud mwy i sicrhau cydweithio rhwng sectorau addysg sy’n berthnasol i ddiwydiannau creadigol? Nid yw’r cwestiynau hyn yn cael digon o sylw ar hyn o bryd. Argymhelliad: Dylai Llywodraeth y Cynulliad drefnu ei hun fel ei bod yn gallu llywio’n fwy effeithiol gyfraniad economaidd diwydiannau creadigol Cymru a ariennir gan y cyhoedd. Mae hwn yn gyfl e economaidd gwerth £300 miliwn y fl wyddyn sy’n ymestyn ar draws nifer o feysydd y llywodraeth, o dreftadaeth ac adfywio i addysg a chynhwysiant cymdeithasol. Yn ogystal, mae angen i Gymru sicrhau ei bod yn manteisio ar raglenni eraill ledled y DU sy’n berthnasol i lwyddiant diwydiannau creadigol.

Tudalen 13 Datblygiad blaenllaw Strategaeth Diwydiannau Creadigol 2004 oedd Cronfa Eiddo Deallusol Creadigol newydd gwerth £7 miliwn, i’w chefnogi gan “ganolfan” diwydiannau creadigol fwy strategol yn Llywodraeth y Cynulliad a hyfforddiant wedi’i dargedu’n well. Dywedodd Dai Davies, a arweiniodd y gwaith a oedd wrth wraidd y strategaeth newydd, wrth yr adolygiad hwn bod polisi 2004 wedi cyfl awni rhai ond nid pob un o’i amcanion. “Ar y pryd, nid oeddwn wedi sylweddoli’n union pa mor gyfl ym y byddai digidol yn bygwth modelau cyfredol ac roeddwn o’r farn bod gallu’r sector darlledu i addasu i gyfl eoedd newydd yn fwy nag ydoedd mewn gwirionedd.”vi Yn ôl Dai Davies, mae’r Gronfa Eiddo Deallusol “wedi cael ei rheoli’n dda ac mae’n enghraifft gadarnhaol o banel o arbenigwyr yn gweithio mewn cytgord â sefydliad sector cyhoeddus. Fodd bynnag, mae’r gorbwyslais ar ffi lm yn hytrach nag ar deledu a’r cyfryngau newydd yn anffodus, gan mai ychydig iawn o gwmnïau yng Nghymru a fydd yn Creadigol Cymru Creadigol gallu elwa ar hynny yn y tymor hir.” Â ymlaen i ddweud bod y Gronfa “wedi gweithredu’n annibynnol ar gynllun strategol, ond ni fyddai’n gwbl deg rhoi’r bai ar ei thîm am hynny gan fod panel strategol Adran yr Economi a Thrafnidiaeth i fod wedi cael ei sefydlu. Nid yw cwmnïau Cymru, heblaw ambell eithriad, wedi gallu rhoi eu hunain mewn sefyllfa i fanteisio ar y math o gytundebau cyd-gynhyrchu rhyngwladol yr oedd

5. Cronfa Eiddo Deallsol 5. Cronfa y Gronfa i fod eu cefnogi. Mae rhesymau tebygol dros hynny’n cynnwys: diffyg brwdfrydedd y cwmnïau dan sylw, diffyg cymorth gan y darlledwyr a diffyg cymorth busnes arbenigol gan Lywodraeth y Cynulliad.”vii Mae’r asesiad gonest hwn yn cyd-fynd â’r dystiolaeth a gafwyd yn ystod yr adolygiad. Mewn bron pob sgwrs gyda rhanddeiliad, nodwyd cefnogaeth ar gyfer pwyslais strategaeth 2004 ar greu asedau eiddo deallusol cryfach yng nghwmnïau creadigol Cymru. Dechreuodd y Gronfa Eiddo Deallusol weithredu ym mis Mai 2005 gyda dyraniad o £7 miliwn i ddarparu buddsoddiad ecwiti mewn ffi lmiau, cynyrchiadau teledu, y cyfryngau newydd a phrosiectau cerddoriaeth dros gyfnod o dair blynedd. Nod y Gronfa Eiddo Deallusol, a reolir gan Gyllid Cymru, yw llenwi’r bwlch cyllid mewn prosiectau sydd hefyd yn gallu denu buddsoddwyr o’r sector preifat. Mae’r Gronfa’n ceisio sicrhau enillion masnachol ar bob buddsoddiad ac yn ceisio sicrhau ei bod yn y man mwyaf diogel yn y sbectrwm risg ymhlith buddsoddwyr mewn unrhyw brosiect penodol. Mae pwyllgor buddsoddi’r Gronfa’n cael ei gadeirio gan Clive Jones, cyn Gyfarwyddwr ITV, cyfarwyddwr anweithredol S4C a ffi gwr blaenllaw yn niwydiant cyfryngau’r DU. Mae Peter Wright, Cyfarwyddwr Buddsoddi Cyllid Cymru, hefyd yn aelod o’r pwyllgor hwn. Mae aelodau eraill yn cyfrannu arbenigedd o wahanol rannau o sector y cyfryngau.

Tudalen 14 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Cafodd gweithgareddau’r Gronfa Eiddo Deallusol eu hadolygu gan Northern Alliance, ymgynghoriaeth ag arbenigedd yn y maes hwn, ym mis Gorffennaf 2007. Daeth yr adolygiad hwnnw i’r casgliad bod y Gronfa’n cael ei rheoli’n dda, gyda strwythur staffi o darbodus, ond ei bod yn fwyaf addas ar gyfer buddsoddi mewn ffi lm a theledu, yn hytrach na cherddoriaeth a’r cyfryngau newydd. Ystyriwyd bod y Gronfa’n perfformio’n dda o ran creu arian ychwanegol i economi Cymru (tua £5 am bob £1 a fuddsoddwyd gan y Gronfa Eiddo Deallusol a 130 o swyddi wedi’u creu ar y pryd), ond dywedodd Northern Alliance ei bod yn rhy gynnar i bennu cyfanswm enillion masnachol y Gronfa o ystyried hyd posibl y cylch enillion ar gyfer mathau penodol o gynhyrchiadau ffi lm a theledu, yn enwedig prosiectau animeiddio. Ym mis Gorffennaf 2007, amcangyfrifodd y cwmni ymgynghori y byddai’r Gronfa’n gallu adennill tua 50 y cant o’r arian a fuddsoddwyd. Roedd Northern Alliance, gyda chefnogaeth Pwyllgor Buddsoddi’r Gronfa Eiddo Deallusol, yn cefnogi ymestyn y Gronfa am dair blynedd “ar ei ffurf bresennol”. Derbyniwyd hyn gan Weinidogion a, hyd yma, mae’r Gronfa Eiddo Deallusol wedi buddsoddi £8.6 miliwn mewn 26 o fentrau gwahanol. Erbyn mis Mawrth 2010, bydd y Gronfa Eiddo Deallusol wedi ymrwymo £10 miliwn. Hefyd, anogodd adolygiad Northern Alliance y rheini a oedd yn gyfrifol am y Gronfa i lobïo Cyllid Cymru a Llywodraeth y Cynulliad i ddatblygu strategaeth fwy unedig a chydlynol ar gyfer y diwydiannau creadigol. O’r pwys mwyaf y mae’r gwaith o ail-lansio’r Ganolfan Greadigol a’i sefydlu fel comisiynydd a/neu ddarparwr cymorth datblygu cwmni, cynllunio busnes a chymorth arall nad yw’n ymwneud â chynhyrchu. Mae angen cynnal ymchwil trylwyr i’w photensial i weithredu fel brocer a chydgysylltydd strategol. Gwahoddodd yr adolygiad cyfredol y Gronfa Eiddo Deallusol i gomisiynu diweddariad o waith Northern Alliance, yn hytrach na dechrau archwiliad drutach o’r newydd, er y dylai’r math hwn o adolygiad, mewn egwyddor, gael ei oruchwylio gan awdurdod annibynnol yn hytrach na’r sefydliad sy’n cael ei adolygu. Cwblhawyd diweddariad Northern Alliance ym mis Rhagfyr 2009.viii Yn yr adroddiad newydd, mae Northern Alliance yn amcangyfrif bod enillion y Gronfa gydol ei hoes rhwng 40 a 50 y cant. Mae’r cwmni’n gwrthod y syniad y gall y Gronfa gyfl awni statws “bytholwyrdd” neu hunangynhaliol – ei nod ar y cychwyn. Mae enillion hyd yma yn cyfateb i 21 y cant o’r symiau a fuddsoddwyd, er bod yr ymgynghorydd yn nodi y gallai cryn dipyn o refeniw o brosiectau penodol ar ôl i’w ddadansoddiad ddod i ben fod wedi gwthio’r ffi gur hwn tuag at 25 y cant. Mae’n ychwanegu bod y Gronfa bellach wedi hen ennill ei phlwyf ac yn denu cytundebau rheolaidd, ei bod wedi newid ffocws ei buddsoddi ychydig

Tudalen 15 o ffi lm i deledu, ond nad yw wedi mynd i’r afael â’r diffyg buddsoddi mewn cerddoriaeth o hyd, ac mai ei hunig fuddsoddiad yn y cyfryngau rhyngweithiol oedd un ymgais afl wyddiannus yn y diwydiant gemau cyfrifi adurol. (Wrth i’r adolygiad gael ei argraffu, cyhoeddodd y Gronfa Eiddo Deallusol ei buddsoddiad cyntaf mewn cerddoriaeth). Erbyn hyn, mae ffi lm yn gyfrifol am 56 y cant o’r portffolio, o gymharu â 68 y cant ddwy fl ynedd yng nghynt. Mae’r Gronfa wedi parhau i ddarparu buddiannau economaidd i Gymru, ochr yn ochr â’i mandad buddsoddi craidd i greu eiddo deallusol trwy brosiectau masnachol lwyddiannus. Heddiw, yn ôl Northern Alliance, am bob £1 o fuddsoddiad gros gan y Gronfa Eiddo Deallusol, caiff £4.32 ei gyfrannu at economi Cymru; amcangyfrifi r y crëir tua 330 o swyddi. Yn gryno, mae Northern Alliance o’r farn bod y Gronfa wedi bod yn hynod lwyddiannus o ran sbarduno symiau bach o fuddsoddiad i greu a phennu perchnogaeth Eiddo Deallusol yng Nghymru. Mae wedi cefnogi datblygiad ehangach yr economi greadigol gynhenid a chynnal ei hethos ‘buddsoddi yn y farchnad’ a gofynion cysylltiedig Cymorth Gwladwriaethol ar yr un pryd. Anogir Gweinidogion i barhau i gefnogi’r Gronfa ar lefelau cyfredol neu lefelau ychydig yn uwch. Anogir y Gronfa Eiddo Deallusol i sicrhau bod y prosiectau y mae’n buddsoddi ynddynt yn rhoi sylw digonol i werthu cynnwys ar draws pob cyfrwng digidol: sef marchnata 360 gradd. Mae portffolio cyfredol y Gronfa Eiddo Deallusol o fuddsoddiadau’n canolbwyntio’n bennaf ar y sectorau ffi lmiau cyllideb isel, sydd mewn trafferth, a’r sector ffi lmiau cyllideb ganolig, sector llawn her (14 o’i 26 o fuddsoddiadau hyd yma). Mae Northern Alliance yn nodi bod y Gronfa wedi goramcangyfrif y rhagolygon ariannol ar gyfer ychydig o ffi lmiau unigol. Er enghraifft, denodd The Edge of Love, ffi lm am Dylan Thomas, fuddsoddiad o £700,000 gan y Gronfa Eiddo Deallusol, cyfran fawr iawn o’r cyfanswm adnoddau. Hyd yma, mae’r ffi lm ond wedi gwneud cyfanswm o £70,000 ar ôl i asiant gwerthu’r ffi lm fynd i’r wal. Mae rhan o’r portffolio ffi lm wedi’i ddileu. I’r gwrthwyneb, pan fentrodd y Gronfa Eiddo Deallusol i faes newydd ac addawol gemau cyfrifi adurol, y maes a oedd yn tyfu gyfl ymaf yn y sector diwydiannau creadigol, penderfynodd gefnogi prosiect sydd hyd yma wedi ad-dalu dim ond 17 y cant o’r arian a fuddsoddwyd, a bach iawn yw’r tebygolrwydd o enillion pellach. Beth ddylid ei wneud nawr? Os gall y Gronfa symud ei blaenoriaethau buddsoddi tuag at faes cyd-gynhyrchu rhaglenni teledu’n rhyngwladol, maes sy’n prysur dyfu, bydd ei pherfformiad yn gwella. Nid yw creu Cronfa o’r fath yn broses dymor byr ac mae’n bwysig peidio â newid pethau’n rhy aml.

Tudalen 16 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae’n deg ychwanegu bod Cronfa Eiddo Deallusol Cymru yn cymharu’n ffafriol â chronfeydd tebyg ym mhob cwr o’r DU. Dim ond cronfa Gorllewin Canolbarth Lloegr (Screen West Midlands) sydd wedi llwyddo i gefnogi ffi lm lwyddiannus. Gellir cymharu enillion go iawn a rhagamcanol cronfeydd eraill ag enillion cronfa Cymru ac mae yna arwyddion bod pwyslais rhai cronfeydd yn symud o enillion masnachol i amcanion llai heriol fel datblygu doniau ac arloesedd. Yn ôl Northern Alliance, mae cronfa Cymru wedi datblygu’n gronfa gymysg sy’n amlinellu amcanion masnachol (ac yn gorfod cydymffurfi o ag egwyddorion y farchnad yn y rheolau Cymorth Gwladwriaethol sy’n berthnasol) tra’n ceisio cyfl awni buddiannau economaidd a diwylliannol ehangach. Yn ôl Northern Alliance, er nad oes gan Gronfa Eiddo Deallusol Creadigol Cymru yr un costau a buddiannau ag asiantaeth cyfryngau ehangach sy’n canolbwyntio ar fanteision diwylliannol, mae’n cymharu’n dda â chronfeydd cyfatebol o ran cyfraddau adennill rhagamcanol. Y maes lle nad yw’n cymharu cystal, dywedodd rhai rhanddeiliaid wrth yr adolygiad, yw wrth gydgysylltu ei phenderfyniadau buddsoddi gyda mathau eraill o gymorth busnes ar gyfer y sectorau y mae’n buddsoddi ynddynt. Mae adolygiad Northern Alliance, a apeliodd am well cydgysylltu strategol ddwy fl ynedd yn ôl, yn nodi bod rhai cronfeydd eraill wedi bod yn fwy llwyddiannus wrth ddarparu’r math hwn o wasanaeth trawsbynciol: priodolir llwyddiant eithriadol Screen West Midlands yn rhannol i’w effeithiolrwydd o ran cyfuno buddsoddiad gyda chymorth busnes a mentora. Dyma air olaf Northern Alliance ar y mater: “Mae Cronfa Cymru wedi dangos hyblygrwydd yn ei buddsoddiadau ac wedi mabwysiadu ffyrdd o fuddsoddi mewn Eiddo Deallusol nad ydynt yn nodweddiadol o fuddsoddwr sector cyhoeddus. Byddem yn annog y Gronfa i barhau i fabwysiadu strategaethau o’r fath ac rydym o’r farn ei bod yn briodol iddi barhau i amrywio’r ffyrdd y mae’n buddsoddi er mwyn sicrhau enillion boddhaol o’i buddsoddiadau yn y dyfodol. Felly, dylai ddefnyddio’r modelau dosbarthu newydd i barhau a chynyddu ei hymdrechion i bwysleisio ei statws buddsoddwr yn y farchnad a gwahaniaethu ei hun oddi wrth sefyllfaoedd buddsoddi isradd y sector cyhoeddus. Yn anad dim, dylai ei gwneud yn ofynnol i bob ymgeisydd lunio cynllun marchnata a dosbarthu trylwyr sy’n dangos sut y bydd ei brosiect yn denu cynulleidfaoedd mewn byd lle mae’r rhyngrwyd wedi datblygu fel y cyfrwng blaenllaw ar gyfer marchnata a dosbarthu cynnwys clyweled. Agosrwydd cynyddol yr oes ddigidol yw’r newid amlycaf ers ein hadolygiad diwethaf a dylai’r Gronfa nodi ei bod yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr fod yn barod i ateb yr her hon a manteisio ar ei chyfl eoedd.”

Tudalen 17 Bydd rhai rhanddeiliaid yn y sector diwydiannau creadigol yng Nghymru yn credu bod hyn yn hael. Mae unrhyw gronfa sy’n dewis enillwyr yn agored i feirniadaeth gan y rheini y mae wedi dewis peidio â’u cefnogi, ond ni ellir gwadu bod y Gronfa’n targedu rhan benodol o’r farchnad ffi lm; mae wedi methu dod o hyd i gyfl eoedd addas ym maes cyd-gynhyrchu rhaglenni teledu’n rhyngwladol ac mae wedi methu â chael unrhyw effaith o gwbl ar gerddoriaeth a’r cyfryngau rhyngweithio digidol. Nid yw ychwaith wedi gweithio’n arbennig o dda gyda darparwyr cymorth busnes eraill, yn bennaf oherwydd y diffyg dull strategol effeithiol o ddarparu cymorth busnes yng nghanolfan diwydiannau creadigol Llywodraeth y Cynulliad. Mae rhai rhanddeiliaid hefyd yn cwyno am y perygl y gall penderfyniadau’r Gronfa gael eu dylanwadu gan unigolion â buddiannau masnachol personol sylweddol. Dywedodd tîm rheoli’r Gronfa wrth yr adolygiad bod aelodau Bwrdd y Gronfa Eiddo Deallusol yn cydymffurfi o â Chanllawiau Cyllid Cymru, sy’n gorfodi aelodau’r bwrdd i ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau posibl fel y gall y bwrdd cyfan fabwysiadu gweithdrefnau priodol ar benderfyniadau penodol. Mae Cyllid Cymru yn cadw cofrestr o fuddiannau i sicrhau nad yw unrhyw aelod o’r bwrdd yn cael ei ddylanwadu gan ei fuddiannau personol neu’i fod yn ymddangos felly wrth gyfl awni ei ddyletswyddau cyhoeddus. Yn achos y Gronfa Eiddo Deallusol, gall y gwrthdaro hwn ymddangos ar sawl ffurf. Er enghraifft, mae gan Gyllid Cymru gyfranddaliadau lleiafrif mewn sawl cwmni (Greenbay Media, Boomerang, Dragon DI a Calon) sydd wedi cyfl wyno cynigion llwyddiannus i’r Gronfa Eiddo Deallusol Creadigol. Arfer bwrdd y Gronfa Eiddo Deallusol mewn sefyllfaoedd o’r fath yw i Gyfarwyddwr Buddsoddi Cyllid Cymru (sydd hefyd yn aelod o’r Bwrdd Eiddo Deallusol) ddatgan ei fuddiannau a chaniatáu i aelodau eraill y Bwrdd drafod y cynnig cyn i Gyllid Cymru ddarparu ei sylwadau. Mewn achosion eraill, mae aelodau bwrdd wedi eithrio eu hunain o benderfyniadau penodol os oedd gwrthdaro rhwng eu cyfrifoldebau bwrdd. Y ffordd orau o leddfu pryderon rhanddeiliaid ar y materion hyn yw rheolau clir a gweithredu tryloyw. Mae rheolau’r Gronfa am wrthdaro buddiannau wedi’u nodi yn eu Canllawiau Gweithredu Buddsoddi, ond byddai’n fuddiol cael manylion clir am y rhain ar wefannau Cyllid Cymru a’r Gronfa Eiddo Deallusol Creadigol hefyd. Gellir crynhoi’r gwersi o brofi ad y Gronfa Eiddo Deallusol Creadigol fel a ganlyn: • Mae’r Gronfa Eiddo Deallusol wedi llwyddo i sicrhau cyngor arbenigol ar gyfer ei phenderfyniadau. Mae arbenigedd a barn y sector yn allweddol i greu strategaeth diwydiannau creadigol ac

Tudalen 18 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

yn hollbwysig i benderfyniadau penodol ynglyn^ â buddsoddiadau a chymorth busnes, ond mae angen nodi mewn ffordd fwy clir a thryloyw ar ba delerau y mae arbenigwyr sector preifat yn cael eu cyfl ogi a’r ffordd y maent yn rheoli achosion posibl o wrthdaro buddiannau. • Mae’r gronfa wedi gweithredu heb fframwaith strategol dilys. Dylai hwn fod wedi cael ei ddarparu gan y ganolfan diwydiannau creadigol yn Llywodraeth y Cynulliad; hebddo, nid yw’r gronfa wedi gallu gweithredu’n unol â’r dyheadau a amlinellwyd adeg ei chreu. • Lle bo’n briodol, dylai’r prosiectau y dewisir buddsoddi ynddynt gael eu cefnogi gan gymorth mentora neu gymorth busnes â phrofi ad addas sydd wedi’i dargedu’n dda. • Mae dewis enillwyr yn anodd mewn unrhyw fusnes; mae dewis enillwyr yn y sector creadigol yn arbennig anodd ac yn dibynnu ar wybodaeth gan rwydweithiau busnes sydd wedi ennill eu plwyf. Ar hyn o bryd, nid yw’r rhain wedi datblygu’n ddigonol yng Nghymru, yn enwedig ym maes y cyfryngau rhyngweithiol a digidol, ac nid yw’r Gronfa Eiddo Deallusol wedi gwneud digon i feithrin y rhwydweithiau hynny na gweithio gyda’r rheini sy’n bodoli, er enghraifft ym maes cerddoriaeth. • Mae amcanion masnachol y Gronfa’n ganmoladwy, ond maent yn cyfl wyno her enfawr. Mae amcanion masnachol yn darparu disgyblaeth werthfawr a phwyntiau cymharu ond, fel buddsoddwr, mae Cyllid Cymru yn awyddus i sicrhau mwy nag enillion ariannol uchel. Byddai dull mwy aml-ochrog yn galluogi’r gronfa i ariannu amrywiaeth ehangach o brosiectau ar draws mwy o is-sectorau yn y diwydiannau creadigol. Y cam nesaf yw adolygu’r cyllid sydd ar gael i fuddsoddi mewn diwydiannau creadigol yn gyffredinol a chynllunio cronfa neu glwstwr o gronfeydd i ddiwallu pob math o anghenion. Roedd cynllun gwreiddiol y Gronfa Eiddo Deallusol yn golygu ei fod yn fwy addas ar gyfer y diwydiant ffi lmiau na theledu, cerddoriaeth neu’r cyfryngau digidol. Fel y cyfryw, roedd ei chynllun yn gwrthdaro â’i diben strategol. Dylai Cronfa Diwydiannau Creadigol newydd feddu ar sawl elfen sydd â’r nod o wasanaethu gwahanol rannau o’r sector diwydiannau creadigol o fewn un fframwaith. Ei diben craidd ddylai fod i helpu i adeiladu busnesau yng Nghymru mewn ffordd sy’n cynyddu eu gallu i werthu eu cynhyrchion y tu allan i Gymru. Dylai’r amcan clir hwn wahaniaethu rhwng gwaith y Gronfa Diwydiannau Creadigol a gwaith y ffynonellau cyllid eraill ar gyfer gweithgareddau diwylliannol yng Nghymru. Ym marn yr adolygiad hwn, bydd angen i Lywodraeth y Cynulliad barhau i

Tudalen 19 fuddsoddi’n uniongyrchol yn y sector diwydiannau creadigol er mwyn parhau i adeiladu ar sefyllfa gymharol Cymru yn y diwydiannau hynod gystadleuol hyn. Argymhelliad: dylid sicrhau pontio trefnus o’r Gronfa Eiddo Deallusol Creadigol i Gronfa Diwydiannau Creadigol newydd ehangach. Dylai holl ddiwydiannau’r cyfryngau digidol: ffi lm, teledu, cerddoriaeth a’r cyfryngau rhyngweithiol, allu manteisio ar y Gronfa newydd hon. Mae sylwadau manylach ar ariannu cerddoriaeth a’r cyfryngau digidol wedi’u hamlinellu isod. Yn dilyn ymchwil bellach i anghenion is-sectorau creadigol nad ydynt wedi’u cynnwys yng nghylch gwaith cyfredol y Gronfa Eiddo Deallusol, dylid ehangu’r Gronfa lle bo’n briodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau hefyd. Byddai, i bob diben, yn glwstwr o gronfeydd o fewn un fframwaith marchnata. Dylai pob agwedd ar y Gronfa fod â diben cyffredin sef bod prosiectau a gefnogir yn cyfrannu at lwyddiant cwmnïau creadigol Cymru mewn marchnadoedd y tu allan i Gymru. Dylai rheolau’n ymwneud â gwrthdaro buddiannau personol fod yn gadarn, a dylid datgan gwrthdaro o’r fath mewn ffordd dryloyw.

