Adar Yng Ngwaith Y Cywyddwyr
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Adar yng Ngwaith y Cywyddwyr Arthur Howard Williams Traethawd a gyflwynir am radd PhD Prifysgol Aberystwyth 2014 CRYNODEB Yn y traethawd hwn astudir yr ymdriniaeth â’r adar yn y farddoniaeth Gymraeg gaeth a luniwyd rhwng tua 1300 a 1600. Yn bennaf, gwaith y Cywyddwyr a ystyrir ond cymerir peth sylw o feirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg nad oeddent yn cyfansoddi cywyddau. Ar ôl rhagarweiniad byr rhennir y traethawd yn bum prif bennod. Ym Mhennod 2 ystyrir y ffyrdd yr edrychid ar y byd naturiol trwy Ewrop, yn enwedig ar y syniadaeth a etifeddwyd o’r Oes Glasurol ac ar fydolwg Cristnogol y cyfnod, a hwnnw’n anochel lywodraethol. Ymwna Pennod 3 â chywyddau gofyn a diolch am adar a genid o 1450 ymlaen, am elyrch, peunod, ffesantod ac yn enwedig adar hela. Mae Pennod 4 yn ymdrin â swyddogaethau adar o sawl math fel llateion yn y canu serch ac, yn yr unfed ganrif ar ddeg, fel negeswyr a yrrid at noddwyr, cyfeillion a pherthnasau i’w hannerch. Edrychir hefyd ar rôl adar a gynghorai’r bardd ei hunan. Ym Mhennod 5 troir at gerddi lle erys yr adar yn eu cynefin naturiol, yn bennaf at rôl yr adar bychain yn y canu serch a luniwyd gan Ddafydd ap Gwilym a’i olynwyr ond hefyd at gerddi am adar nad ystyrid mor glodwiw, megis y cyffylog ac yn enwedig y dylluan. Yn y bennod sylweddol olaf (Pennod 6) ystyrir y defnydd o adar i greu trosiadau ym mhob genre yn y canu. Mae hyn yn cwmpasu nid yn unig y darluniadau o’r uchelwyr fel adar ysglyfaethus o bob math ond hefyd y defnydd o beunod, elyrch a gwylanod at ddibenion y canu mawl. Edrychir hefyd ar adar y canu dychan, fel gwyddau, barcutiaid a garanod, ac ar yr arfer o guddio cymeriadau’r canu brud trwy roi enw aderyn (ymhlith creaduriaid eraill) arnynt. Atodir amryw luniau o adar i geisio goleuo’r disgrifiadau ohonynt yn y cerddi. i CYNNWYS Crynodeb i Datganiadau iv Diolchiadau vi Byrfoddau vii Pennod 1: Rhagarweiniad 1 Rhychwant a threfniant y traethawd 1 Pam mynd ar ôl yr adar? 3 Astudiaethau thematig 6 Pennod 2: Cefndir 8 Ystyriaethau rhagarweiniol 8 Defnydd Tir a Demograffeg Cymru 10 Agweddau tuag at y Byd Naturiol - Syniadau Cyffredinol 13 Cristnogaeth a’r Byd Naturiol: agweddau gwrthdrawiadol 17 Dysgeidiaeth Sylfaenol Cristnogaeth 30 Cadwyn Bod, Pechod a Christnogaeth 33 Confensiynau a Dulliau Llenyddol 38 Chwedloniaeth ynglŷn â chreaduriaid 44 Newidiadau yn yr agweddau tuag at y byd naturiol 49 Y Dreftadaeth Lenyddol Gymraeg 56 Diweddglo 61 Pennod 3: Cywyddau Gofyn a Diolch am Adar 63 Gofyn a diolch am adar yn gyffredinol 65 Gofyn am adar hela 69 Gofyn a diolch am elyrch 111 Gofyn a diolch am beunod 144 Gofyn am ffesantod 161 Gofyn am adar eraill 167 Diweddglo 174 Tabl: Beirdd, Adar a Chyfnodau 178 Pennod 4: Adar fel Negeswyr a Chynghorwyr 179 Rhagarweiniad 180 Adar fel negeswyr 184 Anfon adar at noddwyr ac eraill 234 Adar fel cynghorwyr 260 Darluniau o brif adar y bennod 273 Diweddglo 281 ii Pennod 5: Adar yn y Coed 283 Rhagarweiniad 284 Adar Cân 285 Canfyddiad o’r byd naturiol 285 Yr adar a’r tymor 289 Yr adar a’u cynefin 296 Disgrifio a dyfalu llais yr adar 307 Adar neilltuol 322 Yr adar a’r oed