School of Sport DISSERTATION ASSESSMENT PROFORMA: Theoretical / Conceptual (Including: Desk-Based, Secondary Data, Meta-Analysis) Student name: Student ID: Rebecca Williams 20021104

SPE Programme:

Dissertation Dadansoddiad ansoddol a meintiol o ffynonellau cyfryngol er mwyn ymchwilio title: mewn i’r rol ideolegol sy’n atgyfnerthu rhywedd a rhywioldeb menywod yn y byd chwaraeon. Supervisor: Dr Hywel Iorwerth Comments section Title and Abstract (5%) Title to include: A concise indication of the research question/problem. Abstract to include: A concise summary of the theoretical study undertake. Extended Introduction (20% [10%]) 1 To include: outline of context for the question; clear articulation and justification of the research question; indication of research expectations. Research Methods/Process (15% [10%]) 2 To include: justification of a secondary data collection approach; justification of inclusion and exclusion criteria and any search parameters utilised; process/procedure adopted; clear articulation and justification for the structure and development of the study. Critical Review (35% [50%]) 2 To include: a synthesised academic exposition and evaluation of: - factually relevant data - conceptual understanding(s) - theoretical account(s) - established line(s) of argument in relation to the research question(s)/problem posed by the study; logical structural divisions that evidence appropriate and thorough development in critical analysis; reasoned enquiry progressing towards the formation of a justified position in relation to the research question(s)/problem posed by the study. Explicit Summary (15%) To include: explicit presentation of position concluded from the study; discussion of the limitations and a critical reflection of the approach/process/ procedure adopted in the study; an indication of any potential improvements and future developments derived on completion of the study; an insight into any implications and a conclusion which summarises the relationship between the research question and the major findings. Presentation (10%) To include: academic writing style; depth, scope and accuracy of referencing in the text and final reference list; clarity in organisation, formatting and visual presentation.

1 There is scope within CONCEPTUAL/THEORETICAL dissertations for the EXTENDED INTRODUCTION and RESEARCH METHODS/PROCESS sections to be presented as a combined section, particularly where matters of REPLICABILITY of the study are not central. The mark distribution to be used in studies of this kind is indicated in square brackets. CARDIFF METROPOLITAN UNIVERSITY Prifysgol Fetropolitan Caerdydd

CARDIFF SCHOOL OF SPORT

DEGREE OF BACHELOR OF SCIENCE (HONOURS)

SPORT AND PHYSICAL EDUCATION

2014-15

DADANSODDIAD ANSODDOL A MEINTIOL O FFYNONELLAU CYFRYNGOL ER MWYN YMCHWILIO MEWN I’R RôL IDEOLEGOL SY’N ATGYFNERTHU RHYWEDD A RHYWIOLDEB MENYWOD YN Y BYD CHWARAEON.

(DISSERTATION SUBMITTED UNDER THE DISCIPLINE OF CULTURE IN SPORT)

REBECCA WILLIAMS

ST20021104

ENW: REBECCA WILLIAMS

RHIF MYFYRWYR: 20021104

YSGOL CHWARAEON CAERDYDD (CARDIFF SCHOOL OF SPORT)

CARDIFF METROPOLITAN UNIVERSITY

PRIFYSGOL METROPOLITAN CAERDYDD

DADANSODDIAD ANSODDOL A MEINTIOL O FFYNONELLAU CYFRYNGOL ER MWYN YMCHWILIO MEWN I’R RôL IDEOLEGOL SY’N ATGYFNERTHU RHYWEDD A RHYWIOLDEB MENYWOD YN Y BYD CHWARAEON. Cardiff Metropolitan University Prifysgol Fetropolitan Caerdydd

Certificate of student By submitting this document, I certify that the whole of this work is the result of my individual effort, that all quotations from books and journals have been acknowledged, and that the word count given below is a true and accurate record of the words contained (omitting contents pages, acknowledgements, indices, tables, figures, plates, reference list and appendices). I further certify that the work was either deemed to not need ethical approval or was entirely within the ethical approval granted under the code entered below.

Ethical approval code: 14/5/393U Word count: 11,873 Name: REBECCA WILLIAMS Date: 27/05/2015

Certificate of Dissertation Supervisor responsible I am satisfied that this work is the result of the student’s own effort and was either deemed to not need ethical approval (as indicated by 'exempt' above) or was entirely within the ethical approval granted under the code entered above. I have received dissertation verification information from this student

Name: Date:

Notes: The University owns the right to reprint all or part of this document. Cynnwys

Tabl Byrfoddau……………………………………………………………….…i

Cydnabyddiaethau…………………………………………………………….ii

Crynodeb………………………………………………………………………..iii

Pennod 1

Cyflwyniad…………………………………………………………………………1

Pennod 2

2.0 Adolygiad Llenyddiaeth

2.1 Cyflwyniad……………………………………………………………………...3

2.2 Rhywedd………………………………………………………………………..4

2.2.1 Ideoleg a Gwahaniaethu ar sail rhyw………………………………...... 5

2.2.2 Hegemoni yn y Byd Chwaraeon………………………………………….5

2.3 Chwaraeon yn Herio Normau Rhywedd……………………………….....6

2.3.1 Atgyfnerthiad Rhywedd O Fewn Chwaraeon………………………….7

2.3.2 Datblygiad A Rhwystrau Menywod O Fewn Y Byd Chwaraeon…....7

2.4 Y Cyfryngau…………………………………………………………………...8

2.5 Gwaharddiad Sylw Menywod o’r Cyfryngau……………………………10

2.7 Enghreifftiau o’r cyfryngau yn dangos gwahaniaethu rhywedd…….10

2.8 Crynhoad………………………………………………………………………12

Pennod 3

3.0 Methodoleg

3.1 Nôd yr ymchwil………………………………………………………………….14

3.2 Dilysrwydd a Dibynadwyedd…………………………………………………..14

3.3 Dulliau Ymchwil………………………………………………………………..15

3.4 Dadansoddi Cynnwys…………………………………………………………16

3.4.1 Dadansoddi Ansoddol………………………………………………………16

3.4.2 Dadansoddi Meintiol…………………………………………………………17

3.5 Sampl.…………………………………………………………………………….17

3.5.1 Cyfrifon Twitter………………………………………………………………..17

3.6 Dull…………………………………………………………………………………18

3.7 Tangynrhychiolaeth Menywod………………………………………………..19

3.8 Themâu……………………………………………………………………………19

Pennod 4

4.0 Canlyniadau

4.1 Dadansoddiad Cynnwys Mesurol y Cyfryngau…………………….….....21

4.2 Trafod Canfyddiadau Meintiol………………………..……………………...26

Pennod 5

Trafodaeth

5.0 Dadansoddiad Ansoddol…………………………………………………….28

5.1 Themâu…………………………………………………………………..……29

5.1.1 Lluniau Ecsbloitiaeth…………………………………………….….……29

5.1.2 Ideoleg……………………………………………………………….….…..30

5.1.3 Ymyl Chwaraeon…………………………………………………………..30

5.1.4 Dylanwad Y Cyfryngau……………………………………………..…....32

5.1.5 Penawdau Profoclyd………………………………………….….……….34

5.1.6 Ailadrodd Cynnwys Menywod………………………………….……....35

5.1.7 Y Bwlch Rhywedd…………………………………………………..…….37

Pennod 6

Diweddglo

6.0 Crynhoi………………………………………………………………………...39

Cyfeirnodau………………………………………………………………………..41

Atodiadau

Atodiad A- Rhestr o’r holl erthyglau a chasglwyd………………………….46

TABL BYRFODDAU

FIFA - Fédération Internationale de Football Association

i

CYDNABYDDIAETHAU

Hoffwn ddiolch i Ddoctor Hywel Iorwerth am ei holl gefnogaeth gyson dros y misoedd diwethaf.

ii

Crynhoad

Nôd yr astudiaeth yma yw ymchwilio i mewn i’r math a nifer o sylw derbynau menywod o fewn ffynonellau cyfryngol gwahanol. Defnyddir papurau newydd a chyfrifon twitter ar gyfer chasglu data dros gyfnod o 6 fis ond ar adegau gwahanol, gwneir hyn drwy ddull dadansoddi cymysg ac fel y mae Gratton a Jones (2004) yn esbonio ei fod yn ddull lle bod cymysgu’r dull meintiol ac ansoddol yn gweithio i’w gorau. O ganlyniad i hyn medrai’r data cael ei dangos mewn modd meintiol drwy ystadegau crai, hefyd drwy ddull ansoddol fel ffurf dadansoddiad gyda mwy o ddyfnder a deallusrwydd.

Bu pwyslais ar y negeseuon cudd y mae’r cyfryngau yn ceisio tanseilio er mwyn gwneud i’r darllenwyr prynu fewn i’r stori sy’n cael ei ddarlledu neu bwysleisio. O ganlyniad i hyn bu anghyfartaledd a gwahaniaethu ar sail rhyw yn rhemp ac mae’n llwyfan fyd-eang lle bod gwryweidd-dra yn dominyddu pob agwedd. Drwy’r arferion cymdeithasol a dywed uchod, bu cysyniad Gramsci (2000) am hegemoni yn ffordd gyfiawn o’i hesbonio ynghlwm gydag ymchwil Kidd, (2013) am ideoleg sydd yn bodoli weithiau yn anymwybodol o fewn chwaraeon lle bod synnwyr cyffredin yn bodoli o fewn gymdeithas ac nid oes neb yn ei gwestiynu. Derbyniwyd y normau ac arferion cymdeithasol yma gan y boblogaeth a throsglwyddai hyn o genhedlaeth i genhedlaeth. Bu’r ymddygiad sy’n dominyddu o fewn cymdeithas yn cario mlaen, er hyn mae rhai unigolion yn herio rhywedd a dyma brif bwyslais a ddaw o’r ymchwil yma lle bo rhai unigolion benywaidd yn newid a chreu barn wahanol i’r un a bodolai ers amser.

Dadansoddai’n feirniadol o sut y mae’r ffynonellau cyfryngol cymdeithasol gwahanol yn rhoi lens sy’n gorchuddio gwir feddwl beth sy’n cael ei dangos. Mae’r fath o orchudd yma yn un bwerus sydd yn newid barn a chreu stereoteipiau am fenywod yn y byd chwaraeon.

iii

Pennod 1 Cyflwyniad

Mae chwaraeon yn ffenomenon sydd wedi crynhoi ideoleg, hierarchaeth a threfn rhywedd cymdeithasol wrth bwysleisio dominyddiaeth gwrywdod i gymharu â menywod. Mae Jarvie, (2006) yn honni bod chwaraeon yn medru cael ei weld fel gosodiadau ymarferol cymdeithasol sy’n ceisio dathlu normau a gwerthoedd ymddygiad penodol, trwy gynhyrchu sefydlogrwydd a pharhad o ffurfiau traddodiadol ymddygiad. Mae tangynrhychiolaeth y derbyniai menywod mewn strwythur a threfn chwaraeon yn israddol i dynion, drwyr ymchwil yma bu cais yn cael ei weld os yw hyn yn cael ei amlygu i’r eithaf mewn papurau newydd a ddaw o brifysgol chwaraeon, gyda chymhariaeth i bapur sydd yn ddigon poblogaidd ac o fewn cyfryngau cymdeithasol drwy edrych yn sbesiffig ar gyfrifon twitter.

Mae’r cyfryngau yn chwarae rôl arwyddocaol wrth atgyfnerthu safle menywod o fewn y byd chwaraeon, mae’n dangos yn glir y safle maen nhw yn dal o fewn haenau o gymdeithas. Mae’r cyfryngau yn offeryn sydd yn strwythuro ac yn dylanwadu darnau a deallusrwydd o fewn cymdeithas, hynny yw mai pobl yn darllen am y bobl sydd o fewn llygaid y wasg ac yn creu barn ei hunan amdanynt. Bu’r barnau yma mwyafrif o’r amser yn cael ei gysgodi gan ffug personoliaeth y person. Pwynt craidd a cheisiai cael ei hesbonio yn yr ymchwil yma trwy ddadansoddi meintiol ag ansoddol yw’r gorchudd sydd yn cuddio gwir ystyr y stori, mae hyn yn cael ei amlygu i’r eithaf yn y darluniau a darnau ysgrifenedig sydd yn ymroddedig i fenywod o fewn awyrgylch chwaraeon.

Mae Lopiano, (2008) wedi crybwyll fod benyweidd-dra o fewn awyrgylch chwaraeon yn gweld safon ddwbl, lle bod dynion yn cael sylw am berfformiadau medrus a llwyddiant lle bo menywod yn derbyn sylw am eu hatyniad corfforol neu weithgareddau nad sy’n gysylltiedig â chwaraeon. Bu’r dywediad yma’n bwynt canolog i’r ymchwil er mwyn ceisio fforio ymhellach i mewn i dueddiadau’r cyfryngau am gynnwys menywod o fewn y ffynonellau cyfryngol gwahanol.

Er bod bwlch amlwg rhwng y cyfryngau a chwaraeon, mae tebygolrwydd amlwg sy’n sefyll allan ac mae Kinkema a Harris, (1998) yn dweud bod chwaraeon yn cael ei siapio gan y cyfryngau ac i’r gwrthwyneb mae’r cyfryngau yn cael ei siapio gan chwaraeon. Dangosir hyn ei fod fel cylch fel continwwm sy’n barhaus ac nid all un bodoli heb y llall. Mae arwyddocâd sylweddol yn bodoli o fewn y cyfryngau a dyma le mae gwryweidd-dra yn dominyddu mewn amryw o ffactorau, mae dynion yn derbyn

1 fwy o sylw, fwy o nawdd a fwy o gydnabyddiaeth. Dywed Wagg, (2007) bod gwrywod yn dueddol o ddominyddu’r cyfryngau er weithiau bod y fath o stori yn dibynnu ar beth mae’r darllenwyr eisiau darllen. Bu’r holl bwyntiau cadarnhaol yma’n cyfrannu at y dominyddiaeth sydd ganddynt dros fenywod yn yr holl ffynonellau cyfryngol gwahanol.

