COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU Arolwg o Drefniadau Etholiadol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad Cynigion Drafft Gorffennaf 2019 © Hawlfraint CFfDLC 2019 Gallwch ailddefnyddio’r wybodaeth hon (ac eithrio’r logos) yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored. I weld y drwydded hon, ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence neu anfonwch e-bost at:
[email protected] Lle’r ydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti, bydd angen i chi gael caniatâd oddi wrth ddeiliaid yr hawlfraint dan sylw. Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cyhoeddiad hwn at y Comisiwn yn
[email protected] Mae’r ddogfen hon ar gael ar ein gwefan hefyd yn www.cffdl.llyw.cymru RHAGAIR Dyma’n hadroddiad sy’n cynnwys ein Cynigion Drafft ar gyfer Dinas a Sir Abertawe. Ym mis Medi 2013, daeth Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (y Ddeddf) i rym. Hwn oedd y darn cyntaf o ddeddfwriaeth a oedd yn effeithio ar y Comisiwn ers dros 40 o flynyddoedd, ac fe ddiwygiodd ac ailwampiodd y Comisiwn, yn ogystal â newid enw’r Comisiwn i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru. Cyhoeddodd y Comisiwn ei Bolisi ar Feintiau Cynghorau ar gyfer y 22 Prif Gyngor yng Nghymru, sef ei raglen arolygu gyntaf, a dogfen Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer newydd, a oedd yn adlewyrchu’r newidiadau a wnaed yn y Ddeddf. Mae rhestr o’r termau a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn i’w gweld yn Atodiad 1, ac mae’r rheolau a’r gweithdrefnau yn Atodiad 4.