COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL ADRODDIAD A CHYNIGION

BWRDEISTREF SIROL CYNON TAF

COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU

AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL AR GYFER BWRDEISTREF SIROL

ADRODDIAD A CHYNIGION

1. CYFLWYNIAD

2. CRYNODEB O’R CYNIGION

3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG

4. CYNIGION DRAFFT

5. CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

6. ASESIAD

7. CYNIGION

8. CYDNABYDDIAETHAU

9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

ATODIAD 1 RHESTR TERMAU ATODIAD 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR ATODIAD 3 AELODAETH ARFAETHEDIG Y CYNGOR ATODIAD 4 CYFARWYDDYD Y GWEINIDOG A LLYTHYR YCHWANEGOL ATODIAD 5 CRYNODEB O GYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru Tŷ Caradog 1-6 Plas Sant Andreas CAERDYDD CF10 3BE Rhif Ffôn: (029) 2039 5031 Rhif Ffacs: (029) 2039 5250 E-bost: [email protected] www.cflll-cymru.gov.uk

RHAGAIR

Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys ein Cynigion Terfynol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Ym mis Ionawr 2009, gofynnodd y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Dr Brian Gibbons i’r Comisiwn adolygu’r trefniadau etholiadol ym mhob prif awdurdod lleol yng Nghymru. Dywedodd Dr Gibbons: “Mae cynnal arolygon o’r trefniadau etholiadol ym mhob un o Gynghorau Cymru yn rhan o gylch gwaith y Comisiwn. Y nod yw ceisio sicrhau cysondeb o ran nifer y cynghorwyr o’i gymharu â maint y boblogaeth. Nid yw’n ymwneud â llywodraeth leol yn cael ei had- drefnu. Ers cynnal yr arolygon diwethaf, mae cymunedau newydd wedi cael eu creu mewn rhai ardaloedd ac mae’r boblogaeth wedi symud mewn mannau eraill. O ganlyniad mae anghydbwysedd erbyn hyn mewn rhai ardaloedd o ran nifer yr etholwyr y mae cynghorwyr yn eu cynrychioli. Bydd y Comisiwn yn adolygu cyfanswm y cynghorwyr ym mhob cyngor; nifer y cynghorwyr sy’n cynrychioli pob adran etholiadol ac enw a ffin pob adran. Hyd y gellir, rwyf am wneud y drefn yn decach, er mwyn i gynghorwyr, at ei gilydd, gynrychioli’r un faint o bobl.” [13 Ionawr 2009].

Nodir y mater o degwch yn glir yn y ddeddfwriaeth ac mae wedi bod yn brif egwyddor ar gyfer ein gwaith. Nid yw’r sefyllfa sy’n bodoli d lle mae cynghorydd o un rhan o’r Fwrdeistref Sirol yn cynrychioli nifer fechan o etholwyr, tra gall cynghorydd arall gynrychioli llawer, llawer mwy, yn deg i etholwyr. Yn ymarferol, mae’n golygu bod gan rai ardaloedd fantais annheg dros eraill o ran penderfyniadau a wneir yn siambr y cyngor.

Nid hawdd yw unioni hyn o ystyried y cyfyngiadau y mae’n rhaid i'r Comisiwn gadw atynt wrth weithredu. Ni allwn symud llinellau ar y map yn unig; mae’n rhaid i ni gadw at y “sylfeini” presennol, sef Ardaloedd Cymunedol a Wardiau Cymunedol sy’n cwmpasu Cymru gyfan. Ambell waith, nid yw’r rhain yn adlewyrchu patrymau cyfredol bywyd cymunedol yng Nghymru ond, pan ddigwydd hyn, ni allwn dderbyn awgrymiadau sy’n torri ar draws y ffiniau hyn. Mae hyn yn rhwystredig i’r ymatebwyr a’r Comisiwn fel ei gilydd.

Mae'n ofynnol i ni edrych at y dyfodol hefyd ac rydym wedi gofyn i’r cyngor rhoi amcangyfrif i ni o nifer yr etholwyr ymhen 5 mlynedd. Ar y gorau, byddai hyn yn heriol ond, yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae’n arbennig o anodd.

Pan gyhoeddwyd rhai o’n hadroddiadau cynigion drafft cyntaf, bu rhywfaint o bryder ein bod yn symud i ffwrdd o’r egwyddor o gael un cynghorydd ar gyfer un adran etholiadol i awgrymu gwneud mwy o ddefnydd o adrannau aml-aelod. Mae’r Rheolau rydym yn gweithredu ynddynt yn rhagweld y bydd pob adran etholiadol yn cael ei chynrychioli gan un cynghorydd; gellir galw hwn y “safle rhagosodedig”. Fodd bynnag, gallwn symud o’r safle hwn am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys ein bod wedi gweld mai dyma’r ffordd orau i sicrhau bod etholwyr yn cael eu cynrychioli’n i’r un graddau.

Wrth baratoi’n cynigion, rydym wedi ceisio ystyried cysylltiadau lleol a’r rhai sydd am gadw’r ffiniau presennol. Rydym wedi ystyried yn ofalus bob cynrychiolaeth a dderbyniwyd

- 1 -

gennym. Fodd bynnag, bu’n rhaid pwyso a mesur y materion a’r cynrychiolaethau hyn yn erbyn yr holl ffactorau eraill y mae’n rhaid i ni eu hystyried a’r cyfyngiadau a nodir uchod. Yn benodol, y gofyniad am gydraddoldeb etholiadol, hynny yw tegwch democrataidd i bob etholwr, yw’r prif ffactor cyfreithiol a dyma’r hyn rydym wedi ceisio ei wneud. Credwn y bydd mwy o degwch, ynghyd â chynigion eraill yn ein hadroddiad, yn arwain at lywodraeth leol sy’n effeithiol a chyfleus.

Wrth gloi, hoffwn ddiolch i Aelodau a swyddogion y Prif awdurdod am eu cymorth gyda’n gwaith, y cynghorau cymuned a thref am eu cyfraniad, ac yn olaf ond yn bwysicaf oll, y dinasyddion a gymerodd yr amser ac a aeth i’r drafferth i wneud sylwadau ac awgrymiadau.

Paul Wood Cadeirydd

- 2 -

Mr Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru

AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL AR GYFER BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF

ADRODDIAD A CHYNIGION

1. CYFLWYNIAD

1.1 Yn unol â chyfarwyddyd y Gweinidog a gyhoeddwyd ar 13 Ionawr 2009, yr ydym ni, Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn), wedi cwblhau'r arolwg o drefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac yn cyflwyno’n Cynigion Terfynol ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol. Ceir rhestr termau a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn yn Atodiad 1. Yn 2009 roedd gan Fwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf etholaeth o 172,820. Ar hyn o bryd, mae wedi’i rhannu’n 52 adran sy’n ethol 75 o gynghorwyr. Y gymhareb gyfartalog bresennol o aelodau i etholwyr yn y Fwrdeistref Sirol yw 1:2,304. Nodir y trefniadau etholiadol presennol yn Atodiad 2.

2. CRYNODEB O’R CYNIGION

2.1 Rydym yn cynnig peidio â gwneud unrhyw newid i faint y cyngor o 75 o aelodau etholedig, ond cynigiwn newid i’r trefniant adrannau etholiadol a fydd yn gwella’n sylweddol lefel y cydraddoldeb etholiadol ar draws Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG

3.1 Yn unol ag Adran 57 Deddf Llywodraeth Leol 1972 (Deddf 1972) mae’n ddyletswydd ar y Comisiwn, ar gyfnodau nad ydynt yn llai na deng mlynedd a heb fod yn fwy na phymtheg mlynedd, i adolygu’r trefniadau etholiadol ar gyfer yr holl brif ardaloedd yng Nghymru at ddibenion ystyried a ddylid gwneud argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru i newid y trefniadau etholiadol hynny ai peidio.

3.2 Derbyniodd y Comisiwn gyfarwyddyd gan Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno adroddiad ar yr arolwg o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf erbyn 30 Mehefin 2011.

Trefniadau Etholiadol

3.3 Diffinnir “trefniadau etholiadol” prif ardal yn adran 78 y Ddeddf fel:

i) cyfanswm y cynghorwyr i’w hethol i’r cyngor;

- 3 -

ii) nifer yr adrannau etholiadol a’u ffiniau;

iii) nifer y cynghorwyr i’w hethol ar gyfer pob adran etholiadol; ac

iv) enw unrhyw adran etholiadol.

Rheolau i Gydymffurfio â Hwy wrth Ystyried Trefniadau Etholiadol

3.4 Yn unol ag Adran 78, cyn belled ag y bo’n ymarferol resymol gwneud hynny, mae’n ofynnol i ni gydymffurfio â’r rheolau a nodir yn Atodlen 11 i’r Ddeddf. Mae’n ofynnol, yn unol â’r rhain, i’r Comisiwn drefnu bod un aelod ar gyfer pob adran etholiadol. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gall Llywodraeth Cynulliad Cymru roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn ystyried dymunoldeb darparu ar gyfer adrannau etholiadol aml-aelod ar gyfer y cyfan o’r brif ardal neu rannau ohoni.

3.5 Yn ôl y rheolau, mae’n ofynnol hefyd:

Ystyried unrhyw newid yn nifer neu ddosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal sy’n debygol o ddigwydd yn ystod y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl ystyried y trefniadau etholiadol:

i) yn ddarostyngedig i baragraff (ii), bydd nifer yr etholwyr llywodraeth leol yr un peth neu mor agos â phosibl, ym mhob adran etholiadol yn y brif ardal;

ii) lle bo un neu fwy o adrannau aml-aelod, bydd y gymhareb o ran nifer yr etholwyr llywodraeth leol i nifer y cynghorwyr i’w hethol yr un peth neu mor agos â phosibl ym mhob adran etholiadol yn y brif ardal (gan gynnwys unrhyw adran nad yw’n un aml-aelod);

iii) bydd pob ward gymunedol sydd â chyngor cymuned (naill ai ar wahân neu’n gyffredin) yn gorwedd yn gyfan gwbl y tu mewn i adran etholiadol yn unig; a

iv) bydd unrhyw gymuned na rennir yn wardiau cymunedol yn gorwedd yn gyfan gwbl y tu mewn i adran etholiadol unigol.

Wrth ystyried y trefniadau etholiadol, rhaid i ni ystyried (a) dymunoldeb pennu ffiniau sydd ac a fydd yn hawdd eu hadnabod; a (b) unrhyw gysylltiadau lleol a dorrir wrth lunio unrhyw ffin benodol.

Cyfarwyddiadau’r Gweinidog

3.6 Derbyniodd y Comisiwn gyfarwyddyd gan y Gweinidog y dylai ystyried dymunoldeb adrannau etholiadol aml-aelod ym mhob cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.

3.7 Derbyniodd y Comisiwn y cyfarwyddiadau canlynol gan y Gweinidog hefyd o ran cynnal yr arolwg:

- 4 -

(a) ystyrir bod angen lleiafswm o 30 cynghorydd er mwyn rheoli materion cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn briodol;

(b) er mwyn lleihau’r risg o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn mynd yn afrosgo ac yn anodd ei reoli, fel arfer mae angen uchafswm o 75 cynghorydd i reoli materion cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn briodol;

(c) ystyrir mai cael adrannau etholiadol lle nad yw’r gymhareb rhwng cynghorydd ac etholwyr yn is nag 1:1,750 y dylai’r nod fod;

(ch) ystyrir na ddylid gwneud penderfyniadau i newid y drefn bresennol o adrannau etholiadol un aelod ac aml-aelod ac eithrio lle bo cynigion o’r fath ar gyfer newid yn cael eu cefnogi’n gyffredinol gan yr etholaeth cyn belled ag y gellir cael eu barn o ran cyflawni’r gofynion ymgynghori a nodir yn Adran 60 o’r Ddeddf; ac

(d) ystyrir bod y Comisiwn, wrth gynnal arolygon yn unol â Rhan 4 o’r Ddeddf, yn cydymffurfio â pharagraff 1A o Atodlen 11 o’r Ddeddf, hynny yw, y Rheolau.

Ceir holl destun y Cyfarwyddiadau yn Atodiad 4. Cadarnhawyd y Cyfarwyddiadau ymhellach mewn llythyr gan y Gweinidog ar 12 Mai 2009. Mae copi o’r llythyr hwn yn dilyn y Cyfarwyddiadau yn Atodiad 4.

Newidiadau i Lywodraeth Leol

3.8 Ers yr arolwg diwethaf bu dau newid i ffiniau llywodraeth leol yn Rhondda Cynon Taf:

• S.I. 2002 Rhif 654 (W.70) Gorchymyn Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg (Llanhari, Pont-y-clun, Penllyn, Llanddunwyd a Phendeulwyn) 2002 ac mae’r newid hwnnw i’r ffin eisoes wedi’i adlewyrchu yn yr adrannau etholiadol dan sylw; ac • S.I. 2008 Rhif 3152 (W.280) Gorchymyn Rhondda Cynon Taf (Cymunedau Llanharan, Llanhari, Llantrisant a Phont-y-clun) 2008 a bod newidiadau i’r ffin eisoes wedi’u hadlewyrchu yn yr adrannau etholiadol dan sylw.

3.9 Gwnaeth y rhain newidiadau priodol i’r canlynol: • Y rhan o Rondda, Cynon, Taf sydd yng nghymuned Llanhari yn ardal Brynderwen a Two Hoots i’w gwahanu oddi wrth y fwrdeistref sirol a’r gymuned honno i ffurfio rhan o gymuned Penllyn ym Mro Morgannwg.

• Rhan o Gymuned Llanharan wedi’i throsglwyddo i Gymuned Pont-y-clun gan ffurfio rhan o ward Cefnyrhendy yng Nghymuned Pont-y-clun hefyd yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pont-y-clun.

• Rhan o Gymuned Llantrisant wedi’i throsglwyddo i Gymuned Pont-y-clun gan ffurfio rhan o ward Cefnyrhendy yng Nghymuned Pont-y-clun hefyd yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pont-y-clun.

- 5 -

• Rhan o Gymuned Llanhari wedi’i throsglwyddo i Gymuned Pont-y-clun gan ffurfio rhan o ward Maes-y-felin yng Nghymuned Pont-y-clun hefyd yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pont-y-clun.

• Rhan o Gymuned Pont-y-clun wedi’i throsglwyddo i Gymuned Llanhari gan ffurfio rhan o ward Llanhari yng Nghymuned Llanhari hefyd yn ffurfio rhan o adran etholiadol Llanhari. Byddwn yn ystyried y newidiadau hyn yn ein hystyriaeth o’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Rhondda Cynon Taf.

Gweithdrefn

3.10 Mae Adran 60 Deddf 1972 yn nodi canllawiau gweithdrefnol i’w dilyn wrth gynnal arolwg. Yn unol ag Adran 60 Deddf 1972, ar 6 Ebrill 2009, fe wnaethom ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yr holl gynghorau cymuned yn yr ardal, Aelod Seneddol yr etholaethau lleol, a phartïon eraill â buddiant i roi gwybod iddynt am ein bwriad i gynnal yr arolwg, i ofyn am eu barn gychwynnol ac i ddarparu copi o gyfarwyddiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r Comisiwn. Gwahoddwyd y Cyngor Bwrdeistref Sirol i gyflwyno cynllun neu gynlluniau awgrymedig ar gyfer y trefniadau etholiadol newydd. Rhoddwyd cyhoeddusrwydd hefyd i’n bwriad i gynnal yr arolwg mewn papurau newydd â chylchrediad yn y Fwrdeistref Sirol a gofynnwyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf arddangos nifer o hysbysiadau cyhoeddus yn eu hardal. Trefnwyd hefyd fod copïau o’n llyfryn arweiniad ar arolygon etholiadol ar gael. Yn ogystal, gwnaethom gyflwyniad i gynghorwyr Dinas a chynghorwyr Cymuned gan esbonio proses yr arolwg.

4. CYNIGION DRAFFT

4.1 Cyn llunio’n cynigion drafft derbyniasom gynrychiolaethau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf; dau gyngor tref a chymuned; dau gynghorydd; ac un sefydliad arall â buddiant. Ystyriwyd y cynrychiolaethau hyn a chrynhowyd hwy yn ein Cynigion Drafft a gyhoeddwyd ar 25 Ionawr 2010. Roedd y Cynigion Drafft hynny’n cynnig y dylai’r nifer o aelodau etholedig aros yr un fath, sef 75 aelod, gan gadw cymhareb sirol gyfartalog o 1:2,304. Mae’r canlynol yn grynodeb o’n Cynigion Drafft.

4.2 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom y trefniadau etholiadol ar gyfer adrannau etholiadol presennol Cilfynydd, Cwm Clydach, y Cymer, Gilfach Goch, Llanharan, Llanhari, Llanilltud Faerdref, Maerdy, Pentre, Penygraig, Penywaun, Tref Pontypridd, Porth, Treherbert, Treorci, Dwyrain Tonyrefail, Tonypandy, Ynyshir ac Ystrad, a lefel gynrychiolaeth yr etholwyr llywodraeth leol i nifer y cynghorwyr i’w hethol, a chynigiwyd bod y trefniadau presennol yn parhau.

. Gogledd Aberaman, De Aberaman a Chwmbach

4.3 Nid oes Cyngor Cymuned gan Gymuned Aberaman ac nid yw felly wedi’i rhannu’n wardiau cymunedol at ddibenion trefniadau etholiadol cyngor cymuned. O dan

- 6 -

drefniadau etholiadol presennol y Cyngor Bwrdeistref Sirol fodd bynnag, mae Cymuned Aberaman wedi’i rhannu ar sail hen wardiau Cynghorau Dosbarth a gafodd eu diddymu ym 1996. Mae un o’r rheolau y mae’n ofynnol i’r Comisiwn gydymffurfio â hi yn pennu gofyniad bod ‘pob cymuned na rennir yn wardiau cymunedol yn gorwedd yn gyfan gwbl y tu mewn i adran etholiadol unigol’. Gan nad yw Cymuned Aberaman wedi’i rhannu’n wardiau cymunedol yna mae’r sefyllfa bresennol, lle mae’r Gymuned wedi’i rhannu rhwng dwy adran etholiadol, yn anghyson. Fel rhan o’r arolwg hwn o drefniadau etholiadol, mae’n ofynnol i ni yn ôl y rheolau wneud cynigion a fydd yn unioni’r anghysondeb hwn.

4.4 Mae Cymuned Aberaman wedi’i rhannu’n ddwy adran etholiadol, sef Gogledd Aberaman a De Aberaman. Mae gan adran etholiadol bresennol Gogledd Aberaman 3,768 o etholwyr (rhagamcenir 3,664) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd. Mae hyn yn rhoi lefel gynrychiolaeth o 1,884 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 18% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae gan adran etholiadol bresennol De Aberaman 3,363 o etholwyr (rhagamcenir 3,269) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd. Mae hyn yn rhoi lefel gynrychiolaeth o 1,682 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 27% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Cwmbach yn cynnwys Cymuned Cwmbach, ac mae ganddi 3,189 o etholwyr (rhagamcenir 3,099) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 3,189 o etholwyr fesul cynghorydd, 38% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Ystyriasom y byddai’n ddymunol aildrefnu’r cyfuniad o gymunedau sy’n llunio’r adrannau etholiadol yn yr ardal hon er mwyn gwella cydraddoldeb etholiadol ac i ddileu’r anghysondeb y sonnir amdano uchod.

4.5 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriwyd cyfuno Cymunedau cyffiniol Aberaman a Chwmbach i ffurfio adran etholiadol â chyfanswm o 10,320 o etholwyr (rhagamcenir 10,032) yn cael ei chynrychioli gan 4 cynghorydd, gan arwain at lefel gynrychiolaeth o 2,580 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 12% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Arweiniodd y cyfuno at ostyngiad o 1 cynghorydd yn cynrychioli’r ardal, ond roeddem o’r farn y byddai’n gwella’r cydraddoldeb etholiadol. Rhoesom yr enw gweithredol Aberaman i’r adran etholiadol arfaethedig.

Abercynon ac Ynysybwl

4.6 Mae adran etholiadol bresennol Abercynon yn cynnwys Cymuned Abercynon ac mae ganddi 4,510 o etholwyr (rhagamcenir 4,226) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd. Mae hyn yn rhoi lefel gynrychiolaeth o 1:2,255 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 2% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Ynysybwl yn cynnwys Cymuned Ynysybwl a Choed-y-Cwm, ac mae ganddi 3,567 o etholwyr (rhagamcenir 3,367) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 3,567 o etholwyr fesul cynghorydd, 55% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Ystyriasom y byddai’n ddymunol aildrefnu’r cyfuniad o gymunedau sy’n llunio’r adrannau etholiadol yn yr ardal hon er mwyn gwella cydraddoldeb etholiadol.

4.7 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriwyd cyfuno Cymunedau cyffiniol Abercynon ac Ynysybwl a Choed-y-Cwm i ffurfio adran etholiadol newydd yn rhoi etholaeth

- 7 -

gyda chyfanswm o 8,077 (rhagamcenir 7,593) o etholwyr yn cael ei chynrychioli gan 3 cynghorydd, gan arwain at lefel gynrychiolaeth o 2,692 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 17% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Rhoesom yr enw gweithredol Abercynon i’r adran etholiadol arfaethedig.

Dwyrain Aberdâr a Gorllewin Aberdâr / Llwydcoed

4.8 Nid oes Cyngor Cymuned gan Gymuned Aberdâr ac nid yw felly wedi’i rhannu’n wardiau cymunedol at ddibenion trefniadau etholiadol cyngor cymuned. O dan y trefniadau etholiadol presennol ar gyfer y Cyngor Bwrdeistref Sirol fodd bynnag, mae Cymuned Aberdâr wedi’i rhannu ar sail hen wardiau Cynghorau Dosbarth a gafodd eu diddymu ym 1996. Fel yr ystyriasom gydag Aberaman yn 4.2 i 4.4 uchod, mae’r trefniadau presennol yn anghyson gan nad yw’r Gymuned yn gyfan gwbl y tu mewn i un adran etholiadol fel sy’n ofynnol gan y rheolau. Fel rhan o’r arolwg hwn o drefniadau etholiadol, mae’n ofynnol i ni yn ôl y rheolau i wneud cynigion a fydd yn unioni’r anghysondeb hwn.

4.9 Mae Cymuned Aberdâr wedi’i rhannu rhwng dwy adran etholiadol ar hyn o bryd, sef Dwyrain Aberdâr a Gorllewin Aberdâr / Llwydcoed. Mae adran etholiadol bresennol Dwyrain Aberdâr yn cynnwys hen ward Cyngor Dosbarth Dwyrain Aberdâr sydd â 5,117 o etholwyr (rhagamcenir 4,976) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd. Mae hyn yn rhoi lefel gynrychiolaeth o 2,559 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 11% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Gorllewin Aberdâr / Llwydcoed yn cynnwys hen ward Cyngor Dosbarth Gorllewin Aberdâr (6,128 o etholwyr, rhagamcenir 5,790) a Chymuned Llwydcoed (1,032 o etholwyr, rhagamcenir 1,172) gyda chyfanswm o 7,160 o etholwyr (rhagamcenir 6,962) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd. Mae hyn yn rhoi lefel gynrychiolaeth o 2,387 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 4% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Ystyriasom y byddai’n ddymunol aildrefnu’r cyfuniad o gymunedau sy’n llunio’r adrannau etholiadol yn yr ardal hon er mwyn gwella cydraddoldeb etholiadol ac i ddileu’r anghysondeb y sonnir amdano uchod.

4.10 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriwyd y byddai cyfuno adrannau etholiadol Dwyrain Aberdâr a Gorllewin Aberdâr / Llwydcoed yn ffurfio adran etholiadol gyda chyfanswm o 12,227 (rhagamcenir 11,938) o etholwyr yn cael ei chynrychioli gan 5 cynghorydd, gan arwain at lefel gynrychiolaeth o 2,445 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 7% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Rhoesom yr enw gweithredol Aberdâr i’r adran etholiadol arfaethedig.

Beddau a Thref Llantrisant

4.11 Mae adran etholiadol bresennol Beddau yn cynnwys ward Beddau yng Nghymuned Llantrisant, ac mae ganddi 3,232 o etholwyr (rhagamcenir 3,418) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 3,232 o etholwyr fesul cynghorydd, 40% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Tref Llantrisant yn cynnwys ward y Dref yng Nghymuned Llantrisant ac mae ganddi 3,726 o etholwyr (rhagamcenir 4,114) sy’n

- 8 -

ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 3,762 o etholwyr fesul cynghorydd, 62% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Ystyriasom y byddai’n ddymunol aildrefnu’r cyfuniad o wardiau cymunedol sy’n llunio’r adrannau etholiadol yn yr ardal hon er mwyn gwella cydraddoldeb etholiadol.

4.12 Nodasom y cynrychiolaethau a gafwyd gan y Cynghorydd Joyce Cass a Phlaid Lafur Ward Beddau; awgrymodd y ddau ohonynt gwneud newidiadau i ffin ward Graig yng Nghymuned Pontypridd a ward Beddau yng Nghymuned Llantrisant. Am y rhesymau a roddir ym mharagraffau 6.1 i 6.3 isod, nid oeddem yn gallu ystyried y cyfryw newidiadau fel rhan o’r arolwg hwn.

4.13 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriwyd cyfuno ward Beddau a ward y Dref yng Nghymuned Llantrisant i ffurfio adran etholiadol newydd yn rhoi cyfanswm o 6,598 (rhagamcenir 7,532) o etholwyr yn cael ei chynrychioli gan 3 chynghorydd, gan arwain at lefel gynrychiolaeth o 2,319 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 1% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae’r cynnig yn arwain at gynnydd o un Cynghorydd yn cynrychioli’r ardal. Rhoesom yr enw gweithredol Llantrisant i’r adran etholiadol arfaethedig.

Pentre’r Eglwys a Thon-teg

4.14 Mae adran etholiadol Pentre’r Eglwys yn cynnwys ward Pentre’r Eglwys yng Nghymuned Llanilltud Faerdref, ac mae ganddi 3,435 o etholwyr (rhagamcenir 3,632) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 3,435 o etholwyr fesul cynghorydd, 49% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Ton-teg yn cynnwys ward Ton- teg yng Nghymuned Llanilltud Faerdref ac mae ganddi 3,408 o etholwyr (rhagamcenir 3,603) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd, â lefel gynrychiolaeth o 1,704 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 26% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Ystyriasom y byddai’n ddymunol aildrefnu’r cyfuniad o wardiau cymunedol sy’n llunio’r adrannau etholiadol yn yr ardal hon er mwyn gwella cydraddoldeb etholiadol.

4.15 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriwyd cyfuno’r ddwy ward hon yng Nghymuned Llanilltud Faerdref i ffurfio adran etholiadol newydd yn rhoi cyfanswm o 6,843 (rhagamcenir 7,235) o etholwyr, yn cael ei chynrychioli gan 3 chynghorydd gan arwain at lefel gynrychiolaeth o 2,281 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 1% yn is na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Gan fod y cynnig hwn yn uno dwy ward o’r un Gymuned, roeddem o’r farn na fyddai unrhyw gysylltiadau lleol yn cael eu torri drwy osod ffin yr adran etholiadol hon. Rhoesom yr enw gweithredol Pentre’r Eglwys i’r adran etholiadol arfaethedig.

Glynrhedynog a Tylorstown

4.16 Mae adran etholiadol bresennol Glynrhedynog yn cynnwys Cymuned Glynrhedynog ac mae ganddi 3,200 o etholwyr (rhagamcenir 3,072) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd. Mae hyn yn rhoi lefel gynrychiolaeth o 1,600 o etholwyr fesul cynghorydd, 31% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,304 o etholwyr fesul

- 9 -

cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Tylorstown yn cynnwys Cymuned Tylorstown, ac mae ganddi 3,196 o etholwyr (rhagamcenir 3,074) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd, â lefel gynrychiolaeth o 1,598 o etholwyr fesul cynghorydd, 31% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd.

4.17 Nodasom y gynrychiolaeth a gafwyd gan y Cynghorydd Adams (Tylorstown) a ystyriai y dylai adran etholiadol Tylorstown gadw dau gynghorydd. Roedd y Cynghorydd Adams o’r farn bod nifer yr etholwyr ar fin cynyddu yn sgil nifer y bobl ifanc sy’n dod yn gymwys i bleidleisio, ac yn sgil datblygiadau tai. Nodasom, fodd bynnag, nad oedd y ffigurau etholiadol rhagamcanol mewn perthynas â Thylorstown a roddwyd i ni gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yn ategu’r datganiad hwn. Gofynnodd y Cynghorydd Adams i ni hefyd ystyried cyfansoddiad daearyddol yr adran sy’n cynnwys pentrefi â’u hunaniaethau eu hunain, barnau annibynnol a’u problemau eu hunain. Fe wnaethom ystyried y pwynt hwn, ac roeddem o’r farn y byddai cyfuno Tylorstown gyda Chymuned â chyfansoddiad daearyddol tebyg, fel Glynrhedynog, yn galluogi cynrychioli’r barnau a’r problemau amrywiol hyn yn briodol o hyd, a chyflawni gwelliannau sylweddol ar yn un pryd o ran cydraddoldeb etholiadol.

4.18 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriwyd cyfuno adrannau etholiadol cyffiniol Glynrhedynog a Tylorstown i ffurfio adran etholiadol newydd yn rhoi cyfanswm o 6,396 (rhagamcenir 6,146) o etholwyr, yn cael ei chynrychioli gan 3 chynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth o 2,132 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 7% yn is na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Roedd y cyfuno yn arwain at ostyngiad o 1 cynghorydd yn cynrychioli’r ardal, ond roedd yn gwella’r cydraddoldeb etholiadol. Rhoesom yr enw gweithredol Glynrhedynog i’r adran etholiadol arfaethedig.

Y Ddraenen Wen a Ffynnon Taf

4.19 Mae adran etholiadol bresennol y Ddraenen Wen yn cynnwys wardiau'r Ddraenen Wen (1,616 o etholwyr, rhagamcenir 1,941) a Rhydfelin Isaf (1,165 o etholwyr, rhagamcenir 1,399) yng Nghymuned Pontypridd, ac mae ganddi 2,781 o etholwyr (rhagamcenir 3,340) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,781 o etholwyr fesul cynghorydd, 21% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Ffynnon Taf yn cynnwys Cymuned Ffynnon Taf, ac mae ganddi 2,716 o etholwyr (rhagamcenir 3,263) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,716 o etholwyr fesul cynghorydd, 18% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Ystyriasom y byddai’n ddymunol aildrefnu’r cyfuniad o gymunedau a wardiau cymunedol sy’n llunio’r adrannau etholiadol yn yr ardal hon er mwyn gwella cydraddoldeb etholiadol.

4.20 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriwyd cyfuno adrannau etholiadol y Ddraenen Wen a Ffynnon Taf i ffurfio adran etholiadol newydd yn rhoi cyfanswm o 5,497 (rhagamcenir 6,603) o etholwyr, yn cael ei chynrychioli gan 3 chynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth o 1,832 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 20% yn is na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Arweiniodd y cynnig hwn at gynnydd o un Cynghorydd yn cynrychioli’r

- 10 -

ardal. Rhoesom yr enw gweithredol Y Ddraenen Wen i’r adran etholiadol arfaethedig.

Llanharan a Brynna

4.21 Mae adran etholiadol bresennol Llanharan yn cynnwys ward Llanharan yng Nghymuned Llanharan ac mae ganddi 2,434 o etholwyr (rhagamcenir 2,687) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,434 o etholwyr fesul cynghorydd, 6% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Brynna yn cynnwys wardiau Brynna (2,119 o etholwyr, rhagamcenir 2,339) a Llanilid yng Nghymuned Llanharan, ac mae ganddi 2,919 o etholwyr (rhagamcenir 3,223) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,919 o etholwyr fesul cynghorydd, 27% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Ystyriasom y byddai’n ddymunol aildrefnu’r cyfuniad o wardiau cymunedol sy’n llunio’r adrannau etholiadol yn yr ardal hon er mwyn gwella cydraddoldeb etholiadol.

4.22 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriwyd cyfuno’r wardiau cyffiniol hyn yng nghymuned Llanharan i ffurfio adran etholiadol newydd yn rhoi cyfanswm o 5,353 (rhagamcenir 5,910) o etholwyr yn cael ei chynrychioli gan 2 gynghorydd, gan arwain at lefel gynrychiolaeth o 2,677 o etholwyr fesul cynghorydd, 9% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Rhoesom yr enw gweithredol Llanharan i’r adran etholiadol arfaethedig.

Llwyn-y-pia a Threalaw

4.23 Mae adran etholiadol bresennol Llwyn-y-pia yn cynnwys Cymuned Llwyn-y-pia ac mae ganddi 1,697 o etholwyr (rhagamcenir 1,652) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 1,697 o etholwyr fesul cynghorydd, 26% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Trealaw yn cynnwys Cymuned Trealaw ac mae ganddi 2,987 o etholwyr (rhagamcenir 2,906) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,987 o etholwyr fesul cynghorydd, 30% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Ystyriasom y byddai’n ddymunol aildrefnu’r cyfuniad o gymunedau sy’n llunio’r adrannau etholiadol yn yr ardal hon er mwyn gwella cydraddoldeb etholiadol.

4.24 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriwyd cyfuno dwy adran etholiadol gyffiniol Llwyn-y-pia a Threalaw gan roi cyfanswm o 4,684 (rhagamcenir 4,558) o etholwyr, yn cael eu cynrychioli gan 2 gynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth o 2,342 o etholwyr fesul cynghorydd, 2% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Rhoesom yr enw gweithredol Llwyn- y-pia i’r adran etholiadol arfaethedig.

