CYNGERDD YR ŴYL. MAWRTH 31, 2021. 8.30pm Nodiadau Rhaglen

ELINOR BENNETT (Telyn) Mae'r perfformiad cyhoeddus cyntaf hwn o "Dagrau / Lachrymae" yn deyrnged arbennig i OSIAN ELLIS gan Elinor Bennett, ei gyn-ddisgybl a Chyfarwyddwraig Gŵyl Delynau Cymru. Gellir gwrando ar y recordiad sain a wnaeth Osian Ellis ei hun yn 2019 ar : https://soundcloud.com/popd_ping/lachrymae-oe-20-03-27-b

DAGRAU / LACHRYMAE Osian Ellis Gair gan y Cyfansoddwr : " Cyfansoddwyd yr unawd hwn i'r delyn mewn cyfnod annifyr iawn pan oedd Llinos yn yr ysbyty yn cael triniaeth am gancr a phan oedd ei mam, Glynis, yn ei chwmni ddydd a nos am dair wythnos cyn y bu farw ym mis Tachwedd 2018, a hithau ond yn 39 oed. Serch hynny, da yw dweud fod ei merch, Elin (13) yn dal i ganu fel y gôg o amgylch ei chartref, ac wedi ymgodymu â'r brofedigaeth.

" Term clasurol am ddagrau yw'r teitl "Lachrymae", ac fe'i defnyddiwyd gan John Dowland yn ystod oes Elisabeth 1af gan wneud defnydd o'i gân "Flow my tears". Defnyddiodd , yntau, y ffurf i fiola a phiano, ac fe'i cymhwysais i fiola a thelyn a'i ganu gyda yn y Philharmonie yn Berlin, ac hefyd gyda Peter Schidloff yng Ngŵyl Aldeburgh.

" Rwy'n deisyf ar y delyn i swnio'n ymosodol a chreulon yn y rhan gyntaf gan adlewyrchu gofid a phoen, ond clywir hefyd atgof am blentyndod rhwng yr ebychiadau a'r gwanobeithio, ond wedi'r glissando a chanu cnul y gloch, daw Emyn y Cynhebrwng (Cortege) yn y Modd Dorian, a'r daith i fforest ger Boduan. Daw y gerdd i ben gyda myfyrdod tawel a chân drist a sawl cnul eto, megis cloch, ar y delyn."

Gwelir geiriau John Morris Jones yn y sgôr : Dywed im, a gollaist tithau Un a'th garai di.

======

ELEN HYDREF (Telyn)

CYFRES I'R DELYN Benjamin Britten

1. Overture 2. Toccata 3. . 4. Fugue. 5. Hymn - St Denio

Rhoddodd Osian Ellis y perfformiad cyntaf i lawer o weithiau newydd ar gyfer y delyn yn ystod ei yrfa hir, ond yr un bwysicaf heb os yw'r Suite ar gyfer Harp Op 83, gan Benjamin Britten a ysgrifennodd ym mis Mawrth 1969 ar gyfer Gŵyl Aldeburgh y flwyddyn honno. Roedd Britten wedi ysgrifennu nifer o rannau i Ellis mewn sgoriau operatig, pan chwaraeodd gyda Cherddorfa Siambr Lloegr ac ensemble offerynnol Grŵp Opera Lloegr. Roedd ganddo rôl arbennig o amlwg yn yr operau eglwysig - (1964), The Burning Fiery Furnace (1966) a'r Prodigal Son (1968) - a dilynodd y Suite yn fuan ar eu holau. Roedd Ellis wedi ceisio perswadio Britten ers cryn amser i ysgrifennu darn unawdol - a daeth y canlyniad yn syrpreis hyfryd. Yn unol ag arddull y Baróc, mae'r Gyfres i'r Delyn yn agor gydag Agorawd fawreddog, urddasol yn C fwyaf. Yng nghanol y symudiad ceir datblygiad llawn prysurdeb a thyndra dramatig yn Gsharp fwyaf - cyn i'r thema wreiddiol ddychwelyd yn sydyn yn C fwyaf, ac yna ddiflannu i'r awyr. Dewisodd Britten ffurf pasacaglia ar gyfer y Nocturne fyfyriol - un o hoff ffurfiau Britten - ac o bob tu iddo mae dau symudiad fel arian byw - y Toccata fywiog, ystwyth a'r Fugue gywrain. Mae'r diweddglo wedi'i seilio ar emyn Gymraeg enwog, fel gwrogaeth - fel y dywedodd Britten- i Osian Ellis. Mae'r symudiad olaf yn agor yn fawreddog gyda'r emyn St Denio (a adwaenir yn y Gymraeg fel Joanna) gyda chyfres o amrywiadau yn dilyn mewn cywair lleddf.

Arweinir ni i ddisgwyl diweddglo gref, fuddugoliaethus, ond mae'r emyn yn cilio'n dawel, a'r gwaith yn gorffen yn hudolus yng nghywair y llywydd, gan roi'r argraff fod y telynor - yn gyson â hen draddodiad - wedi bod yn byrfyfyrio ar yr amrywiadau ac wedyn yn aros yn feddylgar wrth ddod â'r darn i ben.

