(310) Cofnodion Cyfarfod Mawrth 20, 2019 a Gynhaliwyd Yn Neuadd Bentref Penysarn Am 3Yh Yng Nghwmni Mr Alun Roberts, Swyddog Priffyrdd CSYM
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Cyngor Cymuned Llaneilian (310) Cofnodion cyfarfod Mawrth 20, 2019 a gynhaliwyd yn Neuadd Bentref Penysarn am 3yh yng nghwmni Mr Alun Roberts, Swyddog Priffyrdd CSYM. Presennol: Ian Evans, John Griffiths, Gordon Hayes, Helen Hughes, Glenys Jones, Hefina Williams, Dafydd Griffiths Ymddiheuriadau: Elfyn Hughes, Thomas Jones, Carol Whitaker, Cyng. Richard Jones, Cyng. Aled Jones Yn bresennol: Carli Evans Thau (Clerc), Alun Roberts (CSYM) Yn absennol: David Gerrard, Cyng. Richard Griffiths 1 Croeso Cadeiriwyd y cyfarfod gan Ian Evans ac fe groesawyd pawb i’r cyfarfod. Nodwyd mai pwrpas y cyfarfod oedd trafod materion a phryderon priffyrdd gyda Mr Alun Roberts, swyddog Adran Priffyrdd CSYM. 2 Datgan Diddordeb Neb 3 Materion a Phryderon yn ymwneud a ffyrdd yr ardal 3.1 Gwaharddiadau cyflymder ffordd y Rhald (Ffordd Osgoi) Mae pryder aelodau am gyflymder cerbydau ar y ffordd yma wedi eu trafod tro ar ol tro gydag ebyst yn cael eu hafnon yn ol ac ymlaen rhwng y Cyngor Cymuned a’r Cyngor Sir ond dim byd yn cael ei weithredu. Teimlai’r aelodau bod damwain yn disgwyl digwydd – mae dau gyffordd i fewn i’r pentref, llwybr cerdded yn croesi ar ganol y ffordd osgoi, llwybr beicio yn croesi ymhellach ymlaen a phlant ysgol yn gorfod croesi’r lon oddi ar y bws ysgol ger cyffordd Lon Gadfa. Mae hefyd stad dai newydd wedi ei adeiladu ar ymyl y ffordd (Stad Dublin) ac mae nifer o bobl yn cerdded o amgylch y pentref a’r ffordd osgoi. Nodwyd hefyd nad oedd palmant yr holl ffordd ar hyd y ffordd osgoi a bod disgwyl i bobl gerdded ar y glaswellt. Roedd pryderon ynglyn a diogelwch y cae chwarae petai cerbyd yn dod dros y rhwystrau ar gyflymder. Nodwyd bod yr A5025 y lon mwyaf peryg yng Ngogledd Cymru wrth ystyried y nifer o ddamweiniau angeuol dros yr ugain mlynedd diwethaf. Teimlai’r Cyngor Cymuned byddai lleihau’r cyflymder y gall cerbydau deithio o 60mya i 40mya hyd cyffordd Lon Gadfa / Marie Currie yn gwneud y lon llawer mwy diogel. Mae rhannau helaeth o’r A5025 eisioes gyda cyfyngiad cyflymder o 40mya mewn ymateb i ddamweiniau. Cafwyd wybod gan Alun Roberts nad oedd y ffordd osgoi yn cyfiawnhau gostwng y gwaharddiad cyflymder i 40mya. Nododd ei fod hefyd wedi cael cais i ehangu’r parth 40mya o Gerrig Man hyd Amlwch ac y teimlai byddai hyn yn tanseilio’r ardaloedd hynnu sydd wir angen gwaharddiadau cyflymder. Teimlai Alun Roberts mai cerbydau sydd ddim yn cadw at y gwaharddiadau presennol oedd yn codi pryder. Nododd Ian Evans bod CSYM yn ddiweddar wedi cydnabod bod y llwybr cyhoeddus yn croesi’r ffordd osgoi ac wedi gosod rhwystrau ar y palmant pob ochr mewn ymateb i’r risg. Nid oes arwyddion i rybuddio gyrrwyr fodd bynnag. Nodwyd bod hefyd llwybr arall yn dod i’r lon fawr (Lon Gors) ac nad oedd rhwystr nac arwyddion yma. Fe ofynnwyd i Alun Roberts beth oedd yn fwy peryg ar y