20 O SÊR OPERA IFANC RHYNGWLADOL WEDI’U HENWI AR GYFER BBC CANWR Y BYD CAERDYDD 2015

Bydd ugain o gantorion opera mwyaf addawol y byd yn cystadlu yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd eleni. Cyhoeddwyd enwau a gwledydd yr 20 canwr llwyddiannus – a ddewiswyd o blith bron i 350 o ymgeiswyr – heddiw.

Mae BBC Canwr y Byd Caerdydd yn rhan greiddiol o Dymor Lleisiau Clasurol Blwyddyn Canu a Dawnsio'r BBC, ac yn cael ei darlledu’n estynedig ar BBC Four a BBC Radio 3, yn ogystal â BBC Two Wales, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru, S4C ac ar-lein ar bbc.couk/canwrybyd.

Bydd llygaid y byd ar brifddinas Cymru ar gyfer y digwyddiad, sydd yn ei 32ain flwyddyn erbyn hyn, gyda David Jackson yn arwain BBC Canwr y Byd Caerdydd fel Cyfarwyddwr Artistig y gystadleuaeth am y tro cyntaf. Mae’r Fonesig Kiri Te Kanawa yn cefnogi'r gystadleuaeth wyth diwrnod, sy'n ddigwyddiad sy’n adnabyddus ym myd cerddoriaeth glasurol fel y prif lwyfan i gantorion opera a chantorion cyngerdd ar ddechrau eu gyrfa.

Dywedodd David Jackson: “Ry’n ni wedi chwilio’r byd er mwyn dod o hyd i’r cnwd ardderchog yma o dalent ar gyfer BBC Canwr y Byd Caerdydd 2015, ac heddiw o’r diwedd gallem gyoeddi’r 20 sydd wedi cyrraedd y brig. Mi roedd y safon yn aruthrol o uchel. Cafodd yr 20 yma eu dewis o bron i 350 o ymgeisydd, oedd i gyd yn gantorion gwych – ac mae pob un ohonynt yn haeddu dyfodol disglair. I bob canwr, cyfeilydd a lleoliad sydd wedi ein helpu wrth i ni chwilio – diolch o galon.

“Mae ein 20 terfynol yn amrywiaeth gyffrous o fathau o leisiau, a chasgliad rhyfeddol o dalent. Maen nhw’n dod o bob cwr o’r byd, gyda chefndiroedd a phrofiad eithriadol amrywiol. Mae wedi bod yn fraint bod yn rhan o’r digwyddiad gwych yma, yn ei 32ain flwyddyn, a hefyd eleni fel rhan o Flwyddyn Canu a Dawnsio’r BBC.”

Mewn clyweliadau a gynhaliwyd mewn dinasoedd ym mhob cwr o’r byd, o Filan i Helsinki ac o Efrog Newydd i Doronto, mae 20 o gantorion wedi cael eu dewis, o 55 o wledydd, am le yn y gystadleuaeth – gan gynnwys cynrychiolwyr o Fongolia a Malta, dwy wlad newydd i’r gystadleuaeth. Cystadlodd bron i 350 o gantorion opera a chyngerdd yn y gystadleuaeth ac i’r 20 sydd wedi cael eu dewis, bydd cael eu gweld gan gynulleidfaoedd eang, yng Nghaerdydd ac ar deledu, radio a gwasanaethau ar-lein y BBC, yn hwb unigryw i’w gyrfaoedd.

Teithiodd triawd newydd o feirniaid arbenigol i wyth dinas i ddarganfod y cystadleuwyr. Ymunodd Pennaeth Opera Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, Angela Livingstone, â'r cyfarwyddwr castio, Isabel Murphy o Opera Cenedlaethol Cymru, a’r cynhyrchydd Jeremy Caulton, wrth iddynt ddewis y cantorion ar gyfer y rowndiau nesaf.

Dywedodd Jeremy Caulton: “Mae gwrando ar ganwr ifanc addawol am y tro cyntaf bob amser yn brofiad cyffrous. Ac yn fwy felly, wedyn, wrth wrando ar fwy na deugain ohonyn nhw o bob cwr o’r byd a llunio rhestr fer ar gyfer cystadleuaeth Caerdydd 2015.

“Tua diwedd y llynedd, teithiodd y panel clyweld i saith gwlad i wrando ar y cantorion hyn, ond dydi hynny ddim yn adlewyrchu’r amrywiaeth o gantorion o gymaint o wahanol wledydd welson ni. Ar wahân i wledydd y DU, fe fuom yn gwrando ar gantorion o’r Eidal, yr Almaen, Iwerddon, Ffrainc, y Swistir, Sbaen, Sweden, Norwy, y Ffindir, Armenia, Malta, Gwlad Pwyl. Twrci, yr Wcráin, Belarws, Rwsia, yr Unol Daleithiau, Canada, Guatemala, De Affrica, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Tsieina, De Korea a Mongolia! Ac mae’r ugain unigolyn a ddewiswyd yn y diwedd yn cynrychioli dim llai na 15 o’r gwledydd hyn.

“Felly sut roedd mynd ati i ddewis y rhai yn y rownd derfynol? Wrth gwrs, mae gan yr holl gantorion wnaethon ni deithio i wrando arnyn nhw leisiau gwych a thechnegau effeithlon, ac mae hynny ynddo’i hun yn basbort iddyn nhw at yrfa mewn cerddoriaeth. Ond roedden ni’n chwilio am rywbeth ychwanegol hefyd, sef y peth anodd ei ddirnad hwnnw sy’n gwneud i rywun eistedd i fyny ac yn hoelio ei holl sylw mewn ffordd wahanol. Mae llawer o nodweddion ac elfennau technegol bychain yn cyfuno i greu’r ‘gwahaniaeth’ yma, ond dim ots pa mor galed wnewch chi ymdrechu, mae bron yn amhosib dod o hyd i un gair neu ymadrodd i wneud cyfiawnder ag ef. Mae ‘carisma’ yn ddefnyddiol efallai, ond dim ond rhan o’r stori yw hwn hefyd. Felly, mae’n anodd iawn disgrifio beth yn union yw hyn, ond mae’n mynd syth i’r galon ac, wrth lwc, nid yw’n rhywbeth anodd ei adnabod.”

Yn cyfeilio i’r cantorion, a fydd yn perfformio eu rhaglenni eu hunain o waith opera a chyngerdd yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd rhwng nos Sul 14 Mehefin a nos Sul 21 Mehefin 2015, bydd Cerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC o dan arweiniad eu Prif Arweinydd, Thomas Søndergård, a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru o dan arweiniad Martyn Brabbins. Bydd panel anrhydeddus yn barnu’r brif wobr: Cadeirydd, David Pountney, John Fiore, Soile Isokoski, Claron McFadden a Dennis O’Neill.

Sefydlwyd BBC Canwr y Byd Caerdydd yn 1983 gan BBC Wales ac fe’i cynlluniwyd yn wreiddiol i ddod o hyd i sêr canu clasurol y dyfodol. Yr uchelgais yw rhoi’r cyfle euraid hwnnw y mae pob artist ei angen i lansio ei yrfa at lwyddiant. Ymhlith enillwyr y gorffennol mae’r enillydd cyntaf un , , ac enillydd 2013 .

Dywedodd Jamie: “Alla’ i ddim dechrau disgrifio’r teimlad a gefais wrth ennill Gwobr y Gân a Gwobr Canwr y Byd Caerdydd. Meddyliais am y gân When you wish upon a star! Diolch am y don o anogaeth a chyffro a gynhyrchwyd ar fy rhan.