2

Pennod 2

Adolygiad Llenyddiaeth

2.0 Cyflwyniad

Er bod poblogrwydd chwaraeon menywod ar y cynnydd, mewn nifer fawr o ddiwylliannau ar draws y byd mae chwaraeon dal i’w weld yn bennaf fel parth a llwybr gwrywaidd. Mae Messner a Sabo, (1990) yn credu bod pobl dal o dan y gred fod chwaraeon wedi ei chreu ‘gan ddynion i ddynion’. Er hyn mae newidiadau sylweddol wedi’i sefydlu i wneud cais i geisio newid y farn draddodiadol yma ynglŷn â benyweidd-dra. Mae’r farn yma yn amlwg yn cael ei herio o fewn y byd chwaraeon, yn ogystal mae’r arferion y disgwyliai gan fenywod yn cael ei gwrthwynebu yn gyson. Mae Murchington, (2006) yn honni bod menywod yn fwy tebygol o gael derbyniad o fewn gymdeithas os nad ydynt yn cymryd rôl mewn awyrgylch chwaraeon neu yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gysylltiedig â rhoi’r corff o dan unrhyw straen corfforol. Gwthiau menywod y farn heriol sydd ohonynt yn ddyddiol, bu syniadau dominyddol ynghlwm a menywod yn y byd chwaraeon yn weledol o’r gweithredoedd y perfformiwyd o fewn gymdeithas, er hyn yn draddodiadol nid oes lle iddynt fodoli yn y lle cyntaf. Enghraifft o hyn yw menywod yn gwthio i’r ffiniau be a ddisgwylir ohonynt yn weithredol o fewn cymdeithas. Yn wrthgyferbyniol i hyn mae’n weledol o fewn amgylchedd cymdeithasol bod menywod yn medru nawr cynnal gyrfaoedd llwyddiannus mewn amrywiaeth o lwybrau chwaraeon boed fel athletwraig adnabyddus er enghraifft Jessica Ennis neu gyflwynydd ar y teledu megis Gabby Logan.

Yn y darn nesaf sonnir am rhywedd a rhyw, datblygir hyn trwy ymhelaethu ar pam bod deallusrwydd llawn yn bwysig er mwyn cydymffurfio mewn cymdeithas. Hefyd sonnir am hierarchaidd rhywedd a sut cydffurf hyn i mewn gydag anghyfartaledd rhyw a daw hyn i’r wyneb mewn meysydd cyfryngol gwahanol. Yn ddelfrydol ni ddylai hyn fod yn broblem, er mae menywod o fewn y byd chwaraeon gorfod profi rhywedd yn gyson er mwyn dilyn disgwyliadau a normau cymdeithasol. Bydd pwyslais hefyd ar berthnasau rhywedd a sut cyfunai hyn i mewn gyda champau penodol, bodolai stigma pwerus â champau sy’n wrth-benywaidd megis rygbi. Ceisiai athletwyr sydd yn gysylltiedig â’r farn negyddol yma gwneud eu gorau phosib i geisio dilyn normau ac ideoleg a ddisgwylir wrthynt mewn cymdeithas a thu hwnt. Bu’r pwyntiau uchod yn treiddio mewn i’r byd chwaraeon a pham y mae llwyfan byd-eang fel hyn safle hynod arwyddocaol o ran derbyn, atgyfnerthu a hefyd herio'r fath ideoleg.

3 2.1 Rhywedd

Mae’r cysyniad o ddeall rhywedd i’w potensial yn bwysig iawn wrth gydymffurfio a gweithredu o fewn cymdeithas. Mae West a Zimmerman (1987) yn honni taw rhywedd yw rhywbeth rydym yn gwneud yn hytrach na rhywbeth yr ydym wedi treiddio ohono. Soniwyd hefyd fod rhaid i rhywedd fod yn barhaus a strwythurwyd yn gymdeithasol yng ngoleuni tueddiadau arferol gwrywod a menywod. Hynny yw, mae pobl yn ymddwyn ac yn gweithredu gyda’r ymwybyddiaeth y byddant yn cael ei barnu yn ôl ymddygiad a gaiff ei ystyried yn fenywaidd neu’n wrywaidd. Enghraifft o hyn byddai gwrywod yn wyliadwrus o gyfranogi mewn chwaraeon sy’n cael ei weld gan gymdeithas yn fenywaidd. Byddai hyn yn difrodi enw da ac efallai yn cwestiynu rhywedd a gwryweidd-dra. Mae’r normau yma megis gwrywod yn cyfranogi mewn campau a ddengys cryfder, dicter a bod yn gystadleuol yn cydymffurfio i be a ddisgwylir ganddynt. Mae’r normau yma sy’n cael ei deall gan bobl yn amrywio dros amser, grŵp ethnig a sefyllfa gymdeithasol, er hyn mae’n hollol bersonol ar sut ymddygai menywod a dynion mewn sefyllfaoedd o ryngweithio cymdeithasol, hynny yw bydd ymddygiad yn gwahaniaethu yn dibynnu ar y fath o awyrgylch yn ogystal â’r bobl sy’n bresennol.

Yn symud ymlaen yn ôl Eagly (2000) rhywedd yw cyfeiriad at yr ystyron bod cymdeithasau ac unigolion yn barnu a siapio ei hunan am rhywedd, dibynnau hyn ar y fath o fewnbwn a diddordeb cymrwch o’r credoau yn y lle cyntaf. Mae tueddiadau a normau sydd yn cael ei phasio lawr dros genedlaethau fel dywed Brown (1999) yn creu unigolion sydd yn cydymffurfio gyda disgwyliadau ac agweddau a disgwylir gennych os ydych yn fenyw neu wryw. Cytunwyd Bordieu (1984) gyda hyn trwy’r cysyniad o habitus gan ddweud bod tueddiadau ac arferion cymdeithasol yn cael ei phasio ymlaen o un genhedlaeth i’r llall. Mae hyn fath ac ideoleg lle bod unigolion yn dilyn rheolau anysgrifenedig er mwyn cydymffurfio mewn cymdeithas. Yn gysylltiedig â phwysigrwydd a deallusrwydd o rywedd, mae (Berger (1972) yn honni bod rhywedd yw cyfeiriad at ymddygiad, agweddau a nodweddion sy’n gysylltiedig â bod yn wrywaidd neu’n fenywaidd. Bu hyn yn arwain ymlaen at sut mae gwahaniaethau mewn rhywedd yn gwneud i ni ymddwyn yn wahanol mewn sefyllfaoedd unigryw a ddarganfyddwyd ei hunan ynddo.

4 2.1.1 Ideoleg a Gwahaniaethu ar sail rhyw

Yn gwmws fel normau, mae ideoleg yn treiddio o gredoau ac ymddygiad y mae unigolyn yn gwneud. Caiff hyn trawiad ymlaen nes bod mwy a mwy yn dal y cred ac ymddygiad yma nes ei fod yn cael ei chymryd fel rheolau a ddelir gan y boblogaeth eang. Er hyn mae rhai amodau cymdeithasol yn cael ei thanseilio o ran dilysrwydd ac o ganlyniad gwelir rhai pobl yn dod yn llai tebygol o weithredu arnynt, hynny yw nid yw pob arfer cymdeithasol yn ddigon pwerus, ac nid yw pawb yn prynu mewn iddo. O ganlyniad, nid yw’n cael ei gymryd lan gan y boblogaeth eang a bu rhai ffactorau sy’n digwydd yn cael ei edrych drosodd ac nid oes unrhyw weithred yn digwydd arnynt, bu’r rhai yma yn hidlo yn is mewn i gymdeithas ac yn cael ei anghofio. Ond i’r gwrthwyneb bu rhai yn aros ar yr arwyneb ac yn dod yn elfennau pwysig i bobl o fewn gymdeithas ymddwyn arnynt.

2.2 Hegemoni Yn Y Byd Chwaraeon

Canfodwyd Fink, (2007) yn ei ymchwil fewn i amrywiaethau rhywedd bod chwaraeon yn sefydliad pwerus lle bod hegemoni gwrywaidd yn cael ei adeiladu, aeth ymlaen i ddweud bod deallusrwydd o’r topig yma yn help i wynebu’r prosesau a gobeithio i dorri'r pŵer sydd gan ddynion. Eto mae dynion mewn sefyllfa lle ei bod nhw yn sownd yng nghanol o beth maen nhw eisiau gwneud a beth sy’n ddisgwyliedig gan gymdeithas iddyn nhw wneud. Bu hegemoni gwrywaidd yn bodoli mewn agweddau cyffredinol bywyd lle bod dynion hoyw a menywod yn dod yn is lawr yn y continwwm. Dywed Lanskyi (1994) bod hegemoni benyweidd-dra wastad wedi portreadu'r corff benywaidd fel gwrthrych rhywiol. Bu hyn yn rhoi athletwyr benywaidd mewn bwlch o ansicrwydd lle nad ydynt gyda sicrwydd pendant ac arwyddocâd o le maen nhw yn sefyll gan fod nhw dal i fod yn agored i rhywioli diangen a sylw rhywiol gan athletwyr gwrywaidd, hyfforddwyr a newyddiadurwyr mewn awyrgylch chwaraeon.

Yn draddodiadol bu unigolion naill ai yn fenyw yn cydymffurfio gyda disgwyliadau benywaidd neu yn wryw ac yn cydymffurfio gyda disgwyliadau gwrywaidd. Erbyn nawr mae mwy o amrywiaeth o beth yw disgwyliadau yn gyffredinol ac mae chwaraeon, unigolion a’r cyfryngau yn adio at y dyfaliad o be sy’n dderbyniol a beth sydd ddim o fewn gymdeithas. Er heddiw mae unigolion yn ceisio gwthio i’r terfyn beth yn union yw’r disgwyliadau yma. Mae cymdeithas wedi newid unigolion i fynd yn

5 erbyn disgwyliadau sydd ohonynt a sut i ymddwyn mewn cymdeithas a thu hwnt ar lwyfan byd-eang.

2.3 Chwaraeon yn Herio Normau Rhywedd

Dywed Ridgeway et al. (2009) bod gwrywod yn fwy tueddol a debygol o weithredu ar gredoau a statws sydd wedi’i sefydlu am amser hir i gymharu â menywod. Bu hyn yn amlwg wrth weld y newidiadau mae menywod wedi wynebu dros y degawdau diwethaf yn enwedig o fewn y byd chwaraeon, gwelir bod mwy o hawliau cyfranogi ac yn gallu cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o gampau a adnabir fel rhai i ddynion. Gwelir y gwahaniaethau yma gan fod menywod wedi bod yn fwy a fwy parod i wthio’r rheolau a ddisgwylir ganddynt i’r ffiniau, a gwelir hyn wrth iddynt brofi rhywedd yn gymdeithasol a thrwy hynny mynd yn erbyn y norm. Ffaith a chaiff ei amlygu i’r eithaf yw bod pobl yn trin eraill yn ôl sut dylai cymdeithas gweithio, yn ogystal â barn y boblogaeth. Er hyn os ydy menywod yn gwthio normau cymdeithas i’r eithaf mae chwaraeon unigol megis tenis, dawnsio a gymnasteg yn fwy tebygol o gael derbyniaeth lwyr dros chwaraeon sy’n dominyddu gan ddynion megis pêl-droed a rygbi. Mae chwaraeon o’r fath yma sef y rhai di-gyffwrdd a llai ymosodol yn cadarnhau benyweidd-dra i’r menywod sy’n cymryd rhan. Er bod rhai chwaraeon yn dderbyniol i ferched i ymgysylltu gyda, mae merched dal yn cael ei ystyried fel targedau rhywiol, nid fel menywod sydd â diddordeb mewn dod o hyd i’w rhywioldeb ei hunan drwy chwaraeon ar dermau ei hunan. Er mwyn llwyddo i gael cydraddoldeb rhwng y ddau ryw mewn byd chwaraeon mae’n hanfodol bod y cysyniad o rhywedd yn cael ei deall fel hylif sy’n llifo trwy ac o fewn gymdeithas ac yn gynnyrch o gysylltiadau a rhyngweithio rhwng menywod a dynion. Bu anghyfartaledd rhyw dal i fodoli yn ddwfn mewn chwaraeon. Mae gwryweidd-dra hegemonaidd fel dywed Hoeber, (2007) yn ffordd ‘Natural and Correct order’ o’i egluro. Er hyn mae menywod wedi ceisio gwrthryfela yn erbyn yr ideoleg yma a’i gwthio i’r terfyn a thrwy hyn bu newidiadau rheolaidd yn digwydd mewn byd chwaraeon menywod. Yn seiliedig ar hyn mae perthynas agos rhwng rhywedd a’r cyfryngau gan fod athletwyr a phersonoliaethau sydd ar y teledu yn cael ei rhywedd wedi’i siapio gan y cyhoedd. Credir hyn bod arwyddocâd iddyn nhw droi mewn i rywbeth a disgwylir gan y bobl sydd yn ceisio ei siapio.

6 2.3.1 Atgyfnerthiad Rhywedd O Fewn Chwaraeon

Mae pobl yn ofalus i fynd yn erbyn yr ideoleg yn hytrach na’i gwestiynu a gwthio i’r terfyn. Ffactor sydd eisoes wedi codi dadl ymhlith yr holl ddadlau am degwch yn y byd chwaraeon yw cyfranogiad menywod. Mae cyfranogiad menywod mewn campau unigol megis golf, gymnasteg a nofio yn uwch honnwyd gan Boutilier a Sangiovanni (1983) ei bod nhw yn cael mwy o dderbyniad cymdeithasol am ei bod nhw yn dilyn y protocol a ddisgwylir oddi wrthynt, felly yn dilyn y norm cymdeithasol. Bu’r mathau o gampau yma sydd wedi'i rhestri uchod yn rhai lle gallant edrych yn ddel, gosgeiddig, ddi-chwys a ddim yn cyffwrdd ag unrhyw fenywod arall mewn camp gyswllt e.e. Rygbi. Atgyfnerthai chwaraeon y rôl sydd gan fenywod o fewn ein cymdeithas. Mae lefelau cyfranogiad wedi codi yn aruthrol, cefnogai Gibson, (2012) a hyn drwy honni fod 750,000 fwy o fenywod yn cyfranogi mewn gweithgareddau corfforol pob blwyddyn. Ynghlwm gyda hyn mae'r nifer o fodelau rôl hefyd wedi codi yn sylweddol a nawr yn enwau byd-eang ar ac oddi ar y cae chwarae. Gan fod y datblygiadau yma wedi digwydd, meddyliau hyn fod normau cymdeithasol wedi newid ac o ganlyniad mae maint o ryddid sydd gan fenywod wedi codi.

2.3.2 Datblygiad A Rhwystrau Menywod O Fewn Y Byd Chwaraeon

Er bod newidiadau wedi digwydd ac yn dal i ddigwydd yn gyson i geisio lleihau'r bwlch rhwng chwaraeon benywaidd a gwrywaidd. Mae dal i fod gwahanu mawr rhwng y ddau begwn, a welwyd fod chwaraeon i ddynion dal yn dominyddu mewn gwerth masnachol ac yn y cyfryngau Dworkin a Messner, (2002). Fel y mae pawb yn ymwybodol, mae chwaraeon yn weithgaredd masnachol, yn gwarantu yn ariannol gan gorfforaethau sy’n gwerthu nwyddau i gyhoedd sy’n chwilio am ffitrwydd personol.