Dwyrain Aberpennar, Gorllewin Aberpennar a Phenrhiwceibr

4.25 Nid oes Cyngor Cymuned gan Gymuned Aberpennar, ac nid yw felly wedi’i rhannu’n wardiau cymunedol at ddibenion trefniadau etholiadol cyngor cymuned. O dan y trefniadau etholiadol presennol ar gyfer y Cyngor Bwrdeistref Sirol fodd

- 11 -

bynnag, mae Cymuned Aberpennar wedi’i rhannu ar sail hen wardiau Cynghorau Dosbarth a gafodd eu diddymu ym 1996. Fel yr ystyriom gydag Aberaman ac Aberdâr uchod, mae’r trefniadau presennol yn anghyson gan nad yw’r Gymuned yn gorwedd yn gyfan gwbl y tu mewn i un adran etholiadol fel sy’n ofynnol gan y rheolau. Fel rhan o’r arolwg hwn o drefniadau etholiadol, mae’n ofynnol i ni yn ôl y rheolau wneud cynigion a fydd yn unioni’r anghysondeb hwn.

4.26 Mae Cymuned Aberpennar wedi’i rhannu’n ddwy adran etholiadol, sef Dwyrain Aberpennar a Gorllewin Aberpennar. Mae gan adran etholiadol bresennol Dwyrain Aberpennar 2,232 o etholwyr (rhagamcenir 2,090) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,232 o etholwyr fesul cynghorydd, 3% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae gan adran etholiadol bresennol Gorllewin Aberpennar 3,176 o etholwyr (rhagamcenir 2,976) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd. Mae hyn yn rhoi lefel gynrychiolaeth o 1,588 o etholwyr fesul cynghorydd, 31% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Penrhiwceibr yn cynnwys Cymuned Penrhiwceibr ac mae ganddi 4,243 o etholwyr (rhagamcenir 3,975) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd. Mae hyn yn rhoi lefel gynrychiolaeth o 2,122 o etholwyr fesul cynghorydd, 8% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Ystyriasom y byddai’n ddymunol aildrefnu’r cyfuniad o gymunedau sy’n llunio’r adrannau etholiadol yn yr ardal hon er mwyn gwella cydraddoldeb etholiadol ac i ddileu’r anghysondeb y sonnir amdano uchod.

4.27 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriwyd cyfuno adrannau etholiadol Dwyrain a Gorllewin Aberpennar a Phenrhiwceibr i ffurfio adran etholiadol newydd yn rhoi cyfanswm o 9,651 (rhagamcenir 9,041) o etholwyr, yn cael ei chynrychioli gan 4 cynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth o 2,413 o etholwyr fesul cynghorydd, 5% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Arweiniodd y cyfuno at ostyngiad o 1 cynghorydd yn cynrychioli’r ardal, ond roedd yn gwella’r cydraddoldeb etholiadol. Rhoesom yr enw gweithredol Aberpennar i’r adran etholiadol arfaethedig.

Y Rhigos a Hirwaun

4.28 Mae adran etholiadol bresennol y Rhigos yn cynnwys Cymuned y Rhigos sydd â 688 o etholwyr (rhagamcenir 631) a ward Penderyn yng Nghymuned Hirwaun sydd â 704 o etholwyr (rhagamcenir 645), gan roi cyfanswm o 1,392 o etholwyr (rhagamcenir 1,276) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 1,392 o etholwyr fesul cynghorydd, 40% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Hirwaun yn cynnwys ward Hirwaun yng Nghymuned Hirwaun sydd â 3,128 o etholwyr (rhagamcenir 2,963) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 3,128 o etholwyr fesul cynghorydd, 36% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Roeddem o’r farn nad yw’n drefniant priodol bod amrywiaeth mor eang o gynrychiolaeth etholiadol mewn dwy adran etholiadol gyffiniol, yn enwedig rhai sy’n cynnwys wardiau o’r un gymuned. Ystyriasom felly y byddai’n ddymunol aildrefnu’r cyfuniad o gymunedau a wardiau cymunedol sy’n llunio’r adrannau etholiadol yn yr ardal hon er mwyn gwella cydraddoldeb etholiadol.

- 12 -

4.29 Nodasom y gynrychiolaeth a gafwyd gan Gyngor Cymuned Hirwaun a oedd o’r farn mai uchafswm ddylai 1,750 o etholwyr fesul cynghorydd fod, ac y dylid annog ffigur is lle bo modd. Soniwyd gennym y byddem yn cadw’r lefel gynrychiolaeth o 1,750 o etholwyr fesul cynghorydd mewn cof fel y nod i weithio tuag ati, tra’n talu sylw hefyd i ddyheadau cymunedau lleol i gael eu cynrychiolaeth adnabyddadwy eu hunain. Y lefel gynrychiolaeth gyfartalog bresennol yn Rhondda Cynon Taf yw 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Pe bai hyn yn cael ei leihau i 1,750 o etholwyr fesul cynghorydd fel yr awgrymwyd, yna byddai niferoedd y cynghorwyr yn codi o 75 i 99. Ni fyddai hyn wedyn yn cydymffurfio ag un arall o Gyfarwyddiadau’r Gweinidog sy’n awgrymu, er mwyn lleihau’r risg o Gyngor yn mynd yn afrosgo ac yn anodd ei reoli, bod angen uchafswm o 75 cynghorydd fel arfer i reoli materion cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn briodol. Roeddem o’r farn felly na fyddai cynnydd sylweddol yn nifer y cynghorwyr sy’n cynrychioli Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn fuddiol o ran llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Nid oeddem ychwaith yn ymwybodol o unrhyw amgylchiadau arbennig sy’n effeithio ar Hirwaun a fyddai’n galw am ystyriaeth eithriadol. Nodasom farn Cyngor Cymuned Hirwaun fod adrannau etholiadol aml-aelod yn ddewis arall derbyniol i gymhareb uwch etholwyr i gynghorwyr.

4.30 Nodasom hefyd y gynrychiolaeth a gafwyd gan Gyngor Cymuned y Rhigos lle dywedont y byddent yn dymuno sefyll ar eu pennau’u hunain yn eu hadran etholiadol eu hunain. Dim ond 688 o etholwyr sydd yng Nghymuned y Rhigos, fodd bynnag, a phe bai 1 cynghorydd yn eu cynrychioli, byddai’r adran etholiadol awgrymedig 70% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Nid oeddem o’r farn y byddai amrywio felly rhwng y lefel cydraddoldeb etholiadol yn y Rhigos a hynny yng ngweddill y Cyngor Bwrdeistref Sirol yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Fel yn 4.28, nid oeddem yn ymwybodol o unrhyw amgylchiadau arbennig sy’n effeithio ar y Rhigos a fyddai’n galw am ystyriaeth eithriadol. Nodasom fod y Rhigos wedi’i chyfuno ar hyn o bryd at ddibenion etholiadol gyda ward Penderyn yng Nghymuned Hirwaun, ac roeddem o’r farn felly y byddai’n briodol i ystyried cyfuno Cymunedau'r Rhigos a Hirwaun gyda’i gilydd i ffurfio adran etholiadol.

4.31 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriwyd cyfuno Cymunedau’r Rhigos a Hirwaun i ffurfio adran etholiadol newydd yn rhoi cyfanswm o 4,520 (rhagamcenir 4,239) o etholwyr, yn cael ei chynrychioli gan 2 gynghorydd, gan arwain at lefel gynrychiolaeth o 2,260 o etholwyr fesul cynghorydd, 2% yn is na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Rhoesom yr enw gweithredol Hirwaun a’r Rhigos i’r adran etholiadol arfaethedig.

Rhondda a Glyncoch

4.32 Mae adran etholiadol bresennol Rhondda yn cynnwys ward Rhondda yng Nghymuned Pontypridd ac mae ganddi 3,279 o etholwyr (rhagamcenir 3,079) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd. Mae hyn yn rhoi lefel gynrychiolaeth o 1,640 o etholwyr fesul cynghorydd, 29% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Glyncoch yn cynnwys ward Glyncoch ward yng Nghymuned Pontypridd ac mae ganddi 1,975 o etholwyr (rhagamcenir 1,866) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 1,975 o etholwyr fesul cynghorydd, 14% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o

- 13 -

etholwyr fesul cynghorydd. Ystyriasom y byddai’n ddymunol aildrefnu’r cyfuniad o wardiau cymunedol sy’n llunio’r adrannau etholiadol yn yr ardal hon er mwyn gwella cydraddoldeb etholiadol.

4.33 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriwyd cyfuno wardiau Rhondda a Glyncoch yng Nghymuned Pontypridd i ffurfio adran etholiadol newydd a fyddai’n rhoi cyfanswm o 5,254 (rhagamcenir 4,945) o etholwyr, yn cael ei chynrychioli gan 2 gynghorydd, gan arwain at lefel gynrychiolaeth o 2,627 o etholwyr fesul cynghorydd, 7% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Gan fod y cynnig hwn yn uno dwy ward o’r un Gymuned, roeddem o’r farn na fyddai unrhyw gysylltiadau lleol yn cael eu torri drwy osod ffin yr adran etholiadol hon. Arweiniodd y cyfuno hwn at ostyngiad o 1 cynghorydd yn cynrychioli’r ardal, ond roedd yn gwella’r cydraddoldeb etholiadol. Rhoesom yr enw gweithredol Rhondda i’r adran etholiadol arfaethedig.

Tonysguboriau a Phont-y-clun

4.34 Mae adran etholiadol bresennol Tonysguboriau yn cynnwys ward Tonysguboriau yng Nghymuned Llantrisant ac mae ganddi 1,992 o etholwyr (rhagamcenir 2,119) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 1,992 o etholwyr fesul cynghorydd, 14% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Pont-y-clun yn cynnwys Cymuned Pont-y-clun sydd â 6,022 o etholwyr (rhagamcenir 6,648) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd. Mae hyn yn rhoi lefel gynrychiolaeth o 3,011 o etholwyr fesul cynghorydd, 31% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Ystyriasom y byddai’n ddymunol aildrefnu’r cyfuniad o gymunedau a wardiau cymunedol sy’n llunio’r adrannau etholiadol yn yr ardal hon er mwyn gwella cydraddoldeb etholiadol.

4.35 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriwyd cyfuno ward Tonysguboriau yng Nghymuned Llantrisant ag adran etholiadol Pont-y-clun i ffurfio adran etholiadol newydd yn rhoi cyfanswm o 8,014 (rhagamcenir 8,767) o etholwyr, yn cael ei chynrychioli gan 3 chynghorydd, gan arwain at lefel gynrychiolaeth o 2,671 o etholwyr fesul cynghorydd, 16% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Rhoesom yr enw gweithredol Pont- y-clun i’r adran etholiadol arfaethedig.

Trallwng a Graig

4.36 Mae adran etholiadol bresennol Trallwng yn cynnwys ward Trallwng yng Nghymuned Pontypridd ac mae ganddi 2,876 o etholwyr (rhagamcenir 2,716) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,876 o etholwyr fesul cynghorydd, 25% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Graig yn cynnwys ward Graig yng Nghymuned Pontypridd, ac mae ganddi 1,692 o etholwyr (rhagamcenir 1,596) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 1,692 o etholwyr fesul cynghorydd, 27% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Ystyriasom y byddai’n ddymunol aildrefnu’r cyfuniad o wardiau cymunedol sy’n llunio’r adrannau etholiadol yn yr ardal hon er mwyn gwella cydraddoldeb etholiadol.

- 14 -

4.37 Fel y datgenir yn 4.11 uchod, nodasom y cynrychiolaethau a gafwyd gan y Cynghorydd Joyce Cass a Phlaid Lafur Ward Beddau, y ddau ohonynt yn awgrymu gwneud newidiadau i ffin ward Graig yng Nghymuned Pontypridd, a ward Beddau yng Nghymuned Llantrisant. Am y rhesymau a roddir yn 6.1 i 6.3 isod, ni allwn ystyried y cyfryw newidiadau fel rhan o’r arolwg hwn.

4.38 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriwyd cyfuno’r ddwy ward hon yng Nghymuned Pontypridd i ffurfio adran etholiadol newydd yn rhoi cyfanswm o 4,568 (rhagamcenir 4,312) o etholwyr yn cael ei chynrychioli gan 2 gynghorydd, gan arwain at lefel gynrychiolaeth o 2,284 o etholwyr fesul cynghorydd, 1% yn is na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Rhoesom yr enw gweithredol Trallwng i’r adran etholiadol arfaethedig.

Trefforest a Chanol Rhydfelin / Ilan

4.39 Mae adran etholiadol bresennol Trefforest yn cynnwys ward Trefforest yng Nghymuned Pontypridd ac mae ganddi 2,486 o etholwyr sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,486 o etholwyr fesul cynghorydd, 8% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Canol Rhydfelin / Ilan yn cynnwys wardiau Ilan a Chanol Rhydfelin yng Nghymuned Pontypridd, ac mae ganddi 3,084 o etholwyr (rhagamcenir 3,704) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 3,084 o etholwyr fesul cynghorydd, 34% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Ystyriasom y byddai’n ddymunol aildrefnu’r cyfuniad o wardiau cymunedol sy’n llunio’r adrannau etholiadol yn yr ardal hon er mwyn gwella cydraddoldeb etholiadol.

4.40 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriwyd cyfuno’r tair ward gyffiniol hon yng Nghymuned Pontypridd i ffurfio adran etholiadol newydd yn rhoi cyfanswm o 5,570 (rhagamcenir 6,689) o etholwyr yn cael ei chynrychioli gan 3 chynghorydd, yn arwain at lefel gynrychiolaeth o 1,857 o etholwyr fesul cynghorydd, 19% yn is na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Arweiniodd y cynnig hwn at gynnydd o un Cynghorydd yn cynrychioli’r ardal. Rhoesom yr enw gweithredol Trefforest i’r adran etholiadol arfaethedig.

Gorllewin Tonyrefail

4.41 Mae adran etholiadol bresennol Gorllewin Tonyrefail yn cynnwys wardiau Penrhiw- fer (1,042 o etholwyr, rhagamcenir 1,146), Tretomas (1,158 o etholwyr, rhagamcenir 1,274) a Thynybryn (2,212 o etholwyr, rhagamcenir 2,434) yng Nghymuned Tonyrefail sydd â chyfanswm o 4,412 o etholwyr (rhagamcenir 4,854) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 4,412 o etholwyr fesul cynghorydd, 91% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd.

4.42 Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriwyd cynyddu nifer y Cynghorwyr sy’n cynrychioli adran etholiadol Gorllewin Tonyrefail o 1 i 2 gynghorydd. Roedd hyn yn rhoi lefel gynrychiolaeth o 2,206 o etholwyr fesul cynghorydd (4% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol a’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304

- 15 -

o etholwyr fesul cynghorydd, yn lle 91% yn uwch), sy’n gwella cydraddoldeb etholiadol yn sylweddol.

Crynodeb o’r Cynigion Drafft

4.43 Yn ein Cynigion Drafft, argymhellwyd peidio â gwneud unrhyw newid i faint y cyngor ond yn hytrach newid i’r trefniant adrannau etholiadol a fyddai’n gwella’n sylweddol lefel y cydraddoldeb etholiadol ar draws Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Ystyriasom fod y trefniadau hyn yn darparu llywodraeth leol effeithiol a chyfleus a’u bod yn bodloni mewn egwyddor y cyfarwyddiadau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

4.44 Anfonwyd copïau o’r Cynigion Drafft i’r holl gynghorau, sefydliadau ac unigolion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2.8 i geisio eu barn. Anfonwyd copi hefyd at unrhyw un a oedd wedi cyflwyno sylwadau cychwynnol. Trwy gyfrwng hysbysiad cyhoeddus, gwahoddasom hefyd unrhyw sefydliad neu unigolyn â buddiant yn yr arolwg i gyflwyno’u syniadau. Roedd copïau o’r Cynigion Drafft ar gael i’w harchwilio yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a swyddfeydd y Comisiwn.

5. CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB i’R CYNIGION DRAFFT

5.1 Mewn ymateb i’n hadroddiad Cynigion Drafft, derbyniasom gynrychiolaethau gan 5 o Gynghorau Tref a Chynghorau Cymuned, Christine Chapman AC, Jane Davidson AC, 21 o Gynghorwyr Sir, 2 o Gynghorwyr Tref a Chymuned, 13 o sefydliadau â buddiant, 50 o drigolion Rhondda Cynon Taf ac un o drigolion Preston. Ceir crynodeb o’r cynrychiolaethau hyn yn Atodiad 5.

6. ASESIAD

Cais am Newid Ffin

6.1 Cyn ystyried y trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, hoffwn ymateb i’r cynrychiolaethau a ofynnodd i’r Comisiwn gynnal arolwg o ffiniau cymunedol a ffiniau wardiau cymunedol. Mae’n amlwg o’r ceisiadau hyn bod rhywfaint o ansicrwydd yn bodoli o hyd ynglŷn â’r mecanwaith priodol ar gyfer cynnal y cyfryw arolygon. Dymunwn esbonio’r sefyllfa statudol.

6.2 Cwblhaodd y Comisiwn ei raglen o Arolygon Cymunedol Arbennig ar gyfer Cymru gyfan ym 1983, ac ers hynny bu’n gyfrifoldeb ar bob prif gyngor i gadw’r strwythur cymunedau dan arolwg. Mae Adran 55(2) Deddf 1972 yn pennu gofyniad ar bob prif gyngor yng Nghymru i gadw’u hardal gyfan o dan arolwg er mwyn ystyried pa un a ddylid gwneud argymhellion i’r Comisiwn ar gyfer cyfansoddiad cymunedau newydd, diddymu cymunedau neu newid cymunedau yn eu hardal. Mae’r Comisiwn wedyn yn ystyried cynigion y prif gyngor ac yn adrodd i Lywodraeth Cynulliad Cymru, a gall hithau, os gwêl yn dda, drwy orchymyn, weithredu unrhyw un o’r cynigion.

- 16 -

6.3 O dan Adran 57(4) Deddf 1972, mae dyletswydd ar y prif gynghorau hefyd i gadw dan arolwg y trefniadau etholiadol ar gyfer y cymunedau yn eu hardaloedd, er mwyn ystyried pa un a ddylid gwneud newidiadau sylweddol. Rhaid i’r prif gynghorau hefyd ystyried ceisiadau ar gyfer newidiadau gan gyngor cymuned neu gan nid llai na deg ar hugain o etholwyr llywodraeth leol cymuned, ac, os gwelant yn dda, gwneud gorchymyn sy’n gweithredu’r newidiadau hynny. Felly, mae ffiniau cymunedau a wardiau cymunedol yn fater i’r prif gyngor eu hystyried yn y lle cyntaf.

Cymhareb cynghorwyr i etholwyr

6.4 Mae cyfarwyddiadau’r Gweinidog yn cynnwys y canlynol yn 3.7 (a): "Ystyrir mai cyflawni adrannau etholiadol lle nad yw’r gymhareb rhwng cynghorwyr ac etholwyr yn is nag 1:1,750 y dylai’r nod fod." Mae’r Gweinidog wedi dynodi i’r Comisiwn fod hyn yn golygu na ddylai nifer yr etholwyr fesul cynghorydd ddisgyn yn is na 1,750 fel arfer, a dyma sut y mae’r Comisiwn wedi dehongli a defnyddio’r Cyfarwyddyd. Rydym yn cydnabod y darperir y cyfarwyddiadau fel arweiniad ac ni ddylid eu defnyddio heb ystyried amgylchiadau arbennig yr ardal benodol: mae’n bosibl y bydd amgylchiadau yn ymwneud â thopograffeg neu boblogaeth ac ati yr ardal, lle ystyrir bod adran etholiadol â llai na 1,750 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan un cynghorydd yn briodol. Esboniwyd hyn yn y llythyr gan y Gweinidog (Atodiad 4) a ddywedodd: “Golyga hyn fod y gymhareb yn parhau fel y nod i geisio ei chyflawni ac nid fel y nod i’w chyflawni ym mhob achos. Wrth wneud hynny, dylid talu sylw i gymunedau lleol yn cael eu cynrychiolaeth adnabyddadwy hyd yn oed pan na ellir cyflawni’r ffigur dangosol o 1,750 etholwyr/cynghorydd bob tro”. Yn absenoldeb amgylchiadau arbennig, byddwn yn ceisio cynnig trefniadau etholiadol lle na fydd lefel y gynrychiolaeth yn disgyn yn is na 1,750 o etholwyr fesul cynghorydd. Ni chawn ein cyfyngu yn yr un modd gan y cyfarwyddyd hwn rhag cynnig trefn etholiadol lle mae nifer yr etholwyr sydd i’w cynrychioli gan bob cynghorydd, mewn achosion priodol, yn uwch na 1,750. Trwy gydol yr arolwg hwn byddwn yn cadw’r gymhareb o 1:1,750 mewn cof, ac ni fyddwn fel arfer yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ei defnyddio yn benodol ym mhob achos.

Maint y Cyngor

6.5 Ar hyn o bryd, mae’r cyngor sydd â 75 aelod ar yr uchafswm o’r terfynau rhifiadol yng nghyfarwyddiadau’r Gweinidog. Y gymhareb bresennol rhwng cynghorwyr ac etholwyr ar gyfer y cyngor yw 1:2,304, sydd 32% yn uwch na’r gymhareb o 1,750 o etholwyr fesul cynghorydd (gweler y Gymhareb o ran cynghorwyr i etholwyr uchod). Ar hyn o bryd 21 o adrannau etholiadol aml-aelod allan o gyfanswm o 52 o adrannau etholiadol.

6.6 Fe wnaethom adolygu’r trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn sgil cyfarwyddiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru i’n harwain, ac ystyriasom y cynrychiolaethau a gyflwynwyd i ni. Yn ein trafodaethau, ystyriasom y gymhareb o ran nifer yr etholwyr llywodraeth leol a nifer y cynghorwyr i’w hethol gyda’r nod o sicrhau bod nifer yr etholwyr llywodraeth leol yr un peth neu mor agos ag y bo modd, ym mhob adran yn y brif ardal. Edrychwyd ar yr adrannau aml-aelod presennol i weld a ddylem ni argymell creu adrannau un aelod. Ystyriasom faint a

- 17 -

chymeriad yr awdurdod ac ystod eang o ffactorau eraill, gan gynnwys dwysedd y boblogaeth, y dopograffeg leol, cysylltiadau ffyrdd a chysylltiadau lleol.

6.7 Am y rhesymau a nodir isod, credwn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus y byddai cael cyngor o 75 aelod i gynrychioli Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn briodol. Golyga’r penderfyniad hwn ynghylch maint y cyngor y caiff 2,304 o etholwyr eu cynrychioli ar gyfartaledd gan bob cynghorydd. Cynigiwn gyfanswm o 37 o adrannau etholiadol gyda 27 ohonynt yn adrannau aml-aelod a 10 ohonynt yn adrannau aelod unigol.

Nifer yr Etholwyr

6.8 Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a roddodd i ni’r ffigurau sy’n nodi’r etholwyr yn 2009 a welir yn Atodiad 2 a’r amcangyfrifon ar gyfer yr etholaeth yn 2014.

Adrannau Etholiadol

6.9 Rydym wedi ystyried ffiniau adrannau etholiadol presennol Abercynon, Cilfynydd, Cwm Clydach, y Cymer, Gilfach Goch, Llanhari, Llanilltud Faerdref, Penrhiwceibr, Pentre, Penygraig, Penywaun, Tref Pontypridd, Porth, Ffynnon Taf, Tonypandy, Dwyrain Tonyrefail, Trallwng, Trefforest, Treherbert, Treorci ac Ystrad, a’r gymhareb a nifer yr etholwyr llywodraeth leol i nifer y cynghorwyr i’w hethol a chynigiwn y dylai’r trefniadau presennol barhau. Ystyriasom newidiadau i’r adrannau etholiadol sy’n weddill. Ceir manylion o’r trefniadau etholiadol cyfredol ar gyfer yr ardal yn Atodiad 2.

6.10 Yn yr adran ganlynol, nodir y cynigion ar gyfer pob un o’r Adrannau Etholiadol newydd yn yr un modd. Mae rhan gyntaf y paragraff agoriadol ar gyfer pob un o’r rhain yn nodi’r cyd-destun hanesyddol trwy restru’r holl Adrannau Etholiadol neu’r rhannau cydrannol ohonynt a ddefnyddiwyd i ffurfio pob Adran Etholiadol arfaethedig. Disgrifir y cydrannau hyn - y Cymunedau a’r Wardiau Cymunedol - fel Cymuned gyflawn ynghyd â nifer yr etholwyr cyfredol ac arfaethedig pe câi ei ddefnyddio felly. Os rhan yn unig a ddefnyddir mewn Cymuned - h.y. Ward Gymunedol - yna enw’r Ward Gymunedol, nifer ei hetholwyr ac enw ei Chymuned a nodir. Yna bydd rhan olaf y paragraff hwnnw yn rhestru rhannau cydrannol yr Adran Etholiadol arfaethedig newydd yn yr un modd - naill ai fel Cymunedau cyfan gyda nifer yr etholwyr cyfredol a’r nifer a ragamcenir, neu os yw’n Ward Gymunedol a enwir, nifer yr etholwyr ac enw ei Chymuned - fel o’r blaen. Defnyddir y dull hwn o ddisgrifio cyfansoddiad Adrannau Etholiadol hefyd yn y tablau a geir yn Atodiad 2 ac Atodiad 3.

Gogledd Aberaman, De Aberaman a Chwmbach

6.11 Mae gan adran etholiadol bresennol Gogledd Aberaman 3,768 o etholwyr (rhagamcenir 3,664) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd. Mae hyn yn rhoi lefel gynrychiolaeth o 1,884 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 18% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae gan adran etholiadol bresennol De Aberaman 3,363 o etholwyr (rhagamcenir 3,269) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd. Mae hyn yn rhoi lefel gynrychiolaeth o 1,682 o

- 18 -

etholwyr fesul cynghorydd, sydd 27% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Cwmbach yn cynnwys Cymuned Cwmbach, ac mae ganddi 3,189 o etholwyr (rhagamcenir 3,099) a gynrychiolir gan un aelod, sy’n rhoi lefel gynrychiolaeth o 3,189 o etholwyr fesul cynghorydd, 38% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom (yn 4.3 uchod) yr anghysondeb a achosir gan y ffaith nad yw Cymuned Aberaman wedi’i rhannu’n wardiau cymunedol, a hefyd lefel gynrychiolaeth adran etholiadol bresennol Cwmbach (paragraff 4.4 uchod). Cynigiwyd cyfuno Cymunedau cyffiniol Aberaman a Chwmbach i ffurfio adran etholiadol â chyfanswm o 10,320 o etholwyr (rhagamcenir 10,032) yn cael ei chynrychioli gan 4 cynghorydd, gan arwain at lefel gynrychiolaeth o 2,580 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 12% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.12 Derbyniasom gynrychiolaethau gan Christine Chapman AC, y Cynghorydd A Christopher (Gogledd Aberaman), y Cynghorydd L De Vet (Gogledd Aberaman) a Phlaid Cymru Etholaeth Cwm Cynon. Mynegodd Christine Chapman AC bryderon ynghylch creu ‘arch wardiau’ a fyddai mor fawr y byddai’n amhosibl i gynghorwyr lleol gynrychioli’r holl gymunedau ynddynt yn effeithiol. Roedd y Cynghorwyr A Christopher ac L De Vet yn gwrthwynebu cyfuno adrannau etholiadol Gogledd a De Aberaman a Chwmbach ar y sail na fyddai’r uno artiffisial arfaethedig yn cael ei dderbyn gan drigolion, ac y byddai’n creu ardal eang iawn a fyddai’n rhoi gormod o ofynion ar gynghorydd sy’n cynrychioli mwy o etholwyr o lawer. Dywedont y byddai goblygiadau yn hyn o ran tegwch a chysondeb gwasanaethau y byddai trigolion yn eu derbyn. Dadl arall a roddwyd gerbron oedd fod Aberaman ar ochr arall y brif ffordd, y rheilffordd a’r afon o Gwmbach. Mynegodd Etholaeth Cwm Cynon siom yn y cynigion a oedd yn creu adrannau etholiadol mwy, ac roeddent yn pryderu y byddai aelodau etholedig yn ymbellhau oddi wrth yr etholaeth oherwydd yr ardaloedd daearyddol mwy i’w cynrychioli heb fod ynddynt unrhyw gydlyniant gymdeithasol. Roeddent yn cydnabod y gofyniad cyfreithiol i osod Cymuned Aberaman mewn adran etholiadol unigol, ond yn gwrthwynebu cyfuno gyda Chwmbach, gan ddadlau nad oes cysylltiad rhwng y ddwy gymuned a’u bod wedi’u rhannu’n ddaearyddol gan afon Cynon. Eu cynnig oedd bod Aberaman yn dod yn un adran etholiadol gyda 3 chynghorydd, a bod Cwmbach yn aros fel adran etholiadol ar ei phen ei hun gydag un aelod etholedig.

6.13 Nodasom y gwrthwynebiadau a’r awgrymiadau ar gyfer yr ardal benodol hon, ac roeddem o’r farn, er bod Aberaman ar yr ochr arall i’r brif ffordd, yr afon a’r rheilffordd o Gwmbach, nodasom fod y brif ffordd (A4059) mewn gwirionedd yn croesi’r rheilffordd ac yn cysylltu Cwmbach ag Aberaman. Yn ogystal, gan fod cymhareb bresennol yr etholwyr i gynghorwyr ar gyfer Cwmbach 38% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 ar hyn o bryd, mae’r Comisiwn yn gorfod archwilio trefniadau eraill i weld a oes modd gwella cydraddoldeb etholiadol. Dangosir hyn gan y ffaith pe bai dau gynghorydd yn cynrychioli’r gymuned yn lle’r un cynghorydd presennol, byddai gan Gwmbach lefel gynrychiolaeth o 1,594 o etholwyr fesul cynghorydd (31% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol), ac mae hyn eto yn anfoddhaol o ran cydraddoldeb etholiadol. Yn ychwanegol at hyn, mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â’r anghysondeb a achosir gan y ffaith nad oes Cyngor Cymuned gan gymuned Aberaman, ac nid yw felly wedi’i rhannu’n wardiau cymunedol (fel y nodir yn 4.3 uchod).

- 19 -

6.14 Nodwn nad yw Cwmbach ar hyn o bryd wedi’i gysylltu ag unrhyw ardal arall trwy gysylltiadau amlwg, ond rydym wedi esbonio uchod fod lefel y gynrychiolaeth (gydag un neu ddau gynghorydd) yn anfoddhaol o ran cydraddoldeb etholiadol, ac rydym wedi ystyried a fyddai modd unioni hynny trwy aildrefnu’r adrannau etholiadol yn yr ardal. Yn ogystal, rydym eisoes wedi tynnu sylw at yr anghysondeb a achosir gan y ffaith fod Gogledd Aberaman a De Aberaman, er ei bod yn rhannau o gymuned heb ei wardio, wedi’u cyfansoddi fel adrannau etholiadol ar wahân, sef anghysondeb y gellir ei unioni trwy eu cyfuno. Gan fod Cwmbach ac Aberaman wedi’u cysylltu gan yr A4059 a’u bod yn gymunedau cyfagos, cynigiwn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus fod y cynnig drafft sy’n cyfuno Cwmbach gyda Gogledd Aberaman a De Aberaman yn cael ei ddwyn ymlaen. Byddai hyn yn rhoi etholaeth gyfunol o 10,320 yn cael ei chynrychioli gan 4 cynghorydd, sy’n rhoi lefel gynrychiolaeth o 2,580 o etholwyr fesul cynghorydd, a fyddai 12% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae’r ffigurau rhagamcanol yn awgrymu y bydd gostyngiad yn nifer yr etholwyr yn yr ardal i 10,032, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,508 o etholwyr fesul cynghorydd, sy’n dod â’r gwahaniaeth i lawr i 8% uwchlaw’r cyfartaledd sirol rhagamcanol arfaethedig. Cynigiwn yr enw Aberaman a Chwmbach i’r adran etholiadol.

