CYFRES I'r DELYN Benjamin Britten

CYFRES I'r DELYN Benjamin Britten

CYNGERDD YR ŴYL. MAWRTH 31, 2021. 8.30pm Nodiadau Rhaglen ELINOR BENNETT (Telyn) Mae'r perfformiad cyhoeddus cyntaf hwn o "Dagrau / Lachrymae" yn deyrnged arbennig i OSIAN ELLIS gan Elinor Bennett, ei gyn-ddisgybl a Chyfarwyddwraig Gŵyl Delynau Cymru. Gellir gwrando ar y recordiad sain a wnaeth Osian Ellis ei hun yn 2019 ar : https://soundcloud.com/popd_ping/lachrymae-oe-20-03-27-b DAGRAU / LACHRYMAE Osian Ellis Gair gan y Cyfansoddwr : " Cyfansoddwyd yr unawd hwn i'r delyn mewn cyfnod annifyr iawn pan oedd Llinos yn yr ysbyty yn cael triniaeth am gancr a phan oedd ei mam, Glynis, yn ei chwmni ddydd a nos am dair wythnos cyn y bu farw ym mis Tachwedd 2018, a hithau ond yn 39 oed. Serch hynny, da yw dweud fod ei merch, Elin (13) yn dal i ganu fel y gôg o amgylch ei chartref, ac wedi ymgodymu â'r brofedigaeth. " Term clasurol am ddagrau yw'r teitl "Lachrymae", ac fe'i defnyddiwyd gan John Dowland yn ystod oes Elisabeth 1af gan wneud defnydd o'i gân "Flow my tears". Defnyddiodd Benjamin Britten, yntau, y ffurf i fiola a phiano, ac fe'i cymhwysais i fiola a thelyn a'i ganu gyda Cecil AronowitZ yn y Philharmonie yn Berlin, ac hefyd gyda Peter Schidloff yng Ngŵyl Aldeburgh. " Rwy'n deisyf ar y delyn i swnio'n ymosodol a chreulon yn y rhan gyntaf gan adlewyrchu gofid a phoen, ond clywir hefyd atgof am blentyndod rhwng yr ebychiadau a'r gwanobeithio, ond wedi'r glissando a chanu cnul y gloch, daw Emyn y Cynhebrwng (Cortege) yn y Modd Dorian, a'r daith i fforest ger Boduan. Daw y gerdd i ben gyda myfyrdod tawel a chân drist a sawl cnul eto, megis cloch, ar y delyn." Gwelir geiriau John Morris Jones yn y sgôr : Dywed im, a gollaist tithau Un a'th garai di. =================== ELEN HYDREF (Telyn) CYFRES I'R DELYN Benjamin Britten 1. Overture 2. Toccata 3. Nocturne. 4. Fugue. 5. Hymn - St Denio Rhoddodd Osian Ellis y perfformiad cyntaf i lawer o weithiau newydd ar gyfer y delyn yn ystod ei yrfa hir, ond yr un bwysicaf heb os yw'r Suite ar gyfer Harp Op 83, gan Benjamin Britten a ysgrifennodd ym mis Mawrth 1969 ar gyfer Gŵyl Aldeburgh y flwyddyn honno. Roedd Britten wedi ysgrifennu nifer o rannau i Ellis mewn sgoriau operatig, pan chwaraeodd gyda Cherddorfa Siambr Lloegr ac ensemble offerynnol Grŵp Opera Lloegr. Roedd ganddo rôl arbennig o amlwg yn yr operau eglwysig - Curlew River (1964), The Burning Fiery Furnace (1966) a'r Prodigal Son (1968) - a dilynodd y Suite yn fuan ar eu holau. Roedd Ellis wedi ceisio perswadio Britten ers cryn amser i ysgrifennu darn unawdol - a daeth y canlyniad yn syrpreis hyfryd. Yn unol ag arddull y Baróc, mae'r Gyfres i'r Delyn yn agor gydag Agorawd fawreddog, urddasol yn C fwyaf. Yng nghanol y symudiad ceir datblygiad llawn prysurdeb a thyndra dramatig yn Gsharp fwyaf - cyn i'r thema wreiddiol ddychwelyd yn sydyn yn C fwyaf, ac yna ddiflannu i'r awyr. Dewisodd Britten ffurf pasacaglia ar gyfer y Nocturne fyfyriol - un o hoff ffurfiau Britten - ac o bob tu iddo mae dau symudiad fel arian byw - y Toccata fywiog, ystwyth a'r Fugue gywrain. Mae'r diweddglo wedi'i seilio ar emyn Gymraeg enwog, fel gwrogaeth - fel y dywedodd Britten- i Osian Ellis. Mae'r symudiad olaf yn agor yn fawreddog gyda'r emyn St Denio (a adwaenir yn y Gymraeg fel Joanna) gyda chyfres o amrywiadau yn dilyn mewn cywair lleddf. Arweinir ni i ddisgwyl diweddglo gref, fuddugoliaethus, ond mae'r emyn yn cilio'n dawel, a'r gwaith yn gorffen yn hudolus yng nghywair y llywydd, gan roi'r argraff fod y telynor - yn gyson â hen draddodiad - wedi bod yn byrfyfyrio ar yr amrywiadau ac wedyn yn aros yn feddylgar wrth ddod â'r darn i ben. ============== ELINOR BENNETT & ELEN HYDREF CLYMAU CYTGERDD Osian Ellis Cyfansoddwyd Clymau Cytgerdd / Diversions i ddwy delyn yn 1990. Comisiynwyd y darn gan bwyllgor gwaith Gwyl Cerdd Dant Bangor ar gyfer cystadleuaeth deuawd telyn agored a gynhaliwyd yn yr Wyl, fis Tachwedd 1990. 