Adolygu Gwasanaeth Botwm Coch Y BBC Tachwedd 2010
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Adolygu gwasanaeth Botwm Coch y BBC Tachwedd 2010 Getting the best out of the BBC for licence fee payers Adolygu gwasanaeth Botwm Coch y BBC Cynnwys Cynnwys 1 Cyflwyniad 1 Cefndir 1 Cwmpas a methodoleg 1 Crynodeb o’r canfyddiadau 4 Y prif ganfyddiadau a chamau gweithredu 4 Y Prif Adroddiad 11 Perfformiad presennol 11 Cylch gwaith Botwm Coch y BBC 11 Darpariaeth a gynigir a dibenion strategol craidd Botwm Coch y BBC 11 Golwg gyffredinol ar y gwasanaeth 12 Cyrraedd Cynulleidfa 15 Ansawdd 28 Effaith 35 Gwerth am arian 43 Dyfodol Botwm Coch y BBC 52 Adolygu gwasanaeth Botwm Coch y BBC Cyflwyniad Cefndir 1. Ymddiriedolaeth y BBC yw corff llywodraethu’r BBC a’n cyfrifoldeb ni yw cael y gorau o'r BBC ar gyfer pawb sy’n talu ffi’r drwydded. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, byddwn yn cynnal adolygiad manwl o bob un o wasanaethau’r BBC o leiaf unwaith bob pum mlynedd. Yn yr adroddiad hwn, byddwn yn adolygu gwasanaeth Botwm Coch y BBC. 2. Botwm Coch y BBC (a elwid yn BBCi tan 2008) yw gwasanaeth teledu rhyngweithiol y BBC. Mae’n darparu amrywiaeth o fideo, sain, lluniau, testun a rhaglenni i wylwyr sydd ar gael drwy eu teledu digidol ac mae’n disodli Ceefax (gwasanaeth teletestun analog y BBC) yn sgil newid i ddigidol. 3. Mae’r Ymddiriedolaeth yn pennu’r hyn y mae’n ei ddisgwyl gan bob un o wasanaethau’r BBC mewn trwydded gwasanaeth a gyhoeddir. Mae tri phrif nod i’n hadolygiad: yn gyntaf, asesu pa mor dda mae Botwm Coch y BBC yn perfformio o’i gymharu â’r ymrwymiadau a nodir yn ei drwydded gwasanaeth; yn ail, ystyried cyfeiriad y gwasanaeth yn y dyfodol; ac, yn drydydd, penderfynu a oes angen gwneud newidiadau i’r drwydded gwasanaeth bresennol. 4. Mae ein hadolygiad wedi ystyried tystiolaeth o nifer o ffynonellau, gan gynnwys safbwyntiau a thystiolaeth gan bobl sy’n talu ffi’r drwydded, gan reolwyr y BBC ac o’r diwydiant ehangach. Yn ogystal â’n hymchwil cynulleidfa, monitro perfformiad a dadansoddi ariannol, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus tua diwedd 2009 a chafwyd mwy na 5,600 o ymatebion. Mae hyn wedi rhoi dealltwriaeth glir i ni o gryfderau a gwendidau Botwm Coch y BBC. Cwmpas a methodoleg Cwmpas yr adolygiad 5. Nodwyd cwmpas ein hadolygiad yn ein cylch gorchwyl, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2009. Dyma’r prif gwestiynau y ceisiodd yr adolygiad eu hateb: Pa mor dda yw perfformiad Botwm Coch y BBC o ran cyrraedd cynulleidfa, ansawdd, cyflawni’r dibenion cyhoeddus a gwerth am arian ac yn erbyn telerau ei drwydded gwasanaeth (cynnig newyddion, gwybodaeth, addysg ac adloniant sy’n cael ei ddiweddaru’n barhaus i wylwyr teledu digidol)? A ddylai gwasanaeth Botwm Coch y BBC newid mewn unrhyw ffordd i ystyried newidiadau yn anghenion y gynulleidfa neu mewn technoleg? Gall hyn gynnwys symud at newid i ddigidol, twf mynediad i’r rhyngrwyd yn y cartref neu botensial teledu protocol rhyngrwyd (IPTV) yn y dyfodol.i Methodoleg 6. Cynhaliwyd yr adolygiad hwn ar ran yr Ymddiriedolaeth gan ei hymgynghorwyr annibynnol yn Uned yr Ymddiriedolaeth dan gyfarwyddyd Ymddiriedolwr arweiniol yr i Adolygiad Ymddiriedolaeth y BBC o BBC One, BBC Two, BBC Four a Botwm Coch y BBC / Cylch gorchwyl – 24 Medi 2009 Tachwedd 2010 1 Adolygu gwasanaeth Botwm Coch y BBC adolygiad, Diane Coyle. Casglwyd tystiolaeth o amrywiaeth eang o ffynonellau, fel y crynhoir isod. − Ymgynghoriad 7. Defnyddiwyd y drwydded gwasanaeth i ddatblygu cyfres o gwestiynau ar gyfer ymgynghori â’r cyhoedd. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad am 12 wythnos rhwng Medi a Rhagfyr 2009, ac roedd yn annog pobl i gymryd rhan drwy lenwi holiadur ar-lein a drwy’r post ar daflen wedi’i hargraffu. Cawsom fwy na 5,600 o ymatebion gan bobl sy’n talu ffi’r drwydded a mudiadau sydd â diddordeb o ganlyniad i hynny. 8. Cawsom hefyd ymatebion gan Gynghorau Cynulleidfaoedd yr Ymddiriedolaeth yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Caiff y Cynghorau hyn eu cadeirio gan aelod o Ymddiriedolaeth y BBC ar gyfer y wlad berthnasol ac mae ganddynt gysylltiadau ag amrywiol gymunedau lleol yn eu hardaloedd. Mae’r Cynghorau’n trefnu digwyddiadau a gweithgareddau er mwyn rhoi gwybod i’r Ymddiriedolaeth pa mor dda mae’r BBC yn gwasanaethu pawb sy’n talu ffi’r drwydded ym mhob cwr o’r DU. 9. Yn ogystal â hynny, aethom ati i ymgynghori â Bwrdd Gweithredol y BBC a chawsom ymatebion gan grwpiau sydd â diddordeb, megis Llais y Gwrandäwr a’r Gwyliwr a Mediawatch-UK. − Dadansoddi’r data perfformiad 10. Dadansoddwyd y data perfformiad gan ddefnyddio fframwaith perfformiad RQIV y BBC, sy’n ystyried pedair elfen gwerth cyhoeddus: cyrraedd cynulleidfa, ansawdd, effaith a gwerth am arian. Nodir y fframwaith hwn yn Ffigur 1. Ffigur 1: Fframwaith perfformiad RQIV y BBC Cyrraedd cynulleidfa: I ba raddau y mae gwasanaethau’r BBC yn cael eu defnyddio gan y gynulleidfa. Yn yr adroddiad hwn, oni nodir yn wahanol, mynegir y graddau y mae gwasanaethau rhyngweithiol yn cyrraedd y gynulleidfa fel nifer y bobl sy’n dweud eu bod wedi defnyddio gwasanaeth penodol yn ystod yr wythnos diwethaf, fel y mesurir gan Draciwr Cyfryngau Newydd Nunwood. Ansawdd: Mesurir ansawdd yn aml o ran barn y gynulleidfa. Mae’r BBC yn mesur priodoleddau’r cynnwys a nodir yn y Cytundeb: ‘ansawdd uchel’, ‘gwreiddiol’, ‘llawn her’, ‘arloesol’ ac ‘apelgar’. Effaith: I ba raddau y mae cynnwys y BBC yn creu gwerth cyhoeddus drwy gyflawni dibenion cyhoeddus y BBC. Nodir y dibenion yn Siarter Brenhinol y BBC a gellir eu crynhoi fel a ganlyn: • Dinasyddiaeth - cynnal dinasyddiaeth a chymdeithas sifil • Addysg - hyrwyddo addysg a dysgu • Creadigrwydd - ysgogi creadigrwydd a rhagoriaeth ddiwylliannol • Y gwledydd a’r rhanbarthau – cynrychioli’r DU, ei gwledydd, ei rhanbarthau a’i chymunedau • Byd-eang - dod â’r DU at sylw’r byd a’r byd at sylw’r DU • Digidol – helpu i ddarparu budd gwasanaethau a thechnolegau cyfathrebu sy’n datblygu i’r cyhoedd. Gwerth am Arian: Ystyried perfformiad (cyrraedd cynulleidfa, ansawdd ac effaith) ochr yn ochr â chost er mwyn rhoi persbectif ar gost effeithiolrwydd. Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth y BBC 11. Dadansoddwyd perfformiad gan ddefnyddio’r ffynonellau tystiolaeth canlynol: Tachwedd 2010 2 Adolygu gwasanaeth Botwm Coch y BBC • data cynulleidfa ar ddefnyddio a gwerthfawrogi gwasanaethau teledu rhyngweithiol gan Draciwr Cyfryngau Newydd Nunwood, ar sail arolygon misol rheolaidd gydag oddeutu 1,900 o bobl ledled y DU. Dyma brif ffynhonnell ddata’r BBC ar gyfer perfformiad Botwm Coch y BBC, ers y newid o ddefnyddio arolwg TNS yn 2008. • Data BARB ar gyfer gwasanaethau fideo Botwm Coch y BBC. BARB yw corff mesur teledu safonol y diwydiant, ac mae’n darparu data ar wylio’r teledu yn seiliedig ar banel o oddeutu 5,000 o gartrefi. Yn ystod cyfnod yr adolygiad hwn, dim ond data ar y cynnwys fideo a ddarperir gan Fotwm Coch y BBC y gallai BARB ei gasglu. Nid oedd modd mesur elfen testun digidol y gwasanaeth drwy BARB, oherwydd y cyfyngiadau sydd ynghlwm wrth y system. Felly, mae’r data hwn yn fwyaf defnyddiol i fesur y cynulleidfaoedd ar gyfer allbwn teledu sy’n gysylltiedig â digwyddiadau penodol ac allbwn llinol ychwanegol a ddarperir gan Fotwm Coch y BBC, tra mae arolwg Nunwood yn well ar gyfer mesur sut mae’r gynulleidfa’n cael ei chyrraedd yn gyffredinol. • arolygon cynulleidfa rheolaidd gan y BBC sy’n mesur barn cynulleidfa am gynnwys y BBC a darparwyr eraill • data ariannol a dynnwyd o Adroddiad Blynyddol y BBC a’r system gyfrifo i reolwyr. − Ymchwil cynulleidfa wedi’i theilwra 12. Yn ogystal â’r ffynonellau tystiolaeth a nodir uchod, gwnaeth yr Ymddiriedolaeth waith ymchwil cynulleidfa wedi’i theilwra ar gyfer Botwm Coch y BBC. Comisiynwyd Kantar Media i gynnal arolwg cynrychioladol o ddefnyddwyr Botwm Coch y BBC. Yn bennaf, nod yr ymchwil hon oedd ceisio canfod barn pobl ynghylch pa mor dda y mae’r gwasanaeth yn cyflawni dibenion cyhoeddus y BBC. Siaradodd Kantar ag oddeutu 650 o aelodau’r cyhoedd, gan gyfweld â rhai ar-lein a rhai wyneb yn wyneb, rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2009. 13. Mae rhagor o wybodaeth am ddull yr Ymddiriedolaeth o adolygu gwasanaeth ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth yn www.bbc.co.uk/bbctrust. Tachwedd 2010 3 Adolygu gwasanaeth Botwm Coch y BBC Crynodeb o’r canfyddiadau Casgliad Mae Botwm Coch y BBC yn wasanaeth a ddefnyddir yn eang iawn, sy’n darparu mynediad at gynnwys teledu rhyngweithiol i grŵp mawr ac amrywiol o ddefnyddwyr. Fodd bynnag, mae cost y gwasanaeth yn sylweddol, yn enwedig o ganlyniad i’r costau dosbarthu uchel, a chymedrol, yn hytrach nag uchel, yw’r gwerthfawrogiad o’r gwasanaeth. Dylai Botwm Coch y BBC barhau i ganolbwyntio ar yr hyn y mae’n ei wneud yn dda ac ar yr hyn y mae’r gynulleidfa’n ei ddefnyddio fwyaf: darparu newyddion a gwybodaeth drwy destun digidol, a darlledu digwyddiadau byw mawr yn ychwanegol. Dylai geisio lleihau ei gostau cynnwys darlledu lle bo modd drwy gynyddu ffocws y gwasanaeth ar y meysydd hyn, ac rydym hefyd yn disgwyl iddo leihau ei gostau dosbarthu drwy ddarparu lefel fwy cyson o wasanaeth ar draws gwahanol lwyfannau teledu digidol. Mae’n bosibl iddo chwarae rhan ddefnyddiol yn natblygiad IPTV, ond mae’n rhy gynnar i wybod yn union beth fydd y cyfraniad hwn. Yn y tymor byr, bydd costau ailfersiynu cynnwys y BBC ar gyfer IPTV yn cael eu cynnwys o fewn cyllideb trwydded gwasanaeth Botwm Coch y BBC. Ni fydd cyllideb trwydded gwasanaeth Botwm Coch y BBC yn cynyddu i dalu am weithgarwch IPTV. Bydd yr Ymddiriedolaeth yn monitro datblygiad gweithgareddau IPTV y BBC a bydd rôl Botwm Coch y BBC yn y cyd-destun hwn, yn enwedig yng nghyswllt dyrannu costau IPTV, yn cael ei hailasesu ar yr un pryd ag adolygiad nesaf Ymddiriedolaeth y BBC o BBC Ar-lein, a gynhelir yn 2012.