Tudalen 20 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Pan gyhoeddwyd y Strategaeth Diwydiannau Creadigol yn 2004, y bwriad oedd ad-drefnu’r cyfranogwyr perthnasol o gwmpas “canolfan” a fyddai’n gallu dyfeisio polisïau priodol a phennu’r fframwaith strategol lle gallai Adran yr Economi a Thrafnidiaeth a’r is-sectorau weithredu a sicrhau gwasanaethau cymorth busnes o safon uchel. Ar bapur, mae’r dull hwn yn dal i ymddangos yn synhwyrol, ond y farn gref ac unfrydol bron ymhlith rhanddeiliaid a gyfrannodd at yr adolygiad hwn yw bod yr agwedd hon ar y strategaeth gyfredol wedi methu. Yn ôl y rhanddeiliaid hyn, mae rôl y gwahanol asiantaethau, adrannau ac is- adrannau sy’n cefnogi diwydiannau creadigol yn Llywodraeth y Cynulliad a’i hasiantaethau cysylltiedig yn ddryslyd a digroeso. Rwyf wedi clywed am sawl cwmni creadigol sydd wedi derbyn cyngor amherthnasol neu anghywir gan rannau o rwydwaith cyngor busnes (Cymorth Hyblyg i Fusnes) Llywodraeth y Cynulliad. “Mae’r peth yn draed moch llwyr ac rwy’n cadw’n ddigon pell,” meddai un swyddog gweithredol cwmni teledu. “Mae ganddyn nhw’r holl ddarnau sydd eu hangen i wneud y gwaith, ond nid yw’r darnau’n gysylltiedig â’i gilydd,” meddai un arall. “Dylent roi’r ffi dil yn y to a rhoi’r gorau i honni eu bod yn creu diwydiant ffi lmiau i Gymru – breuddwyd gwrach. Dylent ganolbwyntio ar ddigidol a cheisio cael rhywbeth allan o’r maes hwnnw,” meddai un arall. Roedd strategaeth diwydiannau creadigol 2004 yn rhagweld sefydlu dau fwrdd neu banel arbenigol yn cynnwys arbenigwyr o rengoedd uwch y diwydiannau creadigol, un i oruchwylio’r Gronfa Eiddo Deallusol a’r llall i gynghori’r ganolfan ar strategaeth a, lle bo angen, herio agwedd y Gronfa Eiddo Deallusol at ddilyn y strategaeth gyffredinol. Bu llawer o ddadlau ynglyn^ ag a ddylai’r ganolfan hon gael ei chynnwys o fewn y gwasanaeth sifi l neu y tu allan iddo. O ystyried cyd-destun diddymu Awdurdod Datblygu Cymru ac ELWA, nid oedd yna archwaeth wleidyddol am drefniadau a oedd yn golygu creu “cwango” newydd. Penderfynwyd mabwysiadu’r strategaeth “o fewn Llywodraeth y Cynulliad”, gydag un panel allanol i weithio gyda Chyllid Cymru i

a’r Ganolfan na Ddaeth i ffrwyth… oruchwylio’r Gronfa Eiddo Deallusol. Mewn egwyddor, gallai hyn fod wedi gweithio. Cafwyd cyfnod o gyllidebau uwch i gychwyn a chrëwyd hanner dwsin o swyddi newydd ym maes anghyfarwydd y diwydiannau creadigol er mwyn sefydlu’r ganolfan Busnes Creadigol Cymru (CBW), ond ni chafodd y ganolfan yr awdurdod i lywio strategaeth na sicrhau ansawdd y cymorth busnes. Yn fuan iawn, roedd adnoddau’n cael eu cymryd oddi wrtho a bu sawl newid i’r tîm arwain mewn byr amser. Am gyfnod, cafodd Busnes Creadigol Cymru ei ymgorffori ym Musnes Rhyngwladol Cymru, gan roi agwedd fewnfuddsoddi iddo. Yn gryno, cafodd ei reoli’n wael. 6. Cyfeiriad Strategol: Busnes Creadigol Cymru 6. Cyfeiriad Strategol: Busnes Creadigol

Tudalen 21 Ym mis Tachwedd 2008, cafodd Busnes Creadigol Cymru ei adolygu gan Lywodraeth y Cynulliad er mwyn sicrhau ei fod yn cyfateb yn well i strwythurau diwygiedig yr Adran Economi a Thrafnidiaeth. Nododd yr adolygiad hwn bod rhai o gwmnïau cynhyrchu teledu Cymru’n hoffi Busnes Creadigol Cymru oherwydd cynlluniau fel y Cynllun Talent Cynhyrchu (cynllun a ariennir gan Lywodraeth y Cynulliad i secondio cynhyrchwyr rhwydwaith profi adol i gwmnïau annibynnol), ond bod eraill o’r farn nad oedd yn cydlynu digon ag adrannau eraill Llywodraeth y Cynulliad sy’n ymwneud â’r diwydiannau creadigol a bod yna ddiffyg cyfeiriad strategol. Roedd gan y Ganolfan ddiffyg awdurdod hyd yn oed yn Adran yr Economi a Thrafnidiaeth, ac roedd ganddi lai fyth o awdurdod mewn meysydd pwysig fel Darlledu, Technoleg ac Arloesedd, Cyllido Addysg Uwch, Hyfforddiant a Thwristiaeth. Ar y pryd, roedd y gwaith o ddatblygu “adenydd” i gysylltu â’r ganolfan hefyd wedi chwythu’i blwc. Ac eithrio adain gerddoriaeth, ac adain ffi lm go fratiog, nid oedd y maes hwn wedi datblygu o gwbl. Dros dair blynedd ers cyfl wyno’r strategaeth newydd, nid oedd gan ganolfan Busnes Creadigol Cymru adain ar gyfer y cyfryngau digidol (nac ymgysylltiad ystyrlon â nhw). Nid oedd rôl yr ail banel cynghori wedi bod yn effeithiol ac roedd dull amgen yn cael ei ystyried. Roedd y dull o sicrhau adnoddau ar gyfer Busnes Creadigol Cymru yn ddryslyd gan fod y rhan fwyaf o’i adnoddau’n perthyn i Gomisiwn Sgrîn Cymru, a oedd yn rhan o’r ganolfan ei hun yn hytrach nag yn “adain” ffi lm. Nododd yr adolygwyr hefyd fod yr adeilad a oedd yn gartref i Busnes Creadigol Cymru yn “ddrud” a bod y potensial ar gyfer gwrthdaro buddiannau ymhlith cynghorwyr allanol yn “sylweddol”. O’r tu allan, mae’r trefniadau hyn yn ymddangos yn anfoddhaol iawn o hyd. Mae yna ddau gorff sy’n rhoi sylw i ffi lmiau, sef Comisiwn Sgrîn Cymru (sy’n dal i fod yn rhan o Busnes Creadigol Cymru, fel rhywbeth rhwng rhan o’r ganolfan ac “adain”) ac Asiantaeth Ffi lm Cymru, Cwmni Buddiannau Cymunedol a lywodraethir yn annibynnol sydd â’r nod o hyrwyddo datblygiad y diwydiant ffi lmiau yng Nghymru. Nid oes gan y ganolfan diwydiannau creadigol unrhyw adnodd sy’n targedu’r cyfryngau digidol yn benodol ond, y tu allan i’r ganolfan, mae @Wales, deorfa ar gyfer busnesau digidol sydd wedi ennill ei phlwyf. Honnir bod y ganolfan yn strategol, ond mae’n gweithredu y tu mewn i Adran yr Economi a Thrafnidiaeth fel rhan o grwp^ “cyfl enwi” yr adran, ac nid yw polisi Llywodraeth y Cynulliad ar ddiwydiannau creadigol yn cael yr adnoddau angenrheidiol o ran nifer a statws. Roedd yr atebion a gynigiwyd gan adolygiad mewnol 2008 yn cynnwys 22 o gamau gweithredu penodol i ailgyfl wyno Busnes Creadigol Cymru fel galluogwr ar gyfer darparu gweithgarwch perthnasol i sectorau trwy

Tudalen 22 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

ei adenydd (byddai adenydd newydd ar gyfer y cyfryngau newydd a theledu), gan sicrhau eu bod yn atebol am ddarpariaeth a gweithio’n agos gyda gwasanaeth cymorth busnes cyffredinol Llywodraeth y Cynulliad (“Tîm Cymru”). Daeth Grwp^ Cynghori’r Gweinidog i’r casgliad bod yna ddealltwriaeth dda o’r model ‘form, storm, reform and perform’ yn y sector preifat ac, o gael ewyllys gwleidyddol ac arweiniad effeithiol, mae dal posibilrwydd i’r treial diwydiannau creadigol allu symud o’r cyfnod ‘storm’ i’r cyfnod diwygio ac, yn y pen draw, i’r cyfnod perfformio. Ar ôl pwyso a mesur y dadansoddiad hwn a gweld na wnaed unrhyw gynnydd o ran gwella perfformiad, aeth Gweinidogion ati i gomisiynu’r adolygiad cyfredol. Maent yn iawn i boeni: mae angen gwneud newidiadau mawr i weithrediadau Llywodraeth y Cynulliad er mwyn iddynt ddarparu pecyn cytbwys o gymorth ar gyfer y sector diwydiannau creadigol yng nghyd-destun economi ddigidol sy’n ffynnu. Ni fydd gwneud addasiadau pellach i linellau atebolrwydd yn Adran yr Economi a Thrafnidiaeth yn sicrhau newid o’r maint sydd ei angen.

Tudalen 23 Ni ddylai unrhyw un gredu bod sefydlu strwythurau llywodraethol i ymateb i sector diwydiannol mor anrhagweladwy ac sy’n newid mor gyfl ym â diwydiannau creadigol neu’r economi ddigidol yn waith hawdd. Ar lefel y DU, mae hi wedi bod yn siwrnai hir o nodi diwydiannau creadigol fel sector o bwys economaidd strategol am y tro cyntaf ym 1998 i’r timau polisi trawsbynciol sydd gennym heddiw sy’n cael eu llywio gan arbenigedd rheoleiddiwr trawsbynciol, Ofcom, a sefydlwyd gan Ddeddf Darlledu 2003, i ddelio ag economi cyfryngau digidol cydgyfeiriol. Mae’r rhain yn faterion sy’n profi Gweinidogion a swyddogion yn Llundain, Belfast a Chaeredin, yn ogystal ag yng Nghaerdydd. Ar gyfer y gweinyddiaethau datganoledig, caiff materion eu cymhlethu gan y ffaith bod cymaint o’r materion sydd wrth wraidd y ddadl diwydiannau creadigol heb gael eu datganoli. Dadleuodd adolygiad

Sydd ei Hangen Syr Jeremy Beecham o gyfl enwi gwasanaethau lleol y dylai Llywodraeth y Cynulliad ddangos diddordeb mawr mewn materion darparu gwasanaethau sy’n berthnasol i bobl Cymru, waeth a ydynt yn faterion a gadwyd yn ôl ai peidio. Ers 2007, mae Gweinidogion Cymru a’r Cynulliad wedi dangos diddordeb mawr yn yr economi ddigidol ond, weithiau, mae diffyg profi ad, arbenigedd a hunanhyder Llywodraeth y Cynulliad wedi golygu na all gefnogi’r diddordeb hwnnw. Ymateb Gogledd Iwerddon i’r materion hyn oedd creu’r Department of

7. A’r Ganolfan Strategol 7. A’r Culture, Arts and Leisure, gan adlewyrchu mor agos â phosibl ôl-troed yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn Llundain. Mae’r Alban wedi dilyn llwybr llawer mwy radical, gan gyfuno swyddogaethau cynorthwyo diwydiannau creadigol Cyngor Celfyddydau’r Alban, Scottish Screen a Scottish Enterprise mewn sefydliad newydd, Creative Scotland, gyda diwydiannau digidol yn dal i fod dan ofal awdurdod datblygu’r Alban. Mae dyddiau cynnar cythryblus y corff hwn yn nodi nad yw rhesymeg strategol radical yn cynnig unrhyw atebion hawdd chwaith, er bod hwn yn fodel y bydd Cymru am gadw llygad barcud arno. Beth yw’r strwythur addas i Gymru? Yn gryno: fframwaith strategol cyffredinol Llywodraeth y Cynulliad ar yr economi ddigidol ac, o fewn hwnnw, canolfan wirioneddol strategol i oruchwylio cymorth ar gyfer y diwydiannau creadigol, gan adlewyrchu ei statws fel sector busnes blaenoriaeth uchel. Ar y lefel uchaf, dylid defnyddio arbenigedd o’r sector preifat neu ffynhonnell arall o’r tu allan i’r Llywodraeth mewn perthynas â strategaeth ac atebolrwydd am ddarparu gwasanaethau. Y man cychwyn cywir ar gyfer y fframwaith economi ddigidol yw rhaglen gyfredol Cymru Ddigidol, er ar sail y gwaith drafftio a ddarparwyd i’r adolygiad hwn, mae angen gwneud rhagor i ystyried y dull hwn yn fanwl. Mae’r Ganolfan Strategol Diwydiannau Creadigol

Tudalen 24 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

newydd angen yr adnoddau a’r awdurdod i greu strategaeth yn unol â pholisi’r Llywodraeth ac i sicrhau bod y strategaeth a gwasanaethau cymorth busnes yn cyd-fynd ac yn cael eu darparu a’u gwerthuso mewn ffordd systematig. Mae’r ffaith bod y rhan fwyaf o’r buddsoddiad yn sector diwydiannau creadigol Cymru yn bodoli’n bennaf am resymau diwylliannol (ac felly’n cael ei oruchwylio gan yr Adran Dreftadaeth) yn golygu bod Cymru mewn perygl sylweddol o fethu â gwireddu manteision economaidd a busnes y buddsoddiadau mawr hyn. Mae angen trefniadau trawsbynciol cryf i sicrhau nad yw’r gwaith o ddarparu strategaeth newydd yn methu fel cynllun 2004. Cyfrifoldeb Adran yr Economi a Thrafnidiaeth a’r Adran Dreftadaeth yw sicrhau na fydd hyn yn digwydd. Ni fydd mynegi bwriadon da yn ddigon. Argymhelliad: Dylai Gweinidogion sicrhau bod strategaeth newydd Cymru Ddigidol yn diffi nio ymagwedd at agenda Prydain Ddigidol sy’n uno strategaeth a gwaith darparu ar draws yr economi ddigidol gyfan. Dylai’r gwaith hwn gael ei oruchwylio ar y lefel wleidyddol a gweinyddol uchaf posibl a’i gefnogi gan Fwrdd Cymru Ddigidol, sy’n cael ei arwain gan swyddog ar lefel Cyfarwyddwr a’i gadeirio gan unigolyn profi adol addas o’r tu allan i’r Llywodraeth. Dylai’r strwythur hwn gynnwys Canolfan Strategol Diwydiannau Creadigol newydd, dan arweiniad uwch swyddog addas o Adran yr Economi a Thrafnidiaeth fel Pennaeth Diwydiannau Creadigol newydd, a dylai gael ei gefnogi gan Fwrdd Diwydiannau Creadigol, a fydd hefyd yn cael ei gadeirio gan swyddog allanol ag arbenigedd yn y sector. Byddai Canolfan Strategol Diwydiannau Creadigol yn gweithio trwy gyfres o adenydd (gweler isod) a fydd, yn y pen draw, yn cwmpasu pob un o 14 is-sector y diwydiannau creadigol. Byddai’r Bwrdd Diwydiannau Creadigol yn goruchwylio holl waith Llywodraeth y Cynulliad mewn perthynas â diwydiannau creadigol, gan gynnwys y Gronfa Diwydiannau Creadigol newydd arfaethedig. Byddai’r tîm Diwydiannau Creadigol yn rhan o Adran yr Economi a Thrafnidiaeth. Byddai’r Pennaeth Diwydiannau Creadigol newydd a Chadeirydd y Bwrdd Diwydiannau Creadigol yn aelodau o Fwrdd Cymru Ddigidol, gan sicrhau cysylltiadau cryf rhwng cynnwys a chysylltedd. Gallai’r trefniadau hyn yn Llywodraeth y Cynulliad gael eu hadlewyrchu yn strwythur pwyllgorau’r Cynulliad. Mae yna ddigon o le i ddadlau am un strwythur llywodraethol yn erbyn un arall, ac nid oes yna hud unigryw’n gysylltiedig â’r trefniadau a gynigir yma. Nid oes amheuaeth y bydd angen ystyried materion ehangach yn ymwneud â strwythur Llywodraeth, yn enwedig o ystyried penodiad diweddar Cyfarwyddwr Llywodraeth y Cynulliad i fod yn gyfrifol am waith trawsbynciol effeithiol rhwng adrannau. Ond mae’r bylchau yn y strwythurau llywodraethol cyfredol ar gyfer yr economi

Tudalen 25 ddigidol a’r diwydiannau creadigol yn destun pryder. Nid oes gan Lywodraeth y Cynulliad y gallu i bennu fframwaith strategol sy’n datblygu a phwynt atebolrwydd clir i sicrhau bod amcanion yn cael eu cyfl awni a bod gwaith gwerthuso’n cael ei gwblhau. O ganlyniad, mae arian yn cael ei wastraffu a chyfl eoedd yn cael eu colli. Dyma’r amser i unioni’r sefyllfa. Bydd angen cyhoeddi cylch gorchwyl clir ar gyfer pob un o’r byrddau hyn, y ganolfan a’r adenydd, a bydd angen marchnata eu gweithgareddau’n dda. Dylai’r meini prawf ar gyfer mynediad i gymorth adlewyrchu’r ffaith bod diwydiannau creadigol yn aml yn cyfl ogi pobl ar drefniadau llawrydd neu gytundebau llac a bod gwaith ymchwil a datblygu yn aml yn targedu meysydd anniriaethol. Byddai cylch gwaith y Bwrdd Diwydiannau Creadigol yn cynnwys: • Datblygu strategaeth ar gyfer y sector, gan weithio’n unol â pholisïau Gweinidogol. • Cadw mewn cysylltiad ag agenda Cymru Ddigidol i sicrhau bod pryderon diwydiannau creadigol yn cael sylw a bod cyfl eoedd yn cael eu bachu. • Monitro a gwerthuso’r gwaith o ddarparu’r strategaeth yn erbyn amcanion, gan gynnwys gweithrediad adennydd yn ymwneud ag is-sectorau diwydiannau creadigol a darparu gwasanaethau cymorth busnes. • Goruchwylio a chynnig ymatebion i archwiliadau o effaith economaidd a ddarperir ar ran e.e. darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus (gweler isod). • Goruchwylio’r Gronfa Diwydiannau Creadigol ac unrhyw is-bwyllgor/ is-bwyllgorau sy’n gyfrifol am fuddsoddi. • Ymgysylltu â Chanolfan Ymchwil Cymru Ddigidol, gan gysylltu diwydiannau creadigol ag arloesedd a throsglwyddo gwybodaeth gydag addysg uwch. • Monitro’r rhyngweithio rhwng polisi diwydiannau creadigol a gwaith asiantaethau perthnasol ar lefel y DU. • Cael y wybodaeth ddiweddaraf am agweddau polisïau at ddiwydiannau creadigol mewn rhannau eraill o’r DU a thu hwnt.