Bydd enillydd y brif wobr yn derbyn £15,000 a Thlws Caerdydd, a bydd enillydd Gwobr y Gân, a ddyfernir i ganwr gorau’r Lieder a’r gân gelf, yn cael gwobr o £5,000 a thlws. Cynhelir rowndiau Gwobr y Gân yn neuadd gyngerdd fodern iawn Dora Stoutzker yn Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, gyda’r holl gantorion yn gymwys i gymryd rhan. Yn ymuno â’r cadeirydd, David Pountney, Solie Isokoski a Claron McFadden ar y rheithgor bydd Julius Drake a John Gilhooly.

Mae cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd yn cael ei threfnu gan BBC Cymru ar y cyd ag Opera Cenedlaethol Cymru, ac yn cael cefnogaeth gan Gyngor Dinas a Sir Caerdydd.

Mae ffurflen archebu tocynnau i’w lawrlwytho, a manylion BBC Canwr y Byd Caerdydd, ar gael yn bbc.co.uk/canwrybyd.

DIWEDD

Cyhoeddwyd gan Adran Cyfathrebu BBC Cymru Wales I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Sioned Gwyn 029 2032 2541 / [email protected]

Mae lluniau o’r 20 canwr ac aelodau’r rheithgor ar gael ar gais.

Nodiadau i Olygyddion

Dyma’r ymgeiswyr llwyddiannus a fydd yn cystadlu yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd rhwng nos Sul 14 a nos Sul 21 Mehefin 2015:

Gwlad Enw Llais Oedran Belarws Marina Pinchuk Mezzo-soprano 32 Belarws Soprano 32 Canada Aviva Fortunata Soprano 27 Cymru Céline Forrest Soprano 24 De Affrica Kelebogile Besong Soprano 28 De Korea Insu Hwang Bas-bariton 32 De Korea Jaeyoon Jung Tenor 31 De Korea Baswr 28 Ffrainc Anaïs Constans Soprano 26 Malta Nico Darmanin Tenor 30 Mongolia Amartuvshin Enkhbat Bariton 29 Norwy Ingeborg Gillebo Mezzo-soprano 32 Twrci Ilker Aracayürek Tenor 30 UDA J’nai Bridges Mezzo-soprano 28 UDA Lauren Michelle Soprano 32 UDA Ryan Speedo Green Bas-bariton 29 Yr Almaen Sebastian Pilgrim Baswr 30 Yr Eidal Roberto Lorenzi Bas-Bariton 25 Y Swistir Regula Mühlemann Soprano 29 Yr Wcráin Oleksiy Palchykov Tenor 29

Mae lluniau ar gael ar gais. Mae lluniau o Jamie Barton, enillydd BBC Canwr y Byd Caerdydd 2013, ar gael ar gais.

Y gwobrau Bydd enillydd BBC Canwr y Byd Caerdydd yn cael £15,000; ac enillydd Gwobr y Gân yn cael £5,000. Bydd y ddau’n derbyn tlws hefyd.

Cantorion Cynhaliwyd clyweliadau ar gyfer y cantorion mewn 8 lleoliad:- Helsinki, Llundain, Milan, Efrog Newydd, Paris, Toronto, Vienna a Zurich.

Manylion darlledu Bydd y gystadleuaeth yn cael ei darlledu ar BBC Four, BBC Two Wales, BBC Radio 3, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, S4C ac ar-lein yn bbc.co.uk/canwrybyd

Y Noddwyr – o’r gorffennol a'r presennol Daeth y Fonesig Kiri Te Kanawa yn ail Noddwr y gystadleuaeth yn dilyn y diweddar Fonesig Joan Sutherland. Mae'r Fonesig Kiri yn chwarae rhan flaenllaw yn y gystadleuaeth ac mae’n credu’n angerddol mewn meithrin talent canu ifanc.

Blwyddyn Canu a Dawnsio’r BBC Blwyddyn Canu a Dawnsio’r BBC yw ymrwymiad mwyaf erioed y BBC i’r celfyddydau, gyda chyfoeth o raglenni teledu a radio’n edrych ar rym rhyfeddol canu a dawnsio ar draws sbectrwm llawn o gyfnodau ac arddulliau.

CANTORION

Twrci - Ilker Arcayürek Tenor 30 Oed Ganwyd Ilker Arcayürek yn Istanbul ac fe’i magwyd yn Vienna. Yn 2010 - 2013 roedd yn aelod o Stiwdio Opera Ryngwladol Opera Zürich ble'r ymddangosodd am y tro cyntaf fel Ferrando Così fan tutte ar brif lwyfan Tŷ Opera Zürich yn 2013. Mae'r gwobrau y mae wedi'u hennill yn cynnwys y drydedd wobr yng nghystadleuaeth Hugo Wolf 2012.

Mae wedi perfformio ar hyd a lled Y Swistir, yn cynnwys perfformio prif ran Orlando Paladino yn Tonhalle Zürich ac yn KKL yn Lucerne ac fel Don Basilio Le nozze di Figaro yng Ngŵyl Verbier. Ymaelododd ag ensemble Stadttheater Klagenfurt yn nhymor 2013/14, ble'r ymddangosodd am y tro cyntaf fel Alfred Die Fledermaus, Tamino Die Zauberflöte, Chevalier de la force Les Dialogues des Carmélites, Tywysog The Love for Three Oranges a Chanwr Eidalaidd Der Rosenkavalier.

Rhoddodd ei ddatganiad cyntaf yn Bonn gyda Dichterliebe a Liederkreis Op 24 Schumann, ac yn 2014 canodd Offeren yn C Fwyaf Beethoven gyda Franz Welser-Möst yn Fienna.

Yn 2015/16 bydd yn ymuno â Staatstheater Nürnberg ble fydd ei rannau yn cynnwys Rodolfo La bohème a Nadir Les pêcheurs de perles.

UDA - J’nai Bridges Mezzo-soprano 28 Oed Daw J’nai Bridges o Lakewood, Washington, ac astudiodd yn Ysgol Gerdd Manhattan ac Athrofa Gerdd Curtis, ble perfformiodd Idamante Idomeneo, prif ran Carmen yn La tragédie de Carmen Peter Brook a Baba'r Twrc yn The Rake’s Progress. Mae'r gwobrau y mae hi wedi'u hennill yn cynnwys gwobr Marian Anderson 2012; gwobrau yng Nghlyweliadau Cyngor Cenedlaethol Opera Metropolitan; Gwobr Sullivan 2013; Gwobr Cynghrair yr Undeb 2013 a Grant Astudio Sara Tucker 2011.

Mae’n aelod o Opera Telynegol Canolfan Opera Ryan yn Chicago ble roedd ei pherfformiadau yn 2014-2015 yn cynnwys Inez Il trovatore a Vlasta The Passenger gydag Opera Telynegol Chicago. Yn ystod tymor 2013-2014, canodd ar y prif lwyfan gydag Opera Telynegol Chicago fel Morwyn Flodau Parsifal, Flora La traviata ac Ail Nymff Bren Rusalka. Ymddangosodd fel unawdydd gyda Cherddorfa Symffoni Chicago yn Chanson Madecasses Ravel, ac ymddangosodd ar y radio ar gyfres datganiadau WFMT 98.7. Y tu hwnt i hynny mae hi wedi perfformio Adalgisa Norma gydag Opera Knoxville a phrif ran Carmen ar gyfer Opera Finger Lakes. Mae ei hymddangosiadau cyngerdd yn cynnwys Theresienmesse Haydn, Requiem Rutter, Messiah Handel, Gloria Vivaldi a Sea Pictures Elgar.

Yn y dyfodol agos bydd yn perfformio Suzuki Madama Butterfly gydag Opera Wolftrap.

