<<

Cyngor Cymuned Llangywer Cadeirydd: Emyr Jones

Cynhelir cyfarfod o Gyngor Cymuned Llangywer

Nos Lun 11/9/2017 am 7.30 yn y Neuadd Bentref

Agenda:

1. Croeso a derbyn ymddiheuriadau

2. Cyfle i dderbyn cyflwyniadau gan aelodau o’r cyhoedd ar fater ar yr Agenda

3. Derbyn datganiadau buddiant

4. Cadarnhau cywirdeb Cofnodion cyfarfod 3/7/17

5. Materion yn codi o gyfarfod

6. Derbyn Adroddiad y Cynghorydd Sir

7. Materion ariannol:

a. Derbyn gwybodaeth am y sefyllfa ariannol b. Cyflwyno’r Ffurflen Flynyddol wedi ei harchwilio gan BDO i’r Cyngor gyda’r bwriad o’i chymeradwyo a’i derbyn gan y Cyngor c. Pwrcasu 2 di-ffib d. Derbyn ail hanner y Praesept

8. Y Fynwent: a. Derbyn adroddiad ar waith wedi ei wneud yn y fynwent gan y brodyr Evans; b. gwneud trefniadau pellach ar gyfer y gwastraff blodau c. ystyried llythyr gan Parc Cenedlaethol Eryri am ddiogelwch yr eglwys

9. Materion lleol gan aelodau’r Cyngor Cymuned

10. Partneriaeth : Derbyn adroddiad y cynrychiolwyr

11. Cynllunio: Cadarnhau penderfyniadau’r Haf: a. NP5/70/LB10A a NP5/70/LB10A sef mynegi pryder fod gwaith wedi ei wneud heb ganiatad ar adeilad sydd wedi ei gofrestru b. NP5/70/114E sef cymeradwyo codi adeilad amaethyddol yn Llechwedd Ystrad c. NP5/70/51 sef cais i ddiddymu Amod 2 , Parc Carafanau Pen y Bont. Mynegwyd dymuniad fod pob maes carafanau yn at reolau’r Parc Cenedlaethol yn ddiwahân.

12. Gohebiaeth:

Lis Puw, Bedw Gwynion, , LL23 7TW 01678540654 07896964120 [email protected] Cyngor Cymuned Llangywer Cadeirydd: Emyr Jones

a. Cyngor Gwynedd: Derbyn gwybodaeth fod dogfennau perthnasol i Gynllun Datblygu Lleol ar y cyd Gwynedd a Môn (2011 – 2026) i’w gweld yn Siop Gwynedd, Penarlâg, ac ar y we www.gwynedd.llyw.cymru/cdll

b. Parc Cenedlaethol Eryri: Derbyn copi o gyflwyniad a roddwyd i Gynghorwyr

c. Llywodraeth Cymru: Derbyn nodyn atgoffa fod angen “Datganiad ar effaith ar Dreftadaeth yng Nghymru” ar bob cais cynllunio sydd ar gyfer adeilad cofrestredig

d. Un Llais Cymru: Derbyn gwybodaeth am hyfforddiant “Deall y Gyfraith” 13/9/17 a “Cyfarfod y Cyngor” ar 18/10/17 yn Y Bala

Y Pwyllgor Ardal: Derbyn gwybodaeth am gyfarfod dydd Mawrth 26/9/17 yn y Llyfrgell Rydd am 7.00pm

e. Eraill: Derbyn gwahoddiad i roi sylwadau ar Gynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych

13. Dyddiad a lleoliad y cyfarfod nesaf: Tachwedd 13, 2017

Lis Puw, Bedw Gwynion, Llanuwchllyn, Gwynedd LL23 7TW 01678540654 07896964120 [email protected]