20 O Sêr Opera Ifanc Rhyngwladol Wedi'u Henwi Ar Gyfer Bbc Canwr Y Byd

20 O Sêr Opera Ifanc Rhyngwladol Wedi'u Henwi Ar Gyfer Bbc Canwr Y Byd

20 O SÊR OPERA IFANC RHYNGWLADOL WEDI’U HENWI AR GYFER BBC CANWR Y BYD CAERDYDD 2015 Bydd ugain o gantorion opera mwyaf addawol y byd yn cystadlu yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd eleni. Cyhoeddwyd enwau a gwledydd yr 20 canwr llwyddiannus – a ddewiswyd o blith bron i 350 o ymgeiswyr – heddiw. Mae BBC Canwr y Byd Caerdydd yn rhan greiddiol o Dymor Lleisiau Clasurol Blwyddyn Canu a Dawnsio'r BBC, ac yn cael ei darlledu’n estynedig ar BBC Four a BBC Radio 3, yn ogystal â BBC Two Wales, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru, S4C ac ar-lein ar bbc.couk/canwrybyd. Bydd llygaid y byd ar brifddinas Cymru ar gyfer y digwyddiad, sydd yn ei 32ain flwyddyn erbyn hyn, gyda David Jackson yn arwain BBC Canwr y Byd Caerdydd fel Cyfarwyddwr Artistig y gystadleuaeth am y tro cyntaf. Mae’r Fonesig Kiri Te Kanawa yn cefnogi'r gystadleuaeth wyth diwrnod, sy'n ddigwyddiad sy’n adnabyddus ym myd cerddoriaeth glasurol fel y prif lwyfan i gantorion opera a chantorion cyngerdd ar ddechrau eu gyrfa. Dywedodd David Jackson: “Ry’n ni wedi chwilio’r byd er mwyn dod o hyd i’r cnwd ardderchog yma o dalent ar gyfer BBC Canwr y Byd Caerdydd 2015, ac heddiw o’r diwedd gallem gyoeddi’r 20 sydd wedi cyrraedd y brig. Mi roedd y safon yn aruthrol o uchel. Cafodd yr 20 yma eu dewis o bron i 350 o ymgeisydd, oedd i gyd yn gantorion gwych – ac mae pob un ohonynt yn haeddu dyfodol disglair. I bob canwr, cyfeilydd a lleoliad sydd wedi ein helpu wrth i ni chwilio – diolch o galon. “Mae ein 20 terfynol yn amrywiaeth gyffrous o fathau o leisiau, a chasgliad rhyfeddol o dalent. Maen nhw’n dod o bob cwr o’r byd, gyda chefndiroedd a phrofiad eithriadol amrywiol. Mae wedi bod yn fraint bod yn rhan o’r digwyddiad gwych yma, yn ei 32ain flwyddyn, a hefyd eleni fel rhan o Flwyddyn Canu a Dawnsio’r BBC.” Mewn clyweliadau a gynhaliwyd mewn dinasoedd ym mhob cwr o’r byd, o Filan i Helsinki ac o Efrog Newydd i Doronto, mae 20 o gantorion wedi cael eu dewis, o 55 o wledydd, am le yn y gystadleuaeth – gan gynnwys cynrychiolwyr o Fongolia a Malta, dwy wlad newydd i’r gystadleuaeth. Cystadlodd bron i 350 o gantorion opera a chyngerdd yn y gystadleuaeth ac i’r 20 sydd wedi cael eu dewis, bydd cael eu gweld gan gynulleidfaoedd eang, yng Nghaerdydd ac ar deledu, radio a gwasanaethau ar-lein y BBC, yn hwb unigryw i’w gyrfaoedd. Teithiodd triawd newydd o feirniaid arbenigol i wyth dinas i ddarganfod y cystadleuwyr. Ymunodd Pennaeth Opera Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, Angela Livingstone, â'r cyfarwyddwr castio, Isabel Murphy o Opera Cenedlaethol Cymru, a’r cynhyrchydd Jeremy Caulton, wrth iddynt ddewis y cantorion ar gyfer y rowndiau nesaf. Dywedodd Jeremy Caulton: “Mae gwrando ar ganwr ifanc addawol am y tro cyntaf bob amser yn brofiad cyffrous. Ac yn fwy felly, wedyn, wrth wrando ar fwy na deugain ohonyn nhw o bob cwr o’r byd a llunio rhestr fer ar gyfer cystadleuaeth Caerdydd 2015. “Tua diwedd y llynedd, teithiodd y panel clyweld i saith gwlad i wrando ar y cantorion hyn, ond dydi hynny ddim yn adlewyrchu’r amrywiaeth o gantorion o gymaint o wahanol wledydd welson ni. Ar wahân i wledydd y DU, fe fuom yn gwrando ar gantorion o’r Eidal, yr Almaen, Iwerddon, Ffrainc, y