Communities and Culture Committee Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant At yr ymgyngoreion ar y rhestr atodedig Bae Caerdydd Caerdydd CF99 1NA Tachwedd 2009 Annwyl gyfaill, Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant Mae Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am dystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad i wneud y gorau o ddigwyddiadau chwaraeon mawr yng Nghymru. Cefndir Cynhelir Cwpan Ryder mewn llai na blwyddyn1, a’r Gemau Olympaidd mewn tair blynedd2, ac felly credwn ei bod yn amserol i ni i graffu ar weithredoedd parhaus Llywodraeth Cymru wrth iddi baratoi ar gyfer gwneud y gorau o ddigwyddiadau chwaraeon mawr. Ein bwriad yw craffu ar sut y mae’r Llywodraeth yn defnyddio’r digwyddiadau hyn i ehangu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, sut y mae’n diffinio ac yn cefnogi ‘digwyddiadau chwaraeon mawr’, a sut y mae’n rhoi cefnogaeth i ddatblygu chwaraeon cenedlaethol ac i bobl a ddewisir ar gyfer carfannau chwaraeon cenedlaethol. 1 1-3 Hydref, 2010: http://www.rydercupwales2010.com/en/fe/page.asp?n1=3 2 Gemau Olympaidd 2012, 27 Gorffennaf-12 Awst 2012; Gemau Paralympaidd 2010, 29 Awst-9 Medi 2012: http://www.london2012.com/ Ffon / Tel: 029 20 898373 GTN: Ffacs / Fax: 6090 Minicom: 029 2082 3280 E-bost / E-mail:
[email protected] Bydd yr ymchwiliad hwn yn rhoi cyfle i ni i ymchwilio i ymdriniaeth Llywodraeth Cymru â Chwpan Ryder, yn arbennig y gwersi y gellir eu dysgu o weithio ar brosiectau etifeddol. Bydd yn rhoi cyfle i ni i weld a yw’r gwersi hyn yn cael eu cymhwyso at baratoadau ar gyfer y Gemau Olympaidd a digwyddiadau chwaraeon mawr eraill, neu sut y gellir gwneud hynny.