Cynhadledd 2017

Canllaw Ymylol

Galeri, www.plaid.cymru

Cyfarfodydd Ymylol

Y Brif Neuadd C1 Stiwdio 2 C3 Cyfarfod trefnyddion (Geraint Dydd Gwener 10:00-11:00 Day) Leonard Cheshire Disability Cartrefi Cymunedol Cymru Barod ac anABL - sut ydym yn Hyfforddiant "Sut i gadw eich Cartrefi i Gymru: Adeiladu’r cefnogi mwy o bobl anabl i mewn 12:15-13:15 sedd Cyngor" (Geraint Day) economi ar ôl Brexit i gyflogaeth? Prifysgol Metropolitan Caerdydd a AC

Recriwtio a chadw Sian Gwenllian AC athrawon – gweithlu mewn 16:10-17:10 Adran y Menywod argyfwng? Cynllunio ac Angen Lleol 17:10-18:10 Plaid Pride

Comisiwn Etholiadol Dydd Sadwrn 10:00-11:30 (gwahoddiad yn unig) Cancer Research UK

Mapio’r llwybr i ‘Y Ddadl Fawr Gymreig ar Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas y 12:05-13:05 annibyniaeth Ganser’ Cynghorwyr

Plaid Ifanc – Lansiad: 16:10-17:10 Arolwg Cenedlaethol Adran y Menywod - Cyfarfod 17:10-18:10 Blynyddol

Cyfarfodydd Ymylol

Dydd Gwener 12:15 – 13:15 Ystafell C1

Hyfforddiant "Sut i gadw eich sedd Cyngor" (Geraint Day)

Dydd Gwener 12:15 – 13:15 Stiwdio 2

Cartrefi Cymunedol Cymru Cartrefi i Gymru: Adeiladu’r economi ar ôl Brexit

Mae cynghrair “Cartrefi i Gymru, dan arweiniad Cartrefi Cymunedol Cymru a pharetneriaid – Sefydliad Brenhinol Syrfewyr Siartredig, Cymdeithas Frenhnol Penseiri yng Nghymru, Canolfan Cydweithredol Cymru a Sefydliad Brenhinol Cynllunio Tref, yn eich gwahodd i ymuno mewn trafodaeth ar oblygiadau Brexit a thai fforddiadwy yng Nghymru.

Mae argaeleedd gweithwyr a deunyddiau adeiladu dan fygythiad wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae unrhyw ddirywiad economaidd yn achosi peryglon sylweddol i’r diwydiant adeiladu.

Dewch i drafod y materion hyn dros ginio canol dydd a chanfod sut i gefnogi “Cartrefi i Gymru’ i sicrhau ein bod yn adeiladu cartrefii fforddiadwy i bawb yng Nghymru sydd angen un.

Dydd Gwener 12:15 – 13:15 Ystafell C3

Leonard Cheshire Disability Barod ac anABL - sut ydym yn cefnogi mwy o bobl anabl i mewn i gyflogaeth?

Ymunwch ag elusen Leonard Cheshire Disability am drafodaeth am y rhwystrau sy’n wynebu pobl anabl wrth geisio am gyflogaeth – a beth sy’n cael ei wneud i’w goresgyn?

Dydd Gwener 16:10 – 17:10 Ystafell C1

Adran y Menywod A oes diben a dyfodol i’r Adran?

Cyfarfod Arbennig fydd hyn i drafod y testun uchod, ac i ddod i benderfyniad yn ei gylch.

Cyfyd y cwestiwn gan i gefnogaeth i’r Adran a’i gwaith edwino, ac, yng ngoleuni datblygiadau eraill, megis y Gronfa Ddatblygu, a phosibilrwydd o Adran Cydraddoldebau.

Fodd bynnag, erys gwahaniaeth gender mewn cynrychiolaeth, a gwelir prinder o fenywod yn dod ymlaen fel darpar ymgeiswyr ac ati.

Cyfarfod i aelodau yn unig fydd hwn, ond, mae pob aelod benyw o’r Blaid hefyd yn aelod o’r Adran os mai hynny yw ei dymuniad.

Dydd Gwener 16:10 – 17:10 Stiwdio 2

Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Llyr Gruffydd AC Recriwtio a chadw athrawon – gweithlu mewn argyfwng?