De Affrica - Kelebogile Besong Soprano 28 Oed Ganwyd Kelebogile Besong yn Pretoria ac astudiodd ganu yng Ngholeg Tshwane. Mae'r gwobrau y mae hi wedi eu hennill yn Ne Affrica yn cynnwys gwobr gyntaf Myfyriwr Opera o Dde Affrica yng Nghystadleuaeth Opera Cenedlaethol DA yn 2006 a Gwobr Artist Ifanc Standard Bank 2012. Yn 2013 fe’i henwyd yn Ferch Fwyaf Dylanwadol Affrica ym myd Busnes a Llywodraeth (Celfyddydau).

Mae'r rhannau y mae hi wedi'u perfformio gydag Opera Affrica yn cynnwys Musetta La bohème, Micaëla Carmen a Susanna Le nozze di Figaro. Ymddangosodd yn Innsbrucker Festwochen dêr Alten Musik yn 2013 gan chwarae rhannau Fenws Fenws ac Adonis a Dewines Dido ac Aeneas. Uchafbwyntiau diweddar eraill yw ei hymddangosiad cyntaf fel Violetta La traviata gydag Opéra national de Montpellier, ei hymddangosiad cyntaf fel Contessa Le nozze di Figaro gydag Opera Tampere a datganiad unigol yn Operadagen Rotterdam.

Yn nhymor 2014/2015 bydd am y tro cyntaf yn perfformio prif ran Aida gydag Opera Malmö a bydd yn canu Musetta gydag Opera Grange Park. Ymhellach yn y dyfodol bydd yn teithio'r Iseldiroedd yn canu Contessa Le nozze di Figaro gyda Cherddorfa'r Ddeunawfed Ganrif a bydd yn ymddangos yng Ngŵyl Bregenz fel Fiordiligi Così fan tutte mewn cynhyrchiad gan artistiaid ifanc.

Ffrainc - Anaïs Constans Soprano 26 Oed Ganwyd Anaïs Constans ym Montauban yn ardal Tarn-et-Garonne a graddiodd yn Ysgol Gerddoriaeth Toulouse a Centre Nationale d’Artistes Lyriques ym Marseille cyn parhau â’i hastudiaethau gyda Claudine Ducret, Jean Marc Bouget a Nino Pavlenichvili. Mae hi wedi ennill gwobrau mewn nifer o gystadlaethau rhyngwladol yn cynnwys Gwobr y Cyhoedd a'r drydedd wobr yn Théâtre du Capitole, cystadleuaeth ryngwladol Toulouse yn 2013, y wobr gyntaf a'r wobr ieuenctid yng Nghystadleuaeth Canu Ryngwladol Mâcon 2013, cydradd drydydd yng nghystadleuaeth Operalia 2014 yn Los Angeles a'r drydedd wobr yn Competition Montserrat Caballé 2014 yn Zaragoza.

Mae ei chyhoeddiadau diweddar yn cynnwys Le feu L’enfant et les sortilèges a Pisana I due Foscari yn Théâtre du Capitole, Toulouse; Miss Ellen Lakmé gydag Opéra Théâtre Saint- Étienne; Pauline La vie parisienne gydag Opéra de Toulon; Musetta La bohème yng Ngŵyl Gattières a Lucy Y Teleffon yn Festival symphonies d’automne. Mae ei dyddiadur ar gyfer y dyfodol yn cynnwys perfformiadau fel Nannetta Falstaff yng ngŵyl Saint-Céré; La voce del cielo Don Carlo gydag Opéra National de Bordeaux; Berta Il barbiere di Siviglia gydag Opéra Bastille a Der Schäfer Tannhaüser gydag Opéra Monte-Carlo.

Malta - Nico Darmanin Tenor 30 Oed Ganwyd Nico Darmanin ym Malta ac astudiodd yn Llundain yn y Coleg Cerdd Brenhinol a'r Stiwdio Opera Genedlaethol. Mae’n un o Artistiaid Samling a chymerodd ran mewn dosbarthiadau meistr gyda Juan Diego Flórez a Joyce DiDonato. Mae hefyd wedi gweithio gyda'r Fonesig Kiri Te Kanawa a Syr Thomas Allen yn y Georg Solti Accademia, a gyda Mirella Freni ym Modena.

Yn nhymor 2013/14 bu iddo wneud dau ymddangosiad cyntaf - yn y Tŷ Opera Brenhinol fel Daniéli Les vêpres siciliennes a gydag Opera Vlaamse fel Tenor Eidalaidd Der Rosenkavalier, rhan y perfformiodd hefyd yn Grand Théâtre de Luxembourg. Mae ei uchafbwyntiau eraill yn cynnwys Almaviva Il barbiere di Siviglia gydag Opera Holland Park a Belfiore Il viaggio a Reims yng Ngŵyl Opera Rossini. Mae'r tymor hwn iddo yn cynnwys Ramiro La Cenerentola (Opera Yr Alban); Ottavio Don Giovanni (Opera Vlaamse); Messiah Handel yn y Royal Festival Hall a Nawfed Symffoni Beethoven yn y Barbican.

Mewn cyngherddau mae ei repertoire yn cynnwys caneuon rhamantus ac operâu gan Rossini, Bellini, Donizetti, Tosti, Fauré a Debussy. Mae wedi recordio caneuon Massenet gyda Richard Bonynge ac On Shore and Sea gan Sullivan dan ei arweiniad.

Mongolia - Amartuvshin Enkhbat Bariton 29 Oed Ganwyd Amartuvshin Enkhbat yn Sukhbaatar ac astudiodd ym Mhrifysgol Celfyddydau a Diwylliant Wladol, Ulan Bator. Mae wedi ennill nifer o wobrau, yn cynnwys yr ail wobr a gwobr y gwrandawyr yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Tchaikovsky 2011; cydradd gyntaf yn Operalia 2012 a'r ail wobr a dwy wobr arbennig yng Nghystadleuaeth Ganu Ryngwladol Francisco Viñas yn 2013.

Mae’n Brif Unawdydd Tŷ Opera Academaidd Gwladol Mongolia yn Ulan Bator, ac fe’i dewiswyd i fod yn Artist Anrhydeddus Mongolia pan oedd yn 24 oed.

Mae'r rhannau y mae wedi eu perfformio ym Mongolia yn cynnwys Escamillo, Morales Carmen; Tonio Pagliacci; Amonasro Aida; Count di Luna Il trovatore; Iago Otello; Renato Un ballo in maschera; Sharples Madama Butterfly; Scarpia Tosca; Marcello La bohème a phrif rannau Eugene Onegin, Aleko, Genghis Khan a Rigoletto. Mae wedi ymddangos yn rhyngwladol fel Gwestai Vedenetsky Sadko yn Krasnoyarsk ac fel Cownt Monterone Rigoletto yn Palau de les Arts Reina Sofia, Valencia, yn 2012. Hefyd, mae wedi canu mewn cyngherddau gala o gwmpas y byd, yn cynnwys Paris, Moscow, Efrog Newydd, Beijing, Seoul a Singapore. Mae’n edrych ymlaen at berfformio yn y Swistir a Kazakhstab a hefyd adref ym Mongolia.

Cymru Céline Forrest Soprano 25 Oed Ganwyd Céline Forrest yn Abertawe ac enillodd ysgoloriaeth i'r Academi Cerdd Brenhinol, ble mae hi nawr yn gorffen ei diploma uwch, gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Iarlles Munster, Gwobr Richard Lewis, ysgoloriaeth Sefydliad Y Fonesig Kiri Te Kanawa ac ysgoloriaeth Miriam Lycette. Llynedd enillodd Wobr Richard Lewis/Jean Shanks a Gwobr Pavarotti yn yr Academi. Hefyd derbyniodd aelodaeth o Gylch Canu'r Academi Brydeinig.