Tudalen 26 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae’n syndod bod strwythur seiliedig ar fodel olwyn sydd â’r nod o ddatblygu’r diwydiannau creadigol ar ôl datganiad polisi 2004 heb wneud unrhyw ddarpariaeth benodol ar gyfer teledu, er mai hwn yw is-sector mwyaf Cymru o bell ffordd ym maes diwydiannau creadigol. Yn ymarferol, mae anghenion cymorth busnes teledu wedi’u diwallu (yn annigonol) trwy rwydwaith cymorth busnes Adran yr Economi a Thrafnidiaeth (Cymorth Hyblyg i Fusnes). Diwallwyd ei anghenion hyfforddiant trwy ymagwedd gymharol effeithiol at hyfforddiant dan arweiniad cyfl ogwyr wedi’i arwain gan Skillset, y mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus wedi gwneud cyfraniad mawr ato. Yn ogystal, mae cwmnïau cynhyrchu teledu annibynnol wedi cael mynediad i’r Gronfa Eiddo Deallusol Creadigol a mentrau eraill yn ymwneud â Busnes Creadigol Cymru. Mae cwmnïau teledu annibynnol yn feirniadol iawn, yn breifat o leiaf, o natur ddryslyd ac annefnyddiol yr hyn a gynigir gan Lywodraeth y Cynulliad ar hyn o bryd; mae sawl un ohonynt hefyd yn feirniadol o’r Gronfa Eiddo Deallusol Creadigol, yn rhannol oherwydd ei bod wedi gwario’r rhan fwyaf o’i harian ar ffi lm. Maent yn dweud bod strwythurau cymorth busnes Adran yr Economi a Thrafnidiaeth yn wael: gyda diffyg dealltwriaeth o’r sector creadigol ac yn seiliedig ar fodelau cymorth a mentora sy’n fwy addas ar gyfer diwydiannau hyn.^ Mae beirniaid cwmnïau annibynnol Cymru yn nodi na fyddai’r rhan fwyaf o’u busnesau’n bodoli heblaw am lif cyson a sylweddol o gyllid cyhoeddus trwy’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus dros ddegawdau. Nid oes angen i unrhyw un fod â chywilydd am hyn: gellir dweud yr un peth am sector fferyllol y DU neu’r nifer fawr o gwmnïau sy’n gwasanaethu’r sector addysg a ariennir gan y cyhoedd. Y siom fwyaf yw bod cyn lleied o gwmnïau annibynnol o sector cynhyrchu teledu Cymru wedi aeddefu i fod yn unedau sy’n gallu gweithredu ledled y DU a thu hwnt. Yr her heddiw yw i gwmnïau annibynnol Cymru wella’u gallu i gynnig am gomisiynau rhwydwaith y DU, yn ogystal â gwella cyfraddau gwerthu a chyd-gynhyrchu rhyngwladol, gan fod mwy a mwy o ddarlledwyr y DU yn troi at gyd-gynhyrchu er mwyn lleihau costau caffael cynnwys. Os na

a Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus) fydd y cwmnïau annibynnol, craidd sector creadigol Cymru, yn datblygu marchnadoedd newydd a chynhyrchion digidol newydd, byddant yn dirywio wrth i’r pwysau gynyddu i leihau cyllidebau darlledu gwasanaeth cyhoeddus y DU mewn oes o ddigonedd o gyfryngau masnachol byd- eang. Hyd yma, cymysg fu hanes cwmnïau annibynnol Cymru. Mae cwmnïau fel Tinopolis a Boomerang wedi llwyddo i ddenu cyfalaf allanol ac mae 8. Is-sectorau: Teledu (Llywodraeth y Cynulliad 8. Is-sectorau: Teledu Tinopolis, y mwyaf ohonynt, wedi tyfu’n sylweddol y tu allan i Gymru

Tudalen 27 trwy gaffael cwmnïau, ar ôl arallgyfeirio’n llwyddiannus i amrywiaeth o wasanaethau cyfryngau digidol, a ddarperir o sail hynod gost-effeithiol sy’n seiliedig ar graidd o waith gan S4C. Mae eraill fel Green Bay, Presentable, Rondo Media, Cwmni Da a Telesgop wedi creu busnesau arbenigol cryf. Mae llawer o gwmnïau annibynnol eraill Cymru wedi ei chael hi’n anoddach datblygu y tu hwnt i S4C, ond mae’r rhan fwyaf wedi datblygu i ryw raddau. Mae yna glwstwr digon da o gwmnïau yma i gyfi awnhau camau gweithredu parhaus gan Lywodraeth y Cynulliad i helpu i ddatblygu’r diwydiant ymhellach, o ystyried amlygrwydd cynyddol sgiliau clyweled ar draws yr economi ddigidol newydd. Ond mae gweithio’n llwyddiannus gyda chwmnïau o’r math hwn yn gofyn am lefel o arbenigedd nad yw Llywodraeth y Cynulliad wedi gallu ei darparu’n gyson. O safbwynt Llywodraeth y Cynulliad, mae materion yn cael eu cymhlethu gan y ffaith bod y diwydiant teledu yng Nghymru’n cael ei ddominyddu gan ddau ddarlledwr a ariennir gan y cyhoedd, BBC Cymru ac S4C, gyda’r ddau’n derbyn eu cyllid trwy drefniadau a bennir ac a weinyddir yn Llundain. Yn Llywodraeth y Cynulliad, mae materion yn ymwneud â’r ddau ddarlledwr hwn, ynghyd â materion eraill yn ymwneud â pholisi darlledu, yn perthyn i gylch gwaith yr Adran Dreftadaeth. Mae yna gydnabyddiaeth eang bod angen gwella’r berthynas waith rhwng yr Adran Dreftadaeth ac Adran yr Economi a Thrafnidiaeth. Hefyd, mae gan feysydd polisi sy’n draddodiadol wedi cael eu hystyried yn gwbl ddiwylliannol eu natur – er enghraifft y celfyddydau sy’n cael cymhorthdal – gyfraniad allweddol i’w wneud at lywio dyfodol diwydiannau creadigol Cymru. Pwysleisir hyn yn y ffordd mae Llywodraeth y Cynulliad yn cynnal ei pherthynas ei hun â’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus: Channel 4, Channel 5 ac ITV, ynghyd â’r ddau brif ddarlledwr: BBC Cymru ac S4C. Mae hon yn thema sydd wedi’i thrafod sawl gwaith dros y misoedd diwethaf mewn trafodaethau a gwrandawiadau pwyllgor y Cynulliad, weithiau wrth drafod pryderon diwylliannol, fel y portread o Gymru ar deledu gwasanaeth cyhoeddus rhwydwaith y DU neu ddyfodol rhaglenni o ddiddordeb Cymreig ar ITV; weithiau wrth drafod materion economaidd, fel i ba raddau mae’r darlledwyr hyn yn comisiynu rhaglenni gan ganolfannau cynhyrchu a chyfl eusterau Cymru. Yn yr holl ddadleuon hyn, mae creu ffi niau cadarn rhwng pryderon diwylliannol ac economaidd yn gynyddol hunandrechol: mae gan Gymru hawl i ddisgwyl enillion diwylliannol ac economaidd cryf o’r £250 miliwn o arian cyhoeddus sy’n cael ei wario bob blwyddyn ar ddarlledu yng Nghymru.

Tudalen 28 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Wrth wraidd yr holl gwestiynau hyn mae’r ddadl a ddylai polisi darlledu fod yn fater i Lywodraeth y DU: cwestiwn sydd y tu hwnt i gwmpas yr adolygiad cyfredol. Ond mae’n dilyn o egwyddorion Adolygiad Beecham 2006 bod gan y Cynulliad a Llywodraeth y Cynulliad bob hawl, ac yn wir gyfrifoldeb, i graffu ar bob maes polisi a gwariant cyhoeddus sydd o bwys i bobl Cymru. Mae perfformiad economaidd a diwylliannol darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn sicr yn perthyn i’r categori hwnnw. Ar lefel y DU, mae yna ddadl gadarn a chyson bron ynglyn^ â chyfeiriad strategol darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Mae Ofcom wedi cynnal dau adolygiad ar y pwnc yn y chwe blynedd diwethaf ac mae’r BBC yn destun trafod cyson ymhlith gwleidyddion, gan ei bod yn cael ei hystyried yn sefydliad gwerthfawr ac yn un hynod ddadleuol. Ar hyn o bryd, mewn ymateb i’r pwysau hwn, mae’r BBC yn cynnal adolygiad mawr o gwmpas ei gweithgareddau ei hun. Gofynnodd nifer o randdeiliaid i’r adolygiad pam nad yw S4C yn cynnal archwiliad tebyg? Maent yn cwestiynu a yw lefel y drafodaeth gyhoeddus ynglyn^ ag S4C yng Nghymru yn gymesur â’i phwysigrwydd diwylliannol ac economaidd i Gymru, ac ai’r ffaith bod S4C yn cael ei hariannu a’i rheoleiddio’n bennaf o Lundain (trwy’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ac Ofcom) a’i bod ond yn atebol yng Nghymru i Awdurdod S4C, corff â phroffi l cymharol isel, sy’n gyfrifol am y sefyllfa hon. Maent yn datgan y dylai’r Cynulliad fod yn gwneud cyfraniad mwy at arwain trafodaeth ynglyn^ ag S4C. Mae atebolrwydd y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill yng Nghymru hefyd yn llai na chadarn. Mae BBC Cymru yn cael ei llywodraethu gan Ymddiriedolaeth y BBC, sy’n cynnwys aelod o Gymru; trefniant sy’n dyddio’n ôl i’r cyfnod cyn datganoli. Ychydig o broffi l sydd gan Gyngor Cynulleidfa Cymru y BBC y tu allan i’r BBC ei hun. Mae ITV a Channel 4 yn cael eu rheoleiddio gan Ofcom, sy’n cynnwys corff cynghori Cymru ac sydd wedi datblygu enw da am gynhyrchu data ac ymchwil sydd eu hangen i lywio’r ddadl ynglyn^ â darlledu yng Nghymru. Y farn gyffredinol, fodd bynnag, yw nad yw sawl un o benderfyniadau Ofcom wedi rhoi digon o ystyriaeth i safbwynt Cymru ac mae yna gyfl e i ddatblygu llais Pwyllgor Cynghori Cymru Ofcom ymhellach. Mae gan ITV ei fecanwaith proffi l isel ei hun yng Nghymru i asesu safbwyntiau cynulleidfaoedd. O dan yr amgylchiadau hyn, mae’n hanfodol bod gan y Cynulliad a Llywodraeth y Cynulliad yr arbenigedd i bennu eu safbwyntiau eu hunain, waeth gan bwy mae’r cyfrifoldeb deddfwriaethol. Mae’n galonogol nodi bod Gweinidogion wedi amlygu materion sy’n codi mewn perthynas â dyfodol ITV Wales dros y ddwy neu dair blynedd diwethaf, gan annog Pwyllgorau’r Cynulliad i ddilyn y materion

Tudalen 29 a chyfl wyno’u her eu hunain. Fodd bynnag, mae Gweinidogion Llywodraeth y Cynulliad wedi osgoi datgan yn gyhoeddus eu safbwynt ar brif faterion polisi’r DU, fel y ddadl dros leihau ffi ’r drwydded. Pan mae’r gweinyddiaethau datganoledig wedi bod yn bendant, maent wedi cael canlyniadau da. Yr enghraifft orau o hyn yw’r BBC yn cael ei gorfodi i ildio’r pwynt pwysig y dylai gomisiynu cyfran uwch o’i rhaglenni yn unol â maint cymharol y boblogaeth yng ngwledydd y DU. Mae’r BBC wedi cytuno ar ffi gur targed o 17 y cant, sy’n awgrymu (ni nodir y ffi gur yn y ddealltwriaeth) cyfran o 5 y cant ar gyfer Cymru – sef llawer mwy o raglenni nag sydd wedi’u comisiynu o Gymru dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae hyn yn pwysleisio cryfder yr awdurdodau datganoledig wrth gyfl wyno dadleuon economaidd. Y pwynt sylfaenol yw na all unrhyw strategaeth diwydiannau creadigol yng Nghymru ffynnu heb gyfraniad cryf a brwdfrydig y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. BBC Cymru yw un o’r sefydliadau mwyaf pwerus yng Nghymru, gyda 1,200 o weithwyr cyfl ogedig uniongyrchol, ffi gur sy’n codi i 2,300 os ydym hefyd yn ystyried swyddi anuniongyrchol. Er bod y rhan fwyaf o’r swyddi hyn yng Nghaerdydd, cartref BBC Cymru, mae traean o’r rheini sy’n cael eu cyfl ogi’n uniongyrchol yn byw mewn ardaloedd Amcan Un difreintiedig. Y BBC yw’r enw mwyaf o bell ffordd yn y farchnad Gymreig ar gyfer teledu, radio a gwasanaethau ar-lein. Mae hefyd yn darparu rhaglenni Cymraeg ar gyfer S4C. Fodd bynnag, mae gwariant BBC Cymru ar raglenni Saesneg ar gyfer Cymru wedi gostwng o £26.8 miliwn yn 2005/06 i 23.6 miliwn yn 08/09, a hynny ar adeg pan mae incwm o ffi ’r drwydded wedi bod yn cynyddu. Nid oes unrhyw arwydd bod y duedd hon ar fi n sefydlogi neu newid i’r gwrthwyneb. Dylai’r Cynulliad a Llywodraeth y Cynulliad ddisgwyl y bydd eu safbwyntiau ar y materion hyn yn cael eu clywed. Dros y misoedd diwethaf, mae BBC Cymru wedi bod yn dadlau ar fater o bwys economaidd mawr arall i ddiwydiannau creadigol Cymru: symud y gyfres ddrama boblogaidd Casualty o Fryste i Gaerdydd; a chreu canolfan newydd ar gyfer dramâu teledu: “pentref drama” yn y De-ddwyrain. Roedd hyn yn dilyn cynnig cynharach gan y BBC i adleoli pencadlys BBC Cymru, Caerdydd. Mae’r mater yn enghraifft wych o bwysigrwydd economaidd y BBC i botensial economaidd creadigol Cymru. Os caiff y prosiect ei gyfyngu i ddramâu teledu, amcangyfrifi r y byddai ei effaith net ar incwm neu wariant yng Nghymru yn £17 miliwn y fl wyddyn, gan greu bron i 340 o swyddi. Os byddai’r BBC yn symud ei phencadlys yng Nghymru i safl e’r pentref drama ac y byddai parc busnes cynnwys digidol llwyddiannus yn cael ei greu (prosiect Prifddinas y Cyfryngau), rhagwelir y bydd y buddiannau’n cynyddu i £58 miliwn y fl wyddyn a bron i 1,500 o swyddi.

Tudalen 30 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Ym mis Ionawr 2010, rhoddwyd cymeradwyaeth i elfen pentref drama’r rhaglen hon – partneriaeth rhwng y BBC, Llywodraeth y Cynulliad a’r datblygwyr Igloo. Mae’r BBC wedi ymrwymo i leoli’r cyfl euster hwn ar safl e sy’n eiddo i’r Cynulliad ym Masn y Rhath, Bae Caerdydd, gyda’r gwaith cynhyrchu i fod i ddechrau yn hydref 2011. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cymeradwyo £10 miliwn o’i Chronfa Fuddsoddi Sengl i ariannu’n rhannol y buddsoddiad cyfalaf ym mhrosiect adfywio ehangach Basn y Rhath. Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd wedi ymrwyo i ddatblygu adeilad arall ger y Pentref Drama a allai ddarparu cartref i gwmnïau’r sector creadigol o ddechrau 2012. Mae hwn yn ddatblygiad i’w groesawu, ond bydd yn gofyn am gefnogaeth gref a brys gan Lywodraeth y Cynulliad, er mwyn sicrhau manteision llawn prosiect Prifddinas y Cyfryngau. Fel rhan o’r cytundebau cyfreithiol sydd ar waith ar hyn o bryd, mae gan y BBC opsiwn gyda chyfyngiad amser (pedair blynedd) ar dir ger y pentref drama i symud ei bencadlys o safl e Llandaf. O ystyried bod y BBC wrthi’n cynnal adolygiad sylweddol o holl weithgareddau’r gorfforaeth, a hynny ar adeg Etholiad Cyffredinol a’r holl ansicrwydd ynglyn^ â lefelau ariannu’r dyfodol, mae’n hanfodol bod y BBC yn deall yn llawn beth yw pwysisgrwydd ei hymrwymiad i’r elfen hon o’r prosiect. Fel rhan o’i hymdrechion i greu clwstwr Prifddinas y Cyfryngau, mae Llywodraeth y Cynulliad yn ceisio sefydlu partneriaeth gyda Chyngor Dinas Caerdydd, academia, y sector teledu annibynnol a rhanddeiliaid allweddol eraill, y bydd eu cyfraniad yn hanfodol i sicrhau bod prosiect Prifddinas y Cyfryngau yn darparu clwstwr hyfyw a fydd yn gallu sicrhau lefelau cyfl awni uwch yn sector creadigol Cymru. Yn yr adolygiad, mynegodd nifer o randdeiliaid amheuaeth ynglyn^ â’r prosiect hwn, gan ddadlau na fydd ond warws gynhyrchu dros dro i’r BBC, wedi’i gynllunio er mwyn cydymffurfi o â’r cwotâu cynhyrchu uwch yn y gwahanol wledydd. Maent yn gofyn, yn unol â’u hawliau, pam fod Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi arian i brosiect a ddatblygwyd o amgylch y BBC, pan mae yna gymaint o weithgareddau haeddiannol eraill – er enghraifft, datblygu sector cynnwys digidol Cymru neu mewn ffyrdd eraill. Ond mae hwn yn un o’r cyfl eoedd yna sydd yma heddiw ac a allai ddifl annu erbyn fory. Os na fydd BBC Cymru yn cael canolfan cyfryngau digidol heb ei hail yn lle ei chyfl eusterau 40 oed yn Llandaf, bydd hynny’n gadael Caerdydd yng nghysgod Glasgow a Manceinion (sydd eisoes â chanolfannau o’r fath). Yn ôl adroddiad ymgynghorydd ar y brosiect Prifddinas y Cyfryngau yn 2009: “Mae’r BBC eisoes yn cynnal llawer o’i gweithrediadau yng Nghymru, sy’n gwneud cyfraniad economaidd sylweddol. Mae gan y datblygiad Prifddinas y Cyfryngau

Tudalen 31 newydd y potensial i roi hwb i’r cyfl ogwr blaenllaw hwn, gwella datblygiad parhaus Caerdydd fel lleoliad blaenllaw ar gyfer y cyfryngau yn y DU a darparu pob math o fuddiannau economaidd, cymdeithasol ac adfywio i Gaerdydd a Chymru. Trwy wneud hynny, bydd y datblygiad yn cyfrannu’n sylweddol at ystod eang o amcanion polisi ar lefel dinas, rhanbarth dinesig ac ar lefel Cymru gyfan. Mae cyfraniad o’r fath yn debygol o fod yn bwysicach fyth o ystyried yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, sydd eisoes wedi dechrau cael effaith ddifrifol ar economi Cymru”ix Argymhelliad: Dylai Llywodraeth y Cynulliad geisio sicrhau prosiect Prifddinas y Cyfryngau fel mater o frys. Bydd hyn yn gofyn am gyfraniadau newydd sylweddol, o ran gwerthuso anghenion gweithredol a phosibl busnesau cynnwys digidol yng Nghymru er mwyn pennu’r ffurf mwyaf defnyddiol o glwstwr digidol y tu hwnt i’r cynllun Pentref Drama sy’n cael ei weithredu ar hyn o bryd. Gofynnodd yr adolygiad hwn i’r BBC amcangyfrif ei heffaith economaidd gyffredinol ar Gymru a, thrwy gyd-ddigwyddiad, roedd y BBC newydd wedi comisiynu astudiaeth gan Deloittes i ateb y cwestiynau hyn ar gyfer y DU gyfan: sy’n dangos bod y BBC yn dod yn fwy ystyriol o’i dylanwad economaidd yn ogystal â’i dylanwad diwylliannol.x Ar y cyfan, mae Deloittes yn cyfrifo bod y BBC wedi gwario £6.4 biliwn yn 2008/9 yn y DU ac wedi darparu £7.7 biliwn o werth ychwanegol gros. Yng Nghymru, gwariodd £138 miliwn, gan ddarparu gwerth ychwanegol gros i’r DU o £248 miliwn. Nid yw’r holl werth ychwanegol hwn yn cronni yng Nghymru, fodd bynnag, oherwydd colledion. Mae’r rhesymau am y colledion hyn yn cynnwys diffyg sgiliau a chyfl eusterau yn sector darlledu Cymru – er bod beirniaid y BBC yn dweud bod y ffenomenon hon yn cael ei chreu yn rhannol gan ddymuniad hanesyddol y BBC i gael strwythurau comisiynu cymharol ganolog. Mae’r un broblem yn codi yng nghwledydd a rhanbarthau eraill y DU y tu allan i Lundain a’r De-ddwyrain. Nid yw adroddiad Deloittes yn ceisio cyfrifo’r adenillion GYC i Gymru o ganlyniad i wariant y BBC yng Nghymru, gwaetha’r modd. Ond yn seiliedig ar waith blaenorol gan Cambridge Econometrics, amcangyfrifi r bod economi diwydiannau creadigol Cymru yn gallu cadw tua 80 y cant o werth y math hwn o wariant yng Nghymru. Mae’r “lluosydd” hwn o 0.8 yn ddangosydd bras o ddyfnder economi greadigol Cymru: cryfa’n byd yw’r economi greadigol, ucha’n byd yw’r lluosydd. (er bod y ffi gurau’n seiliedig ar astudiaeth oedd yn canolbwyntio ar y sectorau ffi lm a theledu’n unig). Mae’r lluosydd safonol a ddefnyddir ar gyfer Cymru (0.8) yr un fath a’r lluosydd a ddefnyddir ar gyfer Gogledd Iwerddon. Lluosydd yr Alban yw 0.9 a lluosydd Llundain yw 1.1. Mae hyn yn nodi nad oes gan Gymru, fel canolfan diwydiannau creadigol, ddigon o rym