Mae anghyfartaledd mewn bywyd pob dydd yn bodoli, ac yn broblem enfawr mewn rhai diwylliannau ar draws y byd. Mae gwledydd megis Israel ac India yn dioddef o lefelau hafal rhywedd isel iawn. Mae hyn yn bodoli mewn rhywedd a rhyw o fewn bywyd pob dydd ond gwelir hyn i’r eithaf mewn gweithgareddau corfforol a chwaraeon hamdden rhwng y ddau ryw mewn gwledydd. Er bod yna bwlch mawr o fewn gwledydd cyfoethog gwelir y bwlch yn hyd yn oed fwy mewn gwledydd a hawliau llai i fenywod sydd heb ddatblygu i’r eithaf. Mae Darlinson, (2000) yn honni o fewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol fod gwahaniaethau rhwng dynion a

7 menywod yn cael ei chymysgu gyda gwahaniaethau a adeiladwyd yn gymdeithasol. Enghraifft o hyn yw pan bod pobl yn drysu rhwng gwahaniaethau corfforol a gwahaniaethau rhywedd. Defnyddir y dryswch yma er mwyn cyfiawnhau'r lleiafrif o gyfranogiad y mae menywod yn wynebu ar bob lefel, o ferched ifanc mewn clybiau iau i’r llwyfan Olympaidd byd-eang. Mae’r rhwystrau a wynebir yn ddyddiol gan fenywod yn dangos nad yw’r cysyniad o rywedd wedi’i deall ac mae’n bell ffordd er mwyn derbyniad hafal rhwng y ddau ryw. O’r holl ffactorau uchod mae’n glir i weld a chysylltu yn gryf o fodolaeth a chyfiawnhad pam a sut mae cyfranogiad menywod yn cael ei gwerthfawrogi yn llai na chyfranogiad dynion o fewn y byd chwaraeon.

Mae’r gwelliannau o fewn byd chwaraeon i ferched wedi bod yn aruthrol ond er hyn mae Pririen, (1995) yn honni bod chwaraeon i ddynion wedi bod yn phenomenon naturiol, i’r gwrthwyneb mae chwaraeon i ferched yn cael ei weld yn afreolaidd ac yn annaturiol. Felly er bod newidiadau enfawr i ferched wedi digwydd ac yn dal i gymryd lle mae pobl dal o dan yr argraff nid o fewn y byd chwaraeon y dylai menywod fod.

Mae perthnasau rhywedd yn bodoli trwy gydol y byd chwaraeon, ceisiai athletwyr dilyn y rolau sy’n ddisgwyliedig ganddynt, er mwyn cydymffurfio mewn i gymdeithas a thu hwnt. Yn ôl Pririen, (1995) mae menywod yn dioddef o luniad cymdeithasol a bodolir hierarchaeth lle bod gwrywod yn dominyddu ar y brig a ‘subordination’ benywaidd ar y gwaelod. Mae rhywedd eisoes wedi codi materion mewn ac o amgylch chwaraeon. Dywed Wenner, (2010) bod y maes chwaraeon yn gyfleuster ble mae gwahaniaethu ar sail rhyw yn digwydd fwyaf. Yn syml mae chwaraeon i ddynion yn dominyddu, er bod pethau yn newid ac yn datblygu mae marchnatwyr yn parhau i fod yn bragmatig. Rydyn ni fel darllenwyr yn hyrwyddo hyn drwy barhau i ddarllen a mwynhau gweld dynion yn dominyddu mewn chwaraeon ac o ganlyniad mae menywod yn derbyn hyd yn oed llai o sylw a chydnabyddiaeth.

2.4 Y Cyfryngau

Mae’r cyfryngau yn ffactor bwysig wrth gynhyrchu ac atgynhyrchu ideolegau rhywedd ac yn cyfathrebu ein dealltwriaeth a synnwyr cyffredin o safle gwrywod a menywod o fewn awyrgylch chwaraeon. Gweithredai’r cyfryngau fel llwyfan uchel er mwyn cael drosodd i’r cyhoedd beth maen nhw mhoen credu, mae’r cyfryngau yn fath a lens sy’n gorchuddio gwir ystyr stori er mwyn gwneud i rywbeth swnio yn fwy deniadol, diddorol a chyffroes i dal sylw person. Cyfeiriau hyn at ideoleg a hegemoni

8 lle dywed Gramsci, (2000) fod hegemoni yn rhywbeth yr ydym yn derbyn yn ganiataol yn union fel synnwyr cyffredin. Dywed Billings a Hundley, (2010) bod biliynau o bobl yn profi realiti'r cyfryngau drwy lens torfol ond yn aml yn unigol, hynny yw mai barn gyfryngol yn treuddio yn nwfn o gredoau sydd gennych yn barod. Bu hyn yn ceisio profi bod chwaraeon yn creu ac yn siapio cymdeithas yn union fel y mae cymdeithas yn creu a siapio chwaraeon i’r un graddau. Mae’n anodd iawn gwahanu'r dylanwad o’r cyfryngau i’r negeseuon craidd sy’n bwriadu cael ei ddweud. Hynny yw mwyafrif o’r amser gwahaniaeth mawr yn beth yw’r stori go iawn a beth mae’r cyfryngau yn darlledu. Mae ffynonellau amrywiol y cyfryngau yn cael ei defnyddio i ddatgelu sut mae chwaraeon a chyfryngau yn lluniadu, atgyfnerthu a pharhau canfyddiadau o hunaniaeth ddynol. O ganlyniad i hyn mae swyddogion sydd mewn rheolaeth o’r cyfryngau wedi nodi eu bod nhw yn gadael i ddelweddau gweledol gwneud y gwaith, mae hyn llawer mwy pwerus na ysgrifennu. Dalwyr hyn mwy o sylw gan fod delweddau yn fwy cyffroes a diddorol, ac felly mae’r darllenwyr yn fwy tebygol o’i edrych arno. Mae lluniau yn dangos yn glir beth sy’n cael ei dangos a phortreadu, o ganlyniad ac effaith negyddol mae rhywedd wedi cael ei ostwng i arddangosiad biolegol yn hytrach na ffeithiau cryno. Thrwy hyn mae gwahaniaethu ar sail rhyw wedi dod yn ei le. Pwynt clir a ddaw o’r fath yma o ddelweddau yw bod dynion yn cael ei ddangos mewn goleuni gwahanol naill ai’n wrywaidd neu yn fenywaidd ac yr un peth i fenywod. Y pwynt cryfaf a ddaw o hyn yw bod pobl yn gwneud canfyddiadau ei hunan lan am y delweddau maent yn gweld yn y papurau, teledu ac ar y we.

Mae’r cyfryngau yn elfen fyd-eang sy’n medru troi barnau a chreu argraff bwerus tu hwnt. Mae llun a darn o ysgrifen yn mynd ymhellach na’r argraff mae’n ceisio rhoi. Yn ôl Scraton a Flintoff (2002) mae’r cyfryngau yn enghraifft o sefydliad patriarchaidd pwerus sy’n eiddo i raddau helaeth ac yn cael ei reoli yn gryf gan ddynion, bu hyn yn rhoi pwyslais ar y math o ddata sy’n cael ei arddangos mewn papurau newydd, cylchgronau a’r we. Bu Scratton a Flintoff (2002) yn mynd ymlaen i gymharu bod yna nifer cyfyngedig o newyddiadurwyr, ffotograffwyr a sylwebyddion benywaidd yn ogystal â’r nifer ac ansawdd o sylw a chaiff menywod yn gyffredinol.

9 2.5 Gwaharddiad Sylw Menywod o’r Cyfryngau

‘No Alcohol, No Drugs, No Lesbians’ yw cyfeiriad Hardin and Whiteside, (2010) sef polisi sy’n dangos yn glir bwriad lle nad oes croeso i fenywod o fewn yr awyrgylch chwaraeon. Mae’r cysyniad uchod yn un bwerus ac yn dangos pa mor ddifrifol y mae pobl yn cymryd hyn. Yn anymwybodol mae’n gwneud iddo’ch cwestiynu beth sydd yn foesol yn erbyn beth mae’r pŵer tu ôl yn tywys chi i gredu. Yn amlwg mae datganiad mor bwerus â’r uchod yn achosi gwahaniaethu ar sail rhyw a thrwy hyn creu gwaharddiad o fewn y cyfryngau. Bu synnwyr cyffredin yn dod drosodd fel ni ddylai pobl hoyw fod yn yr un category a chyffuriau neu alcohol, ond yn anffodus mae hyn yn rhywbeth sy’n cael ei gredu gan biliynau oherwydd dylanwad cryf y cyfryngau. Mae’r gred yma yn arwain at bobl hoyw sydd yn y byd chwaraeon i ymddwyn, rhyngweithio a gweithredu mewn ffordd wahanol sy’n dilyn y norm. Mae hyn yr un peth a rhoi gwyneb ymlaen er mwyn cuddio hunaniaeth drwy orchuddio rhywedd go iawn. Byddai menywod fel esiampl yn mynd allan o’i ffordd er mwyn cuddio rhywedd trwy ymddwyn dros y top yn fenywaidd pan bod nhw allan o’i champ, bydd gwisgo llawer o golur, dillad profoclyd sy’n tynnu sylw yn ogystal ag ymddwyn yn or-benywaidd er mwyn canslo allan y ffaith ei bod nhw yn meddu rhai nodweddion gwrywaidd sy’n gysylltiedig â chwaraeon.

2.6 Enghreifftiau o’r cyfryngau yn dangos gwahaniaethu rhywedd

Mae enghreifftiau clir yn cael ei weld yn ddyddiol o’r ffactorau uchod gan gynnwys y fath o ddelweddau a phortreadwyd gan y cyfryngau. Un o rain yw bod bronau yn cael ei amlygu os ydych yn fenyw ac ‘adams apple’ yn cael amlygu os ydych yn wryw, dengys y lluniau yma gan ei fod yn pwysleisio benyweidd-dra a gwryweidd-dra. Enghraifft arall fyddai'r papurau wastad yn dangos delweddau o fenywod yn chwarae chwaraeon ond yn dangos lluniau o hanner amser pan nad ydynt mewn sefyllfa gorfforol yn dangos agwedd ymosodol. Yn gyffredinol fel rheol mae gwallt hir, llawer o golur a dillad profoclyd gyda’r menywod sydd yn y delweddau, bydd hyn i gyd yn dibynnu ar rhywedd y person sydd mewn cwestiwn a beth mae’r cyfryngau moen i’r cyhoedd credu. Enghraifft briodol arall yn ol Mean, (2010) yw’r Fédération Internationale de Football Association neu yn fwy adnabyddadwy FIFA, lle maen nhw yn tanseilio hunaniaeth merched fel athletwraig, trwy wneud cais i ddiogelu gwrywdod. Mae FIFA wedi methu i integreiddio menywod mewn i chwaraeon drwy

10 ffynonellau o fewn y cyfryngau. Bu hyn yn cael ei wneud trwy ddiffyg sylw mewn digwyddiad byd-eang yw Cwpan pêl-droed y Byd. Mae’r gymhariaeth rhwng y menywod a’r dynion yn rhyfeddol ac yn syndod mawr, yn sylw a chaiff menywod does dim cyffro, delweddau diflas, ychydig o gynnwys a bron dim ymdrech i hyrwyddo'r gamp mewn cwestiwn. O’r delweddau maen nhw yn cael ei chynnwys ynddo bu'r rhain yn lluniau ble maen nhw yn torri’r bêl allon o’r shot, os oes tacl gwael mae hyn yn cael llawer o sylw er mwyn dangos bod diffyg sgil gan fenywod. Yn ogystal mae delweddau ohonyn nhw yn crio neu ddathliadau emosiynol yn cael sylw er mwyn dangos bod menywod ar y cyfan yn wan a fregus.

Dywed Hardin a Whiteside, (2010) fod homoffobia yn bwnc sydd o dan sylw gan ei fod yn cynnwys haenau o ragdybiaethau cymdeithasol a diwylliannol a adnabir fel synnwyr cyffredin. Mae’r cyfryngau yn llwyfan fyd-eang lle y caiff ei amlygu i’r eithaf, bu’r biliynau sydd â mynediad i ffynonellau'r cyfryngau yn ymwybodol ei fod yn arf bwerus thu hwnt o drosglwyddo negeseuon. Bu’r negeseuon yma mor ddylanwadol gallent ddinistrio neu hybu gyrfa unigolyn. Cynhwysir gwybodaeth ddwys ond weithiau bu’r fath o wybodaeth o’r cyfryngau yn dod drosodd fel ffuglen neu’n anwir, er mwyafrif o’r amser os edrychwch mewn i ddyfnder dim ond synnwyr cyffredin sydd angen i wneud eich meddwl lan am gywirdeb a dilysrwydd y stori neu ddarlun mewn cwestiwn. Mae Hardin a Whiteside, (2010) yn honni bod yr ymyleiddio a chraffu mae menywod yn mynd trwyddo yn y cyfryngau yn broblem fyd eang. Er bod rhai gwledydd wedi lleihau'r bwlch rhwng gwahaniaethu ar sail rhyw mae dal yn broblem enfawr lle mae angen datblygiad yn ogystal â’i gywiro. Bu llawer o enghreifftiau modern o hyn megis cylchgronau er engraifft Glamour Magazine yn hyrwyddo deiseb er mwyn cynyddu’r canfyddiad di-sterioteipegol o fenywod. Yn ogystal mae cyfryngau cymdeithasol wedi hybu eu cyfrifon sydd ar gael i fenywod, bu twitter yn fodd o ymgysylltu gyda dorf o bobl a thrwy hynny codi lefelau cyfranogiad a gostwng y farn negyddol sy’n treuddio’n ddwfn am fenywod yn y byd chwaraeon.

Mae’r cyfryngau wedi dod yn arf hynod o bwerus a dylanwadol yn niweddar. Yn y 15- 20 blwyddyn ddiwethaf mae’r sylw a ddaw ohono wedi codi yn aruthrol ac o hyn mae cyfranogiad a phoblogrwydd menywod mewn chwaraeon wedi codi yn enfawr. Er hyn mae ychydig o newid wedi bod mewn sylw a’r canfyddiad a chaiff menywod yn y cyfryngau. Bu ffeministiaeth wedi dangos trwy ddiffyg cyfranogiad pam nad yw menywod wedi chwarae camp wrywaidd megis pêl-droed i’r un raddau a dynion. Bu

11 hyn efallai wedi bod lawr i ddiffyg cyfleusterau a mynediad cyfyngiedig i chwaraeon benywaidd fel rheol. Mae’r rheolaeth sydd gan dynion o fewn y byd pêl-droed fel esiampl yn aruthrol a thrwy hyn yn dangos pŵer patriarchaeth.

