Cymraeg Safon Uwch – Help Llaw gydag astudio Y Mabinogi: Sylwadau Rhagymadroddol Yr Athro Gwyn Thomas @ebol Cydnabyddiaethau Dyluniwyd gan Stiwdio Ceri Jones ,
[email protected] Paratowyd gan Atebol Cyfyngedig , Adeiladau’r Fagwyr, Llanfihangel Genau’r Glyn, Aberystwyth, Ceredigion SY24 5AQ www.atebol.com Noddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru Y Mabinogi: Sylwadau Rhagymadroddol Y MABINOGI: SYLWADAU RHAGYMADRODDOL Fe ddefnyddir dau deitl am gasgliad o chwedlau Cymraeg o’r Oesoedd Canol, sef, ‘Y Mabinogi’, a ‘Y Mabinogion’. Dim ond am BedairCainc y Mabinogi (sef y chwedlau ‘Pwyll Pendefig Dyfed’, ‘Branwen ferch Llŷr’, ‘Manawydan fab Llŷr’, a ‘Math fab Mathonwy’) y mae’n briodol defnyddio’r teitl ‘Y Mabinogi’. Y mae’r gair yn digwydd yn y PedairCainc, ond y mae ‘Mabinogion’ yn digwydd yno hefyd. Barnwyd mai ‘Mabinogi’ oedd y ffurf gywir. Ond defnyddiodd Charlotte Guest y teitl ‘Mabinogion’ am y PedairCainc yn ogystal â nifer o chwedlau Cymraeg eraill yn ei chyfieithiadau Saesneg dylanwadol hi ac, o hir arfer, y mae ‘Y Mabinogion’ wedi dod yn deitl cymeradwy am chwedlau Cymraeg o’r Oesoedd Canol. Ond, yma, fe ddefnyddir y teitl ‘Y Mabinogi’ am y PedairCainc. Chwedlau llafar oedd ‘Y Mabinogion’ i ddechrau ac y mae ysgolheigion diweddar – yn enwedig yr Athro Sioned Davies - wedi dangos inni’r elfennau llafar sydd yn y chwedlau hyn. Yr oeddynt, meddir, wedi eu hadrodd mewn llysoedd am genedlaethau cyn iddynt gael eu hysgrifennu am y tro cyntaf yn nechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg, yn y llawysgrif a adnabyddir fel Llyfr Gwyn Rhydderch – a bod chwedl Culhwch acOlwen , sydd yn hŷn na PhedairCainc y Mabinogi – i’w chael yn ysgrifenedig yn Llyfr Gwyn Rhydderch, ac yn Llyfr Coch Hergest, tua dechrau’r bymthegfed ganrif.