Tudalen 32 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

cymharol i sicrhau gwerth economaidd o’r sector hwn. Fodd bynnag, mae’r ffi gurau hyn yn chwe mlwydd oed a byddai’n hynod ddefnyddiol cael gwell data ar gyfer Cymru fel rhan o’r ymdrech i ddeall i ba raddau y mae polisïau’n helpu’r sector creadigol i sicrhau bod economi Cymru mewn sefyllfa well i gynyddu gwerth. Nid oes unrhyw ddata y dibynnir arno ar hyn o bryd, er enghraifft, yn cynnwys gwerthusiad o effaith y rhyngrwyd. Dyma faes gwaith arall i’r Ganolfan Strategol Diwydiannau Creadigol newydd. Mae S4C hefyd o bwys allweddol i sector diwydiannau creadigol Cymru. Mae’n gwario dros £100 miliwn y fl wyddyn ar raglenni Cymraeg, ac mae ganddi fraich fasnachol sy’n cael ei hariannu gan elw o werthu asedau. Fe’i hariennir yn bennaf gan drethdalwyr y DU, gyda chymorth refeniw hysbysebu a nawdd, yn bennaf o’i sianel deledu graidd, ynghyd â rhaglenni ar amser gwahanol (yn hanesyddol) gan Channel 4. Ni fydd rhaglenni Channel 4 yn ymddangos ar S4C pan gwblheir y newid i ddigidol yng Nghymru ar 31 Mawrth 2010, ond efallai y bydd cyfl eoedd ar gael i weithio mewn partneriaeth , er enghraifft wrth ddosbarthu rhaglenni Teledu Manylder Uwch yng Nghymru. Heb S4C, hwyrach na fyddai gan Gymru unrhyw gwmnïau cynhyrchu teledu annibynnol o gwbl. Mae bron pob cwmni annibynnol yng Nghymru wedi dechrau arni yn cynhyrchu rhaglenni ar gyfer S4C, ac maent wedi’u gwasgaru ledled Cymru mewn ffordd sydd wedi helpu i ymestyn sail ddaearyddol sector diwydiannau creadigol Cymru. Nod y penderfyniad, yn dilyn Deddf Cyfathrebu 2003, i ganiatáu i gwmnïau cynhyrchu annibynnol gadw hawliau eiddo deallusol yn eu cynyrchiadau eu hunain yw annog cwmnïau annibynnol i ddatblygu’r math o rym a fyddai’n eu galluogi i fasnachu’r tu hwnt i Gymru yn rhwydweithiau teledu’r DU a thu hwnt. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae S4C wedi ceisio sicrhau arbedion maint trwy gomisiynu llai o gwmnïau annibynnol, sydd hefyd wedi cael yr effaith ddymunol o annog datblygiad cwmnïau mwy a chryfach sy’n gallu cystadlu’n ehangach, yn ogystal â gwneud ei harferion caffael ei hun yn fwy effeithlon. Mae S4C, trwy ei rhaglen Rhagoriaeth Greadigol 2004, wedi gwneud cyfraniad cryf at ddatblygu darpariaeth hyfforddiant a sgiliau o safon ar gyfer y sector teledu yng Nghymru, yn ogystal â chydweithio â’r Gronfa Eiddo Deallusol ar fuddsoddiadau ar y cyd mewn rhaglenni teledu a ffi lmiau. Yn ôl asesiad o effaith economaidd lawn S4C ar economi Cymru a gomisiynodd S4C gan yr Uned Ymchwil Economi Cymru yn Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd yn 2007xi amcangyfrifi r ei bod yn gyfrifol am gefnogi 2,254 o swyddi (cyfwerth ag amser llawn) trwy wariant o £96.7 miliwn yn ystod y fl wyddyn honno, heb ystyried effaith y swyddi yn BBC Cymru o ganlyniad i greu 524 awr o raglenni Cymraeg gwerth

Tudalen 33 £20.6 miliwn. Mae’r rhan fwyaf o’r swyddi y mae S4C yn eu cynnal yn y sector cynhyrchu annibynnol ac, fel y rhan fwyaf o swyddi yn y diwydiant darlledu gwasanaeth cyhoeddus, maent yn swyddi sy’n gofyn am lawer o sgiliau ac sy’n denu cyfl og uchel. Mae’r materion hyn oll o bwys economaidd sylweddol yng Nghymru ac mae gan Lywodraeth y Cynulliad gyfraniad pwysig i’w wneud o ran sicrhau bod S4C yn parhau i wneud cyfraniad economaidd sylweddol, ochr yn ochr â’i chyfraniad diwylliannol. Ond gall y Cynulliad hefyd ofyn: sut y gellid datblygu’r effaith economaidd hon ymhellach? Un posibilrwydd fyddai gofyn i S4C osod amodau perfformiad ar gwmnïau sy’n gweithio i S4C a fydd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt werthu canran benodol o’u gwaith fel cyfi eithiadau y tu allan i Gymru; gallai roi cymhellion i annog cwmnïau cynhyrchu i gydweithio’n rhyngwladol (er enghraifft, trwy gyfyngu ar y graddau y mae S4C yn gweithredu fel unig gomisiynydd); gallai gynnwys S4C yn cymryd rhan mewn cronfa fuddsoddi ddigidol newydd, fel yr amlinellir isod. Ond mae’r rhain yn amcanion economaidd nad ydynt yn rhan o gylch gwaith S4C ac anaml iawn y maent yn faterion proffi l uchel ar agenda’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, sy’n goruchwylio cyllid S4C. Mae’n drawiadol nad yw fframwaith cyfredol Awdurdod S4C o gyfrifoldebau ffurfi ol yn gwneud unrhyw gyfeiriad at faterion economaidd. Hefyd, wrth ymateb i gyfl eoedd masnachol posibl, mae statud sefydlu S4C yn ei hymrwymo i ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol cymhleth sy’n cynnwys cyfl wyno gorchmynion gerbron Ty’r^ Cyffredin. Mae’n annhebygol bod modd gwneud penderfyniadau cyfl ym mewn diwydiant sy’n symud mor gyfl ym dan amodau o’r fath. Dywedodd nifer o randdeiliaid wrth yr adolygiad bod S4C wedi ymddangos yn betrusgar dros y fl wyddyn ddiwethaf mewn perthynas â nifer o gwestiynau strategol pwysig: i ba raddau y gallai gyfrannu at ddarparu rhaglenni newyddion Saesneg yn sgil penderfyniad ITV i roi’r gorau i weithredu yn y maes hwn; natur ei pherthynas darparu rhaglenni gyda BBC Cymru; strategaeth fasnachol S4C; rôl ehangach bosibl Awdurdod S4C fel awdurdod comisiynu; a rôl S4C o ran datblygu gwasanaethau a busnesau ar-lein yng Nghymru y tu hwnt i ffi niau ei gwasanaethau craidd. Eto, mewn cyfnod pan fo pob agwedd ar ddyfodol ITV, Channel 4, Channel 5 a’r BBC wedi bod yn destun trafodaeth fanwl ac, yn wir, yn bwnc llosg ymhlith pleidiau gwleidyddol yn y DU, mae’r ddadl ynglyn^ ag S4C wedi bod yn ddistaw, yn tueddu i amrywio rhwng ymyriadau ysbeidiol yn cwestiynu’r sail y mae’r sianel yn gweithredu arni a thawelwch. Nid oes gan awdurdodau’r DU dan sylw (Ofcom a’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon) y reddf na’r hunanhyder

Tudalen 34 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

i lywio’r ddadl hon sy’n unigryw i Gymru ac nid oes gan Lywodraeth y Cynulliad y mandad ffurfi ol. Yn ystod yr adolygiad hwn, clywsom sawl awgrym (yn breifat bron yn ddieithriad, ond yn angerddol yn aml) ynglyn^ â lefel cyllid S4C, ei threfniadau llywodraethu gwleidyddol, y lleihad yng nghwmpas ei rhaglenni, ei gweithgareddau ar-lein, ei mentrau masnachol a’i strwythur. Hyd yma, nid yw Awdurdod S4C, Ofcom na Llywodraeth y Cynulliad wedi llwyddo i sicrhau dealltwriaeth ddigonol o’r materion hyn. Mae gwleidyddion yn poeni y bydd codi proffi l S4C ar lefel gwleidyddiaeth Llundain yn arwain at un peth: her i lefel ei chyllid gan y Trysorlys. Mae’r rhain i gyd yn beryglon gwirioneddol, ond ni ellir caniatáu iddynt dagu dadleuon. Sut y gellid gwella’r sefyllfa? Un dewis fyddai i’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon gynnal adolygiad llawn o S4C, y mae’n ofynnol iddi ei wneud bob pum mlynedd. Yr adolygiad eang diwethaf oedd yr un a gynhaliwyd gan Roger Laughton yn 2003/4. Fodd bynnag, byddai’n well i’r Cynulliad a Llywodraeth y Cynulliad achub y blaen ac ystyried y materion sy’n wynebu S4C, gan weithio o fewn fframwaith y statud cyfredol, ond yn seiliedig ar gylch gorchwyl eang sy’n galluogi Llywodraeth y Cynulliad i argymell newidiadau i’r statud lle bo’n briodol. Cam cyntaf synhwyrol fyddai i’r Cynulliad a Llywodraeth y Cynulliad wahodd Awdurdod S4C i gymryd rhan mewn proses newydd o gyfnewid gwybodaeth a barn sydd wedi’i strwythuro ac sy’n digwydd yn fwy rheolaidd. Gallai cylch gorchwyl ar gyfer adolygiad fod yn bwnc trafod cynnar. Mae’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill yn bwysig i Gymru i wahanol raddau. Channel 5 yw’r lleiaf pwysig, gan mae hi sydd â’r rhwymedigaethau cyhoeddus ysgafnaf a chan nad oes ganddi hanes arwyddocaol o gomisiynu o Gymru. Mae’n ymddangos y bydd gan Channel 4, fodd bynnag, fandad gwasanaeth cyhoeddus newydd yn sgil y ddadl gyfredol ar lefel y DU, ond mae ei pherthynas hi â Chymru hefyd yn wan. Mae hanes Channel 4 o gomisiynu o Gymru yn brin, felly pan aeth ati i lansio cyfres bwysig o fentrau ar-lein o dan faner 4IP, gyda’r nod o ddatblygu cyfl eusterau gwasanaeth cyhoeddus a newyddion cymunedol ar-lein ledled y DU, cafwyd ymdrech fawr yng Nghymru i ddenu cyfran o’r rhaglen, ond heb lwyddiant. Dywedodd Channel 4 wrth yr adolygiad fod gan Gymru sail diwydiannau creadigol gymharol gref a gallu i gymryd mwy o risg na Rhanbarthau Lloegr ond, yn ymarferol, bod y sianel wedi dioddef “problemau llywio” wrth weithio gyda Llywodraeth y Cynulliad. Meddai uwch weithredwr: “Nid ydym wedi llwyddo i ddatrys cod enigma Llywodraeth y Cynulliad. Ni ddywedodd unrhyw un Na i Channel 4, ond nid oedd hi’n glir pwy fyddai’n dweud Iawn.”

Tudalen 35 Yn oes darlledu analog, roedd yn naturiol a hyd yn oed yn dderbyniol i Channel 4 roi llai o sylw i Gymru nag i’r Alban neu Ogledd Iwerddon gan fod ei rhaglenni’n brwydro am ofod ar un sianel a rennir gydag S4C. Gan y bydd Cymru’n cwblhau’r newid i’r digidol, nid yw hyn yn berthnasol mwyach. Dylai Channel 4 ymateb i Gymru heddiw a dylai Cymru ymateb i Channel 4 gyda’r un lefel o ymrwymiad ag unrhyw un o wledydd eraill y DU. Wrth i’r adolygiad fynd i’r wasg, roedd Channel 4 yn cyhoeddi ei chynlluniau i lansio cronfa ddatblygu bwrpasol ar gyfer cwmnïau annibynnol Cymru: symudiad i’r cyfeiriad cywir y dylid ei groesawu. Dylai darlledwr gwasanaeth cyhoeddus fel Channel 4 ddisgwyl comisiynu llawer mwy o’i raglenni o Gymru na’r lefel a nodir gan yr ymrwymiad cyfredol i gomisiynu 3 y cant o’i raglenni o’r tair gwlad y tu allan i Loegr gyda’i gilydd. Dylai Llywodraeth y Cynulliad alw am ddealltwriaeth newydd â Channel 4 ar y materion hyn a materion eraill trwy’r dull a gynigir yn yr adolygiad hwn. Mae stori ITV yn wahanol eto. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae cawr y cyn-ddeuopoli darlledu gyda’r BBC wedi gorfod addasu i dwf aruthrol sianeli masnachol ar deledu lloeren a chebl, datblygiad y rhyngrwyd ac awydd ei dîm arwain ei hun o ganlyniad i gael gwared ar rwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus aneconomaidd, gan gynnwys darparu newyddion i Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a rhanbarthau Lloegr. Cafwyd dadl fywiog yng Nghymru am ddewisiadau i gymryd lle gwasanaeth newyddion Sianel 3 ITV ac, o ganlyniad, mae’n ymddangos mai Cymru fydd yn derbyn y cyllid i dreialu gwasanaeth amgen gan gonsortiwm newydd o ddarparwyr. O ystyried y diffyg cyfryngau newyddion cynhenid yng Nghymru yn hanesyddol, yn enwedig o gymharu â’r Alban a Gogledd Iwerddon, mae hwn yn fater o bwys mawr ynddo’i hun. Adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, mae’r broses o wneud cais am y gwasanaeth peilot hwn yng Nghymru ar waith ers amser, gyda chynigion wedi’u cyfl wyno gan gonsortia sy’n cynnwys Tinopolis, cwmnïau annibynnol eraill o Gymru, ITN, hen ystafell newyddion ITN yng Nghymru, papurau newydd Cymru, Prifysgol Caerdydd, UTV a sawl un arall. Mae cadw lluosogrwydd mewn darpariaeth newyddion, a datblygu cynnwys newyddion cymunedol cryf ar-lein yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn nod diwylliannol pwysig ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Fodd bynnag, ni ddylid ychwaith diystyru ei harwyddocâd economaidd: heb ddarpariaeth newyddion fasnachol gref i herio’r BBC, bydd Cymru’n colli cyfl e nid yn unig o ran y ddadl gyhoeddus ond hefyd o ran datblygu marchnadoedd hysbysebu a meithrin sgiliau a gallu pwysig yn y sector cyfathrebu digidol. Mae’r mater o gyfl enwi rhaglenni Saesneg ar gyfer Cymru y tu allan i faes newyddion (yr hyn y mae dosbarthiad Ofcom yn ei alw’n “rhaglenni

Tudalen 36 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

nad ydynt yn rhaglenni newyddion” – rhaglenni dogfen, materion cyfoes a rhaglenni ffeithiol eraill) wedi esgor ar ddadl fywiog yng Nghymru a chefnogaeth gref ar gyfer llenwi’r bwlch hwn yn y gwasanaeth wrth i ddarpariaeth ITV ddod i ben. Yna, mae’r pwnc pwysig o ffi niau Etholfraint ITV yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae Cymru a Gorllewin Lloegr gyda’i gilydd, ond gallai’r ffi niau newid fel bod Cymru ar ei phen ei hun yn y dyfodol. Ble bynnag fo union leoliad penderfyniadau rheoliadol ar faterion o’r fath, dylai barn y Cynulliad a Llywodraeth y Cynulliad gael eu datgan yn gryf. Y materion hyn ynglyn^ ag ITV yn anad dim sydd wedi sbarduno’r ddadl ddarlledu yng Nghymru dros y tair neu bedair blynedd diwethaf, ac wedi arwain at bob math o gynigion, yn amrywio o greu cronfa cynhyrchu teledu yn seiliedig ar fodel Canada i’r syniad mwy uchelgeisiol o sefydlu Comisiwn Cyfryngau Cymru i sianelu cyllid i newyddion a rhaglenni Saesneg eraill ar gyfer Cymru. Mae rhai o’r rheini sydd wedi gwneud y cynigion hyn wedi bod yn llygadu cyfran o’r cyllid sydd ar hyn o bryd yn cael ei ddosbarthu i S4C neu’r BBC, gan bwysleisio’r gostyngiad cyffredinol yn nifer y rhaglenni Saesneg sy’n targedu Cymru a lluosogrwydd y rhaglenni hynny. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gwrthod cyfrannu at y ddadl hon i raddau helaeth gan fod cyllid ar gyfer S4C a’r BBC yn cael ei bennu gan awdurdodau yn Llundain. Mae hon yn agwedd lwfr iawn. Os na all Llywodraeth y Cynulliad a’r Cynulliad Cenedlaethol fynegi barn ar ddarpariaeth gyffredinol darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, pwy sy’n gymwys i wneud hynny? Argymhelliad: Dylai Llywodraeth y Cynulliad ei gwneud yn ofynnol i S4C, y BBC a Channel 4 gynnal archwiliad blynyddol o’u heffaith economaidd ar Gymru ac asesiad o faterion economaidd sy’n edrych o leiaf fl wyddyn i’r dyfodol. Bydd yr archwiliadau hyn yn llwyfan i archwilio sut y gall y darlledwyr gynyddu eu heffaith economaidd yng Nghymru ac yn fodd o sicrhau bod rhwymedigaethau (fel lefelau comisiynu o Gymru) yn cael eu cyfl awni. O leiaf unwaith y fl wyddyn, dylai Prif Weithredwyr y darlledwyr gael eu gwahodd i gyfarfod â’r Bwrdd Diwydiannau Creadigol newydd i drafod pryderon a chynlluniau. Dylid gofyn i Ofcom ymestyn ei waith o ran adolygu materion cyfathrebu yng Nghymru i ddarparu trosolwg blynyddol o economi’r cyfryngau ehangach yng Nghymru. Argymhelliad: Yn achos S4C, dylai Llywodraeth y Cynulliad weithio gydag Awdurdod S4C i bennu amserlen o drafodaethau cyhoeddus strwythurol am weithgareddau S4C. Gallai hyn fod ar ffurf cyfarfod unwaith y fl wyddyn rhwng Awdurdod S4C a Phwyllgor priodol y Cynulliad, yn edrych i’r dyfodol a’r gorffennol; yn ogystal â chyswllt ddwywaith y fl wyddyn rhwng Prif Weithredwr S4C a’r Bwrdd

Tudalen 37 Diwydiannau Creadigol arfaethedig. Dylai Llywodraeth y Cynulliad hefyd ystyried gofyn i’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon gynnal adolygiad llawn o S4C er mwyn mynd i’r afael â materion na ellir eu datrys heb newid y statud seneddol. Dylai unrhyw adolygiad o’r fath ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod S4C sicrhau bod S4C yn ceisio sicrhau’r effaith economaidd fwyaf posibl yn gyson â’i hamcanion diwylliannol a gwasanaeth cyhoeddus. Canlyniad dymunol adolygiad o’r fath fyddai mwy o hyblygrwydd i S4C wrth wneud penderfyniadau masnachol. Wrth gynnal adolygiad, dylai’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon weithio mewn partneriaeth agos â Bwrdd Diwydiannau Creadigol newydd Llywodraeth y Cynulliad. Argymhelliad: Dylai Llywodraeth y Cynulliad wneud popeth o fewn ei gallu i helpu i ddarparu prosiect Canolfan Cyfryngau Digidol y BBC, gan ei ddefnyddio i greu craidd newydd ar gyfer clwstwr diwydiannau creadigol yn y De-ddwyrain. Dylai bwyso ar y BBC i adolygu cylch gwaith ac effaith ei Chyngor Cynulleidfa yng Nghymru. Dylai alw ar Ofcom i adolygu cylch gwaith ac effaith ei Bwyllgor Cynghori yng Nghymru. Argymhelliad: Dylai Llywodraeth y Cynulliad ddefnyddio’i dylanwad i sicrhau bod y treial consortiwm newyddion sydd wedi’i gynllunio ar gyfer Cymru yn mynd rhagddo’n unol â’r cynllun cyfredol. Argymhelliad: Dylai Gweinidogion geisio sicrhau bod pob darlledwr gwasanaeth cyhoeddus arall yn y DU, gan gynnwys Channel 4, yn diffi nio ymrwymiadau comisiynu manylach ar gyfer Cymru. Dylid pwyso ar Channel 4, trwy’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ac Ofcom, i wario mwy o arian yng Nghymru. Dylid disgwyl i arweinwyr darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus esbonio eu gweithgareddau yng Nghymru i bwyllgor perthnasol y Cynulliad yn rheolaidd.