Abercynon ac Ynysybwl

6.15 Mae adran etholiadol bresennol Abercynon yn cynnwys Cymuned Abercynon ac mae ganddi 4,510 o etholwyr (rhagamcenir 4,226) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd. Mae hyn yn rhoi lefel gynrychiolaeth o 2,255 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 2% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Ynysybwl yn cynnwys Cymuned Ynysybwl a Choed-y-Cwm, ac mae ganddi 3,567 o etholwyr (rhagamcenir 3,367) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 3,567 o etholwyr fesul cynghorydd, 55% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft cynigiwyd cyfuno Cymunedau cyffiniol Abercynon ac Ynysybwl a Choed-y-Cwm i ffurfio adran etholiadol newydd gydag 8,077 (rhagamcenir 7,593) o etholwyr yn cael ei chynrychioli gan 3 cynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,692 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 17% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.16 Derbyniasom wrthwynebiadau gan Gyngor Cymuned Ynysybwl a Choed-y-Cwm, Christine Chapman AC, y Cynghorydd A Davies (Abercynon), y Cynghorydd B Arnold (Ynysybwl), Plaid Cymru yn Etholaeth Cwm Cynon, Cangen Ynysybwl o’r Lleng Brydeinig Frenhinol, Canolfan Gymunedol Ynysybwl, Partneriaeth Adfywio Ynysybwl ac 11 o drigolion Ynysybwl. Roedd Cyngor Cymuned Ynysybwl a Choed-y-Cwm yn gwrthwynebu’r cynnig yn gryf ar y sail eu bod yn teimlo y byddai’r gymuned yn colli’i hunaniaeth, a’i bod yn daith 20 milltir yn ôl a blaen i Abercynon, a oedd wedi’i wahanu gan fynydd. Gwnaethpwyd y pwynt gan Christine Chapman AC nad oedd unrhyw gysylltiadau hanesyddol rhwng y ddwy ardal, a bod ganddynt hunaniaethau cymunedol gwahanol, yn enwedig gan fod gan Ynysybwl ei gyngor cymuned ei hun, ac nad oes cyngor cymuned gan Abercynon. Roedd y Cynghorydd Davies yn gwrthwynebu gan dynnu sylw at yr anawsterau mynediad rhwng bob ardal, y ffaith fod Abercynon yn fawr iawn yn

- 20 -

ddaearyddol, a’r posibilrwydd y gallai cymunedau eraill deimlo’n flin yn wyneb yr annhegwch pe bai’n cyfuno ag Abercynon, a bod y cynghorwyr etholedig i gyd yn dod o’r un pentref. Roedd y Cynghorydd Arnold yn gwrthwynebu ar y sail nad oedd y cynnig yn ystyried bod cymunedau lleol yn cael eu cynrychiolaeth adnabyddadwy eu hunain, a chredai fod yr enw gweithredol Abercynon wedi ennyn llawer o ddicter ymhlith y cyhoedd; teimlai y byddai Ynysybwl yn colli’i hunaniaeth ac y byddai’n well ganddo gadw pethau fel ag y maent. Roedd Plaid Cymru yn Etholaeth Cwm Cynon yn gwrthwynebu ac yn credu y dylai pethau aros fel ag y maent. Dywedont fod y gostyngiad a ragwelir yn nifer yr etholwyr yn anghywir, a bod yr etholaeth yn fwy tebygol o barhau i gynyddu. Roedd y Lleng Brydeinig Frenhinol yn gwrthwynebu’r cyfuno, a chredai bod yr enw arfaethedig Abercynon yn sarhad i bobl Ynysybwl, ac y dylai’r Comisiwn ystyried topograffeg, hunaniaethau ar wahân a barnau a materion annibynnol y ddwy ardal. Roedd Canolfan Gymunedol Ynysybwl yn adleisio’r un syniadau â Chyngor Cymuned Ynysybwl a Choed-y- Cwm. Ysgrifennodd Partneriaeth Adfywio Ynysybwl i wrthwynebu’r cynigion drafft, ac ar ôl ymgynghori â thrigolion lleol, daeth i’r casgliad y gallai’r ffaith fod gan Abercynon 900 o etholwyr neu fwy nag Ynysybwl olygu y gallai Ynysybwl golli aelod o’r gymuned breswyl fel cynghorydd, a fyddai’n golygu y byddai cynghorwyr lleol yn anghyraeddadwy i gyfran sylweddol o’r gymuned. Ânt ymlaen i ddweud er bod Ynysybwl ar hyn o bryd 55% yn uwch na’r cyfartaledd sirol, oherwydd y dopograffeg ffafriol, nid yw’r cynghorydd presennol yn cael unrhyw anhawster delio â’r etholaeth. Nodant hefyd fod synnwyr cryf o gymuned a hunaniaeth gan Ynysybwl a Choed-y-Cwm, ac roeddent yn ofni y byddai hynny’n cael ei golli pe bai’n cyfuno ag Abercynon. Gwnaeth nifer o drigolion Ynysybwl bwyntiau fod y dirwedd, topograffeg, hanes, hunaniaeth a diwylliant ar wahân, bob un ohonynt yn diffinio dwy ardal wahanol Ynysybwl ac Abercynon. Maent yn ailadrodd y pwynt y byddai’n daith 20 milltir yn ôl ac ymlaen rhwng Ynysybwl ac Abercynon, heb unrhyw gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus uniongyrchol, a dangosant bryder y byddai Ynysybwl yn colli’i hunaniaeth. Awgrymodd tri o drigolion cyfuno Ynysybwl gyda Glyncoch (Pontypridd) gyda 2 gynghorydd yn eu cynrychioli.

6.17 Nodasom y gwrthwynebiadau i’r cynigion drafft ac ystyriasom y dystiolaeth a ddarparwyd yn y gynrychiolaeth ynglŷn â’r diffyg cysylltiadau cymunedol rhwng Ynysybwl ac Abercynon. Canfuom fod y dystiolaeth hon yn ddilys, ac yn yr amgylchiadau daethom i’r casgliad fod adran etholiadol bresennol Abercynon yn aros fel ag y mae gyda dau gynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,255 o etholwyr fesul cynghorydd, 2% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Cynigiwn fod yr enw Abercynon yn cael ei gadw ar gyfer yr adran etholiadol hon. O ran Ynysybwl, nodasom pe bai’n cael ei gynrychioli gan un cynghorydd, byddai ganddo lefel gynrychiolaeth o 3,567 o etholwyr fesul cynghorydd (55% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd) neu pe bai’n cael ei gynrychioli gan ddau gynghorydd, byddai ganddo lefel gynrychiolaeth o 1,783 o etholwyr fesul cynghorydd (22% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig). Nid yw’r un o’r lefelau hyn yn foddhaol o ran cydraddoldeb etholiadol. Roedd rhai o’r cynrychiolaethau’n awgrymu y gellid cyfuno Ynysybwl gyda Glyncoch yng Nghymuned Pontypridd, ar y sail bod cysylltiadau rhwng y ddwy ardal, ac rydym yn unol â hynny wedi ystyried y cynllun arfaethedig hwn. Mae Ynysybwl wedi’i gysylltu trwy brif ffordd â Glyncoch (Heol Ynysybwl), ac mae Coed-y-Cwm (sy’n rhan o gymuned Ynysybwl a Choed-y-Cwm sy’n rhan o adran etholiadol bresennol Ynysybwl) wedi’i gysylltu’n uniongyrchol gan yr un ffordd â Glyncoch. Er budd

- 21 -

llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, cynigiwn gyfuno Ynysybwl a Glyncoch a fydd â 5,542 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan 2 gynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,771 o etholwyr fesul cynghorydd, 20% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 2,304. Mae rhagamcaniadau’n awgrymu gostyngiad yn nifer yr etholwyr a fyddai’n dod â’r lefel gynrychiolaeth i lawr i 2,617 o etholwyr fesul cynghorydd, a fyddai 13% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Cynigiwn mai enw’r adran etholiadol fydd Ynysybwl, Coed-y-Cwm a Glyncoch.

Dwyrain Aberdâr a Gorllewin Aberdâr / Llwydcoed

6.18 Mae adran etholiadol bresennol Dwyrain Aberdâr yn cynnwys hen ward Cyngor Dosbarth Dwyrain Aberdâr sydd â 5,117 o etholwyr (rhagamcenir 4,976) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd. Mae hyn yn rhoi lefel gynrychiolaeth o 2,559 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 11% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Gorllewin Aberdâr / Llwydcoed yn cynnwys hen ward Cyngor Dosbarth Gorllewin Aberdâr (6,128 o etholwyr, rhagamcenir 5,790) a Chymuned Llwydcoed (1,032 o etholwyr, rhagamcenir 1,172) gyda chyfanswm o 7,160 o etholwyr (rhagamcenir 6,962) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd. Mae hyn yn rhoi lefel gynrychiolaeth o 2,387 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 4% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, ystyriasom (yn 4.8 uchod) yr anghysondeb a achosir gan y ffaith nad yw Cymuned Aberdâr wedi’i rhannu yn wardiau cymunedol. Ystyriasom gyfuno adrannau etholiadol Dwyrain Aberdâr a Gorllewin Aberdâr / Llwydcoed i ffurfio adran etholiadol gyda chyfanswm o 12,227 (rhagamcenir 11,938) o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan 5 cynghorydd, gan arwain at lefel gynrychiolaeth o 2,445 o etholwyr fesul cynghorydd, 7% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.19 Derbyniasom wrthwynebiadau gan Christine Chapman AC, y Cynghorydd S Bradwick (Dwyrain Aberdâr), y Cynghorydd A Crimmings (Gorllewin Aberdâr / Llwydcoed), y Cynghorydd M Forey (Dwyrain Aberdâr), Plaid Lafur Dwyrain Aberdâr, Plaid Lafur Gorllewin Aberdâr a Llwydcoed a Phlaid Cymru yn Etholaeth Cwm Cynon. Gwnaeth Christine Chapman AC y pwynt fod creu ‘arch ward’ ar gyfer Aberdâr yn golygu y byddai’n amhosibl i gynghorwyr lleol gynrychioli’r holl gymunedau ynddynt yn effeithiol, gan fod gan bob un ohonynt eu hunaniaeth eu hunain. Gwnaeth y Cynghorwyr Bradwick, Forey a Crimmings bwyntiau tebyg, sef y byddai’r adran arfaethedig yn rhy fawr, gyda nifer o gymunedau gwahanol sy’n gofyn am gynrychiolaeth ar gyfer materion gwahanol. Soniwyd ganddynt hefyd fod topograffeg yr ardal yn ei gwneud hi’n anodd ymweld ag etholwyr ym mhob un o’r ardaloedd. Roedd gwrthwynebiadau canghennau Plaid Lafur Dwyrain Aberdâr a Gorllewin Aberdâr / Llwydcoed yn cyfeirio, yn gryno, at: byddai mabwysiadu’r cynigion hyn yn arwain at ward rhy fawr o lawer, a fyddai’n gosod gofynion gormodol ar gynrychiolwyr etholedig; byddai’r cynnig yn nifer y cynghorwyr yn gwneud yr etholaeth yn fwy pellennig oddi wrth yr aelodau etholedig; ac roedd yn methu ag ystyried y gwahaniaethau nodedig rhwng y pentrefi a’r cymunedau yn yr ardal. Rhoesom ystyriaeth i’r ddadl y byddai’r adran ganlyniadol yn rhy fawr yn ddaearyddol, ond nodasom mewn gwirionedd fod yr etholwyr yn yr adran arfaethedig yn byw o fewn ardal sy’n 2.4 milltir o hyd, ac yn 3.3 milltir ar ei lletaf, yn gyffredinol mae’n dilyn y ffordd ar ffurf rhuban ar lawr y dyffryn. Nid ystyriwn fod

- 22 -

hyn yn ardal rhy fawr. Dangosodd Plaid Cymru Etholaeth Cwm Cynon bryder ynghylch maint mawr yr adran arfaethedig, ond cydnabu fod y trefniadau presennol yn anfoddhaol, tra’n gresynu hefyd fod gan y Comisiwn gyn lleied o le i symud. Roeddent yn cefnogi cadw’r cyswllt rhwng Llwydcoed a Gorllewin Aberdâr. Roedd un o drigolion Aberdâr yn cefnogi’r cynnig.

6.20 Nodasom y gwrthwynebiadau ac roeddem o’r farn mai prif ffocws y gwrthwynebiad oedd maint daearyddol mawr yr adran arfaethedig, a’r lefel gynrychiolaeth â 5 cynghorydd. Er bod cyfanswm o 5 cynghorydd yn cynrychioli’r etholaeth gan yr ardaloedd dan sylw ar hyn o bryd, mae’n rhaid i ni roi sylw i’r anghysondeb a achosir gan y ffaith nad oes Cyngor Cymuned gan gymuned Aberdâr, ac felly nid yw wedi’i rhannu yn wardiau cymunedol (fel y nodir yn 4.8 uchod). Fodd bynnag, mae Aberdâr wedi’i rannu yn adrannau etholiadol y Gogledd a’r De ar sail yr hen wardiau cyngor dosbarth a gafodd eu diddymu ym 1996. Mae’n rhaid i ni gydymffurfio â’r rheol sef bod ‘unrhyw gymuned na rennir yn wardiau cymunedol yn gorwedd yn gyfan gwbl y tu mewn i adran etholiadol unigol.’ Gan nad yw Aberdâr wedi’i rannu yn wardiau cymunedol, yna mae’r ffaith fod y gymuned wedi’i rhannu yn ddwy adran etholiadol ar wahân yn anghyson a rhaid unioni hyn gan drefniant sy’n eu gosod yn yr un adran.

6.21 Nodasom nad oes unrhyw gysylltiadau ffyrdd amlwg sy’n awgrymu ardal amgen y gellid cyfuno Llwydcoed â hi ond, ar yr un pryd, pe bai Llwydcoed yn mynd yn adran ar wahân, byddai hyn yn anfoddhaol (1,032 o etholwyr) o ran cydraddoldeb etholiadol. Fel yr esboniwyd eisoes, mae Dwyrain Aberdâr a Gorllewin Aberdâr yn creu anghysondeb ar hyn o bryd, ac mae angen dod o hyd i drefniant er mwyn eu gosod yn yr un ardal etholiadol. Felly, gan fod Llwydcoed ac Aberdâr wedi’u cysylltu gan Heol Llwydcoed sy’n arwain oddi ar yr A4059, cynigiwn er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus y dylid dwyn y cynnig drafft sy’n cyfuno Dwyrain Aberdâr a Gorllewin Aberdâr / Llwydcoed yn ei flaen. Byddai hyn yn rhoi etholaeth gyfunol o 12,277 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan 5 cynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,455 o etholwyr fesul cynghorydd, a fyddai 7% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Mae’r ffigurau rhagamcanol yn awgrymu y bydd gostyngiad yn nifer yr etholwyr yn yr ardal i 11,938, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,388 o etholwyr fesul cynghorydd, 3% yn uwch na’r cyfartaledd sirol rhagamcanol, sef 2,356. Cynigiwn yr enw Aberdâr a Llwydcoed i’r adran etholiadol.

6.22 Ym marn y Comisiwn roedd gosod Dwyrain Aberdâr a Gorllewin Aberdâr yn yr un adran yn anochel, ac roedd Llwydcoed eisoes wedi’i gyfuno â Gorllewin Aberdâr. Mae nifer y cynghorwyr o dan y cynllun hwn yr un fath ag o dan y trefniadau presennol (5). Gwyddwn fod cysylltiadau cymunedol eisoes yn bodoli rhwng Llwydcoed a Gorllewin Aberdâr gan eu bod ar hyn o bryd yn cynnwys adran etholiadol Gorllewin Aberdâr / Llwydcoed. Hefyd, mae gwelliant o ran cydraddoldeb etholiadol, a chan fod ffigurau rhagamcanol yn awgrymu gostyngiad yn nifer yr etholwyr yn yr ardal hon, bydd lefel y cydraddoldeb etholiadol yn gwella ymhellach ymhen amser.

- 23 -

Beddau a Thref Llantrisant

6.23 Mae adran etholiadol bresennol Beddau yn cynnwys ward Beddau yng Nghymuned Llantrisant, ac mae ganddi 3,232 o etholwyr (rhagamcenir 3,418) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 3,232 o etholwyr fesul cynghorydd, 40% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Tref Llantrisant yn cynnwys ward y Dref yng Nghymuned Llantrisant ac mae ganddi 3,726 o etholwyr (rhagamcenir 4,114) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 3,762 o etholwyr fesul cynghorydd, 62% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft cynigiwyd cyfuno ward Beddau a ward y Dref yng Nghymuned Llantrisant i ffurfio adran etholiadol â 6,598 o etholwyr (rhagamcenir 7,532) yn cael ei chynrychioli gan 3 chynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,319 o etholwyr fesul cynghorydd, 1% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.24 Derbyniasom wrthwynebiad gan Blaid Lafur Wardiau Beddau a Tyn-y-nant a ddywedodd na allent gefnogi’r cynnig gan fod gan bentref Beddau, sy’n cynnwys Tyn-y-nant, ei hunaniaeth ei hun ar wahân i Lantrisant, ac ni fyddai rhannu Beddau o Dyn-y-nant yn gwneud synnwyr. Fodd bynnag, cynigiwyd dau awgrym amgen ganddynt. Y cyntaf fyddai cyfuno Tref Llantrisant, Beddau a Thyn-y-nant, a’r cynnig arall fyddai gadael Tref Llantrisant ar ei phen ei hun a chyfuno Beddau a Thyn-y- nant. Dywedont y byddai’r ddau awgrym yn adlewyrchu’r cysylltiadau cymunedol yn well, am fod pentref Beddau yn cynnwys Tyn-y-nant ac mae ganddo ei hunaniaeth yn annibynnol ar Lantrisant, er bod y cyfleusterau yn Llantrisant yn cael eu defnyddio gan drigolion yr adrannau etholiadol eraill. Roedd un o drigolion Pontypridd yn cefnogi’r cynnig drafft, a dywedodd oherwydd bod Beddau yn fwy na Llantrisant, dylid ei enwi yn Beddau.

6.25 Nodasom y gwrthwynebiad ac ystyriasom yr awgrymiadau amgen a wnaed. Mae’r cynrychiolaethau’n awgrymu bod synnwyr o gymuned rhwng y ddwy ardal, ac mae pob un ohonynt o fewn Cymuned Llantrisant. Mae adran etholiadol bresennol Tyn- y-nant yn cynnwys ward Tyn-y-nant yng Nghymuned Llantrisant ac mae ganddi 2,578 o etholwyr (rhagamcenir 2,726) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,578 o etholwyr fesul cynghorydd, 12% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol a’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Cynigiwn felly, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, cyfuno adrannau etholiadol Beddau a Thyn-y-nant i ffurfio un adran etholiadol â 5,810 o etholwyr (rhagamcenir 6,114) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 1,937 o etholwyr fesul cynghorydd, 16% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 2,304. Enw’r adran etholiadol fydd Beddau a Tyn-y-nant. Ystyriwn fod gwelliant o ran cydraddoldeb etholiadol gan y bydd cynnydd yn nifer yr aelodau etholedig sy’n cynrychioli’r ardal. Mae’r ffigurau rhagamcanol yn awgrymu y bydd cynnydd yn nifer yr etholwyr yn yr ardal a fydd yn dod â’r lefel gynrychiolaeth i fyny i 2,038 o etholwyr fesul cynghorydd, a fydd 12% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

Pentre’r Eglwys a Thon-teg

6.26 Mae adran etholiadol bresennol Pentre’r Eglwys yn cynnwys ward Pentre’r Eglwys yng Nghymuned Llanilltud Faerdref, ac mae ganddi 3,435 o etholwyr (rhagamcenir

- 24 -

3,632) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 3,435 o etholwyr fesul cynghorydd, 49% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Ton-teg yn cynnwys ward Ton- teg yng Nghymuned Llanilltud Faerdref ac mae ganddi 3,408 o etholwyr (rhagamcenir 3,603) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd, â lefel gynrychiolaeth o 1,704 o etholwyr fesul cynghorydd, sydd 26% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft cynigiwyd cyfuno’r ddwy ward yng Nghymuned Llanilltud Faerdref i ffurfio adran etholiadol â 6,843 o etholwyr (rhagamcenir 7,235) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,281 o etholwyr fesul cynghorydd, 1% yn is na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.27 Derbyniasom wrthwynebiad gan Gyngor Cymuned Llanilltud Faerdref a ategwyd gan Jane Davidson AC. Roedd y gwrthwynebiad ar y sail y byddai pentref Ton-teg yn colli hunaniaeth, ac y dylai Pentre’r Eglwys a Thon-teg aros ar wahân gyda 2 gynghorydd yr un. Dywedont fod y ddwy ardal yn gymunedau diffiniadwy ac roeddent o’r farn ei bod yn amhriodol awgrymu newidiadau ar sail fformwlâu mathemategol. Roedd y Cynghorydd G Bunn (Ton-teg) yn gweld rhinwedd yn y cynnig, ac nid oedd y Cynghorydd J David (Ton-teg) a’r Cynghorydd G Stacey (Ton-teg) yn gwrthwynebu’r cynnig, ond yn awgrymu y dylai enw’r adran etholiadol adlewyrchu’r cymunedau ynddi, ac y dylid ei henwi yn Pentre’r Eglwys a Thon-teg.

6.28 Nodasom y gwrthwynebiad i’r cynnig hwn, sef y byddai hunaniaeth yn cael ei cholli yn sgil cyfuno Pentre’r Eglwys a Thon-teg, ond ei fod yn adlewyrchu bod ac y bydd y ddwy ardal yn aros yn bentrefi ar wahân gyda’u hunaniaeth a’u henw eu hunain, ac nad oedd y gwrthwynebiad yn gwrthbwyso’r fantais sylweddol iawn a fyddai’n deillio o’n cynnig o ran gwell cydraddoldeb etholiadol. Yn ychwanegol at hyn, nodasom fod 1 cynghorydd yn cefnogi’r cynnig, a bod 2 gynghorydd arall heb ddatgan unrhyw wrthwynebiadau penodol i’r cynnig ac eithrio newid enw. Mae’r ddwy ardal yn wardiau yn yr un gymuned, sef Llanilltud Faerdref, felly mae ganddynt gysylltiadau cymunedol yn barod. Cynigiwn felly, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, y dylai’r trefniadau etholiadol gael eu newid fel y cynigir yn ein hadroddiad Cynigion Drafft gyda 6,843 o etholwyr (rhagamcenir 7,235) yn cael eu cynrychioli gan 3 chynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,281 o etholwyr fesul cynghorydd, 1% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Cynigiwn mai enw’r adran etholiadol fydd Pentre’r Eglwys a Thon- teg.

Glynrhedynog a Tylorstown

6.29 Mae adran etholiadol bresennol Glynrhedynog yn cynnwys Cymuned Glynrhedynog ac mae ganddi 3,200 o etholwyr (rhagamcenir 3,072) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd. Mae hyn yn rhoi lefel gynrychiolaeth o 1,600 o etholwyr fesul cynghorydd, 31% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Tylorstown yn cynnwys Cymuned Tylorstown, ac mae ganddi 3,196 o etholwyr (rhagamcenir 3,074) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd, sy’n rhoi lefel gynrychiolaeth o 1,598 o etholwyr fesul cynghorydd, 31% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft cynigiwyd cyfuno adrannau etholiadol

- 25 -

Glynrhedynog a Tylorstown i ffurfio adran etholiadol â 6,396 o etholwyr (rhagamcenir 6,146) yn cael ei chynrychioli gan 3 chynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,132 o etholwyr fesul cynghorydd, 7% yn is na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.30 Derbyniasom nifer o wrthwynebiadau i’r cynnig. Roedd y Cynghorydd A Davies (Glynrhedynog) yn gwrthwynebu’r cyfuno am resymau daearyddol, gan y teimlai fod cysylltiad agosach rhwng Maerdy a Glynrhedynog, a chredai ei bod yn fwy buddiol cyfuno’r adrannau hynny yn eu lle. Roedd Plaid Lafur Ward Tylorstown yn gwrthwynebu’r cynnig yn gryf gan ddweud mai eu prif bwyntiau dros wrthwynebu oedd y ffaith fod Tylorstown yn ardal Cymunedau yn Gyntaf ac yn derbyn cyllid ar gyfer hynny, yn ychwanegol at gyllid yn sgil bod yn safle 11eg ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Roeddent yn ofni y gallai cyfuno gyda Glynrhedynog golli cyllid hanfodol i Tylorstown. Cododd un o drigolion y Porth bryder tebyg ynghylch y ffaith fod Tylorstown yn ardal dan anfantais, ac awgrymodd hefyd y dylid defnyddio’r enw amgen Pendyrys pe bai’r uno’n mynd rhagddo. Ategodd un o drigolion Tonypandy’r pwyntiau a wnaed yn flaenorol ynglŷn â Thylorstown.

6.31 Nodasom y cynrychiolaethau yn gwrthwynebu’r cynnig i gyfuno Glynrhedynog a Tylorstown. Mae’r trefniadau etholiadol presennol sy’n effeithio ar Tylorstown yn anfoddhaol o ran cydraddoldeb etholiadol (a byddent yn parhau’n anfoddhaol pe bai’r lefel gynrychiolaeth yn gostwng i un cynghorydd), ac mae’r Comisiwn yn fodlon ei bod yn angenrheidiol mynd i’r afael â’r amrywio hwn. Wrth geisio sicrhau’r canlyniad gorau i’r ardal hon, a chan ystyried y rhesymau y tu ôl i’r gwrthwynebiadau, ystyriasom fod Tylorstown yn lle hynny yn cael ei gyfuno ag Ynyshir, sydd hefyd yn ardal o amddifadedd â safle uchel ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, felly mae’r ddwy ardal yn rhannu ffactor cyffredin. Ar hyn o bryd mae gan Ynyshir 2,457 o etholwyr a gynrychiolir gan aelod unigol, sy’n rhoi lefel gynrychiolaeth o 2,457 o etholwyr fesul cynghorydd, 7% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol. Cynigiwn felly, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, fod adrannau etholiadol Tylorstown ac Ynyshir yn cael eu cyfuno, gyda chyfanswm o 5,653 o etholwyr (rhagamcenir 5,368) yn cael eu cynrychioli gan 2 gynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,827 o etholwyr fesul cynghorydd, 23% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Fodd bynnag, mae’r rhagamcaniadau yn dangos gostyngiad yn nifer yr etholwyr ar gyfer yr ardal hon a fyddai’n arwain at etholaeth â 5,368 o etholwyr, a lefel gynrychiolaeth o 2,684 o etholwyr fesul cynghorydd, 14% yn uwch na’r cyfartaledd sirol rhagamcanol. Cynigiwn mai enw’r adran etholiadol fydd Tylorstown ac Ynyshir.

6.32 Yn yr un modd, mae’r trefniadau etholiadol presennol sy’n effeithio ar Glynrhedynog yn anfoddhaol o ran cydraddoldeb etholiadol (a byddent yn parhau’n anfoddhaol pe bai’r lefel gynrychiolaeth yn gostwng i un cynghorydd), ac mae’r Comisiwn yn fodlon ei bod yn angenrheidiol mynd i’r afael â’r amrywio hwn. Ystyriasom, fel yr awgrymwyd, y gellid cyfuno Glynrhedynog â Maerdy gan y dywedwyd yn barod eu bod yn rhannu mwy o gysylltiadau cymunedol. Byddai’r opsiwn hwn yn sicrhau mwy o gydraddoldeb etholiadol tra’n cyfuno dwy ardal sy’n debyg o ran natur a chymuned. Ar hyn o bryd mae gan Maerdy 2,391 o etholwyr a gynrychiolir gan aelod unigol, sy’n rhoi lefel gynrychiolaeth o 2,391 o etholwyr fesul cynghorydd, 4% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol. Cynigiwn felly er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus fod adrannau etholiadol Glynrhedynog a Maerdy yn cael eu

- 26 -

cyfuno gyda chyfanswm o 5,591 o etholwyr (rhagamcenir 5,367) yn cael eu cynrychioli gan 2 gynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,796 o etholwyr fesul cynghorydd, 21% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Fodd bynnag, mae’r rhagamcaniadau yn dangos gostyngiad yn nifer yr etholwyr ar gyfer yr ardal hon a fyddai’n arwain at etholaeth â 5,367 o etholwyr, a lefel gynrychiolaeth o 2,684 o etholwyr fesul cynghorydd, 15% yn uwch na’r cyfartaledd sirol rhagamcanol. Cynigiwn mai enw’r adran etholiadol fydd Glynrhedynog a Maerdy.

Y Ddraenen Wen a Ffynnon Taf

6.33 Mae adran etholiadol bresennol y Ddraenen Wen yn cynnwys wardiau'r Ddraenen Wen (1,616 o etholwyr, rhagamcenir 1,941) a Rhydfelin Isaf (1,165 o etholwyr, rhagamcenir 1,399) yng Nghymuned Pontypridd, ac mae ganddi 2,781 o etholwyr (rhagamcenir 3,340) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,781 o etholwyr fesul cynghorydd, 21% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Ffynnon Taf yn cynnwys Cymuned Ffynnon Taf, ac mae ganddi 2,716 o etholwyr (rhagamcenir 3,263) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,716 o etholwyr fesul cynghorydd, 18% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft cynigiwyd cyfuno adrannau etholiadol y Ddraenen Wen a Ffynnon Taf i ffurfio adran etholiadol newydd gyda 5,497 o etholwyr (rhagamcenir 6,603) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 1,832 o etholwyr fesul cynghorydd, 20% yn is na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.34 Derbyniasom wrthwynebiadau gan Gyngor Cymuned Ffynnon Taf a oedd eisiau i’r adran etholiadol aros fel ag y mae gan ei bod yn ardal hanesyddol â’i hunaniaeth ei hun; roeddent yn sylweddoli na fyddai hynny’n bosibl efallai, ond cynigiwyd enw arall ganddynt, sef Taf Isaf, ar gyfer yr adran pe bai’r cyfuno’n mynd rhagddo. Roedd y Cynghorydd T Bates (y Ddraenen Wen) yn gwrthwynebu’r cyfuno gan y byddai’n ei gwneud yn anoddach i etholwyr allu mynd at eu cynghorydd pe bai 3 ohonynt. Awgrymodd ddau ddewis amgen, y cyntaf yn golygu newid i’r ffin a’r llall i ychwanegu y Ddraenen Wen at Rhydfelin, gan yr oedd hefyd yn gwrthwynebu cyfuno adran Rhydfelin â Threfforest. Roedd y Cynghorydd G Bunn (Ton-teg) yn gwrthwynebu cyfuno y Ddraenen Wen â Ffynnon Taf a dywedodd eu bod yn wahanol ym mhob ffordd, a bod Ffynnon Taf yn bwysig yn hanesyddol ynddo’i hun. Roedd un o drigolion Ffynnon Taf yn gwrthwynebu’r ffaith nad oedd yr enw Ffynnon Taf yn ymddangos yn enw’r adrannau etholiadol arfaethedig. Awgrymodd ddau enw amgen, sef Taff’s Well and District neu Ffynnon Daf y Fro.

6.35 Nodasom y gwrthwynebiadau i’r cynigion drafft ac ystyriasom, oherwydd y gwrthwynebiad gan Ffynnon Taf a’r aelod o’r Ddraenen Wen, a’r angen i aildrefnu’r adrannau o fewn ardal Pontypridd, cynigiwn fod adran etholiadol bresennol Ffynnon Taf yn aros fel ag y mae gydag 1 cynghorydd, a chynigiwn fod yr enw ar gyfer yr adran hon yn aros fel ag y mae, sef Ffynnon Taf. Bydd ganddi 2,716 o etholwyr yn cael eu cynrychioli gan aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,716 o etholwyr fesul cynghorydd, 18% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 2,304.

6.36 Ystyriasom hefyd gan fod Ffynnon Taf i aros yn adran etholiadol ar ei phen ei hun, y gellid cyfuno adran etholiadol y Ddraenen Wen gydag adran etholiadol Canol

- 27 -

Rhydfelin/Ilan fel yr awgrymwyd gan gynghorydd y Ddraenen Wen. Ar hyn o bryd mae gan adran etholiadol Canol Rhydfelin / Ilan 3,084 o etholwyr a gynrychiolir gan 1 cynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 3,084 o etholwyr fesul cynghorydd, 34% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,304. Byddai cyfuno’r ddwy adran hon yn gwella’r cydraddoldeb etholiadol yn yr ardal, a byddai’n golygu hefyd fod yr adran yn cynnwys wardiau o’r un Gymuned (Pontypridd) yn unig, sydd â chysylltiadau naturiol. Cynigiwn felly er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus fod adrannau etholiadol y Ddraenen Wen a Chanol Rhydfelin / Ilan yn cael eu cyfuno gyda chyfanswm o 5,865 o etholwyr (rhagamcenir 7,044) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 1,955 o etholwyr fesul cynghorydd, 15% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 2,335. Mae’r rhagamcaniadau’n awgrymu cynnydd sylweddol yn nifer yr etholwyr i 7,044, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,348 o etholwyr fesul cynghorydd, a fydd 1% yn uwch na’r cyfartaledd sirol rhagamcanol, sef 2,304. Mae hyn yn dod â 4 o wardiau ynghyd yng Nghymuned Pontypridd, mae’n bodloni’r amcanion ynglŷn â Ffynnon Taf yn aros yn adran ar ei phen ei hun, ac mae hefyd yn cynyddu’r aelodau etholedig ar gyfer yr ardal o un, gan arwain at gydraddoldeb etholiadol gwell. Cynigiwn mai enw’r adran etholiadol fydd De Pontypridd.

Llanharan a Brynna

6.37 Mae adran etholiadol bresennol Llanharan yn cynnwys ward Llanharan yng Nghymuned Llanharan ac mae ganddi 2,434 o etholwyr (rhagamcenir 2,687) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,434 o etholwyr fesul cynghorydd, 6% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Brynna yn cynnwys wardiau Brynna (2,119 o etholwyr, rhagamcenir 2,339) a Llanilid yng Nghymuned Llanharan, ac mae ganddi 2,919 o etholwyr (rhagamcenir 3,223) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,919 o etholwyr fesul cynghorydd, 27% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft cynigiwyd cyfuno tair ward gyffiniol Llanharan, Brynna a Llanilid yng nghymuned Llanharan i ffurfio adran etholiadol â 5,353 o etholwyr (rhagamcenir 5,910) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,677 o etholwyr fesul cynghorydd, 9% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.38 Derbyniasom wrthwynebiadau gan y Cynghorydd K Turner (Brynna) a 5 o drigolion Brynna, yn nodi’n bennaf fod y system fel ag y mae yn gweithio’n dda, gan fod y cynghorydd yn uniongyrchol atebol i’r etholwyr, ac roedd awgrym hefyd am newid i’r ffin rhwng y ddwy adran etholiadol. Derbyniasom 2 gynrychiolaeth o gefnogaeth gan y Cynghorydd B Stephens a’r Cynghorydd J Williams o Gyngor Cymuned Llanharan yn dweud y byddai’r adran etholiadol arfaethedig yn adlewyrchu ardal y Cyngor Cymuned, a bod y Cynghorwyr Sir ar hyn o bryd yn gwneud penderfyniadau cyfunol ac yn gwasanaethu’r cyngor cymuned. Dywedant hefyd fod yr ardaloedd yn gweithio’n agos â’i gilydd a’u bod yn rhannu 9 o gyfleusterau ac amwynderau yn yr ardal gyfan. Roeddent o’r farn fod y cyfuno’n ddilyniant naturiol ac y byddai gan unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol fwy o siawns o lwyddo yn sgil bod â llais cryfach, a byddai’n gwella’r gymuned leol ar gyfer y dyfodol.