Swistir, Sbaen, Sweden, Norwy, y Ffindir, Armenia, Malta, Gwlad Pwyl. Twrci, yr Wcráin, Belarws, Rwsia, yr Unol Daleithiau, Canada, Guatemala, De Affrica, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Tsieina, De Korea a Mongolia! Ac mae’r ugain unigolyn a ddewiswyd yn y diwedd yn cynrychioli dim llai na 15 o’r gwledydd hyn. “Felly sut roedd mynd ati i ddewis y rhai yn y rownd derfynol? Wrth gwrs, mae gan yr holl gantorion wnaethon ni deithio i wrando arnyn nhw leisiau gwych a thechnegau effeithlon, ac mae hynny ynddo’i hun yn basbort iddyn nhw at yrfa mewn cerddoriaeth. Ond roedden ni’n chwilio am rywbeth ychwanegol hefyd, sef y peth anodd ei ddirnad hwnnw sy’n gwneud i rywun eistedd i fyny ac yn hoelio ei holl sylw mewn ffordd wahanol. Mae llawer o nodweddion ac elfennau technegol bychain yn cyfuno i greu’r ‘gwahaniaeth’ yma, ond dim ots pa mor galed wnewch chi ymdrechu, mae bron yn amhosib dod o hyd i un gair neu ymadrodd i wneud cyfiawnder ag ef. Mae ‘carisma’ yn ddefnyddiol efallai, ond dim ond rhan o’r stori yw hwn hefyd. Felly, mae’n anodd iawn disgrifio beth yn union yw hyn, ond mae’n mynd syth i’r galon ac, wrth lwc, nid yw’n rhywbeth anodd ei adnabod.” Yn cyfeilio i’r cantorion, a fydd yn perfformio eu rhaglenni eu hunain o waith opera a chyngerdd yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd rhwng nos Sul 14 Mehefin a nos Sul 21 Mehefin 2015, bydd Cerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC o dan arweiniad eu Prif Arweinydd, Thomas Søndergård, a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru o dan arweiniad Martyn Brabbins. Bydd panel anrhydeddus yn barnu’r brif wobr: Cadeirydd, David Pountney, John Fiore, Soile Isokoski, Claron McFadden a Dennis O’Neill. Sefydlwyd BBC Canwr y Byd Caerdydd yn 1983 gan BBC Wales ac fe’i cynlluniwyd yn wreiddiol i ddod o hyd i sêr canu clasurol y dyfodol. Yr uchelgais yw rhoi’r cyfle euraid hwnnw y mae pob artist ei angen i lansio ei yrfa at lwyddiant. Ymhlith enillwyr y gorffennol mae’r enillydd cyntaf un Karita Mattila, Dmitri Hvorostovsky, Anja Harteros ac enillydd 2013 Jamie Barton. Dywedodd Jamie: “Alla’ i ddim dechrau disgrifio’r teimlad a gefais wrth ennill Gwobr y Gân a Gwobr Canwr y Byd Caerdydd. Meddyliais am y gân When you wish upon a star! Diolch am y don o anogaeth a chyffro a gynhyrchwyd ar fy rhan. Bydd enillydd y brif wobr yn derbyn £15,000 a Thlws Caerdydd, a bydd enillydd Gwobr y Gân, a ddyfernir i ganwr gorau’r Lieder a’r gân gelf, yn cael gwobr o £5,000 a thlws. Cynhelir rowndiau Gwobr y Gân yn neuadd gyngerdd fodern iawn Dora Stoutzker yn Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, gyda’r holl gantorion yn gymwys i gymryd rhan. Yn ymuno â’r cadeirydd, David Pountney, Solie Isokoski a Claron McFadden ar y rheithgor bydd Julius Drake a John Gilhooly. Mae cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd yn cael ei threfnu gan BBC Cymru ar y cyd ag Opera Cenedlaethol Cymru, ac yn cael cefnogaeth gan Gyngor Dinas a Sir Caerdydd. Mae ffurflen archebu tocynnau i’w lawrlwytho, a manylion BBC Canwr y Byd Caerdydd, ar gael yn bbc.co.uk/canwrybyd. DIWEDD Cyhoeddwyd gan Adran Cyfathrebu BBC Cymru Wales I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Sioned Gwyn 029 2032 2541 / [email protected] Mae lluniau o’r 20 canwr ac aelodau’r rheithgor ar gael ar gais. Nodiadau i Olygyddion Dyma’r