======

ELINOR BENNETT & ELEN HYDREF

CLYMAU CYTGERDD Osian Ellis Cyfansoddwyd Clymau Cytgerdd / Diversions i ddwy delyn yn 1990. Comisiynwyd y darn gan bwyllgor gwaith Gwyl Cerdd Dant Bangor ar gyfer cystadleuaeth deuawd telyn agored a gynhaliwyd yn yr Wyl, fis Tachwedd 1990. 1. Chwarae Mîg (Chasing) Symudiad ysgafn, brysiog, mymwyol braidd.Y ddwy delyn yn canu mewn cyweiriau gwahanol iawn (y naill yn G a'r llall yn Gb) a'r naill ar warddaf y llall nes iddynt, o'r diwedd, gyd-daro ynghŷd a hynny ar y nodyn olaf oll. 2. Canu Penillion (Descanting) Alaw wreiddiol gan Osian Ellis a geir yma, sef Cainc y Gododdin. Cenir yr alaw gan yr ail delyn (gyda chymorth y delyn gyntaf ar adegau) a chenir y gyfalaw gan y delyn gyntaf. Er iddo gael ei addasu ar gyfer y ddeuawd, yn y lle cyntaf, gosodiad oedd hwn gan Osian Ellis o farddoniaeth Saesneg, sef "And Death shall have no dominion" gan . 3. Hel Straeon (Gossiping) Meddai Osian Ellis , " Rwy'n cyflwyno'r symudiad yma, yn serchog, i'm cyd-delynorion, yn hen ac yn ifanc! Gwrandawed pob telynor yn astud ar ei gymar." Megis yn y symudiad cyntaf, mae'r ddwy delyn yn canu mewn cyweiriau tra gwahanol, y ddwy ohonynt yn sgwrsio, yn siarad ar draws ei gilydd, yn ymddiddan, yn hel clecs a straeon, yn taflu brawddegau yn ôl ac ymlaen o'r naill i'r llall, yn cytuno ac yn anghytuno, nes iddynt, yn y diwedd, ddod i ddealltwriaeth a chytundeb, a gorffen gyda'i gilydd ar y bar olaf un gyda dau gord grymus yng nghywair F fwyaf". Nodiadau (Gorffennaf 2011) gan Ann Griffiths (1934 - 2020)

Y CYD-WEITHIO RHWNG OSIAN ELLIS A BENJAMIN BRITTEN

Cyfarfu'r telynor a'r cyfansoddwr am y tro cyntaf yng Nghadeirlan Westminster yn Ionor 1959 yn dilyn perfformiad o Seremoni Garolau Britten pan ymddangosodd Osian Ellis gyda bechgyn Côr y Gadeirlan o dan eu harweinydd ysbrydoledig George Malcolm. Derbyniodd Osian wahoddiad yn syth gan Britten i ymddangos yng Ngwyl Aldeburgh yn 1960 pryd yr oedd opera newydd wedi'i haddo ganddo. Ond cyn i hynny ddigwydd, hyd yn oed, fe weithiodd y ddau gyda'i gilydd ar recordiad cyntaf y Nocturne newydd gan Britten (1958) gyda a'r LSO dan arweiniad y cyfansoddwr. Er i ran y delyn yn y gwaith gael ei chyfansoddi cyn i Britten gyfarfod Osian mae'n swnio'n union fel pe bae wedi'i saernio'n arbennig at ddoniau unigryw y telynor. Ond o'r hyn allan fe fyddai pob rhan gan Britten i'r delyn yn ysgrifenedig gydag Osian mewn golwg a bu i'w cyd-weithio a'u cyfeillgarwch barhau reit tan ddiwedd bywyd y cyfansoddwr yn 1976. Yn Aldeburgh ym Mehefin 1960 yr opera newydd oedd A Midsummer Night's Dream. Roedd ynddi rannau i ddwy delyn ac yr oedd Osian yn rhydd i ddewis yr ail delynor. Ar y funud olaf cafodd yntau draed oer a bu'n rhaid i Osian gywasgu cerddoriaeth dwy delyn yn un dros nos! Roedd Britten yn syfrdan ei edmygedd ac o hynny 'mlaen roedd safle Osian yn 'Mharti' dethol Aldeburgh yn sicr. Ceir rhannau telyn pwysig hefyd yn y ddwy opera olaf – Owen Wingrave a Death in Venice ond ar o^l gorffen y ddwetha' yn 1973 ac yn dilyn triniaeth galon aflwyddiannus nid oedd Britten yn alluog bellach i ganu'r piano nac i gyfeilio i'w bartner Peter Pears mewn cyngherddau ledled byd. Wedi trafod yn ddwys daethpwyd i'r casgliad mai gwell na dewis pianydd cyson arall fyddai i Pears sefydlu deuawd newydd gydag Osian ar y delyn. Ar gyfer y cyfuniad hwn felly y cyfansoddodd Britten rai o'i weithiau olaf: y 5ed Cantigl The Death of Saint Narcissus (gosodiad o gerdd gynnar gan T.S.Eliot) a'r cylch i gerddi Robbie Burns a glywid gynta' yng Ngwyl Caerdydd yn 1976, lai na blwyddyn cyn i Britten farw. Fe barhaodd y bartneriaeth gyda Pears nes iddo orffen canu yn gyhoeddus.

Geraint Lewis – Mawrth 2021