Gyda llai yn hyfforddi i fod yn athrawon a nifer cynyddol yn dewis gadael y proffesiwn sut fedrwn ni osgoi argyfwng yn ein ystafelloedd dosbarth?

Siaradwyr gwadd :-

Hayden Llewelyn – Prif Weithredwr, Cyngor y Gweithlu Addysg Owen Hathway, Swyddog Polisi, NEU Cymru Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Addysg, Cyngor Sir Gwynedd

Lluniaeth ysgafn ar gael

Dydd Gwener 16:10 – 17:10 Ystafell C3

Sian Gwenllian AC Cynllunio ac Angen Lleol

Dydd Gwener 17:10 – 18:10 Ystafell C3

Plaid Pride

Mae Plaid Pride yn cynnal digwyddiad er mwyn ailddechrau’r adran. Bydd AC a Mabli Jones, sef ein pennaeth staff yn y Cynulliad, yn bresennol er mwyn cymryd rhan mewn trafodaeth ynglŷn â datblygu hawliau LDHT+ yng Nghymru. Croeso i bawb.

Dydd Sadwrn 10:00 – 11:30 Ystafell C1

Comisiwn Etholiadol (gwahoddiad yn unig)

Dydd Sadwrn 12:05 – 13:05 Y Brif Neuadd

Mapio’r llwybr i annibyniaeth

Mae’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu newid sylfaenol yn y berthynas rhwng gwledydd Prydain, a gweddill gwledydd Ewrop. Ond mae’n debygol y bydd hefyd yn arwain at newid pell-gyrhaeddol ym mherthynas gwledydd Prydain gyda’u gilydd. Gallai Brexit fod yn ddechrau proses a fydd yn arwain at ddiwedd y wladwriaeth Brydeinig, fel y mae’n bodoli ar hyn o bryd. Ond mae’r llwybr tuag at annibyniaeth ymhell o fod yn un syml. Yn y sesiwn hon bydd Lila Haines o Egino yn cyflwyno a thrafod elfennau o waith ymchwil sydd wedi ei gomisiynnu gan Fforwm Polisi Plaid Cymru, yn ceisio adnabod yr heriau sydd yn ein hwynebu wrth i ni geisio symud Cymru yn nes at annibyniaeth.

Yn cadeirio’r sesiwn fydd Dyfrig Jones, Cyfarwyddwr Polisi Plaid Cymru.

Dydd Sadwrn 12:05 – 13:05 Stiwdio 2

Cancer Research UK ‘Y Ddadl Fawr Gymreig ar Ganser’

Sut gall canlyniadau canser Cymru wella?

Cadeirydd: Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Cynulliad Cenedlaethol

Siaradwyr

Rhun ap Iorwerth AC, Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Andy Glyde, Rheolwr Materion Cyhoeddus (Cymru), Cancer Research UK Lowri Griffiths, Pennaeth Cymru, Bowel Cancer UK

Darperir lluniaeth a chinio

Dydd Sadwrn 12:05 – 13:05 Ystafell C3

Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas y Cynghorwyr

Cyfarfod yng nghwmni AS a Siân Gwenllian AC. Mae croeso cynnes i gynghorwyr sir, tref a chymuned. Dydd Sadwrn 16:10 – 17.10 Stiwdio 2

Plaid Ifanc – Lansiad: Arolwg Cenedlaethol

Yn sesiwn ymylol Plaid Ifanc eleni, byddwn yn lansio ein prif ymgyrch dros y flwyddyn sydd i ddod – Yr Arolwg Cenedlaethol. Bydd yr arolwg hwn yn casglu tystiolaeth am farn pobl ifanc ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, ac yn sbarduno trafodaeth ynghylch annibyniaeth. Ymunwch â ni i glywed amcanion yr ymgyrch bwysig hon, ac i gymryd rhan mewn sesiwn ymarferol a fydd yn rhoi blas o’r mathau o sgiliau bydd ein haelodau yn eu defnyddio i gwblhau’r arolwg.