Yn ddiweddar mae hi wedi perfformio prif ran Suor Angelica a Chorws Merched Treisio Lucretia ar gyfer Opera'r Academi Frenhinol. Mae ei pherfformiadau gydag Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru yn cynnwys y brif ran yn The Sleeper yn 2011. Mae ei repertoire opera arall yn cynnwys Donna Anna Don Giovanni; Marschallin Der Rosenkavalier a phrif ran Maria Stuarda. Mae’n perfformio fel unawdydd gyda Chantorion Ariosa, ac mae hi wedi teithio gyda hwy i Ddulyn, Prâg, Paris, Barcelona a Thwscani.

Bydd yn dychwelyd i Gymru i berfformio fel unawdydd gwadd gyda nifer o gorau - mae ei hymddangosiadau diweddar wedi cynnwys Y Cread Haydn a Judas Maccabaeus. Mae ei gwaith cyngerdd arall yn cynnwys Rewuiem Mozart gyda'r Hallé yn Neuadd Bridgewater a chyngerdd yn Llysgenhadaeth Prydain ym Madrid fis Hydref diwethaf.

Canada - Aviva Fortunata Soprano 27 Ganwyd Aviva Fortunata yn Calgary, Alberta, ac astudiodd ym Mhrifysgol Toronto ac ar hyn o bryd mae’n aelod o'r Stiwdio Ensemble gyda Chwmni Opera Canada. Mae ei rhannau diweddar yn cynnwys Berta Barbwr Seville, Helmwige Die Walküre a Fiordiligi ym mherfformiad y Stiwdio Ensemble o Così fan tutte, rhan y bu iddi ei berfformio hefyd gyda Chwmni Opera Canada. Mae rhannau eraill y mae wedi eu perfformio gyda Chwmni Opera Canada yn cynnwys Alice Ford Falstaff, Donna Anna Don Giovanni, ac Ellen Orford Peter Grimes. Mae hi hefyd wedi perfformio Desdemona Otello a'r Ddynes gyda'r Bocs Cacennau yng Ngherdyn Post o Morocco gyda Rhaglen Opera Merola Opera San Francisco; Donna Anna gyda Grŵp Opera Cyngerdd, Canolfan Astudiaethau Opera yn yr Eidal a Phrifysgol Toronto; a Gloria Poulenc gyda Cherddorfa Ffilharmonig Buffalo.

Bydd yn parhau i ganu gyda'r Stiwdio Ensemble yn nhymor 2015/21016, ble bydd yn perfformio Iarlles Le nozze di Figaro gyda'r Ensemble ac fel dirprwy gyda Chwmni Opera Canada, ac Anna Maometto Secondo.

Norwy - Ingeborg Gillebo Mezzo-soprano 32 Oed Ganwyd Ingeborg Gillebo yn Lillehammer ac astudiodd yn Athrofa Gerddoriaeth Norwy ac yn yr Academi Opera yn Copenhagen. Yn 2011 cyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth Belverde ac ennill yr ail wobr yng Nghystadleuaeth Ganu Ryngwladol y Frenhines Sonja.

Yn 2010 ymddangosodd am y tro cyntaf gydag Opera Brenhinol Denmarc fel Margret Wozzeck a gydag Opera Cenedlaethol Norwy fel Cherubino Le nozze di Figaro. Canodd Rosina Il barbiere di Siviglia a Costanza L'isola disabitata gydag Opera Cenedlaethol Norwy, Solveig Peer Gynt yng Ngŵyl Peer Gynt. Roedd ei chyhoeddiadau yn 2013 yn cynnwys Nicklausse Les contes d’Hoffmann, Lola Cavalleria rusticana gydag Opera Cenedlaethol Norwy a Volve ym mherfformiad cyntaf byd-eang o The voice from Mímisbrunnr Ragnar Söderlind. Roedd 2014 yn cynnwys Cherubino gydag Opera Metropolitan, Zerlina Don Giovanni gydag Opera Cenedlaethol Norwy, Offeren C Leiaf Mozart gydag Orchestre de chambre de Paris a Sir Roger Norrington, Stabat Mater Haydn yn Oslo gyda Cherddorfa Siambr Norwy a Symphony Rhif 2 - Lobgesang Mendelssohn gyda Cherddorfa Siambr Sweden.

Mae’n edrych ymlaen at berfformiadau fel Morwyn y blodau Parsifal ym Mirmingham a Bayreuth; Cherubino yn Zürich, Vienna ac Oslo; datganiad yn Antwerp; a cherddoriaeth gyngerdd Bach a Mozart.

UDA - Ryan Speedo Green Bas-bariton 29 Oed Mae Ryan Speedo Green yn frodor o Suffolk, Virginia ac astudiodd ym Mhrifysgol Talaith Florida ac Ysgol Gerdd Hartt. Mae'r gwobrau y mae wedi'u hennill yn cynnwys y wobr gyntaf yn Rowndiau Terfynol Mawreddog Cenedlaethol Clyweliadau Cyngor Cenedlaethol Opera Metropolitan 2011. Yn 2014 derbyniodd Wobr Sefydliad George London, gwobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Mynegai Opera, grant Annenberg, gwobr gyntaf yng nghystadleuaeth Sefydliad Gerda Lissner a Grantiau Richard a Sara Tucker gan Sefydliad Richard Tucker.

Ymddangosodd am y tro cyntaf ar lwyfan y Met yn nhymor 2012/13 fel Mandarin Turandot, ac Ail Farchog Parsifal, a chwblhaodd Raglen Ddatblygu Artistiaid Ifanc Lindemann yn 2014. Mae ei uchafbwyntiau operatig eraill yn cynnwys Commendatore Don Giovanni gydag Ysgol Juilliard, Colline La bohème gydag Opera Central City a Don Magnifico La Cenerentola gydag Opera Colorado.

Yn 2014 ymunodd ag ensemble Wiener Staatsoper ensemble, ble'r oedd ei rannau yn cynnwys Sparafucile Rigoletto, Basilio Il barbiere di Siviglia, a Brenin Aida. Ymddangosodd hefyd fel Rambo yng nghynhyrchiad y Met o The Death of Klinghoffer.

Mae ei waith cyngerdd yn cynnwys yr unawd fas yn Requiem Verdi yn Hartford a Nawfed Symffoni Beethoven gyda Symffoni Florida.

De Corea - Insu Hwang Bas-bariton 32 Oed Ganwyd Insu Hwang yn Seoul ac astudiodd ym Mhrifysgol Yonsei, yna yn Yr Almaen yn Hochschule fur Musik, Karlsruhe gyda Donald Litaker ac ar hyn o bryd mae’n astudio yn Hochschule fur Musik, Detmold gyda Susan Anthony. Derbyniodd Ysgoloriaeth DAAD yn 2011 ac Ysgoloriaeth Brahmshaus yn 2012.

Mae wedi cymryd rhan mewn nifer o gystadlaethau. Cyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth Brenhines Elisabeth 2011 ac yn 2013 enillodd y drydedd wobr a gwobr arbennig Mozart yng nghystadleuaeth ganu Ryngwladol Veronica Dunne, a'r ail wobr yng nghystadleuaeth ganu ryngwladol Gut Immling.

Mae wedi ymddangos nifer o weithiau mewn cyngherddau gyda Cherddorfa Symffoni Hof ym Mafaria, ac wedi rhoi datganiadau unigol ym Mrwsel a Karlsruhe. Mae rhannau opera yn cynnwys Guglielmo Così fan tutte a Chownt Le nozze di Figaro, a hynny yn Seoul; prif ran Falstaff yn Karlsruhe; a Zar Der Zar lässt sich photografieren Kurt Weill ym Munich.