- 28 -

6.39 Nodasom y gwrthwynebiad i’r cynnig ac ystyriasom nad oedd yn wrthwynebiad arbennig o ddilys gan fod y ddwy adran ar hyn o bryd yn ffurfio cymuned Llanharan gyfan, ac mae cysylltiadau cymunedol amlwg. Yn ychwanegol at hyn, nodasom fod 2 o gynghorwyr cymuned yn cefnogi’r cynnig. Mae’r ddwy ardal yn wardiau yn yr un gymuned, sef Llanilltud Faerdref, felly mae ganddynt gysylltiadau cymunedol cryf yn barod, ac maent yn rhannu cyfleusterau. Cynigiwr felly, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, fod yr adran etholiadol yn aros fel y nodir yn yr adroddiad Cynigion Drafft, gyda 5,353 electors (rhagamcenir 5,910) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,677 o etholwyr fesul cynghorydd, 16% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Cynigiwn mai enw’r adran etholiadol fydd Llanharan.

Llwyn-y-pia a Threalaw

6.40 Mae adran etholiadol bresennol Llwyn-y-pia yn cynnwys Cymuned Llwyn-y-pia ac mae ganddi 1,697 o etholwyr (rhagamcenir 1,652) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 1,697 o etholwyr fesul cynghorydd, 26% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Trealaw yn cynnwys Cymuned Trealaw ac mae ganddi 2,987 o etholwyr (rhagamcenir 2,906) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,987 o etholwyr fesul cynghorydd, 30% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft cynigiwyd cyfuno dwy adran etholiadol gyffiniol Llwyn-y-pia a Threalaw sydd â 4,684 o etholwyr (rhagamcenir 4,558) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,342 o etholwyr fesul cynghorydd, 2% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.41 Derbyniasom un gynrychiolaeth yn cefnogi ac un yn gwrthwynebu’r cynigion drafft. Roedd y Cynghorydd C Ludlow (Trealaw) yn gwrthwynebu’r cyfuno’n gryf gan ddweud na allai weld mantais y newid os oedd nifer gyfunol y cynghorwyr yn aros yr un fath. Roedd un o drigolion y Porth yn cefnogi’r cynigion ac awgrymodd enw amgen, sef Ynyscynon, ar gyfer yr adran, gan mai yma y mae’r ddwy gymuned yn cyfarfod.

6.42 Mae’r trefniadau etholiadol presennol sy’n effeithio ar Lwyn-y-pia a Threalaw yn anfoddhaol o ran cydraddoldeb etholiadol (a byddent yn parhau’n anfoddhaol pe bai’r lefel gynrychiolaeth yn cynyddu i ddau gynghorydd ym mhob adran), ac mae’r Comisiwn yn fodlon ei bod yn angenrheidiol mynd i’r afael â’r amrywio hwn. Rydym wedi rhoi ystyriaeth ofalus i’r gwrthwynebiad a godwyd yn erbyn y cynnig hwn, sef nad oedd unrhyw fudd pe bai’r nifer yn aros yr un fath (2). Ein hateb i’r gwrthwynebiad hwn yw mai’r fantais yw y bydd gwelliant sylweddol iawn o ran cydraddoldeb etholiadol. Cynigiwn felly fod y ddwy adran yn cael eu cyfuno fel yr awgrymwyd yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, ac mai enw’r adran etholiadol fydd Ynyscynon fel yr awgrymwyd. Bydd gan yr adran gyfanswm o 4,684 o etholwyr (rhagamcenir 4,558) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,342 o etholwyr fesul cynghorydd, 2% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd.

- 29 -

Dwyrain Aberpennar, Gorllewin Aberpennar a Phenrhiwceibr

6.43 Mae gan adran etholiadol bresennol Dwyrain Aberpennar 2,232 o etholwyr (rhagamcenir 2,090) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,232 o etholwyr fesul cynghorydd, 3% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae gan adran etholiadol bresennol Gorllewin Aberpennar 3,176 o etholwyr (rhagamcenir 2,976) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd. Mae hyn yn rhoi lefel gynrychiolaeth o 1,588 o etholwyr fesul cynghorydd, 31% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Penrhiwceibr yn cynnwys Cymuned Penrhiwceibr ac mae ganddi 4,243 o etholwyr (rhagamcenir 3,975) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd. Mae hyn yn rhoi lefel gynrychiolaeth o 2,122 o etholwyr fesul cynghorydd, 8% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft ystyriasom (yn 4.25 uchod) yr anghysondeb a achosir gan y ffaith nad yw Cymuned Aberpennar wedi’i rhannu’n wardiau cymunedol. Ystyriasom gyfuno adrannau etholiadol Dwyrain Aberpennar a Gorllewin Aberpennar a Phenrhiwceibr i ffurfio adran etholiadol newydd i roi cyfanswm o 9,651 o etholwyr (rhagamcenir 9,041) yn cael ei chynrychioli gan 4 cynghorydd, gan arwain at lefel gynrychiolaeth o 2,413 o etholwyr fesul cynghorydd, 5% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.44 Derbyniasom nifer o gynrychiolaethau yn gwrthwynebu’r cynnig drafft. Credai’r Cynghorydd A Fox (Penrhiwceibr) y byddai cyfuno’n cael effaith negyddol, gan greu uwch ward. Dywedodd hefyd ei fod wedi siarad â sawl cant o etholwyr, bob un ohonynt yn gwrthwynebu’r cynnig. Ychwanegodd fod Penrhiwceibr yn adran o amddifadedd â’i hunaniaeth a’i phroblemau ei hun. Roedd y Cynghorydd J Ward (Penrhiwceibr) yn gwrthwynebu’r cyfuno hefyd, gan ddweud fod y tri phentref sy’n ffurfio’r gymuned yn unigryw, ac nad yw am golli’i hunaniaeth. Nododd ei bod yn ardal Cymunedau yn Gyntaf a chredai fod y trefniadau presennol yn gweithio’n dda, ac ychwanegodd y byddai cyfuno ag Aberpennar yn anodd yn dopograffig hefyd. Mynegodd Plaid Lafur Cangen Penrhiwceibr wrthwynebiad i’r cynnig, a dywedodd mai ychydig o ryngweithio oedd rhwng Penrhiwceibr ac Aberpennar, a’i fod yn bentref annibynnol. Teimlent y byddai’r adran arfaethedig yn rhy fawr, ac roeddent yn gwrthwynebu’r enw. Cafwyd gwrthwynebiad gan Blaid Cymru yn Etholaeth Cwm Cynon i’r cyfuno, ond cydnabu ei bod yn ofynnol i Aberpennar fod mewn un adran etholiadol. Awgrymwyd adran gyfunol Aberpennar, gyda 3 aelod, ac adran Penrhiwceibr ar wahân, gyda 2 aelod. Roedd un o drigolion Preston yn cytuno fod y cynigion a roddwyd gerbron yn adroddiad Cynigion Drafft y Comisiwn yn cynnig y cyfuniad gorau, yn sgil yr effaith ganlyniadol y byddai cyfuniadau amgen yn ei chael ar ardaloedd cyfagos.

6.45 Nodasom y gwrthwynebiadau, a daethom i’r casgliad mai ffocws y gwrthwynebiad oedd topograffeg, maint yr adran a’r gwahaniaethau cymdeithasol ac economaidd rhwng y ddwy ardal. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â’r anghysondeb a achosir gan y ffaith nad oes Cyngor Cymuned gan gymuned Aberpennar, ac felly nid yw wedi’i rhannu’n wardiau cymunedol (fel y nodir yn 4.25 uchod). Fodd bynnag, mae cymuned Aberpennar wedi’i rhannu’n ddwy adran etholiadol, sef Dwyrain Aberpennar a Gorllewin Aberpennar ar sail yr hen wardiau cyngor dosbarth a gafodd eu diddymu ym 1996. Mae’n rhaid i ni gydymffurfio â’r rheol sef

- 30 -

bod ‘unrhyw gymuned na rennir yn wardiau cymunedol yn gorwedd yn gyfan gwbl y tu mewn i adran etholiadol unigol.’ Gan nad yw Aberpennar wedi’i rannu yn wardiau cymunedol, yna mae’r ffaith fod y gymuned wedi’i rhannu yn ddwy adran etholiadol ar wahân yn anghyson a rhaid unioni hyn gan drefniant sy’n gosod y ddwy ardal yn yr un adran.

6.46 Rhoesom ystyriaeth i’r gwrthwynebiadau a rhoddwyd gerbron, ond mae’n rhaid i ni fynd i’r afael ag anghysondeb Aberpennar. Cynigiwn felly, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, fod Dwyrain a Gorllewin Aberpennar yn cael eu cyfuno, gydag etholaeth o 5,408 (rhagamcenir 5,066) yn cael ei chynrychioli gan 2 gynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,704 o etholwyr fesul cynghorydd, 17% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 2,304. Gan edrych ar y rhagamcanion, bydd yr etholaeth yn gostwng i 5,066 a fyddai’n rhoi lefel gynrychiolaeth o 2,533 o etholwyr fesul cynghorydd, 9% yn uwch na’r cyfartaledd sirol rhagamcanol. Cynigiwn mai Aberpennar fydd enw’r adran etholiadol. Mae’r cynnig hwn yn lleihau nifer y cynghorwyr o 3 i 2, ond mae’n creu gwelliant o ran cydraddoldeb etholiadol. Cynigiwn hefyd fod Penrhiwceibr yn aros yn adran etholiadol ar ei phen ei hun, gyda 4,243 o etholwyr (rhagamcenir 3,975) yn cael ei chynrychioli gan 2 gynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,122 o etholwyr fesul cynghorydd, 8% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 2,304. Cynigiwn y bydd yr adran yn cadw’r enw Penrhiwceibr.

Y Rhigos a Hirwaun

6.47 Mae adran etholiadol bresennol y Rhigos yn cynnwys Cymuned y Rhigos sydd â 688 o etholwyr (rhagamcenir 631) a ward Penderyn yng Nghymuned Hirwaun sydd â 704 o etholwyr (rhagamcenir 645), gan roi cyfanswm o 1,392 o etholwyr (rhagamcenir 1,276) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 1,392 o etholwyr fesul cynghorydd, 40% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Hirwaun yn cynnwys ward Hirwaun yng Nghymuned Hirwaun sydd â 3,128 o etholwyr (rhagamcenir 2,963) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 3,128 o etholwyr fesul cynghorydd, 36% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiwyd cyfuno Cymunedau y Rhigos a Hirwaun i ffurfio adran etholiadol â 4,520 o etholwyr (rhagamcenir 4,239) yn cael ei chynrychioli gan 2 gynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,260 o etholwyr fesul cynghorydd, 2% yn is na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.48 Ni dderbyniasom unrhyw gynrychiolaethau yn gwrthwynebu’r cynigion. Derbyniwyd cynrychiolaeth gan Gyngor Cymuned Hirwaun a Phenderyn yn cytuno â’r cynnig i gyfuno’r ddwy adran etholiadol, a chan nodi na fyddai’r cyfuno’n effeithio ar y ddau Gyngor Cymuned o fewn yr adran arfaethedig. Awgrymwyd ganddynt hefyd rhoi’r enw Hirwaun, Penderyn a Rhigos ar yr adran etholiadol. Ysgrifennodd Plaid Cymru yn Etholaeth Cwm Cynon yn mynegi’r farn y gallai buddiannau y Rhigos a Phenderyn gael eu colli yn ardal fwy Hirwaun, ond roeddent yn cefnogi’r cynnig am ei fod yn mynd i’r afael â’r amrywio.

6.49 Nodasom y cynrychiolaethau ac ystyriasom gan nad oedd unrhyw wrthwynebiadau, roedd y cynnig yn gwella’r cydraddoldeb etholiadol ar gyfer yr ardal honno.

- 31 -

Cynigiwn felly, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, fod y cynnig drafft yn cael ei ddwyn yn ei flaen. Cynigiwn gyfuno Cymunedau y Rhigos a Hirwaun i ffurfio adran etholiadol â 4,520 o etholwyr (rhagamcenir 4,239) yn cael ei chynrychioli gan 2 gynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,260 o etholwyr fesul cynghorydd, 2% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Cynigiwn mai’r enw ar yr adran etholiadol fydd Hirwaun, Penderyn a Rhigos.

Rhondda a Glyncoch

6.50 Mae adran etholiadol bresennol Rhondda yn cynnwys ward Rhondda yng Nghymuned Pontypridd ac mae ganddi 3,279 o etholwyr (rhagamcenir 3,079) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd. Mae hyn yn rhoi lefel gynrychiolaeth o 1,640 o etholwyr fesul cynghorydd, 29% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Glyncoch yn cynnwys ward Glyncoch ward yng Nghymuned Pontypridd ac mae ganddi 1,975 o etholwyr (rhagamcenir 1,866) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 1,975 o etholwyr fesul cynghorydd, 14% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiwyd cyfuno wardiau Rhondda a Glyncoch yng Nghymuned Pontypridd i ffurfio adran etholiadol â 5,254 o etholwyr (rhagamcenir 4,945) yn cael ei chynrychioli gan 2 gynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2, 627 o etholwyr fesul cynghorydd, 7% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.51 Derbyniasom wrthwynebiadau gan Gyngor Tref Pontypridd, Dr Kim Howells, Christine Chapman AC, Jane Davidson AC, y Cynghorydd R Smith (Glyncoch), y Cynghorydd D Williams (Glyncoch), y Cynghorydd T Leyshon (Rhondda), Cangen Plaid Lafur Gogledd Ddwyrain Pontypridd, Plaid Cymru yn Etholaeth Cwm Cynon a thri o drigolion Rhondda Cynon Taf. Roedd Cyngor Tref Pontypridd yn cefnogi’r egwyddor o aildrefnu, ond roedd yn siomedig nad oedd y cynigion cyffredinol yn mynd ymhellach i leihau niferoedd y cynghorwyr. Awgrymwyd ganddynt hefyd y gellid cyfuno adrannau etholiadol Glyncoch a Phontypridd yn adran dau aelod. Mynegodd Dr Kim Howells bryder ynghylch y cynigion, am fod adrannau etholiadol Rhondda a Glyncoch yn perthyn i etholaethau seneddol gwahanol, ac er eu bod wedi’u cysylltu’n ffisegol ar gopa mynydd, roedd Tref Pontypridd yn eu gwahanol o ran mynediad. Roedd yn pryderu hefyd y byddai’r ardal, o’i chyfuno, yn colli cynghorydd. Ategodd Christine Chapman AC yr un pwyntiau a wnaed gan Dr Howells gyda’r ffaith nad oes unrhyw gysylltiadau hanesyddol gan y ddwy ardal. Cadarnhaodd Jane Davidson AC y sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd R Smith (Glyncoch) a oedd yn dadlau nad oedd y ddwy ardal yn rhannu cysylltiad cyffredin, ac mai ond ar gopa mynydd y maent yn cyffinio, ac nid yw’n hawdd mynd ato. Nododd hefyd fod yr adran etholiadol arfaethedig yn croesi ffiniau etholiadol a gallai achosi dryswch i’r etholaeth. Gwnaeth y Cynghorydd T Leyshon (Rhondda) a’r Cynghorydd D Williams (Glyncoch) bwyntiau tebyg ynghylch hunaniaethau ar wahân, problemau mynediad, diffyg clymau neu gysylltiadau cymunedol, y ffaith fod Glyncoch yn ardal Cymunedau yn Gyntaf a bod Rhondda ddim yn ardal felly, a ffiniau seneddol yn croesi. Codwyd y pwynt croesi ffin etholaeth Seneddol gan Blaid Cymru yn Etholaeth Cwm Cynon a Changen Plaid Lafur Gogledd Ddwyrain Pontypridd hefyd, a gwnaethpwyd awgrym i ailenwi Rhondda er mwyn adlewyrchu ei leoliad yn well o fewn Pontypridd. Gwnaeth tri o drigolion Rhondda Cynon Taf

- 32 -

bwyntiau tebyg i’r rhai uchod, a gwnaethpwyd awgrym i gynnwys Coed y Cwm o fewn Adran Etholiadol Glyncoch.

6.52 Mae’r cynnig eisoes wedi’i wneud (yn 6.17 uchod) fod adran etholiadol Glyncoch yn cael ei chyfuno ag adran Ynysybwl. Golygai hyn nad oedd y cynllun a roddwyd gerbron yn wreiddiol ar gyfer yr ardal hon yn ein Cynigion Drafft yn hyfyw mwyach. Fodd bynnag, nodasom hefyd y ffaith fod y trefniadau etholiadol presennol yn Rhondda yn anfoddhaol o ran cydraddoldeb etholiadol: pe bai Rhondda yn cael ei gynrychioli gan un cynghorydd, byddai ganddo lefel gynrychiolaeth 42% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol; a phe bai’n cael ei gynrychioli gan ddau gynghorydd, byddai ganddo lefel gynrychiolaeth 29% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol. Nid oedd yr un o’r ddau lefel yn foddhaol o ran cydraddoldeb etholiadol. Rydym felly wedi ystyried trefniadau amgen er mwyn cyflawni gwell cydraddoldeb etholiadol yn yr ardal hon, a chredwn y gellid cyfuno adran etholiadol Rhondda gydag adran etholiadol Graig er mwyn cyflawni cydraddoldeb gwell. Maent yn rhannu cysylltiadau ffordd da ac yn rhan o’r un gymuned, sef Cymuned Pontypridd. Ar hyn o bryd mae gan Graig 1,692 o etholwyr a gynrychiolir gan aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 1,692 o etholwyr fesul cynghorydd, 27% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,304. Felly, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, cynigiwn gyfuno adrannau etholiadol Rhondda a Graig, gyda 4,971 o etholwyr a gynrychiolir gan 2 gynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,486 o etholwyr fesul cynghorydd, 8% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 2,304. Cynigiwn mai enw’r adran etholiadol fydd Gorllewin Pontypridd.

Tonysguboriau a Phont-y-clun

6.53 Mae adran etholiadol bresennol Tonysguboriau yn cynnwys ward Tonysguboriau yng Nghymuned Llantrisant ac mae ganddi 1,992 o etholwyr (rhagamcenir 2,119) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 1,992 o etholwyr fesul cynghorydd, 14% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Pont-y-clun yn cynnwys Cymuned Pont-y-clun sydd â 6,022 o etholwyr (rhagamcenir 6,648) a gynrychiolir gan 2 gynghorydd. Mae hyn yn rhoi lefel gynrychiolaeth o 3,011 o etholwyr fesul cynghorydd, 31% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft cynigiwyd cyfuno ward Tonysguboriau yng Nghymuned Llantrisant ac adran etholiadol Pont-y-clun i ffurfio adran etholiadol ag 8,014 o etholwyr (rhagamcenir 8,767) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,671 o etholwyr fesul cynghorydd, 16% yn uwch na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.54 Derbyniasom wrthwynebiadau gan y Cynghorydd P Baccara (Tonysguboriau), y Cynghorydd Cymuned A Moss (gyda deiseb â 389 o lofnodion), Cangen Plaid Lafur De Orllewin Pontypridd, Pwyllgor Canolfan Gymunedol a Neuadd Pafiliwn Tonysguboriau a 21 o drigolion Tonysguboriau a Phont-y-clun. Roedd y Cynghorydd Baccara yn gwrthwynebu’r cyfuno ar y sail bod Tonysguboriau yn gymuned gyfan gwbl ar wahân heb unrhyw gysylltiadau cymdeithasol neu gymunedol â Phont-y-clun, gyda’i hamwynderau a’i gwasanaethau ei hun, ac awgrymodd cyfuno â Llantrisant yn lle hynny, gan fod ganddynt fwy yn gyffredin. Credai y byddai cysylltiadau â Llantrisant yn cael eu torri pe bai Tonysguboriau yn

- 33 -

cyfuno â Phont-y-clun. Amgaeodd y Cynghorydd Cymuned Moss ddeiseb yn gwrthwynebu’r cyfuno, gan ddatgan y byddai’n torri cysylltiadau cymunedol, ac y byddai ei synnwyr o hunaniaeth yn cael ei golli. Credai y byddai cynrychiolydd ar gyfer Tonysguboriau yn cael ei golli pe bai’n integreiddio â Phont-y-clun, ac ofnai y gellid ethol pob un o’r 3 chynghorydd o Bont-y-clun gan adael Tonysguboriau heb unrhyw gynrychiolydd lleol. Dywedodd Plaid Lafur Cangen De Orllewin Pontypridd y dylai pob adran fod yn adrannau aelod unigol yn hytrach nag adrannau aml- aelod. Roedd Pwyllgor Canolfan Gymuned a Neuadd Pafiliwn Tonysguboriau eisiau cadw’r status quo, gan fod y trefniadau presennol yn gweithio’n dda ac yn canolbwyntio ar anghenion Tonysguboriau, maent am gadw eu haelod unigol, a dywedont pe bai’r cynnig yn mynd rhagddo y byddai cysylltiadau cymunedol lleol hanfodol yn cael eu torri. Prif ffocws y gwrthwynebiad gan drigolion lleol oedd y byddai pob ardal yn colli’i hunaniaeth ei hun, nid oedd unrhyw gysylltiadau cymunedol go iawn rhwng y ddwy ardal, byddai’r adran yn rhy fawr i ymgeiswyr annibynnol ei chwmpasu, ac roeddent yn ofni y byddai Pont-y-clun yn meddiannu Llantrisant, sy’n llai. Fodd bynnag, roedd cefnogaeth i’r cynnig gan Blaid Lafur Wardiau Beddau a Tyn-y-nant a oedd yn croesawu’r cyfuno, gan fod y ddwy gymuned yn rhannu nodweddion tebyg ac roedd materion cynllunio strategol mawr yn effeithio ar y ddwy, mewn perthynas â materion manwerthu, diwydiannol a thai, roedd ardaloedd siopa mawr gan y ddwy gymuned, a theimlent nad oedd unrhyw rwystr naturiol penodol a oedd yn gwahanu’r ddwy ardal.

6.55 Rhoesom ystyriaeth i’r gwrthwynebiadau llethol i’r cynnig drafft a daethom i’r casgliad, yn sgil cryfder y gwrthwynebiad o Donysguboriau a Phont-y-clun, credwn y dylai adran etholiadol bresennol Pont-y-clun aros yn adran etholiadol ar ei phen ei hun ond gan gynyddu ei chynrychiolaeth cynghorwyr, a fydd yn gwella’r cydraddoldeb etholiadol yn yr ardal. Enw’r adran etholiadol hon fydd Pont-y-clun a bydd ganddi 6,022 o etholwyr (rhagamcenir 6,648) a gynrychiolir gan 3 chynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,007 o etholwyr fesul cynghorydd, 14% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 2,304.

6.56 Ystyriasom gan y byddai Pont-y-clun yn aros yn adran etholiadol ar ei phen ei hun, y canlyniad yw bod Tonysguboriau yn syrthio y tu allan i unrhyw adran etholiadol arall, felly gallai hithau hefyd aros fel ag y mae a sefyll ar ei phen ei hun. Fel arall, gallai Tonysguboriau gyfuno â Thref Llantrisant. Fel ym mharagraff 6.25, cynigiom gyfuno Beddau a Tyn-y-nant gan adael Tref Llantrisant y tu allan i unrhyw adran etholiadol. Ar hyn o bryd mae gan Dref Llantrisant 3,726 o etholwyr (rhagamcenir 4,114) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 3,762 o etholwyr fesul cynghorydd, 62% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol. Mae hyn yn anfoddhaol o ran cydraddoldeb etholiadol ac ystyriwn y gellid unioni hyn trwy aildrefnu adrannau etholiadol yn yr ardal. Felly, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus cynigiwn gyfuno adrannau etholiadol Tonysguboriau a Thref Llantrisant â chyfanswm o 5,718 o etholwyr a gynrychiolir gan 3 chynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 1,906 o etholwyr fesul cynghorydd, 17% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 2,304. Mae Tonysguboriau a Thref Llantrisant o fewn yr un gymuned, sef Cymuned Llantrisant, felly mae ganddynt gysylltiadau cymunedol yn barod, ac mae ganddynt gysylltiadau trafnidiaeth da hefyd gyda phrif ffordd yr A4119 a’r B4595 sy’n cysylltu canol tref Llantrisant â Thonysguboriau. Cynigiwn mai enw’r adran etholiadol fydd Llantrisant a Thonysguboriau. Ystyriwn y bydd gwell cydraddoldeb etholiadol gan y bydd cynnydd yn nifer yr aelodau etholedig

- 34 -

sy’n cynrychioli’r ardal. Mae’r ffigurau rhagamcanol yn ymhlygu y bydd cynnydd yn nifer yr etholwyr yn yr ardal a fydd yn dod â’r lefel gynrychiolaeth i fyny i 2,078 o etholwyr fesul cynghorydd, 11% yn is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

Trallwng a Graig

6.57 Mae adran etholiadol bresennol Trallwng yn cynnwys ward Trallwng yng Nghymuned Pontypridd ac mae ganddi 2,876 o etholwyr (rhagamcenir 2,716) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,876 o etholwyr fesul cynghorydd, 25% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Graig yn cynnwys ward Graig yng Nghymuned Pontypridd, ac mae ganddi 1,692 o etholwyr (rhagamcenir 1,596) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 1,692 o etholwyr fesul cynghorydd, 27% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft cynigiwyd cyfuno dwy ward Trallwng a Graig yng Nghymuned Pontypridd i ffurfio adran etholiadol â 4,568 o etholwyr (rhagamcenir 4,312) yn cael ei chynrychioli gan 2 gynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,284 o etholwyr fesul cynghorydd, 1% yn is na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.58 Derbyniwyd gwrthwynebiadau gan Gyngor Tref Pontypridd, Dr Kim Howells, Jane Davidson AC, y Cynghorydd J Cass (Graig), y Cynghorydd R Fox (Cyngor Tref Pontypridd), Cangen Plaid Lafur Gogledd Ddwyrain Pontypridd a 3 o drigolion Graig. Roedd Cyngor Tref Pontypridd yn gwrthwynebu’r cyfuno, ond dywedodd pe bai’n mynd yn ei flaen dylid ei alw’n Ynysangharad er mwyn adlewyrchu ble mae’r ddwy ardal yn cyfarfod. Gofynnodd Dr Howells i’r Comisiwn ailasesu’r cynnig, gan gredu ei fod yn anwybyddu ffactorau a fynegwyd gan y Cynghorydd J Cass, ac roedd yn cefnogi’r awgrymiadau ganddi. Ategwyd y pwyntiau a wnaed gan y Cynghorydd Cass gan Jane Davidson AC, ac ychwanegodd na fyddai hepgor yr enw Graig o’r adran arfaethedig yn cael ei dderbyn yn hawdd gan drigolion. Roedd y Cynghorydd Cass yn gwrthwynebu ar y sail bod y pellter rhwng y ddwy ardal yn fawr, a’r ffaith fod Graig yn agosach at Pencoedcae (yn adran etholiadol Beddau), nid oedd ffin gyffredin rhwng y ddwy adran ac ni fyddai trigolion yn ystyried bod cysylltiad rhyngddynt, gan y byddai angen teithio drwy adran etholiadol arall i fynd o un ochr i’r llall. Derbyniwyd nifer o awgrymiadau ar gyfer newid ffin gymunedol o ganlyniad i hyn. Dywedodd Cangen Plaid Lafur Gogledd Ddwyrain Pontypridd nad oedd y ddwy ardal yn gyffiniol, a bod rhaid i chi yrru drwy adran etholiadol wahanol i fynd o un ochr i’r llall, ac roeddent yn cefnogi’r Cynghorydd Cass a’i hawgrym i newid ffiniau. Roedd y sylwadau a wnaed gan drigolion Graig a anfonodd gynrychiolaethau i mewn yn adleisio’r pwyntiau a godwyd yn barod.

6.59 Ystyriasom y cynrychiolaethau yn y cynllun ehangach o aildrefnu ardal Pontypridd er mwyn cyflawni cydraddoldeb etholiadol gwell. Fodd bynnag, fel y cynigir ym mharagraff 6.52, rydym eisoes wedi cynnig fod Graig yn cyfuno â Rhondda i ffurfio adran etholiadol Gorllewin Pontypridd. Y canlyniad yw bod Trallwng yn syrthio y tu allan i unrhyw adran etholiadol arall, felly gallai aros fel ag y mae a sefyll ar ei phen ei hun, neu fel arall, gallai gyfuno â Threfforest sydd gerllaw. Pe bai’n cyfuno â Threfforest byddai ganddo etholaeth o 5,362 (rhagamcenir 5,701) yn cael ei chynrychioli gan 2 gynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,681 o etholwyr fesul cynghorydd, 15% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 2,304. Ystyriasom

- 35 -

y cyfuno â Threfforest, a daethom i’r casgliad y byddai’n well cael cynrychiolaeth aelod unigol pe bai modd. Felly, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, cynigiwn fod Trallwng yn aros yn adran etholiadol ar ei phen ei hun a bydd yn cadw’r enw Trallwng, a bydd ganddi 2,876 o etholwyr yn cael ei chynrychioli gan aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,876 o etholwyr fesul cynghorydd, 25% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig. Fodd bynnag, mae rhagamcanion yn dangos gostyngiad yn yr etholaeth ar gyfer yr ardal hon a fyddai’n arwain at etholaeth o 2,716 a lefel gynrychiolaeth o 2,716 o etholwyr fesul cynghorydd, 17% yn uwch na’r cyfartaledd sirol rhagamcanol.

Trefforest a Chanol Rhydfelin / Ilan

6.60 Mae adran etholiadol bresennol Trefforest yn cynnwys ward Trefforest yng Nghymuned Pontypridd ac mae ganddi 2,486 o etholwyr sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,486 o etholwyr fesul cynghorydd, 8% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae adran etholiadol bresennol Canol Rhydfelin / Ilan yn cynnwys wardiau Ilan a Chanol Rhydfelin yng Nghymuned Pontypridd, ac mae ganddi 3,084 o etholwyr (rhagamcenir 3,704) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 3,084 o etholwyr fesul cynghorydd, 34% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiwyd cyfuno wardiau Trefforest, Canol Rhydfelin ac Ilan yng Nghymuned Pontypridd i ffurfio adran etholiadol â 5,570 o etholwyr (rhagamcenir 6,689) yn cael ei chynrychioli gan 3 chynghorydd, gan roi lefel gynrychiolaeth o 1,857 o etholwyr fesul cynghorydd, 19% yn is na’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.61 Ni dderbyniasom unrhyw wrthwynebiadau i’r cynnig hwn, a derbyniasom un gynrychiolaeth o gefnogaeth gan y Cynghorydd Tref J Bishop (Trefforest) yn datgan, er y gallai’r berthynas gymunedol fod yn un dan bwysau, roedd enghreifftiau da o’r ddwy ardal yn gweithio gyda’i gilydd, ac awgrymodd enw arall, sef Cwm Taf.

6.62 Ystyriasom y gynrychiolaeth yn y cynllun ehangach o aildrefnu ardal Pontypridd er mwyn cyflawni cydraddoldeb etholiadol gwell. Fodd bynnag, fel y cynigir ym mharagraff 6.36, rydym eisoes wedi cynnig fod adran etholiadol Canol Rhydfelin / Ilan yn cyfuno â’r Ddraenen Wen i ffurfio adran etholiadol De Pontypridd. Y canlyniad yw bod Trefforest yn syrthio y tu allan i unrhyw adran etholiadol arall, felly gallai aros fel ag y mae a sefyll ar ei phen ei hun, neu fel yr amlinellir ym mharagraff 6.59 uchod, gallai gyfuno â Thrallwng. Ystyriasom y cyfuno â Thrallwng a daethom i’r casgliad y byddai’n well cael cynrychiolaeth aelod unigol pe bai modd. Felly, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, cynigiwn fod Trefforest yn aros yn adran etholiadol ar ei phen ei hun a bydd yn cadw’r enw Trefforest, a bydd ganddi 2,486 o etholwyr (rhagamcenir 2,985) yn cael ei chynrychioli gan aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 2,486 o etholwyr fesul cynghorydd, 8% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig.

- 36 -

Gorllewin Tonyrefail

6.63 Mae adran etholiadol bresennol Gorllewin Tonyrefail yn cynnwys wardiau Penrhiw- fer (1,042 o etholwyr, rhagamcenir 1,146), Tretomas (1,158 o etholwyr, rhagamcenir 1,274) a Thynybryn (2,212 o etholwyr, rhagamcenir 2,434) yng Nghymuned Tonyrefail sydd â chyfanswm o 4,412 o etholwyr (rhagamcenir 4,854) sy’n ethol aelod unigol, gan roi lefel gynrychiolaeth o 4,412 o etholwyr fesul cynghorydd, 91% yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol o 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Yn ein hadroddiad Cynigion Drafft, cynigiwyd cynyddu nifer y Cynghorwyr sy’n cynrychioli adran etholiadol Gorllewin Tonyrefail o 1 i 2. Canlyniad hyn oedd lefel gynrychiolaeth o 2,206 o etholwyr fesul cynghorydd (4% yn is na’r cyfartaledd sirol presennol a’r cyfartaledd sirol a nodir yn y cynigion drafft, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd, yn lle 91% yn uwch).

