COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL ADRODDIAD A CHYNIGION BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF COMISIWN FFINIAU LLYWODRAETH LEOL I GYMRU AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL AR GYFER BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF ADRODDIAD A CHYNIGION 1. CYFLWYNIAD 2. CRYNODEB O’R CYNIGION 3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG 4. CYNIGION DRAFFT 5. CYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT 6. ASESIAD 7. CYNIGION 8. CYDNABYDDIAETHAU 9. YMATEBION I’R ADRODDIAD HWN ATODIAD 1 RHESTR TERMAU ATODIAD 2 AELODAETH BRESENNOL Y CYNGOR ATODIAD 3 AELODAETH ARFAETHEDIG Y CYNGOR ATODIAD 4 CYFARWYDDYD Y GWEINIDOG A LLYTHYR YCHWANEGOL ATODIAD 5 CRYNODEB O GYNRYCHIOLAETHAU A DDERBYNIWYD MEWN YMATEB I’R CYNIGION DRAFFT Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru Tŷ Caradog 1-6 Plas Sant Andreas CAERDYDD CF10 3BE Rhif Ffôn: (029) 2039 5031 Rhif Ffacs: (029) 2039 5250 E-bost: [email protected] www.cflll-cymru.gov.uk RHAGAIR Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys ein Cynigion Terfynol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Ym mis Ionawr 2009, gofynnodd y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Dr Brian Gibbons i’r Comisiwn adolygu’r trefniadau etholiadol ym mhob prif awdurdod lleol yng Nghymru. Dywedodd Dr Gibbons: “Mae cynnal arolygon o’r trefniadau etholiadol ym mhob un o Gynghorau Cymru yn rhan o gylch gwaith y Comisiwn. Y nod yw ceisio sicrhau cysondeb o ran nifer y cynghorwyr o’i gymharu â maint y boblogaeth. Nid yw’n ymwneud â llywodraeth leol yn cael ei had- drefnu. Ers cynnal yr arolygon diwethaf, mae cymunedau newydd wedi cael eu creu mewn rhai ardaloedd ac mae’r boblogaeth wedi symud mewn mannau eraill. O ganlyniad mae anghydbwysedd erbyn hyn mewn rhai ardaloedd o ran nifer yr etholwyr y mae cynghorwyr yn eu cynrychioli. Bydd y Comisiwn yn adolygu cyfanswm y cynghorwyr ym mhob cyngor; nifer y cynghorwyr sy’n cynrychioli pob adran etholiadol ac enw a ffin pob adran. Hyd y gellir, rwyf am wneud y drefn yn decach, er mwyn i gynghorwyr, at ei gilydd, gynrychioli’r un faint o bobl.” [13 Ionawr 2009]. Nodir y mater o degwch yn glir yn y ddeddfwriaeth ac mae wedi bod yn brif egwyddor ar gyfer ein gwaith. Nid yw’r sefyllfa sy’n bodoli d lle mae cynghorydd o un rhan o’r Fwrdeistref Sirol yn cynrychioli nifer fechan o etholwyr, tra gall cynghorydd arall gynrychioli llawer, llawer mwy, yn deg i etholwyr. Yn ymarferol, mae’n golygu bod gan rai ardaloedd fantais annheg dros eraill o ran penderfyniadau a wneir yn siambr y cyngor. Nid hawdd yw unioni hyn o ystyried y cyfyngiadau y mae’n rhaid i'r Comisiwn gadw atynt wrth weithredu. Ni allwn symud llinellau ar y map yn unig; mae’n rhaid i ni gadw at y “sylfeini” presennol, sef Ardaloedd Cymunedol a Wardiau Cymunedol sy’n cwmpasu Cymru gyfan. Ambell waith, nid yw’r rhain yn adlewyrchu patrymau cyfredol bywyd cymunedol yng Nghymru ond, pan ddigwydd hyn, ni allwn dderbyn awgrymiadau sy’n torri ar draws y ffiniau hyn. Mae hyn yn rhwystredig i’r ymatebwyr a’r Comisiwn fel ei gilydd. Mae'n ofynnol i ni edrych at y dyfodol hefyd ac rydym wedi gofyn i’r cyngor rhoi amcangyfrif i ni o nifer yr etholwyr ymhen 5 mlynedd. Ar y gorau, byddai hyn yn heriol ond, yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae’n arbennig o anodd. Pan gyhoeddwyd rhai