ymgeiswyr llwyddiannus a fydd yn cystadlu yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd rhwng nos Sul 14 a nos Sul 21 Mehefin 2015: Gwlad Enw Llais Oedran Belarws Marina Pinchuk Mezzo-soprano 32 Belarws Nadine Koutcher Soprano 32 Canada Aviva Fortunata Soprano 27 Cymru Céline Forrest Soprano 24 De Affrica Kelebogile Besong Soprano 28 De Korea Insu Hwang Bas-bariton 32 De Korea Jaeyoon Jung Tenor 31 De Korea Jongmin Park Baswr 28 Ffrainc Anaïs Constans Soprano 26 Malta Nico Darmanin Tenor 30 Mongolia Amartuvshin Enkhbat Bariton 29 Norwy Ingeborg Gillebo Mezzo-soprano 32 Twrci Ilker Aracayürek Tenor 30 UDA J’nai Bridges Mezzo-soprano 28 UDA Lauren Michelle Soprano 32 UDA Ryan Speedo Green Bas-bariton 29 Yr Almaen Sebastian Pilgrim Baswr 30 Yr Eidal Roberto Lorenzi Bas-Bariton 25 Y Swistir Regula Mühlemann Soprano 29 Yr Wcráin Oleksiy Palchykov Tenor 29 Mae lluniau ar gael ar gais. Mae lluniau o Jamie Barton, enillydd BBC Canwr y Byd Caerdydd 2013, ar gael ar gais. Y gwobrau Bydd enillydd BBC Canwr y Byd Caerdydd yn cael £15,000; ac enillydd Gwobr y Gân yn cael £5,000. Bydd y ddau’n derbyn tlws hefyd. Cantorion Cynhaliwyd clyweliadau ar gyfer y cantorion mewn 8 lleoliad:- Helsinki, Llundain, Milan, Efrog Newydd, Paris, Toronto, Vienna a Zurich. Manylion darlledu Bydd y gystadleuaeth yn cael ei darlledu ar BBC Four, BBC Two Wales, BBC Radio 3, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, S4C ac ar-lein yn bbc.co.uk/canwrybyd Y Noddwyr – o’r gorffennol a'r presennol Daeth y Fonesig Kiri Te Kanawa yn ail Noddwr y gystadleuaeth yn dilyn y diweddar Fonesig Joan Sutherland. Mae'r Fonesig Kiri yn chwarae rhan flaenllaw yn y gystadleuaeth ac mae’n credu’n angerddol mewn meithrin talent canu ifanc. Blwyddyn Canu a Dawnsio’r BBC Blwyddyn Canu a Dawnsio’r BBC yw ymrwymiad mwyaf erioed y BBC i’r celfyddydau, gyda chyfoeth o raglenni teledu a radio’n edrych ar rym rhyfeddol canu a dawnsio ar draws sbectrwm llawn o gyfnodau ac arddulliau. CANTORION Twrci - Ilker Arcayürek Tenor 30 Oed Ganwyd Ilker Arcayürek yn Istanbul ac fe’i magwyd yn Vienna. Yn 2010 - 2013 roedd yn aelod o Stiwdio Opera Ryngwladol Opera Zürich ble'r ymddangosodd am y tro cyntaf fel Ferrando Così fan tutte ar brif lwyfan Tŷ Opera Zürich yn 2013. Mae'r gwobrau y mae wedi'u hennill yn cynnwys y drydedd wobr yng nghystadleuaeth Hugo Wolf 2012. Mae wedi perfformio ar hyd a lled Y Swistir, yn cynnwys perfformio prif ran Orlando Paladino yn Tonhalle Zürich ac yn KKL yn Lucerne ac fel Don Basilio Le nozze di Figaro yng Ngŵyl Verbier.

View Full Text

Details

  • File Type
    pdf
  • Upload Time
    -
  • Content Languages
    English
  • Upload User
    Anonymous/Not logged-in
  • File Pages
    15 Page
  • File Size
    -

Download

Channel Download Status
Express Download Enable

Copyright

We respect the copyrights and intellectual property rights of all users. All uploaded documents are either original works of the uploader or authorized works of the rightful owners.

  • Not to be reproduced or distributed without explicit permission.
  • Not used for commercial purposes outside of approved use cases.
  • Not used to infringe on the rights of the original creators.
  • If you believe any content infringes your copyright, please contact us immediately.

Support

For help with questions, suggestions, or problems, please contact us