Cofnodion Cyfarfod O Gyngor Cymuned Aberdaron Gynhaliwyd Nos Lun, Ebrill Y 10Fed 2017 Yng Nghanolfan Deunant
Total Page:16
File Type:pdf, Size:1020Kb
Cofnodion cyfarfod o Gyngor Cymuned Aberdaron gynhaliwyd nos Lun, Ebrill y 10fed 2017 yng Nghanolfan Deunant Presennol: Y Cynghorwyr RJ Williams,RG Williams, Wenda Williams, Dafydd Williams, Emlyn Jones, Nesta Roberts, RJ Jones ac Iain Roberts. Yn y gadair: Cyng Mari Evans 1)Ymddiheuriadau a datgan diddordeb: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Geraint Jones. Datganodd y Cynghorwyr Wenda Williams, Dafydd Williams a Mari Evans ddiddordeb yng nghais cynllunio Cais C17/0221/30/LL. 2)Cyhoeddiadau'r Cadeirydd : Nid oedd gan y Cadeirydd gyhoeddiadau. 3)Llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 13eg o Fawrth 2017: Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd. 4) Materion yn codi o'r cofnodion a)Cae Chwarae: Adroddodd y clerc ei fod wedi derbyn cadarnhad fod y cais am yswyriant i dalu costau cyfreithiol y Cyngor yn cael ei brosesu ac y bydd cyfreithiwr y cwmni yswyriant yn cysylltu yn fuan. Penderfynwyd gofyn i Sion Hughes wneud gwaith angenrheidiol ar offer y cae chwarae er mwyn galluogi rhan o’r cae gael ei ail agor mor fuan a phosbil. Cytunwyd y bydd y safle yn cael ei fonitro yn rheolaidd gan y Cynghorwyr Geraint Jones ac Iain Roberts. b)Ymateb Cyngor Gwynedd i faterion ynghylch ffyrdd yr ardal a godwyd yn y cyfarfod diwethaf: i)Lôn Fryndol, Y Rhiw, mae swyddog wedi archwilio y safle ac wedi trafod efo’r Cyng Emlyn Jones, ac mae’r gwli bellach wedi ei glirio er mwyn galluogi i ddwr wyneb lifo iddo. ii)Arwyddion dros dro yn cael eu gadael ar ochrau y ffyrdd: Eglurodd y swyddog ei fod angen rhestr o’r lleoliadau. iii)Ffordd Pencaerau: Mae trefniant mewn llaw i drwsio’r tyllau a diffygion yn wyneb y ffordd ac mae wedi ei chynnwys ar y rhestr o waith clytio dymunol sydd yn cael ei threfnu ar sail blaenoriaeth a chyllideb. iv)Terfyn Llidiardau, Rhoshirwaun: Y perchennog tir sydd yn gyfrifol am y wal ac mae archwiliwr ffyrdd y Cyngor wedi hysbysu asiant y tir, cyfrifoldeb perchennog y tir ydi trefnu adferiad a rei gost ei hun. v)Ystyriwyd adeiladu llwybr troed rhwng Bro Hywyn a Caerau yn y gorffennolond nid oedd cais am arian grant gan Lywodraeth Cymru yn llwyddiannus, yn bennaf oherwydd bod angen prynu rhannau o’r tir. vi)Bydd yr arwydd yn gwahardd loriau ger Minafon, Uwchmynydd yn cael ei wella. vii)Arwydd Araf, Pencaerau: Mae marciau wedi eu paentio ar y ffordd, ond yn wynebu un cyfeiriad yn unig, mae y Cyngor wedi cytuno i roi marciau yn wynbeu y ddau gyfeiriad. 