Honwyd Rich, (1980) bod dominyddiaeth gwrywod dros fenywod yn dod o’i weld nhw fel targedau rhywiol. Yn debyg i gylched, mae menywod yn sownd yng nghanol cylch dieflig lle maent yn ceisio gwneud enw i’w hunan yn y byd chwaraeon ond ar yr un adeg yn ceisio cyd-fynd gyda disgwyliadau a ddisgwylir ohonynt gan gymdeithas a thu hwnt. Enghraifft briodol arall a ddaw o dominyddiaeth gwrywod o fewn y byd chwaraeon yw diffyg modelau rôl yn y cyfryngau, mae bron pob agwedd o gampau dynion yn cael sylw er weithiau ei fod yn sylw negyddol. Yn draddodiadol, ac mae bodolaeth heddiw, bu pwyslais ar safle menywod mewn awyrgylch chwaraeon sef golchi crysau ac offer chwaraeon a gwneud bwyd a diod hanner amser. Nad ydynt yn cael yr hawl i gyfranogi ac mae menywod sydd wedi anwybyddu hyn yn fwy tueddol o dderbyn beirniadaeth negyddol am rhywedd a'i bod nhw wedi mynd yn erbyn ideoleg gymdeithas.

O ganlyniad i hyn, nodwyd Dworkin a Messner, (2002) bod chwaraeon yn cael ei weld trwy lens rhywedd, a dyma be yw brif bwynt a ddaw o’r ymchwil. Hynny yw bod y delweddau, ysgrifen, lluniau a chyfweliadau yn cael ei weld trwy lens ac mae gorchudd dros y stori neu ddarlun go iawn sy’n ceisio cael ei phortreadu i rywbeth mwy cyffroes a diddorol nag ydy o. Bu’r boblogaeth fel rheol dal i alw am storiâu llawn cyffro a digri a dyna pam bod galw a’r angen am fwy a mwy o’r storiâu yma’n uchel. Bydd y rhai mwyaf cyffroes yn stereoteipio rhywioldeb ac yn gwahaniaethu ar sail rhyw a dyma’r rhai fydd yn denu'r mwyaf o ddiddordeb.

2.7 Crynhoad

Yn draddodiadol mae’r cyfryngau wedi bod fel llwyfan ar gyfer bodolaeth rhywedd naill ai i’w hyrwyddo neu wahaniaethu trwyddo. Er hyn mae’r sylw a chaiff menywod ar y cyfryngau, boed ar ffurf teledu, phapurau newydd neu’r we fel rôl arwyddocaol yn annog stereoteipiau. Bu unigolion a ddarllenir y wybodaeth yma ar ffurf delweddau yn credu bod hawl gyda nhw i farnu a chreu argraff ei hun am yr unigolyn mewn cwestiwn boed yn wryw neu’n fenyw. Nid yw chwaraeon yn medru bodoli heb y cyfryngau, ac yn gwmws ni all y cyfryngau bodoli heb chwaraeon. Mae’r ddau yn ddylanwad pwerus ar ei gilydd, y ddau yn cynnal pwyntiau negyddol a cadarnhaol

12 sy’n effeithio’r llall. Bydd nawdd, arian, gwobrau a chydnabyddiaeth yn dod o sylw cadarnhaol o’r cyfryngau ac i’r gwrthwyneb gall sylw negyddol dinistrio gyrfa a llwyddiant trwy brofi rhywedd, dyfaliadau rhywedd ac anghyfartaledd rhywedd.

Ymchwil a gymerai lle bydd gweld os yw’r delweddau yma yn rhoi lluniad dilys a dibynadwy o beth sydd yn ceisio cael ei phortreadu o fewn awyrgylch chwaraeon trwy’r cyfryngau. Mae menywod o fewn y byd chwaraeon yn debygol o fod o dan y dylanwad bod edrych yn hard, dod drosodd yn fregus ac arddangos tueddiadau emosiynol yn fwy pwysig nac ymddangos yn wrywaidd a llwyddo o fewn y byd chwaraeon. Bu’r cyfryngau yn llwyfan o hyrwyddo hyn a dangos gwirionedd i’r rhai sy’n gysylltiedig â chwaraeon mewn amryw o ffyrdd.

Mae’r holl ymchwil uchod yn broblem o fewn cymdeithasau ar draws y byd, dangosir hyn trwy’r dylanwad cyfryngol sy’n bodoli mewn diwylliannau o fewn y byd chwaraeon ynghlwm a menywod. Mae delwedd menywod yn y cyfryngau wastad wedi bod yn bwnc llosg lle bod gwahaniaethu ar sail rhywioldeb yn rhemp, ac mae menywod yn cael mwy o sylw a darllediad, ond nid am dalent a llwyddiannau ond am edrychiad ac apêl rhyw.

13

Pennod 3

Methodoleg

3.0 Nôd yr ymchwil

Pwrpas yr ymchwil yma yw gweld os bod gwahaniaethu ar sail rhyw yn bodoli a thrwy hyn gweld os oes yna negeseuon y tu ôl i’r darluniau sy’n cael ei chynnwys o fewn papurau newydd a chyfryngau cymdeithasol. Bu’r papurau newydd a fyddai’n cael ei chynnwys yn dod o brifysgol chwaraeon yng Nghaerdydd a’r llall yn bapur newydd Prydeinig poblogaidd. Nod pwysicaf yw themâu systematig sy’n dominyddu a materion mewn perthynas â chynrychiolaeth y rhywiau o fewn y byd chwaraeon trwy lens cyfryngol. Yn fwy cryno byddai’r dadansoddiad yn canolbwyntio ar y cynlleied o sylw y derbyniai menywod o fewn papur newydd o brifysgol yng Nghaerdydd (adran chwaraeon), yn ogystal â phapur newydd a chasglwyd adeg Gemau Gymanwlad 2014 Yr Alban er mwyn gweld cymhariaeth yn y math a nifer o sylw os bod digwyddiad chwaraeon byd-eang yn mynd ymlaen. Hefyd, er mwyn ychwanegu cymrai cyfrifon twitter mewn i ystyriaeth er mwyn cyfrannu at ddwysedd, dyfnder a diddordeb yr ymchwil.

O’r holl ffynonellau yma ceisir gweld os yw sylw a dderbyniai menywod yn rhywiaethol, os ydynt yn derbyn ecsbloitiaeth, yn ogystal ag yw’r sylw yn cael ei phortreadu drwy lens pwerus sy’n gorchuddio gwir ystyr y darlun neu ddarn ysgrifenedig. Bydd hyn i gyd yn cael ei brofi drwy ymchwilio mewn i themâu a safai allan yn y dadansoddi, trwy brif gasgliadau a ymddangosai am chwaraeon menywod yn ei gyfanrwydd o fewn ffynonellau cyfryngol cymdeithasol.

O fewn yr ymchwil yma dull gweithredu a chymrai lle er mwyn gweld os oes patrwm neu duedd o fewn y ffynonellau a defnyddiwyd. Y camau gweithredu a chymrai lle yw dull ymchwiliol fewn i’r adnoddau sydd wedi cael ei dewis, ceisio adnabod y fath o gynnwys, fforio mewn i ystyr y delweddau ac os oes neges tu ôl i’r lluniau sydd yn cael ei phortreadu.

3.1 Dilysrwydd a Dibynadwyedd

Er mwyn i’r ymchwil yma gweithredu rhaid sicrhau bod dilysrwydd a dibynadwyedd yn cael ei gynnwys. Mae Sapsford a Jupp, (1996) yn dweud bod dilysrwydd yn golygu dyluniad ymchwil sy’n darparu casgliad credadwy, soniwyd hefyd bod dilysrwydd yn gynhyrchiad o ymatebion sydd yr un fath neu’n debyg ar fod achlysur. Mae Collinson a Hockey (2005), yn cytuno gyda hwn trwy ddweud bod dilysrwydd yn

14 cyfeirio at pan bod mesuriad mewn gwirionedd yn adlewyrchu’r cysyniad y bwriedir ei archwilio. Er hyn dylid nodi bod ychydig o ragofal angen ei chymryd wrth geisio gwneud yr ymchwil mor ddibynadwy â phosib, honnwyd Bell, (2010) yn ei llyfr am brosesau ymchwil os bod eitem neu offeryn yn disgrifio neu’n fesur beth mae bod, weithiau bu’r dull o gasglu data yma’n gadael llawer o gwestiynau heb ateb. Yn symud ymlaen i ddibynadwyedd mae Bell, (2010) yn honni ei fod yn ffenomenon sy’n gweld i ba raddau y mae prawf neu weithdrefn yn cynhyrchu canlyniadau tebyg o dan amodau cyson ar bob achlysur. Hynny yw os bod cwestiwn yn cynhyrchu un ateb ar un tro ond yn cynhyrchu ateb gwahanol ar gynnig arall yna bydd y cwestiwn yma’n cael ei weld yn annibynadwy. Mae Krippendorff, (2009) yn dweud bod canlyniadau a gynhyrchir yn gyson a gellir eu hefelychu a’i chopïo mewn astudiaeth yn y dyfodol, er mwyn cyfrannu at wybodaeth ac os wneir hyn bu sicrwydd ei fod yn ddibynadwy i ganfyddiadau’r astudiaeth benodol.

3.2 Dulliau Ymchwil

Yn gyffredinol, mae ymchwil yn nodweddu mewn i dri grŵp, ansoddol, meintiol a cymysg sef cyfuniad o’r ddau fel y mae Teddie and Tashakkori, 2009 wedi dweud yn ei ymchwil. Bu’r ymchwil yma yn cynnwys ffynonellau anfwriadol a defnyddir y rhain ar gyfer eitemau be ni fwriadir ar ei gyfer megis papurau newydd a chyfryngau cymdeithasol. Bu’r math o ffynonellau yma yn fwy cyffredin ac yn fwy gwerthfawr o ran rhai gwreiddiol, cynhyrchir ar gyfer diben ymarferol cyfoes ac ymddangosai yn fwy syml ac uniongyrchol.

Mae dewis naill ddull yn hollol ddibynnol ar natur a bwriadau’r ymchwil, er mwyn crynhoi brif amcanion y cwestiwn ymchwil. Budd dull meintiol ac ansoddol yn cael ei defnyddio er mwyn dadansoddi'r data penodol. Dywed Nau (1995) bod cyfuno’r dull meintiol gyda’r dull ansoddol yn medru adlewyrchu nodau arwyddocaol sydd gan y ddau ddull. Meddyliau hyn gallai’r cyfuniad yma dod ag elfennau cadarnhaol allan drwy gydol yr ymchwil. Byddai gwneud defnydd o’r ddau ddull trwy ddadansoddi cynnwys yn cyfrannu at ddyfnder a thrachywiredd yr ymchwil er mwyn ychwanegu at brif gasgliadau a ddaw i’r wyneb. Mae Gratton a Jones (2004) yn dweud fod cymysgu’r ddau ddull yn ffordd o wella dibynadwyedd a hyrwyddo cywirdeb yr ymchwil. Wrth gymryd yr holl lenyddiaeth am ddulliau ymchwil fewn i ystyriaeth

15 dewiswyd i gyfuno’r ddau er mwyn galluogi’r dadansoddi fwyaf effeithiol ar gyfer y fath o ymchwil hwn.

3.3 Dadansoddi Cynnwys

Defnyddir dadansoddi cynnwys i’r ymchwil yma ac yn ôl Gratton a Jones, (2004) medrai data o’r fath yma cael ei gasglu drwy sbïo ar adnoddau gweledol megis darluniau, papurau newydd a hefyd darnau ysgrifenedig a byddai hyn yn briodol iawn i’r math o ymchwil. Mae Gratton a Jones, (2004) yn mynd ymlaen i ddweud bod y math o ddadansoddi yma yn cyfeirio at gynnwys cyfathrebiadau. Gwelir hefyd gan Weber, (1990) fel techneg ymchwil sy’n defnyddio system o ymarferion er mwyn gwneud rhagdybiaethau dilys o destun. Bu Gratton a Jones, (2004) yn mynd ymlaen i ddweud bod y math o ddull yma yn hanfodol ar gyfer ymchwil i ddatgelu, disgrifio ac esbonio tueddiadau, credoau a gweithredai cymdeithasol o fewn y byd chwaraeon. Bu dehongliad a gwerthusiad data yn agwedd heriol o waith ymchwil yn gyffredinol, mae Neil et al. (2014) wedi dweud taw pwynt pwysicaf rhaid ystyried yw dylid adlewyrchu’r hyn a bwriadir o fewn yr ymchwil sylfaenol. Bu’r cylchlythyr a phapur newydd a fyddai’n cael ei defnyddio yn targedu’r un gynulleidfa o bobl sydd â diddordeb ac yn mwynhau chwaraeon o bob math yn enwedig beth sy’n cael ei phwysleisio dros y wasg.

3.4 Dadansoddiad Ansoddol

Prif nod o ddadansoddi’r data ar gyfer yr ymchwil bydd defnyddio’r dull ansoddol sef yr astudiaeth o destun ysgrifenedig, yn ogystal, sbio ar y negeseuon sydd y tu ôl i’r darnau ysgrifenedig trwy themâu gwahanol. Bu dull ansoddol yn ffordd o wneud synwyr o wybodaeth nad sy’n blaen ac yn syml ac nid yw’n gwneud synwyr y tro cyntaf edrychwch arno. Mae Andrews a Mason (2004) wedi crybwyll bod dadansoddiad ansoddol yn cynnwys set o ddehongliadau, materion arferol sy’n ymwneud â’r byd, mae'n cymryd sylwadau mewn i ystyriaeth gan gynnwys lluniau, ysgrifen, sgyrsiau a recordiau. Bydd hyn yn amlwg yn ddefnyddiol i’r fath o ymchwil yma er mwyn dadansoddi’r data mor gryno â phosib. Yn fwy penodedig i beth yn union sy’n ceisio cael ei brofi yn yr ymchwil yma am negeseuon cudd tu ôl i ddarluniau a darnau ysgrifenedig, mae Turner (1990) wedi’i honni fod perthynas y cyfryngau, chwaraeon a’r darllenwyr wedi cryfhau felly mae arwyddocâd yr ystyron a ddaw i’r wyneb nawr yn dal fwy o werth.