6.64 Ni dderbyniwyd unrhyw gynrychiolaethau yn cefnogi nac yn gwrthwynebu’r cynigion. Felly, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus, cynigiwn fod y cynnig drafft yn cael ei ddwyn yn ei flaen a bod adran etholiadol Gorllewin Tonyrefail yn cael cynghorydd ychwanegol, gan godi ei lefel aelodau etholedig i fyny i 2, a fydd yn gwella’r cydraddoldeb etholiadol yn yr ardal. Cynigiwn fod yr adran etholiadol hon yn cadw’r enw Gorllewin Tonyrefail.

Crynodeb o’r Trefniadau Arfaethedig

6.65 Mae’r trefniadau etholiadol arfaethedig (fel y dangosir yn Atodiad 3) yn darparu lefel o gydraddoldeb sy’n amrywio o fod 17% yn is i fod 25% yn uwch na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd (yn seiliedig ar y ffigurau etholiadol cyfredol). Mae’r lefel gynrychiolaeth mewn 18 o’r adrannau etholiadol dros 10% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd a gynigir ar gyfer y sir, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd ac mae’r lefelau cynrychiolaeth yn yr 19 (51%) adran etholiadol sy’n weddill o dan 10% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd sirol arfaethedig, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae hyn yn cymharu â’r trefniadau etholiadol presennol (a ddangosir yn Atodiad 2) lle mae’r lefel cydraddoldeb yn amrywio o fod 40% yn is i fod 91% yn uwch na’r cyfartaledd presennol ar gyfer y sir, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd. Mae’r lefelau cynrychiolaeth mewn 21 o adrannau etholiadol (40%) dros 25% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd; mae’r lefelau cynrychiolaeth mewn 3 (6%) o’r rhain 50% neu fwy yn uwch na’r cyfartaledd sirol presennol, mae gan 13 (25%) o adrannau etholiadol lefelau cynrychiolaeth rhwng 10% a 25% yn uwch neu’n is na’r cyfartaledd sirol presennol, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd, ac mae lefelau cynrychiolaeth y 18 (35%) adran etholiadol sy’n weddill yn llai na 10% yn uwch neu’n is cyfartaledd sirol presennol, sef 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd.

6.66 Wrth gynhyrchu cynllun o drefniadau etholiadol mae angen rhoi ystyriaeth i nifer o faterion a gynhwysir yn y ddeddfwriaeth ac yng Nghyfarwyddyd y Gweinidog. Nid oes modd yn aml datrys pob un o’r materion hyn sy’n gwrthdaro weithiau, oherwydd y gofyniad i ddefnyddio cymunedau a wardiau cymunedol presennol fel sylfeini adrannau etholiadol, a’r lefel amrywiol o gynrychiolaeth sy’n bodoli yn yr ardaloedd hyn ar hyn o bryd. Yn ein cynllun arfaethedig, rydym wedi rhoi pwyslais ar gyflawni

- 37 -

gwelliannau mewn cydraddoldeb etholiadol, gan symud tuag at 1,750 o etholwyr fesul cynghorydd, a chadw, lle bo modd, adrannau etholiadol un aelod. Rydym yn cydnabod y byddai creu adrannau etholiadol sy’n gwyro o’r patrwm sy’n bodoli ar hyn o bryd yn amharu’n anochel ar ‘gysylltiadau’ sefydledig rhwng cymunedau, a gall bontio ardaloedd cynghorau cymuned mewn modd sy’n anghyfarwydd. Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr adrannau etholiadol diwygiedig yn adlewyrchu cyfuniadau rhesymegol o gymunedau a wardiau cymunedol presennol. Rydym wedi edrych ar bob un o’r ardaloedd hyn, ac yn fodlon y byddai’n anodd cyflawni trefniadau etholiadol sy’n cadw’r cyfuniad presennol o gymunedau a wardiau cymunedol o fewn adrannau etholiadol unigol, heb effeithio’n niweidiol ar un neu fwy o’r materion eraill y mae’n ofynnol eu hystyried.

7. CYNIGION

7.1 Cynigiwn gyngor yn cynnwys 75 o aelodau a 37 o adrannau etholiadol fel y nodir yn Atodiad 3. At ddibenion cymharu, nodir y trefniadau etholiadol presennol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol yn Atodiad 2. Dangosir ffiniau’r adrannau etholiadol arfaethedig gan y llinellau melyn parhaus ar y map sy’n cyd-fynd â’r Adroddiad hwn a gellir ei weld yn Swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac yn swyddfa’r Comisiwn yng Nghaerdydd.

8. CYDNABYDDIAETHAU

8.1 Dymunwn ddatgan ein diolch i’r prif gyngor a’r holl gynghorau cymuned am eu cymorth yn ystod yr arolwg hwn ac i bob sefydliad ac unigolyn a gyflwynodd gynrychiolaethau i ni.

9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN

9.1 Ar ôl cwblhau ein harolwg o Fwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a chyflwyno’n hargymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch trefniadau etholiadol y prif awdurdod ar gyfer y dyfodol, rydym wedi cyflawni’n rhwymedigaeth statudol yn unol â’r cyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

9.2 Gwaith Llywodraeth Cynulliad Cymru, os gwêl yn dda, yw eu derbyn naill ai fel y’u cyflwynwyd gan y Comisiwn neu eu newid ac os bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn penderfynu gweithredu’r cynigion hyn â newidiadau, gall gyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal arolwg pellach.

9.3 Dylid cyfeirio unrhyw gynrychiolaethau pellach ynghylch materion a gynhwysir yn yr adroddiad at Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dylid cyflwyno unrhyw gynrychiolaethau cyn gynted ag y bo modd a beth bynnag nid hwyrach na chwe wythnos o ddyddiad cyflwyno argymhellion y Comisiwn i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dylid cyfeirio cynrychiolaethau at:

- 38 -

Y Tîm Democratiaeth Yr Is-adran Polisi Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ

MR P J WOOD (Cadeirydd)

Y PARCH. HYWEL MEREDYDD DAVIES BD (Dirprwy Gadeirydd)

Mr D J BADER (Aelod)

E H LEWIS BSc. DPM FRSA FCIPD (Ysgrifennydd)

Tachwedd 2010

- 39 - Atodiad 1

Rhestr o Dermau a Ddefnyddir yn y cyfarwyddyd

Arolwg lle mae’r Comisiwn yn adolygu ffiniau ardal Arolwg o Ffiniau llywodraeth leol

Gan fod gofyn bod cymunedau a (lle maent yn bodoli) wardiau Blociau adeiladu cymunedol sefyll mewn un adran etholiadol, cânt eu defnyddio fel blociau adeiladu ar gyfer yr adrannau etholiadol

Comisiwn Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru

Maint y cyngor Nifer y cynghorwyr a etholir i’r cyngor

Cyfarwyddiadau a roddwyd i’r Comisiwn gan y Llywodraeth o Cyfarwyddiadau dan Adran 59 Deddf 1972

Faint o gynghorwyr y dylid eu cael ar gyngor ardal llywodraeth Trefniadau leol, y rhannau y dylid rhannu’r ardal iddynt at bwrpas ethol etholiadol cynghorwyr, nifer y cynghorwyr ar gyfer pob adran etholiadol, ac enw’r ardal etholiadol

Adrannau Yr adrannau y caiff prif adrannau eu rhannu iddynt at bwrpas etholiadol ethol cynghorwyr, a elwir weithiau’n wardiau ar lafar

Arolwg lle mae’r Comisiwn yn ystyried trefniadau etholiadol ar Arolwg etholiadol gyfer ardal llywodraeth leol

Nifer y bobl sydd â’r hawl i bleidleisio mewn ardal llywodraeth Yr etholwyr leol

Llywodraeth Llywodraeth Cynulliad Cymru

Unigolyn neu gorff sydd â diddordeb yng nghanlyniadau adolygiad etholiadol fel y prif gyngor dan sylw, Aelodau Y rhai â diddordeb Seneddol lleol a phleidiau gwleidyddol, a chynghorau cymuned a thref

Adran etholiadol mewn prif ardal a gynrychiolir gan fwy nag un Adran aml-aelod cynghorydd

Gorchymyn a wneir gan y Llywodraeth sy’n gweithredu Gorchymyn cynigion y Comisiwn, naill fel y’u cyflwynwyd neu wedi’u haddasu

Prif ardal Ardal a lywodraethir gan brif gyngor: yng Nghymru, Sir neu Fwrdeistref Sirol

Prif gyngor Yng Nghymru, un o’r awdurdodau unedol: Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol

- 1 - Atodiad 1

Ymatebydd Corff neu unigolyn sy’n ymateb i ymgynghoriad y Comisiwn drwy wneud cynrychiolaethau neu gynnig cynigion amgen

Rheolau Rheolau y bydd y Comisiwn yn eu dilyn wrth ystyried trefniadau etholiadol, a osodir allan yn Atodlen 11 Deddf 1972

Adran un aelod Adran etholiadol prif awdurdod a gynrychiolir gan un cynghorydd

Deddf 1972 Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1994

Deddf 1994 Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994

Prif gyngor - un haen o lywodraeth leol, sy’n gyfrifol am yr holl swyddogaethau llywodraethol (neu bron pob un ohonynt) yn ei Awdurdod Unedol ardal; a gymerodd le system dwy haen cynghorau sir a chynghorau dosbarth yng Nghymru: Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol

- 2 - BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF Atodiad 2 AELODAETH GYFREDOL Y CYNGOR Tudalen 1

% amrywiad o NIFER Y NIFER YR % amrywiad o CYMHAREB gymharu â NIFER YR CYMHAREB Rhif ENW DISGRIFIAD CYNGHORWYR ETHOLWYR gymharu â 2009 chyfartaledd y ETHOLWYR 2014 2014 2009 2009 chyfartaledd y Sir Sir

Y rhan honno o Gymuned Aberaman a bennir mewn perthynas â ward 1 Gogledd Aberaman ddosbarth bresennol Gogledd Aberaman yng ngholofn 2 Atodlen 1 2 3,768 1,884 -18% 3,664 1,832 -21% Gorchymyn Bwrdeistref Cwm Cynon (Trefniadau Etholiadol) 1983(a)

Y rhan honno o Gymuned Aberaman nad yw wedi'i chynnwys yn adran 2 De Aberaman 2 3,363 1,682 -27% 3,269 1,635 -30% etholiadol Gogledd of Aberaman 3 Abercynon Cymuned Abercynon 2 4,510 2,255 -2% 4,226 2,113 -9%

Y rhan honno o Gymuned Aberdâr a bennir mewn perthynas â ward 4 Dwyrain Aberdâr ddosbarth bresennol Dwyrain Aberdâr yng ngholofn 2 Atodlen 1 2 5,117 2,559 11% 4,976 2,488 7% Gorchymyn Bwrdeistref Cwm Cynon (Trefniadau Etholiadol) 1983

Gorllewin Cymuned Llwydcoed a'r rhan honno o Gymuned Aberdâr nad yw wedi'i 5 3 7,160 2,387 4% 6,962 2,321 0% Aberdâr/Llwydcoed chynnwys yn adran etholiadol Dwyrain Aberdâr 6 Beddau Ward Beddau yng Nghymuned Llantrisant 1 3,232 3,232 40% 3,418 3,418 47% 7 Brynna Wardiau Brynna a Llanilid yng Nghymuned Llanharan 1 2,919 2,919 27% 3,223 3,223 39% 8 Pentre'r Eglwys Ward Pentre'r Eglwys yng Nghymuned Llanilltud Faerdref 1 3,435 3,435 49% 3,632 3,632 56%

9 Cilfynydd Ward Cilfynydd yng Nghymuned Pontypridd 1 2,142 2,142 -7% 2,022 2,022 -13% 10 Cwm Clydach Cymuned Cwm Clydach 1 2,117 2,117 -8% 2,060 2,060 -11% 11 Cwmbach Cymuned Cwmbach 1 3,189 3,189 38% 3,099 3,099 33% 12 Cymmer Cymunedau Cymmer a Threhafod 2 4,407 2,204 -4% 3,929 1,965 -15% 13 Glynrhedynog Cymuned Glynrhedynog 2 3,200 1,600 -31% 3,072 1,536 -34% 14 Gilfach Goch Cymuned Gilfach Goch 1 2,450 2,450 6% 2,696 2,696 16% 15 Glyncoch Ward Glyncoch yng Nghymuned Pontypridd 1 1,975 1,975 -14% 1,866 1,866 -20% 16 Graig Ward Graig yng Nghymuned Pontypridd 1 1,692 1,692 -27% 1,596 1,596 -31% 17 Y Ddraenen Wen Wardiau y Ddraenen Wen a Rhydfelen Isaf yng Nghymuned Pontypridd 1 2,781 2,781 21% 3,340 3,340 44% 18 Hirwaun Ward Hirwaun yng Nghymuned Hirwaun 1 3,128 3,128 36% 2,963 2,963 27% 19 Llanharan Ward Llanharan yng Nghymuned Llanharan 1 2,434 2,434 6% 2,687 2,687 16% 20 Llanhari Cymuned Llanhari 1 2,644 2,644 15% 2,920 2,920 26% 21 Tref Llantrisant Ward y Dref yng Nghymuned Llantrisant 1 3,726 3,726 62% 4,114 4,114 77% Wardiau Efail Isaf a Llanilltud Faerdref yng Nghymuned Llanilltud 22 Llanilltud Faerdref 2 4,661 2,331 1% 4,928 2,464 6% Faerdref 23 Llwyn-y-pia Cymuned Llwyn-y-pia 1 1,697 1,697 -26% 1,652 1,652 -29% 24 Maerdy Cymuned Maerdy 1 2,391 2,391 4% 2,295 2,295 -1%

Y rhan honno o Gymuned Aberpennar a bennir mewn perthynas â ward 25 Dwyrain Aberpennar ddosbarth bresennol Dwyrain Aberpennar yng ngholofn 2 Atodlen 1 1 2,232 2,232 -3% 2,090 2,090 -10% Gorchymyn Bwrdeistref Cwm Cynon (Trefniadau Etholiadol) 1983

Y rhan honno o Gymuned Aberpennar nad yw wedi'i chynnwys yn adran 26 Gorllewin Aberpennar 2 3,176 1,588 -31% 2,976 1,488 -36% etholiadol Dwyrain Aberpennar

27 Penrhiwceibr Cymuned Penrhiwceibr 2 4,243 2,122 -8% 3,975 1,988 -14% 2 Atodiad 28 Pentre Cymuned Pentre 2 4,033 2,017 -12% 3,920 1,960 -16% 29 Pen-y-graig Cymuned Pen-y-graig 2 4,152 2,076 -10% 4,040 2,020 -13% 30 Pen-y-waun Cymuned Pen-y-waun 1 2,022 2,022 -12% 1,851 1,851 -20% 31 Pont-y-clun Cymuned Pont-y-clun 2 6,022 3,011 31% 6,648 3,324 43% BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF Atodiad 2 AELODAETH GYFREDOL Y CYNGOR Tudalen 2

% amrywiad o NIFER Y NIFER YR % amrywiad o CYMHAREB gymharu â NIFER YR CYMHAREB Rhif ENW DISGRIFIAD CYNGHORWYR ETHOLWYR gymharu â 2009 chyfartaledd y ETHOLWYR 2014 2014 2009 2009 chyfartaledd y Sir Sir 32 Tref Pontypridd Ward y Dref yng Nghymuned Pontypridd 1 2,289 2,289 -1% 2,161 2,161 -7% 33 Porth Cymuned Porth 2 4,448 2,224 -3% 4,235 2,118 -9% 34 Rhigos Cymuned y Rhigos a ward Penderyn yng Nghymuned Hirwaun 1 1,392 1,392 -40% 1,276 1,276 -45%

35 Rhondda Ward Rhondda yng Nghymuned Pontypridd 2 3,279 1,640 -29% 3,366 1,683 -28%

36 Canol Rhydfelen /Ilan Wardiau Ilan a Chanol Rhydfelen yng Nghymuned Pontypridd 1 3,084 3,084 34% 3,704 3,704 59% 37 Ffynnon Taf Cymuned Ffynnon Taf 1 2,716 2,716 18% 3,263 3,263 40% 38 Tonysguboriau Ward Tonysguboriau yng Nghymuned Llantrisant 1 1,992 1,992 -14% 2,119 2,119 -9% 39 Ton-teg Ward Ton-teg yng Nghymuned Llanilltud Faerdref 2 3,408 1,704 -26% 3,603 1,802 -23% 40 Tonypandy Cymuned Tonypandy 1 2,652 2,652 15% 2,580 2,580 11% 41 Dwyrain Tonyrefail Wardiau Coed-elái, Collena a Thylcha yng Nghymuned Tonyrefail 2 4,265 2,133 -7% 4,692 2,346 1%

42 Gorllewin Tonyrefail Wardiau Penrhiw-fer, Tretomas a Thynybryn yng Nghymuned Tonyrefail 1 4,412 4,412 91% 4,854 4,854 109%

43 Trallwng Ward Trallwng yng Nghymuned Pontypridd 1 2,876 2,876 25% 2,716 2,716 17% 44 Trealaw Cymuned Trealaw 1 2,987 2,987 30% 2,906 2,906 25% 45 Trefforest Ward Trefforest yng Nghymuned Pontypridd 1 2,486 2,486 8% 2,985 2,985 28% 46 Treherbert Cymuned Treherbert 2 4,306 2,153 -7% 4,186 2,093 -10% 47 Treorci Cymuned Treorci 3 5,905 1,968 -15% 5,741 1,914 -18% 48 Tylorstown Cymuned Tylorstown 2 3,196 1,598 -31% 3,074 1,537 -34% 49 Tyn-y-nant Ward Tyn-y-nant yng Nghymuned Llantrisant 1 2,578 2,578 12% 2,726 2,726 17% 50 Ynyshir Cymuned Ynyshir 1 2,457 2,457 7% 2,294 2,294 -1% 51 Ynysybwl Cymuned Ynysybwl a Choed-y-Cwm 1 3,567 3,567 55% 3,367 3,367 45% 52 Ystrad Cymuned Ystrad 2 4,507 2,254 -2% 4,385 2,193 -6% CYFANSYMIAU: 75 172,820 2,304 174,342 2,325

Y gymhareb yw nifer yr etholwyr i bob cynghorydd. Cynhwysir nifer yr etholwyr ar gyfer 2009 a 2014 (mewn cromfachau) yn nisgrifiad yr adrannau etholiadol hynny sy'n cynnwys mwy nag un gymuned / ward gymunedol. Cyflwynwyd y ffigurau ar gyfer nifer yr etholwyr gan Gyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf Atodiad 2 Atodiad 2009 2014 Mwy na + neu - 50% o gyfartaledd y Sir 36%48% Rhwng + neu - 25% a + neu - 50% o gyfartaledd y Sir 18 35% 19 37% Rhwng + neu - 10% a + neu - 25% o gyfartaledd y Sir 13 25% 18 35% Rhwng 0% a + neu - 10% o gyfartaledd y Sir 18 35% 11 21% BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF Atodiad 3 AELODAETH ARFAETHEDIG Y CYNGOR Tudalen 1

% amrywiad o % amrywiad o NIFER YR NIFER YR NIFER Y CYMHAREB gymharu â CYMHAREB gymharu â Rhif ENW DISGRIFIAD ETHOLWYR ETHOLWYR CYNGHORWYR 2009 chyfartaledd y 2014 chyfartaledd y 2009 2014 Sir Sir

1 Aberaman a Chwmbach Cymunedau Aberaman 7,131 (6,933) a Chwmbach 3,189 (3,099) 4 10,320 2,580 12% 10,032 2,508 8%

2 Abercynon Cymuned Abercynon 2 4,510 2,255 -2% 4,226 2,113 -9%

3 Aberdâr a Llwydcoed Cymunedau Aberdâr 11,245 (10,766) a Llwydcoed 1,032 (1,172) 5 12,277 2,455 7% 11,938 2,388 3%

Wardiau Tyn-y-nant 2,578 (2,726) a Beddau 3,232 (3,418) yng 4 Beddau a Thyn-y-nant 3 5,810 1,937 -16% 6,114 2,038 -12% Nghymuned Llantrisant

Wardiau Pentre'r Eglwys 3,435 (3,632) a Thon-teg 3,408 (3,603) yng 5 Pentre'r Eglwys a Thon-teg 3 6,843 2,281 -1% 7,235 2,412 4% Nghymuned Llanilltud Faerdref

6 Cilfynydd Ward Cilfynydd yng Nghymuned Pontypridd 1 2,142 2,142 -7% 2,022 2,022 -13% 7 Cwm Clydach Cymuned Cwm Clydach 1 2,117 2,117 -8% 2,060 2,060 -11%

8 Cymmer Cymunedau Cymmer 3,844 (3,653) a Threhafod 563 (563) 2 4,407 2,204 -4% 4,216 2,108 -9%

9 Glynrhedynog a Maerdy Cymunedau Maerdy 2,391 (2,295) a Glynrhedynog 3,200 (3,072) 2 5,591 2,796 21% 5,367 2,684 15%

10 Gilfach Goch Cymuned Gilfach Goch 1 2,450 2,450 6% 2,696 2,696 16%

11 Hirwaun, Penderyn a'r Rhigos Cymunedau Hirwaun 3,832 (3,608) a'r Rhigos 688 (631) 2 4,520 2,260 -2% 4,239 2,120 -9%

12 Llanharan Cymuned Llanharan 2 5,353 2,677 16% 5,910 2,955 27% 13 Llanhari Cymuned Llanhari 1 2,644 2,644 15% 2,920 2,920 26% Wardiau'r Dref 3,726 (4,114), a Thonysguboriau 1,992 (2,119) yng 14 Llantrisant a Thonysguboriau 3 5,718 1,906 -17% 6,233 2,078 -11% Nghymuned Llantrisant

Wardiau Efail Isaf 1,019 (1,077) a Llanilltud Faerdref 3,642 (3,851) 15 Llanilltud Faerdref 2 4,661 2,331 1% 4,928 2,464 6% yng Nghymuned Llanilltud Faerdref

16 Aberpennar Cymuned Aberpennar 2 5,408 2,704 17% 5,066 2,533 9%

17 Penrhiwceibr Cymuned Penrhiwceibr 2 4,243 2,122 -8% 3,975 1,988 -14% 18 Pentre Cymuned Pentre 2 4,033 2,017 -12% 3,920 1,960 -16% 19 Pen-y-graig Cymuned Pen-y-graig 2 4,152 2,076 -10% 4,040 2,020 -13% 20 Pen-y-waun Cymuned Pen-y-waun 1 2,022 2,022 -12% 1,851 1,851 -20% 21 Pont-y-clun Cymuned Pont-y-clun 3 6,022 2,007 -13% 6,648 2,216 -5%

Wardiau'r Ddraenen Wen 1,616 (1,941), Rhydfelin Isaf 1,165 (1,399) 22 De Pontypridd Ilan 963 (1,148) a Chanol Rhydfelin 2,121 (2,556) yng Nghymuned 3 5,865 1,955 -15% 7,044 2,348 1% Pontypridd

23 Tref Pontypridd Ward y Dref yng Nghymuned Pontypridd 1 2,289 2,289 -1% 2,161 2,161 -7% Atodiad 3

Wardiau Rhondda 3,279 (3,079) a Graig 1,692 (1,596) yng 24 Gorllewin Pontypridd 2 4,971 2,486 8% 4,675 2,338 1% Nghymuned Pontypridd

25 Porth Cymuned Porth 2 4,448 2,224 -3% 4,235 2,118 -9% BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF Atodiad 3 AELODAETH ARFAETHEDIG Y CYNGOR Tudalen 2

% amrywiad o % amrywiad o NIFER YR NIFER YR NIFER Y CYMHAREB gymharu â CYMHAREB gymharu â Rhif ENW DISGRIFIAD ETHOLWYR ETHOLWYR CYNGHORWYR 2009 chyfartaledd y 2014 chyfartaledd y 2009 2014 Sir Sir 26 Ffynnon Taf Cymuned Ffynnon Taf 1 2,716 2,716 18% 3,263 3,263 40% 27 Tonypandy Cymuned Tonypandy 1 2,652 2,652 15% 2,580 2,580 11%

Wardiau Coed-elái 1,313 (1,445), Collena 1,649 (1,814) a Thylcha 28 Dwyrain Tonyrefail 2 4,265 2,133 -7% 4,692 2,346 1% 1,303 (1,433) yng Nghymuned Tonyrefail

Wardiau Penrhiw-fer 1,042 (1,146), Tretomas 1,158 (1,274) a 29 Gorllewin Tonyrefail 2 4,412 2,206 -4% 4,854 2,427 4% Thynybryn 2,212 (2,434) yng Nghymuned Tonyrefail

30 Trallwng Ward Trallwng yng Nghymuned Pontypridd 1 2,876 2,876 25% 2,716 2,716 17%

31 Trefforest Ward Trefforest yng Nghymuned Pontypridd 1 2,486 2,486 8% 2,985 2,985 28% 32 Treherbert Cymuned Treherbert 2 4,306 2,153 -7% 4,186 2,093 -10% 33 Treorci Cymuned Treorci 3 5,905 1,968 -15% 5,741 1,914 -18%

34 Tylorstown ac Ynyshir Cymunedau Tylorstown 3,196 (3,074) ac Ynyshir 2,457 (2,294) 2 5,653 2,827 23% 5,368 2,684 15%

35 Ynyscynon Cymunedau Llwyn-y-pia 1,697 (1,652) a Threalaw 2,987 (2,906) 2 4,684 2,342 2% 4,558 2,279 -2%

Ynysybwl/Coed-y-Cwm a Cymuned Ynysybwl a Choed-y-cwm 3,567 (3,367) a ward Glyncoch 36 2 5,542 2,771 20% 5,233 2,617 13% Glyncoch 1,975 (1,866) yng Nghymuned Pontypridd

37 Ystrad Cymuned Ystrad 2 4,507 2,254 -2% 4,385 2,193 -6% CYFANSYMIAU: 75 172,820 2,304 174,312 2,324

Y gymhareb yw nifer yr etholwyr i bob cynghorydd Cynhwysir nifer yr etholwyr ar gyfer 2009 a 2014 (mewn cromfachau) yn nisgrifiad yr adrannau etholiadol hynny sy'n cynnwys mwy nag un gymuned / ward gymunedol. Cyflwynwyd y ffigurau ar gyfer nifer yr etholwyr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Atodiad 3 Atodiad 2009 2014 Mwy na + neu - 50% o gyfartaledd y Sir 00% 00% Rhwng + neu - 25% a + neu - 50% o gyfartaledd y Sir 1 3% 4 11% Rhwng + neu - 10% a + neu - 25% o gyfartaledd y Sir 17 46% 16 43% Rhwng 0% a + neu - 10% o gyfartaledd y Sir 19 51% 17 46% Atodiad 4 Atodiad 4

Atodiad 4 Atodiad 4

Atodiad 4

12 Mai 2009

Cyfarwyddiadau ynglŷn ag Arolygon o Drefniadau Etholiadol

Rwy’n ymwybodol eich bod chi wedi cychwyn gwaith rhagarweiniol yn y cylch o arolygon o drefniadau etholiadol ym mhob un o’r prif gynghorau. Mae cyflwyniadau a dderbyniais gan lywodraeth leol yn awgrymu i mi eich bod chi efallai wedi dehongli fy nghyfarwyddiadau i fod yn fwy cyfarwyddol na’r rhai a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym 1995 cyn y cylch adolygu diwethaf. Rwyf eisiau ei gwneud hi’n eglur mai nid felly y mae.

Cyhoeddwyd y cyfarwyddiadau er arweiniad i chi ac ni ddylid eu hystyried yn orchmynion. Ar lawer cyfrif - yn neilltuol, mewn perthynas â’r ardaloedd sy’n addas ar gyfer adrannau ag aelodau lluosog a’r amserlen - roedd y cyfarwyddiadau diwethaf yn fwy cyfarwyddol ond mewn perthynas â mater canolog y gymhareb rhwng cynghorwyr ac etholwyr, mae’r geiriad yn union debyg. Mae hyn yn golygu bod y gymhareb yn parhau fel nod i weithio tuag ato ac nid fel nod i’w gyflawni ym mhob achos. Wrth wneud hyn, dylid rhoi sylw i gymunedau lleol yn cael eu cynrychiolwyr canfyddadwy eu hun, hyd yn oed ble nad yw’r ffigwr dangosol o 1,750 o etholwyr/cynghorydd bob amser yn gyraeddadwy.

Wrth gwrs, rwy’n cydnabod er 1995 rydym wedi gweld cyflwyno trefniadau gweithredol neu amgen ymhlith prif gynghorau, ac efallai byddant yn arwyddocaol o ran nifer y cynghorwyr sydd eu hangen i wneud cyngor yn hollol ymarferol. Hefyd cafodd cyfarwyddiadau 1995 eu cyflwyno ar adeg pan oedd ad-drefnu’n digwydd, mewn awyrgylch gwleidyddol gwahanol i’r hyn sy’n bodoli nawr.

Yn olaf, hoffwn dynnu sylw at yr amodiad yn Atodlen 11 Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid ystyried yr angen i sefydlogi ffiniau sy’n hawdd eu hadnabod ac sy’n cydnabod cysylltiadau’r gymuned leol.

Rwy’n dymuno’n dda i chi yn y broses adolygu.

Yn gywir

______

Cyfieithiad Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yw hwn o lythyr gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. Atodiad 5 CRYNODEB O’R CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT

Ysgrifennodd Cynghorau Cymuned Hirwaun a Phenderyn i gytuno â chyfuno adrannau etholiadol Hirwaun a’r Rhigos, ac awgrymodd yr enw Hirwaun, Penderyn a’r Rhigos. Nodasant hefyd na fyddai’r adran etholiadol arfaethedig yn effeithio ar yr un o’r ddau Gyngor Cymuned.

Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Llanilltud i wrthwynebu’r cynnig i gyfuno adrannau etholiadol Pentre’r Eglwys a Thon-teg. Nid oeddent o’r farn ein bod wedi bodloni’r cyfarwyddiadau a roddwyd gan y Gweinidog. Credant mai ymarferiad mathemategol oedd, a bod pentref Ton-teg, sydd wedi ymddangos mewn cofnodion ers cyfnod y Normaniaid, wedi colli’i hunaniaeth yn llwyr.

Nodant mai’r ffigurau rhagamcanol ar gyfer y ddwy adran yw 3,632 a 3,603, y ddau ohonynt yn ddwywaith 1,750. Felly, credant y dylai’r ddwy adran aros ar wahân a chael dau gynghorydd yr un. Maent o’r farn nad oes ystyriaeth wedi’i rhoi i gymunedau, ond yn hytrach fformwlâu mathemategol. Dylai fod modd cydnabod fod angen cynrychiolaeth wahanol ar gymunedau ar sail rhesymau cymdeithasol, economaidd ac ethnigrwydd. Dylai fformwlâu fod yn amrywiol i adlewyrchu’r anghenion hyn. Mae’r Cyngor o’r farn mai uchafswm nifer o 75 o Gynghorwyr sydd yng Nghyfarwyddiadau’r Gweinidogion, ac mai dyna fu’r ffactor pwysicaf yn y modd y cynhaliwyd yr arolwg. Argymhellir yn gryf fod y cynigion a gyflwynir i Lywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi ystyriaeth ddyfnach i gymunedau.

Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Ffynnon Taf i ddatgan eu dymuniad i aros fel Ffynnon Taf, ond roeddent yn sylweddoli nad yw hyn yn ymarferol. Maent wedi cynnig awgrym ar gyfer enw i’r adran arfaethedig, sef Taf Isaf, gan fod y Taf yn rhedeg drwy bob un o’r ardaloedd cyfunol, a bydd ardaloedd lle teimlant y gallant fod wedi colli’u hunaniaeth mewn adran ag enw newydd, ac nid un o’r cymunedau a gyfunwyd.

Ysgrifennodd Cyngor Tref Pontypridd i wrthwynebu’r cynigion yn gryf, a chynigiwyd y sylwadau canlynol ganddynt: 1. Mae’r Cyngor yn cefnogi’r egwyddor ad-drefnu, ond mae’r cynigion yn methu â lleihau nifer y cynghorwyr ac nid ydynt yn cynnwys arbedion costau. 2. Mae partneru rhai wardiau yn hollol ffôl, ac mae’n mynd yn erbyn y ddaearyddiaeth naturiol. 3. Er bod y Cyngor yn gwrthwynebu cyfuniad arfaethedig Graig a Thrallwng, pe bai’n mynd yn ei flaen, gellid galw’r adran yn Ynysangharad er mwyn arwyddocáu’r ardal o dir rhwng y ddwy ward. 4. Maent yn awgrymu y gellid gwneud wardiau Glyncoch a Thref Pontypridd yn adran dau aelod. Gellid galw’r adran yn Dref neu Graig-Yr-Hesg gan fod yr enw hwn yn cysylltu’r ddwy ardal.

Ysgrifennodd Cyngor Cymuned Ynysybwl a Choed-y-cwm i wrthwynebu’n gryf i’r cynnig i roi eu cymuned yn adran etholiadol Abercynon, gan y teimlent y byddai eu cymuned yn colli’i hunaniaeth. Mae hwn yn bryder a fynegwyd gan y cyhoedd hefyd, gan eu bod yn honni bod deiseb wedi’i threfnu sydd wedi cael ymateb anferthol hyd yn hyn. Mae’n daith gron 20 milltir yn ôl ac ymlaen i Abercynon o Ynysybwl, ac mae mynydd yn eu gwahanu.

- 1 - Atodiad 5 Ysgrifennodd Dr Kim Howells, cyn AS ar gyfer Pontypridd, i fynegi ei bryderon mawr ynghylch y newidiadau arfaethedig yn etholaeth Pontypridd. Mae’n tynnu sylw at yr anawsterau a’r teimladau cyffredin o elyniaeth tuag at gyfuniad arfaethedig wardiau Rhondda a Glyncoch, ac mae’n ategu ymateb Plaid Lafur ward Beddau a Tyn-y-nant i’r cynigion.