ffordd o City Dulas fynu heibio i’r garej hyd at gyffordd Lon Dywyll. Mae’r rhan yma o’r lon yn 40mya, teimlai’r aelodau bod cerbydau (o’r ddau gyfeiriad) yn dod allan o’r parthau 40mya ac yn rasio i basio unrhywbeth a phopeth cyn cyrraedd y parth 40mya nesaf. Teimlwyd y byddai yn fwy diogel i bawb heb y rhan 60mya gymharol fyr yn y canol. Nododd Dafydd Griffiths bod cysondeb yn bwysig iawn i ddiogelwch gyrrwyr a defnyddwyr eraill i’r ffordd, a bod gan CSYM ddylestwydd i ddiogelu pawb sy’n defnyddio’r ffordd. Fe ofynnwyd pwy fyddai’n gyfrifol petai damwain ar y ffordd gan fod y Cyngor Cymuned wedi nodi eu pryderon a chodi ymwybyddiaeth mwy nag unwaith. Nododd Alun Roberts y byddai hynnu yn fater i’r Heddlu. Fe addawodd Alun Roberts y byddai yn edrych ar ba arwddion fyddai posib eu AR harddangos ger y llwybrau sy’n croesi ar draws ffordd. Cytunodd Alun Roberts y byddai yn trefnu bod yr Heddlu a CSYM yn mesur cyflymder AR a’r nifer o gerbydau yn defynnio’r ffordd osgoi er mwyn cael y ffeithiau a thystiolaeth diweddaraf. Byddai angen arolwg ar 2-3 gwahanol safle ar hyd y ffordd. Yr Heddlu sydd a’r pwerau gorfodaeth yn ymwneud a gor-yrru a diolgelwch ffordd. I grynhoi’r drafodaeth ynglyn a’r ffordd osgoi felly, mae disgwyl adroddiad yn ol gan AR Alun Roberts wedi iddo drefnu: - Adolygu a diweddaru arwyddion i ddiogelu cerddwyr - Trefnu arolgon cyflymder ar y ffordd osgoi mewn 2-3 safle gwahanol - Trafod ymhellach gyda’r Heddlu ynglyn a gorfodaeth a chael eu barn ar ddefnydd a diogelwch y ffordd. 3.2 Arwyddion ger yr Ysgol Mae cyflymder cerbydau heibio i’r ysgol ac arwyddion yn nodi cyflymder a lleoliad yr ysgol wedi ei drafod nifer o weithiau yn y gorffennol. Mae’r aelodau yn bryderus iawn am ddiogelwch plant a’u rhieni oherwydd y nifer o geir sydd ger yr ysgol yn y boreuau a prynhawniau yn ystod tymor yr ysgol. Oherwydd y nifer o geir, mae rhieni yn parcio ymhell heibio i’r arwyddion 30mya ac felly yn cerdded gyda’u plant (a chan amlaf brawd neu chwaer iau) yn y parth 60mya gyda cerbydau eraill yn ceisio eu pasio. Gofynnwyd a fyddai posib symud yr arwyddion 30mya ymhellach oddiwrth yr ysgol er mwyn diogelu holl ddefnyddwyr y ffordd. Mae’r aelodau hefyd wedi gofyn yn y gorffennol am newid cyfyngiad cyflymder drwy’r pentref o 30mya i 20mya ac wedi cael gwybod mai dim ond ger ysgolion oedd posib gwneud hyn. Pan fu’r aelodau holi yn y gorffennol i gael parth 20mya tu allan i’r ysgol cafodd y cais ei wrthod. Cafwyd wybod y byddai Alun Roberts yn cefnogi parth 20mya tu allan i’r ysgol ond nad oedd yn teimlo byddai hyn o fudd gan nad oedd posib i gerbydau deithio yn gyflym tra fod cymaint o geir ar y lon. Nododd Dafydd Griffiths bod gwahanol ffactorau i’w ystyried wrth drin a thrafod cyfyngiad cyflymder sef beth sydd ar ochr y ffordd, pwy sy’n defnyddio’r ffordd, lleoliad, cost a chefnogaeth y gymuned. Cadarnhaodd Alun Roberts na fyddai cost yn rheswm i wrthod unrhyw newidiadau. Cytuno nad oedd cost ar ddiogelwch plentyn. Nododd Alun Roberts ei fod wedi