Cynllun Llifogydd Dinas Powys Dinas Powys Flood Scheme Cofnod
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Cynllun Llifogydd Dinas Powys Dinas Powys Flood Scheme Cofnod Cyfyngiadau a Chyfleoedd Amgylcheddol (CCCA) Environmental Constraints and Opportunities Record (ECOR) Chwefror 2020 / February 2020 Version history: Document version Date published Project stage Draft ECOR for Consultation 1.0 11/2017 – November 2017 Draft ECOR for Consultation 2.0 02/2020 – February 2020 Date 2 Contents Crynodeb annhechnegol ...................................................................................................... 4 Non-technical summary ....................................................................................................... 7 1.0 Introduction .............................................................................................................. 10 1. 1 Background ............................................................................................................. 10 1.2 Sustainable Management of Natural Resources ...................................................... 11 1.3 Catchment Description ............................................................................................. 12 1. 4 Project Objectives ................................................................................................... 16 2.0 Environmental Baseline ............................................................................................... 18 2.1 Introduction .............................................................................................................. 18 2.2 Environmental baseline of study area ...................................................................... 18 3.0 Summary of Options .................................................................................................... 28 3.1 Introduction .............................................................................................................. 28 3.2 Short-list Options ...................................................................................................... 28 3.3 Short-list Options Appraisal ...................................................................................... 35 4.0 Closing Note ................................................................................................................ 48 4.1 Short-list Appraisal- Conclusion ............................................................................... 48 4.2 Next Step ................................................................................................................. 49 Appendices ........................................................................................................................ 51 Appendix A: Long List of Options ................................................................................... 52 Appendix B Consultation Record ................................................................................... 61 3 Crynodeb annhechnegol Cefndir Mae gan afon Tregatwg ac East Brook hanes o lifogydd yn Ninas Powys. Mae gan 94 o gartrefi siawns o 3.33% (1 mewn 30) o ddioddef llifogydd bob blwyddyn, ac mae gan 197 o gartrefi siawns o 1% (1 mewn 100) o ddioddef llifogydd bob blwyddyn. O ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd, rhagwelir y bydd y risg hon yn cynyddu i 368 o gartrefi erbyn 2117. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn archwilio'r achosion a'r datrysiadau posibl i'r perygl llifogydd hwn. Asesu Amgylcheddol Mae asesu amgylcheddol yn broses ailadroddol sy'n dechrau pan sefydlir prosiect ac sy’n parhau drwy’r broses o arfarnu opsiynau, dylunio manwl, adeiladu a gweithredu. Mae'r Cofnod Cyfyngiadau a Chyfleoedd Amgylcheddol (CCCA) hwn yn nodi’r waelodlin amgylcheddol a’r arfarniad amgylcheddol o’r opsiynau a ystyrir er mwyn rheoli perygl llifogydd yn Ninas Powys. Gwaelodlin Amgylcheddol Yn Ninas Powys, mae sianeli afon Tregatwg ac East Brook wedi eu hadeiladu i raddau helaeth. Ar gyfer rhannau mawr, mae'r sianeli naill ai wedi eu hystlysu â gerddi preswyl, parseli llinol bach o goetir llydanddail neu laswellt amwynder, gan greu coridor cul ar gyfer bywyd gwyllt drwy'r pentref. I’r gogledd o Ddinas Powys, mae afon Tregatwg ac East Brook yn llifo trwy ardal wledig o borfeydd pori a choetir llydanddail yn bennaf. Mae yna sawl coetir hynafol sy'n ffurfio rhan o Safleoedd o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur Coed Clwyd-gwyn a Choed Casehill. Nid oes modd disodli coetiroedd hynafol (tir â choed parhaol ers o leiaf ad 1600), ac maent yn cynnig cynefin cyfoethog sy'n cynnal helaethrwydd o rywogaethau. Mae'r ardal, y mae cyfran ohoni’n cael ei rheoli gan Goed Cadw, yn ardal amwynder a ddefnyddir yn aml, ac mae'n cynnwys nifer o lwybrau cerdded a llwybr ceffylau caniataol. O ystyried y cynefinoedd ledled ardal yr astudiaeth, mae’n bosibl y ceir rhywogaethau a warchodir, fel ystlumod, dyfrgwn, pathewod, moch