Mae Dr Howells yn pryderu’n arbennig ynghylch wardiau arfaethedig Rhondda a Glyncoch sy’n ‘perthyn’ i etholaethau seneddol gwahanol. Bydd y ddwy adran yn colli cynghorydd ar yr un pryd â cheisio dod i delerau â’r realiti daearyddol o gael eu gwahanu gan Dref Pontypridd. Efallai eu bod yn adrannau cyfagos, am eu bod yn rhannu ffin gyffredin sy’n rhedeg yn uchel uwchlaw’r ddwy gymuned ar hyd cefnen bryn sy’n eu gwahanu, ond i deithio â cherbyd i’r naill neu’r llall, byddai’n rhaid i ddinasyddion a Chynghorwyr deithio trwy Bontypridd yn ogystal â chroesi etholaethau.

Gofynna Dr Howells i’r Comisiwn ailasesu’r cynnig i gyfuno adrannau Graig a Thrallwng ym Mhontypridd. Mae o’r farn fod y cynnig yn anwybyddu llu o ffactorau a fynegwyd yn y gynrychiolaeth amgaeedig gan y Cynghorydd Joyce Cass. Mae’n ategu cynnig gan y Cynghorydd Cass i newid ffin Graig i gynnwys pentref Penycoedcae a fyddai’n arbed yr angen am y cyfuno arfaethedig.

Ysgrifennodd Christine Chapman AC i ddatgan nad ymddengys bod y Comisiwn wedi rhoi ystyriaeth ddyledus i’r angen i gydnabod ‘cysylltiadau cymunedol lleol’ yn y cynnig ar gyfer y Fwrdeistref Sirol. Yn ogystal, mae’r adroddiad yn methu â chyfrif am ddaearyddiaeth leol, y mathau gwahanol o gymunedau a’r cyswllt hanfodol rhwng Cynghorydd a’i etholaeth. Mae o’r farn fod y cynigion wedi’u seilio ar ffigurau yn unig, ac nid pobl, ac mae gormod o bwyslais wedi’i roi ar gyflawni’r gymhareb 1:1,750 ar draul colli’r cyswllt cymunedol hanfodol hwnnw.

O ran cynigion penodol; Nid yw’r cynnig i gyfuno Glyncoch gydag adran Rhondda yn ystyried y pellter 2.5 milltir sydd rhwng yr adrannau, na’r ffaith fod mynydd yn eu gwahanu. Noda na fyddai’r enw Rhondda yn gymwys i Glyncoch, gan nad oes ganddynt unrhyw gysylltiadau hanesyddol â Rhondda, ac mae hunaniaethau cwbl wahanol gan yr ardaloedd. Noda hefyd y byddai’r adran newydd yn croesi ffin yr etholaeth Seneddol.

Mae o’r farn y gellir dweud yr un peth am y cynnig ar gyfer Abercynon ac Ynysybwl, gan fod eu hunaniaethau cymunedol unigol eu hunain gan y ddwy ardal. At hynny, mae gan bentref Ynysybwl ei Gyngor Cymuned ei hun, yn wahanol i Abercynon.

Mae’r cynigion i greu ‘arch wardiau’ ar gyfer Aberaman, Aberdâr ac Aberpennar yn golygu y byddai’n amhosibl i Gynghorwyr lleol gynrychioli’r holl gymunedau sydd ynddynt yn effeithiol, gan fod eu hunaniaeth unigryw eu hunain gan bob un ohonynt.

Mae o’r farn pe bai cynigion yr Adroddiad yn cael eu gweithredu, yr unig beth fyddai’n ei wneud yw ehangu’r bwlch rhwng dinasyddion a’u cynrychiolwyr etholedig lleol ar adeg pan fod cyn lleied o barch at wleidyddiaeth. Gyda difaterwch ymhlith pleidleiswyr a chanrannau pleidleisio yn is nag erioed, byddai colli’r cyswllt lleol hanfodol hwnnw yn arwain at fwy o ddadrithio o’r broses wleidyddol. Mae’n mynd ymlaen i ddweud bod Cynghorwyr lleol yn gweithio’n eithriadol o galed i adeiladu cysylltiadau a meithrin perthnasoedd â’u hetholwyr, grwpiau a sefydliadau lleol. Mae deall anghenion cymunedau unigol y maent yn eu gwasanaethu, a gallu ymateb iddynt yn effeithiol, yn allweddol.

- 2 - Atodiad 5

Ysgrifennodd Jane Davidson AM i ategu’r pwyntiau a wnaed gan Gynghorwyr iddi:

Trallwng a Graig Mae’r Cynghorydd Joyce Cass wedi dweud nad oes unrhyw ‘ffin gyffredin’ rhwng y ddwy ward, ac i deithio drwyddynt mae’n rhaid i chi deithio drwy ward arall. Mae’r cymunedau yn rhai gwahanol hefyd, ac ni fyddai’r trigolion yn ystyried bod cysylltiad rhyngddynt. Cydnabyddir fod nifer yr etholwyr yn is na’r cyfartaledd sirol, ond mae nifer o ddatblygiadau ar y gweill sy’n debygol o gynyddu nifer yr etholwyr.

Mae awgrym i symud y ffiniau, er y cydnabyddir na fyddai modd gwneud hyn fel rhan o’r arolwg hwn. Nodir hefyd na fyddai’r enw arfaethedig, Trallwng, yn cael ei dderbyn yn hawdd gan drigolion Graig gan mai’r ardal hon yw un o’r ardaloedd preswyl hynaf yn y gymdogaeth. Nodir y byddai trigolion y ddwy ardal yn defnyddio gwasanaethau canol y dref, ond byddent yn annhebygol o ddefnyddio’r cyfleusterau cymunedol sydd ar gael yn y ward arall.

Y Ddraenen Wen a Ffynnon Taf Awgrymodd y Cynghorydd Teressa Bates creu 3 adran aelod unigol o’r enw Ffynnon Taf, y Ddraenen Wen a Nantgarw yn hytrach na chreu adran aml-aelod. Dewis arall fyddai cyfuno wardiau y Ddraenen Wen a Rhydfelen i greu un adran aml-aelod.

Pentre’r Eglwys a Thon-teg Cododd Cyngor Cymuned Llanilltud Faerdref bryderon ynglŷn â’r cyfuno arfaethedig. Yn gyntaf, nid yw’r ffigur 2,304 o etholwyr fesul cynghorydd yn gweithio, ac mae tu hwnt i’r cyfarwyddiadau am gymhareb nid llai na 1:1,750. Credant, o gofio’r cynnydd yn nifer yr etholwyr ar gyfer y ddwy gymuned ar gyfer 2014, fod cynnydd o 1 cynghorydd ar gyfer pob adran yn ateb mwy derbyniol na chyfuno.

Maent yn pryderu hefyd ynglŷn â cholli’r enw Ton-teg. Nodant fod y pentref wedi bod ar gofnodion ers cyfnod y Normaniaid (mae’r castell dan sylw yn safle CADW). Dywedant fod y ddwy ardal yn gymunedau diffiniadwy, ac fel y cyfryw mae’n amhriodol awgrymu newidiadau i wardiau ar sail fformwlâu mathemategol.

Nid oedd gan y Cynghorydd John David unrhyw sylwadau na gwrthwynebiadau penodol, ond cred nad yw dynodi’r enw Pentre’r Eglwys i’r ardal gyfan yn awgrymu’n gywir y cymunedau o fewn yr ardal, ac y byddai enw gwahanol yn ddymunol.

Rhondda a Glyncoch Dywed y Cynghorydd Robert Smith nad yw’r ddwy ward yn rhannu cysylltiad cyffredin ac mai ond mewn un man ar gopa mynydd y maent yn ffinio, a dim ond trwy gerdded neu ddefnyddio cerbyd maes y gellir mynd yno. Mae’r defnydd o ‘rhwystrau adeiladu’ felly yn ychwanegu pwysau at beidio â chyfuno’r ardaloedd hyn. Mae hefyd yn tynnu sylw at y ffigurau rhagamcanol ar gyfer ward Rhondda lle rhoddwyd ffigurau rhagamcanol o 3,554 iddo gan y swyddogion etholiadol.

Noda’r Aelod o’r Cynulliad hefyd fod y cynnig hwn yn croesi ffiniau etholaethol a gallai achosi dryswch i’r etholaeth.

Trefforest a Chanol Rhydfelin / Ilan

- 3 - Atodiad 5 Mae’r Cynghorydd Bates yn nodi fod ffin naturiol yn gwahanu’r ddwy gymuned wahanol. Gallai’r afon sy’n ffurfio’r ffin hon ei gwneud yn anodd i’r cynrychiolwyr etholedig fynd i weld etholwyr pan fydd llifogydd yn digwydd.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Brian Arnold (Ynysybwl) i wrthwynebu’n gryf iawn i’r cynnig i gyfuno Ynysybwl ag Abercynon. Tynna sylw at gyfarwyddiadau’r Gweinidogion i’r Comisiwn dalu sylw i gymunedau lleol yn cael eu cynrychiolaeth adnabyddadwy eu hunain ac y dylid creu adrannau aml-aelod pan fydd cefnogaeth eang i hynny ymhlith yr etholwyr. Mae o’r farn nad ydym wedi rhoi ystyriaeth ddyladwy i hyn, ac mae’n ymwybodol y bydd deiseb yn cael ei chyflwyno yn erbyn y cynigion, gan gynnwys yr enw gweithredol.

Mae’n cydnabod fod yr etholaeth bresennol yn uwch na’r cyfartaledd sirol, ond o dan y cynigion byddai cynghorydd yn gyfrifol am 8,077 o etholwyr. Mae’n mynd ymlaen i nodi, yn y rhagair, yr egwyddor o gyflawni cydbwysedd democrataidd gwell, ond awgryma bod pwysau’r gwrthwynebiad i’n cynigion mor gryf, pe baent yn cael eu mabwysiadu, yna byddai’r etholwyr yn dieithrio ac yn cael eu difreinio, a gallent aros adref mewn protest yn yr etholiad nesaf.

Mae o’r farn fod yr enw gweithredol Abercynon wedi ennyn llawer o ddicter ymhlith y cyhoedd yn Ynysybwl. Ar sail ei orffennol hanesyddol a diwylliannol, yn ogystal â’i hunaniaeth yn y dyfodol, teimla’r etholaeth fod ei hunaniaeth yn cael ei haberthu mewn ymarferiad sy’n ymhél â ffigurau. Cred fod cefnogaeth sylweddol i’r trefniadau presennol barhau yn sgîl ei sefyllfa unigryw.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Paul Baccara (Tonysguboriau) i wrthwynebu’r cynnig i gyfuno adrannau etholiadol Pont-y-clun a Thonysguboriau. Dywed fod Tonysguboriau yn gymuned gyfan gwbl ynddi’i hun ac nid yw’n rhan o unrhyw gymuned arall, yn enwedig Pont-y-clun. Mae ganddi ei chanolfan gymunedol ei hun, neuadd pafiliwn, swyddfa’r post, llyfrgell, gorsaf heddlu, ysgolion, ac ati. Pe bai’n cyfuno, yna dylid cyfuno â Thref Llantrisant gan eu bod yn rhannu eglwys a chofeb rhyfel, ac mae plac yng nghanol Tonysguboriau sy’n dangos ffin 13eg Ganrif Tref Llantrisant. Nid oes unrhyw gysylltiadau diwylliannol, siopa, crefyddol, cymunedol, hamdden na hanesyddol â Phont-y-clun.

Mae’n nodi’r cynnydd araf yn nifer yr etholwyr hyd at 2014, ond cred y bydd hyn yn cynyddu yn sgil y ffaith ei bod yn ardal boblogaidd, ac yn sgil tair ardal o dir y gellid eu defnyddio i ddatblygu ymhellach. Hefyd, mae gan yr adran ysbyty fawr, tair canolfan siopa a dwy ysgol i’r Cynghorydd ddelio â nhw.

Mae’r o’r farn y bydd y cynnig hwn, sef mai’r adran etholiadol ar gyfer Tonysguboriau yw Pont-y-clun, ond mai’r Cyngor Cymuned yw Llantrisant, yn drysu teyrngarwch lleol ac yn torri hen gysylltiadau. Mae’n argyhoeddedig fod pobl Tonysguboriau yn dymuno aros gyda Chyngor Cymuned Llantrisant, a bod yn adran etholiadol aelod unigol. Afonydd a ffyrdd amlwg yw’r ffiniau, a byddai’r Comisiwn yn torri canrifoedd o gysylltiadau cymunedol â Llantrisant.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Teressa A Bates (y Ddraenen Wen) i fynegi ei hanfodlonrwydd â’r cynnig i gyfuno adrannau etholiadol Ffynnon Taf a’r Ddraenen Wen. Mae o’r farn, gyda thri chynghorydd, y byddai’n ei gwneud yn anoddach i bobl gael gafael ar eu Cynghorydd.

Mae’n awgrymu dau ddewis amgen, un ohonynt yn newid i’r ffin, a’r llall i ychwanegu Rhydfelin at y Ddraenen Wen i greu adran aml-aelod. Mae hefyd yn teimlo ei fod yn

- 4 - Atodiad 5 anghywir ymgorffori ward bresennol Rhydfelin yn adran newydd Trefforest, gan fod yr afon sy’n rhannu’r wardiau yn gorlifo, gan ei gwneud yn anodd i Gynghorwyr gyfarfod â’r etholwyr bryd hynny. Cred hefyd fod llawer o ddewisiadau amgen eraill y gellid ymchwilio iddynt yn ardal Pontypridd.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Steven Bradwick (Dwyrain Aberdâr) i fynegi ei bryderon ynglŷn â’r cynigion ar gyfer Aberdâr a Llwydcoed. Mae’n ofni y gallai’r holl waith da a gyflawnwyd yn ystod ei amser fel Cynghorydd gael ei golli, gan y byddai’r adran newydd mor fawr. Ar hyn o bryd Dwyrain Aberdâr yw’r bedwaredd adran fwyaf y mae yntau wedi’u rhannu yn 8 o ardaloedd er mwyn rheoli’r adran yn haws, gwneud cysylltiadau ag etholwyr, cynnal cymorthfeydd llwyddiannus ar strydoedd, a mynychu cyfarfodydd y Bartneriaeth ar gyfer Gweithredu Cymunedol (PACT) a Chynlluniau Gwarchod Cymdogaeth. Mae hefyd yn patrolio gyda’r heddlu bob deufis er mwyn gweld problemau, ac mae’n adrodd yn ôl i’r bobl am yr hyn y mae’r heddlu’n ei wneud drostynt.

Mae Dwyrain Aberdâr yn cynnwys 8 ardal, sy’n cynnwys 3 ystâd dai, pob un â’u hymrwymiadau a’u hanghenion gwahanol eu hunain. Mae anghenion yr ardaloedd hyn yn gwbl wahanol i anghenion Gorllewin Aberdâr a Llwydcoed. Nid oes ystyriaeth wedi’i rhoi ychwaith i’r rheiny nad ydynt ar y gofrestr etholwyr, na datblygiadau ar safle ysbyty Aberdâr, lle mae cynlluniau ar y gweill i godi 600 arall o gartrefi.

Byddai maint yr adran arfaethedig dros 10 milltir, a fyddai’n cosbi pobl nad ydynt yn gyrru gan y byddai’n anodd teithio ar draws yr adran gyfan gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Bydd y berthynas rhwng y Cynghorydd a’r etholwr yn cael ei cholli mewn adran mor fawr, a byddai hynny’n cynyddu difaterwch ymhlith pleidleiswyr mewn perthynas â gwleidyddiaeth.

Mae’r Cynghorydd Gordon Bunn (Ton-teg) yn gweld rhinwedd yn ein cynigion ar gyfer Ton-teg, ond mae’n rhyfeddu’n llwyr at yr awgrym i gyfuno’r Ddraenen Wen a Ffynnon Taf. Mae’n deall yr angen am y gostyngiad o ran cymhareb, ond dylid rhoi mwy o ystyriaeth i bwysigrwydd hanesyddol.

Yn flaenorol roedd y Ddraenen Wen a Ffynnon Taf mewn Corfforaethau Datblygu Unedol gwahanol ac mae popeth ynglŷn â Ffynnon Taf yn wahanol i’r Ddraenen Wen. Mae’r boblogaeth graidd yn dal i gredu’n gryf yn yr hen ‘filltir sgwâr’.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Joyce Cass (Graig) i wrthwynebu cyfuniad arfaethedig adrannau Graig a Thrallwng. Mae’n honni nad oes ffin gan yr adrannau, ac i gyrraedd un adran o adran arall byddai’n rhaid mynd trwy adrannau Tref Pontypridd neu Drefforest. Mae’n methu â deall pam nad yw’r Comisiwn wedi cynnig ymgorffori Pencoedcae (yn adran Beddau) fel newid i’r ffin.

Mae’n tynnu sylw at gyfarwyddiadau’r Gweinidogion, a’r ffaith na ellir cyflawni’r nod 1:1,750 bob amser. Mae o’r farn fod y ffigur rhagamcanol a ddarparwyd yn rhy isel, gan fod fflatiau newydd wedi cael caniatâd cynllunio a fyddai’n gwneud y ffigur yn uwch. Mae’n tynnu sylw hefyd at y ffaith mai ward Graig yw’r ardal breswyl hynaf ym Mhontypridd, ac mae’n gymuned unigryw. Nid yw’n haeddu colli ei henw na’i hunaniaeth.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Anthony Christopher (Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a chynrychiolydd ar gyfer Gogledd Aberaman) i wrthwynebu cyfuno adrannau etholiadol Gogledd a De Aberaman a Chwmbach. Mae o’r farn fod yr

- 5 - Atodiad 5 amcan i gyflawni cydraddoldeb etholiadol gwell wedi arwain at ymarferiad pen desg i greu adrannau etholiadol artiffisial.

Mae’n dweud, mai Gogledd Aberaman yn bennaf yw’r hyn a elwir yn lleol yn Aberaman, ac mae’r cynnig yn ychwanegu at hyn gymunedau ar wahân Abercwmboi, Cwmaman a rhan fechan o Godreaman, yn ogystal â Chwmbach, sydd yr ochr arall i’r ffordd brifwythiennol, yr A4059, Afon Cynon a rheilffordd. Ni fyddai’r trigolion yn derbyn y cyfuno artiffisial hwn. Mae hyn hefyd yn creu endid mawr a fyddai’n rhoi gormod o ofynion yn sgil aelod yn cynrychioli llawer mwy o etholwyr a gwaith achos cysylltiedig. Mae goblygiadau yn hyn i degwch a chysondeb gwasanaeth a roddir i drigolion.

Yn ogystal, mae nifer o anghysondebau yn ffiniau presennol yr adrannau etholiadol, ac er y cydnabyddir na all y Comisiwn ystyried y rhain fel rhan o’r arolwg hwn, mae o’r farn y dylid datrys y rhain cyn cyfuno unrhyw adrannau etholiadol.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Ann Crimmings (Gorllewin Aberdâr / Llwydcoed) i fynegi ei phryder ynghylch y cynnig i gyfuno Dwyrain Aberdâr, Gorllewin Aberdâr a Llwydcoed. Ers cael ei hethol mae wedi gweithio’n ddiflino i feithrin perthnasoedd o fewn y cymunedau. Mae hyn wedi cymryd amser, gan fod yr ardal sydd eisoes yn fawr wedi’i rhannu yn saith ‘cymuned’, pob un ohonynt â’u cymeriad unigryw, eu hunaniaeth gref a’u hanghenion eu hunain. Mae eu gwybodaeth leol am y cymunedau hyn a’u dealltwriaeth o’u hanghenion wedi bod yn allweddol i’w llwyddiant.

Mae’n mynychu cyfarfodydd PACT yn rheolaidd, yn gweithio gyda’r heddlu a’r gymuned i fynd i’r afael â materion, ac yn mynychu cyfarfodydd cyswllt amrywiol, a chyfarfodydd cyrff llywodraethu ysgolion er mwyn ennill hyder y gymuned. Mae’n ofni y byddai’r perthnasoedd hyn mewn adran fwy yn cael eu colli, ac mae’n tynnu sylw at yr 11 o ysgolion yn yr adran arfaethedig fel problem.

Byddai cynrychioli etholaeth ar draws topograffeg yr ardaloedd wedi’u cyfuno yn eithriadol o anodd i aelod etholedig sy’n gyrru ac yn berchen ar ei chyfrwng cludiant ei hun; ni all ddychmygu sut y byddai rhywun nad yw’n gyrru yn dod i ben â gwasanaethu’r gymuned, gan nad oes gwasanaeth bws uniongyrchol.

Mae’n ein hannog i adolygu’r cynnig gan fod nifer o ddatblygiadau eisoes wedi’u cytuno yn y ddwy ardal, ac mae ardaloedd pellach wedi’u dynodi i’w datblygu; hefyd, mae llawer o’r trigolion heb eu cynnwys ar y rhestr etholwyr. Ar hyn o bryd, canran fach sy’n pleidleisio mewn etholiadau, a bydd symud yr aelod etholedig ymhellach i ffwrdd oddi wrth bleidleiswyr yn arwain at ostyngiad pellach.

Ysgrifennodd y Cynghorwyr John David (Ton-teg) a Graham Stacey (Pentre’r Eglwys) gyda’i gilydd i awgrymu bod adran arfaethedig Pentre’r Eglwys yn cael ei galw yn Pentre’r Eglwys a Thon-teg neu Pentre’r Eglwys / Ton-teg. Nid ydynt yn gwneud unrhyw sylwadau na gwrthwynebiadau penodol, ond credant nad yw’r enw gweithredol yn adlewyrchu’n gywir y cymunedau y bydd yr adran yn eu cynnwys.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Albert Davies MBE (Abercynon) i wrthwynebu’r cynnig i gyfuno adrannau etholiadol Abercynon ac Ynysybwl. Mae’r Cynghorydd Davies wedi byw yn Abercynon ar hyd ei oes ac mae wedi cynrychioli Abercynon am 39 o flynyddoedd. Mae’n nodi bod tri llwybr rhwng y ddwy gymuned: ar hyd Grovers Hill, trwy Berthcelyn a thros y mynydd, ac mae bron yn amhosibl mynd ar ei hyd â cherbyd modur.

- 6 - Atodiad 5 Mae’n tynnu sylw at yr anhawster y gallai tri Chynghorydd gael eu hethol o un pentref, a gallai hynny wneud i’r cymunedau eraill deimlo’n flin yn wyneb annhegwch y sefyllfa. Mae’n nodi hefyd fod ward Abercynon yn fawr iawn, ac roedd hynny’n arbennig o amlwg yn ystod y gaeaf caled a gawsom eleni. Mae’n gofyn hefyd a fyddai’r chwe chymuned o fewn Abercynon yn cadw’u hunaniaethau personol eu hunain.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Annette Davies (Glynrhedynog) i wrthwynebu cyfuno Glynrhedynog a Thylorstown oherwydd yr ardal ddaearyddol. Gan fod Maerdy a Glynrhedynog wedi bod yn gysylltiedig erioed, mae’n teimlo y byddai’n fwy buddiol cyfuno’r ddwy adran hon.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Mike Forey (Dwyrain Aberdâr) a’r Cynghorydd Steven Bradwick (Dwyrain Aberdâr) gyda’i gilydd i fynegi’u gwrthwynebiad i’r cynigion ar gyfer Aberdâr a Llwydcoed. Maent o’r farn fod yr amcan cydraddoldeb etholiadol wedi arwain at ymarferiad pen desg er mwyn cyfuno adrannau presennol waeth beth fo’r ffiniau artiffisial mae hynny’n eu creu.

Mae Dwyrain Aberdâr eisoes yn cynnwys nifer o gymunedau ar wahân. Byddai’r cynnig hwn yn gwaethygu’r sefyllfa o gydgrynhoi’r hyn sydd yn y bôn yn gymunedau gwahanol a chymunedau ar wahân i ffurfio adran etholiadol artiffisial sy’n annhebygol o gael ei derbyn gan drigolion. Mae ymdopi â llwyth gwaith presennol Dwyrain Aberdâr eisoes yn her ofnadwy. Byddai cynyddu maint yr adran hon yn creu endid anhydrin ac yn gofyn gormod gan gynrychiolwyr etholedig. Maent yn nodi mai canlyniad adrannau aml-aelod yw bod aelodau yn cael mwy o lawer o etholwyr a gwaith achos cysylltiedig i ddelio â nhw. Mae hyn yn cynnwys goblygiadau i gydraddoldeb a chysondeb gwasanaeth a ddarperir i drigolion. Maent hefyd yn cwestiynu’r gostyngiad rhagamcanol yn nifer yr etholwyr o gofio’r lefel sylweddol o ddatblygiad a ragwelir yn y Cynllun Datblygu Lleol. Nodant hefyd fod nifer o anghysondebau yn y ffiniau adrannau etholiadol presennol, ac er eu bod yn cydnabod na ellir ystyried hyn fel rhan o’r arolwg hwn, dylid datrys hyn cyn i unrhyw gyfuno ddigwydd.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Adam Fox (Penrhiwceibr) i fynegi ei wrthwynebiad cryf i’r cynnig i gyfuno Dwyrain Aberpennar, Gorllewin Aberpennar a Phenrhiwceibr. Mae o’r farn y byddai’r cynnig yn cael effaith negyddol ddifrifol ar yr holl gymunedau dan sylw. Ni fyddai creu ‘uwch ward’ o fudd i unrhyw un, yn enwedig y bobl.

Mae o’r farn fod yr adroddiad yn canolbwyntio ar etholwyr cyn y bobl, gan ddweud ei fod yntau’n helpu’r holl bobl yn ei adran ef, nid yr etholwyr cofrestredig yn unig. Mae’n nodi fod Penrhiwceibr yn adran amddifad iawn lle gofynnir iddo helpu pobl yn aml, am nad yw’r sgiliau sylfaenol ganddynt. Noda fod yr enw arfaethedig yn annerbyniol a bod gan bentref Penrhiwceibr ei hunaniaeth ei hun a’i ethos annibynnol. Yn ei farn ef, nid yw hepgor yr enw hwn o’r adran yn opsiwn o gwbl.

Dywed pe bai’r cynigion yn cael eu mabwysiadu, byddai’r adran yn rhy fawr. Er enghraifft, byddai 8 o ysgolion cynradd ac un ysgol uwchradd. Byddai’r dopograffeg yn feichus iawn. Mae hefyd yn gallu cerdded i bob rhan o’r adran o fewn deng munud, ac mae hynny’n gwneud cynrychiolaeth yn well o lawer i’r etholwyr, ac mae’r etholwyr yn ei weld yn amlach. Byddai’r adran fwy hefyd yn gwahaniaethu yn erbyn y rheiny nad ydynt yn gyrru oherwydd maint yr adran. Golygai’r eira diweddar nad oedd gyrru yn opsiwn a bod cerdded yn beryglus, ond roedd yn dal yn gorfod helpu etholwyr bryd hynny.

- 7 - Atodiad 5 I gloi, mae o’r farn pe bai’r cynnig yn cael ei weithredu y byddai’r effaith niweidiol ar y bobl a’r etholwyr yn fawr iawn. Mae angen i gynghorwyr fod yn weledol ar adeg pan fo llawer o ddifaterwch gwleidyddol, a byddai’r argymhellion hyn yn cynyddu’r difaterwch hwnnw. Mae’n nodi hefyd fod y cannoedd o etholwyr y mae wedi siarad â nhw ynghylch y mater hwn bob un ohonynt yn gwrthwynebu’r cynnig hwn, ac roeddent yn pryderu ynghylch y diffyg gwybodaeth mewn perthynas â’r ardal.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Tina Leyshon (Rhondda) i wrthwynebu’r cynnig i gyfuno Glyncoch gydag adran Rhondda am y rhesymau canlynol: 1. Mae’r adran arfaethedig yn croesi ffiniau etholaethau. 2. Mae Glyncoch yn ardal Cymunedau yn Gyntaf, ac nid yw Rhondda. 3. Nid oes unrhyw ffyrdd yn cysylltu’r adrannau. 4. Mae adran Rhondda yn cwmpasu ardal fawr iawn gyda 5 pentref, 4 ysgol gynradd, parc gwledig, ystad ddiwydiannol a’r ganolfan yrru ar gyfer y cyngor cyfan. Y rheswm y gelwir y Gymuned yn Rhondda yw bod gymaint o ardaloedd, ni fyddai modd ei henwi ar ôl un ohonynt yn unig.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Christina Ludlow (Trealaw) i wrthwynebu’n gryf i’r cynnig y gyfuno Trealaw â Llwyn-y-pia ac i roi’r enw Llwyn-y-pia ar yr adran etholiadol newydd. Gan mai Trealaw yw’r adran fwyaf, dylid rhoi’r enw Trealaw ar yr adran newydd.

Nid yw’n gallu gweld y fantais o newid y ffin os yw’r Comisiwn yn cadw’r un nifer o gynghorywr. Pan fydd hen safle’r ysbyty wedi’i droi yn ardal dai bydd pobl yn llifo i mewn i Lwyn-y-pia. Yr opsiwn gorau felly fyddai gadael yr adrannau fel ag y maent.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Roger Kenneth Turner (Brynna) i wrthwynebu cyfuno Llanharan a Brynna. Mae o’r farn y byddai creu adran aml-aelod yn gam yn ôl, yn torri’r llinell atebolrwydd rhwng cynghorwyr a’r etholwyr, ac yn gam niweidiol i bawb. Mae’n mynd ymlaen i awgrymu newid i’r ffin i gynnwys ystâd dai Maes-y-Gobaith yn adran etholiadol gyfagos Llanharan.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Linda De Vet (Gogledd Aberaman) gyda llythyr union yr un fath â llythyr y Cynghorydd Anthony Christopher.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Jane Ward (Penrhiwceibr) i wrthwynebu’r cynnig i gyfuno Dwyrain Aberpennar, Gorllewin Aberpennar a Phenrhiwceibr. Mae’n nodi bod llawer o etholwyr heb gofrestru yn ei hadran, ac mae’n sôn am enghraifft o un etholwr yn ceisio ymweld â phartner yn y carchar, ond nid oedd yn gallu gwneud hynny gan nad oedd yn meddu ar gerdyn adnabod, ac nid oedd yn etholwr cofrestredig.

Mae’n dweud fod y tri phentref sydd yn ffurfio’r Gymuned yn unigryw ac yn falch o’r hyn maent yn ei wneud yn eu pentref eu hunain. Nid ydynt eisiau colli’u hunaniaeth drwy fod yn gysylltiedig ag Aberpennar. Mae’n nodi hefyd y cafodd y ward ei gwneud yn ward Cymunedau yn Gyntaf, sef ei nodi drwy’r gofrestr amddifadedd, yn sgil cau diwydiant yn y cwm.

Mae o’r farn fod y trefniadau presennol yn cynnal y ddau gynghorydd ar hyn o bryd ac yn rhoi’r help a’r gefnogaeth y mae eu hangen i etholwyr. Pe baent yn cyfuno ag Aberpennar, ni fyddai hyn yn bosibl oherwydd topograffeg yr ardal.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Doug Williams (Glyncoch) i ddisgrifio’r cynnig i gyfuno Glyncoch a Rhondda fel gwarth. Mae Glyncoch yn gymuned sy’n cynnwys hen stoc dai y

- 8 - Atodiad 5 cyngor yn bennaf, ac mae ganddi ei hunaniaeth unigryw ei hun. Mae ganddi ei meddygfa ei hun, fferyllydd, clybiau, llyfrgell, dwy ysgol, canolfan gymunedol a siopau.

Mae yno bartneriaeth gymunedol weithgar iawn sy’n cynnwys nifer o grwpiau gwirfoddol, a grŵp Cymunedau yn gyntaf gweithgar a llwyddiannus. Dewisodd yr awdurdod lleol Glyncoch i lansio prosiect o’r enw ‘Glyncoch Glyn Gwyrdd’ sy’n anelu at droi Glyncoch yn gymuned gynaliadwy gan roi i’r trigolion ymdeimlad o berchenogaeth a balchder yn eu cartref. Mae ganddynt ‘Grŵp Gweithredu Gwyrdd a Chyfeillgar’ hefyd, ac mae Ymlaen Glyncoch yn gweithio ar brosiectau cymunedol.

Mae’n cyfeirio wedyn at adrannau o ddogfen arweiniad a gynhyrchwyd gan yr hen Bwyllgor Ffiniau ar gyfer Lloegr ynghylch wardiau datgysylltiedig a hunaniaeth cymunedau, ac mae’n awgrymu bod y ddau yn gymwys i Glyncoch.

Mae’n nodi bod Glyncoch ddwy filltir a hanner i ffwrdd oddi wrth adran etholiadol Rhondda, ac mae’n rhaid i chi fynd drwy adrannau etholiadol eraill i gyrraedd yno o Glyncoch. Nid oes unrhyw adnabyddiaeth rhwng y ddwy ardal. Mae’n awgrymu hefyd nad yw’r ffigur rhagamcanol ar gyfer Glyncoch yn ystyried eiddo a oedd yn wag yn flaenorol, amharodrwydd trigolion i anfon eu ffurflenni canfasio yn ôl, a bod Glyncoch wedi’i nodi fel ardal ar gyfer adeiladu tai fforddiadwy.

