Communities and Culture Committee Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant at Yr Ymgyngoreion Ar Y Rhestr Atodedig Bae Caerdydd Caerdyd
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Communities and Culture Committee Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant At yr ymgyngoreion ar y rhestr atodedig Bae Caerdydd Caerdydd CF99 1NA Tachwedd 2009 Annwyl gyfaill, Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant Mae Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am dystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad i wneud y gorau o ddigwyddiadau chwaraeon mawr yng Nghymru. Cefndir Cynhelir Cwpan Ryder mewn llai na blwyddyn1, a’r Gemau Olympaidd mewn tair blynedd2, ac felly credwn ei bod yn amserol i ni i graffu ar weithredoedd parhaus Llywodraeth Cymru wrth iddi baratoi ar gyfer gwneud y gorau o ddigwyddiadau chwaraeon mawr. Ein bwriad yw craffu ar sut y mae’r Llywodraeth yn defnyddio’r digwyddiadau hyn i ehangu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, sut y mae’n diffinio ac yn cefnogi ‘digwyddiadau chwaraeon mawr’, a sut y mae’n rhoi cefnogaeth i ddatblygu chwaraeon cenedlaethol ac i bobl a ddewisir ar gyfer carfannau chwaraeon cenedlaethol. 1 1-3 Hydref, 2010: http://www.rydercupwales2010.com/en/fe/page.asp?n1=3 2 Gemau Olympaidd 2012, 27 Gorffennaf-12 Awst 2012; Gemau Paralympaidd 2010, 29 Awst-9 Medi 2012: http://www.london2012.com/ Ffon / Tel: 029 20 898373 GTN: Ffacs / Fax: 6090 Minicom: 029 2082 3280 E-bost / E-mail:[email protected] Bydd yr ymchwiliad hwn yn rhoi cyfle i ni i ymchwilio i ymdriniaeth Llywodraeth Cymru â Chwpan Ryder, yn arbennig y gwersi y gellir eu dysgu o weithio ar brosiectau etifeddol. Bydd yn rhoi cyfle i ni i weld a yw’r gwersi hyn yn cael eu cymhwyso at baratoadau ar gyfer y Gemau Olympaidd a digwyddiadau chwaraeon mawr eraill, neu sut y gellir gwneud hynny. Rydym yn ymwybodol fod gwaith yn mynd rhagddo yn y maes hwn, yn arbennig trwy’r Cynllun Gweithredu Dringo’n Uwch a gyhoeddwyd yn ddiweddar, a’r adroddiad ar yr Adolygiad Perfformiad a Rhagoriaeth mewn Chwaraeon, ond credwn y bydd yr ymchwiliad hwn yn rhoi cyfle i fwrw golwg cyffredinol er mwyn asesu a yw polisïau Llywodraeth Cymru yn gwneud y mwyaf o’r manteision posibl a ddaw yn sgil y cyfleoedd mawr sydd ar y gorwel. Cylch Gorchwyl Archwilio gwaith Llywodraeth Cymru, ei chyrff cyflenwi a sefydliadau cenedlaethol eraill mewn perthynas â digwyddiadau chwaraeon mawr, yn arbennig: • Gweithgareddau sy’n gysylltiedig â Chwpan Ryder, y gwersi a ddysgwyd hyd yma, a sut y gellir eu defnyddio i wneud y mwyaf o fanteision gweithgareddau etifeddol y Gemau Olympaidd; • Strwythur, prosesau cynllunio, cydlyniant a threfniadaeth gweithgareddau ar draws holl feysydd portffolio Llywodraeth Cymru a chysylltiad â’r gymuned ehangach o rhanddeiliaid; • Y cyfyngiadau sy’n wynebu Llywodraeth Cymru wrth wneud y mwyaf o fanteision digwyddiadau mawr fel y Gemau Olympaidd pan gynhelir y digwyddiadau yn y DU, lle y gall unrhyw ddylanwad uniongyrchol gan bolisïau Llywodraeth Cymru fod yn gyfyngedig; • Sut y gallai gwaith Llywodraeth Cymru ar ddigwyddiadau chwaraeon mawr effeithio ar newid cadarnhaol parhaol mewn cymunedau, fel ehangu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, yn enwedig yn y sectorau hynny sydd fel arfer yn wynebu rhwystrau rhag cael mynediad at chwaraeon; • Sut y gall Llywodraeth Cymru annog digwyddiadau chwaraeon mawr i ddod i Gymru. Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad Gwahoddir pawb sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i glerc y pwyllgor yn y cyfeiriad uchod, i gyrraedd erbyn dydd Gwener 15 Ionawr 2010 fan bellaf. Os yw’n bosibl, anfonwch fersiwn electronig yn MS Word neu fformat testun cyfoethog drwy e-bost at [email protected] Nodwch yn eich papur a fyddai diddordeb gennych mewn cyflwyno eich safbwyntiau i’r Pwyllgor yn bersonol. Dylech gychwyn eich cyflwyniad drwy ddarparu rhywfaint o wybodaeth amdanoch eich hun, neu’ch sefydliad, cyn amlinellu eich safbwyntiau a’ch profiadau mewn cysylltiad â rhai o’r meysydd canlynol, neu’r cyfan ohonynt. Beth yr hoffem ei gael gennych chi – cwestiynau’r ymgynghoriad 1. Sut y gall ddigwyddiadau chwaraeon mawr gyfrannu at achosi newid cadarnhaol parhaol mewn cymunedau? Sut y gallant gyfrannu at ehangu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, yn enwedig yn y sectorau hynny sydd fel arfer yn wynebu rhwystrau rhag cael mynediad at chwaraeon? 2. Sut y gellir gwneud y mwyaf o’r cyfraniad hwn, a beth sy’n rhwystro digwyddiadau chwaraeon mawr rhag cael newid cadarnhaol parhaol mewn cymunedau? Sut y gellir goresgyn rhwystrau o’r fath? 3. Pa gymorth (yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i gymorth ariannol) y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar hyn o bryd i wneud y mwyaf o gyfraniad digwyddiadau chwaraeon mawr tuag at newid cadarnhaol parhaol? 4. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar hyn o bryd i annog digwyddiadau chwaraeon mawr i ddod i Gymru, ac a ddylai fod yn ceisio cynyddu’r nifer o ddigwyddiadau chwaraeon mawr yng Nghymru? 5. Pa gamau y gall Lywodraeth Cymru eu cymryd i wella’r gwaith o gynllunio a chydlynu digwyddiadau chwaraeon mawr? 6. Pa mor gydlynol yw adrannau gwahanol Llywodraeth Cymru wrth gysylltu â’r gymuned ehangach o rhanddeiliaid, er mwyn gwneud y mwyaf o gyfraniad digwyddiadau chwaraeon mawr? 7. Pa wersi y gellir eu dysgu o gynllunio ar gyfer digwyddiadau chwaraeon mawr fel Cwpan Ryder, a sut y gellir defnyddio’r gwersi hyn i wneud y mwyaf o fanteision gweithgareddau etifeddol digwyddiadau chwaraeon eraill, fel y Gemau Olympaidd? 8. Pa gyfleoedd sydd i rannu gwersi a ddysgwyd o gynllunio ar gyfer digwyddiadau chwaraeon mawr? 9. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar hyn o bryd i ddatblygu chwaraeon cenedlaethol? 10. A oes unrhyw argymhellion penodol y tybiwch y dylent gael eu hystyried fel rhan o’r ymchwiliad hwn? Mae’r Pwyllgor wedi gwahodd cyflwyniadau gan y rhai a nodir ar y rhestr ddosbarthu atodedig (Atodiad 1). Fodd bynnag, byddem yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr ymlaen at unrhyw unigolion neu sefydliadau nad ydynt ar y rhestr ond a hoffai gyfrannu at yr adolygiad o bosibl. Gosodwyd copi o’r llythyr hwn ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol gyda gwahoddiad agored i gyflwyno safbwyntiau. Datgelu gwybodaeth Dylai tystion fod yn ymwybodol, pan fo tystiolaeth ysgrifenedig wedi’i chyflwyno i bwyllgor y caiff ei thrin fel eiddo’r pwyllgor. Mae’n fwriad gan y Cynulliad i gyhoeddi papurau ysgrifenedig ar ei wefan, a gallant gael eu hargraffu gyda’r adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol. Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi. Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich cyfrifoldeb chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth. Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor a’i ymchwiliad i’w gael yn: Yn gywir Janice Gregory Cadeirydd, Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant Annex 1 ABCD - Access for Black and Minority Ethnic Children and Young People with Disabilities Action for Children Age Concern All Wales Ethnic Minority Association All Wales Forum of Parents and Carers Anti Poverty Network Cymru Arfon District Sports Council Arriva Trains Wales Assistant Police Liaison Officer Asian Women’s Group Association of Directors of Education in Wales Association of Directors of Social Services Association of Teachers and Lecturers Cymru Association of Voluntary Organisations – Wrexham Arfon District Sports Council Autism Cymru Bangladeshi Welfare Association Bangladeshi Women’s Group Barnardos Cymru Bed and Breakfast Association Bevan Foundation Big Lottery Fund Black Association of Women Stepping Out Black Environment Network Black Voluntary Sector Network Wales Blaenau Gwent County Council Bridgend County Borough Council British Olympic Association British Horse Society (Wales) British Hospitality Association British Olympic Association Bro Morgannwg NHS Trust Caerphilly County Borough Council Canolfan Tryweryn - The National Whitewater Centre, Frongoch, Bala, Gwynedd Capital Region Tourism Cardiff and Vale NHS Trust Cardiff Athletics Stadium, Cardiff Cardiff Central Youth Club, Cardiff Cardiff Council Cardiff Harbour Authority, Cardiff Bay Cardiff Cardiff Humanists Cardiff International Arena Cardiff University Dr. Andrea Collins, Cardiff University Calvin Jones, Cardiff University Carmarthenshire County Council Carmarthenshire NHS Trust CBI Wales Celtic Manor Resort Ceredigion and Mid Wales NHS Trust Ceredigion County Council Children in Wales Chwarae Teg Children’s Social Services Inspectorate Wales Children’s Commissioner for Wales Chinese Community Service Committee Church in Wales Clubs for Young People Wales Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs Commonwealth Games Council for Wales Continuous professional development Community Health Councils Conwy and Denbighshire NHS Trust Conwy County Borough Council Councils for voluntary action Council for Wales Voluntary Youth Services Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs Crossroads Wales Cymru Yfory Cytun – Churches Together in Wales Cwmbran Stadium, Cwmbran, Torfaen Deaf Association Wales Deeside College, Flintshire Denbighshire County Council Department for Culture, Media & Sport Disability Wales Disability Sport Wales Dragon Sport Duke of Edinburgh’s Award Dyfed Powys Police Authority English Institute of Sport Equality and Human Rights Commission Equestrian (UK) – British Equestrian Federation ESTYN