cwrdd a’r prifathro cyn hanner tymor a bod yr un pryderon wedi eu nodi ganddo yntau hefyd. Nodwyd bod Alun Roberts yn edrych i AR gael gosod arwyddion cerddwyr ymhellach i lawr y lon (ble mae’r ceir yn parcio). Gofynnwyd a fyddai posib cael arwyddion rhybydd o 30mya cyn yr arwyddion cyfredol, y byddai hyn yn rhybuddio gyrrwyr cyn iddynt gyrraedd y parth 30mya cyfredol ger yr ysgol. Nododd Alun Roberts y byddai well ganddo roi ystyriaeth llawn AR i barth 20mya gan y byddai hyn yn haws ac yn fwy buddiol. Nododd Alun Roberts mai yn 2017 cynhaliwyd yr arolwg diwethaf ger yr ysgol, ac y byddai yn trefnu arolwg eto, yn benodol ar amseroedd gollwng a casglu plant. Teimlai AR byddai arwyddion i hyrwyddo’r ysgol i yrrwyr a defnyddwyr y ffordd yn ymateb i bryderon yr aelodau. Nododd Dafydd Griffiths bod cynllun trafnidiaeth diweddar yn anogi holl gynghorau sirol ar lefel strategol i weithredu parth 20mya ger eu hysgolion. Fe ofynnwyd a fyddai posib cael arwyddion (neu rhai dros dro) ger y groesfan tu allan i’r ysgol i’w wneud yn fwy gweledol i gerbydau a defnyddwyr y ffordd. Nodwyd bod gan CSYM a’r Heddlu yr hawl i atal pobl rhag parcio ar draws y groesfan ond nid oedd gorfodaeth ar bobl i stopio. Cafwyd wybod bod Rhosybol wedi talu am eu croesfan AR eu hunain ar gost oddeutu £13k. Bydd Alun Roberts yn trefnu i’r warden barcio ymweld y fuan. 3.3 Draen ger Tai Mwd/ Dinorben Terrace Nodwyd bod y Cyngor Cymuned wedi cysylltu nifer o weithiau a CSYM ynglyn a’r mater yma. Nid yw’r draen yn derbyn dwr ac mae pryder i ddwr gasglu ar y lon, a diogelwch y tai sydd ar yr un lefel a’r lon. Nodwyd bod y peiriannau glanhau wedi bod i lawr y stryd yn ddiweddar ond bod y broblem yn parhau. Mae’r draen dan sylw wedi ei farcio yn y gorffennol am sylw pellach ond ni fu unrhyw weithredu ac mae’r broblem yn parhau. Cytunodd Alun Roberts y byddai yn trafod y mater gyda’r peiriannydd ardal AR a byddai disgwyl ymateb gan Steve Jones ar y mater. 3.4 Draen ar y bont ar y Ffordd Osgoi (dros Lon Tyddyn Waen) Nodwyd bod dwr yn casglu ger ochr y bont ac yn arllwys drosodd ac ymgasglu ar Lon Tyddyn Waen fan fydd yn glawio. Nodwyd bod yr holl waith cynnal priffyrdd yn cael ei gwblhau gan gontractwyr allannol erbyn hyn. Byddai Alun Roberts yn adrodd yn ol AR i’r swyddogion perthnasol o fewn yr ardan briffyrdd. Nododd nad oedd posib i CSYM fonitro holl ffyrdd yr ynys a bod disgwyl i’r Cyngor Cymuned adrodd yn ol a chodi ymwybyddiaeth o broblemau fel maent yn dod i sylw aelodau. 3.5 Cyflwr y Lon yn Gyffredinol Cytunwyd bod cyflwr y lonydd a’r gwaith cynnal sydd ei angen yn cael ei drafod ym mhob cyfarfod. Mae’n debyg bod tyllau yn y ffordd yn ail ymddangos mor sydyn ac y maent yn cael eu llenwi. Nodwyd bod tystiolaeth o waith gwael y contractwyr yn y gorffennol ac nad oedd CSYM yn cael gwerth am arian. Roedd yr aelodau yn cydnabod y broblem bod cymaint o lonydd angen sylw ar draws yr ynys ond hefyd am nodi na fyddai cymaint o waith petai’r gwaith yn cael ei wneud yn iawn yn y lle gyntaf.