yn gryno 359 Dramateiddio adar y coed 360 Adar Eraill 367 Pennod 6: Adar Trosiadol 384 Rhagarweiniad 386 Delweddu ar waith 397 Adar amhenodol 397 Adar ysglyfaethus 402 Adar eraill 459 Adar trosiadol yn y Canu Brud 487 Diweddglo: delweddau ‘stoc’ 496 Pennod 7: Sylwadau Terfynol 501 Bydolwg y Cywyddwyr 501 Y Cywyddwyr diweddar 503 Amrywiaeth yr adar 507 Llyfryddiaeth 510 Atodiadau Ffynonellau 536 Cerddi Gofyn a Diolch: Map Dosbarthiad Rhoddwyr 537 Lluniau 538 iii DATGANIAD Nid yw sylwedd y gwaith hwn wedi cael ei dderbyn o’r blaen ar gyfer unrhyw radd, ac nid yw’n cael ei gyflwyno ar yr un pryd wrth ymgeisio am unrhyw radd. Llofnod ...................................................................... (ymgeisydd) Dyddiad ........................................................................ GOSODIAD 1 Canlyniad fy ymchwiliadau i yw’r gwaith hwn, oni nodir yn wahanol. Cydnabyddir ffynonellau eraill mewn troednodiadau sy’n rhoi cyfeiriadau eglur. Atodir llyfryddiaeth. Llofnod …………………………………………... (ymgeisydd) Dyddiad …………………….…………………………. GOSODIAD 2 Yr wyf, drwy hyn, yn rhoi caniatâd i’m gwaith, os yw’n cael ei dderbyn, fod ar gael i’w lun-gopïo ac ar gyfer benthyciadau rhwng llyfrgelloedd ac i’r teitl a’r crynodeb fod ar gael i gyrff allanol. Llofnod ..................................................................... (ymgeisydd) Dyddiad ....................................................................…... iv GOSODIAD 3 Yr wyf yn rhoi caniatâd i’m traethawd gael ei adneuo yng nghadwrfa ymchwil sefydliadol y Brifysgol. Llofnod: .............................................................................(ymgeisydd) Dyddiad: ............................................................................. v DIOLCHIADAU Hoffwn roi diolch arbennig i Dr Bleddyn Huws am ei holl gymorth hael, ei gyngor doeth a’i gyfeillgarwch wrth arolygu fy ngwaith ymchwil o’r cychwyn cyntaf. Rwy’n ddiolchgar hefyd i aelodau eraill o staff Adran y Gymraeg am eu caredigrwydd a’r diddordeb a ddangoswyd ganddynt yn yr ymgymeriad hwn. Cydnabyddaf yn ddiolchgar hefyd gefnogaeth aelodau’r Ganolfan Geltaidd, yn enwedig yr Athro Dafydd Johnston, y mae ei gyfeillgarwch a’i ysgolheictod wedi f’ysgogi i ddilyn y trywydd academaidd wrth ymddeol o waith cyflogedig tra gwahanol. Yr oedd Nic Dafis o gymorth mawr wrth fy arwain at ffynhonnell dra chyfleus ac amrywiol o luniau adar. Yn olaf, diolch o galon i Jean, fy ngwraig, am ei chefnogaeth a’i hamynedd yn ystod y blynyddoedd yr oeddwn i fod i hamddena ynddynt. vi BYRFODDAU Llyfryddol GPC Geiriadur Prifysgol Cymru, argraffiad cyntaf Caerdydd, 1950-2002. GPC2 Geiriadur Prifysgol Cymru, ailargraffiad, Caerdydd, 2003- . OED Oxford English Dictionary ar-lein (www.oed.com) Termau a geiriau bl. blodeuai c. circa CC cyn Crist cyf. cyfrol d. e. dan yr enw et al. et alii f. ffolio gol. golygydd goln. golygyddion gw. gweler ibid. ibidem id. idem ll. llinell llau. llinellau OC oed Crist S. Saesneg t. tudalen tt. tudalennau vii Pennod 1: Rhagarweiniad Rhychwant a threfniant y traethawd Yn y traethawd hwn edrychir ar yr ymdriniaeth ag adar yn y farddoniaeth gaeth Gymraeg caeth a luniwyd yn ystod y tri chan mlynedd rhwng degawdau cynnar y