Tudalen 38 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Yn y ddadl ynglyn^ â diwydiannau creadigol yng Nghymru, mae pobl nad ydynt yn gweithio ym maes ffi lmiau’n honni mai hwn yw’r maes mwyaf ffyniannus yn y sector diwydiannau creadigol gorlawn. O safbwynt lm ffi lmiau, nid yw hyn yn gywir gan ei fod yn diystyru’r cyllid cyhoeddus sylweddol sy’n llifo i mewn i deledu, radio a chynnwys ar-lein trwy’r system darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Mae pobl sy’n gweithio ym maes ffi lmiau yng Nghymru’n dadlau nad ydynt yn cael lefel briodol o gymorth a chydweithio gan y darlledwyr. Ond os ydym yn canolbwyntio’n benodol ar bolisïau diwydiannau creadigol Cymru, strategaeth 2004 a’r model olwyn ar gyfer cefnogi ymyrraeth economaidd mewn diwydiannau creadigol arbennig, mae ffi lm wedi cael cyfran fawr o’r sylw. Fel yr amlinellir yn adran 5 uchod, hyd yma ffi lm sydd wedi cael y gyfran uchaf o fuddsoddiad gan y Gronfa Eiddo Deallusol Creadigol, er bod y gyfran hon yn dechrau lleihau o blaid prosiectau teledu. Yn ogystal, mae gwaith Comisiwn Sgrîn Cymru, sydd ar hyn o bryd yn sefyll ochr yn ochr â Busnes Creadigol Cymru, fel rhan o’r “ganolfan” a gwaith Asiantaeth

9. Is-sectorau: Ffi Ffi lm Cymru. Gwaith Comisiwn Sgrîn Cymru yw helpu cynhyrchwyr ffi lm a theledu i ddod o hyd i leoliadau a chyfl eusterau technegol yng Nghymru – gyda’r nod o gynhyrchu gweithgarwch yn economi Cymru, o wasanaethau arlwyo i griwiau, a gwella enw da Cymru fel lle addas i gynhyrchwyr ffi lmiau. Mae ymchwil yn awgrymu bod ymweld â lleoliadau sy’n ymddangos mewn cynyrchiadau poblogaidd fel a ffi lmiau Harry Potter yn cael effaith gadarnhaol iawn ar dwristiaeth. Ers ei sefydlu yn 2002, mae’r Comisiwn Sgrîn wedi helpu i ddarparu dros £120 miliwn o wariant gwirioneddol ar brosiectau, gan gynnwys ffi lmiau a rhaglenni teledu. Yn sefydliadol, mae’r Comisiwn Sgrîn yn sefyll yn rhan o ganolfan Busnes Creadigol Cymru, yn gweithredu fel adain rannol ar gyfer ffi lm. Corff a ariennir gan yr UE ac sydd hefyd yn rhan o Fusnes Creadigol Cymru yw Media Antenna Cymru. Mae’n cefnogi hyfforddiant a phrosiectau teledu a ffi lm, ac yn helpu cwmnïau Cymru i fynychu digwyddiadau marchnata rhyngwladol. Ers 2007, mae wedi gwario 884,497 Ewro yn cefnogi cynyrchiadau o Gymru, yn bennaf ym maes rhaglenni dogfen ac animeiddio. I’r gwrthwyneb, nid yw Asiantaeth Ffi lm Cymru’n rhan o strwythurau llywodraethol ffurfi ol, er bod ei holl incwm yn dod o ffynonellau cyhoeddus. Sefydlwyd Asiantaeth Ffi lm Cymru yn 2006 gyda chyllid gan Lywodraeth y Cynulliad (trwy Adran yr Economi a Thrafnidiaeth), Cyngor Celfyddydau Cymru (gan gynnwys rhywfaint o arian y Loteri) a Chyngor Ffi lmiau’r DU. Yn gyfansoddiadol, mae’r Asiantaeth Ffi lm yn Gwmni

Tudalen 39 Buddiannau Cymunedol sy’n darparu sail hyblyg ar gyfer cyfuno cyllid cyhoeddus a phreifat er lles y cyhoedd. Caiff elw Cwmnïau Buddiannau Cymunedol ei ailgylchu yn hytrach na’i ddosbarthu i randdeiliaid. Mae gan yr asiantaeth fwrdd mawr, sy’n cynnwys arbenigwyr mewn sawl maes perthnasol. Mae gan Asiantaeth Ffi lm Cymru gyllideb fl ynyddol o £1.6 miliwn. Rhoddodd yr Asiantaeth Ffi lm dystiolaeth fanwl i’r adolygiad.xii Mae ei gwaith yn cynnwys datblygu ac ariannu prosiectau ffi lm gyda’r nod o hybu diwydiant ffi lmiau Cymru, addysg, eiriolaeth a dadansoddi’r farchnad. Hyd yma, mae Asiantaeth Ffi lm Cymru wedi cyd-ariannu 22 o ffi lmiau ac wedi darparu cyllid datblygu ar gyfer 59 ffi lm, gyda phob un ohonynt yn cynnwys doniau o Gymru. Ym mis Awst 2009, derbyniodd Asiantaeth Ffi lm Cymru adroddiad ymgynghori ar gefnogi cwmnïau cynhyrchu sy’n canolbwyntio ar ffi lmiau yng Nghymru. Aeth yr adroddiad hwn ati i archwilio dulliau o gefnogi cwmnïau ffi lm Cymru a daeth i’r casgliad bod yna brinder targedau addas. Hefyd, nododd adolygiad Olsberg nad oedd gan Gymru siop un stop ar gyfer y diwydiant ffi lm, yn wahanol i ranbarthau a gwledydd eraill y DU a thu hwnt. Nododd fod rhai o’r perthnasau dwyochrog ymhlith y cwmnïau hyn yn wych ond, ar y cyfan, ni welwyd un weledigaeth na strategaeth ar gyfer ffi lm yr oedd pob un ohonynt yn ei chefnogi. Mae hyn yn rhwystr i ddatblygiad llwyddiannus y sector, pa bynnag bwynt ar hyd y gadwyn werth y mae’r cymorth yn ei dargedu.” Yn ei thystiolaeth ysgrifenedig i’r adolygiad, mae Asiantaeth Ffi lm Cymru’n cyfeirio at Gronfa Fuddsoddi Sengl gynyddol ymatebol Llywodraeth y Cynulliad fel ffynhonnell cymorth posibl ar gyfer cwmnïau ffi lm a theledu, yn annog Llywodraeth y Cynulliad i wneud gwell defnydd o arbenigedd yr Asiantaeth wrth wneud penderfyniadau ynglyn^ â ffi lm, ac yn cymharu’r swm cymharol isel o £600,000 y fl wyddyn o arian y Loteri sydd ar gael iddi i’w ddosbarthu i gynhyrchwyr ffi lmiau gyda’r symiau mwy sylweddol a fuddsoddir gan y Gronfa Eiddo Deallusol trwy ddefnyddio dull o fewnfuddsoddi mewn prosiectau sengl tymor byr (gyda’i feini prawf allweddol ar wariant yng Nghymru a heb unrhyw feini prawf yn ymwneud â defnyddio cwmnïau neu ddoniau o Gymru). Mae Asiantaeth Ffi lm Cymru yn argymell y dylid darparu mwy o arian y Loteri i’r diwydiant ffi lm yng Nghymru (9 y cant o ddyraniad Cyngor Celfyddydau Cymru, yn hytrach na’r 14 y cant a gynigir mewn rhannau eraill o’r DU) a throsglwyddo cyllid Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer ffi lm o’r Gronfa Eiddo Deallusol i Asiantaeth Ffi lm Cymru, gan ddarparu un dull llywodraethu strategol cydlynol yng Nghymru. O dan y trefniadau newydd hyn, byddai prosiectau ffi lm a theledu’n cael eu hariannu’n fwy hyblyg. Mae Asiantaeth Ffi lm Cymru hefyd yn hyrwyddo

Tudalen 40 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

rhwymedigaethau cadarn ar ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus i gefnogi ffi lmiau ac yn galw am lif ariannu cryf i alluogi sinemâu Cymru i fynd yn gwbl ddigidol, fel y gall sinemâu Cymru ddarlledu perfformiadau cerddorol a theatrig o bob cwr o’r DU a thu hwnt. Yn y tymor hir, mae’r Asiantaeth Ffi lm o’r farn y gall asiantaeth sgrîn agregedig newydd fod yn sail ar gyfer creu Asiantaeth Cynnwys Digidol ehangach i gefnogi cyfryngau digidol ar draws pob platfform. Mae yna lawer o fanteision i’r syniadau hyn. Mae angen i Gymru fabwysiadu ymagwedd ystyriol at ffi lm a sinema ddigidol ac, ymhen amser, efallai y bydd yn datblygu rhyw fath o asiantaeth cynnwys digidol. Ond y broblem uniongyrchol gyda ffi lm yw bod ei strwythurau cymorth yng Nghymru yn dameidiog ac felly’n annhebygol o fod mor effeithiol neu effeithlon ag y dylent. Mae Gweinidogion yn teimlo eu bod yn clywed cyngor anghyson iawn ar sut i ddatrys y materion hyn, yn benodol am nad oes gan Lywodraeth y Cynulliad Ganolfan Strategol Diwydiannau Creadigol wybodus i ddarparu arweiniad a chyfeiriad. Wrth gynllunio “adain” ffi lm sy’n addas i’r diben ar gyfer y ganolfan newydd a ragwelir gan yr adolygiad hwn, bydd angen gwneud penderfyniadau ynglyn^ â’r amcanion priodol, lefel yr adnoddau a strwythur yr asiantaeth ar gyfer ffi lm, a ddylai barhau i dderbyn pa bynnag gyllid a ddyrennir iddi gan Lywodraeth y Cynulliad trwy’r Gronfa Diwydiannau Creadigol arfaethedig. Mae’r Asiantaeth Ffi lm a Chomisiwn Sgrîn Cymru’n gwneud gwaith pwysig, y rhan fwyaf ohono’n ddiwylliannol yn hytrach nag yn economaidd ei natur, ond mae yna gyfl e i ddod â’u gweithgareddau at ei gilydd mewn ffordd sy’n gwella proffi l marchnata Ffi lm Cymru a chyfl awni gwell effeithlonrwydd. Dylai datrys y mater hwn fod yn fl aenoriaeth gynnar i’r Bwrdd Diwydiannau Creadigol arfaethedig. Ar ôl sefydlu sylfaen drefniadol gadarn ar gyfer ffi lm yng Nghymru, bydd hi’n bosibl mynd i’r afael yn fwy llwyddiannus â materion fel y berthynas rhwng ffi lm a darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Argymhelliad: dylai’r Gronfa Strategol Diwydiannau Creadigol newydd ad-drefnu cymorth Cymru ar gyfer y diwydiant ffi lmiau mewn ffordd sy’n cynyddu ei effaith economaidd a’i effeithlonrwydd, gan roi sylw priodol i faterion a hawliadau nad ydynt yn rhai economaidd eu natur. Dylai’r “adain” ffi lm newydd hon ddarparu’r arbenigedd sydd ei angen i roi cymorth ar leoliad i gwmnïau ffi lm a theledu, yn ogystal ag arbenigedd ar ffi lmiau ar gyfer y Gronfa Diwydiannau Creadigol. Byddai’r adain newydd hefyd yn gwneud cyfraniad allweddol at ffi lm a theledu ar faterion fel cymorth busnes, hyfforddiant a mynediad i gyllid Llywodraeth y Cynulliad. Dylai Llywodraeth y Cynulliad geisio sicrhau bod Cymru’n cael cyfran deg o raglenni cyllid y DU ar gyfer ffi lm.

Tudalen 41 O safbwynt y diwydiant cerddoriaeth, nid cronfa fel Cronfa Eiddo Deallusol Creadigol Cymru sy’n gwneud buddsoddiadau ecwiti tymor hir o rhwng £50,000 a £700,000 yr un sydd ei hangen ar y farchnad. Dywedodd y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig wrth yr adolygiad y byddai’n well gan ei aelodau gael cronfa symlach sy’n rhoi grantiau bach neu fuddsoddiad had fel rhan o becyn cymorth, a fyddai’n cynnwys gwasanaethau cymorth busnes arbenigol priodol. Mae’n ymddangos bod y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig, a grëwyd ym 1999 fel rhwydwaith sector ar gyfer y diwydiant cerddoriaeth fasnachol, wedi gwneud gwaith da o ran hyrwyddo dealltwriaeth o’r dulliau gorau o alluogi doniau i gynhyrchu gweithgareddau busnes cynaliadwy trwy ganolbwyntio ar hawliau eiddo deallusol. Mae gan rwydwaith o’r fath sawl mantais: mae’n galluogi’r Llywodraeth i ddeall safbwyntiau ac anghenion y sector; mae’n sicrhau bod cynigion cyllid a chymorth busnes yn hysbys ledled y sector yn hytrach na chael eu cyfyngu i rwydweithiau ffi segol hap sy’n agos at rym gwleidyddol; mae’n darparu llwyfan lle gall cyfranogwyr y sector ddadlau ac weithiau datrys eu gwahaniaethau a, thrwy ddod â’r sector ynghyd, gall amlygu a meithrin cadwyni cyfl enwi, sy’n aml yn anweledig, sy’n cyfrannu at greu a dosbarthu cyfoeth. Ar gyfer unrhyw asiantaeth neu swyddog llywodraethol sy’n rhan o’r gwaith o “ddewis enillwyr” neu, yn y sector creadigol, nodi llwyddiannau, yn aml y cyffro sy’n dod i’r amlwg mewn rhwydwaith yw’r unig dystiolaeth bod artist/ grwp^ neu brosiect penodol yn dechrau denu cynulleidfa. Mewn tystiolaeth i’r adolygiad, dywedodd y Gronfa Eiddo Deallusol y byddai’n well ganddi hithau hefyd gynllun benthyciadau bach sy’n targedu’r sector cerddoriaeth. Byddai hyn yn sicrhau bod cymorth

10. Is-sectorau: Cerddoriaeth 10. Is-sectorau: Cerddoriaeth amserol ar gael, er enghraifft i label fach sy’n ceisio helpu band i ddechrau mynd ar daith neu gyfl awni bargen ddosbarthu. Mae yna hefyd achos dros ddarparu cymorth cyhoeddus ystyriol i ddigwyddiadau cerddoriaeth boblogaidd masnachol yng Nghymru, yn seiliedig ar lwyddiant gwyliau fel y Dyn Gwyrdd, Wakestock a Swn^ a’u potensial o ran niferoedd ymwelwyr ac enillion economaidd eraill. Yn ôl trefnwyr Gwyl^ y Dyn Gwyrdd, yn Lloegr mae cyllid Cyngor Celfyddydau Lloegr ar gael yn fwy parod i wyliau sydd ag amcanion masnachol a diwylliannol. Wrth i Gymru ddatblygu ei hagwedd a’i chymorth ar gyfer y sector diwydiannau creadigol, bydd yn bwysig sicrhau perthynas waith well o lawer rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a rhannau perthnasol Llywodraeth y Cynulliad. Gall cymorth cyhoeddus ar gyfer seilwaith ffi segol hefyd fod yn bwysig yn y diwydiant cerddoriaeth. Mae prosiect peilot llwyddiannus i ddarparu ystafelloedd ymarfer yn Wrecsam, a gostiodd £20,000, wedi

Tudalen 42 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

bod yn sail ar gyfer cyfl wyno’r rhaglen hon fesul cam ledled Lloegr, a dylid ei ddatblygu ymhellach. Argymhelliad: dylai’r Gronfa Diwydiannau Creadigol arfaethedig gael ei chynllunio mewn ffordd sy’n sicrhau ei bod yn cael effaith ar y diwydiant cerddoriaeth. Bydd hyn yn gofyn am ryw fath o raglen grantiau bach/ grantiau had i helpu busnesau cerddoriaeth masnachol i ddatblygu dull o gadw Eiddo Deallusol, ac i helpu digwyddiadau cerddoriaeth boblogaidd sydd â’r potensial i hybu’r buddiannau economaidd i Gymru. Dylai’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig barhau i weithredu fel “adain” y diwydiant cerddoriaeth yn y diwydiannau creadigol. Hefyd, clywodd yr adolygiad gan y diwydiant cerddoriaeth yr achos dros sefydlu corff trwyddedu a chasglu breindaliadau Cymru i wrthsefyll y cwymp diweddar mewn taliadau breindaliadau trwy Gymdeithas Hawliau Perfformio’r DU ac i fanteisio’n fwy effeithiol ar Eiddo Deallusol Cymru. Yn ystod yr adolygiad, cyhoeddodd Prifysgol Bangor adroddiad a gefnogwyd gan y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig a Llywodraeth y Cynulliad ac a ddarparwyd o dan y rhaglen Arbenigedd Academaidd i Fusnesau (A4B).xiii Mae’r adroddiad hwn yn argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad ariannu astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer sefydlu Cymdeithas Breindaliadau Cerddoriaeth annibynnol i Gymru. Mae’r adroddiad hefyd yn gwneud nifer o argymhellion eraill ar gyfer cymorth busnes, mwy o ymchwil academaidd a chysylltiadau gwell rhwng hyrwyddo twristiaeth a cherddoriaeth Gymreig. Er bod yr adolygiad hwn hefyd wedi clywed gan gerddorion a oedd o’r farn nad sefydlu cymdeithas breindaliadau annibynnol yw’r fl aenoriaeth fwyaf ar gyfer y sector, mae ymchwil Bangor yn awgrymu bod yna bryder mawr ynglyn^ â’r cwymp mewn breindaliadau a bod dros 80 y cant o’r cerddorion a fu’n cymryd rhan yn yr arolwg yn awyddus i greu sefydliad breindaliadau pwrpasol ar gyfer Cymru, gyda’r grym i fod mewn sefyllfa gryfach i drafod gyda BBC Radio Cymru ac S4C, y defnyddwyr mwyaf o gerddoriaeth Gymraeg boblogaidd. Mae’r ymchwil hefyd yn ystyried enghreifftiau o wledydd Ewropeaidd bach eraill, Croatia ac Estonia, i ddangos sut y gall gweithredu’n annibynnol mewn perthynas â hawliau perfformio dalu ar ei chanfed dros amser. Mae hon yn agwedd bwysig ar hawliau perchnogaeth Eiddo Deallusol, er ei bod yn newid drwy’r amser mewn byd lle mae ffeiliau’n cael eu rhannu’n hawdd ac, yn aml, yn anghyfreithlon. Argymhelliad: Dylai Llywodraeth y Cynulliad wahodd y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig i gostio astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer creu system breindaliadau hawliau perfformio ar gyfer Cymru a gwneud

Tudalen 43 argymhellion i Lywodraeth y Cynulliad ar lefel y fl aenoriaeth y dylid ei rhoi i’r prosiect hwn, o gymharu â blaenoriaethau eraill ar gyfer y sector cerddoriaeth Gymreig. Dylai unrhyw waith i greu asiantaeth breindaliadau i Gymru allu dangos yn bendant y byddai’r manteision ariannol ac economaidd yn fwy na’i chostau o fewn cyfnod penodedig.