o’n hadroddiadau cynigion drafft cyntaf, bu rhywfaint o bryder ein bod yn symud i ffwrdd o’r egwyddor o gael un cynghorydd ar gyfer un adran etholiadol i awgrymu gwneud mwy o ddefnydd o adrannau aml-aelod. Mae’r Rheolau rydym yn gweithredu ynddynt yn rhagweld y bydd pob adran etholiadol yn cael ei chynrychioli gan un cynghorydd; gellir galw hwn y “safle rhagosodedig”. Fodd bynnag, gallwn symud o’r safle hwn am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys ein bod wedi gweld mai dyma’r ffordd orau i sicrhau bod etholwyr yn cael eu cynrychioli’n i’r un graddau. Wrth baratoi’n cynigion, rydym wedi ceisio ystyried cysylltiadau lleol a’r rhai sydd am gadw’r ffiniau presennol. Rydym wedi ystyried yn ofalus bob cynrychiolaeth a dderbyniwyd - 1 - gennym. Fodd bynnag, bu’n rhaid pwyso a mesur y materion a’r cynrychiolaethau hyn yn erbyn yr holl ffactorau eraill y mae’n rhaid i ni eu hystyried a’r cyfyngiadau a nodir uchod. Yn benodol, y gofyniad am gydraddoldeb etholiadol, hynny yw tegwch democrataidd i bob etholwr, yw’r prif ffactor cyfreithiol a dyma’r hyn rydym wedi ceisio ei wneud. Credwn y bydd mwy o degwch, ynghyd â chynigion eraill yn ein hadroddiad, yn arwain at lywodraeth leol sy’n effeithiol a chyfleus. Wrth gloi, hoffwn ddiolch i Aelodau a swyddogion y Prif awdurdod am eu cymorth gyda’n gwaith, y cynghorau cymuned a thref am eu cyfraniad, ac yn olaf ond yn bwysicaf oll, y dinasyddion a gymerodd yr amser ac a aeth i’r drafferth i wneud sylwadau ac awgrymiadau. Paul Wood Cadeirydd - 2 - Mr Carl Sargeant Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL AR GYFER BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF ADRODDIAD A CHYNIGION 1. CYFLWYNIAD 1.1 Yn unol â chyfarwyddyd y Gweinidog a gyhoeddwyd ar 13 Ionawr 2009, yr ydym ni, Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (y Comisiwn), wedi cwblhau'r arolwg o drefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac yn cyflwyno’n Cynigion Terfynol ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol. Ceir rhestr termau a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn yn Atodiad 1. Yn 2009 roedd gan Fwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf etholaeth o 172,820. Ar hyn o bryd, mae wedi’i rhannu’n 52 adran sy’n ethol 75 o gynghorwyr. Y gymhareb gyfartalog bresennol o aelodau i etholwyr yn y Fwrdeistref Sirol yw 1:2,304. Nodir y trefniadau etholiadol presennol yn Atodiad 2. 2. CRYNODEB O’R CYNIGION 2.1 Rydym yn cynnig peidio â gwneud unrhyw newid i faint y cyngor o 75 o aelodau etholedig, ond cynigiwn newid i’r trefniant adrannau etholiadol a fydd yn gwella’n sylweddol lefel y cydraddoldeb etholiadol ar draws Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. 3. CWMPAS AC AMCAN YR AROLWG 3.1 Yn unol ag Adran 57 Deddf Llywodraeth Leol 1972 (Deddf 1972) mae’n ddyletswydd ar y Comisiwn, ar gyfnodau nad ydynt yn llai na deng mlynedd a heb fod yn fwy na phymtheg mlynedd, i adolygu’r trefniadau etholiadol ar gyfer yr holl brif ardaloedd yng Nghymru at ddibenion ystyried a ddylid gwneud argymhellion i Lywodraeth Cynulliad Cymru i newid y trefniadau etholiadol hynny ai peidio. 