Ar hyn o bryd mae’n aelod o raglen Artistiaid Ifanc yn Landestheater Detmold, ble mae wedi perfformio rhannau Montano Otello, Nazarene Cyntaf Salome a Sarastro Die Zauberflöte.

De Corea - Jaeyoon Jung Tenor 31 Oed Ganwyd Jaeyoon Jung yn Gangneung ac astudiodd yn Seoul ac yn Academi Opera Telynegol Teatro alla Scala a Conservatorio di musica Giuseppe Verdi ym Milan. Mae ei wobrau diweddar yn cynnwys gwobr gyntaf yng nghystadleuaeth ganu ryngwladol Giacinto Prandelli yn Brescia a gwobr gyntaf yng nghystadleuaeth ganu Ryngwladol Giulietta Simionato, Acqui Terme, a hynny yn 2014.

Mae'r rhannau y mae wedi eu perfformio yng Nghorea yn cynnwys Don Curzio Le nozze di Figaro ac Eisenstein Die Fledermaus. Ers symud i'r Eidal mae wedi ymddangos fel Edoardo di Sanval Un giorno di regno yn Teatro Filarmonico di Verona a Dormont La scala di seta yn La Scala, yn 2013. Hefyd yn La Scala perfformiodd yr unawd tenor ym male La serata Ratmansky a chymerodd ran hefyd mewn nifer o gyngherddau gala yn y theatr. Llynedd, canodd Il duca di Mantova Rigoletto yn Castello di Padernello, Brescia. Mae'r cyngherddau y mae wedi cymryd rhan ynddynt yn cynnwys Offeren C fwyaf Beethoven yn Teatro comunale di Firenze yn 2012 a chyngerdd fel rhan o Flwyddyn o Ddiwylliant Eidalaidd yn Chicago yn 2013.

Belarws - Nadine Koutcher Soprano 32 Oed Ganwyd Nadine Koutcher ym ac astudiodd yng Ngholeg Cerdd Gwladol Minsk ac Ysgol Gerddoriaeth St Petersburg. Mae ei buddugoliaethau mewn cystadlaethau yn cynnwys y Grand Prix yng Nghystadleuaeth Lleisiau Rhyngwladol 's-Hertogenbosch 2012, ble roedd hefyd yn falch o ennill Gwobr y Gwrandawyr a'r wobr am y perfformiad gorau o'r darn gorfodol. Perfformiodd am y tro cyntaf yn Theatr Mikhailovsky yn St Petersburg yn 2009 fel Violetta La traviata, ac yn dilyn hynny cafodd rannau yn cynnwys Tywysoges Eudoxie La Juive ac Oscar Un ballo in maschera. Yn 2012 ymunodd ag Opera Gwladol Perm, gan ennill Mwgwd Aur Moscow am ei pherfformiad fel Medea ym Medea Material Pascal Dusapin. Yn 2013 canodd Doña Isabel yn Y Frenhines Indiaidd mewn cydgynhyrchiad gan Opera Perm, Teatro Real ac ENO, dan arweiniad a gynhyrchwyd gan Peter Sellars, gan ganu yn Teatro Real am y tro cyntaf.

Yn 2013 canodd Nawfed Symffoni Beethoven yn y Concertgebouw ac yn Requiem Verdi yn Norwich gyda Cherddorfa Symffoni Llundain. Recordiodd CD o gerddoriaeth Rameau yn 2012 gyda Cherddorfa MusicAeterna a Currentzis.

Mae ei chyhoeddiadau yn y dyfodol yn cynnwys Countess Le nozze di Figaro a phrif ran Lucia di Lammermoor yn Théâtre du Capitole, Toulouse ac Amenaide Tancredi yn Teatro Municipal de Santiago de Chile.

Yr Eidal - Roberto Lorenzi Bas-bariton 25 Oed Daw Roberto Lorenzi o Lucca ac astudiodd yn Athrofa Astudiaethau Cerddorol Luigi Boccherini yno. Mae wedi ennill gwobrau mewn cystadlaethau megis y Titta Ruffo a'r Riccardo Zandonai, a'r wobr gyntaf yn 2011 yn 62fed cystadleuaeth flynyddol AsLiCo, ble enillodd ran Don Basilio Il barbiere di Siviglia yn Lombardy.

Ar hyn o bryd, mae’n aelod o Stiwdio Opera Ryngwladol Zurich ac ymddangosodd am y tro cyntaf ar y prif lwyfan fel Priore La straniera gydag Edita Gruberova. Ers hynny mae wedi ymddangos mewn cynyrchiadau o Il barbiere di Siviglia, Il matrimonio segreto, La fanciulla del West a Rigoletto. Y tymor nesaf, bydd yn ymuno ag ensemble Opera Zurich, a bydd yn ymddangos am y tro cyntaf yn Concertgebouw Amsterdam fel Priore. Cyn symud i Zurich, ymddangosodd am y tro cyntaf yn Teatro alla Scala yn La bohème ac yn 2013 cymerodd ran mewn prosiect Cantorion Ifanc yng Ngŵyl Salzburg.

Mae ei uchafbwyntiau diweddar eraill yn cynnwys Angelotti Tosca, Almaviva Le nozze di Figaro, a phrif ran Don Giovanni, pob un yn Lucca, yn ogystal ag Alidoro La Cenerentola yn Pisa a Ferrando Il trovatore gydag AsLiCo. Mae ei berfformiadau cyngerdd yn cynnwys Requiem Verdi yn Pisa a Requiem Mozart yn Lucca.

UDA - Lauren Michelle Soprano 31 Ganwyd Lauren Michelle yn Los Angeles ac astudiodd yn Ysgol Juilliard ac UCLA. Mae'r gwobrau y mae hi wedi eu hennill yn cynnwys Cystadleuaeth Celfyddyd Leisiol Leontyne Price, cystadleuaeth ryngwladol Francisco Viñas 2015 / Gwobr Neilltuol Accademia Musicale Chigiana de Siena ac yn ddiweddar cipiodd y drydedd wobr yn Rownd Derfynol Ranbarthol Arfordir y Gwlff yng Nghlyweliadau Cyngor Cenedlaethol Opera Metropolitan. Mae hi wedi cymryd rhan mewn rhaglenni i artistiaid ifanc yng Ngŵyl Gerddoriaeth Chautauqua, Rhaglen Britten-Pears a Chanolfan Theatr Opera Aspen.

Yn ddiweddar ymddangosodd am y tro cyntaf yn Neuadd Carnegie yn The Road of Promise Hurt Weill. Mae ei huchafbwyntiau eraill yn cynnwys Nella Gianni Schicch yn Aspen, Helena A Midsummer Night’s Dream yn Banff a’i hymddangosiad cyntaf fel Lauretta Gianni Schicchi yn Teatro Romano di Fiesole.

Mewn cyngherddau mae hi wedi perfformio Bachianas Brasileiras Rhif 5 Villa-Lobos ar draws Ewrop; Lieder a chansons gyda Rencontres Musicales Internationales des Graves; Shéhérazade Ravel yn Los Angeles; ac mae hi wedi ymddangos gyda Symffoni Southeast yn canu Messiah Handel, Gloria Poulenc, a Requiem Rutter. Mae hi wedi cyflwyno datganiadau unigol ar draws UDA, De Affrica, Yr Eidal, Ffrainc a Lloegr ac wedi ymddangos yng Ngŵyl Fringe Caeredin mewn perfformiadau amlddisgyblaethol gyda Company XIV.

Y Swistir - Regula Mühlemann Soprano 29 Oed Ganwyd Regula Mühlemann yn Lucerne ac astudiodd yn yr Ysgol Gerddoriaeth yno. Mae'r rhannau y mae hi wedi eu perfformio yn Lucerne yn cynnwys Barbarina Le nozze di Figaro a Papagena Die Fledermaus. Yn 2012 ymddangosodd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Salzburh, gan ganu rhan Papagena ifanc yn Das Labyrinth P v Winter.