Mae’n methu â deall cyfiawnhad y cynigion, mae o’r farn na ddylai adran groesi llinellau etholaethau seneddol, a chred na fydd y cynigion yn ennyn pobl i ymddiddori mewn gwleidyddiaeth leol sylfaenol.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Tref Jonathan Bishop (Cyngor Tref Trefforest) i gefnogi’r cynnig arfaethedig i greu ward aml-aelod yn cynnwys Trefforest. Mae o’r farn, er y gallai’r berthynas rhwng y cymunedau fod yn un dan bwysau, mae enghreifftiau o’r ddwy ardal yn gweithio gyda’i gilydd. Mae’n credu mai Cwm Taf ddylai’r enw fod, am ei fod yn enw mwy niwtral sy’n adlewyrchu perthynas yr adran ag afon Taf ac mae hen reilffordd Cwm Taf yn rhedeg drwyddi.

Mae’n mynd ymlaen wedyn i ddatgan ei gredoau ynghylch diwygio llywodraethu lleol a chenedlaethol yng Nghymru.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Cymuned Bob Fox (Ward Graig – Cyngor Tref Pontypridd) i awgrymu enw gwahanol i adran arfaethedig Trallwng a Graig. Awgrymodd y byddai Ynysangharad yn enw gwell am fod topograffeg y ddwy ward wedi’i rhannu gan Barc Coffa Rhyfel Ynysangharad. Mae o’r farn y byddai’n annheg ac yn amhriodol i’r enw Trallwng gael ffafriaeth dros yr enw Graig.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Cymuned Arlene Moss (ward Tonysguboriau - Cyngor Cymuned Llantrisant) i wrthwynebu’r cynnig i gyfuno adrannau etholiadol Pont-y-clun a Thonysguboriau, gan amgáu deiseb yn cynnwys 389 o lofnodion. Adrodda ei bod yn gweithio law yn llaw â’r Cynghorydd dros Donysguboriau, ac mae’n cwestiynu ei ymrwymiad pe bai’n ofynnol iddo fod yn rhan o gymuned Pont-y-clun hefyd. Yn hanesyddol, mae Pont-y-clun wedi bod yn endid ar wahân erioed, ac mae Tonysguboriau wedi bod yn gysylltiedig â Llantrisant erioed.

Mae o’r farn y byddai cynrychiolydd ar gyfer Tonysguboriau yn cael ei golli pe baent yn integreiddio â chymuned Pont-y-clun, ac ofnai y gallai pob un o’r tri Chynghorydd ddod o Bont-y-clun. Byddai hen gysylltiadau cymunedol, cysylltiadau hynafol hyd yn oed, yn cael

- 9 - Atodiad 5 eu torri dros nos, gan ei gadael hi heb unrhyw Gynghorydd. Byddai’n gamwedd colli canrifoedd o gysylltiadau arbennig â Llantrisant. Mae’n honni hefyd y byddai datblygiadau yn yr ardal yn gwthio’r etholaeth ymhell uwchlaw’r ffigur 2,104 [mae’r ffigur hwn yn wahanol i’r un a ddarparwyd i’r Comisiwn gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol].

Yn ogystal â maint yr etholaeth, mae’n rhaid i’r Cynghorydd ar gyfer Tonysguboriau hefyd ofalu am fuddiannau’r ysgol, yr ysbyty, nifer o siopau manwerthu, yr orsaf fysiau a gorsaf yr heddlu, y siopau yng nghanol y dref, gwestai, bwytai a busnesau uwch dechnoleg.

Mae’n gwrthwynebu felly torri cysylltiadau cymunedol, perthnasoedd arbennig, colli digwyddiadau cymunedol a cholli ei synnwyr o hunaniaeth am byth.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Cymuned Barry Stephens (Cyngor Cymuned Llanharan) i gefnogi’r cynnig i gyfuno adrannau etholiadol Llanharan a Brynna. Bydd yr adran unigol yn adlewyrchu ardal y Cyngor Cymuned, mae’r Cynghorwyr Sir presennol yn gwasanaethu’r Cyngor Cymuned, ac maent yn gwneud penderfyniadau ar y cyd ar hyn o bryd. Maent yn rhannu nifer o gyfleusterau, a byddai gan unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol fwy o siawns o lwyddo yn sgil bod â llais cryfach.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Cymuned Jeff Williams (Cyngor Cymuned Llanharan) i gefnogi’r cynnig i gyfuno adrannau etholiadol Llanharan a Brynna. Mae’n nodi, 35 o flynyddoedd yn ôl, pan oedd cynnig i gyfuno Brynna â Chymuned Llanharan, eu bod yn meddwl y byddai’r ardal yn ‘colli allan’. Fodd bynnag, synnwyr cyffredin enillodd y dydd, ac mae’r ddwy gymuned yn gweithio’n agos â’i gilydd, ac erbyn hyn maent yn rhannu naw o gyfleusterau ac amwynderau. Mae o’r farn fod y cynnig yn gwneud synnwyr, ac mae’n ddilyniant naturiol am fod ganddynt gysylltiadau mor agos yn barod, a byddant yn ddiau yn gwella’r gymuned leol yn y dyfodol.

Ysgrifennodd Plaid Lafur Sir Rhondda Cynon Taf i ategu’r barnau a esboniwyd i’r Comisiwn gan Grŵp Llafur Rhondda Cynon Taf a Chynghorwyr Bwrdeistref Sirol unigol.

Ysgrifennodd Plaid Lafur Dwyrain Aberdâr i fynegi’u pryderon ynghylch y cynigion ar gyfer Aberdâr a Llwydcoed. 1. Bydd creu adran etholiadol fwy yn peri i’r etholaeth ymbellhau ymhellach oddi wrth ei chynrychiolwyr. Ar hyn o bryd mae trigolion yn cwyno ynghylch diffyg Cynghorwyr, a chanran fach sy’n pleidleisio, a bydd hyn yn gwaethygu’r broblem. Cyfeiriant at yr amser pan oedd Cynghorau Dosbarth Trefol a Chynghorau Sir, ac roedd canran uwch yn pleidleisio yn y Cyngor Dosbarth Trefol, gan awgrymu fod peri i aelodau ymbellhau oedi wrth yr etholaeth yn annog pobl i beidio â phleidleisio. 2. Mae etholwyr yn aml yn cwyno mai ond ar adeg etholiad y maent yn gweld Cynghorwyr, ond credant nad yw hyn yn wir yn eu hardal nhw. Maent yn cynnal ymgyrchoedd blynyddol, ond gall hyn fod yn annigonol hyd yn oed weithiau. Dim ond gwaethygu’r sefyllfa a wneir trwy ddyblu maint daearyddol yr ardal a nifer yr etholwyr. 3. Mae hafaliadau rhifyddol sy’n dangos cymarebau cyfartalog etholwyr i Gynghorydd yn gymorth i sicrhau tegwch i strwythurau awdurdod lleol ac i’r nifer o Gynghorwyr sydd eu hangen, fodd bynnag, mae lledaenu’r broses i ardaloedd daearyddol ehangach yn creu problem. Mae Cynghorydd yn cynrychioli’r etholaeth gyfan, yn yr achos hwn dros 12,000 o bobl. Mae hyn yn cymhlethu’r broblem bresennol o adeiladu perthnasoedd rhwng cynrychiolwyr a’u hetholwyr, gan ei gwneud yn anoddach ac yn llai cynhyrchiol. Nodant nad yw pob Cynghorydd mor gynhyrchiol

- 10 - Atodiad 5 â’i gilydd, ac mae creu adran 5 aelod yn darparu’r cyfle i unigolion ‘ddiflannu’, gan adael y rhai mwy cydwybodol i ysgwyddo’r llwyth gwaith. 4. Mae ardal a llwyth gwaith presennol Cynghorydd yn gofyn am ddiwydrwydd a dealltwriaeth o broblemau unigol yn eu hardal. Nid yn unig y mae ehangu’r ardal a gorfod creu perthnasoedd newydd mewn cymdogaethau amrywiol newydd yn ddiangen, ond mae’n wrthgynhyrchiol hefyd. Mae Cynghorwyr eisoes yn ymwneud â grwpiau cymunedol fel PACT a Cymunedau yn Gyntaf, a byddai creu strwythur mwy yn effeithio’n niweidiol ar y mentrau hyn a ddatblygwyd yn lleol. 5. Mae’n rhaid i ASau ac ACau edrych ar ôl buddiannau etholaeth gyfan, ac maent yn cyflogi staff gweinyddol a staff ymchwil i roi darlun cyffredinol. Y gair gweithredol i Gynghorydd yw ‘lleol’. Maent yn gweithredu lefelau gwahanol o wasanaethau cyhoeddus, e.e. ysbwriel, ac ati, ac mae angen ardaloedd hydrin arnynt y maent yn gyfarwydd â nhw er mwyn gweithredu a darparu gwasanaeth penodol at anghenion yr unigolion a’u cymunedau.

Ysgrifennodd Plaid Lafur Gorllewin Aberdâr a Llwydcoed i leisio’u pryderon ynghylch y cynigion ar gyfer Aberdâr a Llwydcoed. 1. Mae ardal bresennol Gorllewin Aberdâr / Llwydcoed yn fawr iawn heb ychwanegu Dwyrain Aberdâr. Byddai Cynghorydd sy’n cynrychioli’r ardal gyfan, ddwy filltir a hanner o gopa mynydd i gopa mynydd, hyd yn oed gyda’i gyfrwng teithio ei hun, yn cael anawsterau sylweddol yn cyrraedd rhai rhannau o’r adran. Byddai Cynghorydd sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ei chael hi’n amhosibl, a byddai’n cael ei annog i beidio â sefyll fel Cynghorydd. 2. Mae gan adran Gorllewin Aberdâr / Llwydcoed gyfres nodedig o gymunedau pentref, pob un â’u hunaniaeth, eu priodweddau a’u problemau eu hunain. Nid oes ganddi unrhyw gysylltiad â Thref Aberdâr sydd ag un ardal bentref. Mae’r adran bresennol yn weddol hydrin, ac mae’r Cynghorwyr yn gwneud cryn ymdrech yn mynychu cyfarfodydd, maent yn llywodraethwyr ysgolion (byddai 11 o ysgolion gyda’r cynnig) yn ychwanegol at weithio dros yr etholaeth. Mae Cynghorwyr yn meithrin cydberthynas â thrigolion a fyddai bron yn amhosibl gydag ardal fwy. 3. Bydd creu adran etholiadol fwy yn peri i’r etholaeth ymbellhau ymhellach oddi wrth ei chynrychiolwyr. Ar hyn o bryd mae trigolion yn cwyno ynghylch diffyg Cynghorwyr, a chanran fach sy’n pleidleisio, a bydd hyn yn gwaethygu’r broblem. Cyfeiriant at yr amser pan oedd Cynghorau Dosbarth Trefol a Chynghorau Sir, ac roedd canran uwch yn pleidleisio yn y Cyngor Dosbarth Trefol, gan awgrymu fod peri i aelodau ymbellhau oedi wrth yr etholaeth yn annog pobl i beidio â phleidleisio. 4. Maent yn honni fod ardaloedd mawr o Orllewin Aberdâr / Llwydcoed wedi cael caniatâd cynllunio, ac y bydd gwaith adeiladu yn mynd yn ei flaen yn weddol fuan. Hefyd, mae nifer fawr o eiddo i’w rhentu, ac nid yw pobl ar y gofrestr etholwyr. Felly, nid yw’r niferoedd a ddyfynnwyd yn gywir iawn mewn gwirionedd, ac nid ydynt yn dweud y stori gyfan. 5. Nid ydynt yn gwrthwynebu newid, ac maent yn deall bod cyfuno’r ddwy adran yn datrys yr anghysondeb cymunedau yn gorwedd yn gyfan gwbl o fewn adran etholiadol, ond teimlant fod rhaid cael cydbwysedd rhwng y cynigion ac anghenion yr etholwyr a’r cynghorwyr. Dylai Llywodraeth Leol olygu lleol, a dylai ymwneud â gwasanaethau ar lefel leol. Dyma’r hyn y mae’r cyhoedd am ei weld: cynghorwyr hawdd mynd atynt, cynghorwyr y maent yn eu hadnabod a chynghorwyr sy’n gallu gwneud eu gwaith. Credant na ellir ennill dim oddi wrth y cynigion, ac maent yn gofyn i ni ailystyried er budd pawb sy’n gysylltiedig.

- 11 - Atodiad 5 Ysgrifennodd Plaid Lafur Wardiau Beddau a Thyn-y-nant i gynnig eu barn am y cynigion. Pont-y-clun Maent yn croesawu’r cynnig i gyfuno Pont-y-clun a Thonysguboriau gan fod y ddwy gymuned yn rhannu llawer o nodweddion tebyg – mae gan y ddwy ardaloedd siopa mawr ac effeithir ar y ddwy yn aml gan faterion cynllunio strategol mawr, fel datblygiadau tai, manwerthu a datblygiadau ystadau diwydiannol mawr. Maent hefyd yn teimlo y caiff effeithiau datblygiadau fel priffyrdd a thraffig yn yr ardal eu cynrychioli orau ar lefel fwy strategol, ac er budd y ddwy gymuned, a bydd yn arwain at well broses gwneud penderfyniadau. Nid ydynt yn gweld unrhyw rwystr naturiol penodol sy’n pennu ffiniau’r ddwy gymuned.

Llantrisant Nid ydynt yn gallu cefnogi’r cynnig hwn, ond cynigiant ddau ddewis amgen: Dewis 1: Cyfuno adrannau Tref Llantrisant, Beddau a Thyn-y-nant i ffurfio adran Llantrisant, gyda phedwar Cynghorydd. Credant fod hwn yn gynnig gwell am ei fod yn cadw cysylltiadau lleol a fyddai’n cael eu torri gyda chynnig y Comisiwn. Mae Beddau a Thref Llantrisant yn cael eu gwahanu gan rwystr naturiol comin Llantrisant, gan roi i Lantrisant a Beddau hunaniaethau gwahanol ar wahân. Fodd bynnag, teimlant y byddai cyfuno pob un o’r adrannau hyn yn un adran aml-aelod, yn cael eu gwasanaethu gan un Cyngor Cymuned, yn galluogi gwell proses benderfynu ar lefel fwy strategol o fewn yr awdurdod ar gyfer prosiectau mawr, a diogelu elfennau mwy gwledig a phentrefannau rhag datblygu trefol dieisiau. Mae gan bentref Beddau, sy’n cynnwys Tyn-y-nant, ei hunaniaeth ei hun ar wahân i Lantrisant, ac mae cyfarfodydd PACT misol yn cael eu cynnal yno’n rheolaidd, mae yno feddygfa, fferyllfeydd, canolfan siopa a thîm rygbi sy’n chwarae yn Tyn-y-nant. Teimlant y bydd y cynnig i rannu’r pentref, er bod hynny’n gwneud synnwyr o ran niferoedd, yn ennyn dryswch a gwrthwynebiad gan y pentref. Dewis 2: Cyfuno Beddau a Thyn-y-nant i ffurfio adran â’r enw Beddau, gyda 3 Chynghorydd. Byddai hyn union yr un fath a hen adran Cyngor Sir Morgannwg Ganol. Byddai Tref Llantrisant yn aros yn endid ar wahân wedyn. Teimlant y byddai hyn yn cadw cysylltiadau lleol a fyddai’n cael eu torri dan gynigion y Comisiwn.

Maent yn ein hannog i ailystyried y cynigion a fyddai’n rhannu Beddau, gan adael y Tŷ’r Clwb Rygbi, grwpiau gwleidyddol a chymunedol yn Llantrisant, a fyddai’n gwasanaethu Beddau. Teimlant yn gryf y dylai unrhyw gynigion adlewyrchu’r gymuned sy’n bodoli, a gobeithiant yn gryf y bydd y Comisiwn yn ymatal rhag cyflawni anghyfiawnder i bobl pentref Beddau.

Ysgrifennodd Plaid Lafur Cangen Penrhiwceibr i fynegi’u gwrthwynebiad i’r cynnig i gyfuno Dwyrain Aberpennar, Gorllewin Aberpennar a Phenrhiwceibr. Credant pe bai’r cynnig yn cael ei weithredu, y byddai’n cael effaith drychinebus ar y gymuned gyfan, ei sefydliadau a’i phobl. Mae Penrhiwceibr yn bentref annibynnol nad oes ganddo fawr o ryngweithio ag Aberpennar.

Teimlir bod yr adran etholiadol yn rhy fawr ac estron i’r rhan fwyaf o bobl, ac y bydd yn cynyddu difaterwch ymhlith pleidleiswyr ar draul yr holl bleidiau a sefydliadau gwleidyddol. Maent yn mynegi pryder hefyd ynglŷn â’r nifer o etholwyr a nodwyd, gan fod llawer o bobl yn yr adran nad ydynt ar y gofrestr etholwyr. Nodant hefyd fod yr enw arfaethedig yn annerbyniol a’i fod yn dangos diffyg parch i’r Gymuned.

Ysgrifennodd Plaid Lafur Cangen Gogledd Ddwyrain Pontypridd i wrthwynebu’r newidiadau i’r adrannau awdurdod lleol yn ardal Pontypridd, yn benodol Trallwng a Graig.

- 12 - Atodiad 5 Credant nad yw’r cynnig hwn yn gwneud unrhyw synnwyr, gan nad yw’r ddwy ward yn cyffinio ac mae’n rhaid i chi deithio trwy Dref Pontypridd i fynd i’r ward arall. Roeddent yn pwysleisio awgrym y Cynghorydd Cass fel ateb.

Y maes pryder arall iddynt yw’r cynnig i gyfuno Rhondda a Glyncoch am ei fod yn croesi ffin etholaethol. Credant hefyd y dylid ailenwi adran Rhondda er mwyn adlewyrchu ei lleoliad yn well yn ardal Pontypridd.

Ysgrifennodd Plaid Lafur Cangen De Orllewin Pontypridd i ategu’r barnau a fynegwyd i’r Comisiwn gan Blaid Lafur Ward Pont-y-clun y dylai pob ward fod yn wardiau aelod unigol yn hytrach na rhai aml-aelod fel a gynigir gan y Comisiwn.

Ysgrifennodd Plaid Lafur Ward Tylorstown i wrthwynebu’n gryf i’r cynnig i gyfuno adrannau etholiadol Tylorstown a Glynrhedynog am y rhesymau canlynol: • Credant nad yw’r ffigurau etholiadol a ddarparwyd i ni yn gywir, nid ydynt yn ystyried datblygiadau yn y dyfodol ac nid oes digon wedi’i wneud i ganfod y gwir sefyllfa. Maent wedi cytuno mai ymarferiad pen desg yw hwn nad yw’n ystyried cyfansoddiad daearyddol, cymdeithasol nac economaidd yr adran. Maent yn awgrymu bod arolwg o ddrws i ddrws yn cael ei gynnal. • Mae’r adran arfaethedig yn cynnwys 6 o wardiau, pob un ohonynt â’u hunaniaeth a’u hanghenion eu hunain ar wahân. Cafodd Tylorstown anawsterau mawr pan gyfunwyd y pedair ward. Mae ardaloedd cymoedd De Ddwyrain Cymru yn wladgarol ac yn diriogaethol iawn. Bydd hyn yn amhosibl os gorfodir iddynt gael eu cynrychioli gan ardal drefol bell i ffwrdd. • Mae Tylorstown yn ardal Cymunedau yn Gyntaf ac mae’n elwa o’r cynllun hwn. Nid yw Glynrhedynog yn ardal felly, a chredant ei bod yn debygol y bydd hyn yn newid os bydd y cynnig yn mynd rhagddo. Maent yn dyfynnu enghraifft pan gyfunwyd Blaenllechau, a chollodd Glynrhedynog ei statws o ganlyniad i gyfuno â’r dref. • Mae Tylorstown yn safle 11eg ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, ac mae’n cael cymorth a chyllid o ganlyniad i hyn. Maent yn ofni y byddai cyfuno gyda Glynrhedynog yn arwain at golli cyllid sylweddol i fynd i’r afael ag anghenion economaidd gymdeithasol trigolion yr adran. Credant hefyd eu bod yn debygol o golli’r rhaglen ‘On Track’ sydd hefyd yn helpu’r trigolion lleol. • Mae llwyth gwaith cynghorwyr yn fater allweddol. Ar hyn o bryd mae’r Cynghorwyr dros Tylorstown yn gweithio 30 awr yr wythnos, a byddai ychwanegu Glynrhedynog at y llwyth gwaith hwn yn tanseilio’u gallu i gynrychioli’r etholwyr. • Yn sgil y niferoedd uchel o bobl sy’n derbyn budd-daliadau a theuluoedd incwm isel, mae’r ardal yn wynebu amrywiaeth eang o broblemau y mae’r ddau Gynghorydd presennol yn ei chael hi’n anodd delio â nhw ar brydiau. Bydd y cyfuno’n ei gwneud hi’n anoddach fyth delio â’r problemau hyn. • Gan mai ond dwy swydd llywodraethwyr y gall Cynghorwyr eu dal ar unrhyw un adeg a bod 9 o ysgolion yn yr adran arfaethedig, ni fydd cynghorydd gan 3 ysgol ar eu bwrdd. • Mae adeiladu cyfnod 1 ffordd liniaru Rhondda Fach wedi dod â llawer o deuluoedd a phlant i mewn i’r adran, ac mae hyn eto’n anghydweld â’r ffigurau a ddarparwyd i’r Comisiwn. Brwydrwyd i gael hyn er mwyn ychwanegu agweddau mwy cadarnhaol i’r ardal. • Mae’r Comisiwn Ffiniau wedi cynnal ymarferiad pen desg ac wedi creu cynigion drafft ar sail niferoedd etholwyr a heb ddeall anghenion sylfaenol cymuned. Mae gan ardaloedd ag amddifadedd uchel fwy o faterion i ddelio â hwy, ac mae’r dystiolaeth yn dangos y bydd gan gynghorwyr sy’n cynrychioli’r ardaloedd hyn lwyth gwaith trymach na Chynghorwyr sy’n cynrychioli adrannau cefnog.

- 13 - Atodiad 5 • Mae Glynrhedynog yn rhan o gynllun Blaenau’r Cymoedd, ond nid yw Tylorstown. Credant y gallai hyn effeithio’n ddifrifol ar y strwythur grantiau sydd ar waith ar hyn o bryd. Mae cymhlethdod adran yn derbyn grantiau ar gyfer un dref fechan tra bod ardaloedd eraill yr adran fwy yn colli allan yn gwbl ddisynnwyr. Mae Glynrhedynog yn derbyn cyllid fel tref. • Maent yn amau effaith 3 Chynghorydd yn dod o’r un ardal. A fyddai etholwyr o ardal arall yn cael eu hanghofio?

Ysgrifennodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru i gefnogi cyflwyno Pleidlais Drosglwyddadwy Unigol mewn etholiadau llywodraeth leol. Byddai hyn yn cael ôl- effeithiau ar feintiau adrannau a’r nifer o adrannau aml-aelod.

O ran cadw cysylltiadau cymunedol, maent o’r farn y penderfynwyd ar rai o’r cynigion braidd yn fympwyol, gan roi fawr o ystyriaeth i ddaearyddiaeth. Maent hefyd yn gwrthwynebu adrannau sy’n rhannu ffiniau etholaethau.

Ysgrifennodd Plaid Cymru Etholaeth Cwm Cynon i fynegi’u siom at y cynigion i greu adrannau mwy. Maent yn pryderu bod wardiau mwy yn creu risg ddifrifol y bydd y berthynas rhwng Cynghorydd ac etholwr yn ymbellhau. Nodant fod cynyddu’r adran yn ei gwneud yn haws i’r Comisiwn wella cydraddoldeb, ond mae’n peri bod Cynghorwyr yn cynrychioli ardaloedd anferthol heb unrhyw gydlyniant cymdeithasol. Nid yw Aml Gynghorwyr yn cynrychioli ward yn golygu fod pob Cynghorydd unigol yn cynrychioli rhan fach o’r adran ond yn hytrach yr adran a’r etholaeth gyfan. O ganlyniad, mae’r etholaeth yn debygol o deimlo fod y gynrychiolaeth yn un fwy pellennig.

Adrannau Arfaethedig Hirwaun Er iddynt fynegi pryder y gallai buddiannau’r Rhigos a Phenderyn gael eu colli yn ardal fwy Hirwaun, gan fod y cynnig yn mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb sylweddol, maent yn cytuno â’r cynnig.

Penywaun Maent yn cytuno nad oes angen unrhyw newid.

Aberdâr Maent yn pryderu ynghylch maint y ward a byddai’n well ganddynt gadw’r trefniadau presennol, ond nodant ofyniad Deddf Llywodraeth Leol 1972 i gyfuno’r adrannau presennol. Maent o’r farn ei bod yn anffodus eithriadol fod y diffiniadau hyn yn dal mewn grym a bod cyn lleied o le i’r Comisiwn symud. Maent hefyd yn cefnogi Cymuned Llwydcoed yn cadw’i chysylltiadau ag Aberdâr, er gwaetha’r ffaith fod hyn yn ychwanegu dros 1,000 o etholwyr at yr adran.

Aberaman Fel gydag Aberdâr, maent yn cydnabod y gofyniad cyfreithiol i roi Cymuned Aberaman yn gyfan gwbl o fewn un adran, ond yn gwrthwynebu cyfuno â Chymuned Cwmbach. Ychydig o gysylltiad, os o gwbl, sydd rhwng y ddwy ardal, ac maent wedi’u rhannu’n ddaearyddol gan afon Cynon. Byddai cyfuno’r ddwy ardal yn gam tuag yn ôl.

Maent yn awgrymu cynnig amgen, sef adran Aberaman gyda Chymuned Aberaman yn cael ei chynrychioli gan dri chynghorydd, a Chwmbach yn cael ei gynrychioli gan un. Maent yn gwerthfawrogi fod y gymhareb arfaethedig 1:3,189 ar gyfer Cwmbach yn amrywio fwy nag arfer o’r cyfartaledd, ond teimlant y dylai’r Comisiwn wneud eithriad yn yr

- 14 - Atodiad 5 achos hwn, yn enwedig o gofio’r gostyngiad a ragwelir yn yr etholaeth. Mae Cymuned Cwmbach yn sefyll ar ei phen ei hun heb unrhyw gysylltiad amlwg â Chymunedau eraill. Maent hefyd yn gofyn bod y Comisiwn yn ystyried o ddifrif y gofyniad i newid adrannau aml-aelod dim ond pan fydd yr ‘etholaeth yn cefnogi hynny’n gyffredinol’.

Aberpennar Fel gydag Aberdâr ac Aberaman, maent yn cydnabod y gofyniad cyfreithiol i roi Cymuned Aberpennar yn gyfan gwbl o fewn un adran. Fodd bynnag, nid ydynt yn ystyried bod cyfuno Penrhiwceibr ag Aberpennar yn angenrheidiol. Maent yn gwahodd ystyried adran Aberpennar gyda 3 chynghorydd a Phenrhiwceibr gyda 2 gynghorydd. Mae hyn yn amrywio ychydig yn fwy o’r cynigion, ond mae’n rhoi cynrychiolaeth agosach i’r bobl.

Abercynon Nid ydynt yn cytuno â’r cynnig hwn. Credant y dylai pethau aros fel ag y maent. Maent yn sylweddoli y byddai’r trefniadau presennol ar gyfer Ynysybwl yn darparu cymhareb o 1:3,567, ond credant fod y gostyngiad a ragwelir yn nifer yr etholwyr yn anghywir. Maent o’r farn fod yr etholaeth yn fwy tebygol o barhau i gynyddu, ac maent felly wedi cynnig Cynghorydd ychwanegol ar gyfer yr adran.

Rhondda Gan fod y cynnig hwn yn croesi llinellau etholaethau Seneddol, byddent yn tueddu i rwystro cynnig o’r fath a dymunant gadw pethau fel ag y maent.

Cilfynydd Nid ydynt yn gwrthwynebu’r cynnig hwn.

Ysgrifennodd Lleng Brydeinig Frenhinol, cangen Ynysybwl i wrthwynebu’r cynnig arfaethedig i gyfuno Ynysybwl ag Abercynon. Credant fod yr enw arfaethedig Abercynon yn sarhau ac yn bychanu pobl Ynysybwl. Maent o’r farn, oherwydd eu harwahanrwydd daearyddol, bod ganddynt hunaniaeth gymunedol gryfach na’r rhan fwyaf o adrannau, fel yr awgryma’r gair ‘ynys’ yn wir.

Fe wnaethant ofyn i ni ystyried topograffeg yr ardal, hunaniaethau ar wahân a barnau a materion annibynnol y pentrefi yn yr ardal. Maent yn pwysleisio fod Cynghorwyr presennol a chyn Gynghorwyr dros Ynysybwl wedi hannu o’r ardal, a byddai’r rhan fwyaf ohonynt yn adnabod cartrefi’r unigolion i gysylltu â nhw. Pe bai’r Cynghorydd newydd yn dod o Abercynon, byddai’n gofyn am daith gron yn ôl ac ymlaen o 20 milltir, taith na fyddai modd ei gwneud ar drafnidiaeth gyhoeddus heb anghyfleustra a chost.

Nid yw’r Cynghorydd presennol yn ystyried bod y nifer uwch na’r cyfartaledd o etholwyr yn faith, i’r gwrthwyneb, mae’n haws oherwydd natur ddaearyddol dynn yr adran. Awgrymant gynyddu nifer y cynghorwyr ar gyfer Ynysybwl er mwyn dod â’r gymhareb Cynghorwyr i etholwyr i lawr yn hytrach na gorfodi cyfuno amhoblogaidd.

Pe bai’r cyfuno’n mynd rhagddo, maent wedi awgrymu enwau gwahanol, sef Ynysybwl ac Abercynon, Clydach-Cynon neu Ynys-Cynon.

Ysgrifennodd Pwyllgor Canolfan Gymunedol a Neuadd Pafiliwn Tonysguboriau i wrthwynebu’r cynnig i gyfuno adrannau etholiadol Pont-y-clun a Thonysguboriau. Mae’r aelod presennol dros Donysguboriau yn ymhél llawer â’r neuaddau, ei defnyddwyr a’u digwyddiadau cymunedol. Maent yn ofni y bydd y tri Chynghorydd fel rhan o adran fwy

- 15 - Atodiad 5 Pont-y-clun yn canolbwyntio ar neuaddau mwy Pont-y-clun a’r dinasyddion, ac nid eu gweithgareddau.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn gweithio’n agos â Chyngor Cymuned Llantrisant. Maent yn teimlo y byddai bod yn rhan o Gymuned Llantrisant ond â Chynghorydd Rhondda Cynon Taf ar gyfer Pont-y-clun yn ddryslyd, a byddent yn hoffi un aelod diffiniedig ar gyfer Tonysguboriau o fewn Rhondda Cynon Taf. Teimlant pe bai’r cynnig yn mynd rhagddo, byddai llawer o gysylltiadau cymunedol yn cael eu torri, a byddai llawer o grwpiau defnyddwyr heb gynrychiolaeth yn y Cyngor Bwrdeistref Sirol. Nid ydynt eisiau’r cynnig hwn, ac nid oes ei angen.

Ysgrifennodd Canolfan Gymunedol Ynysybwl i wrthwynebu’n gryf y cynnig arfaethedig i gyfuno Ynysybwl ag Abercynon. Mae daearyddiaeth yr ardal o fath a fyddai’n gofyn am daith gron 20 milltir yn ôl ac ymlaen, heb unrhyw lwybr bysiau uniongyrchol i fynd o’r naill i’r llall. Mae Ynysybwl yn gymuned ynddi hi eu hun, a byddai unrhyw gyfuniad arfaethedig yn arwain at Ynysybwl yn colli’i hunaniaeth a chynrychiolydd lleol.

Ysgrifennodd Partneriaeth Adfywio Ynysybwl i wrthwynebu’r cynnig i gyfuno adrannau etholiadol Abercynon ac Ynysybwl. Ar ôl ymgynghori’n eang â thrigolion lleol, gwnânt y pwyntiau canlynol: 1. Mae ‘bloc pleidleisio’ Abercynon yn gwrthbwyso etholaeth Ynysybwl o ryw 900 o bleidleisiau. Mae’r trefniadau newydd yn agor y posibilrwydd y gallai Ynysybwl golli aelod cymunedol preswyl fel Cynghorydd, a’r gronfa amhrisiadwy o ymddiriedaeth y naill at y llall a’r wybodaeth gyffredin sy’n bodoli rhwng Cynghorydd a’r etholaeth. 2. Yn y senario uchod, ni fyddai modd i gyfran sylweddol o’r gymuned allu mynd yn hawdd at Gynghorwyr lleol. Byddai gan aelodau cymunedol sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus daith gron o 20 milltir yn ôl ac ymlaen, neu ymhellach. Byddai hyn yn anghyfleus neu’n amhosibl hyd yn oed. Byddai’n rhaid i hyd yn oed y rheiny â char ddefnyddio ffyrdd gwledig cul neu ffyrdd mynydd nad oes modd mynd ar eu hyd yn aml yn ystod tywydd difrifol. 3. Er bod y ddogfen yn datgan bod adran Ynysybwl 55% yn uwch na’r cyfartaledd sirol etholwyr fesul cynghorydd, dywedodd y Cynghorydd lleol fod yr etholaeth fawr yn cael ei gweinyddu heb anhawster yn sgil topograffeg ffafriol a hygyrchedd yr adran. Ar hyn o bryd mae’r Cynghorydd lleol yn byw’n agos at ei etholaeth gyfan. 4. Mae pobl Ynysybwl a Choed-y-cwm yn falch iawn o’u cymuned, gan roi iddi synnwyr cryf o hunaniaeth. Er bod y cymunedau wedi gweithio’n llwyddiannus gyda’i gilydd yn y gorffennol, a’u bod yn cael eu hystyried yn gymdogion da, byddai ymostwng i adran fwy Abercynon yn ddiau yn golygu y byddai trigolion Ynysybwl yn colli rhywfaint o’u hunaniaeth leol. Maent yn tynnu sylw at raglenni Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth Cynulliad Cymru y maent wedi derbyn cyllid ar eu cyfer, cyllid sydd wedi hyrwyddo gwerthoedd cymunedau a hunaniaeth leol, a bydd y cynnig hwn yn golygu y caiff y cyfan hwn ei golli. 5. Maent hefyd yn cyfeirio at y cyfarwyddiadau gan y Gweinidog yn tynnu sylw at ‘dylid talu sylw hefyd i gymunedau lleol yn cael eu cynrychiolaeth adnabyddadwy eu hunain’. Cred Partneriaeth Adfywio Ynysybwl y byddai’r argymhelliad hwn yn mynd yn groes i’r cyfarwyddyd hwn.