Tudalen 44 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Y bwlch amlycaf yn y strategaeth diwydiannau creadigol gyfredol yng Nghymru yw maes sydd â sawl gwahanol enw: y cyfryngau ar-lein; y cyfryngau rhyngweithiol; y cyfryngau newydd; y cyfryngau gwe neu, weithiau, digidol neu gynnwys digidol. Mae’r amrywiaeth o dermau’n awgrymu maes gweithgarwch diwydiannol nad yw wedi setlo i batrymau rhagweladwy ac sy’n parhau i chwalu modelau busnes cyfredol. Caiff materion eu cymhlethu gan y ffaith bod llawer o’r “hen” gyfryngau erbyn hyn yn gwbl ddigidol eu hunain, sy’n golygu y gellir eu defnyddio ar unrhyw blatfform digidol, o ffonau symudol i liniaduron a setiau teledu Manylder Uwch. Gallwch wrando ar y radio ar eich cyfrifi adur ac edrych ar amserlenni trên ar eich set deledu. Mae cyfryngau digidol yn allweddol i ddyfodol y diwydiannau adloniant a gwybodaeth; mae cynnwys digidol hefyd yn bwysig i brob pob sector busnes arall, yn ogystal ag i wasanaethau cyhoeddus fel iechyd, trafnidiaeth ac addysg. Ar yr adeg hon yn natblygiad y farchnad, fodd bynnag, mae’n ddefnyddiol parhau i feddwl am deledu, ffi lm, cerddoriaeth, y cyfryngau argraffu, radio a gemau fi deo, a deall bod y rhain i gyd yn gorgyffwrdd â’i gilydd. Mae’n ffaith o hyd bod gwasanaethau teledu traddodiadol, ar sianeli wedi’u brandio’n arw, yn dal i ddenu cynulleidfaoedd mawr ar gyfer rhaglenni byw fel X-Factor a Britain’s Got Talent amser maith ar ôl i lawer o arbenigwyr technoleg ragweld dirywiad y cyfrwng. Mae papurau 11. Is-sectorau: Digidol newydd o dan bwysau, ond nid ydynt wedi marw. Ond mae’r cyfryngau digidol, y term a ddefnyddir yn yr adran hon, yn cynrychioli gwlad yr addewid ar gyfer polisi diwydiannau creadigol. O gael hwn yn iawn, bydd popeth arall yn dilyn. Mae llunwyr polisi ym mhedwar ban byd yn edrych am y ffordd orau o ddatblygu yn y maes hwn. Mae’r gystadleuaeth yn ddwys, y risgiau’n fawr, a’r cyfl eoedd yn sylweddol. Yn erbyn y gystadleuaeth ffyrnig hon, nid yw Cymru’n dechrau o sefyllfa fl aenllaw, er bod ei chryfderau ym maes teledu a cherddoriaeth yn asedau pwysig yn y byd digidol. Ar hyn o bryd, nid oes gennym fap da o faint presenoldeb Cymru yn y Cyfryngau Digidol. Clywodd yr adolygiad rai yn disgrifi o’r sîn fel un fywiog a chadarn, ond roedd cyfranogwyr cyfryngau digidol yng Nghymru’n cwyno am y diffyg pobl fedrus sy’n dod o ysgolion, colegau a phrifysgolion Cymru. Nid ydym yn gwybod yn iawn faint o bobl sy’n gweithio yn y sector hwn (yn ôl Northern Alliance, yn ei adolygiad o’r Gronfa Eiddo Deallusol, mae 1,700 o bobl yn gweithio yn y sector rhyngweithiol yng Nghymru). Fodd bynnag, rydym yn gwybod nad oes gan Gymru ddiwydiant gemau cyfrifi adurol sylweddol, yn wahanol i Loegr a’r Alban; roedd unig fuddsoddiad y Gronfa Eiddo Deallusol yn y maes hwn yn fethiant, a chreodd y cwmni gemau cyfrifi adurol cyntaf i sefydlu yng Nghymru, Broadsword, dipyn o

Tudalen 45 ddrama yn yr adolygiad trwy fynd i’r wal y diwrnod cyn iddo gyfl wyno’i safbwyntiau i ni ym mis Medi. O ganlyniad, cyfrannodd David Rowe, a ddechreuodd Broadsword yn Aberystwyth bron i bymtheg mlynedd yn ôl, ddogfen drafod,xiv ynghyd â sylwadau gan Cube, cwmni cyfryngau digidol o Gaerdydd, a dogfen arall gan Nocci, ymgynghoriaeth ddigidol yng Nghaerdydd. Mae David Rowe yn disgrifi o pa mor anodd yw hi i ddatblygwyr gemau gadw gwerth eu heiddo deallusol craidd a’r gystadleuaeth ffyrnig yn y diwydiant i leihau prisiau i ddefnyddwyr. Mae’n rhagweld y busnes gemau’n rhannu’n ddau, gyda gemau mawr sy’n torri tir newydd ym maes technoleg a gaiff eu creu gan dimau o dros gant o bobl, yn aml yn fewnol gan y cyhoeddwyr gemau, a gemau ar raddfa lai y gellir eu lawrlwytho trwy fand eang. Nid oes gan Gymru stiwdios gemau mawr ond, yn ôl nifer o bobl a fynegodd eu barn i’r adolygiad hwn, mae gan Gymru rwydwaith sylweddol o unigolion sy’n gweithio gartref, yn ogystal â sawl cwmni sy’n cyfl ogi rhwng 10 a 50 o bobl, y rhan fwyaf ohonynt yn ymwneud â chreu meddalwedd, gwasanaeth ymgynghori a datrys problemau digidol ar gyfer ystod o gleientiaid. Mae cwmnïau Cymru eisoes yn cyfl enwi gemau a chymwysiadau eraill i gwmnïau fel Apple, Nintendo, Sony a Wii. Maent hefyd yn gweithio i awdurdodau lleol, awdurdodau’r heddlu a’r GIG. Yn ôl David Rowe, ni fu erioed gwell cyfl e i sefydlu diwydiant gemau â dyfodol yng Nghymru. Mae rhestr David Rowe o bethau y gall y Llywodraeth eu gwneud i wireddu hyn fel a ganlyn: 1. Mapio’r rheini sy’n gweithio ar gemau neu sydd â sgiliau’n ymwneud â gemau yng Nghymru. 2. Sefydlu Fforwm Gemau Cymru ar gyfer datblygwyr sy’n aelodau, gyda chronfa ddata o gysylltiadau ar ei wefan. 3. Gallai’r Fforwm hwn gyfathrebu â Llywodraeth y Cynulliad a hwyluso gwaith marchnata, chwilio am swyddi, gwaith cyfreithiol a theithiau masnach, fel cyrff rhwydwaith mewn diwydiannau eraill. 4. Byddai’r Fforwm hefyd yn esbonio mecanweithiau cymorth busnes a chyllid cyhoeddus i’w aelodau ac yn eu helpu i’w defnyddio, fel y mae’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn ei wneud. 5. Creu porthol ar y wefan lle gall datblygwyr Cymru roi gemau i’w lawrlwytho. Comisiynodd Llywodraeth y Cynulliad Neil Cocker, sylfaenydd y Rhwydwaith Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol (Nocci) yng Nghaerdydd, a Luke Hodge, Prif Gyfarwyddwr Gwasanaethau TG b2b, i asesu’r potensial am y math hwn o rwydwaith a gefnogwyd ar ran

Tudalen 46 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

y diwydiant gemau gan David Rowe. Profwyd y syniad gan gyfeirio at sbectrwm ehangach o gyfranogwyr digidol, o’r hyn y mae Neil yn ei alw’n “Nomadiaid digidol” i fusnesau bach a chanolig. Yn eu hadroddiad ymgynghori ar gyfer Llywodraeth y Cynulliad, daeth i’r casgliad y byddai pobl yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru’n croesawu platfform Busnes wedi’i Rwydweithio’n Ddigidol a fyddai, o bosibl, yn cael ei gefnogi gan un neu fwy o ganolfannau ffi segol lle gall busnesau cyfryngau digidol glystyru, ond y byddai angen i rwydwaith o’r fath dyfu’n organig yn y gymuned yn hytrach na chael ei gynllunio ar lefel uchel neu, yn waeth fyth, ei orfodi. Mae technoleg rhwydweithio cymdeithasol o’r math a ddefnyddir gan Facebook, Linkedin a Twitter yn darparu dull amlwg o adeiladu rhwydwaith o’r fath. Y cwestiwn yw sut i sbarduno a meithrin y rhwydwaith mewn ffordd sy’n cynyddu momentwm a chyfranogiad. Mae’n debyg y bydd gan y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig wersi perthnasol ar gyfer y gymuned cyfryngau digidol. Aeth Wil Stephens, sylfaenydd Cube yng Nghaerdydd, hefyd ati i ysgrifennu nodyn ar gyfer yr adolygiad sy’n cynnwys barn ehangach.xvi Mae ei gwmni wedi’i leoli mewn clwstwr digidol sydd wedi datblygu ar hap yn Sgwâr Mount Stuart ym Mae Caerdydd, sy’n gartref i dros ddwsin o fusnesau digidol o ryw fath. Mae Wil yn pwysleisio bod y term cyfryngau newydd yn hen ffasiwn gan fod pob cyfrwng bellach yn newydd. Mae Cube o’r farn y byddai’n ddefnyddiol, am gyfnod o leiaf, gwahaniaethu rhwng creu cynnwys a chyfryngu digidol, sy’n golygu’r broses o becynnu, agregu, prisio a dosbarthu cynnwys. Dyma gyngor Cube i’r adolygiad: 1. Sicrhau bod y seilwaith band eang yng Nghymru’n parhau i ddatblygu. 2. Ymdrech fawr i uwchraddio a diweddaru sgiliau technoleg trwy gyfrwng partneriaeth newydd rhwng busnesau digidol ac addysg. 3. Cymorth cyllid sy’n cydnabod yr angen am gyfl ymder, hyblygrwydd a risg –“nid oes angen gwario arian yn sefydlu deorfeydd a Techniums,” sydd, ym marn Wil, yn perthyn i’r oes ddigidol a fu. 4. Sbarduno angen y sector cyhoeddus am atebion digidol ym maes gofal iechyd, addysg a’r diwydiant darlledu a ariennir gan y cyhoedd fel modd o sicrhau archebion a chynyddu nifer y cyfl enwyr digidol annibynnol yng Nghymru. 5. Creu math newydd o Gronfa Eiddo Deallusol Creadigol, gyda chyllideb o £10 miliwn, gan ddod â Llywodraeth y Cynulliad, Adran Fasnachol S4C a phartneriaid masnachol eraill ynghyd. Byddai’n cynnig pecynnau “ariannu had” masnachol o £30,000 i £500,000.

Tudalen 47 Byddai’r pwyllgor buddsoddi sy’n llywodraethu’r Gronfa yn recriwtio arbenigwyr a fyddai’n cael eu talu’n bennaf ar sail cyfranddaliad yn nhwf y gronfa. Byddai meini prawf buddsoddi’n cynnwys budd economaidd i Gymru a’r gallu i gyrraedd marchnadoedd y tu allan i Gymru. Dim ond tair set o syniadau gan dri entrepreneur ifanc ond profi adol ym maes digidol yng Nghymru yw’r rhain. Dyma gyfran fach iawn o farchnad nad yw Llywodraeth y Cynulliad na’i chasgliad o gronfeydd a gwasanaethau cymorth busnes yn ei deall nac yn ymwneud fawr ddim â hi ar hyn o bryd. Mae’r adolygiad hwn yn gyfl e euraidd i newid hynny. Mae’n bryd i Lywodraeth y Cynulliad ystyried cyfryngau digidol o ddifrif trwy sicrhau bod y cyd-destun addysg a hyfforddiant yn gywir, trwy gynnig buddsoddiad a chymhellion ariannol craff a thrwy uno’i safbwyntiau ar greu diwydiannau cynnwys creadigol â’r dasg allweddol o sicrhau bod seilwaith band eang Cymru’n cyrraedd y nod. Mae hyn yn golygu sicrhau bod pob cartref yn gallu derbyn band eang ar gyfl ymder derbyniol a sicrhau bod gan arbenigwyr digidol fynediad mewn digon o ardaloedd lle mae llawer o weithgarwch digidol yng Nghymru i ddelio â’r ffeiliau digidol mawr a ddefnyddir yn rheolaidd gan gwmnïau cynnwys digidol heddiw mewn teledu manylder uwch, sinema ddigidol, hysbysebu neu wrth ddatblygu gemau. Yng Nghymru, mae’r sector hwn yng nghyfnod cyntaf ei ddatblygiad, ond gall y fframwaith buddsoddi a’r polisi cywir ac arweiniad gwleidyddol parhaus sicrhau llwyddiant i’r wlad. Heb berfformiad cryfach yn y maes hwn, bydd llwyddiant y strategaeth diwydiannau creadigol gyfan yn y fantol. Argymhelliad: dylid cynllunio’r Gronfa Diwydiannau Creadigol mewn ffordd sy’n ymateb yn bendant i anghenion y sector cyfryngau digidol. Dylai ystyried y strwythur a gynigir gan Cube ar gyfer y gronfa. Dylai’r Bwrdd Diwydiannau Creadigol ddefnyddio’i ddylanwad i sicrhau bod darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus allweddol, yn enwedig Channel 4, S4C a’r BBC, yn sicrhau eu bod yn comisiynu cyfran deg o gynnwys ar-lein o Gymru. Dylai’r Ganolfan Strategol Diwydiannau Creadigol weithio’n agos gyda’r sector cyfryngau digidol i bennu pa fath o strwythur rhwydwaith busnes fyddai’n darparu sail gadarn ar gyfer adain cyfryngau digidol sy’n cysylltu â’r ganolfan. Dylai’r Ganolfan hefyd gynnal astudiaeth o batrymau caffael cyfryngau digidol gan y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Tudalen 48 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae radio yn agwedd ar ddiwydiannau creadigol nad yw’n cael digon o sylw yn y ddadl ynglyn^ â phwysigrwydd economaidd diwydiannau creadigol yng Nghymru. Mae nifer cymharol uchel o bobl yn gwrando ar y radio yng Nghymru ac mae yna gyfl eoedd newydd yn codi yn y sector radio cymunedol, gyda Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu cyfrannu £500,000 ato dros y pum mlynedd hyd at 2013; ac o bosibl yn y sector masnachol wrth i’r DU ddechrau newid i dechnoleg DAB dros y pum mlynedd nesaf. Mae’r sector radio yng Nghymru’n cael ei ddominyddu gan y BBC (Radio Wales a Radio Cymru, ynghyd â gwasanaethau rhwydwaith radio poblogaidd y BBC sy’n darlledu ledled y DU) a sector radio masnachol sylweddol a phroffi diol lle mae perchnogaeth wedi’i rannu rhwng llond llaw o berchnogion. O gymharu â theledu, mae’r sector cynhyrchu annibynnol ym maes radio’n fach, er bod nifer o gwmnïau teledu annibynnol Cymru hefyd yn gwneud rhaglenni radio. Gyda pholisïau Llywodraeth y DU yn rhoi mwy a mwy o gefnogaeth i lacio rheolau perchnogaeth ar draws cyfryngau, bydd angen i ymagwedd Llywodraeth y Cynulliad at ddiwydiannau creadigol yn y dyfodol roi mwy o ystyriaeth i radio, ynghyd â dyfodol papurau newydd a chyhoeddi. Mae hi hefyd yn wir, fel y mae’r Sefydliad Materion Cymreig wedi dadlau ers talwm, bod safbwyntiau’r DU ar reoleiddio a thrwyddedu radio’n tueddu 12. Is-sectorau: Radio i esgeuluso anghenion a nodweddion unigryw radio yng Nghymru.xvii Argymhelliad: Dylai’r Ganolfan Strategol Diwydiannau Creadigol newydd gael “adain” radio. Dylai’r adain hon ddarparu’r arbenigedd i weinyddu’r rhaglen cymorth ar gyfer radio cymunedol yn llwyddiannus a sicrhau bod buddiannau a photensial radio’n cael eu hadlewyrchu’n llawn yn agwedd Llywodraeth y Cynulliad at y cyfryngau digidol.

Tudalen 49 Prin iawn yw’r sylw a roddwyd yn y drafodaeth am ddiwydiannau creadigol yng Nghymru i’r diwydiannau creadigol hynny, fel y’u diffi nnir gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, nad ydynt yn rhan o brif is-sectorau’r cyfryngau a’u cefndryd digidol agos. Ni ddylai’r is-sectorau hyn – hysbysebu, pensaernïaeth, crefftau, dylunio, dylunio ffasiwn, y celfyddydau perfformio, cyhoeddi a meddalwedd – gael eu hanwybyddu gan Lywodraeth y Cynulliad yn y cyfnod nesaf o’i hystyriaethau. Ar hyn o bryd, mae’r is-sectorau hyn yn derbyn tipyn yn llai o gyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth hanfodol fel hyfforddiant o gymharu â theledu a ffi lm. Er nad yw archwilio’r is-sectorau hyn yn fanwl yn rhan o gylch gwaith yr adolygiad cryno hwn o ddiwydiannau creadigol, rwyf eisoes wedi gwneud rhywfaint o waith mapio sylfaenol i sicrhau ein bod yn gwybod maint presenoldeb Cymru ym mhob is-sector. Cyfrifoldeb y Ganolfan Strategol Diwydiannau Creadigol newydd, dan arweiniad y Bwrdd Diwydiannau Creadigol, fydd ystyried y map hwn a phennu’r ffordd orau o ymateb i bob is-sector. A fydd angen adain wahanol ar gyfer pob un ohonynt? A ddylai unrhyw rai neu bob un o’r is-sectorau hyn gael mynediad i’r Gronfa Diwydiannau Creadigol? (Er enghraifft, beth am is- sector fel hysbysebu, sydd o bwys masnachol ond a ddisgrifi wyd unwaith fel “busnes yn dial ar ddiwylliant”?) Ar hyn o bryd, nid oes gan gyrff sy’n gweithredu ledled y DU fel y Cyngor Dylunio a NESTA, sy’n hyrwyddo arloesedd ar draws y sector creadigol, unrhyw gangen Gymreig neu gyfwerth. Beth yw’r ffordd orau o ystyried y materion hyn ar gyfer y dyfodol? Ymhlith is-sectorau penodol eraill, un o’r mwyaf o ran cyfl ogaeth yw crefft, gydag oddeutu 3,530 o weithwyr cyfl ogedig. Ar hyn o bryd, fe’i cefnogir gan y Cyngor Crefftau a Fforwm Crefft Cymru, sy’n derbyn £25,000 y fl wyddyn gan Lywodraeth y Cynulliad trwy Adran yr Economi a Thrafnidiaeth. Ar hyn o bryd, daw’r cyllid hwn i ben yn 2011. Nid yw’r 13. Diwydiannau Creadigol Eraill 13. Diwydiannau Creadigol adolygiad wedi archwilio’r mater hwn ymhellach, ond dylai gael ei ail- ystyried gan y Ganolfan Strategol Diwydiannau Creadigol yng nghyd- destun unrhyw newidiadau i strwythurau a strategaeth Llywodraeth y Cynulliad ar ddiwydiannau creadigol. Yn y sector cyhoeddi, mae Cyngor Llyfrau Cymru, a sefydlwyd ym 1961, yn derbyn grant blynyddol o £3.8 miliwn gan Lywodraeth y Cynulliad trwy’r Adran Dreftadaeth, sy’n cefnogi 49 aelod staff sy’n darparu gwasanaethau dosbarthu a gwasanaethau eraill i sector llyfrau Cymru. Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd wedi ymrwymo i wario £600,000 dros dair blynedd i sefydlu rhwydwaith Cymru gyfan o wefannau newyddion a gwybodaeth cymunedol Cymraeg. Mae’r prosiect hwn yn cael ei gynnal gan Golwg, y cyhoeddwr Cymraeg, gyda chymorth Tinopolis.

Tudalen 50 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Argymhelliad: fel cam nesaf, dylai’r Ganolfan Strategaeth Diwydiannau Creadigol fapio presenoldeb Cymru ym mhob un o 14 is-sector y diwydiannau creadigol fel y’u diffi nnir gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Yn seiliedig ar y dadansoddiad hwnnw, dylai’r Ganolfan gyfl wyno argymhellion i’r Bwrdd Diwydiannau Creadigol ar ymateb priodol i bob is-sector, yn seiliedig ar hyfywedd canfyddedig ei gyfraniad economaidd posibl i Gymru. Dylid penderfynu pa mor ddymunol yw ymyriadau polisi penodol, a chwmpas yr ymyriadau hynny, a phenderfynu ar gynllun cymorth busnes a faint ohono sydd ar gael. Mae sawl un o’r is-sectorau hyn, fodd bynnag, yn perthyn i’r rhan honno o’r economi greadigol a ystyrir yn anfasnachol yn draddodiadol: cerddoriaeth, theatr, dawns, celf sy’n cael cymhorthdal a gweithgareddau eraill sy’n cael eu gwerthfawrogi’n bennaf am eu rhinweddau diwylliannol yn hytrach na’u harwyddocâd economaidd. Yn y maes hwn, Cyngor Celfyddydau Cymru yw’r prif ffrwd cyllid. Derbyniodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, wahoddiad i drafod yr agenda diwydiannau creadigol gyda’r adolygiad hwn ac, o ganlyniad, cyfrannodd nodyn pwysig.xviii Mae’n cefnogi’r pwys y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei roi ar gefnogi’r diwydiannau creadigol trwy’r adolygiad cyfredol, ac yn mynd ymlaen i ddweud: “Fel y byddech chi’n ei ddisgwyl gan Gyngor y Celfyddydau, rydym wastad yn dadlau bod y celfyddydau’n bwysig yn eu rhinwedd eu hunain. Ond rydym hefyd yn ceisio cyfl eu’r neges i lywodraeth bod y diwydiannau creadigol a diwylliannol yn rhan hollbwysig o economi Cymru. Maent yn cyfrannu’n uniongyrchol trwy greu swyddi ac yn cynhyrchu cyfoeth trwy greu, dosbarthu a gwerthu nwyddau a gwasanaethau. Roedd prif gwmnïau byd-eang y gorffennol – yn enwedig yng Nghymru – yn arfer bod yn gysylltiedig â diwydiant a gweithgynhyrchu. Bydd mwy a mwy o gorfforaethau allweddol y dyfodol yn perthyn i feysydd cyfathrebu, gwybodaeth, adloniant, gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae’r rhain yn gofyn am lawer o ddychymyg creadigol a gweledigaeth entrepreneuraidd – rhinweddau y mae’r celfyddydau mewn sefyllfa ddelfrydol i’w meithrin a’u datblygu.” Â’r nodyn ymlaen i ddweud na ddylai Cyngor y Celfyddydau fod yn gwario arian cyhoeddus lle gall y farchnad gynnal gweithgarwch artistig heb beryglu ei huniondeb artistig. Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn canolbwyntio ar hyrwyddo gweithleoedd creadigol ar gyfer artistiaid a busnesau creadigol newydd, annog y rheini sy’n cynhyrchu cynnwys gwreiddiol i sicrhau’r budd masnachol o’u gweithgareddau a gweithio gyda phartneriaid i wella hyfforddiant, addysg a chymorth busnes. “Rydym yn awyddus iawn i weithio gyda Llywodraeth y Cynulliad i

Tudalen 51 ddatblygu strategaethau priodol ar gyfer rhoi cymorth busnes/mentora i sefydliadau diwylliannol sy’n rhan o’r diwydiannau creadigol. Ar hyn o bryd, nid yw’r sectorau hyn yn cael sylw Llywodraeth y Cynulliad oherwydd y blaenoriaethau y maent wedi dewis canolbwyntio arnynt.” Er mwyn i Gymru lwyddo’n economaidd yn y diwydiannau creadigol, bydd angen cytundeb newydd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Ganolfan Strategol Diwydiannau Creadigol newydd. Mae angen cysylltiadau cryf ar y lefel strategol a dadansoddiadol, yn ogystal ag wrth ddarparu cymorth busnes, mentora, addysg a hyfforddiant. Mae angen rhoi ystyriaeth ofalus i brosesau ymarferol y berthynas newydd hon er mwyn sicrhau’r budd economaidd gorau posibl tra’n parchu uniondeb artistig ar y naill law, ac uchelgais economaidd ar y llaw arall. Enghraifft dda yw’r defnydd o dechnoleg ddigidol i gysylltu sinemâu a chanolfannau celfyddydau ledled Cymru er mwyn rhannu digwyddiadau a pherfformiadau byw yn fwy eang. Fel y mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn nodi: “Mae sgrinio perfformiadau byw o Theatr Genedlaethol Llundain a’r New York Met yng Nghymru eisoes wedi rhoi cipolwg ar yr hyn sy’n bosibl. Ond beth am Ganolfan y Mileniwm, neu leoliadau eraill yng Nghymru? Gallai gwaith ar raddfa lai yn y Gymraeg neu’r Saesneg ddenu cynulleidfa fwy; gallai cynyrchiadau mawr lle byddai taith eang yn costio’n ddrud gael eu gwerthfawrogi’n ddigidol.” Gofynnwyd hefyd i Nick Capaldi a oedd yn rhannu greddf yr adolygiad y dylai’r cyfrifoldeb dros Ddiwydiannau Creadigol aros gydag Adran yr Economi a Thrafnidiaeth. Nid oedd yn cytuno ac awgryma yn ei nodyn y dylid rhoi’r cyfrifoldeb hwn i Weinyddiaeth ag enw newydd (ac efallai cwmpas newydd): “Adran Menter Creadigol a Diwylliannol.” Argymhelliad: dylai Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru ymuno â’r Bwrdd Diwydiannau Creadigol fel rhan o ymdrech fawr i weithredu’n fwy effeithiol ar feysydd o ddiddordeb cyffredin i’r diwydiannau creadigol a’r celfyddydau o ran cymorth busnes, addysg a hyfforddiant. Dylai Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd gynghori’r bwrdd a’r Ganolfan Strategol Diwydiannau Creadigol ar ddatblygu adenydd ar gyfer is-sectorau diwydiannau creadigol y mae ganddo arbenigedd ynddynt. Dylai’r Ganolfan Strategol Diwydiannau Creadigol geisio cytuno ar gynllun cytundeb ffurfi ol gyda Chyngor Celfyddydau Cymru i sicrhau cynaliadwyedd a datblygiad pellach y gweithgareddau a’r gwasanaethau a rennir.