Dydd Sadwrn 17:10 – 18.10 Ystafell C1

Adran y Menywod - Cyfarfod Blynyddol

Yn ddibynnol ar benderfyniad y Cyfarfod Arbennig, (dydd Gwener), os i’r penderfyniad fod yn gadarnhaol o blaid cadw’r Adran, yna, cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Fel pob CCB arall, byddwn yn ethol swyddogion am y flwyddyn i ddod, yn adolygu y Cyfansoddiad, yn derbyn adroddiadau, ac yn ffurfio Rhaglen Waith.

Cysylltwch gyda’r Cadeirydd, Eli Jones am fanylion sut i enwebu - [email protected]

Swyddi i’w hethol:

Cadeirydd Is-Gadeirydd Trysorydd Ysgrifennydd Cynrychiolydd: Pwyllgor Gwaith 4 x Cynrychiolydd: Cyngor Cenedlaethol

Dylid anfon unrhyw ddiwygiadau arfaethedig i’r Cyfansoddiad, hefyd i Eli Jones [email protected]

Gwybodaeth bellach oddi wrth Eli Jones, [email protected].

Stondinau

Cancer Research UK

Mae Cancer Research UK yn ymroddedig i guro canser yn gynt trwy waith ymchwil. Yng Nghymru, rydym yn cyllido dros £4m o waith ymchwil. Ein hamcan yw cyflymu’r broses, fel bod 3 ymhob 4 claf yn goroesi canser erbyn 2034.

Cymdeithas y Cynghorwyr

Cymdeithas yr Iaith

Fferylliaeth Gymunedol Cymru (CPW)

NASUWT

NFU Cymru

Mae NFU Cymru yn fudiad democratig sydd yn cynrychioli ffermwyr, rheolwyr a phartneriaid mewn busnesau amaethyddol, gan gynnwys y rheini gyda diddordeb mewn amaeth a chefn gwlad. Mae aelodaeth o NFU Cymru yn hollol wirfoddol, ac mae’r Undeb yn ariannu eu hun. Mae pencadlys NFU Cymru ar faes y sioe yn Llanelwedd.

Nwyddau ac aelodaeth

Palas Print

Plaid Ifanc

Wyt ti'n aelod o Blaid Cymru ac o dan 30? Dere draw i stondin Plaid Ifanc i ddarganfod mwy am ein mudiad a'n gweithgarwch. Bydd rhywfaint o'n nwyddau ar gael hefyd, felly cyntaf i'r felin!

Cylchgrawn Planet

Cylchgrawn cydnabyddedig Saesneg ei iaith yw Planet, sydd wedi bod yn cynnig safbwyntiau annibynnol ar ddiwylliant a gwleidyddiaeth Cymru a’r byd ers 1970.

Tarian (Yswiriant) Cyf Digwyddiadau eraill

Nos Wener, Hydref 20fed Cinio’r Gynhadledd (WEDI GWERTHU ALLAN) Wedi’i noddi gan Heathrow

7.30pm, Seiont Manor Derbyniad diodydd i westeion y cinio yn unig am 7pm Siaradwr gwadd – Beti George

Nos Sadwrn, Hydref 21ain Y RIFIW!

8:30pm, Clwb Pêl-droed Caernarfon. Tocynnau - £10

Mae sibrydion lu mai hwn fydd perfformiad olaf Criw Caerffili, sydd wedi bod yn diddannu aelodau mewn nifer o gynhadleddau ers 1987. Mae cynlluniau i atgyfodi sgetsys clasurol o’r gorffennol pan oedd y Criw yn cael eu hadnabod fel Gwleidyddiaeth Amgen a Old Kids off Their Blocks.

Felly ymunwch â Lindsay, Colin, John a Phil am noson i'w chofio.

Nos Sadwrn, Hydref 21ain Taith dafarndai

6pm, dechrau yn Tŷ Glyndwr, Stryd y Castell Tocynnau - £10

Dewch am dro diddorol yng nghwmni Emrys. Bydd bwyd a diod ar gael i brynu ar y daith. Bydd y daith yn gorffen gerllaw lleoliad y Rifíw.

Dydd Sul, Hydref 22ain Cinio dydd Sul

Cynhelir cinio dydd Sul arbennig yng Ngwesty’r Castell ar Faes Caernarfon am 12:30 wedi’i drefnu gan Adran y Menywod.

Archebwch eich lle trwy gysylltu â Meg Elis ar 01286 650756 neu 07767 476687 neu [email protected]