16

3.5 Dadansoddiad Meintiol

Defnyddir dadansoddiad meintiol ar gyfer yr ymchwil yma er mwyn arddangos y data ar ei ffordd symlaf i warantu deallusrwydd er mwyn gobeithio elwa ar ffurf canllaw gweledol. Mae Gratton a Jones, (2004) yn crybwyll bod dull meintiol yn ffordd o arddangos data crai a allai gael ei ddadansoddi yn ystadegol i weld perthynas. Mae Gratton a Jones, (2004) yn mynd ymlaen i ddweud taw’r dull yma yw’r un fwyaf effeithiol os bod ffenomen benodol yn ceisio cael ei fesur.

Er hyn mae’r ddau ddull yn effeithiol o fewn eu rhinwedd eu hunan, mae’n hollol ddibynnol ar y cwestiwn ymchwil a be yn union rydych eisiau ddod o hyd iddo. O ganlyniad i hyn byddai dull dadansoddiad cynnwys yn cael ei ddefnyddio i warantu’r dadansoddiad fwyaf effeithiol a priodol i’r cwestiwn ymchwil.

3.6 Sampl

 7 cyhoeddiad o bapur The Sun adeg Gemau Gymanwlad, 2014.  7 cyhoeddiad o bapur Daily Mail adeg Gemau Gymanwlad, 2014.  5 cyhoeddiad o bapur prifysgol Caerdydd, Y Gair Rhydd.

 Cyfrif Twitter Cardiff Met AU

 Cyfrif Twitter Loughborough Sport

 Cyfrif Twitter BBC Wales Sport

Bu’r sampl yn para o Fis Medi 2014 hyd at 21ain o Chwefror 2015. Casglwyd y ffynonellau ar ôl penderfynu ar y pwnc ymchwil, roedd hyn wedi galluogi digonedd o amser ac felly digon o ddata i ymchwilio mewn iddo i geisio gweld tuedd, amrywiadau ac ymhelaethu ar wybodaeth a darganfyddwyr. Bu mynediad i’r data yn hawdd gan roedd yn wybodaeth gyhoeddus, felly nid oedd angen cael caniatâd i ddarllen na’i defnyddio yn fy ymchwil. Bu’r data yn ddata eilradd, lle bo rhywun arall wedi’i chynhyrchu a chreu er y gallai rhywun arall ei defnyddio. Yn union yr un fath i’r cyfrifon twitter bu'r rhain yn gyhoeddus felly’n hawdd dadansoddi a gwerthuso.

3.6.1 Cyfrifon Twitter

17 Canolbwyntir ar y math o ddarluniau y sydd yn cael ei phostio, gyda hyn chasglwyd ystadegau at ei gilydd er mwyn arddangos ar ffurf thablau. Fel y soniwyd yn gynharach bu rhaid i’r darluniau cyfateb gyda ffactorau penodol er mwyn iddo fod yn berthnasol a drwy hyn byddai dibynadwyedd yn sicrwydd.

Bu pob papur newydd, cylchlythyr a chyfrif twitter yn creu'r wybodaeth ac ychwanegu at y casgliadau a darganfyddwyr, tueddiadau a themâu'r holl ymchwil. Gobeithio bydd hyn i gyd yn lluniadu portread o beth yw cred a theimladau am fenywod o fewn y byd chwaraeon a’r negeseuon cudd sydd o fewn y cyfryngau. Bu’r categorïau cyffredin a rhagfynegid yn amlwg wrth ymchwilio mewn i’r themâu gwahanol er mwyn cyfarwyddo’r ymchwil mewn i gyfeiriad penodol a thrwy hyn daw themâu mwy sbesiffig a chudd i’r wyneb.

3.7 Dull

Byddai’r ymchwil yma’n defnyddio’r dulliau uchod er mwyn ddod o hyd i gasgliad priodol sy’n ateb amcanion yr ymchwil. Yn gyntaf, mesurir cyfanswm y sylw derbynau menywod dros 3 cyfrif twitter gyda’r fformiwla isod:

Erthyglau/darluniau i fenywod ______X 100 = % Erthyglau Chwaraeon

Yna symudir ymlaen i’r papurau newydd The Sun a’r Daily Star, yn y papurau yma chwiliwyd allan sawl darn ysgrifenedig a darlun oedd yn benodedig i fenywod. Er hyn bu rhaid i’r llun neu ddarlun cyd-fynd gydag amodau penodol sef bod yn amlwg yn weithgar neu fod chwarae yn digwydd. Yn ogystal, gyda’r papurau yma gweithiwyd allan cyfanswm a oedd yn ymroddedig i fenywod trwy weithio allan mewn mm2, wneir hyn drwy luosi hyd gyda lled y darn sbesiffig. Isod gwelir y fformiwla a ddefnyddir:

Hyd X Lled = mm2

Roedd yr holl ddata a chasglwyd wedi’i chategoreiddio i mewn i dablau fel modd gweledol o brosesu’r holl ffigurau. Rhoi’r mesuriadau yn nhrefnus i mewn i dablau yn ogystal â chanrannau er mwyn deallusrwydd clir. Chofnodwyd data ar gyfer gwrywod

18 a benywod er mwyn gallu cymharu â gweld ble mae’r rhywedd yn dominyddu’r cyfryngau o ran sylw.

Wneir un peth gyda phapur newydd Gair Rhydd, prifysgol Caerdydd arddangosir mewn tabl ffigurau mewn mm2 ar gyfer y nifer yn ymroddedig i fenywod i gymharu â dynion.

3.8 Tangynrhychiolaeth Menywod

Dewisir gwneud hyn gan fod mynediad ar gael i’r adnoddau, bu’r papurau a ddewisir yn rhad ac am ddim, yn gyfleus i mi ddod o hyd iddo ac yn briodol ar gyfer fy ymchwil. Dewisir canolbwyntio ar gyfrifon twitter gan fod mwy a mwy o bwyslais ar bwysigrwydd cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar, yn enwedig o fewn y byd chwaraeon. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd rad o gael gwybodaeth drosto i nifer eang o bobl ar un tro. Dywed Jackson ac Andrews, (2005) bod chwaraeon fel ffurf ymarfer a sefydliad diwylliannol byd-eang, er ei fod yn cael trafferth o hysbysebion ac ecsbloitiaeth diwylliannol. Am amryw o resymau mae chwaraeon fel ffactor wedi cael ei ddadlau yn gryf o ran ymylon datblygiadau byd-eang. Hynny yw bod hysbysebion trwy nawdd ac arian wedi dod yn rhan fawr o chwaraeon ac yn rheswm mawr dros fodolaeth enfawr chwaraeon. Rheswm arall dros gynnal yr ymchwil yma yw’r nifer a math o sylw y mae menywod yn derbyn o fewn y mathau gwahanol o wasg boed ar ffurf papurau, cylchlythyron a chyfyngau cymdeithasol. Mae lleiafrif o rwystrau dyddiau yma i’r cyfleoedd sydd ar gael i fenywod, felly mwy o bwysigrwydd ar yr argraff y maen nhw yn derbyn o fewn gymdeithas.

3.9 Themâu

O fewn yr ymchwil bu pwyslais ar themâu wrth ddadansoddi’r data, bu’r data a gasglwyd yn anwythol lle ddaw themâu allan o’r data ar ôl ei dadansoddi. Bu’r themâu a ddaw i’r wyneb yn rhai a darganfyddwyr wrth feirniadu a gwerthuso, digwyddai hyn wrth fynd trwy’r data yn amlygu be a ddaw i sylw yn gysylltiedig â gwahaniaethau rhywedd, negeseuon tu ôl i ddarluniau a sut mae menywod yn cael ei phortreadu yn gyffredinol o fewn y cyfryngau. Crybwyllwyd Thomas, (2006) bod llawer o resymau dros ddefnyddio dull anwythol. Rhai o rain yw cywasgu data crai mewn i fformat crynodeb byr, sefydlu cysylltiad clir rhwng y gwerthusiad ac amcan ymchwil trwy’r amcanion a ddaw o’r data crai a hefyd i ddatblygu fframwaith

19 sylfaenol o brofiadau neu brosesau sy’n cael ei amlygu yn amlwg o’r data crai. Hynny yw mai defnyddio’r dull anwythol i’w gorau yn ffordd dda o ddadansoddi er mwyn cynhyrchu canlyniadau dilys a dibynadwy.

Wrth i’r ymchwil mynd yn ei flaen, gobeithio gall themâu cael ei adlewyrchu, dadansoddi a defnyddio er mwyn dangos argraff a chrynodeb o beth sydd yn cael ei chynnwys o fewn y cyfryngau i fenywod yn y byd chwaraeon. O’r themâu a ddaw i’r wyneb gwerthuswyd y rhain mewn manylder i weld pa rhai sydd yn sefyll allan a pam, ac os bod tuedd a chymhariaeth yn y math o sy’n cael ei ddarlledu.

20

Pennod 4

Canlyniadau

4.0 Dadansoddiad Cynnwys Mesurol y Cyfryngau

Bu’r darn yma yn dangos y ffigurau crai ar ffurf tablau er mwyn ei gweld mewn ffordd fwy clir a cryno. Bu’r tablau yma yn ffordd o warantu'r fwyaf o ddeallusrwydd a phosib. Bu’r darn cyntaf o’r bennod yma yn canolbwyntio ar gyflwyno'r data a ddarganfyddwyd er mwyn crynhoi yn ôl i’r cwestiwn ymchwil penodedig.

Mae Tabl 1 yn dangos ffigurau dros fis o weithgaredd 3 cyfrif twitter. Bu’r lluniau yn cael ei gofnodi os ydynt yn cyd-fynd gyda’r camau penodedig o gofnodi fel y crybwyllwyd yn y fethodoleg sef llun sy’n dangos gweithgaredd corfforol neu o fewn gêm lle bod chwarae amlwg yn digwydd. Fel y medrir gweld yn nhabl 1 mae’n amlwg fod y lleiafrif o sylw yn cael ei chefnogi gan y fath o ystadegau sydd yn dod allan o’r dadansoddi gyda llai na thraean yn ddynodedig i fenywod dros 3 cyfrif twitter. Ffigur aruthrol sydd yn syndod yw allan o 80 llun, dim ond 11% sydd yn benodedig i fenywod. Mae hyn yn debyg i gyfrif Cardiff Met a Loughborough ynghyd, ond sydd â ffigurau uwch o 33% a 31%. Mae hyn yng ngham yn y cyfeiriad iawn ond gan fod twitter yn ffynhonnell mor bwerus sy’n medru darlledu gwybodaeth i nifer helaeth o bobl ar un pryd, mae’n syndod nad yw’r ffigurau yn uwch.

Tabl 1.

Tabl yn dangos gweithgaredd dros un mis tri chyfrif twitter.

Loughborough BBC Wales Sport Cardiff Met AU @Lborosport @BBCWalesSport @CardiffMetAU

Cyfanswm o 33 80 18 lluniau

Canran y lluniau 31% 11% 33% sy’n cynnwys menywod

Defnyddir y fformiwla isod i ddod o hyd i ganrannau ar gyfer y papurau newydd The Sun a Daily Star. Rhannwyd yr holl erthyglau chwaraeon gyda’r erthyglau a oedd yn cynnwys menywod ac yna lluosi gyda chant. Dangosai hyn y nifer o ddarnau ysgrifenedig a darluniau a oedd yn ymroddedig i fenywod dros adeg o wythnos yng nghanol y Gemau Gymanwlad, 2014. Dangosai tabl 2 y data ar gyfer The Sun a dangosai tabl 3 y data ar gyfer Daily Star. Yn amlwg mae’r ffigurau yn atgyfnerthu

21 beth sydd wedi ei thrafod yn flaenorol yn yr adolygiad llenyddiaeth sef bod lleiafrif o sylw yn cael ei rhoi at lwyddiannau a thalent menywod o fewn y byd chwaraeon. Cefnogai’r ystadegau a ddaw allan o’r data gyda’r canran uchaf yn nhabl 2 yn dangos bod 25% yn ymroddedig i fenywod, bu hyn yn syndod mawr gyda digwyddiad chwaraeon byd eang yn cymryd lle, bu digonedd o storiâu y gallent wedi’i ddarlledu dros yr amrywiaeth o ffynonellau cyfryngol.

Fformiwla a ddefnyddiwyd i weithio allan canran sylw menywod.

Erthyglau/darluniau i fenywod ______X 100 = % Erthyglau Chwaraeon

Tabl 2.

Tabl yn dangos canran o sylw y mae menywod yn derbyn adeg Gemau’r Gymanwlad. (The Sun).

7 PAPUR NEWYDD DROS GYFNOD O WYTHNOS ADEG GEMAU’R GYMANWLAD (THE SUN) Erthyglau yn Sawl erthygl/darlun sy’n Canran i fenywod ymroddedig i ymroddedig i fenywod? chwaraeon? PAPUR 1 27 3 11% PAPUR 2 25 3 12% PAPUR 3 14 2 14% PAPUR 4 21 3 14% PAPUR 5 25 5 20% PAPUR 6 21 1 5% PAPUR 7 20 5 25%

22 Tabl 3.

Tabl yn dangos canran o sylw y mae menywod yn derbyn adeg Gemau’r Gymanwlad. (Daily Star).

7 PAPUR NEWYDD DROS GYFNOD O WYTHNOS ADEG GEMAU’R GYMANWLAD (DAILY STAR) Erthyglau yn Sawl erthygl/darlun sy’n Canran i fenywod ymroddedig i ymroddedig i fenywod? chwaraeon? PAPUR 1 18 1 6% PAPUR 2 21 8 38% PAPUR 3 18 2 11% PAPUR 4 17 1 6% PAPUR 5 25 4 16% PAPUR 6 23 4 17% PAPUR 7 17 2 12%

Isod yn nhablau 4 a 5 dangosir cyfanswm mewn milimetrau'r nifer o sylw derbynai menywod ar gyfer y ddau wahanol bapur. Ar gyfer cymhariaeth mesurwyd y sylw ar gyfer darnau ysgrifenedig a hefyd y nifer a oedd yn ymroddedig i ddarluniau. Mae’n amlwg wrth edrych ar y data bod y cyfanswm ar gyfer dynion llawer yn uwch na’r cyfanswm sy’n benodedig i fenywod boed ar ffurf darluniau neu ddarnau ysgrifenedig. Ceir amryw o resymau dros hyn ond un pwerus a credadwy yw barn Rich, (1980) bod darllenwyr, sef dynion yn bennaf yn dueddol o weld menywod fel targedau rhywiol. Meddylia hyn nad ydynt yn cael ei weld fel athletwyr felly mae’r farn yma’n treuddio’n ddwfn mewn i’r pŵer sydd tu ôl y lens. Mae’r gorchudd cyfryngol yn poeni fwy am beth mae’r darllenwyr eisiau darllen yn hytrach na theimladau a sut y daw menywod drosodd o fewn y ffynonellau cyfryngol gwahanol.