3.2 Derbyniodd y Comisiwn gyfarwyddyd gan Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno adroddiad ar yr arolwg o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf erbyn 30 Mehefin 2011. Trefniadau Etholiadol 3.3 Diffinnir “trefniadau etholiadol” prif ardal yn adran 78 y Ddeddf fel: i) cyfanswm y cynghorwyr i’w hethol i’r cyngor; - 3 - ii) nifer yr adrannau etholiadol a’u ffiniau; iii) nifer y cynghorwyr i’w hethol ar gyfer pob adran etholiadol; ac iv) enw unrhyw adran etholiadol. Rheolau i Gydymffurfio â Hwy wrth Ystyried Trefniadau Etholiadol 3.4 Yn unol ag Adran 78, cyn belled ag y bo’n ymarferol resymol gwneud hynny, mae’n ofynnol i ni gydymffurfio â’r rheolau a nodir yn Atodlen 11 i’r Ddeddf. Mae’n ofynnol, yn unol â’r rhain, i’r Comisiwn drefnu bod un aelod ar gyfer pob adran etholiadol. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gall Llywodraeth Cynulliad Cymru roi cyfarwyddyd i’r Comisiwn ystyried dymunoldeb darparu ar gyfer adrannau etholiadol aml-aelod ar gyfer y cyfan o’r brif ardal neu rannau ohoni. 3.5 Yn ôl y rheolau, mae’n ofynnol hefyd: Ystyried unrhyw newid yn nifer neu ddosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal sy’n debygol o ddigwydd yn ystod y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl ystyried y trefniadau etholiadol: i) yn ddarostyngedig i baragraff (ii), bydd nifer yr etholwyr llywodraeth leol yr un peth neu mor agos â phosibl, ym mhob adran etholiadol yn y brif ardal; ii) lle bo un neu fwy o adrannau aml-aelod, bydd y gymhareb o ran nifer yr etholwyr llywodraeth leol i nifer y cynghorwyr i’w hethol yr un peth neu mor agos â phosibl ym mhob adran etholiadol yn y brif ardal (gan gynnwys unrhyw adran nad yw’n un aml-aelod); iii) bydd pob ward gymunedol sydd â chyngor cymuned (naill ai ar wahân neu’n gyffredin) yn gorwedd yn gyfan gwbl y tu mewn i adran etholiadol yn unig; a iv) bydd unrhyw gymuned na rennir yn wardiau cymunedol yn gorwedd yn gyfan gwbl y tu mewn i adran etholiadol unigol. Wrth ystyried y trefniadau etholiadol, rhaid i ni ystyried (a) dymunoldeb pennu ffiniau sydd ac a fydd yn hawdd eu hadnabod; a (b) unrhyw gysylltiadau lleol a dorrir wrth lunio unrhyw ffin benodol. Cyfarwyddiadau’r Gweinidog 3.6 Derbyniodd y Comisiwn gyfarwyddyd gan y Gweinidog y dylai ystyried dymunoldeb adrannau etholiadol aml-aelod ym mhob cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru. 3.7 Derbyniodd y Comisiwn y cyfarwyddiadau canlynol gan y Gweinidog hefyd o ran cynnal yr arolwg: - 4 - (a) ystyrir bod angen lleiafswm o 30 cynghorydd er mwyn rheoli materion cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn briodol; (b) er mwyn lleihau’r risg o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn mynd yn afrosgo ac yn anodd ei reoli, fel arfer mae angen uchafswm o 75 cynghorydd i reoli materion cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn briodol; (c) ystyrir mai cael adrannau etholiadol lle nad yw’r gymhareb rhwng cynghorydd ac etholwyr yn is nag 1:1,750 y dylai’r nod fod; (ch) ystyrir na ddylid gwneud penderfyniadau i newid y drefn bresennol o adrannau etholiadol un aelod ac aml-aelod ac eithrio lle bo cynigion o’r fath ar gyfer newid yn cael eu cefnogi’n gyffredinol gan yr etholaeth cyn belled ag y gellir cael eu barn o ran cyflawni’r gofynion ymgynghori a nodir yn Adran 60 o’r Ddeddf; ac (d) ystyrir bod y Comisiwn, wrth gynnal arolygon yn unol â Rhan 4 o’r Ddeddf, yn cydymffurfio â pharagraff 1A o Atodlen 11 o’r Ddeddf, hynny yw, y Rheolau.
Details
-
File Typepdf
-
Upload Time-
-
Content LanguagesEnglish
-
Upload UserAnonymous/Not logged-in
-
File Pages76 Page
-
File Size-