Mae hi wedi perfformio mewn nifer o dai opera Ewropeaidd, yn cynnwys Giannetta L'elisir d'amore gydag Opera Zurich ac yn Baden-Baden, ble'r ymddangosodd hefyd fel Papagena gyda Syr Simon Rattle a Cherddorfa Ffilharmonig Berlin. Yn 2012 canodd Despina Così fan tutte yn Teatro la Fenice ac yn 2013 canodd Isolier Le Comte Ory yn Theater ân dêr Wien.

Mae hi hefyd wedi gwneud dwy ffilm – yn canu Ännchen yn Hunter’s Bride ac Amore yn Gluck’s Orfeo. Y tymor hwn bydd yn ymddangos am y tro cyntaf gyda De Nederlandse Opera yn canu Papagena a Gretel Hänsel und Gretel yn Torino. Mae ei chyhoeddiadau yn y dyfodol yn cynnwys Barbarina mewn cyngerdd gyda , Zerlina Don Giovanni ac Offeren yn C Leiaf Mozart yn Gstaad a chyngherddau gyda Cherddorfa Siambr Yr Alban.

Iwcrain Oleksiy Palchykov Tenor 29 oed Ganwyd Oleksiy Palchykov yn Kiev ac astudiodd yn Academi Gerddorol Genedlaethol Tchaikovsky. Ers 2010, mae wedi derbyn nifer o wobrau mewn cystadlaethau rhyngwladol yn cynnwys y Prix Lyrique du Cercle Carpeaux a'r Prix Lyrique de L’AROP yn 2014. Ymddangosodd am y tro cyntaf yn 2008 yn canu Triquet/Lensky Eugene Onegin yn Theatr Opera Cenedlaethol Shevchenko. Mae ei uchafbwyntiau yn cynnwys teithio'r Swistir fel Alfredo La traviata gyda Theatr Gerdd Kiev; perfformio tair rhan The Nose yn Festival d’Aix-en-Provence 2011 a gydag Opéra de Lyon; Trydydd Sgweier Parsifal yn Lyon a Chaneuon Iddewig Shostakovich gyda Cherddorfa Symffoni Thessaloniki.

Ymunodd ag Atelier Lyrique Opéra national de Paris yn 2012, ble mae wedi perfformio Gernando L'isola disabitata, Ecclitico Il mondo della luna, Corws Meibion Treisio Lucretia a Don Ottavio Don Giovanni. Y tymor hwn mae’n perfformio Ferrando Così fan tutte a Pylade Iphigénie ên Tauride. Ymddangosodd am y tro cyntaf gydag Opéra national de Paris fel Messenger Aida yn 2013, ac yn 2014 ymddangosodd yn Requiem Mozart ynn Notre-Dame de Paris ac yn St Martin-in-the-Fields.

Yn 2015-16 bydd yn perfformio Scaramouche Ariadne auf Naxos a Ruiz Il trovatore gydag Opéra national de Paris, a Lensky gydag Opera Garsington yn 2016.

De Corea - Jongmin Park Bas 28 Oed Ganwyd Jongmin Park yn Seoul ac astudiodd ganu ym Mhrifysgol Celfyddydau Genedlaethol Corea. Ymunodd ag Academi La Scala dan adain Mirella Freni, Luciana Serra, Luigi Alva a Renato Bruson. Mae'r gwobrau yr mae wedi eu hennill yn cynnwys Cystadleuaeth Ryngwladol Tchaikovsky, a gwobr Brigit Nilsson Wagner yn Operalia, yn 2011.

Yn ystod tymor 2010-2013, roedd yn aelod o ensemble Opera Gwladol Hamburg, yn canu rhannau megis Sarastro Die Zauberflöte, Colline La bohème a Sparafucile Rigoletto. Y tymor canlynol, ymunodd ag Opera Gwladol Fienna a pherfformiodd Sir Giorgio I puritani, Gremin Eugene Onegin, Basilio Il barbiere di Siviglia, Bartolo Le nozze di Figaro, Grenvil La traviata a Truffaldino Ariadne auf Naxos. Yn 2014, ymddangosodd am y tro cyntaf yn y Tŷ OperaBrenhinol fel Colline, ac ymddangosodd yn y BBC Proms a Gŵyl Dinas Llundain.

Mae ei berfformiadau cyngerdd wedi cynnwys Nawfed Symffoni Beethoven gyda'r LSO, Vesperae solennes de Confessore Mozart yn La Scala, Requiem Verdi yn Seoul a Stabat Mater Rossini yn Tokyo. Mae wedi perfformio datganiadau unigol ym Munich a Frankfurt a bydd yn rhoi datganiad yn Musikverein yn Fienna eleni. Y flwyddyn nesaf, bydd yn perfformio Stabat Mater Dvořák ym Mhrâg.

Yr Almaen - Sebastian Pilgrim Bas 30 Oed Ganwyd Sebastian Pilgrim yn Hertford yng ngogledd Yr Almaen ac astudiodd yn Detmold a Hannover gyda Sabine Ritterbusch ac Alessandra Althoff-Pugliese. Ymysg gwobrau eraill, derbyniodd Wobr Wolfgang Wagner am berfformiadau fel Daland a Hagen yn y Gystadleuaeth Ryngwladol i Leisiau Wagner 2012.

Perfformiodd am y tro cyntaf mewn opera fel Syr John Falstaff yng nghynhyrchiad Opera Ieuenctid Rhyngwladol Schloss Weikersheim 2009 o The Merry Wives of Windsor. Hefyd yn 2009, tra'r oedd yn dal yn fyfyriwr, bu iddo ddod yn aelod o Theater Erfurt, gan berfformio repertoire megis Tierbändiger a Athlet Lulu a Kaspar a Eremit Der Freischütz. Yna ymunodd â'r ensemble yn Nationaltheater Mannheim yn 2013, gan ganu prif rannau megis Sarastro Die Zauberflöte, Fiesco Simone Boccanegra, Y Brenin a'r Cogydd yn Love for Three Oranges a Brenin Philip Don Carlo. Yn ogystal â chanu opera, mae’n cyfansoddi ac yn arwain ac mae wedi llwyfannu cerddoriaeth newydd am y tro cyntaf sawl tro. Mae’n perfformio unawdau oratorio yn rheolaidd, megis y rhai a geir yn y Cread gan Haydn, Oratorio'r Nadolig gan Bach ac Elijah gan Mendelssohn.

Mae'r rhannau sydd ar y gorwel iddo yn Mannheim yn cynnwys Fafner Das Rheingold, Geisterbote Die Frau ohne Schatten, Cadfridog The Gambler a Cadmus The Bassarids.

Belarws - Marina Pinchuk Mezzo-soprano 32 Oed Ganwyd Marina Pinchuk ym Mogilev ac astudiodd yno yn Ysgol Gerddoriaeth Wladol Rimsky- Korsakov St Petersburg, ble canodd Olga Eugene Onegin, Lyubasha Gwraig y Tsar, Cherubino Le nozze di Figaro a Smeton Anna Bolena. Enillodd y drydedd wobr yng Nghystadleuaeth Lleisiau Rhyngwladol Anita Cerquetti 2011 yn yr Eidal.

Perfformiodd am y tro cyntaf fel Olga gyda Chwmni Theatr Mikhaylovsky, ble mae hefyd wedi canu Lyubasha, Polina Pique Dame, Varvara Katya Kabanova, Konchakovna Y Tywysog Igor a Flora La traviata. Ar daith yn Asia yn 2009, perfformiodd Nawfed Symffoni Beethoven a rhan Olga yn Tokyo, Yokohama a Daegu, De Corea.