Tudalen 52 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Roedd y cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad hwn yn gofyn am gyngor ar sut i fwrw ati â’r gwaith o ddatblygu sgiliau ar gyfer y sector ac o fewn y sector, gan ystyried blaenoriaethau sgiliau sector cyfredol. Nid oes amheuaeth na fydd agenda Cymru Ddigidol na strategaeth Diwydiannau Creadigol newydd yn mwynhau llwyddiant cynaliadwy heb ddull gweithredu cynhwysfawr a chydgysylltiedig yn y maes hwn. Mae’r darlun yn eithaf cadarnhaol o ran materion hyfforddiant ym maes cyfryngau diwydiannau creadigol, gyda chyfl enwad da o fentrau newydd ac enghreifftiau da o gydweithio rhwng cyfl ogwyr a sefydliadau addysgol. Yr unig beth sydd ar goll yw darlun llawn o’r sector diwydiannau creadigol cyfan y byddech yn disgwyl y gellir ei gyfl awni o Ganolfan Strategol Diwydiannau Creadigol. Hefyd, dywedodd pobl o’r sector cyfryngau digidol wrth yr adolygiad eu bod yn aml yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i unigolion sydd wedi derbyn addysg a hyfforddiant priodol yng Nghymru, a’u bod yn gorfod llenwi swyddi gwag o Lundain. Yn adran 11 uchod, mae ffi gwr blaenllaw yn sector cyfryngau digidol Cymru yn galw am ymgysylltiad cryfach gan y sector addysg. Mae yna dri Chyngor Sgiliau Sector perthnasol yn y sector creadigol. Mae Skillset yn gofalu am deledu, ffi lm, radio a chyfryngau rhyngweithiol; mae CCSkills yn delio â’r celfyddydau perfformio, cerddoriaeth a chrefft ac mae’r Cyngor Sgiliau Sector E-skills yn delio â busnes a thechnoleg gwybodaeth ac, yn 2008, cyhoeddodd adolygiad uchelgeisiol o dueddiadau a chyfl eoedd yn y marchnadoedd llafur sy’n berthnasol

14. Hyfforddiant a Sgiliau 14. Hyfforddiant iddo. Mae’r Cyngor Sgiliau Sector hwn wedi mabwysiadu agenda Prydain Ddigidol – dangosydd cadarnhaol arall. Mynegodd rhanddeiliaid o’r diwydiannau darlledu a ffi lm foddhad cyffredinol ynglyn^ â’r trefniadau hyn i’r adolygiad. Dywedodd rhanddeiliaid ym maes cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio, ynghyd â Chyngor Celfyddydau Cymru, fod cynnydd yn cael ei wneud ond bod angen bod yn fwy uchelgeisiol. Un datblygiad calonogol yw’r cynnydd yn y cydweithio rhwng Cynghorau Sgiliau Sector, prifysgolion a cholegau AB. Mae Academi Cyfryngau Skillset yn cysylltu Ysgol Newyddiaduraeth Caerdydd, Morgannwg, Casnewydd ac Aberystwyth er mwyn craffu ar gyrsiau, staff, cyfarpar a chyfl eusterau. Mae consortiwm Academi Sgrîn Skillset yn dwyn ynghyd Casnewydd, Morgannwg, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a’r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama. Mae’r ddwy academi hon wedi sicrhau cymorth gan CCAUC trwy’r Fenter Economaidd i greu cronfa o dros £800,000 ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus i gwmnïau yn ystod y dirywiad economaidd. Gelwir y rhaglen hon yn Academi + a chafodd ei chymeradwyo’n ddiweddar fel enghraifft o arfer da.

Tudalen 53 Mae dylanwad Llywodraeth y Cynulliad ym maes addysg uwch yn sylweddol. Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn gyfrifol am ddosbarthu £440 y fl wyddyn o gymorth grant i gwmpasu addysg, ymchwil a gweithgareddau cysylltiedig, i’w wario’n unol â blaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn amlinellu canllawiau ar ffurf llythyr i CCAUC bob blwyddyn, ac roedd llythyr 2009 yn cynnwys canllawiau i gefnogi datblygiad yr economi wybodaeth yng Nghymru.” Er bod wastad rhywfaint o densiwn rhwng sefydliadau academaidd a gwleidyddion dros i ba raddau y dylai cyllid cyhoeddus fod yn amodol ar effeithiau penodol, nid oes amheuaeth bod yna ddeialog iach rhwng Llywodraeth y Cynulliad a sefydliadau academaidd yng Nghymru. Yn hytrach na chael eu hesgeuluso, mae anghenion y sector creadigol a’r economi ddigidol yn cael eu diwallu, fel y rhagwelwyd gan Strategaeth Diwydiannau Creadigol 2004. O ran ymchwil, mae llawer o enghreifftiau da o gydweithio rhwng prifysgolion a busnesau creadigol. Mae Llywodraeth y Cynulliad, er enghraifft, yn cefnogi’r Athrofa Darlledu Uwch, ym Mhrifysgol Casnewydd, i dreialu model newydd o fi croddarlledu yng Nghymoedd y De – menter sy’n dod â materion technolegol a chynnwys ynghyd. Mae gan Aberystwyth bartneriaeth strategol gyda Boomerang, y cwmni cynhyrchu teledu, sydd eisoes wedi arwain at gais llwyddiannus am Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth rhwng Llywodraeth y Cynulliad a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau ar ymatebion plant i deledu. Mae gan Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, Gyfarwyddwr ymroddedig ar gyfer Menter a Throsglwyddo Gwybodaeth ac enw da am ddeillio a mabwysiadu mentrau. Yn y cyfamser, ym mis Rhagfyr, lansiodd Gweinidog Addysg Cymru Ganolfan Ymchwil Cymru Ddigidol, menter ar y cyd rhwng APADGOS ac Adran yr Economi a Thrafnidiaeth. Mae’r rhaglen Arbenigedd Academaidd i Fusnesau (pecyn buddsoddi gwerth £60 miliwn a lansiwyd yn 2008 i hybu’r economi trwy ddatgloi potensial ymchwil a datblygu masnachol ym mhrifysgolion Cymru) eisoes wedi darparu prosiectau sy’n berthnasol i’r diwydiannau creadigol. Dywedodd rhai arweinwyr academaidd a roddodd dystiolaeth i’r adolygiad nad oedd strategaeth diwydiannau creadigol 2004 wedi cael fawr ddim effaith arnynt oherwydd, fel y dywedodd un ohonynt, nad oedd wedi datblygu mewn unrhyw ffordd. Fodd bynnag, roedd gan yr holl arweinwyr hyn ddiddordeb mewn canfod ffyrdd newydd o ddefnyddio gwybodaeth, arbenigedd a gallu eu sefydliadau ym maes ymchwil ac addysgu i helpu i ddeall economi ddigidol a diwydiannau creadigol Cymru a’u datblygu ymhellach. Dywedodd yr arweinwyr y byddai’n ddefnyddiol pe gallai Llywodraeth y Cynulliad noddi’r gwaith

Tudalen 54 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

o greu Fforwm Diwydiannau Creadigol Academaidd lefel uchel yng Nghymru er mwyn helpu i greu cysylltiadau personol a gwaith cryfach ar draws y diwydiannau creadigol yn fwy eang. Mae hwn yn syniad y dylai’r Bwrdd Diwydiannau Creadigol ei archwilio. Ymysg yr holl weithgarwch hwn ym maes ymchwil ac addysgu, mae yna rywfaint o berygl y bydd y ffocws yn cael ei golli a’r ansawdd yn dioddef, ond gall cyfeiriad strategol cliriach a chryfach ar ddiwydiannau creadigol yn Llywodraeth y Cynulliad helpu i wella’r berthynas rhwng y byd academaidd a busnesau. Mae Cymru’n ffodus bod ganddi sector prifysgol bywiog ym maes ffi lm, darlledu, cyhoeddi ac, i raddau, y cyfryngau newydd. Ond mae’r sector yn newid yn gyfl ym iawn ac mae’r gystadleuaeth yn frwd. Nid yw’r rhannau o’r sector creadigol y tu hwnt i’r cyfryngau wedi bod yn destun i’r un craffu neu gymorth a dylai hyn fod yn fl aenoriaeth ar gyfer y cyfnod i ddod. Mae gan Gymru asedau addysgol yn y sector creadigol y mae angen iddi barhau i’w meithrin. Bydd yr ymateb addysgol yn elwa ar ddull gweithredu cliriach a mwy pwrpasol mewn perthynas â’r economi ddigidol a’r diwydiannau creadigol a gefnogir yn yr adolygiad hwn. Argymhelliad: dylai pob Cyngor Sgiliau Sector sy’n cyfrannu at ddiwydiannau creadigol werthuso cyrsiau yn eu meysydd lle nad yw hyn eisoes wedi digwydd. Dylai Cynghorau Sgiliau Sector gydweithio lle bo’n bosibl er mwyn sicrhau effeithlonrwydd ac effaith. Dylai’r Bwrdd Diwydiannau Creadigol ystyried anghenion is-sectorau’r diwydiannau creadigol lle nad yw cyrsiau a gallu addysgu wedi’u hasesu er mwyn creu darlun cyffredinol o allu a medr addysgu ar draws yr holl ddiwydiannau creadigol. Dylai’r Bwrdd Diwydiannau Creadigol edrych yn ofalus ar faterion trosglwyddo gwybodaeth ac ymchwil gyda’r nod o sicrhau bod Cymru’n adeiladu ar seilwaith prifysgolion cynyddol ym maes trosglwyddo gwybodaeth mewn ffordd effeithlon wedi’i thargedu’n dda.

Tudalen 55 Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Cymru wedi gwneud llawer o gynnydd tuag at gydnabod pwysigrwydd ei diwydiannau creadigol a rhoi seilwaith ar waith i gefnogi eu twf. Mae’r Cynulliad wedi trafod y materion hyn ac wedi cynhyrchu beirniadaeth gref o agweddau ar bolisi a rheoliadau Llywodraeth y DU, yn ogystal â herio perfformiad enwau mawr fel y BBC, ITV ac S4C. Cydnabyddir perthnasedd dybryd fframwaith polisi Prydain Ddigidol, a amlinellwyd yr haf diwethaf gan Lywodraeth San Steffan, i Gymru ac mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymdrechu i ddatblygu rhaglen Cymru Ddigidol gyfatebol addas. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gweithredu ar Strategaeth Diwydiannau Creadigol 2004, gan sefydlu’r Gronfa Eiddo Deallusol Creadigol, gwella perfformiad Cymru mewn perthynas â sgiliau, hyfforddiant ac addysg a thrwy weithredu’n fwy strategol mewn perthynas â rhai o fentrau’r Llywodraeth. Ar y cyfan, mae tipyn wedi’i gyfl awni. Ond mewn sector mor gystadleuol â diwydiannau creadigol, mae’n hollbwysig cynnal cyfl ymder a gwella ansawdd. Mae’r adolygiad hwn yn ymateb i bryderon bod angen gwneud mwy, er gwaethaf yr holl ymdrechion hyd yma. Heddiw, mae gormod yn digwydd ar safon isel ac mewn ffordd rhy fratiog. Nid oes digon o werthuso ystyrlon o’r polisïau a rhaglenni sydd ar waith. Mae’n rhaid i hyn newid. Os yw’r llywodraeth yn dewis rheoli diwylliant a’r economi mewn seilos ar wahân, ni fydd Cymru’n llwyddo i feithrin y

Calon Cymru Ddigidol math o economi gwybodaeth creadigol neu “ddiwylliant syniadau” y mae ei dyfodol yn dibynnu arni. Thema gyffredin yn yr argymhellion i ddilyn yw bod angen i Gymru greu gallu i ddatblygu strategaeth ar draws adrannau’r Llywodraeth sydd â buddiant yn yr economi ddigidol, a bod angen i Adran yr Economi a Thrafnidiaeth lunio strategaeth diwydiannau creadigol newydd a mwy uchelgeisiol a fydd yn cael ei harwain gan Fwrdd Diwydiannau Creadigol a’i rheoli gan Ganolfan Strategol Diwydiannau Creadigol newydd. Mae yma brofi ad y gellir adeiladu arno ond ni ddylid tanystyrru faint o newid sydd ei angen. Mae angen i Gymru berfformio’n well. 15. Casgliadau ac Argymhellion: Mae’r adolygiad hwn wedi rhoi pwys mawr ar eglurder strategol. Yn wir, efallai y bydd rhai o’r farn bod y gair “strategaeth” wedi’i orddefnyddio. Mae’r awdur yn gwbl ymwybodol o’r dywediad busnes Saesneg, “culture eats strategy for breakfast”. Mae ymgorffori strwythur ym mheiriant Llywodraeth y Cynulliad lle mae gweision sifi l yn manteisio’n llawn ar arbenigedd a chyngor ar ddiwydiannau creadigol o’r tu hwnt i Lywodraeth yn allweddol i lwyddiant datblygiad economaidd sy’n canolbwyntio ar bob sector. Mae hynny’n gofyn am newid diwylliannol sylweddol o fewn y Llywodraeth. Os yw Cymru am sicrhau nad yw’n parhau i dangyfl awni’n economaidd, mae angen i swyddogion y Llywodraeth fabwysiadu’r strategaeth a’r diwylliant priodol, ac mae

Tudalen 56 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

angen arweiniad da gan y sector preifat. Heddiw, mae gan Gymru gyfl e gwirioneddol ym maes diwydiannau creadigol, ond ni ddylai unrhyw un gredu y bydd llwyddiant yn dod yn hawdd. Mae’r argymhellion isod yn ymddangos mewn trefn wahanol i’r testun uchod, ond mae eu cynnwys yr un fath yn yr hanfod. 1. Cyfeiriad strategol: er mwyn mynd i’r afael ag anghenion economi ddigidol Cymru a’i sector diwydiannau creadigol cysylltiedig, dylai Gweinidogion roi mecanweithiau trawsbynciol cryf ar waith i sicrhau diben strategol eglur ac atebolrwydd tynn ar gyfer canlyniadau. Byddai Bwrdd Cymru Ddigidol, sy’n cael ei arwain gan Gyfarwyddwr Cymru Ddigidol a’i gadeirio gan unigolyn profi adol addas o’r tu allan i’r Llywodraeth, yn darparu’r fframwaith cyffredinol ar gyfer pob agwedd ar yr economi ddigidol a’r holl ymatebion i agenda “Prydain Ddigidol” a’i holynwyr. Byddai’r strwythur hwn yn cynnwys Canolfan Strategol Diwydiannau Creadigol newydd, yn cael ei harwain Bennaeth Diwydiannau Creadigol newydd a’i chefnogi gan Fwrdd Diwydiannau Creadigol, a fydd hefyd yn cael ei gadeirio gan swyddog allanol ag arbenigedd yn y sector, ynghyd â nifer fach o aelodau allanol ychwanegol. Byddai’r Ganolfan Strategol Diwydiannau Creadigol yn cysylltu â nifer gynyddol o adenydd is-sectorau (ffi lm, teledu, cerddoriaeth, cyfryngau digidol, dylunio ac ati), gan alluogi Cymru i gwmpasu pob un o 14 is-sector y diwydiannau creadigol. Byddai gan y Ganolfan hefyd bartneriaeth gref gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, a byddai’r Prif Weithredwr yn aelod o’r Bwrdd Diwydiannau Creadigol newydd a gefnogir gan gytundeb newydd rhwng Llywodraeth y Cynulliad a Chyngor y Celfyddydau. Byddai’r Bwrdd Diwydiannau Creadigol yn goruchwylio holl waith Llywodraeth y Cynulliad mewn perthynas â diwydiannau creadigol, gan gynnwys y Gronfa Diwydiannau Creadigol newydd arfaethedig (gweler isod). Byddai’r Pennaeth Diwydiannau Creadigol a Chadeirydd y Bwrdd Diwydiannau Creadigol yn aelodau o Fwrdd Cymru Ddigidol, gan sicrhau cysylltiadau cryf rhwng cynnwys a chysylltedd. Byddai’r Ganolfan Strategol Diwydiannau Creadigol a’i thîm craidd yn rhan o Adran yr Economi a Thrafnidiaeth. Gallai’r trefniadau hyn gael eu hadlewyrchu yn strwythur pwyllgorau’r Cynulliad. Dylai cylch gwaith y Bwrdd Diwydiannau Creadigol gynnwys: • Datblygu strategaeth ar gyfer y sector, gan weithio’n unol â pholisïau Gweinidogol • Cadw mewn cysylltiad ag agenda Cymru Ddigidol i sicrhau bod pryderon diwydiannau creadigol yn cael sylw a bod cyfl eoedd yn cael eu bachu

Tudalen 57 • Monitro a gwerthuso’r gwaith o ddarparu’r strategaeth yn erbyn amcanion, gan gynnwys gweithrediad adenydd yn ymwneud ag is-sectorau diwydiannau creadigol a darparu cymorth busnes • Goruchwylio a chynnig ymatebion i archwiliadau o effaith economaidd a ddarperir ar ran e.e. darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus • Goruchwylio’r Gronfa Diwydiannau Creadigol ac unrhyw is- bwyllgor/is-bwyllgorau sy’n gyfrifol am fuddsoddi • Ymgysylltu â Chanolfan Ymchwil Cymru Ddigidol, gan gysylltu diwydiannau creadigol ag arloesedd a throsglwyddo gwybodaeth gydag addysg uwch • Ymgysylltu â Chynghorau Sgiliau Sector, gan sicrhau bod darpariaeth hyfforddiant a sgiliau’n diwallu anghenion y sector • Cael y wybodaeth ddiweddaraf am agweddau polisïau at ddiwydiannau creadigol mewn rhannau eraill o’r DU a thu hwnt er mwyn dysgu ganddynt 2. Cronfa Diwydiannau Creadigol newydd: yn seiliedig ar bontio trefnus o’r Gronfa Eiddo Deallusol gyfredol. Mae’r gronfa newydd hon wedi’i chynllunio i fod yn hygyrch yn syth i holl ddiwydiannau’r cyfryngau digidol: ffi lm, teledu, cerddoriaeth a’r cyfryngau rhyngweithiol. Yn dilyn ymchwil bellach i anghenion is-sectorau creadigol nad ydynt wedi’u cynnwys yng nghylch gwaith y Gronfa Eiddo Deallusol, dylid ehangu’r gronfa lle bo’n briodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau hefyd. Byddai, i bob diben, yn glwstwr o gronfeydd o fewn un fframwaith marchnata, yn amrywio o grantiau a chynigion cyllid had bach i fuddsoddiadau ecwiti sylweddol. Dylai pob agwedd ar y gronfa fod â diben cyffredin sef bod prosiectau a gefnogir yn cyfrannu at lwyddiant cwmnïau creadigol Cymru mewn marchnadoedd y tu allan i Gymru. Dylai rheolau’n ymwneud â gwrthdaro buddiannau personol fod yn gadarn a dylid eu gweithredu’n dryloyw. Caiff trefniadau llywodraethu manwl ar gyfer y gronfa newydd eu pennu gan y Bwrdd Diwydiannau Creadigol. Yn ogystal â chynllunio cronfa newydd ei hun, dylai’r Bwrdd Diwydiannau Creadigol sicrhau bod cwmnïau creadigol yn cael y mynediad gorau posibl i gronfeydd allanol, fel y rheini sydd ar gael trwy gyrff fel y Cyngor Prydeinig, yn ogystal â ffynonellau cyllid busnes cyffredinol eraill yn Llywodraeth y Cynulliad, fel y Gronfa Fuddsoddi Sengl. 3. Mapio’r sector diwydiannau creadigol cyfan: fel cam cyntaf tuag at ymestyn ei chwmpas i’r 14 is-sector ym maes diwydiannau

