Nodiadau Testunol
NODIADAU TESTUNOL Nid esbonio pynciau’r gyfraith yw diben y Nodiadau hyn, gan y gwnaed hynny gan sawl un o’m blaen. Am gyflwyniad cyffredinol i gefndir a chysyniadau’r gyfraith frodorol fel cyfangorff, gw. Dafydd Jenkins, Cyfraith Hywel (Llandysul, 1970), ac idem, The Law of Hywel Dda (Llandysul, 1986). Ar y deunydd Bleg, gw. Stephen J. Williams a J. Enoch Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn ôl Llyfr Blegywryd (Caerdydd, 1942), ynghyd â Melville Richards (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn ôl Llawysgrif Coleg yr Iesu LVII, ail arg. (Caerdydd, 1990). Ar y deunydd Ior, gw. Aled Rhys Wiliam, Llyfr Iorwerth (Cardiff, 1960), ynghyd â Dafydd Jenkins, Llyfr Colan (Caerdydd, 1963) ac idem, Damweiniau Colan (Aberystwyth, 1973). Ar y deunydd Cyfn, gw. A. W. Wade-Evans (gol.), Welsh Medieval Law (Oxford, 1909), ynghyd â Sara Elin Roberts (gol.), Llawysgrif Pomffred: An Edition and Study of Peniarth MS 259B (Leiden a Boston, 2011). Yn y nodiadau a ganlyn canolbwyntir yn bennaf ar dynnu sylw at dri maes: i) materion iaith ac orgraff; ii) y mannau hynny lle y mae darlleniadau S yn wahanol i eiddo rhychwant o lsgrau eraill; a iii) y mannau hynny lle y mae’r un deunydd sylfaenol, neu amrywiad(au) arno, yn digwydd mwy nag unwaith yn S. rhif yr adnod 1 Ar y Rhaglith, gw. y Rhagymadrodd, tt. vii–viii, a Huw Pryce, ‘The Prologues to the Welsh Lawbooks’, BBGC, 33 (1986), 151–87. mab Gadell: Braidd yn annisgwyl yw’r treiglad. Yn y Cyfnod Canol treiglid yn feddal gytsain ddechreuol enw genidol ar ôl enw benywaidd unigol (felly Stauell Gyndylan, Branwen uerch Lyr); gw.
[Show full text]