1. Chwarae Mîg (Chasing) Symudiad ysgafn, brysiog, mymwyol braidd.Y ddwy delyn yn canu mewn cyweiriau gwahanol iawn (y naill yn G a'r llall yn Gb) a'r naill ar warddaf y llall nes iddynt, o'r diwedd, gyd-daro ynghŷd a hynny ar y nodyn olaf oll. 2. Canu Penillion (Descanting) Alaw wreiddiol gan Osian Ellis a geir yma, sef Cainc y Gododdin. Cenir yr alaw gan yr ail delyn (gyda chymorth y delyn gyntaf ar adegau) a chenir y gyfalaw gan y delyn gyntaf. Er iddo gael ei addasu ar gyfer y ddeuawd, yn y lle cyntaf, gosodiad oedd hwn gan Osian Ellis o farddoniaeth Saesneg, sef "And Death shall have no dominion" gan Dylan Thomas. 3. Hel Straeon (Gossiping) Meddai Osian Ellis , " Rwy'n cyflwyno'r symudiad yma, yn serchog, i'm cyd-delynorion, yn hen ac yn ifanc! Gwrandawed pob telynor yn astud ar ei gymar." Megis yn y symudiad cyntaf, mae'r ddwy delyn yn canu mewn cyweiriau tra gwahanol, y ddwy ohonynt yn sgwrsio, yn siarad ar draws ei gilydd, yn ymddiddan, yn hel clecs a straeon, yn taflu brawddegau yn ôl ac ymlaen o'r naill i'r llall, yn cytuno ac yn anghytuno, nes iddynt, yn y diwedd, ddod i ddealltwriaeth a chytundeb, a gorffen gyda'i gilydd ar y bar olaf un gyda dau gord grymus yng nghywair F fwyaf". Nodiadau (Gorffennaf 2011) gan Ann Griffiths (1934 - 2020) Y CYD-WEITHIO RHWNG OSIAN ELLIS A BENJAMIN BRITTEN Cyfarfu'r telynor a'r cyfansoddwr am y tro cyntaf yng Nghadeirlan Westminster yn Ionor 1959 yn dilyn perfformiad o Seremoni Garolau Britten pan ymddangosodd Osian Ellis gyda bechgyn Côr y Gadeirlan o dan eu harweinydd ysbrydoledig George Malcolm. Derbyniodd Osian wahoddiad yn syth gan Britten i ymddangos yng Ngwyl Aldeburgh yn 1960 pryd yr oedd opera newydd wedi'i haddo ganddo. Ond cyn i hynny ddigwydd, hyd yn oed, fe weithiodd y ddau gyda'i gilydd ar recordiad cyntaf y Nocturne newydd gan Britten (1958) gyda Peter Pears a'r LSO dan arweiniad y cyfansoddwr. Er i ran y delyn yn y gwaith gael ei chyfansoddi cyn i Britten gyfarfod Osian mae'n swnio'n union fel pe bae wedi'i saernio'n arbennig at ddoniau unigryw y telynor. Ond o'r hyn allan fe fyddai pob rhan gan Britten i'r delyn yn ysgrifenedig gydag Osian mewn golwg a bu i'w cyd-weithio a'u cyfeillgarwch barhau reit tan ddiwedd bywyd y cyfansoddwr yn 1976. Yn Aldeburgh ym Mehefin 1960 yr opera newydd oedd A Midsummer Night's Dream. Roedd ynddi rannau i ddwy delyn ac yr oedd Osian yn rhydd i ddewis yr ail delynor. Ar y funud olaf cafodd yntau draed oer a bu'n rhaid i Osian gywasgu cerddoriaeth dwy delyn yn un dros nos! Roedd Britten yn syfrdan ei edmygedd ac o hynny 'mlaen roedd safle Osian yn 'Mharti' dethol Aldeburgh yn sicr. Ceir rhannau telyn pwysig hefyd yn y ddwy opera olaf – Owen Wingrave a Death in Venice ond ar o^l gorffen y ddwetha' yn 1973 ac yn dilyn triniaeth galon aflwyddiannus nid oedd Britten yn alluog bellach i ganu'r piano nac i gyfeilio i'w bartner Peter Pears mewn cyngherddau ledled byd. Wedi trafod yn ddwys daethpwyd i'r casgliad mai gwell na dewis pianydd cyson arall fyddai i Pears sefydlu deuawd newydd gydag Osian ar y delyn. Ar gyfer y cyfuniad hwn felly y cyfansoddodd Britten rai o'i weithiau olaf: y 5ed Cantigl The Death of Saint Narcissus (gosodiad o gerdd gynnar gan T.S.Eliot) a'r cylch i gerddi Robbie Burns A Birthday Hansel a glywid gynta' yng Ngwyl Caerdydd yn 1976, lai na blwyddyn cyn i Britten farw. Fe barhaodd y bartneriaeth gyda Pears nes iddo orffen canu yn gyhoeddus. Geraint Lewis – Mawrth 2021 .

View Full Text

Details

  • File Type
    pdf
  • Upload Time
    -
  • Content Languages
    English
  • Upload User
    Anonymous/Not logged-in
  • File Pages
    3 Page
  • File Size
    -

Download

Channel Download Status
Express Download Enable

Copyright

We respect the copyrights and intellectual property rights of all users. All uploaded documents are either original works of the uploader or authorized works of the rightful owners.

  • Not to be reproduced or distributed without explicit permission.
  • Not used for commercial purposes outside of approved use cases.
  • Not used to infringe on the rights of the original creators.
  • If you believe any content infringes your copyright, please contact us immediately.

Support

For help with questions, suggestions, or problems, please contact us