bedwaredd ganrif ar ddeg a chwarter cyntaf yr ail ganrif ar bymtheg. Cywyddau yw’r rhan fwyaf o’r cerddi ond trafodir hefyd ychydig o englynion ac, wrth ystyried y defnydd o adar fel modd o ddelweddu gwrthrych arall, cyffyrddir â gwaith beirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg nad oes cywyddau ganddynt ar glawr. Trawyd ar ryw gant a hanner o gerddi, y rhan fwyaf ohonynt gan dros hanner can o feirdd hysbys,1 lle mae’r adar yn chwarae rôl flaenllaw ynddynt ac edrychir ar y rhain ym Mhenodau 3-5. Neilltuir y gyntaf o’r penodau hyn, Pennod 3, i gerddi gofyn a diolch am adar, yn bennaf am adar hela, elyrch a pheunod, a luniwyd o ail hanner y bymthegfed ganrif ymlaen. Ym Mhennod 4 trafodir yr ymdriniaeth ag adar fel negeswyr a hefyd fel cynghorwyr. Cerddi llatai yw’r genre amlwg sydd dan sylw ynddi ond yn Oes y Tuduriaid troid y ffurf hon at felin y canu mawl wrth i’r beirdd yrru adar i gyfarch noddwyr a chyfeillion a oedd fwyfwy’n absennol o Gymru. Ym Mhennod 5 ymdrinnir â cherddi lle ceir adar yn eu cynefin coediog, yn bennaf wrth i’r bardd geisio cwrdd â’i gariad yno. Llunnid y fath gerddi trwy gydol y tair canrif dan ystyriaeth, gan Ddafydd ap Gwilym a’i gyfoedion yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, gan feirdd y bymthegfed ganrif y tadogid eu gwaith ar Ddafydd a chan feirdd Oes Elisabeth pan oedd cryn dipyn o fynd ar y genre unwaith yn rhagor, a pheth datblygiad arno. Mae’n werth sylwi nad yw rôl adar y bennod hon yn wastad gadarnhaol fel y tystia nifer o gerddi sy’n melltithio tylluanod. Mae’r rhan fwyaf o ddigon o’r cerddi hyn ar gael mewn ffynonellau printiedig, er nad yw nifer sylweddol ohonynt wedi eu golygu hyd yn hyn i safonau modern, ond codwyd dyrnaid o gerddi diddorol o’r llawysgrifau. At y 1 Codwyd rhyw ugain o gerddi o ‘apocryffa’ Dafydd ap Gwilym, hynny yw’r cerddi a briodolwyd iddo yn y llawysgrifau ond sydd naill ai wedi eu gwrthod yn llwyr o’r canon neu yr amheuir eu dilysrwydd (sef cerddi 152-171, ar y wefan, www.dafyddapgwilym.net). 1 dibenion hyn yr oedd Maldwyn, y mynegai a lunwiyd yn Llyfrgell Gendlaethol Cymru i farddoniaeth y cyfnod,2 yn dra gwerthfawr. Defnyddiwyd y fersiwn digidol i adnabod y cerddi na chawsant eu hargraffu ond hefyd wrth fynd ar drywydd y cerddi a brintiwyd mewn traethodau ymchwil yn unig. Yr oedd chwilio yn y mynegai hwn o dan y pennawd ‘pwnc arall’ am adar penodol, megis y paun a’r fronfraith, yn arbennig o ffrwythlon. Copïwyd yr holl gerddi a gasglwyd i mewn i fasdata chwiliadwy3 er mwyn eu dadansoddi ac yn enwedig i gymharu’r ymdriniaeth â phwnc penodol, er enghraifft y disgrifiad o grafangau adar hela neu o blu adar o’r un lliw, mewn nifer o gerddi. Ym Mhennod 6, edrychir ar y defnydd barddol o adar fel trosiadau i bortreadu pobl a chreaduriaid eraill. Casglwyd dros fil o esiamplau o gerddi a luniwyd gan ymhell dros gant o feirdd.4 Fe’u codwyd o bob dosbarth o ganu caeth y cyfnod gan gynnwys y canu brud a’r canu dychan. Tybir bod y casgliad yn ddigon helaeth i sicrhau bod angen ceisio esbonio diffyg sôn am rywogaethau penodol yn hytrach na phriodoli eu habsenoldeb i anghyflawnder y casgliad. Cyn cyrraedd y pedair pennod hyn ceir adran gefndirol (Pennod 2).