Tabl 4.

Tabl yn dangos mewn milimetrau cymhariaeth rhwng gwrywod a benywod adeg Gemau’r Gymanwlad 2014 ar gyfer un papur. (The Sun).

23

PAPUR NEWYDD THE SUN ADEG GEMAU GYMANWLAD 2014 (CYFANSWM MEWN MM2) MM2 Papur 1 Papur 2 Papur 3 Papur 4 Papur 5 Papur 6 Papur 7 CYFANSWM 777600 950400 1209600 950400 777600 864000 1123200 YR HOLL BAPUR SWM YN 3500 26500 10000 16004 7500 1260 26075 YMRODDEDIG I YSGRIFEN (MENYWOD) SWM YN 1050 22250 11700 33508 500 0 17100 YMRODDEDIG I DDARLUNIAU (MENYWOD) SWM YN 713950 811550 1106300 798588 596300 765040 958925 YMRODDEDIG I YSGRIFEN (DYNION) SWM YN 59100 90100 81600 111300 173300 97700 121100 YMRODDEDIG I DDARLUNIAU (DYNION)

Tabl 5.

Tabl yn dangos mewn milimetrau cymhariaeth rhwng gwrywod a benywod adeg Gemau’r Gymanwlad 2014 ar gyfer un papur. (Daily Star).

24 PAPUR NEWYDD DAILY STAR ADEG GEMAU GYMANWLAD 2014 (CYFANSWM MEWN MM2) MM2 Papur 1 Papur 2 Papur 3 Papur 4 Papur 5 Papur 6 Papur 7 CYFANSWM 777600 1036800 103680 864000 1296000 864000 777600 YR HOLL BAPUR SWM YN 12000 67475 5900 3600 10200 69831 22402 YMRODDEDIG I YSGRIFEN SWM YN 16200 79400 6745 3150 21761 48996 6625 YMRODDEDIG I DDARLUNIAU SWM YN 742400 807425 25085 763175 1112014 585048 679423 YMRODDEDIG I YSGRIFEN (DYNION) SWM YN 70000 82500 65950 94075 152025 160125 69150 YMRODDEDIG I DDARLUNIAU (DYNION)

Dangosai tabl 6 ystadegau o bapur Prifysgol Caerdydd, yn amlwg mae’r un patrwm yn bodoli gyda nifer sylweddol yn benodedig i wrywod o fewn y byd chwaraeon. Er hyn gan nad oes digwyddiad byd-eang yn cymryd lle mae yna dal lle iddyn nhw o fewn y papur sy’n dangos fwy o gyfartaledd rhyw. Yn nhabl 6, colofn un gwelir bod dynion yn derbyn 10 gwaith yn fwy o ddarllediad na menywod, bu hyn yn syndod gan o fewn brifysgol mae’r timau sydd yn cystadlu yn hafal rhwng y ddau ryw felly dylai fod storiau a darluniau i ddangos. Hefyd isod cynhwysir graff ar gyfer adnodd gweledol arall (ffigur 1) yn dangos y nifer yn ymroddeig i fenywod.

Tabl 6. Tabl yn dangos mewn milimetrau ystadegau ar gyfer 5 papur Gair Rhydd, Brifysgol Caerdydd, 2014-2015.

25 Papur newydd Prifysgol Caerdydd Y Gair Rhydd Mm2 Papur 1 Papur 2 Papur 3 Papur 4 Papur 5 Swm yn 237600 237600 237600 237600 297000 ymroddedig i’r adran chwaraeon Swm yn 21000 16000 11200 44100 18000 ymroddedig i fenywod Swm yn 216600 221600 226400 193500 279000 ymroddedig i ddynion

Chanran y sylw ym ymroddedig i fenywod 20% 18% 16% 14% 12% 10% 8% 6% 4% 2% 0% Papur 1 Papur 2 Papur 3 Papur 4 Papur 5

Ffigur 1.Graff yn dangos ar ffurf canran y sylw’n benodedig i fenywod.

4.1 Trafod Canfyddiadau Meintiol

Patrymau a arddangosir drwy gasglu'r data yma yw’r cynlleied o ddarllediad y mae menywod yn derbyn fel rheol ar draw'r cyfryngau o fewn y byd chwaraeon. Mae hyn yn cael ei dangos yn y tablau uchod lle bo menywod yn dueddol o dderbyn llai na 25% fel rheol heblaw am yr ambell eithriad a sefai allan gan nid yw’n dilyn y norm. Yn ôl Martinson, (2014) mae sylw i fenywod yn derbyn 0.5% o holl ffynonellau cyfryngol, a drwy ddarluniau y mae Martinson, (2014) yn dweud yw’r dull mwyaf addas i fenywod cael sylw ac adnabyddiaeth. Dangosai hyn efallai dyma yw’r ffordd fwyaf pwerus o ddarlledu menywod o fewn y byd chwaraeon i nifer helaeth o bobl gan fod y dyn sterioteipegol yn fwy parod i edrych ar ddelwedd fenywaidd yn hytrach na darn ysgrifenedig. Er hyn mae’r ystadegau dal yn darllen fod y nifer o sylw yn

26 lleiafrifol i fenywod o fewn y byd chwaraeon. Bu cylchgrawn byd-eang adnabyddus wedi dangos ei fod nhw yn cytuno â’r lleiafrif o sylw'r derbynai menywod a gallai hyn fod lawr i olwg yn cymryd blaenoriaeth dros edrychiadau. Dywed y cylchgrawn yma fod 67% o athletwragedd Phrydeinig yn credu bod llwyddiannau chwaraeon yn cael ei gysgodi gan edrychiad.

Mae wedi cael ei honni yn gynharach yn yr ymchwil byddai dull cymysg yn cael ei defnyddio yn bennaf gyda canolbwyntiad cliriach ar ddull ansoddol trwy ymchwilio mewn i themâu a ddaw i’r wyneb. Bu cyffyrddiad bach yn cael ei wneud tuag at y dull meintiol er mwyn dangos y wybodaeth ar ffurf tablau yn glir ac yn gryno.

Cymhariaeth rhwng papurau newydd adeg Gemau Gymanwlad Yr Alban 2014 a phapurau newydd adeg lle nad oes digwyddiad chwaraeon byd eang yn digwydd daw’r papur newydd yma o brifysgol chwaraeon yng Nghaerdydd ar llall yn bapur â hysbys yn dda ym Mhrydain. Yn ogystal bu edrychiad ar gyfrifon twitter yn cymryd lle er mwyn cefnogi a chryfhau’r casgliadau sydd yn dod allan. Bu edrych ar y cyfrifon twitter yn addas ac yn ddilys gan fod y cyfryngau cymdeithasol yn dod yn ffynonellau hynod o bwerus fel modd o gael gwybodaeth drosodd i lawer o bobl mewn un cais. Casglwyd y data yma er mwyn gweld os oes yna wahaniaethau yn y nifer a math o sylw boed ar ffurf darnau ysgrifenedig neu ddarluniau sydd yn cael ei gyhoeddi gan y cyfryngau ynghylch menywod a chwaraeon.

Mae delweddau yn rhan bwysig iawn o fewn y cyfryngau, mae’n ffordd gudd o gael neges dros heb fod yn amlwg gyda geiriau. Mewn darn ysgrifenedig mae geiriau penodol yn medru fod yn brofoclyd, siapio barn ac yn gallu creu problem nad sydd yna yn y lle cyntaf. Gyda’r defnydd o ddelweddau mae’r darllenwyr yn gallu siapio barn eu hunan trwy weld y darlun gyda llygaid eu hunan. Yn ogystal mae’n ddeniadol ac yn creu mwy o ddiddordeb ynglŷn â’r topig, trwy hyn defnyddir fel ffynhonnell tystiolaeth fel nad oes unrhyw amheuaeth o be sydd wedi ei darllen yn flaenorol.

Mae mathau o ddelweddau yn rhan bwysig iawn o gyfrifon twitter, mae hyn yn gais i roi neges drosto i nifer helaeth o bobl mewn un cynnig yn union fath a phapurau newydd. Bu ffynonellau o’r math yma megis twitter yn rhoi pwyslais ar ddelweddau gan fod swm cyfyngiedig ar y nifer o ysgrifen y gallwch ysgrifennu felly bu lluniau yn ffordd o fynd o amgylch y rhwystr yma.

27

Pennod 5

Trafodaeth

5.0 Dadansoddiad Ansoddol

Bydd y bennod yma’n canolbwyntio ar ddarganfyddiadau’r ymchwil drwy gyflwyno a thrafod canfyddiadau drwy ddull dadansoddiad dull ansoddol. Ar ôl tynnu’r wybodaeth at ei gilydd, bu’r defnydd sbesiffig yn cael ei chategoreiddio fewn i themâu priodol ac yna dosbarthu fewn i is-themau. Yn bwysig i’w gofio nid yw’r themâu yn unigol, mae’r wybodaeth yn gorgyffwrdd dros y nifer o themâu sydd yn bodoli. Drwy hyn yn amlwg medrai data cael ei osod fewn i fwy nag un thema allweddol. Daw themâu i’r wyneb ar ôl dadansoddi’r data yn drylwyr.

Bu’r tueddiadau ac arferion cymdeithasol yma yn treiddio o gredoau ideoleg sy’n cael ei derbyn a’i gymryd yn ganiataol, mae’r lleiafrif o sylw y derbyniai menywod yn enghraifft o hyn gan nid oes neb yn ei gwestiynu nac yn cymryd llawer o sylw ohono. Bu ideoleg yn deillio gan bolisïau o’r cyhoedd sy’n ymwneud a phatrymau a braint y strwythurau grym o fewn gymdeithas. Mae’n ymwneud â pholisïau sylfaenol, rhagdybiaethau a syniadau craidd yr ydym yn cymryd yn ganiataol o ran ystyr a sut ymatebwn i newid yn dibynnu ar bryd a pham. Hynny yw mai’r nifer o sylw y derbyniai menywod o fewn y cyfryngau wedi cael ei dderbyn gan gymdeithas, bu’r lleiafrif o sylw yn dderbyniol gan fod strwythurau cymdeithasol wedi gwneud i ni feddwl bod hyn yn iawn. Ond a ddylai sylw fod yn hafal rhwng y daw rhyw?

Bu Coakley, (2007) yn cytuno gyda hyn drwy roi emffasis ar gwrywedd-dra sy’n rheoli newyddion cyfryngol chwaraeon. Trwy hyn mae chwaraeon yn dod yn llwyfan fyd-eang ble mae ideoleg yn cael ei atgyfnerthu lle bo menywod yn israddol i dynion ac mae’n cael ei defnyddio fel amgylchedd lle bo dynion yn medru arddangos hyn.

O’r papurau newydd yn y sampl, bu canran isel yn cynnwys gwybodaeth a llwyddiannau merched i gymharu â dynion, gwelir hyn yn nhablau 4 a 5. Yn gyffredinol wrth edrych yn fras ar y data medrir gweld bod erthyglau, cynnwys ysgrifenedig a darluniau yn brin a chynhwysir menywod. Gan amlaf edrychir fel bod pethau sy’n cynnwys menywod yn cael ei gywasgu mewn i wagle rhydd o fewn y papur. I’r gwrthwyneb, gwelir bod pethau a oedd yn cynnwys gwrywod yn cymryd blaenoriaeth a bu mwyafrif o’r storiâu chwaraeon yn ymroddedig i lwyddiannau, dadleuon, bywyd preifat yn ogystal â delweddau yn dangos ochr pwerus, arddangosiad tymer, dicter ac agwedd gystadleuol wrywaidd.

28 5.1 Themâu

Dyma’r themâu allweddol a adlewyrchwyd o’r data:

 Lluniau Ecsbloitiaeth  Dylanwad cyfryngol (beth mae’r lens cyfryngol yn ein tywys ni i gredu)

Cefndir- Anrealistic dim awyrgylch Dim Ymyl chwaraeon Chwaraeon yn bresennol Llai o bwyslais ar ennill

Dim ymddygiad Anghystadleuol ymosodol Lluniau Ecsbloitiaeth Teimladau yn Emosiwn yn cael ei amlwg ddangos

Dim cofleidio corfforol Pwyslais ar edrychiad benywaidd Harddwch a gwisgo colur

Ffigur 2. Ffigur yn dangos thema sef Lluniau Ecsbloitiaeth a adlewyrchwyd o’r dadansoddi.

5.1.2 Lluniau Ecsbloitiaeth

Thema a daw allan wrth ddadansoddi’r data yw bod lluniau ecsbloitiaeth, bu hyn ynghlwm gyda barn Gramsci (2000) am hegemoni. Fe wnaeth Gramsci argymell fod pŵer o fewn gymdeithas ac arferion cymdeithasol ynglŷn â benyweidd-dra o fewn y byd chwaraeon yn gyffredinol yn ffactor sy’n hyrwyddo hyn. Bu hegemoni yn gysyniad sy’n treiddio o waith Gramsci, (2000) am Farcsiaeth, lle bod pŵer uchel megis noddwyr a pherchnogion cwmnïau enfawr yn rheoli gweithgareddau o fewn y

29 cyfryngau a’r papurau newydd sydd yn cael ei gyhoeddi. Yn mynd yn ôl i safbwynt Gramsci, (2000) dywed fod hegemoni yn rhywbeth yr ydym yn derbyn yn ganiataol, fath a synnwyr cyffredin. Yn amlwg mae arferion cymdeithasol wedi strwythuro ni fel darllenwyr a phobl sydd â diddordeb i feddwl bod rhoi lluniau ecsbloetio lle mae’r darlun yn dangos menywod mewn golau israddol i gymharu â dynion yn hollol dderbyniol.

Mae Grabe et al. (2008) yn dweud bod anfodlonrwydd corfforol yn rhemp, o few eu hymchwil dywed fod gymaint â 50% o fenywod yn anhapus gyda’i edrychiad. Mae ymchwil wedi profi bod gormodedd o amlygiad i gyfryngau torfol wedi ei gysylltu ag aflonyddwch darluniau a delweddau. Daw hyn lawr i’r ideoleg o edrychiad corfforol o fod yn denau, hard a gyda siâp athletaidd a bu’r cyfryngau yn ffynhonnell allweddol o hyrwyddo hyn. Caiff hyn effaith dylanwadol ar y canfyddiad sydd yn bodoli am fenywod yn y byd chwaraeon trwy lens sydd yn gweithredu fel rhwystr sy’n llywio meddyliau pobl i gredu mewn rhywbeth nad sydd yn bodoli yn y lle cyntaf. Yn ogystal gallai hyn arwain at siapio barn neu greu barn am athletwraig sydd yn y wasg gan fod edrychiad, gwahaniaethu ar sail rhyw a thueddiadau rhywedd yn cymryd blaenoriaeth dros ennill a llwyddiannau.