Yn 2011, cymerodd ran yn Accademia Rossiniana di Pesaro gydag Alberto Zedda, ble perfformiodd Maddalena Il viaggio a Reims. Yn 2013 cafodd ei dewis i gymryd rhan yn Opera Studio Centre de Perfeccionament Plácido Domingo yn Valencia, gan berfformio Pisana Il due Foscari. Mae ei huchafbwyntiau eraill yn cynnwys Dunyasha Gwraig y Tsar yn Theatr Wladol Kazan; Fenena Nabucco yn Theater Comunale di Bologna yn 2013; a phrif rannau Rinaldo a Threisio Lucretia yn Valencia yn 2014.

Mae ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys Die Walküre yn Teatro Campoamor, Oviedo ym mis Medi.

Y RHEITHGOR

David Pountney Cadeirydd y ddau reithgor Yn Gyfarwyddwr Opera a Phrif Weithredwr a Chyfarwyddwr Artistig Opera Cenedlaethol Cymru, daeth David Pountney i enwogrwydd rhyngwladol drwy ei gynhyrchiad o Katya Kabanova yng Ngŵyl Wexford 1972. Rhwng 1975 ac 1980, yr oedd yn Gyfarwyddwr Cynyrchiadau i Opera’r Alban, lle yr oedd y cynyrchiadau yn cynnwys cylch gan Janáček mewn cydweithrediad ag Opera Cenedlaethol Cymru, gan dderbyn medal Janáček. Daeth yn Gyfarwyddwr Cynyrchiadau Opera Cenedlaethol Lloegr yn 1980, gan gyfarwyddo dros 20 opera.

Mae David wedi cyfarwyddo llawer o berfformiadau cyntaf yn y byd, gan gynnwys tri gan Peter Maxwell Davies, gan ysgrifennu’r libreto ar eu cyfer hefyd, ac mae wedi cyfieithu operâu i’r Saesneg o Rwsieg, Tsieceg, Almaeneg ac Eidaleg. O 1992 ymlaen bu’n gweithio’n rheolaidd yn Zurich, Fiena a Munich yn ogystal ag yn America a Japan, ac yn y DU mae ganddo gysylltiad ers tro byd ag Opera North. Derbyniodd fedal Martinů am ei gynyrchiadau o Julietta a Greek Passion (Opera North a Gŵyl Bregenz). Mae ei gynyrchiadau wedi ennill gwobr Olivier ar ddau achlysur. Mae ei gynyrchiadau diweddar yn cynnwys Prince Igor, The Passenger, opera newydd gan Philip Glass, Spüren der Verirrten, a enillodd Wobr Schickaneder am y cynhyrchiad opera gorau yn 2013, a Die Zauberflöte ar gyfer y llyfan yn y llyn yn Bregenz, lle yr oedd David yn Arolygwr rhwng 2003 – 2013. Ers ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru yn 2011, mae wedi cyfarwyddo Lulu, Guillaume Tell, Mosè in Egitto a Chorus! Mae’r gwobrau a ddyfarnwyd iddo'n cynnwys y CBE, Chevalier yn Ordre des Arts et Lettres Ffrainc, Croes y Cafalîr o Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Gwlad Pwyl a’r Ehrenkreuz des Bundes Osterreich.

John Fiore Rheithgor BBC Canwr y Byd Caerdydd John Fiore yw Cyfarwyddwr Cerdd Opera a Bale Norwy. Ef gynt oedd Prif Arweinydd y Deutsche Oper-am-Rhein (1998-2009) ac ar yr un pryd roedd hefyd yn Generalmusikdirektor y Düsseldorfer Symphoniker am wyth tymor.

Mae uchafbwyntiau’r tymor presennol yn cynnwys ymddangosiad cyntaf yn Opéra National de Bordeaux (Norma), cynhyrchiad newydd o Pád Arkuna (The Fall of Arkun) yn y Czech National Theater, ac arwain Peer Gynt Reinvere (y perfformiad cyntaf erioed), Sancta Susanna Hindemith/A Florentine Tragedy Zemlinsky (cynhyrchiad newydd), Lohengrin a Madama Butterfly yn Opera Norwy. Mae uchafbwyntiau eraill diweddar yn cynnwys ymddangosiad cyntaf yn Teatro San Carlo (Rusalka), Deutsche Oper Berlin (Turandot), Grand Théâtre de Genève (Andrea Chénier a Nabucco) a chyda’r Orchestre de la Suisse Romande.

Yn adnabyddus yn y tai opera rhyngwladol, bu John yn westai mynych yn y Metropolitan Opera yn Efrog Newydd a thai opera Ewropeaidd nodedig gan gynnwys Bayerische Staatsoper, Semperoper Dresden, Oper Köln, a’r Teatro dell'Opera di Roma. Yn yr Unol Daleithiau, bu ganddo berthynas ers tro byd ag Operâu Chicago Lyric a San Francisco.

Ganwyd Mr Fiore yn Efrog Newydd a dechreuodd ei weithgareddau cerddorol proffesiynol yn 14 oed fel pianydd a hyfforddwr ar gyfer cynhyrchiad blynyddol Seattle Opera o Der Ring des Nibelungen Wagner ac yn ddiweddarach mynychodd Ysgol Gerdd Eastman yn Rochester, Efrog Newydd.

John Gilhooly Rheithgor Gwobr Cân BBC Canwr y Byd Caerdydd Yn enedigol o Iwerddon, daeth John Gilhooly yn Gyfarwyddwr Artistig a Gweithredol Neuadd Wigmore, Llundain yn 32 oed ar ddechrau 2005, gan olygu mai ef oedd yr arweinydd ieuengaf ar un o neuaddau cyngerdd mawr y byd. Bu’n Gyfarwyddwr Gweithredol Neuadd Wigmore es mis Ionawr 2001, a rhoddir clod iddo am oruchwylio gweddnewidiad y Neuadd yn artistig, yn ariannol ac yn weinyddol dros y pedair blynedd ar ddeg diwethaf. Ef a sefydlodd y label recordiau Wigmore Hall Live, sydd ag enw da iawn iddo, ac a enwyd yn label recordiau’r flwyddyn gan The Gramophone yn 2011.

Yng Ngorffennaf 2010, penodwyd John Gilhooly yn Gadeirydd y Royal Philharmonic Society, ac arweiniodd ddathliadau dau can mlwyddiant y gymdeithas gydol 2013. Derbyniodd Gymrodoriaeth Er Anrhydedd gan yr Academi Gerdd Frenhinol (2006), Aelodaeth er Anrhydedd o’r Coleg Cerdd Brenhinol (2012) ac yn 2013 dyfarnwyd OBE iddo gan y Frenhines Elizabeth II, am ei wasanaeth i gerddoriaeth.

Tenor yw John a bu’n astudio’r llais yng Ngholeg Cerdd Dinas Dulyn ac Ysgol Gerdd Leinster. Bydd yn ymddangos yn rheolaidd yn rhestr yr Evening Standard o'r bobl mwyaf dylanwadol yn Llundain.

Claron McFadden Y ddau reithgor Soprano o’r Unol Daleithiau yw Claron McFadden sy’n nodedig yn arbennig am ei dehongliadau o operâu modern a chyfoes, ond sydd hefyd yn arbenigo ar rolau cynnar a baróc. Mae ei rhannau mewn operâu yn cynnwys y brif rôl yn Lulu ac Y Rheolwr yn Flight gan Jonathan Dove, y ddau yn Glyndebourne; Zerbinnetta Ariadne auf Naxos yn Opera Cenedlaethol yr Iseldiroedd; a llu o brosiectau ledled Ewrop, gan gynnwys Dido and Aeneas a Les Indes galantes.