5)Lwfansau Cynghorwyr: Trafodwyd rheolau talu lwfansau i gynghorwyr gall y taliadau fod ar gyfer costau mewn perthynas â defnyddio ffôn, technoleg gywbodaeth, defnyddiau traul ac ati. Penderfynwyd caniatau talu y lwfansau canlynol mewn achosion arbennig, yn ddibynnol ar gais sydd i’w ystyried a’i benderfynu gan y Cyngor mewn cyfarfod arferol o’r Cyngor: Taliadau cyfrifoldeb Lwfansau cadeirydd Lwfans presenoldeb Lwfans colled ariannol Taliadau mewn perthynas â theithio a chynhaliaeth Lwfans gofal. 6) Gohebiaethau i)Derbyniwyd llythyrau gan O Ddrws i Ddrws a Parêd Dewi Sant Pwllheli, Neuadd Rhoshirwaun a Neuadd Y Rhiw yn diolch am gyfraniadau ariannol ii)Derbyniwyd llythyr gan Glwb Ieuenctid Aberdaron yn gofyn am gefnogaeth y Cyngor i gais grant gan Gronfa AHNE Llŷn i osod potiau blodau yn y pentref. Penderfynwyd anfon llythyr yn cefnogi cais y Clwb Ieuenctid. 7) Cynllunio Cais C17/0302/30/LL Adeiladu to dros storfa dail, Tir Topyn, Rhoshirwaun - cefnogi Cais C17/0221/30/LL Estyniad ochr, gosod tanc septig ac adeiladu ffordd fynediad newydd, Penrhyn Canol, Aberdaron - cefnogi Cais C17/0198/30/LL Cais ôl weithredol ar gyfer cadw adeilad amaethyddol, Pwll Melyn, Y Rhiw – gwrthwynebu ar yr un sail a’r cais blaenorol (a drafodwyd yn mis Mawrth) Cais C17/0311/30/YA Codi to sied bresennol, Meillionydd Bach, Rhoshirwaun - cefnogi 8)Ariannol i)Penodi Archwiliwr Mewnol ar gyfer 2016-17: Penderfynwyd penodi John Roberts i gyflawni yr archwiliad mewnol. ii)Archwiliad Allanol 2016-17: Derbyniwyd llythyr gan gwmni BDO yn datgan mai y 30ain o Fehefin fydd dyddiad yr Archwiliad Allannol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-17. Derbyniadau Grwp Twristiaeth Aberdaron: £1,000 (cyfraniad tuag at gynnal toiledau cyhoeddus y pentref am y flwyddyn 2017-18. Taliadau Iwan Hughes:£145.92 (cyflog) PAYE y clerc: £36.40 John Roberts: £69 (Archwiliad mewnol 2015-16) Copi: £12.44 Zurich Municipal: £1,324.41 Iwan Hughes (stampiau): £26.40 Neuadd Rhoshirwaun £50 Scottish Power £28.93 (Trydan yr Eglwys) 9) Materion ffyrdd a llwybrau i)Torri llwybrau: Mae cwtogiad yn y grant torri llwybrau sydd yn cael ei roi i Gyngor Aberdaron gan Gyngor Gwynedd eleni, o £1022 llynedd i £681.50 eleni. O ganlyniad penderfynwyd peidio a thorri llwybrau 31 (ger Bryn Sander), 28 (ger Pen y Bryn, Uwchmynydd) a 115 (Awelon i Terfyn, Y Rhiw) eleni. ii)Penderfynwyd gofyn i Gyngor Gwynedd os oes bwriad i drwsio y peipiau sydd yn arwain o dan Lôn Fryndol, Y Rhiw. iii)Nid yw’r bin mawr gwyrdd wedi ei osod ym mhen y ffordd sy’n arwain I’r bythynod yn Y Rhiw, penderfynwyd holi Steffan Jones. iv)Mae twll yn y ffordd ger cyffordd Pin Tŷ Mawr, Mynytho. v)Derbyniwyd cwyn am gyflwr y ffordd ger Tŷ Hywel, Penycaerau. vi)Gwnaed cais i drwsio wyneb ffordd Deunant, yn enwedig y rhan rhwng capel a chanolfan Deunant. vii)Derbyniwyd cwyn am wastraff ailgylchu ar hyd ffyrdd yr ardal wedi i’r lori ailgylchu fod, ddydd Sadwrn, 8fed o Ebrill – roedd y caeadau y lori wedi eu gadael yn agored. Cynhelir y cyfarfod nesaf o’r Cyngor nos Lun, Mai 8fed 2017 yn Neuadd Rhoshirwaun..