5.1.2 Ideoleg

Cyfeirir nôl at yr adolygiad llenyddiaeth lle sonnir am ideoleg o fewn y cyfryngau lle dywed Scratton a Flintoff, (2002) bod cyfryngau cymdeithasol yn enwedig darluniau yn ffordd o gynhyrchu ac atgynhyrchu normau rhywedd. Amlygir yn union safle menywod i gymharu â dynion o fewn awyrgylch chwaraeon o fewn y cyfryngau torfol. Yn bwydo mewn i’r brif thema o luniau ecsbloetio bu ffactorau megis diffyg ymyl chwaraeon yn bresennol. Isod mae hyn yn cael ei dangos yn ffigur 3 lle ei fod yn anrealistic y byddai darlun o’r fath yma yn cael ei dangos gyda gwryw yn y llun. Dangosir y llun yma bod delwedd ac edrychiad yn dod drosodd yn fwy pwerus na’r gamp neu weithgaredd sydd yn ceisio cael ei hybu.

5.1.3 Ymyl Chwaraeon

Yn ffigur 2 gwelir bod llawer o is-themau yn gorlapio i greu un prif thema, yn cael ei gynnwys mae diffyg ymyl chwaraeon a medrir gweld hwn yn amlwg gyda chefndir anrealistig, yn ogystal nid oes awyrgylch pêl-droed yn bresennol. Nid yw’r ddelwedd

30 yma chwaith yn edrych yn gystadleuol, bu hyn yn gais i geisio gwneud menywod yn y byd chwaraeon yn fwy deniadol a thrwy hyn codi ymwybyddiaeth a diddordeb gan y boblogaeth lawn drwy hyrwyddo eu teimladau, gwneud eu hedrychiad yn amlwg drwy leiafrif o ddillad a chyrff athletwyr, yn ogystal â dangos emosiwn.

Ffigur 3. Dyma ddelwedd o gyfrif twitter BBC Sport yn dangos pêl-droed wraig mewn ffordd rywiaethol ac anrealistig.

Enghraifft arall sy’n weledol a chyfeirir nôl at yr adolygiad llenyddiaeth yw bod FIFA wedi methu i integreiddio menywod mewn i’w agenda byd-eang, er hyn mae gwelliannau wedi digwydd ac mae gwahaniaethu ar sail rhyw wedi lleihau yn enfawr. Fel y medrir gweld yn y llun isod a chafodd ei defnyddio fel darlun poster ar gyfer hyrwyddo Cwpan Y Byd merched, 2015, yn ffigur 4, dangosir lleiafrif o’r gamp pêl- droed a phosib trwy ddim defnyddio pêl-droed yn y llun mae hyn yn fwy deniadol i’r bobl sydd â diddordeb. Fel y gellir gweld o’r darlun mae colur yn amlwg yn dangos ochr benywaidd yr athletwraig. Cytunwyd Mean, (2010) gyda hyn gan ddweud bod y delweddau yn ddiflas, nid oes cyffro, ychydig o gynnwys trwy wybodaeth ac nid oes chwaith ymdrech fawr i hyrwyddo’r gamp mewn cwestiwn ac yn yr achos yma pêl- droed.

31

Ffigur 4. Dyma ddelwedd o cyfrif BBC Sport yn dangos cais i hyrwyddo Cwpan Y Byd menywod 2015.

Bu’r thema yma wedi’i chefnogi gan farn Ridgeway et al. (2009) am ideoleg, lle bod ymchwil nhw wedi profi eisoes bod gwrywdod yn fwy tebygol o weithredu ar gredoau sydd wedi ei sefydlu am adeg hir i gymharu â menywod a chaiff hyn ei amlygu yn y data a chasglwyd drwy arddangosiad y cynlleied o sylw derbyniai menywod fel rheol. O ganlyniad i’r gred yma nid oes neb yn cwestiynu'r cynlleied o sylw a dderbynnir menywod, esiampl o hyn yw cyfeirio nôl at y delweddau (ffigur 3 a 4) sy’n dangos ecsbloitiaeth dros amryw o ffactorau fel y trafodir uchod. Cefnogai Boutilier et al. (1983) gyda safbwynt am ideoleg hefyd gan ddweud bod menywod yn llai tebygol o gael derbyniad cymdeithasol gan nid ydynt yn dilyn y protocol trylwyr a ddisgwylir gan gymdeithas. Bu’r lens cyfryngol yn ffordd o fedru masgio be a ddisgwylir gan y ddau ryw ac yn gallu gwneud i’r darllenwyr fod o dan ymdeimlad ffug o wirionedd. Meddyliai hyn fod y cyfryngau yn ffynhonnell sy’n gallu mascio gwir feddwl stori a chwaraeon gyda theimladau ac emosiynau'r darllenwyr. Crynhoi’r pwynt yma drwy’r holl ddata a gasglwyd bu’r nifer o sylw benywaidd yng nghyfyngedig gan nid ydynt yn draddodiadol wedi cael ei derbyniad positif o fewn ffynonellau cyfryngol gwahanol.

5.1.4 Dylanwad Y Cyfryngau

Yn symud ymlaen i’r ail thema a ddarganfyddwyd ar ôl dadansoddi’r data medrir gweld bod dylanwad cyfryngol yn ffactor bwerus sydd yn gyrru effeithlonrwydd a effeithrwydd yr holl wybodaeth sydd yn treiddio drwy’r holl ffynonellau cyfryngol. Bu’r lens cyfryngol yn neud i ni gredu mewn teimladau a gweithredoedd tu hwnt i’r stori

32 sydd o’n blaen, creu’r cymhlethdod ac ansicrwydd mewn ffordd unigryw heb i ni sylweddoli. Isod mae’r thema yn dangos yr is-themau yn bwydo mewn i’r brif thema, gwelir yn ffigur 5.

Ystyr gwirioneddol Lens Wrthrychol Lleiafrif o llwyddiannau

Profiadau Ailadrodd- Brin o blaenorol yn dod storiau newydd i’r wyneb Dylanwad Cyfryngol Duedd o Portreadu canolbwyntio ar delwedd personol ychydig o enwau

Ideoleg ar y lleiafrif o sylw- neb Pwyslais ar be yn cwestiynu hyn mae’r darllenwyr eisiau darllen Negeseuon cudd

Ffigur 5. Dyma ffigur yn dangos yr ail thema sef dylanwad cyfryngol a ddarganfyddwyd ar ôl dadansoddi’r data penodedig.

Yn gysylltiedig â’r dylanwad cyfryngol daw’r sicrwydd bod y cyfryngau wastad yn gwneud cais i ddatblygu er mwyn sicrhau fod ffiniau a hierarchaeth yn bodoli er mwyn gwarantu cyfreithlondeb. Er, heddiw dywed Couldrey, (2001) bod y wasg fwyaf poblogaidd yn creu cyffro, craffu a rhywioldeb sy’n agos iawn i’r ffin o reolau yma. Er hyn, dyma reswm mawr pam bod y galw am storiâu sy’n creu stŵr yn uchel gan fod darllenwyr â galw am y fath o helynt yma.

Bu dylanwad cyfryngol yn golygu bod y darllenwr yn cael ei amsugno fewn i beth sy’n cael ei phortreadu dros y ffynonellau cyfryngol gwahanol. Yn ôl Kennedy a Hills,

33 (2009) mae’r pŵer sydd yn bodoli tu ôl i’r lens cyfryngol yn medru creu awyrgylch emosiynol, gwneud iddo’ch bod ar ymyl eich cadair yn anymwybodol ac yn dod a theimladau cyfreithlon i’r wyneb. Engraifft o hyn byddai stori yn gwneud iddo’ch teimlo’n falch am lwyddiannau neu sgandal cyffuriau heb iddo’ch bod yn hollol ymwybodol o’r ffeithiau cadarn. Mae Kennedy a Hills, (2009) yn mynd ymlaen i grybwyll fod chwaraeon yn draddodiadol wedi arfer i fynd i’r afael â gwylwyr gwrywaidd, ond yn fwy presennol bu fwy o bwyslais ar fenyweidd-dra yn y wasg, caiff hyn ei amlygu yn y bennod canlyniadau gyda mwy a mwy o sylw yn ymroddedig i fenywod yn y byd chwaraeon.

Ymchwilydd a chymerai safbwynt unochrog yn y fath o arferion o fewn y cyfryngau yw Whannel, (1992) lle dywed fod y cyfryngau yn ail-greu digwyddiadau i adrodd yn ôl fel stori er mwyn cadw diddordeb, cynhwysir arwyr a dihirod er mwyn creu drama a dyfaliad cydamserol.

5.1.5 Penawdau Profoclyd

Mae penawdau yn ffordd o dal sylw’r darllenwr ac yn ffordd o allu cynnal diddordeb drwy’r amrywiaeth o ffynonellau cyfryngol gwahanol. Bu pennawd deniadol yn gallu gwneud i’r darllenwr darllen ymlaen neu beidio â darllen o gwbl. Wrth edrych ar dabl 7 dangosir enghraifft o benawdau o fewn The Sun papur 5 yn dweud y pedwar dywediad canlynol.

Tabl 7. Dangosir yn y tabl yma penawdau ar ffurf chwarae ar eiriau, bu hyn yn gwneud i ni asesu gwir ystyr y frawddeg.

Penawdau o fewn The Sun- Papur 5 “Fran Halsall put her London 2012 nightmare behind her”

“Zoe Smith is flipping marvilous as she finally struck

“Joanne Harten missed a last-gasp chance for victory”

“Jemma Gibbons had to settle for Judo Silver again”

34 Fel y dangosir yn y penawdau uchod, nid oes sicrwydd o beth yw gwir ystyr y tro cyntaf o’i darllen, er hyn maen amlwg bod rhyw fath o gais i hyrwyddo llwyddiant a dangos canlyniadau. Ond, ar ôl dadansoddiad medrir gweld yn fanwl bod negeseuon cudd a cymysg a bod arwyddocâd arnynt a ddaw i’r wyneb. Wrth gyfeirio yn ôl at waith Scratton a Flintoff, (2002) dywedwyd fod y cyfryngau yn sefydliad pwerus sydd yn cael ei rheoli gan ddynion, bu’r ffaith bod y math o reolaeth yn treiddio o reolaeth wrywaidd yn gallu ardystio bod y math o ganlyniadau, llwyddiannau a gwybodaeth sydd yn cael ei arddangos yn lleiafrifol. Yn yr achos yma fel y medrir gweld uchod o’r brawddegau byr, mae ychydig o gais yn cael ei wneud i amlygu llwyddiant ac mae chwarae ar eiriau yn amlwg. Wneir hyn er mwyn sbarduno’r darllenwr i feddwl am y tro diwethaf i’r darllenwr hyd yn oed clywed am yr athletwraig penodol. Wrth gyfeirio at y pennawd Jemma Gibbons yn sbesiffig, mae ennill fedal arian yn llwyddiant yn eu hunan, ond mae’r cyfryngau wedi troelli hyn o gwmpas a’i wneud iddo swnio fel methiant i ennill medal aur. Mae’r cyfryngau yn arf hynod o bwerus sy’n defnyddio yn anymwybodol lens neu wrthrych er mwyn i stori, llwyddiant neu ddrama ddod drosodd mewn ffordd wahanol neu brofoclyd er mwyn codi ymwybyddiaeth a diddordeb. Dyma pan bod y cyfryngau yn ffynhonnell gadarnhaol arweiniol o fewn y byd chwaraeon wrth ddatgelu llwyddiannau, arferion cymdeithasol a normau rhywedd menywod.

5.1.6 Ailadrodd Cynnwys Menywod

Ar gyfer yr is-thema sef cynnwys ailadroddus, gwelir hyn yn amlwg wrth ddadansoddi’r papurau newydd. Bu stori am focsiwr Nichola Adams yn dominyddu chwaraeon menywod dros gyfnod o dri diwrnod. Yn amlwg mae cipio fedal aur o fewn camp sydd yn draddodiadol wedi bod yn wrywaidd yn benigamp, er nad oes llwyddiannau dynion o fewn yr un papur yn ddyddiol. Cyfeirir y tuedd bod focsio’n camp wrywaidd at bwynt Lanskyi, (1994) lle mae’r corff benywaidd wedi cael ei weld fel targed rhywiol. Bu Nichola Adams yn esiampl glir iawn o athletwraig ymysg gydag eraill sydd wedi herio normau cymdeithasol a disgwyliadau rhywedd a ddisgwylir ganddi wrth gyfranogi a dominyddu mewn camp wrywaidd sef bocsio. I’r gwrthwyneb ni fyddai hyn yn digwydd yn y newyddion cyfryngol i ddynion, mae digonedd o ddiweddariadau yn digwydd yn gyson i allu diweddaru pob ychydig o oriau. Bu hyn yn cael ei amlygu yn y miliynau o apps sydd ar ffonau symudol, y we yn ogystal â theledu erbyn heddiw.

35 Dyma enghreifftiau isod yn ffigurau 6, 7 ag 8 yn dangos Nichola Adams yn dominyddu’r cyfryngau menywod, er iddi ennill 1 fedal mae ei wyneb wedi’i gwasgaru dros ledled y papur dros 4 diwrnod yn ddilynol. Yn wahanol i’r arfer mae’n ddarlun yma’n dangos ochr ymosodol sydd fel arfer yn cael ei chuddio gan y gorchudd sydd dros y cyfryngau. Bu’r darlun yma’n ein tywys i feddwl bod bocsio yn cael ei dderbyn o fewn gymdeithas i fenywod ond yn amlwg nid yma yw’n achos. Mae’r cyfryngau yn arf pwerus sy’n rhoi ni mewn i gredoau ffug i feddwl ei fod yn rhywbeth hollol wahanol i’r ffeithiau a ddangosir. Yn clymu i mewn gyda hyn, mae profiadau blaenorol yn dod i’r wyneb ac enghraifft o hyn yw Nichola Adams eto a’i Llwyddiant o Gemau Olympaidd Llundain yn dominyddu dros storiau menywod yn gyffredinol.

Ffigur 6.

Dyma ffigur yn dangos Nichola Adams yn bocsio yn y gemau Gymanwlad, 2014. Daw’r darlun yma o bapur 2 y Daily Star.

Ffigur 7.