Caiff ei chysylltu’n benodol â cherddoriaeth Wolfgang Rihm a Harrison Birtwistle. Bu’n perfformio yn y perfformiad cyntaf erioed o The Woman and the Hare Birtwistle, ac mae hefyd wedi ei recordio. Cydweithiodd Claron sawl gwaith â Jörg Widmann gan gynnwys Babylon gyda’r Bayerische Staatsoper.

Yr oedd ei hymddangosiadau diweddar yn cynnwys Sunken Garden gan Michel van der Aa yng Ngŵyl yr Iseldiroedd 2014, gydag Opera Cenedlaethol Lloegr a’r Opéra de Lyon (March 2015). Bu Claron yn canu yn seremoni coroni Brenin yr Iseldiroedd, y Brenin Willem Alexander. Mae ei pherfformiadau i’r dyfodol yn cynnwys Semele gyda’r Residentie Orchestra, cyngherddau gyda’r Minquet Quartet, Stuttgarter Kammer Orchester a Cherddorfa Siambr Iwerddon.

Mae ei recordiadau yn cynnwys Paul Celan Songs gan Birtwistle, Orfeo Haydn a Paride ed Elena gan Gluck, ac fel Aspasia yn Alexander Balus Handel Mae ei hymddangosiadau ar y teledu yn cynnwys My Night with Handel ar Channel 4.

Gwnaeth Claron ei hymddangosiad cyntaf fel perfformiwr theatr gyda’i monodrama Lilith a berfformiwyd am y tro cyntaf yng Ngŵyl yr Iseldiroedd 2012.

Yn 2007 dyfarnwyd Gwobr Gelfyddydau Amsterdam i Claron McFadden.

Soile Isokoski Y ddau reithgor Ymwelodd Soile Isokoski gyntaf â Chymru fel cystadleuydd yn cynrychioli’r Ffindir yn 1987, pryd y llwyddodd i gyrraedd y rownd olaf hynod gyffrous a chystadleuol. Aeth ymlaen i ddod yn un o sopranos enwocaf ei chenhedlaeth, gan ennill medal Pro-Finlandia yn 2002 i gydnabod ei chyfraniad i gerddoriaeth y Ffindir.

Mae’n wyneb adnabyddus ar lwyfannau opera a chyngherddau rhyngwladol, ac wedi gweithio gydag arweinyddion yn cynnwys Philippe Herreweghe, Jukka-Pekka Saraste, Seiji Ozawa, John Eliot Gardiner, Sir Colin Davis, Zubin Mehta, Daniel Barenboim, Syr Simon Rattle, Bernard Haitink, Claudio Abbado, Riccardo Muti, Valery Gergiev, Pierre Boulez a James Levine, yn ogystal â rhoi sawl datganiad. Mae ei chatalog o recordiau yn cynnwys Four Last Songs Strauss dan Marek Janowski a dwy CD Sibelius; Kullervo gyda (Diapason d’Or 2008) a Luonnotar ac Orchestral Songs (gwobr glasurol MIDEM, Gwobr Lleisiol BBC Music Magazine a Disg y Flwyddyn 2007). Dyfarnwyd Medal Sibelius iddi yn 2007 ac fe’i hanrhydeddwyd â’r teitl Kammersängerin Awstria yn 2008.

Mae ei huchafbwyntiau diweddar yn cynnwys Marschallin Der Rosenkavalier yn Llundain a Genefa, Donna Elvira Don Giovanni yn Los Angeles a Fiena, Desdemona Otello yn y Wiener Staatsoper ac yn Berlin, Elsa Lohengrin yn Los Angeles a’r Semperoper Dresden ac Ariadne Ariadne auf Naxos yng Ngŵyl Glyndebourne.

Julius Drake Rheithgor Gwobr Cân BBC Canwr y Byd Caerdydd Mae’r pianydd Julius Drake yn byw yn Llundain, ac mae’n arbenigo ym maes cerddoriaeth siambr, yn gweithio gyda nifer o brif artistiaid y byd, ar ddatganiadau ac ar ddisg.

Mae ei lu o recordiadau yn cynnwys datganiadau ar gyfer label Wigmore Live, gyda Lorraine Hunt Liebersen, Matthew Polenzani, , Joyce DiDonato ac Alice Coote, yn ogystal â recordiadau a enillodd wobrau gydag Ian Bostridge ar gyfer EMI, Christianne Stotijn ar gyfer Onyx a chyfres a gafodd ganmoliaeth eang gyda Gerald Finley ar gyfer Hyperion, a enillodd iddynt Wobrau Gramophone 2007, 2009 a 2011. Mae Julius yn awr yn gweithio ar brosiect mawr sef recordio holl ganeuon Franz Liszt ar gyfer Hyperion: bu i’r ail ddisg yn y gyfres, gydag Angelika Kirchschlager, ennill Gwobr BBC Music Magazine 2012.

Mae Julius Drake yn athro ymroddedig ac mae’n cael ei wahodd yn rheolaidd i gyflwyno dosbarthiadau meistr - yn Aldeburgh, Basle, Toronto, Utrecht, ac yn Sefydliad Schubert yn Baden bei Wien y tymor hwn. Mae’n Athro ym Mhrifysgol Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio Graz yn Awstria, lle mae ganddo ddosbarth ar gyfer pianyddion caneuon.

Mae uchafbwyntiau yn y tymor i ddod yn cynnwys teithiau yn yr Unol Daleithiau gyda Matthew Polenzani; yn Japan a Chorea gyda Anne Sophie von Ottr a Camilla Tilling, a chyfres Schumann bedair rhan yn y Concertgebouw yn Amsterdam.

Dennis O'Neill Rheithgor BBC Canwr y Byd Caerdydd Mae Dennis O’Neill wedi ymddangos gyda holl brif gwmnïau'r byd, gan arbenigo yng ngwaith Verdi. Yn 2005 dyfarnwyd iddo Fedal Verdi gan yr Amici di Verdi fel cydnabyddiaeth o’i waith yn y maes hwnnw.

Yn ystod ei berthynas hirfaith â’r Tŷ Opera Brenhinol, mae wedi ymddangos mewn dros 200 o berfformiadau yn y rolau mawr i’r tenor gan Verdi. Yng Ngogledd America mae ei lu o ymddangosiadau wedi cynnwys y Metropolitan Opera, San Francisco Opera a'r Lyric Opera, Chicago.

Aeth ei yrfa helaeth ar gyfandir Ewrop ag ef i Munich, Fiena, Paris, Berlin, Ferona, Rhufain, Lisbon, Florence, Bologna, Barcelona a Milan.

Fe’i penodwyd yn Gomander yr Ymerodraeth Brydeinig am wasanaethau i opera, ac fe’i cydnabyddwyd hefyd gydag Aelodaeth Anrhydeddus yr Academi Gerdd Frenhinol ac Urdd Sant Ioan.

Mae’n rhoi dosbarthiadau meistr ledled byd, gan deithio y tymor hwn i’r Iseldiroedd, Awstralia, Seland Newydd, Rwsia, Japan a’r Eidal. Mae’n athro gwadd mewn sawl sefydliad, gan gynnwys yr Academi Gerdd Frenhinol a’r Rhaglen Artistiaid Ifanc yn Covent Garden, a bydd Dennis yn gweithredu'n aml fel beirniad mewn cystadlaethau rhyngwladol.

Ganwyd Dennis O’Neill ym Mhontarddulais ac mae’n byw yng Nghaerdydd. Ef yw Sefydlydd a Chyfarwyddwr Academi Llais Rhyngwladol Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.