daear, ymlusgiaid, amffibiaid, adar sy'n nythu, a gleision y dorlan Mae'r afon yn cynnal macroinfertebratau a rhywogaethau pysgod pwysig fel eog yr Iwerydd, crothell, llysywen a penlletwad. Mae'r ardal yn enwog am ei phwysigrwydd hanesyddol a'i thirwedd. Mae rhannau mawr o Ddinas Powys a Llanfihangel-y-pwll yn ardaloedd cadwraeth dynodedig. Ceir hefyd sawl heneb gofrestredig ac adeilad rhestredig ar draws ardal yr astudiaeth, gan gynnwys Castell Dinas Powys (heneb gofrestredig ac adeilad rhestredig) a gwrthglawdd Ty’n-y-coed (heneb gofrestredig). Lleolir Ardal Tirwedd Arbennig Cwrt-yr-ala i’r gogledd o Ddinas Powys, sy'n cynnwys parc a gardd hanesyddol boblogaidd Cwrt-yr-ala, sy'n barc a gardd gofrestredig gradd II. Arfarniad Amgylcheddol o Opsiynau Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ystyried amrywiaeth o opsiynau a chyfuniadau ymarferol i reoli perygl llifogydd yn Ninas Powys. Arfarnwyd yr opsiynau gan ddefnyddio canllawiau sefydledig sy'n cynnwys ystyried perygl llifogydd, hyfywedd economaidd, ac effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol posibl. Mae adran 3 o’r Cofnod Cyfyngiadau a Chyfleoedd 4 Amgylcheddol (ECOR) hwn yn trafod yr holl opsiynau yn eu tro, gan nodi'r effeithiau amgylcheddol cadarnhaol a negyddol posib sy'n gysylltiedig â phob un. Ymysg yr opsiynau a ystyriwyd, dim ond un y bernir ei fod yn cynnig datrysiad ar draws y gymuned i’r broblem o reoli perygl llifogydd yn Ninas Powys. Mae'r opsiwn yn cynnwys cyflwyno’r elfennau canlynol ar y cyd: • Sianeli Storio East Brook: Y defnydd o sianeli naturiol sy’n fwy na’r arfer yn East Brook i storio dŵr llifogydd drwy gyflwyno rhwystrau sy'n gollwng. • Storio Dŵr Llifogydd Tregatwg Uchaf: Storio hyd at 180,000m3 o ddŵr llifogydd o fewn Cwm George / Cwm Tregatwg Uchaf yn ystod glawiad trwm. Bydd hyn yn cynnwys adeiladu arglawdd â gwair ar draws y cwm (120m o hyd, 60m o led, 3.5m o uchder). Er ei fod yn darparu datrysiad ar draws y gymuned, mae'r opsiwn hwn yn cyflwyno nifer o risgiau amgylcheddol a chymdeithasol, yn fwyaf nodedig: • Posibilrwydd o golli a difrodi coetir hynafol ac ardaloedd ehangach o goetir llydanddail, y mae’r mwyafrif ohono â dynodiad Safle o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur • Effaith negyddol bosib ar rywogaethau a warchodir (ystlumod, pathewod, gleision y dorlan, dyfrgwn, moch daear, ymlusgiaid, amffibiaid) • Dirywiad posib yng ngwerth yr amwynder y safle, a gydnabyddir ar hyn o bryd am ei ddefnydd hamdden ac am fod yn Ardal Tirwedd Arbennig • Effaith bosib (e.e. geomorffoleg) ar y corff dŵr, gan effeithio ar ei statws o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr O ystyried y risg amgylcheddol a chymdeithasol uchod, y diffyg cefnogaeth canfyddedig ar hyn o bryd gan y gymuned a thirfeddianwyr, a’r fantais ymylol yn unig o ran cost, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn pryderu nad yw "Cyfuniad Sianeli Storio East Brook a Storio Dŵr Llifogydd Tregatwg Uchaf" yn opsiwn addas ar gyfer rheoli perygl llifogydd ar draws cymuned Dinas Powys. Byddai cynllun annibynnol i gyflawni sianeli storio East Brook yn rheoli'r perygl llifogydd ar gyfer 31 o gartrefi a phedwar busnes, gan ei leihau i isel. Ni fyddai hyn yn ddatrysiad ar gyfer yr holl gymuned, ond mae modd ei gyflawni ac yn fanteisiol o ran cost. Y Cam Nesaf Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydnabod bod perygl llifogydd sylweddol yn yr ardal hon a hoffem ddod o hyd i ddatrysiad i'r perygl llifogydd sy'n dderbyniol i'r gymuned, sydd yn yr achos hwn yn bell o fod yn syml. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru bellach yn ceisio safbwyntiau'r gymuned a rhanddeiliaid ar y Cofnod Cyfyngiadau a Chyfleoedd Amgylcheddol (ECOR) hwn. 5 Rhowch eich adborth drwy e-bostio [email protected] neu drwy ei anfon drwy’r post i: Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyflawni Prosiectau, Llawr 1, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP. Yn dilyn derbyn safbwyntiau gan y gymuned a rhanddeiliaid, pe bai opsiwn a ffefrir yn cael ei nodi ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn Ninas Powys, y cam nesaf yn y broses asesu amgylcheddol byddai diffinio a chytuno ar gwmpas yr asesiad o’r effaith amgylcheddol sydd angen ei ymgorffori o fewn cam dylunio manwl y cynllun. Yn dibynnu ar yr opsiwn sy’n cael ei ddatblygu, ac yn unol â Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017, mae'n bosib y bydd angen llunio datganiad amgylcheddol ar gyfer y cynllun. Byddai ymgynghoriad ar gwmpas arfaethedig yr asesiad o’r effaith amgylcheddol yn cael ei gynnal cyn dechrau'r cam dylunio manwl. 6 Non-technical summary Background The Cadoxton River and East Brook have a history of flooding in Dinas Powys. 94 homes have a 3.33% (1 in 30) chance of flooding each year, and 197 homes have a 1% (1 in 100) chance of flooding each year. Due to climate change, it is envisaged this risk will rise to 368 properties by 2117. Natural Resources Wales is investigating