Dyma ffigur yn dangos Nichola Adams eto yn ymosod mewn brwydr yn y cylch bocsio. Daw’r darlun yma o bapur 3 y Daily Star.

36

Ffigur 8.

Dyma ffigur yn dangos Nichola Adams gyda’i fedal aur yn y Gemau Gymanwlad yn cynrychioli Lloegr. Daw’r darlun yma o bapur 2 y Daily Star.

5.1.7 Y Bwlch Rhywedd

Ym mhapur Gair Rhydd Prifysgol Caerdydd, ar ôl dadansoddi gwelir bod sylw wedi’i thynnu at y bwlch rhywedd sy’n bodoli rhwng gwrywod a benywod o fewn chwaraeon. Bu hyn yng ngham yn y cyfeiriad cywir gan fod derbyniad y broblem yn galluogi i fwy cael ei wneud amdano i’r dyfodol. Yn yr achos yma mae angen cynyddu'r nifer o sylw'r derbynai menywod o fewn y byd chwaraeon. Astudiaeth achos a ddaw o bapur 3 Gair Rhydd yw bod y byd chwaraeon yn cynnwys agweddau rhywiaethol cynhenid a bod ymddygiad cymdeithasol sy’n cael ei weld yn dderbyniol yn treuddio o hyn. Wrth gyfeirio nôl at waith Mean, (2010) mae FIFA yn sefydliad sydd wedi methu i integreiddio menywod i mewn i’w rhaglen pêl-droed er ei fod ar y cynnydd ond dal yn bell o degwch a chael gwared â anghyfartaleddau yn gyfan gwbl. Dywed Hooson, (2014) bod enillwyr uwch gynghrair Lloegr yn derbyn 24 miliwn, mae hyn yn wahaniaeth sylweddol i gymharu â’i chymheiriaid benywaidd sydd yn derbyn 35 gwaith yn llai.

“However, in a modern age that increasingly champions equality and condems discrimination, the world of sport has in general appeared to remain a microcosm of inherent sexist attitudes. The size and persistency of the gender gap that remains is shocking”

Mae’r dyfyniad uchod yn dangos pwer ac arferion cymdeithasol sydd yn bodoli o fewn ein cymdeithas, lle bod gwahaniaethu yn dderbyniol. Ddatgelir hyn y statws am anghyfartaledd rhyw o fewn awyrgylch brifysgol, dangosir hyn bod pell iawn i fynd

37 nes bod hafaliad llwyr yn bodoli o fewn gymdeithas chwaraeon. Gobeithio y bydd dylanwad a normau cymdeithasol yn annog y cyfryngau i bortreadu chwaraeon benywaidd yn gyfartal â dynion, wrth gael gwared â’r ystyron cudd cyfyngedig sydd tu ôl i'r negeseuon a bortreadir. Mae angen hyrwyddo a chydnabod eu sgiliau a'u galluoedd yn hytrach nac edrychiad.

38

Pennod 6

Diweddglo

6.0 Crynhoi

Wrth adlewyrchu nôl at brif ddarganfyddiadau’r ymchwil, mae’n amlwg bod menywod yn derbyn fel rheol swm lleiafrifol i gymharu â dynion, caiff hyn ei gefnogi gan ystadegau a ddangosir ym mhennod tri ar ffurf thablau a graffiau. Prif pwrpas yr ymchwil yma oedd ceisio deall ac esbonio’r negeseuon cudd sy’n ymddangos yn y cyfryngau drwy gorchudd o reolaeth mae’r pŵer cyfryngol yn berchen. Trwy’r lens dominyddol yma derbynai menywod ecsbloitiaeth, sylwadau rhywiaethol yn ogystal â chael eu targedu fel symbolau rhyw. Mae Richardson, (2007) yng nghytûn gyda hyn gan grybwyll fod y cyfryngau yn cyfleu argraffnod o gymdeithas sy’n portreadu menywod mewn ffordd wahanol i be maen nhw yn ystyried eu hunan fel.

Mae ideoleg a hegemoni yn rhan bwerus wrth atgyfnerthu safle menywod o fewn gymdeithas. Bu hyn yn ffordd o arddangos y credoau negyddol sy’n bodoli am fenyweidd-dra o fewn y byd chwaraeon. Bu’r gred yma’n treuddio’n ddwfn mewn i gymdeithas fel nad oes neb yn cwestiynu’r sylw lleiafrifol ac yn aml sterioteipegol y derbynia’r menywod dros amryw ffynonellau cyfryngol.

Bu prif ddarganfyddiadau’r ymchwil o fenywod yn derbyn fel rheol lai na thraean o holl ddarllediad chwaraeon yn cael ei gefnogi gan ymchwil Lapiano, (2008) gan ddweud bod darllediad menywod yn anghyson ac yn aml ddim yn bodoli. Amlygai hyn drwy ddadansoddi meintiol o’r papurau newydd a chyfrifon twitter, hyd yn oed pan nad oes digwyddiad byd-eang yn digwydd mae sylw dal yn lleiafrifol i gymharu â’i chymheiriaid gwrywaidd.

I gefnogi hyn mae Nyad, (2010) wedi arsylwi bod menywod ar ffurf athletwragedd neu wylwyr yn aml yn cael ei phortreadu mewn ffyrdd diraddiol, fel gwrthrych rhywiol ac weithiau yng nghanol hiwmor coeglyd y sylwebyddion. I’r gwrthwyneb soniwyd Nyad, (2010) hefyd am y cyfryngau yn darlledu storiau llwyddiant canran isel iawn o’r amser ac yn dewis storiau i dangos nhw mewn ffordd goeglyd a fregus ynlle.

Er yr holl weithredai a safbwyntiau negyddol mae menywod o fewn y byd chwaraeon ar y parth a chyfeiriad cywir. Bu’r ffynonellau newydd cymdeithasol megis twitter yn ffordd o hyrwyddo a chreu diddordeb yn gyffredinol am fenyweidd-dra â chwaraeon. Bu poblogrwydd y math o gyfryngau cymdeithasol yma wedi codi ymwybyddiaeth eang yn y ffordd mae benyweidd-dra yn cael ei weld o fewn awyrgylch chwaraeon.

39 Gobeithio byddai’r holl ffactorau a thrafodwyd yn yr ymchwil yma yn rhoi argraff glir pam y bod menywod yn israddol i wrywod o fewn y byd chwaraeon ar draws y ffynonellau cyfryngol gwahanol.

40

CYFEIRNODAU

Cyfeirnodau

Andrews, D. Mason, D. (2004). Qualitative Methods in Sports Studies. Oxford: Berg. p5.

Bell, J. (1987). Doing Your Research Project. 5th ed. England: Open University Press. 5- 15.

Billings, A., Hundley, H (2010). Examining Identity in Sports Media. . London: SAGE. p1- 12.

Bourdieu, P. (1984) Distinction: A social critique of the judgement of taste. London: Routledge.

Boutilier, M., Sangiovanni, L. (1983). The Sporting Woman. Champaign: Human Kinetics. p84.

Brown, D. (1999). The social meaning of muscle. In: Silvennoinen, M., Sparkes, A. (eds), Men’s Bodies: Men’s narratives of the body and sport. p99-118.

Berger, J. (1972). Ways of Seeing. Harmondsworth: Penguin.

Collinson, J.A., and Hockey, J. (2005). Auto ethnography; Self–indulgence or rigorous methodology. In Philosophy and the Sciences of Exercise, Health and Sport: Critical perspectives on research methods (edited by McNamee, M.), pp187-202. Oxon, London: Routledge.

Couldry, N. (2001). The Hidden Injuries of Media Power. Journal of Consumer Culture. 1 (2), p155-158.

Darlinson, E. (2000). Gender and Physical Activity. Sport and Good Health. 29 (11), p957- 968.

Douglas, L. (2000). Brigham Young University Law Review. Gramsci, Hegemony and the Law. 3 (2), p515-521.

Dworkin, S., Messner, M. (2002). Just do... what? Sport, bodies, gender. In: Scraton, S., Flintoff, A. Gender and Sport: A Reader. London: Routledge. p17-26.

Eagly, A. (2000). Gender and Sport: A Reader. London: Routledge. P35-38.

Fink, J. (2007). Gender and Sex Diversity in Sport Organizations: Concluding Comments. Sex Roles. 58 (1), p146-147.

41 Gibson, O. (2012). Britain's Olympic success leads to record boost in sport participation. Available: http://www.theguardian.com/sport/2012/dec/06/olympic-record-boost-sport- participation. Last accessed 11/03/2015 .

Grabe, S., Hyde, S., Ward, M.. (2008). The Role of the Media in Body Image Concerns Among Women: A Meta-Analysis of Experimental and Correlational Studies. The American Psychological Association . 134 (3), p460-476.

Gratton, C., and Jones, I. (2004). Research Methods for Sports Studies. London: Harding, M., Whiteside, E. (2010). Homophobia and Hetero-sexism in Women's Sports. In: Hundley,H., Billings, A Examining Identity in Sports Media. . USA: SAGE. p18-31.

Hartshorn, I. (2014). Media Coverage of Women’s Sports. Available: http://www.onepoll.com/media-coverage-of-womens-sports/. Last accessed 10/2/15.

Hoeber, L. (2007). Gender Equity for Athletes: Multiple understandings of an organizational value. Sex Roles. 28 (1), P148-149.

Hooson, D (2014). Sports Pitch: Bridging the gender gap. Y Gair Rhydd. P31.

Hundley, H., Billings, A. (2010). Examining Identity in Sports Media. USA: SAGE. p25.

Jackson, S., and Andrews, D. (2005). Sport Culture and Advertising. Oxon: Routledge. p5.

Jarvie, G. (2006). Sport, Culture and Society: An Introduction. Oxon: Routledge.

Kennedy, E., Hills, L. (2009). Sport, Media and Society. UK: Berg. p66-74.

Kidd, B (2013). Sport in Society: Cultures, Commerce, Media and Politics . London: Routledge. p554-557.

Kinkema, K.M., and Harris, J.C. (1998). Media Sport Studies: Key Research and Emerging Issues in Media Sport In MediaSport (edited by L.W. Wenner) pp.27-54. London: Routledge.

Krippendorff, K. (2009). Testing the Reliability of Content Analysis Data: What Is Involved and Why. In The Content Analysis Reader (edited by K. Krippendorff, and M.A.Bock), pp.350-357. Thousand Oaks, California: Sage Publications, Inc.

42 Lenskyi, J, H. (1994). Journal of Sport and Social Issues. Sexuality and femininity in sport contexts: Issues and alternatives. 18 (4), p357.

Litowitz, D. (2000). Brigham Young University Law Review. Gramsci, Hegemony and the Law. 3 (2), p514-519.

Lopiano, D. (2008). Media Coverage of Women's Sport is Important. Available: http://www.sportsmanagementresources.com/library/media-coverage-womens-sports. Last accessed 16th March 2015.

Martinson, J. (2014). No increase in women's sport coverage since the 2012 Olympics. Available: http://www.theguardian.com/lifeandstyle/womens-blog/2014/mar/13/womens- sport-newspaper-coverage-birmingham-university. Last accessed 8/2/15.

Mean, L. (2010). Making Masculinity and Framing Femininity. In: Hundley, H., Billings, A Examining Identity in Sports Media. . USA: SAGE. p65-87.

Messner, M., Sabo, D. (1990). Sport, Men and the Gender Order. 10th ed. London: Human Kinetics. p12-17.

Neil, R., Hanton, S., Fleming, S., Wilson, K., (2014). The Research Process in Sport, Exercise and Health. Oxon: Routledge. p114.

Nyad, D. (2010). Sharing Marathon Swimming triumphs, tribulations and tricks. . 4th ed. USA: Aerobics and Fitness Association of America . p3-12.

Pririen, R. (1995). Representations of female athletes in womens magazines. Helsinki: SKS. p95-96.

Rich, A. (1980). Compulsory heterosexuality and lesbian existance. New York: Norton Paperback. p45.

Richardson, J. (2007). Analysing Newspapers: An approach from critical discource Analysis. Houdsmill: Palgrave Macmillan. Routledge.

Ridgeway, C. Backor, K., Li, Y., Tinkler, J., Erickson, K. (2009). American Sociological Review. How easily does a social difference become a status distinction? Gender Matters. 74 (1), p44-50

Sapsford, R., and Jupp, V. (1996). Data collection and Analysis. London: Sage Publications.

43

Scratton, S., Flintoff, A (2002). Gender and Sport: A Reader. London: Routledge. p6-94. Teddie, C., & Tashakkori, A (2009). Foundations of Mixed Methods Research.

Thomas, D. (2006). American Journal of Evaluation. A General Inductive Approach for Analyzing Qualitative Evaluation Data. 27 (2), p237-244.

Wagg, S. (2007). Angels of Us All? Football Management, Globalization and the Politics of Celebrity. Soccer & Society, 8 (4), 440-458.

Weber, R.P. (1990). Basic content analysis (2nd ed.). Newbury Park, CA: Sage Publications Inc.

Wenner, L. (2010). Gendered Sports Dirt. In: Billings, A., Hundley, H. Interrogating sex and the single beer commercial. USA: SAGE. P87-109.

West, C., Zimmerman, D. (1987). Doing Gender. In: Fenstermaker, S., West, C. Gender and Society. New York: Routledge. p125-151.

Whannel, G. (2005). ‘Pregnant with Anticipation: The pre-history of televised sport and politics of recycling and preservation.’ Interbnational Journal of Cultural Studies, 8: p405- 426

44

Atodiad A

45

Rhestr o adnoddau

Papurau Newydd

The Sun, 22ain Gorffenaf 2014

The Sun, 25ain Gorffenaf 2014

The Sun, 26ain Gorffenaf 2014

The Sun, 27ain Gorffenaf 2014

The Sun, 31fed Gorffenaf 2014

The Sun 1af Awst 2014

The Sun 2ail Awst 2014

Daily Star, 23ain Gorffenaf 2014

Daily Star, 27ain Gorffenaf 2014

Daily Star, 28ain Gorffenaf 2014

Daily Star, 29ain Gorffenaf 2014

Daily Star, 31fed Gorffenaf 2014

Dail Star, 2ail Awst 2014

Daily Star, 3ydd Awst 2014

Y Gair Rhydd, 15fed Tachwedd 2014

Y Gair Rhydd, 22ain Tachwedd 2014

Y Gair Rhydd, 6ed Rhagfur 2014

Y Gair Rhydd, 20fed Rhagfur 2014

Y Gair Rhydd, 3ydd Rhagfur 2015

Cyfrif Twitter Cardiff Met

46 Cyfrif Twitter Loughborough University

Cyfrif Twitter BBC Sport Wales

47