Ysgrifennodd 19 o drigolion Pont-y-clun i wrthwynebu’r cynnig i gyfuno adrannau etholiadol Pont-y-clun a Thonysguboriau. Credant y bydd y cynnig yn atal hawl y bobl i ethol Cynghorydd annibynnol. Pe bai’r cynnig yn mynd rhagddo, byddai’r adran anferthol yn rhy fawr o lawer i gynghorydd annibynnol ganfasio ynddi, gan olygu mai ond y pleidiau cenedlaethol mawr fyddai’n gallu canfasio ac yn canfasio’r ward gyfan.

- 16 - Atodiad 5

Mae gan Donysguboriau ei hunaniaeth ei hun a chysylltiadau agos â Llantrisant, nid Pont- y-clun, a byddai’r hen gysylltiadau diwylliannol, cymunedol a chymdogol hyn yn cael eu torri a’u colli am byth pe bai’r cynnig hwn yn cael ei weithredu.

Ysgrifennodd dau o Drigolion Brynna i wrthwynebu’r cynnig i gyfuno adrannau etholiadol Llanharan a Brynna. Mae’r system bresennol yn gweithio’n dda iawn gyda’r Cynghorwyr yn uniongyrchol atebol i’r trigolion. Byddai’n ardal fawr iawn i ddau Gynghorydd ei chwmpasu. Awgrymant newid i’r ffin hefyd.

Disgrifiodd un o Drigolion Graig y cynnig i gyfuno adrannau Graig a Thrallwng fel syniad dwl. Cred y byddai’r enw arfaethedig i’r adran yn ddryslyd i ymwelwyr, ac mae’n awgrymu’r enw Gogledd a De Trallwng. Mae o’r farn fod yr adrannau wedi’u rhannu’n gorfforol, ac nid yw’n credu bod proses ymgynghori’r Comisiwn yn un ddilys.

Ysgrifennodd un o Drigolion Brynna i wrthwynebu’n gryf y cynnig i gyfuno adrannau etholiadol Llanharan a Brynna. Mae’r system bresennol yn gweithio’n dda iawn gyda’r Cynghorwyr yn uniongyrchol atebol i’r trigolion. Gofynnir i’r Comisiwn adael llonydd i Brynna.

Ysgrifennodd un o Drigolion Tonysguboriau am ei bryder ynglŷn â’r cynnig i gyfuno adran etholiadol Tonysguboriau â Phont-y-clun. Noda mai un pwynt cyswllt sydd ganddynt ar hyn o bryd, ond o dan y cynigion, byddai ganddynt dri, ac ni fyddai ganddynt syniad pwy sy’n gweithio drostynt. Mae o’r farn fod yr ardal wedi’i chyfuno yn rhy fawr o lawer, a’r etholwyr fyddai’n colli allan.

Cred fod y cynnig yn mynd yn groes i feddwl y Llywodraeth, sef bod pŵer wedi’i ddatganoli, lle bynnag y bo modd, yn cael ei ddatganoli i gymunedau lleol, ond o dan y cynnig hwn, byddai Tonysguboriau yn colli’i hunaniaeth ac yn cael ei lyncu gan ardal fwy Pont-y-clun. Oherwydd ei safleoedd busnes, ysbyty a mannau siopa, mae o’r farn fod angen ei Gynghorydd ei hun ar Donysguboriau.

Noda fod Tonysguboriau yn rhan o Gymuned Llantrisant sy’n gwneud gwaith gwych i’r gymuned, ar y cyd â Chynghorydd Tonysguboriau. Nid yw’n meddwl y bydd hyn yn parhau i ddigwydd pe bai eu Cynghorwyr yn cael eu hethol o Bont-y-clun. Byddai cysylltiadau cymunedol hen iawn ac angenrheidiol yn cael eu colli.

Ysgrifennodd dau o Drigolion Ynysybwl yn gwneud y sylwadau canlynol ynglŷn â’r cynnig i gyfuno adrannau etholiadol Abercynon ac Ynysybwl: 1. Bydd y cynnig yn andwyol i Ynysybwl a fyddai’n colli’r gynrychiolaeth fach sydd ganddynt ar hyn o bryd â’u Cynghorydd eu hunain. 2. Byddai Ynysybwl yn cael ei wasanaethu’n well gydag un cynrychiolydd â chymhareb uwch. 3. Nid oes unrhyw drafnidiaeth gyhoeddus rhwng y ddwy gymuned, sy’n gwneud ymweliadau â chynrychiolydd lleol yn anodd i’r henoed, pobl anabl neu deuluoedd dan anfantais. 4. Nid yw’n rhoi unrhyw ystyriaeth i’r dirwedd gorfforol; mae mynydd rhwng y ddwy ardal. 5. Mae gwahaniaeth mewn diwylliant. Mae gan un fynediad i’r A470, ac mae’r llall yn gymuned dyffryn bach, sef Ynysybwl.

- 17 - Atodiad 5 6. Bydd yn effeithio ar ddemocratiaeth gan mai ond pleidiau gwleidyddol fydd yn gallu ariannu ymgyrch canfasio yn yr ardal fwy, tra na fyddai ymgeiswyr annibynnol yn gallu cwmpasu’r ardal gyfan. 7. Byddai Ynysybwl yn colli’i hunaniaeth. 8. Os yw newid yn hanfodol, mae’n gwneud mwy o synnwyr cyfuno â Glyncoch, gyda dau Gynghorydd.

Maent yn gwneud y sylwadau cyffredinol canlynol am yr arolwg hefyd: 1. Ymddengys bod y cynigion wedi’u seilio ar niferoedd yn unig; nid oes fawr o berthynas rhyngddynt â’r ardal ddaearyddol, mynediad i’r etholaeth, gwasanaethu democratiaeth, na synnwyr cyffredin. 2. Maent yn pryderu nad yw’r newidiadau’n cael eu gwneud er lles democratiaeth a chynrychiolaeth, ond er rhesymau gwleidyddol ac er budd pleidiau gwleidyddol. 3. Mae sefydliad amser llawn a sefydlwyd i ymhél yn ddi-baid â ffiniau a ffigurau etholiadol yn wastraff arian cyhoeddus. 4. Nodant fod y Comisiwn wedi bod yn ofalus i beidio ag ymuno â chymunedau gwahanol statws Amcan 1 a 2 yr UE.

Ysgrifennodd un o Drigolion Pont-y-clun i wrthwynebu’r cynnig i gyfuno adrannau etholiadol Pont-y-clun a Thonysguboriau. Mae’n dweud fod y ddwy gymuned yn gymdeithasau sifil nodedig ac ar wahân, ac mae’n tynnu sylw at siopau a chyfleusterau lleol sydd ar wahân. Cred fod adrannau aelod unigol yn crisialu atebolrwydd a chynrychiolaeth i’r etholwr, ac mae cynyddu’r pellter rhwng y bobl a’u cynrychiolydd yn tanseilio gwleidyddiaeth ddemocrataidd. Cred fod nod y Comisiwn i leihau’r amrywio yn y cymarebau yn bwysicach na’r profiad democrataidd o gael cynrychiolwyr o’u cymuned eu hunain.

Ysgrifennodd un o Drigolion Ffynnon Taf i wrthwynebu’r ffaith nad yw’r enw Ffynnon Taf yn ymddangos yn adran arfaethedig y Ddraenen Wen. Noda fod Ffynnon Taf yn hanesyddol yn hŷn o lawer na’r Ddraenen Wen, sy’n weddol fodern, ac mae hepgor yr enw Ffynnon Taf yn afresymol. Mae’r ffynnon yn dyddio ‘nôl i oes y Rhufeiniaid, ac mae wedi cael eu defnyddio am ganrifoedd. Cynigiodd enw Taff’s Well and District, neu’n well fyth, Ffynnon Taf a’r Fro.

Ysgrifennodd un o Drigolion Rhondda Cynon Taf i dynnu sylw at yr anghysondebau yn ffiniau’r wardiau a’r adrannau, ac i wrthwynebu rhai cynigion.

Noda y daw’r anghysonderau amrywiol mewn cymunedau a wardiau o ganlyniad i arolygon blaenorol yn dyddio i’r 1980au nad ydynt ers hynny wedi’u diwygio. Er ei fod yn derbyn bod yr anghysondebau’n bodoli, cred fod y Comisiwn bellach yn cynnig dull ‘blwyddyn sero’, sef y bydd y Comisiwn yn adfer wardiau aml-aelod anferthol, dim ond i fodloni rhai egwyddorion sylfaenol sydd yn amlwg wedi’u hesgeuluso’n hawdd yn y gorffennol.

Ei gred bersonol yw y dylai ffiniau fod yn ystyrlon a hawdd eu hadnabod gan etholwyr. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn i Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau gyflawni’u dyletswyddau statudol i annog cofrestru a chyfranogi mewn etholiadau. Awgryma fod y cynigion yn methu â bodloni’r meini prawf hynny, ac yn benodol yng Ngogledd Aberaman / De Aberaman / Cwmbach. Yn ddemograffig, mae Aberaman a Chwmbach yn ddramatig o wahanol. Mae Aberaman yn cynnwys stoc tai traddodiadol, hŷn yn bennaf, tra bod Cwmbach wedi’i rhannu rhwng tai math “ystad” mwy newydd a modern, ac mae rhyw 50% ohonynt yn dai cymdeithasol. Mae’n dadlau y byddai

- 18 - Atodiad 5 hyn yn gwneud gwaith unrhyw gynrychiolwyr etholedig yn eithriadol o anodd, os nad yn amhosibl.

Gyda’r cynnig arfaethedig i gyfuno Adrannau Etholiadol Glyncoch a Rhondda, ar wahân i’r ffaith fod rhaid i chi yrru drwy Adrannau Etholiadol Trallwng, Tref Pontypridd a Graig i fynd o Adran Etholiadol Glyncoch i’r Rhondda, mae’r Comisiwn yn amlwg wedi methu ag ystyried y bydd Glyncoch yn Etholaeth Seneddol Cwm Cynon o ddyddiad Diddymu’r , tra bod Adran Etholiadol Rhondda yn aros yn Etholaeth Seneddol Pontypridd.

Ysgrifennodd un o Drigolion Brynna Gwynion i ddadlau yn erbyn y cynnig i gyfuno Brynna a Llanharan. Mae o’r farn fod y trefniadau presennol yn gweithio’n dda ac nid oes angen eu newid. Nid yw’n dymuno i’w gyfeiriad newid i Llanharan. Mae ysbryd cymunedol rhagorol ym Mrynna, ac nid ydynt yn dymuno cael eu llyncu yn adran etholiadol Llanharan. Mae’r Cynghorwyr lleol yn gweithio’n dda gyda’r gymuned, ac nid ydynt dan fwy o bwysau nawr nag y byddent o dan y trefniadau arfaethedig. Ei farn yw na ddylid newid pethau er mwyn newid.

Ysgrifennodd un o Drigolion Graig i wrthwynebu’r cynnig y gyfuno adrannau etholiadol Graig a Trallwng. Roedd eisiau gwybod pa effaith fyddai hyn yn ei chael ar drigolion pe bai’n mynd rhagddo. Dywedodd fod Trallwng ddwy filltir i ffwrdd, yr ochr arall i’r dref, ac mae hi’n agosach o lawer at Bencoedcae a Maesycoed.

Ysgrifennodd un o Drigolion Pentre i ofyn i’r Comisiwn ailystyried y cynnig i gyfuno adrannau etholiadol Tylorstown a Glynrhedynog. Yn ei farn ef mae Tylorstown yn ‘achos arbennig’. Tylorstown yw un o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ac mae’n cynnwys pedair ardal Cymunedau yn Gyntaf. Mae’n awgrymu ein bod hefyd yn cynnal ymweliad safle â’r ardal er mwyn ystyried y dopograffeg, gan fod Cymuned Penrhys ar gopa mynydd. Cred fod y ffactorau hyn yn ei gwneud yn anodd i Gynghorydd wasanaethu a chynrychioli, ac nad yw’r gymhareb bresennol yn afresymol.

Ysgrifennodd un o Drigolion Graig i wrthwynebu’r cynnig i gyfuno adrannau etholiadol Graig a Trallwng. Er ei fod yn cytuno â’r angen am adrannau mwy, mae o’r farn fod y cynnig yn un rhyfedd, gan fod Trallwng ar ben arall y dref, ac mae llinell reilffordd, afon, prif ffordd a siopau yn eu gwahanu. O safbwynt cymunedol, gyda Phenycoedcae (adran Beddau) a Maesycoed (adran Rhondda) y mae cysylltiadau cryfaf Graig.

Ysgrifennodd un o Drigolion Aberdâr i awgrymu bod rhai o’r cynigion yn anymarferol. Mae’n awgrymu bod y cynigion ar gyfer Rhondda a Glyncoch, Trallwng a Graig a Threfforest a Chanol Rhydfelin / Ilan yn hurt. O ran Rhondda a Glyncoch a Trallwng a Graig mae angen teithio drwy Bontypridd i fynd o’r naill i’r llall. Mae’n awgrymu y dylai unrhyw newidiadau o fewn Pontypridd gynnwys canol y dref ei hun. Awgryma nad yw’r Comisiwn wedi ymweld â’r ardaloedd, ac mae’n dod i gasgliadau tebyg gyda chynigion mewn siroedd eraill. Awgrymodd hefyd y dylai’r Comisiwn fod wedi cynnal arolwg cymunedol cyn yr arolwg er mwyn galluogi gwneud cynigion gwell.

Mae’n awgrymu ei gynllun ei hun, sef fel a ganlyn: • Gogledd Aberaman, De Aberaman a Chwmbach yn cael eu cyfuno i ffurfio adran 4 aelod o’r enw Aberaman a Chwmbach. • Abercynon, Ynysybwl a Choed-y-Cwm a Glyncoch yn cael eu cyfuno i ffurfio adran 4 aelod o’r enw Abercynon a Chwmbach. • Dwyrain Aberdâr a Gorllewin Aberdâr / Llwydcoed yn cael eu cyfuno i ffurfio adran 5 aelod o’r enw Aberdâr.

- 19 - Atodiad 5 • Glynrhedynog, Tylorstown, Ynyshir a Maerdy yn cael eu cyfuno i ffurfio adran 5 aelod o’r enw Rhondda Fach. • Hirwaun, Penywaun a’r Rhigos yn cael eu cyfuno i ffurfio adran 3 aelod. • Llanharan, Brynna a Llanhari yn cael eu cyfuno i ffurfio adran 3 neu 4 aelod. • Tref Llantrisant, Beddau, Tonysguboriau a Thyn-y-Nant yn cael eu cyfuno i ffurfio adran 5 aelod o’r enw Llantrisant. • Llanilltud Faerdref, Pentre’r Eglwys a Thon-teg yn cael eu cyfuno i ffurfio adran 5 aelod. • Dwyrain Aberpennar, Gorllewin Aberpennar a Phenrhiwceibr yn cael eu cyfuno i ffurfio adran 4 aelod o’r enw Aberpennar a Phenrhiwceibr. • Pen-y-graig, Tonypandy, Cwm Clydach a Llwyn-y-pia yn cael eu cyfuno i ffurfio adran 5 aelod o’r enw Canol Rhondda. • Cymuned Pont-y-clun i ffurfio adran 3 aelod o’r enw Pont-y-clun. • Rhondda, Trallwng, Tref Pontypridd, Cilfynydd a Graig yn cael eu cyfuno i ffurfio 5 aelod o’r enw Pontypridd. • Porth, y Cymer a Threalaw yn cael eu cyfuno i ffurfio adran 5 aelod o’r enw Porth. • Dwyrain Tonyrefail, Gorllewin Tonyrefail a Gilfach Goch yn cael eu cyfuno i ffurfio adran 5 aelod. • Trefforest, Canol Rhydfelen / Ilan, y Ddraenen Wen a Ffynnon Taf yn cael eu cyfuno i ffurfio adran 5 aelod o’r enw Trefforest a Ffynnon Taf. • Treorci a Threherbert yn cael eu cyfuno i ffurfio adran 4 aelod o’r enw Rhondda Uchaf. • Ystrad a Phentre yn cael eu cyfuno i ffurfio adran 4 aelod o’r enw Ystrad Rhondda.

Ysgrifennodd un o Drigolion Preston i fynegi ei farn ar yr adrannau arfaethedig canlynol:

Aberdâr a Hirwaun, Rhigos a Phen-y-Waun Mae ganddo bryderon dwys ynghylch dilysrwydd democrataidd creu adran 5 aelod, gan ei fod yn gwneud y cyfrifiadau Cynghorydd fesul etholwyr yn ddiystyr bron. O gofio’r rhifyddeg a’r ddaearyddiaeth, byddai’n awgrymu bod y Comisiwn yn symud i ffwrdd oddi wrth greu wardiau 5 aelod lle bynnag y bo modd. Mae manteision ac anfanteision clir i’r cynigion, a dylai’r pwyslais fod ar gynrychiolaeth ddemocrataidd yn hytrach na thaclusrwydd rhifiadol. Mae wedi awgrymu cynigion eraill, sef adran dau aelod Dwyrain Aberdâr, adran dau aelod Hirwaun a’r Rhigos ac adran pedwar aelod Gorllewin Aberdâr/Llwydcoed a Phen-y-waun.

Aberaman Er ei fod yn cytuno â’r cynnig ac yn awgrymu’r enw Aberaman/Cwmbach, mae’n nodi bod Cwmbach yn ardal ddaearyddol sylweddol â dros 3,000 o etholwyr. Fel y cyfryw, mae ei ddileu o’r map etholiadol i weld yn rhesymegol.

Aberpennar ac Abercynon Mae’n nodi y gellid cyfuno wardiau Aberpennar i ffurfio adran dau aelod, a byddai hyn yn cael effeithiau canlyniadol mewn mannau eraill yn ardal yr arolwg. Mae o’r farn y canfuwyd y cyfuniad gorau o adrannau yn yr ardal. Fodd bynnag, awgryma fod yr adrannau’n cael eu hail-enwi yn Aberpennar/Penrhiwceibr ac Abercynon/Ynysybwl.

Pentre’r Eglwys, Llanilltud Faerdref, Llantrisant a Phont-yclun Gwnaeth amryw o awgrymiadau ar gyfer dewis arall, ond byddai’n arwain at adrannau rhy fawr ac adrannau democrataidd amheus, felly mae o’r farn mai ychydig o newid go iawn sydd wedi’i gynnig, ac ni all weld unrhyw ddewisiadau eraill credadwy.

- 20 - Atodiad 5 Glynrhedynog Mae o’r farn nad oes unrhyw ddewis arall credadwy i gynigion y Comisiwn, ond mae’n awgrymu enw gwahanol, sef Tylorstown/Penrhys/Glynrhedynog.

Y Ddraenen Wen a Threfforest Mae wedi awgrymu dewis arall, sef adran aelod unigol yn seiliedig ar ward Trefforest gyda’r un enw, a’r ardaloedd sy’n weddill (Canol Rhydfelin, Ilan, y Ddraenen Wen a Ffynnon Taf) yn cyfuno i greu adran pedwar aelod o’r enw Nantgarw/Rhydfelin.

Trallwng a Graig Mae’n awgrymu enw gwahanol, sef De a Dwyrain Pontypridd.

Rhondda a Thref Pontypridd Mae’n awgrymu dewis arall, sef cyfuno adran arfaethedig Rhondda â Thref Pontypridd i ffurfio adran tri aelod o’r enw Gogledd Pontypridd a Glyncoch.

Cwm Clydach, Tonypandy, Pen-y-graig a Llwyn-y-pia Mae’n nodi mai’r nifer o gynghorwyr yn yr ardal yw 6, ac mae creu adran chwe aelod yn annerbyniol. Awgryma felly fod Tonypandy a Chwm Clydach yn gymunedau tebyg â pherthynas naturiol rhyngddynt, a’u bod yn cael eu cyfuno i ffurfio adran dau aelod o’r enw Tonypandy/Cwm Clydach.

Mae’n mynd ymlaen i awgrymu cyfuno’r tair adran sy’n weddill, gan gadw cydlyniant yn ardal Tonypandy, i ffurfio adrannau pedwar aelod o’r enw Trealaw / Llwyn-y-pia / Pen-y- graig.

Dwyrain a Gorllewin Tonyrefail Byddai’n well ganddo weld cynghorwyr yn cynrychioli ardal gymuned gyfan, ac felly awgryma cyfuno’r ddwy adran i ffurfio adran pedwar aelod o’r enw Tonyrefail.

Ysgrifennodd dau o Drigolion Ynysybwl i nodi’u gwrthwynebiad i’r cynnig i gyfuno adrannau etholiadol Abercynon ac Ynysybwl. Teimlant nad oes unrhyw ystyriaeth wedi’i rhoi i dopograffeg yr ardal gan fod Ynysybwl yn ei ddyffryn ei hun yn gwbl annibynnol ar ardal Abercynon. Teimlant hefyd y byddai eu nifer lai o etholwyr yn cael eu trechu gan adran fwy Abercynon, a gallai hyn effeithio ar eu hawliau democrataidd ac o bosibl creu anghydraddoldeb o ran gwasanaethau.

Ysgrifennodd un o Drigolion Ynysybwl i wrthwynebu’r cynnig arfaethedig i gyfuno Ynysybwl ag Abercynon. Mae o’r farn fod y cynnig y tu hwnt i grediniaeth. Mae gan Ynysybwl hanes a hunaniaeth nodedig sy’n gwbl ar wahân i Abercynon sydd ar ochr arall y mynydd.

Gofynnodd i ni ystyried topograffeg yr ardal, hunaniaethau ar wahân, a barnau a materion annibynnol y pentrefi yn yr ardal. Mae’n pwysleisio bod Cynghorwyr presennol a chyn Gynghorwyr dros Ynysybwl wedi hanu o’r ardal, a byddai’r rhan fwyaf ohonynt yn adnabod cartrefi’r unigolion i gysylltu â nhw. Pe bai’r Cynghorydd newydd yn dod o Abercynon, byddai’n gofyn am daith gron yn ôl ac ymlaen o 20 milltir, i’w gyrraedd.

Nid yw’r Cynghorydd presennol yn ystyried bod y nifer uwch na’r cyfartaledd o etholwyr yn faith, i’r gwrthwyneb, mae’n haws oherwydd natur ddaearyddol dynn yr adran. Awgryma gynyddu nifer y cynghorwyr ar gyfer Ynysybwl i ddau, er mwyn gwneud cydraddoldeb etholiadol yn fwy cyfartal.

- 21 - Atodiad 5

Ysgrifennodd un o Drigolion Ynysybwl i ofyn i’r Comisiwn ailfeddwl ynglŷn â’r newidiadau anymarferol a diangen hyn. Nid ydynt yn gallu credu ychwaith fod nifer y Cynghorwyr wedi aros yr un fath yn yr amgylchiadau ariannol sydd ohoni. Credant hefyd ei bod yn amhosibl cyflawni’r canlyniadau a nodir yn y drafft, sef y byddai gan bob ardal nifer debyg o etholwyr.

Credant y dylai Cynghorwyr lleol fod yn lleol, ac mae’n hanfodol bwysig bod pentref fel eu pentref hwy yn cadw ei hunaniaeth a’i Gynghorydd y mae’r cyhoedd yn ei adnabod ac y gellir galw arno i ateb pryderon. Nid yw edrych ar fapiau i gyfuno ardaloedd yn rhoi adlewyrchiad gwir bob amser o’r pellter neu’r llwybrau bysiau y mae’n rhaid i Gynghorydd ymdopi â nhw.

Credant fod y cynigion hyn wedi’u hamseru’n wael, a dylid rhoi o’r neilltu unrhyw ystyriaeth o newidiadau. Maent yn pryderu hefyd y bydd yr enw Ynysybwl yn diflannu o’r adrannau.

Ysgrifennodd un o Drigolion Porth i gynnig ei syniadau ynglŷn â’r cynigion canlynol:

Trealaw a Llwyn-y-pia Mae’n cytuno â chynigion y Comisiwn, ond mae wedi awgrymu enw gwahanol, sef Ynyscynon, gan mai yn y fan hon y mae’r ddwy gymuned yn cyfarfod.

Tylorstown a Glynrhedynog Er gwaethaf rheswm y Comisiwn dros fodolaeth cydraddoldeb, byddai’n awgrymu bod y Comisiwn yn ailystyried y cynnig hwn am y rheswm hanfodol fod cymuned Tylorstown gymaint o dan anfantais, na all yr etholwyr fforddio colli’u cynrychiolydd etholedig. Mae Mynegai Amddifadedd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn nodi’n glir mai Tylorstown yw un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae’n deall bod tegwch Cynghorydd i etholwyr yn bwysig, ond mae achos Tylorstown yn eithriad am ei fod mor ddifrifol ddifreintiedig a dan anfantais. Mae’n nodi, er nad yw’n byw yno, ei fod wedi’i eni a’i fagu yn y gymuned ac mae ganddo berthnasau’n byw yn yr ardal o hyd.

Fodd bynnag, pe bai’r cynigion yn mynd rhagddynt, dylai’r ward newydd gael ei galw yn ward Pendyrys. Y rheswm am hyn yw mai dyma yw man cyfarfod y ddwy ward a dyma enw’r côr meibion sydd ag aelodau o’r ddwy ardal.

Ardal Pontypridd Mae’n gofyn am arolwg o’r cynigion yn ardal Pontypridd, gan fod rhai ohonynt i weld yn rhyfedd iawn. Yn benodol, y cynigion i gyfuno Rhondda â Glyncoch a Trallwng â Graig. Mae’r cyfyngiadau daearyddol yn gwneud y cynigion hyn yn annirnadwy. Mae enw’r adran, sef Rhondda, yn ychwanegu at y dryswch cyffredinol hefyd, a dylid ei newid ar gyfer y cynigion terfynol.

Ysgrifennodd un o Drigolion Brynna i fynegi ‘na’ pendant i’r cynllun arfaethedig i gyfuno Brynna a Llanharan.

Ysgrifennodd un o Drigolion Ynysybwl i ategu sylwadau Canolfan Gymunedol Ynysybwl.

Ysgrifennodd un o Drigolion Pontypridd i gytuno â’r cynnig i gyfuno Llantrisant ag adran etholiadol Beddau. Mae’n dweud bod pentref Beddau yn fwy na Llantrisant, a dylid rhoi’r

- 22 - Atodiad 5 enw Beddau i’r adran. Dywedodd y dylai Llantrisant gyfuno â Beddau, neu dylid gadael Beddau ar ei ben ei hun.

Ysgrifennodd un o Drigolion Tonypandy i ofyn i’r Comisiwn ailystyried y cynnig i gyfuno Tylorstown â Glynrhedynog. Mae o’r farn y byddai Tylorstown, sef un o’r ardaloedd mwyaf amddifad yng Nghymru, yn elwa o’r ffocws a’r sylw mwy o gael ei gynrychiolaeth ei hun.

Fodd bynnag, pe bai’r cynnig yn mynd rhagddo, byddai Pendyrys yn enw mwy priodol, sef yr un enw â chôr llwyddiannus yr ardal.

Ysgrifennodd un o Drigolion Ynysybwl i wrthwynebu’n gryf iawn i’r cyfuno arfaethedig rhwng Ynysybwl ac Abercynon. Nodir y rhesymau isod: 1. Yn ddaearyddol, mae’r cymunedau yn bell oddi wrth ei gilydd. 2. Nid oes unrhyw gysylltiadau cryf rhwng y ddwy gymuned. Nid oes ganddynt unrhyw beth yn gyffredin. 3. Mae gan Ynysybwl un ffordd i mewn ac allan. O ystyried maint Abercynon, gallai pob un o’r tri Chynghorydd gael eu hethol oddi yno. 4. Mae Ynysybwl yn bentref bach sy’n falch o’i ysbryd cymunedol. Mae ganddo dimau rygbi, grŵp drama, clwb merlota, côr merched, grŵp cerddwyr, canolfan gweithgareddau awyr agored a mwy. 5. Byddai cyfuno â Glyncoch yn fwy priodol.

Ysgrifennodd un o Drigolion Graig i wrthwynebu’r cynnig i gyfuno adrannau etholiadol Graig a Trallwng. Maent o’r farn nad yw’r cynnig yn gwneud unrhyw synnwyr o gofio bod Graig yn agosach at Bencoedcae a Maesycoed na Thrallwng. Byddai’n hoffi gweld synnwyr cyffredin yn ennill y dydd cyn bod arian y trethdalwyr yn cael ei wastraffu ar newidiadau disynnwyr a diangen i ffiniau.

Ysgrifennodd un o Drigolion Ynysybwl i wrthwynebu’r cynnig i gyfuno adrannau etholiadol Abercynon ac Ynysybwl. Dywed fod Ynysybwl yn gymuned annibynnol a wahenir gan fynydd o Abercynon. Mae teithio rhwng y ddwy gymuned yn daith gron 20 milltir yn ôl ac ymlaen, ac nid oes unrhyw lwybr trafnidiaeth gyhoeddus uniongyrchol.

Mae Ynysybwl yn bentref â’i hunaniaeth a’i anghenion ei hun, sy’n wahanol i rai Abercynon. Cred fod y pentref yn aml yn cael ei anghofio a byddai cael ei lyncu mewn adran gydag Abercynon yn gwaethygu pethau. Mae o’r farn fod angen gwarchod hunaniaeth y pentref, ac mae’n gofyn i ni ailystyried. Mae’n cydnabod nad yw’r gymhareb bresennol etholwyr i Gynghorydd yn ddelfrydol, ond nid y cynnig hwn yw’r ateb. Ni ellir cyflawni’r nod ar draul cymunedau lleol sydd â’u hunaniaeth eu hunain a’u barnau annibynnol.

Ysgrifennodd dau o Drigolion Ynysybwl i wrthwynebu’r cynnig i gyfuno Abercynon, Ynysybwl a Choed-y-Cwm. Credant fod mantais cydraddoldeb gwell yn cael ei gwrthbwyso gan yr anfanteision canlynol: 1. Mae gwybodaeth leol yn bwysicach na dim. 2. Problemau daearyddol – mae tri llwybr rhwng Abercynon ac Ynysybwl: a. Dros gopa’r mynydd. b. Trwy Grovers – llwybr gwledig cul. c. Trwy Bontypridd.

Ysgrifennodd un o Drigolion Brynna i brotestio’n gryf yn erbyn y cysyniad ‘cynrychiolaeth ddeuol’, neu adrannau aml-aelod. Mae o’r farn fod bwrw dwy bleidlais dros ddau

- 23 - Atodiad 5 ymgeisydd gwahanol yn creu dryswch a gwrthdaro. Mae’n afresymol ac yn gwyrdroi’r ddealltwriaeth aeddfed o ddemocratiaeth. Yn ymarferol, mae’n gosod rhwystrau gerbron Cynghorwyr rhag gweithio tuag at sicrhau budd i’r cyhoedd.

Cred un o Drigolion Rhondda Cynon Taf fod y cynigion yn warth, ac mae’n rhyfeddu bod y fath ddogfen wedi’i pharatoi.

Mae’n methu’n llwyr â deall sut y gall y Comisiwn gyfuno adrannau etholiadol Glyncoch a Rhondda. Ymddengys fod y Comisiwn wedi methu ag ystyried y bydd Glyncoch yn Etholaeth Seneddol Cwm Cynon o ddyddiad yr Etholiad Seneddol nesaf, tra bod Adran Etholiadol Rhondda yn aros yn Etholaeth Seneddol Pontypridd.

Cred hefyd y byddai wedi bod yn ddigon syml cynnwys Coed-y-cwm o fewn Adran Etholiadol Glyncoch a gadael Ynysybwl ar ei ben ei hun, byddai hynny o leiaf wedi cadw’r ddwy ardal o fewn Etholaeth Cwm Cynon. Mae’n ymwybodol y byddai problem wedi bod gyda Chymuned Pontypridd ac Ynysybwl, ond teimla y gellid fod wedi datrys hyn yn hawdd, ac ni fyddai’n wahanol o gwbl i gynigion eraill y mae’r Comisiwn wedi’u gwneud.

Mae llawer o broblemau wedi bod yn y gorffennol gydag etholiadau’n cael eu galw mewn ffiniau trawsffiniol, ac nid yw’r cynigion yn gwneud dim i fynd i’r afael â hyn. Yn wir, byddant yn creu costau ychwanegol be bai isetholiadau. Roedd dan yr argraff mai diben yr arolwg oedd darparu proses ddemocrataidd am y gost leiaf bosibl.

Mae’n gorffen ei sylwadau gan ddweud y dylai’r broses arolwg ffiniau fod wedi dechrau gyda’r Cymunedau, ac yna’r Adrannau Etholiadol, ac yn olaf yr Etholaethau Seneddol. Yn anffodus, am ba reswm bynnag, cynhaliwyd yr arolwg Etholaethau Seneddol yn gyntaf, ac mae hynny wedi creu problemau mawr i’r broses etholiadol. Mae’r cynnig ar gyfer Adrannau Etholiadol Rhondda Cynon Taf ond yn ychwanegu at y problemau hynny.

- 24 -

Blank Page / Tudalen Wag