COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL ADRODDIAD A CHYNIGION BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL AR GYFER BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF ADRODDIAD A CHYNIGION 1. CYFLWYNIAD 2. CRYNODEB O’R CYNIGION 3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG 4. CYNIGION DRAFFT 5. CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT 6. ASESIAD 7. CYNIGION 8. CYDNABYDDIAETHAU 9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN ATODIAD 1 RHESTR TERMAU ATODIAD 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR ATODIAD 3 AELODAETH ARFAETHEDIG Y CYNGOR ATODIAD 4 CYFARWYDDYD Y GWEINIDOG A LLYTHYR YCHWANEGOL ATODIAD 5 CRYNODEB O GYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru Tŷ Caradog 1-6 Plas Sant Andreas CAERDYDD CF10 3BE Rhif Ffôn: (029) 2039 5031 Rhif Ffacs: (029) 2039 5250 E-bost:
[email protected] www.cflll-cymru.gov.uk RHAGAIR Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys ein Cynigion Terfynol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Ym mis Ionawr 2009, gofynnodd y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Dr Brian Gibbons i’r Comisiwn adolygu’r trefniadau etholiadol ym mhob prif awdurdod lleol yng Nghymru. Dywedodd Dr Gibbons: “Mae cynnal arolygon o’r trefniadau etholiadol ym mhob un o Gynghorau Cymru yn rhan o gylch gwaith y Comisiwn. Y nod yw ceisio sicrhau cysondeb o ran nifer y cynghorwyr o’i gymharu â maint y boblogaeth. Nid yw’n ymwneud â llywodraeth leol yn cael ei had- drefnu. Ers cynnal yr arolygon diwethaf, mae cymunedau newydd wedi cael eu creu mewn rhai ardaloedd ac mae’r boblogaeth wedi symud mewn mannau eraill.