Tudalen 58 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

creadigol, dylai’r Ganolfan Strategol Diwydiannau Creadigol fapio graddfa ac anghenion pob is-sector a gwneud argymhellion ynglyn^ â’r ffordd orau o ddarparu ar gyfer pob is-sector yn y strwythur model olwyn ar gyfer y diwydiannau creadigol. Mae’r materion data eraill i’w datrys yn cynnwys mesurau metrig cyfredol ar gyfer mesur cynnydd economi greadigol Cymru. 4. Cyfl e economaidd gwerth £300 miliwn: Dylai Cymru geisio sicrhau’r budd economaidd gorau posibl o’r £300 miliwn o gyllid cyhoeddus o sy’n cael ei wario ar hyn o bryd ym maes cyfryngau’r diwydiannau creadigol yn unig. “Cyfran” Cymru o’r arian a ddyrennir ar lefel y DU i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yw’r rhan fwyaf o’r arian hwn. I gefnogi’r amcan hwn, dylai Gweinidogion a/neu’r Bwrdd Diwydiannau Creadigol: • Gofyn i S4C, y BBC a Channel 4 i gynnal archwiliad blynyddol o’u heffaith economaidd ar Gymru ac asesiad o faterion economaidd sy’n edrych fl wyddyn i’r dyfodol. Bydd yr archwiliadau hyn yn llwyfan i archwilio sut y gall y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus hyn gynyddu eu heffaith economaidd yng Nghymru. Unwaith y fl wyddyn, dylai Prif Weithredwyr y darlledwyr hyn gael eu gwahodd i gyfarfod yn ffurfi ol â’r Bwrdd Diwydiannau Creadigol i drafod pryderon a chynlluniau, gan gynnwys lefelau comisiynau annibynnol a materion economaidd eraill. Byddai’r broses hon yn un ffordd o geisio sicrhau bod holl ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus y DU, gan gynnwys Channel 4, yn gwella eu lefelau comisiynu yng Nghymru fel rhan o symudiad tuag at fwy o ymrwymiad i Gymru yn sgil y newid i deledu digidol. Dylid gofyn i Ofcom ymestyn ei waith o ran adolygu materion cyfathrebu yng Nghymru i ddarparu trosolwg blynyddol o economi’r cyfryngau yng Nghymru. • Yn achos S4C, dylai Llywodraeth y Cynulliad weithio gydag Awdurdod S4C i bennu amserlen o drafodaethau cyhoeddus wedi’u strwythuro gyda’r nod o ehangu’r ddadl am weithgareddau S4C. Gallai hyn fod ar ffurf cyfarfod unwaith y fl wyddyn rhwng Awdurdod S4C a Phwyllgor priodol y Cynulliad, yn edrych i’r dyfodol a’r gorffennol; yn ogystal â chyswllt ddwywaith y fl wyddyn rhwng Prif Weithredwr S4C a’r Bwrdd Diwydiannau Creadigol arfaethedig. Dylai Llywodraeth y Cynulliad hefyd ystyried gofyn i’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon gomisiynu adolygiad llawn o S4C er mwyn mynd i’r afael â materion na ellir eu datrys heb newid y statud seneddol. Dylai unrhyw adolygiad o’r fath ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod S4C sicrhau bod S4C yn ceisio’r lefel uchaf

Tudalen 59 posibl o effaith economaidd yn gyson â’i hamcanion diwylliannol a gwasanaeth cyhoeddus. Canlyniad dymunol adolygiad o’r fath fyddai mwy o hyblygrwydd i S4C wrth wneud penderfyniadau masnachol. Wrth bennu cylch gorchwyl ar gyfer adolygiad, dylai’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon weithio mewn partneriaeth agos â Bwrdd Diwydiannau Creadigol newydd Llywodraeth y Cynulliad. • Dylai Llywodraeth y Cynulliad wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau prosiect Prifddinas y Cyfryngau yn llawn (gan adeiladu ar y cytundeb a wnaed eisoes ar gyfer pentref drama’r BBC) a’i ddefnyddio i greu clwstwr diwydiannau creadigol pwerus yn y De-ddwyrain. Dylai hefyd ofyn i’r BBC adolygu cylch gwaith ac effaith Cyngor Cynulleidfa’r BBC yng Nghymru a gofyn i Ofcom adolygu cylch gwaith ac effaith Pwyllgor Cynghori Ofcom yng Nghymru. • Dylai Llywodraeth y Cynulliad ddefnyddio’i dylanwad i sicrhau bod y treial consortiwm newyddion sydd wedi’i gynllunio ar gyfer Cymru yn mynd rhagddo’n unol â’r cynllun cyfredol. 5. Ffi lm: dylai’r Ganolfan Strategol Diwydiannau Creadigol argymell ad-drefnu cymorth Cymru ar gyfer y diwydiant ffi lmiau mewn ffordd sy’n dileu dyblygu a chynyddu ei effaith economaidd a’i effeithlonrwydd. Dylai’r “adain” ffi lm newydd hon ddarparu’r arbenigedd sydd ei angen i roi cymorth ar leoliad i gwmnïau ffi lm a theledu, yn ogystal â darparu cyngor arbenigol ar faterion ffi lmiau i’r Gronfa Diwydiannau Creadigol. Dylai hefyd wneud cyfraniad allweddol at ffi lm a theledu ar faterion fel cymorth busnes, hyfforddiant a mynediad i gyllid arall Llywodraeth y Cynulliad. Dylai’r Bwrdd Diwydiannau Creadigol, gyda help Gweinidogion, geisio sicrhau bod Cymru’n cael cyfran lawn o raglenni cyllid y DU ar gyfer ffi lm. 6. Cerddoriaeth: dylai’r Gronfa Diwydiannau Creadigol newydd gael ei chynllunio mewn ffordd sy’n sicrhau ei bod yn hygyrch i’r diwydiant cerddoriaeth. Bydd hyn yn gofyn am ryw fath o raglen grantiau bach/cyllid had i helpu busnesau cerddoriaeth masnachol i ddatblygu dull gweithredu sy’n cadw Eiddo Deallusol; i gefnogi digwyddiadau cerddoriaeth boblogaidd lle gall buddsoddiad helpu i hybu buddiannau economaidd i Gymru; a chynorthwyo mewn ffyrdd eraill, fel trwy gefnogi lleoliadau ymarfer. Dylai’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig barhau i weithredu fel “adain” y diwydiant cerddoriaeth yn y diwydiannau creadigol. Dylai’r Bwrdd Diwydiannau Creadigol wahodd y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig i gostio astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer system breindaliadau

Tudalen 60 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

hawliau perfformio ar gyfer Cymru a gwneud argymhellion i Lywodraeth y Cynulliad ar lefel y fl aenoriaeth y dylid ei rhoi i’r prosiect hwn, o gymharu â blaenoriaethau ariannu eraill ar gyfer y sector cerddoriaeth Gymraeg. Dylai unrhyw waith i greu asiantaeth breindaliadau i Gymru allu dangos yn bendant y byddai’r manteision ariannol ac economaidd yn fwy na’i chostau o fewn cyfnod penodedig. 7. Radio: dylai’r Ganolfan Strategol Diwydiannau Creadigol sicrhau bod ganddi “adain” radio. Dylai’r adain hon ddarparu’r arbenigedd i weinyddu’r rhaglen cymorth ar gyfer radio cymunedol yn llwyddiannus a sicrhau bod buddiannau a photensial radio’n cael eu hadlewyrchu’n llawn yn agwedd Llywodraeth y Cynulliad at y cyfryngau digidol. 8. Cyfryngau Digidol: mae adeiladu momentwm yn y cyfryngau digidol yn un o brif fl aenoriaethau’r strategaeth diwydiannau creadigol newydd ac mae’n rhaid i’r Ganolfan Strategol Diwydiannau Creadigol roi blaenoriaeth i ddeall y ffordd orau y gall gael effaith. Dylai’r Gronfa Diwydiannau Creadigol newydd gael ei chynllunio mewn ffordd sy’n ymateb yn bendant i anghenion y sector cyfryngau digidol a dylai ystyried yn arbennig y strwythur a gynigir gan Cube ar gyfer y gronfa yn ei dystiolaeth i’r adolygiad. Dylai’r Bwrdd Diwydiannau Creadigol ddefnyddio’i ddylanwad i sicrhau bod darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus allweddol, yn enwedig Channel 4, S4C a’r BBC, yn sicrhau eu bod yn comisiynu cyfran briodol o’r cyfryngau rhyngweithiol digidol yng Nghymru. Dylai’r Ganolfan Strategol Diwydiannau Creadigol weithio’n agos gyda’r sector cyfryngau digidol i bennu pa fath o strwythur rhwydwaith fyddai’n darparu sail gadarn ar gyfer adain cyfryngau digidol i hwyluso ymgysylltu â rhaglenni Llywodraeth a ffynonellau cymorth. Dylai’r Ganolfan hefyd gynnal astudiaeth o batrymau caffael cyfryngau digidol gan y sector cyhoeddus yng Nghymru gyda’r nod o ddarparu canllawiau ar sut y gellir defnyddio hyn i helpu i wella gallu yn y sector cynnwys digidol yng Nghymru. 9. Sectorau diwydiannau creadigol eraill: cysylltiadau â Chyngor Celfyddydau Cymru: dylai’r Ganolfan Strategaeth Diwydiannau Creadigol fapio presenoldeb Cymru ym mhob un o 14 is-sector y diwydiannau creadigol fel y’u diffi nnir gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, a chyfl wyno argymhellion i’r Bwrdd Diwydiannau Creadigol ar ymateb priodol i bob is-sector, yn seiliedig ar hyfywedd canfyddedig ei gyfraniad economaidd uwch i Gymru. Dylid hefyd benderfynu pa mor ddymunol yw unrhyw ymyriadau polisi penodol, a chwmpas yr ymyriadau hynny,

Tudalen 61 a phenderfynu ar gynllun cymorth busnes a faint ohono sydd ar gael. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ffynhonnell adnoddau ac arbenigedd arwyddocaol ar gyfer rhai o’r is-sectorau creadigol hyn nad ydynt yn ymwneud â’r cyfryngau a dylent weithio’n agos gyda’r Ganolfan Strategol Diwydiannau Creadigol ar sail cytundeb newydd sy’n cynnwys cymorth busnes, addysg a hyfforddiant. Dylai Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd gynghori’r Bwrdd Diwydiannau Creadigol a’r Ganolfan Strategol Diwydiannau Creadigol ar ddatblygu adenydd ar gyfer is-sectorau diwydiannau creadigol y mae ganddo arbenigedd ynddynt. 10. Hyfforddiant ac addysg: dylai’r Bwrdd Diwydiannau Creadigol gymryd diddordeb manwl yn natblygiad strategol yr holl faterion hyfforddiant ac addysg sy’n effeithio ar y sector diwydiannau creadigol. Dylai pob Cyngor Sgiliau Sector sy’n cyfrannu at ddiwydiannau creadigol werthuso cyrsiau yn eu meysydd lle nad yw hyn eisoes wedi digwydd. Dylai Cynghorau Sgiliau Sector gydweithio lle bo’n bosibl er mwyn sicrhau effeithlonrwydd ac effaith. Dylai’r Bwrdd Strategol Diwydiannau Creadigol ystyried anghenion is-sectorau diwydiannau creadigol lle nad yw cyrsiau a gallu addysgu wedi’u hasesu er mwyn creu darlun cyffredinol o allu a medr addysgu ar draws yr holl ddiwydiannau creadigol. Dylai’r Bwrdd Diwydiannau Creadigol gadw llygad ar faterion trosglwyddo gwybodaeth ac ymchwil gyda’r nod o sicrhau bod Cymru’n adeiladu ar seilwaith prifysgolion ym maes trosglwyddo gwybodaeth.

i Adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth y Cynulliad: Government Policies and Support for the Creative Industries in the UK. Ar gael ar dudalennau cyhoeddiadau adran Busnes a’r Economi gwefan Llywodraeth y Cynulliad:www.wales.gov.uk/ businessandeconomy ii Demanding Growth: Why the UK needs a recovery plan based on growth and innovation. (NESTA – Mawrth 2009): http://www.nesta.org.uk/library/documents/PP%2001%20-%20 Demanding%Growth%20print.pdf iii Gwariant Llywodraeth y Cynulliad ar ddiwydiannau creadigol 2008/09. Atodiad 2. iv Adroddiad Terfynol Prydain Ddigidol yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau ac Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Mehefi n 2009. Hawlfraint y Goron. http://www. culture.gov.uk/what_whe_do/broadcasting/6216.aspx

Tudalen 62 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

v Llwyddiant Creadigol: strategaeth ar gyfer y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Ar gael ar dudalennau cyhoeddiadau adran Busnes a’r Economi gwefan Llywodraeth y Cynulliad: www.wales.gov.uk/businessandeconomy vi Tystiolaeth Dai Davies i’r adolygiad: http://tiny.cc/DaiDavies1 vii Tystiolaeth Dai Davies i’r adolygiad: http://tiny.cc/DaiDavies2 viii Northern Alliance Updated Review of the Wales Creative IP Fund: dogfen fewnol heb ei chyhoeddi. ix Price Waterhouse Coopers: BBC Wales Impact Study, Mawrth 2009. Heb ei gyhoeddi. x Deloittes: The Economic Impact of the BBC 2008/09: ar gael yn: http://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/reports/ xi The Economic Impact of S4C on the Welsh Economy 2002-2006: Uned Ymchwil Economi Cymru, Ysgol Fusnes Caerdydd: http://www.s4c.co.uk/abouts4c/corporate/pdf/ s4ceconomicreport2007.pdf xii Asiantaeth Ffi lm Cymru: tystiolaeth i Adolygiad Hargreaves, Tachwedd 2009 xiii Building New Business Strategies for the Music Industry in Wales: Ar gael yn www.bangor.ac.uk/music/documents/ Business%20strategies%20for%20%20Welsh%20music%20 Industry.pdf xiv Dogfen drafod David Rowe: http://broadswordgames.com/ index.php/temporary xv Adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth y Cynulliad: Ar gael ar dudalennau cyhoeddiadau adran Busnes a’r Economi gwefan Llywodraeth y Cynulliad: www.wales.gov.uk/ businessandeconomy. xvi Cyfraniad Cube at yr adolygiad o Ddiwydiannau Creadigol Cymru: www.cubeinteractive.cvo.uk/review xvii Sefydliad Materion Cymreig: Media in Wales, Serving Public Values gan Geraint Talfan Davies a Nick Morris (Mai 2008); English Language Television for Wales (ymateb y Sefydliad Materion Cymreig i’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar Prydain Ddigidol – Medi 2009): gellir gweld copi llawn o’r datganiad i’r wasg yn www.iwa.org.uk/news.

Tudalen 63 English is a Welsh Language: Television’s crisis in Wales, golygwyd gan Geraint Talfan Davies. Sefydliad Materion Cymreig, Mawrth 2009. £9.99. xviii Cyngor Celfyddydau Cymru: nodyn i’r Adolygiad o Ddiwydiannau Creadigol, 15 Hydref 2009. Ar gael yn www. celfcymru.org/publication.asp?id=939

Tudalen 64 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Rhestr o’r Rhanddeiliaid yr Huw Walters, Calon ymgynghorwyd â nhw Ian Jones Aled Eurig Iona Jones, S4C Alan Edmunds, James Moxey, Ann Beynon, British Telecom Prifysgol Fetropolitan Abertawe Aron Evans, Dinamo Jane Dauncey, Machine Productions , Hartswood Films John Geraint,Green-Bay TV Bethan Cousins, Cyllid Cymru John Hardy, John Hardy Music

Atodiad 1 Bryn Roberts, Barcud Derwen John McVay, PACT Clare Hudson, BBC Cymru/Wales John Walter Jones, Awdurdod S4C Clive Jones Justin Lewis, Dafydd Roberts, Sain Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Dai Davies Diwylliannol Caerdydd Dan Isaacs, Kudos Film and TV Linda James, Cyllid Cymru David Rowe, Broadsword Lisa Matthews, Dylan Iorwerth, Golwg Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig Elan Closs Stephens Mark John, Vision Thing Elin Rhys, Telesgop Megan Stewart, Presentable Euryn Ogwen Williams, Boomerang Mike Blair, ITV Fiona Stewart, Gwyl^ y Dyn Gwyrdd Neil Cocker, Nocci Gareth Williams, Rondo Media Nick Capaldi, Cyngor Celfyddydau Cymru Gary Thompson, Prifysgol Cymru, Casnewydd Nicola Heywood Thomas Geraint Talfan Davies Paul Islwyn Thomas, Indus Gub Neal, Artists Studio Pauline Burt, Asiantaeth Ffi lm Cymru Gwawr Hughes, Skillset Peter Edwards, Gwion Owain, TAC Asiantaeth Ffi lm Cymru Phillipa Collie Cousins, Peter Wright, Cyllid Cymru Hartswood Films Phil Henfry, ITV Helen Jay, Channel 4 Rachel Jones, Helen Milner, UK Online Celfyddydau a Busnes Cymru Huw Eurig Davies, Boomerang

Tudalen 65 Rebekah Gilbertson, Rainy Day Films Rhodri Talfan Davies, BBC Cymru/Wales Rhodri Williams, Ofcom Richard Moss, Mwnci Richard Staniforth, Ateb Media Richard Turner, Prifysgol Cymru Robin Lyons, Calon Ron Jones, Tinopolis Shaun Day, Prif Economegydd, BBC Simon Dancey, CC Skills Simon Gibson, Wesley Clover Stuart Cosgrove, Channel 4 Tom Loosemore, 4IP Tony Ray, Dragon DI Wil Stephens, Cube Interactive Will Perrin, Talk About Local

Swyddogion/Cynghorwyr Llywodraeth Cynulliad Cymru Allison Dowzell Clive Bates David Warrender Gareth Hall John Howells Natasha Hale Rhuanedd Richards Richard Sewell Rob Halford Sharon Linnard Tracey Burke

Tudalen 66 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Gwariant sector yr Adran Economi a Thrafnidiaeth 2008/009 Sefydliad Ariannu Is-sectorau Cymwys Cyllideb £ Busnes Creadigol Cymru Ffi lm, Teledu, Cyfryngau £1,500,000* Newydd a Cherddoriaeth Y Gronfa Fuddsoddi Sengl Pob un o’r 13 sector £84,000 A4B Pob un o’r 13 sector Dim Is-adran Menter Y Cyngor Crefft £25,000 Busnes Rhyngwladol Ffi lm, Teledu, Cyfryngau £14,000 Cymru Newydd a Cherddoriaeth Adfywio Pob un o’r 13 sector £1,204,000 Atodiad 2 Technoleg ac Arloesedd Meddalwedd, Gemau Dim Cyfanswm Cyllideb yr Adran Economi a Thrafnidiaeth £2,827,000

Adran Dyfodol Cynaliadwy (yn cynnwys Treftadaeth) Rhaglen Is-sector Cymwys Cyllideb £ Cyngor Celf gweledol, crefft, ffi lm, £31,000,000 (a Celfyddydau cerddoriaeth, celfyddydau £10,410,000 o Cymru perfformio a llenyddiaeth arian loteri) Celfyddydau Fel Cyngor Celfyddydau £292,000 (a £53,000 Rhyngwladol Cymru gan y Cyngor Cymru Prydeinig) Cyngor Llyfrau Cyhoeddi £3,800,000 Cymru Golwg Cyhoeddi £250,000 Papurau Bro Cyhoeddi £74,073 Radio Cymunedol Radio £500,000 (2008-2012) Eisteddfod Cerddoriaeth, llenyddiaeth, £478,839 Genedlaethol celfyddydau perfformio, dylunio Cyfanswm Dyfodol Cynaliadwy £46,857,912

Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Sefydliad Ariannu ls-sectorau Cymwys Cyllideb £ CCAUC Pob un o’r 13 is-sector £4,417,000 Skillset Ffi lm, Teledu, Radio a’r Cyfryngau Newydd £116,988 CCSkills Cerddoriaeth, Dylunio, Crefftau a Dim Chelfyddydau Perfformio E Skills Meddalwedd £29,971 Cyfanswm APADGOS £4,563,959 *Gostyngwyd i £850,000 yn 2009/10

Tudalen 67 Tudalen 68 Calon Cymru Ddigidol: adolygiad o’r diwydiannau creadigol ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Ian Hargreaves wedi cael gyrfa ddisglair ym maes newyddiaduraeth a’r cyfryngau. Bu’n Ddirprwy Olygydd y Financial Times, yn Gyfarwyddwr BBC News, Golygydd The Independent a Golygydd y New Statesman. Roedd yn un o aelodau gwreiddiol bwrdd Ofcom, corff rheoli cyfathrebu’r DU. Ar hyn o bryd, mae’n Gyfarwyddwr Cyfathrebu Strategol yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, a chafodd secondiad oddi yno i weithio ar yr adolygiad hwn o Ddiwydiannau Creadigol. Mae Ian hefyd yn Athro Newyddiaduraeth yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd. Mae’n byw gyda’i deulu ym Mhenarth. Cafodd Ian gymorth Natasha Hale, Arweinydd Sector y Diwydiannau Creadigol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal yr adolygiad hwn. Darparwyd gwasanaeth Ysgrifenyddiaeth gan Helene Powell, Swyddog Gweithredol y Sector, Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Tudalen 69